Deallwch yn Eglurach wrth yr Esamplau isod.
Os mynech yr amser o ben llanw'r môr yn Aberdaugleddyf y 10 dŷdd o Ionawr y leni? Edrychwch yn gyntaf pesawl dŷdd oed ŷw y lleuad y dŷdd hwnnw, yn y tu dalen am Fi Ionawr; Ac yno cewch weled fôd y lleuad yn 20 dŷdd oed Yn ail edrychwch yn y daflen hon am yr 20 dŷdd o oed y lleuad, a hynnŷ a gewch yn yr ail golofn: A chyferbŷn ar 20 hwnnw, yn y bedwaredd golofn (dan enw Aberdaugle∣ddŷf) cewch weled 8 tan A. a 32 tan M. Sef wŷth awr, a 32 mŷnud, yn dangos i chwi a bŷdd pen ll••nw'r môr yn Aberdaugleddŷf y 10 dŷdd o Ionawr y leni 32 mŷnud wed•• wŷth ar y glôch y boreu. Goreu amser i dramwŷ dros y traeth mawr. Tros draeth y Bewmares, a thros draeth Caer∣lleon ŷw ar ddistill trai; Hynnŷ ydiw o 6 awr i 7 cŷn, neu gwedi pen-llanw. Goreu amser i dramwŷ rhwng Awst Beatslay ŷw 2 awr neu 3 cŷn pen llanw pan fô'r gwŷnt o'r dwŷrain i'r gogledd. A 2 awr neu 3 wedi pen llanw pan fô 'r gwŷnt o'r gorllewŷn i'r deheu. Goreu amser i dramwŷ dros borth AberConwey ŷw 3 awr cŷn neu gwedi pen llanw. Am y porthau eraill igŷd, pen llanw sŷdd oreu iw tramwŷ▪