Testamen[t] y dauddeg Padriarch meibion Jacob ...:

About this Item

Title
Testamen[t] y dauddeg Padriarch meibion Jacob ...:
Publication
Argraphwyd yn Duflun [i.e. Dublin] :: ag[--]werth gan [C]adwalader Ellis ...,
1700.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A95668.0001.001
Cite this Item
"Testamen[t] y dauddeg Padriarch meibion Jacob ...:." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A95668.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 15, 2025.

Pages

Page 28

TESTAMENT LEVI a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwolaeth yn mherthynas yr Offeiriadieth.

Dyma yn blaen Dystioleth Levi, Am ei alwad yn rhoi cyfri; Ef oedd yr Offeiriad cynta, Mae fe yn dangos pwy ydiw yr ola.

COppiad ô eiriau Levi, yn enwedigol y lefarodd efe wrth ei Blant yn nghylch yr holl bethau y rhai ir oeddent yw gwneu∣thur, ac a ddigwydde iddynt hyd ddydd y Farn; ac efe mewn iechyd etto, efe ai gal∣wodd hwynt, canis ir ydoedd efe yn gwybod or blaen y pryd i bydde efe Farw; fellu pan ddaethant yn nghyd, efe a ddywedodd wrthynt:

Myfi Levi y anwyd ac a fagwyd yn Charan, ac ar ôl hynny mi a ddaethym gida fy Nhad i Shechem; nid oeddwn i yr amser awnnw ond yn nghylch ugien mhlwydd

Page 29

Oed, pan helpiais i fy Mrawd Simeon i ym ddial ein Chwar Deinah ar Hamor.

Ac yn awr, pan oeddem ni yn porthy y Praidd yn Abelmuel, Ysbryd Dealldwrieth yr Arglwydd a ddaeth arnaf, ac mi a welais bawb yn cloddio ei ffyrdd ei hunain, ac anghyfiawnder yn adeiladu noddfa iddo i hunan, ac anwiredd yn eisted ar yr Orsedd∣fainck; a bu ddrwg genif dros ddynol-rhyw, ac mi a geisiais yr Arglwydd yw hachyb hwynt; yno i syrthiodd cwsg arnaf, ac mi a welais Fynydd uchel iawn, sef Mynydd Aspis yn Abelmul: Ac wele y Nefoedd▪ egorodd, ac Angel Duw a ddywedodd wrthyf, Levi, tyred yma; ac efe aeth or Nefoed gyntaf ir ail, ac yno i gwelais ei y Dyfroedd yn crogi rhwng y naill ar llall; ac mi a welais y drydydd Nefoedd, yr hon oedd lawer mwy eglurach na hwynt hwy, ai huchder hi ydoedd yn anfeidrol; ac mi a ddywedais wrth yr Angel, Beth y mae hyn yn i feddwl? Ar Angel am attebodd gan ddywedyd, Na ryfedda wrth y pethau hyn, canis ti a gei weled pedair Nefoedd mwy eglurach, ac heb gyffelib iddynt, pan ddelych di i fynu; a thi a gei sefyll gida yr Arglwydd, a bod yn Wenidog iddo, i dreu∣thu dirgelwch ei Ddynion, ac i Bregethu Gwaredydd Israel yr hyn sydd i ddyfod;

Page 30

trwyot ti a thrwy Juda yr Arglwydd a ym∣ddengus i Ddynion, i achyb holl Ddynol∣ryw ynddynt hwy, ath fywyd a bwysiff ar yr Arglwydd, drwyddo i cei dy Feusydd ath Winllanoedd, ffrwythydd, Aur ac Arian. Gan hynny gwrando yn nghilch y Saith Nefoedd:

Yr isaf honno sydd dra llychllyd, o he∣rwydd ei bod yn nesaf at holl anghyfiawnder Dynion.

Yr ail sydd a Thân, Eira, a Rhew, gwedi i baratoi drwy drefniad yr Arglwydd erbyn cyfiawn Farnedigeth Duw; ynthi hi i mae yr holl Ysbrydion Ymddial, i geryddu y Drygionus.

