PSAL. CXXX.
O'R dyfnder gelwais arnat Iôn,
[verse 2] O Arglwydd tirion gostwng
Dy glust, ystyria y llais mau,
clyw fy ngweddiau teilwng.
[verse 3] Duw, pwy a saif yn d'wyneb di,
os creffi ar anwiredd?
[verse 4] Ond fel i'th ofner di yn iawn,
yr wyd yn llawn trugaredd.
[verse 5] Disgwyliais f' Arglwydd, wrth fy rhaid,
disgwyliodd f' enaid arno.
Rhois fy holl obaith yn ei air.
[verse 6] f' enaid a gair yn effro.
Ac am yr Arglwydd, gwilio 'y dŷdd,
fwy na gwiliedydd difri,
A edrych blygain bôb pen awr.
a welo'r wawr yn codi.
[verse 7] Vn wêdd disgwylied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwydd,
Can's mae nawdd gydâ'r Arglwydd nêf,
mae yntho êf rywiowgrwydd.
Ei drugareddau ânt ar lêd,
fe rŷdd ymwared i ni,
[verse 8] Fe weryd Israel: fel hyn,
fo'i tyn o'i holl ddrygioni.