Page [unnumbered]
PSAL. 71. Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absalom greulon.
MI a'mddiriedais ynod (Ner)
na'm gwradwydder byth bythodd
[verse 2] Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoe••d.
[verse 3] Duw bydd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti'n wastad,
A phar fy'nghadw i yn well,
ti yw fy' nghastell caead.
[verse 4] Duw gwared fi o law'r trahaus
a'r gwr trofaus, a'r trowsddyn.
[verse 5] Ynot ti Dduw bu'ngoglud maith,
a'm gobaith er yn ronyn.
[verse 6] O groth fy'mam y tannaist fi,
rhoist ynof egni etto,
I tithau fyth, am hyn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.
[verse 7] I lawer dyn bum anferth iawn,
ti yw fy' nerthlawn lywydd,
[verse 8] Fy safn bydd lawn o'th fawl gan dant
ac o'th ogoniant beunydd.
[verse 9] Nac esgeulusa fi na'm braint
yn amser henaint truan.
Er pallu'r nerth, na wrthod fi,
Duw edrych di r f'oedran:
[verse 10] Medd fy'nghaseion r'wyf yn wann
hwy a ddis••wiliant'a••af:
Ymgy gho••asant yn ddi synn,
gan ddwedyd hyn am danaf;