Yn y drydydd i mae gallu y lluoedd, a ordeiniwyd rbyn dydd y Farn, i ymddial ar Ysbrydoedd Cyfeiliornus Belial.

Yn y badwaredd uwch law hyn i mae yr Saincts; canis yn y lleoedd ucha mae yn cyfanneddu y Gogoniant mawr yn y Sainctei∣ddiolaf or holl Saincteiddrwydd.

Yn y nesa at hon i mae yr Angylion, y rhai sydd yn gwasneuthu yn ngwydd Duw▪ ac yn ceisio ei ffafor dros anwybodeth y Cy∣fawn; ei maent yn Offrymu ir Arglwydd felus Arogl, yn rhesymol wasanaeth Aberth heb Waed.

Page 31

Yn y llall, yr hon sydd tann hon, i ma yr Angyllon y rhai sydd yn dwyn atteb oddiwrth yr Angylion sydd yn presennoldeb Duw.

Yn yr hon sydd uwch i llaw i mae yr Gorseddfeinciau ar Galluoedd, yn mha le i mae gwastadol O••••rwn i fynu Hymnau ei Dduw.

Am hynnu ir ydem ni ôll yn symyd pan edrycho yr Arglwydd arnom; ie y Neroedd ar Ddaiar ar Pwll di-waulod a gynyrfasant yn ngwydd ei Fowredd êf; ond Meibion Dynion yn Wallgofus a Bechant, i annog y Gorucha i ddigofaint: yn awr gan hynny deuellwch y bydd ir Arglwydd wneuthyr Barn ar Blant Dynion; o¦herwydd bod Dynion yn wastadol yn aros mewn Angrhy∣dinieth ac Anghyfiawnder, ie pan fytho y Cerrig yn holldi, ar Haûl yn tywyllu, ar Dyfroedd yn sychu i fynu, ar Tân yn cry••••u, ar holl Greaduriaid yn drwblus wrth lew∣ygiad yr anweledig Ysbryd, ysbeilio Uffern yn Nioddefaint y Gorucha; gan hynny i bernir hwy i Gerydd. Yna y Gorucha a wrandawodd dy Weddi, ith naillduo di oddiwrth anghyfiawnder, ith wneuthyr di yn Fab, yn Was, ac yn Wenidog yn ei wydd ef, ac yn Lantarn Gwybodth i oleuo Jacob, yn gwbl i fod megis Haûl y dydd yn mysc

Page 32

Meibion Israel; i ti ag ith Hâd i rhoddir Gallu y Fendith▪ hyd oni ymwelo Duw ar oll Genhdloedd yn ymysgaroedd Trugaredd i Fab yn Dragywydd. Er hyn igid dy Feibion a roddant ei dwylo arno, ac ai croes∣olliant êf, ac or achos hon doethineb a de∣alldwrieth a roddir i ti, i, roddi ith Blant wybodeth o hono, o¦herwydd os bendithiant hwy êf hwy a fyddant Bendigedig; ar rhai ai melldigo êf a dderfydd am¦danynt yn ei wydd êf.

Ar Angel a egorodd i mi Borth y Ne∣foedd, ac mi a welais y Demel Sainctaidd, ar Gorucha yn eistedd ar yr Orseddfainc y Gogoniant, ac a ddywedodd wrthyf o LEVI, Mi a roddais i ti Fendithion yr Offeiriadeth hyd oni ddelwyf fy hunan i bre∣swilio yn nghanol ISRAEL.

Yna yr Angel am dygodd i lawr ir Ddaiar, ac a roddodd i mi Gleddyf a Tha∣rian, gan ddywdyd: Gwna Dda yn She∣chem am Dina, a myfi a fyddaf gid thi▪ canis Duw am hanfonodd ei; ac yn yr amser hwnnw i Lleddais ei Feibion Hamor; ifel i mae yn Scrifenedig yn Llech•••• yr Ne∣foedd: Ac mi a ddywedais wrtho, A••••olwg dowed i mi dy enw, fel ei galwyf arnat yn amser trallod. Ac yntau am attebodd i ac a dywedodd: Myfi ydiw yr Angel ydd

Page 33

yn Esgisodi ISRAEL fel na threwir efe yn Dragywydd; canis mae yr holl Ysbrydoedd drwg yn gwneuthyr cynllwyn arnynt.

