CAROL PLYGEN, NEWYDD
1
CYd ganwn yn llafar i Dduw yr holl ddaiar
Ac Ysprŷd gwŷllysgar, da Seingar disiom
Ni welwn yn eglur wŷch Lesol achlysur
I Ystŷr pa gysur a gawsom
2
Pan oedd yr hên Adda, wallgofus, ac Efa
Ar waith y Gorucha yn benna yn y Bŷd;
Taflasont o'n haberth i bechod a thrafferth
Di'madferth gwŷmp anferth gamp ynfŷd
3
Meluster pôb pechod a ddigwŷdd yn wermod,
Neu droellen o drallod, oêr ddincod ar ddŷn,
Er edrŷch cŷn degced a pherl yn y llyged,
Mae 'n syrffed blaen galed ei golŷn.
4
Y Bŷd a chwant cnowdol, a sattan ragrithiol
Sŷ'n denu y rhŷw dynol or dduwiol ffordd ddâ;
A Nineu o rŷwogaeth yn dilŷn gwaedoliaeth,
Naturiaeth henafiaeth hên Efa.
2
Ond trachwant blysigol a werthodd wlad Nefol,
A phrynu'r uffernol anuwiol a wnaed;
Marwolaeth ŷw'r gobrwŷ sŷdd i fod yn safadwŷ,
Gwhan glwŷ pibonwŷ pôb enaid.