S. Ioan Fedyddiwr.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, o ragluniaeth pa vn y ganed yn rhyfedd dy wâs Ioan Fedyddiwr, ac yr an∣fonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fâb Iesu Grist ein Ia∣chawdur, gan bregethu edifeirwch: gwna i ni felly ddilyn ei ddysceidiaeth a'i sanctaidd fywyd ef, fel y gallom wîr edifarhau wrth ei bregeth ef, ac ar ôl ei esampl yn wastadol draethu y gwirionedd, yn hy∣derus geryddu y camwedd, ac yn vfydd ddioddef er mwyn y gwirionedd, trwy Iesu Grist ein Har∣glwydd.
Yr Epistol.
* 1.1 CYssurwch, cyssurwch fy-mhobl medd eich Duw. Dywedwch wrth fodd Ie∣rusalem, llefwch wrthi hi gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei ha∣nwiredd, o herwydd derbyniodd o law 'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau. Canys llêf sydd yn llefain yn yr ynialwch, parotowch ffordd yr Arglwydd, vniawnwch lwybrau ein Duw ni yn y diffaethwch. Pob pant a gyfodir a phob my∣nydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a fydd yn vniawn, a'r anwastad yn wastadedd. A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura, fel y cyd-welo pob cnawd mai genau 'r Arglwydd a lefarodd hyn. Llef a ddywedodd wrth y prophwyd, gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf? Bod pob cnawd yn wellt, a'i holl odidaw∣grwydd fel blodeuyn y maes. Gŵywodd y gwelltyn,