PSAL. 64. Dafydd yn gweddio'n erbyn celwydd a cham-gyhuddi∣ad: er cysur i'r cyfion y mae yn dangos cospedi gaeth yr enwir.
O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,
a chlyw, o'r nef fi'n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni'r gelyn.
[verse 2] A chuddia fi dros ennyd bach
rhag cyfrinach y rhai drwg,
A rhag terfysg y rhai sy'n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.
[verse 3] Hogi tafodau fel y cledd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i'm syrhau,
a'r rhai'n oedd eiriau chwerwon.
[verse 4] I saethu'n ddirgel bigau dur,
yn erbyn pur ei galon,
Yn ddisymwth heb ofni neb,
a thrwy gasineb creulon.
[verse 5] Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhwydau,
Yna y dwedant pwy a'n gwel
yn bwrw dirgel faglau?