PSAL. 15. Dull a chyflog buched dda.
DYwaid i mi pa ddyn a drig,
i'th lys barchedig, Arglwydd?
A phwy a erys ac a fydd
ym mynydd dy sancteiddrwydd?
[verse 2] Yr hwn a rhodia'n berffaith dda,
yn hwn a wna gyfiownder:
A'r hwn a draetha o'i galon wir,
a drig ar dir vchelder.
[verse 3] Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,
ddim ond o'r da bigilydd:
Ac ni chyn••wys y rhai ron
iw cymydogion gwilydd.
[verse 4] Y'r hwn sydd isel yn ei sryd,
yn caru'i gyd gristnogion,
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
ac sydd yn byw yn ffyddlon.
[verse 5] Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,
er dir neu niwed iddo:
Ac ni ro ei arian yn llog,
er dwyn cymydog dano.
[verse 6] Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,
er dal yn erbyn gwirion.
[verse 7] A wnelo hyn ni lithra fyth,
fe gaiff y ddilyth goron.