PSAL. 18. Dafydd yn diolch i Dduw, am ei orfoledd a'i fren∣hiniaeth, gan ddatgan gwrthiau Duw, yn rheoli hinon; y mae yn prophwydo am Grist.
O Ior fy'ngrym caraf d' ynfawr
fy' nghreiglawr, twr f'ymwared.
[verse 2] Fy Nâf, fy' nerth, fy' nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.
[verse 3] Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i'r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i'm cedwir yn ddiau
rhag drygan fy' nghaseion.
[verse 4] Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i'm herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy'nychryn.
[verse 5] Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf;
[verse 6] Yna ygelwais ar fy Ner,
ef o'r vchelder clywodd,