Page [unnumbered]
Prophwŷdoliaeth Gronw Ddu, o Sîr Fôn; Yr hwn a Brophwŷdodd ef ynghŷlch y Flwŷddŷn o oed Jesu 1400.
Y Prophwŷdoliaeth hwn sŷ'n Prophwŷdo Dyfodiad y Brenin Wiliam, Ac yn dangos pa beth a fŷdd yn ei amser ef, ac ar ei ol ef yn y Deŷrnas hon. Megis isod.
CYfŷd un i fynu i ddibennu y gelynnion gwibiog, y•• hwn a fŷdd lydan ei Gleddŷf, ac o dylwŷth Enwog, yr hwn a una Gymdeithas a'i eiddof ei hun; Efe a ddaw i ostwng uchder gelynnion Lloeger, ac a'u chwal ar wasgar feswl y cantoedd; y prŷd a daw llongau i'r Werddon: a dau fath o amrŷw bobl ynddŷnt; Pan ddel y Gŵr hael o hîl llywelŷn o'i wlad o bwrpas i orthrechu, a'i faner o Gôch a Melŷn, efe a feddianna yr Ynus: yn yr amser hwnnw bŷdd dynion yn gwiso gwallt Gosod, a merched yn gwisgo gwisg megis esgill o ddeutu eu▪ Clistiau, a gwallt Crŷch neu gwrliedig, A gwŷr-wrth-gerdd yn ddi-gystog, ac yn weigion eu dwŷlo, mynwentau yn ddi barchedig, Tenantiaid mewn cyfyngder, Delwau yn ddi∣ystyrus, y mynnyddoedd yn iselhau, ar brynniau lleiaf yn Codi, yr Aur ynghyrôg, ar arian ynghlâdd, cymdeithas yn dwŷllodrus. Marwolaeth heb alar, a drudaniaeth heb eisieu, a Bŷd blîn i bawb.
Yn ol hynnŷ bŷdd dyddiau gwŷl i'r Gwauw-ffŷn a'r arfau Rhyfel:
Ac yno y Cymru a Godant eu pennau, ac a ddisgwiliant am addewidion Merlŷn a Thaliesŷn.
Hefŷd cofiwch yr hên ddiharebion, megis isod.