Ac yn ôl imi ddffroi mêgis allan o gwsg, mi a fendithiais y Gorucha, ar Angel yr hwn oedd yn Esgisodi Hil Israel, ar holl rai Duwiol. A ffan ddaethym at fy Nhad, fyfi a gefais Sarff o Brês, oddiwrth ba ûn i cymerth y Bryn enw Aspis, yr hwn sydd yn agos i Gebar, or tu dehau i Abila: A mi a roddais y pethau hyn i fynu yn fy Nghalon, ac a gynghorais fy Nhad, am Brawd Ruben, i annog Meibion Hamor i Enwaedu arnynt, canis ir oeddwn ei yn eiddigeddus flinderog oblygid y ffieidd-dra a wnaethent hwy yn Israel; ac yn gyntaf or cwbl mi a Leddais Shechem, a Simeon a Laddodd Hamor, yn ôl hynny daeth ein Brodyr, ac a drawsant y Ddinas a min y Cleddyf; a ffan glybu fy Nhad hynny, bu ddigllon iawn gantho, am iddynt dderbyn yr Enwaediad, ai Lladd hywnt gwedi hynny; ac am hynny fe a ddeiliodd ffordd arall a ni yn ei Fendith, am i ni bechu yn gwneuthyr fellu yn erbyn ei ewyllus efe, ac efe a syrthiodd yn Glaf yn y dydd hwnnw; ond mi a wyddwn fod yr Arglwydd yn bwriadu drwg yn erbyn y Sechemitiaid, oblygid iddynt cyn hynny, fwriadu gwneuthyr y cyffelib beth a Sara,

Page 34

ac a wnaethent an Chwaer Deina, ond Duw ai attaliodd hwynt; hwy a erlidiasant ein Tad Abraham (megis deithr) ac a yra∣sant ei Dda efe ymaith; ac yn mhellach fe ddarfu iddynt Guro Joblac yn ddrwg, yr hwn y anesid yn ei Dy êf; ac yn y modd hwnnw i gwnaent hwy a ffob dieithraid, gan gymeryd ymaith ei Gwragedd oddiwrthynt drwy Drais, ac ymlid y Gwyr allan oi Gwlad, am ba achos Digofaint Duw a ddaeth arnynt hwy yn y diwedd. Mi a ddy∣wedais wrth fy fy Nhad: Sir, na thram∣gwydda, canis Duw a ddwg y Cananeaid i ddim oth flaen di, ac a rydd i tîr hwy i ti, ac ith sainctaidd Had ar dy ôl di: Canis o hyn allan Sichem y elwir yn Ddinas yr Yn∣fydion, o¦herwydd fel i bydd i rai watwar ffylied i darfy i nineu i gwatwar hwynt, am wneuthyr y fath ynfydrwydd yn Israel, a chy∣meryd ymaith ein Chwaer ni yw halogi.

Yno i daethom ni i Bethel, ac yn ôl imi Aberthu deg a thriugain o ddyddie ynghyd, yna mi a welais drachefn y peth y welswn ei or blaen. Ac mi a welais saith o Wyr mewn Gwisgoedd Gwynion, yn dywedyd wrthyf: Cyfod, a dyro am¦danat Wisg yr ffeiriadeth, Coron Cyfiawnder, Rheswm ealldwrieth, Gwisg y Gwirionedd, Dwy∣oneg Ffydd, Meitur Sancteiddrwydd, ac

Page 35

Ephod y Brophwydolieth; ac fellu pob ûn o¦ onynt a ddygasant ryw beth gyda ac êf, ac ai dodasant am danaf i, gan ddywedyd: Bydd di o hyn allan yn Offeiriad ir Arglwydd, dydi ath Had yn Dragywydd.

Ar cyntaf am Eniniodd i ac Olew Sainct∣aidd, ac a roddes i mi Deirn-wisien Barn.

