Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...

About this Item

Title
Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London :: printed by J. Darby, viz. one third part, and fourth (now first printed) for Samuel Gelibrand, at the Golden-Ball in St. Pauls Church-yard,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Devotional literature -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A55811.0001.001
Cite this Item
"Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A55811.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 17, 2024.

Pages

Page 1

Cyngor i wrando pregethiad yr Efengyl, ac i chwilio'r Scrythurau.

OCais gwr na gwraig na bachgen Ddyscu'r ffordd ir nefoedd lawen,* 1.1 Ceisied air Duw iw gyfrwyddo, Onid e, fe aiff ar ddidro.
Mae 'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddyrys, Mae'r trammwy'n fach, mae rhwystre anhappys,* 1.2 Mae'r porth yn gûl i fyned trwyddo, Heb oleu'r gair, nid aer byth atto.
Mae 'r nef vwchlaw yr haul a'r lleuad, Mae 'r ffordd yn ddierth itti ddringad, Rhaid Christ yn Ysgol cyn dringhadech, Ai air yn ganwyll cyn canfyddech.
Mae llawer craig o rwystre cnawdol,* 1.3 Mae llawer môr o drallod bydol, Cyn mynd ir nef, rhaid myned drostynt, Heb oleu'r gair nid aer byth trwyddynt.
Mae llawer mîl o lwybrau Ceimon, O ddrysswch blin, o ffoysydd dyfnon, Cyn mynd i'r nef, rwi'n dwedyd wrthyd, Heb oleu'r gair ni elly'i gweglyd.
Di elly fynd i vffern danllyd,* 1.4 Lwyr dy ben, heb vn cyfrwyddyd, Nid aiff neb ir nef gwnaed allo, Heb y fengyl iw gyfrwyddo.
Nid goleu'r haul, nid goleu'r lleuad, Nid goleu'r dydd, na'r sêr sy'n gwingad, Ond goleu'r gair a'r sengyl hyfryd, All d' oleuo i dir y bywyd.

Page 2

Cymmer lantern Duw'th oleuo, A'r Efengyl ith gyfrwyddo, Troeda 'r llwybyr cûl orchmynnwys, Di ae 'n union i Baradwys.
* 1.5Y gair yw'r ganwyll ath oleua, Y gair yw'r gennad ath gyfrwydda, Y gair ath arwain i baradwys, Y gair ath ddwg ir nef yn gymmwys.
Dilyn dithe oleuni 'r gair, Gwna beth archwys vn mab Mair, Gwachel wneuthur a wrafynwys, Di ae 'n union i baradwys.
Seren wen yn arwain dyn, O fan i fan at Grist ei hûn, Yw 'r Efengyl i gyfrwyddo, Pawb ir nefoedd ai dilyno.
Bwyd ir Enaid, bara 'r bywyd, Grâs ir corph, a maeth i'r yspryd, * 1.6Lamp ir droed, a ffrwyn ir genau, Yw gair Duw a'r holl scrythyrau.
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol, * 1.7Gwin i lonni 'r trist cystuddiol, Manna i brothi'r gwael newynllyd, Ydyw'r gair, a'r fengyl hyfryd.
* 1.8Fli gwych rhag pob rhyw bechod, Oyl i ddofi gwûn cydwybod, Triag gwerthfawr rhag pob gwenwyn, Ydyw'r gair, a balsam addswyn.
* 1.9Mwrthwl dûr i bario 'n cnappe, Bwyall lem i dorri 'n ceinge, Rheol gymmwys i'n trwssiannu, Ydyw 'r gair ac athro i'n dyscu.

Page 3

Udcorn pres i'n gwssio ir * 1.10 frawdle, Clôch in gwawdd i wella 'n beie, † 1.11Herawld yn proclaimo 'n heddwch, Ydyw 'r gair, a'n gwir ddiddanwch.
Y gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi Ein holl fryhau a'n holl frynti, Ac yn erchi i ni eu gwella, Tra fo 'r dydd a'r goleu 'n para.
Y gair yw 'r hâd sy 'n adgenhedlu, Yn blant i Dduw, yn frodyr Jesu,* 1.12 Yn deuly 'r nef, yn demle ir yspryd, yn wir drigolion tir y bywyd.
Heb y gair nid wi 'n dychymmig, B' wedd y bydd dyn yn gadwedig, Lle mae 'r gair yn Benna o'r moddion, Ordeihiodd Christ i gadw Christion.
Heb y gair ni allir nabod,* 1.13 Duw na'i nattur, na'i lân hanfod, Na'i fab Christ na 'r sanctaidd yspryd, Na rhinweddau 'r Drindod hyfryd.
Heb y gair ni ddichon vn dyn, Nabod 'wllys Duw na'i ganlyn, Na gwir ddyscu 'r ffordd i addoli, Nes i'r gair roi iddo oleuni.
Heb y scrythur ni ddealla, Vn dyn byth ei gwymp yn Adda, Na'i drueni, na'i ymwared, Trwy fab Duw o 'r fath gaethiwed.
Heb y gair ni all neb gredu, Yn Ghrist Jesu fu'n ei brynu:* 1.14 Cans o wrando 'r gair yn brydd, Y mae i Griston gyrraedd ffydd.

Page 4

Heb y gair nid yw Duw 'n arfer Troi vn enaid oi ddiffeithder: Ond trwy 'r gair Mae 'n arferedig, Droi 'r Eneidiau fo Cadwedig.
Ar gair y trows yr Apostolion, * 1.15Y Cenhedloedd yn Gristnogion, Heb y gair peth dierth yw, Droi pechadur byth at Dduw.
* 1.16Aphregerhiad vn Efengyl, Y trows Pedr gwedi tair mil, O Iddewon i wir gredu, Ar ol iddynt ladd y Jesu.
* 1.17Twry hâd y gair yr hadgenhedla Yspryd Duw 'r pechadur mwya, Ac ai gwna yn oreu ei ryw, Yn frawd i Grist, yn fâb i Dduw.
* 1.18Y gair sy 'n cynnwys ynddo 'n helaeth, Faint sydd raid at Jechydwriaeth: Chwilia hwn a chais e'n astyd, Ynddo mae 'r tragwyddol fywyd.
* 1.19Crist sy 'n erchi it lafyrio, * 1.20Am y gair ath dread ath ddwylo, Mwy nag am y bwyd y dderfydd, O chwennychu fyw 'n dragywydd.
* 1.21Fel y llef dyn bach am fronne, Fel y cais tir cras gawade, Fel y brefa 'r hûdd am ffynnon, Llef am eiriau 'r fengyl dirion.
Gwerth dy dir a gwerth dy ddodren, Gwerth dy gris oddi am dy gefen, Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd, Cyn bech byw heb air y bywyd.

Page 5

Gwell it fod heb fwyd, heb ddiod, Heb dŷ, heb dân, heb wely, heb wascod, Heb oleu'r dydd a'r haul garuaidd, Nâ bôd heb y fengyl sanctaidd.
Tôst yw aros mewn Cornelyn, Lle na oleuo 'r haul trwy'r flwyddyn, Tostach trigo yn y cwarter, Lle na oleuo'r gair vn amser.
Na thrig mewn gwlad heb law ar brydie, Mewn glynn heb haul, mewn tŷ heb ole, Mewn tre heb ddwr, mewn llong heb gwmpas, Mewn plwyf heb ryw bregethwr addas.
Gado 'r wlad, a'r plwyf, a'r pentre, Gado 'th dâd, ath fam, ath drasse, Gado 'r tai, a'r tir yn ebrwydd, Lle na bytho gair yr Arglwydd.
Gwell it drigo mewn Gogofe, A chael gwrando 'r fengyl weithie, Nag it drigo mewn gwlad ffrwythlon, Lle na bytho 'r fengyl dirion.
Tost yw trigo mewn tywyllwch, Lle na chaffer dim diddanwch, Tristach trigo yn rhy hair, Lle na chaffer gwrando 'r gair.
Nid gwaeth trigo 'mysc y Twrcod, Sydd heb ofni Duw nai nabod, Nag it drigo yn dost dy drigyl, Lle na chlywer Christ nai fengyl.
Tynn i Loeger, tynn i Lundain, Tynn dros fôr tu hwnt i Rufain, Tynn i eitha 'r byd ar dreigyl, Nes y caffech gwrdd a'r 'fengyl.

Page 6

Blin it weld yr haul a'r glaw, Mewn plwyfe dauty yma a thraw, A'th plwyf dithe (peth yscymmyn) Heb na haul na glaw trwy 'r flwyddyn.
Oni bydd vn bregeth * 1.22 ddurfing, Yn y plwyf lle bech yn taring, * 1.23Dôs y-maes i'r plwyf lle 'i bytho, Nad vn sabbath heb ei gwrando.
Pan fo eisiau a'r dy fola, Di âe i'r gell i geisio bara, Pan bo newyn ar dy enaid, Nid ae i vn lle i geisio ei gyfraid.
* 1.24Beth y dâl it borthi'r corphyn, O bydd d' enaid marw o newyn, All dy gorph di gael difyrrwch, Pan fo d' enaid marw o dristwch?
Drwg it ladd y corph â newyn, Eisiau bara tra fo 'r flwyddyn: Gwaeth o lawer lladd yr yspryd, Eisie 'i brothi â bara 'r bywyd.
Llêf gan hynny ar y ffeiriaid, Am roi bwyd i borthi d' enaid; * 1.25Rwyt ti 'n rhoi dy ddegwm iddyn, Pâr i nhwyntau dorri'th newyn.
* 1.26Gwrando 'r gair o enau 'r ffeirad, Fel o enau Christ dy geidwad, Christ a rows awdurdod iddo, Ith gynghori ath rybuddio.
O pâr Christ i ffeirad noethlyd, Dy rybuddio wella 'th fywyd, * 1.27Rwyti 'n rhwym i wneuthur archo, Pe doy Assen it'h rybuddio.

Page 7

Pe doy Suddas i bregethu Fengyl Grist ti ddlyd ei dyscu, F' all y fengyl gadw d' enaid, Er ith Athro dost gamsyniaid.
Os dy fugail sydd anweddaidd, At athrawiaeth yn Gristnogaidd,* 1.28 Dysc y wers, na ddysc ei arfer, Gwachel feieu Paul a Pheder.
Na wna bris oi wedd nai wiscad, P'un ai gwŷch ai gwael fo'i ddillad: Nid llai grym y fengyl gyngan, O'r shiacced ffris na 'r gassog sidan.
Cymmer berl o enau llyffan, Cymmer aur o ddwylo aflan, Cymmer wîn o bottel fydur, Cymmer ddysc o ben pechadur.
Gwrando 'r fengyl, Christ yw hawdwr, Pa fath bynna fo 'r pregethwr, Prissia 'r gair, na phrissia 'r gennad, Crist ei hun ai helodd attad.
Cadw 'r geiriau yn dy galon,* 1.29 Nad eu dwyn gan gigfrain duon Hâd yw 'r gair ith adgenhedlu, Os ir galon y derbynnu.
Dyfal chwilia di 'r Scrythyrau,* 1.30 Darllen air Duw nôs a borau: Dilyn arch y gair yn ddeddfol, Hynny 'th wna di 'n ddoeth anianol.
Cadw 'r gair bob pryd ith galon,* 1.31 Ac hyspysa hwn ith feibion: Sonnia am dano nôs a bore, Y mewn, y maes, wrth rodio ac eiste.

Page 8

Dôd ê'n gadwyn am dy * 1.32 fwnwg, Dôd ê'n rhactal o flaen d' olwg, Dôd ê'n † 1.33 signet ar dy fyssedd, Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna 'r gair beunydd yn gydymmaith, Gwna 'n gywely it bob noswaith, Gwna 'n gyfaill wrth shiwrneia, Gwna 'r peth archo wrth chwedleua.
* 1.34Gwna fe'n ben Cynghorwr itti, Gwna fe'n Athro ith rheoli: Fe ry 'r gair it gangwell cyngor, Nag a roddo vn rhyw ddoctor.
Nad ê i drigo yn yr Eglwys, Gydâ 'r ffeirad 'r hwn ai traethwys: * 1.35Dwg ef adref yn dy galon, Ail fynega rhwng dy ddynion.
* 1.36Gwna di 'r gair yn ddysclaid benna, Ar dy ford tra fech yn bwytta: Gwedi bwytta, cyn cyfodi, Bid y gair yn † 1.37 juncats itti.
Rho ith enaid nôs a boreu, Frecffast fechan o'r scrythyreu, Rho iddo ginio brudd a swpper, Cyn yr elych ith esmwythder.
Fel y porthi 'r corph â bara, Portha d'enaid bach â'r manna, Nad ith enaid hir newynu, Mwy nâ'r corph sy'n cael ei fagu.
Mae 'r bibl bach yn awr yn gysson, Yn iaith dy fam iw gael er coron, Gwerth dy grys cyn bod heb hwunw, Mae 'n well na thref dy dâd ith gadw.

Page 9

Gwell nag aur, a gwell nag arian,* 1.38 Gwell na'r badell fawr nar crochan; Gwell dodreunyn yn dy lettu, Yw 'r bibl bach nâ dim a feddu.
Fe ry gomffordd, fe ry gyngor,* 1.39 Fe ry addysc gwell nâ Doctor, Fe ry lwyddiant a diddanwch, Fe ry 't lawer a ddedwyddwch.
Fe ry bara i borthi d'enaid, Fe ry laeth i sagu 'th weiniaid, Fe ry gwin ith lawenhau, Fe ry eli ith iachau.
Pwy na phryne 'r bibl sanctaidd, Sydd mor werthfawr ac mor † 1.40 gruaidd? Pwy na werthei dŷ ai dyddyn, I bwrcassu 'r fath ddodreunyn?
Dymma 'r perl y fyn y Jesu, I bob Criston doeth i brynu, Fel y * 1.41 Marchant call a werthe, I brynu † 1.42 hwn faint oll y fedde.
Dan i Dduw roi inni 'r Cymru, Ei air sanctaidd i'n gwir ddyscu, Moeswch inni fawr a bychain, Gwympo i ddyscu hwn ai ddarllain.
Moeswch inni wŷr a gwragedd, Gyda i gilydd heb ymhwedd, Brynu bôb vn iddo lyfyr, I gael darllain geiriau 'r scrythyr.
Moeswch inni bawb rhag gwradwydd, Ddyscu darllain gair yr Arglwydd, Dan i Dduw ei ddanfon adre, Attom bawb yn iaith em mamme.

Page 10

Nadwn synd y gwaith yn ofer, Y fu gostfawr i wŷr Lloeger, Rhag na fetrom wneuthur cyfri, Ddydd y farn am gyfryw wrthni.
Gwyr a gwragedd, Merched, Meibion, Cymrwn ddysc oddi wrth y Saeson, Rhai a fedrant bob vn ddarllain, Llysyr Duw 'n ei iaith ei hunain.
Gwradwydd blin i ninnau 'r Cymru, Oni cheisiwn weithian ddyscu, Darllain gair Duw a'r scrythyrau, Dan eu printio 'n iaith ein mammau.
Ni chist bibl inni weithian, Ddim tu hwnt i goron arian, Gwerth hên ddafad y fo marw, Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder vn o'r tylwyth ddarllain, Llyfyr Duw yn ddigon † 1.43 cywrain: Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth, Ddyscu 'r cwbwl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro 'n dyscu darllain, Pob Cymraeg yn ddigon Cywrain, Ond vn misgwaith, beth yw hynny? O'r bydd wyllys gantho i ddyscy.
Mae 'n gwilyddys i bob Christion, Na chlyw arno stoft coron, Ac vn misgwaith oi holl fywyd, Ynghylch dyscu 'r fengyl hyfryd.
Mae 'r Cobleriaid ai morwynion, A rhai gwaetha 'mysc y Saeson, * 1.44Bob yr un a'r bibl ganthynt, Dydd a nôs yn darllain ynddynt.

Page 11

Mae Pennaethiaid gyda ninnau, Ai tableri at ei bordau, Heb vn bibl, nac vn pylgain, Yn eu tai, na neb i darllain.
Peth cwilyddys gweld cobleriaid, Yn rhagori ar bennaethiaid, Am gadwriaeth eu heneidiau, Ar peth rheita mewn neuaddau.
Y cobleriaid hyn y gyfyd, Dydd y farn yn anian aethlyd, I gondemnio 'r fâth bennaethiaid, Sydd mor ddibris am yr enaid.
Pob merch * 1.45 tincer gyda 'r Saeson, Feidir ddarllain llyfrau Mawrion, Ni wyr merched llawer scwier, Gyda ninne ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd ir Britaniaid, Fôd mewn Crefydd mor ddieithriaid, Ac na wyr y canfed ddarllain, Llyfyr Duw 'n ei jaith ei hunain.
Bellach moeswch in rhag cwilydd, Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd, Ac ymroi i ddyscu darllain, Llyfyr Duw a'n iaith ein hunain.
Felly gallwn ddyscu nabod,* 1.46 Y gwir Dduw ai ofni 'n wastod, Ac oi nabod ai wir ofni, Fe ry 'r di-drangc fywyd inni.
Duw ro grâs a grym i Gymru Nabod Duw ai wîr wasnaethu: Christ a nertho pob rhai ddarllain Llyfyr Duw 'n ei iaith ei hunain.

Page 12

Hil Frutus. Rhybydd ir Cymru i Edifarhau.

Hil Frutus fâb Sylfus, Brittaniaid brwd hoenus, Caredig, cariadus, cyd-redwch i'm bron, I wrando 'n 'wllysgar, â chalon vfuddgar, Fy llefain am llafar hiraethlon.
Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn y bellen On heinioes, nes gorphen, heb orphwys nôs na dydd A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl Yn cw ympo it trwbwl tragywydd.
Fel llong dan ei hwyle, yn cerdded ei shiwrne, Tro 'r morwyr yn chware, neu 'n chrwnu ar y nen Mae 'n heinioes yn passo, bob amser heb stayo, Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
Mae 'r Ange glâs ynte yn dilyn ein sodle, * 1.47Ai ddart ac ai saethe, fel lleidir disôn, Yn barod i'n corddi, ynghenol ein gwegi; Pan bom ni heb ofni ddyrnodion.
An bywyd fel † 1.48 bwmbwl, ar lynwyn go drwbwl, Syn diffod cyn meddwl ei fod ef yn mynd; A ninne cyn ddwled, nad ym yn ei weled, Nes darffo iddo fyned ei helynd.
Mae'r bŷd ynte 'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn, Bob ennyd yn rofyn,, rhwyfo tu ai fedd, Ai ben wedi dortio, ai galon yn ffeinto, Ai fwystil yn wasto yn rhyfedd.
'Rvm ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon Yn * 1.49 trysto gormoddion, ir gwr marwaidd hen, Fel morwyr methedig, y drystent mewn perig, Ir llongau sigedig nes sodden.

Page 13

O nedwch i'n drysto, ir byd sy 'n ein twyllo, Fel iâ pan y torro, gricc dan ein trâd,* 1.50 An gellwng heb wybod, ir farn yn amharod, Cyn in-ni gydnabod ei fwriad.
Ond moeswch yn † 1.51 garcus, i'n bawb fôd yn daclus, I fyned yn weddus, ni wyddom pa awr, O flaen y Messias, yngwisc y briodas,* 1.52 A thrwssiad cyfaddas i 'r neithawr.
A nedwch ein dala,* 1.53 pan delo 'r awr waetha Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystir i'r daith Heb oyl yn ein llestri, heb * 1.54 gownt on talenti, Ar cwbwl on cyfri yn berffaith.
Mae 'r fwyall ar wreidde y cringoed es dyddie,* 1.55 Mae 'r wyntill yn dechre dychryn yr ûs, Mae 'r Angel âr Cryman, yn bwgwyth y graban, Iw bwrw i'r boban embeidus.
Mae'r Farn vwch ein pennau, mae 'r dydd wrth y drysau,* 1.56 Mae'r vdcorn bob borau, yn barod rhoi bloedd, Mae'r môr ar monwentydd, ac vffern yn vsydd, Roi'r meirw i fynydd a lyngcodd.
Ar Barnwr sydd barod, ar saint sy'n ei warchod, Ar dydd sydd ar ddyfod, i ddifa hyn o fŷd, An galw 'r holl ddynion, o flaen y Duw cyfion, I gyfrif am y gawsom oi olud.* 1.57
Rym ninnau 'n ymbesci, ar bechod a brynti, Heb feddwl am gyfri, na gorfod ei roi, Yn wasto ein talentau, i borthi 'n trachwantau, Doed barn a dialau pan deloi.
Fel Cewri cyn diluw, fel Sodom cyn distryw, Fel Pharo ar cyfryw, (eu cyfri nid gwaeth) Yr ydym ni'n pechu, a'n grym ac a'n gallu, Heb fedru disaru ysowaeth.

Page 14

Ymbescu ar bechod, fel môch ar y Callod, Ymlanw ar ddiod, fel vchen ar ddwr, Ymdroi mewn putteindra, fel perchill mewn llacca, Yw 'n crefydd, heb goffa cyfyngdwr.
Tyngu a rhegi, a rhwygo cig Jesu, Ac ymladd am gwnnu y gawnen i gyd, Cyfreitha 'n rhy ddiraid, nes mynd yn fegeriaid, A gadel y gweinaid mewn gofid.
Y Mae'r haul, y mae 'r lleuad, yn gweld ein ymddy giad, Mae'r ddaiar yn baychad, fod ein buchedd mor ddrwg, Mae 'r sanctaidd Angylion yn athrist eu calon, O weled cristnogion yn cynddrwg.
Mae'r ffeirad, mae'r ffermwr, maer hwsman ar creftwr Mae 'r Bayli ar Barnwr, ar bonedd oi bron, Bob vn am y cynta, yn digio 'r gorucha, Heb wybod p'un waetha eu harferion.
Mae'r ffeiriaid yn loytran, mae'r barnwyr yn † 1.58 bribian Mae'r bonedd yn tiplan, o Dafarn i Dwlc, Mae 'r hwsman oedd echdo heb fedry cwmpnio, Yn yfed Tobacco yn ddidwlc.
Putteindra 'r Sodomiaid, meddwdod y Parthiaid, Lledrad y Crettiaid, (or credwch y gwir) Falstedd gwlad Graecia, gwangred Samaria, Sy 'n awr yn lleteua ymmhob rhandir.
Mae 'n anfoes i'm draethu, ein campau ni 'r Cymru, Rhag cwilydd mynegu 'n ymddygiad i'r bŷd: Etto rhaid meddwl, y traetha Duw 'r cwbwl, Pan delo 'r dydd trwbwl i trefnyd.
Gwell i ni 'rowan gael clywed eu datcan, Er peri i ni 'n fuan, difaru tra fom, * 1.59Na gweled ein tafly, ir tywyll garchardy, O eisie difaru tra fyddom.

Page 15

Gan hynny mi synnwn, gael gennych pe gallwn,* 1.60 Ymbilio am bardwn, yr ennyd y boch: A gwella 'n wllysgar, cyn eloi 'n ddiweddar, Rhag bod yn edifar pan deloch.
Mae 'n ofer difaru, a chrio a chrynu,* 1.61 Pan delir i'n barnu, bawb ar y barr, Ni chair ond cyfiawnder, er cymmaint y grier, Pyn eloi yn amser diweddar.
Meddyliwn gan hynny, cyn delo Christ Jesu, Or nefoedd i'n barnu, bob vn wrth ei ben, Am fod yn edifar, a deisif ei ffafar, Cyn tafler ni ir carchar aniben.

Yr ail ran.

FE ddaw yn dra digllon, a llu o Angylion, I ddial ar ddynion ei ddirmyg mor ddu,* 1.62 Yn daran echrydys, ir bobol anrassys, Sy rwan mor frowys yn pechu.
Yno waith cymmaint y fydd ei ddigofaint, Ei weision ai geraint y garei mor * 1.63 gu, Ai sanctaidd angylion y grynant yn greulon, Pan delo mor ddigllon i farnu.
Yr haul y dywylla, y lleuad y wridia, Y nefoedd y gryna, bob modfedd yn grych,* 1.64 Ar * 1.65 stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon, Y gria 'n hiraethlon wrth edrych.
Fe dawdd y ffyrfafen, fe syrthia bob seren, Fe losca 'r holl ddairen oddiarni yn boeth,* 1.66 Ar twrau ar Cestyll a gwympant yn gandryll, A phob rhyw o Bebyll a'n bilboeth.

Page 16

* 1.67Y creigydd y holldant, y glennydd y doddant, Y moroedd y sychant, ar syrthiad y sêr, A phob rhyw fwystfilod, ymlysciaid a physcod, Y drengant ar waelod y dyfnder,
Pan delo Christ Jesu, mewn nerth ac mewn gallu, Or nefoedd i'n barnu ni, bawb wrth ei ben, Pa wyneb na lasa, pa galon na wywa, Wrth weld y gymanfa yn yr wybren?
* 1.68Pa Wascfa, pa wewyr, pa gynfordd, pa gyssur, Y fydd gan bechadur na chodo ei big? Pan gwelo 'r fath drallod, ar bob peth yn dyfod, O barthed ei bechod yn vnig.
* 1.69Brenhinoedd cadarnblaid, cewri, captenniaid, Beilchion a * 1.70 gwilliaid gwycha 'r awr hon, A griant ar greigydd, am bwnian eu mhennydd, Au cuddio rhag cerydd Duw cyfion.
Yn hyn o drafel, fe gân yr Archangel, Ei vdcorn mor vchel, ond awchys or cri, Nes clywo rhai meirw (yn grai ac yn groyw) * 1.71Y llef yn eu galw i gyfri.
A 'r meirw a godant, ar drawiad yr amrant, * 1.72Or llwch Ile gorweddant pan glywant y cri, Ar byw a newidir, a phawb y gyrhaeddir, Ir wybren lle bernir eu brynti.
* 1.73Y Barnwr mawr ynte yn gyflym ei gledde, Ai dafal ai bwyse, y bwysa ddrwg a da, * 1.74Gan rannu ir eneidie, wrth gywir fessyre Y † 1.75 cyfion i'r gore a 'r gwaetha.
Nid edrych e'n llygad yr Emprwr nar Abad, * 1.76Ni phrissia fe dtwssiad, na galwad vn gwr, Ond rhannu cyfiawnder ir Brenin ar beger, Heb ofni * 1.77 displesser na chryfdwr,

Page 17

Fe egir y llyfrau, fe rwyga eu calonnau,* 1.78 Fe ddengys eu beiau yn amlwg ir bŷd, Fe deifil anwiredd pawb yn eu dannedd, Fe ddial ar gamwedd y gwynfyd.
Ni ddiangc gair ofer, na'r ffirlling y draeler,* 1.79 Nar fyned y waster, heb ystyr a phwys, Na gwagedd, na gwegi, na biau na brynti, Nas gorfydd eu cyfri yn gyfrwys.
Putteindra 'r gwyr mawrion, ar gwragedd bonddigion Sy 'n arfer eu gweision, heb wybod i 'r gwyr, Ar mawrddrwg ar * 1.80 mwrddrad, ar ffalstedd ar lledrad Y wneir i bob llygad yn eglyr.
Pa wyneb iradys? pa galon echrydys? Pa gynffordd gofydys, gwae feddo ar y fath, Y fydd y pryd hynny, gan bobol sydd heady, Mor ffyrnig yn pechu ysowarth?
Ni ddiangc na llymmaid, na thippin na thammaid,* 1.81 Y roddir ir gweiniaid, er mwyn Jesu gwynn, Heb ymdal am dano, a chyfri a chofio Y brywsion y ballo 'r cerlyn.
Yno detholir y defaid ar geifir, Ac yno y bernie, pawb wrth y * 1.82 pôl: Y Defaid ir deyrnas, mewn harddwch ac † 1.83 v rddas, Ar geifir ir ffwrnas vffernol.
Yno yr â 'r cyfion yn llawen eu calon,* 1.84 Mewn gynau tra gwynion yn vnion i 'r nef, I dderbyn gorefcyn or deyrnas ddiders yn, Y roddodd Duw iddyn yn artres.
Ar geifir damnedig, ar bobol fileinig,* 1.85 Sy 'rwan yn dirmyg y Barnwr a dydd, Y deflir yn glymme, mewn cadarn gadwyne, I vffern ir poene tragywydd.

Page 18

Yn vffern y llefan, gan flined oi llosefan, Yn ebrwydd ar Abram, am ddafan o ddwr, Ond llefent hyd * 1.86 ddistin, ni chant hwy o 'r droppyn, Na thammaid na thippin o swccwr.
Cans yno 'n dragywydd, mewn carchar a chystydd, * 1.87Heb obaith y dersydd ei dirfawr gûr, Y herys anwiredd yn rhingcian ei dannedd, Heb derfyn na diwedd oi dolur.
Ac yno 'r awn ninne, i ystyn ein gwefle, Am dreulio ein dyddie, mewn pechod mor dal; O ddiffig i'n * 1.88 watchio a dyfal weddio, A gwella cyp delo 'r dydd dial.
Meddylin gan hynny, tro 'r amser yn gadu, Yn brŷdd edifaru, nid yw foru i neb; A 'madela 'n brynti, a 'n gwagedd a 'n gwegi, Cyn delom i gyfri ac atteb.
Duw Jesu dewissol, y brynaist dy bobol, Or ffwrnais yffernol, oedd ffyrnig ei phwys: Cadw 'n eneidie, pan delontar † 1.89 frawdse; A dwg hwy i gadeire Paradwys.
Or gofyn Deheubarth, na Gwynedd o vn parth, Pwy ganodd y * 1.90 dosparth, ich disbwyll rhag ing? Egiwyswr sy'n hoffi, i ch dadraidd o'ch didri, Ach cosio am eich cyfri cyfyng.

Adroddiad o dôst a thruenus gyflwr dyn trwy naturiaeth.

ADda werthodd pawb o'r byd, Ir hên Sarph am Afal dryd, Ni ddaw un o * 1.91 grampau Satan, Nes dêl Christ i dynnu allan.

Page 19

Y' mae Satan ynteu 'n cadw, Pôb pechadur gwrryw a benyw,† 1.92 Yn ei garchar tonnog tywyll, Nes dêl Christ i derri 'n gandryll.
Y mae 'r carchar cyn dywylled, Ac nad ym yn abal gweled, O 'n tôst gyflwr a 'n gofydi,* 1.93 Nes dêl Christ a gole inni.
Rym ni'n aros heddyw heno, Mewn tywyllwch dan ei ddwylo,* 1.94 Ac heb weled ein trueni, Nes del Christ i ddangos inni.
Rym ni 'n farw yn ein pechod,* 1.95 Rym heb weld o 'n † 1.96 câs na 'i ganfod, Rym ni 'n gorwedd mewn tywyllwch, Ac heb geisio gwell diddanwch.
Rwyt ti 'n ymladd ym-mhlaid Satan, Rwyt ti 'n elyn it' dy hunan, Rwyt ti 'n myned byth ar ddidro,* 1.97 Nes dêl Christ ith droi ath rwystro.
Rwyt ti eisoes gwedi 'th golli, Ath gondemnio † 1.98 cyn dy eni: Oni cheisij Grist ith helpu, Yn golledig ei harossu.
Mae 'r Sarph â'i cholyn gwedi 'th frathu, Mae d'enaid bach or brâth yn gryddsu: Cais Grist yn feddyg ith Jachau,* 1.99 Onis ceisij † 1.100 marw a wnai,
Mae d'enaid gwedi 'r diawl ei speilio, O 'r holl ddonie a roes Duw iddo: Cais gan Grist ei ail ddillattu, Onis ceisij 'n † 1.101 suwr di sythu.

Page 20

Mae 'r fall âr * 1.102 follt o bechod tanllyd, Gwedi 'th glwyfo yn wenwynllyd: Cais gan Ghrist Jachau dy glwyfe, Onis ceisij, 'r fall ath bie.
Mae d'enaid bâch fel dafad wirion, Rhwng palfau 'r llew, ar bleiddiaid digllon: Cais Grist ym-mrhyd i ddwyn o'i grampe, Onis ceisij, 'r blaidd ath bie.
* 1.103Mae 'r diawl fel ffowler gwedi dala, D'enaid bach â rhwyd o'r cryfa: Ni † 1.104 ddoi byth o rwydau Satan, Nes dêl Christ ith dynnu allan.
Rwyt ti 'n ufydd wâs i bechod, * 1.105Rwyt ti 'n pechu bob diwrnod: Cais gan Ghrist roi grâs a chryfder, It i wasnaethu mewn cyfiawnder.
* 1.106Rwyt ti 'n blentyn i 'r digofaint, Wrth naturiaeth, fel dy geraint: Cais gan Grist dy adgenhedlu, Rhag dros fyth it aros felly.
Rwyt ti 'n * 1.107 slaf i 'r cythrael aflan, Rwyt ti 'n byw dan feddiant Satan: Cais ym mrhyd gan Ghrist dy dynnu, O law 'r fall, rhag aros felly.
* 1.108Mae 'r gwr cadarn yn heddychlon, Yn cadw ei gastell 'yn dy galon: Nes cael Christ i ddwyn ei arfau, Nid â 'r cadarn byth o'th ascrau.
Rwyt ti 'n gangen wyllt auffrwythlon, Heb ddwyn ffrwyth ond grawn-win surion: Oni wella Christ dy nattur, I dan vffern boeth i'th daflyr.

Page 21

Fe wnaeth y diawl di 'n elyn Duw,* 1.109 O blentyn grasol gore ei ryw: Cais gan Ghrist dy * 1.110 reconsilo, Rhag aros byth yn elyn iddo.
Rwyt ti 'n vn or * 1.111 cwain bychain, Y sy 'n pori rhwng y cigfrain: Os Christ Jesu ni'th adaina,* 1.112 Cigfrain vffern a 'th sclyfaetha.
Rwyt ti 'n gorwedd mewn tywyllwch, Hêb wir nabod llwybrau heddwch: Oni oleua Christ ein llwybrau, Awn i uffern ar ein pennau.
Rwyt ti 'n haeddu pob gofydi, Gwedi 'th ddamnio cyn dy eni: Oni chei gan Ghrist i'th helpu, Yn ddamnedig ei harossa.
Rwyt ti 'n elyn ir Goruwcha, Rwyt ti 'n slaf ir cythrael pe••••a, Rwyt ti 'n dewyn uffern isod, Nes dêl Christ i olchi'th bechod.
Rwyt ti 'n euog o bob tramewydd, O bob nychdod, o bob affwydd,* 1.113 O bob gofyd, o bob trallod, Nes cael Christ i olchi 'th bechod.
Drwg tu fewn, a drwg * 1.114 tu fâs, Llawn o bechod, tlawd o râs, Aflan, oflyd, dwl, diwybod, Nes cael Christ i olchi 'th bechod.
Dymma gyflwr pob rhyw Chistion, Medd y scrythur yn * 1.115 blaen ddigon, Hyd nes delo Christ ein prvnwr, I'n hail-eni, i wella ein cyflwr.

Page 22

Oni chawn i Ghrist i'n helpu, * 1.116A 'n hail-weithio, a 'n gwaredu, Ni all dyn o'i rym ei hunan, Wella ei gyflwr mwy nâ Satan.
* 1.117Ni all Peder, ni all Pawl, Ni all Angel, ni all diawl. Ni all nêb ond Christ yn unig, Gadw enaid dyn colledig.
Chwilia 'r nêf, a 'r ddaer, a 'r awyr, Chwilia 'r môr, a phob creadur, Di gei weled, na all un, Ond Christ gadw enaid dŷn.
Oni cheisij Ghrist ein Prynwr, Gan ei dad i wella 'th gyflwr, I bwll uffern ir ai i drigo, Eisiau ceisio cymmorth gantho.
Ni bydd vn dyn yn gadwedig, O 'r holl fŷd er maint o'i ryfig, Ond y dyn y gaffo ei gadw, Er mwyn Christ ein ceidwad croyw.
* 1.118Ac ni cheidw Christ un Christion, O'r holl fyd er maint a grion, Ond y dyn a gretto yn brudd, Yn Ghrist trwy wîr a bywiol ffydd.
Y nêb a gretto yn-Grist yn gywir, * 1.119Fe gaiff hwnnw ei gadw yn siccir: Y nêb ni chredo ynddo 'n † 1.120 sŷth, Ni chaiff hwnnw ei gadw bŷth.

Page 23

Genedigaeth, Bywyd a Marwolaeth Christ Jesu ein Jachawdwr.

POb rhyw Gristion ag sy 'n caru Nabod Christ y su 'n ein prynu, Clywch fi 'n adrodd genedigaeth Prynwr Crêd, a'i * 1.121 brudd farwolaeth.
Y Gair Mâb Duw oedd o 'r dechreuad, Cyn bôd nef na daer na 'dailad,* 1.122 Yn ail berson o 'r glân Drindod; Rhwn y wnaeth y byd mor barod.
Yr oedd e'n Arglwydd cuwch a'i Dâd,* 1.123 Yn y nefoedd yn llawn o rad, Yn rheoli 'r holl Angelion, Cyn i ddwad at blant dynion.
Roedd e'n Dduw galluog grymmus,* 1.124 Roedd e'n Arglwydd anrhydeddus, Roedd e'n Frenin mawr ei rad, Roedd e'mhôb pwynt cuwch a'i Dâl.
Pan daeth o 'r nef i brynu dyn,* 1.125 Fe gymmerth arno 'n lliw a 'n llûn; A 'n gwir gnawd o Fair ei fam, Rhon oedd * 1.126 wyryf bûr, ddinam.
Hi feichiogodd arno yn rhyfedd,* 1.127 O rad yr ysbryd glân a'i rinwedd, Heb fôd iddi wnel na nabod Gwr erioed, er bod yn briod.
Ac felly 'r aeth Mab Duw yn ddyn,* 1.128 O naturiaeth Mair ei hûn, (Heb ei halogi â dim pechod,)* 1.129 Yn y grôth trwy râd y Drindod.

Page 24

Dwy naturiaeth amlwg * 1.130 yn, Sydd i'n prynwr Duw a dyn: Vn o'i Dâd, a'r llall o'i fam, Dwy wahanol, dwy ddinam.
Mab i Dduw, a mâb i ddyn; Heb vn person iddo ond vn: Mâb i ddyn, o fam heb dâd, Mâb Duw mawr heb fam y câd* 1.131.
O ran ei ddyndod mae 'n fy mryd, I ddangos iwch ar hyn o bryd, Y Dull a'r môdd y ganed Jesu, Pan y daeth o 'r nêf i 'n prynu.
Pan daeth Mair i Fethlem † 1.132 hygar, I dalu trêth i 'r * 1.133 Emprwr Cesar, Daeth ei hamser hi Escori, Fel y traetha 'r fengyl inni.
Ond waith cymmaint oedd y Cwmpni, Oedd yn gorwedd ym-mhôb Ostry, * 1.134F'orfu ar Fair yn fawr ei gofal, Fynd i escori hwnt i'r stabal.
Yno ym-mhlith y mûd nifeilod, Heb ddim * 1.135 stade, Duw 'n i wybod, Fe escorodd Mair wen ddiddig, Ar ein prynwr ddydd Nadolig.
Gwedi geni 'n prynwr hyfryd, Heb sôd arni boen ra gofyd: Yn dra llawen hi a rwyme Brenin nefoedd mewn cadache.
Gwedirwymo, hi rhoi orwedd, Yn y preseb yn ddiryfedd, Ac y fydde bodlon ddigon, I bôb peth oedd Duw 'n i ddanfon.

Page 25

Yno cyn i 'r wawr gael torri, Fe ddanfonei Dduw gwmpeini,* 1.136 O fugeiliaid, mewn gwiriondeb, I addoli e yn y preseb;
Rhai ddanfonwyd gan Angelion, Yn dra llawen iawn eu calon, I dre Fethlem o wir bwrpas, I gael gweled y Messias* 1.137:
Ac i † 1.138 faneg i bawb hefyd, Fel y dwetse 'r Angel hyfryd, Mae fe oedd Christ y gwir geidwad, Rhwn addawsid o'r dechreuad:
Ac y byddei fawr lawenydd, I 'r hôll fŷd o 'r chweddel newydd, O ran geni 'r boreu hwnnw, Y Jachawdwr y ddoy 'n cadw.
Yno y dawe lû o Angelion, Ag y ganen † 1.139 hymnau mwynion, I'r Tâd nefol o 'r vchelder, Am roi i ddynion y fâth fwynder.
Ar hyn fe'm-ddangosse Seren, Rymmus, rasol, yn yr wybren; Rhon y ddywedei â 'i goleuni, Fôd y Prynwr gwedi eni.
Yno y dawe hên wyr doethion,* 1.140 O 'r Dwyrain-dir yn dra vnion, I Judea wrth y seren, I ymofyn Christ yn llawen,
Rhai y geisient gael copinod, Gan y Brenin creulon Herod, Ble genassid Christ y cyfion, Brenin grasol yr Iddewon.

Page 26

Yno y dywede 'r ffeiriaid mwya, Mae ym-Methlem rrêf o Juda, Y suwr enid y Messias, * 1.141Medde 'r Prophwyd hên Micheas.
Pan y clowe 'r doethion hyn, Daethont yn faith ac yn dynn, I dre Fethlem wrth y Seren, Dan ymofyn Christ yn llawen.
* 1.142Ond pan daethont hwy yn agos, I'r tŷ, lle 'roedd Christ yn aros, Fe ddisgynne 'r Seren dlws* 1.143; Ac arhosse vwch ben y drws.
Yno yr aent i mewn yn llawen, Lle roedd Mair, a Christ yn fachgen, Ac y gwympent ar eu daulin, I addoli 'r grasol frenin.
Rhoddent hefyd * 1.144 rial roddion, Y berthyne i Grist yn † 1.145 gysson, Aur, a ffrancwmsens o 'r gore, A Myrh gwerthfawr, teg ei? rogle.
* 1.146Herod ynte pan y clywas, Eni Christ y gwir Fessias, Efe fynnei lâdd e'n blentyn Bâch, yn sugno yn ei rwymyn.
Os fe helodd lû o fwytswyr Gwaedlyd, creulon, dig difesur, I lâdd yr hôll blant bâch o doytu, Cyn y methe ladd y Jesu.
Hwyntau laddsont yr hôll fechgin, Oedd ym Methlem etto 'n egin, Fach a mawr dan ddwy-flwydd oedran, A mab Herod gâs ei hunan.

Page 27

Yno y gorfu ar Fair fyned, Genol nôs i ddechre cerdded, Tua 'r Aipht â'i phlentyn ganthi, Lle archasse 'r Angel iddi.
Yno y bu Christ yn aros, Gydâ 'r Sibswns lawer wythnos, Nes cael clywed marw Herod, Oedd yn ceisio 'i ladd heb wybod.
Yn ôl marw Herod greulon, Fe ddoe Crist i wlad Iddewon, Ac y fyddei ostyngedig I Fair ac i Joseph ddiddig.* 1.147
Pan yr oedd e'n ddeuddeg oed,* 1.148 Peth rhyfedda y fu erioed, Efe * 1.149 bwngcie â Doctoriaid, Nes bae 'r doethion arno 'n synniaid† 1.150.
Yno yn ddeg ar hugein oedran, Pan bedyddiwyd ef gan Joan, Fe ddescynei arno yr ysbryd,* 1.151 Ar lûn clommen * 1.152 hygar hyfryd.
Ac fe lefe Dduw ei hunan, Fry o'r nef lle clywe 'r * 1.153 cwmpan, Hwn yw f' vnig fab aberthwyd, Yndo ef ym llwyr foddlonwyd.
Gwedi 'r ysbryd ddescyn arno, Fe ddoe 'r Cythrael ynte i demptio, Ond er maint oedd cyrch y cythrael,* 1.154 Rhows Christ iddo † 1.155 ffwyl ddiogel.
Yn ol hyn fe ai i bregethu, Yr efengyl wen o doytu, Ac i ddechre gwneuhur gwrthiau Ym-mhob tir y ffordd y cerddau.

Page 28

* 1.156Fe drows y dwr yn gynta 'n win, Fe lwyr Jachaws pob olefyd blin, * 1.157Ac fe wnaeth i'r deillion weled, Ac i'r byddar clust-drwn glywed.
* 1.158Fe wnaeth ir cripliaid yn ddifraw, Neido a thrippio yma a thraw, Ac fe wnaetn ir gwreigyn grwcca, Godi chefen o 'r vniawna.
Ynte rodiodd ar 'y môr, Gan ostegu ei † 1.159 rwyf a'i * 1.160 rôr, Ac fe wnaeth i'r storom wynt, * 1.161Beidio a chwythu yn ei hynt.
I ddangos ini ei fôd e 'n Dduw, Fe gododd tri ô farw i fyw, Merch i Jairus, mâb i 'r weddw, * 1.162Lazar gwedi drewi a marw.
Porthodd pum mil â phum torth, * 1.163Mawr o'i bwer, da o'i borth, Llanwodd ddwy long o 'r pysc mwya. * 1.164Pan y methe ar bawb eu dala.
Bwriodd lawer cythrael allan, * 1.165O 'r rhai clifion, lloerig, egwan, A chlûst Malchus gwedi dorri, Y Jachaws ef * 1.166 toc heb eli.
Llawer gwrthie gydâ hyn, Y wnaeth ein Prynwr Jesu gwyn, Cyn i Suddas frwnt ei werthu, I 'r Jddewon, a'i fradychu.
Ni chaed twyll erioed o'i enau, * 1.167Nid oedd vn dyn a'i hargoeddau, Roedd e'n ddiddrwg fel yr oen, Yn fach ei barch, yn fawr ei boen.

Page 29

Pan daeth yr awr oedd Duw 'n ei osod, I aberthu e dros ein pechod, Fe ddoe Suddas ac a'i gwerthe, I 'r Iddewon am geinioge.
Ni chas ddim ond hanner Coron,* 1.168 Am ei roi e'n llaw 'r Jddewon, I fynd ag e'n rhwym at Gaiphas, Gwedi holi yn dôst gan Annas.
Yn y man y daeth at Gaiphas, Fe ddoe tystio ffalst o'i gwmpas, Ac y fynnent brwfio arno, Lawer peth nas gwydde oddiwrtho.
Caiphas yntef a'i * 1.169 hexamau, Yn galed iawn ar fil o bethau, Ac a'i tyngau trwy 'r Duw byw,* 1.170 I adde o 'r doedd yn fab i Duw.
Ac am i 'r Jesu adde 'n * 1.171 glur, Mae fe oedd Christ, mâb Daw yn wir, Braidd na fynnei pawb ei lethu, A'i labyddio cyn ei farnu.
Yno y poerwyd yn ei wyneb, Bwbach-dallwyd mew ffolineb,* 1.172 Fsystwyd ei ben â gwiely, A chernodiwyd e'n ysscymmyn.* 1.173
Ar y boreu yr holl Jddewon,* 1.174 A 'r Ofleiriaid, a 'r giwyr mawrion, Y ddoent â Christ gwedi glwmmu, At Bilatus idd i farnu.
Pilat gwedi holi e'n galed, Heb gael yndo fai na niwed,* 1.175 Dan lanhau a golchi ddw lo, Y rows barn marwolaeth arno.

Page 03

Cynta peth y farnei Pilat, Oedd I chwippio heb ei ddillad, Yn ôl hynny i groes-hoelio, Ar y crog-pren nes * 1.176 departo.
Felly chwippiwyd Christ yn dôst, O hewl i hewl, o bôst i bôst: Ac ni adewid modfedd arno, Oi ben i draed heb ei † 1.177 scwrgio,
Gwedyn dewe filwyr Pilad, Ac hwy † 1.178 stripient Christ o'i ddillad, Ac a'i gwiscent e'n cyn frafed, Mewn hên fantell goch o scarled.
Yn ol hyn fe blethe rhain, Anfad Goron fawr o ddrain, Ac a'i gwiscent ar arleisie Christ, nes rhedei waed yn bibe.
Rhoddent hefyd yn ei Law Gorsen, dan ymgrymmu draw, A'i watwaru â geiriau mwynion, Dydd-dawch Brenin yr Iddewon.
Gwedi diosc Christ drachefen, * 1.179Rhoesont y groes ar ei gefen, Iddo i llysco i 'r Benglogfa, Lle croeshoeliwyd ar ei hycha.
Pan yr aethont iw groes-hoelio, Tyllwyd eu draed a'i ddwy ddwylo, Ac hwy hoeliwyd yn filinig, A thair hoel o haiarn ffyrnig.
Er maint oedd ei boen a'i loesau, Etto er hyn ni 'gore o'i enau, * 1.180Ac ni yngane wrth y poenwyr, Mwy nâ 'r Ddafad dan law 'r Cneifwyr.

Page 31

Ond fe offrwmme ar y groes, Pan oedd chwerwa a blina 'r loes, Ei enaid gwynn, a'i waed i gyd,* 1.181 Yn aberth dros bechodau 'r byd:
Ac orchmynne ei enaid gwirion,* 1.182 Yn llaw ei Dad y Barnwr cyfion, Dan ymhwedd arno am fadde, Ir Iddewon a'i croes-hoelie.
Felly y bu farw 'r Jesu, Ar y pren croes wrth ein prynu, Ac y rhows ef waed ei galon, Dros eneidiau 'r gwir gristnogion.
Felly y rhows Duw ei Anwylyd, I groes-hoelio trwy fawr benyd, Er mwyn prynu ein enediau, † 1.183A'u gwaredu o'u * 1.184 holl boenau.
Rhoddwn ninne foliant iddo, Ddydd a nôs heb ddim deffygio, Am ei gariad ai drugaredd, Yn prynu enaid dyn mor rhyfedd.
Diolch mawr a moliant hyfryd, Y fo ir Tâd a 'r Mab a 'r ysbryd, Am brynu enaid dyn mor britted, Ai ddwyn ir nef o dôst gathiwed.

Page 32

Adroddiad o gariad Christ at y byd.

CLywch adrodd mawr gariad mab Duw at y bŷd, Pan daeth ef or nefoedd, i'n prynu mor ddryd, Er peri i chwi gofio, am gariad mab Duw, Ai foli 'n wastadol tra fyddoch chwi byw.
* 1.185Pan twyllwys y Cythrael, â'r afal y wraig, I dorri 'r Gorchymyn, trwy demptiad y ddraig, Fe 'n gwerthwyd am afal ir diawl cymain un, Heb neb allei 'n prynu, ond mab Duw ei hun.
Mâb Duw pan y gwelas ein cyflwr mor dôst, Fe ddaeth yn ei un-swydd, or nefoedd yn † 1.186 bôst, O blith yr Angelion, i grôth y wenn Fair, I gymryd ein nattur, i'n gwared ni or pair.
Mair a feichiogodd, ar unig mab Duw, O râd y glan ysbryd, (ond tra rhyfedd yw) Pan 'r oedd hi'n bur forwyn, tra ieuangc mewn oed, Heb fôd iddi hanffod, ag un gwr erioed.
Pan daeth amser escor, fe aned mâb Mair, Mewn stabal ym Methlem, ar fotel o wair, Lle trowd ef mewn cadach, ai ossod i lawr, I orwedd mewn preseb; ond happys o'r awr?
Pan ganed ein Prynwr, fe helwyd or nêf, Angelion rhialwych, tra llawen ei llêf, I † 1.187 faneg dan ganu, yr amser ar prŷd, Y ganed Christ Jesu, Jachawdwr y bŷd.
A 'r Doethion or Dwyrain, pan gotson eu pen, A gweled ei Seren, mor wych, ac mor wen, Hwy ddaethont o'r Dwyrain, i Fethlem yn bost, I 'ddoli 'r dŷn bychan, mewn llawer o gost.

Page 33

Herod pan y clowas ef eni mab Duw, Fe helodd ei † 1.188 fwytswyr, * 1.189 i fwrddro fe 'n fyw, Ac rhag iddo ddiangc, fe laddodd pob un, O fechgin bach Bethlem, a'i blentyn ei hun.
Mair hithe gododd, ar hyd nos heb ddim trwst, Ac aeth at y * 1.190 Sybswns, a'i phlentyn ar ffrwst, Lle bu hi 'n hîr aros, ni wn i pa cŷd, Nes darfod am Herod ai fwytswyr i gŷd.
Pan darfu am Herod, daeth Christ yn ei ôl, Or Aipht i Judea, at genel rhy ffôl, Lle bu ê 'n pregethu 'r Efengyl yn hîr, I bobol Pengaled na chredei mor gwir.
Gwrthie tra gwerthfawr y wnaeth ef lawer pryd, I ddangos mai 'r Jesu oedd ceidwad y bŷd: Ni chredei 'r Iddewon nai wrthiau nai wîr, Ond ceisio 'i fradychu ar fôr ac ar dîr.
Suddas fradychys, â chusan tra châs, Ai gwerthod eâ 'n nwylo 'r Iddewon di râs: Trachwant ar Arian ai gyrrod ê 'n * 1.191 bôst, I ymgrogi mewn cebist: ei fforten oedd dôst.
Y nos y bradychwyd fe chwyssodd y gwaed,* 1.192 Yn daran dosturys, o'i ben hyd ei draed, Wrth feddwl cyn chwerwed, a blined o'r loes,* 1.193 Orfyddei arno oddef, am bechod pôb oes.
Dalie 'r Iddewon ê, â ffaglau ac a ffynn, Pan oedd ê 'n gweddio 'n ol Swpper yn † 1.194 Syn, Hwy' rhwyment â chordau, hwy llyscent trwy fraw At Annas a Chaiphas, iw holi dan llaw.
Pilat yn fynych ai holodd ê yn * 1.195 chwai, Heb allel cael ynddo, na phechod na bai: Ond dan olchi ddwylo, fe wnaeth ag ef gam, Fe barnwys i farw, heb wybod pa ham.

Page 33

Fe farnwys i † 1.196 chwippio o'i ben hyd ei draed, Nes bôd ei Gorph pur-wyn, yn lliwio gan waed, A chwedyn i hoelio, ar grogpren trwy * 1.197 gûr, Trwy ddwylaw, a'i ddwy troed, â hoelion o ddur.
Coronwyd Christ hefyd â choron o ddrain, Fe wiscwyd mewn mantell, o Scarled coch main, F' addolwyd mewn gwatwar, dan blygu pob glin, Fe gurwyd â chorsen, dan ystyn y min.
Fe rowd ar ei ysgwydd y groes idd i ddwyn, Nes mynd ir benglogfa heb nemmawr o gwyn: Ar honno 'n fyleinig, fe hoeliwyd yn fyw, Ac felly ar grogpren fe grogwyd mab Duw.
Er maint oedd ei flinder, a'i gystydd, a'i gûr, Pan hoeliwyd ef felly, â 'r hoelion o ddûr, Ni 'gorodd oi enau, ni ofynodd, pa ham, Mwy nâ'r oen dan law 'r cneifiwr, er ma'nt oedd ei gam,
Ond llefain yn irad, o 'r groes ar ei Dâd, Am faddei 'r Iddewon, a sugnent ei waed: O achos na wyddent, ar hynny o brŷd, Eu bod hwy 'n croeshoelio Jachawdwr y bŷd.
Ac felly bu farw mab Duw ar y groes, Wrth ddwyn ynddo ei hunan y blinder a 'r loes, A 'r poeneu a 'r penyd, a 'r d al i gŷd, Oedd Duw yn ei ofy, am bechod y bŷd.
Trwy Angeu tra phoen-fawr, a phrid werth ei waed, Fe wnaeth heddwch hyfryd, rhwng dynion ai dâd; Fe 'n dygodd * 1.198 ni 'r eilwaith mewn ffafar â Duw, Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.
Fe ddygodd ar grogpren ein pechod bob un, Fe 'n † 1.199 golchodd on beiau, trwy wîr waed ei hun, Fe 'n gwnaeth ni 'n frenhinoedd, a ffeiriaid i Dduw Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.

Page 35

Cyflawnodd y Gyfraith, bodlonodd ei Dâd, Fe brynodd ein Pardwn, fei feliodd â 'i waed, Fe'n tynnodd o'r carchar, fe rwygodd ein sach, Moliannwn ni 'n Jesu yn fawr ac yn fâch.* 1.200
Ai Angeu, fel Samson, fe droedwys i lawr,* 1.201 Gyhuddwr ein brodyr, y * 1.202 wibe goch fawr, Fe rwygwys ei deyrnas; fe sigoedd ei shol, Moliannwn ni 'r Jesu, y 'neillwys y gol.
Fe ddofwys llidiawgrwydd, a digter ei Dâd, Fe'n gwnaeth ni 'n blant iddo, trwy fabwys a rhâd,* 1.203 Fe rows i ni gyfran o deyrnas ein Duw, Moliannwn ni 'r Jesu tra fyddom ni byw.
Coronau goreuraidd ar bennau pob un,* 1.204 A gynau gŵych gwnion, tra llyniaidd eu slun, Y Brynwys ef inni, a Theyrnas gwlad nef, Moliannwn ni 'r Jesu, yn llawen ein llef.
Gogoniant a gallu, a diolch bôb prŷd, Y fytho'r lân Drindod, am ein prynu mor ddrŷd, A mawr glod a moliant i 'n prynwr a 'n pen, A dyweded pob Christion yn wastod, Amen.

Awn i Fethlem.

AWn i Fethlem bawb dan ganu, Neidio, dawnsio, a difyrru, I gael gweld ein Prynwr credig, Aned heddyw ddydd nadolig.
Mae e 'Methlem gwedi eni, Yn y stabal tu hwnt i 'r * 1.205 Ostri, Awn bob Cristion i † 1.206 gyflwyno, Ac i roddi golwg arno.

Page 36

Dymma 'r Ceidwad y ddanfonwys, Tâd tosturi o Baradwys, I 'n gwaredu rhag * 1.207 marwolaeth, Ac i wethio 'n iechydwriaeth.
Awn i Fethlem bawb i weled Y dull, a 'r môdd, a 'r Mann y ganed, Fel y gallom ei addoli, A'i gydnabod gwedi eni.
Ni gawn Seren i 'n goleuo, Ac yn serchog i 'n cyfrwyddo, Nes y dycco hon ni 'n gymmwys, I 'r lle sanctaidd lle mae 'n gorphwys.
Mae 'r Bugeiliaid gwedi blaenu, Tua Bethlem dan * 1.208 lonnychu, I gael gweld y grasol Frenin, Ceisiwn ninne bawb eu dilyn.
Y mae 'r plentyn yn y stabal, Gwedi drin gan Fair yn rhial, A 'i roi orwedd yn y preseb, Rhwng yr ŷch a'i dadmaeth Joseb.
F' aeth y Doethion i * 1.209 gyslwyno, Ac 'i roi † 1.210 anrhegion iddo, Aur a thus a myrh o 'r gore, A'i * 1.211 bresento ar eu glinie.
Rhedwn ninne iw gorddiwes, I gael clywed * 1.212 part o 'r gyffes: Dyscwn ganthyn i gyslwyno, A rhoi clôd a moliant iddo,
Yn lle Aur rhown lwyr gred yndo, Yn lle Thus rhown foliant iddo, Yn lle Myrh rhown wîr ddifeirwch, Ac fei cymmer trwy hyfrydwch.

Page 37

Mae 'r Angelion yn llawenu, Mae 'r ffurfafen yn tywynnu, Mae llu 'r nef yn canu hymne, Caned dynion ryw beth hwynte.lindx;
Awn i Fethlem i gael gweled Y rhyfeddod mwya wnaethbed,* 1.213 Gwneuthur Duw yn ddyn naturiol, I gael marw dros ei bobol.
Awn i weld yr hên * 1.214 Ddibenydd, Y wnaeth Nêf a môr a mynydd, † 1.215Alpha * 1.216 oediog, Tâd goleuni, Yn ddyn bychan newydd eni.
Awn i weled Duw y Gair, Brenin nêf ar arffed Mair, Gwedi cymryd cnawd dyn arno, Yn fab bach yn dechre sugno.
Awn i weled y Mab rhâd, Hŷn † 1.217 nâ'i fam, cyfôed â'i Dâd, Mâb a Thâd y Fam a'i Ferch, Yn lleia ei sôn, yn fwya ei ferch.
Awn i Fethlem i gael gweled Mair a Mâb Duw ar ei harffed,* 1.218 Mair yn dala rhwng ei dwylo 'R Mab sy 'n cadw 'r Byd rhag Cwympo.
Awn i weld * 1.219 Concwerwr Ange, Gwedi rwymo mewn cadache; A 'r Mâb y rwyga deyrnas Satan, Yn y † 1.220 craits heb ally crippian.
Awn i weled y * 1.221 Messias. Prynwr Crêd, ein † 1.222 hebb a 'n hurddas; Vnig Geidwad ein eneidie, Ar fraich Mair yn sugno bronne.

Page 38

Awn i weled hâd y wraig, Y bwyntiodd Duw i bwnio 'r Ddraig, Ac i shigo ei shol wenwynig, Am beri bwytta 'r ffrwyth gwarddeddig.
Awn i weled y Mâb y gâd, Yn rhyfedd iawn o 'i fam heb dâd; A 'i fam yn † 1.223 wyryf ieuangc oed, Mam heb nabod gŵr erioed.
Awn i weld y ferch yn * 1.224 fam, A 'r fam yn † 1.225 ferch ddinwyf, ddinam: Y ferch yn magu Thâd o 'i rwymyn, A 'r Tâd yn sugno bronne 'r Plentyn.
Awn i weld y Pen-sâer gore, Y wnaeth yr haul a 'r holl blanede, Y nefoedd fawr a 'i * 1.226 Rhwm mor rhial, Yma yn gorwedd yn y Stabal.
Awn i weled Duw 'r gogoniant, 'Rhwn sy'n messur nêf â 'i † 1.227 rychwant, Yn y preseb heb un gader, Yr oen mwyn yn salw ei biner.
Awn i weld yr Oen bendigaid, Ni bu sâth o flaen Bugeiliaid, Oen i Dduw y ddaeth mewn pryd, I dynnu ffwrdd bechode 'r byd.
Awn i weld ein Prynwr hoyw, Sydd i farnu byw a meirw: Rhwn a 'n * 1.228 dûg i 'r nefoedd dirion, Ar adenydd yr Angelion.
Dymma, gwelwch e 'n ddistwr, Y gore i gid yn wanna gwr: Duw yn ddyn, a dyn yn Dduw, Y gwelo 'n llyn tra dedwydd yw.

Page 39

Christ sydd ôll yn ôll.

CHrist ei hun sydd ôll yn ôll,* 1.229 Yn cadw dyn rhag mynd ar gôll, Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun, Y ddichon cadw enaid dyn.
Y sarph â 'r afal gynt a 'n twyllodd, Y sarph â phechod a 'n gwenwynodd, Y sarph a 'n tynnodd o baradwys, Y sarph i * 1.230 vffern boeth an gyrrwys.
Mae mor suwr i bob dyn fyned, I bwll vffern i gathiwed, A phyt faem ni eisoes yndo, Oni cheidw Christ ni ragddo.
Christ y ddaeth o'r nef i 'n prynu,* 1.231 Christ a'n cadwodd gwedi 'n damnu, Christ o 'n cystudd a 'n gwaredodd, Christ a'n dwg i deyrnas nefodd.
O * 1.232gramp y llew, o ene 'r wiber, O Rwyd y fall, o balfe 'r Teiger, O 'r pwll, o 'r pair, o 'r deyrnas aslan,* 1.233 Y tynnodd Christ ei ddefaid allan.
Ni all Satan ladd a mwrddro, Fwy nag all mab Duw ddadfywio; Y laddo 'r ddraig âi cholyn gau, Gwaed yr oen all ei Jachau.* 1.234
Jesu Grist yw Hâd y wraig, Y bwyntiodd Duw i droedo 'r ddraig,* 1.235 I sigo ei shol, i rwygo ei theyrnas, I dynnu dŷn o'i chrampe atcas,

Page 40

Ni orchfyga nêb o 'r ddraig, Ond trwy gymmorth Hâd y wraig, Ni ddaw dyn o'i theyrnas aflan, Nes y tynno Christ ef allan.
* 1.236Christ yn vnig yw 'r hâd dinam, Y bromeisiodd Duw i Abram, I 'n rhyddhau oddiwrth y felldith, A rhoi inni 'r nefol fendith.
Christ yn vnig ydyw 'r Silo, * 1.237Y ddanfonodd Duw 'ni ceisio, O gathiwed pob rhyw bechod, I wasnaethu 'r sanctaidd Drindod.
Christ ei hun yw Pren y bywyd, Sy'n rhoi maeth i bawb o'r holl fyd: Ni bydd marw yn dragwyddol, Nêb y fwytto 'r ffrwyth sancteiddiol.
Christ yw 'r Arch a'r lloches esmwyth, Gedwis Noe rag boddi, a'i dylwyth, Christ yw 'r arch sy'n cadw ninnau, Rhag pob diluw a dialau.
* 1.238Christ ei hun yw ysgol Jago, Oedd o 'r nef ir ddaer yn pheico, * 1.239Ar yr hwn y mae i'n ddringad, Os ir nef y mynwn ddwad.
* 1.240Christ yw 'r Prophwyd mawr y helodd, Duw o'i fynwes, fry o 'r nefoedd, I fynegi 'wllys hyfryd, Gwrandawn arno dan boen bywyd.
Christ yw 'r Sarph o efydd preslyd, * 1.241Sy'n Jachau brath neidir danllyd: Dewn bob rhai â 'n dolur atto, Fe 'n Jachâ ond edrych arno.

Page 41

Christ yw 'r ffeirad mawr offrymwys,* 1.242 Waed ei galon dros ei eglwys, Ar y groes i Dâd sancteiddiol, Dros y byd, i gadw ei bobl.
Christ yw 'r Brenin grymmus, grassol,* 1.243 Sydd trwy râs yn * 1.244 llywio ei bobol: Ac yn gostwng ei gelynion, Fel y gallont gael y goron.
Christ yw 'r Bugail sy 'n bugeila Enaid Christion rhag ei ddifa:* 1.245 Ni chaiff llew, na blaidd, na llwynog, Ddwyn o'i braidd, nac oen na mammog.
Christ yw * 1.246 Prins ein gwir dangnefedd, Y Ddiffoddodd pob digllonedd: A gwaed ei groes, yn Dduw, yn Ddyn,* 1.247 Y gwnaeth ê 'r ddwy blaid ddig yn vn.
Christ yw 'r Rhossyn coch o Saron,* 1.248 Sydd a'i liw 'n * 1.249 cynfforddi 'r galon; Ac â'i 'rogle yn rhoi bywyd, Ir trwm feddwl a'r gwan ysbryd.
Christ ei hun yw 'r Balm o Gilead,* 1.250 Sy 'n Jachau pob archoll * 1.251 ddesprad, A rows Satan â * 1.252 dart pechod, I 'n eneidiau a'n cydwybod.
Christ yw 'r Manna ddaeth o 'r nefoedd,* 1.253 Duw ei hun o'i râs a'i rhoddodd: Y nêb yn ffyddlon a'i bwyttaffo, Ni ddaw byth ddim newyn arno.
Christ yw Oen y pasc 'aberthwyd, Dros ein pechod pan croeshoeliwyd;* 1.254 Rhwn sy ái waed yn cadw 'r enaid, Rhag ir Angel drwg ei scliffiaid.

Page 42

* 1.255Christ yw 'n Hallor arogldarthu, Ar yr hon y mae aberthu, Pêr arogle mawl a gweddi, Foreu a hwyr i Dâd goleuni.
* 1.256Christ yw Meddyg y cristnogion, Rhwn â gwerthfawr waed ei galon, Sy'n Jachau archollion pechod, Pan na'll dim amgenach dygfod.
Christ yn vnig yw 'n Cyfryngwr, * 1.257S' ein cymmodi â 'n Creawdwr; Nid oes nêb ond Christ ei hun, All cymmodi Duw a dŷn.
* 1.258Christ yw 'r Twrneu sydd yn dadle, O flaen Duw am fadde 'n beie, Pan bo Satan yn cyhuddo, Ac yn canlyn * 1.259 grawnt i'n plago.
Christ yw 'n Brenin, Christ yw 'n ffeiriad, Christ yw 'n Prophwyd, Christ yw 'n Ceidwad, Christ yw 'n Bugail, Christ yw 'n Barnwr, Christ yw 'n Pen, a Christ yw 'n Prynwr.
* 1.260Christ cyn cynfŷd ydyw 'r Alpha, Christ heb derfyn yw 'r Omega, Dechre, diwedd Jechydwriaeth Meibion dynion ai derchafieth.
Christ yw dewr Gwncwerwr angau, Christ a'i speiliodd o'i holl arfau, * 1.261Christ a lyngcodd angeu melyn, Christ y dynnodd ffwrdd ei golyn.
Christ sy 'n cadw 'r holl allweddau, * 1.262Sydd ar vffern ac ar angau, Ni baidd Diawl nac angau * 1.263 dwtchio, Neb, nes cael gan Grist ei lwo† 1.264

Page 43

Christ yw 'r Pelican cariadus, Sydd â gwaed ei galon glwyfus, Yn Iachau ei adar bychain, Gwedi 'r sarph ei lladd yn gelain.
Christ yw 'r Pelican trugarog, Sydd â gwaed ei galon serchog, Yn Jachau ei frodyr priod, Gwedi 'r Diawl eu lladd â phechod.* 1.265
Nid oes eli ag a wnaethbwyd, Nac vn * 1.266 fetswn a ddychmygwyd, All Jachau vn archoll pechod, Ond gwaed Christ, gwir eli 'r Drindod.
Christ yw 'r Perl y ddlyem mofyn, Nid tlawd perchen cyfryw berlyn;* 1.267 Dôs dros fôr a thir i 'w geisio, Gwerth sydd genyd cyn bôd hebddo.
Duw rho imi dy anwylyd, Christ yn arch wi 'n geisio genyd: Rho imi fynnech gydâ hynny, Rhoist im ddigon o rhoi 'r Jesu.
Duw rho i mi Grist yn Geidwad, Christ yn Frenin, Christ yn ffeiriad, Christ yn Brophwyd, Christ yn Brynwr, Christ yn Help ym-mhob cyfyngdwr.
O'r cai ddim ond Christ ei hunan, Gân fy nefol Dâd im cyfran, Mi gâf ddigon yn fy nghîst, Er na chaffwyf ddim ond Christ.
Or câf i Grist, fe dry fy rhyw, O fâb ir fâll yn blentyn Duw, O ddyn ar gôll, o † 1.268 Sâf i Satan, Yn wir Aclod iddo ei hunan.

Page 44

Er cael Aur, ac er cael arian, Er cael Tai a Thiroedd llydan; Beth wyf nês er cael pob cyfraid, Nes cael Christ i gadw f'enaid?
Tynn fy llygaid, tynn fy nghalon, Tynn fy ngolud am cyfeillion, Tynn y cwbwl oll sydd gennif, Cyn y tynnech Grist oddiwrthif.
Sonied Milwyr am ryfela, Sonied Morwyr am dda 'r India, Sonied Carl am lanw ei Gîst, Sonied Christion byth am Grist.

Hîl Adda.

Hîl Adda gamweddus, plant Efa drafaelus, A deilaid gosydus * 1.269 Gehenna, Dihunwch, dihunwch, o'ch trymder a'ch tristwch, Daeth i chwi ddiddanwch o'r mwya.
Cans heddyw medd Gabriel, geirwir ei chweddel, Negesswr o * 1.270 gwnsel Jehofa, Y ganed ein prynwr, Christ Jesu 'n Jachawdwr, Mâb Duw, ein † 1.271 Achubwr ni 'n benna.
Gan hynny crechwennwch, a gwir orfoleddwch, A chenwch, a seiniwch * 1.272 Hosanna, I Dduw yn 'r vchelder, ir ddaiar esmwythder, I ddynion y mwynder o'r mwya.
Cans hwn ydyw 'r hedyn, a'r helpwr, a'r himpyn, Addewwyd o'r † 1.273 gwreigin i Adda, I sigo shol Satan (y Sarph) dan ei waddan, Pan helwyd o'r berllan * 1.274 araula.

Page 45

A dymma 'r Hâd dinam, addewis Duw i Abram, Yn fendith o'n hên fam Sara, A'i hepil, lin olin, hyd Ddafydd y Brenin,* 1.275 O Jesse y gwreiddyn † 1.276 rhiala.
A thymma i chwi 'r Silo, oedd Jacob yn seinio, Y ddawe i'n bendithio o Juda, Pan dygid y goron, oddiar yr Iddewon, A'i rhoddi i estron Duwmea.
A thymma 'r Prins aeddfwyn, Emmanuel irfwyn, Mâb grassol y forwyn Faria, Addew-wyd i Achas, trwy 'r prophwyd Esaias,* 1.277 I'n harwain i'r deyrnas bradwysa.
A dymma 'r Messias, addawodd Micheas, O Fethelem dinas Ephrata, Y enid i'r bobol, yn Frenin tragwyddol, I harwain i'r nefol orphwysfa.
A thymma i chwi 'r Prophwyd, a'r Brenin addaw∣wyd, A'r ffeiriad y bwyntiwyd yn benna, I offrwm ei hunan, yn aberth bereiddlan, I ddattod gwaith Satan fileina.
Chwi glywsoch i Satan gynt dwyllo 'n y berllan, A'i † 1.278 hocced y gwreigan, hên Efa, I fwytta yn rhy * 1.279 flysig yr afal gwarddedig, A chwedyn rhoi 'chydig i Adda.
Pan temptiodd y gelyn â'r afal y ddoi ddyn, I dorri gorchymym † 1.280 Jehofa, F'aeth Adda a ninne yn euog o ange, I * 1.281 Uffern a'i phoene diffeitha.
O Uffern ac ange, nid oedd neb y alle, Yn prynu trwy boene pwy bynna, Ond vnig mab graslon y Jestus tra chyfion, Y ddigsom mor greulon o'r cynta.

Page 46

A 'r mab hynny ynte, oedd yn rhaid iddo ddiodde, Ar grogpren yr ange diffeitha: * 1.282Gan wir gymryd arno gnawd dyn i'w groes-hoelio, A throom ddad-ddigio Jehofa.
Ac os Duw ni fynne roi fâb i ddiodde, Er cadw 'n heneidie rhag poenfa, Mewn carchar vffernol, a phoene tragwyddol, Y bysse 'r holl bobol pwy bynna.
Pan gwalas Duw grassol ein * 1.283 stâd mor dosturiol, O'i gariad rhagorol yn benna, * 1.284F' addewis ein helpu, trwy ddanfon i'n prynu Ei vn mâb Christ Jesu anwyla.
Ac felly pan gwalas Duw 'r amser cyfaddas, Fe helwys o'i deyrnas † 1.285 bradwysa, I 'r ddairen anhyfryd ei vnig anwylyd, * 1.286Ein cnawd i gymmeryd yn gynta.
A chnawd dŷn y gymmerth ein prynwr yn brydferth O Fair yr eneth anwyla, Yn daran rhyfeddol trwy 'r ysbryd sancteiddiol, Heb weithred dyn cnawdol na 'i goffa.
Ond rhyfedd, rhyfeddod! fe aned heb bechod, O forwyn yn gwrthod a gwra, Yn berffaith ddyn cnawdol, heb weithred corphorol Trwy 'r ysbryd sancteiddiol gorucha.
Os merch wrth feichiogi, a merch wrth escori, A merch gwedi geni 'r mab cynta, Oedd Mair pan i magodd, a merch pan priododd, A merch pan † 1.287 departodd oddi yma.
O waith iddo gymryd ein poene a'n penyd, Fe aned i 'r trust-fyd yn llwmma, Mewn stabal anghymmen, ym-mhreseb yr ychen, Lle trowd ef mewn gwlanen o 'r tlotta.

Page 47

Ac etto er peri i'r bŷd i addoli, Er maint oedd ei dlodi a'i lwmdra, Fe wnaeth Duw i Seren, mor ddisclair a'r haul-wen, I 'w * 1.288 waitio yn yr wybren isela.
Daeth hefyd wŷr doethion, † 1.289Astronomers mawrion, Brenhinoedd o galon Caldea, Pob vn ar ei ddaulin, i addoli 'n ei rwymyn Ei Duw a'i Brenin arbenna.
Tair * 1.290 anrheg rhagorol, yn gweddu 'n berthnassol, I swydde neillduol Messia, Offrymsont hwy hefyd i 'r Brenin bach hyfryd, Aur, Thus peraroglyd, a Myrra.
Daeth hefyd Angelion, i † 1.291 faneg i ddynion, Mae ef oedd yr vnion Fessia, A 'r Ceidwad, a 'r Prynwr, a 'r vnig Jachawdwr, Addawse 'n Creawdwr o 'r cynta.
A 'r nefoedd, agorodd a 'r ddairen oleuodd, A 'r Angel a lefodd yn lewa, † 1.292Gloria in excelsis, Pax et in terris, Pan ganed Prins happys * 1.293 Europa.
Y gollsom yn wallus, drwy Efa drachwantus, Yn ddigon anhappus o 'r cynta, Ni gawsom drachefen, ond gwych oedd y fforten, Pan ganed y bachgen Messia.
I ddattod gwaith Satan, i groesi flin amcan, A'n cynnull o'i gorlan dywylla, Y daeth Christ ein Harglwydd, o'r nef yn ei vnswydd I'n cadw rhag gwradwydd a phoenfa.
Gan gymmaint oedd cariad y grasol vcheldad, Tu ag attom blant anllad hên Efa, Fe rows ei anwylyd, i grogi 'n anhyfryd, I brynu ein bywyd o boenfa.

Page 48

A chymmaint oedd cariad Christ attom yn wastad, Eu frodyr tra irad eu poenfa, Ac y rhoei ynte 'n danbaid ei fywyd a'i enaid, I farw dros ddefaid ei borfa.
Yr Ange haeddasom, fe'i ralwys ef drosom, A 'r dyled adawsom heb gwpla: * 1.294Ein scrifen fe dorrwys, a'r fforffed fe dalwys, A'n pardwn fe'i prynwys o'r pritta.
Gwaed gwerthfawr ei galon, ai fywyd gwyn gwirion Offrymmwys ef droson yn fwyna, Yn aberth ir Drindod, trwy gwilydd a dannod, Yn † 1.295 rhanswm dros bechod pwy bynna.
Duw dâd a ddad-ddigiwyd, a'n rhanswm y dalwyd A 'n pardwn y selwyd yn suwra: Christ a'i pwrcassodd, â'i fywyd fe'i prynodd, A 'r * 1.296 Bŷd a waredodd o'i boenfa.
Dros bechod yr holl fyd, offrymmwysê ei fywyd, I prynu o'i penyd a'i poenfa: Os yndo y credwn, mae 'n suwr i ni bardwn, Heb † 1.297 ddansher o ddwnshwn Gehenna.
Cans Satan orchfygwyd, ac Angeu gongcwerwyd, Ac vffern y speilwyd yn † 1.298 spwylfa: * 1.299Eneidie plant dynion, o grampe 'r gwir duon, Y gariodd y gwirion Fessia.
Adda a'n taflwys, i vffern heb orphwys, O bei llan Baradwys esmwytha: Christ ynte a'n cododd, o vffern i'r nefoedd, I orphwys yn llysoedd Jehofa.
Cans dymma 'r oen tirion y ladde 'r Iddewon, Etifedd gwynn gwirion Jehofa, Dymuniad tra hyfryd cenhedloedd yr holl fyd, Eu comfford a'u Iechyd gorucha.

Page 49

A thymmal'r Maen siccir, wrthode 'r Adeilwyr, Maen tramgwydd, craig rhwystyr Judea: Ein Perl a'n Prins ninne yr holl genhedlaethe, Christnogion † 1.300 sy 'n adde 'r Messia.
Er bôd ein pechode' heb fessur na phwyse, An brynti fal pentre Gomorra: Etto os credwn, a gwella tra gallwn, Fe bayr i ni Bardwn y bara.
Vn droppyn sancteiddlon, o wir waed ei galon, All olchi 'n hôll ffinion ddiffeithdra; Pe baent hwy cyn goched â'r Pwrpwl neu'r scarled, A'u gwneuthur cyn wnned ar Eira.
Weithian os credu a wnawn ninne i'r Jesu, A chwympo i wasnaethu e'n vfydda,* 1.301 Fe ddug ein eneidie, i'r nef lle mae ynte, I ganu hôll * 1.302 hymne Jehofa:
Lle mae mwy hyfrydwch, a nefol † 1.303 rhialtwch, Llawenydd a heddwch o'r hwyn, Nag allo clûst glywed, na llygad i weled,* 1.304 Na chalon ystyried pwy bynna.
Moliannwn gan hynny, ag eitha o'n gallu Ein prynwr Christ Jesu anwyla, Am brynu 'n eneidie, drwy chwerw loes ange, O vffern a'i phoene diffeitha.
O molwn ni 'n wastod pôb Person o'r Drindod, Mewn vndod mar barod er Adda, I'n tynnu mor rasol, o'r carchar vffernol, I fyw yn y nefol orphwysfa.
Ac felly † 1.305 crechwennwch, a gwir orfoleddwch, A chenwch, a seiniwch Hosanna, I Dduw yn 'r uchelder, i'r ddaiar Esmwythder, I ddynion y mwynder o 'r mwya.

Page 50

O gofyn rhai yn vn-lle, pwy wnaeth hyn o hymne, Er cofio mawr donie 'r Messia? Bugail eglwysig, o galon garedig, At ddefaid cadwedig Jehofa.

Christ a arwyddocawyd wrth y Sarph bres.

Y Sawl y frathwyd gan y * 1.306 ddraig, Dewch at Grist Jesu, hâd y wraig: Fe drîn y brâth, fe dynn y colyn, Fe rwym y ddraig, fe siga ei chobyn.
* 1.307Rym ni bôb rhai gwedi 'n brathu, Mae col pechod gwedi 'n gryddfu: * 1.308Ni all ond Christ ein helio, Fe yw 'r Sarph bres, craffwn arno.
Craffwn ar Ghrist a groes-hoeliwyd, * 1.309Fel y craffei 'rhai a frathwyd, * 1.310Ar y Sarph bres yn y diflaith, Fe â 'r loes a 'r gwenwyn ymmaith.
* 1.311Os edrychwn arno yn brûdd, A chalon donn, â llygad ffydd, Er i'r Sarph, â'i chol ein clwyfo, Fe 'n Jachâ, ond edrych arno.
Oni ddewn at Grist ar fyrder, I gael help, rhag brâth y wiber, Nid oes Meddyg yn yr holl-fyd, Ond Mâb Duw all cadw ein bywyd.

Page 51

Crist a arwyddocawyd wrth yr Oen pasc.

CHrist yw oen y pasc, a'n haberth,* 1.312 Christ yw'n hoen, a'n hoffrwm prydferth,* 1.313 Oen Duw, oen da, oen gwynn i gyd, Sy'n tynny ffwrdd bechodau 'r byd.
Christ yw 'r oen a laddwyd drosom, Christ archollwyd am y wnaethom,* 1.314 Ei waed gwerthfawr, (pan croes-hoeliwyd) Am ein beiau, a dywalltwyd.
Blîn a thôst, a thrwm ac irad, Poeni 'r oen, am feiau 'r ddafad, Lladd mâb Duw, ar flaen yr hoelion, Am bechodau meibion dynion:
Adda 'n bwytta falau pechod, Dannedd Christ yn goddei 'r ddingeod, Dyn yn pechu, Christ yn marw, Ble bu cariad o'r fâth hwnnw?
Och! Pa galon na thosturia, Chwippio Christ am bechod Adda, Lladd y Bugail am fai 'r defaid, Crogi 'r * 1.315 Prins i gadw 'r deilaid?
Gwerthu 'r Meistr i brynu 'r gweision, Lladd y mâb i gadw ei elynion, * 1.316Mwrddro 'r meddyg, brathu ystlys, Gael ei waed i helpu 'r clwyfys.

Page 52

Christ yw Pren y Bywyd.

* 1.317DEwch bôb rhai at Bren y bywyd, Dwch at Ghrist ein Prynwr hyfryd, Mwynhewch y ffrwyth, a chredwch yntho, Chwi gewch râs, a bywyd gantho.
Dymma 'r Pren y dynn y ddingcod, A 'r newyn dû, a 'r poen, a 'r pechod, A 'r melldith Duw, a'r loes wenwynig, Yddaeth o fwytta 'r pren gwarddedig.
* 1.318O! bwyttewch o'r pren yn rhâd, O 'r nêf y daeth, oddiwrth y Tâd, I 'n gyrru 'n Jach, i gadw 'n bywyd, I dorri 'n chwant, I roi i 'n Jechyd.
* 1.319Mae 'ffrwyth ê'n bêr, mae ddail yn Jachus, Mae flâs yn wêll nâ'r Manna melus: Ni all newyn byth, nac Angau, † 1.320Drwblo 'r dŷn y fwytto ei ffrwythau.
Christ yw 'r Pren, Oh! dewch bawb atto, Y ffrwyth yw 'r bywyd y sydd ynddo, Y dail yw 'r gair, a'i gyngor Jachus, Sy 'n bywhau yr enaid clwyfus.
* 1.321Dewch bôb rhai, sy'n slîn eu cyflwr, Dewch at Christ, ein gwir Jachawdwr, * 1.322Dewch i dderbyn grâs a Jechyd, Cymmorth, † 1.323 cynffordd, bawb o'r holl-fyd.
Dewn at y Pren, bwyttawn ei ffrwythau, Crynhown ei ddail, rhown wrth ein clwysau: Fe 'n gwir Jacha, fe dyrr ein newyn, Fe bair i'n fyw, dros fŷth heb derfyn.

Page 53

Christ sydd ôll yn ôll.

CHrist ei hun sydd ôll yn ôll,* 1.324 Yn cadw dŷn rhag mynd ar gôll, Nid nêb, nid dim, ond Christ ei hun,* 1.325 Y ddichon cadw enaid dŷn.
Christ sydd bob dim, sydd anghenrhaid,* 1.326 O flaen Duw i gadw 'r enaid, Ni fyn Duw ond Christ ei hun,* 1.327 Yn iawn dâl am enaid dŷn.
Christ yn vnig, Christ ei hunan, Christ heb neb, mewn rhan, na chyfran, Christ heb ddim, ond Christ ei hun, Yw vnig ceidwad Enaid Dŷn.
Christ yw 'n * 1.328 rhanswn, Christ yw 'n haberth, Christ yw 'n hoffrwm, Christ yw 'n cyfnerth, Christ yw 'n Tryssor, Christ yw 'n golyd, Christ yw 'n gwir jachawdwr hefyd.
Christ sydd gyflawn o bôb doniau, Anghenrheidiol i'n heneidiau, Mae pôb peth yn Ghrist ei hûn, Ag sydd raid i gadw dŷn.
Christ ei hunan yw 'n cyfiawnder, A 'n Sancteiddrwydd, a'n gwir ddoethder,* 1.329 A 'n ymwared, a'n holl Bryniad, Christ yw 'n comfford, Christ yw 'n Ceidwad,
Christ heb ddim, ond Christ ei hunan Sy 'n dad-ddigio Duw yn fuan: Christ heb ddim, ond Christ yn vnig,* 1.330 Sy 'n cyfiawnu dŷn colledig.

Page 54

Christ heb help na Sant, na Santes, Christ heb gymmorth dŷn, na dynes, Christ heb nêb, ond Christ ei hun, Yw vnig geidwad enaid dŷn.
* 1.331Christ yn vnig 'ymdrabaeddodd, Yn y win-wryf panein Prynodd: Ni bu nêb o blant yr holl fyd, Yn ei helpu i gadw ein bywyd.
Ni wnaeth Peder ond ei wadu, Na'r Postolion ond * 1.332 difannu, Ni wnaeth Mair ond wylo 'n irad, Tra fu Christ yn chwhare 'r ceidwad.
* 1.333Ni ddûg nêb ond Christ ei hunan Bwys, a baich ein pechod aflan: Ni chwyssod nêb o'r gwaed yn ddagrau, * 1.334Ond mab Duw, dan bwys ein beiau.
Ni chroef-hoeliwyd ond Christ Jesu, Am ein pechod wrth ein prynu, * 1.335Ni bu nêb, ond Christ ei hun, Yn boddhau Duw, yn jachau dŷn.
* 1.336Ni bu neb ond Christ ei hunan, Yn ein dwyn o feddiant Satan, * 1.337Ni bu nêb yn lladd, yn llyngcu Angeu didrangc, ond Christ Jesu.
Christ ei hun y lyngcodd Angau, * 1.338Christ y Speiliodd awdurdodau: Christ y gwnnodd ein * 1.339 Bligassiwn, Christ y dalodd gwerth ein pardwn.
* 1.340Christ ei hun y wnaeth ein heddwch, Christ y brynodd ein dedwyddwch, Christ a'n gwnaeth yn feibion Duw, Christ a'n cadwodd † 1.341 oll yn fyw.

Page 55

Christ ei hun y wnaeth y cwbwl, Y dynnodd Enaid dŷn o'i drwbwl: Nid nêb, nid dim, ond Christ ei hun, Dan Dduw, y gadwodd enaid dŷn.
Ni bu Angel, ni bu Brophwyd, Ni bu Sant, na dyn a agwyd, Ni bu nêb, ond Christ ei hun, Yn gweithio iechydwriaeth dŷn.
Ni fyn Duw na chymmorth Angel, * 1.342Cyfrwng Sant, na'i draul, na'i drafel, Gwaed Merthyri, na gwaith dynion,* 1.343 Ond gwaith Christ i gadw Cristion.
Christ yw'r iawn sydd am bôb pechod,* 1.344 Jawn amgenach ni all tygfod* 1.345: Ni fyn Duw am bechod drewllyd, Jawn sydd lai nâ gwaed ei Anwylyd.
Na ddôd waed na gweithred vn dyn, Gydâ gwaed dy Brynwr purwyn: Ni chytuna trech di byw, Waed pechadur a gwaed Duw.
Gwaed y Jesu, gwaed y cymmod, Ydyw 'r gwaed sy'n golchi pechod:* 1.346 Ni all gwaed yr holl Ferthyri,* 1.347 Olchi ffwrdd y lleia o'th frynti.
Nid gwaith Saint, nid gwaith Angelion, Ydyw cadw enaid Cristion: Gwaith ein prynwr Christ yn vnig, Sydd yn cadw dŷn colledig.
Gwaith dwy nattur mewn vn person, Sydd yn cadw enaid Christion: Rhaid ein prynwr, Duw a Dŷn, Weithio 'r gwaith cyn cadwer vn.

Page 56

* 1.348Nid gwaith Duw na dyn lleilluol, Ond gwaith Duw a dyn cyssylltiol, O ddwy nattur mewn vn person, Sydd yn cadw enaid Cristion.
* 1.349Rhaid i'th Brynwr fôd yn Dduw, Ac yn ddŷn, (er dolwg clyw) Cyn y galler cadw d'enaid, Nai ryddhau o'i boen afrifaid.
* 1.350Rhaid ei fôd e'n Dduw galluog, I ddadd-ddigio d' Arglwydd llidiog, Ath ryddhau o feddiant Satan, Ath elynion fawr a bychan.
Rhaid ei fôd e'n ddyn di-frychau, * 1.351I gael marw dros dy feiau, A'i farwolaeth yn cystadlyd, A marwolaeth pawb o'r holl-fyd.
Nid oes yn y nêf na'r ddaiar, O 'r fath brynwr perffaith hygar, Ond y Gair y wnaed yn gnawd, Jesu Grift ein Duw a 'n brawd.
Nid oes nêb gan hyn y ddichon, Gadw enaid vn rhyw gristion, Ond y prynwr mawr Christ Jesu, Duw a dŷn, a fu 'n ein prynu.
Nid oes icchydwriaeth ddiwall, Inni gaffel mewn nêb arall, Ond y gaffom yn Grist Jesu, Rhwn ordeiniodd Duw ein prynu.
* 1.352Nid oes Enw dan y nefoedd, Gwedi roddi inni 'r bobloedd, All ein gwneuthur yn gadwedig, Onid Enw 'r Jesu 'n vnig.

Page 57

Ni fyn Duw, ond Christ ei hunan,* 1.353 Ni fyn Duw vn * 1.354 partner aflan, I gydweithio gyda'i Anwylyd, Yn y gwaith sy'n cadw'r holl-fyd.
Ni fyn Mâb Duw nêb yn Bartner,* 1.355 I gydweithio gwaith dau hanner, Yn y gwaith o'n jechydwriaeth: Nid nêb teilwng, o'i gwmpniaeth.
Fe fyn naill a bôd yn hollol, Yn jachawdwr idd ei bobol, Neu na fwro byth ynghyd, A chreadur fy'n y bŷd.
Ni fyn Christ roi i Sant nac Angel, Dŷn na delw o vn fettel,* 1.356 † 1.357Bart na pharsel, rhan na chyfran, O'r gogoniant sy 'ddo ei hunan.
Or bydd vn rhyw ddŷn mor angall, Ag ymofyn Ceidwad arall, Cymred hwnnw yn Achubydd, A gadawed Ghrist yn llonydd.
Ceisied eraill Saint a delwe, A'i gwaith gwael i gadw eu 'neidie; Ni chais f'enaid archolledig, Geidwad byth ond Christ yn vnig.

Cynghor i Bechadur i ddyfod at Jesu Grist.

† 1.358DEre hên Bechadur truan, Dere at Grist trwy ffydd dan riddfan: Mae Mâb Duw yn d'alw atto, Od yw pechod yn dy flino.

Page 58

Christ ei hun sy'n galw arnad, * 1.359Christ sy 'n erchi itti ddwad; Christ sy 'n cynnig dy * 1.360 reffreshio, Os trwy ffydd y doy di atto.
Dere at Grist er maint yw'th drossed, Dere er cynddrwg oedd dy fuchedd: Dere ym-mhryd, cais gymmorth gantho; F'all dy gadw 'r awr y mynno?
Er dy golli 'n * 1.361gwitt yn Adda, Er ir cythrel câs dy ddala, Er it ddigio Duw yn danllyd; Cred yn Ghrist, fe geidw'th fywyd.
Er dy ennill mewn anwiredd, * 1.362Er it fyw mewn aflan fuchedd; Dere at Grist, cais gymmorth gantho, * 1.363F'all dy olchi a'th ail greo.
* 1.364Er dy fod ti 'n elyn Duw, Wrth naturiaeth ath ddrwg ryw; Cred yn Ghrist, fe'th wna o elyn, * 1.365Ith nefol dâd yn anwyl blentyn.
Er dy fod ti 'n slâf i Satan, * 1.366Ac yn wâs caeth yn ei gorlan; Cred yn Grist, fe'th dynn o'i grampeu, Fe'th ddwg o'i dywyll gell ir goleu.
* 1.367Er dy fod ti 'n haeddu 'th ddamnio, Ath droi i vffern i'th boenydio; Cred yn Ghrist fe'th ddwg ir nefoedd, I glodfori 'r hwn ath Greuodd.
Er dy fod ti megis * 1.368 rhebel, Gwedi'th droi O sant yn gythrel, Cred yn Ghrist, bydd vn oi blant, Fe'th dry o gythrel etto yn sant.

Page 59

Er dy fod ti 'n ddŷn damnedig, Yn hên Adda ein tâd gwenwynig;* 1.369 Cred yn Ghrist fe'th geidw etto, Er i Adda hên dy damno.
Er i Satan * 1.370 entro i'th lettu, Ai orescyn heb ei nadu; Cred yn Ghrist, fe ddwg ei arfau, Fe dry Satan dros y trothau.
Er ir lladron speilio d'enaid, A'th archolli yn dra embaid; Cred yn Ghrist y gwir Samariad, Fe iacha d'archollion desprad* 1.371
Er ir danllyd sarph dy frathu, A'th wenwyno nes dy nafu; Cred yn Ghrist, fe ddofa 'r poen, Fe iacha 'r clwyf â gwaed yr oen.
Er it fynych gyfeiliornu,* 1.372 Megis dafad gwedi cholli; Cred yn Ghrist, fe ddaw yn fuan, O'r nef i'th droi o'r gors ir gorlan.
Er it bechu fîl o weithie, Er it haeddu cant diale, Cred yn Ghrist, ti gei faddeuant,* 1.373 Am dy bechod oll a'th drychwant.
Er bôd lliw dy fai cyn goched,* 1.374 Ac yw'r pwrpl côch neu 'r scarled; Cred yn Grist, trwy waed fe'th olcha, Nes bech di mor wynn ar eira.
Er bôd dy feie mewn rhifedi, Yn fwy nâ gwallt dy ben o gyfri;* 1.375 Cred i'th Brynwr, Duw a dŷn, Fei maddeu itti bôb yr un.

Page 60

Cymmer gyssur, cwyn dy galon, Cred yn Ghrist dy Brynwr tirion; Edifara am dy frynti, Christ a fydd yn Geidwad itti.
Mae Christ i'ch wawdd, mae Christ i'th alw, Mae Christ i'th gymmell atto 'n groyw: * 1.376Pam y byddu marw 'n irad, Eisie dwad at dy Geidwad?
* 1.377Christ y ddaeth o'r nefoedd auraid, Ir bŷd i gadw pechaduriaid: Ei swydd, ai grefft, ai waith yn vnig, Yw cadw eneidiau rhai colledig.
* 1.378Dŷn colledig ydwyt tithe, Fel y mae pawb o honom nine: Pam na ddoy tra fytho 'n galw, At dy Geidwad Christ, i'th galw?
* 1.379Nid yw'th bechod ddrwg ddyn angall, Fwy nâ phechod Saul neu arall: Fe gâs Saul saddeuant gantho: Dithau cei os credu yntho.
Nid yw'th bechod fwy nag allo, Christ eu maddeu ai * 1.380 deleuo, Na'th holl feie, nath holi frynti, Fwy nag allo Christ eu golchi.
Ni all Satan byth dy lygru, Fel na allo Christ dy helpu, Na'th ddifwyno, gwnaedd ei waetha, Fel na allo Christ dy wella.
* 1.381Christ all wneuthur heb fawr drafel, Oen o flaidd, a Sant o Gythrel, Hên ddŷn aflan, 'yn ddyn fyw, A dŷn ir fâll, yn ddŷni dduw.

Page 61

Ni wnaeth Christ ond galw ar Zache,* 1.382 Ai droi 'n Sant, ar hynny o eirie: Fe'th dry dithau 'n oen os myn, O lwdwn dû yn llwdwn gwynn.
Duw galluog ydyw Christ, Yn maddeu beiau 'r truan trist, Yn newid naws, yn gwella nattur, Yn dattod gwaith y diawl, heb rwystyr.* 1.383
Hôll-alluog yw dy Brynwr, F'all * 1.384 reparo gwaith y temptiwr: F' all ei daflu beunydd allan, O galonnau 'r bobol aflan.
Pe bae saith rhyw gythrel ynod, Pyt fae leng tu fewn ith gaudod;* 1.385 Fe try Christ hwy ôll fel cilion, Ar gair cynta, 'maes o'th galon.
Nid oes grym gan vn creadur, * 1.386Hindro gwaith dy Brynwr pryssur: Ni all dŷn na diawl ei rwystro, Roi 'ti râs, os credu ynddo.
Nid oes dŷn yn Grist yn credu, Na bo'n cael grâs i difaru,* 1.387 Ac i wella ei fuchedd beunydd, Nes yr elo 'n ddŷn o newydd.
Ni ddaeth dŷn i geisio g âs, At fab Duw erioed, nas câs,* 1.388 Nac i * 1.389 segian cymmorth gantho, Nas rhows Christ e'n ebrwydd iddo.
Dere dithe, cais râs gantho, Nîd ith bechod brwnt dy rwystro: Ni ddaeth Christ i gadw enaid,* 1.390 Ond eneidiau pechaduriaid.

Page 62

Ni ddaeth Christ i gadw o ddifri, Ond y rhai oedd gwedi colli: Swydd a chreffc mab Duw yn vnig, Ydyw cadw rhai colledig.
† 1.391Dere dithe 'n fuan atto, Mae 'n dy gathrain, mae 'n dy gyffro: Dere atto, cred yn vnig, Fe wna Christ di'n ddyn cadwedig.
Duw rô grâs i tithe ddwadd, Yn ddi-aros at dy Geidwad, Trwy ffydd fywiol a difeirwch, I gael gan Grist râs a heddwch.

Cynghor arall i Bechaduriaid i ddyfod at Jesu Ghrist.

DEwch bawb sydd drwn lwythog gan bechod a bai, Dewch at'eich Jachaw dwr, sydd eich gwawdd chwi bob rhai, I laesu'ch trwm lwythau a'ch blinder a'ch cryd: Mae 'n addo 'ch * 1.392 reffreshio, dewch atto mewn pryd.
Dewch bawb at eich Ceidwad, a'ch Prynwr a'ch Pen, A'ch Brenin a'ch Prophwyd, a'ch ffeiriad a'ch llen, A'ch Meddyg, a'ch Bugail, a'ch Castell a'ch Craig, A'ch vnig Jachawdwr, Concwerwr y ddraig.
Dewch bawb at Ghrist Jesu syn gwawdd pawb mor fwyn I ddwad hyd atto i wneuthur eich cwyn: Ond dangos eich dolur, bid ef fawr, bid ef fàch, A deisyf ei gymmorth, * 1.393 fe'ch hela 'n holl iâch.
Fe'ch dad-ddrys och dryssweh, fech gwna yn wyr rhydd Fe dâl eich holl ddyled, fe'ch cymmorth yn brydd, Fe laesa 'ch trwm lwythe, a'ch dagrau fei sych, Fe gweiria 'ch archollion, fe 'ch gwna chwi'n holl wych.

Page 63

Fe wna heddwch rhyngoch a'r Barnwr ei Dâd, Fe fyn i chwi bardwn, trwy bridwerth ei waed, Fech dug chwi drachefen mewn Ffafar a Duw, Fech cadw mewn cariad, tra fyddoch chwi byw.
Fech gylch och pechodau â'i waed bob yr vn,* 1.394 Fe essyd byth ynoch ei yspryd ei hun, Fech gwna chwi yn feibion, yn ferched iw Dad, A chyd-etifeddion, oi Deyrnas yn rhad.
Fe droeda 'ch gelynion, fei teifil ir llawr,* 1.395 Fe ddug eu holl arfau, fei † 1.396 dylud fel Cawr, Fe dynn eu holl gryfder, fe ddadraidd eu nyth, Fech gwna yn gongcwerwyr ar Satan dros fyth.
Pe gwyppech blant dynion, mor dost ydyw 'ch cas, Ach cyflwr colledig heb nerth Duw a'i Ras, Ni chyscech, ni fwyttech, nes dyfod at Ghrist, I wella 'ch tost gyflwr, â chalon drom drist.
Beth 'ym ni rhai goreu, wrth nattur a rhyw? Ond plant i'r digofaint, heb gyfnerth mab Duw, A gweision i bechod, a slafiaid i'r fall, A thanwydd i uffern, plant Angeu di-ball.
Mae pawb gwedi nyrddo gan bechod, och! och! Cyn ddued a'r * 1.397 Moyrys, cyn frynted a'r môch: Rhaid dyfod at Jesu i newid ein grân, A goichi 'n haflendid, cyn gwneler ni 'n lân.
Fe wnaeth yr hen Adda ni 'n elynion i Dduw, Yn blant i'r digofaint heb ddim modd i fyw: Rhaid dyfod at Jesu i'n cymmod' â'i Dâd, Cyn gwneler ni 'n ferbion, trwy fabwys a rhâd.
Fe dynnodd y Gelyn bob dyn idd ei rwyd, A'r fale gwarddedig, trwy wall Efa lwyd: Ni thorrir o'r groglath, ni'n tynnir ni maes, Nes tynno 'r hael Jesu, â'i Rym ac â'i rs.

Page 64

Mae 'n henaid fel dafad yn Safan y blaidd, Ynghrafangc y Gelyn, a diangc nis baidd: Rhaid cymmorth y Bugail, Christ Jesu a'i râs, Cyn tynner vn enaid o'i grafangc i maes.
Mae 'r Angel dinistriol goruwch ein tai, * 1.398Yn ceisio 'n destrywio, waith cymmait yw'n bai: Rhaid iro 'n * 1.399 cynnorau, â gwaed un mab Duw, Cyn † 1.400 passo 'r fall heibio, na'n gadel yn fyw.
Mae holl blant dynion dan feddiant y fall, Mewn * 1.401 dwngwn ddû, tywyll, yn gorwedd yn ddall, Wrth gadwyn o bechod, nes delo mâb Mair, In tynny o'r dwngwn â'i râs ac â'i Air.
Ni thynnir dyn allan o deyrnas y fall, A'r pechod lle herys, gwnaed pawb ore ac all, Nes rhwymo Christ Satan, tryw gryfder a fôrs, A thynnu dyn allan, fel nifel or gors.
Mae pawb mewn tywyllwch, wrth nattur yn byw, Dan gyscod yr angeu, heb nabod o Dduw; Mae'n rhaid i Ghrist Jesu 'n goleuo â'i râs, An tynnu o'r twllwch, cyn deler i maes.
* 1.402Mae pechod mor sarnllyd, mor ddrewllyd, mor grai, Yn nyrddo, yn nafu, yn * 1.403 ffecto pôb rhai: Ni olchir, ni thynnir, ni flottir i maes, * 1.404Nes golcho Gwaed Jesu; mae frynti mor gâs.
* 1.405Mae pechod fel mynydd o blwm ar ein gwarr, Mae'n gwascu cyn drwmedd nes plygo pob garr: Fe'n hela trwy'r ddaiar i uffern yn grwn, * 1.406Oni ddawn at Grist Jesu i laesu 'r fath bwn.
Mae'r fâll fel gwr cadarn, yn arfog heb grûn, Yn cadw gorescyn o galon pôb dŷn, Ni ddichon yr holl-fyd ei daflu o'i * 1.407Blâs Nes delo Christ attom i † 1.408dwmblan e'i mâes.

Page 65

Mae 'r fall gwedi 'n clwyfo a'n brathu bôb rhai, Mae 'n harcholl yn rhedeg, bôb amser heb drai: Ni ddichon un meddyg dan Haul ein Jachau, Nes delo Christ attom âi waed i'n glanhau.
Fe ddygodd y Gelyn ein trwssiad a'n grâs, Fe'n gadodd yn groen-llwn, yn noeth, ac yn gas: Dewn at ein Brawd hyna, Christ Jesu bôb un, Fe guddia 'n holl noethder † 1.409 acirc;'i ddillad ei hun,
Mae pawb gwedi marw mewn pechod bob prŷd, Heb bwer i wneuthur daioni 'n y bŷd, Nes delo 'r Bywiawdwr Christ Jesu i'n bywhau;* 1.410 An codi o bechod, ac felly 'n cryfhau.
Dewch at y Sarph efydd, dangosswch eich clwyf, Lle brathodd y neidir chwi 'n fynych trwy nwyf, Edrychwch yn graffys ar Grist ar y groes, Fe rêd yr holl wenwyn; fe ddofa 'r holl loes,
Dangoswch eich dolur ich Prynwr heb aeth, Ni bu dan y nefoedd un Meddyg o'i fâth; Pob archoll, pob dolur, pob pechod, pob crach, A phur waed ei galon, fei gyrr yn holl Jach.
Ni ddichon nac eli, na † 1.411 metswn, na maeth, Na † 1.412 phisic, na phlastr, na llysie, na llaeth, Na dim ag a enwer, ond Gwaed Jesu Ghrist, Jachau archoll pechod, mae'r archoll mor drist.
Mae llawer all hela cornwydon yn Jâch, Ar frech-fawr, ar cryge, ar claf-gwan, a'r crach▪ Ni ddichon meddygon y byd cymain un, Jachau archoll pechod, ond mab Duw ei hun,
Ni ddichon Angelion, er amled o'u rhif, Er cymmaint o 'u cryfder er cystal o'u † 1.413 brif, Gadw un enaid, rhag myned ar goll, Nes cadwo Christ Jesu, ein helpwr ni oll.

Page 66

* 1.414Ar Saint a'r Saintessau, pyt faint oll yng hyd, Er amser hên Adda, byd ddiwedd y byd; Ni allent hwy gadw un enaid traent byw, Rhag myned i vffern, heb gymmorth Mab Duw.
* 1.415Pa rhoddit ti 'n offrwm nifiliaid y byd, Afonydd o olew, a'th olud i gyd, * 1.416A'th gyntaf-anedig, a'th fywyd, a'th waed, Ni chedwit ti d'enaid heb help y mab rhâd.
Pa chwilit ti 'r nefoedd, a'r ddaiar yng hyd, A'r awyr, a'r moroedd hyd ddiwedd y byd, Ni ellit ti ganfod, tra fyddyt ti byw Vn Ceidwad i'th enaid, ond vnic Mab Duw.
Nac vmgais am Geidwad heb-law Christ ei hun, Mae 'n Geidwad galluog, yn Dduw ac yn ddyn, Nd oes jechydwriaeth (nac enw dan nef) I gael mewn neb arall, ond sydd ynddo ef.
Ni chedwir vn enaid o'r oes hon y sydd, Na'r oesoedd y bassodd, na'r oesoedd y fydd, Ond vnig eneidie y gatwo Mab Duw, Y rhest eisie credu y gollir bob rhyw.
Ymafel yn dy Brynwr, yn Ffest â llaw dy Ffydd, O mynny gael dy gadw, dal d'afel yntho 'n brŷdd, Na choll oth afel arno, nes caffech rym a gras, Oddwrtho i gadw d'enaid, a byth bod iddo 'n was.
Na'mddiried ith weithredoedd, nath ddysc, nath dda, nath ryw, Ni all dim gadw d'enaid, ond Ffydd yn vn mab Duw: O rhoi d'ymddiried yntho, ni chollir denaid byth, Heb Grist os ceisii gadw, di colli ef dros fyth.
Mae pawb o feibion dynion, er Adda hyd diwedd byd, Oan bechod gwedi llydru, a'u damnio bawb yng-hyd: Ni chedwir vn o honynt, rhag Ange ac vffern drist, Gwnaed pawb y gore ag allont, nes cadwer hwy gan Grist.

Page 67

Dewch bawb gan hynny 'n gyfan, at geiwad yr holl fyd I gadw eich trist enedie, y gollwyd ôll yng-hyd: Yr vn a ddelo atto fe'i dûg ir nefoedd wen, Yr vn a beido dwad, fâ i vffern ar ei ben.
Na fydded neb mor angall, mor ddwl, mor ddal, mor ffô, A throi oddiwrth y Ceidwad, sy'n galw yn eich hos, Ni ddiangc neb rhag angeu, ni ddringad vn ir nef, Ni bydd un dyn cadwedig, nes caffo ei gymmorth ef.
Ni chedwid Noe, na Daniel, nac Abram, Jôb, na Phawl Na Mair, nac Ann, na Martha, na neb orwydau'r Diawl, Na'r plentyn newydd eni, nac vn o eppil dyn, Trwy nerth a'u gallu hunain, ond trwy nerth Christ ei hun:
Ni chedwir neb tro ganto, O hyn hyd diwed byd, Ond y rhai gadwo 'r Jesu, mae pryniad dyn mor ddryd: Ni fyn y Barnw cyfion syrhâd am bechod dyn, Lai nag ange gwerthfawr, 'a gwaed mab Duw ei hun.
Gan hynny ofer ceisio, help Angel, Sant na dyn, Na phardwn Pab, na Feren, i gadw enaid vn: 'Does dim ag aller enwi, beth bynnag fytho i ryw, All cadw enaid Christion, ond angeu un mab Duw.
Ni Chymmer Duw'r dialau, iawn lai am bechod dyn, Nag angeu holl blant dynion, neu angeu'r cyfryw un Y sae â'i Angeu cystal, ac Angeus pawb or byd, Nid oes un Angeu felly, ond Angeu'r Prynwr dryd
Ni ddichon neb foddloni cyfiawnder Duw wrth byn, Heb angeu ac vsydd-dod, ein Prynwr Jesu gwynn: Y neb ni cheisio ei gymmorth, er cymmaint a fo'i scil, Ni bydd e'n abl atteb, i Dduw am un o fiil.
Mae rhai yn credu gallant, trwy gwaith ai gweddi 'hun, Ai hympryd ai cardodeu, wir haeddu cymmain un, Gael diange poeneu vffern, a dringad chwhip ir nef, Heb help y gwir jachawdwr, Ffei, ffei, beth wnant ag ef.

Page 68

Ond pan fo rhain yn tybied, y dringant uwch y Sêr, I uffern boeth y cwympant, lle syrthiodd Luciffêr: Yn uffern y cant weled, heb Grist ni ddichon dyn, Fynd byth i deyrnas nefoedd, trwy rym ai allu hun▪
Ni ddichon un dyn hae ddu, trugaredd ar lawDduw, Ni bu rioed arno ddlyed, ni bydd byth tra fo byw: Mae pawb yn rhwym ei 'ddoli, ai foli ag uchel lef, Heb ddlyed arno er hynny, pawb yn ei ddlyed ef.
Ni ddichon gweddi un dyn, nai cardod o un rhyw, Nai hympryd nai difeirwch, fodlonir cyfiawn Dduw, Nes darffo i Grist yn gynta, Gymodi 'r dyn ai Dâd, A golchi a Sancteiddio, y weithred dda â'i waed.
Mae'n rhaid i Grist ail greo, pechadur ar ei lun, Ai droi 'n greadur newydd, ar ddelw Duw ei hun, A newid ei feddyliau, ai raen, ai rym ai ryw, Cyn gallo dyn feddiannu, na gweled teyrnas Dduw.
Maen rhaid i Grist heddychu, rhwng dyn a Duw ei Dad, Ai olchi oi bechodau, trwy rym ei werthfawr waed, Ai wisco âi Sancteiddrwydd, âi holl rinw eddau hun A dodi ysbryd yndo, cyn galler cadw 'r dyn.
Mae 'n rhaid i Grist ein gwared, o law a gallu 'r fâll, Sy'n cadw mewn cathiwed, mewn carchar tywyll dâll, Ynrhwym ein traed an dwylo, mewn cadwyn pechod câs Ynglyn a chyscod angeu, cyn delom byth i maes.
Mae 'n rhaid i Grist ddiarfu, y fâll sy 'n cadw llys, Ynghalon pob pechadur, ai rwymo 'n ffast âi fŷs, A 'i daflu o'i neuadd allan, a chadw 'r llŷs ei hun, Cyn elo 'r fâll o'i gastell, na'r ddraig o galon dyn.
Mae'n rhaid i Gist ein gwneuthur, yn blant i Dduw ei dad A'n hadgenhedlu 'n feibion, trwy fabwys prudd a rhâd, A'n gwneuthur yn 'tifeddion, ir holl alluog Dduw, Cyn gallom gael paradwys, er cystled y fom byw.

Page 69

Mae'n rhaid i Ghrist ein tynnu, o bob trueni mâs, O rwydau 'r fall uffernol, a gwefleu 'r angeu glâs A'n gwneuthur yn gyfrannog, o Ffafar Duw ai râd, Cyn gallo neb feddiannu, o'r deyrnas lle ma'i Dad.
Amhossib yw gan hynny, i un rhyw fath o ddyn, Feddiannn teyrnas nefoedd, trwy rym ai allu hun, Na diangc o law Satan, a gweflau 'r ange glâs, Na dial Duw ai felldith, heb gymmorth Christ ai râs.
O bwedd i diangc vn dyn, rhag dial Duw a'i fâr? Rhag melldith drom y gyfraith, rhag carchar pechod taer, Rhag gallu prins tywyllwch, rhag dannedd ange trist, Trwy nerth a'i rym ei hunan, heb gymmorth Jesu Grist.
Ma'n rhaid i ninne 'r dynion * 1.417 repento â chalon brûdd, A chredu'n Ghrist ein ceidwad, trwy wîr a bywiol ffydd A pheunydd wella'n buchedd, trwy nerth ei yspryd ef, A bôd yn bobl newydd, cyn dwcco Christ ni ir nef.
Dewn bawb gan hynny'n gyfan, at Grist ein ceidwad prûdd, Trwy alar a difeirwch, a gwir a bywiol ffydd: Yr vn a ddelo atto, fie dûg ir nefoedd wer, Ar dyn ae beido dwad, fa i vffern ar ei ben.

Cynhyrfiad i foli'r Arglwydd Jesu.

CYffredyn a bonedd, trowch heibio bôb maswedd A moeswch o'r diwedd gyttuno, Ar foli 'n garedig y bore Ddy 'n dolig, Ein Prynwr † 1.418 arbennig a'i gofio.
Pan gwnaeth Duw mor* 1.419gymmen y ddau-ddyn or ddairen Fe rhows hwy 'n y berllen i dario, I gymryd eu plesser, mewn heddwch a'smwytl der, O'r prenne melus-per oedd yo.

Page 70

Pan gwelodd ein Gelyn ni gyflwr y ddau-ddyn, Ai bôd hwy 'mor gyttun yn rhodio, Ar ddaiar mor ffrwythlon, yn rhoi iddynt ddigon, Heb drafel a'r ddynion lafurio.
Ac yno daeth Satan, mewn meddwl ac-amcan, Ar gaffel ymddiddan a hudo, Yn vnion at Efa fel llester o'r gwanna, A gadel hên Adda fynd heibio.
Be bwyttech ti dammed, or Afal goreired, Nad ydych yn beidded i * 1.420 dwtshio, Eich llygaid agore, chwi fyddech fel duwie; Fel dymma rhinwedde sydd arno.
Yr Afal hi gymrodd, a'r tammaid hi bwyttodd, Ac Adda ni pheidiodd a'i * 1.421 dasto, Nes caffel ansmwythder (ond ydyw 'n bethsceler) Yn dâl am y † 1.422 plesser aeth heibio.
Hw y aethant eill * 1.423 dauwedd, oblegid eu balchedd, Yn euog o'r diwedd boenydio, A ninne lin olin, sy'n dyfod o'r greiddyn, Heb allel ond i disyn nhwy yno.
Pan gwelodd Dow cyfion y † 1.424 poene mor greulon, A ninne mor weinon yn * 1.425 singco, Rhows inni gyfryngwr, wrth weled ein cyflwr, Christ Jesu 'n Jachawdwr i'n swccro.
Hwn aned yn vnig y bore ddy 'n dolig; (Hwn ydyw 'r gwir Fedddyg iw gofio,) Mewn presseb anghymmen; ond gwych oedd ein fforten Pan cawsom fath Gapten i'n * 1.426 Ledio.
Dwy nattur neu rinwedd (heb gymmysc y sylwedd) * 1.427Sydd ynddo (heb ddiwedo iw cofio) Y Dudod, y Dyndod, ynghyd iw cydabod: Ac felly mae 'n gorfod * 1.428 conffesso.

Page 71

Mae Dduwdod cyn uchled a'i Dâd y gogoned, Pob amser i'w weled yn † 1.429 rhaino; Ai Ddyndod heb allel cyrhaeddyd mor vchel, Os credwn ni * 1.430 chweddel ein Credo.
Ond mawr oedd y cariad, pan rhodde 'r ucheldad, O fenyw 'r fath Geidwad i 'n swccro, Yn berffaith ddyn cnawdol, fel pob vn o'i bobol,* 1.431 Ond pechod yn hollol † 1.432 excepto.
Pan oeddem yn barod, oblegid ein pechod, I fynd i'r pwll isod i drigo, Mewn ffwrnes vffernol, a chystudd anfeidrol; Heb obaith † 1.433 ymwrthol oddyno;
Fe redodd yn feiche, fe selodd ein bande,* 1.434 Fe'n vnig a fedrei ddad-ddigio: Fe'n dygodd ni o'r gofyd, fe roddodd i'n rydd-dyd, Fe barodd i'n iechyd y baro.
Nid Aur o'r melyna, nid cyfoeth o'r India,* 1.435 Allasse bwrcassa * 1.436 pardino: Ond bywyd y plentyn, y gwir Dduw a'r gwir-ddyn, Da iawn ydyw mofyn am dano.
Trwy hwn y bodlonwyd, trwy hwn y dad ddigiwyd, Ac heb hwn ni allwyd ei * 1.437 blessio: Er mwyn hwn yn vnion, mewn bob rhyw anghenion, Y gwrendy pob Christion a geisio.* 1.438
F' offrymmodd ei hunan, yn Aberth bereiddlan; Rhag ofon i Satan * 1.439 gongcwero, Fe Sigoedd e o'i sowdwl, fe wnaeth wrth fy meddwl, Fe gadwodd y cwbwl a gretto.
Er bôd ein gweithred yn amal iw gweled,* 1.440 Mewn moddion afrifed iw † 1.441 cownto, O ddiffyg ffydd hynod, bôb amser yn barod, Nid ydynt ond pechod iw * 1.442 swmno.

Page 72

Trwyd ffydd yn diddenir, trwy ffydd yn perffeiddir, Trwy ffydd yn ennillir ni 'n † 1.443gyrdo: O râs trwy ffydd fywiol, medd Pawl yr Apostol, * 1.444Mae Christ yn ein dethol ni atto.
Ni cheisiodd vn bridwerth, gan vn dyn vn aberth, (Er cymmaint y cymerth ê i * 1.445blago) * 1.446Ond yspryd drylliedig, a chalon buredig; O dewch yn garedig i wrando.
* 1.447Trwy ffydd y derbynnwn, pob peth ag ofynnwn, Nid oes dim ag allwn ddymuno, Nas ceffir ond credu, yn hael gan y Jesu, Cans fe sydd a'r gallu lle mynno.
* 1.448Trwy-ffydd yngwaed gwirion, ein Prynwr gwynn graslon, Fe olchir ein beion, pan orffo, Rhoi cownt am ein gweithred, o flaen y gogoned, Ond iddo gael gweled † 1.449 repento.
O! byddwch yn addas, trwy fynych * 1.450 gymdeithas, A gwisc y briodas yn gryno, I fynd i'r llawenydd, ym-mhêll o'r aflonydd, Yn barod pan gorfydd † 1.451 apuro.
A byddwch fal Seinte, ag oel ich lanterne, Bob nôs, a phôb bore i'ch goleuo: Rhag dyfod y Priod, heb rybydd nac arsod, Mewn amser heb wybod i * 1.452 gnocc
* 1.453A gwnewch eich gwasaneth, i'r Drindod yn helaeth, Tra 'r dydd iechydwriaeth heb * 1.454 basso, Rhag dyfod tywyllwch; Rhysymol y gwelwch, Pryd hwnnw, ni ellwch mor gweithio.
Gweddiwch yn dduwiol, ar eich cadw'n ddihangol, A bôd yn wastadol yn effro: * 1.455Cans agos yw'r amser, medd Mathew dafod-ber, Fe orfydd ar fyrder ymado.

Page 73

O byddwch gariadus, wrth fodd Duw a'i wllys, Chwi gewch fôd yn ddilys yn * 1.456 rhaino, Mewn smwythder, dedwyddwch, llawenydd,* 1.457 llo∣nyddwch, A phethau na fedrwch ystyrio.
Nid oes yno glefyd, na thristwch, nac adfyd,* 1.458 Na gofal, na gofyd iw gofio; Ond * 1.459 miwsic pereiddlon, gan sanctaidd Angelion, Na ddichon vn galon fyfyrio:
Gan hynny blwyfogion, chwi gwympwch yn ffydd∣lon, O ddyfnder eich calon weddio, Ar Dduw o'i wir fawredd a'i amal drugaredd, Yno 'n dwyn ar ein diwedd i drigio.

Gwahoddedigaeth arall i foli Christ Jesu.

DEwch bawb yn garedig, yn ffres ac yn ffrolig, Y nawr y nadolig i foli mab Duw, A Psalms ac â * 1.460 Hymne, yn hwyr ac yn forè, Am gadw 'n eneidie rhag distryw.
Dewch, cenwch yn † 1.461 llafar, nes datsain y ddaiar, A dringad eich trwdar i'r trydydd nef, I gyffro 'r Angelion, i gyd-ganu â dynion, I Dduw am ei dirion dangneddef.
Pan na'lle na dynion, na Saint nac Angelion, Na dim daiarolion, mewn daiar na dwr, Ein cymmorth na'n helpu, fe helodd Dnw 'n prynu, Ei unic fab Jesu 'n Jachawdwr.
* 1.462Pwy Dâd y fae perchen deg pleutyn ar hugaen, Y rodde 'n aflawen y gwaetha iw ladd, Ar grog-pren echryslon, i gadw ei elynion Ai gyrrei yn greulon i ymladd?

Page 74

Duw nid arbedodd, roi'r vn mab a feddodd, Ar mwya a garodd o'r byd i gyd, I farw dros ddynion, ar grog-pren echryslon, * 1.463Pan oeddem elynion gwenwynllyd.
Gan hynny 'n enwedig, trwy wylie 'r nadolig, Rhown ddiolch caredig i'n cariadus Dâd, Am roddi mor rassol ei etifedd naturiol, I fôd i ni'n nerthol Geidwad.
A molwn yn nessa, â moliant o'r mwya, Fâb Duw gorucha, gwir Jechyd y byd, Am ddwad o'i fawredd o'i nefawl anrhydedd, I'n tynnu mor rhyfedd o'n gofyd.
O'r nefoedd orucha, o fonwes Jehofa, Daeth mâb Duw anwyla, yn olud ini, I gymryd ei ddyndawd, o Fair at ei dduwdawd, Ai wneuthur yn gyd-frawd inni.
I'r stabal anghymmen, o'r nefoedd ddisclair wen, I breseb yr vchen, o'l oruchaf lys, O blith yr Angelion, i gadw plant dynion, Y daeth yr oen tirion cariädus.
Mab Duw gorucha, Duw, 'r Gair mi a'i henwa, * 1.464Etifedd Jehofa, Duw, Mab y Duw mawr, Y wnaed yn ddyn cnawdol, o Fair yn rhefeddol, * 1.465I Achub ei bobol drallod-fawr.
Y Duw rhwn y greodd, nêf, daiar a dyfroedd, * 1.466Y Duw rhwn a luniodd, yr haul yn y nêf, Y wnaeth pwyd yn blentyn, yn fachgen, yn fwydyn A milwyr cyffred yn a'i laddef.
Dewn bob rhai gan hynny, clodforwn y Jesu, Ymrown bawb i ganu, gogoniant a mawl, Ar dafod ar danne, yn hwyr ac yn sore, I'n Prynwr mewn hymne nefawl.

Page 75

A galwn y nefoedd, a'r ddaiar a'r moroedd,* 1.467 A phawb o'r llubedd, sydd ynddynt, yn † 1.468 llonn, I gyd-ganu moliant, a chlôd a gogoniant, I Awdwr ein flyniant, ya ffyddlon.
Fel Sidrac o'r ffwrnes, fel Zachray o'i gyffes,* 1.469 Fel Miriam a Moses, ar lan y môr, Clodforwn y Jesu, y ddaeth i'n gwaredu, O'r ffwrn a'r carchardy * 1.470 catcor.
A throelwn ei wylie, er côf am ei ddonie, Y modd ac y gwedde,, i wyl Jesu gwyn, Mewn nefawl hyfrydwch, a duwiol ddifyrwch, A phrudd ddiolchgarwch gennyn.
Mae 'r Arglwydd yn erchi, i'n bawb fôd yn † 1.471 firi, A llawen a llonni, mewn llann ac mewn llys, Yn Awdwr ein heddwch, a Thád ein diddanwch, Trwy fôd ein difyrwch yn weddus.
Gan hynny 'n enwedig, y nawr ynadolig, A'r galon yn ffrolig, a'r wyneb yn ffres, Gwir orfoleddwch, yn Awdwr eich heddwch, Rhowch ymmaith bob tristwch anghynnes.
Trwssiwch eich Tie, hwyliwch eich bwrdde, A phob sir or gore, o gariad ar Ghrist: Gwahoddwch i gilydd, i gynnal llawenydd, Na chedwch ei wyl-ddydd yn athrist.
Cwnnwch eich calon, cymmerwch eich digon, Gwachelwch ormoddion, mae meddwi yn gâs: Na cheisiweh lawenydd, mewn diod a bwydydd, Ond yn eich Achubydd addas.
A chenwch trwy 'r gwylie dduwiol ganiade, Na sonniwch am senne, ar wylie 'n gwir Sant: Ond firiwch eich hunain, ar Fab Duw sy'n darllain Fôd yndo iw'ch gywrain faddeuant.

Page 76

Nac ewch ir tafarne, a'r aflan † 1.472 stywdeie, I lorian y gwylie, mae 'n gwilydd y gwaith: Amherchi Duw 'n prynwr, bodloni 'n gwrthnebwr, Mae 'r cyfryw â'i dwndwr diffaith.
Ymmaith â'r cardie, â'r dwndran, â'r dissie, A'r gloddest, â'r gwledde bair Christion yn glaf, A'r meddwdod a'r tyngu sy'n nyrddo a nafu, Nadolig Duw Jesu anwylaf.
Cymrwch y Psalmau, ar fengyl wen olau, Yn lle'r pâr cardiau, os gwyr-da 'ych heb ddig: † 1.473Fsittach i Gristion nâ 'r pâr cardiau brithion, Yw'r fengyl wen-dirion nadolig.
Gan hynny ymsiriwch, a gwir orfoleddwch, A neidiwch, a molwch eich Prynwr mawr, Cenwch glôd iddo, a churwch eich dwylo, Hyfrydwch yndo yn ddirfawr.
Rhowch foliant rhagorol, i'r yspryd sancteiddiol, Sy'n dangos i'r bobol, o'r Bibl yn rhâd Fôd pardwn a Jechyd, a heddwch a bywyd, Iw gad yn ein hyfryd Geidwad.
I'r Tâd 'rhwn an creodd, i'r mâb rhwn an prynodd I'r yspryd a'n gloywodd, â'r† 1.474 gair â'r dwr glan Y bytho bôb ennyd ogoniant tra hyfryd, Ym-mhôb mann o'r holl-fyd yn gyngan.

Page 77

Annogaeth i ddiolchgarwch am ein prynedi∣gaeth trwy Ein Harglwydd Jesu Grist.

CUrwch bawb eich dwylo ynghyd,* 1.475 Bendithiwch Dduw o bryd i bryd: Am roi vnig fab i'n prynu, Pan yr oeddem gwedi 'n * 1.476 damnu.
Cwympwch bawb ar ben eich glinie, Aberthwch iddo nôs a bore Clôd a moliant, nerth a gallu, Am roi vnig fab i'n prynu.
Bys ystyriem faint yw 'r dlyed, Y sydd arnom iddo o'r parthed; Ni wnaeu swydd ar nôs a bore, Ond ei foli ar ein glinie.
Pan yr oeddem gwedi myned, Dan law Satan i gathiwed,* 1.477 Fe rows Duw ei fab i'n prynu, Pan na alle neb ein helpu.
Carcharorion dan law Satan,* 1.478 Yn y † 1.479 Dwnshwn mawr yn cwynfan; Byth y byssem bawb yn gryddfu, Oni bysse 'r Jesu ein prynu.
Nid oedd lûn i * 1.480 reconsilo Duw 'r cyfiawnder gwedi ddigio,* 1.481 Oni bysse ei vn mab Jesu Farw drosom er ein prynu.
Nid oedd lûn gwaredu enaid* 1.482 Vn pechadur o'r pwll * 1.483 tambaid, Oni bysse i'r Jesu cyfion Dalu drosto waed ei galon.

Page 78

Christ y rows ei werthfawr waed, Yn bridwerth drosom idd i Dâd: * 1.484Ac a'n tynnodd trwy fawr gryfder, O law Satan oedd y shailer.
* 1.485Adar oeddem gwedi 'n dala, Yn rhwyd Satan idd i difa; Christ y dorrod y rhwyd drosom, Ninne 'r * 1.486 Adar a ddihangsom.
Dafad oeddem aethe ar ddidro, I blith bleiddiaid i gyrwydro, O'r wir gorlan ym Mharadwys, Ar ôl Satan pan ein temptiwys.
* 1.487Christ yw 'r Bugail y ddoe i 'mofyn Hon i blith † 1.488 bwystfilod scymmyn, Ac y ddyge 'r ddafad adre, O eneu 'r diawl ar ei scwydde.
Ni yw 'r gwŷr y gas eu speilio, A'u harcholli wrth dramwyo, I Jericho o Jerusalem, Heb neb a'n cwnne o'r clawdd lle 'roeddem.
* 1.489Christ yw 'r mwyn Samaritan, Y rwyme 'n harcholl yn yman, Ac yn dyge hyd yr ostri, Yno i'n swcro a'n cynfforddi.
Y Sarph a'n brathodd ym-mharadwys, A chol pechod pan ein twyllwys: Christ eliodd ein archollion, Yn fwyn iawn â gwaed ei galon.
* 1.490Nid oedd dim a alle helpu Israel gwedi 'r Seirph eu barthu, Ond golwg * 1.491 hyll ar Sarph o brês: Dim amgenach ni wnae les.

Page 79

Nid oedd dim a'n helpei ninnau,* 1.492 Gwedi 'n brathu â chol pechodau, Ond Christ Jesu gwedi hoelio, Oedd y Sarph yn * 1.493 represento.
Tebig oedd ein cyflwr gwann, I adar bach y Pelican, Y fae 'r Neidir gwedi nafu, Nes caent waed eu mam i helpu,
Pan y gwelas Christ ein cyssur,* 1.494 Megis Pelican twym nattur: Fe rows inni waed ei galon, I elio ein archollion.
O * 1.495 considrwn ninne 'n † 1.496 câs, A'r daioni mawr a'r grâs, Y ddaeth inni 'r byd colledig, Drwy ddioddefaint Christ yn vnig.
Slafiaid Satan, Gweision pechod, Plant digofaint, Bwyd bwystfilod,* 1.497 Oeddem bawb, oni bysse 'r Jesu Ddaeth o'r nef i'r groes i'n prynu.
Beth yw dyn heb gyfnerth Christ, Ond gwâs a * 1.498 slâf i'r cythrel trist, Gwedi Dduw ei farnu eisiwys, Fynd i vffern o Baradwys.
Nid oes dyn a ddichon gadw Ei enaid bach rhag iddo farw, Nes y caffo gyfnerrh Jesu, A'i waed gwerthfawr idd i olchi.
Nid oes dyn a ddichon wneuthur Jawn i' Dduw am bechod bydur, Nes y caffo waed yr oen,* 1.499 I dalu 'r pris, i ddofi 'r poen.

Page 80

Christ yw 'r Oen * 1.500 dispotte i gyd, Sy'n tynnu ffwrdd bechode 'r byd, Ac yn dofi llid ei Dâd, A'i fywyd gwyn, â'i werthsawr waed.
* 1.501Christ yw 'r ffeiriad sy'n y nêf, Yn gw neuthur drosom weddi grêf, Gwedi offrwm gwaed ei galon, Ar y groes yn † 1.502 ranswm drosom.
Christ yw gwir oleuni 'r Byd, Christ yw 'n Bywyd ôll i gyd, Ghrist yw 'n Cynffordd, Christ yw 'n Ceidwad, * 1.503Christ yw 'n Helpwr o'r dechreuad.
* 1.504Heb Grist nid ym ond colledig, Trwy Grist yr ym yn gadwedig, Heb Crist ni chawn weled Duw, Trwy Grist ni gwn yndo fyw.
* 1.505Pôb dyn aiff i vffern drist, Ond y gretto yn Jesu Grist: Ac heb Grist ni ddichon un dyn, Fynd i'r nêf er maint o'i rosyn.
Dysgwn bawb gan hynny gredu, * 1.506Yn ein Prynwr mawr Christ Jesu; A meddyliwn * 1.507 wrando arno, Os 'n y nef y mynwn dario,
Prynodd Christ â Gwaed ei galon, Yr hôll fyd o'i poenau trwmion; Llawer mil o 'r Byd er hynny, Ant i vffern eisieu credu.
* 1.508Er croes-hoelio 'r Jesu drosom; A rhoi taliad llawn am danom,

Page 81

Etto ni bydd neb cadwedig, * 1.509Ond y gretto yndo 'n vnig.
Credwn yn Grist, ac fe'n cedwir, Oni chredwn, yno ein collir; 'R vn y gretto gaiff ei gadw, Rhwn na chretto collir hwnnw.
Nid aiff vn na mawr na bâch, Byth i vffern i roi gwâch, Ond y dyn y beidio a chredu, Yn y Prynwr mawr Christ Jesu.
Porth y nêf sydd lêd agored, Ddydd a nos heb arno gayed, I bôb grâdd o gywir gristion, Ag y gretto yndo 'n ffyddlon:
Ni bydd sôn byth am eu beie, Na'u drwg nattur, na'u pechode: Hwy faddeuwyd, ac hwy * 1.510 flottyr, A gwaed Ghrist i maes o'r llyfyr.
Christ ein golchodd o'n pechodau, Christ y brynodd ein eneidiau: Christ ein † 1.511 dwg i deyrnas nefoedd, Ny ni biau 'r maint y brynodd.
O moliannwn ninne 'r Jesu, Ddydd a nôs am dan ein prynu: Ac na anghofiwn tra chwyth ynom Faint o bethau wnaeth ef * 1.512 erddom.

Page 82

Clôd a gallu, mawl a moliant, Gwir anrhydedd a gogoniant, Y fo i'n Prynwr mawr a'n Pen, A dweded nêf a daer, Amen.

Cynghorau duwiol i bôb dyn ac y ddymuno gael ffafar Duw, a maddeuant am ei bechodau.

Er bod llawer o waith yr Awdwr yn dra rha∣gorol, etto y mae y tair can hyn a ganlynant yn haeddu eu printio a llythrennau o aur.

PWY bynna geisio maddeu, Ei bechod a'i drosseddeu, A chael † 1.513 pardwn gan Dduw gwyn, Rhaid dilyn hyn o werseu.
* 1.514Yn gynta adde 'th bechod, Yn brûdd o flaen y Drindod; Ni chais gelu dim rhag Duw, Does bai nad yw 'n ei wybod.
Gwedyn prawf ddeallu, * 1.515Pa ddial wyt ti 'n haeddu, A pha angeu * 1.516 didrangc maith, Am dan dy waith yn pechu.
A deall fôd dy feie, Yn haeddu vffernol boene: * 1.517Gwedyn cais â chalon drist, Gan Dduw er Christ ei madde.
A dysc yn brûdd gydnabod, Nad oes o flaen y Drindod, Iawn am bechod ond gwaed Christ, Ai angeu trist a'i 'fudd-dod,

Page 83

A chrêd ith Brynwr Jesu,* 1.518 Yn gwbwl gyflawn dalu, Ar y groes yn ddigon drûd, Am feiau 'r bŷd sy 'n credu.
A gwybydd fôd Duw 'n foddlon,* 1.519 Ir iawn y wnaeth Christ droson, Ac er ei fwyn yn barod iawn, Roi pardwn llawn ir ffyddlon.
A chrêd y madde i tithe,* 1.520 Dy bechod ath drossedde, Ond it geisio er mwyn Christ, A chalon drist eu madde.
Na chytgam geisio celu, Mor pechod wyt ti 'n garu, Addeu 'r cwbwl ger bron Duw, Peth ofer yw ei wadu.
A barn dy hun yn euog,* 1.521 O flaen yr Holl-alluog, Fel nath farner ar ddydd * 1.522 brawd, Ar goedd trwy wawd digassog.
Alara am dy bechod, Yn ôl ei weld a 'i nabod;* 1.523 A 'mofydia nôs a dydd, Nes itti 'n brûdd ei wrthod.
Cwra 'r galon brûdd ochneido, Ar llygaid ddyfal wylo, A gwna ir yspryd brûdd dristhau, Edifarhau a * 1.524 mwrno.
A chais gan Dâd goleuni,* 1.525 Roi calon dyner itti; A 'mofydia ambell awr, Am dan dy fawr ddrygioni.

