PSAL. XII.
O Achub bellach Arglwydd cu,
fe ddarfu'r trugarogion:
A'r holl wirionedd ar ball aeth,
o blica hiliogaeth dynion.
[verse 2] A gwefus gweniaith dwedant ffûg:
er twyll a hûg i'r eiddyn:
A chalon ddy blyg yr vn wêdd
y cair oferedd ganthyn.
[verse 3] Yr Arglwydd torred o'i farn faith
wefusau'r gweniaith diles:
A'r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.
[verse 4] Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?
[verse 5] Yntau ein Duw a ddwedodd hyn
rhag llethu'r gwaelddyn codaf:
Y dŷn gofidus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.
[verse 6] Pûr iawn yw geiriau'r Arglwydd nef,
a'i 'ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwy aml dro
wed'i goeth buro seithwaith.
[verse 7] Ti Arglwydd, yn ôl dy air di,
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael nedwch.
[verse 8] Pan dderchafer y trywsion blîn,
da ganthyn drîn anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o'r diwedd.