Ar ail am Golchodd ei a Dyfr glân, ac am porthodd ei a Bara a Gwîn, sef or tra Sancteiddiola, ac am gwisgodd i a Gogone∣ddus Wisg hyd y llawr.

Y trydydd a roddes imi Wisg o Sidan tebig i Ephod.

Y pedwerydd am Gwregysodd ei a Gwre∣gis tebig i Borphor.

Y pumed a roddod i mi Gangen o Liw∣ydden yn llawn brasder.

Y chweched a rodd Feitr yr Offeiriadeth am fy Mhen.

Y seithfed a lanwodd fy nwy Law ac Arogl Darth, fel i bydde imi wasaneuthu swydd yr Offeiriadeth ir Arglwydd.

Ac efe a ddywedodd wrthyf: LEVI, i dri ffeth penodol i mae dy Had di gwed t drefnu gan Ddw, yn enwedigol, i fod yn arwydd or Gogoeddus Arglwydd sydd i ddy∣fod; ar hwn a gredo a fydd cyntaf, ar Coel∣rn mawr ni syrth arno efe; yr ail a fydd y Offeiriadeth; ar trydydd a gaiff enw

Page 36

newydd; Brenin a gyfyd i fynu yn Juda, ac a adnewydda fy Offeiriadeth yn ol dull y Gen∣hedloed, yn musg yr holl Bobl; ond i ddyfodiad efe sydd anrheuthadwy, sef, pwy a gaiff fod yn Broffwyd ir Gorucha, gwedi ei eni o Abra∣ham ein Tad? Holl hyfrid bethau Israel a roddir i ti, ac ith Had; a chwi a fwytewch yr holl bethau teg yr olwg; ath Had ti a gy∣freniff yr Argiwydd, ac o honynt hwy i bydd yr Arch-offeiriadae, Barnwyr, ac Scrifen∣yddion; canis yn ei Genau hwy y cedwir pthau Sainctaidd.

A ffan ddeffrois mi a ddeallais fod y We∣ledigeth yma megis y llall, ac mi ai goso∣dais hi i fynu yn fy Nghalon, ac nis dango∣sais ei mo hyn i un dyn byw ar y Ddaiar.

Y ddau ddydd cyntaf ir aethym i a Juda at ein Taid Isaac, efe am Bendithiodd ei yn ôl geirie y Weledigeth y welswn. Ond efe ni fyneu fyned gid ni i Bethel.

Ond pan ddaethom i Bethel, fy Nhad Jacob a welodd mewn Gweledigeth yn fy mherthynas ei, i bydde i mi fod yn Offeiriad iddynt hwy oflaen yr Arglwydd; ac efe a gododd y borau, ac a Ddegymodd gimaint oll ac a feddau, drwyddo fi, ir Arglwydd.

Yna i daethom ni i aros i Hebron; ac yn mhen-ennyd Isaac am galwodd ei i egored Cyfraith yr Arglwydd, yn ôl yr hyn ir

Page 37

ydoedd Angel Duw gwedi i ddangos i mi, ac efe a ddanghosodd i mi Gyfraith yr Offei∣riadeth, Aberthau, Poeth-Offrymau, Blaen-Ffrwythau, Aberthau-Gwirfodd, ac Aberthau-Hedd; bob dydd efe a ddysgodd i mi Dde∣alldwrieth, ac am galwodd ei yn wastadol oflaen yr Arglwydd, gan ddywedyd: Fy Mab, na ddod Glust ei Ysbryd Godineb, canis efe ath ddilin di, ac a haloga y pethau Sainctaidd trwy dy Had ti; gan hynny cymer Wraig yn dy ieuengtid, y cyfriw ûn ac ni bytho dim anaf nag aflendid, nag a fytho o Genedl yr Aiphtiaid, nag or Cenhedloedd; a chyn ir elich di ir Saincteiddiola Ymolch; ac yn yr ûn modd pen Aberthech, a hefyd pan Aberthech ir Arglwydd, a hefyd pan or∣ffenech, Offrwm ir Arglwydd ffrwyth y deu∣ddeg Pren y rhai ydynt byth yn Wrddion▪ megis im dyscodd fy Nhad Abraham i wneu∣thur; a ffrwth holl Anifeilied Glan, ac or Hediad Glan ir Offrymi; ac yn yr ûn modd ir Offrymi dy Gyntaf Anedig o bob peth, ar Blaen-ffrwyth oth Win, a thanella dy hol Aberthau a Halen.

