PSAL. 144. Dafydd yn moli Duw am iddo ynnill ei dyrnas, ac y mae fe yn dymuno eu tâl i'r annuwiol: ac yn dangos beth yw happus-rwydd cenedl.
BEndigaid fo'r Arglwydd fy' nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy' nwylo' i ymladd, a'r un wedd,
fy' mysedd i ryfela.
[verse 2] Fy'nawdd, fy' nerth, fy' nug, fy nghred
fy'nhwr, f'ymwared unig:
Cans trwyddo ef fy' mhobl a gaf
tanaf yn ostyngedig.
[verse 3] Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mab dyn pa beth ydyw fo,
pan fych o honno'n darbod?
[verse 4] Pa beth yw dyn? peth yr un wedd
a gwagedd heb ddim hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhod,
fal cysgod yn mynd heibio.
[verse 5] Gostwng y nefoedd, Arglwydd da,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffwrdd a'r mynyddoedd fry,
gwna iddynt fygu digon.
[verse 6] Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw lladd gyrr saethau tanbaid.
[verse 7] Discyn, tyn fi o'r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law'r estroniaid.