PSAL. LXXXVI.
GOstwng ô Arglwydd y glust dau,
clŷw fy ngweddiau trymion:
Gwrando fi sy druan a thlawd,
o'th barawd drugareddion.
[verse 2] Cadw fy oes, gŵr cynnwys ŵy,
ac ytti 'r ydwy'n credu:
Duw bŷdd achubwr da i'th wâs,
o'th râs dyrd i'm gwaredu.
[verse 3] Trugarhâ wrthif Arglwydd mâd,
can's arnad llefa'n ddibaid:
[verse 4] Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
can's attad coda f'enaid:
[verse 5] Can's ti o Arglwydd ydwyd dda
i'th bobloedd a thrugarog,
I'r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni 'n bleidiog.
[verse 6] O Arglwydd clŷw fy llais, mor llym,
a'm gweddi y'm myfyrdod:
[verse 7] Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,
y dŷdd y bwyf i'm trallod.
[verse 8] Ymŷsg y Duwiau nid oes vn,
fel dydi gûn gogoned:
Ymŷsg gweithredoedd cymmain hûn,
nid oes yr vn vn weithred.
[verse 9] Y bobloedd oll a wnaethost (Iôn)
o'th flaen dôn ac addolant:
A pha le bynnag ar y bônt
i'th enw rhônt ogoniant.
[verse 10] Can's tydi ydwyd fawr a phur
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n vnig ŵyd yn Dduw,
ni cheisiwn amryw dduwiau.
[verse 11] Dŷsg imi dy ffordd (O Arglwydd)
câf yn rhwydd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn vn â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
[verse 12] Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egni fy nghalon:
Ac i'th fawr enw bŷth gan dant,
y rhôf ogoniant cyson,
[verse 13] Can's mawr yw dy drugaredd di,
tuag attaf fi yn barod,
Gwaredaist f' enaid i o'r bêdd,
ac o'r gorddyfnedd isod.
[verse 14] Duw, daethant arnaf fi wŷr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrud?