Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwŷddŷn o oedran y bŷd, 5648. ac am y flwŷddŷn o oedran Crist 1699.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc; : at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru; a charol; a dyriau newŷddion: / Yr ugainfed o wneuthuriad Thomas Jones.

About this Item

Title
Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwŷddŷn o oedran y bŷd, 5648. ac am y flwŷddŷn o oedran Crist 1699.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc; : at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru; a charol; a dyriau newŷddion: / Yr ugainfed o wneuthuriad Thomas Jones.
Author
Jones, Thomas, 1648-1713.
Publication
[Shrewsbury :: by Thomas Jones,
1699]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Almanacs, Welsh.
Astrology
Ephemerides.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A75122.0001.001
Cite this Item
"Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwŷddŷn o oedran y bŷd, 5648. ac am y flwŷddŷn o oedran Crist 1699.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc; : at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru; a charol; a dyriau newŷddion: / Yr ugainfed o wneuthuriad Thomas Jones." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A75122.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 15, 2024.

Pages

Page [unnumbered]

ANSODD HIR NYCHDOD YR AWDWR

ADdewais (mewn amrŷw o'm Halmanaccau) yrru i chwi gyfrif o barhauad, a diweddiad fy afiechŷd, pan weleu Duw yn ddâ fy rhyddhau oddiwrtho: Ond rhag ofon i mi farw cŷn cael llwŷr ymwared oddiwrth fy noluriau, yscrif∣ennais attoch y leni (fel a gwelwch yn canlŷn) bêth hanes o'm helŷnt dan fy hîr gystudd dros 6. o flynnyddoedd; y hwn a ddechreuodd arnaf y 27 dŷdd o fîs Chwefror yn y fl∣wŷddŷn 1692: Ac (onid Wŷf yn camgymerŷd) ni bŷ arnai ddim llai o ddoluriau nag a welwch isod dan eu henwau, fel▪ gelwir hwŷnt ymma

Yn Saesnaeg Yn Gymraeg.
1 Ague 1 Crud.
2 Asthma 2 Diffŷg anadl.
3 Bloud clodded 3 Gwaed bellenu.
4 Bloud-shot eyes 4 Gwaedlŷd lygaid.
5 Cachexia. 5 Drŵg ansodd y Corph.
6 Choler. 6 Geri.
7 Dropsie. 7 Dyfrglwŷf.
8 Dysury. 8 Tostedd.
9 Fainting fits. 9 Llesmeiriadau.
10 Flegms. 10 Llysnafedd y cyllaf ar pe
11 Fever hectic & intermaittin 11 Twŷmŷn amhynedd &c
12 Gravel in kidney & blader 12 Graian yn y chwysigen &c
13 Gripeing of the guts. 13 Cnofa yn y coluddion
14 Head ach. 14 Dolur pen.
15 Heart burning. 15 Dŵr poeth, calon boethe
16 Hypochondriach melancholy 16 Y Prudd glwŷf.
17 Palpitation of the heart. 17 Curriad y galon.
18 palsy. 18 Haint y giau.
19 Quinsy. 19 Y Fynyglog, yr hychgrug yr yspinag
20 Rheumatism 20 Gormwŷth.
21 Sciatica. 21 Y Glun gymalwst.
22 Scurvie. 22 Llwŷg.
23 Spleen. 23 Clwŷ 'r ddueg.
24 Stitches. 24 Tymmhigiadau.
25 Swellings. 25 Chŵŷddau.

Page [unnumbered]

26 Teeth loos. 26 Dannedd rhŷdion.
27 Vapours. 27 Ager.
28 Vomiting. 28 Ymgyfoglad, gloesiad.
29 Wind gout. 29 Clwŷ 'r gwŷnt.
30 Sweats imoderate? 30 Chwŷs Anferthol?

1. Y Crud a'm dalieu 5 awr yn y dŷdd, unwaith bôb dŷdd dros bythefnos ar ddechruad fy afiechŷd, ac yn ol hynnŷ dr∣os 3 mîs ymhellach dri dŷdd tuntu 6 awr yn y dŷdd, a 4 dŷdd bôb wŷthnos hebddo, Yn ol hynnŷ cymerodd fi bedair awr ar-hugain tuntu tros 4 mîs, heb ond awr neu ddwŷ rh∣wng y naill gwrs ar llall. ac yn ol hynnŷ gadawodd fi dros bythefnos: Ac yn ol hynnŷ cymmerodd fi gyrsiau hîrion o fwŷ na 40 awr bôb cwrs, heb ond awr neu ddwŷ rhwng di∣wedd y naill gwrs a dechreu 'r llall dros 6 mîs o amser: A chwedi hynnŷ cymerau fi yn amlach, ac yn fyrach rhwng pôb cwrs a'u gilidd, ac wrth hynnŷ yn yr ail flwŷddŷn bydden arnai bump neu fwŷ or cyrsiau hynnŷ yn y dŷdd▪ ac or ddwŷ flwŷddŷn gyntaf hŷd yn hŷn y Crud a syrthieu arnaf yn anwadal iawn, weithieu ddwŷ waith neu dair yn y dŷdd, weithieu unwaith yn y dŷdd, weithieu bôb yn ail∣dŷdd weithieu bôb tri dŷdd, ac weithieu un waith yn yr wŷthnos' ond nid oedd dim crynnŷ unamser gyda 'r Crud hwn, ond oeri a phoethi dan bôb cwrs heb grynnu. ac er i mi gymerŷd pôb peth ar a iachau y Crud crynnŷ, nid iach∣au yr un o honnŷnt mo hwn.

2. Y Diffŷg anadl, oedd yn deilliaw oddiwrth neu yn dyfod o achos y 10. y 22. ar 25 or doluriau; ac am daliodd dros bum mhlynedd a hanner o amser, er darfod i mi gyme∣rŷd cant o gyffyriau yn ei erbŷn; ond or diwedd cerais fodd i ymwared ar Diffŷg anadl, fel a canlŷn; prynais ddau bwŷs o Raisins of the Sun, ac a fwŷdteis 8 neu 10. o rheini wrth godi 'r boreu, a chymaint a hynnŷ wrth fyned i gyscu tra parhausont, gan dynnu 'r cerig allan o honŷnt cŷn eu bwŷd∣taf; a rheini a dorrasant y fflêm yn fy nwŷfron, ac am gw∣naethant yn holliâch oddiwrth y caethiwed hwnnw.

3. Y trydŷdd, neu 'r Gwaed bellenu; oedd yn deilliaw oddiwrth oerder a fferdod y gwaed; a hwnnw am blinodd yn gnappiau neu chwarennau cledion yn y breichiau a, r co∣rph dros y ddwŷ flynedd gyntaf o'm hafiechŷd; ac ar o

Page [unnumbered]

hynnŷ chwalasant o honŷnt eu hunain fel a gwresogodd y gwaed.

4. Y gwaed gochni yn fy llygaid a ymddangosai arnai weithieu dros y tair blynyddoedd cyntaf; a hynnŷ edd yn deilliaw oddiwrth y cûr a'r dolur oedd yn y pen; a goreu pêth a gefais yn erbŷn y llygaid-gochni hwnnw oedd sychu y llygaid a chynffon y Gâth.

5. Drŵg-ansodd y corph ŷw annygymmod bwŷd a diod, a hynnŷ oedd yn deilliaw oddiwrth aflendid y cyllaf; hwn a'm blineu bôb gaiaf; a'r hâf hefŷd weithieu, ag ir oedd yn troi llawer or bwŷd yn fflêm, ar ddiod yn chwŷs: Ar drwg-ansodd hwn oedd yn lleihau fel ac i'r iachau y dol∣uriau eraill. goreu Peth a gefais yn erbŷn y drwg-ansodd hwnnw oedd, Stomach Purges.

6. Y Ceri, ydŷw sychder a gwrês yn y ddwŷfron, a hwn∣nw a fageu ffllêm glas-ddu. y geri hwn sŷ yn magu drwŷ boethder a gwaed-wŷlltni. dŷn, (nid wŷf ddieuog o hyn∣nŷ fy hun.) Goreu peth a gefais yn erbŷn y clwŷf hwnnw oedd y dail a elwir yn Saesnaeg Mallaws, ac yn gymraeg Hoc∣cŷs neu y feddalai: O'r dail Hoccŷs hŷn cymmerais gym∣aint (yn irrion bôb dŷdd.) ag a ferweu mewn ffioled fe∣chan o laeth, ac a'u berwais mewn llefrith dros wŷthnos neu fwŷ bôb boreu, ac yno teflais ymaith y dail, ac yfais y llaeth yn dwŷmŷn, a hynnŷ a oerodd ac a feddalhâodd fy nwŷ-fron yn odiaethol.

7. Y Dyfr-glwŷf oedd yn magu drwŷ oerder a gwendid y gwaed, ac hefŷd trwŷ 'r chwus mawr oedd yn dyfod o r ddwŷ-fron trwŷ 'r cnawd ar gwaed; Y Dyfr-glwŷf hwn oedd yn chwuddo 'r corph ar aulodau, yn enwedig y coe∣sau a chwudd dyfrllŷd meddal: I fachau 'r dolur hwn gw∣neuthum fel a canlŷn ymma. Cymerwn lonaid llwŷ o hâd ffenigl, a sigwn hwŷnt mewn morter, a thair ewin o arlleg wedi eu digibo a'u sigo, ac ynghŷlch pwŷs haner coron o risglŷn gwŷrdd pren Ysga A chymaint a hynnŷ o risgŷn gwŷrdd pren Onnen. ac ychydig o frigau Banadl gwŷrddion: A rhown y rhain oll i fwŷdo dros ddeu∣••••ŷdd a dwŷnswaith mwn peintied o ddiod frag; Ac 〈◊〉〈◊〉 hidlwn y ddiod a bwriwn ymaith y cyffyriau, A 〈◊〉〈◊〉 gdw'r ddiod honno y gloss mewn Pottel, rhown 〈◊〉〈◊〉 ll••••••••id o honi ymhôb tragcell neu ddrachd o ddiod

Page [unnumbered]

ar a yfwn; Ac erbŷn a derfyddeu y peintiaid hwnnw dar∣parwn beintiaid arall yr un môdd: A hynnŷ a wnae î mi biso yn agos i chwart mwŷ nag a yfwn ni o ddiod bôb dŷdd; dilynes y cwrs hwnnw nes i'r chwŷdd dyfrllŷd gilio i gid allan o'm cnawd.

8. Y Tostedd oedd yn deilliaw oddiwrth y 5. 7. 2. 20. 22. 25. ar 30. or doluriau: Yr un pêth a iachaodd y Tostedd hwn, ag a iachaodd 〈◊〉〈◊〉 Dyfrglwŷf. (Gwŷbydd∣wch mae 'r Tostedd ŷw 'r Dolur sŷ 'n attal dŵr dŷn) y dolur hwn am blinodd 6 blyndd cŷn cael ffordd iw iachau,

9. Y Llesmeiridau oedd yn dyfod pan weithieu amrŷw or doluriau at fy nghaon; Yn enwedig yr 20. ar 29. o'r doluriau; Goreu pêth a gefais yn erbŷn Y Llesmeiriadau oedd Spirit of Harts-horn, a chymmerŷd 6. defnŷn o hwn∣nw mewn un llwŷaid o ddiod frâg pan fyddeu achos.

10. Y Llysnafedd (yr hwn a elwir yn llygredig fflêm) oedd yn magu oddiwrth ddrŵg-ansodd y corph. Ar un Pêth a iachadd hwn ag a iachâdd yr ail dolur, neu 'r diff∣ŷg anadl.

11. Yr unfedarddeg dolur, yr hwn a elwir yn gymr∣aeg iawn Twŷmŷn Amhynedd, y crud Poeth, neu Edwad: Ond y cymru a fyddo arfer o glyttio 'r cvmraeg lle na bo dim tyllau ynddi a alwant y dolur hwn ffefar, a rhai eraill ai galwant yn Llygredig Twŷmŷn Mynudd. Y Dolur hwn a fagodd arnai drwŷ gael yr anwŷd yn ddwŷs; a chan iddo gyfarfod ag amrŷw o ddoluriau eraill daliodd arnaf bed∣air o flynnyddoedd Yn wastadol, ac yn hwŷ ymbell wa∣ith: Y Dolur hwn oedd yn llosgi yn Anferth yn y gwaed ar cnawd; A hynnŷ yn llawer mwŷ ar gyrsiau nac ar amseroedd eraill, yn enwedig Pan ddigwŷddeu cyrsiau'r crud: Gollwng gwaed yn fynŷch a fuaseu yn iachau y dolur hwn, ond ni lafaswn ni mo hynnŷ o herwŷdd y Dyfr-glwŷf, gwaedu a wneutheu y Dyfrglwŷf yn farwol neu yn anaele.

12. Y Graian yn y chwysigen, ar Llefnau neu'r Arennau cefen. sŷ 'n magu mewn Cŷrph Oerion, a thrwŷ amrŷw o Ddoluriau a ddelo trwŷ oerfel; Y Graian hynnŷ a 'm blinodd (drwŷ attal fy nŵr, a phoethi fy 'nghefen) chwech o flynnyddoedd; A Goreu pethau a gefais yn erbŷn y

Page [unnumbered]

graian, oedd yfed 3 chwart neu fwŷ (ar foreu dros fîs neu fwŷ yn amser hâf) o ddwr y ffynnonau oerion a fyddis arfer o 'u hyfed, y dŵfr sŷ 'n dyfod oddiar fwn Haiarn sŷdd oreu; Clowaf fôd un or ffynnonnau hynnŷ wrth wrex∣ham, ac un arall rysymol wrth Ruthin, ac un arall rhwng Tre Fynwŷ a châs Gwent, ond y rhai a gwneuthum mi ddeu∣nŷdd o honŷnt oedd hon a elwir y ffynnon frŵd o fewn mi∣lltir i Frŷsto. Ac un arall a elwir ffynnon Bentol naw mill∣tir islaw 'r Mwŷthig. Ond yn amser gaiaf prŷd nad âllwn yfed dwfr) mwŷdwn hâd a gwraidd Persli mewn diod frâg dros ddau-ddŷdd; ar ddiod lle buaseu y rheini yn mw∣ŷdo a wnaeth i mi lawer o lês, hefŷd y ddiod a gymerais yn erbŷn y Dyfrglwŷf a wnaeth lawer o lês yn erbŷn y clwŷf ymma.

13. Y Gnofa yn y Coluddion, oedd yn deilliaw oddiwrth y 29. dolur; Ac am blineu yn fynŷch y flwŷddŷn gyntaf o 'm hafiechŷd: Goreu peth a gefais i Iachau y gnofa oedd hâd y llysiau a elwir yn lading cardus Benedictus, yn gym∣raeg Ysgell Bendigaid; Ychydig or hâd hynnŷ wedi eu pwn∣nio, a 'u hyfed mewn diod frŵd a esmwŷtheu y gnofa me∣wn ychydig amser. Lle na bo y llysiau hynnŷ iw cael; y Llysiau a êlwir yn Saesnaeg Rue, yn gymraeg Rŷw, ond i mwŷdo mewn gwîn a elwir Sack, neu (lle bo eisieu Sack) mewn cwrw, Ac yfed y ddiod yr ail dŷdd yn frŵd a Iacheiff y gnofa.

14. Y Dolur pen, oedd yn Deilliaw oddiwrth y 5. 16. 20. 22. 23. 27. ar 29. or Doluriau: Ac am blineu un waith bôb mîs, neu yn amlach ar ol y ddwŷ flynedd gyntaf o 'm hafiechŷd: Ac o herwŷdd i fôd yn deilliaw oddiw∣rth gymmaint o ddoluriau, nid oedd Dim a 'i gwnaef yn Iâch nes cael ei gwrs: Ond goreu peth a'i hesmwŷtheu ef arna if oedd gadw fy mhen yn gynness iawn ac ymochel oddlwrth ddiod grêf.

15. Y Dŵr poeth, am blineu weithieu yr all, ar drydŷdd o flynyddoedd fy nychdod. Ac oedd yn deilliaw oddiwrth aflendid y Cyllaf; Goreu peth a gefais yn erbŷn hwn oedd Cnoi Pump o bŷs gwnnion yn fanaf ag allwn, a'u llyngcuf, ac ar ol eu llygcuf attal fy anadl hwŷaf ag a gallwn: A ynnŷ a ostegeu y Dŵr peeth,

16. Y prudd glwŷf, a fagodd drwŷ hîr fyfyrdod a diwŷd

Page [unnumbered]

ddal wrth lyfrau: Ar Dolur hwn oedd yn fy mlino yng∣hŷlch godreu fy assennau, ac yn fy mhen; Sef yn poethi ac yn pigo ar gyrsiau ynghŷlch yr assennau; Ac yn ysgafnhau y pen, ac yn Cystuddio 'r pen a meddyliau ofer, yn enwed∣ig pan fyddwn rhwng Cysguf ac Effrof; weithieu tybiwn fy môd yn sefŷll ar fy mhen, ac weithieu tybygwn fy môd yn tynnu 'r anadlŷn diweddaf ac yn ymadel ar Bŷd; weith∣ieu tybiwn fod rhŷw-beth yn rhedeg o'm traed i'm dwŷ∣fron yn fy ngnhawd, cŷn gynted ag a rhedeu Lygoden mewn gwêllt, ac amrŷw eraill or fâth feddyliau ofer: Goreu pêth a gefais yn erbŷn y dolur hwn oedd y tri o amrŷw lysiau a elwir yn Saesnaeg, Black Helebor. Fumit∣ory. Dandelyon. y llysiau hŷn a elwir yn gymraeg, Crafangc yr Arth. Mŵg y ddaiar. Llyged y gŵr drŵg. or cyntaf o rhain Cymmerwn ychydig bâch, ac o bôb un or lleill y chwech chymaint, a mwŷdwn hwŷnt mewn diod frag ddiwrnod a noswaith ac yno (gan hidlo 'r ddiod allan o honŷnt) yfwn y ddiod; Ac fellu Dilŷnwn hynnŷ dros fîs neu fwŷ yn amser hâf: Ac weithieu ynlle mwŷdo 'r dail mewn diod, byddwn yn eu berwi dros funŷd, neu cyhŷd ag a berweu laeth. Ar ddiod honno a esmwŷthau lawer ar y prudd-glwŷf. Gollwng ychydig waed, a hynnŷ yn aml a fuaseu yn Iachau y Dolur hwn yn hollawl, ond ni lafaswn ni mo hynnŷ o herwŷdd y Dyfr-glwŷf.

17 Curiad neu Llamiad y galon, oedd yn Deilliaw oddiwrth y prudd. glwŷf; ac am blineu weithieu gyda chyr∣siau 'r crud. Goreu pêth a gefais yn erbŷn llamiad y galon oedd Spirit of Haris horn; a chymerŷd 6. Defnŷn o hwnnw mewn un llwŷed o ddiod pan fyddeu achos. Llysiau Rŷw, bugloss, Rhôs-côchion a violets, Sŷdd ddâ Iawn yn erbŷn llamiad y galon, ond eu berwi neu eu mwŷdo mewn diod ac yfed y ddiod, a bwrw 'r Dail ymmeth.

18. Haint y giau ŷw 'r 'hwn a elwir hefŷd parlus; Y Dolur hwn a'm goddiweseu pan fyddwn wannaf dan y Doluriau eraill: Ac i'r oedd yn siglo fy nwŷlaw, ac yn mar∣weiddio fy ystlŷs aswŷf. Ni phoenes i yn edrŷch ar ol dim i Iachau hwn.

19. Y Fynyglog, a elwir hefŷd yr Hychgrug, ar Yspinagl. ŷw Dolur a fage (megis penddun) mewn gwddw dŷn, neu yngeneu y Corn pori: Y Dolur hwn a Dagodd lawer

Page [unnumbered]

y mewn llai na deuddŷdd o amser: Bu hwn arnaf Dair gwaith er pan syrthies yn glâf: Gollwng llawer o waed sŷdd oreu peth yn erbŷn y Dolur ymma; ond Codi chwus∣lgenau yn y gwegil a wnaed i mi, ac ymgadw yn gynnes ••••wn. A hŷn am iachâdd o'r Dolur hwnnw.

20. Y Gormwŷth, ŷw Dŵr hallt a sur, a gago yn y gwaed ac yn y Cnawd; A hynnŷ trwŷ gael yr Anwŷd yn ddwŷs Pan fo 'r prudd-glwŷf wedi llygru 'r gwaed or blaen: Y Dolur hwn am blinodd yn Dost iawn er y dŷdd cyntaf a Cwŷmpes yn glaf hŷd y dŷdd heddŷw: Yn merwino, ac yn berwi-yn y gwaed megŷs ag a berweu grochon ar y tân, neu megŷs a gweithieu Burum ar ddiod newŷdd; Ond gwellheis bêth oddiwrth hwn bôb blwŷddŷn; Goreu peth∣au a gefais yn ei erbŷn oedd Dŵr y ffynonnau a henwais wrth y 12. Dolur, ac yfed ychydig o faidd Summel ar foreu Pan fyddeu iw gael; A hefŷd Syrup neu Surop a wneid o ddail Yscyrfi, ac o ferw'r dŵr, a graian-llus y dŵr a wnaethi mi lawer o lês: hefŷd Glasdwr wedi ferwi a Sugar candi ynddo sŷdd ddâ iawn yn ddiod, ac ymwared oddi∣wrth bôb bwŷd hallt, a phob peth Sûr, ac oddiwrth hên gaws hefŷd: Ac ymgadw yn gynnes iawn ar bôb amser.

21. Y Glun-gymalwst. a'm blineu weithieu yn bricciada ac yn poethi yn y Cluniau, ac yn meinedd y Cefn: ni bydd∣eu hwn yn dal arnaf ond ychydig amser, Ac ni cheisies ddim yn ei erbŷn. ond Goreu peth iw esmwŷtho ŷw pauled neu blaster a wneler o Ysebon du, salet oŷl, Aquavite, a sugn Llysiau Rŷw; a rhoddi hwnnw wrth y Cluniau Dros ddeu∣ddŷdd neu drî.

22. Y Llwŷg: Pedfaseu hôff ganif Saesnaeg Candrŷll buas∣wn yn galw'r Dolur ymma Ysgyrfi: Yllwŷg hwn oedd yn wauw yn fy'nghorph am aulodau y tair blynyddoedd cyntaf o'm hafiechŷd, Ar gwauw hwnnw a bareu i mi chwŷsu yn anfeidrol; A phan fae 'r chwŷs yn Dechreu sychu, pareu gosi mawr dros yr holl gorph; Ar Dannedd hefŷd a felynent ac a siglent o herwŷdd y Clwŷf ymma: Goreu pêth a gef. ais i iachau y Clefŷd hwn oedd y surop a soniais am dano wrth yr 20. dolur.

23. Clwŷ'r ddueg. y ddueg, neu'r Cleddŷf-bleddŷn, neu Cleddŷf biswel, ŷw llafn o gîg megis tafod, a osododd uw dan odreu asennau dŷn yn yr ystlus aswŷf, y ddueg hon

Page [unnumbered]

sŷ'n derbŷn amhuredd y gwaed oddiwrth yr Auf neu'r Jau; Ac am hynnŷ pan fo afiechŷd yn y gwaed, rhaid i'r ddueg hon fôd yn glwŷfus, ac yn chwŷddedig, a phan chwŷddo'r ddueg fellu' bŷdd yn Dolurio yn ofûdus, ac yn codi chwŷdd gwŷntiog yn y bol ar Coesau: Ac fellu bu'r ddueg yn fy mlino inneu yn fynŷch, yn enwedig y flwŷddŷn gyntaf o'm hafiechŷd. Goreu pêth a gefais if yn erbŷn clwŷ'r ddueg oedd golchi fy ystlus aswf a'm Dŵr fy hun yn glaiar bôb boreu; A chymerŷd gwraidd Danadl poethion a'u pwnnio yn fribis, a'u berwi yn ddâ iawn mewn vinegar neu fineger; Ac yno eu rhoddi yn baeled wrth odreu yr asennau o'r tu aswŷf.

24. Y Tymbigiadau oedd yn Deilliaw oddiwrth y 22. Clwŷf, ac yn fy mlino yn dôst iawn ymbell waith yn y Corph a'r aulodau, dros y Pedair blynnyddoedd cyntaf o'm hafiechŷd: Goreu pêth a gefais yn erbŷn y Tymhigiadau oedd y Surop a sonies amdano wrth yr 20. dolur.

25. Y chwudd, oedd yn deilliaw oddiwrth y 5. 7. 8. 12. 16. 20. 22. 23. ar 29. o'r Doluriau: Y chwudd hwn a dde∣chreuodd yn y ddwŷfron, ac a aeth dros y corph y mîs Cyntaf o'm hafiechŷd; Ac a syrthiodd i'r Coesau hefŷd pan ddechreuodd y Corph wellau; dros y ddwŷ flynedd gyntaf 'roedd y chwudd cymaint yn y ddwŷfron nad allwn ostwng mô'm pen heb lesmeirio; ond fel y ciliodd yr amrŷw ddol∣uriau eraill oedd yn peri 'r chwŷdd, cilieu 'r chwŷdd hefŷd. Goreu peth a gefais yn erbŷn y chwŷdd hwn oedd yr hŷn a gymerais yn erbŷn y 7. dolur.

26. Y Danedd rhyddion oedd yn Deilliaw oddiwrth y 22. dolur, Goreu peth a gefais i rwŷmo 'r Danedd oedd e hwbio a dail Yscyrfi, a'u golchi a dŵr a Halen.

27. Ager iw gwŷnt a fo yn rhwŷfo yn y Corph, yn en∣wedig yn y ddwŷfron; ac yn peri byrtheirio yn uchel; yr Ager hwn sŷ 'n Deilliaw oddiwrth yr 2. 5. 8. 12. 16. 22. 23. ar 29. or doluriau: Ac a'm blinodd inneu yn wastadol o ddechreu fy nolur hŷd y dŷdd heddŷw: Ac ni fedrais etto gael dim a wnae lês yn ei erbŷn.

28. Ymgyfogiad neu gloesiad am Cystuddieu y flwŷddŷn gyntaf o'm hafiechŷd; A hynnŷ ar ddechreu y Cyrsiau dwŷ∣sion o'r crud; ar gloesiau hŷn am gadawodd pan chwalodd y doluriau 'rhŷd yr holl gorph oddiwrth y galon.

Page [unnumbered]

29. Clwŷ 'r gwŷnt, ydŷw gwŷnt yn y gwŷthennau, ar gwŷnt hwn a weithiodd i'r gwŷthennau wrth drafaelio ar dywŷdd oer iawn mewn awel oerach a thenneuach nac a fyddwn arfer a bŷw ynddi. Y Gwŷnt hwnnw sŷ'n mer∣wîno, ac yn dolurio yn y gwŷthennau trwŷ 'r holl gorph o'm Corun i wadnau y traed; Ac yn peri iâs oer dros yr holl gorph; a chwŷs oer yn torri allan o'i herwŷdd: Y dol∣ur hwn a'm blinodd i e y dŷdd cyntaf a syrthies yn glâf hŷd y dŷdd heddŷw; ond wrth ymgadw yn gynnes mae'r dolur hwn yn lleihau ynddoi bêth bôb blwŷddŷn; ni chefais i ddim pysygwriaeth a wnae imi lês yn erbŷn clwŷ 'r gwŷnt.

