Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
[verse 4] Dy etholedig dedwydd yw,
caiff nesnes fyw i'th Babell,
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
a'th sanctaidd weddus gangell.
[verse 5] Duw'n ceidwad attebi i ni
o'th ofni i'th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy'r ddaiar hon,
a'r mor cynhyrfdon rhyfedd.
[verse 6] Hwn a sicchrâ bob uchel fryn
â'i wregys yn gadernyd,
[verse 7] Hwn a ostega'r mor, a'r don,
a rhuad eigion enbyd.
[verse 8] A holl breswylwyr eithaf byd
sy'n ofni'gyd d'arwyddion,
I ti gan forau, a chan hwyr,
y canant laswyr ffyddlon.
[verse 9] Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lif-ddyfr rhyd ei llwr
iw thramawr gyfoethogi.
[verse 10] Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a'i chwysau'r wyd iw gostwng,
A'i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chwd rhoi fendith deilwng.
[verse 11] Coroni'r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â'th ddaioni,
Y ffordd hyn a'r modd (Duw fy' ner)
diferaist frasder arni.
[verse 12] Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn uchder gwlâd
o ffrwyth dyrâd y dengys.