Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..

About this Item

Title
Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..
Author
Church of England.
Publication
Printiedig yn Llundain:: gan Ddeputiaid Christopher Barker Printiwr i ardderchoccaf Fawrhydi y Frenhines.,
1599.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England -- Liturgy -- Texts.
Prayer-Books -- Early works to 1800.
Psalters -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001
Cite this Item
"Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 2, 2024.

Pages

Y Trydydd Sûl yn ôl y Pâsc.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn dangos i bawb sy ar gyfeiliorn lewyrch dy wirionedd, er eu dwyn i ffordd cyfiawnder. Caniadhâ i bawb a dderbynner i gymdeithas crefydd Grist, allu o ho∣nynt ymogel cyfryw bethau ac y sydd wrthwyneb iw profess, a chanlyn y sawl bethau oll a fyddo yn cydtuno â'r vn-rhyw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.

Page [unnumbered]

Yr Epistol.

* 1.1 FY anwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi megis dieithraid, a phererinion, ym∣gedwch oddiwrth drachwantau 'r cn∣awd, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid. A bydded eich ymwreddiad yn honest ym-mŷsc y cenhedloedd, fel y gallo y rhai sy yn eich goganu fel pe byddech ddrwg-weithredwyr, o herwydd eich gweithredoedd da a welant, folian∣nu Duw yn nŷdd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arg∣lwydd, pa vn bynnag ai i'r brenhin fel i'r goruch∣af, ai i'r llywiawdwyr fel i'r rhai a ddanfonir gan∣ddo ef, er dialedd i'r rhai drwg, ac er mawl i'r rhai sy yn gwneuthur da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fel y galloch trwy wneuthur yn dda ostegu anwybodaeth dynion ffolion. Megis yn rhyddion, ac nid fel rhai yn cymmeryd rhyddid yn lle cochl ma∣lis, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb: cerwch gymdeithas brawdol: ofnwch Dduw: anrhydeddwch y brenhin.

Yr Efangyl.

* 1.2 YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscy∣blon, Ychydig ennyd, ac ni 'm gwel∣wch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy môd yn my∣ned at y Tâd. Am hynny rhai o'i ddiscy∣blon a ddywedasant wrth ei gilydd: beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni 'm gwelwch, a trachefn ychydig ennyd, a chwi a 'm gwelwch, ac, Am fy môd yn myned at y Tâd? Am hynny hwy a ddywedasant, beth ydyw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? Ni ŵyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. A gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd

Page [unnumbered]

wrthynt, ai ymofyn yr ydych a'i gilydd am ddywe∣dyd o honof hyn, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a ŵylwch, ac a alerwch, a'r bŷd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd. Gwraig wrth escor a fydd mewn tristyd, am ddyfod ei hawr, eithr wedi geni iddi y plentyn, ni chofia ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dŷn i'r byd. Chwithau hefyd ydych mewn tristwch yn awr, ei∣thr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawe∣nycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddiarnoch.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.