Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.

About this Item

Title
Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
Printiedig yn Llundain :: Ag a werthir gan Thomas Brewster, tan lûn y tri Bibl yn ymmyl Pauls,
1659.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Devotional literature
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A90995.0001.001
Cite this Item
"Rhan o waith Mr. Rees Prichard, Gynt Ficcar LLan-ddyfri yn shir gaer-fyrddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.: Some part of the works of Mr. Rees Prichard, sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A90995.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 23, 2025.

Pages

Page [unnumbered]

Page [unnumbered]

Y Rhag-ymadrodd at y Cymru.

RHyfeddol yw cariad Duw tuag-at blant dynion; yr hyn ymddengys yn enwe∣digol fel yn anfoniad ei vnig anedig fab Ghrist Jesu i baratoi jechadwriaeth idd∣ynt, felly hefyd yn ei waith ef yn cyfodi, ag yn cymhwy so rhai oi mysc, ym-mhob gwlad (gan mwy a) i gyhoeddi 'r jechawdwriaeth honno iddynt, ag i gwahodd, trwy ffydd i derbyn hi, ag i edifarhau, a gwneuthur gweithredoedd add∣as i edifeirwch,* 1.1 heb yr hon edifeirwch a ffyd n Ghrist, nis gallwn ddisgwyl ond am ddestryw tragwyddol.

Ym-mysc eraill o'r cenhedloedd, rhyngodd bodd, ir Arglwydd (mewn trugaredd) i ymwe∣led a ni'r Cymru, gan gyfodi rhai o'n gwlad,* 1.2 i arferu moddion, i oleuo'n tywllwch, i'n dwyn o feddiant Satan (ym meddiant pa vn mae pawb sy'n gwasanaethu pechod) at Dduw, ag i gyfei∣rio'n traed i ffyrdd dangneddyff.

Pan oeddyd yn newydd add papyddiaeth yn y wlad, gosododd Duw ar galonnau rhai o'n cyd∣wladwyr, i gyficithu'r Bibl yn Cymraeg. Oh! na ddeallem ni fawredd y trugaredd i feddiannu Gair Duw yn ein jaith yn hunain. Onid yw'r Gair yn fodd i wneuthur y gwirion yn ddoeth? (sef mewn pethau a perthynant i ogoniant Duw a thragwyddol ddedwyddwch dyn,* 1.3 ir hon ddoethineb, nid yw pob doethineb arall ond

Page [unnumbered]

ffolineb) ag onid yw'y Gair yn fodd i droi enei∣d au at Dduw, i lawenhau calonnau cystyddiedig ag i adeiliadu 'r duwiol yn ei ffydd Sanctaidd. Ni phrissiasau Job Air Duw tu-hwnt ei ymborth angenrheidiol,* 1.4 na Dafydd tu hwnt i filoedd o Aur ag Arian, ni ddwedassau i fod yn felusach na'r mel, ie na diferiad diliau mel. na Jeremy i fod e'n llawenydd ag hyfrydwch iw galon ef, oni bassau fod llawer o ddaioni ysbrydol iw gaffel trwy jawn arfer y Gair, yr hwn pa nis cyfieithastit yn ein jaith, beth faussem ni'r Cymru (sef y rhai o honom ni ddeallant jaith arall) well erddo? ond och! pwy sy'n ystyried maw∣redd y trugaredd hyn.

Gosododd Duw ar galonnau rhai, i gyf jeithu llyrau saesneg yn gymraeg, megis, y LLwybyr Hyffordd, yr Ymarfer o Dduwioldeb, Catechizm, Mr. Perkins, &c. ag ar galonnau eraill i osod allan yn ein, jaith. lyfrau bychain o'i gwaith ei hun megis Carwr y Cymru, Drych i dri Maetho bobl, Cordiaid y Scrythyrau, a Chanwyll Christ, trwy ddarlleniad pa rai, y cafwyd daioni nid ychydig fel yr wyf yn gobeithio y ceir, wrth ddarllen y Cywir ddychwelwr, a Chatechizm, E∣scob Ʋsher, a gifiethwyd yn hwyr yn gymraeg.

