Page [unnumbered]
Amryw reolau duwiol, perthynasol i bôb Cristion iw harfer.
PAn ddeffroech di gyntaf yn dy wely, bydd siccr i feddwl am yr Arglwydd, a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth boreuol o ddiolchgarwch am ei ddaioni i'ti y nôs aeth heibio: a gâd i hyn gael ei gyflawni cyn i'ti feddwl am ddim a∣rall, rhag drwy hynny ith enaid gael ei † lychwino â phechod: Gwêl gan hynny ar i'ti ystyried a gwneuthur hyn. Canys y rhai am anrhydeddant i, a anrhydeddaf finne medd yr Arglwydd. † Ddiwyno Psal. 50.23. 1 Sam. 2.30.
2. Pan gyfodech di gyntaf, nac oeda alw dy dylwyth ynghyd, i roddi diolch ir Arglwydd am ei drugaredd yn gyffredin, ac yn neilldu∣ol i ti ac ir eiddot. A gwêl na wnelych mo hynny yn llygoer, yn draddodiadol, ac yn vnig o ran arfer: ond gwna ef mewn cyd∣wybod a gwîr gariad i Dduw, gan alaru o'th galon, nad ellit ti gyflawni dy ddyled-swy∣ddau yn fwy ysprydol a nefol, gan gyfaddef dy bechodau, ac yn ostyngedig ymbil am fa∣ddeuant am¦danynt. Ac ar ôl hynny, mae yn gymmwys i'ti ymbil am y cyfryw bethau, ac sydd arnat ti eisiau ith enaid neu ith gorph; a chan geisio bendith ar waith y di∣wrnod sydd yn canlyn, gwêl i'ti gyfodi i fy∣nu