Page 84

Na orphwys byth yn ceisio, Nes cael gan Dduw dy wrando, A rhoi calon it dristhau, Edifarhau ac wylo.
* 1.526Yn ôl it fwrno ennyd, Am dan dy bechod offyd, Dala afel tra fech byw, Ar bromais Duw ai 'ddewid.
* 1.527Mae Duw 'n ei air yn addo, Diddanu rhai fo 'n † 1.528 mwrno, A rhoi hefyd bardwn clû, I bawb y wîr * 1.529 repento.
* 1.530Repenta 'th fywyd anllad, A chrêd yn Ghrist dy geidwad, Gâd dy feiau tra ynod chwyth, Ni chollir byth o hanad.
* 1.531Mae Duw yn addo helpwr, A cheidwad a diddanwr, I bôb dŷn difeiriol trist, Sef Jesu Grist dy brynwr.
* 1.532Mae Duw yn addo madde, Dy bechod ath drossedde, Ath olchi 'n lân oth frynti i gŷd, Ond gado ym-mhryd dy feie.
* 1.533O byddi di difeiriol, Mae 'n addo bôd yn rassol, Diddig, tirion, mwyn, a * 1.534 ffri, A byth â thi 'n heddychol.
Mae 'n addo dy lwŷr olchi, Oddi wrth dy feieu ath frynti, * 1.535Yngwaed ei fâb (o cofia hyn) Ath droi mor wynn at Lili.

Page 85

Dal afel * 1.536 suwr fel Christion, Ar hyn o addewidion: Nêf a daer ânt heibio (clyw)* 1.537 Cyn torro Duw † 1.538 bromeison.
Casâ dy bechod oflyd, Fel neidir gâs wenwynllyd, Sy'n ceisio 'th ladd o gysgod llwyn, Dan gêl, a dwyn dy fywyd.
Na ddere ir mann lle gallo,* 1.539 Dy bechod taer dy hudo, * 1.540Passa heibio, neu dro 'n d'ôl, Na ddôs fel ffôl ith demptio.
Or doi ar draws y neidir, A cholyn hon feth frathir: O doi 'n rhy agos at y tân,* 1.541 Medd scrythur lân feth loscir.
Gan hynny ymgadw arnad, Rhag tramwy lle bo 'r * 1.542 temptiad: Gwell it droi nâ mynd ir mann, Nid wyt ond gwann ac anllad.
Na thro at bechod eilwaith,* 1.543 Fel ci neu fochyn diffaith, Y rêd ir dom yn frwnt ei fri, Yn ôl ymolchi vnwaith.
Na ddilyn ddrwg gyfeillach,* 1.544 Ath * 1.545 helo 'n ffolach ffolach: Ni thâl ceisio troi at Dduw, Nes gado 'r cyfryw ffrythnach.
A glŷn wrth bobol dduwiol, A * 1.546 Marca eu ymddygiad grassol; Da a difyr yw 'r fath wŷr, Ith ddwyn ir llwybyr nefol.

Page 86

* 1.547A chais gan Dduw trwy weddi, Dy droi oddiwrth ddrygioni, Ath gyfrwyddo tra fech byw, I garu Duw a'i ofni.
A nâd ir fâll dy ddallu, Ath annog mwy i bechu: * 1.548Damssing Satan dan dy draed, Trwy rinwedd gwaed y Jesu.
Na ddere at y Meddwon, Rhag newid dy aiferion, Fel y newid y môr glâs, A heli flâs yr afon.
Ymâd â phôb cyfeillach: Ath helo 'n annuwiolach: Tynn oddiwrthynt, casâ eu ffyrdd, Fef * 1.549 pitch y nyrdd dy gadach.

Cynghor i gredu yn Grist, a dangosiad o'r ne∣widiad rhyfeddol sydd yn y dyn a gretto.

* 1.550CRêd yn Ghrist, llef am dy geidwad, Mae Duw 'n cynnig Christ i fagad; Derbyn Grist, pan y cynnico, Onis gwnei ti fyddu hebddo.
Y dŷn a gretto yn Ghrist yn brûdd, Trwy galon rwydd a bywiol ffydd, * 1.551Mae Christ yn rhoi i hwnnw râs, I fyw fel sant o hynny maes.
* 1.552Mae Christ yn rhoi ei yspryd iddo, I ail eni a'i ail lunio, Ai lwyr droi yn ddŷn o newydd, O † 1.553 rebel ffôl yn blentyn vsudd.

Page 87

Mae 'n rhoi ei air i wir oleuo, Mae 'n rhoi ei râs i gynnorthwyo, Mae 'n rhoi ei yspryd i reoli, Mae 'n rhoi ei hun yn bôb peth inni.
Nid oes lûn i ddŷn wrth hyn, Y gretto yn grys yn Jesu gwynn, Na chaffo râs a grym oddiwrtho,* 1.554 I fyw fel sant, os crêd ef ynddo.
Mae crêd yn tynnu grâs a gallu,* 1.555 Oddiwrth Ghrist ir dŷn ddifaru, Am bob bai o'i fuchedd aflan,* 1.556 A byw fel sant o hynny allan.
Oni bydd dy ffydd yn tynnu Grâs O Grist, ith adnewyddu;* 1.557 Dy ffydd sydd ffalst, ni thâl hi ddimme, Nes tynno hi râs i wella 'th feit,
Mae bywiol ffydd yn tynnu grâs, A grym O Ghrist, O hynny maes,* 1.558 I roi heibio bob hên grefydd, Ac i wneuthur ôll o newydd.
Er creuloned a fo'th nattur, Er bychaned a fo'th synwyr; Crêd yn Ghrist a galw arno, F'all dy wella 'r awr y mynno.
Er creuloned oedd y † 1.559 Iailer, Er bod Saul yn filain sceler, A Manasses gwaeth nag hwynte, Fe gwnaeth Christ hwy 'n saint or gore.
Fe'th wna dithe o bechadur Oflyd, aflan, drwg dy nattur,* 1.560 Yn wir sant, os credu ynddo, A thynny grâs a grym oddiwrtho.

Page 88

* 1.561Fe wnaeth Christ o hên herlidiwr, Saul, yn ebrwydd yn bregethwr; Ac o'r wreigin ddrwg dros ben, Y gigfran ddu, yn glommen wenn.
Crêd yn Ghrist â chalon gywir, Fe wella Christ dy naws ath nattur: O fâb ir fall fe'th wna di 'n gristion, O elyn Duw yn blentyn grasslon.
Na thyb dy fod yn credu 'n gywir, Oni newid Christ dy nattur: Y dyn y gretto yn Ghrist yn ffyddlon, Fe newid Christ ei ddrwg arferion.
Cenfydd Saul, a chenfydd Zache, Cenfydd Mari Magd'len hithe, Di gei weled Christ yn * 1.562 altro, Buchedd pob dyn pan y cretto.
Er bod Saul fel Blaidd y bore, Cyn credu yn Ghrist yn difa 'alle, Fe wnaeth Christ cyn cenol dydd, Y Blaidd yn oen, pan trowd ir ffydd.
* 1.563Cyn i Zache fynd yn gristion, Roedd e'n pilo pawb o'r tlodion: Gwedi credu fe rows Zache, Ran ir tlawd o'r maint y fedde.
Er i Fagdlen fŷw 'n rhyfygus, Cyn credu yn Ghrist, a phechu 'n rhwyfus, Fe fu Fagdlen ar ol credu, Fyw fel Santes nes ei chladdu.
Felly dithe a newidij, ☞Dy arferion ond it gredu: Nes newidiech dy arferion, Nid yw'th ffydd ond † 1.564 phansi ffinion.

Page 89

Ffydd heb weithred dda 'n ei dilyn,* 1.565 Sydd ffydd farw, ffydd heb eulyn, Ffydd i'th ddallu, ffydd i'th dwyllo, Ffydd sydd barod i'th gondemnio,
Ni bydd tân heb wres lle bytho, Ni bydd dwr heb wlybrwydd ynddo, Ni bydd 'fallen dda heb fale,* 1.566 Na bywiol ffydd heb fywiol ffrwythe.
Os dywed vn ei fôd ê'n credu, Ac heb wella ei feie er hynny,* 1.567 Nid oes dim ffydd gan hwn, ond ffrôst, Yn twyllo 'i hun yn daran dôst.
Ni all dyn sy'n credu 'n ffyddlon,* 1.568 Lai nâ gwella 'i ddrwg arferion, Waith bôd Christ yn rhoi 'lân yspryd, Ir pechadur 'wella ei fywyd.
Nâd dy dwyllo ddrwg ddyn aflan, Lle bo ffydd mae buchedd burlan: Od yw dy ffydd yn talu ei gweled, Moes ei dangos wrth dy weithred.* 1.569
Onid yw dy ffydd yn fywiol, Yn dwyn gair a gweithred rasol, Nid yw hon ond ffydd mewn enw, Ffydd na ddichon byth dy gadw.* 1.570

Cynghorion yn cyfarwyddo dyn, pa fôdd a daw ef i fyw yn ol ewyllys Duw, neu 'n ddeddfol.

Y Neb a fynno fyw yn ddeddfol, Yn ôl gwllys ei Dâd nefol,* 1.571 Cynta peth sydd raid i wneuthur, Tynnu o blith y drwg weithredwŷr,

Page 90

A rhoi fynydd ddrwg gwmpniaeth, Yn dragywydd heb ddim hiraeth, Megis Moesen * 1.572 gwmpni 'r Aiphtiaid, Lot ac Abram y Caldeaid.
Fel y tâg y gwûg y gwenith, Fel y sura fineg lefrith, * 1.573Fel y nyrdda pyg dy gadach, Felly 'th nafa drwg gyfeillach.
Gwachel neidir rhag dy frathu, Gwachel * 1.574 blâg rhag dy ddifethu: Ac o ceri iechydwriaeth, Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Tynn o Sodom, dere allan, Rhed o blith y bobol aflan: Gâd oferwyr, cadw d'enaid, Tynn o blith yr anffyddloniaid.
Tra fu Foesen gydâ 'r Aiphtiaid, Tra fu Abram gydâ 'r Siriaid, * 1.575Ni'mddangossei 'r Arglwydd iddynt, Nes eu tynnu 'mhell oddiwrthynt.
Rho gwmpniaeth plant y fall, Heibio 'n ebrwydd o dwyd gall * 1.576Ni bydd cydfod rhwng Duw 'r heddwch, A chyfeillion plant tywyllwch.
Gwedyn dilyn brûdd gyfeillach, Pobol dduwiol, ddoeth, † 1.577 ddianach, Rhai y ddyscant itti nabod, Y gwir Dduw a'i ofni 'n wastod.
Tra fu Saul yng-hwmpni Samuel, * 1.578Fe aeth Saul yn sant o gythrel: Tra fu e'n dilyn pobol ddiffaith, F'aeth y sant yn gythrael eilwaith.

Page 91

Dilyn Brophwyd, fe'th oleua, Dilyn Athro, fe'th gyfrwydda, Dilyn Sant, * 1.579 fe'th wna di'n sanctaidd; Dilyn ffol ti ddeui 'n ffiaidd.
Gwedyn canlyn ar dy liniau,* 1.580 Ar Dduw ddangos it ei lwybrau, Ath lwyr droi yn dra awyddus,* 1.581 O bôb llwybyr traws twyllodrus.
Nes goleuo Duw dy lygaid,* 1.582 Nes dadfywio Christ dy enaid, Ni chanfyddu ffordd y bywyd, Mwy nâ'r dall yr haul-wen hyfryd.
Cymmer lantern Duw 'n dy law, I'th oleuo ymma a thraw; Nid aiff neb i dir y bywyd, Heb oleuni 'r Scrythur hyfryd.
Gwna 'r peth archo 'r fengyl itti, Paid a phob peth na boi 'n erchi;* 1.583 Hi'th gyfrwydda fynd o'r diwedd, I gael bywyd a thrugaredd.
Gwedyn gwachel yn ystyriol, Rhag byw 'n ôl dy 'wllys cnawdol,* 1.584 Nac wrth fôdd dy galon gynnil, Ond yn ôl goleuni 'r fengyl.
Ac or ceisii gael derchafiaeth, Gras, a dawn, a iechydwriaeth, Dewis, dilyn, cerdd heb golli,* 1.585 Y ffordd a ddysco 'r Arglwydd itti:
Hi fydd cyfyng ar y dechre,* 1.586 A gwrthnebus ith drachwante: Ar y diwedd hi fydd esmwyth, Ith ddwyn at Grist yn ddisymwyth.* 1.587

Page 92

Ffordd i ddestryw sydd yn wastad, Ac yn esmwyth ei dechreuad: * 1.588Ond yn niwedd ffordd annuwiol, Y mae 'r pwll a'r ffoes vffernol.
* 1.589Gwedi dechreu 'r ffordd trwy rinwedd, Prawf i dilyn hyd y diwedd; Ac na chytgam droi oddiarni, Nes dy ddwyn i wlâd goleuni.
Nid wyt nês er dechreu 'r † 1.590 shiwrne, A throi gwedyn at dy feie: Nid oes * 1.591 Bromais gael y goron, Heb barhau, hyd Angeu 'n ffyddlon.
Fe ddechreuodd Saul & Suddas, * 1.592Fynd tu ar nêf ar drot fel Demas, Waith deffygio cyn diweddu, F'aeth y tri ir poeth garchardy.
* 1.593Dilyn Grist ar air a gweithred, Troeda 'r ffordd y fu e'n gerdded; Gwna 'r peth archwys yn y scrythur, Ni throi droedfedd dros y llwybyr.

Galarnad Pechadur.

O Arglwydd Tâd diddanwch, Clyw gwynfan a difeirwch, Hên Bechadur gwael ei † 1.594 gâs, Sy 'n deisyf grâs a heddwch.
Mi'th ddigiais di mor greulon, Fy nhâd a'm Harglwydd tirion, Fel na baidd fy 'nghalon drom, Droi attad o'm golygon.

Page 93

Gan hynny am pen ir ddaiar,* 1.595 Fel Publican edifar, Jr wi dy annuwiolaf was, Yn crio am râs a ffafar.
A'th ffafar wi 'n ei ofyn, Er mwyn fy mhrynwr purwyn, Y fu droswi ar y groes, Yn godde loes escymmyn.
Ac oni chafi † 1.596 Bardwn, Er mwyn ei loes ai * 1.597 Bassiwn, F'orfydd arnai fynd yn † 1.598 bost, I uffern dôst ai * 1.599 Dwngiwn.
Os Arglwydd er yn blentyn, 'rwi 'n pechu 'n dôst ith erbyn, Heb wneuthur prîs oth Gyfraith gaeth, Ond byw yn waeth nag un-dyn.
Dy Enw mawr y geblais, Dy Scrythur a ddirmygais, A'th Efengyl gywir iach, Fel chweddel gwrach y brissiais.
Y gwerthfawr waed y gollaist, O'th galon pan i'n prynaist, Wi'n ei dyngu ddydd a nôs, Heb brisio 'r loes a gefaist.
Dy Sabboth a'th ddydd Sanctaidd, Y dreuliais innau 'n ffiaidd, Mewn cyfeddach, meddwdod brwnt, A maswedd tu-hwnt i weddaidd.
Pan bo pawb ar eu gliniau, I'th foli nôs a borau, Mewn rhyw dŵll yn chwareu 'r Cnâf, Och! och! y byddaf innau.

Page 94

* 1.600Er bôd dy Air mor felus, Ar mêl ir enaid iachus, Chwerwach oedd gen inne ei flâs, Na'r wermwd câs gwrthnebus.
Godineb a Phutteindra, Fel ûn o blant Gomorra, Fûm i yn eu ddilyn cŷd, Nes mynd or bŷd gan mwya.
I Hysyd ai charawsio, A sugno tarth Tobacco, Fu fy swydd dros ennyd fawr, Gwae finneu nawr ei gofio.
Fy ieungctid mewn oferedd, Rhwyf, rhyfyg, ceccra, coegedd, Y lwyr dreuliais gydâ mam, Heb feddwl am fy niwedd.
Yr rwân ar fy niwedd, Ni welai 'n well fy muchedd, Nâ'r pryd gwaetha 'rioed or blaen, Os dweda i'r * 1.601 plaen wirioned.
Gan hynny rwi 'n rhyfeddu, Pa fodd yr wyt ti 'n gallu, Goddeu cŷd fy mhechod taer, Heb bery'r ddaer fy Llyngcu.
Os nid oes * 1.602 mawr o feiau, O frynti a chamweddau, Nad wyf ynthynt lawer pryd, (Gwae finnau) hyd y clustiau.
Oni bai fôd dy Nattur, Yn rasol tu-hwnt ei fesur, Yn uffern goi, cyn hyn yn rhôst, Y byssei 'n dôst fy nghysur.

Page 95

Os Arglwydd 'r wi'n cyfadde, Im haeddu er ys dyddie, Fy nhorri 'n * 1.603 gwitt o blith y byw, Waith cymmaint yw fy meie.
Oni bai fôd dy fawredd, Yn rasol tu-hwnt i ryfedd, Gwann-obeithio 'n gwitt y wnawn, Fel Cain, na chawn drugaredd.
Ond dymma sy'm * 1.604 cymfforddi, Pan byddwi mron ymdorri, Fôd trugaredd Duw ai râs, Yn fwy nâ'm câs ddrygioni.
Fy meiau sy'n cyn amled, A * 1.605 Sownd y môr er maned, Ond dy ras sydd gan-mil mwy, Na'r môr sy'n hwy 'n amgyffred.
Gan hynny rwi 'n † 1.606 gobeithio, Lle cafas pechod * 1.607 raino Y caiff dy rwydd ath nefol râs, Ar bechod câs * 1.608 gongcwero.
Di fuost Dduw trugarog, I bechaduriaid enwog: Na fydd waeth i minne am râs, Bechadur câs * 1.609 anffodiog.
Pan trows y Ninifiaid, Oddiwrth eu beie afrifaid; Er cymmaint oedd eu pechod câs, Hwy gawsont râs eu llonaid.
Er cynddrwg oedd Manasses, Y gwaetha 'rioed y glywes:* 1.610 Fe gas gennyd † 1.611 bardwn mwyn, Yn ol ei gŵyn a'i gyftes.

Page 96

* 1.612A Dafydd brophwyd ynte, Er amled oedd ei feie; Pan y llefodd am dy ras, Yn rhwydd fe gas eu madde.
* 1.613Fe gafas Mary Magdlen, * 1.614Yn ol hir chwareu 'r butten, Wrth wylo 'n hallt y dagrau dŵr, Dy râs a'th ffafwr lawen.
Pan trows y mab afradys, Tuag attad yn ei vn-crys, Fe gas gwedi chwareu 'r ffôl, Dy ras yn ôl ei 'wllys,
A minneu sy 'n gobeithio, Er immi 'n dost dy ddigio, Y câf er mwyn fy mhrynwr * 1.615 gwar, Dy ras ath ffafar etto,
A 'th ffafar wi 'n ei * 1.616 fegian, Yn daer, yn dôst, yn druan, Er mwyn Jesu nôs a dydd, Ar dagre o'm grûdd yn * 1.617 dropian,
O! cofia Arglwydd cyfion, I Grist fy Mhrynwr tirion, Offrwm droswi yn † 1.618 syr-had, Ar grog-pren, waed ei galon.
A chofia iddo dalu, Dros f'enaid i 'r pryd hynny, Y cûr, a'r poen, a'r angeu, a'r bri, Ag oeddwn i yn haeddu.
O moes gan hynny bardwn, Er mwyn ei loes ai * 1.619 bassiwn, Ac er ei gûr ai waedlyd chwys, Na chais ail † 1.620 Satisffactiwn.

Page 97

Ond maddeu 'n rasol immi, Fy meiau ôll a'm brynti, A gosch yn llwyr fy mhen a'm traed, Yng werthfawr waed ei † 1.621 well.
Er bod fy mai cyn goched, Ar pwrpl coch neu 'r scarled, * 1.622Droppym bach o'i waed er hyn, A'm gwna mor wyn ar † 1.623 foled.
Gan hynny mae fy hyder, Ar Grist, a'i waed, a'i fwynder, Y caf genyd, yn ddi-nag, Drugaredd ag esmwythder:
A dwyn at Grist yn gymmwys, Fy enaid i Baradwys, I gael rhan ym-mhlith dy Saint, O'r nêf, ar maint y brynwys.
Ir hon o'th râs a'th fawredd, Duw dŵg ni ôll o'r diwedd, I'th foliannu fyth bob awr, Am dan dy fawr drugaredd.
Ir Tâd, ir Mâb, Yspryd, Ir Drindod, Vndod hyfryd, Y bo clôd a moliant mawr, Bob dydd, bob awr, bob ennyd. Amen.

Cynghorau Duwiol.

F'Anwyl blentyn, * 1.624 dere nês, Gwrando gyngor er dy lês, Prawf i ddilyn tra fech byw, Or ceisi fynd i Deyrnas Dduw.

Page 98

Ofna Dduw tra bywyd ynod, * 1.625Parcha ei Enw mawr yn wastod, Galw arno â'th holl galon, Gwrando ei Air, a chadw ei orchmynion.
Cymmer Air Duw yn wastadol, Yn Gynghorwr ac yn rheol, I reoli dy holl fywyd, Ym-mhob gorchwyl a fo gennyd.
Dyna'r Lantern a'th oleua, Dyna'r Athro a'th gyfrwydda, I wachelyd pôb drygioni, Ac i'th ddwyn at Dad goleuni.
Gwachel wneuthur mawr na bychan, Yn ôl d'wllys ffol dy hunan, Y mae pechod gwedi * 1.626 llygru, Nes cael grâs i hadnewyddu.
Praw gan hynny ffrwyno † 1.627 phansi, Ffiaidd gantho bôb daioni, Nes del gair Duw i'th gyfrwyddo, Pob peth drwg sydd felus gantho.
Gwachel bechod er bychaned, Colyn Sarph sydd dan ei shiacced: * 1.628Plesser byrr a bair hir † 1.629 alaeth, Cyflog pechod yw * 1.630 marwolaeth.
Or cas Adda gymmaint ddial, Am fwytta tammaid bach o Asal, Duw pa faint y fydd dialau? 'Sawl sy'n byw ar gyfryw † 1.631 falau.
O * 1.632 bu Siawns id' bechu unwaith, Gwachel byth rhag pechu 'r eilwaith: Nid oes iawn am bechod bychan, Ond gwaed calon Christ ei hunan.

Page 99

Tro 'ddiwrth bechod, na ddymchwela, Câs yw'r ci a fwytto ei hwdfa, Ail yw hwn ir mochyn diffaith, 'El or dwr ir dommen eilwaith.* 1.633
O dehorwyd Mosen fwyn-lan, Am un pechod 'fynd i Ganan, Bwedd na rwystrir pobol ddiffaith, Fynd ir nêf am bechu ganwaith?
Casa falchder megis Neidir, 'Ymdderchafo, fe ostyngir: Yn ol balchder y daw cwdwm,* 1.634 Balch ei droed a * 1.635 drip ir cawdrwm.
Os taflodd Duw yr Angel penna, Am ei falchder ir pwll issa; I ble taflir llŵch a lludw, Y falchio 'n waeth nâ hwnnw?
Byth na chwennych welŷ arall, Rhwn ai gwnel nid yw ond angall: Y neb y sango ar y poeth-dan,* 1.636 Nid oes lûn na loseo ei waddan.
Os câs Pharo blâg mor greulon,* 1.637 Am chwenych Sara yn ei galon, Pa fáth blag a dial caled, Gaiff y sawl y wnelo 'r weithred?
Gwachel dyngu dim ond ie,* 1.638 Or diawl y daeth yr ofer lwe: Melldith Dduw fel mwg y leinw,* 1.639 Y ty lle cablir Duw a'i enw.
Os † 1.640 Mwrddrwyd Senna-chrib y * 1.641 Pagan, Am gablu Duw o lêd ei safan, Bwedd y diangc y Christnogion, Y gablo Christ a gwaed ei galon▪

Page 100

* 1.642Er dy fywyd parcha 'r Sûl, Dere ir Eglwys, gwrando, gwŷl: Galw ar Dduw, a gado 'r pottian, Na wna 'r Súl yn wyl i Satan.
Os pwyodd Duw â'r fâth † 1.643 ddihenydd, Y dŷn ddyd Sûl am gasglu briwydd: * 1.644Bwedd y pwya bedwar ascwrn, Y dreulio'r Sûl yn waeth nâ'r Sadwrn.
Na cham attal ddim o'th ddegwm, Na ddarnguddia ddim o'th offrwm: Rwytti 'n Speilio Duw 'r diale, Wrth ddarnguddio dy ddegymme.
* 1.645Melldigedig ym-mhob rhyw, Ydyw 'r dyn a Speilio Dduw: † 1.646Stoppi'r nêf, ar ddaer, ar llafyr, Y mae pawb or cam ddegymwyr.
Casâ feddwdod yn dy fywyd, * 1.647Nid â ir nêf yn meddw chwdlyd: Vffern goi sy'n lledy safan, Am gael llyngcu 'r meddw aflan.
* 1.648Or daeth Esau mor ddannodus, Am werthu fraint am † 1.649 fes o bottus Pa ddannodiaeth ddaw i'n meddw, Wertho 'r nêf an bot o gwrw.
* 1.650Na fydd gybydd, na fynn occor, Cist ir hael yw 'r cybydd † 1.651 angor: A gasclo 'r Tâd trwy gybydd-dra, Mâb asradys a'u † 1.652 gwastraffa.
Haws i gamel fynd yn fuan, Ymma a thraw trwy 'r-nodwydd fychan, Nag ir cybydd anrhugarog, Fynd i mewn ir nêf oreurog,

Page 101

Gwachel dreisio nêb or tlodion,* 1.653 Christ ei hun yw 'r Jestys cyfion: Y dreisio 'r tlawd fe bîg llygad Christ ei hun y cadarn Geidwad.
Ahab frenin am ddwyn gwinllan,* 1.654 Naboth ei gymydog truan, A gâs golli ei frenhmiaeth, Llâdd ei blant a'i holl genhedlaeth.
Or daeth Difes dan law Satan, Am ballu ir tlawd ôi dda ei hunan: I ba law-ddiawl yr â 'r Gwyr mawrion, Sy 'n dwyn maint sy'n helw 'r tlodion.
Gwachel ledrad, gwachel dwyllo, Ni ddaw ennill byth oddiwrtho:* 1.655 Lle bo lledrad y bydd aflwydd, Dial Duw, a dyfal dramcwydd.
Os lladdodd Duw holl dylwyth Aehan, Am grach guddio lledrad bychan:* 1.656 Oni ddial Duw ar ladron, Sy 'n Dwyn maint sy'n helw 'r tlodion?
Gwachel gadw cam fessurau, Yn dy dŷ nac amryw bwysau:* 1.657 Ffiaidd câs yw 'r dafal anwir, Ger bron Duw, a'r pwys anghywir.
Maint ynnillo Dŷn trwy ffalstedd, Ar y dafal o anwiredd, Bob ychydig mae ê 'n gossod, Yn y cŵd a'r pwrs heb waelod.
Byth na chytcam dderbyn * 1.658 gwabar, Honno lwngc sy'th helw o heinar: Ni âd gwabar Ben na chynffon, Byth yn helw'r plant ar wyron.

Page 102

* 1.659Y claf-gwân y gas Gehezi, Gydâ gwabar mewn † 1.660 bwdgedi; Am y wabar y mae 'n rhigyl, Y * 1.661 handwya hi 'r plant ar Eppil.
Gwachel gelwydd trech ar dîr, Er dy fywyd dywaid wîr: * 1.662Y cythrel brwnt ar wiber lâs, Yw tâd a mam y celwydd câs.
* 1.663Os bu farw Ananias, † 1.664Shioc am ddywedyd celwydd atcas, A'i wraig hefyd wrth farn Duw, Câsawn gelwydd tra fom byw.
Na lysenwa nêb er * 1.665 nam, Y dwl, na'r dâll, na'r clôff na'r cam: Duw wnaeth dŷn, a'i lun, a'i liw, Y gablo ddyn, fe gabla Dduw.
* 1.666Os barna Christ ir ffwrnais danllyd, Y nêb y alwo ei frawd yn ynfyd: I ble barna 'r nêb sy'n galw Ei dâd a'i fam, ar gant llysenw?
* 1.667Na thâl ddrwg dros ddrwg i un-dyn, Os mynni fôd i Dduw yn blentyn: * 1.668Helpa, swccra dy elynion, Na wna gam ag un-rhyw gristion.
* 1.669Pa ragoriaeth sydd rhwng christion, Ar un gwaetha o'r Iddewon, Os dai dalu drwg dros ddrwg, Dant am ddant, a gŵg am ŵg.
Gwachel wneuthur drwg ar hyder, Cael trugaredd pan ith farner: * 1.670Felly cei di farn anrasol, Fynd dros fyth ir tân tragwyddol.

Page 103

Os gorfydd atteb pan in barner,* 1.671 Ger bron Duw am bôb gair ofer: B'wedd attebwn; gwae fy nghalon! Am ein drwg an câs fargeno.
Na cham arfer un or donie, 'Roes dy nefawl Dâd i tithe: Fe ddaw dydd y gorfydd rhoddi, Am bôb Talent gownt a chyfri.
Os taflodd Christ ir twllwch eitha,* 1.672 Y dŷn â'i dalent eisie ei helwa: I ble taflir † 1.673 drimbwl, drambwl, Y gwas y dreulio 'r stoc a'r cwbwl?
Bydd di barod heddyw, heno, Ag † 1.674 Oŷl ith Lamp, a'th wisc yn * 1.675Cyfrdo, Fynd o flaen dy farnwr prydd, Y foru o bossib ydyw 'r dydd.
Os caeodd Christ y porth mor ebrwydd, Ir sawl † 1.676 ym-mron oedd mewn parodrwydd: Bwedd y cant hwy borth agored, Seb ym-gweirio er pan ganed?
Bwrw heibio pôb pibiaeth, Meddwl am dy Jechydwriaeth: F'orfyd † 1.677 paccio bawb oddiymma, Llaill ai 'r nêf, ai 'r twllch eitha.
Ond † 1.678 aer ir nêf heb ymwthio, Ac ymdrechu â thraed a dwylo: B'wedd Spyda 'r nêb sy 'n credu, Rânt ir nêf wrth chware' a chyscu.
Cyn cael cynglwyst rhaid ymdrechu,* 1.679 Cyn cael cyflog rhaid gwasnaethu: Cyn cael nefoedd mae 'n rhaid byw, Ymma yn gynta wrth 'wllys Duw.

Page 104

* 1.680Ni ry Christ i nêb o'i goron, Ond 'ymladdo â'i elynion: Ni ry i nêb or geiniog fechan, Ond y weithio dro 'n y wynllan.
Ni thâl dywedyd Arglwydd, Arglwydd, Ni cheir nêf am eiriau masswydd: Yn Gristnogaidd forfydd byw, Cyn 'tifeddir Teyrnas Dduw.
O herwydd hyn 'rwi 'n cynghori, Pawb a garo 'r nêf o ddifri, Fyw 'n gristnogaidd ac yn † 1.681 buwr, Felly cant hwy 'r nêf yn * 1.682 suwr.
Or daw gofyn pwy a'u cant, Bugail † 1.683 chwerw, mawr ei chwant, Rwystro 'r defaid ym-mob dull, Ar eu pennau fynd ir pwll.

Cyngor i wr ieuangc.

F'Anwyl Blentyn cês dy lythyr Serchog, Sanctaidd llawn o Synwyr, Sy'n dymuno cyngor ffyddlon, Ith gyfrwyddo fyw fel Cristion,
Argol Gras yw 'th weld cyn Janged, Mor fawr dy chwant, mor brudd dy syched, I Nabod Duw, i ddyscu 'r Scrythur, I ddofi 'r Cnawd a * 1.684 nwyfiant Nattur.
I gyflawnu dy ddymuniad, Derbyn hyn o gyngor difrad, I gyfrwyddo dy holl fuchedd. O'th fabolaeth hyd dy ddiwedd.

Page 105

Yn dy ieungctid F'enaid cofia,* 1.685 Wir wasnaethu Duw gorucha, Ac addoli dy Greawdwr, Cyn i wendid waethu 'th gyflwr.
Dechre ddyscu trech yn blentyn, Nabod Duw a'th Brynwr pur-wyn, Hoffi Air a chadw ei gyfraith, Hynny 'th wna yn hen-wr perffaith.* 1.686
Tempra 'th lester tra fo 'n newydd, A 'r gwîn gwyn o dduwiol grefydd; Fe arogla hyd dy ddiwedd, A gwynt peraidd dy lân fuchedd.
Planna 'n gynnar yn dy galon, Hâd pôb gras a'th wnel yn Gristion, Rhag i'r gelyn blannu'r efrau, Eisie i hau â hâd Rhinweddau,
Cais flodeuo yn dra chynnar, Gydâ 'r * 1.687 Spring fel Almond hygar: Y pren na ddwcco blodau 'r gwanwyn, Trwy 'r cynhaiaf fe fydd difwyn.
Mae Duw 'n gofyn gan ei dylwyth,* 1.688 O flaen pôb peth gael y blaen-ffrwyth: Ac ni fyn y Duw goruchaf, Gan ei blant na'r Ail na'r olaf.
Rho gan hynny flaen dy gryfdwr, I wasnaethu dy Greawdwr: Ac na ddyro trech yn blentyn, Flaen ffrwyth d'oes i wasnaethu'r gelyn.
Drwg it roddi 'r Gwîn i Satan, A rhoi i Grist y gwaddod aflan, Rhoi dy nerth i † 1.689 blessio 'r drwg-wr, A rhoi 'th wendid i'th Greawdwr.

Page 106

Melldigedig yw 'r dyn ynfyd, A ro i 'r gelyn rym ei fywyd, Ac na rotho i Brynwr diddig, Ond yr henaint gwann methedig.
Gwachel arfer ddrwg yn blentyn, Arfer ddrwg a'th nyrdda 'n Scymmym, Ac a dry yn ail naturiaeth, Nes yr elech beunydd waeth waeth.
Os Arferu bechu yn blentyn, * 1.690A dibrisio Duw yn llengcyn, Yn hên nid haws it wella hyn, Nag i 'r * 1.691 Moyrys fynd yn wyn.
Rho gan hynny gorph ac yspryd, Yn dy ieungctid yn dra hyfryd, I wasnaethu dy Greawdwr, Ac i ymladd â'th wrthnebwr.
* 1.692Megis Daniel trech yn llengcyn, Gwrthod wîn a chwrw melyn, Ac na ro dy fryd ar foethau, Ond ar nabod Duw a'i ddeddfau.
* 1.693Dysc fel Samuel trech yn fachgen, Sefyll o flaen Duw yn llawen, Ac ymwrando o Air y bywyd, Beth y ddywetto 'r Arglwydd wrthyd.
* 1.694Fel Josias yn llangc bychan, Rhodia 'n vnion o wyth allan, A rho 'th fryd ar gadw 'r gyfraith, Ofni Duw, a byw yn berffaith.
Dysc y Scrythur lân o'th febyd, * 1.695Megis Timoth yn dra pharffid, Honno 'th wna di 'n ddoeth annianol, Yn gristnogaidd ac yn dduwiol.

Page 107

Dôs fel Christ bôb Sul i'r Eglwys,* 1.696 Gydâ 'th Dâd a'th Fam a'th Fagwys: Ac o ddeuddeg oedran F'enaid, Dechre ymddiddan a'r Doctoriaid.
Gwrando 'r 'fengyl, Gwrando 'r gyfraith, Dysc bôb vn o'r ddau yn berffaith, A chais fyw yn gynnil cynnil, Yn ol cyfraith Duw a'i fengyl.
Mewn tywyllwch 'rwyti 'n rhodio, Cymmer Lantern Duw 'th oleo; Heb oleuni 'r Scrythur hyfryd, Nid aer byth i dir y bywyd.
Er bôd Duw yn y nefoedd ucha, Mae yn ei Air â thi 'n chwedleua, Ac yn dangos ei holl 'wllys, Yn y Scrythur itti yn hyspys.
Edrych dithe yn y Scrythur, Beth a fyn dy Dduw it wneuthur, Gwna beth bynnag fo 'n orchymyn, Ac na * 1.697 fedla fo e 'n wrafyn.
Gwachel dorri 'r Pwnccie lleiaf,* 1.698 O holl gyfraith Dduw goruchaf: Y mae 'r lleia 'n haeddu Angeu, Melldith Dduw, a * 1.699 didrangc boeneu.
Fe fyn Duw y barnwr cyfion, Am bob pechod y wnel dynion, Naill ai † 1.700 Angeu 'r dyn a becho, Neu * 1.701 Angeu Christ yn daliad drosto.
Ac lle pechaist fil o weithe, Yn erbyn Duw nes haeddu ange, Edifara am bôb pechod,* 1.702 A chais bardwn gan y Drindod.

Page 108

* 1.703Adde 'th Bechod ger bron Duw, Fawr a bychan o bôb rhyw, A 'mofydia am dy wegi, Nes maddeuo 'r Arglwydd itti.
Edifara am dy wendid, A 'th holl * 1.704 nwyfiant yn dy ieungctid, Oni wylu 'r dwr yn heli, Duw a'th farna am y rheini.
* 1.705Ni chas Ephraim nes cwilyddio, Ni chas Dafydd nes ochneidio, Fadde nwyfiant ieungctid iddyn, Nis cei dithe nes eu canlyn,
Gwachel oedi hyd y foru, Rhag it farw heno wrth gyscu, Ac i'r Angeu glâs dy lysco, I'r farn yn llangc, cyn * 1.706 ymgweirio.
Mae yn vffern fil o filiodd, O wyr Ifaingc y † 1.707 bwrpassodd, Yn eu henaint brudd ddifaru, Heb gael arfod wneuthur felly.
Edifara 'nawr gan hynny, Ni wyis pwy a fydd y foru, Cymmer Barchell tra cyniccer, Rhag nas caffech pan y ceisier.
Ac lle 'rwyt ti 'n pechu beunydd, Edifara bob diwedydd, Rhag i'r Dwr sy'n * 1.708 sio 'n sceler, Eeisie ei † 1.709 blwmpo soddi 'r llester.
Gwedi gwir ddifaru vn-waith, Gwachel nyrddo 'th draed yr eil-waith: Na thro gydâ 'r hwch i'r dommen A'r ci i fwytta 'th hwd drachefen.

Page 109

Ond cais ddilyn buchedd newydd,* 1.710 Trwy sancteiddrwydd a gwir grefydd, A chall dreulio 'th einioes fychan, Mewn duwiolder prudd ac ofan.
Dôd dasg arnad nôs a boreu, Foli Duw ar ben dy linieu: Nad ddiwarnod fyned drosod,* 1.711 Heb addoli 'r sanctaidd Drindod.
Ac i 'th helpu fynd yn dduwiol, I orchfygu nwyfiant cnawdol,* 1.712 Cymmer gyfraith Dduw i'th ddysgu, A 'i lân yspryd i 'th gyfnerthu.
Cyfraith Dduw sydd daran rymmus, I droi 'r enaid cyfeiliornus, Ac i roddi dysg a deall,* 1.713 I'r rhai Jfaingc annoeth, angall.
Gwna beth archo 'r gyfraith itti, Gwrando 'r cyngor y foi 'n roddi, Os dilynu 'r gyfraith gyfion, Hi'th wna 'n ddoethach nâ'th Athrawon.
Cadw afel siccir yndi, Plŷg dy warr, ymostwng iddi, Hi ry râs a pharch a phwer, O'i chadw hi mae gwabar lawer.* 1.714
O'r arferu fyw yn berffaith, Nawr yn llangc yn ol y gyfraith, Fe fydd hawdd trwy fawr lawenydd, It fyw'n sanctaidd yn dragywydd.
Anrhydedda Dduw dy dadau,* 1.715 Duw a'th anrhydedda dithau, Os dirmygu di ei wasnaethu, Fe ddirmyga dy ddiwallu.

Page 110

Os gwasnaethu Dduw yn blentyn, Duw 'th wasnaetha dithe 'n hen-ddyn, * 1.716Ac a bair i'r brain dy borthi, Cyn bo arnad fawr galedi.
Ni 'th ddanfonwyd i'r byd ymma, I wasnaethu 'r byd na'r bola; * 1.717Ond i wasnaethu Duw yn weddaidd, Fel y gwna'r Angelion Sanctaidd,
* 1.718Pan y coedch gynta o'th wely, Cofia Dduw a chwymp i wasnaethu, Ac na ddôs o'th stafell allan, Nes ei addoli â pharch ac ofan.
Er Maint a fo dy fusnesson* 1.719, A'th † 1.720 glamwri, a 'th orchwylion, Na ddôd law ar un o 'r rheita, Nes addoli Duw yn gynta:
* 1.721Ni bydd llwyddiant, ni bydd llonydd, Ni bydd comfford, na llawenydd, Lle bo trafferth o bob rhyw, Heb ddim pris am foli Duw.
* 1.722Er bod busnes fawr gan Ddaniel, Yn y † 1.723 cwrt dan Frenin Babel, Tair gwaith beunydd y gweddie, Yn ei stafell ar ei linie.
Pan yr elech o'r drws allan, At vn gorchwyl fawr na bychan, Cais gan Dduw dy brudd fendithio, A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo.
* 1.724Fel y llwyddodd Duw orchwylion, Joseph gynt a Daniel dirion, Felly llwydda d'orchwyl dithe, Os gweddii arno 'n ddie.

Page 111

Ple bynna bech, beth bynna wnelech, Ai da, ai drwg y mann y mynnech, Duw 'mhob mann sy'n disgwyl arnad,* 1.725 Gwachel bechu yng-wydd ei lygad,
Gwna i eraill bôb daioni, Yddymynyd wneuthur itti:* 1.726 Na ro i arall waeth fesurau Nag a fynit roi i tithau.
Na wna weithred er dy gyffro, Na bo Duw yn * 1.727 warant iddo, Ac na allech yn ddi-wawd, Gyfri am dano ar ddydd † 1.728 brawd.
Gwna 'r Duw byw yn wîr Dduw itti, Ac yn * 1.729 garcus cais i addoli, Galw arno, a molianna, Felly yn wastad fe 'th ddiwalla.* 1.730
Gwachel gymryd ar vn amser, Enw 'r Arglwydd mawr yn ofer: Cans nid gwirion gantho hwnnw, Gam arfero ei sanctaidd enw.
Treulia 'r Sabboth ôll yn llwyr: Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr, Ac na ddoro ran na chyfran, O ddydd Duw i * 1.731 blessio Satan.
Anrhydedda dy Rieni, Parcha, * 1.732 llonna, swccra rheini, Felly hestyn Duw dy ddyddie, Ac y parcha d'eppil dithe.
Gwachel gytcam ddigalonni, Na rhoi ammarch i'th Rieni: Odid gweled diwedd dedwydd,* 1.733 I Ferch falch neu fâb anvfydd.

Page 112

* 1.734Gwachel rhag godineb ffiaidd, Cadw'th gorph yn lester sanctaidd: Ac na wna er golud Rhufain, Aelod Christ yn Aelod puttain.
Gorwedd gydâ'th wraig dy hûn, Na chais arall wrth dy * 1.735 wŷn, * 1.736Ac na chytcam wneuthur Temel, Yspryd Duw, yn wâl i'r cythrel.
* 1.737Er mwyn Iesu gwachel feddwdod, Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod: Mae 'n troi dyn i gyflwr cythrel, Vgain gwaeth nag vn anifel.
* 1.738Câr â'th galon bôb rhyw ddyn, Fel y carech di dy hun, Ac na wna i vn dyn niwed, Ar air, meddwl, nac ar weithred.
* 1.739Gwna i bôb dyn ore ac allech, Gwna yn ffyddlon 'r hyn a wnelech: Ond na chytcam er mwyn vn dyn, Wneuthur dim a fo Duw 'n * 1.740 wrafyn.
Gâd i Gyfraith Dduw 'th reoli, Ym-mhôb gorchwyl y so itti: Nid oes vn rhyw orchwyl perffaith, Ond yr vn sy'n ôl y gyfraith.
Cofia f' enaid nâd oes genyd, Ddydd * 1.741 certennol ar dy fywyd: Treulia bob dydd mor ddigamwedd, A pha bae ef ddydd dy ddiwedd.
Cofia 'r Nôs dy waith y dydd, Lle gwnaethost gam, gwna iawn yn † 1.742 brûdd, O digiaist Dduw cais * 1.743 bardwn gantho, Os cefaist râs rhô foliant iddo.

Page 113

Cynghor i wasanaethu Duw.

Y Sawl y fynno gael esmwythder,* 1.744 Llwyddiant, Heddwch, Cyfoeth, Cryfder, Parch a ffynniant tra font byw, Cwympent i wasnaethu Duw.
Y neb a fynno ddiangc hefyd, Rhag trallodion tôst ac adfyd, Nychdod, niwed, anhap, aflwydd, Cwympent i wasnaethu 'r Arglwydd.
Dlyed pôb dyn tra fo byw, Ydyw prûdd wasnaethu Duw, Trwy lwyr gadw ei orchmynion, Ar bob pryd o 'wllys calon.
Rheita gorchwyl, penna Gweithred, Mwya ei ennill, gore ei wargred* 1.745, Suwra ei wabar tro dyn byw, Ydyw † 1.746 prudd wasnaethu Duw.
Dyna 'r vnig waith a bwyntiwyd, I bawb wneuthur pan ein creuwyd: Dyna 'r gwaith y gorfydd cyfri, Dosta am dano ddydd ein † 1.747 didri.

Beth yw gwasanaethu Duw.

Gwrando 'r Gair a chadw 'r Gyfraith,* 1.748 Credu 'r Fengyl yn ddiragraith, Byw yn ol ei gwir oleuni, Yw gwasnaethu Duw o-ddifri.
Gwneuthur y fo Duw 'n orchymyn, Gwechlyd 'rhyn a fo e'n wrafyn, Dilyn ei Air tra fom byw Ydyw gwir wasnaethu Duw,

Page 114

* 1.749Dau ryw o wasanaeth ffyddlon, Y fyn Duw ar law Pôb christion; Vn trwy ffydd a chrefydd dduwiol, Llall trwy foes a buchedd rassol.
Yn grefyddawl rhaid ei wsnaethu, Trwy wír grefydd a'i foliannu, Yn gyhoeddus, ac yn ddirgel, Yn y Tŷ, ac yn y demel,
* 1.750Yn yr Eglwys yn gyhoeddus, Ar bob Sabboth yn dra pharchus, Gydâ 'r dyrfa ar ein glinie, Ag vn galon, ag vn gene.
* 1.751Ar ddydd gwaith mewn stafell ddirgel, Gydâ 'n tylwyth fel mewn Temel, Fore a hwyr trwy alw arno, Gwrando ei Air, a'i wîr fendithio.
Rhaid gwasnaethu Duw yn foesawl, Trwy lân fuchedd tra christnogawl, Ym mhôb mann, ac ar bôb achos, Hyd yr awr ddiwetha o'n heinios.
* 1.752Rhaid yw byw yn ddi-esceulus, Yn ol cyfraith Duw ai 'wllys, Nid yn ol ein * 1.753 ffansi 'n hunain, Os gwasnaethwn Dduw yn † 1.754 gywrain.
Rhaid yw dilyn buchedd ddeddfol, Yn ol wllys ein Tâd nefol, * 1.755A rhyngu fôdd, tra fom ni byw, O'r ceisiwn wîr wasnaethu Duw.
Y neb na wsnaetho Dduw yn brûdd, * 1.756Yn ol ei Air trwy fywiol ffydd, Ni all hwnnw gwnaed ei ore, Byth foddloni Duw â'i Foese.

Page 115

Duw y fyn i bôb rhyw Gristion, Ei wasnaethu â'i holl Galon, A'i holl Enaid, â'i holl feddwl,* 1.757 A'i Aelodau ôll a chwbwl.
Rho dy Gorph yn Aberth bywiol, I wasnaethu dy Dâd nefol: A rho d'anwyl Enaid hefyd, I Addoli ef yn hyfryd.
Christ a Brynodd Corph ac Enaid, Ar y groes â'i waed bendigaid, Mae e'n disgwyl cael ei Addoli,* 1.758 Genym â phob vn o'r rheini,
Ni fyn Duw ein Tâd galluog Vn gwasanaeth dau-hannerog: Ond fe fyn ei Addoli 'n hyfryd, Gan bôb Gwâs â'r Corph a'r yspryd.
Yspryd ydyw Tâd trugaredd, Ac mewn yspryd a Gwirionedd,* 1.759 Y mae 'n gofyn ei addoli, O'r tu mewn â Chalon wisci.
Ofer rhedeg dros badere, O'r tu faes a Geirie 'r Gene, Oni bydd y Galon hefyd, Yn gweddio yn yr yspryd.
Nid oes mann ar Gorph vn Christion, Tu fewn, tu faes, yn oed y Galon, Na fyn Duw ei lwyr Gyssegru, Ol a chwbwl iw wasnaethu.
Er bod Satan weithie 'n fodlon, Gymryd genym ran o'r Galon: Ni fyn Christ na phen na sowdwl,* 1.760 Oni chaiff ef ôll a chwbwl.

Page 116

Rho dy Enaid iw fendithio, Ac i orfoleddu ynddo: * 1.761Rho dy yspryd i gydnabod, Faint o bethau wnaeth ef erddod.
* 1.762Rho dy frŷd ar bethau nefol, ☞Ac na sercha ddim daiarol: Meddwl am y wlâd y gorfydd, Aros yndi yn dragywydd.
Rho dy Gorph a'th holl Aelodau, * 1.763Fawr a bychan yn eu graddau, Bôb yr vn mewn gweddaidd gyflwr, I wasnaethu dy Greawdwr.
Rho dy Galon idd ei garu, Yn ddiragraith a'i wasnaethu, Ac i lynu 'n ddyfal wrtho, Gan roi llwyr ymddiried yndo.
Rho dy Dafod iw Glodforu, * 1.764Ddydd a nôs ar eitha o'th allu, Ac i ddatcan ei Ddaioni, Ym-mhôb tyrfa delech iddi.
Rho dy lygaid i † 1.765 attendo, Ac i ddyfal ddisgwyl arno, Gan eu * 1.766 drycha tu ar mynydd, O'r lle daw dy holl lawenydd.
* 1.767Rho dy Glûst i wrando 'n barchus, Ar ei Air, a'i Arch, a'i 'wllys, Ac i dderbyn yn ddisigil, Addewidion yr Efengyl,
Rho dy Ddwylo yn awyddus, * 1.768I bob Gweithred sydd ddaionus, A chyfranna ei fendithion, Wrth eu rhaid i'th frodyr tlodion.

Page 117

Rho dy Liniau iw Addoli,* 1.769 Ac i 'mostwng iddo o ddifri: Gan roi parch ac ofan iddo, Pa le bynna galwech arno.
Rho dy draed i droedo ei lwybrau, Ac i rodio 'n ffordd ei ddeddfau, Ac i dramwy yn Gristnogaidd, Idd i lŷs ai demel * 1.770 sanctaiad.
Rho dy Enaid, Rho dy yspryd, Rho dy Gorph a'th Galon hyfryd, A phob peth ag y sydd ynod, Ddydd a nôs i foli 'r Drindod.
Parch† 1.771, Anrhydedd, vnion olud, Gwir dderchafiad, Hìr oes, iechyd, Heddwch, ffynniant o bob rhyw, Y geir o wîr wasnaethu Duw.
Dôs lle mynnech, doed y ddelo, Gwnaed pob Gelyn waetha ag allo, Yn ddigonol di gae fyw, Os ti wîr wasnaethu Dduw.
Yn y dref ac yn y wlâd, Ar bob Gorchwyl di gei râd, A gwîr lwyddiant ar y feddu, Os yr Arglwydd a wasnaethu.
Bydd dy Faesydd, bydd dy Winllan, Bydd dy Letty, bydd dy Gorlan, Yn dia ffrwythlawn, heb ddim aflwydd, Os ti wr wasnaethu 'r Arglwydd.

Page 118

Rhessymau i'n cyffroi i wasanaethu Duw.

1. DUW a'th wnaeth yn ddŷn deallus,Line 1 Ar ei lûn ei hûn yn weddus: Rwyti 'n rhwym i wsnaethu 'n ffyddlon, Am dy wneuthur felly 'n Gristion.
2. Christ a'th Brynodd o law Satan,Line 2 A'i wir waed, ac nid ag Arian: Am i Grist mor brîd dy Brynu, Rwyt ti 'n rhwym ei brûdd wasnathu.
3. Duw a'th borthodd yn ddigonol,Line 3 O'r Grôth hyd yr awr bresennol: Am dy Borthiant, os ystyrii, Rwyt ti 'n gaeth i wîr Addoli.
4. Di Addewaist yn dy Fedydd,Line 4 Wîr wasnaethu Christ yn vfydd: Oni wasnaethu Dduw fel Christion, Rwyti gwedi tyngu 'n vdon.
5. Duw a wnaeth i bôb Creadur,Line 5 Dan y nef d'wsnaethu 'n bryssur: Rwyt ti 'n gaeth ar ben dy linie, Am y rhain i wsnaethu ynte.
6. Duw a wnaeth ir Bŷd gweledig,Line 6 Brûdd wasnaethu Dŷn yn * 1.772 ystig, Fal y gallei 'r dŷn a'i ryw, Ynte 'n brûdd wasnaethu Duw.
7. Y dyn anghofio wsnaethu Duw,Line 7 Yn ei râdd, tra fyddo byw, Mae 'n anghofio 'r gweithred mwya, Bwyntiodd Duw iw wneuthur ymma.
8. Nefoedd, Daiar, Dŵr, Angelion,Line 8 Adar, Pyscod, Bwystfil gwylltion,

Page 119

Ac ymlysciaid o bôb rhyw, Sy 'n ei grâdd yn moli Duw.
Nid oes vn o'r holl greaduriaid, Gwyllt na dôf, na dwl na diriaid, Heb wasnaethu Duw trwy fawl, Ond yn vnig dyn a diawl.
9. Cwilydd, Gwradwydd maes o fessur,Line 9 Ydyw gweled pôb Creadur, Yn Gwasnaethu Duw yn ffyddlon, Ai ddibrissio gan blant dynion.
10. Bawedd y cyfyd dŷn ei ben?Line 10 Pan dwetto Christ o'i orsedd wen, Nâd oes neb yn ei wasnaethu, Waeth nâ 'r dyn y fu e'n brynu.
11. Mae mwy Ddlyed ar bôb Christion,Line 11 Lwyr wasnaethu Duw yn ffyddlon, Nag y Sydd ar vn Creadur, Ag y wnaeth Duw dan yr Awyr.
12. Nid â i vffern vn Creadur,Line 12 Gydâ 'r diawl i'r poen di-fessur, Onid dynion gwaetha eu rhyw, Eisie gwir wasnaethu Duw.
Rhag i tithe fynd i * 1.773 frwylian, I dan vffern gydâ Satan, Nac anghofia tra fech byw, Ym-mhôb mann wasnaethu Duw.

Siamplau o wîr wasnaethwyr Duw a'i gobrwy.

Enoch am wasnaethu Duw, Y gâs mynd ir nef yn fyw, Yn ei gnawd a'i wir gorpholaeth, Cyn cael gweled dim marwolaeth.

Page 120

† 1.774Noah am wîr wasnaethu 'r Arglwydd, Gâs ei gadw yn ddi-dramcwydd, yn yr Arch a'i dylwyth hefyd, Pan y soddodd Duw yr holl-fyd.
Abram y gâs barch a golud, Ffasar Duw, ac Isaac hefyd, Holl wlad Ganaan, a'i thai mawrion, Am wasnaethu Duw yn ffyddlon.
Isaac yntef am fendithio Duw, 'n y maesydd wrth fyfyrio, Y gâs lafur ar ei ganfed, Gan yr Arglwydd am ei weithred.
Joseph ddiwair am wasnaethu Duw, a pheidio godinebu, Gâs i dynnu maes o'r dwngwn, A'i roi 'n Ben ar wlad y Sibswn.
Josuah rymmus ynte am lynu, Wrth yr Arglwydd a'i wasnaethu, Y Gâs ennill Brenhiniaetheu, A phôb Tîr a Gwlad y gerddeu.
Hên Elias gâs ei borthi, Gan y cigfrain yn ei dlodi, Ai ddwyn ir nef mewn, † 1.775 coits danllyd, Am wasnaethu Duw 'n ei fywyd.
Sadrach, Mesach, Abeduego, Am wasnaethu Duw a'i gofio, A waredwyd yn dra hyfryd, O'r tân poeth a'r ffwrnes danllyd.
Daniel am wasnaethu 'n vfydd Duw 'n ei stafell dair-gwaith beunydd, Y gas ddiangc rhag y llewod, A'i waredu maes o drallod.

Page 121

Pwy erioed a wnaeth wasanaeth, Ir gwir Dduw heb wabar helaeth? Pwy y dannodd ei ogoniant* 1.776 Na châs gantho barch a ffynniant?
Ni agorodd vn-dyn etto, Ddrws ei demel heb ei wabro, Ac ni nynnodd vn offeiriad,* 1.777 Dân ar Allor heb lawn daliad.
Ni ry vn-dyn byth gwpanaid, Er ei fwyn o ddwr i'r Gweiniaid, Ar ni chaiff ei wabar gantho, Ar ei chanfed medd Sant Matho.
Goreu Meistr iw wasnaethu, Mwya ei barch yw 'r Arglwydd Jesu, Goreu 'n talu taliad ffyddlon, Am wasaneth idd i weision.
Meistr grassol, Meistr grymmus, Meistr † 1.778 rhial gogoneddus, Meistr a wna ei holl weision, Yn Offeiriaid a Thwssogion.* 1.779
Meistr a wna iddynt eiste, Yn y Nefoedd mewn cadeire, Mewn esmwythder a dedwyddwch, Mawr ogoniant a Rhialtwch.
Meistr y ry idd ei weision, Deyrnas hardd ac auraidd Goron,* 1.780 A'r fâth bethau mawr arbennig, Na all calon dyn ddychymyg.
Pwy gan hynny na wasnaethe, Grist yn ddyfal ar ei linie? Rhwn sy'n gwabru ei gywir weision, A'r fâth deyrnas, â'r fâth Goron.

Page 122

Pwy na * 1.781 scornei 'r Byd ar Cnawd, A'r cythrael câs, a'i saig, ai Sawd, Ag ystyrie faint yw cyflog Holl wasnaethw yr Duw galluog?
Er nad oes vn Gwâs yn haeddu * 1.782Cael vn wabar am wasnaethu, Etto o'i râs mae Duw yn addo Teyrnas nêf ir rhai gwasnaetho.
Gwâs i Bechod, Gwâs i Gythrael, Gwâs i Angeu trist trwy drafel, Yw pob Gwâs sydd yn gwasnaethu, Na bo Gwâs ir Arglwydd Jesu.
Pan y delo 'r Angeu digllon Fynd ir * 1.783 barr â phob rhyw weision, O! pun oreu 'r amser hynny, Wâs ir Cnawd a Gwâs ir Jesu?
* 1.784Pan y llosco 'r Byd yn chwyl-boeth, A'i holl olud, a'i holl gyfoeth, O! pun oreu 'r amser trist, Wâs ir Byd, a Gwâs i Ghrist?
Pan derchafer Plant y Drindod, A throi i vffern weision pechod: Hi fydd chwerw 'r amser hynny, Ado 'r Arglwydd hob wasnaethu.
Mwy o ennill sydd o awr, Yn Gwasnaethu 'r Arglwydd mawr, Nag a gaffom o'n holl fywyd, Yn gwasnaethu 'r Byd anhyfryd.
Am wasnaethu 'r Byd yn gyfan, Ni cheir ond y poen a'r † 1.785 twttan, A'r twyll tôst wrth fynd o hano, Yn noeth fel y daethpwyd iddo.

Page 123

Am wasnaethu 'r Cnawd trwy Blesser,* 1.786 A'i foddloni ag esmwythder, Ni cheir cyflog gantho 'sywaeth, Ond oes ferr a * 1.787 llygredigaeth.
Am wasnaethu vn rhyw Bechod, Pe's Gwasnaethem hwn yn wastod, Ni cheir gwedi 'r hîr wasanaeth, Gantho ond Gwradwydd a Marwolaeth.
Am wasnaethu Tâd y celwydd, Er ei fôd yn cynnig Gwledydd, Nid oes trodfedd dîr gan Satan, Ond pwll vffern iddo i hunan.
Am wasnaethu 'r Arglwydd Jesu, Y mae Teyrnas iw meddiannu, A Gogoniant a dedwyddwch, A gwir fywyd mewn rhialtwch.
Ymrown ninne tra fom byw, Bawb i brûdd wasnaethu Duw: Dyna 'r Meistr gore i wsnaethu, Dyna 'r Gorchwyl rheita i bennu.
A meddyliwn bawb am ymladd, A phôb Gelyn sydd ein gwrthladd, Yn ein duor, yn ein † 1.788 stoppi Weithio 'r Gwaith sydd reita inni.
Ac fel Gweithwyr cywir, ffyddlon, Câll, cofiadyr, * 1.789 carccys, cyfion, Cwympwh bawb i wîr wasnaethu Duw tro amfer Grâs yn gadu.* 1.790
Oni wsnaethwn Dduw tro 'n ymma, A thro amser Grâs yn para, Ni gawn fynd ir Pwll yn gyngan, Ar ein pen i wsnaethu Satan.

Page 124

Yn y pwll hi fydd edifar, Trwy ddifeirwth rhy ddiweddar, Mor ddi-bris ddirmygu 'r Drindod, Ac mor rhwydd wasnaethu pechod.
Yno hwylir hallton ddagrau, * 1.791Yno bloeddir gan y poenau: Ond pa hwylyd perfedd allan, Ni ddoir byth o Grampau Satan.
Cwympwn bawb yn * 1.792 brûdd gan hynny, I wasnaethu Duw tro i 'n heddy: A rhown ffarwel bawb i bechod, Trwy lwyr droi i wasnaethu 'r Drindod.
Felly cawn ni pan bo rheita, Gwedi 'r byrr wasanaeth ymma, Byth wasnaethu 'r Arglwydd tirion, Yn y Nêf ym-mhlith Angelion.
Ir hon Nefoedd ô 'n Creawdwr, Er mwyn Jesu Ghrist ein prynwr, Dwg ni oll i'th wîr wasnaethu, Gydâ 'th Sainct a'th nefol deuly.

Am Weddi a'i pherthnasseu.

TYnn dy 'scidie cyn gweddiech, Rhwym dy assyn cyn aberthech, Golch dy draed cyn mynd ir cymmyn, Ystyria geisiech cyn ei ofyn.
* 1.793Cyn gweddio edifara, Wrth weddio dyfal weithia, * 1.794Yn ol gweddi bydd ddiolchgar, Felly caiff dy weddi ffafar.

Page 125

1. Y Diawl y gais bôb dydd dy demptio,Line 1 2. Y cnawd bôb awr a fyn dy dwyllo,Line 2 3. Y byd a'i bethau gais d' orchfygu,Line 3 Prawf trwy weddi eu gwrthnebu.* 1.795
Da yw gweddi ym-mhob lleoedd, Da yw gweddi bôb amseroedd, Da yw gweddi dros bôb dynion, Mae 'n dda gweddi 'm-mhôb achosion.
Aberth hyfryd ir Gorucha,* 1.796 † 1.797Whipp yn * 1.798 Scwrgio 'r Diawl a'i dyrfa, Nerth ir gwann ym-mhôb gofydi, Nawdd rhag Pôb drwg ydyw gweddi.
† 1.799Allwedd Aur i ddaccloi 'r borau, Bollt y nôs i gau dy ddryfau, Tŵr i'th gadw rhag drygioni, Ddydd a nôs yw * 1.800 deddfol weddi.
Gweddi brûdd sydd drech nâ dynion, Gweddi daer a drôdd Angelion, Gweddi fwriodd Ddiawled allan, Gweddi orchfygodd Dduw ei hunan.
Na ddibrissia ddim o'th weddi, Mae 'n y nef fel thus yn llosci, Mae ar ddaer yn clwyfo Satan, Mae 'n ennillfawr it dy hunan.
Mewn ffydd a parch, a llwyr-fryd calon,* 1.801 Mewn zêl, ac Awch, a meddwl Ʋnion, Mewn deall † 1.802 drûd a dyfal geisio, Mewn hyder prûdd y mae gweddio.
Côd d'olygon, plûg dy liniau, Tann dy ddwylo, agor d'enau, Deffro d' yspryd, cûr dy ddwyfron, Llwyr weddia â'th holl galon.

Page 126

* 1.803Nid ar Baal na'r llo, na'r ddelw, Sant na Santes y mae galw, Ond ar Dduw, trwy Grist yn unig, Am bôb peth sydd arnat ddiffig.
Ni ŵyr neb ond Duw o'n cyflwr, Ni all neb ond Duw roi † 1.804 swccwr, Ni chlyw neb ond Duw ein gweddi, Ar Dduw 'n unic y mae gweiddi.
* 1.805Duw sy'n erchi galw arno, Duw sy'n addo rhoi ond ceisio: Duw sy'n gwrando pob prûdd weddi, Duw all tynnu pawb o'i tlodi.
* 1.806Ni ŵyr Abram, ni wyr Jaco, Ym-mha gyflwr yr ym ynddo, Ni ŵyr neb ond Duw ei hunan, Beth yw 'n cais, a maint yw 'n cwynfan.
* 1.807Peth perthnassol i Dduw 'r lluoedd, Ydyw gwrando gweddi miloedd, A fo 'n ceisio mîl o bethau, Ar un pryd mewn amryw Jaethau.
Ni ŵyr Mair i'm tŷb ddim Saesneg, Ni ŵyr Martha ddim gwyddeleg, Ni ŵyr Clement Sant ddeallu, Beth y ddywaid un or Cymru.
Ni ŵyr Abram ddim o'n cyflwr Ni all Clement roi i ni Swecwr, Ni chlyw Peder ddim o'n gweddi, Ar Dduw 'n vnig y mae gweiddi.
Parcha 'r Saint yn fawr yn fychan, * 1.808Ond addola Dduw ei hunan, Rho anrhydedd gweddus iddynt, Etto na weddia arnynt.

Page 127

Ni bu † 1.809 Batriare, ni bu Brophwyd, Ni bu * 1.810 Bostol ag y glyw-wyd, Wneuthur gweddi (ar' ddarllenes) Etto erioed at Sant na Santes.
Nid oes † 1.811 Brommais yn y fengyl, Inni gael dim trwy fawr ymbyl, Ond y gaffom trwy ymbilian, Er mwyn Jesu Ghrist ei hunan.
Christ yn Unic yw'n Cyfryngwr,* 1.812 Christ yw'n Twrnei a 'n dadleuwr, Nid oes arall all gyfryngu, Rhwng Duw a dyn ond Christ Jesu.
Er mwyn Jesu y mae ceisio, Faint y geisiom wrth weddio, Ar ddeheu-law 'r Tâd mae 'n eiste,* 1.813 Er mwyn derbyn ein gweddie.
Cymred eraill hên Saint Catrin, Dewi, Clement, Martha, Martin, Byth ni cheisiaf i Gyfryngwr, Rhwng-wi a Duw, ond Christ fy mhrynwr.
Cais yn eiriol wrth weddio,* 1.814 Nerth yr yspryd ith gyfrwyddo: Ni all neb weddio 'n hyfryd, Heb gyfrwydd-deb y glân yspryd.
Heb yr yspryd f'allir sonio, Am Dduw mawr ac am weddio: Ond ni ddichon un dyn * 1.815 ddwedyd, Wrth Dduw mawr heb nerth yr yspryd.
Duw ni phrissia weddi 'r tafod,* 1.816 Heb y galon a'r gydwybod, Gweddi 'r enaid prudd ar yspryd, O flaen Duw sydd aberth hyfryd.

Page 128

Cais â'r genau, cais a'r galon, Un or ddau sydd lai nâ digon; Cydia 'r genau gydâ 'r yspryd, Hynny bair cynghanedd hyfryd.
Gwell yw'r galon heb y genau, I weddio ambell weithiau, Nag yw 'r genau hêb y galon: * 1.817Gweddi o'r fâth sydd weddi ffinion.
Gwell oedd gweddi Moesen hyfryd, Wrth * 1.818 Shiwrneia heb ynganyd, Nâ gwaith gwefus yr Iddewon, Yn gweddio heb y galon.
* 1.819Cais a geisiech trwy wîr ffydd, Na chymmer ball, ond * 1.820 beggia'n brŷdd: Nac ammeu dderbyn 'rhyn a geisiech, O ceisij 'n daer di gei ofynnech.
Ni chau 'r Adar bach o'u safnau, Nes y llanwo ei mam eu boliau, Ac ni ddlye ddynion dewi, Nes cyflawno Duw eu gweddi.
Rhyfedd yw mor daer y * 1.821 beggian, Llawer dyn am fwyd ac Arian, Ac mor * 1.822 llwfr y gweddiant, Am drugaredd a gogoniant.
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant, * 1.823Rhwydd yn rhoi ir rhai ofynnant; Rhoi yn brûdd heb ddim dannodiaeth; Rhoi eu rhaid i bawb yn helaeth.
* 1.824Fel y gwrendy Mam ar Blentyn, Y fo 'n llefain yn ei rwymyn: Felly gwrendy Duw ein gweddi, Pan y llefom mewn gofydi.

Page 129

B'wedd na wrendy Duw dy weddi Lle mae 'r yspryd glân yn gweiddi,* 1.825 A Christ Jesu 'n Ymbil drosod, Ar ddeheu-law 'r Tâd yn wastod?
Os yn enw Christ y ceisij,* 1.826 Os yn eiriol y gofynni, Di gei naill ai'r hyn ofynaist, Neu beth gwell nâ 'r hyn y geisiaist.
Or bydd d' Arglwydd yn † 1.827 dehirio, Rhoi ofynnech wrth weddio, Mae e'n d'annog geisio 'n dacrach, Neu ddymuno rhyw beth rheitach.
Cais ogoniant Duw yn gynta,* 1.828 Cais nefolion bethau nessa, Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder, Di gei 'r cwbwl heb ddim prinder.
Gwachel geisio tra fech byw, Ddim yn erbyn gwllys Duw: Digio Duw y mae dy weddi, Or ceisij 'r peth na fynno'i roddi.
Ffôl yw ceisio bydol bethau, Pan galler cael nefolion dlwssau, Serchu 'n fawr mewn daiar domlyd, Heb wneuthur prîs o'r nefoedd hy fryd.
Nattur Mochyn brwnt anhygar, Yw rhoi 'fryd ar drwyno 'r ddaiar,* 1.829 Nid naturiaeth un or bobloedd, Sydd a'i Tâd yn nhynas nefoedd.
Cais y peth y mae Duw 'n addo, Yn ei Air ac yn ei † 1.830 lwo: Caisy rhain er hyn yn weddys, Os cenhada ei sanctaidd 'wllys.

