PSAL. 1. Dyma wynebni y psalmau: yn dangos tycciant y duwi∣ol ac aflwydd y rhai annuwiol.
Y Sawl ni rodia, dedwydd yw
yn ol drwg ystryw gyngor,
Ni saif ar ffordd troseddwr stôl,
nid eiste 'n stôl y gwatwor.
[verse 2] Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd vchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
[verse 3] Ef fydd fel pren plan ar lan dôl,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith,
alwydda 'n berffaith iddo.
[verse 4] Nid felly bydd y drwg di rûs,
ond fel yr ûs ar gorwynt:
Yr hwn o'r tir â'i chwyth a'i chwâl,
anwadal fydd ei helynt.
[verse 5] Am hyn y drwg ni saif mewn barr▪
o flaen y cadarn vniawn:
Na'r pechaduriaid mawr eu bâr,
ynghynulleidfa'r cyfiawn.
[verse 6] Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth y barhau,
'mo lwybrau pechaduriaid.