Page [unnumbered]
At y darllennudd o Gymro vn∣iaith; Annerch.
Y Darllennud hygar, Er dy fwyn di yn vnig y cyrchais o eithaf Lloegr Sais-fam-dad, i ddyscu i ti yn dy iaith dy hûn, gan na wyddost ond honno, yr vniawn-lwybr hyffordd i'r nefoedd.
Ac yr awr hon wedi'r holl boen a gymme∣rais, ar fedr gwneuthur i ti lesâd, a dwyn di∣ddanwch i'th enaid; Nid hwyrach y byddi mor anniolchgar i Dduw am ei ddaioni ac mor ddi∣frâw, a difedr am danat dy hun, ac na chym∣meri hamdden i ddarllein y llyfran hwn: ac yn & yr aeth fy holl ofal, am llafur i yn hyn o beth, o'th ran di, yn ofer: A pheth sy waeth i ti, y llyfr hwn a saif ddydd y farn, yn dystiolaeth i'th erbyn, ac a brawf gynnig i ti athràwiaeth iachus, ac hyfforddrwydd i achub dy enaid, ond nas mynnit; fod helynt y byd, coegni, ac oferedd yn dallu dy galon, yn pendafadu dy synwyr, ac yn suo byrdwn yn dy glustiau, fel nad wyt yn meddwl am dy ddiwedd, nac yn ymorol pa beth a ddigwydd i'th enaid, Gofala mewn pryd am danat dy hûn, a cho∣fia y ddihareb:
Fe lâs a gafas rybudd, ac ni lâs a'i cym∣merodd.
Ac er nad oes gennit flas ar ddarlain llyfrau duwiol o herwydd cydwybod, etto ar fy na∣muniad i darllain yma nid dwy ddalen, neu