Page 130

* 1.831Gwna dy weddi byth yn ddiwall, Yn y iaith a fech yn ddeall: Gwell yw pum gair ag ystyriech, Nag yw deng-mil na's deallech.
Gwatwar Duw a'i dw yllo ei hûn, Wrth weddio y mae dŷn, Pan y ceisio wrth * 1.832 friwgawthan, Gan Dduw 'r peth nas gŵyr ei hunan.
Nâd ir min rag-flaenu 'r meddwl, Pâr ir galon bwyso 'r cwbwl; Ni all Duw un amser odde, Heb y galon weddi 'r gene.
Duw yw chwiliwr y calonnau, Duw ei hûn yw Tâd y golau, Duw fyn gweddi brûdd o'r galon, Duw ni phrissia eiriau gweigion.
* 1.833Tro bôb meddwl aflan heibio, Pan y byddech yn gweddio, A rhwym gartre dy fydolrwydd, * 1.834Trech yn parlo ti a'th Arglwydd.
Ni chae Assyn Abram sangu, Lle bae Abram yn aberthu: Nad i'th fydol feddwl dithe, Dramwy lle bo dy weddie.
* 1.835Megis Abram rhaid it darfu, Pob rhyw rwystrau wrth aberthu, A rhyfela ar † 1.836 bussnesson, Ath * 1.837 ddehoro i adail Sion.
Pa ddysala ceisio Satan, Pan gweddiech droi dy amcan, Rheita 'gid y dlijt weddio, A'i wrthnebu nes y cilio.

Page 131

Fel y cilia 'r llew crafangog, Pan y clywo ganiad ceilog: Felly cilia Satan greulon, O'r lle clywo weddi ffyddlon.
Ni all † 1.838 Bual drigo 'n heppell, Lle bo gwichiad ciw neu barchell: Ni all Satan yntef drigo, Lle bo dynion yn gweddio.
Oni bae fôd Satan ddwrngas, Yn gweld gweddi 'n rhwygo ei deyrnas, Ac yn awchlym yn ei glwyfo, Byth ni rwystrei 'neb weddio.
Ond * 1.839 or ceri Jechyd d'enaid, Na gogoniant Duw, na'th gyfraid, Nâd i Satan byth dy rwystro, Wrando 'r gair nac i weddio.
Wrth weddio llêf heb orphwys,* 1.840 Dros bôb grâdd sydd yn yr Eglwys, Ac nac arfer megis † 1.841 Pagan, Weddi 'n unic itt' dy hunan.
Nid gwîr Blant yr Eglwys Sanctaidd; Ond Bastardiaid anghristnogaidd, Yw pawb na weddio 'n ffyddlon, Dros yr Eglwys, Sanctaidd Sion.
Os gweddiodd Abram fwyna, Dros drê Sodom a Gomorra, B'wedd na ddylem ni 'r Christnogion,* 1.842 Alw ar Dduw dros dylwyth Sion?* 1.843
Christ sy'n erchi' bawb weddio, Ar bôb amser heb ddeffygio: A Saint Paul sy 'n chwennych inni, Ym-mhob man ymarfer gweddi.

Page 132

* 1.844Daniel rasol a weddie, Dair gwaith beunydd ar ei linie, * 1.845A'r brenhinol Brophwyd Dafydd Y weddie saith waith beunydd.
Christ ein prynwr ynte yn * 1.846 glôs, * 1.847A weddie tra fae 'r nôs, Ac y dreulie 'r dydd tro ganto, Yn pregethu neu 'n gweddio.
Ym-mhôb man ac ar bob amser, * 1.848Y mae gweddi o fawr bwer, Os y galon a fydd parod, I * 1.849 ymbilian a'r hael Drindod.
Ar y moroedd, ar y mynydd, Yn ein Teie, ar ein maesydd, Y * 1.850 dirpere i'n weddio, Ym mha fan y bom ni yndo.
* 1.851Gydâ Pheder yn ein llettu, Gyda Dafydd yn y gwely, * 1.852Gydâ Daniel rhwng y llewod Y mae 'n rhaid gweddio 'n wastod.
Ni ddiffodde ar vn * 1.853 tymmor, Or tân sanctaidd ar yr allor, I fynegi byth na ddlye, Ddiffodd * 1.854zêl dy weddi dithe.
Dŷn sydd Demel ir Gorucha, Calon Dyn yw 'r Allor bena; * 1.855Fore a hwyr y mae Duw 'n ceifio, Gael o'th galon aberth iddo.
Nâd dy Demel er dy fywyd, Fore a hwyr heb Aberth hyfryd, Ac nâd genol dydd i * 1.856 basso, Heb roi clôd a moliant iddo.

Page 133

Felly byddi di * 1.857 ffamiliar, A'th Greawdwr, ac mewn ffafar: Felly cei di gan y Drindod, Dy rwyddhau a'th helpu 'n wastod.
Nid oes dim a * 1.858 ddirper rwystro Dyn gwllysgar i weddio, Ac i weithio ei orchwyl hefyd, Pa ryw bynna fo'i gelfyddyd.
F'all dyn weithio 'ei gelfyddyd, A gweddio 'n ddyfal hefyd: Ni chais gweddi 'r galon rwystro Hynt y traed na gwaith y dwylo.
F'alle Foesen wrth shiwrneia,* 1.859 F'alle Josua wrth ryfela, Christ wrth ymdaith, Paul wrth forio, † 1.860Dendo eu busnes a gweddio.
Er bôd esgus yn * 1.861 lwedig, Lawer prŷd mewn pwyntiau pwysig, Nid oes esgus ellir enwi, All d'escuso am dy weddi.† 1.862
Gelli beido mynd ir eglwys, Pan bech glaf o'r haint ath rwystrwys: Ond er clafed blîn a fyddech, Rhaid gweddio nes * 1.863 departech.
Gelli beido rhoi elusen, Pan na byddoi yn dy berchen, Ond er cymmaint a fo 'th dlodi, Nid oes peido byth a gweddi.
Ym-mhôb cyflwr, ar bôb amser, Y mae Gweddi yn ei Themper: Nâd gan hynny ddim dy rwystro, Ym-mhôb cyflwr brûdd weddio.

Page 134

Yn ein trallod yn ein gwynfyd, Yn ein nychdod, yn ein iechyd, Ym mha gyflwr y bom yndo, Y gall christion brudd weddio.
Nid yw carchar, nid yw cloion, Nid yw rhwystrau holl blant dynion Na'r bŷd ôll yn rhwystro gweddi, Fynd bôb awr at Dâd goleuni.
Tynn di dafod dŷn c'r gwreidde, Toir ei droed a rho fe 'ngwarche, Fe all gweddi 'r galon Saethu, Trwy bôb clo at Dduw er hynny.
Ar wŷl a gwaith, ar nôs a dydd, Ar foreu a hwyr caiff gweddi brûdd, Fynd at Dduw, y pryd ei mynno: Doed pan ddêl, hi gaiff ei groeso.
Er na chae'r Frenhines Hesther, Fynd at Frenin ond rhyw amser, Fe gaiff gweddi heb ei rhwystro, Fynd at Dduw yr awr ei mynno.
Cwyn fel Daniel ar y wawr ddydd, * 1.864Cwyn di ganol nôs fel Dafydd: Mae Duw 'n barod gwrando geisiech, Galw arno 'r awr y mynnech.
Er na chaffo dŷn ei hunan, Fynd i'r nêf at Ghrist i ymddiddan: Fe gaiff gweddi Pôb rhyw gristion, Fyned atto 'r awr y mynnon.
Trwy 'r gwynt, a'r glaw, trwy 'r * 1.865 Aêr ar tonne, Trwy 'r Sphêrs i gŷd a'r holl Blanede, Yr aiff gweddi fel llycheden, O flaen Duw uwch law'r ffurfafen.

Page 135

Ni all nef na Daer na dynion, Awdurdodau nac Angelion, Rwystro gweddi gael ymddiddan, Bob yr awr â Christ ei hunan.
Nid rhaid iddi ofyn cennad, Peder gwyan i gael agoriad, Hi gaiff mynd trwy 'r holl Angelion, O flaen Gorsedd Christ yn † 1.866 eon,
Hi gaiff gan Dduw wrando ei chysur, Hi gaiff gan Ghrist * 1.867 bledio ei dolur, Hi gaiff gan yr yspryd riddfan,* 1.868 Ac ochneidio drosti 'n gyngan.
Ni thry Rhoddwr pôb daioni, Adre 'n wag-law o'th brûdd weddi: Ond fe leinw Christ ei bynwes,* 1.869 Ac ai nertha i gael ei neges.
Oni chaiff hi'r hyn a geisio, Hi gaiff well nâ hynny gantho: Os ni edy Christ un amser, Weddi ffyddlon fynd yn ofer.
O! pa ddyled s'arnom 'roddi; Ir gwîr Dduw am oddeu 'n gweddi, Fynd oi flaen yr awr y mynnom, A chael gantho 'r hyn a geisiom.
Braich yw Gweddi sy'n cyrhaeddyd,* 1.870 O'r Byd hwn ir Nefoedd hyfryd, Ac yn cymryd o dryssore Duw beth bynna s'arni eisie.
Gweddi † 1.871 brûdd sydd Gennad hŷ, A rêd dros ddyn ir Nefoedd fry, Ac y gaiff bôb awr ymddiddan, Yn * 1.872 ddistop â Duw ei hunan.

Page 136

* 1.873Gweddi laddodd Gawr tra chadarn, Gweddi 'gorodd byrth o haiarn, Gweddi gauodd safne llewod. Gweddi dynn ddŷn o bôb trallod.
Gweddi glôdd y Nef yn hîr, Gweddi † 1.874 droes y môr yn dîr, Gweddi wnaeth ir meirw godi, Nid oes dim mor gryf a Gwed di.
O! ba ddiolch s'arnom roddi? Ir gwir Dduw am adel Gweddi, Fyned atto 'r awr y mynnom, A chael gantho 'r pethau geisiom.
Clôd a Gallu, Diolch, Moliant, Parch, Anrhy dedd a Gogoniant, A fo i Roddwr pôb Daioni, Sydd mor fwyn yn gwrando † 1.875 'n Gweddi. Amen.

Rhybydd i Ddyn feddwl am Dduw y boreu, Pan ddihuno gynta o'i gwsc.

Y Bore pan dihunech gynta, Côd d'olygon at † 1.876 Jehofa; Meddwl am ei foli 'n ddiwall, Cyn meddyliech am ddim arall.
Cofia mae Duw oedd y Ceidwad, Y fu neithwr yn dy wiliad, Heb roi amrant iddo gysgu, Rhag ir llew dy ladd a'th lyngcu.
Oni bae Dduw a'i Angelion, * 1.877Sy'n castellu bobtu ei weision, Dyn ni bydde heb ei lyngcu, Gan y Gelyn tra fae 'n cysgu.

Page 137

Meddwl dithe faint syw'r dlyed, Y sydd arnad ir * 1.878 Gogoned, Am dy gadw mor ddihangol, Rhag y Gelyn yn wastadol.
Megis y mae 'r dlyed arnad. Rho fawr foliant iddo 'n wastad, Ac abertha ar dy linie, Ddiolch iddo nôs a bore.

Diolch foreuol pan ddihuner gynta.

DUw sy 'ngheidwad, Duw fy 'nghryfdwr, Duw fy nghastell rhag y Drwgwr, Derbyn foliant ar fy nwylo, Am fy nghadw 'r nôs aeth heibio.
Rwyt ti 'n gwiliad daetu 'ng-welŷ, Ddydd a Nôs tra fyddwi 'n cyscu, Ac yn tannu d' adain drosof, Pan gollwngwi 'r Bŷd yn angof.
Rwyti 'n rhoddi i'm esmwythder, A llonyddwch mawr bôb amser, Gan * 1.879 reffreshio beunydd felly, F'egwan gorph â melus gyscu.
Ni winc, ni chwsc, ni hun, ni heppian, Fy nhâd grasol tra fwi 'n * 1.880 slwmbran, Ond fe'm ceidw yn ei gessel. Tra fwi 'n cyscu yn ddiogel.
Pa fath ffafar yw hon ymma? Dy fod ti y Brenin mwya, Yn ymo twng i ddiwallu, Llwch a lludw tra fo 'n cyscu?

Page 136

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 137

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 138

Byth ni byddai'n abal rhoddi, Y ddegfed ran o ddiolch itti, Ag sydd arnaf (Dâd caredig) Am y ffafar hon yn unig.
Clod a gallu, diolch, moliant, Gwîr anrhydedd, a gogoniant, Y fo nos a dydd i'r Drindod, Sydd mor ddiflin yn fy ngwarchod.

Rhybydd i ymgadw rhag meddwl dim, edrych ar ddim, neu ddywedyd dim, cyn meddwl am, edrych ar, ac ymddiddan â Duw trwy weddi.

GWachel feddwl dim â'th Galon, Gwachel edrych â'th olygon, Gwachel ddwedyd dim a'th eneu, Nes moliannu Duw y boreu.
* 1.881Rho 'ddo flaen-ffrwyth dy wîr Galon, Blaen-ffrwyth d'eiriau a'th seddylion; Duw a fyn y ffrwythau cyntaf, Ni fyn Duw na'r ail na'r olaf.
Cynta peth a wna 'r vchedydd, Moli Duw pan torro 'r wawr ddydd: Cynta peth a ddlye ddynion, Foli Duw o ddyfnder calon.
* 1.882Rhobin bâch cyn glycho'i gene, A gaan ir Arglwydd psalm y bore, Am ei chadw 'r nôs rhag niwed, Er bod gwely hon yn galed.
Llawer dyn yn waeth nâ'r deryn, Gwyn o'i wely megis mochyn, Heb gydnabod Christ ei Geidwad, Na rhoi diolch am ei warchad.

Page 139

Peth cwilyddys i blant dynion, Fôd yn waeth nâ'r Adar gwylltion, Sy'n clodforu nôs a boreu Duw, mor ddyfal am ei ddonieu.

Myfyrdod foreuol, yn cyffro dyn i fod yn ddiol∣chgar i Grist am ei gadwriaeth.

MEddwl fal y gallse Satan, Yn dy gwsc dy ladd heb yngan, A'th ddwyn ir farn yn amharod, Oni † 1.883 basse Grist dy warchod.
Meddwl fal y gallse 'r Gelyn,* 1.884 Oni basse i Grist d' amddiffyn, Lâdd dy blant, a dwyn dy gyfoeth, Llosci 'th dŷ, a'th flino boenoeth.
Cofia fal y gallse 'th daro, Ag ynfydrwydd nes gwall-bwyllo, Fal na allassyd ddim o'r cyscu, Oni basse i Grist ei nadu.
Bydd gan hynny dra diolchgar, Ith wîr Geidwad am ei ffafar, Yn dy gadw mewn esmwythder, Rhag y Gelyn yn ddibryder.

Diolch i Grist am amddiffyniad ac esmwythder.

O Fyng Heidwad, o fy Mugel, Rhwn am cedwaist yn dy gessel, Neithwr rhag i'r blaidd fy llyngeu, Rwi o'm calon i'th glodforu.

Page 140

Dan dy adain Christ di'm cedwaist, Yn dy freiche di 'm cofleidiaist, Rhoddaist imi brudd esmwythder, Rwi 'n ddiolchgar am dy fwynder.
Nedaist Satan im difethu, Nedaist ddynion im gorthrymmu, Nedaist dân a gwynt fy speilio, Nac anhunedd im dihuno.
Bendigedig a fo d'enw, Christ fyng Heidwad am fy nghadw, A gogoniant itti rodder, Am roi i mi 'r sâth esmwythder. Amen.

Mor enbydus yw cyscu mewn Esmwythder y maes o ffafar Duw.

MWy yw * 1.885 perig dyn sy'n cyscu, Yn ei wely heb † 1.886 nawdd Iesu, Nag oedd perig Daniel hynod, Gynt wrth gyscu rhwng y llewod,
Y mae'r Scrythur yn mynegi, * 1.887Fôd y Diawl yn troi o bobtu, Ddydd a nôs yn ceisio llarpio, Megis llew pwy bynnag allo.
Pwy sy'n rhwystro 'r llew i'n llyngcu, Ond ein ceidwad mawr Christ Jesu? * 1.888Rhwn sydd nôs a dydd heb heppian, Yn cadw ei braidd rhag rhythreu Satan.
O gan hynny bydd ddiolchgar, I'th wir Geidwad am ei ffafar, Yn dy gadw mor ddibryder, Rhag y llew mewn mawr esmwythder.

Page 141

Cynhyrfiad yn cyffroi dyn, rhag cywilydd i fod yn ddiolchgar i Grist am ei gadw 'r nôs rhag niwed.

PE bae Iddew yn dy warchod, Tra'iti yn cyscu rhwng bwyfifilod, Di roit ddiolch fil o weithie, Am dy gadw o'u crafange.
Er bod Christ ei hun i'th warchod, Trech yn cyscu rhwng y llewod, Sydd bôb awr yn ceisio 'th llyngcu, Ni roi ddiolch iddo er hynny.
Agor d'olwg, gwel ei ffafar, Cymmer rybydd, bydd ddiolchgar, A rho ddiolch ar dy ddau-lin I Grist Iesu am d'amddiffyn.
Felly ceidw Christ di 'n wastod, Ac y tann ei adain drosod, Ac i'th geidw mewn esmwythder, Rhag pob perig yn ddibryder.

Rhybydd i ddyn wrth ddillattu y corph i we∣ddio am ddillad ac arfau i'r enaid.

PAn y bech yn gwisco 'th ddillad, Cais arfogaeth Duw am danad, Fal y gallech ymladd yndyn, Megis Cristion â phob gelyn.
Nid wyt nes er Dillad twymglyd, I guddio cnawd, i ddyor anwyd, Oni bae it gael pilynod, I ddyor bai, i guddio pechod.

Page 142

* 1.889Cais gan hynny holl arfogaeth Duw, i'th gadw rhag gelyniaeth, Ac rhag Pechod, ac rhag trafel, Twyll y byd, a'r cnawd, a'r cythrel.
Heb y rhain nid ym ond noethion, I ryfela a'n gelynion, Ac nid possib i neb hebddyn, Gael y trecha ar vn gelyn.

Gweddi wrth wisco am danad, yn † 1.890 canlyn Arfogaeth Duw i'th cadw rhag gelymaeth a phechod.

GWisc dy * 1.891 Armwr oll am danaf, O fyng Heidwad galluoccaf, Fel y gallwyf megis Cristion, Ymladd yndynt â'm gelynion.
Nâd o'm coryn hyd fyng wandde, Vn rhyw aelod heb ei arfe, Rhag fy nghlwyfo gan y Temptiwr, Lle bo eisie vn rhyw armwr.
Nâd i'r byd a'i ofer bethau, Nâd i'r cnawd a'i nwyfys chwantau, Nâd i'r Diawl a'i rythreu Scymmyn, Beri immi bechu'n d'erbyn.
Ond rho immi rym a chryfdwr, I orchfygu pôb gwrthnebwr, Ac i ymladd dan dy faner, Nes ym dygech i'th esmwythder.

Page 143

Gweddi arall wrth wisco dy ddillad.

CHrist fy nghraig am Iechydwriaeth, Gwisc am danaf dy Arfogaeth, Nd vn aelod heb ei wisco, Rhag ir gelyn fy anrheithio.
Gwisc y Pen â helm y gobaith,* 1.892 Brest a'r † 1.893 gorslet gyfiawn berffaith, Lwyne â gwregis gwir ddifeirwch, Traed â scidie efengyl heddwch.
Rho dy air yn gleddyf immi, Ffydd yn * 1.894 fwccler i ddiffoddi, Holl biccellau tanllyd Satan, A phrûdd weddi i sefyd allan.
A rho rym fel milwr ffyddlon, Im ryfela â'm gelynion, Rhythreu Satan, chwantau cnawdol, Twyll y bŷd, a phechod marwol.
A rho gymmorth i gorchfygu, A'u darostwng a'u gwrthnebu, Fel y gallwi byth d'addoli, Megis plentyn ir goleuni.
Felly beunydd yn ddibryder, Mi ryfelaf dan dy faner, Ac y roddaf itti foliant, O fy Nuw tra ynnwi chwythiant.

Page 144

Rhybydd wrth ymolchi.

PAn yr elech i ym olchi, Cais yn daer gan Dduw trwry weddi, Olchi d'enaid oddiwrth bechod, A'i lanhau â gwaed y cymmod.
Nid wyt nes er dwr yr Afon, I olchi 'r cnawd oddwrth amrhyddion, Nes y golchech dy gydwybod, A gwaed Christ, oddiwrth dy bechod.
Nid wyt nes er wyneb glân, A chalon front, heb râs, heb rân: Ni fodlonir Duw yn bûr, Ag wyneb glân, heb galon * 1.895 glûr.

Gweddi ferr wrth ymolchi.

GOlch ô Grist â'th waed sy mhechod, Golch fy enaid a'm cydwybod, Golch fy meddwl oddiwrth wegi, Golch fi 'n llwyr oddiwrth fy mrynti.
Golch fy mhen, a'm traed, a'm calon, * 1.896Fel y golchaist d' Apostolion, Sŷch â'r tywel main fy mrynti, A rho d'yspryd sanctaidd immi.
* 1.897Golch fi 'n neigreu gwîr ddifeirwch, Golch fi 'n ffynnon grâs a heddwch, Golch fi â'th waed mor wynn ar lili, Fal y gallwi 'n bûr d'addoli.

Page 145

Gweddi foreuol, iw harferu (o ran y † 1.898 sylwedd o honi) yn y man ar ôl codi ac ymolchi.

DUw trugarog, Tâd tosturi, Er mwyn Christ rho bardwn immi,* 1.899 Am fy meiau oll am pechod, Sydd mewn rhif yn fwy nâ 'r tywod.
Nid oes pwynt o'th holl gyfreithiau, Nas trosseddais llwyr; gwae finnau, Nac un dawn a roddaist immi, Nas arferais ar ddrygioni.
Drwg fy nhûb, a gwaeth fy ngweithred, Brwnt fy nhafod, maith fy hocced, Poeth fy nattur, oer fy ngweddi, Arglwydd maddeu 'r cwbwl immi.
Maddeu 'r maint a wnaethoi 'n d'erbyn O bechodau er yn blentyn:* 1.900 Ac na thywallt ar fy letty, O'r dialau maent yn haeddu.
Ond rho râs a chymmorth immi, O hyn allan dy addoli, Ath wasnaethu mewn sancteiddrwydd, Pûr uniondeb, ac onestrwydd.
Tynn bôb rhwystyr sydd i'm hatal, I'th wasnaethu di mor ddyfal, A rho * 1.901 bwer yn ol hynny, Immi 'n ddiflin dy wasnaethu.
Llwyr ddiwreiddia o'm calon ofer, Yr holl frynti sum i'n arfer, A gwir blanna yn eu cyfle, Râs a dawa tra chwyth i'm gene.

Page 146

Dysc fi gadw dy orchmynion, A'u gwir garu â'm holl galon, A'u cymmeryd yn lle rheol, I fyw wrthynt yn wastadol.
A chyfrwydda â'th lân yspryd, Fi 'reoli fy holl fywyd, A'm holl eiriau a'm amcanion, Yn ol d'wllys a'th orchmynion.
Arglwydd, ffrwyna fi rhag pechu, Byth yn d'erbyn mwy ond hynny, A rho bwer immi 'n wastod, Gael y trecha 'n erbyn pechod.
Helpa fi ryfela 'n erbyn, Byd, a'r cnawd, a'r cythrel scymmyn: Fal y gallwyf gael y goron, A gorchfygu fy ngelynion.
* 1.902Tanna droswi d'adain rasol, Cûdd fi dani yn wastadol, Nâd vn gelyn wneuthur niweid, Mewn un modd im corph na'm heneid.
Cadw fi rhag cwrp a thramcwydd, Cwilydd, colledd, aap, aflwydd, Nychdod, niwed, a'r fâth hynny, Or bydd d'wllys yn cenhadu.
Nertha fi â'th yspryd sanctaidd, * 1.903Dreulio 'r dydd hwn yn gristnogaidd, Trwy gymmeryd poen im galwad, I'th wasnaethu 'n † 1.904 brûdd yn wastad.
Pâr i'm dreulio 'r dydd presennol, Mor ddeallus ac mor ddeddfol, A pha gwypwn ar y † 1.905 suwra, Mae 'r dydd hwn yw'r dydd diwetha.

Page 147

Nâd fi oedi gwella 'muchedd, O ddydd i ddydd hyd fy niwedd: Ond tra heddyw byth yn para,* 1.906 Pâr yn ddyfal immi wella,
Nâd i'r cnawd rhyfygus, embaid, Beri immi ddamnio 'r enaid, A'i roi boeni yn dragwyddol, Am dippyn bach o blesser cnawdol.
Nâd i wagedd y bŷd ymma,* 1.907 Rhwn fel llwyd-rew a ddifflanna, Beri im golli gwir lawenydd, A mawr fraint y bŷd na dderfydd.
Tra fo 'r dydd a'r goleu 'n para,* 1.908 Par im weithio ar yr eitha, Y peth a berthyn at fy * 1.909 Iechyd, Rhag i'r nôs fyng orddiweddyd.
Pâr im fôd bôb awr yn barod, Ag oyl im lamp, a'm goleu 'n gwarchod * 1.910Dwad Christ im gwawdd i'r neithior, Tra fo'r nêf a'r porth yn agor.
Pan bwi siccra yn y carn, Pâr im feddwl am dy farn, A'r dydd dû y gorfydd atteb, Ar y * 1.911 barr am bôb ffolineb.
Gwna im feddwl am y cyfri, Orfydd arnom bawb i roddi, Am y pechod lleia wneler, Hyd yn oed ein geiriau ofer.
Croesa 'nawr y maes o'th lyfyr, Yr holl frynti fûm i 'n wneuthur; Ac na thafla yn fy nannedd, Ddydd y farn o'm câs anwiredd.

Page 148

Maddeu 'n awr yr holl dalentau, S' arna i o ddyled yn dy lyfrau; A llwyr † 1.912 flotta â gwaed Iesu, 'R hatling eitha s'arna i dalu.
Gwedi maddeu 'r cwbwl ymma, Nertha fi ddiweddu 'ngyrfa, Fel y gallo f'enaid orphwys, Gydâ Christ yng lân Baradwys.
Lle câf gydâ 'r holl Angelion, A llû 'r nef heb † 1.913 ddowt nac ofon, Dy foliannu trwy lawenydd, Mewn dedwyddwch yn dragywydd. Amen.

Rhybydd i ymgadw tra fo 'r dydd, rhag Rhy∣threu'r Byd, y cnawd, a'r Cythrael, ac i wis∣co, ac arferu Arfogaeth Duw yn eu herbyn.

YN y man yn ôl it godi, Cofia fôd tri Gelyn itti, Rhai amcanant dy * 1.914 andwyo, Oni ymgedwi rhag dy dwyllo.
A'r vn gwanna o'n gelynion, Sydd gan cryfach nag vn Christion, Oni chawn ni gan Grist Iesu, Nerth ac arfau iw gorchfygu.
Llêf gan hynny▪ ar dy Brynwr, Dy * 1.915 ffwrneisio megis Milwr, A Arfogaeth ac â chalon, I orchfygu dy elynion.

Page 149

Yr Arfogaeth ysprydol a ddlye bôb gwir g••••st∣ion ei gwisco a'i harferu.

GWisc dy Ben a helm Christnogaeth,* 1.916 † 1.917Gobaith cryf am Iechydwriaeth, Nâd ir sarph na'r Diawl dy glwyfo, Ar dy ben trwy Anobeithio.
Gwisc gyfiawnder am dy ddwyfron, Ni all Diawl â * 1.918 dwbwl canon, Wneuthur byth na drwg na niwed, Ir rhai wisco 'r Cyfryw Gorsled.
Rhw ym dy ganol â gwirionedd, Na ragreithia yn dy fuchedd: Hardd, a chryf, a chryno odieith, Ydyw gwregis gwir di-ragreith.
Gwisc dy draed â scidiau 'r fengyl, Bydd ddioddefgar ym-mhob treigyl: Cans trwy oddef llawer trallod,* 1.919 Y mae mynd i lys y Drindod.
Cymmer fywiol ffydd yn * 1.920 fwccler, Derbyn frath a saethau 'r wiber: Bywiol ffydd yn Ghrist a all, Ddiffodd tanllyd saethau 'r fall.
Cymmer awchlym gleddau 'r yspryd, Grymmus Air y Scrythur hyfryd; Dyna 'r cleddyf llymm ei lafan, Sy 'n rhoi * 1.921 ffwyl a chlwyf i Satan.
Cadw Arfau Duw yn † 1.922 wastad, Cymain un bôb awr am-danad, Nâd ûn pryd dy ddala hebddyn, Rhag dy glwyfo gan y gelyn.

Page 150

A gweddia ar y Drindod, Am gael grym a grâs i orfod, Y tri gelyn hyn yn wastad, I wasnaethu Duw yn d'alwad,
* 1.923Os cwrdd Satan â ni 'n noethion, Heb Arfogaeth Duw am danon: Mae ê'n chwareu 'n dôst â hwnnw, Sydd heb Armwr gantho ymgadw.
Os bydd pen heb Helmet ddilys, * 1.924Brest heb bais, na lwyn heb wregys, Troed heb escyd, llaw heb gledde, Sarph a'n clwyfa, gwnawn ein gore.
Bydd gan hynny megis milwr, Yn dy gylch bôb awr a'th Armwr, Ym-mhob mann yn dyfal wilio, Rhag i'r Gelyn dy anrheithio.

Rhybydd i ddyn ymgadw ym mhôb lle rhag rhwydeu Satan.

PAn yr elech gynta allan, Gwachel ddirgel rwydau Satan, Rhwn sy'n ceisio dy fachellu, Ar bôb cam a'th hela i bechu.
Mae ê'n fawr ei lîd a'i hocced, Mwy ei dwyll nâ'i rym, er cryfed, Mae fel llew yn troi o bobtu, Ddydd a nôs yn ceisio 'n llyngcu.
† 1.925Hocced Sarph, llidawgrwydd Gwiber, Cryfder llew, ffyrnigrwydd Teiger, Awydd Blaidd, Bradwriaeth cadno, Sydd gan Satan lle tramwyo,

Page 151

Nid yw'n cyscu, nid yw'n gorphwys, Nôs na dydd er pan ei cwympwys, Ond amcanu lladd a mwrddro, Am ei chwyth pwy bynnag allo.
Bydd gan hynny ar dy † 1.926 wachel, Ym-mhob mann rhag rhwyd y cythrel: Cais gan Ghrist bôb awr dy helpu; Christ a'th nertha ei orchfygu.

Gweddi yn erbyn temptiad a Rhythrau Satan.

POrthor mawr y pwll di-waelod, Ceidwad drwsseu vffern issod, Rhwymwr Satan, llyngcwr angeu, Clyw fy ngwaedd o'th nefol artreu.
Y mae Satan rhwn orchfygaist, A'r ddraig waedlyd rhon a rwymaist, Yn amcanu fy † 1.927 andwyo, Oni chaf dy help i ffrwyno.
Mae ef nos a dydd heb Gyscu,* 1.928 Megis llew yn ceisio'm llyngcu, Ac yn barod i'm † 1.929 defowro, Oni chedwi di fi rhagddo.
Mae e'n tannu ei groglathau, Ddydd a nos ar draws fy llwybrau, Nid oes llun na syrthiwyf ynddynt, Oni chedwi di fi rhagddynt.
Nid oes afal têg gwarddedig, Na bo beunydd yn ei gynnig, Nac vn pechod na bo e'n ceisio, Genni wneuthur ith lwyr ddigio.

Page 152

Nid oes twrn da fwi'n amcanu, Na bo'r ddraig yn ceisio ei nadu, Ac yn * 1.930 dyor yn rhi fynych, Y gwaith goreu fwi 'n ei chwennych.
Ni cha'i fwytta pryd o fara, Ni cha'i gyscu mewn esmwythdra, Ni cha'i yfed draucht o ddiod, Na boe 'n ceisio ei droi'n bechod.
Ni cha'i ddwedyd gair o'm gene, Na gweddio ar fy nglinie, Na bo Satan yn amcanu, Wrth weddio beri'm bechu.
Pan bo mwya chwant fy nghalon, Ith wasnaethu (Christ) yn ffyddlon, Dyna'r pryd y cais fy rhwystro, A'r holl * 1.931 gwning a fo gantho.
A phyt faet ti 'n gadel iddo, Redeg arnai heb ei ffrwyno, Gwn na byddei well fy nrheigil, Nag oedd dien Job a'i eppil.
Arglwydd, gwêl ei waedlyd fwriad, * 1.932Tola ei falchder, torr ei ruad, Rhwym ei ferr, byrhâ ei gadwyn, Shiga ei shol, a † 1.933 stoppa ei wenwyn.
Tydi Ghrist sy'n rhwymo 'r wiber, * 1.934Ti sy a'r gadwyn am ei ddwyfer, Tydi speiliodd o'i holl arfau, Tydi gadwodd ein eneidiau.
Gwisc dy † 1.935 armwr oll am danom, Dôd dy rymmus yspryd ynnom, Dysc ein dwylaw i ryfela, Nâd ith weision gael y gwaetha,

Page 153

Nâd O Ghrist ir Sarph ein twyllo, Nâd ir wiber ein handwyo, Nâd ir llew ein lladd na'n llyngcu, Nâd ir gelyn ein gorchfygu.
Gwann ym ni, a chryf yw ynte, Can-mil cryfach Christ wyt tithe, Nertha'n gwendid trwy dy gryfdwr, I orchfygu ein gwrthnebwr.
Call yw 'r Sarph, a dwl ym ninne, Doeth yw 'r ddraig, a llawn bachelle, Oni helpu di ni 'n Prynwr, Aiff dy bridwerth gan y Bradwr.
Gwna ni 'n ddoeth i weld ei rwydau, * 1.936Ffel i wechlyd i groglathau, Cryf i † 1.937 wrthladd ei ddichellion, Câll i wrthod ei gynnigion.
Arglwydd edrych ar dy weision, Nertha 'th frodyr gael y Goron, Helpa bawb sydd dan dy faner, Ddwyn eu croes a throedo 'r wiber.

Cynghorion yn erbyn profedigaethau Satan.

OS * 1.938 promeisa Satan itti, Dai a thiroedd am ei addoli: Dywaid nad oes troedfedd fychan, Ond pwll vffern gantho ei hunan.
Os bydd Satan yn dy annog, I halogi gwraig cymmydog: Dywaid fod dialau 'n barod, A barn Duw am gyfryw bechod.* 1.939

Page 154

Os cais Satan genyd feddwi, A * 1.940 charowso gwin yn wisci: Dywaid yr â 'r holl rai meddwon, Ddydd y farn ir tân a'r brimston.
Os cais Satan genyd dyngu, * 1.941Cîg a gwaed yr Arglwydd Iesu: Dywaid nad oes vn rhyw bechod, Waeth nâ chablu gwaed y cymmod.
* 1.942Os cais Satan genyd dreiso, Y rhai tlodion a'u handwyo: Dywaid nad gwaeth pigo llygaid Christ ei hun, nâ threiso ymddifaid.
Os cais genyd wneuthur falstedd, Ac vdonaeth ac anwiredd: * 1.943Dywaid fôd Duw 'r Barnwr cyfion, Yn ei preinto ar dy galon.
Os cais genyd mewn dirgelwch, * 1.944Weithio gweithred y tywyllwch: Dywaid fôd Duw â saith llygad, Ym-mhob mann yn edrych arnad.
* 1.945Os cais Satan genyd gablu, Dy gyd-gristion gwedi nafu, Mae e'n ceisio megis bradwr, Genyd gablu dy Greawdwr.
* 1.946Os cais genyd ddwedyd celwydd, Mae 'n amcanu yn ddigwilydd, Ladd a dwyn dy enaid gwirion, Ir pwll poeth o'r tân a'r Brimston.
Os cais gennyd wan-obeitho, Am drugaredd, er * 1.947 repento, Mae 'n ei fryd dy ddwyn ir deyrnas, Ir aeth Cain, a Saul, a Suddas.

Page 155

Os cais Satan gâs dy rwystro, I dŷ Dduw, y mae 'n dymuno, Dy droi 'maes o'r nêf yn ddirgel, Eisie addoli Duw 'n ei demel.
Os cais genyd droi dy wegil,* 1.948 Pan pregethir yr efengyl, Mae e'n ceisio dy † 1.949 ddehoryd, Rhag cael Profi pren y bywyd.
Os cais Satan genyd gyscu, Yn yr eglwys wrth wasnaethu, Mae e'n ceisio genyd * 1.950 foccian Duw 'n ei lŷs ai dŷ ei hunan.
Gwachel gyscu wrth weddio, Gwaeth nâ 'r diawl yw'r dyn y foccio Duw 'n ei demel, ar awr weddi, Ar ei lin yn rhith addoli.
Os cais genyd fynych arfer, Oedi bwytta 'r sanctaidd swpper, Wrth dy ddyor ir Comuniwn,* 1.951 Mae 'n dwyn ymaith * 1.952 Sêl dy bardwn.
Os cais genyd lwyr anghofio, 'R fengyl sanctaidd gwedi gwrando, Mae e'n ceisio dwyn o'th galon, Hâd y gâir â'th wnele 'n griston.* 1.953
Os caiff genyd fôd yn fodlon, Ddwyn heb sylw enw criston, Fe wnae felly yn ddiogel, Wâs i Ghrist, yn wâs i gythrel.
Os cais genyd ti broffesso, Ffydd heb weithred yn cydweitho, Mae 'n dy dwyllo trwy ffydd farw,* 1.954 Drysto ir ffydd ni all dy gadw.

Page 156

Os cais genyd ti ddihirio, Edifeirwch nes * 1.955 departo, Mae 'n dy rwystro geisio ffafar Duw, nes eloi 'n rhy ddiweddar.
Ni âd Satan vn rhyw bechod, Nad amcana gael dy orfod: Ni âd garreg heb ei threiglo, Nes y paro it dramcwyddo.
Bydd bob amser ar dy wachel, Nôs a dydd y rhodia 'r Cythrel, * 1.956Nid oes mann nad yw e'n tannu, Ei groglathen i'n bachellu.
Yn yr Eglwys, yn y berllan, Yn y shiop, ac oddiallan, Ar y ford ac yn y gwely, Y cais Satan dy fachellu.
Bydd gan hynny megis milwr, Yn dy gylch bob awr a'th * 1.957 armwr, Ym-mhob mann yn dyfal wilio, Rhag i Satan dy andwyo.

Rhybydd i wachelyd rhwydau Satan ym-mhôb oedran.

GWae 'r dyn a fo gwyllt yn blentyn, Glwth yn llangc, a charl yn gleirchyn, Hwnnw draulwys ei holl oedran, Ym-mhob oês wrth 'wllys Satan.
Gwachel f'enaid rwydau Satan, I'th fachellu ym-mhob oedran, Ar bôb llwybyr fe amcana, A rhyw groglaeth gael dy ddala.

Page 157

Yn dy ieungctid fe gais genyd, Dreulio d' amser yn * 1.958 ddi-broffid, Mewn pibiaeth ac oferedd, Heb na dysc, na dawn, na rhinwedd.
Yn d'wroldeb, fe braw'th dynnu, I * 1.959 garowso a gordderchu, Ac i nyrddo dy lân lester, A drythyllwch † 1.960 a diffeithder.
Yn dy henaint, fe braw'th rwystro, Droi at Dduw trwy wir * 1.961 repento, Ac y dry dy fryd yn benna, At fydolrwydd a chybydd-dra.
Prawf gan hynny ym-mhob oedran,* 1.962 Lwyr ymgadw rhag twyll Satan, Rhwn y gais dy gyfyrgolli, Trwy 'r peth mwya fech yn hoffi.

Cynghor i ddyfal weddio, ar bôb achos ac ym-mhob gorchwyl.

ER fy mendith nac anghofia,* 1.963 Dair gwaith beunydd ar y lleia, Brûdd weddio ar dy ddaulin, O flaen Duw dy dâd a'th Frenin.
Cyn mynd allan y boreu-ddydd, Cyn ciniawa y cenol-ddydd, Cyn swperu, o gweddia, 'R tri phrŷd hyn, yn ddisceulusdra.
Côd dy ddwylo i weddio, Cyn gostwngech law i weithio:* 1.964 Cais gan Dduw fendithio d'orchwyl, Cyn y delych yn ei gyfyl.

Page 156

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 157

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 158

* 1.965Ac wrth wneuthur dy orchwylion, Arfer brûdd weddiau byrron, * 1.966A bydd † 1.967 eiriol yn dy weddi, Ar i Dduw roi cymmorth itti.
Os bydd trwm-waith a ffrwst arnad, Or bydd trafferth ar ddydd marchnad, Gwybydd (f'enaid) a gwna gweddi, Fwy o lês nâ rhwstyr itti.
Er bod * 1.968 busnes fawr gan Ddaniel, Yn y Cwrt dan Frenin Babel, * 1.969Tair gwaith beunydd y gweddie, Yn ei stafell ar ei linie.
Er bod Dafydd yn rhyfelwr, Ac mewn trafferth mwy nag vn-gwr, * 1.970Etto er hynny, saith waith beunydd, Y gweddie Frenin Dafydd'
Joshüa rymmus y weddie, Yn y * 1.971 frwydyr, ac ymladde, R'oedd ê â'i galon yn gweddio, Ac yn ymladd â'i ddwy-ddwylo.
Nid oedd gweddi 'rhain yn rhwystyr, Ar vn gorchwyl faent yn wneuthur, Ond rhwyddhau a llwyr fendithio Pob rhyw waith y wneleu dwylo.
Arfer dithe weddi hyfryd, Ym-mhob gorchwyl y fo genyd: * 1.972Di gei weled y gwna gweddi, Rwydd-deb mawr a * 1.973 chynffordd itti.
F'all dŷn weithio ei gelfyddyd. A gweddio 'n ddyfal hefyd: Ni chais gweddi 'r galon rwystro, Hynt y traed, na gwaith y dwylo.

Page 159

F'all yr hwsman, f'all y geilwad, Alw ar Dduw, a dala 'r arad, Fel y gallant ddwedyd ffregod, Wrth yr ychen ar nifeilod,
F'all Trafaelwyr ganu psalmau, A gweddio ar ei shiwrnau, Fel y gallant ganu maswedd, A chwedleua am oferedd.
F'all y Cryddion, F'all y Taelwyr, Foli Duw a chwhare 'r crefftwyr, Gan roi ei breiche i ddyfal weithio, A'u calonnau i weddio.
F'all y gwragedd hên wrth nyddu, F'all y merched wrth sidanu,* 1.974 F' all pawb ddilyn eu celfyddyd, A gweddio 'n ddyfal hefyd.
F'alle Foysen wrth shiwrneia, F'alle Joshua wrth ryfela, Christ wrth ymdaith, Paul wrth forio, † 1.975Dendo ei * 1.976 busnes a gweddio.
Nid oes dim y † 1.977 ddirper rhwystro, Dŷn gwllysgar i weddio, Ac i weithio ei orchwyl hefyd, Pa ryw bynnag fo'i gelfyddyd.
Christ sy'n erchi bawb weddio,* 1.978 Ar bôb amser heb ddeffygio, A Saint Paul sy'n erchi inni, Ym-mhob mann ymarfer gweddi.
Yn ein trallod, yn ein gwynfyd, Yn ein nychdod, yn ein iechyd, Y mae inni brûdd weddio, Ym-mha gyflwr y bom yndo.

Page 160

* 1.979Ar y moroedd, ar y mynydd, Yn ein Teiau, ar y maesydd, Y † 1.980 dirpere i'n weddio, Ym-mha fan y b'om ni yndo.
* 1.981Gydâ Pheder yn ein llettu, Gydâ Dafydd yn ein gwely, Gydâ Daniel yn ein trallod, Y mae in' weddio 'n wastod.
* 1.982Gydâ Moysen ar y mynydd, Gydag Isaac ar y maesydd, Gydag Ifan yn yr Eglwys, Y mae gweddi yn dra chymmwys.
Ym-mhôb mann, ac ar bob amser, Y mae gweddi yn ei themper, * 1.983Os y galon y fydd parod, I weddio ar y Drindod.

Cynghor duwiol i bôb gradd i ddilyn cyn my∣ned at eu gorchwylion.

Cyn yr elech ir drws allan, At vn gorchwyl, mawr na bychan, Cais gan Dduw dy brûdd fendithio, A rhoi † 1.984 rhâd ar waith dy ddwylo.
Duw sy'n rhoddi rhâd a llwyddiant, Duw sy'n danfon * 1.985 ffawd a ffyniant: Lle'i cyfarcher fe ry fendith, Lle'i Anghofier fe ddaw 'r felldith.
Cais ei yspryd i'th gyfrwyddo, Cais ei râs i'th gynnorthwyo, Cais ei fendith ar bôb gweithred, Felly daw it râd o'i barthed.

Page 161

Dechre'r gwaith yn enw'r Iesu, Cais ei gyfnerth i ddibennu:* 1.986 Yn ei ddiwedd cais ei ogoniant, Felly cae o'th weithred ffyniant.
Fel y llwyddodd Duw orchwylion Joseph gynt, a Daniel ffyddlon, Felly llwydda d'orchwyl dithe, Os gweddii arno 'n ddie.
Oni wnai dy weddi 'n addas, Di gae adail bwth fel Jonas, A physcotta megis Peder, Ac heb ddala dim vn amser.* 1.987
Di gae * 1.988 dwttan a thrafaelu, Ac ymrwyfan a thrafferthu, Ddydd a nôs a phoeni 'n ofe, Heb fôd dim yn well vn amser.
Ofer codi ar y wawr-ddydd, Ofer bwytta bara cystydd, Ofer gwiliad hir nos aia, Os yr Arglwydd ni'n bendithia.
Ofer adail Teieu newydd, Ofer cadw caereu trefydd, Ofer poeni trwy rymystra, Os yr Arglwydd ni chydweithia.
Rhag i'th * 1.989 Lafur fynd yn ofer, O gweddia 'n brûdd bôb amser, Ar i'r Arglwydd dy fendithio, Felly ffynia gwaith dy ddwylo.

Page 162

Cynghor ir Hwsmon neu'r Llafyrwr.

CYn rhoi llaw ar gorn yr arad, Côd dy ddwylo, ti ath eilwad, Ac Dduw mawr am dy fendithio, A rhoi rhâd ar waith dy ddwylo.
Ofer hau a rhedig llawer, Ofer llyfnu 'r maint y hauer, Oni ddyry Duw ei fendith, Dan y gwys y pydra 'r gwenith.
* 1.990Dyn sy'n hau, a Duw sy'n hadu, Duw sy'n peri 'r llafyr dyfu, A dwyn ffrwytheu ar ei ganfed, Ir sawl s'yndo yn ymddiried.
'R vn a geisio ffrwyth o'r ddaiar, Rhâd a llwyddiant ar ei heinar, Prûdd weddied ar yr Arglwydd, Fe gaiff llwyddiant heb ddim affwydd.
Gwell yw gweddi gydâg oged, I gael * 1.991 llafyr ar ei ganfed, Nâ chwech arad ac ogedi, Lle na byddo sôn am weddi.
* 1.992Fe gai Isaac wrth fyfyried, Lafyr gan Dduw ar ei ganfed. Pan bae eraill heb weddio, † 1.993Prin yn cael y chweched gantho.
O gweddia dithe 'r Hwsmon, Ar dy Dduw o ddyfnder calon, Am roi rhâd ar waith dy ddwylo, Felly cei di ddigon gantho.

Page 163

Gweddi 'r Hwsmon.

LLuniwr daiar, helpwr dynion, Awdwr hadau 'r ddaiar ffrwythlon, Rhoddwr glaw, Cynhyddwr † 1.994 llafyr, Gwrando weddi Hwsmon pryssyr.
Rwi fi'n mynd i drîn y ddaiar; Ac i hau yn hon fy heinar, Heb gael gweled mwy o hano, Oni roi dy fendith arno.
Arglwydd ofer ydyw plannu, Hau yn gyngan a gorlyfnu, Oni pheri di 'ddo 'gino, A rhoi rhâd a chynnydd arno.
Ni ddaw hedyn byth trwy 'r ddaiar, O'r maint oll sydd genni o heinar, Oni pheri di 'ddo darddu, Tyfu allan a chynyddu.
Rwi gan hynny 'n * 1.995 begio 'n bryssyt, Duw dy fendith ar fy llafyr, Fel y gallwi gael oddiwrtho, Fôdd fel Christion im † 1.996 maintainio.
Agor im ffenestri 'r nefoedd, Glawia fendith ar fy nhiroedd, Portha 'r hâd â brasder daiar, A rho lwyddiant ar fy heinar.
Nâd ir nefoedd fynd yn brês,* 1.997 Na 'r ddaer yn harn gan ormodd wrês, Nâd ir meisydd mawrion fethu, Am ein llescedd yn d'w snaethu.

Page 164

Rho wrth fessur y glaw Cynnar, Yn ei brŷd a'r glaw diweddar, Hmon dempraidd, gwrês † 1.998 cymmedrol, Rhâd a llwyddiant, ar dy bobol.
Gwardd y * 1.999 locwst, gwardd y * 1.1000 lindis, Gwardd y gwlith sy'n brychu 'r † 1.1001 barlis, Gwardd y gwrês a'r gwynt a'r * 1.1002 lluched, Sydd yn peri 'r llafyr niwed.
Crona'r flwyddyn â daioni, Tywallt frasder dy râd arni, Gwisc y doleydd ôll â defaid, A'n mynyddoedd â nifeiliaid.
† 1.1003Doro ymborth i blant dynion, Doro wellt ir sgriblaid mudion, Doro wîn ac olew 'n helaeth, I ddiwallu d' etifeddiaeth.
Doro in gynhiaf ffrwythlawn, Rhâd o'r maesydd ac o'r fisgawn, Hâd o'r ardd a ffrwyth o'r berllan, Mel o'r graig, a llaeth o'r gorlan.
A bendithia waith ein dwylo, Arglwydd grassol byth tra gantho, Felly ni'th fendithiwn dithe, Ar ein daulin nös a bore.

Cynghor ir Trafaelwr.

CYn y dodech droed mewn gwarthol, Fynd i * 1.1004 shiwrneu anghenrheidiol, Cais gan Dduw fendithio 'r shiwrneu, A'th ddwyn eilchwaith yn iach adreu.

Page 165

Cais ei Angel i'th gyfrwyddo, Cais ei adain i'th * 1.1005 brotecto, Cais ei fendith ar dy shiwrneu, Fe rwyddhâ dy holl negeseu.
Fel y helodd Duw ei Angel, Gydâ Thobi yn ei drafel, Felly hel ef heddyw, heno,* 1.1006 Help i bawb ag alwant arno.
Dysc gan wâs y * 1.1007 Patriarch goreu, Alw ar Dduw wrth fynd i'th shiwrneu, Am fendithio dy amcanion;* 1.1008 Di gei † 1.1009 ffawd wrth fôdd dy galon.
Oni cheisij ar dy linieu, Gan fâb Duw rwyddhau dy shiwrneu, Cei drafaelu ar yr ormes, A dwad adre heb dy neges.
Gwell yw gweddi i Drafaelwr, Nag yw'r gwîn yn amser sychdwr, Gwell nâ chastell rhag y † 1.1010 lluched, Gwell nâ dim rhag pôb drwg dynged.
Gwell yw gweddi i'th amddiffyn, Wrth * 1.1011 shiwrneia rhag y gelyn, Nag vn cleddyf dûr na Phistol, Carneu meirch na mil o bobol.
O gweddia dithe 'n wastod, Wrth shiwrneia ar y Drindod: Ac fe ddyry ei Angelion, Ith rwyddhau wrth fôdd dy galon.

Page 166

Gweddi Trafaelwr.

HElpwr pob trafaelwr ofnus, Ceidwad crŷf pob gwann gofydus, Gwrando 'n rasol o'th orseddfa, Waedd trafaelwr wrth shiwrneia.
Arglwydd mae'n rhaid im drafaelu, I wlâd bêll nad wi'n ei medru, Ac ni wn a ddewai adre, Oni lwyddi di fy shiwrne.
Tydi Arglwydd sydd yn * 1.1012 llywio, Y byd hwn a'r maint sydd ynddo, Fel na ddigwydd ond y fynnech, Ir rhai annwyl ag a garech.
Rwi gan hynny 'n deisyf arnad, O'th drugaredd ac o'th gariad, Roi im rwydd-deb yn fy shiwrne, Am dwyn yn iach lawen adre.
Danfon d'Angel im cyfrwyddo, Im cymfforddi am * 1.1013 protecto, Im rhwyddhau yn fy negesse, Am dwyn eilchwaith yn iach adre.
Tanna drosswi d'adain rasol, Cudd si deni yn wastadol, Nâd vn gelyn wneuthur niwed, Ar y ffordd im corph na'm hened.
Danfon Raphael dy anwyl-was, Im rhwyddhau am dwyn o gwmpas, Fel y helaist gydâ Thobi, Iw rwyddhau o bôb † 1.1014 clamwri.

Page 167

Bydd o'm blaen fel niwl y boreu, Bydd y nôs fel tanllwyth oleu, Im cyfrwyddo, Christ dy hunan,* 1.1015 Megis Israel tua Chanaan.
Di gyfrwyddaist y gwyr doethion, Gynt â'r seren ir ffordd vnion, O! cyfrwydda felly finne, Nes fy nwyn i ben fy shwrne.
Fel y cedwaist Dobi janga, Rhag y pisc a fynnei ddifa, Felly cadw finne 'n rasol, Rhag pob perig yn ddihangol.
Cadw fi rhag rhwydau Satan, Ai aelodau, pobol aflan, A nâd iddynt wneuthur niwed, Im na chwilydd, * 1.1016 stop, na cholled.
Nad y * 1.1017 Dwrw, nad y † 1.1018 llyched, Nad y storom wneuthur niwed, Nad ir follt na'r ddraig fy nrygu, Nac vn * 1.1019 gormail fy ngorthrymmu.
Cadw fi rhag bradeu lladron, Perig dyfroedd a drwg ddynion, Llettu anwir, bwydydd afiach, Rhwystyr ffordd, a drwg gyfeillach.
Cwyn fy nghalon nertha f'yspryd, Rhwyddhâ fy ffordd â'th gymmorth hyfryd, Helpa 'ngheffil a'm cyfeillion, Dwg ni dre wrth fôdd ein calon.
Rho di rwydd-deb yn ein * 1.1020 busnes, Helpa bawb i gael ei neges, Ag sy a meddwl onest gantho, Fel y galom dy fendithio.

Page 168

Arglwydd cadw ni rhag tramcwydd, Cwilydd, colled, anap, aflwydd, Nychdod, niwed, croes a dolyr, Colli 'r ffordd a'r cyfryw rwystyr.
Arglwydd dwg ni yn iach lawen, At ein ffryns i dre drachefen, Fel y gallom dy glodfori, Ddydd a nôs am dan ein helpu.

Cyngor ir milwr.

CYn yr elech i ryfela, Dros y goron, oh! gweddia, Ar Dduw 'r lluoedd am roi calon, * 1.1021Scil a grym ir milwr ffyddlon.
Duw sy'n rhoddi grym a chryfdwr, A chyfrwydd-deb i bôb milwr, Scil ir byssedd i ryfela, * 1.1022Tosso 'r Peic, a thynnu 'r bwa.
* 1.1023Duw y lluoedd sydd Ryfelwr, Ac yn noddfa mewn cyfyngdwr: Duw sy'n rhoddi 'r fuddugoliaeth, Cais ei help, fe rhy yn helaeth.
Gwell yw gweddi mewn cyfyngdwr, Wrth ryfela i bôb Sawdiwr, Nag vn * 1.1024 harnais idd' amddiffyn, Gwel nâ † 1.1025 Glaif i glwyfo 'r gelyn.
* 1.1026Mwy y laddodd dwylo Moesen, Wrth eu dercha tua'r wybren, Nag y lladdodd cledde Josua, A holl Israel wrth ryfela.

Page 169

Jonathan a'i weddi laddodd,* 1.1027 O'r Philistiaid fwy o filoedd, Nag y laddodd Saul â'r cledde, A'i Ryfelwyt ôll, â'u harfe.
Chwyrnach ydoedd gweddi Dafydd,* 1.1028 I droi'r Cawr â'i dorr i fynydd, Nâ'r holl gerrig aeth o'i goden, Er eu glynu yn ei dalcen.
Hên Elias heb ddim arfe,* 1.1029 Ond ei weddi y ddifethe, Ddau Ben-capten a'u Cwmpeini, Beth sydd gryfach nag yw gweddi?
Cryfach ydoedd gweddi Judith, Nâ'r holl welydd cedyrn aryth, I ymddiffyn tre Bethuwlia, Rhag Holphernes idd ei difa.
Arfer dithe brudd weddio, Wrth ryfela â'th ddwy ddwylo, Fel arferodd dewr-wych Josua, Di gei lwyddiant wrth ryfela.
Dôd dy ddwylaw i filwrio, Dôd dy galon i weddio, Di gei weled y gwna gweddi, Fwy nâ dwylaw o † 1.1030 orhydri.

Gweddi 'r Milwr.

ARglwydd grymmus * 1.1031 Llywydd lluoedd, Pen Rheolwr pôb rhyfeloedd, Vnig roddwr buddugoliaeth, Gwrando ngweddi o 'm milwriaeth.

Page 170

Rym ni ymma ym-mhlaid y goron, A'n † 1.1032 Prins, a'n gwlad, a'n da a'n dynion, Yn rhyfela â gwir dîras, Sy'n amcanu treisio 'r Deyrnas.
Duw gwradwydda eu amcanion, A'u bwriadeu a'u dichellion; Tola ei balchder, torr ei cryfdwr, Dofa ei hawch, gostega ei cynnwr.
Nertha ninne dy wael weision, Chware 'r gwŷr ym-hlaid y Goron, A rho inni rym a gallu, Eu concwero a'u gorchfygu.
Arglwydd grassol cwyn ein calon, Ymladd drossom â'n gelynion, Hel dy fraw a'th ofon arnynt, Doro * 1.1033 ffwyla gwradwydd iddynt.
Er nad ydym ymma ond gronyn, Ir fâth nifer sydd i'n herbyn, Etto rym yn ddigon grymmys, Os tydi a fydd o'n hystlys.
Arglwydd gwynn, nid llai dy † 1.1034 bwer, Mewn ychydig nag mewn llawer, Os mewn gwendid rwyt fynycha, Yn mynegi d'allu mwya.
* 1.1035Peraist gynt i Gedeon ddifa, Ef a thrychant o'r gwyr gwanna, Lû aneirif o'r Midianiaid, Oedd cyn amled a'r locustiaid.
Jonathan ai * 1.1036 glydydd arfe, Helodd miloedd i droi cefne: Pan y helaist ofon arnyn, Pwy a feiddie droi yn d'erbyn?

Page 171

Rhoddaist rym i Samgar frayhi,* 1.1037 Chwechan gwr a'u lladd a'r † 1.1038 ierthi, Ac i Samson 'ladd heb orphen, Fîl o wŷr â gên yr assen.* 1.1039
Di ddifethaist trwy law gwreigin, Ben tywyssog Brenin Jabin, Ac a wnaethost ir planede, Ymladd drossot yn eu gradde.* 1.1040
Gelli Arglwydd mawr os mynny, Roi i ninne rym a gallu, I orchfygu ein gelynion, Er nad ym ond milwyr gweinion.
Os tydi a fydd o'n hochor, Nef a daiar, dwr a chensor, Haul a lloer, a gwynt ystormys, A ryfelant ar ein hystlys.
Arglwydd mawr or byddi o'n hystlys, Pet fae'r Twrc, a'r Pâb a'r Spanis, A holl uffern yn ein herbyn, Ni roem ddim o'r garrai erddyn.
Tydi 'n vnig sydd Ryfelwr, Gennit ti mae * 1.1041 scil a chryfdwr: Ti sydd roddwr buddugoliaeth, Ti sy 'n achub rhag marwolaeth.
Ti sy'n peri 'r rhyfel beido, Ti sy'n torri 'r * 1.1042 spêr yn † 1.1043 yfflo, Ti sy'n rhoddi 'r march i gyscu, Ti yn vnig sy'n gorchfygu.
Doro gomffordd i'n calonnau, Doro gryfder yn ein breichiau, Doro scil i'n bawb ryfela, Megis milwyr ir goruwcha.

Page 172

Gwna 'r capteniaid megis Josua, Ymwroli i ryfela, A bydd gydâ rhain dy hunan, I gyfrwyddo ei * 1.1044 plot a'i hamcan.
† 1.1045Doro galon ym-mhob milwr, Deall, Dewrder, scil a chryfdwr, Gallu, gwllys, hyder ‖ 1.1046 eon, I † 1.1047 gonffronto ein gelynion.
Dôd d' Angelion i'n castellu, Rhag pob gelyn tra ni 'n cyscu, A dôd lû o'th filwyr penna, I'n cyfnerthu wrth ryfela.
Bydd dy hun yn disgwyl arnom, Ac yn * 1.1048 llywio 'r hyn a wnelom, Nad in wneuthur yn wrthnebys, Ddim yn erbyn dy lan 'wllys.
Gwna ni 'n gywir bawb i'n Brenin, Gwna ni 'n ffyddlon ir cyffredin, Gwna ni 'n ufydd i'n rheolwyr, Ac heddychlon â'n lletteuwyr.
* 1.1049Gwna ni'n foddlon bawb i'n cyflog, Nâd in speilio un cymmydog, Na * 1.1050 gormeilio mawr na bychan, Ond byw 'n weddus yn dy ofan.
Nâd i'n ddilyn afreolaeth, Na chynhennu mewn cwmpniaeth, Nac ymdynnu a'n Captenni, Na byw 'n aflan mewn drygioni.
Nâd in dreisio gwraig na morwyn, Nac anrheithio un dyn addfwyn, Rhag i'th lîd gyfodi 'n herbyn, A'n troi bawb tan ddwylo'r gelyn.

Page 173

Gwna ni bawb yng hanol rhyfel, Fyw fel pobol yn dy demel, A fae bôb yr awr yn galw, Am dy gymmorth idd i cadw.
Lle 'r ym beunydd ym-mhyrth angeu, Ar flaen peics a geneu r gwnneu, Pâr in fyw bob awr yn d'ofan, A throi heibio buchedd aflan.
Ni wyr un † 1.1051 pwy awr pwy ennyd, Y rhy gyfrif am ei fywyd, Gar dy fron o Farnwr cyfion, Pâr in fyw gan hynny 'n vnion.
Gwna ni 'n barod ddwad attad, Bôb yr awr O anwyl Geidwad, Nâd in fyw un awr mewn pechod, Rhag ein cyrhaedd yn amharod.
Nâd in wneuthur dim drygioni, Nac vn * 1.1052 herc na allom roddi, Gownt † 1.1053 oi blegid heb gwilyddio, Ddydd y farn pan doir i * 1.1054 ympyro.
Arglwydd achub ni dy weision, A gwradwydda ein gelynion, Cadw ein Brenin a'i frenhiniaeth, A rho iddo 'r fuddugoliaeth.

Cyngor i'r Porthmon.

OR'dwyd Borthmon dela 'n oneist, Tâl yn gywir am y gefaist, Cadw d' air, na thorr addewid, Gwell nag Aur mewn côd yw * 1.1055 credid.

Page 174

Na chais ddala 'r tlawd wrth Angen, Na thrachwanta ormod fargen, Na fargenna â charn lladron. Ni ddaw rhâd o ddim y feddon.
Gwachel brynu mawr yn echwyn, Pawb ar air y werth yn 'scymmyn: Prynu 'n echwyn y wna i Borthmon, Ado'r wlâd a mynd i Werddon.
* 1.1056Gwachel dwyllo dy fargenwŷr, Duw sydd farnrwr ar y twyllwyr: Pa dihangit tu hwnt i Werddon, Duw fyn ddial twyll y Porthmon.
Byth ni rostia un o'r twyllwŷr, * 1.1057'Rhyn y heliant medd y Scrythyr: Ni ddaw twyll i neb yn ennill, Fe red ymmaith fel trwy 'r rhidill.
Gwachel feddwi wrth Borthmonna, Gwîn hel Porthmon i gardotta: Os y Porthmon y fydd meddw, Fâ'r holl stoc i brynu 'r Cwrw.
Dela 'n union, * 1.1058 carca d'enaid, Na † 1.1059 ddifanna â da gwirionaid, Pa difannyd ir † 1.1060 Low Cwntres, Dial Duw y fyn d'orddiwes.

Cyngor cyn mynd i garu.

* 1.1061PAn yr elech gynta i garu, Galw ar Dduw os myn di ffynnu: Cais ei yspryd i'th gyfrwyddo, Hebddo nid oes lŷn it lwyddo.

Page 175

Rhôdd arbennig oddiwrth Dduw,* 1.1062 Yw gwraig rasol, weddaidd, * 1.1063 wiw, Rhôdd na chaiff Pôb rhai o honi, Ond y sawl y fo 'n ei ofni.
Cais gan d' Arglwydd hyn o Rôdd,* 1.1064 Di gei * 1.1065 faitsio wrth dy fôdd, Cais ei nerth, a'i help, a'i gyngor, Di gei bôb rhai ar dy ochor.
Ymddarostwng i'th Rieni,* 1.1066 Cyn y ceisiech briod itti, Cais eu hwllys mewn môdd addas,* 1.1067 Felly ffynnia dy briodas.
Fe fyn Duw it ymgynghori,* 1.1068 A'th Dâd, a'th fam, cyn priodi, Ac ymfaitsio 'n ôl eu hwllys, Tro na cheisiont * 1.1069 faits, anweddys.
Ni fyn Duw i'th Dâd dy fwrw, Lle na byddo Duw'n dy alw, Lle na allo 'r Galon hoffi, Lle na bo cyfaddas itti.
Os llawn o râs, os glân o ryw, Os pûr o gorph, a môdd i fyw, Os mwyn, os doeth, os da yw 'r ferch. Lle galwodd Duw di, rho dy serch.
Mae 'r Tad a'r fam, yn rhwym ith * 1.1070 ffwrddro, Mae 'n erbyn Duw, ir rhain dy rwystro: Cyffroi 'r yspryd y wna hynny, A themptio 'r cnawd i odinebu.
Na ddigia 'th Dad o bydd lle i beidio, 'M-mhôb peth gweddus, gostwng iddo, Cais ei gyfnerth yn barchedig, Cais yn fwyn, fe ddyru 'n ddiddig.

Page 176

Cais wraig dduwiol o'r iawn ffydd, O grefydd Ghrist, heb nag, heb * 1.1071 nŷdd: Mewn un gwely byth ni chytfydd, Gŵr a gwraig o amryw grefydd.
Cais wraig * 1.1072 ddiwair o Rieni, Rhyw a ym-lysc i ddrygioni: Oni cheidw Duw rhag † 1.1073 Nam, Fe * 1.1074 drippia 'r ferch lle trippio 'r fam.
Cais wraig hygar, gryno, gruaidd, Na * 1.1075 phansia forwyn ffiaidd: Trîst ac oer, a dôf, a diflas, Y fydd cariad at un atcas.
Cais wraig ddistaw, dda ei nwydeu, Ddôf ei nattur, bâch ei chweddleu: * 1.1076Gwaeth nâ defni, gwaeth nag Arthes, Gwaeth nâ gwiber yw Scoldies.
Cais wraig fedrus, ddoeth, rinweddol, Honno 'th gôd yn Ben i'th bobol, * 1.1077Honno leinw dy gornele, Honno bair i'th galon chware.
Cais wraig hygar, a gwraig fedrus, Cais un rasol a chyssyrus: Llom yw'r ford, ac oer ywr gŵely, Lle bo'r wraig heb drefnu 'r lletty.
Cais wraig weddus ar ei gwên, Nid rhy ieuangc, nid rhy hên: * 1.1078'R hên rhy oer a'th lâdd â'i pheswch, A'r llall a bair it aflonyddwch.
Cais un ufydd megis Sara, Cais un ddissym fel Rebecca, Cais un Serchog megis Rachel, Cais un fedrus fel Mam Lemuel.

Page 177

Cais un rasol, hygar, hyfryd,* 1.1079 Suber, Sanctaidd, lân ei bywyd, Araf, weddus, dda ei ymddygiad,* 1.1080 Hi dâl mwy nâ chyfoeth tair gwlad.
Gwachel goegen falch, ddifeder, Gwachel † 1.1081 Soga Sû, ansuber: Gwachel un oludog ffrom-ffôl, Honno'th flina di a'th bobol.
Gwachel wraig rhy wen, rhy gynnes, Hi fydd neidir yn dy fynwes: Odid gweled medd y frân, Wraig rhy wen â chalon lan.
Na chais wraig a * 1.1082 gwaddol lawer, Ac heb fedru trîn ei phwer: Mwg, a niwl, a llif yntreio, Yw gwaddol mawr heb fedru drinio.
Or bydd ond dwy it gael dy ddewis, Ʋn yn frâs, a'r llall yn fedrus: Gâd i fynd y frâs ddifeder, Cais y fedrus â'th holl bwer.
Y ddoeth a'r dda, a ddaw i ddigon,* 1.1083 O ddydd i ddydd hi wella ei dynion: Ni chwsc hi 'r nôs, ni phaid ei byssedd, Nes cael cyfoeth ac Anrhydedd.
Yddol a fwrw ei Thŷ i lawr,* 1.1084 A 'r ddoeth a adail Drefydd mawr: Yddol a bair i'w gŵr ochneidio, A'r ddoeth a ddwg Anrhydedd iddo.
Y ffôl ei Phen y flina Gawr, Ac anrheithia 'r gwaddol mawr, Gan lwyr droi ei * 1.1085 Phacc yn Phardel, Nes gwradwyddo 'r ffrins a'r genel.

