Page [unnumbered]
SYWEDYDDOL FARNEDIGAETH, AM Y FLWYDDYN. 1698.
GAn Ystyried nad oes fawr or bobl yn deall figurau neu Addurnau Sywedyddiaeth; na nodau'r planedau a'r Arwŷddion, na'r geiriau Sywedyddawl chwaith sŷdd arferedig i ddatcan y gelfyddud; Gadewais y pethau hynnŷ (nesaf a gellais) allan o'm Llyfr y leni; Ac ysorifen∣nais yr hŷn a ganffyddir wrthŷnt, yn gymraeg groew esmwŷth a hawdd ei deall, fel a canlŷn.
Y Barnedigaeth Cyntaf (am y Chwarter cyntaf o'r Flwŷddŷn 1698) a dynwŷd wrth fynediad yr Haul i Arwŷdd yr Afr, yr unfedarddeg dŷdd o Fîs Rhagfŷr, 1697. 39 munŷd cŷn un ar y glôch y Boreu: Ar y cyfamser hwnnw cyfrifir (yn y ffordd Sywedyddol) fôd y Flwŷddŷn 1698. yn dechreu.
Ac wrth yr Addurn hwnnw a osodais ar fynediad yr Haul i Arwŷdd yr Afr, deallaf a bŷdd Lloeger a Chymru yn fwŷ llwŷddiannus na'u gelynnion y chwarter cyntaf o'r Flwŷddŷn; Ac a bŷdd y bobl gyffredin yn amlach eu harian nac a buont yn ddiweddar; y Trethi sŷ'n dechreu gwareiddio; Ar bobl yn unol sŷ'n myfyrio eu hesgusodi eu hunain oddiwrth bôb dwŷs draul; Y dwfr a redodd i'r pant y llynedd, a ddychwel i'r brynniau y leni; y bobl a'r anifeiliaid a fyddant iachus y gaiaf hwn yn amlaf. Etto 'rwifi'n ofni a bŷdd y bobl anesmwŷth yn myfyrio rhŷw ddrygioni yn erbŷn eu gwaredŷdd; a hynnŷ a bâr gythryfwl mewn rhai mannau; a cholli gwaed yn y diwedd; Ac fellu a diweddaf y barnedigaeth am y chwarter cyntaf o'r flwŷddŷn 1698.
YR ail Barnedigaeth (am yr ail chwarter o'r flwŷddŷn 1698) a dynnais yn gyntaf oddiwrth yr Addurn a osodais ar ddyfodiad yr Haul i arwŷdd yr Hwrdd, y degfed dŷdd o fis Mawrth, drimunŷd cŷn dau ar'y glôch