PSAL. 20. Y bobl yn bendithio eu brenin, ac yn gweddio yn erbyn eu gelynion, wrth fynd allan i ryfel.
GWrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Iacob, ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
[verse 2] O'i gyseor rhoed yt help a nerth,
a braich o brydferth Scion:
[verse 3] Cofied dy offrwm poeth a'th rodd,
bo'rhai'n wrth fodd ei galon.
[verse 4] Rhoed ytty wrth dy fodd dy hûn,
dy ddynnmun a'th adduned:
Dy fwriad iach a'th arfaeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
[verse 5] Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn fener:
A'th ddeifyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r uchelder.
[verse 6] Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o'i gyfegr drwn ei eneiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
[verse 7] Rhai ar gerbydan rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw'r Arglwydd Dduw,
mai hwnnw yw'n ymwared.