Page 178

Archoll calon, Baich anesmwyth, Defni dyfal, Gwawd iw thylwyth, Jau yn gwascu, Sarph yn pricco* 1.1086, Yw Gwraig ddrwg: Gwae 'r gwr a'i caffo.
Duw â'i yspryd a'ch gyfrwyddo, I gael 'r ore a'th fodlono, O ddawn, o dda, o râs, o ryw, Wrth fôdd dynion, wrth fodd Duw.

Canmoliaeth Gwraig Dda.

* 1.1087GWell Bachgen doeth râ Brenin ynfyd, Gwell Enw da nag ennaint hyfryd, Gwell pwyll nag Aur, Gwell grâs nâ grym, Gwell Dyn nâ dâ, Gwell Duw nâ dim.
Gwell Igir ddoeth yn ofni Duw, * 1.1088A 'chydig bach o fôdd i fyw, Nâ 'r ddol ddiddawn o genel grîn, A thryssor mawr heb fedry drîn.
Gwraig rinweddol, hygar, hyfryd, * 1.1089Sydd gan gwell râ byd o olud: Gwell nâ Thir,Thai,Thryffawr, Gwell nâ'r Perls a'r Meini gwerthfawr.
Llong yn llawn o werthfawr dlwsse, Perl a chan-mil o riwedde, † 1.1090Gemm na feidir neb ei brissio, Yw Gwraig dda ir sawl a'i caffo.
Piler Aur mewn Morteis Arian, * 1.1091Twr rhag Angeu i Ddŷn egwan, Coron hardd, a Rhan rhagorol, Grâs ar râs yw Gwraig * 1.1092 rinweddol.

Page 179

Rhybydd a chyngor ir Godinebwr.

GWrando 'r Godinebwr aflan Air o Gyngor genni 'n gyngan, Cyn yr elech di mor ddiriaid, Yn dy * 1.1093 wûn i ddamnio d'enaid.
Gwel dy fargain front anhwaith, Cyn y bwrech dy hûn ymmaith, * 1.1094Marcca d'ennill, bwrw 'th golled, Ystyr ble 'r wyt ti yn myned.
Rwyt ti'n mynd i dŷ putteiniaid, I † 1.1095 blessio 'r corph, i ladd yr enaid, I ddigio Duw, I nyrddo ei Demel, I 'mado â Christ, i 'm-lynu â chythrel.
Rwyt ti 'n mynd fel ffôl i werthu D'enaid anwyl, Pridwerth Jesu, Ffafar Duw, a'i deyrnas lawen, Am gael gorwedd gydâ phutten.
O! na wna mor dost â'th enaid,* 1.1096 Ai roi rwygo rhwng cythreuliaid, Yn hn vffern am gael gronyn, O * 1.1097 drythyllwch ir cnawd melyn.
O! na werth y nêf gyfoethog, Ffafar Duw a'th Brynwr serchog, Gwir Angelion, gwlad goleuni, Am gael † 1.1098 plesser mewn drygioni.
Pwylla, Aros, nâd dy dwyllo, Margain hallt yw 'r fargain honno: Am gael tippyn o drythyllwch, Na werth nêf, a'i holl ddedwyddwch.

Page 180

Cno dy dafod, pîg dy lygad, Tro dy wegil, na fydd anlad: * 1.1099Ymswyn rhag ir fâll d' ochfygu, Ac na chyrcam odinebu.
Censydd Satan sy'n dy arwain, Wrth edefyn i dŷ 'r buttain, (Megis arwain ŷch ir lladdfa) I lâdd d'enaid trwy butteindra.
Clyw 'r 'Postolion a'r Prophwydi, * 1.1100A'r holl scrythur i'th gynghori, Wechlyd rhag y cyfryw bechod, * 1.1101Rhag dy daflu i uffern isod,
Ai di uffern i'th * 1.1102 dormento? Ai di'r Brwmstan poeth ith † 1.1103 frwylio? Am gael gorwedd megis filain, Ambell pryd ym maglau puttain.
Ai di orwedd ir tywyllwch? Ai dî ir carchar di-ddiddanwch? Ai di drigo at blant Satan? Am gofleidio menyw aflan.
A droi di ssafar Christ oddiwrthyd, A'i Angelion hygar, hyfryd? Heb-gael dim oddiwrth y fargain, Ond cusanu gweflau Puttain.
Fiei rhag cwilydd, tro yn d'wrthol, A dôs adres yn ddifeiriol: Na werth nêf am gariad puttain, Ni wnai Esau o'r fah fargain.
Cymmer gyngor, ofna Dduw, * 1.1104Careca d'enaid tra fech byw, Gwachel wneuthur ti a'ch † 1.1105 Riain, Aelod Christ yn aelod puttain.

Page 181

Cadw'sh gorph yn lester Sanctaidd,* 1.1106 Temel Dduw yw * 1.1107 corph caruaidd, Aelod Christ, preswylfa 'r Drindod, Gwachel nyrddo hwn â phechod.
Gwybydd nâd oes pechod gassach, Nâ godineb brwnt a lloscach, Y wnaeth difa da a dynion,* 1.1108 A'r dwr diluw, tân a brwmston.
Digio Duw, a * 1.1109phlessio 'r cythrael, Gryddfu 'r yspryd, nyrddo ei Demel, Croeshoelio Christ, halogi aelod, Y mae 'r rhyfyg brwnt yn waftod.
Pydru 'r corph, a damnio 'r endid,* 1.1110 Llygru 'r enw, nyrddo 'r ddwy-blaid, Difa 'r cyfoeth, * 1.1111 staino 'r eppil, Mae 'r godineb brwnt yn rhigil.
Llanw 'r Deyrnas o fastardiaid, Llanw 'r Eglwys o Butteiniaid, Llanw 'r Tai gam 'tifeddion, Mae godineb medd y doethion.
Hela dynion i gardotta,* 1.1112 Wna godineb a phutteindra; Ac fel † 1.1113 gwddath o dân prysur, Difa cyfceth godinebwyr.
Pan bo pôb rhyw bechod diffaith, Heb lâdd un ond ûn ar un-waith, Mae godineb brwnt mor sceler, Yn lladd dau bob gwaith y gwneler.
Er nad oes un pechod atcas. Ag all torri rhwym priodas, Mae godineb câs yn torri, 'R hôll briodaseu mae 'n halogi.

Page 182

Gwaeth nâ lleidyr, gwaeth nâ * 1.1114 mwrddrwr, Gwaeth nâ neb yw 'r godinebwr, Sy'n lladd enaid dau ar vn-waith, Pan bo 'r lleill yn lladd cyd ymmaith.
Nid yw 'r lleidyr, wrth ei ofyd, Ond lledratta i gadw ei fywyd: Mae 'r patteiniwr yn ei afraid, Wrth butteindra 'n * 1.1115 lladd ei enaid.
Er na fynnei 'r pharisaeaid, Lâdd y sawl 'amharchei henafiaid, Etto mynnent lâdd er hynny, 'R wraig y fyddei 'n godinebu.
Cyfraith Dduw sy'n gaeth yn erchi, Yn ddi-ffafar lâdd â meini, Y gŵr a'r wraig a odinebo, * 1.1116Mae 'r godineb yn gâs gantho.
Mae 'r godineb brwnt mor † 1.1117 ffinion, O flaen Duw a'i holl Angelion, Ac na fyn i nêb o'r brodyr, * 1.1118Fwytta 'ng-hyd â'r godinebwyr.
Mae mor ffinion, mae mor ffiaidd, Ac na fyn y scrythur sanctaidd, * 1.1119Un-waith enwi peth mor fydyr, Chwathach arser idd i wneuthur.
* 1.1120Christ sy'n erchi cadw 'r llygad, Rhag y cyfryw bechod anllad: Mynych trwy ffenestri 'r llygaid, Y mae hwn yn llâdd yr enaid.
Cyn trachwantech vn wraig wenn, Tynn dy lygad ffwrdd o'th ben: 'Rhwn na ffrwyno lygad † 1.1121 wantan. Yn hân vffern y chaiff * 1.1122 frwylian.

Page 183

Y mae 'r pechod hwn mewn calon, O flaen Duw yn bechod creulon, Er na ddelo bŷth mewn gweithred,* 1.1123 Mae â'i chwant yn lladd yr enaid.

Cyngor ir Meddwyn.

OS meddwyn wyt yn arfer * 1.1124 chwiffo Gwîn, a chwrw, a Thobacco, Llêef am râs ar Dduw yn fuan, I orchfygu meddwdod aflan.
Os cwympaist yn y * 1.1125 wins o feddwdod, Llêf am gymmorth oddi-vchod, Ni all dyn na diawl nac Angel, Godi o'r wins o'r cyfryw nifel.
Nid â'r cythrel meddw o'th growyn, Mwy nâ'r cythrel mûd o'r plentyn, Nes dêl Christ â'i nefol yspryd, I droi 'maes trwy weddi ac ympryd.
O gweddia dithe 'n wastod, Am gael nerth yn erbyn meddwdod: Ac ymprydia rhag gormoddion, Ac rhag tramwy lle bo'r meddwon.
Nid gwell meddwyn er gweddio, Heb wachelyd ac ymprydio: Gweddi ac ympryd sydd yn groyw, Yn gorchfygu 'r cythrael meddw.
Os gweddij 'n erbyn meddwdod, Ac heb waglyd Tie 'r ddiod,* 1.1126 Ni thâl gweddi i ti ddimme, Eisieu gwaglyd y Tafarne.

Page 184

Dannedd llew yw dannedd meddwdod, Ni chyll ei ddant o'i grâff o honod, Nes dêl Christ y llew diofan, I sigo et shol, a'th dynnu o'i safan.
Ni ddaw march o'r ffoes lle soddo, Nes dêl chwech neu saith i lysco: Ni ddaw dŷn o'i feddwdod aflan, Nes dêl Christ i lysco allan.
Na chymmell nêb i yfed gormod, Yfed pawb ei rhaid o'r ddiod; Os myn ûn feddwi megis ci, Meddwed ê, na feddwa di.
Rho barch i'th well o'r * 1.1127 doi iw plith, Trwy barchu 'r sol heb yfed rhith: Os perchi 'r gwr trwy chwiffo 'r cwppan, Wrth barchu 'r ffrind, di amharchu 'th hunan.
Jechyd trist, ac Jechyd afiach, Yw yfed Jechyd a'th wna 'n glafach: Byth ni pharchaf Jechyd un, A waetho 'm Jechyd i fy hun.
Rhai sy'n chwerthin am fy mhen, Am fôd yn sobr heb fawr chwen, * 1.1128Minneu 'n wylo 'r deigreu hallton, Weld pob rhai o'r rhain yn seddwon.
Y meddw chwarddodd am fy môd, Yn cadw 'ngheiniog yn fy 'nghôd, Y nawr sy'n wylo 'r dwr yn frŵd, Wrth † 1.1129 feggian ceiniog fâch o'm cŵd.
Er mwyn Jesu gwachel feddwdod, Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod, Mae 'n troi dyn ar lûn y cythrel, Ugain gwaeth nag un anifel.

Page 185

Tynn o'r Tafarn, gwachel feddwdod, Na chais fynd yn drech nâ 'r ddiod: Ni * 1.1130 chas vn o'r trecha arni, Ond y gilie 'n ebrwydd rhagddi.
Alexander a † 1.1131 gwngcwerodd, Yr holl fŷd y ffordd y cerddodd, Ond y ddiod yn dra sceler, A gwngcwerodd Alexander.
Gwell yw diangc nag ymdrechu, Gwell yw cilio nag ymdynnu: Gwell rhoi'r gore' ir hwrswn cwrw, Nag ymostwng iddo 'n feddw.
* 1.1132Treiaist feddwyn dy rym ddengwaith, Cwympaist dan y ddiod ganwaith, Oni chymry'r traed oddiwrthi, Hi ry etto gwdwm itti.
Rhai fyn maflyd cwymp a'r ewrw, A mynd yn drech râ'r ddiod loyw, Ni bu 'rioed y gas y trecha, Ond y gilie 'ddiwrthi 'n gynta,
O doi at dân fe lysc dy grimpe, O doi at sarph hi frath dy sodle, O doi at bûg, ond cwrdd, fe 'th nyrdda, O doi at ddiod gref hi 'th feddwa.
Cil rhag sarph rhag iddi 'th frathu, Cil rhag * 1.1133 plâg rhag iddo 'th nafu, Cil rhag tân rhag iddo 'th losci, Cil rhag Gwîn rhag iddo 'th feddwi.
O holl † 1.1134 slafiaid y bŷd ymma, Caetha slaf yw 'r slaf i sola, Ni chais hwn tra bywyd gantho, Ond ei fola 'n feistir iddo.

Page 186

F'â 'r meddw ir * 1.1135 Inn yn gâll, † 1.1136yn gwmpli, Fe ddaw maes heb gôf, heb gyfri, F'â mewn fel dŷn, f'â maes fel nifel, Fe chŵd fel ci, fe rôch fel cythrel.
* 1.1137F' ollwng meddwyn Duw a'i ddonie, Tai a Thîr i fynd i chware: Fe geidw ei afel ar bôb * 1.1138 Sini, Fe gyll ei hun, a'i gôf, a'i gyfri.
Gynt ni feddwei ond bedlemmaid, A'r rhai gwaetha o'r begeriaid: 'Nawr ni chaiff bedlemmaid tlodion, Le i feddwi gan fonddigion.
Brwnt gweld Barnwr mewn anhemper, Neu Bendefig draw 'n y gwtter; Brwnt gweld Cawr yn * 1.1139 slâf i'r cwrw, Brwnta gyd gweld ffeiriad meddw.
Cyfraith dda oedd dodi meddwon, Fel plant bychain dan † 1.1140 drycholion: Os ni fedrant fwy nâ bechgin, * 1.1141Ordro eu hun, nac ordro eu † 1.1142 lifing,
Nid oes rheswm na naturiaeth, Gan y meddw drîn ei * 1.1143 arfaeth, Eisieu vn o'r rhain i † 1.1144 arail, Gwaeth yw 'r meddw nà 'r anifail,
Blîn na feder vn dyn meddw, Na'i reoli 'hun yn hoyw, Och! na gadel i neb arall, Lwyr reoli 'r meddwyn angall.
* 1.1145Gwae medd Duw y dŷn y gotto, Y boreu glas-ddydd i gwmpnio, Ac arhosso gyd â'r ddiod, Nes y nyunir ê gan feddwdod.

Page 187

Y mae uffern boeth a Satan,* 1.1146 Yn lledanu ar llêd eu safan, Ac yn chwennych llyngcu 'r meddw, Yn ei feddwdod cyn bo marw.
Gwae fo crŷf i chwiffo cwrw,* 1.1147 Ac i gymmysc diod loyw; Ni âd Duw na gwraidd na himpyn, Heb ei difa ir fath feddwyn.
Gwae ro ddiod grêf i feddwi, Ei gymmydog, iw ddinoethi; Mae Duw 'n digio wrtho 'n llidiog, Am ladd enaid ei gymmydog.
Tynn ar frŷs o'r gors o feddwdod, Rhag dy lyngcu yn amharod: O hîr aros ar draeth sugyn, Llwyr yth lwngc tra fech yn rofyn.
Pôb pechadur y gais guddio, Faint o feiau a fo arno: Ond y meddw fynn ddinoethi, A datcuddio ei holl frynti.
Adda geisi odd guddio 'n * 1.1148 garccys, Ei droseddeu â dail ffigys: Noe y fynne lwyr ddarguddio, Yn ei feddwdod faint oedd gantho.* 1.1149
Christ sy'n gwardd i gristion fwytta, Gydâ 'r meddw, glwth ei fola, Ac ymgadw rhag dwad atto,* 1.1150 Fel rhag dyn a'r cowyn arno.
Fel y gyrr y mwg o'r llester, Yr holl wenyn o'i efinwythder: Felly gyrr y meddwdod aflan, Râs a dawn o'r galon allan.

Page 188

* 1.1151Ni bu meddant frenin Babel, Ond saith mlynedd ar lûn nifel: Y mae 'r meddw ar lûn mochyn, Hwy nâ hwnnw law er blw yddyn.
* 1.1152Einioes fyrr a chylla afiach, Lletty llwm a drwg gyfeillach, Coppa twnn, a shiacced frattog, Y gaiff meddwyn yn lle cyflog.
Fe werth meddwyn dref ei Dâd, Ar maint y fedd o fraint yn rhad, A phôb nifel sy'n ei helw, Gwerth ei grŷs i brynu 'r cwrw.
Fe medu 'r meddw â'i holl bethau, Ai aur ai arian, a'i dryssorau, Ei dai, ei dir, ei blant, ei briod, Ond ni' medu bŷth â'i feddwdod.
Gwir Dduw 'r meddw ydyw † 1.1153 Bachws, Tafarn hwdlyd yw ei Eglwys, Gwraig y Tafarn yw ei ffeiriad, Y pott ar bîb yw ei * 1.1154 gyfnessiad.
Bydd di sobr trech di 'n fachgen, Nâd ir bola speilio 'r cefen, Nâd i afraid ieungctid hala, Bol mewn henaint i gardotta.
* 1.1155Cyfraith Dduw a fynn labyddio, Pob oferddyn ag a feddwo; I ddiwreiddio 'r cyfryw frynti, Ac i rw ystro eraill feddwi.
* 1.1156Fe ddaw Christ yn chwyrn heb wybod, Ar ddyn meddw i ddial meddwdod, Fe'i gwa hana, fe'i rhy orwedd, Mewn tân poeth i ringcian dannedd.

Page 189

Duw ro grâs i bob rhyw Gristion, Yfed † 1.1157 deigryn lai na digon, Cyn y hyfo fwy nâ'i gyfraid, I lladd ei gorph, i ddamnio ei enaid.

Cân ynghylch y Diawl a'r Meddwon.

Y Cythrael twyllodrus sy beunydd heb orphwys,* 1.1158 Ond ceisio 'n ofalus ein twyllo, I wneuthur pechode, pob amryw o feie: Duw gatwo 'n heneidie ni rhagd do.
Fel y bydd cysgod ar ddisclair ddiwrnod, Ein dilyn yn wastod wrth rodio; Felly mae ynte yn canlyn ein sodle, Yn gosod ei fagle i'n cwympo.
Duw gatwo pob Christion rhag Satan anghysion; O 'wllys fyng halon rwi'n ceisio, Gael dwyn ein eneidie 'ddwrth bob rhyw o feie, O † 1.1159 vffern a'i phoene, a'i rwystro.
Meddwdod yw'r gore a'r penna o'r heinte, O hono mae 'r beie yn himpo; Tyngu, putteindra, gloddineb, lladratta, Ac ymladd yw'r mwya sydd yndo.
Lle bo mwya 'r gynlleidfa, fe gân * 1.1160 y dantara, Gyfeillion dewch yma i gwmpnio, I hala hi 'n fuan trwy 'r ffenest ac allan, Mi fydda fy hunan yn † 1.1161 campo.
Ac yno hwy ddawan, fel Sawdwyrs yn fuan, I'r man lle bo Satan yn ceisio, I gymryd eu hafraid, heb * 1.1162 garcco am yr enaid, A llawer o'r gweiniaid sydd hebddo.

Page 190

Dechreuan yn llonydd fel haul-wen foreudd ydd, Nes cwnnu tês glennydd a thwymo; Y ddau-rydd y gocha, y tafod y floesga, Y ddwy troed y ffaela a rhodio.
Gwedi darffo iddyn yfed, yn barod i fyned, Fym Hostes am hened moes etto: Llanw di 'r potte, yn llawn o'r vn gore, Ni awn i ddechre * 1.1163 carowso.
Bellach moes ymma ddalen o'r Jndia, A'i henw hi 'n benna tybacco, Pibell a thewyn, neu ganwyll i nynnyn, Nad orfod eu gofyn hwy etto.
Yscadan moes bellach, neu gig y fo halltach, Spardyn * 1.1164 cyfeddach y baro, I hyfed hi 'n † 1.1165 hoyw, nes bo rhai yn feddw, A darfod y cwrw a'i ‖ 1.1166 spendo.
Yno bydd dwndwr a briwo gŵr llwfwr, Oni bydd ê gwmpniwr i growfo; Gelwch yn galed, na * 1.1167 speriwch ag yfed, Na chwrw na chlared lle bytho.
Rhai fydd yn i fwrw, rhai fydd yn i gadw, A rhai fydd yn arw yn i * 1.1168 sipio; Rhai yn eu saesneg, a rhai yn ei flrangeg, A rhai yng wyddeleg yn † 1.1169 pledio.
Rhai fydd yn tyngu, rhai fydd yn cynhennu, A'r cythrael yn gwenu 'n eu * 1.1170 hawnto; Atto f'eneidie, ceisiwch eich harfe, Nid rhaid i chwi odde ddim gantho.
Yno bydd cleisie, ond odid glanastre; Anhappus yw'r chware lle bytho, Y cythrael cenfigennus, y bradwr, * 1.1171 hoccedus, Anghenfil anghenus lle delo.

Page 191

Nid oes neb heb ei feie, yn llawn o bechode, Nid ydy rhai gore * 1.1172 yn scapo, Na bo nhwy'n rhy vfudd yn rhwy feie na'i gilydd, Yn dilyn llyferydd y † 1.1173 Cadno.
O Arglwydd gorucha, rho ras i ni wella, A chadw blant Adda rhag llithro; Maddeu 'n pechode, a dwg ein heneidie, I'r mann lle * 1.1174 bych dithe 'n grophwyso,

Cynghor yn rhybuddio dyn i ymgadw, rhag lleteua meddyliau drwg yn ei galon, ac i droi ei feddyliau, bôb amser i fyfyrio ar ddaioni.

MAe holl feddwl dŷn ysowaeth,* 1.1175 Gwedi lygru wrth naturiaeth: Ni fyfyria ond drygioni, Nes y darffo ei ail eni.
Nid oes dŷn ag all myfyrio* 1.1176 Meddwl da, gwnaed orcu ag allo, Nes cael gallu Duw a'i radau, I gysrwyddo ei feddyliau.
O gweddia 'n daer gan hynny,* 1.1177 Ar ir Arglwydd adnewyddu, Dy feddyliau a'th amcanlon, I fyfyrio ar yr vnion.
Felly denfyn Duw ei yspryd,* 1.1178 I oleuo dy fedd, lfryd, Ac i newid dy feddyliau, I fwriadu 'r hyn sydd orau.
Nâd i feddwl drwg lectteua,* 1.1179 Yn dy galon rhag dy ddifa, Gwâs yn ceisio llety i Satan, Bôb yr awr yw 'r meddwl oflan.

Page 192

* 1.1180Dôd dy feddwl a'th fyfyrdod, Ar y pethau sydd oddivchod, Lle mae Christ dy Brynwr hygar, Nid ar bethau s'ar y ddaiar.
Rhod dy fryd ar bethau nefol, Ac na sercha ddim daiarol: Meddwl am y wlad y gorfydd, Aros ynddi yn dragywydd.
Meddwl am y pethau brynodd, Christ a'r waed it yn y nefodd, Heddwch Duw a choron hysryd, Teyrnas hardd, a † 1.1181 didrangc fywyd,
Meddwl dy fôd tra fech byw, Bôb yr awr yngolwg Duw; A bôd Duw yn gweld d'ymddygiad, Ym-mhob mann a chil ei lygad.
Meddwl fôd y gelyn gwaedlyd, * 1.1182Ddydd a nôs fell llew newynllyd, Yb troi daetu ith orweddfa, Bôb yr awr yn ceisio'ch ddifa.
Meddwl am reoli d'eiriau, A'th weithredoedd, a'th feddyliau, Wrth fôdd Duw, rhag iddynt beri, Gwascfa ith Enaid ddydd dy gyfri.
* 1.1183Meddwl fal y daw dy Brynwr, Yn y cymlau i chwareu 'r Barnwr: Ac ymgweiria iw gyfarfod, Fel priod-serch gwrdd â'i phriod.
* 1.1184Meddwl, fal y gorfydd rhoddi, Ddydd y farn mor fanol gyfri, Am y meddwl drwg a'r bwriad, Ag y roir am weithred anllad.

Page 193

Meddwl fal yr awn oddi ymma, Ir tŷ priddlyd am y cynta, Mewn Cŵd canfas heb vn * 1.1185 Beni, Pe bae inni † 1.1186 rent Arglwyddi.
Meddwl fôd yr Angeu aethlyd Ar farch glâs yn gyrru 'n ynfyd,* 1.1187 Fal na ddichon hên nac ifangc, Rhag ei saeth a'i ddyrnod ddiangc.
Meddywl hefd y daw Ange, Megis lleidir am ein penne,* 1.1188 Heb vn vdcorn i'n rhybyddio, Yn ddi-ymgais i'n anheithio.
Meddwl nad yw bywyd vn dyn,* 1.1189 Ond fel † 1.1190 Bwmbwl ar y llyn-wyn, Neu fel Padell bridd neu wydur, 'Rhwn yn hawdd y dyrr yn glechdur* 1.1191.
Meddwl fal y rhêd ein heinos,* 1.1192 Megis llong dan hwyl heb aros, Ac y derfydd am ein hamser, Cyn inn' dybied dreulio ei hanner.
Meddwl fôd y bŷd yn gado, Pawb yn llwm i fynd o hano, Ac fel iâ yn torri danynt, Pan bo rheita ei gymmorth iddynt.
Meddwl na ddaw aûr nac arian, Tai na thir or drodfedd fychan, Gydâ neb i fynd ir frawdle, I roi cyfrif am eu beie.
Meddwl pan y delo Ange,* 1.1193 Gorfydd gado 'r bŷd a'i bethe, A mynd o flaen Christ yn wisci, Am y Cwbwl i roi cyfri.

Page 194

Meddwl fal y bydd dy dlysseu, A'th holl olud, a'th holl swyddeu, Yn ymofyn newydd feistri, Cyn y caffech gwbwl oeri.
Meddwl dosted y fydd pechod, Yn dolurio dy gydwybod, * 1.1194Pan y tafler yn dy ddannedd, Ddydd y farm dy holl anwiredd.
* 1.1195Meddwl fal y gorfydd rhoddi, Ddydd y farn ir Arglwydd gyfri, Am bob gweithred ddrwg y wnelom, A'r gair ofer ag y ddwetom.
* 1.1196Meddwl fal y bydd gwyr gwychion, Sydd heb ofni Duw na dynion, Ddydd y farn yn crio 'n scymmyn, Am ir creigidd gwympo arnyn.
* 1.1197Meddwl fal y bydd y duwiol, Yn y nêf mewn braint rhagorol, Yn clodfori Duw gorucha, Pan bo eraill yn * 1.1198 Gehenna.
Meddwl fal y mae'r annuwiol, * 1.1199Yn ymdroi mewn tân vffernol, Ar Prŷf didrangc yn ei bwytta, Bôb yr awr heb gael ei wala.
* 1.1200Meddwl am hyn, a dibrissia, Y bŷd hwn a'i wagedd mwya, A myfyria trwy wîr grefydd, Ar air Duw a'r bŷd na dderfydd.
Meddwl dŷn a rêd heb orphywys, Ar y drwg neu'r da gyrhaeddwys, Oni chaiff beth da i fyfyrio, Ar y drwg fe rêd tra ganto.

Page 195

Meddwl dŷn fel mâen y felin, Y dreulia ei hun nes mynd yn gilin, Oni roir rhyw rinwedd dano, Iddi falu, a'i fyfyrio.
Meddwl weithio 'r gwaith y bwyntiodd, Dy Greawdwr pan ith greuodd, Ai wasnaethu â'th holl bwer* 1.1201, Yn dy alwad tra cech amser.
Meddwl mae gwell vn diwrnod, Yn gwasnaethu 'r sanctaidd Drindod,* 1.1202 Nâ'th holl ddyddiau, a'th holl oesach, Yn gwasnaethu dim amgenach.
Meddwl cyn y gwnelech bechod, B'wedd i attebu ddydd dy drallod, A pha fodd y gallu ddiangc,* 1.1203 Ddydd y farn rhag angeu didrangc.
Dôd dy feddwl ar ddaioni, Nâd ar wagedd iddo ymborthi: Hawdd y gallu i gyfrwyddo, Os mewn pryd y ceisi ffrwyno.
Hawdd yw diffodd y wreichionen, Cyn y 'mafloi yn y nenbren:* 1.1204 Hawdd yw newyd meddwl aflan, Os gwrthnebyr hwn yn fuan.
Tro gan hynny 'n ebrwydd heibio, Bôb drwg feddwl pan dechreuo: Rhag ir gelyn mawr ei * 1.1205 hocced, Drio 'r drwg feddwl ir drwg weithred.
Lladd blant Babel tra font fechgin, Sang ar sarph tra foi 'n y plisgin, Tynn y * 1.1206 gangren cyn ei gwreiddio, Tor ddrwg feddwl cyn cynyddo.

Page 196

Gâd wreichionen fach i gynnu, Yn dy do, hi lysg dy lettu: Gâd i feddwl drwg letteua, Yn dy galon fe'th anrheithia.
* 1.1207Na letteua feddwl aflan, Yn dy galon mwy nâ Satan, Os lletteui rwyt ti 'n derbyn, * 1.1208Harbinger o flaen y gelyn.
Rho dy fryd ar gadw 'r gyfraith, A byw wrthi, yn ddiragraith: * 1.1209Ac na ollwng Duw o'th feddwl, Ond bendithia am y cwbwl.
* 1.1210Na fwriada ddrwg o'th galon, I anrheithio dy gyd-gristion: * 1.1211Mwrddwr yw 'r fath feddwl gwaedlyd, Gwachel rhagddo er dy fywyd.
Na thrachwanta wraig cymmydog, * 1.1212Ac na hoffa ei llygaid serchog, Nâd ith feddwl redeg arni, Cans godineb yw i hoffi.
* 1.1213Gwachel roi dy fryd na'th fwriad, Ar anrheithio vn ymddifad; Trais a blin orth ymder yw, Y cyfryw fwriad o flaen Duw.
* 1.1214Gwachel chwennych Aur nac arian, Tai na thir, trwy dwyll a choggan, Nid yw'r cyfryw chwant a bwriad, Ger bron Duw ddim llai nâ lledrad.
Rhwym dy feddwl, nâd e'i wiin, Ar oferedd mawr na bychan, Nac ar ddim na ellech roddi, * 1.1215Count am dano ddydd dy ddidri.

Page 197

Cadw'th galon rhag drwg fwriad,* 1.1216 Fel y cedwi'th law rhag lledrad: Mac 'n rhaid atteb yn cyn gaethed, Am ddrwg fwriad ar ddrwg weithred.

Cynghor i lywodraethu 'r ymadrodd wrth fôdd Duw.

BId dy eiriau yn wastadol, Yn gristnogaidd ac yn rassol, Yn rhoi grâs ir holl wrandawyr,* 1.1217 Ac adeiliad tra chymmessur.
Y mae bywyd, y mae Angau, Yn y tafod, yn y genau:* 1.1218 Gwachel ddywedyd geiriau diraid, Cadw d'enau, cedwi d'enaid.
Dilyn d' Arglwydd yn dy eiriau,* 1.1219 Dywaid fel y dywede yntau, Ni ddaeth twyll na gair anweddaidd, Erioed y maes o'i enau sanctaidd.
Traetha 'n bwyllog, gwrando 'n escud,* 1.1220 Mae dau glust, vn tafod gennyd, Aml eiriau bair cyfeiliorni, Ni ddaeth drwg i neb o dewi.
Cyn y dywedych, meddwl ennyd,* 1.1221 B'wedd y myn mâb Duw id ddywedyd, Yno dywaid 'r hyn sydd rassol, A da i adail rhai an-neddfol.
Na ddoed 'madrodd brwnt o'th enau,* 1.1222 Na gair ffol, na choeg ddigrifau, Senn, na ffrost, na * 1.1223 phrwmp, na chelwydd, Ond bid rassol dy lyferydd.

Page 198

Cadw d'enau rhag gair diraid, * 1.1224Felly gelli gadw d'enaid: Oni ffrwyni dafod anwir, Yn ôl d'eiriau ith gondemnir.
Arfer iaith ac * 1.1225 Aeg gwlad Canan, Bid am Dduw a'i air d' ymddiddan: Wrth dy eiriau y cair gwybod, O bwy wlad yr wyt yn hanffod.
* 1.1226Nâd ith dafod arfer tyngu, Cig a gwaed yr Arglwydd Iesu, Rwyt ti 'n * 1.1227 damsing gwaed y cymmod, Pan arferych gyfryw bechod.
Am air Duw nid oes id yngan, Heb anrhydedd, parch, ac ofan, Ac or cymru ei enw 'n ofer, Di ae yn euog pan ith farner.
Dywaid beunydd leia ag allech, Dywed yn rassol pan y dywedech: Oni ddywedu eiriau hyfryd, Gwell it dewi a sôn nâ dywedyd.
Gwachel fôd yn ddau dafodiog, * 1.1228Câs gan Dduw bôb dyn celwyddog: Tâd y celwydd ydyw 'r Cythrel, Gwas ir Diawl yw'r ffalst ei chweddel.
* 1.1229Arfer draethu 'r gwir o'th galon, Hoff yw 'r gwir gan Dduw a dynion, Ni chaiff dyn celwyddog gredu, Gair o'i wir pan bo 'n ei dyngu.
Na chno vn dŷn * 1.1230 llwyr ei gefen, Ac nac arfer gair † 1.1231 drwg-absen, Gwaeth nâ chleddau llym dau-finiog, Ydyw enllib dŷn celwyddog,

Page 199

Na ddwg dafod drwg anhappus,* 1.1232 Gwaeth yw hwn nâ gwenwyn lindus, Gwaeth nâ marwor poeth yn llosci, Gwaeth nâ saethau yn or Cewri.
Er fy mendith na lyffenwa,* 1.1233 Neb yn rhwyl, neu 'n ffol, neu 'n * 1.1234rhaca: R'hwn a alwo ei frawd yn lletffol, Mae ê 'n haeddu tân vffernol.
Gwachel adrodd faint y glywech, Gwachel ddywedyd faint y wypech, Dywaid wîr pan gorffo ei draethu, Nes bo rhaid, gwell weithiau ei gelu.
Bydd ddeallgar pan ganmolech,* 1.1235 Bydd * 1.1236 gwrteisol pan gyfarchech, Bydd gariadus wrth geryddu, Bydd drugarog wrth gyfrannu.

Gweddi am lywodraethu'r geiriau, a'r genau wrth fôdd Duw.

ARglwydd agor fy ngwefussedd,* 1.1237 I foliannu 'th Dduwiol fawredd, A chyfrwydda di fy nhafod, I ddatcanu maes dy fawr-glod.
Llanw ngenau, o'th wir foliant,* 1.1238 Ith fendithio am fy llwyddiant, Ath glodfori dâd trugarog, Yn y dyrfa fawr luosog.
Llunia ngeiriau, * 1.1239 llywia 'n hafod, A chyfrwydda fy myfyrdod: Clô a datclo fy nwy wefys, Nâd fi draethu ond dy wllys.

Page 200

Arglwydd cadw ddrws fy ngenau, Nâd fi draethu ffiaidd eiriau, * 1.1240Ffrwmp, na ffrost, na senn, na chabledd, Geiriau ffôl, na dim anwiredd.
* 1.1241Bid myfyrrod fy holl galon, Bid fy ngweithred a'm amcanion, Bid fy ngeiriau oll yn ddiddrwg, A chymmeradwy yn dy olwg.

Cynghor i ddyn fod bob amser o ymddygiad Christnogaidd.

* 1.1242BId d'ymddygaid yn gristnogaidd, Yn * 1.1243 gwrteisol, ac yn gruaidd, Ym-mhob tyrfa 'delych iddi, Megis plentyn ir goleuni.
* 1.1244Bydd fel Seren yn discleirio, Bydd fel Canwyll yn goleuo, Bydd fel * 1.1245 Patrwn o gristnogaeth, Ir rhai ddelo i'th gwmpniaeth.
* 1.1246Bydd dra sanctaidd ir Galluog, Bydd yn vnion i'th gymydog, Bydd yn sobr it ty hunan, * 1.1247Dyna 'r tri phwynt rheita allan.
* 1.1248Bydd mor ddi-ddrwg ag yw 'r glommen, Bydd mor gall ar sarph drachefen, Bydd ddioddefgar fal y ddafad, Hôff gan Ghrist y fath ymddygiad.
Bydd yn * 1.1249 dempraidd megis Daniel, Cadw 'r cnawd mewn † 1.1250 Diet issel: Gwachel wîn a bwyd rhy foethus, Rhag dy fynd yn afreolus.

Page 201

Bydd yn * 1.1251 ddiwair, nid yn anllad, Bydd fel Joseph yn d'ymddygiad: Rwyt ti yngolwg Duw bob amser, Bydd gan hynny lân a syber.
Dela 'n vnion wrth fargenna, Na thwyll vn dyn wrth farchnatta;* 1.1252 Duw ei hun sydd vnion faruwr, Rhwng y gwirion * 1.1253 plaen a'r twyllwr.
Bydd o ffydd a chrefydd vnion,* 1.1254 Ofna Dduw o ddyfnder calon, Na wna ddrwg o flaen ei lygad, Ym-mhob mann mae 'n disgwyl arnad.
Dilyn gyngor doeth Bregethwyr,* 1.1255 Ymddarostwng ith Reolwyr, Bydd gariadus â'th gymdogion, Ac heddychol â phob Christion.
Bydd dra grassol yn dy eiriau, Bydd yn fedrus yn dy chwedlau:* 1.1256 Bydd yn gywir yn dy bromais* 1.1257, Bydd ym-mhob peth, lân a † 1.1258 llednais.
Bydd di berffaith ym-mhob tyrfa, Bydd fel Sant ym-mhlith y gwaetha: Er diffeithed y fo 'r cwmpni, Bydd fel Noe ym mysc y cewri.
Cyfarch bôb dyn yn dra suriol,* 1.1259 Gostwng i'th well yn gwrteisol, Parcha 'r henaint a'r Awdurdod, A rho 'r blaen ith well yn wastod.
Bydd ddioddefgar a chymmessur,* 1.1260 Na fydd boeth, na thwym dy nattur: Goddeu gamwedd cyn cynhennu, Y ddioddefodd hwnnw orfu.

Page 202

Ymddarostwng i'th * 1.1261oreuon, Duw ei hun a † 1.1262 wrthladd beilchion: Ac fe ddyru râs yn ‖ 1.1263 ystig, Ir rhai vfydd gostyngedig.
Na falchia am vn rhinwedd, Nac am gyfoeth ac * 1.1264 anrhydedd, Ond rhô ddiolch prudd am danynt, Rhag i Dduw dy adel hebddynt.
* 1.1265Bydd di gryno yn dy ddillad, Dôs yn lân yn ôl dy alwad: Tor dy bais yn ôl dy bwer, Na fydd goeg na brwnt vn amser.
Gwachel bechu er cwmpniaeth, * 1.1266Cyflog pechod yw marwolaeth: Cnifer gwaith y bech yn pechu, Cnifer Angeu wyt yn haeddu.
Mae cyfathrach er y dechreu, Rhwng pôb pechod brwnt ac Angeu, Fal na ddichon vn dyn bechu, Na bo Angeu yn ei lyngcu.
* 1.1267Na fydd anllad yn dy chwedleu, Na fydd aflan mewn corneleu, Ym-mhob cornel bid d'ymddygiad, Fal pyt faet wrth groes y farchnad.
Os cais dŷn, na Diawl, nac Angel, * 1.1268Gennyd bechu yn y dirgel, Cofia fôd Duw â saith llygad, Ym-mhob mann yn disgwyl arnad.
* 1.1269Er nad ydyw dyn yn gweled, Yn y dirgel lawer gweithred, Y mae Duw yn gweld y cwbwl, Pan na bytho dyn yn meddwl.

Page 203

Os trosseddi yn y dirgel,* 1.1270 Duw ddatguddia dy holl † 1.1271 gwnsel, Ac y * 1.1272 faneg dy ymddygiad, Ir byd yng wydd haul a lleuad.
Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth, Pobol anwir ddigristnogaeth: Os fe † 1.1273 nyrdda rhain d' ymddygiad, Fel y nyrdda 'r * 1.1274 pitch dy ddillad,
Fal y hallta 'r môr y † 1.1275 granffo, O'r dwr croyw ddelo atto, Felly nyrdda pobol scymmyn * 1.1276Foeseu 'r goreu ddelo attyn.
Gwachel neidir rhag dy frathu, Gwachel † 1.1277 bla rhag dy ddifethu: Ac o ceri lechydwriaeth, Gwachel ddilyn drwg gwmpniaeth.
Câr â'th galon bôb dyn duwiol: Bydd gyfeillgar â'r rhinweddol:* 1.1278 Dilyn arfer y rhai doethion, A ffieiddia 'r annuwolion.

Cynghor ynghylch bwytta ac yfed.

GWachel eiste i lawr i fwytta, Nes bendithio 'r bwyd yn gynta: Gwachel godi pan eisteddech, Nes rhoi diolch am y fwyttech.
Christ ni fwyttei fara † 1.1279 barlish, Chwaethach bwyd oedd well ei * 1.1280 relish, Nes yn gyntaf ei fendithio, A rhoi mawl i Dâd am dano,

Page 204

* 1.1281Pam y cytcam vn-dyn fwytta Bwyd Sy'ar felldith er cwymp Adda? Nes yn gyntaf ei fendigo, A Gair Duw â gweddi drosto.
Tôst yw gweled mor nifeilaidd, Mor anneddfol, mor anweddaidd, Y rhêd llawer dyn i fwytta Bwyd, fel buwch y rêd ir borfa.
Tostach yw eu gweld yn cwnnu, Odd'ar ford, i fynd i gyscu, Fel y môch o'r trwc â ir dommen, Heb roi diolch mwy nâ'r Assen.
Nid oes Sôn am râs cyn bwytta, Nac am fendith Duw gorucha, Nac am ddiolch gwedi porthi, Mwy na'r môch y fae 'n eu pesci;
* 1.1282Er bôd Duw yn rhoi gorchymmyn, I bawb yn ol torri newyn, Roddi moliant ar yr eitha, Ir Duw mawr am lanw eu bola.
Gwachel fwytta ond dy ddigon, Na fydd chwannog i ddainteithion; Mwy nâ rhaid o * 1.1283 ffâr llysseulyd, Bair ir cnawd orchfygu 'r yspryd,
Os rhoi ir cnawd fwy nâ'i gyfraid, Rwyt ti 'n porthi gelyn diriaid: Os rhoi iddo lai nâ digon, Rwyt ti 'n lladd cydymmaith ffyddlon.
Nac ŷf ddiod tuhwnt i fessur, Gronyn bach a wsnaeth nattur: Diod gadarn sydd yn peri, I wŷr nerthol gwympo deni.

Page 205

Gwîn a wnaeth i Noe ymnoethi,* 1.1284 Gwin a yrrodd Lot i ymlosci, Gwin a dorrodd Gwddwg llawer, Gwin orchfygodd Alexander.
Nâd dy ford yn fagal itti,* 1.1285 Trwy lothineb câs a swrthni: Rhag ir Gelyn dû dy hela, Gablu Duw yn llawn dy fola.
Mae dau lygad yr ychedydd, Yn eu gwaith wrth fwytta ei fwydydd; Vn yn gweld ei ymborth hyfryd, Llall yn gwarchod rhag y barcyd.
Bid dy lygaid ditheu 'n * 1.1286 waetan, Ddydd a nôs rhag rhwydau Satan, Rhwn y gais â'th fwyd dy faglu, Wrth giniawa a swpperu.
Pan bo 'r ceiliog côch yn bwytta, Bydd ei lygaid hwnt ac ymma, Rhag ir barcyd llwyd ei * 1.1287 scliffiaid, Tra fo e'n bwytta heb feddyliaid,
Felly bydded dy ddau lygad, Dithe vwch dy fwyd yn gwiliad; Vn yn canfod dy Greawdwr, Llall yn gwarchod rhag y Temptiwr.
Gwachel fwytta dim a baro, Ith gyd-gristion gwann dramcwyddo, Y mae 'r Scrythur lân yn * 1.1288 gwrafyn, Id trwy fwyd dramcwyddo vn-dyu.
Na châr fwytta bwyd dy hunan, Doro ran ir tlawd a'r truan, Galw 'r gwann i brofi 'th ginio; Rhann â'r hwn s'eb dammaid gantho.

Page 206

Ni chiniawe hên Dobias, Nes cae e'r gweinaid bâch o'i gwmpas, Ac ni * 1.1289 chorffe ddim dainteithion, Nes rhoi rhan ir bobol dlodion.
* 1.1290Job ni fwyttei fwyd yn felys, Nes bae ymddifaid wrth ei ystlys; Ac ni bydde iach ei galon, Nes rhoi cyfran ir rhai tlodion.
Galw dithe 'r gweinaid tlodion, * 1.1291I gael cyfran o'th ddainteithion: Felly gelwir dithe ar fyrder, I * 1.1292 gael rhan or nefol swpper.
Gwachel rwgnach ond bydd foddlon, I beth bynnag fo Duw 'n ddanfon: Bara a dwr oedd ffar ddigonol, Gynt ir * 1.1293 patriarcheid duwiol.
Daniel bâch a fydde foddlon, * 1.1294Fwytta ffa a ffacpys duon, A holl feibion y Prophwydi, Cymrent fara haidd iw porthi,
Pam na byddwn ninneu foddlon, * 1.1295I beth bynnag fo Duw 'n ddanfon? Bid ef lawer, bid ef ronyn, Trwy gael môdd i dorri'n newyn.
† 1.1296Fe fu 'r Drindod Sanctaidd foddlon, Wledda gydag Abram ffyddlon, Ar gig llo, a llaeth, a menin, Bara twym, heb fwy o 'mhoethin.
Nawr nid nês gan bob ofer-ddyn, Er cael bwyd i dorri newyn, Oni bae cael chwech o seigiau, Gwin a chan i borthi chwantau.

Page 207

Rhaid Cael saws, a rhaid cael fineg, Rhaid cael capers, Sampier, garlleg, Cyn y gallo llawer fwytta, Prŷd o fwyd gan faint oi traha† 1.1297
Y mae 'r saws yn awr yn costi, Yr oes hon mewn gwres a gwegi, Mwy nag oedd y breision Seigiau, Gynt yn costi i'n hên Dadau.
Gynt ni cheifie Alexander, Saws un amser gydâ'i fwpper, Ond y saws oedd yn ei gylla, Chwant ir bwyd yn ol rhyfela.
Cyrus ynte fyddei foddlon, I swpperu ar lan * 1.1298 ffynnon, Lle cai ddwr i dorri syched, Ef ai silwyr yn eu lludded.
Rhaid y nawr i bobol ofer, Gael ei gwîn ar ginnio a swpper: Rhaid cael peint neu ddau o glared, Cyn el tammaid bwyd i wared.
Duw ro bara ir bobol dlodion, Duw a'n gwnelo ninnau 'n foddlon, Duw faddeuo 'n traha inni, Duw fendithier am ein porthi

Grâs cyn bwyd.

POrthwr mawr y pum mil gwerin, A'r pum torth haidd, a'r ddau byscodyn,* 1.1299 Portha ninnau dy wael weision, A'r hyn ymborth wyt ti 'n ddanfon.

Page 208

A bendithia 'r bwyd a'r ddiod, Rhwn a roddaist ymma i'n gwarchod, Fel y gwir fendithiaist cyn hyn, Oen y Pasc, a'r ddau byscodyn.
A rho iddynt rym i'n porthi, * 1.1300Ith wasnaethu a'th addoli, Fel y rhoddaist rym o'th wiwras, Gynt ar deisen i Elias.
A phâr iddynt i'n * 1.1301 cymfforddi, * 1.1302A'n cryfhau, a'n gwir ddigoni, Fel y peraist ir † 1.1303 ffâr issel, Ar y ffacpus borchi Daniel.
A nâd inni o'th ddainteithion, Gymryd gronyn mwy nâ digon, Ond y maint y fo 'n ein helpu, Yn ein galwad i'th wasnaethu.
Eithr pâr inn roddi moliant, Id bôb amser am ein porthiant, A chydnabod mae Duw * 1.1304celi, Ginio a swpper sy'n ein porthi.

Gras yn ol bwyd.

* 1.1305POrthwr grassol pob creadur, Gwyllt a dôf, yn ôl ei nattur, Derbyn foliant am ein porthi, Mor ddigonol â'th ddaioni.
Er pan ddaethom o'r grôth allan, Tydi 'n porthaist fawr a bychan: Am dy swynder yn ein porthi, Rym ni bawb yn diolch itti.

Page 209

Nid oes gennym ddwr i yfed,* 1.1306 Bara i fwytta, grym i gerdded; Goleu i ganfod, nerth i godi, Ond y roddech Arglwydd inni.
I ti Arglwydd am ein porthiant, Am ein iechyd, am ein llwyddiant, Am ein heddwch a'n llawenydd, Y bo moliant yn dragy wydd.

Grâs cyn bwyd.

LLygaid pôb creadur bywiol, Sydd yn edrych Arglwydd grassol, Ac yn * 1.1307 trusto cael eu porthi, Gennyd, Rhoddwr pôb daioni.
Rwyti 'n agor dy Law rassol, Ac yn porthi pôb peth bywiol, Gan roi ymborth wrth ei nattur, Yn ei brŷd i bôb creadur.
O bendithia ni dy weision, A'r holl swydydd, a'r dainteithion, Y bartoist ti ar ein meder, I'n digoni ginio a swpper.
A rho inni râs i fedru, Bawb yn ddyfal i'th glodforu, Am dy † 1.1308 garc, a'th rôdd, a'th fwynder, Yn ein portlu ginio a swpper.

Page 210

Gras yn ol bwyd.

DI lenwaist Christ ein cylla, Ag ymborth o'r dainteithia, Llanw eneu bawb o'th blant, A moliant am ei bara.
Yn foethus iawn di 'n porthaist, Yn rasol di 'n diwallaist: Rho ini weithian râs bob cam, I'th foli am y roddaist.
Di roddaist inni 'n Cinio, Ac ymborth i'n * 1.1309 maintaenio; Rym ni 'n rhoddi rôs a dydd, I't foliant prûdd am dano,
Mae dlyed arnom roddi, It' foliant am ein porthi, Oh! rho galon inni a chwant, I roi mawr foliant itti.
Pob bol ag wyt' yn lanw, Clodforent byth dy enw, A bendithient ar bob cam, Dy fawredd am ei cadw.

Arall cyn bwyd.

DUw dôd fendith ar ein hymborth, Duw rho iddynt rym a chymmorth, I'n digoni â gwir gryfdwr, I'th wasnaethu di 'n Creawdwr.

Page 211

Er bôd llawer bwyd yn * 1.1310 ddainti, Nid oes yndynt rym i'n porthi, Nac i dorri dim o'n newyn, Oni roi dy fendith arnyn.
O gan hynny, Duw bendithia, Yr holl fwydydd a roeist ymma, Fel y byddo † 1.1311 pwer yndyn, Borthi 'n cyrph a thorri 'n Newyn.
Lle mae llawer * 1.1312 sort o fwydydd, Yn troi 'n eri yn ein colydd, Am eu cym yd yn afradlon, Ac yn magu câs glefydion.
Rho di râs inn' Arglwydd sanctaidd, Gymryd pôb bwyd yn dymheraidd, Fel y gwnelont lessiant inni, Ac na fagont haint na swrchni.
Rho rym ynddynt i'n cyfnerthu, Yn ein galwad ith wasnaethu, Ac i foli d'enw 'n wastad, Er mwyn Jesu Grist ein Ceidwad.

Gras yn ol bwyd.

DErbyn Arglwydd loi 'n gwefused, Am dy ffafar a'th drugaredd, Yn ein porthi mor ddigonol, A'r creaduriaid fydd bresennol.
Derbyn Ddiolch ar ein dwylo, Am roi inni gystal cinio, Er nad ydym yn ei haeddu, Mwy nâ'r fawl sydd yn newynu.

Page 212

Rhoed pob genau ag y borthaist, Foliant itti am y roddaist, Ninne roddwn itt' ogonian, Yn dragywydd am ein porthiant,

Grâs cyn bwyd.

DUw mawr o'r nêf sancteiddia, Ni oll a'r ymborth ymma, Wyt ti 'n roddi wrth ein rhaid, I'th blant a'th ddefaid borfa,
A phâr inni gydnabod, Fôd pôb daioni 'n dyfod, Oddi-wrthyd (grassol wŷd) Yn oed y bwyd a'r ddiod,
A dysc inn' bawb foliannu, Dy enw a'th glodforu, Am ein porthi 'n well nâ neb, Bôb amser heb ei haeddu.
Ac er mwyn d'anwyl blentyn, Yr ym ni 'n daer yn † 1.1313 canlyn, Arnad roddi bara a dwr, I'r neb s'eb swccwr ganthyn:
A rhoddi gras i ninne, D'wsnaethu nôs a bore, Nes ein dwccer lle mae 'n * 1.1314 blys, I'th nefol † 1.1315 lys a'th Arcre;
Lle mae gwir fwyd a diod, Yn para byth heb ddarfod, Yn dy blâs lle mae dy blant, Heb arnynt chwant na thrallod.

Page 213

Gras gwedi bwyd.

DUw pam yr wyt ein porthi, Mor foethus ac mor ddeinti, Yn wastadol heb ddim trai, A gadel rhai mewn tlodi?
Pa ham yr wyt yn danfon, I ni dy waelaf weision, Fwy nag sydd raid i ni ym-mhell, A gado 'n gwell yn llwmon?
Cans yr ym yn cyffessu, Nad ydym neb yn haeddu, Cael mwy swccwr ar dy law, Nâ'r neb sy draw 'n newynu.
Ond dy fôd ti o'th fwynder, A'th gariad a'th drugaredd, Yn rhoi inni fw y ym-mhell, Nâ'r sawl sydd well ei buchedd;
Ar hyder y rhoem ninne, Fwy ddiolch byth i tithe, Nâ'r fawl sydd mor llwm ei * 1.1316 ffâr, I'th foli ar ei glinie.
I ti gan hynny rhodder, O'n geneu ni bob amser; Glôd a moliant' tra ynom chwyth, Ar ginio byth a swpper.

Page 214

Gras cyn swpper.

COdwn bawb ein pen a'n * 1.1317 ffriw, At Grist 'rhwn yw 'n † 1.1318 profeier, A chanlynwn arno e'n daer, Roi fendith âr ein Swpper.
Mae e'n porthi pôb peth byw, Er maint o'i rhyw a'i nifer, Ac yn rhoi i'r rhain i gyd, Eu bwyd mewn prŷd a themper.
Nid yw vn o Adar tô Yn descyn na bô 'i fwynder, Yn partoi i hwn ar * 1.1319 hast, Ei ginio, breoffast, swpper.
Pa faint mwy na † 1.1320 charcca Duw, Am ddyn rhwn yw ei * 1.1321 bicter, A rhoi iddo'i raid bob tro, Ond bwrw arno ei hyder?
Mae e'n rhoddi i ddyn, yn fwyd, Y grewyd ar ei feder, Llysse, llafyr, nifail glân, Pysc, adar mân heb nifer.
Ni wnaeth Duw vn gene 'rioed, Mewn tir, mewn coed, mewn dyfnder, Nes partoi ei ymborth tyn I'r geneu cyn ei ganer.
Llawer rhyw o Nifail glân, A physcod mân ac ader, Y rows Duw i borthi dyn, A'i lladd bob vn cyn bwytter.

Page 215

Pam nad ystyr dynion hyn? A rhoddi cyn y cymrer, Glôd a moliant prydd bob tro, I'r Arglwydd ginio a swpper.
Duw agoro 'n llygaid dall, I weld heb * 1.1322 wall a rodder, A'n geneue ar bôb cam, I foli am ei fwynder.
Clôd a moliant bôb yr awr, I'r Arglwydd mawr y rodder, Am ddiwallu 'n cylla gwâg, Ar ginio ag ar swpper.

ARALL yn ol Swpper.

RHown foliant prydd bob âmser, I'r Arglwydd ginio a Swpper, Am roi ymborth in'mor hael, Heb adel * 1.1323 ffael na phrinder.
Rhown iddo Ddiolch hyfryd, Am dan ein bwyd a'n Jechyd, A'n llawenydd a'i fawr râs In cadw i maes o ofyd.
A cheisiwn gantho'n rasol, Er mwyn ei fâb sancteiddiol, Borthi 'r enaid yn ei brŷd, A'i air â'i yspryd nefol:
A thywallt ei fendithion, A'i ras yn ddyfal arnon, Fel y gallom nôs a dydd, I foli 'n brydd o'r galon.

Page 216

ARALL.

GWyr a gwragedd, gweision, plant, Rhown foliant am ein porthi, I'r hael Dduw * 1.1324 s'o bryd i bryd Yn rhoi maeth hyfryd infi.
Mae 'n diwallu pob peth byw, Bob pryd a rhyw ddaioni, Ac o'i law, a'i râs, a'i rôdd, Yn rhoddi môdd i'n peri.
Mae 'n rhoi bara inni o'r ddâr, A gwyllt a * 1.1325 gwâr i'n pesci, Pysc o'r môr, a mel o'r graig, A llawer saig heb enwi.
Mae e'n porthi pob rhyw gnawd, * 1.1326Fel vn dan sawd i costi, Heb anghofio 'r Adar mân, Na'r llew, na'r frân sy'n gweiddi.
Mae e'n porthi dyn yn rhin, A chann a gwin yn * 1.1327 ddeinti, A bwd â rhost o lawer rhyw, Heb neb ond Duw 'n peri.
O rhown ninne foliant prydd, Bob nôs, bob dydd heb dewi, I'r hael Dduw am dan ei borth* 1.1328, Sy'n rhoi 'r fâth ymborth inni.

Gras cyn bwyd.

DUw nâd inni fwytta o'th ddonie, Fel y bwytty 'r môch afale, Hb dderchau pen na llygad, I weld o ble maent yndwad.

Page 217

Ond pâr inni godi 'n pennc, A chydnabod fôd y donie, Oll yn dwad, sydd i'n porthi, Oddi-wrthyd, Tâd goleuni.
A phâr inni foli d'enw, Am dy fwynder yn ein llamw, A'th fendithio yn dragywydd, Am ein iechyd a'n llawenydd,

Cerydd am esceulusso ceisio bendith ar, a rhoi diolch am ymborth.

FE gwilyddia hên ddŷn bâs* 1.1329, Ddechreu 'n henwr ddywedyd grâs, Rheitach oedd i hwn gwilyddio, Fôd ê cŷd heb ei † 1.1330 bracteiso.
Na chwilyddied vn rhyw ddyn,* 1.1331 Ddilyn arfer Christ ei hun: Od cwilyddied pob ofer-ddyn, Arfer bwytta ei fwyd fel mochyn.
Fe nebydd ŷch, fe nebydd assen,* 1.1332 Pwy yw porthwr, pwy yw perchen: Ac y roddant ddiolch iddynt, Yn y meder y so ganthynt.
Llawer dŷn yn waeth nâ nisel, Ni adwaenant Ghrist eu Bugel, Rhwn sy'n wastad yn eu porchi,* 1.1333 A'i trwm lwytho â daioni.
Y mae 'r adar bach yn canu, Clôd i Dduw yn ôl swpperu, Ac yn rhoddi moliant iddo, Nes bo * 1.1334 llewych i'ni gwrando.

Page 218

Mae 'n hwy bôb vn yn ymdynnu, Am y goreu allo ganu, Mawl ir Arglwydd nôs a borau, Sy'n rhoi bwyd i lanw eu boliau.
Y mae dynion hwyntau 'n tewi, Gwedi 'r Arglwydd mawr eu porthi, Heb roi clôd na moliant iddo, Mwy nâ'r pysc s'eb lafar gantho.
Ond da dlye 'r fâth gan hynny Fôd yn vffern yn newynu, Eifie nabod Duw ei cymmorth, A rhoi diolch am eu hymborth?
O na fydded vn rhyw Gristion, Yn gyffelyb ir fâth ddynion; Ac o byddant yn ddigwnsel* 1.1335 Maent hwy'n waeth nag vn anifel.

Cynghor i gyfrannu ar Anghenus, yn ol ein gallu.

GWae 'r goludog di-dosturi, † 1.1336Stoppo ei glûst rhag gwrando tlodi; Fe gaiff hwnnw ddyfal grio, Yn y * 1.1337 pwll heb neb i wrando.
Pan bo'i wraig a'i blant a'i † 1.1338 drasse, Yn chwdu 'r gwîn yn hai Tafarne, Ynte fydd mewn carchar caled, Heb y dwr i dorri ei syched.
* 1.1339Iaco ddyweid nad oes crefydd, Na christnogaeth yn y cybydd, Na ddiwallo 'r gwragedd-gweddwon, Yn eu hadfyd, a'r rhai tlodion.

Page 219

Ifan anwyl ynte ddywede,* 1.1340 O gwel carl ei frawd mewn eisie, Ac heb roddi dim i * 1.1341 swccro, Nid yw cariad Duw ddim ynddo.
Christ y ddywaid yr â'r camel,* 1.1342 Trwy grau 'r nodwydd yn ddi-drafel, Cyn yr êl y Carl goludog, Ir nef, or bydd anrhugarog.
Christ an dodwys yn stiwardiaid* 1.1343 I gyfrannu rhwng y gweiniaid, Y da ddodwys dan ein dwylo, Rhannwn rhyngthynt rhag ei ddigio,
Or bydd marw ûn rhag newyn, Bydd gwaed hwnnw ar ein cobyn: Ni all cyfoeth mawr yr holl-fyd, Wneuthur iawn am dan ei fywyd.
Rho dy gardod yn ddi attal, Os bydd llawer, doro 'n amal: Os bydd 'chydig, doro ronyn, Ond rho 'n llawen heb ei wrafyn.
Doro 'n siriol dy elusen, Hôff gan Dduw bôb rhoddwr llawen: Doro roddech yn gariadus,* 1.1344 Ni fyn Christ un rhôdd wrthnebus,
Er na roech ir tlawd ond cyfran, Er mwyn Christ o'i dda ei hunan, Mae ê 'n addo gwabar ffrwythlon,* 1.1345 Am gyfrannu hynny i'r tlodion.
Na ddihiria hyd y foru,* 1.1346 Roi 'r peth allech roddi heddu: Rho yn rhwydd, a rho yn hawddgar, Di-flas y fydd rhôdd ddiweddar,

Page 220

Rhown medd Paul tra genym * 1.1347 Bwer, * 1.1348Gwnawn ddaioni tra cawn amser; F'all y * 1.1349 Monarch mwya heddu, Fod yn † 1.1350 begian dŵr y foru.
Roedd gan Difes wrth giniawa, Lawer saig o'r bwyd † 1.1351 dainteithia, Nid oedd gantho ar ei swpper, O'r dŵr oer mewn fflam a phoethder.
Wrth frecwasta ar ddainteithion, Ni chae Lazar gantho o'r briwsion, Wrth swpperu ni chae ynte, Ddafan dŵr er maint y grie.
Fe roi 'nawr y bŷd am lymmed, O ddŵr oer i dorri ei syched, Pes rhoe 'r nêf ar ddaer am * 1.1352 ddroppyn, O'r dwr oer, nis cae er † 1.1353 canlyn.
Nid oes gantho o'i holl olud, O'r dwr oer yn uffern danllyd; Ni bydd gan y llawna ei Giste, Foru o bossib fwy nag ynte.
F'aeth mor noeth, mor llwm oddi ymma, Ac y daeth ir bŷd o'r cynta: Pe cae ê'r nêf am hanner floring. Nid oes gantho 'i phrynu or ffyrlling.
Heddyw gall y gwŷr goludog, Rannu llawer ir newynog, F'alle foru trwy ryw ddamwain, Na bydd ganthynt ddim eu hunain.
Rhown gan hynny tra 'peth genym, Ir dyn tlawd i dorri newyn; Foru o bossib ni bydd dimme, I gyfrannu ir mwya ei eisie.

Page 221

Torr dy fara ir newynllyd,* 1.1354 Fe fendithia Duw dy olud; Ni bydd llai dy gîg i'th grochon, Er y roddech ir rhai tlodion.
Ni bu'r weddw o Sarepta,* 1.1355 Dlottach er y gas Elia; Ni bu llai ei * 1.1356 hoêl na'i thoesyn, Er rhoi teisen iddo o ronyn.
Gwelais lawer o'r gwyr Mawrion,* 1.1357 Yn cyrwydro am dreisio 'r tlodion: Ond ni welais gwedi 'm geni, Ddyn ar fêh am helpu 'r tlodi.
Coegedd, † 1.1358 Syrthni, trawsedd, * 1.1359 traha, Helodd lawer i gardotta: Ond ni helodd rhoddi Cardod, Ddyn erioed i fynd ar anffod.
Gwyn ei fŷd medd Brenin Dafydd, Y dŷn a dynno 'r tlawd o'i gystydd: Duw ei hûn mewn amser adfyd, Ai tynn ynte maes o'i ofyd.
Duw a'i gwared o'i drallodion,* 1.1360 Duw a'i ceidw rhag gelynion, Duw ei hûn a gweiria ei welŷ, Pan bo clâf heb allel cyscy.
Rhowch ir tlawd eu rhaid yn echwyn,* 1.1361 Christ ei hûn â 'n feichie drostyn; Ac y dal i chwi drachefen, Maint y roddoch wrth eu hangen.
Pwy ond Iddew brwnt * 1.1362 ni fentre? Roi yn echwyn ir fath feichie, Rhwn sy'n talu ar ei ganfed,* 1.1363 I ddyled wyr eu holl ddyled.

Page 222

Rychi 'n † 1.1364 trysto gwaeth meicheon, Na mâb Duw am * 1.1365 Swmpau mawrion: Trystwch Grist am grâch dippynne, Geisio 'r tlawd, ma' ê 'n abal Meichie.
Mae ê 'n talu ar ei ganfed, I bob Christion ei holl ddyled: Dwl yw 'r cybydd ni all hepcor, Dim ir tlawd am gymmaint occor.
Nid oes occor wi'n ei nabod, Fwy ei * 1.1366 fael nag occor cardod, Mae 'n dwad adref ar ei chanfed, Pan bo rheita cael ei gweled.
Nid oes tryssor ar y ddaeren, Well nâ chardod ac elusen: † 1.1367Hi fydd gwell yn nydd dy ddrallod, Nag Aur coeth ac Arian parod.
Fe dreulia 'r Aur, fe ryda 'r Arian, Fe fwytti 'r pryfed lawnd a Sidan, Fe lwyda 'r bwyd, fe Sura 'f ddiod, Nid oes dim all gwaethu Cardod.
Pan llosco 'r bŷd yn wen-fflam olau, A'r Tai, a'r tîr a'r holl dryssorau, Fe fydd Cardod uwch-law'r † 1.1368 Boban, Ym Haradwys yn dy * 1.1369 waitan.
Pan dêl Angeu glâs i'th geisio, Fynd ir Barr, yn noeth i † 1.1370 ympyro, Goreu stôr medd Christ yw Cardod, Ddydd y farn o flaen y Drindod.
Pan bo 'r Tai a'r tîr a'r trasseu, Gwedi 'th ado dan law 'r Angeu, Fe fydd Cardod yn dy ddilyn,* 1.1371 Nes dy ddwyn i Lŷs y Brenin.

Page 223

Mwy o ennill sydd yn dyfod, Ir dyn sydd yn rhoddi Cardod, Nag ir tlawyd sydd yn ei derbyn, Mae 'n cael llawer am y gronyn.
Fe gaiff Manna am y briwsion, † 1.1372Aqua-Vitae am ddwr afon, Gwisc ddiscleir wen am hên Gadach, Ar law Christ, a'i wîr gyfeillach.
Gwna gan-hynny ffrins o'r golud,* 1.1373 Ac o'r Mammon ôll sydd genyd, Fel ith dynner ar ddydd tywyll, Attynt i'r tragwyddol Bebyll.
Storia lle bydd dy breswylfod, Gwerth sydd gennit, doro gardod: Na wanffyddia fel dyn llanas, Werthu tyddyn i gael Teyrnas.
Gyrr o'th flaen yn Nwrnau 'r tlodion Dryssor, lle na speilia 'r Lladron; Edrych beth a roddech iddyn, O law Christ y cei ei dderbyn.
A roech i'th wraig, a'th blant a'th drase, Dy wraig a'th blant a'th ffrins a'u pie: Y roech i Grist, a'r tlawd, a'r truan, † 1.1374Storio 'r wyt i ti dy hunan.
Tryssora o'th flaen ir nefol Bebyll, Dôd olew i'th Lamp, mae 'r ffordd yn dywyll, Gwna bwrs di-draul o'r Da na dderfydd, Mae Christ ei hun yn rhoi it rybydd.
Haua 'n amal tra cech amser,* 1.1375 Fel y rhoddo Duw, it bwer; Ar ei ganfed di gei fedi,* 1.1376 Yn ei bryd, oni ddeffygij.

Page 224

Torr dy fara ir newynog, A dillhatta 'r noeth anwydog, * 1.1377I'r cyrwydrad doro letty, Duw ei hun sy'n erchi hynny.
* 1.1378Bydd yn llygaid ir rhai deillion, Traed ir cloff, a nerth ir Gweinion, Rhyscwy 'r weddw, câr dieithraid, Mam a Thâd ir plant ymddifaid.

Cynghor i bob Penteulu i lywodraethu ei dŷ yn dduwiol.

OS mynni fôd yn ddyn i Dduw, Yn Griston sanctaidd tra fech byw, Gwna dy dŷ yn Eglwys fychan, A'th deulu 'n dylwyth Duw ei hunan.
Gwna dy dŷ yn Demel * 1.1379 gysson, Gwna dy dylwyh fel Argelion, Yn eu graddau o bob galwad, I wasnaethu Duw yn ddisrad.
Gwna dy dŷ yn Demel sanctaidd, I addoli Duw yn weddaidd, Gan bob enaid a fo yndo. Fore a hwyr yn ddi-ddeffgio.
Dewis † 1.1380 fain o bobol rassol, Gwedi * 1.1381 scwario i gŷd wrth reol, Yn byw 'n sanctaidd ac yn gymmwys, I adeilio dy lân Eglwys.
Nâd vn maên anghymmwys ynddi, Nac vn drwg-ddyn ddwad iddi: Nid rhai aflan, ond rhai cymmwys, Y fyn Duw yn fain i Eglwys.

