Page [unnumbered]
Yr Efengyl.
* 1.1 BV hefyd a'r bobl yn pwyso atto i w∣rando gair Duw, yr oedd yntef yn se∣fyll yn ymmyl llyn Gennesareth, ac ef a wele ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a'r pyscod-wŷr a aethent al∣lan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac wedi iddo fyned i mewn i vn o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ef a ddymunodd arno yrru ychydig oddiwrth y tir, ac wedi iddo ei∣stedd ef a ddyscodd y bobl o'r llong. A phan beidiodd â llefaru ef a ddywedodd wrth Simon, gyrr i 'r dwfn a bwriwch eich rhwydau am helfa. Ac atte∣bodd Simon, a dywedodd wrtho, ô feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: er hynny ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwynt a ddaliasant liaws mawr o byscod, a rhwygodd eu rhwyd hwynt. A hwynt a amneidiasant ar eu cyfeillon y rhai oeddynt yn y llong arall, i ddyfod i'w cynnorthwyo hwynt: ac hwynt-hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddwy long, onid oeddynt yn soddi. A phan welodd Si∣mon Petr hyn, ef a syrthiodd wrth liniau 'r Iesu, gan ddywedyd, dôs ymaith oddiwrthif, canys dŷn pechadurus wyf fi, ô Arglwydd. O blegid braw a ddaethe arno, a 'r rhai oll a oeddynt gŷd ag ef o bob-parth, am yr helfa byscod a ddaliasent hwy. Ac felly hefyd ar Iaco ac Ioan meibion Zebedeus, y rhai oeddynt gyfrannogion â Simon. A dywe∣dodd yr Iesu wrth Simon: nac ofna, o hyn allan y deli ddynion. A phan ddugasant y llongau i 'r tir, hwynt a adawsant bob peth, ac a'i dylyna∣sant ef.