Cladd o cladd nas gallont hwy,
Fyth godi mwy i'm herbyn.
Duw crea i mi lân galon
I fod ith garu yn ffyddlon,
Adnewydda ddull fy mryd
O'm mewn a'th yspryd vnion.
Dod i mi bur ammynedd
Tra byddwy 'n dwyn fy muchedd
Yn fy mywyd ym mhob cam
I feddwl am fy niwedd.
Dysc i mi heddyw fedru
Fyw trwy lawn hyderu,
Fel pe byddai siwr fyngwedd
O fynd ir bedd y foru.
Na roddwyf bwys na hyder,
Mewn da na dŷn a fager,
Nac mewn dim ond ynot ti
Ʋn Duw a Thri bob amser.
Dod i mi ras i edrych
A gwneuthur a orchmynnych
A gorchymmyn y Duw gwyn
I'm wneuthur hyn a fynnych.
Dod râs i mi Dd' ystyru,
Y byd, a gallael trechu,
Y cnawd brwnt, a gochel gwall,
Rhag cael or fall fy maglu.
Dod imi 'n hyn o fywyd
Ddiogel obaith hyfryd,
Bywiol ffydd i fynd i'r daith
A chariad perffaith hefyd.
A thyred y Messias
Fel dyna ngwisc priodas,
Tyred chwyppyn hyn yw nghân
I gael dy lân gymdeithas.
—Olim haec meminisse iuuabit.