PSAL. 9. Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffin rhag llaw.
CLodforaf fi fy' Arglwydd Ion,
o'm calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar led,
ac mai'n ddyled eu canmawl.
[verse 2] Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I'th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf,
[verse 3] Tra y dychwelir draw'n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o'th flaen, difethir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
[verse 4] Cans rhoist fy' marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa vnion:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw'r barnwr cyfion.
[verse 5] Ceryddaist, a distrywiaist di
yn cenhedlaethi cyndyn: