PSAL, X.
O Arglwydd pa'm y sefi di,
oddiwrthym ni cyn belled?
Pa'm yr ymguddi di a'th rym,
pan ydym mewn caethiwed?
[verse 2] Y drygrai sydd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai' rhai'n,
hwynt hwy eu hunain dalier.
[verse 3] Hoff gan ddyn drŵg ei chwant ei hun,
pawb yn gytûn a'i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a'r Arglwydd maent iw wrthod.
[verse 4] Yr annuwiol ni chais Dduw nêr,
(mae ef iw falchder cyfuwch:)
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
vn fâth awdurdod goruwch.
[verse 5] Am fod ei ffyrdd mewn llwyddia nt hîr,
ni wyl mo'th wîr gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
fel chwythu tân mewn sorod.
[verse 6] Fe ddwedodd hyn â'i feddwl syth,
ni ddigwydd byth ym adfyd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.
[verse 7] Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a'i safn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod y mae camwêdd,
a thraws enwiredd creulon.
[verse 8] Mewn cilfechydd y disgwyl fan,
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd â llygad llym.
yn dangos grym ei galon.
[verse 9] Fe orwedd fel y llew iw ffau,
i fwrw ei faglau trowsion:
Y gwan a'r tlawd a dynn iw rwyd,
ac yno y daliwyd gwirion.
[verse 10] Fe duchan, fe a'mgrymma ei hun,
fel un ar farw o wendid,
Ac ef yn gryf, â fel yn wael,
ar wan i gael ei ergyd.
[verse 11] Yn ei galon, dwedodd am Dduw,
nad ydyw yn gofiadur:
Caddiodd ei wyneb, ac ni wêl
pa beth a wnêl creadur.
[verse 12] Cyfod Arglwydd, dercha dy law,
dy fod i'n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia, pan fo rhaid,
dy weiniaid a'tn werinos.
[verse 13] Paham y cablant hwy wîr Ddûw,
yr enwir annuw lledftrom?
Pam y meddyliant arnat ti
nad ymofynni am danom?
[verse 14] Gwelaist hyn: can's canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi yw gobaith tlawd, a'i borth,
a chymorth yr ymddifad,
[verse 15] Tor ymaith yr annuwiol rym
yn gyflym, a'r maleisus;
Cais allan eu hanwiredd hwy,
ni chai di mwy'n ddrygionus.
[verse 16] Yr Arglwydd sydd yn frenin bŷth,
ef yw'r gwehelyth lywydd:
Distrywiwyd pob cenhedlaeth grêf
o'i dir êf, yn dragywydd.
[verse 17] Duw, gweddi'r gwan a glywaist di,
ac a gysuri 'r galon:
Tro eilwaith attom' y glust dau,
a chlyw weddiau ffyddlon.
[verse 18] Tros yr ymddifaid y rhoi farn,
a'r gwan fydd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarel ddŷn
mo'r pwyso arnyn mwyach.