Page 225

Tro 'r main aflan ôll oddiwrthyd, Ni fyn Duw 'r fath feini sarnllyd: Tŷ i Grist, nid tŷ i Gythrel, Y fydd d' Eglwys di a'th Demel.
* 1.1382Ffittach ydyw pobol aflan, Fôd yn sâin i gorlan Satan: Ac yn danwydd vffern drist, Nag yn fain i Eglwys Grist.
Main anghymmwys, main afluniaidd, Sy'n anffyrfio Temel * 1.1383 gruaidd: Dŷn anneddfol, dŷn anesmwyth, A bair anglod ith holl dylwyth.
Na ddôd glogfain câs anghymmwys, Heb ei * 1.1384 scwario yn dy Eglwys: Ac na dderbyn ith dŷ deddfol, Rai digrefydd at rai grassol.
Ni wna meini câs anghymmwys, Ond diwreiddio † 1.1385 gwelydd d' Eglwys; Na'r rhai aflan, drwg, di-grefydd, Ond troi 'th Dŷ ai dor i fynydd.
Gyrr yr aflan ffwrdd o'th Deulu, Cyn y ceisiech Grist ith llettu: * 1.1386Ni ddaw Christ ir lle ammherffaith, Nes troi'n gynta 'r aflan ymmaith.
Byth ni chytfydd mewn vn Demel, Wir blant Duw a phlant y cythrel, Mwy na'r wenin bach a'r mwg, Mor yspryd glân a'r yspryd drwg.
Ni thrig Brenin lle bo môch, Brwnt ei buchedd, câs ei rhôch: Ni thrig Christ a'i yspryd gwiwlan, Yn yr vn tŷ â'r rhai aflan.

Page 226

Or bydd ith dŷ rai digrefydd, Meddwon, marllyd, ac anvfydd, Tro hwy maes, fel Dafad Glafrllyd, Rhag Clafrio 'r faint sydd gennyd.
* 1.1387Fel y bwrodd Abram Ismael, Ffwrdd o'i dŷ, am chwhareu 'r * 1.1388Rebel: Felly bwrw ditheu 'r aflan, Ffwrdd o fysc dy Dylwyth allan.
* 1.1389Ni adawe Dafydd frenin, Wâs annuwiol yn ei gegin: Na âd dithe ddrwg weithredwr, Yn dy blâs nac yn dy barlwr.
Vn gwâs aflan a bair anair, I lawerodd o rai * 1.1390 diwair: Nâd gan hynny 'r aflan orphwys, Yn dy dŷ nac yn dy Eglwys.
Myn rai duwiol ith wasnaethu, Os dedwyddwch a chwhenychu: Duw fendithia waith y duwiol, Pan ddel aflwydd ir anneddfol.
Gwâs fel Joseph Duwiol geirwir, Y dynn bendith ar dŷ feistir: * 1.1391Ond y drwg-ddyn megis Achan, All * 1.1392 andwyo 'r Tŷ ar Gorlan.
Or bydd gwâs crefyddol gennyd, Duw fendithia dy hôll olud; Fel y gwnaeth ef er mwyn * 1.1393 Jago, I holl olud Laban lwyddo.
Gwell gwâs duwiol, † 1.1394 llariaidd, llonydd, A dynn lwyddiant ar dy faesydd, Nâ'r digrefydd goreu gaffech, A dynn aflwydd ar y feddech.

Page 227

Gwell y llwydda gorchwyl gwâs, Diddrwg, llariaidd, llawn o râs, Nag y llwydda gwaith anneddfol, Gwâs digrefydd, grymmus, graddol.
F' all gwasnaethwr doeth, crefyddol, Droi ei feistir fôd yn ddeddfol,* 1.1395 Fal y dichon gwraig y * 1.1396 Pagan, Droi ei gwr yn Gristion gwiwlan.
Oni cheisii bobol ddeddfol, Ith wasnaethu yn grefyddol, Byth ni bydd dy dŷ yn Demel, Ond yn wâl a * 1.1397 glŵth ir Cythrel.
Nid wyd nes er gweision Cryfion, I gyflawni dy orchwylion, Oni byddant hefyd (Clyw) Grŷf i gwpla gorchwyl Duw.
Na fynn vn ith Dŷ a'th Drigfa, Nes bô o Deulu 'r ffydd yn gynta; Nac vn gwâs tra fyddech byw, Nes bo 'n gynta 'n wâs i Dduw.
Ni fynn Eglwys Dduw it dderbyn, Twrc na Phagan itti 'r Cymmum: Na fyn dithe yn dy Deulu, Rai digrefydd ith wasnaethu.
Ni bydd gwâs digrefydd cywir, Nac ir Arglwydd Dduw na'i feistir: Cans arferol ir fâth ddrwg-was, Werthu feistir megis Suddas.
Cais gan hynny bobol sanctaidd, Pobol dduwiol, pobol weddaidd, Ith wasnaethu tra fech byw, Or gwnei dy Dŷ, yn Eglwys Dduw.

Page 228

Bydd dy hunan yn oleuni, Ac yn † 1.1398 batrwn o ddaioni, Ith holl bobol mewn sancte ddrwydd, Glendid buchedd, ac onestrwydd.
A rho Siampl dda i dilyn, Yn y neuadd, yn y gegin, Mewn gair gweithred, ac ymddygiad, I bôb rhai fo 'n disgwyl arnad.
Rhodia gydâ Duw fel Enoc, Bydd bôb amser yn * 1.1399 wagelog: Cofia fôd Duw â saith llygad, Ym-mhob mann yn disgwyl arnad.
Gwachel ddywedyd dim nai wneuthur, Ond y fytho tra * 1.1400 chymmessur, O flaen Duw a chroes y farchnad, A phâr gofio hyn yn wastad.
Bydd mor sobr, bydd mor sanctaidd, Bydd mor gynnil, bydd mor weddaidd, Bydd mor † 1.1401 ddeddfol, bydd mor gymmwys, Yn dyac yn dy Eglwys.
Y mai dlyed ar Benteulu, Ddysgu dylwyth wir grefyddu, Nabod Duw, a chadw ei ddeddfau, Credu yn Ghrist, ai 'ddoli yn ddiau,
* 1.1402Fel y dyscei Abram ebrwydd, Bawb oi dŷ, i ofni 'r Arglwydd, Felly dysc dy blant ath Deulu, I nabod Duw, a'i wir wasnaethu.
* 1.1403Dysc dy blant, a dysc dy bobol, I wir nabod ei Tâd nefol, A'r Jachawdur a ddanfonwys, Dyma 'r ffordd ir nef yn gymmwys.

Page 129

Planna gyfraith Dduw 'n wastadol, Yng halonnau pawb o'th bobol, Sonia am danynt hwyr a bore, Y mewn, y maes, wrth rodio ac eiste.
Duw sy 'n erchi 'r Tadau ddangos, Deddfau 'r Arglwydd iw hôll blantos,* 1.1404 Ai rhoi 'n laesau ar ei dillad, Er mwyn Cofio gair Duw 'n wastad.
Darllain Bennod or scrythurau, Ith holl dylwyth nôs a borau, Pâr i bawb * 1.1405 repeto allont, A byw 'n ôl y wers y ddyscont.
Bydd Reolwr,, bydd Offeiriad, Bydd gynghorwr, bydd yn * 1.1406 ynad, Ar dy dŷ, ac ar dy bobol, I reoli pawb wrth reol.
Bydd Offeiriad iw cyf••••••ddo, Bydd gynghorwr iw rhybyddio, Ac i draethu 'r fengyl iddynt, Ac i brûdd weddio drostynt.
Bydd Reolwr i * 1.1407 gompelo, Ac i gosbi 'r rhai droseddo, Ac i beri pawb oth bobol, Fyw 'n gristnogaidd ac yn † 1.1408 foesol.
Bydd di Farnwr i gyfrannu, Vnion farn, rhwng pawb oth deulu, I roi tâl ir da a'r duwiol, A dialau ir anneddfol.
Gwna di gyfraith gyfiawn gymmwys, I reoli 'th Dŷ a'th Eglwys: Pâr ith bobol yn ddiragraith, Fyw yn gymmwys wrth y gyfraith.

Page 230

Dysc i bawb yn gynta ei dyled, Dangos b'wedd y dylent fyned: Gwedi dyscu 'r gyfraith groyw, Pâr ir wialen beri ei chadw.
Bydd â'th law, a bydd â'th lygad, Yn llwyr ddisgwyl ar en ymddygiad: Nâd i neb, ar air na gweithred, Droi ar draws heb gerydd caled.
Pâr i bawb o'th Dŷ ddiscleirio, Megis Seren yn goleuo, Yn rhoi llewyrch, dysc, ac vrddas* 1.1409, I bob rhai fo 'n trigo o gwmpas.
Pâr ith Dylwyth di ragori, Mewn duwioldeb a daioni, Fel oedd Tylwyth Nôe dduwiola, Yn rhagori 'r holl sŷd cynta.
Pâr ith wraig fôd m••••is Seren, Siriol, sanctaidd, lonydd, lawen, Yn Esampl o Sancteiddrwydd, Mewn gair, gweithred, ac onestrwydd.
* 1.1410Pâr ith hôll blant fôd yn foesol, Yn gristnogaidd ac yn rassol, Yn ymostwng i rhieni, Fel plant Rechab yn y stori.
Pâr ith Dylwyth fôd yn ffyddlon, * 1.1411Megis Tylwyth Tŷ Philemon, Rhwn y wnaeth ei Dŷ yn Eglwys, Gan mor sanctaidd ei rheolwys.
Pâr ith bobol fyw mor gymmwys, Yn dy Dŷ, ac yn dy Eglwys, Ac mor sanctaidd ymmhob Cornel, A pha bacnt ynghorph y Demel.

Page 231

Nâd hwy ddangos gwaeth cynheddfe, Nâd hwy wneuthur frwntach gaste, Yn y Tŷ nag yn yr Eglwys, Ond pâr iddynt syw yn gymmwys.
Nâd hwy dorri vn gorchymmyn, Or rhai lleia heb ei gwrafyn, Nâd hwy ddilyn vn drwg arfer, Heb eu Cyffro wella ar fyrder.
Nad i fawr na bychan dyngu,* 1.1412 Enw 'r Arglwydd mawr na'i gablu, Na dibrissio gwaed y Cymmod, Heb roi dial am ei bechod.
Nâd hwy dreulio 'r Sabboth sanctaidd, Mewn oferedd anghristnogaidd, Nac mewn * 1.1413 gloddest a phibiaeth, Heb roi vnion gosbedigaeth.
Nâd vn wrando 'r gair yn ofer, Heb ei ddilyn gwedi clywer, Ai ail gnoi a sôn am dano, A byw 'n ôl y wers y ddysgo.
Nád vn fynd y nôs i gysgu, Nes penlinio wrth ei wely, Ac addoli Duw yn gynta, Cyn y rhoddo i gorph esmwythdra.
Nâd vn fynd y boreu allan, At vn gorchwyl mawr na bychan, Nes addoli Duw'n ei stafell, Ar ei ddaulin heb ei gymmell.
Nâd vn daro ei law ar Arad, Nac ar orchwyl o vn galwad, Nes y Cotto ei law yn gynta, Am gael Cymmorth Duw Gorucha.

Page 232

Nâd vn fyned i shiwrneia, Nac i forio nac i ffeira, Nes ymbilio 'n daer a'r Arglwydd, I ddwyn adre, yn ddi-dramcwydd.
Nâd vn arfer megis mochyn, Fwytta ei fwyd a llanw ei growyn, Nes bendithio 'r bwyd yn gynta, A chydnabod Duw gorucha.
Nâd vn godi megis nifel, Gwedi llanw ei fola a'i fottel, Heb rhoi diolch prûdd a moliant, Ir Tad nefol am ei borthiant.
Nâd fôd vn o'th Deulu 'n eisie, Ar wasanaeth, nôs na bore: Wrth wasnaethu Duw bydd * 1.1414 garccus, Nas gwasnaetho neb ê'n 'sceulus.
Nad hwy arfer geirie lloerig, Nac ymadrodd brwnt, llygredig, Senn, na rheg, na llw, nac enllib, Efrwmp, na ffrost, na dim cyffelyb.
Dysc dy blant, a rhwym dy bobol, I arferu geiriau grassol, Geiriau baro maeth a chyssur, Gras ac vrddas ir gwrandawyr.
Nad hwy arfer caste bryntion, Nad hwy watwar pobol wirion, Nad hwy gablu 'rhai anafus, Na bychanu 'r tlawd gofydus.
Nad hwy * 1.1415 chwiffo yn y Seler, Nad hwy feddwi ar vn amser, Nad hwy † 1.1416 sugno mwg y ddalen, Sydd yn speilio 'r bol' ar Gefen.

Page 233

Nad hwy hoffi * 1.1417 ffashwn anllad, Ar ei gwallt nac ar ei dillad: Pâr i bôb vn fynd yn weddaidd, Fynd yn gryno ac yn gruaidd.
Ar y Sabboth nad hwy ir Pebill, Lle mae 'r deillion yn ymgynnill, Nac i dramwy ir Tafarne, Lle mae 'r Diawl yn cadw ei wilie.
Dôs ith † 1.1418 Eglwys blwyf y Sulie, A'th holl Dylwyth wrth dy Sodle, I Addoli Duw 'n gyhoeddus, Gyda 'r dyrfa yn ddi-sceulus.
Nad ith dylwyth drigo gartre, Amser gosber ar y Sulie, Nad hwy † 1.1419 loetran ar y Sabboth, Sawl y cwhario, ‖ 1.1420 cwharien drannoeth.
Na ddôd ormodd waith anesmwyth, Ddyddie 'r wythnos ar dy dylwyth: * 1.1421Llwa ambell awr yn llawen, Ir deffygiol godi gefen.
Ar y Sabboth nad hwy 'n segur, Par i bob vn chwilio 'r scrythur, Ac i weithio gwaith Duw 'n escyd, O flaen vn gwaith a fo gennyd.
Dysc dy dylwyth ar y Sulie, Bôb yr vn i ganu Psalme, Ac * 1.1422 ymbwngcio 'n † 1.1423 llon a'i gilydd, Am air Duw a phwngciau crefydd.
Arbôb Cinio, ar bôb Swpper, Par i ryw vn ddarllain * 1.1424 Chapter, I roi ymborth i bob Enaid, Pan bo 'r Corph yn Cael ei gyfraid.

Page 234

Nâd dy Dŷ, na hwyr na borau, Heb wasanaeth a gweddiau: Gwell ith dylwyth fôd heb swpper, Tra fônt byw nâ bôd heb osper.
Nâd ith Eglwys fôd vn amser, Heb wasanaeth pryd a gosper, Nac heb * 1.1425 Aberth hwyr a borau, Ir Tad nefol am ei ddoniau.
Nâd vn Cornel a fo ynddi, Heb ei ddysgib o bôb brynti, A'r ddiscybell o ddifeirwch, Nes cael ffafar Duw a'i heddwch.
Golch ei llawr â hallton ddagrau, Trwssia ei * 1.1426 gwelydd â rhinweddau: Nad ei hallor heb dân arni, Ac arogle mawl a gweddi.
Cais dy hunan chwareu 'r ffeiriad, Galw ar Enw Duw yn wastad: Pâr ith bobol gydfyfyrio, Gyda thi trech yn gweddio.
Pôb penteulu Carccus, cymmwys, Ddlye fôd fel gwr o'r Eglwys, Yn Cynghori, yn rhybyddio Pawb o'i dŷ, yn orau ac allo.
A'r fath drefen sy 'n yr Eglwys, Yn rheoli pawb yn gymmwys, Ddlye fôd yn nhŷ pôb Christion. I reoli 'r Tŷ a'r dynion.
Gossod vn neu ddau o'th deulu, Fel wardeniaid ith gyd-helpu, Gadw 'th bobol ôll wrth drefen, Ai rheoli yn dy absen.

Page 235

Rhaid yw disgwyl ar arferion, Ac ymddygiad pawb o'th ddynion, Ac ar lwybrau rhai sy'n pechu, Fel y gallech eu ceryddu.
Nâd vn drwg-ddyn heb ei gosbi, Yn ol messur ei ddrygioni, Rhag i arall bechu fwy fwy, Am it ffafro 'r anghymradwy.
Dyro rybydd ir Trosseddwr, Dair gwaith, pedair, wella ei gyflwr, Cyn ei daflu ffwrdd o'r gorlan, Onî wella trô fe allan.
O bydd meddwon na bydd sobor, Or bydd * 1.1427 drel na dderbyn gyngor, Vn digred na charo grefydd, Tro hwy maes yn ol cael rhybydd.
Or bydd morwyn yn scoldies, Ac heb berchi Sara ei meistres, Bwrw Hagar o'r drws allan, Gâd ir feistres gael ei hamean.* 1.1428
Nâd ith ddynion fôd yn segur, Rho ryw * 1.1429 dasc i bawb i wneuthur: Maeth diffrwythder, mammaeth gwradwydd, Yw cyd-ddwyn â † 1.1430 segurlydrwydd,
Myn weld pawb o'th blant ath deulu, Yn mynd mewn pryd, bob nôs i gysgu: Arfer ddrwg yw gadel gweision, Fynd i gysgu pan y mynnon.
Pân boi 'n amser mynd i gysgu, Cais gan Ghrist fendithio 'th deulu, A bod arnynt oll yn geidwad, Gwedyn cymmer di dy gennad.

Page 236

A rho rybydd ith holl bobol, Alw ar Dduw yn * 1.1431 ddefosionol, Fawr a bach, ar ben ei gliniau, Cyn yr elont iw gwelyau.
Ac rhag ofon i Dduw gyrchu, Rhai o'u Cwsc i fynd i barnu, Pâr i bôb vn lwyr ymgweirio, Fynd o flaen Duw cyn y cysgo.
Os yn llynn y llywodraethu, Dy holl dylwyth a'th holl lettu, Duw fendithia 'th dŷ a'th dylwyth, Ac ych gwna chwi oll yn esmwyth,
* 1.1432Christ a Bresswyl yn dy demel, Christ a'th wrendy yn dy drafel, * 1.1433Christ a'th dderbyn o'th lan Eglwys, Ar dy ddiwedd i Baradwys.

Dyled-swydd plant iw rhieni.

OS plentyn wyt, rho wir anrhydedd, Ith dad, ith fam, trwy barch a mawredd; * 1.1434Duw sy 'n erchi eu hanrhydeddu, Os gras a hir-oês a chwennychu.
Gwna 'r peth archo dy rieni, Praw ymmhob peth eu bodloni; Trwy na cheisiont gennyd bechu, Gwna bob peth y font yn fynnu.
Derbyn gyngor, derbyn gerydd, * 1.1435Derbyn gosb dy dad yn vfydd, Derbyn ddysc pan fo'n dy * 1.1436 shiacco, Derbyn bob athrawiaeth gantho.

Page 237

Os dwl, os dall, os poeth, os lloerig,* 1.1437 Os anioddefgar a dottiedig, Y fydd dy dad, a'th fam mewn henaint, † 1.1438Godde ei gwendid trwy ddioddefaint.
O bydd dy dad a'th fam mewn tlodi, A chennyd tithe fodd iw peri, Maetha 'n dirion y ddau henddyn, Fel y maethsont dithe 'n blentyn.
Dilyn siampl y † 1.1439 Ciconia, Sy 'n porthi ei dad, pan fo ef gwanna, Yn cweirio ei nŷth, yn ei adeino Yn hên yn wann, heb allu cyffro.
Dilyn arfer y * 1.1440 Dolphiniaid, Sy 'n porthi ei Tad a'i mam yn weinaid, Gan eu cadw pan font gwanna, Rhag ir Pyscod mawr eu difa.
Gwradwydd mawr i feibion dynion, Fod yn waeth na'r Adar gwylltion, Gwaeth na'r Pyscod mewn caledi, Wrth y rhai rows bywyd inni.
Od wyt ŵr mawr o alwad vehel, Ath dad yn dlawd, a'i râdd yn issel, Rho barch ith dad, er cuwch o'th alwad, Anrhydedda 'th fam yn wastad.
Er bod Joseph yn rheoli* 1.1441 Gwlad yr Aipht, a'i dad mewn tlodi, Fe wnae Joseph fawr anrhydedd, Idd i dad er maint o'i waeledd.
Er bod Solomon yn frenin, Ar ei orsedd yn gyffredin,* 1.1442 Fe ddiscynne oddiar ei orsedd, I berchi fam â mawr anrhydedd.

Page 238

Er bod Christ yn Dduw, yn ddŷn, * 1.1443Yn uwch nâ neb, yn well nag vn, Fe barche ei fam, fe barche ei dadmaeth, Fe fydde vfydd iw hathrawiaeth.
Byd faet ti Duwc, nid llai dy ddlyed, I berchi 'th Dâd a'th fam er tlotted, Ni ry 'chelfraint rydd-did itti, * 1.1444Leusy 'th ddlyed ith rieni.
Mae 'th Dâd yn Dâd, pyt fae ef cobler, A thitheu 'n fâb, pyt faet ti Scwier: Tra fech di 'n fâb, mae Duw 'n dy rwymo, Roi parch ith Dâd, pwy bynna fytho.
Pan oeddyd wann heb fedru cwnnu, Heb fwyd i gnoi, heb laeth i Lyngcu, Heb glwtt ith gylch, dy fam a'th helpodd; Pa dâl y roi ir hon ath fagodd?
Yn hîr hi'th ddygodd dan ei gwregis, Ai gwaed hi'th borthodd yno nawmis, Ai llaeth hi'th olchodd o'th holl frynti, Pa dâl pwyth y wnai di iddi?
Yn glâf hi geisiodd dy ddiddanu, Lawer nôs, gan golli ei chyscu, Gan dy lwlan rhwng ei breiche, Pan baet ti ar dorri 'n rhenge.
Rhô anrhydedd prûdd gan hynny, Ith rieni am dy fagu: Nâd wâll arnynt hyd dy farw, Tro gwerth ceiniog yn dy helw.
Y parch, a'r bri, a'r bwyd, a'r trwssiad, A roech ith dâd yn henwr ingnad† 1.1445, Y ry dy fâb i'titheu 'n henddyn, Wrth vnion farn, cyn dêl dy derfyn.

Page 239

Y garthen rawn y fu ar wely, Dy dâd wrth orwedd yn y beudy, Y geidw'th fâb i tithe orwedd, Ar y daflod cyn dy ddiwedd.
Y messur cwtta 'rhwn y roddech,* 1.1446 A roddir itti pan heneiddiech: Yr ŵyr y ddial medd y wlâd, Y messur bach y roech ith dâd.
Bydd gan hynny hael a serchog, Rhwydd, a thirion, a thrugarog, Wrth dy dâd ath fam mewn henaint, Fel y caffech ditheu 'r cymmaint.
Na ddôs fel Esau i Briodi,* 1.1447 Heb gael cennad dy rieni: Odid i Dduw 'rioed fendithio, 'R fath briodas wyllt, na'i llwyddo.
Os anweddus yw'th Rieni, Nid oes itti o'u amherchi, Na'i bychanu hyd eu diwedd, Ond gweddio am wella ei buchedd.
Cham am watwar Noah ei dâd,* 1.1448 Drwm felldithiwyd yn ei hâd; Ar felldith hon, s'eb fyned etto, O grwyn y * 1.1449 Mŵrs y ddaeth o hano.
Absolom dêg y fu anvsydd, A thraws iw dâd, hen frenin Dafydd, Duw a'i crogodd wrth ei * 1.1450 locsen, Am ei drawsedd wrth frig derwen.
Parcha 'th dâd ath fam gan hynny, Helpa 'r ddau pan fônt yn ffaely: Felly hestyn Duw dy ddyddie, Yn y tir lle bo dy dreigle,

Page 240

Pa bethau a ddlye ddyn fyfyrio arnynt ar y Sabboth wrth fyned ir Eglwys, a pha fôdd y mae iddo ymddwyn ei hun yno.

CYn dy fynd ir llann, wrth gerdded, Meddwl i ble rwyt ri 'n myned? O flaen pwy? ac iba bwrpas? A dôs gwedyn iddi 'n addas.
Rwyti ti 'n mynd i † 1.1451 Dŷ 'r Gorucha, O flaen Duw yr Emprwr mwya, I chwedleua ar dy ddau-lin, A'th Greawdwr ac a'th Frenin.
Rwyt ti 'n mynd i lys Jehofa, I gael clywed Duw Gorucha, Yn ymddiddan a thi 'n hyfryd, Dêg a thêg o air y bywyd.
Rwyt ti 'n mynd yn brûdd i adde, O flaen Duw dy holl gamwedde, Ac i ddeisyf ei drugaredd, Gras a grym i wella 'th fuchedd.
Rwyt ti 'n mynd i geisio * 1.1452 pardwn, Nawdd, a gras, ac † 1.1453 absolusion, Gan dy Ghrist, trwy enau'r ffeiriad, Am dy bechod a'th gam'ddygiad,
Rwyt ti 'n mynd i lwyr weddio, Ar yr Arglwydd mawr sy'n addo, Rhoi ini bob peth sydd anghenrhaid, At y corph ac at yr enaid.* 1.1454
Rwyt ti 'n myned i fendithio Duw am bob dawn y geist gantho, Ac i roddi ir gorucha, Glod a moliant gyda 'r dyrfa,* 1.1455

Page 241

Rwyt ti 'n mynd i wrando 'n hyfryd Fengyl Ghrist, a gair y bywyd, Gwllys Duw, a'i gyfraith sanctaidd, Ith gyfrwyddo fyw'n gristnogaidd.
Rwyt ti'n mynd i geisio cyfran,* 1.1456 O hael fendith Duw ei hunan, Ith rwyddhau y ffordd y cerddech, Ac i lwyddo 'r hyn a wnelech.
Dôs gan hynny trwy lawenydd,* 1.1457 I dŷ Dduw â dirfawr awydd,* 1.1458 A hiraetha am fynd yno, Fel yr hŷdd am ddyfroedd Silo.
Dôs yn llawen, dôs yn siriol, Dôs yn eon, dôs yn foesol, Dôs yn fuan, dos yn fore, Dôs i dŷ Dduw ar dy linie.
Dôs ir eglwys gydâ 'r cynta, Aros yndi gydâ 'r ola: Tra fech yno, na sydd segur, Gweithia waith dy Dduw yn brysur.
Na fydd segur yn nhŷ Dduw,* 1.1459 Gweithia ei waith yn brudd trech byw: Melldigedig yw'r dyn gwallys,* 1.1460 A wnel gwaith ei Dduw yn sceulus.
Cwymp yn issel ar dy ddau-lin, Llef yn eiriol ar dy Frenin,* 1.1461 Prûdd weddia a'th holl galon, Na ragrithia or dwyd gristion.
Gwrando 'r gair yn dra awyddus, Derbyn hwn ir galon garccus:* 1.1462 Nâd ir brain a'r fall i scliffied, Nes ei ffrwytho ar ei ganfed.

Page 242

Gwachel edrych hwnt ac ymma, Gwachel gyscu na chwedleua: Ond gwna naill ai prudd weddio, Gwrando 'r gair, a mynd oddiyno.
Ni all Duw yr union Farnwr, Aros edrych ar ragrithiwr, Y fo 'n cymryd arno 'ddoli, Ac heb wneuthur hyn o ddifri.
Pan gweddio 'r gŵr eglwysig, † 1.1463Cyd-weddia ag ê'n * 1.1464 ystig, Air yng air o'r dechre ir diwedd, Mewn cyfundeb a chynghanedd.
Pan pregethir yr efengyl, * 1.1465Gwachel droi at hon dy wegyl: Gallu Duw yw 'r fengyl helaeth, Sydd yn gweithio 'n iechydwriaeth.
* 1.1466Craffa 'n fanol ar y ffeiriad, Tro 'n pregethu a'th ddau lygad; Cadw ei eiriau yn dy galon, A chais ddilyn ei gynghorion.
* 1.1467Cymmer bob gair ag y ddywetto, Megis Cyngor i'th rybyddio, O bûr † 1.1468 enau Christ ei hunan, I fyw 'n weddaidd yn ei ofan.
Na ddôs adref heb ystyriaeth, Nes cael diwedd y gwsanaeth: Ac na chytcam dan boen melldith, Fynd y maes nes cael y fendith.
Bid d'ymddygiad yn yr Eglwys, Yn gristnogaidd ac yn gymmwys, Megis yng wydd Duw ei hunan, A'i Angelion fawr a bychan.

Page 243

Cynghor i ymbaratoi cyn dyfod i addoli 'n gyhoeddus.

TYnn dy 'scidiau, golch dy ddillad, Ymsancteiddia, cyn dy ddwad, I dŷ 'r Arglwydd i addoli, O flaen gorsedd tâd goleuni.
Cyffro d' yspryd, cwyn dy galon, Dring ir mynydd uwch daerolion, Gwêl yr hwn sydd anweledig, Cyn ynganech wrtho orig.
Cyn y delech o flaen Duw, Meddwl byth mai Brenin yw: Ac na ddere at dy frenin, Nes y delech ar dy ddau-lin.
Brenin nefoedd, Tâd Angelion, Creuwr Daiar, Barnwr dynion, Duw 'r diale, Tâd golcuni, Wyt ti ar feder i addoli.
Dere 'n barchus, dere 'n barod, Dere 'n brûdd o flaen y Drindod, Dere 'n sanctaidd, dere 'n ffyddlon. Di gei d' arch wrth fôdd dy galon.
Côd dy olwg, tann dy ddwylo, Plŷg dy ddau-lin, gostwng iddo, Cûr dy ddwyfron, bydd edifar, Addeu 'th bechod, cais ei ffafar.
Galw ar y Tâd yn danllyd, Yn enw 'r mâb, trwy nerth yr yspryd, Cais ei deyrnas a'i gyfiawnder, Di gei 'r cwbwl yn ddi-bringder.

Page 244

Cais ogoniant Duw yn benna, Cais nefolion bethau nessa, Cais ei rás yn dra awyddys, Cais dy raid os bydd ei 'wllys.
* 1.1469Cyn dy fynd i ddrws yr eglwys, Edrych fod dy droed yn gymmwys: Bwrw heibio draws feddylie, A gâd fydol fwriad gartre.
* 1.1470Abram ffyddlon cyn addole, Rwymeu assen yn yr Hendre: Felly dlye bob dyn rwymo, Traws feddyliau cyn gweddio.
* 1.1471Moesen hyfryd cyn y dewe, O flaen Duw fe dynnei scidie: O tynn dithe dy fydolrwydd, Cyn y doech o flaen dy Arglwydd.
* 1.1472Joseph ynte fynne ymgweirio, Cyn ymddangos o flaen Pharo: Felly ymgweiria dithe 'n syw† 1.1473, Cyn ymddangos o flaen Duw.
Hester dduwiol hithe ymolchwys, Cyn mynd o flaen Ahasuerus: Ymolch dithe o'th ddrygioni, Cyn rhoech o flaen Duw dy weddi.
Pan y delech i † 1.1474 dy Dduw, Gwêl mor hoff, mor hawddgar yw: A phan delech, dere 'n chwarian, Mewn anrhydedd, parch ac ofan.
Cwymp yn issel ar dy ddau-sin, Yn ei lŷs o flaen dy Frenin: Ac nac yngan air o'th ene, Nes ymostwng ar dy linie.

Page 245

Ni ry neb o'r sainct * 1.1475triumphant, Yn y nêf ir Arglwydd foliant, Nes y tynnont eu Coronau, Ac ymostwng ar eu gliniau.
Pam y cytcam llŵch a llydy, Ddwad o'i flaen heb ymgrymmu? Pan y delont i weddio, Ac i feggian pardwn gantho.
Christ ein Meistir fe 'mostwnge,* 1.1476 Ar ei wyneb pan gweddie, Braidd y gostwng rhai o'r gweision, Un o'i glinie pan gweddion.
Iago fwya gynt addole Grist mor ddyfal ar ei linie, Nes caledi yn y demel, Groen pôb glin fel Carn y camel.
Moesen, Aaron, Josua, Samuel, Dafydd, Selef, Joas, Daniel, A'r holl Sainct sy 'n rhoi goleuni, Inni ar linie brûdd addoli.
Gwedi cwympech ar dy ddau-lin, Mewn mawr barch o flaen dy Frenin, Ystyr beth trwy brûdd fyfyrio, Sy'n dy fryd i ddywedyd wrtho.* 1.1477
Daniel rassol y fyfyrie, O flaen Brenin cyn llefare, Dithe ddylyd brûdd fyfyrio, O flaen Duw cyn yngan wrtho.* 1.1478
Yn ol ystyr beth a ddywedech, Cûr dy ddwyfron, cyn gweddiech, A chydnebydd d' annheilyngdod, A chais bardwn am dy bechod.

Page 246

Llef o'i flaen â chalon bryssur, Duw bydd rassol im bechadur, Sy 'n annheilwng edrych arnad, Chwaethach derbyn fy nymuniad.
Hael yw Duw ir sawl a'i ceisiant, Rhwydd yn rhoi ir rhai ofynnant, Rhoi i bawb heb ddim dannodiaeth, Yn rhwydd ei rhaid yn daran helaeth.
Y peth a geisiech, cais trwy ffydd, Na chymmer ball ond * 1.1479 beggia 'n brŷdd: Nac amme dderbyn 'rhyn a geisiech, O ceisii 'n daer di gei ofynnech.
Nac amme 'wllys da dy Dâd, Na gallu Duw, sy'n rhoi mor rhâd: Duw galluog, Tâd gwllysgar, Helpwr rhwydd yw 'n Harglwydd hygar.

Gweddi 'r hwn sy'n myned i addoli Duw 'n gyhoeddys.

DUw trugarog, Tâd goleuni, Rhoddwr grâs a phôb daioni, Er mwyn Christ clyw weddi † 1.1480 eiriol, Un o'th blant dros bawb o'th bobol.
Rym ni heddyw yn ymgynnyll, I'th addoli yn dy bebyll: Duw rho allu in' a meder, I'th addoli fel y * 1.1481 dirper.
A bendithia di'n cyfarfod, A chyfrwydda ein myfyrdod: A dôd † 1.1482 awen yn ein calon, I'th addoli, bawb yn ffyddlon.

Page 247

Gwna ni 'n addas ac yn weddaidd, I glodfori d'enw sanctaidd, Gwna ni 'n barod, ac yn † 1.1483 garcus, Bawb i wrando d'air yn barchus.
Duw paratôa di'n calonnau, Christ sancteiddia di 'n meddyliau, Awcha 'n * 1.1484 zêl, chwanega 'n hawydd, I'th addoli mewn gwir grefydd.
Cwyn y galon, deffro 'r yspryd, Nynn â'th râs ein hawen oerllyd, * 1.1485Setla 'r meddwl, dysc y genau, I'th glodfori am dy ddoniau.
Tynn oddi wrthym draws fwriadau, Nâd i'r rhain ŵyr-droi 'n meddyliau, Pâr in'wrando d'air yn fuddiol, A gweddio 'n * 1.1486 ddefosionol.
O cyfrwdda â'th lân yspryd, Ni weddio bawb yn danllyd, Fal y caffom gennyd wrando, A rhoi inni fôm yn geisio.
Dôd dy fyssedd yn ein clustiau, Pâr in' wrando d'air yn olau; A rho feder i bôb calon, I ddeallu hwn yn union.
Gwedi deall hwn a'i gofio, Duw rho gymmorth ei * 1.1487 bracteisio, A'i wir ddilyn yn awyddus, Nes y dwcco ffrwyth † 1.1488 toreuthus.
Duw bendithia di'n pregethwr, Rho 'ddo ddeall, grâs a chryfdwr, I bregethu gair y bywyd,* 1.1489 Inni 'n bûr o'th 'fengyl hyfryd.

Page 248

Gole'i seddwl a'i fyfyrdod, Nynn ei galon, dysc ei dafod, Nertha i * 1.1490 barchu 'r gair yn fedrys, Inni bawb yn ôl dy 'wllys.
Nertha e'in tynnu o'r tywyllwch, * 1.1491I'r goleuni a'r diddanwch, O gorlannau tywyll Satan, I wir deyrnas Christ a'i gorlan.
Gwna ei athrawiaeth inni 'n rymmus, Gwna ini ddilyn yn awyddus; Gwna ini bawb i garu ynte, * 1.1492Lle mae 'n gwiliad ein eneidie.
Duw bendithia ef a ninne, Duw sancteiddia di 'n calonne, Duw rho râs a meder inni, Bawb yn bryssur dy addoli.

Paratoad i'r cymmun.

POb rhyw Gristion ag y garo, Ddyscu 'r môdd y mae ymgweirio, Mynd yn lân i ford yr Arglwydd, Dysced hyn o werseu 'n ebrwydd.
Cyn yr elych * 1.1493 rhwp ir Cymmun, Ystyr ble yr wyt ti 'n rofyn, A pha beth yr wyt ti ar feder, I * 1.1494 recefo yn y swpper?
Nid i ford rhyw † 1.1495 Emprwr llidiog, Ond i ford yr holl-Alluog, Rwyt ti 'n rofyn mynd i fwytta, Bwyd fydd gan mil gwell nâ Manna.

Page 249

Gwell nâ Manna os fel Christion,* 1.1496 Y derbynni hwn yn ffyddlon: Gwaeth nâ gwenwyn os trwy anras, Y derbynni hwn fel Suddas.
Meddwl ditheu am ei dderbyn, Yn gristnogaidd fel y perthyn, Mewn sancteiddrwydd, ffydd, a gobaith, Glendid pur, a chariad perffaith.
Gwachel redeg yn amharod, I ford Christ yn llawn o bechod, Rhag it dderbyn barnedigaeth Lle caiff eraill Jechydwriaeth.
Cofia 'n garcus, * 1.1497 pwy sancteiddrwydd, Pwy ymgweirio, pwy barodrwydd, Gynt ossododd Duw ar dâsc, Cyn cae Israel fwytta 'r Pâsc?
Cofia hefyd pwy ymolchi,* 1.1498 Pwy lanhau a phwy syberwi, Y wnaeth Christ â'i ddwylo tyner, Ar ei Saint cyn * 1.1499 tasto'i swpper.
O na ddere ditheu 'n sarnllyd, Yn dy rŵd a'th bechod drewllyd, I ford Christ heb lwyr ymolchi, O'th holl feiau a'th holl frynti.
Bwrw lefein pob rhyw bechod,* 1.1500 Llid, cynfigen, malis, meddwdod, Rhyfig, ffalstedd, ffwrdd o'th galon, Ni thrig Christ y man lle byddon,
Cofia fel y * 1.1501 hentrodd Satan, Gynt yn Suddas fradwr aflan, Yn ôl iddo fwytta 'r tammaid, Yn ei bechod brwnt mor embaid.

Page 250

Gwachel ditheu rhag digwyddo, Y fath beth yr eilchwaith etto, Os ti ddoe i ford yr Arglwydd, Yn d'aflendid heb barodrwydd.
* 1.1502Cofia ir Corinthiaid feirw, A nychu 'n hîr, o'r gwres a'r gwayw, O waith mynd yn amharodol, Llwyr ei pen ir Bwrdd sancteiddiol.
Gwachel ditheu fynd yn rhwyscus, Ir ford hon heb ofan parchus, Heb ystyried beth sydd arni, Rhag dy farw yn dy frynti.
* 1.1503Hola dy hun a myn wybod, Wyt ti 'n difar am dy bechod, Ac oes gennyd ffydd a gobaith, Calon lân a chariad perffaith?
Barna dy hun yn ddiweniaith, Fel na farno Duw di 'r eilwaith; Ac lle gwelych ddim yn eisie, Cais gan Ghrist ei roi neu fadde.
Pedwar peth sydd angenrheidiol, Ir rhai fynn cymmuno 'n ddeddfol, (1) Ffydd gristnogaidd, (2) gwir ddifeirwch, (3) Cariad perffaith, (4) diolchgarwch.
Nid oes llûn bôd heb y lleia, O'r rhai hyn cyn mynd i fwytta: A'r neb êl ir swpper hebddyn, Ni chaiff lês oddiwrth y cymmun.
* 1.1504Ffydd sydd gynta 'n angenrheidiol, I gredu i Ghrist roi hun yn hollol, Ar y groes i farw drossom, Am y pechod ôll y wnaethom.

Page 251

Ffydd sy'n cyrraedd ffrwyth y pardwn, Y bwrcassodd Christ trwy * 1.1505 bassiwn, Ac yn derbyn ar y swpper, Grist ei hun a'i holl gyfiawnder.
Nid yw Christ yn fwyd ir bola, I gnoi â dant ai roi ir cylla:* 1.1506 Bwyd yw Christ i borthi 'r enaid, Yn ysprydol trwy ffydd dambaid.
Ni all neb fwynhau 'n ysprydol Christ, a'i waed, a'i gorph sancteiddiol,* 1.1507 Ond yn vnig trwy ffydd rymmus, Ddel o galon edifarus.
Mae 'r Efengyl inni 'n dangos,* 1.1508 Fôd Christ yn y nêf yn aros; Ac na ddichon vn dyn cnawdol, Fwytta Christ, ond yn ysprydol.
Ffydd gan hynny sydd anghenrhaid, I gyrraedd Christ i borthi 'r Enaid, Ac i † 1.1509 ddercha 'r galon atto, O myn Enaid borthi arno.
Bwyd ir Enaid, bwyd ir galon, Bwyd yw Christ ir meddwl ffyddlon, Bwyd i gymryd trwy ffydd fywiol, Bwyd i fwytta yn ysprydol.
Pan bo 'r corph yn cymryd bara,* 1.1510 Yn y Cymmun er ei goffa, Cwyn dy galon y pryd hynny, A thrwy ffydd mwynhâ Grist Jesu.
Nessa at ffydd rhaid edifeirwch,* 1.1511 Am bôb pechod trwy ddyfalwch, A llwyr fwriad gwella beunydd, Troi at Dduw mewn buchedd newydd.

Page 252

Edifara o ddyfnder calon, Am bob bai trwy ddagrau hallton, Ac na ddere i ford yr Arglwydd, Nes difaru rhag cael tramcwydd.
Golch dy faril, carth dy waddod, Na ddôd wîn mewn * 1.1512 Casc o bechod, Rhag ir gwîn mewn llester aflan, Dorri 'r casc a rhedeg allan.
Ni thrig Duw, na'r Oen, na'r Glommen, Lle bo pechod a chynfigen: Golch gan hynny 'n lân dy lester, Or derbynni Grist na'i swpper.
Chwd dy feddwdod, cladd dy frynti, Gâd dy faswedd brwnt a'th wegi, Attal nwyfiant, ffrwyna nattur, Gwella 'th fuchedd, na fydd segur.
Golch dy ddwylo mewn gwiriondeb, * 1.1513Golch dy feddwl mewn duwioldeb, Golch mewn cariad ben a chynffon, Os derbynni Grist ith galon.
* 1.1514Câr gyfiawnder, dilyn sobrwydd, Arfer lendid a sancteidd rwydd, Gwisc am danad gariad perffaith, Nâd vn bai dy nyrddo 'r eilwaith.
Nid oes rhoi i Gŵn o'r pethe sanctaidd, Na'r gwe thfawr berls ir moch angrhuaidd, Na'r Manna gwynn mewn halog grochan, Na chymmun Christ mewn cylla aflan.
* 1.1515Mewn Pott o aûr y dodir Manna, A chelain Christ mewn crûs or meina, A'r gwîn o'r Grâp * 1.1516 mewn baril † 1.1517 gruaidd, Ar Cymmun hwn mewn Calon sanctaidd.

Page 253

Y trydydd peth sy'n rhaid ei geisio,* 1.1518 Yw cariad perffaith cyn * 1.1519 recefo, Heb ddwyn meddwl drwg at vn dyn, Pell, nac agos, câr na gelyn.
Cariad ydyw 'r † 1.1520 arwms tirion, Sydd gan Grist ar * 1.1521 lifreu weision: Ac wrth gariad yr adwaenir, Defaid Christ oddiwrth y geifir.
Nid yw Christ yn derbyn vn-dyn, I fwynhau ef yn y cymmun, Ond yr hwn y fo 'n ddiragraith, A phôb dyn mewn cariad perffaith.
Pyt fae gennyd fîl o ddoniau,* 1.1522 A bod cariad i ti 'n eisiau, Nid wyt deilwng byth i ddwad, I ford Crist heb berffaith gariad.
Câr gan hynny dy gymdogion,* 1.1523 Maddeu 'n rhwydd i'th holl elynion, Ac or gwnaethost gam ag vndyn, Cymmod cyn bwytteuch y cymmun.
Gwachel ddwad yn ddigofus, I ford Christ mewn llid a malis; Rhag i Satan fynd i'th gylla, Gydâ 'r tammaid gwedi fwytta.
Dysc di gan y neidir dorchog, Chwdu maes dy wenwyn llidiog, Cyn dy fynd ir ford yn llawen, Rhag i'th falis ladd ei pherchen.
Y neidir fraith medd rhai a'i gwalas, Fwrw ei gwenwyn ar y gamlas, Cyn y hyfoi ddwr o'r afon, Rhag ir gwenwyn dorri chalon.

Page 254

Bwrw dithe dy lîd allan, A'th ddrwg feddwl, a'th draws amcan, A'th holl falis, a'th genfigen, Rhag ir rhain * 1.1524 andwyo ei perchen.
Or bydd gennyd y tri ymma, (1.) Ffydd, (2.) difeirwch, (3.) cariad: coda, Dere ir cymmun, mae i ti resso, Christ ei hun sy'n d' alw atto.
* 1.1525Pan y gwelych dorri 'r bara, A thywalltu 'r gwîn ir cwppa, Cofia fel y torre 'r wayw-ffon, Gorph dy Grist nes gwaedu ei galon.
Pan derbynnech o law 'r ffeiriad, Fara a gwin yn ol cyssygrad, * 1.1526Derbyn Ghrist trwy ffydd i'th galon, Portha d' Enaid arno 'n ffyddlon.
* 1.1527Nid â dannedd y mae bwytta, Christ yn gnawdol a'i roi 'r bola, Ond trwy ffydd y mae 'n ysprydol, Fwytta Christ â'r galon fywiol.
Côd dy galon, dring ir nefodd, Edrych ar yr hwn a'th brynodd, * 1.1528Cofia faint y wnaeth ef erod, Pan croes-hoeliwyd am dy bechod,
Cred i Ghrist ar groes a'i hoelion, Offrwm drossod waed ei galon, A phwrcassu bywyd itti, Rwyt ti 'n bwytta Christ o ddifri.
Or gofynni * 1.1529 pwy ddaioni, Ddyru Christ o'r swpper itti, Pan derbynnech hi 'n gristnogaidd, Mewn gwir ffydd a chariad perffaidd?

Page 255

Mae 'n rhoi itti gyflawn bardwn,* 1.1530 O'th holl bechod * 1.1531 absoluwsiwn, Gwedi 'r Brenin mawr ei selu, A gwaed gwerthfawr calon Jesu.
Mae 'n Rhoi Pardwn, mae 'n rhoi bywyd,* 1.1532 Mae 'n rhoi Comffordd, mae'n rhoi iechyd, Mae 'n rhoi yspryd glân a'i ddoniau, Mae 'n rhoi 'hun a'i holl rinweddau.
Mae 'n dy wneuthur di 'n gyfrannog, Oi holl ddoniau mawr galluog, Ac mewn yspryd mae ê'n trigo, Yn dy galon byth † 1.1533 tro ganto.
Mae ê'n porthi d' Enaid egwan,* 1.1534 A'i wir gorph â'i waed ei hunan, Ac yn rhoddi nefol yspryd, Itti 'n * 1.1535 ernest o'r gwir fywyd.
O bwy ddyled mawr sydd arnad,* 1.1536 I foliannu Christ yn wastad, Am dy wneuthur yn gyfrannog, Or fâth swpper fawr gyfoethog.
A phwy daliad sy'n dy bwer, I roi iddo am ei fwynder, Felly 'n porthi d' Enaid aflan, Ai wir waed â'i gnawd ei hunan.
Na fydd dithe mor niseilaidd, A mynd o'r llan yn anw eddaidd, Nes rhoi clôd a moliant iddo, Am yr ymborth y gêst gantho.
Christ ni fwyttei fara barlish, Chwaethach bwyd oedd well ei * 1.1537 relish, Heb roi moliant mawr am dano, I dâd nefol heb anghofio.

Page 256

† 1.1538Pwy faint mwy na ddylyt tithe, Fwytta Christ y penna or seigie, Heb roi diolch i'r Duw cyfion, Am ei fâb o ddyfnder calon.
A gw awdd nêf a dâer a dynion, Seraphiniaid ac Angelion, Ith gyd-helpu foli 'r Arglwydd, Am ei gariad a'i gredigrwydd.

Gweddi cyn derbyn y cymmun.

ARglwydd grassol rhwn y roddaist, Jesu Grist y mwya geraist, Fôd yn * 1.1539 ranswm dros ein beiau, Ac yn ymborth i 'n eneidiau;
Dyro râs i minnau 'n sanctaidd, Ymbartoi fel Cristion gweddaidd, 'Dderbyn Christ trwy ffydd i'm calon, I borthi f'enaid arno 'n † 1.1540 eon.
Carth fy meddwl am cydwybod, Colch fi'n llwyr oddiwrth fy mhechod, Gwna fi 'n llester glân i dderbyn, Christ i'm calon yn y cymmun.
Cryfhâ fy ffydd, amlhâ fy ngobaith, Ennyn ynwi gariad perffaith, Sancteiddia 'r corph, cyfrwydda 'r enaid, I dderbyn Christ y bwyd bendigaid.
Côd fy nghalon cuwch a'r nefodd, Lle mae Christ yr hwn am prynodd: Pâr i'm henaid borthi arno, A thrwy ffydd gael grym oddiwrtho.

Page 257

Pâr im gredu fôd im bardwn, Am fy mai er mwyn ei * 1.1541 bassiwn, A rhan hefyd o'i holl ddonie, Y bwrcassodd trwy loes ange.
Pâr im gredu y daw i drigo, Yn fy nghalon byth tra ganto, Ac na 'medy 'sanctaidd yspryd, Nes fy nwyn ir nefoedd hyfryd.
Nâd gan hynny i mi nyrddo,* 1.1542 Ei demel sanctaidd lle mae'n trigo, Nac halogi byth om llester, Ond ei gadw 'n lân bôb amser.
Pâr im hefyd ei glodforu, Nôs a dydd ar eitha o'm gallu, A'i fendithio 'n brudd bôb amser, Am yr ymborth sy 'n ei swpper.

Pennillion neu werseu, ar gynheddfau rhai dynion a phethau, ag y crybwyllyr am da∣nynt yn y Scrythur lân ac yn yr Apo∣crypha* 1.1543.

Adda.
DYsc fy mâb wrth † 1.1544 gwdwm Adda, Weld mor brîd yw 'r pechod lleia; Ac mor enbyd bwytta gronyn, O'r peth y fo Duw yn wrafyn.
Afal.
Or † 1.1545 cas Adda gymmaint ddial; Am ei waith yn bwytta Afal; Ystyr faint y fydd diale, Rhai sy'n byw a'r gyfryw fale.

Page 258

Efa.
Efa Hên â'i chwymp â'i† 1.1546 hanffcd, Sy'n rho itti rybydd hynod; Na chytcamech tra fech byw, Wrando ar Satan o flaen Duw.
Afal.
Blin yw'r Afal a wnae 'r ddincod, Ar bob Dant o'r Byd heb wybod: Na fydd vn o'r rhai ddymune, Gael eu Maeth ar gyfryw Fale.
Oni byssei Grist ddiodde, Ar Bren drosom ddû loes Ange, Bysse 'r Byd i gŷd mewn attal, Ym-mhwll vffern am vn Afal.
Hâd y wraig.
Er maint y fo drwg y * 1.1547 Ddraig, Dôd dy † 1.1548 drust yn hâd y wraig: Mae ef gwedi sigo ei Shol, Torri chrib a thynnu chol,
Sarph.
Os Brath Sarph â cholyn pechod, D'enaid bach heb allu orfod; Nid oes dim a wna id lês, Nes mynd at Grist y Sarph o brês.
Paradwys.
Adda gollodd hên Baradwys, Am yr Afal gynt y fwyttwys: Gwachel dithe golli 'r † 1.1549 llall, Am fâth fale or 'dwyd gall.
Cain.
Y Dyn y wnelo Ddrwg fel Cain; Medd Duw 'n amlwg ac yn † 1.1550 blayn, Nid ymedi Drwg a'i dŷ, Nes dêl Dial oddi-frŷ.

Page 259

Gwachel dywallt gwaed dyn gwirion, Megis Cain y* 1.1551 Mwrddrwr creulon: Ydywallto gwaed yn siccir. Ei waed yntef a dywelltir.
Abel.
Na wna lanas yn y dirgel, Duw ddatguddia † 1.1552 fwrddrad Abel: Yn y dirgel os gwnei fowr-ddrwg, Duw ai dial yn yr amlwg.* 1.1553
Bydd fyw 'n wirion megis Abel, Ofna Dduw, Arfera ei Demel: Offrwm iddo nôs a bore, Aberth brûdd ar ben dy linie.
Offrwm.
Pan offrymmech ddim i Dduw,* 1.1554 Offrwm iddo 'r gore o'i ryw, Ffiaidd gantho ac nid hôff, Y gwann a'r gwael, y clâf a'r cloff.
Os offrymmu â'th holl galon,* 1.1555 Duw y dderbyn dy * 1.1556 anrhegion, Oni offrymmu o'th lwyr fodd, Byth ni dderbyn Duw dy rôdd.
Enos.
Pan bo pawb yn mynd yn ddiog, I wasnaethu 'r Holl-alluog; Cyffro bawb o'r bŷd fel Enos,* 1.1557 I addoli Duw heb aros.
Cais gan bawb wasnaethu Duw, Dlyed pob gwir gristion yw: Gossod allan ei ogoniant, Di gae gantho † 1.1558ffawd a ffyniant.

Page 260

Enoch.
* 1.1559Rhodia gydâ Duw fel Enoc, Dilyn lwybrau 'r Holl-alluog: Cofia fôd Duw 'n disgwyl arnad, Ym-mhob mann â chîl ei lygad.
Gwel pa ymdal y † 1.1560 gas Enoc, * 1.1561Am wasnaethu 'r Holl-alluog: Mynd ir Nêf cyn gweled ange: Pwy gan hynny nas gwasnaethe?
Dysc gan Enoc dair gwers rasol; 1. Fôd dy Enaid yn anfarwol;Line 1 2. A bôd i'th Gorph adgyfodiad;Line 2 3. Ac ir Duwiol Nefol daliad.Line 3
Rhodia gydâ Duw.
Na wna frynti yn y Cornel, Mae Duw 'n gweld pob pechod dirgel: Ac am hynny meddwl fyw, Megis vn sy ngolwg Duw.
Cawri.
Pyt fae itti gryfder Cawr, Duw y fyn dy dorri lawr, A'th roi 'n fwyd i borthi 'r chwilod, Os ymroi di ddilyn pechod.
Oni alle Gawr † 1.1562 ddifannu, Pan daeth Diluw dwr i farnu; Bwedd y dichon * 1.1563 Gwrangc ddihangyd, Pan y dêl y Diluw tanllyd?
Noah.
Er cynddrwg y fo 'r Byd o † 1.1564 bobtu, Er cymmaint y fo o rai 'n pechu, Bydd di berffaith yngwydd Duw, Dilyn Noah tra fyddech byw.

Page 261

Gwachel ddilyn Arfer tyrfa,* 1.1565 Y fo 'n pechu am y cynta: Gwell nâ hynny yw dilyn ûn, Y ofno Dduw, y barcho ddŷn.
Diluw.
Gwêl mor ddrewllyd yw putteindra, Gwel mor gâs gan Dduw ddiffeithdra; Pan na wasnaethe dyfroedd Lai, Nâ 'r Dŵr Diluw i gospi 'r bai.
Noah.
Os byw wnai di Megis Nô, Yn ŵr perffaith ar bob trô, Byddi gydâ Noa'n gadwedig, Pan bo eraill yn golledig.
Gwell it ddilyn Noah ei hunan, Mewn perffeithrwydd, ffydd, ac ofan; Nag it ddilyn yr holl fŷd, Mewn drygioni a boddi gŷd.
Arch neu Long.
Gwna dy long tra'i 'n amser grâs,* 1.1566 Cyn y delo 'r diluw cás: Mae 'n ddiweddar gwneuthur Bàd, Pan bo'r Diluw 'n boddi 'r wlâd.
Gwell o lawer, nid ychydig, Yw bôd gydâ Noa 'n gadwedig, Yn y llong, nâ chydâ llawer, Yn y Diluw dû a'r dyfnder.
Bwa 'r glaw neu 'r Enfys.
Pan y gwelech fwa 'r Drindod, Cofia farn Duw a'i gyfammod: Abendithia ei dduwiol fawredd, Am ei fwynder a'i drugaredd.* 1.1567

Page 262

Ystyr amryw liwiau 'r Enfys, Glas a chôch yw 'r ddwy farn gofys: Glâs oedd Dŵr y Diluw cynta, * 1.1568Côch yw Tân y farn ddiwetha.
Lle mae 'r Bwa yn gyffredyn, Ai gyrn ir ddaer heb saeth, heb linyn: Y mae 'n dangos mor heddychlon, Yw hi ynghrist rhwng Duw a * 1.1569 dynion.
Meddwdod Noah.
Gwachel Satan hên a'i rwyde, Pan bech tra diofal gartre: Ef a'th ddilyn megis No, Nes rhoi itti † 1.1570 ffwyl ryw dro.
Oni ddichon Satan ddala, Noe â'i rwyde o butteindra, Fe brawf ddala No heb ŵybod, * 1.1571Yn hên ŵr â rhwyd o feddwdod.
Lot.
Od ae drigo i Gomorra, Lle mae meddwdod a phutteindra, Cadw arnad megis Lot, Rhag d' halogi â'r hŵr â'r pot.
Or gweld di 'r dre lle bech yn byw, Yn pechu 'n gâs yn erbyn Duw, Tynn fel Lot y maes o Sodom. Cyn disgynno arni 'r † 1.1572storom.
* 1.1573Gwell bôd gyda Lot ei hunan, Ar y mynydd dan y geulan; Na bôd gyda holl wŷr Sodom Yn y Dre yn godde 'r storom.
* 1.1574Pwy ymgadwe yn wellLot, Yng-hanol Sodom rhag y pot?

Page 263

Yn yr Ogof pwy y feddwe, Ar y Gwîn yn gynt nag ynte?
Or dihangaist rhag putteindra,* 1.1575 Rhwng y * 1.1576 styw-dai yn Gomorra; Gwachel wneuthur pechod aflan, Gartre ymmysc dy ffryns dy hunan.
Or dihangaist rhag y tân, O ganol Sodom am fyw 'n lân; Gwachel rhag dy losci 'r eilwaith, Yn dyam fyw yn ddiffaith.
Gwraig Lot.
Os gadewaist Sodom vn-waith, Na ddymchwela i Sodom eilchwaith: Trowd gwraig Lot yn † 1.1577 Bîl o halen, Am droi hwyneb llwyr ei chefen.
Gomorra.
Agor d'olwg, gwêl mor ffyrnig, Y mae Duw yn cospi rhyfig: Pan y llosce â thân a brimston, Dre Gomorra o'i achossion.
Llêf Sodom.
Clyw mor cuwch y gweidda pechod, Ddydd a nôs yn glustie 'r Drindod,* 1.1578 Ac na ddichon pechod dewi, Nes dialo Duw ei frynti.
Gwlâd Sodom.
Och! mor ddrewllyd ac mor embaid, Ydyw lloscach y Sodomiaid: Pan bo 'r wlâd yn drewi etto, A'r mwg a'r tarth lle * 1.1579 bunt yn trigo.
Cam.
Gwachel haeddu rhê; dy Dâd* 1.1580 Byth nis gorfu Cam na'i Hâd:

Page 264

Melldith Noe sy'n glynu 'n ffinion, Byth yng-hrwyn y Moyrys duon.
Sem.
Megis Sem, trwy ddawn a rhâd, Cuddia gwylidd Noe dy Dâd: A phan ddêl mewn gŵth o oedran, Na watwara megis Canaan,
Selef neu Solomon.
Parcha Bathseba dy fam, * 1.1581Anrhydedda hi ar bob cam: Rho 'r llaw ddehau iddi 'n vfydd, Fel y roddei Selef Ddafydd.
Abraham.
* 1.1582Cynta peth y wnel dy ddwylo, Pa le bynna 'r elech iddo, Godi allor gidag Abram, * 1.1583I addoli Duw 'n ddigytcam.
Crêd bôb Gair o enau Duw, Gwîr, a phûr, a pherffaith yw: Nêf a Daiar a ddifflanna, Cyn el † 1.1584 jot o'i Air heb gwpla.
* 1.1585Lle harcho Duw itt' fyned, dôs, Y peth orchmynno gwna yn * 1.1586glôs: Bydd mor ufydd ac oedd Abram, Gwna 'r peth archo yn ddigytcam.
* 1.1587Offrwm d' Isaac os Duw arch, Ac enwaeda 'r cnawd o barch: * 1.1588Gado Ddelwau aur dy Dâd, Dôs pan harcho maes o'th wlâd.
Isaac.
Dysc gan Isaac fôd yn ufydd, Mwyn a llariaidd, dôf a llonydd: Felly byddy * 1.1589 suwr i fyw, Mewn ffafar Dyn, mewn of an Duw.

Page 265

Gwely 'th Briod na haloga, Ond bydd fodlon i'th Rebecca: Fel y bydde Isaac sanctaidd; O flaen Duw mae hyn yn weddaidd.
Jacob.
Or bydd geiriau Jacob genyd,* 1.1590 Gwachel ddwylo Esau waedlyd: Câs gan Dduw a pheth * 1.1591digwnt, Yw 'r geiriau † 1.1592braf ar gweithred brwnt.
Pan bwriadech geisio gwraig,* 1.1593 Bydd i Jacob yn Scholhaig: Dilyn gyngor Mam a Thâd. O mynny lwyddiant ar dy Hâd.
Esau:
Na fydd lwth i lanw 'th fola, Esau † 1.1594 gas y cwylydd mwya, Am roi i Jacob ei holl afel, * 1.1595Dros phiolaid o gawl gruel,
Ffei ar afrad, ffei ar meddwdod, Na werth nêf am fwyd a diod: Esau gollodd Ganaan decca, Am werthu fraint i lanw ei fola.
Joseph.
Os cais Meistres yn y cornel, Genyd orwedd gyda'i 'n ddirgel: Cilia gydâ Joseph allan,* 1.1596 Na ladd d'enaid er ei chusan.
Dôs i garchar, godde gûr, Gorwedd mewn cadwynau dûr, Cyn y gwnelech megis filain, Aelod Christ yn aelod puttain.
Na châr buttain tra fech byw, Na haloga Demel Dduw:

Page 266

Ni wnai Ioseph beth mor ffinion, O * 1.1597 serch pydru yn y † 1.1598 cyffion▪
Margain front fel Margain Esaw, Margain y bair cnoi ac wylaw, * 1.1599Ydyw gwerthu 'r Nefoedd berffaith; Am gyfeillach puttain noswaith.
* 1.1600Ioseph waith na fynnei orwedd, Gyda'i feistres mewn anwiredd, Y gas mynd yn † 1.1601 Brins arbennig, Ar yr Aipht am * 1.1602stoppi rhyfyg.
Gwell bôd gydâ Joseph † 1.1603 ddiwar, Am Onestrwydd yn y carchar, Na bôd gyd â Herod Frenin, A Herodias rhwng ei ddau-lin.
Reuben.
Os dryngbadu wely 'th Dâd, Gydâ Reuben hyna o'r gwaed; * 1.1604Iuda gaiff yr holl Difeddiaeth, Ni chei dithe ond yr hiraeth.
Simeon.
Simeon gwachel werthu 'th frawd, Drwg y gwyddost beth yw 'r † 1.1605 ffawd; Fe fydd Joseph gwedi werchu, * 1.1606Yn troi Semeon ir carchardy.
Moses.
Dysc gan Foesen fôd yn fwyn, Araf, † 1.1607llednais da dy gwŷn, * 1.1608Hawddgar, ffyddlon, prûdd, di-dwyll, Cefnog, diddig, da dy bwyll,
Pharao.
Gwêl * 1.1609 pwy filwyr sydd gan Dduw, Yn plygu 'r Brenin cryfa 'n fyw, Llau, a llyffaint, ceiliog rhedyn, Yn troi Pharo 'i geisio † 1.1610 canlyn.

Page 267

Canaan.
Os ceisii fynd or Aipht i Ganaan, Lle mae 'r mêl a'r llaeth yn * 1.1611dropian, Rhaid id fyned trwy 'r môr coch, Er maint ei rym, er cuwch ei roch.
Manna.
Gwachel laru ar y Manna, Claf iawn wyt oni elli fwytta: Ac or ceisii Bwmps a phannas, O flaen Manna, mae 'ti anras.* 1.1612
Sofl-ieir.
Cyn gadawo Duw ddim eisie, Ar y sawl y gatwo ei ddeddfe,* 1.1613 Pair ir nefoedd lawio Manna, A † 1.1614Chwailes iddynt idd i fwytta.
Corah.
Na wrthneba byth o'r ffeiriad, * 1.1615Angel Duw yw wrth ei alwad: Gwachel rhag ir ddaer dy lyngcu, Os fel Corah y gwrthnebu.
Offeiriad.
Gwachel ‖ 1.1616 fedlo maes o'th alwad, Bethau berthyn at offeiriad: Ni fyn Duw ond ffeiriaid gweddaidd, Drin yr Arch a'r pethau Sanctaidd.
Sabboth.
Gwêl mor gaeth y myn Duw inni, Gadw 'r Sabboth heb ei halogi,* 1.1617 Pan y pare ir holl Gymmanfa, Labyddio 'r dyn am Sûl-friwedda* 1.1618.
Treulia 'r Sabboth byth yn Sanctaidd, Dere i Demel Dduw yn weddaidd, Ac nac arfer tra fech byw, Waith y Cythrael ar ddydd Duw.

Page 268

Haul.
Gwelwn allu Duw bôb vn, Yn * 1.1619 stoppi 'r haul wrth weddi dŷn, Ac attal hon ddiwrnod cyfan, Vwch ben ei lû, heb fynd or vn-mann.
Cofiwn bawb mae 'n cwilydd yw: Os † 1.1620stoppa 'r Haul pan harcho Duw, A'n bod ninnau crach fydreddi, Pan harcho Duw, heb fedru * 1.1621ymstoppi
Josuah.
Os ceisiir genyd 'ddoli Delwe, * 1.1622Megis Josua atteb dithe, Nid Addolaf tra fwi byw, Mi am tylwyth ond fy Nuw.
Zimri.
Zimri, Zimri, gwêl y cledde, S'uwch dy ben gan Dduw 'r diale, * 1.1623A'r ffon wayw sydd gan Phinees, Ith drywanu ti ath Langces.
Balaam.
Balaam, Balaam, agor lygad, Gwêl yr Angel sy'n dy warchad; * 1.1624Tro yn d'wrthol, Gwachel * 1.1625 fribri, Gwrando 'r Assen yn d'argoeddi.
Sampson.
Na châr buttain mwy na chythrel: Na ro iddi byth o'th † 1.1626 gwnsel: Hi dyrr gwddwg, hi dynn galon, Gwr pyt fae mor gryf a Sampson.
Gibeah.
Na * 1.1627 fynteinia bobol ddrwg, Ond bydd arnynt byth ar d'ŵg; Gibeah loscwyd a'i holl bobol, Am ymddiffyn gwŷr anneddfol.

Page 269

Benjamin.
Benjamin † 1.1628erdolwg clyw, Pam y tynny ddial Duw, Ar dy dŷ a'th ben dy hunan, Am ymddiffyn plant i Satan?
Eli.
Cymmer rybydd oddiwrth Eli, Ddysgu 'th blant a'u dyfal gospi:* 1.1629 Lle na chospo 'r Tâd a'r wialen,☜ Duw a'r cledde dyrr eu cefen.
Samuel.
Dysc gan Samuel trech yn blentyn, Brûdd wasnaethu Duw ai ganlyn; Ac arferu hyd dy ddiwedd, Fyw yn gyfiawn, yn ddigamwedd.
Dysc gan Samuel Farnwr gwŷch,* 1.1630 Na chymmerech fuwch nac ŷch; Ond rhoi barn ym-mhob rhyw * 1.1631 fatter, I bôb dŷn yn ol cyfiawnder.
Joel mab Samuel.
Beth ennillodd Joel aflan, Wrth gam-farnu, ac wrth † 1.1632 fribian, Colli swydd ai etifeddiaeth, Ennill cwilydd a * 1.1633 dannodiaeth.
Ʋzzah.
Uzzah gwachel gwrdd a'r Arc, Gâd ir ffeiriaid hynny o † 1.1634 garc: Trin dy swydd dy hun a'th alwad, Nid yw 'r Arch yn perth yn attad.* 1.1635
Job.
Bydd ddioddef gar megis Job,* 1.1636 Trech yn glâf, na lef ôb ôb, Yn dy golled gwachel gablu; Duw sy'n rhoi, a Duw sy'n tynnu.