Cyfodod d Duw hefyd rhai pregethwyr pwe∣rus yn ein gwlad, a bendithiodd ei gwaith yn rhyfeddol, mewn amryw leodd, yn enwedig pregethiad Mr. Wroth o shir Fonwey ag eraill or amser hynny.

Nid allwn ni ddwedyd llai befyd, nad y ga∣riad i'n gwlad, y derchafodd Duw Mr. Rees Prichard (gynt Vicker Llan-ddyfri) i fod yn gan wyll yn lloscu ag yn goleuo yn ei amser. Ei

Page [unnumbered]

fawr boen ef ym-mrhegethiad y Gair, ei Siampl dda mewn ymarweddiad, a'i ymostyngiad, i osod allan ar fessurau (gan gymmeryd poen an∣feidrol yn hynny) y pethau ganlynant, (gida llawer o pethau da eraill, y rhai allwn ei printio rhag-llaw os bendithia Duw y gwaith presenol a eglurant amcan y Gwr da ymma, i wneuthur daioni yn ei genhedleth,

Ond yn gymmaint a phrintio hyn o'i waith ef, ystyriwch, taw un peth am hannogodd i hyn∣ny, yw, y tybygoliaeth mawr (o herwydd ys∣brydolrwydd y pethau, yr hawsder i deall hwynt, ar Son mawr am, ar cyfryf y wneir o waith Mr. Prichayd yng-hymru) y gallant (trwy fendith Duw) argyoeddu pechaduriaid yn ein gwlad,* 1.5 a'i dihuno o'r cwsc marwol y maent yn∣ddo, yn i stad naturiol, i ofalu am jechawdw∣riaeth ei heneidiau, ag y gallant adeiliadu'r du∣wiol (ar ylleia y rhai sy'n dechrau ymlusco yn ffordd yr Arglwydd) yn ei ffydd sanctaidd.

Os yn graffys y darllenir y llyfyr hwn, gellir gweled egluro ynddo, hwnt ag ymma, er nid yn y drefn y ganlyn y pethau hyn.

1. Amryw o bechodau ein gwlad.

2. Embeidus gyflwr y neb fy'n byw mewn pechod.

3. Amryw o ddychmygion, trwy ba rai y twy∣llyr pobl, gan dybied ei cyflwr yn dda ag yntau 'n ddrwg.

4. Nad oes Jechawdwriaeth ond trwy ffydd yn Ghrist.

5. Nad oes ffydd yn lleshau i jechawdwriaeth ond yr hon sy'n tynnu rhinwedd oddiwrth Ghrist, i sancteiddio 'r enaid ar corph i wa∣fanaethu

Page [unnumbered]

Duw trwy gadw ei orchmynnion.

6 Pwy leshad sydd iw cael o dderbyn Christ, a pha fodd y mae i dderbyn ef.

7. Pa fodd mewn meddwl, gair, a gweithred y dylem ymddwyn yn hun, yn naiilltuol, yn ein teulu, yn y byd, ag yn y gynnulleidfa wrth addo∣li Duw.

8. Pa foddion sydd iw harfer (ar ffordd iw jawn harfer) megis pregethiad a darlleniad y gair, gweddi a swpper yr Arglwydd, i gaffel daioni ysbrydol oddiwrth Dduw trwyddynt.

9. Pa fodd mae gochelid amryw profedigae∣thau Sathan.

10. Pwy mor ferred yw'n heinioes, pwy mor ofer yw gweddio dros y marw, pwy mor siccred y bydd dydd barn, pa fodd y bernir y byd, a phwy mor dda yw glynu wrth yr Arglwydd hyd y diwedd.

Ag oni ellir cael lleshad wrth ddarllain y cy∣friw bethau? nid allaf dybied llai; ag yn enwe∣dig, o herwydd darostwng or Awdwr, i ddeall∣twriaeth y cyffredin bobl yn y rhain, fel yn eraill o'i scrifennadau.

