Cans fy'nrhoseddiad i mawr yw,
mwy ydyw dy drugaredd.
[verse 12] Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pûr ofni'r Arglwydd?
Fe ddengys y fforth iddaw fo,
hon a ddewiso'n ebrwydd.
[verse 13] O hyn y caiff fy enaid cu
le i lettu'n esmwyth:
A'r holl ddaear hon a'i gwellâd,
a gânt ei hâd a'i dylwyth.
[verse 14] Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i'r sawl a ofno'r Arglwydd:
Ac oi' holl gyfanneddau glân,
efe a'i gwna'n gyfarwydd.
[verse 15] Tueddu'r wyf fy, Arglwydd mâd,
yn wastad â'm golygon:
Cans ef yn vnic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhyddion.
[verse 16] Tro a••taf, dod y'm nawdd diddig,
cans vnic wyf, a rhydlawd.
[verse 17] Gofidiau 'nghalon ynt ar lêd,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
[verse 18] Duw, gwêl fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde'n awr fy 'mhechod:
[verse 19] Gwêl fy 'ngelynion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
[verse 20] Cadw f'enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheini 'm wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd,
[verse 21] Cadwed fi fy vniondeb maith,
cans rhois fy 'ngobaith ynod.
[verse 22] Duw, cadw di holl Israêl,
gwared, a gwêl ei drallod.