Page [unnumbered]
PSAL. 16. Mae Dafydd yn enw'r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnadob fod ein holl ddedwdd∣wch yntho ef, drwy Ghrist, a'i gyfodiad.
CAdw fi Duw, cans rhois fy 'mhwys
a'm coel yn dradwys arnad:
[verse 2] Fy Arglwydd wyd: mae dan fy'mron,
y gyffes hon yn wastad.
Nad lles yt yw, na'm da, na'm rhin:
[verse 3] ond i drin sanct daiarol,
I lesu'r rhai'n fy'wyllys yw,
y rhai sy'n byw'n rhinweddol.
[verse 4] I'r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.
[verse 5] Ni henwaf chwaith, Yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a'm phiol:
A thydi Ior, sy'n rhoi'miran,
a chyfran yn ddigonol.
[verse 6] A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran,.
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
[verse 7] Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F'arennau hefyd ddydd a nos,
sydd ym yn dangos hynny.
[verse 8] Rhois fy Ner (bob awr) gar fy'mron,
o'r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy' nehau law,
yma na thraw ni syflaf.