[verse 7] Iw ddyddiau ef cerir yr iawn,
a'r cyfiawn a flodeua,
Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,
tra fo'r lloer hon yn para.
[verse 8] Llwydda efe o sôr hyd fôr,
o'r ffrwd hyd oror tiredd,
[verse 9] Ei gâs ymgrymmant, llysant lwch,
hyd yr anialwch cyrredd.
[verse 10] Cdeyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o'r ynysoedd canol,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â'i anrheg reiol.
[verse 11] Yr holl frenhinoed doent yn llu,
a than ymgrymmu atto,
A'r holl genhedloedd, felyn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.
[verse 12] Cans y dyn rheidus, a'r gwr gwan,
fo'i gweryd pan weddio,
Bydd i bob dyn yn nerthol dwr,
ar ni bo pleidiwr gantho:
[verse 13] Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:
[verse 14] Fo a'i gweryd rhag twyll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.
[verse 15] Felly bydd byw: roir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio bennydd,
[verse 16] Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant,
A'r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o'r ddinas a flagurant.
[verse 17] Oshaul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,