Peth arall am hannogodd i brintio 'r pethau ymma, yw, y tybygoliaeth mawr, y cynhyrfir wrth hyn laweroedd ni fedrant ddarllain, i ddys∣cu ddarllain cymareg. Awyddys yw bobl at bethau newyddion, a'r rhain yn ptintiedig yd∣ynt newydd i'n gwlad: ag odid, na bydd llawer (er ys-catfydd nid ag amcan i gael lleshad i he∣neidiau, etto o ran ei dyfyrwch) yn ymdynnu, i ddyscu darllain gwaith Vickar Landdyfri. Ag ar ol dyscu ddarllain hwn, pa rwystir fydd i ddarllain llyfrau cymareg eraill, trwy ba rai-

Page [unnumbered]

(oni chesglyr trwy hwn) y gellir casglu daioni mawr; ag felly os yw'r llyfyr hwn mewrn rhyw fodd (pa bae ond trwy ddigwyddiad) dybygol i wneuthur lles, gobeithio fod genym resswm cryf am ei brintio.

Nag anfodloned neb, am ymdrechu lleshau'r bobl, trwy'r pethau hyn,* 1.6 a osodwyd allan ar fessur, yn gym-maint a Scryfennu rhan or Scry∣thur, yn yr Hebra-aec felly (megis, y Caniadau, Psalmau, rhan o Job, &c.) ag yn gymmaint i Paul, allan o waith y Poetau cenhedlig (y rhai oeddent yn Scryfennu ar fessur) ymdrechu gynt argyhoeddu 'r bobl yn Athens, ag eraill mewn rhai o'i lythyrau, os Paul y wnaeth ddenfydd o boetau cenhed lig, mwy o lawer y gallwn ni wneuthur denfydd o boetau Christnogaidd ir pwrpas ymma.

Na ddigied neb hefyd o herwydd y gweddiau canis, nid iw gweddio, ond i darllain, fel y caffei'r gwann gyfarwyddeb, pa fodd y mae iddynt we∣ddio, y printiwyd y rhai sy'n y llyfyr ymma.

Ond fel y caffoch leshad wrth ddarllain y lly∣fyr, yn gyntaf, daisyfwch ar yr Arglwydd, ariddo wneuthur i chwi ddaioni trwyddo.* 1.7 Arfer dda yw, cyn ddarllain llyfyr, ble crybwyllir am bethau Duw, derchafu 'r galon ar llygaid at yr Arglwydd, gan ddwedid fel hyn. Arglwydd agor sy Llygaid i weled dy wirioneddau, paratoa fyng-halon i derbyn hwynt, a chadw fi rag am∣ryfysseddau.

Yn ail darllenwch ag ysbryd gostyngedig, er cymmaint yw eich gwybodaeth, bernwch fod yn rhaid i chwi wrth ragor; tybiwch eich hun yn ffyliaid, fel y bo i Dduw'ch gwneuthur chwi

Page [unnumbered]

'n ddoeth.* 1.8 Mae ef yn dal sylw gidag hyfrydwch, ar y gostyngedig, ag yn addaw dyscu ei ffyrdd i'r cyfriw.

Yn drydydd, gochelwch yscawnder wrth ddar∣llain, nid gwirion gan yr Arglwydd y sawl a gymmero ei enw ef yn ofer. Gwybyddwch, mae pa peth by nnag sy'n gwneuthur Dnw'n gydnabyddys, ei Enw ef yw hynny ag os yn rhygil, ag yn yscawn gida chwerthinad, y dar∣llenwch hwn, neu vn llyfyr arall, sy'n gwneu∣thur Duyw'n gydnabyddys, dyna chwi'n cym∣merid ei Enw ef yn ofer. Darllenwch gan hynny mewn parch ag ofn (can ys iw darllain, ag nid iw canu y printiwy dy pethau ymma, y sawl y gano,* 1.9 caned Psalmau Dasydd, neu araill o'r Seintiau, y rhai ydynt Scrifennedig yn y Scry∣thur) a phan ddarllenoch felly: bydd daioni i chwi.

Yn bedwaredd, gochelwch, o herwydd rhiw airiau tramcwydds sy'n Sathredig yn y llyfyr (megis ble gelwir y llann yn Eglwys, y gweni∣dogion yn offeiriaid, addoliad Duw y borau yn wasanaeth pryd, ag addoliad Duw y Pryd nhawn yn osber, &c.) ddibrisio 'r cwbl sydd yn do. Ystriwch, mae ymmadroddion arfer∣edig, a chymeradw y yn amser yr Awdwr, oedd y rhain, ir cyfriw: ag os manwl chwlier hwnt, nid oes cymmaint achos tramcwydd ynddynt, ag y bo rhaid i'r rhan fwyaf o'n zel ni fyned all∣an, i ymrafaelio o'i plegit. pan ddylit i stofi, i ymdrechu ym mhlaid y nydd (sef yr athrawi aeth aghenrheidioliw chredu i jechawdwriaeth) yr hon a rodded vn waith i'r Sainct, ag y sigl∣wyd yn dost,* 1.10 ag y siglir fyth, yn yr amseroedd

Page [unnumbered]

diweddaf ymma, gan Ranters, Quakers, ar cy∣friw.

Er cymmaint o ofal y gymmerwyd, i ddywy∣gio 'r papyrau, cyn ag wrth ei printio, etto mae rhai beiau (er nid ydynt ond ychydig, a rhai hynny (gan mwya) yn feiau llythrenol, ag a ellir yn hawdd i argyweirio a phin wrth ei dar∣llain) wedi diangc yn y llyfyr, trwy anghyfa∣rwydd-deb y Scrysennydd a dywygiwr y pres, i spelian cymraeg: nid allaf ddwedid llai hefyd, nad oes ynddo amriw eiriau dierth i'n jaith, ag agos jawn i saesneg: ond yn hyn, rhaid dio∣ddef peth gan * 1.11 Boetau: ag ni ellir disgwyl cym∣maint gwybodaeth, a manylrywydd yh y 'aith, oddi-wrthm ni o Ddebau barth, ag oddi-wrth ein brodyr o Weunedd, o herwydd i llygru hi'n fwy gida ni, er ys talm o amser, na chida hwynt,

Y Cymru Annwyl, na welwch yn fawr draelo ychydig arian i brynu'r Bibl, ag eraill lyfrau da, sydd alln yn eich jaith. Llawer o amser, a golud, (nid ich gwradwyddo (Duw sydd dyst) ond ich hannog i traelo'n well rhag-llaw yr wyf yn dwedid hyn) y draelodd bagad o honoch ar ddiod, a chardiau, ar ddillad tu-hwnti'ch ga∣lwad, ar eraill bethau brwnt i hadrodd (anwe∣ddys i henwi ym mysc Sainct) ag i gynnal mat∣terion drwg mewncyfraith, o herwydd pa weith∣redoed ar cifriw (onid edisarhewch) colledig fyddwch yn dragwyddol. Och!* 1.12 mae'r enaid yn werthfawroccach, na'-holl fyd; ag a drael∣assom ni lawer o Amser ag Arian, i nafu'r enaid ag a draelwn ni ddim, yn y moddion, trwy jawn arferiad pa rai, y gallwn ddyfod at Ghrist, i gaffel yn jachau a'n cadw? Na atto Duw onid

Page [unnumbered]

Anniolchgarwch mawr, yw dibrissio'r moddion, y bwyntiod Duw o'i drugaredd i ni harfer, er daioni tragwyddol i'n heneidiau? ag onid ydym yn ei gyffroi ef trwy hynny, i fyned ar modd∣ion at erail, a'n gadel ni 'n ddifoddion? Mat. 21.43. Ag oni ellwn ni ddisgwyl am farn echry∣dys, os 'llyn y gwnawn? Mat. 11.20, 22. Heb. 2.2, 3. Atolwg ystiriwch hyn ag na fyddwch byw rhag-llaw, fel rhai na wyddant, neu na feddyliant, fod ganddynt, pob yr vn, enaid gwerthfawr iw gadw, neu golli: fel rhai ni wyddant, i ba bwrpas y daethont i'r bŷd, na p'le'r ant pan elont or byd, tost sydd cyflwr y cyfriw ar ol hyn. Niscant, (fwy na Difes) pan criant am ychydig ddwfr ar flaen bys vn, cym∣maint argronyn, i oeri ei tafod yn y flam vffer∣nol,* 1.13 ni wna Duw ond chwerthyn am ei dialedd. deellwch hyn yn awr y rhai y dych yn angofio Duw, rhag iddo eich rhwygo ag na byddo gwa∣redudd. Ag felly byddwch wych.

Y pedwarydd dydd o fis Mawrth 1657.

S. H.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.