PSAL. 52. Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i'r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.
PA'm y rhodresi dy frâd,
a'th ddrwg fwriaid (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn.
[verse 2] Dychymyg drwg yw'r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a'i swydd yw gwneuthur ffolder.
[verse 3] Ni hoffaist dda, gwnait ddrwg yn haws
a'r traws, yn fwy nâ'r union,
[verse 4] Hoffaist eiriau diftryw a bar,
ti golyn twyllgar, creulon.
[verse 5] Duw a'th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o'th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.
[verse 6] Rhai a'i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion,
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welon ddilen greulon.
[verse 7] Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na'i bwys na'i oglud,