Ac yn awr gan hynny fy Meibion, cedwc yr holl bethau ir ydwyf yn i Gorchymyn 〈◊〉〈◊〉 chwi; canis pa beth bynag a glowais ei ga fy Nhadau, hynny ir ydwyf yn i fyneg i chwi, a glan ydwyf oddiwrth eich Pechoda

Page 38

chwi, a wneloch hyd ddiwedd y Byd: Chwi a weithredwch anwiredd yn erbyn Achubwr y Byd; a chwi a hudwch Israel, gan gyffroi i fynu yn ei erbyn êf lawer o ddrygionu oddi∣wrth yr Arglwydd, drwy ddeilio yn an∣nuwiol ac êf, fel na bytho ei Jerusalem ba∣rhau, obiygid eich ffieidd-dra chwi; a Llen y Demel a rwigir yn ddrylliau, i ddatguddio eich bryntni chwi; a chwi a wasgerir megis Carcharorion yn mysg y Cenhedloedd; a∣chwi a watwerir, a felldithir, ac a sethrir dan draed: Er hyn i gid, y Ty a ddewiso yr Arglwydd a elwir Jerusalem, fel i mae yn gynwysedig yn Llyfr Enoch y cyfiawn.

Ac felly pan oeddwn ei 28 mhlwydd Oed, cymerais ei wraig, yr hon ydoedd ai henw Melcha, a hi a feichiogodd ac a esgorodd ar Fab, ac a alwodd ei enw êf Gershon, oblygid nad oeddem ni onid dieithred yn y Tîr; canis Cershon sydd yn arwyddycau Alldu∣daeth: Ond mi a wyddwn am dano êf, na chae fod or Gradde Penna.

Yr ail oedd Caath, yr hwn y aned yn y 35 flwyddyn: Ac mi a welais Weledigeth tua yr Dwyrain, y modd ir ydoedd yr holl Gynylleidfa yn sefyll yn Ddarchafedig; ac am hynny mi a roddais ei enw êf Caath, yr hyn sydd yn arwyddycau Dechreuad Mowredd a Dysceidieth.

Page 39

Y trydydd ydoedd Merari, yr hwn y aned 55 flwyddyn om bywyd; ac oblygid fod ei Fam êf yn galed arni wrth Esgor, hi ai gal∣wodd Merari, yr hyn sydd yn arwyddycau Fy Chwerwder.

Ac yn y 64 flwyddyn om bywyd i ganwyd fy Merch Jochebed yn yr Aipht; ac yno ir oeddwn yn anrhydeddus yn mhlith fy Mrodyr.

Ac yno fy Mab Gershon a gymerodd iddo Wraig, hi a ymddug iddo Libni ac Sichmi. Meibion Caath oedd Amram, Yshvar, Hebron, ac Ʋziel. A Meibion Merari oedd Mahali ac Mushi.

Yn y 94 flwyddyn om bywyd, Amram a gymerodd iddo yn Wraig fy Merch Jochebed, oblygid i genu hi ac yntau yr ûn diwrnod

Wuth Mhlwydd oed oeddwn pan aethum ei gynta i Wlad Canaan. Dau naw mhlwydd oeddwn ei pan aethym ei gynta i swydd yr Offeiriadeth. Ac wuth mhlwydd ar ugaun oeddwn pan gymerais ei Wraig. A dauguen mhlwydd oeddwn pan aethym ir Aipht: Ac wele yn awr chwi yn Blant im Plant ei, yn y drydydd Genhedlaeth. Joseph a fu farw yn y ganfed ar ddegfed flwyddyn oi fywyd.

