Page [unnumbered]
Sywedyddawl amcan am y Tywŷdd yn y Flwŷddŷn 1698.
JONAWR. 1698.
Bŷdd Tebŷg iawn i fôd yn rhew ac eiraf ar ddechreu'r Flwŷddŷn, heb ddim amgen tywŷdd tra parhatho Mîs Jonawr ond tua chanol y mîs bŷdd tebŷg i chwanegu'r eiraf, a Rhewlud iawn tua'r Diwedd.
CHWEFROR. 1698.
Y Rhew ar eira fŷdd debŷg i barhau hŷd ynghŷlch Canol yr ail wŷthnos, ac yno bŷdd tebŷg i feirioli, ac i liniaru y tywŷdd. Ac ondodid Sŷrth yn Rhew ac eiraf drachefen tu'r trydŷdd Sul, ac o hynnŷ hŷd ddiwedd y mîs.
MAWRTH. 1698.
EIraf a rhew ynghŷlch y Sul cyntaf. Têg tua'r ail Sul, Rhew drachefen ac eiraf ynghŷlch y llawn-lleuad, ac fellu peru yn oer ac aml gofodŷdd o eiraf ac o••∣wlaw hŷd ddiwedd y mîs.
EBRILL. 1698.
Y Mîs hwn a fŷdd tebŷg i fod yn Sŷch o'i ddechreu hŷd ynghŷlch y Pasg, ac o'r pasg i ddiwedd y mîs bŷdd aml gafodŷdd, a llifeiriant mewn afonŷdd.
MAI. 1698.
Y Mîs hwn a fŷdd sŷch a theg, o ddigerth un dŷdd neu ddau o wlaw ar ei ddechreu, a dau neu dri o ddŷddiau gwlawog ar ei ddiwedd.
MEHEFIN. 1698.
Sŷch a disgwiliaf y mîs hwn igŷd, o ddigerth dau ddŷdd neu dri o Lybaniaeth ar ei ddechreu, a pheth gwlaw mewn ymbell fan lle a digwŷddo mellt a thyranau ar ol gwŷl Joan.