30. Y Chwŷs Anferthol, oedd yn Deilliaw oddiwrth y gofud mawr oedd arna if, trwŷ 'r holl ddoluriau a gyfarfod∣asant yn fy nghorph; ac yn enwedig yn deilliaw oddiwrth y 1. 5. 8. 20. 22. ar 29. or doluriau▪ A Rhyfedda péth o'r cyf∣an, oedd faintiolaeth y chwŷs oedd arnaf; ni chyfarfŷm mi etto a Physygwr, na dŷn arall yn y Bŷd a glywodd erioed sôn am y fâth chwŷs: A phan ddarllennoch y gwirionedd sŷ'n Canlŷn ymma ynghŷlch fy chwŷs, Gŵn a bŷdd llawer o honoch heb fy nghoelio fôd fy chwŷs cymmaint, ac a myn∣egaf i chwi; I mae amrŷw o bobol yn y mannau lle bŷm mi yn bŷw dan fy nolur (sef yn Abergafeni, Brŷstof, Caerlleon ar Mwŷthig) a wŷddant yn hyspŷs mae gwir ŷw 'r hŷn a yscrifenais ymma attoch ynghŷlch fy chwŷs, am doluriau eraill.

O Ganol mîs Mawrth. 1692. hŷd ganol mîs Rhagfŷr. 1692. Ni hŷm mi funŷd awr yn ddichwŷs; Ac yn y Naw mîs hynnŷ yfais o ddiod fain bôb dŷdd bedwar chwart; ar ddiod hono a Droes oll yn chwŷs, oddigerth un peintied o ddŵr a wnawni mewn wŷthnos: Ac wrth hynnŷ i'roeddwn i yn chwŷsu mewn wŷthnos o ams•••• chwe galwŷn a thri chwart ac un peintied; a hynnŷ a bwŷseu (gan gyfri pôb peintied yn bwŷs) 55. o bwŷsau. Ac fellu chwŷses igŷd yn y naw mîs hynnŷ 8. bariled, a 19. galwŷn, neu o Bwŷsau 2200. Os nid yfwn gymaint, Byddwn yn llesmeirio o wendid. A phump neu chwech o grysau gwlanen a Dynnwn oddiamdana bôb dŷdd a ddiferent o'r chwŷs.

O Ganol mîs Rhagfŷr 1692. i ddechreu mîs Gorphenaf 1693. ni bum unawr arunwaith allan o'm chwŷs▪ A chwŷses

Page [unnumbered]

dros yr amser hwnnw dri chwart; neu chwech o bwŷsau mewn diwrnod a noswaith y naill amser gyda 'r llall; (hynnŷ a wyddwn drwŷ fesur fy niod, a mesur fy nŵr.) Ac fellu chwŷsais yn y chwe mîs a hanner hynnŷ 4. bariled? a 19. galwŷn, neu 1176. o bwŷsau.

O ddechreu mîs Gorphenaf 1693. i ddechreu mîs Mawrth 1694. chwŷsais (drwŷ gyfri'r naill amser gyda'r llall) ddau chwart yn y dŷdd ar nôs; ac wrth hynnŷ chwŷses yn yr wŷth misoedd hynnŷ 3. o farilau, a 26. galwŷn. ne 976 pwŷs

Yn y Drydedd flwŷddŷn o'm nychdod chwŷses dri pheintied mewn diwrnod a noswaith drwŷ gyfri 'r naill am∣ser gyda 'r llall; Ac fellu chwŷses yn y flwŷddŷn honno bed∣war barilaid, a 9. galwŷn; neu 1095. o bwŷsau?

Yn y Bedwaredd flwŷddŷn o'm hafiechŷd, chwŷses mêwn diwrnod a noswaith un chwart, drwŷ gyfri 'r naill amser gyda'r llall; Ac fellu chwŷses yn y flwŷddŷn honno ddau farilaid, a 27. galwŷn; neu 730. o bwŷsau.

Yn y Bumed flwŷddŷn o'm nychdod chwŷses ynghyleh peint a hanner mewn Diwrnod a noswaith, drwŷ gyfri 'r naill amser gyda 'r llall; Ac fellu chwŷses igŷd yn y flwŷdd∣ŷn honno ddau fariled, a 4. galwŷn. neu 544. o bwŷsau.

Yn y Chweched flwŷddŷn o'm hafiechŷd (yr hon oedd yn Diweddu ar ddiwedd chwefror. 1698.) chwŷses ynghŷlch peintied mewn Pôb pedair awr arhugain, (drwŷ gyfri 'r naill amser gyda'r llall) ac fellu chwŷses yn y flwŷddŷn honno igŷd, un barilaid, a 13. galwŷn. neu 360. o bwŷsau?