Ac yn awr fy Mhlant, ir ydwyf yn eich rhybuddio chwi i ofni yr Arglwydd eich

Page 40

Duw ach holl galon; a rhodiwch yn iniawn yn mhob peth yn ôl ei Gyfraith êf. Ac yn mhellach, Dygwch i fynu eich Plant mewn Dysceidieth, fel ei gallant gael Dealld∣wrieth wrth Ddarllen Cyfraith yr Arglwydd yn ddi-baid holl ddyddiau ei bywyd; canis pwy bynag y adnybyddo Gyfraith Dduw y Anrhydeddir; ac i ba fan bynag ir elo êf, ni bydd êf dieithr, ac a gaiff hefyd fwy o Gyfeillion nag a gafodd ei Dadau êf or laen; a llawer a fydd llawen ganthynt i wa∣aneuthu êf, a chlowed y Gyfraith allan oi Enau êf.

Fy Meibion, deiliwch yn inion ar y Ddaiar, fel i galloch gael y Nefoedd; hau∣wch bethau da yn eich meddyliau, fel i affoch chwi hwynt yn eich bywyd; canis s chwi a haua bethe drygionus, chwi a fe∣wch drwbwl, a ffob math ar gymbrus∣wydd: Ceisiwch Ddoethineb yn ofn Duw; anis os caethiwed a ddaw, a distrywio Gwle∣dydd a Dinasoedd, Aûr ac Arian, a ffob meddiane yn darfod am danynt, etto nid es neb a eill gymerid ymaith Ddoethineb 〈◊〉〈◊〉 Doeth, ond yn unig Dallineb Anuwioldeb, 〈◊〉〈◊〉 ffechod; canis Doethineb a fydd megis Tarian iddo yn musg ei elynion, ac a wneiff Wledydd dieithr i fod megis cartref iddo, c a gaiff gymdeithas yn nghanol ei elynion,

Page 41

os dysc a gwneuthr y cyfriw bethau, êf a gaiff eistedd gida Brenhinoedd, fel ein Brawd Joseph.

Ac mewn gwirionedd fy Mhlant, ir yd∣wyf yn dealld wrth Scrifenadau Enoch, y bydd yn y diwedd i chwi wneuthyr yn anwireddus, a gosod eich Dwylo yn Wradwyddus ar yArglwydd; a thrwyoch chwi eich Brodyr a Wradwyddir, ac a wneir yn Watwargerdd ir holl Genhedloedd: Ond pa fodd bynnag Israel sydd lân oddiwrth anwiredd yr Arch∣offeiriaid, y rhai a osodant ei Dwylo ar Achubwr y Byd; ie y Nefoedd uchod, ar Ddaiar sydd lân; ac os chwi ydech Olei•••• y Cenhedloedd, fel yr Haul ar Lleuad, bet a wneiff yr holl Genhedloedd os chwi a orchgiddir ac Anwiredd, ac a ddygwc Felldith ar eich Gwlad, er mwyn pa rai Go∣leini y Byd a roddwyd ynoch chwi, ei Olei yr holl Bobloedd ac êf: Dyma Oleini y Byd, yr hwn y bydd i chwi yn ewyllysga i Ladd, a dyscu gorchmynion yn y gwrth∣wyneb i Gyfiawnder Duw.

Chwi a ddarn-giddiwch Offrwm yr Ar∣glwydd, ac a ddygwch ddrabiau o hono.

Cyn i gwnelôch eich Offrymau i Arglwydd, chwi a ledretwch ymaith y pe∣thau dewisol, ac ai bwytewch yn Wradwy

Page 42

ddus gida ffuteinied a budrogod, gan ddyscu Gorchmynion Cybyddus.

Chwi a halgwch Wragedd Priodol, ac a dreisiwch Forwynion yn Jerusalem.

Chwi a ymgyfathrechwch a ffuteiniaid.

A chwi a gymerwch Ferched y Cenhed∣loedd yn Wragedd, gan i puro hwy ac ang∣hyfiawnder puredigeth; ach cymysgedd chwi a fydd yn gyffelib i Sodom a Go∣morrha.