Page 270

Pe dyge Duw sydd yn dy helw, Pe'th drawe 'n glaf, nes bae'ti marw; Dywaid, pyt fae Dduw 'n fy mlingo, * 1.1637Etto mi ymddiriedaf ynddo.
Dafydd.
Canol nos fel Brenin Dafydd, * 1.1638Cod i lawr, penlinia 'n ufydd, A molianna Dduw 'r pryd hynny, Pan bo eraill yn hwrn gyscu.
* 1.1639Hôff o beth a hyfryd yw, Ganol nôs glodfori Duw; A rhoi diolch iddo 'r bore, Am ei râs a'i amal ddonie.
* 1.1640Bydd mor difar am dy bechod, Ac oedd Dafydd Brophwyd hynod: Ac na orphwys wylo 'n irad, Nes cael ffafar Duw a'i gariad.
* 1.1641Wyla nes bo'th wely 'n foddfa, Bwytta ddeigre gydâ 'th fara, Gwisc di sâch, a thro mewn † 1.1642 llethrod, Nes cael pardwn am dy bechod.
Absolon.
Er melyned y fo'th gydyn, * 1.1643Gwachel f' enaid, chwareu'r coegyn; Ac nac arfer * 1.1644 locseu hirion, Rhag dy faglu fel Absalon.
* 1.1645Os aiff Dafydd i felina, Ganol nôs at wraig Ʋria; Fe ddaw vn ganol-ddydd gole, I felina i felin ynte.
Amnon a Thamar.
Gwel mor fyrr yw plesser oflyd, Y wnai Amnon golli fywyd:

Page 271

Gwel mor chwerw yn y diwedd,* 1.1646 Yw blas pechod ac anwiredd.
Na ddôd d'enaid byth mewn * 1.1647 peryg, I gyflawnu chwant a rhyfyg: Fe fydd chwerw ac edifar, Yn y diwedd dreisio Tamar.
Hezekiah.
Dôd dy dŷ mewn † 1.1648ordor addas, Fel y dode Hezekias: A bydd barod byth yn gwiliad Ange cyn y delo attad.
Ahab a Naboth.
Gwachel chwennych gwinllan Naboth, Trais y lef am ddial * 1.1649 boenoth: Gwinllan Naboth os trachwantu, Teyrnas Jsrael y † 1.1650 fforffettu.
Ahab, Ahab, ‖ 1.1651 dela 'n union, Na ddwg winllan Naboth wirion: Ac o'r dwgu trwy * 1.1652 udonaeth, Duw ddifetha dy hiliogaeth.
Daniel.
Er maint y fo'th boen a'th drafel,* 1.1653 Cwymp i addoli Duw fel Daniel, Dair gwaith yn y dydd o leia, Dyna 'r unig waith sydd reita.
Cau dy stafell: plyg dy linie, Côd d'olygon, agor d'ene, Ac addola Dduw yn brûdd, Felly dair gwaith ar bob dydd.
* 1.1654Serch dy daflu i fysc y llewod, Na 'sceullyssa 'ddoli 'r Drindod: Y bwystfilod gwaetha eu nattur, Fedrant † 1.1655 ffafro gwir Addolwyr.

Page 272

Sadrach.
Nac ymgrymma byth i ddelw, O * 1.1656 serch gorfod arnad farw, A mynd gyda Sadrach hyfryd, Ar dy ben i'r ffwrnais danllyd.
* 1.1657Duw yn unig sydd iw' addoli, Nid yw 'r ddelw ddim ond gwegi, Coed a cherrig, Aur ac Arian, Bwbach nad all helpu hunan.
Belsazzar
Pan bo 'r cwppa wrth dy fîn, * 1.1658Yn cablu Duw, yn yfed gwîn; Gwachel Angau dîg dy daro, Fel Belsazzar wrth * 1.1659 garowso.
* 1.1660Pan bech yn carowso yn dal, Gwêl y llaw sydd ar y † 1.1661 wal, Yn scrifennu o flaen d'wyneb, Dy farn aethlyd a'th lothineb,
Tobias.
* 1.1662Bydd drugarog fel Tobias' Wrth bob tlawd y fo o'th gwmpas: Ac na fwytta brŷd yn iachus, Nes rhoi rhan ir tlawd anghenus.
Helpa 'r gwan a chladd y marw, Swccra 'r noeth, cyfrwydda 'r weddw, Bydd yn Rhyscwy ir ymddifaid, Na fydd anfwyn wrth ddieithriaid.
Raphael
Pan y bech ar feder gwreicca, Cais gan Dduw dy helpwr hela * 1.1663Raphael sanctaidd i'th gyfrwyddo, Cyn ymlygrech wrth † 1.1664 ymfaitshio.

Page 273

Tobi ieuangc a Sara ei wraig.
Cyn gorweddech gydâ Sara, Llaw yn llaw â hi gweddia, Ar ir Arglwydd roi 'ti lwyddiant, Help a chymmorth, * 1.1665 ffawd a ffyniant.
Dysc gan Dobi Ifangc berchi Dy Dad a'th Fam a'u cymfforddi: Pan bont marw, cladd hwy 'n weddaidd Hyn sydd rasol a christnogaidd.
Efengyl.
Bydd fyw 'n gyfiawn ac yn gynnyl, Fel pyt faet heb vn Efengyl: A bydd farw 'n gystal d'obaith, A phyd faet heb weld y gyfraith.
Or gofynnu anwyl gristion, Pwy wnaeth hyn o werseu byrrion: Gwas i Grist sy'n ceisio d'hwppo* 1.1666, Tua 'r nêf a'i draed a'i ddwylo.

At y Darllenydd.

PAn printiwyd y trydydd llyfr o waith yr Awdwr bendigedig hwn, mi adewais ran o'r Catechism sy'n canlyn heb ei brintio; oblegid nad oeddwn i ewyllysgar i anfodloni nêb, trwy ddy∣wedyd fy meddwl ynghylch rhyw bethau by∣chain ynddo, y rhai nid oeddent yn perthynu i iechydwriaeth pobl.

Heb Law hyn, yr oeddwn i yn rhag-weled y by∣ddei ymbleidio, ac ymddadlu, a chynhennau, ac ymryssonau oblegid y pethau hynny: yr hyn beth (sef ymbleidio ac ymddadlu, &c. ynghylch pethau

Page 274

bychain) ar wybodaeth ac † 1.1667 ecsperiens cannoedd, ie miloedd o gristianogion grassol, sydd rwystyr yn hytrach nâ chymmorth i adeiladaeth ysprydol. Ar hyn, gan fôd fy amcan i wrth ddanfon y lly∣frau hynny ir wlâd, nid i roddi achos o ymrafael ym-mysc pobl, ond yn vnic i roddi goleuni ir rhai sy yn eistedd mewn tywyllŵch a chysgod angau, i gyfeirio eu traed i ffordd tangneddyf; ac i a∣deiladu 'r gwan yn eu ffydd sanctaidd, fel yr e∣lent yn y blaen yn ffyrdd yr Arglwydd yn fwy cyssurus, fel y gogoneddent Dduw ymma, ac y byddei iddynt feddiannu tragwyddol ogoniant gŷd ag ef ar ôl hyn; Mi ymfodlonais i ddodi all∣an y pryd hynny, y pethau yn vnic yr ym ni oll yn cyttuno ynddynt; trwy iawn wybodaeth o ba rai, a'u derbyn i'r galon, a'u credu, a byw yn ddi∣ragrith yn eu hôl, yr oeddwn i yn gwybod yn ddilys, a cyrhaeddwn i fy niben am hamcan, y soniais i o'r blaen am dano: A'r pethau hynny ydyw y Gredo, Gweddi 'r Arglwydd, y dêg Gorchymmyn, a † 1.1668 Sylwedd yr athrawiaeth yng∣hylch y Sacramentau, a'r * 1.1669 Esponiad iachus o ho∣nynt, y gynhwysir yn y Catechism hwn o Eg∣lwys Loeger; y rhai pethau ydynt oll yn dda; ac trwy fendith Duw, ac iawn arferiad moddion eraill i iechydwriaeth, allent fôd yn † 1.1670fuddiol i adei∣ladaeth, ac i beri grâs ir Darllenwyr.

Ond o herwydd cymmeryd tramgwydd, a digio, am na ddanfonwyd allan y pryd hynny ond rhan o'r Catechism, wele yn awr y cwbwl iti. Nac an∣fodlona i mi ddywedyd hyn, fôd cadarnach seiliau i adeiladu Bedydd plant bychain arno, nag a osodir i lawr ymma, fel y gŵyr y duwiol dyscedig yn ddigon da.

Page 275

Ac am Dadau a Mammau bedydd, a'u proffes hwy wrth y bedyddfan, eu bôd hwy mor lân ac mor grefyddol, ac y maent yn gwadu 'r Diawl a'i holl weithredoedd &c, A'r rhwym y maent yn gymryd arnynt, (fel y maent yn feicheon dros y plant,) A'r peth y ddywedir ymma, eu bôd hwy yn cyflawni ffydd ac edifeirwch dros y plant nes y delont i oedran, mi au * 1.1671 passaf hwynt heibio i gŷd, heb gyfodi vn cwestiwn i fynu yn eu cylch; gan ymroi fy hunan,* 1.1672 a chan gynghori eraill i wneuthur yr vn peth, ar ôl profi 'r cwbwl wrth y Scrythyrau, i ddala yn vnie yr hyn sydd dda.

CATECHISM.

Holiad.
FY Mhlent yn hygar hoyw, Er Christ beth yw dy enw? Maneg im' o galon brŷdd, Dy grêd a'th ffydd yn groyw.
Atteb.
Fy enw yw Cynedda. y gollwyd gynt yn Adda: Etto † 1.1673 gedwid trwy râs Duw, yn Grist 'rhwn yw 'r Messia.
H.
Pwy roes dy enw itti, Lle 'r oeddyd gwedi 'th golli, Gydâ 'r byd trwy Adda gaeth, A'th droes i'r fath drueni?
A.
Fy Nhadeu a Mammeu bedydd, Trwy lân ac vnion grefydd: Pan bedyddiwyd fi â dŵr, Wrth arch fy Mhrynwr vfydd.

Page 276

H.
† 1.1674Pwy lês sy'n dwad itti, O'th fedydd gwedi 'th olchi, Yn y Dwr gan ffeiried Duw, Waith cymmaint yw'th drueni?
A.
Rwi 'n * 1.1675 Aelod Pûr im Prynwr, Rwi 'n Blentyn im Creawdwr, Rwi 'n 'tifedd mawr o deyrnas nêf, Rwi 'nghrist yn ore 'nghyflwr.

Yn Gyntaf, Eni pawb i'r bŷd hwn (ond * 1.1676Christ ei hunan) yn aflan, hynny yw, † 1.1677 yn llawn o bechod gwreiddiol, sef, yn llawn o hâd pôb drygioni: canys heb law cyfrifiad pechod ‖ 1.1678 Adda iddynt, y mae hefyd dueddiad a gogwyddiad ym mhôb e∣naid, at bôb * 1.1679 mâth o ddrygioni, ac ammharo∣drwydd i bôb † 1.1680 mâth o ddaioni; yr hyn yn gy∣ffredinol a elwir llygedigaeth naturiaeth.

Megis y mae tywys y † 1.1681 llafur a'i risgle, a'i flo∣de, a'u wellt, i gŷd yn wreiddiol yn yr hâd a hau∣ir: felly y mae pôb mâth o ddrwg feddyliau, a drwg eiriau, a drwg weithredoedd yn wreiddiol ‖ 1.1682ynghalon plentyn pan y genir ef ir bŷd.

Oni bae fôd y peth fel hyn, nis gallai sefyll gyd â chyfiawnder Duw, i daro rhai plant bychain â chlefydau, ac i dorri eraill i lawr trwy farwolaeth, o herwydd mai * 1.1683 cyflog pechod yw y pethau hyn, sef clefydau, a phôb mâth o felltithion daiarol eraill, a marwolaeth, sef y cyntaf a'r ail.

Peth rhyfedd fyddei (îe peth nis gellir i gredu) y rhoddei y Duw ‖ 1.1684 cyfiawn gyflog pechod i blant bychain, ac ynteu, sef y cyflog hynny heb fôd yn ddyledus iddynt. A chan fôd y peth felly, ni ellir gwadu, nad yw plant bychain mewn rhyw ffordd

Page 277

neu gilydd yn bechaduriad; ac o herwydd hynny yn blant digofaint, ac yn euog o ddamnedigaeth tragwyddol.

A chan nad ydynt hwy yn bechaduriad, trwy halogrwydd ac euogrwydd pechod gweithredol o'i heiddo ei hûn, nid oes ffordd arall wedi adel, iddynt fôd ynghyfrif Duw yn bechaduriad, ond yn vnig trwy halogrwydd ac euogrwydd pechod gwreiddiol.

Yn Ail ystyriwch, Er ein geni ni yn aflan, ac er bod y rhai o honom ac sydd yn euog o bechodau gweithredol, gwedi ein gwneuthur yn fwy aflan trwy halogrwydd y pechodau hynny: Etto y mae ffordd, ac nid oes ond vn, i'n glanhau ni oddiwrthynt ôll.

Yr vnig ffordd yw * 1.1685 Iesu Ghrist; canys efe, o'i anfeidrol gariad at ei Eglwys neu bobl, a † 1.1686 ddy∣godd eu pechodau hwynt arno ei hun, megis ei ‖ 1.1687 meiche hwynt; Ac ar y groes a offrymmodd ei hun (sef ei enaid a'i gorph) trostynt, yn aberth i Dduw ei Dâd o * 1.1688 arogl peraidd. A thrwy yfed o'r cwppan chwerw o ddigofaint Duw, pan ty∣walltwyd ei waed ef, efe a roddodd † 1.1689 iawn i gyfi∣awnder ei Dâd am bechodau ei bobl, ac felly a ‖ 1.1690 bwrcassodd iddynt faddeuant pechodau, a * 1.1691 rhyddbâd rhag y ddamnedigaeth dragwyddol ddyledus am danynt,

A thrwy gadw y gyfraith, gan vfyddhau i holl orchymynnion Duw, fe a † 1.1692 ddygodd i mewn gy∣fiawnder difrycheulyd idd i gyfrif i'w bobl, ac felly i gwneuthur hwy yn gymmwys i gael bywyd tragwyddol yn y nefoedd.

Y nawr trwy gymmhwysiad gwaed neu ddio∣ddefaint Christ idd ei bobl, y ‖ 1.1693 glanhauir hwynt oddiwrth euogrwydd eu pechodau, hynny yw o∣ddiwrth

Page 278

y rhwymedigaeth y maent tano i ddam∣nedigaeth tragwyddol am danynt.

A'r rhai y lan hauir oddiwrth euogrwydd eu pechodau, trwy gymmhwysiad Gwaed Christ at eu heneidiau, y lanhauir hefyd oddiwrth eu halo∣grwydd hwynt (hynny yw oddiwrth frynti, a grym eu pechodau) trwy † 1.1694 dywalltiad Yspryd Christ arnynt, i drigo yn eu calonnau hwynt.

Yn Drydydd ystyriwch, fôd rhyw blant (ie llawe∣roedd) yn gadwedig, oblegid y mae Duw yn ei Air yn dywedyd, ei fôd ef yn Dduw idd ei bobl ac idd ei † 1.1695 hâd, ac fe garodd Duw * 1.1696Jacob, a ‖ 1.1697 Jeremi, ac † 1.1698 Joan fedyddiwr pan yr oeddent ynghrothau eu Mammau; ac fe gymmerodd Christ blant bychain yn ei freichiau, ac a ddywedodd, mai eiddo y * 1.1699 cyfryw rai yw Teyrnas Dduw.

Siccr yw, fôd plant yn aflan trwy nattur, ac nad â nêb o honynt hwy, mwy nâ rhai mewn oedran ir nefoedd, heb eu glanhau a'u sancteiddio, canys heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd.* 1.1700

Y nawr, gan fôd glanhâd oddiwrth euogrwydd ac halogrwydd pechod, yn angenrheidiol i blant yn gystal ac i eraill, cyn myned ir nefoedd; a chan nad oes vn ffordd arall i gael glanhâd oddiwrth bechod, nac i ddwyn nêb ir nefoedd, ond yn v∣nig trwy danelliad gwaed Christ, a sancteiddiad ei yspryd ef: A chan fôd llawer o blant yn cael eu derbyn ir nefoedd; y mae yn eglur, fôd y cyfryw, cyn marwolaeth, (canys nid oes dim † 1.1701 glanhâd ar ôl marwolaeth) a chyn eu derbyn ir nefoedd, yn cael eu glanhâu oddiwrth euogrwydd ac halog∣rwydd ei pechod gwreiddiol; ac eu bôd hwy yn cael hynny, yn vnig trwy danelliad gwaed Christ, a thrwy sancteiddiad ei yspryd ef.

Page 279

A phan tywalltir yspryd Christ ar blant by∣chain, ac y cymmhwysir ei waed ef attynt, y mae grym pechod gwreiddiol yn cael ei dorri, ac y mae hâd pôb grâs wedi hâu ynddynt, (oblegid nid yw yr * 1.1702 yspryd glân yn segur ble bo ef,) fel ac y gell∣ir dywedyd fôd yn y Cyfryw rai, ostyngeidd∣rwydd, ffydd, cariad at Dduw &c yn wreiddiol, er nad ydynt hwy yn † 1.1703 deimladwy o hynny, mwy nag y maent o'u haflendid naturiol.

Yn Bedwarydd Ystyriwch, fôd y cyfryw ac a lanhauir mewn oedran, yn dyfod i gael eu glanhau (yn gyffredinol) yn y môdd ymma.

Yn Gyntaf, y mae Duw trwy * 1.1704 bregethiad ei Air, a gweithrediad ei † 1.1705 yspryd gydâ ei Air, yn eu hargyhoeddu hwynt am eu pechodau, ac yn eu goleuo hwy i weled y cyflwr colledig y maent yn∣ddo oi plegid hwynt, megis yr hargyhoeddodd ef y tair mîl ‖ 1.1706Iddewon trwy bregeth Petr. Oni bae eu bôd nhwy yn cael eu hargyhoeddu a'u goleuo fel hyn, pa fôdd yr ymgeisient am Iachawdwr? canys medd Christ, Nid rhaid ir iach wrth y meddyg,* 1.1707 ond y rhai cleifion.

Yn Nessaf, yn ôl eu * 1.1708 dychrynu hwynt â golwg eu pechodau, a'r cyflwr damnedig y maent ynddo oi plegid hwynt, y mae Duw, trwy Air yr Efeng∣yl, yn dangos iddynt yr help, a'r ymwared, ar sydd iw chael, trwy ffydd yn Ghrist,* 1.1709 megis y dangosodd ef i Geidwad y carchar, trwy bregethi∣ad Paul a Silas.

Yn Drydydd, y mae Duw trwy ei yspryd, ar ôl † 1.1710 goleuo pechaduriad, (yn y môdd y clywsoch) yn eu ‖ 1.1711 tynnu hwynt at ei fâb, ein Iachawdwr Iesu Ghrist.

Ac yno wrth draed ein Harglwydd Iesu Ghrist,

Page 280

(yr hwn y maent hwy yn ei weled â * 1.1712 llygaid ys∣prydol, er nad ydynt etto yn ei weled ef â llygaid cnawdol,) y mae y cyfryw bechaduriaid yn ‖ 1.1713 cy∣faddef eu pechodau, a'r ‖ 1.1714 cam y maent gwedi wneu∣thur â Duw, a'u heneidiau eu hunain trwyddynt hwy, fel y dangossir inni yn nammeg y † 1.1715 mâb afra∣dlon.

Ac yn awr, gan fôd * 1.1716 yspryd grâs a gweddiau wedi dywalltu arnynt, y maent â † 1.1717chalon ddrylli∣og, alarus am eu pechodau, (megis y ‖ 1.1718 wraig becha durus a olchodd draed Christ â'i dagre, ac fel y * 1.1719 Publican edifeiriol) yn deisyf yn† 1.1720brûdd er ‖ 1.1721mwyn Christ, ar i Dduw drugarhau wrthynt, a rhoddi maddeuant iddynt.

Ac heb law hyn, y maent hwy yn cywilyddio, (megis * 1.1722 Ephraim) am eu ffyrdd ddrygionus, ac yn † 1.1723 barnu eu hunain (megis ‖ 1.1724 Jacob a'r mâb a∣fradlon) yn annheilwng, (er * 1.1725 mwyn dim y sydd ynddynt eu hunain,) i dderbyn y trugaredd neu 'r ffafor lleiaf oddiwrth yr Arglwydd: ond y maent yn ymddiried ac yn † 1.1726 credu yn Nuw (me∣gis y ‖ 1.1727 wraig bechadurus a Cheidwad y carchar) rhai â ffydd wann, eraill a ffydd grŷf, y bydd iddo fe yn ôl addewidion yr efengyl, er * 1.1728 mwyn hae∣ddedigaethau Crist, drugarhau wrthynt, maddeu eu pechodau, bôd mewn heddwch a hwynt, a cha∣dw eu heneidiau.

A thrwy ‖ 1.1729 help yspryd Christ, y sydd y nawr Yn ‖ 1.1730 trigo ynddynt (ble buassei * 1.1731 Satan o'r blaen, tra oeddent feirw mewn camweddau a phechodau) y maent, nid yn vnig yn † 1.1732 ewyllyscar, ond hefyd yn ‖ 1.1733 alluog, (megis Dafydd a Zacheus) i droi o∣ddiwrth, ac i gasau eu pechodau, mewn meddwl, gair a gweithred, ac i † 1.1734ffieiddio eu hunain oi plegid

Page 281

hwynt, ac i fyw yn ôl rheol * 1.1735 gorchymynnion Duw. 1 Ioan 2.3.4.5.

Ac er bôd y † 1.1736 cnawd, sef yr hên nattur lygredig * 1.1737yn aros fŷth ynddynt hyd eu marwolaeth, etto y mae e wedi ei ‖ 1.1738 groes-hoelio, a'i farwhâu ynghyd â'i wyniau a'i chwantau, cyn belled, ac nad yw ef yn † 1.1739 teyrnassu neu yn rheoli ynddynt.

Ac yn lle yr * 1.1740 hên aflendid, a'r annuwioldeb, a'r anghyfiawnder, y mae grasussau yr yspryd glân, a ‖ 1.1741 hauodd efe yn eu calonnau hwynt, megis gostyng∣eiddrwydd, aeddfwynder, sobrwydd, cyfiawnder, ca∣riad at Dduw a'i Air, a'i bobl &c, yn gwreiddio, ac yn tyfu, ac yn † 1.1742ffrwytho, yn rhai * 1.1743 mwy, yn rhai llai, yn ôl y messur o iâs y dderbyniasant.

Ac pan y bônt, naill ai trwy eu * 1.1744 gwendid eu hunain, neu trwy † 1.1745 hocced Satan, neu hudoliaeth y ‖ 1.1746 bŷd, yn cwympo i bechod: Etto y maent (me∣gis Dafydd a Pheder) trwy * 1.1747edifeirwch yn cyfodi eilchwaith; Ac yn ymdrechu i vfyddhau, nid i rai o orchymynnion Duw, (megis y gwnaeth † 1.1748Saul Jehu, Herod ac eraill ddynion drwg) ond ir cw∣bwl (megis Zacharias, ac Elizabeth,‖ 1.1749) a hyny nid yn vnig oddi faes,* 1.1750 (megis y Scrifennyddion a'r pharisaeaid ac eraill Ragrithwyr) ond o'r galon (fel † 1.1751Paul a'r Rhufeiniaid duwiol) megis yngŵydd Duw chwiliwr y calonnan.

A hyn i gŷd y maent yn eu wneuthur, nid fel y Rhagrithwyr, er mwyn cael * 1.1752 clôd gan ddyni∣on, neu mewn tŷb eu bôd hwy trwy hynny yn haeddu bywyd tragwyddol; canys nhwy ŵydd∣ant na's gallant haeddu hynny, o herwydd bôd eu gweithredoedd goreu yn * 1.1753 ammherffaith; ac ob∣legid eu bôd hwythau, ar ol gwneuthur y cwbwl oll ac a orchymynnwyd iddynt yn † 1.1754 weision anfu∣ddiol,

Page 282

o ran haeddu 'r nefoedd a bywyd tragwy∣ddol ar law Dduw.

Ond y mae eu hufydd-dod hwy yn ‖ 1.1755 amcanu at ogoniant Duw yn ei ddiwedd, ac yn tarddu a∣llan o wîr * 1.1756 gariad atto, o herwydd iddo fe eu ca∣ru nhwy yn † 1.1757 gyntaf, trwy roddi ei vnig anedig a'i anwyl fâb, i ddodi ei fywyd i lawr trostynt i cadw nhwy, pan oeddent (trwy eu gweithredoedd drwg) yn ‖ 1.1758 elynion iddo, ac yn * 1.1759 haeddu dam∣nedigaeth tragwyddol yn nhân uffern ar ei law ef.

Y nawr y neb ac sydd fel hyn (yn fychain neu 'n fawrion) yn meddiannu yr Arglwydd Iesu, i glan∣hau hwynt â'i waed ac â'i yspryd, ydynt yn Ae∣lodau i Ghrist,* 1.1760 yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd: Ac nid yw y rhai sydd heb Ghrist, sef y sawl sy'n byw mewn pechodau ac annuwioldeb felly, er eu bedyddio â dwfr, oddi eithr mewn proffes, ac enw, ac yn ei tŷb eu hunain, ac ynghyfrif rhyw ddynion eraill: Ond y mae 'r cyfryw,* 1.1761 er ei bôd yn gristianogion ac yn blant i Dduw mewn proffes ac enw, etto mewn gwirionedd yn Elynion i Dduw, yn Blant ir Diawl, ac ar y ffordd i fôd yn Bentywynion tân vffern.

Fe fedyddiwyd Simon y Swynwr â Dwfr, ac yr oedd efe yn vn o'r Eglwys weledig: ac etto nid oedd efe na gwîr Aelod i Ghrist, na Phlentyn i Dduw,* 1.1762 nac Etifedd o Deyrnas nefoedd; canys y mae Pedr yn dywedyd, nad oedd ei galon ef yn vni∣awn ger bron Duw, ac ei fôd ef mewn bustl chwer∣wedd, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.

Os Dwfr y bedydd sydd iw ddeall yn y dry∣dydd o Ioan a'r bummed adnod, (fel y mae rhai yn tybied, er fod eraill (ar reswm crŷf) yn cym∣meryd y lle hwnnw mewn ystyr arall) etto y mae

Page 283

Christ yn dywedyd yno yn blayn ac yn eglur, oddi eithr geni dyn (nid yn vnig) o ddwfr, (ond hefyd) ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Ac medd yr Apostol Paul,* 1.1763 heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd; ac ni chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw:* 1.1764 A'r Sawl a ar∣weinir gan yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw, ac od oes neb heb yspryd Christ ganddo, nid yw hwnuw yn eiddo ef. Ac o herwydd hynny, ni ellir dywedyd fôd y rhai a fedyddiwyd â Dwfr, yn wîr Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, oni byddant heb law y bedydd dwfr wedi derbyn bedydd (hynny yw sancteidd∣iad) yr yspryd glân, a chymmhwysiad o waed Christ at eu heneidiau. Ac am hynny (mewn pôb tybygoliaeth) fe chwanegodd Mr. Prichard rass∣ol y geiriau pwysig hyn at eiriau 'r Catechism, Rwi ynghrist yn ore ynghyflwr.

Os gofyn neb gan hynny, Pa lesâd sy'n dyfod o fedydd dwfr? Yr wyfi yn atteb.

Yn gyntaf, Fe ddichon y gwîr Gristion, ac sydd yn deall ei fedydd, siccrhau ei hunan, oddiwrth y rhinwedd ac sydd (yn y rhan, a'r arwydd gweledig o'r Sacrament hon, sef) yn y dwfr, i lanhau y corph oddiwrth frynti oddi faes; fôd rhinwedd (yn yr anweledig ran o'r Sacrament, ac a arwy∣ddocair wrth y rhan weledig,* 1.1765 sef) yngwaed ac ys∣pryd Christ, i lanhau yr enaid oddiwrth frynti oddi fewn, sef oddiwrth euogrwydd ac halogrwydd pechod.

Yn ail, Fe ddichon y gwîr gristion er mawr gyssur idd ei enaid, edrych ar ei fedydd megis † 1.1766 sêl o faddeuant ei holl bechodau ef yn neilltuol; canys fe all siccrhau ei hunan, fôd gwaed ac yspryd Christ

Page 284

wedi gymmhwyso at ei enaid ef,* 1.1767 iw lanhau ef oddi∣wrth ei bechodau, mor siccr ac mor ddilys, ac y cymmhwyswyd y dwfr at ei gorph ef pan y bedy∣ddiwyd ef.

Yn drydydd, fe ddichon y gwîr gristion gael ei gynhyrfu oddiwrth ei fedydd,* 1.1768 (yr hwn a elwir yn fedydd edifeirwch) i ymlanhau fwy fwy, trwy gym∣morth yspryd Christ, oddiwrth pob halogrwydd cnawd ac yspryd,* 1.1769 gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn yr Arglwydd: canys wrth feddwl am ei fedydd,* 1.1770 fe ddichon gofio y rhwym, y ddodir trwy fedydd ar bobl i edifarhau, i farw i bechod ac i fyw i gyfiawnder, gan ddwyn ffrwythau addas i edifei∣rwch, er gogoniant i Dduw, a chyssur iw heneidiau eu hunain; Ac ble bo enaid a dim o wîr gristno∣grwydd ynddo, nid all ef lai, pan meddylio am y rhwym y ddodwyd arno nac ymdrechu cyflawni hynny, gan wybod nad oes dim iesto neu gytcam â Duw.

Rhai y fyn arwyddocau y rhwym hyn trwy ddo∣di 'r holl gorph dan y dwfr, a'i dderchafu ef i fy∣nu o'r dwfr wrth fedyddio; er fôd eraill yn gwy∣bod, megis ac y mae un tammaid o fara, ac vn llwy∣ed o wîn yn y Sacrament arall, yn ddigon i arwy∣ddocau y dirgeledigaethau ynddi, felly y mae gost∣wng y corph i fwrw ychydig o ddwfr arno (megis prîdd ar ddŷn marw) a'i dderchafu ef † 1.1771gwedyn, yn ddigon o arwydd i arwyddocau y rhwym a osodir mewn bedydd, i farw i bechod, megis y bu Christ yn farw dan y ddaiar am bechod, ac i gyfodi i fy∣nu i gyfiawnder a newydd-deb buchedd megis y cyfododd Christ o'r bêdd.

Yn Bedwarydd, pe iawn ystyriei pobl y rhwym a ddodwyd arnynt yn eu bedydd, fe allei hynny

Page 285

(trwy fendith Duw) daro dychryn ynddynt hwy, am eu bôd yn torri cyfammod a Duw, trwy esceu∣lusso byw yn ôl y rhwym y ddodwyd arnynt y pryd hynny; ac ar y dychryn hynny, hwy allent ddechre troi eu hwynebau tua 'r nefoedd, i geisio grâs a thrugaredd. O herwydd megis y mae drwg weithredwyr (er eu bôd yn gristianogion mewn enw) yn bwytta ac yn yfed barn iddynt eu hunain yn swpper yr Arglwydd, trwy fwytta ac yfed yn annheilwng mewn anwybodaeth a phechod:* 1.1772 felly trwy dorri 'r cyfammod a wnaeth Duw â nhwy yn eu bedydd, trwy esceuluso edifarhau am eu pe∣chodau, credu ynghrist, a byw yn ôl gorchymyn∣nion Duw fel y rhwymwyd hwy y pryd hynny; ond byw yn ôl ewyllys Satan, a drwg arfer y Byd, a phechadurus chwantau eu cnawd eu hunain, y rhai y rhwymwyd hwy iw gwrthod pôb yr vn, y maent megis anudon-wyr ar y ffordd i dynnu rha∣gor o ddialedd Duw ar eu gwartha, nag y mae y rhai na ddodwyd y rhwym hynny erioed arnynt.* 1.1773 Mi Gynghorwn gan hynny, ir Sawl sydd Dyngwyr, Rhegwyr, Putteinwyr, Gwatwarwyr, Cynfigenwyr, Rhagrithwyr, Cynhenwyr, Gorthrymwyr, Halogwyr, Sabboth, Esceuluswyr i addoli Duw (trwy weddi a mawl yn ddirgel, yn eu teuluoedd ac yn gyhoe adus) Dirmygwyr Gair Duw a sancteiddrwydd,* 1.1774 a phobl gristianogaidd, Meddwon, Beilchion, By∣dolion, Ffeilstion ar rhai Angnhabyddus o be∣thau rheidiol iw gwybod i iechydwriaeth, &c. Mi gynghorwn meddafi, ir rhain a'r cyfryw, ac y∣dynt gristianogion yn vnic mewn Enw a phroffes, os mynnant hwy fôd yn wîr Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw, ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, a chael cyssur oddi wrth eu Bedydd, ar iddynt droi at Dduw trwy * 1.1775 Iesu Ghrist â chalon † 1.1776 alarus am eu

Page 286

pechodau, gan ymroi i ddeisyf ei ‖ 1.1777 drugaredd ai ffa∣far ef, ac i * 1.1778gredu ynddo, ac i † 1.1779vfyddhau iddo, trwy adel eu ‖ 1.1780 ffyrdd ddrygionus, a byw yn dduwiol, yn sobr, ac yn * 1.1781 gyfiawn, o ddydd eu troedigaeth hyd † 1.1782 ddiwedd eu heinios.

* 1.1783Y mae Christ yn abl ac yn ewyllysgar i gadw 'r gwaetha o bechaduriad ac a droant atto, ac am hynny os bydd neb damnedig (fel y mae 'n siccr y bydd † 1.1784 miloedd) diolchent i neb ond iddynt eu hunain, Hos. 13.9.

Matter mawr pwysig yw hwn, ac am hynny ni e∣llwn ni lai na'i agoryd e'n helaeth, gan wybod ar v∣gain mlynedd o brofiad, ei fod e'n beth † 1.1785 anodd iawn i wneuthur pethau Duw yn blayn neu 'n eglur ddigon i ddealltwriaeth y cyffredin bobl. Ac o herwydd hyn∣ny yr wyfi yn gobeithio, y cymmer y duwiol Dyscedig fy helaethrwydd i mewn part neu ystyr da; yn enwe∣dig os ystyriant hwy, i mi gael fy arwain, i eglurhau y pwngc hwn yn y modd hyn, trwy ofn mawr ac oedd ynnwyf, y byddei ir anwybodus a'r cynddyn annuwiol, wrth ddarllain y man hyn o'r catechism gamsynnied a thybied, (heb feddwl dim am yr edifeirwch a'r ffydd, a'r ymwrthodiad a'r Diawl a'i holl weithre∣doedd, ynghŷd â gwagedd y Byd hwn, a phechadurus chwantau 'r Cnawd, a rhodio yn ôl gorchymynnion Duw holl ddyddie eu heinioes, ac y mae Eglwys Loe∣ger, yn y Catechism hwn, îe a Christ eu hunan yn ei Air, yn disgwyl am dano, oddiwrth y rhai y fedyddier pan ddelont i oedran) eu bôd hwynt hwy, o herwydd yn vnig eu bedyddio â dwfr yn Aelodau i Ghrist, yn Blant i Dduw,* 1.1786 ac yn Etifeddion o Deyrnas nefoedd, pan mewn gwirionedd nid ydynt felly, nes y troant at Dduw trwy Ghrist, oddiwrth eu ffyrdd ddrygionus.

Ni fynnwn ni er yr holl fyd, gan wybod pa mor

Page 287

werthfawr yw eneidiau pechaduriaid,* 1.1787 ac pa mor chwe∣rw ac echrydus fydd ymddangos o flaen Duw â gwaed pobl yn gorwedd arnom, ddanfon dim allan yn eu mysc, ac y allei fôd yn achos i twyllo nhwy, ac i beri iddynt fyned yn llawen tuag uffern,* 1.1788 gan dybied eu bôd yn Blant i Dduw pan nad ydynt, ac felly ymgaledi eu hunain yn eu drwg, trwy ddywedyd heddwch wrth eu calonnau eu hunain, pan nad yw Duw yn dywedyd mo hynny wrthynt.

Or dwyd ti (Ddarllenydd anwyl) yn tybied, nad wyfi gwedi scrifennu ymma ond fy marn fy hûn yn hyn o beth, mi attolygaf arnat ti wneuthur megis y gwnaeth y † 1.1789Beraeaid ag athrawiaeth Paul, sef profi 'r cwbwl wrth y scrythyrau sanctaidd: canys ni cheisiaf i gennit ti gredu mo honofi, ond cyn belled ac yr yd∣wyfi yn dywedyd yn gyttun â hwynt hwy.

Ac yr wyfi yn gobeithio fôd dy reswm dy hûn yn dy ddyscu di, Ei fôd e'n Ddyledswydd yn gorwedd arnat ti, i gredu pôb peth ac y mae Duw yn ei Air yn ei ddatcuddio, pa fôdd bynnag y dodir hynny o'th flaen di. A thydi y Cymro vn-iaith, Deisyf ar ryw un medrus, i gyfiethu i ti y peth sy'n canlyn yn Saesneg, yr hyn y mae Escob duwiol dysc∣dig, sef Escob Nicholson o Gaerloyw yn ei ddywedyd yn y matter hwn, wrth agoryd ac ecsponio y Catechism hyn: canys y mae efe yn dangos (mewn ychydig o eirian) pa rai (yn sens neu ystyr y Catechism) yd∣ynt wir Aelodau i Ghrist, Plant i Dduw ac Etife∣ddion o Deyrnas nefoedd. Ac felly bydd wŷch

S. H.

Page 288

The Right Reverend Bishop of Glocester, in his Exposition of the Catechism of the Church of England, saith thus, Page 15.

1. A Member of Christ.

* 1.1790 That is, to be reckoned Christians: for Christ is the head of the Church, and all Christians the body, of which every one that professeth Chri∣stian Religion is a part, and is so to be esteemed. But these parts are of two sorts.

* 1.17911. Either Aequivocal parts, so taken and re∣puted by us, such as are a Glass-Eye, or a Wood∣en-Leg to a Man, which are so called, but truly are not such: and whosoever profess the super∣natural verities revealed by Christ, and make use of the holy Sacraments, may in this sense be called the Members of Christ, because they are reckoned for parts of his visible Body.

2. Or Ʋnivocal parts, That in name and na∣ture are true Believers,* 1.1792 which are indeed the true Members of Christ: and do belong unto his My∣stical Body, and receive from him, as from their Head, life, sense and motion. They are united to him, live in him, and are informed by his Spi∣rit. They are washed and regenerated by his Blood. And they have his Righteousness impu∣ted unto them, By which they are freed from the guilt and punishment of Sin. This the Apostle teacheth, 1 Cor. 1.30. But of him ye are in Christ Jesus, who of God is made unto us, Wisdom, Righ∣teousness, Sanctification, and Redemption.

Page 289

And to these last only, the two next Priviledges belong: to be, first, A Child of God:

"2dly, An inheritor of the Kingdom of Heaven.

Hol.
Pa beth yw'r llw a'r Ammod, Y wnaeth dy feiche drossod, Pan derbyniaist hyn o fraint, Ym-mhlith y Sainct trwy gymmod.
At.
Addawsant dri pheth drossof, Nas gadaf byth yn angof, Ond mi cadwaf hwynt i gyd, Trwy Dduw tro bywyd ynof.
Hol.
Beth ydyw 'r tri pheth hynny, Addawsant id' gyflawni, Pan yr oeddyt mor ddirym, Mynega im os medru.
At.
1. Yn gynta bôd im wrthod,Line 1 Y Diawl, a'i dwyll, a'i gymmod, A'r bŷd anwir, mawr ei wawd, A chwanteu 'r cnawd a'i bechod.
2. Yn nessa bôd im gredu,Line 2 Holl bwngcie ffydd Christ Iesu, Y rhai 'n y Gredo, bôb yr vn, All bôb rhyw ddŷn ei dyscu.
3. Yn drydydd cadw 'n † 1.1793 garccysLine 3 orchmynnion Duw a'i 'wllys, A byw 'n ei hôl yn dda fy moes, Hôll ddyddie f'oes yn weddys.
H.
Beth ydwyt ti yn dybied? A'th rwymwyd di cyn gaethed; Ac y rhaid itt' gredu hyn, A'i cwpla 'n dynn trwy weithred.

Page 290

A.
Yn wir rwi 'n rhwym i gredu, Ac hefyd i gyflawni Hyn i gŷd, a hynny wnâf, Trwy nerth Duw Nâf heb ffaelu.
Ac yr wyf yn ddiolchgar, Im Duw am gymmaint ffafar, Am galwodd i ir cyfryw stâd, Yn Ghrist fyng Heidwad hygar.
Ac mi t'olygaf arno, Roi grâs im byth i drigo, Yn y cyfryw stâd trwi byw, Nes tynno Duw fi atto.
H.
ADrodd immi yn bryssur Holl fannau 'th ffydd yn eglur: A mynega im ar llêd, Beth yw dy Gred ath hydyr.
A.
RWi 'n credu yn Nuw galluog, Tâd Jesu Grist drugarog, Creawdwr nêf a daer a dwr, A'u pen Rheolwr enwog.
* 1.1794Yr wyfi 'n credu hefyd. Yn Ghrist fy Mhrynwr hyfryd Y wnaed yn Ddŷn o'r wyryf Fair, Trwy râd ei † 1.1795 ddiwair yspryd.
Yr hwn a wîr ddioddefwys, Dros ddŷn dan Bons Pilatwys: Ac a hoelwyd ar y groes, Nes marw o'r loes a'i lladdwys.
A chwedi marw ar Groes-pren, Fe gladdwyd yn y ddaeren: * 1.1796Fe ddiscynnodd er ein mwyn, I vffern dwym, aflawen.

Page 291

Ar trydydd dydd fe gododd,* 1.1797 O farw llei gorweddodd, Gwedi Gorfod Angau glâs, A'r Gelyn câs a'n twyllodd.* 1.1798
Ac yno fe dderchafwys, Ir drydedd nêf yn gymmwys, Llei heiste nawr ar law ddê 'r Tâd,* 1.1799 yn Geidwad idd i Eglwys.
O'r Nêf fe ddaw yn hoyw,* 1.1800 I farnu r byw a'r meirw, Mewn gallu a gogoniant mawr,* 1.1801 Pan dêl yr awr i'n galw.* 1.1802
Rwi 'n credu 'n ffyddlon hefyd, Ir Glân a'r Sanctaidd yspryd,* 1.1803 Sy'n deilliaw oddwrth y Tâd a'r Mâb, Gwîr Roddwr Rhâd a Bywyd.
Rwi 'n credu yn * 1.1804 suwredig, Fôd † 1.1805 Eglwys lân ‖ 1.1806 Gatholig, O bôb * 1.1807 Nasiwn, oes a thîr, Gan Ghrist yn wîr gadwedig.
Rwi 'n credu bôd yn gyngan, I bawb o'r Saint eu cyfran, Yn Jesu Grist ein Prynwr drûd, Ai ddoniau' gŷd yn gyfan.
Rwi 'n credu bôd maddeuant, I bawb a wir 'ddifarant,* 1.1808 Er mwyn Mab Duw a dalodd iawn, Tra chyflawn am ei nwyfiant.
Rwi 'n credu Adgyfodiad,* 1.1809 Im Cnawd pan del yr † 1.1810Vnad, A'i vdcorn mawr i'n codi o'r llywch, I gyfri cywch ar lleuad.

Page 292

* 1.1811Ac yr wi 'n credu 'n hollol, Fôd Bywyd mawr tragwyddol, * 1.1812I holl Blant Duw a'r Saint ynghŷd, Yn ôl y Byd presennol. Amen.
H.
Pwy * 1.1813 bethau 'n benna ddyscaist, O'th Gredo 'rhon adroddaist? Cais grynhoi yn fyrr ynghyd Ffrwyth hyn i gyd a draethaist.
A.
Rwi 'n dyscu credu 'n gynta, Yn Nuw 'r gwîr Dâd gorucha, * 1.1814Rhwn a'm creawdd a'r hôll Fŷd, Mewn dull a phrŷd o'r glana.
Yn ail yr wyf yn credu, Yn Nuw 'r Mab f'Arglwydd Jesu, A'm Prynodd i a phôb rhyw ddŷn, A'i waed ei hun i'n helpu.
Yn drydydd credaf hefyd, I Dduw 'r Sancteidd-lan yspryd, * 1.1815Am Sancteiddiodd a phob rhyw, Etholodd Duw i fywyd.
H.
Di addewaist trwy feicheon, Lwyr gadw 'r holl orchmynnion: Pa sawl vn o'r rhain y sydd, Iw cadw 'n brûdd o'r galon?
A.
Mae dêg gorchymmyn croyw, Y roes Duw inni cadw: Nid oes torri vn o'r rhain, Rhag mynd yn gelain farw.
H.
Pa rai er Christ yw rheini? Moes glywed, praw eu henwi: Cais fyw 'n sanctaidd yn eu hôl, A gwna hwy 'n Rheol itti.

Page 293

A.
Y rhai ar fynydd Sina, A draethodd Duw gorucha, i enau hun o'r tân a'r mwg, Yng olwg ei gymmanfa.
A'r rhai trwy ddwylo Moesen, Y roes Duw ar ddwy * 1.1816 dablen; Gwedi † 1.1817 printio â'i fys ei hun, Yn hawdd i ddŷn i darllen.
Y rhai sydd ddigon eglur, Iw tynnu maes o'r Scrythur, O'r ugeinfed bennod dlws, O Exodus gymmessur.
H.
Beth yw 'r Gorchymyn cynta, Ar ail a'r llaill? mynega: Praw eu traethu cymmain-hûn, Yn oed yr vn diwetha.
A.
1. MYfi yr holl-alluog,Line 1 Yw d' Arglwydd Dduw trugarog: Na fyn vn Duw ond myfi Sydd vn a thri galluog.
2. Na wna un Ddelw itti,Line 2 Cerfiedig iw haddoli; Na llûn dim o'r Nêf na'r Ddaer, Na'r Dwr, na'r * 1.1818 Aer im † 1.1819 Siommi.
Na oftwng i'r fath wagedd, Na ddola 'r fâth oferedd; Pridd, a choed, a cherrig * 1.1820 ŷn, Gwaith dwylo dŷn a'i fyssedd.
Cans myfi d' Arglwydd grymmus, A'th * 1.1821 Jôr wyf Dduw eiddigus, Sy'n ymweld a phechod cant O dadau, ar Blant camweddus.

Page 294

Ac yn rhoi cospedigaeth, Hyd dair oes a chenhedlaeth, O'r rhai sydd yn fy nghasau, Trwy garu gau addoliaeth.
Gan ddangos trugareddau, I'r sawl a gatwo 'n neddfau, Ac idd eu Plant a'u hâd a'u hîl, Hyd fil o Genhedlaethau.
3. Nac Enwa Dduw vn amser,Line 3 Heb ofon, parch a phryder; Cans nid gwirion yw dy lw, Os cymru ei Enw 'n ofer.
4. Cofia gadw yn sanctaiddLine 4 Y Sabboth wenn yn weddaidd, A threulio 'r Sûl tra fech di byw, Yn Addoli Duw 'n gristnogaidd.
Fe rows Duw chwech diwrnod, Id weithio d'orchwyl * 1.1822 priod: Y seithfed Dydd rhaid cwympo 'n faith, I weithio gwaith y Drindod.
Ar y diwrnod hwnnw, Na wna ddim gwaith serch marw, Na'th fâb, na'th ferch, na'th wâs, na'th farch, A'r dierth arch i gadw.
O achos mewn chwech die, Y gwnaeth Duw 'r Bŷd a'i bethe, A'r nêf, a'r Ddaer, a'r môr, a'u llû, A'r cwbwl sŷ'n eu * 1.1823 dible.
A'r seithfed dydd f'orphwysodd; Gan hynny fe fendithiodd, Yr Arglwydd Dduw y seithfed dydd, Ac ef a'i prûdd sancteiddiodd.

Page 295

5. Rho barch a gwîr vfydd-dod;Line 5 I'th Dâd a'th fam yn wastod, Fel 'hystynno Duw yn hir Dy oes ar dir dy drallod.
6. Gwachel ladd vn Christion,Line 6 Na thywallt gwaed y gwirion: Gwaed y lêf yn dôst ei lais:* 1.1824 Duw ddial trais llofruddion.
7. Na wna odineb aflan,* 1.1825Line 7 Gwna 'n fawr 'oth wraig dy hunan: Yf dy ddwr o'th * 1.1826 winsh dy hun, Na chwrdd ag vn oddiallan.
8. Na ledratta † 1.1827 fymryn,Line 8 Trech byw, o olud vn-dyn: Na thwylla neb: nac arfer drais, * 1.1828Serch godde clais a newyn.
9. Na fydd di dŷst celwyddog,Line 9 Yn erbyn dy gymmydog: Dywaid wîr am bob rhyw ddŷn: Na * 1.1829 sclawndra vn di-euog.
10. Na chwennych dŷ cymmydog,Line 10 Na'i wraig, na'i wâs calonnog: Na'i forwyn wenn, na'i farch, na'i ŷch: Na dim na bych perchennog.
O Arglwydd Dduw bydd dirion,* 1.1830 wrth bawb o'th Blant, a'th weision; Gostwng di 'n calonne 'n faith, I gadw 'th gyfraith gyfion.
O Arglwydd grasol madde Ein pcchod â'n trossedde; A scrifenna 'r gyfraith hon, Ar leche ein calonne.

Page 296

H.
Beth wyt ti 'n ddyscu 'n benna, O'r gyfraith hon? mynega; A rho im yn gryno 'nghyd Ei ffrwyth i gyd yn gwtta.
A.
Rwi 'n dyscu dau beth enwog, Fy nau ryw ddyled serchog, Vn tuag at fy Arglwydd Dduw, Llall at pob rhyw gymmydog.
H.
Yn gynta moes im glywed, Yn gyflawn beth yw 'th ddyled, At yr hôll-alluog Dduw, Sy'th rwymo i fyw yn gystled.
A.
* 1.1831Fy nyled at Dduw cyfion, Yw credu yndo 'n ffyddlon, A'i ofni 'n fawr trwy barch a ffydd, A'i garu 'n brûdd o'm calon:
* 1.1832Yno i wîr addoli,* 1.1833 Fel y mae Air yn erchi: * 1.1834A'i fendithio bob yr awr, Am dan ei fawr ddaioni:
A llwyr ymddiried yndo, A galw 'n gywir arno, Perchi Air, a'i Enw 'n brûdd, A bod yn vfydd iddo:
Ac felly ei Anrhydeddu, Yn gywir ei wasnaethu, Ddydd a nos tra ynof chwyth, Ar eitha byth o'm gallu.
H.
Beth yw dy ddlyed enwog Tuag at bob rhyw gymmydog? Moes i glywed immi 'n glur, O galon bur yn rhwyog.

Page 297

Fy nyled at gymmydog, Yw garu 'n daran serchog,* 1.1835 Fel y caraf fi fy hun, Pyt fae fy ngelyn llidiog:
A gwneuthur i bôb Christion,* 1.1836 Fel y dymune nghalon, Iddynt hwythe wneuthur im, Heb ddangos * 1.1837 llym fessuron:
A charu fy Rhieni, A'u cymmorth hwy a'u Perchi: A gwneuthur heb ddim nâg, na sôn, Bôb * 1.1838peth a fôn yn erchi:
Ac vfuddhau i'r Brenin,* 1.1839 A'i swyddwyr sy'n f'amddiffyn: A'i anrhydeddu trwy fawr barch, A gweithio ei Arch yn ddiflin:
A gostwng im dyscawdwyr,* 1.1840 Athrawon a chynghorwyr, Sy'n cyfrwyddo immi fyw, Wrth wllys Duw a'r scrythyr:
A pherchi mawr a bychan* 1.1841 O'm gwell o bôb rhyw oedran, Ac ymostwng iddynt hwy, Heb wneuthur mwy o dwrddan:
Ac na wnelwyf niwed,* 1.1842 I nêb ar Air na Gweithred, Na dwyn câs at vn rhyw ddŷn; Na chlwyfo vn ar aned:
A chadw 'nghorph yn dempraidd,* 1.1843 Yn sobor ac yn sanctaidd, Rhag pôb rhyfyg fel rhag * 1.1844 plag, Yn † 1.1845 ddiwair ac yn weddaidd:

Page 298

* 1.1846A chadw 'n nwylo 'n benna, Rhag whiwo a lledratta, Ac rhag gwneuthur twyll na cham, Ond gweithio am eu bara:
* 1.1847A chadw 'nhafod beunydd, Rhag cabledd, twyll, a chelwydd, Ac rhag dwedyd drwg am neb, Fel † 1.1848 ethnic heb ei fedydd:
A chadw nghalon angall, * 1.1849Rhag chwennych golud arall; Ond trafaelu wrth fôdd Duw, I geisio byw yn ddiwall.
* 1.1850Addysg. Gwybydd hyn yn eglur, Nad wyt ti 'n abal gwneuthur, * 1.1851Hyn i gŷd o'th rym dy hun, Lle 'rwyti 'n ddŷn pechadur.
Ni elli gadw 'r Gyfraith, Na rhodio yndi 'n berffaith, * 1.1852Na gwasnaethu Duw 'n ddifrâd Heb gael ei Râd ef († 1.1853 f'anrhaith)
Gan hynny rhaid id ddysgu, Trwy weddi attolygu, Ar Dduw mawr o hyn i mâs, Roi nefawl Râs i'th helpu.
H.
Moes glywed im gan hynny, A fedru di fynegu, Gweddi 'r Arglwydd yn ddibaid? Ond ê mae 'n rhaid ei dysgu.
A.
EIn Tâd o'r drydedd Nefoedd, Ein Tâd trwy Grist a'n prynodd, Sancteiddier byth dy enw mawr, Gan bawb (bob awr) o'th lûodd.

Page 299

Dewed dy deyrnas rasol, I'n plith, dy Blant, dy bobol, A rheola ni bob pryd, A'th Air a'th yspryd nefol.
Dy wllys di wnel dynion, Ar dîr ym-mysg daerolion; Fel 'n y Nêf y gwnair heb nâg, Gan † 1.1854 Thronau ag Angelion.
Rho heddyw inni fwytta, Bob rhai 'n beunyddawl fara, A phob peth sydd raid i ni 'th wasnaethu di 'r Gorucha.
A maddeu i ni 'n pechode, Fel y maddeuom ninne, I'r sawl a wnaethont lawer gwaith, I'n herbyn faith drosedde.
Nac arwain ni yn ddirgel, I brofedigaeth vchel: Ond gwared ni, rhag pôb drwg † 1.1855 ffawd, O'r Byd, a'r Cnawd, a'r Cythrel.
Cans tydi bie 'r deyrnas, A'r nerth a'r gallu o gwmpas, A'r gogoniant ôll i gyd, Hyd ddiben Byd yn addas. Amen.
H.
Beth wyt ti yn ei geisio, Gan d' Arglwydd wrth weddio, Yn y weddi fychan hon, Gan droi d' olygon atto?
A.
Yn gynta 'r wyfi 'n erchi, Ar f' Arglwydd, Tâd goleuni, Roi ini râs tra fom ar dîr, Bob rhai i wîr addoli.

Page 300

Gwedin † 1.1856 'r wyfi 'n * 1.1857 eiriol, Am bôb peth anghenrheidiol, I'r eneidie a'r cyrph ynghyd, Tra ni 'n y bŷd presennol:
A madde ein hôll ddrygioni, Ein beiau ôll a'n gwegi, A thrugarhau wrth bawb ar llêd, A wnelont niwed inni:
A'n cadw yn ddihangol, Rhag pob rhyw bechod ‖ 1.1858 marwol, A phob † 1.1859 perig, a phob * 1.1860 plâg Corphorol ag ysprydol.
A hyn yr wi 'n ‖ 1.1861 obeithio,* 1.1862 Y wna fy Nuw heb beidio, Er mwyn ei fâb fy Mhrynwr gwyn Y gaiff † 1.1863 fy nghanlyn gantho.* 1.1864
H.
Attebaist hyn yn gymmwys, Mynega im cyn gorphwys, Pa sawl Sacrament di-drist, Ordeiniodd Christ iw Eglwysi?
A.
F' ordeiniodd ddau 'n ei fywyd, Tra rheidiol at ein Jechyd: Y cynta o'r ddau yw bedydd pûr, Yr Ail yw 'r Swpper hyfryd.
H.
O dwyt ti yn deallu, Dymunwn it hyspyssu, Beth yw Sacrament yn bûr? Mynega 'n glûr os medru.

Page 301

Mae 'n Arwydd * 1.1865 plaen gweledig, O ddirgel ras † 1.1866 arbennig; Trwy 'r hwn y rhoddir Christ ei hun, Ai ddonie i ddŷn cadwedig.
H.
Pa nifer sydd o rannau, Ym-mhawb o'r Sacramentau? Maneg im ar goedd y plwy, A dangos bwy yn olau.
A.
Mae † 1.1867dwy ran amlwg meddynt Ym mhob yr vn o honynt, Yr Arwydd amlwg or tu fâs, A'r dirgel râs sydd ynddynt.

I hyn yr wyfi yn Atteb, fôd ein Harglwydd Jesu Ghrist yn dywedyd llawer am dano ei hu∣nan, ac sydd iw ddeall, nid yn llythrennol, ond yn ysprydol, trwy † 1.1868 Droedigaethau, hynny yw, dull o ymadroddion, trwy ba rai y mae geiriau yn cael

Page 302

eu troi o'u sens neu hystyr * 1.1869 priodol, i nodi ac i ddodi allan pethau eraill.

* 1.1870Felly y mae efe yn dywedyd am dano ei hu∣nan, Myfi yw 'r ffordd, Myfi yw y drŵs, Myfi yw y wîr winwydden: Ac y mae Joan yn ei alw ef yn Oen, Paul yn ei alw ef yn Graig, Ac arall yn ei alw ef yn Llew: A pha ham hynny? ond o herwydd bôd rhyw gyffelybiaeth rhwng Christ a'r pethau hyn.

Yn yr vn môdd, o herwydd bôd yn y Bara a'r Gwîn rhyw rinwedde, ac (fel yr harferir hwy yn Swpper yr Arglwydd) ryw bethau eraill iw yst∣yried (megis torriad y Bara, a thywalltiad y Gwîn a'u derbyniad &c) ac sydd yn dra chymmwys i ddodi Christ allan, fel y mae ese yn Geidwad iw bobl; fe ryngodd bôdd iddo fe oblegit hynny, i roddi enwau ei Gorph a'i waed bendigedig iddynt hwy

Y mae y Bara a'r Gwîn yn Swpper yr Arglwydd yn ei ddodi ef i maes fel hyn.

Yn Gyntaf, megis y mae 'r Bara a'r Gwîn yn ym∣orth ir Corph: Felly y mae Christ ir Enaid.

Yn Ail, megis yr ydys yn torri 'r Bara, ac yn tywalltu allan y Gwîn i ymborthi 'r Corph: Felly fe dorrwyd Corph Christ â'r Goron ddrain, a'r hoelion, ac â'r wayw-ffon, ac fe ddrylliwyd ei e∣naid ef â digofaint Duw, (pan yr oedd efe yn chwy∣ssu 'r Gwaed, ac yn llefain, Fy Nuw fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?) ac fe dywalltwyd ei waed ef i fôd yn ymborth i Eneidiau ei bobl.

Yn Drydydd, megis y mae 'n rhaid derbyn, a bwyt∣ta'r Bara, ac yfed o'r Gwîn, a'u gadel hwynt i fyned i mewn ir cylla cyn y gallant ymborthi 'r Corph: Felly y mae 'n rhaid, os mynnwn ni gael Christ

Page 303

i ymborthi ein Eneidiau (nid yn vnig ei broffessu ef â'n Tafodau, gan ddywedyd Arglwydd, Arglwydd,* 1.1871 ond hefyd) ei dderbyn ef trwy ffydd i'n calonnau, gan ymddiried yndo fel ein hunig Offeiriad, y cawn ni er mwyn yr offrwm a offrymmodd efe (sef ei enaid a'i gorph ei hun) yn iawn iw Dâd am ein pechodau, faddeuant am danynt hwy, Hedd∣wch Duw, Rhyddhâd rhag damnedigaeth, a Byw∣yd tragwyddol yn y nefoedd.

Ac fel y dylem ni dderbyn Christ i fôd ein O∣ffeiriad a'n Cyfryngwr rhyngom a Duw: felly y dylem ni ei dderbyn ef, i fôd ein ‖ 1.1872 Prophwyd ni, i'n dyscu ni â'i * 1.1873 Air ac â'i † 1.1874 yspryd, ac i fod ein ‖ 1.1875 Brenin ni, i gael vfydd-dod o'r galon oddiwrthym idd ei holl orchymynnion ef holl ddyddiau ein by∣wyd, gan droi oddi wrth, a ffieiddio, a chasâu ein holl ddrwg feddyliau, ein holl ddrwg eiriâu, a'n holl ddrwg weithredoedd.

Y nawr pan cymmerir swpper yr Arglwydd, y mae Christ trwy y † 1.1876 Gweinidog yn galw ar ei bobl o newydd i gymmeryd ef, i dderbyn ef, i fwytta ei gorph ef, ac i yfed ei waed ef ac y mae y Bara ar Gwîn yn ei arwyddocau.

Ac y mae 'r Derbynwr grassol, teilwng, trwy † 1.1877 ffydd yn derbyn Christ yn * 1.1878ysprydol iw galon, pan bo 'n derbyn y Bara a'r Gwîn iw ‖ 1.1879 gorph: Er nad yw y dŷn anrassol y pryd hynny, yn derbyn dim ond yr arwyddion oddi allan, i wneuthur ei ddamnedigaeth yn † 1.1880 fwy, oblegid nad yw efe yn derbyn Christ iw galon fel y mae Duw yn ei gyn∣nig ef.

Ac fel y dichon y Derbynwyr teilwng edrych ar y Bara a'r Gwîn yn y swpper sanctaidd, fel yn

Page 304

Arwyddion o Gorph a Gwaed Crist, ac offerynnau i ddwyn ef yn ysprydol iw calonnau hwynt: felly hwy allant edrych arnynt, megis ar sêl i siccrhau hwynt, mai megis ac y mae 'r Gweinidog yn rho∣ddi iddynt y Bara a'r Gwîn, sef y rhan weledig o'r Sacrament: Felly y mae Duw ar ei ran ef, yn rhoddi iddynt y rhan anweledig o honi, sef Christ a'i ddo∣niau,* 1.1881 hynny yw maddeuant pechodau, cyfiawnhâd heddwch Duw, a bywyd tragwyddol (y bwrcassodd efe idd ei bobl trwy ei gyfiawnder a'i ddiodde∣faint,) gan eu bôd nhwy ar eu rhan hwythau, yn wîr * 1.1882 ewyllysgar i derbyn hwynt.

Weithian, gan fôd y Bara a'r Gwîn yn swpper [ 1] yr Arglwydd, yn y môdd ac y clywsoch yn Ar∣wyddion i Arwyddocau Corph a Gwaed Christ, yn [ 2] Offerynnau i ddwyn ef ir enaid yn hytrach nag o'r [ 3] blaen, ac yn Sêl i siccrhau ei roddiad a'i dderbyniad ef, au holl ddoniau anghenrheidiol i iechydwriaeth ir credadyn edifeiriol ac vfydd; fe welodd Christ yn dda oblegit hynny, i galw hwynt hwy wrth yr yr enwau o'i Gorph a'i Waed bendigedig ei hun.

Fel hyn mi roddais i chwi sylwedd (neu sub∣stance) ein hathrawiaeth ni y Protestantiaid yn y matter ymma, wedi seilio a'r y scrythurau san∣ctaidd, ac yn ol barn Eglwys Loeger yn y catechism hwn; yr hon athrawiaeth y ddarfu i † 1.1883 ferthy∣ron Christ o'r ynys hon ei feilio a'i gwaed, yn er∣byn y Papistiaid yn amser y frenhines Mary.

Ac yr ydym ni yn cael ein harwain i gredu fel hyn;

Yn gyntaf, o herwydd roddi o Dduw gynt; enw ei gyfammod sanctaidd o râs i arwydd y cy∣fammod, sef yr enwaediad; canys fel hyn y mae 'r Arglwydd yn dywedyd; yn y ddwyfed ar bym∣theg o Genesis,

Page 305

10. Dymma fyng-hyfammod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th hâd ar dy ôl di: enwaedir pôb gwryw o honoch chwi. 11. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn Arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau. 13. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragwyddawl.

Yr oedd Duw yn arwyddocau ac yn selio trwy 'r enwaediad ddodi ymmaith pechod (neu gyfiawn∣hâd) trwy ollyngiad gwaed Christ ac oedd i ddy∣fod: (Canys fe elwir † 1.1884 arwydd yr enwaediad yn in∣sel cyfiawnder ffydd.) Ac heb law hynny, yr oedd Duw yn arwyddocau ir rhai enwaededig y rhwym yr ydoedd efe yn ei osod arnynt hwy, sef i * 1.1885 en∣waedu ei calonnau trwy ymwrthod a'u pechodau.

Ac ymma chwi glywch alw y Sacrament hon, sef yr Enwaediad, ac oedd yn vnig yn Arwydd a sêl cyfammod Duw (sef y cyfammod o râs ag Abraham a'i hâd) wrth yr enw o'r Cyfammod ei hunan.

Pa ryfeddod yw e gan hynny, i'n Iachawdwr Christ Alw y rhan weledig o'r Sacrament hon, sef y Bara ar Gwîn yn y Swpper Sanctaidd, wrth yr enwau o'i Gorph a'r Waed, ei hun, er nad ydynt ond yn vnig yn arwyddion o hynny, a Sêl yr vn cyfammod o râs, ac yr oedd yr enwaediad yn fel iddo, ac megis y plifgyn i ddwyn y enywllyn, sef Christ a'i ddoniau yn ysprydol i galonnau er bobl.

Nid yw e ddim peth newydd a dieithr yn y scry∣thyrau, i arferid amryw † 1.1886 droedigaethau ar eiriau, ac yn enwedig, i alw yr arwydd wrth enw y peth ymae e yn ei arwyddocau; megis y mae Joseph, wrth ddeongli breuddwyd Phardo, yn galw y

Page 306

faith o wartheg têg, a'r saith dywysen dêg (Arwy∣ddion o saith mlynedd o amldra) wrth yr enw o'r faith mlynedd hynny ac oeddent yn eu harwyddocau:* 1.1887 A'r vn môdd y mae efe yn dywedyd am y saith o dywys teneuon, a'r saith o wartheg culion, mae saith mlynedd oeddent; er mewn gwirionedd ymadrodd, nad oeddent hwy ond Arwyddion o saith mlynedd o newyn, ac oedd i ganlyn y saith mlynedd o amldra.

Yn yr vn môdd y mae 'r Apostol Paul yn galw Christ yn Graig, er nad oedd efe felly yn llythe∣renol,* 1.1888 ond yn ysprydol, megis y peth a arwyddo∣cawyd wrth y graig honno, o ba vn, ar ol ei tharo gan Moses,* 1.1889 y daeth Dwfr allan (arwydd o ddwfr y bywyd yn dyfod allan o Ghrist, ar ol ei dara a'i gystu∣ddio) i ddiodi'r gynnulleidfa yn yr anialwch.

Felly y mae Christ yn galw y cwppan wrth yr enw o'r Testament newydd, gan ddywedyd, y cwp∣pan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch.* 1.1890

Yn y gair Cwppan y mae Metonymia, trwy ba droedigaeth ar eiriau, y rhoddir enw y peth cyn∣nwysedig ir peth sydd yn ei gynnwys ef.

Os ystyriwn ni mai ewyllys neu Destament Christ ar farw oedd,* 1.1891 ar iw bobl ef gael tywalltiad o'i yspryd ef arnynt, Maddeuant pechodau trwy ei maed ef, He∣ddwch Duw, rhyddhâd rhag y ddamnedigaeth vffer∣nol ddyledus iddynt hwy am eu hanwireddau, ac hefyd bywyd tragwyddol yn y nefoedd; ni ellwn yn hawdd ddeall, mai nid y cwppan oedd yn llytherenol y Testament newydd: ond bôd y cwppan yn cyn∣nwys y peth hynny ynddi yn ysprydol (sef gwaed Christ ac oedd y gwîn yn ei arwyddocau) ac oedd yn sail neu achos o'r Testament hwnnw.

Ac fel hyn y rhoddir enwau Gwledydd a Thre∣fydd

Page 307

yn cynnwys pobl, ir bobloedd sydd drigian∣nol a chynnwysedig ynddynt, fel y dywedir fyned allan at Joan fedyddiwr, Jerusalem, a holl Judea,* 1.1892 a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen, a hwy a fedy∣ddiwyd ganddo ef yn yr Jorddonen.

Beth † 1.1893 ardolwyn a fedyddiwyd gan Joan? Ai Tref Ierusalem, sef y Tai, a'r heolydd, a'r pyrch, a'r * 1.1894 gwelydd a adeiladwyd, ynghyd? Ai ynte y bobl oedd yn trigo ynddi? A phan bedyddiwyd Judea, a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen; Ai 'r glen∣nydd a'r meusydd &c. ai ynte y bobl oedd yn dri∣giannol, ac yn gynnwysedig yn y wlâd honno a fe∣dyddiwyd y pryd hynny? Yn ddiau y bobloedd ac oedd yn trigo ac yn gynnwysedig yno, ac nid y lleoedd ac oedd yn eu cynnwys hwynt: ac o her∣wydd hynny y mae e'n eglur, roddi o'r yspryd glân ymma enwau y lleoedd ir bobloedd.

A chan fôd y peth hyn yn arferedig yn y Scry∣thurau i roddi enw vn peth dros y llall, a hynny ym matter Sacrament, yn gystal ac mewn matte∣rion eraill, ni ellir edrych arno megis yn beth afre∣symol yn bôd ni fel hyn yn ecsponio, ac yn rhoddi 't fâth sens neu ystyr ac y glywsoch chwi i eiriau ein Jachawdwr Christ, wrth roddi ei swpper san∣ctaidd, Pan ddywedodd efe am y Bara, Hwn yw fy nghorph, ac am y Gwîn, Hwn yw fy ngwaed; yn en∣wedig os ystyriwch chwi, na ellir mewn vn môdd gymmeryd y geiriau hynny mewn vn sens neu ystyr arall.

