Resh. Rhan. 20.
[verse 153] Gwêl fy nghystudd, gwared ar gais,
can's cofiais dy gyfreithiau.
[verse 154] Dadleu fy nadi, rhyddhâ fi'n rhôdd,
yn ôl ymadrodd d'enau.
[verse 155] Ffordd iechydwriaeth sŷdd bell iawn,
oddiwrth anghyfiawn ddynion,
Am nad ydynt yn ceifio'n glau,
mo lwybr dy ddeddfau vnion.
[verse 156] Dy Drugaredd Arglwydd aml yw,
gwna i'm fŷw'n ôl dy farnau.
[verse 157] Llawer sy'm herlid, 'rwyf er hyn,
yn dilyn dy lân ddeddfau.
[verse 158] Gwelais y traws, a gresyn fu,
iddynt ddirmy gu d'eiriau.
[verse 159] Hoffais dy ddeddf, bywhâ fi' Arglwydd
o herwydd dy drugareddau.
[verse 160] Dechrau dy air gwirionedd yw,
ô Arglwydd Dduw y llywŷdd:
A'th gyfiawn farnedigaethau,
sŷdd yn parhâu 'n dragywŷdd.