A chwi a lyngkir ac anwiredd yn yr Offeiriadeth, yn gimaint ac i bytho i chwi yn dra chwilyddus a gwradwyddus watwar y pethau Sainctaidd; nid yn unig ymdder∣chafu ac ymffrostio eich hunain yn erbyn Dynion, ond hefyd ymchwyddo i fynu gan falchder yn erbyn Gorchmynion Duw.

O¦herwydd hyn Temel yr Arglwydd, yr hon a ddewiso, yn ddiammau y adewir yn anghyfannedd mewn aflndid; a chwithau eich hunain cwch i Gaethiwed, ac a fyddwch yn ffieidd dra yn musg y Cenhedloedd, ac a dderbyniwch ddi-ddiwedd gwilidd a gwerth trwy gyfiawn Farn Duw; a ffawb ach gwelo ach ffieiddiant: Ac oni buase er mwyn Abraham, Isaac a Jacob, ni adewid ûn om Hâd ei ar y Ddaiar.

Ac yn mhellach, ydd ydwyf▪ yn gwybod wrth Lyfr Enoch, y bydd i chwi fyned ar

Page 43

gyfeiliorn dros ysbaid deg a thriugain o wyth∣nosau, ac a halogwch yr Offeiriadeth, ac a ddiwynwch yr Aberthau, a ddinistriwch y Gyfraith, ac a ddirmygwch lyferydd y Pro∣phwydi; ac yn rhyfygus ir erlidiwch y Cy∣fiawn, y casewch y Duwiol, ac i ffieiddiwch lyferydd y Crefyddol Bobl; ai galw yn He∣retickied y rhai a elont ynghylch adne∣wyddu y Gyfraith trwy bower y Gorucha, ac yn y diwedd chwi ai lleddwch êf allan o law, heb wybod ei cyfyd êf drachefn; ac fellu chwi a dderbyniwch ei Waed Gwirion êf yn ewyllysgar ar eich Penau; ac oi bly∣gid êf eich lleoedd Sainctaidd chwi a dewir yn anghyfanedd, y rhai a halogwch chwi drwy ddygyn anudonieth, ach Trigfanau ni byddant glân, ond chwi a fyddwch Melldi∣gedig yn mysg y Cenhedloedd, a digalon∣rhwydd ach blina, hyd oni ymwelo êf a chwi drachefn, ach derbyn chwi yn dru∣garog drwy Ffydd a Dyfr.

Ac yn gimaint ac i chwi glowed am y deg a thriugain o wythnosau, gwrandewch hefyd yn mherthynas 'r Offeiriadeth; canis yn mhob Jubile, neu Lawen Ryddhad, i bydd yr Offeiriadeth.

Yn y Jubile cynta, y cynta a Eneinir a fydd mawr, ac a ymddiddan a Duw megis ai Dad; ai Offeiriadeth êf a fydd yn llawn

Page 44

ofn yn Arglwydd, ac yn nydd ei lawenydd fe a gyfyd er Iachadwrieth y Byd.

Yn yr ail Jubile yr Eniniog a Genhedlir yn nhristwch y rhai anwyl, ai Offeiriadeth êf a fydd Anrhydeddus, ac êf a fydd An∣rhydeddus, ac êf a Ogoneddir yn mysg yr holl Bobl.

Y trydydd Offeiriadeth a gymerir i fynu mewn tristwch.

Ar pedwerydd a fydd mewn blinder, o he∣rwydd amldra yr anwireddan a osodir arno êf drwy holl Israel, a ffob Dyn a gaseiff i Gymydog.

Y pumed y ddelir yn dynn mewn tywyll∣wch; ac yn yr ûn modd y chweched ar seithfed.

Ac yn y seithfed y bydd y cyfriw ffieidd∣dra oflaen Duw a Dyn, fel nad wyfi abal iw eglurhau êf; pa fodd bynag y gwei∣thredwyr o honaw ni byddant adnabyddus: Ac o¦herwydd hynny hwy a fyddant mewn caethiwed a llygredigeth, ai Tîr, ai Cyfoeth a ddifethir.