Ac Fellu chwŷses igŷd mewn chwe Blynedd saith ar-hugain o farilau? ac Unarhugain galwŷn? Neu saith mîl a phedwar ugain o bwŷsau 'r Cŵŷr.

Gwŷbyddwch, mai Peintied Cyfreithlawn a bwŷsa Union bwŷs (a elwir mewn rhai mannau pwŷs y Cwŷr) Ac wŷth or peintiau hynnŷ a wnant alwŷn cyfreithlawn: A deuddeg ar hugain or galwŷnau hynnŷ a wnant farilaid cyfreithlon o gwrw.

Fê alleu fôd gwrês y corph yn sychu pêth or ddiod; a lluniaeth y bywŷd hefŷd yn treilio pêth mwŷ o'r ymborth Ond nid ydŷw hynnŷ ond ychydig: Ac i rwi fi yn hyspŷs Ddarfod i mi yn y chwe Blynedd yfed mwŷ nag a bisais.

Page [unnumbered]

f, yn ol y cyfrif a roddais i chwi; ac nad eill fy chwŷs fôd fawr laî nag a gyfrifais ymma.

Dan y chwŷs mawr hwn, ar holl ddoluriau oedd arnaf, Bŷm heb allu myned allan o'm ystafell, o'r 27. dŷdd o Chwefror 1692. hŷd yr 16 dŷdd o Fawrth 1692. or 20 dŷdd o Fawrth 1692. i'r 16 dŷdd o'r Gorphennaf, 1692. o'r 30 dŷdd o'r Gorphennaf 1692. i'r 10 dŷdd o Fawrth 1693. Ac yn fynŷch dros dair wŷthnos tuntu yn Niwedd y flwŷ∣ddŷn 1693, a Dechreu'r flwŷddŷn 1694. Ac or 15 dŷdd o Awst 1694, i Ddechreu mîs Ebrill 1695. Ac or 26 dŷdd o'r Rhagfŷr 1697. i ddechreu mîs Ebrill 1698.

Bŷm weithieu cŷn wanned nad allwn mo'r sefŷll heb Rŷwbeth i ymgynal wrtho, Ac weithieu heb allu Darllain Llythŷr dros 6 wŷthnos ar ol iddo ddyfod i'm llaw; Ac ette nid allai farchogaeth dwŷ filltir ganol yr hâf heb gael yr Anwŷd o ddigerth fôd y Tywŷdd yn wresog iawn, ac yn Dawel.

I Geisio fy iechŷd gweriais lawer o bunnau ar bysvg∣wŷr a photecaris; A gwn gymerŷd o honof bwn ceffŷl o bysygwriaeth (drwŷ gyfri'r phŷsygawl ddiodudd) ac er hynnŷ oll nis gwn fy môd ronŷn gwell, nes i mi o'r diwedd (yn y bedwaredd flwŷddŷn o'm nychdod) gyfarfod a phy∣sygwr a drefnodd i mi bysygwriaeth a wnaethwŷd o lŵch neu lifiad haiarn, i wresogi 'r gwaed yr hwn oedd wedi oeri cymmaint trwŷ'r chwŷs mawr; A dyna'r holl bysyg wriaeth a wnaeth i mi lês drwŷ drefniad pysygwŷr.

Yn y Diwedd (gan weled mai ofer a gwariaswn lawer o arian am bysygwriaeth) ymrois i chwilio fy Llyfrau Pysygwriaeth fy hun, (o rhain i'r oedd ganif dan fy llaw fwŷ nag ugain) Ac wrth y cynghorion a gefais yn y rheini cymmerais y pethau a henwais i chwi ar yr ail, y drydedd, y bedwaredd ar bumed o ddalennau 'r llyfr hwn; Ar peth∣au hynnŷa wnaethant i mi lawer o lês.

Or holl Ddoluriau a fŷ arnaf, i mae dauarbymtheg o honŷnt yn ymgydcam a myfi etto ar gyrsiau, sef y 1. 5. 6. 11. 12. 14. 16. 17. 18. 20. 22. 23. 24. 25. 27. 29. ar 30.

Page [unnumbered]

Nid wŷf ond Dêg a deugain oed y dŷdd Cyntaf o fîs Mai, yn y flwŷddŷn o Oed Jesu 1698. Ac os gwêl DUW yn ddâ gallaf fŷw etto i gladdu fy Holl Ddoluriau, Ac i wneuthur ychwaneg o ddifyrrwch i'r Cymru; hynnŷ ŷw ewŷllyssiad.

Eich Gwasanaethwr gostyngedig Thomas Jones.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.