Ond yn y bumed Wuthnos hwy a ddych∣welant yw Gwlad anghyfanedd, ac a adne∣wyddant Dy yr Arglwydd:

Ac yn y seithfed y daw Offeiriadu yn addoli Eulynod, Rhyfelwyr Cybyddus, Ang∣hyfiawn

Page 45

Scrifenyddion, a Budr Ddirmyg∣wyr Dynion, Plant, ac Anifeilied.

Ar ôl ir Arglwydd ddanfon Dialedd ar∣nynt hwy yn yr Offeiriadeth, yna i cyfodiff Duw Ofeiriad newydd, ir hwn yr egorir holl Air yr Arglwydd: Ac êf a wei•••• Wir Farn ar y Ddaiar dros lawer o ddyddiau: Ai Seren êf a godiff yn y Ne∣foedd. Fel Brenin i towalld allan Oleini Gwybodeth yn yr eglur dewyniad Haul y dydd, ac efe a Fawrygir dros yr holl Fyd, ac a dderbynir; fe a dewnna fel yr Haul ar y Ddaiar; yn ei ddyddiau efe y Nefoedd a Lawenycha, ar ddaiar a Ymhyryda, y Cy∣myle a Ymorfoleddant; a Gwybodeth or Ar∣glwydd a dowelldir allan fel Dyfroedd ar y Ddaiar; ac Angylion y Gogoniant, y rhai ydynt yn Mrhesenoldeb yr Arglwydd, a Ym∣lawenhychant ynddo efe, ar Nefoedd a egorir, ac allan o Demel y Gogoniant i daw Sainct∣eiddrwydd arno efe, gida Llyferydd y Tad, megis oddiwrth Abraham Tad Isaac; a Go∣goniant y Gorcha a denellir allan arno efe, ac Ysbryd Dealldwrieth a Sancteiddrwydd a Orfwys arno efe; o ba ûn fe a rydd yn he∣leth ac yn all••••g yw Blant yn y Gwirionedd yn dragwydd; ac ni ddaw yr ûn ar i ôl efe o Genhedleth i Genhedleth hyd ddiwedd y Byd: Yn ei Offeiriadeth i diweddir pob

Page 46

Pechod, ar Anghyfiawn a beidiant ai Dry∣gioni, eithr y cyfiawn a Orffwus yntho efe; ac efe a egoriff Burth Paradwys, ac a attal y Cleddyf Bygythiol yn erbyn Adda; ac a bortha ei Wyn a ffrwyth y Bywyd, ac Ysbryd Saincteiddrwydd a fydd ynddynt hwy; efe a rwum i fynu Belial, ac a rydd yw Blant ei hun allu i sathru i lawr Ysbrydoedd Niwei∣diol; ar Arglwydd a Ymlawenhycha yn ei Blant, a hwy a fyddant gymeradwy gantho efe yn Dragywydd fel ei Anwylyd; yna Abraham, Isaac a Jacob a Lawenychant, ac i Gorfoledddaf flnau gyda yr Seinctiau oll.

Yn awr fy Mhlant, chwi a glowsoch y cwbwl oll, am hynny dewiswch i chwi naill ai yr Goleini ai 'r Tywyllwch, naill ai Cyfraith yr Arglwydd ai Gweithredoedd Belial.

A hwy attebasant ei Tad, gan ddywedyd, Nyni a rodiwn oflaen yr Arglwydd yn ôl ei Gyfraith efe.

Yna Levi a ddywedodd: Yr Arglwydd sydd Dust, ar Angylion ydynt Dystion, a mineu ydwyf Dyst, a chwithau eich hunain ydech Dystion o Eiriau fy Ngenau.

Hwythau pan attebasant, a ddywedasant, Nyni a fyddwn Dystion.

Page 47

Levi a orffwysodd gwed rhoddi y Gor∣chymyn yma yw Blant, ac êf a ystynodd ei Draed, ac a roddwyd at ei Dadau, gwedi iddo fyw 137 o flynyddoedd; a hwy ai do∣dasant êf mewn Arch, ac ai claddasant êf yn ôl hynny yn Hebron, yn ymyl Abraham, Isaac a Jacob.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.