Nis gellir cymmeryd y geiriau yn llytherenol, fel y mae 'r Papistiaid yn eu cymmeryd hwynt,

Yn Gyntaf, o herwydd bôd ein Harglwydd Jesu Ghrist pan y dywedodd ese y geiriau hyn am y Ba∣ra, Cymmerwch, Bwyttewch, hwn yw fy nghorph, ac

Page 308

am y Gwîn, hwn yw fy ngwaed, y pryd hynny, yno wrth y ford yn fyw ym mysc ei ddiscyblion, a'i waed heb ei ollwng, a'i gorph heb ei dorri.

Yr oedd Christ meddafi y pryd hynny, wrth y ford yn fyw yn bendithio 'r Bara, ac yn rhoddi diolch wedi cymmeryd y cwppan, ac yn llefaru wrth ei ddiscyblion, ac yn canu † 1.1895 hymn wedi dar∣fod. Ac ar ôl hynny yr aeth efe y maes, ac y bra∣dychwyd ac y barnwyd ef, ac y gollyngwyd ei waed ef, ac y torrwyd ei Gorph ef wrth ei groes∣hoelio, fel ac y gallwn ni yn siccr ddywedyd o her∣wydd hynny, pan yr oedd ei ddiscyblion ef yn bwytta ac yn yfed, yn ôl y gorchymyn, Bwyttewch, hwn yw fy nghorph, ac yfwch, hwn yw fy ngwaed, nad oeddent hwy yn bwytta, y pryd hynny wrth y fobl † 1.1896 yngŵydd Christ vn rhan o'i wîr gorph ef, (na llaw, na throed, na Phen, nac ystlys) canys yr oedd ei gorph ef hyd yn hyn yno heb ei dorri: Ac nid oeddent hwy yn yfed vn * 1.1897 diferyn o'i wîr waed ef, canys yr oedd ei waed ei etto yn ei ‖ 1.1898 w∣thienau heb ei ollwng allan.

Yn Ail ni ellir cymmeryd mor geiriau yn llythe∣renol, oblegit yn swpper yr Arglwydd, nid ydys ar oi cyffegriad yn gweled dim â llygaid y corph ond Bara a Gwîn; Ac nid ydys yn teimlo dim, nac yn † 1.1899 archwaethu dim yn gorphorol ond Bara a Gwîn; nid oes yno na chig na Gwaed iw weled â llygaid, iw deimlo â dwylo, iw profi yn y genau, nac iw ollwng ir cylla.

Ac o herwydd hyn bydded ir sawl sydd yn credu ac yn dywedyd, eu bôd hwynt hwy yn swpper yr Arglwydd yn bwytta gwîr gnawd ac yn yfed gwîr waed Ghrist; bydded meddafi, iddynt hwy yr vn môdd gredu a dywedyd (yn wrthwyneb iw

Page 309

senses neu synhwyrau) fôd yr eira yn ddû, er eu bôd hwy â'u llygaid yn ei weled ef yn wynn: fôd y Dwr yn sych, a'r Tân yn oer, er eu bôd hwy a'u dwylo yn teimlo yr vn yn wlŷb, ar llall yn dwym, a bôd bustl yn felys er eu bôd hwy yn eu geneuau yn ei brofi ef yn chwerw.

Yn Drydydd, nid gwîr Gorph, a nid gwîr waed Christ (hynny yw nid y cîg a'r gwaed a gymmerodd efe ynghrôth y forwyn Fair) a fwyttaodd ac yr y∣fodd y discyblion, ac ydym ninnau yn ei fwytta ac yn ei yfed yn Swpper yr Arglwydd; oblegit y mae 'r Scrythur yn dywedyd mewn sens ac ystyr, mai yr vn bwyd ysprydol, a'r vn ddiod ysprydol ac ydym ni y Christianogion yn awr yn ei fwytta ac yn ei yfed,* 1.1900 y fwyttaodd ac yr yfodd yr Israeliaid gynt yn yr anialwch, (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn, a'r graig oedd Grist.)

Pwy y nawr ond dŷn cynddeiriog (neu maes o'i gôf) (ym mhethau Duw) a ddichon gredu, ir Israeliaid yn yr anialwch fwytta gwîr gorph, ac yfed gwîr waed Christ, yn gymmaint na chym∣merodd efe na chîg na gwaed nes ynghylch dwy fil o flynyddau ar ol hynny.

A allent hwy fwytta o'i gig ef, ac yfed o'i waed ef,☜ cyn iddo gymmeryd cîg a gwaed? Yn awr o herwydd mai yr vn peth (yn ysprydol) y fwyttasant ac yr yfasant hwy a ninnau,, ac o herwydd nid gwîr gorph Christ y fwyttasant hwy, ac nid ei wîr waed ef yr yfasant hwy; Siccr yw nad ydym ninnau yn bwytta o'r vn, nac yn yfed o'r llall: Ond megis y bwyttaodd ac yr yfodd yr Israeliaid gynt, Ghrist yn ysprydol, ac nid yn gnawdol ac yn llytherenol: Felly yn yr vn môdd yr ydym ninnau 'r Christi∣anogion yn bwytta ac yn yfed o hono.

Page 310

Very many of our Protestant Authors, (if not all) do in effect expound the afore-mentioned place of Scripture, as it is here expounded in welsh; as Calvin, Beza, Piscator, Diodati, our English As∣sembly of Divines, The Dutch Annotators, and especially Dr. Fulke upon the Rhemish Testament (a book of about ten or twelve shillings price, dedicated to Queen Elizabeth, worthy to be seri∣ously perused and studied by our Protestant Mini∣sters)

Dr. Fulke on 1 Cor. 10.1, to 5. answereth the Popish Annotators of RHEMES, thus.

The Red Sea, the Cloud, and Manna, were not onely figures of Baptisme and the Lords Supper, but baptisme in deede, and the sacramentall Communi∣cation of the bodie and blood of Christ, in deed. There∣fore the Apostle saith, they were all baptised, they dranke of the spiritual rocke, which was Christ. And the argument of the Apostle were of no force to prove his purpose, if the Israelites were not in the Sacraments equal unto us, both in signes and in the things signi∣fied.* 1.1901 S. Cyprian Ep. 76. saith, Mare illud &c. that the Sea was the Sacrament of Baptisme, the Apostle declareth, saying: I would not, &c. Where you say it is an impudent forgerie of the Calvinists, to write, that the Jewes receiued no lesse the truth and sub∣stance of Christ and his benefits in their Sacraments, then we doe in ours, and that they and we eate and drinke of the self same meate and drinke, it is impu∣dent malice against the truth to denie it: which the Apostle doth so plainely affirme. For what doe we eat and drinke but Christ? so did they: for the Apostle saith, they dranke of the spirituall rocke which fol∣lowed them, and that rocke was Christ. But you have

Page 311

a shift to say, they among themselves did feed of one bread, and drinke of one rock, which was a figure of Christ: that is true, and so doe wee, but they did eate the same spirituall meat, and drink the same spiri∣tuall cup that we do. And so saith S. Augustine ex∣presly, Eundem inquit cibum spiritualem, &c. The same spiritual meat (saith the Apostle) what mean∣eth the same? but the same which we doe eat. A∣gain, They did eat the same spiritual meat, saith he. It had sufficed to have said, they did eat a spiri∣tual meat, but he saith the same, I cannot find how I should understand the same, but the same that we doe eate? De utilitate Paenitent. Cap. 1. Why doe you not say, it is an impudent forgerie of S. Augu∣stine, soe to write? yet he is bold to write it more at large, Cap. 2. of the same booke. Quicunque &c. Whosoever in Manna understood Christ, did eate the same spirituall meate that we doe. But whosoe∣uer sought onely to fill their bellies of Manna, which were the fathers of the vnfaithfull, they haue eaten and are dead: so also the same drinke, for the rock was Christ. Therefore they dranke the same drinke that we doe, but spirituall drinke, that is, which was receiued by faith, not which was drawn in with the bodie. The same iudgment he declareth in Psal. 77. in Joan, Tract. 26.. and in many other places of his workes, by which the grosse manner of eating of the naturall body of Christ, defended by the Papists, is vtterly overthrown: and consequently, the sacrifice for which you fight so stoutly in this Chapter, is declared to be none such as you would have it, but a sacrifice of praise and thanksgiving.

Yn Bedwaredd, nid ellir dywedyd fod neb yn bwytta gwîr Gorph Christ, nac yn yfed ei wîr waed

Page 312

ef, sef ei gorph cnawdol ef, a'r gwaed yn y corph hwnnw, yn swpper yr Arglwydd: o herwydd fod yn rhaid ir nefoedd i dderbyn ef (hynny yw ei gyn∣nwys ef) o ran ei ddynol nattur, hyd amseroedd ad∣feriad pob peth, hynny yw, nes y delo yr amseroedd o orphwysfa ir edifeiriol, pan anfono Duw Iesu Christ i farnu 'r byw a'r meirw,* 1.1902 fel y mae 'r Apostol Petr yn dangos yn y drydydd o'r Actau, a'r 19, 20, a'r 21. A'i ddyfodiad ef y pryd hynny a elwir ei ail ddyfodiad ef.

Yn awr os yw Christ i fôd yn y nefoedd fel y mae efe yn ddŷn nes amseroedd adferiad pôb peth; ac os dyfodiad Christ y pryd hynny fydd ei ail ddyfodiad ef, fel y mae 'r Scrythyrau yn dangos; pa fôdd a gellir dywedyd, ei fôd ef yn ei ddynol nattur, ar bôb allor a bord, iw gael iw fwytta a'i yfed o ran ei gîg a'i waed, pan yr ydys yn cymmeryd Swpper yr Arglwydd; yn gymmaint nad yw Duw wedi ei ddanson ef etto o'r nefoedd, ac nad yw amser Adferiad pôb peth etto wedi dyfod, nac amser gorphwysfa ir edifeiriol etto wedi dyfod? hyd pa amser fel y clywsoch chwi, y mae Christ i fôd yn y nefoedd.

Ac os yw cnawd Christ iw fwytta yn gorphorol, a'i waed ef iw yfed yn yr vn môdd, yna y mae hyn yn canlyn: mai cynifer gwaith bynnag yr ydys yn cymmuno, cynnifer gwaith y mae Christ yn dyfod o'r nefoedd, nid yn vnig iw gael ei offrymmu tros ei bo∣bl gan yr offeiriaid, (fel y mae 'r Papistiaid yn da∣la yn wrthwyneb ir Scrythur,* 1.1903 ac sydd yn dangos, fôd offrymmiad Christ vnwaith yn ddigonol i berffei∣thio ei bobl, a thrwy ganlyniaeth nad yw raid i offrym∣mu ef eilchwaith) ond hefyd i roddi ei gîg a'i waed iddynt hwy iw fwytta a'i yfed:

Page 313

Ac erbyn hyn pa sawl mîl, a mîl, â mîl o weithie y daeth ac y daw Christ o'r nefoedd, cyn y dydd diweddaf?

A pha fodd y saif hynny gydâ 'r Scrythur, ac☜ sydd yn dala allan mai pan ddêl Christ o'r nefoedd,* 1.1904 ei ail ddyfodiad ef y fydd hynny. Siccr yw, gan fôd y nefoedd i dderbyn Christ, hynny yw ei gyn∣nwys ef, o ran ei ddynol nattur, nes y danfono Duw fe oddi yno i farnu 'r Byd; nid ellir dywe∣dyd ei fôd ef ym mhôb cymmun ar y ddaiar iw fwytta a'i yfed yn gorphorol gan y cymmunwyr.

Yn Bummed y mae yn erbyn rheswm naturiol i ddywedyd, fod yr vn corph mewn amryw leoedd ar vnwaith.

Nid oes vn dŷn, ar yr vn pryd, yn Ffraingc, yn Lloeger, yn Ghymru ac yn Iwerddon

Gwîr yw y mae Christ fel y mae efe yn Dduw ym mhôb mann: ond fel y mae efe yn Ddŷn, nid yw efe ond yn vn mann, (fef yn y Nefoedd;) ac o her∣wydd hynny, nid yw efe, ac nis gall efe fod ar y Ddaiar, ŷn y Modd ac y mae 'r papistiaid yn credu ac yn dyscu ei fod ef, sef ymmhob cymmun mewn mîl a mîl o leoedd ar vnwaith.

Yn Chweched ac yn Ddiweddaf, nid all yr Athra∣wiaeth ynghylch bwytta Gwîr Gorph Christ, ac ynghylch yfed ei wîr waed ef yn gorphorol, (wrth gymmeryd Swpper yr Arglwydd) fod yn wirion∣edd, o herwydd y mae 'n Iachawdwr yn y chweched o Ioan (ble y mae efe yn crybwyll am yr anghen∣rheidrwydd i fwytta ei Gnawd ef, ac i yfed i Waed ef, cyn gellir cael bywyd tragwyddol,* 1.1905) yn dyscu 'r Capernaaid ac eraill ac oeddent yn cymmeryd ei athrawiaeth ef yn llytherennol; Nad oedd ei Gnawd ef (wedi ei fwytta, na thrwy ganlyniaeth ei waed ef

Page 314

wedi ei yfed yn ei fens neu hystyr hwy, sef yn gorpho∣rol yn † 1.1906 llesau dim. Yr yspryd (eb efe yw yr hyn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llesau dim: y Geiriau (eb efe) yr ydwyfi yn eu llefaru wrth∣ych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt; hynny yw fel pe dywedasai, y pethau ac a ddywedais i, ynghylch bwytta fy nghawd ac yfed fy ngwaed (yr hyn beth sydd ryfedd gennych chwi fy ngwrandawyr, ac yr ydych yn tramgwyddo wrthynt) yr ydwyf yn awr yn dywedyd wrthych, mai yn ysprydol y mae hwynt hwy iw hystyried a'u deall; ac yn ysprydol y mae i bobl fwytta fy ngnhawd i, ac yfed fy ngwaed i: Ac os cymmerwch chwi fy ngeiriau i felly, hwy a allant fywhau eich eneidiau chwi.

Y Sawl y fwyttao Gîg a Gwaed Christ yn ysprydol (hynny yw a ymddiriedo neu a gredo ynddo, ddarfod iddo fe, sef Offeiriad mawr ei bobl, trwy ddioddef yn ei enaid ai Gorph am eu pechodau hwynt, roddi iawn i Dduw am danynt; a bôd o herwydd hynny ac o ber∣wydd ei gyfiawnder ef, faddeuant iddynt, Heddwch Duw, Rhyddhâd rhag damnedigeath, a Bywyd tra∣gwyddol iw cael; ac heb law ymddiried a chredu yn y môdd hyn ynddo, yn ei gymmeryd ef iw calonnau yn lle ei Prophwyd i dyscu hwynt, a'i Brenin i reoli ynddynt ac arnynt, gan obeithio, yn ôl addewidion yr Efen∣gyl, cael er ei fwyn ef iechydwriaeth tragwyddol); Y Sawl meddafi a fwyttao o Gorph Christ, ac a yfo o'i Waed ef yn y môdd hyn, yn ysprydol, a gaiff fy∣wyd tragwyddol trwyddo.

Yn y chweched o Ioan a'r ddeugeinfed adnod, y mae Christ yn addaw bywyd tragwyddol ir sawl sydd yn ei weled ef, ac yn credu ynddo ef: ac yn yr adnodau 51, 54. y mae efe yn addaw yr vn peth ir sawl sydd yn bwytta ei gnawd ef, ac yn yfed ei waed ef.

Page 315

Yn yr adnod 53 o'r vn bennod, y mae Christ yn dangos nad oes bywyd yn y Sawl nad ydynt yn bwytta ei gnawd ef, nac yn yfed ei, waed ef: ac fe a ddywedir yn y drydydd o Ioan a'r 36 am yr hwn sydd heb gredu ir mâb, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno.

Heb law hyn * 1.1907 cystadlwch y lleodd hyn o'r Scrythyr ynghyd.

Ioan 3.36.

Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb y mae gan∣ddo fywyd tragwyddol.

A'r 6.47. yr hwn sydd yn credu ynofi, sydd gan∣ddo fywydd tragwyddol.

Ioan 6.54.

Yr hwn sydd yn bwyt∣ta fynghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwy∣ddol.

Ac yn awr bernwch chwi, ond yr vn peth yw Gweled Christ, a chredu yn Ghrist, a Bwytta ei gnawd ef ac yfed ei waed ef; fel nad oes lle yn y bŷd wedi adel i fwytta Christ yn gorphorol â dannedd,* 1.1908 canys Trwy ffydd (mewn môdd ysprydol) y mae efe yn dyfod i drigo ynghalonnan ei bobl.

Ac fel hyn chwi a glywsoch, er bôd y Derbyn∣wyr teilwng yn Swpper yr Arglwydd yn Derbyn Christ yn ysprydol, trwy ffydd iw calonnau, pan y maent yn derbyn y Bara a'r Gwîn: etto er hynny i gyd, fôd y Bara a'r Gwîn yn y Swpper honno, yn parhau i fôd yr vn peth or ran sylwedd, ac yr oeddent hwy cyn eu cyssegru: Ac nad ydynt hwy wedi eu troi trwy gyssegriad yr offeiriaid, i fod yn wîr ac yn sylwe∣ddol Gorph, ac yn wîr ac yn sylweddol Waed Jesu Ghrist fel y mae 'r Papistiaid yn breuddwydio.

Yr wyfi yn dymuno ar y dyscedig i escuso fy helaethrwydd i, trwy arferid yr vn geiriau a phe∣thau eilchwaith ac eilchwaith; canys yr wyfi

Page 316

wedi gwneuthur hynny er mwyn y gyffredin bobl; I ddyscu pa rai fel y deallont hwy y pethau a ddyscir sydd beth † 1.1909 anodd iawn, fel y gŵyr rhai ar ôl hîr brofiad.

Ond os gofyn y dyscedig, Pa ham yr wyfi yn cymmeryd y papistiaid yn llaw, ac felly tynnu hênam fy mhên?

* 1.1910Cur tamen hoc libeat potius decurrere Campo; Per quem magnus equos Auruncae flexit alumnus; Si vacat, & placidi rationem admittitis, edam.

Ir cyfryw yr wyfi yn atteb, fôd tybygoliaeth y dichon rhai pobl anwybodus, o'r cyffredin Gymru, gael ei twyllo i droi yn Bapistiaid, trwy ddarllen Lyfrau (ac a elwir Agoriad i Baradwys) ac y mae rhai or ffordd a'r grefydd honno, wedi eu gwascaru mewn rhyw leoedd yn y wlâd, fel y cly∣wais i, er nas gwelais i etto yr vn o honynt hwy.

Ac o herwydd fy môd i yn gwybod fôd eulyna∣ddoliaeth yn ffordd y Papistiaid, ac yn enwedig yn ei gwaith hwy yn addoli 'r Bara a'r Gwîn yn swpper yr Arglwydd;* 1.1911 Ac nad â vn eulyn-addolwr i Deyrnas nefoedd, ond y bydd yn dragwyddol mewn tân a brwmstan i'r cyfryw rai yfed o wîn digofaint Duw, yr hwn yn ddi-gymmysc a dywalltwyd yn phiol ei lîd ef, yn ôl y 14 o'r Datcuddiad, 9, 10, 11: yr hyn le o'r scrythur, y mae y rhan fwyaf o'n Athra∣won pennaf ni y protestantiaid, yn ei gymhwyso ar resymau mawrion at y Papistiaid; Ni ellwn ni lai oblegit hyn, o dra cariad at eneidiau fy nghyd∣wlâdwyr, rhag iddynt fyned ar gyfeiliorni, a bôd yn golledig trwy gredu celwyddau, a throi i fôd yn eulyn-addolwyr; ni ellwn ni lai meddafi oblegit hyn nâ, danfon y† 1.1912gronyn ymma i maes yn bresenol (er mewn * 1.1913 hast rhag ir press sefyll) nes caffo rhai

Page 317

amser cyfaddas i atteb llyfr y Papistiaid, os ydyw e deilwng neu gymmwys i dderbyn atteb.

Os Gofyn neb, pa fodd y mae hyn yn digwyddo, fôd pobl ddyscedig yn eu mysc hwy, yn credu troad y Bara a'r Gwîn yn y cymmun, i fôd yn gîg ac yn waed Christ yn sylweddol, gan fôd yr athrawiaeth hon, fel y prwfiwyd o'r blaen yn erbyn y Scrythur, yn erbyn ein senses neu 'n Synhwyrau, yn erbyn Rheswm na∣turiol, Ac yn erbyn Barn llaweroedd o wîr duwiol mor ddyscedig â hwyntau.

Yr wyfi yn atteb:* 1.1914 Im tŷb i y mae hyn wedi digwyddo, oblegit nas derbyniasant Gariad y Gwi∣rionedd fel y byddent gadwedig: Ac am hynny fe ddanfonodd Duw iddynt hwy (mewn cyfiawn farn) amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd; fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu ir gwi∣rionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawn∣der. A'r lle hyn hefyd o'r Scrythur y mae Athra∣won enwog o ran grâs a dysc, yn ein mysc ni y Prote∣stantiaid, oblegit resymmau mawr pwysig nad ellir eu atteb, yn ei gymmwyso at y Pâb a'r Papistiaid.

Y mae Escob Caerloyw yn rhoddi rheswm arall yn ei lyfr a elwir, A plain and full exposition of the Catechism of the Church of England. page 194.

This fiction of Transubstantiation, besides that it contradicts the confessed Rules of Arts and Rea∣son, clearly takes away the Relation, and the Es∣sence of a Sacrament. For upon this corporal change, what becomes of the sign? for if this were true, it were the very thing signified, and then the Signum and Signatum would be all one; which overthrows the definition.

I am of opinion, that it was the hard hap of the Church of Rome to rise up in the defence of this

Page 318

errour: Should the protestants have done it, they would have hissed them out of the Schools; and now their learned Jesuits are obstinate in it, to maintain their Churches infallibility. And the ground of my conjecture is that counsel, which Cardinal Carpi gave the Pope,* 1.1915 enclining to have granted what was then desired by some Princes and States, as Service in the vulgar tongue, the marri∣ages of Priests, and the Communion in both kinds: The sum whereof was, though these things desired, were in themselves matters of no great moment, yet upon the concession of them the Hereticks would infer, that the Chair had erred in her injunctions and constitutions, and then all was gone.

It is not Religion then, but Policy that upholds it, together with the child that is descended from it, the Chimaera of Thomas brain, Concomitancy: upon which fancy they mutilate this Sacrament, and deny the cup to the people. Against which Sa∣criledge, our Catechism protests, &c.

H.
Beth ydyw 'r nôd gweledig, A'r arwydd digon tebyg, Sy 'n y Bedydd or tu fâs, Yn selu 'r grâs arbennig?
A.
Y Dwr yn y bedyddfan, Lle trochir y dŷn bychan, Yn Enw 'r Tâd a'r Mâb (dri phrŷd) A'r sanctaidd yfpryd purlan.
H.
Beth ydyw 'r grâs ysprydol, Nas cenfydd llygad cnawdol, Y mae 'r Dwr yn arddycau, Sy 'n golchi brychau 'r bobl?

Page 319

A.
Gwaed Christ mâb Dûw ei hunan, Sy'n golchi 'r enaid aflan, Oddiwrth bôb rhyw bechod câs, Lle 'roedd e'n wâs i Satan:
Ac hefyd yn ei † 1.1916 wneuthur, Yn gristion o bechadur; Ac yn Blentyn Duw trwy râs, O Elyn câs trwy nattur.
H.
Beth ydys yn ei geisio, Gan rai ddel i bedyddio, Beth sydd raid? mynega 'n * 1.1917 brês, Ir rhai gais ‖ 1.1918 llês oddiwrtho.
A.
† 1.1919Difeirwch a ffydd fywiol Sydd ddau beth anghenrheidiol, I bob dyn y ddêl yn brûdd I geisio bedydd grasol:
Difeirwch i ymwrthod, A phôb rhyw * 1.1920 sort o bechod: Ffydd i gredu trà so byw Addewid Duw a'i Ammod.
H.
Pa ham i rhwydd fedyddiir, Plant bychain pan eu genir? Pan na allant yn ddifeth Gyflawni 'r peth a geisiir.
A.
Y maent hwy trwy meicheon, Yn cwpla eu promeision, Nes y delont hwy mewn maint I dalu faint addawson.

Page 320

H.
Mynega pam ordeiniwyd Y swpper pan dechreuwyd, Pam yr ys yn arfer hon Trwy ddefod 'r hon ni † 1.1921 lyswyd?
A.
Er mwyn tragwyddol goffa, Am Angeu Christ a'i laddfa, A'r holl Lesâd y ddaw i ddŷn, Oddiwrth ei wŷn a'i boenfa.
H.
Beth ydyw 'r rhan a weler, Tu allan yn y Swpper, A'r nod a'r arwydd or tu fâs, Sy'n selu 'r grâs addawer?
A.
Y Bara ar Gwîn o'r cymmyn, * 1.1922Orchmynnodd Christ i dderbyn, Er cofio ei Gorph a'i waed ei hun, Syn cadw dyn rhag * 1.1923 newyn.
H.
Beth ydyw 'r rhan ni welwn, A'r grâs sydd o'r Comuniwn, Rhwn arddycair wrth fara a gwîn? Mynega 'n † 1.1924 rhin er dolwyn.
A.
Corph Christ a'i waed sancteiddiol, Offrymmwys dros ei bobol, I Brynu dŷn, i dalu Duw, A'n porthi i fyw'n dragwyddol.
H.
Pa lês a gaiff Cristnogion, Y gymro o * 1.1925 wllys calon, Y Sacrament sancteiddiol hyn O'r Swpper, pyn derbynion?
A.
Cael porthi eu heneidie, * 1.1926Ar Grist ei hun a'i ddonie, A chadarnhau eu hegwan ffydd, A madde 'n brûdd eu beie.

Page 321

Fel y bydd bara ffrwythlon, A Gwîn yn porthi 'r galon; Felly Christ â'i waed wrth raid, Sy'n porthi 'r enaid ffyddlon.
H.
Pa beth sydd raid o bryssur, I bob rhyw Gristion wneuthur, Y ddel i Swpper Christ yn * 1.1927 llon, O cais yn hon gael cyssur.
A.
Rhaid iddo holi 'n fanol,* 1.1928 A fo ef wîr▪ difeiriol, Am ei bechod o bôb rhyw, Yn erbyn Duw a'r bobol:
A holi 'n nessa at hynny, A fo e'n llwyr fwriadu, Gwella ei fuchedd wrth fôdd Duw, A chwedyn byw heb bechu:
Ac hefyd mynny gwybod,* 1.1929 Oes gantho ffydd dan ammod, Am drugaredd Duw trwy Ghrist, I fadde ei athrist bechod:
A chredu i'r Arglwydd Jesu, A'i werthfawr waed ei brynu, Pan na alle neb ond Christ, Trwy Angau trist ei helpu.
Rhaid hefyd holi eilchwaith,* 1.1930 A fo e mewn cariad perffaith, A phob dŷn, gan fadde 'n brûdd I bawb, bob dydd, eu † 1.1931 drwg-waith.

Page 322

Pethau iw hystyried, ac iw harferu? pan ddêl y nòs.

GWel fel y mae d'oes yn darfod, Mae 'n llai beunydd o ddiwrnod: Rwyt ti 'n nes y leni i'th ddiwedd, O vn flwyddyn nag y llynedd.
Gwachel fynd vn nôs i gysgu, Yn dy bechod nes difaru, A chymmodi a'r Duw cyfion, Cyn y cayech dy olygon.
* 1.1932Nâd vn nôs ir haul fachludo, Ar dy lîd yn ôl it ddigio; Gwell it gysgu gydag Arthes, Nag â malis yn dy fynwes.
Llawer dyn sy'n mynd iw wely, Heb ddihuno mwy ond hynny, Nes y galwo 'r vdcorn aethlyd, Hwynt ir farn i ddwyn ei penyd.
Yn ôl dy boen a'th waith y dydd, Pan delo 'r nôs ymro yn brûdd, I roi i Dduw brydnhawnol Aberth, O galon bûr â geiriau prydferth.
Diwedda'r dydd fel y dechreuaist, Cau dy ddrysau fel agoraist: Gd i weddi brûdd bob die, Gloi bôb hwyr a datgloi 'r bore.
Duw fyn offrwm bêr brydnhawnol, * 1.1933Fel yr aberth bêr foreuol, Mawl y nos fel mawl y bore, Nâd vn pryd dy fawl yn eisie.

Page 323

Galw 'nghyd dy blant a'th bobol,* 1.1934 Dywaid osber yn dra deddfol: Gwna dy dŷ yn demel fychan, Chwareu 'r ffeiriad doeth dy hunan.
Prûdd weddia ar dy linie Darllain bennod o'r Scrythure: Dysc dy blant mewn pwyntiau crefydd,* 1.1935 Duw 'th fendithia yn dragywydd.
Cofia 'r nôs dy waith y dydd, O gwnaethost gam, gwna iawn yn brûdd,* 1.1936 Or digiaist Dduw, cais bardwn gantho, Os cefaist râs, rho foliant iddo.
Na ddôs i gysgu yn dy bechod, Rhag mynd o'th gwsc ger bron y Drindod: Ac na * 1.1937 slwmbred dy ddau amrant, Nes ymbilio am faddeuant.
Y dŷn y † 1.1938 fentro fynd i gysgu, Yn ei bechod cyn difaru, Mae e'n mentro mwy o lawer, Nâ phe cysgei gydâ gwiber.
Rhag dy fynd ir * 1.1939 barr i'th farnu, Genol nôs tra fech yn cysgu, Gwachel fynd fel dŷn diwybod, Byth i'th wely yn amharod.
Pan edrychech ar dy wely, Cofia 'r bedd lle 'r ae i'th gaddu:☜ A chyn rhoi dy gorph i orwedd, Dyfal feddwl am dy ddiwedd.* 1.1940
Pan y tynnech dy hall ddillad, Ond dy grûs oddi am danad, Cofia fel y gorfydd gado,* 1.1941 Ymma 'r cwbwl ond yr † 1.1942 amdo.
〈1 page missing〉〈1 page missing〉

Page 324

Pan y cano Ceiliog Peder, * 1.1943Nes dihunech o'th esmwythder, Meddwl f'enaid fel y deffru, Vdcorn Christ di gwedi'th gladdu.

Hymn iw chanu i Dduw cyn mynd i gysgu.

* 1.1944Fanwyl Dâd a'm carcus Geidwad, Rhwn wyt nôs a dydd im gwiliad, Bendigedig y fo d'enw, Nôs a dydd am dan fy nghadw.
* 1.1945Di 'm castellaist i 'r dydd heddu, A'th Angelion bach o dautu, Ac orchmynnaist iddynt * 1.1946 f'atteg, Rhag im daro 'n rhoed wrth garreg.
Dithau 'm cedwaist yn ddihangol, Rhag holl rwydau'r Sarph uffernol, Rhwn sydd nôs a dydd heb gyscu, Yn ceisio nifa am bachellu.
Porthaist finne heddyw 'n ddiwith, A mêl o'r graig, â brasder gwenith, Ac di roddaist immi yfed, Phiol llawn 〈◊〉〈◊〉 dorri 'm syched.
Dithe am cedwaist rhag pob tramgwydd, Cwilydd, colled, anap, aflwydd, Nychdod, niwed; ac am hynny, Rwi o'm calon i'th glodfori.
Cymraist gymmaint † 1.1947 garc am danaf, Y dydd heddyw Dâd goruchaf, A phyt fassyt heb un plentyn, Ond myfi i garcu drostyn.

Page 325

Bendigedig yn dragywydd, Y fo ngheidwad am dyrchafydd, Rhwn sy'n carcu cymmaint droswyf, Ddydd a nôs ple bynna 'r elwyf. Amen.

Diolch am dân a chynnhessrwydd.

PEn * 1.1948 profiwr pôb anghenrhaid, Gwîr ymgleddwr corph ac enaid, Rwi 'n bendithio d'enw hyfryd, Am roi tân i dorri f' anwyd.
Duw mor rassol yr ordeiniest,* 1.1949 Tân rhag anwyd, tŷ rhag temest, Bwyd rhag newyn, Dwr rhag syched, I ymgleddu dŷn pengaled.
Oni bysse itti greu, Tân in * 1.1950 gweinif an cynhessi, Bwedd y gallsei ddŷn ymdaro, Heb y tân, pa bassem hebddo?
Er bôd tân yn beth anhebcor, Etto 'sowaeth nid oes nemmor, Ym-mhlith miloedd y rônt itti, Am ei tân o'r * 1.1951 godemersi.
Arglwydd agor ein golygon, I gydnabod maint dy roddion, An geneuau i'th glodfori Am ein tŷ, an tân, an gwely.
Y mae 'n gwell yn gorwedd allan, Yn yr oerfel tôst yn griddfan, Duw cynnhessa rhain â'th ffafar, A gwna ninne yn ddiolchgar.

Page 326

Gweddi wrth fynd ir gwely.

Ceidwad Israel a'i Achubwr, Castell crŷf pôb gwann diswccwr, Er mwyn d'anwyl fâb Christ Jesu, Gwrando 'ngwaedd wrth fynd i ngwely.
Arglwydd mawr 'r wi ar fy nglinie, Wrth sy ngwely yn cyfadde, Nad wyf deilwng edrych arnad, Chwaethach dwad yn nes attad.
* 1.1952Etto er hyn yr wi 'n hyderu, A caf er mwyn dy fáb Christ Jesu, Nid yn vnig gennyd wrando, Ond rhoi immi 'r peth wi 'n geisio:
A bôd immi byth yn gryfdwr, Ac yn Geidwad, ac yn Swccwr, Rhag pob niwed y ddigwyddo, Yn enwedig immi heno.
Arglwydd 'rwyfi 'n mynd i orwedd, Heb wybodaeth am fy niwedd: Os ni wyr un dyn pan cysco, P'un a wna ai codi ai peidio.
Achos da i ddyn gan hynny, Cyn yr elo 'r nos i gysgu, Lwyr ymgweirio fynd at Dduw, Rhag na chotto mwy yn fyw.
O herwydd hyn 'rwyfi yn dwad, Attad ti fy Nuw am Ceidwad, Ar fy naulin heno i'mhwedd, Am dy gymmorth a'th drugaredd.

Page 327

Bydd di gastell, bydd di Geidwad, Bydd di graig a lloches ddifrad, Im castellu yn ddibryder, Heno rhag pôb anesmwythder.
Y mae 'r llew sy erioed heb gyscu, Ddydd a nos â chwant i'm llyngcu, Ac ni wela 'i lûn i rwystro,* 1.1953 Oni chedwi di fi rhagddo.
Derbyn fi gan hynny i'th fynwes, Dôd fi rhwng dy ddwy-fron gynnes, Fel y gallwi 'n esmwyth orwedd, Heno 'm mreichiau dy drugaredd.
Arglwydd tanna droswi d'adain,* 1.1954 Cadw fi rhag bradeu 'r filain, Fel y gallwi yn ddibryder, Gyscu deni mewn esmwythder.
Gosod * 1.1955 wersyll o'th Angelion, I'm castellu rhag pôb ofon, Pâr ir rhain fy llwyr ddiwallu, Yn dy goel tra fyddwi 'n cyscu.
Bydd dy hun â'th rasol lygad,* 1.1956 Goruwch y rhain yn fy 'ngwiliad, Nâd i neb rhyw ddrwg fy nrygu, Na thramwyo lle bwi 'n cyscu.
Rho lonyddwch ac esmwythder, Immi heno a phôb amser, Rho i'm henaid wîr ddiddanwch, Rho i'm corph ei hûn a'i heddwch.
Ac rhag immi fynd im barnu, Gar dy fron pan byddwi'n cysgu, Nad im fyned yn ddiwybod, Byth im gwely yn amharod.

Page 328

Nâd im roddi cwsc im llygaid, Nes ymbilio a thi 'n dambaid, Am gael * 1.1957 pardwn am y cwbwl, Ar y wnaethoi maes o'th feddwl.
* 1.1958Pâr im adde fy holl gamwedd, Am holl wendid am hanwiredd, Fel y gallwi gwedi hadde, Gael maddeuant gennyd tithe.
Pâr im wylo ac alaru, Am fy 'ngwaith mor rhwydd yn pechu, A 'mofydio 'n dôst gan gynddrwg, Y fu muchedd yn dy olwg.
Par im fyned mor ddifeiriol, Heno im gwely ac mor ddeddfol, A pha gwypwn na chawn noswaith, Mwy i edifaru 'r eilchwaith.
Pâr im grio 'n daer am bardwn, Er mwyn Christ a'i waedlyd * 1.1959 bassiwn, Am y wnaethoi erioed o feie, Fel na byddo un heb fadde.
* 1.1960Golch fi 'ddwrth fy meiau 'n llwyr-ddwys, Yngwaed Christ yr Oen am prynwys: Clâdd fy mhechod yn ei † 1.1961weli, Nâd ef eilchwaith adgyfodi.
Nâd fôd un om ffiaidd frynti, Yn dy lyfyr heb ei groefi, Rhag i hwnnw fy ngwradwyddo, Gar dy fron pan ddelwi * 1.1962 ympyro.
Pâr im fôd âr wysc briodas, * 1.1963Ddydd a nôs bôb awr o'm cwmpas, Ac olew im lamp, a hwnnw 'n llosci, Yn disgwyl Christ, im galw i gyfri.

Page 329

Diogela 'nghalon egwan, Fôd yn siccr immi gyfran, O'r dedwyddwch y bwrcassodd, Christ iw frodyr yn y nefoedd.
Weithian Arglwydd mi orweddaf, Ac mewn heddwch myfi gysgaf; Cans tydi o Dduw 'r diddauwch, Am cyflei mewn diogelwch.

Myfyrdod pan dihuner o gysgu ganol nôs.

MOr hyfryd ac mor weddus, Yw canu i Dduw yn rymmus, Ganol nôs pan bo pôb dŷn, Yn cysgu hûn yn felus.
Mor dda, mor ddwys, mor ddeheu,* 1.1964 Yw moli ei Enw 'r boreu! A myfyrio yn ddi-ddal, Am dan ei amal ddonieu:
A deffro 'r corph cyscadur, A chalon barod brysur, I glodforu enw Duw, Peth hyfryd yw i wneuthur:
A chwnnu lawr o'r gwelŷ, Fel Dafydd iw foliannu,* 1.1965 Ar ein dau-lin ganol nôs, Yn ddi-flin dros ein helpu:
A chofio ei drugaredd, Ei gymmorth a'i ymgeledd, I blant dynion bôb rhyw brŷd, O ddechreu bŷd i ddiwedd.

Page 330

A rhoi ar bwys y gwely, Pan byddo 'r bŷd yn chwrnu, Glôd a moliant prûdd, di-nam, Ir hael Dduw am ein helpu.
Clôd a gallu, Diolch moliant, Gwîr anrhydedd a gogoniant, Y fo nôs a dydd ir Drindod, Sydd bob amser yn ein gwarchod.

Psalm. 23.

FY Mugail yw 'r Goruchaf. Pa fôdd gan hynny ffaelaf Trwi 'n ymddiried ynddo fe, Ni edy eisie arnaf.
Y mae ef im castellu, A'i râs, a'i rym o doetu, Fel na ddichon gŵr na gwraig, Na Diawl, na draig fy nrygu.
Y mae ef im porfela, Mewn dolydd o'r † 1.1966 areilia, Lle mae dyfroedd tawel iawn, A Thîr yn llawn o borfa.
Pan elw'i dros ei lwybre, Fe'm cyrch ei eilchwaith adre, Ac er mwyn ei enw ei hun, Fe'm try ir vn sydd ore.
Ac or digwydda weithie, Im rodio yng hysgod Ange, Nid rhaid immi ofni vn, Cans Duw ei hun am cadwe.

Page 331

Y mae ef yn bresennol, Im hachub yn wastadol: Ai wialen wenn, a'i fâch, a'i ffonn, Am gwna i yn * 1.1967 llon anianol.
Er cymffordd im a chyssur, O Anfodd fy ngwrthnebwyr, Rhows im ford gyfoethog iawn, A Seigie 'n llawn o suwgur.
Eneiniodd f'Arglwydd hefyd, Fy mhen ag ‖ 1.1968 oyl yn hyfryd: Ac fe wnaeth fy mwttri 'n llawn, A'i radlawn ddawn a'i olud.
Ei fwynder a'i drugaredd, Am dilyn hyd y diwedd, Yn ei Demel tro ynwi chwyth, Y bydd fy nyth am † 1.1969 hannedd.
Ir Tâd, ir Mâb, ir yspryd, Ir Drindod, vndod hyfryd, Y bo clôd a moliant mawr, Bob dydd, bob awr, bob ennyd.

Y môdd y dlye ddyn grasol ddeffro ei gorph ai enaid genol nôs i glodfori Duw.

DIhûn, dihûn o gysgu,* 1.1970 Fy enaid bâch prawf ganu Clôd a mawl â chalon brûdd, Ir Arglwydd sydd ith helpu;
Dihûn, dihûn, mae achos, Id wiliad fel yr Eos, I glodfori d' Arglwydd mawr, Heb gysgu awr or hîr nos.

Page 332

Dihûn, Dihûn a chofia, Drugaredd y gorucha, A'r môdd ith * 1.1971 helpodd Prynwr erêd, Er pan ith aned gynta.
Efe yw d' vnig helpŵr, Dy nawdd, dy nerth, dy swccwr, Dy Christ, dy graig, dy gadarn * 1.1972 Ior, A'th dynnodd o'r cyfyngdwr.
Fe'th greawdd cyn berffeithied, * 1.1973Fe'th dynnodd o gathiwed, Fe'th adgenhedlodd o'th ddrwg rân, Ai yspryd glân bendiged.
Fe'th alwodd o blith deillion, I gredu 'r fengyl dirion, Fe'th gyfiawnhâodd yn rhâd trwy ffydd, Yn Ghrist d'Achubydd ffyddlon.
Dihun gan hynny a chofia, Drugaredd y gorucha, Ar modd ith helpodd prynwr cred, Er pan ith aned gynta.
Yn foethus iawn fe'th borthodd, Yn drefnus fe'th ddilladodd, Fe'th dderchafodd i fawr fraint, Rhag cwrp a haint fe'th gadwodd.
* 1.1974Fe rows id enw hyfryd, A * 1.1975 chredit a syberwyd, Heddwch, llwyddiant, grâs, a dawn, A llawer iawn o olud.
Fe wnaeth id fyw mewn cariad, Hawddgarwch a chymmeriad, Gydâ phob glân * 1.1976 sort o ddŷn, Heb gâs gan vn or teir-gwlad.

Page 333

Dihun gan hynny a chofia, Drugaredd y gorucha, Ar môdd ith helpodd prynwr crêd, Er pan ith aned gynta.
Ni phallodd erioed, etto, O'r peth y faet ti'n geisio, Er na haeddyt feger tâer, O'r briwsion ar ei ddwylo.* 1.1977
Nid oes vn dŷn ag 'aned, Sydd arno fwy o ddyled, I glodfori 'r vn Duw tri, Nag s' arnat ti * 1.1978 or parthred.
Dihûn gan hynny a chofia, Garedigrwydd y gorucha, Ar modd i'th helpodd prynwr cred, Er pan ith aned gynta.
A thra fo id ben a thafod,* 1.1979 Mynega byth ei fawrglod, Ai ddaioni yn ddi-ddal, Tra chwyth ac anal ynod.
Ir Tâd, ir Mâb, ir Ysyryd, Ir Drindod vndod hyfryd, Y bo clod a moliant mawr, Bob dydd, bob awr, bob ennyd.

Diolch am etholedigaeth ac am amryw ddoniau ysprydol.

OArglwydd Dduw goruchaf,* 1.1980 Pa ddull, pa fodd y gallaf, Roi it ddiolch llawn ar llêd, Fel y mae 'r dyled arnaf?

Page 334

Cyn gwneuthur nêf a daiar, O'th ras yn Ghrist a'th ffafar, Di 'm detholaist fod yn un, O'th blant dy hun yn gynnar.
Di 'm creaist inne o'r priddyn, Oedd frwnt a gwael ei eulyn, Ar dy lûn a'th wêdd dy hun, Yn lana dŷn o'r weryn.
Di 'm tynnaist yn dra lluniadd, O grôth fy mam yn berffaidd, Lle gallassyd fy'n rhoi maes, Yn grippil câs angrhuaidd.
Di 'm gwnaethost inne 'n Gristion, Ym mhlith dy bobol ffyddlon, Lle gallassyd heb ddim dysc, Fy'n rhoi ym-mysc Iddewon.
A chwedi Adda ngwerthu, I Satan gynt wrth bechu. Di am prynaist o'i law 'n rhâd, A gwerthfawr waed y Iesu,
Ni † 1.1981 Speriaist roddi i farw, Dy vnig fâb i'm cadw, Ac i * 1.1982 hongian ar y groes, Dan lawer loes oedd chwerw.
* 1.1983Di'm adgenhedlaist gwedyn, I fod yn anwyl blentyn, It trwy fabwys prûdd a grâs, Pan oeddwn wâs a gelyn.
Di aethost yn Dâd im-mi, * 1.1984A minnau 'n blentyn itti, Di'm ail wnaethost ar dy wedd, * 1.1985Yn tifedd i'r goleuni.

Page 335

Di'm gelwaist innau hefyd,* 1.1986 A'th air, â'th nefol yspryd, O blith miloedd o rai câs, I gaffel grâs a Iechyd.
O blith y bobol feddwon, A'r mûd, a'r dwl, a'r deillion, Di am gelwaist â'th air * 1.1987 dwys, I fonwes d'eglwys dirion.
A gwaed dy fâb di'm golchaist, A'th yspryd di'm sancteiddiaist; Rhan o'th nattur rhoist i mi,* 1.1988 Am pechod ti dirymmaist.
Ac er fy môd yn sarnllyd, Am gweithred yn frycheulyd,* 1.1989 Di'm cyfiawnhâist o'th râs yn rhâd, Trwy ffydd yngwaed d'anwylyd.
A rhoist i'm gadarn obaith,* 1.1990 Er immi farw unwaith, O ran y cnawd, pan del y cri, Y câf gyfodi 'r eilwaith:
A derbyn yn † 1.1991 ddiffuant, Gan f'Arglwydd wîr ogoniant, (Er mwyn Christ) a nefol fraint, Ym-mhlith y saint † 1.1992 triwmphant:
Lle caf fi wir lawenydd A heddwch yn dragywydd, Parch, anrhydedd, tra 'no 'i chwyth, A gwynfyd byth na dderfydd.
Am hyn o ddoniau 'sprydol, Fy nhâd am Harglwydd nefol, Rwi'n rhwymedig ar fy llw, Glodfori d'enw grassol:

Page 336

A thro dim deall genni, Yn ddyfal dy addoli, A'th foliannu bob yr awr, Am dan dy fawr ddaioni.
Ir hael Dad rhwn a'n creodd, Ir Jesu rhwn a'n prynodd, Y byddo clod a mawl bob cam, A'r Yspryd a'm sancteiddiodd.

Gweddi mewn Cyfyngder rhag Gorthymder.

DIhun Dihun, pa ham y cyscaist? Erioed hyd hyn fy Nuw ni heppiaist: Nid Baal wyt: o danfon † 1.1993 swccwr, Tynn dy wâs o dost gyfyngdwr.
Sŷch fy neigreu, Torr fy Magal, Gwared F'enaid, llaesa 'ngofal, Gwêl fy nghystydd, clyw fy nghwynfan, Barn fy * 1.1994 hawl, rhyddhâ fi weithian.
Fy nghraig i wyt, o nâd fi syrthio! Fy † 1.1995 nhwr cadarn; nad f'anrheithio, Fy Nuw, fy ‖ 1.1996 Ner, o dere im helpu! Fy Nefawl Dâd, Nad fy ngorthrymmu.
Galluog wyt, di allu helpu, Vnig ddoeth, y modd di medru, Trugarog Dâd, oh dere a swccwr! * 1.1997Hawdd yw'th gael mewn tost gyfyngdwr.
Gwradwydda fwriad fy ngelynion, * 1.1998Tola falchder fy nghaseion: Gwascar gyngor tyrfa waedlyd, Er mwyn Christ Rhyddhâ fi o'm penyd.

Page 337

ARALL.

DUw fy ngrhaig, am Twr, am † 1.1999 Nodded, Duw fy Jechyd am ymddiried, Gostwng glust a gwrando 'ngweddi, Mewn cyfyngder a gofydi.
Duw rhoist gennad i'm gelynion, Fy ngorthrymmu heb achosion, Am difethu 'n llwyr gan mwya, Os tydi ar frys ni'm helpa.
Di roist gennad i estroniaid, Lwyr amcanu difa f'enaid, A'r sawl nad wi 'n nabod etto, Lwyr amcanu fy anrheithio.
Rhai na wn o ble y henyn, Rhai na wnaetho'i ddim iw herbyn, Rhai na chanfu erioed fy llygaid, Sydd yn ceisio speilio f'enaid
Arglwydd maent hwy gwedi'm maglu, Ac yn barod im disethu, Oni ddoi di ym-mrhyd â swccwr, Im gwaredu om cyfyngdwr.
Deffro o gysgu f'vnig Geidwad, Mae fy llong mewn trallod irad; O cyrydda 'r gwynt a'r tonneu, Rhag im soddi yn ei rhwydeu.
Nad im llong am * 1.2000 taccal dorri, Bydd di borth ac Angor immi: Lleisa 'r † 1.2001 storom sy'n fy mlino, Moes dy Law, a nad fi * 1.2002 singco.

Page 338

Erchaist immi ddwad attad, * 1.2003Yn fy nhrallod, anwyl Geidwad, Attad ti fy Nuw 'rwi 'n * 1.2004 trottan, Danfon im ymwared weithian.
Di Addewaist wrando yng-weddi, Yn fy nhrallod ond im' weiddi; Gweiddi arnad yr wi 'n wastod; Arglwydd weithian tynn fi o'm trallod.
Di wrandawaist weddi Jonas, Gynt o fola 'r morfil atgas, Di achubaist o'i flindereu; Gwrando ngwaedd, ac achub finneu.
* 1.2005Di waredaist Dafydd frenin, Oddiwrth Saul oedd yn ei ddilyn: Gwared finne o'm trallodion, Ac o ddwylo fy ngelynion.
* 1.2006Di waredaist hên Elias, O law waedlyd gwreigin ddiras; Gwared finne yn fy nolyr, O law waedlyd fy ngwrthnebwyr.
* 1.2007Di dosturiaist yn dra diddig, Gynt wrth Dâd y plentyn * 1.2008 lloerig; O tosturia wrthyf finne, Sy'n dy ganlyn megis ynte.
* 1.2009Di roist help i'r wraig o Ganaan, Y fu'n daerllyd yn ei feggian; O rho help a nerth i minne, Sydd am cais mor daer a hithe.
Er nad oes ym-hwer vn-dyn, Rwymo 'r * 1.2010 Ddraig sy'n codi im herbyn: Etto Arglwydd mawr di allu Rwymo hon a'i llwyr ddirymmu.

Page 339

Cymmer yn dy law dy waywffon, Cyfod, ymladd â'm gelynion; Torr hwy ymmaith yn ei gwegi, Nad hwy wneuthur trallod immi.
Gyrr dy Angel i wascaru, Sawl sy'n chwennych fy ngorthrymmu: Gyrr dy saetheu a difetha Sawl sy â'i bwriad ar fy nifa.
Duw di elli 'r modd y mynnech, Fy'm rhyddhau y maes o ortrech; Er dy fawredd dere a chomffordd, A gwir rydd-dyd im yn rhyw-ffordd.
Nâd im Gelyn gael fy llyngcu, Na'm gwradwyddo, na'm gorthrymmu; Nâd i'r Byd ychwaith gael dwedyd Iddo gaffel arnai ei wynfyd.
Dangos immi eglur arwydd, O'th ddaioni a'th gredigrwydd, Fel y gwelo 'r byd o bobtu, Mae tydi sydd yn fy ngharu.
Nid wi'n ceisio help Gwyr Mawrion, Na Phennaethiaid, na Thwssogion: Ond yn vnig cymmorth difrad, Gennit ti fy Nuw am Ceidwad.
Nâd i minne gael fy nhwyllo, Lle rwi 'n hollol iti 'n † 1.2011 trusto; * 1.2012Dere weithian ag ymwared; Ynot ti mae f' holl ymddiried.
Mae fy llygaid o'r dechreuad; Ddydd a nos yn disgwyl arnad; Dere weithian im diddanu, Arglwydd nâd im llygaid ballu.

Page 340

Dere Arglwydd, dere, bryssia, Gwared f' enaid o gyfyngdra, Fel y gallwyf dy foliannu, Trwy lawenydd am fy helpu.

Diolch am ymwared o ddwylo Gelynion.

ANgelion Duw a meibion Dynion, Nef a Daiar a'u Trigolion, Molwch Dduw ar eitha'ch gallu, Ddydd a nos am fy ngwaredu.
Mewn * 1.2013 Ing, trallod, a chyfyngdwr, Y gweddiais ar fy mhrynwr, Ac o'r Nêf o blith Angelion, Clybu lêf fy nghwyn hiraethlon.
Sarph ossododd fagal embaid, A chroglathe i ddala f'enaid; Rhwyd a chroglaeth Duw a'u torrwys, F'enaid inne fei gwaredwys.
Helodd Angel im dad-dryssu, Rhows ei yspryd im diddanu, Tannodd drosswi Adain hyfryd, Ac fe'm tynnodd o'm holl ofyd.
Duw a glybu ngwaedd iradus, Christ † 1.2014 eiriolodd drosswi 'n rymmus, A'r glân yspryd a'm diddanodd, Ac o'm trallod fe'm gwaredodd.
O molianned pob creadur, F' Arglwydd mawr yn ôl ei nattur, Am ei gymmorth a'i dosturi, Yn fy ngwared o'm gofydi

Page 341

Teirw Basan a'm cylchynodd, Nadredd tanllyd a'm herlidiodd: Bleiddiaid blin ac vnicorniaid, Amcanassant ddifa f'enaid.
Duw a barodd i'r rhain darfu, Pan oedd mwya eu chwant i'm llyngcu: Duw a dorrodd gyrn a dannedd Y Bwystfilod hyn o'r diwedd.
O molianned pob creadur F' Arglwydd mawr â chalon bryssur, Am ei * 1.2015 garc yn achub f'enaid, O rhwng cyrn yr vnicorniaid.
Gŵyr digrefydd, gwragedd gwaedlyd, Y gynllwynodd am fy mywyd, Ac amcansont fy * 1.2016 andwyc, Difa f' enaid a'm anrheithio.
Duw ddatguddiodd eu dichellion, Duw ddiddymmodd eu hamcanion, Duw a ddryssodd eu bwriade, Duw waredodd f' enaid inne.
O molianned pob creadur Dduw fy nghraig â chalon bryssur, Am ddwyn f'enaid o drallodion, A gwradwyddo fy ngelynion.
Clôd a gallu, Diolch, Moliant, Gwîr Anrhydedd a Gogoniant, Y fo nôs a dydd i'r Drindod, Am fy 'nhynnu maes o drallod. Amen.

Page 342

Arall byrrach.

MEgis Daniel rhwng y llewod, Megis Jonas rhwng Morfilod, Y gweddiais ar yr Arglwydd, Ac o'r nef fe'm clybu 'n ebrwydd.
* 1.2017Stoppodd safneu 'r llewod rheipus, Ffrwynodd ên y † 1.2018 whâl afradus, Torrodd awch y Sarph am llyngceu, Tynnodd f'enaid o'u crafangau.
Nefoedd, Daiar, Dwr ac Awyr, Tân, a gwynt, a phob creadyr, Molwch f'Arglwydd mawr yn wastod, Am fy'nhynnu maes o drallod.

Psalm cwynfannus.

* 1.2019DUw achub f'enaid gwirion, O'r llif a'r dyfroedd mawrion, Sydd om hamgylch bob yr awr; Im rhoi mewn dirsawr ofon.
Mi soddais mewn gofydi, Nid oes sefyllfa immi: Y ffrwd a lifodd dros fy Mhen, Yr wyf ar * 1.2020 haychen boddi.
Mi griais nes im flino, Fy nghêg sydd gryg gan grio; Hir ddisgwilais am dy râs, Nes imi lâs ddeffygio.

Page 343

Amlach yw ngelynion, Na'm gwallt, neu 'r grô o'r afon: A'r rhai s'eb achos im casan, Ynt ffel, a chlai, a chryfion.
Cedyrn yw 'ngwyrthnebwyr Sy'n ceisio 'm llâdd heb ystyr: elais iddynt fwy nâ'u rhan, A minne yn wann difessur.
Di 'dwaenost fy ffolineb, Am gwendid am gwiriondeb: A'm hôll feie sydd mor † 1.2021 blaen, Bob awr o flaen dy wyneb.
Duw nâd gwilyddio o'm plegyd Y rhai † 1.2022 arhossant wrthyd: Na gwradwyddo vn o'th Blant, A'th geisiant yn eu gofyd.
Mi ddwgais lawer gwradwydd, Do er dy fwyn di Arglwydd, A gwrthwyneb llawer pryd, Gan Blant y Byd trwy affwydd.
Mi aethym yn ddieithriol, Oddiwrth fy Mrodyr cnawdol, Ac fel eftron ar bôb cam, Gan Blant fy Mam natturiol.
Cans zêl dy dŷ am * 1.2023 hyssodd, A gwawd y rhai'th wradwyddodd A syrthiodd arnaf er dy swyn; Duw clyw fyng-hwyn o'r Nefoedd.
Mi wylais ddeigre hallton, Mi ymprydiais ddyddie hirion, Gan gystyddio f'enaid prydd, O ddydd i ddydd yn greulon.

Page 344

Mi wiscais sâch a llydw, Fel vn a fae mron marw, A chalon drist, ag wyneb tlawd, Nes mynd yn wawd i'r meddw.
Ond mi weddiaf arnad, Mewn prŷd o Dduw fyng Heidwad; Tâd trugaredd gwrando fi, A dwg fy ngweddi attad.
Duw tynn fi o'r pydew tomlyd, A nâd fi gwympo oddiwrthyd: Gwared fi oddiwrth fy nghâs, A dwg fi maes o'm gofid.
Duw nâd i'r llif fy moddi, Na'r pydew mawr fy llyngcu▪ Nad i'r ffoes fy llimpro 'n fyw, Duw grassol clyw fy ngweddi.
Duw gwrando nghwyn iradys, Dy fwynder sydd gynfforddys; Tro ar fyrder at dy wâs, Dy help a'th râs sydd felys.
Na thro dy wyneb grassol, Oddiwrth dy wâs cystyddiol: Rwi mewn trallod, dere ar frys, A thynn fi o'r llys anweddol.
Nessa at f'enaid gwirion, A thynn fi o'm trallodion: Gwared fi oddiwrth fy mraw, A thynn fi o Law ngelynion.
Di wyddost beth yw f'ofan, Am cwilydd maith a'm * 1.2024 gogan; Mae 'ngwrthnebwyr ger dy fron, Duw tro eu amcan aflau.

Page 345

Mae 'nghalon ymron torri, Gan gymmaint yw ngosydi: Ac ni feddai nêb o rym, A ddengys im dosturi.
Duw dere ar frys im helpu, Im cymmorth a'm diddanu; Tynn fi o'm trallod er mwyn Christ, Gwna nghalon drist † 1.2025 grechwennu.
O dere Farnwr cyfion, A Barna di f'achosion; Gwêl y camwedd wi 'n i gael, Ar ddwylo gwael elynion.
Mâb Duw bydd di Ddadleuwr, I * 1.2026 bledo dros dy wsnaethwr; Nâd i'r Gelyn ddwyn fy rhan, Lle rwyfi 'n wann diswccwr.
A thithe Tâd diddanwch, Cymffordda fi'n fy nrhistwch: Cwyn fy nghalon drist heb ffael, A phâr im gael llonyddwch.* 1.2027
Dwg gymmorth im drachefen, O'th Jechydwriaeth lawen; A'th hael yspryd eynnal fi: Nâd drallod dorri 'nghefen.
Pâr immi glywed beunydd Orfoledd a llawenydd: Fel y chwarddo 'nghalon wann, Y ddrylliwyd gan dy gerydd.

Page 346

Psalm o ddiolchgorwch am ymwared o gystydd.

* 1.2028O'R Dwst, o'r dom, o'r dyrfa, Or Llywch, o'r Llaid, o'r Llacca, Di 'm derchefaist vn Duw Tri, Gan hynny mi 'th folianna.
Di nadaist im Gelynion, Gael arnai wyn eu ealon, Pan yr oeddwn glâf a gwann, Yn gorwedd dan drallodion:
Mi lefais arnad Arglwydd, Rhag mynd i'r bêdd trwy wradwydd: Di wrandawaist ar fy llêf, Rhoist help o'r nêf yn ebrwydd.
Gwaredaist f'enaid hyfryd, Rhag mynd i uffern danllyd; Am corph egwan, trist ei wedd, Rhag mynd i'r bedd llydylyd.
Gan hynny meibion dynion, A'r Sainct, a'r hôll Angelion, Cenwch foliant un Duw Tri, Am * 1.2029 ddelo â mi mor dirion.
Ni pheru ei lid ond ennyd, Ei † 1.2030 hedd sydd well nâ bywyd: Dy * 1.2031 fâr a erys dros brydnawn, A'r boreu cawn lawenfyd.
Tra fum i yn llwyddiannus, Mi ddywedais yn rhyfygus, Na'm fymydyd tra fawn byw, Ond y cawn fyw 'n fin-felus.

Page 347

Os Arglwydd o'th ddaioni, Di fuost gryfder imi; Nes itt ddigio wrth dy wâs, Am troi i † 1.2032 gâs anigri.
Pan troesost ti dy wyneb, O achos f'annuw••••ldeb, Yno y syrthiais bob yr awr, I drallod mawr dicreb.
Ac yno y llefais Arnad, Yn daer, yn dost, yn irad, Am dosturio wrthi ym-mhryd, A * 1.2033 spario mywyd † 1.2034 anllad.
Pa lês o Arglwydd hyfryd, Y gae oddiwrth fy mywyd? Pan descynnwi 'n dost fyng wedd, I'r pwll a'r bedd llydylyd.
A fydd i'r llwch glodfori Dy Enw di * 1.2035 oddifri? A fynegaf dy wir fy Nâf, Pan byddaf gwedi trengi?
Clyw Arglwydd, moes drugaredd, A rho gynnorthwy rhyfedd, I mi druan dôst fy nghâs, Yn ol dy râs bondigedd.
Di roeist o Dduw yn hygar Lawenydd yn lle galar: A dioscaist fy sâch-wisc, Pan oeddwn mysc rhai 'n trydar.
O Arglwydd fy Nuw grassol, Mi'th folaf yn dragwyddol; O herwydd ti 'm gwaredaist i, I'th foli di yn hollol.

Page 348

Am Ddiwedd y Byd.

PAwb sy'n chwennych dysgu 'r pryd, Y daw Christ i farnu 'r Byd: Rheitach yw i bob rhai ddysgu, Ymbartoi cyn mynd i barnu.
Ffôl o beth i feibion dynion, Geisio gwybod mwy nâ Angelion, A deallu wrth draws amcan, Ddirgel * 1.2036 gwnsel Duw ei hunan.
Nid oes dŷn, na Diawl, nac Angel, All deallu dim o'i gwnsel, Na'r holl fŷd yn abal * 1.2037 daclo, Vn cyfrinach a fo gantho.
Ofer yw i neb chwennychu, Nabod dim y fo Duw 'n gelu, * 1.2038A mynegu wrth draws amcan, Beth nas † 1.2039 gwyddei Christ ei hunan.
Dysc gan Ghrist y peth hyspyssodd, Na chais wybod dim y gelodd: * 1.2040I ni perthyn a ddadguddiwys, I Dduw 'r cwbwl nas mynegwys.
Na chais wybod tra fech byw, Ddim o ddirgel bethau Duw; Ac or ceisii mae 'n ddiogel, Boen a chwilydd am dy drafel.
Y mae 'r môr yn boddi llawer, Sydd yn chwennych gweld ei ddyfnder: A'r haul wenn yn dallu llygaid, Pawb edrycho arni 'n * 1.2041 dambaid.

Page 349

Dydd y farn sydd * 1.2042 siwr i ddyfod, Y pryd nid oes ond Duw 'n ei wybod: Ffôl yw 'r dyn y geisio † 1.2043 drogan Y dydd, nas gŵyr ond Duw ei hunan.
Dweded pawb ei dewis chweddel, Nid oes dyn, na diawl, nac Angel, Wyr y dydd, na'r awr, na'r flwyddyn, Y daw Christ i farnu arnyn.
Gwiliwch bawb a byddwch barod, A disgwyliwch nes ei ddyfod, Ar y dydd a'r awr nas gwypoch,* 1.2044 Y daw Christ yn ddirgel attoch.
Jago a Pheder gynt ofynnodd, I Grist, cyn ei † 1.2045 ddercha ir nefodd, Athro, dangos cyn dy † 1.2046 ddrycha, I ni 'r prŷd ar dydd diwetha.
Christ attebe ei ddiscyblion,* 1.2047 Nid perthynas i blant dynion, Wybod * 1.2048 Cwnsel y Gorucha, Am y dydd a'r awr ddiwetha.
Mae Duw 'n cadw hynny 'n ddirgel, Iddo ei hunan yn ddiogel: Gwiliwch bawb, a byddwch barod, Nes y dêl ni chaiff neb wybod.
Nid yw'r doetha o blant dynion, Na'r anwyla o'r Angelion, Yn deallu hyn o Amser, * 1.2049Gweglwch gredu chwedleu ofer.
Elias gynt, medd rhai, y ddwede, Y parhau 'r byd, chwech mîl o flwydde, Yn ôl hynny fe ddiweddidd, Drwy Dân poeth, nes ail * 1.2050 renewid:

Page 350

Dwy fil heb vn Gyfraith † 1.2051 haychen, Dwy fil dan gyfreithau Moesen, Dwy fil dan Efengyl Jesu, Or cae bara cŷd a hynny.
Tair oês meddant sydd ir bŷd, Vn * 1.2052 heb gyfraith oll i gyd, N'all dan drwm lwyth gyfraith Foesen, Drydedd dan y fengyl lawen.
Y ddwy oes gynta aethont heibio, A'r drydydd oes sy'n para etto; Hyd pa hyd y peri weithian, Nis gwyr neb ond Duw ei hunan.
Mil a chwechant aethont heibio, O'r oes hon ac vgain Cryno; Fe all pawb wrth hynny wybod, Nad oes fawr o hon heb ddarfod.
Pawb o'r doethion a gyttuna, Mae byrra oes yw'r oes ddiwetha; Os er mwyn y detholedig, Hi fydd byrrach nid ychydig.
* 1.2053Ifan alwe 'r oes hon ymma, Yn ei ddydiau'r oes ddiwetha; Os diwetha 'r amser hynny, Mae hi'n awr * 1.2054 ymron Terfynny.
Diwedd pob peth oedd yn † 1.2055 nessid, Pan oedd Peder yn y Pulpid; Nid oes lûn nad ydyw'r diwedd, Nawr wrth hynny'n agos rhyfedd.
Yn amser Paul yr oedd gan mwya, Yr oês a'r dydd, a'r awr ddiwetha, Rwan yn ein hamser ninnau, Mae'r diwetha or † 1.2056 mynudau.

Page 351

Y bŷd sydd gwedi mynd yn gleirchyn, Ac yn Grippil medd saint Awstin: Mae ê 'n cerdded ar ffynn Baglau, Nid oes nemmawr iddo o ddyddiau.
Gwiliwn bawb a byddwn barod,* 1.2057 Mae 'r dydd mawr yn agos dyfod, Mae medd Christ ymron y dryssau, Trwssiwn bob rhai ein * 1.2058 Lusernau.
‖ 1.2059Certen yw y daw ar fyrder, † 1.2060Ancertennol ydyw 'r amser; Pwy cyn gynted nis gwyr vn dyn, Byddwn bob awr ar ein * 1.2061 rofyn.
Nid oes dŷn medd Christ ei hunan, Wyr y dydd a'r awr yn gyngan, Nac vn Angel detholedig, Na neb ond y Tâd yn vnig.
Ofer yw gan hynny i ddynion, Geisio † 1.2062 maneg yr amseron, Y mae 'r Tâd yn gadw 'n gyngan, Yn dra dirgel iddo ei hunan.
Etto Napeir enwa 'r flwyddyn, Y gwna Duw ar bob peth derfyn, Ac y bydd y flwyddyn hynny, Cyn mil saith cant o oes Jesu.
Dweded pawb ei dewis chweddel, Nid oes dyn, na Diawl, nac Angel, Wyr yr awr, na'r dydd, na'r flwyddyn, Y gwna Duw ar bob peth derfyn.
Byddwn barod bawb gan hynny, Edifarwn heno, heddu: Ar y dydd ar awr nas gwypom, Y daw Christ yn ddirgel attom.

Page 352

Fel na nabu serchog Rachel, Oi † 1.2063 thymp nes mynd ar ei thrafel, Felly ni chaiff dynion nabod, Dydd yr Arglwydd nes ei ddyfod.
Pan daeth amser Rachel wisci, Ar ei phlentyn bâch escori, F'orfu escori ar y bachgen, Ar y ffordd dan fôn y dderwen:
Felly gorfydd ar y ddaiar, Sy'n beichiogi er yn gynnar, Gwympo i escori ar y meirw, Pan del vdcorn Christ iw galw.
Fel y daeth y Tân ar Brwmstom, Yn ddysymmwth am ben Sodom, * 1.2064Felly daw y Dydd diwedda, Pan bo'r byd yn cyscu 'n smala.
Ni ŵyr nêb o'r awr na'r amser, Byddwn bôb awr ar ein pryder, * 1.2065A'n Lusernau yn ein dwylo, Gydâ'r merched call yn gwilio.
Mae 'r arwyddion gwedi cerdded, Y fynegodd Christ cyn * 1.2066 blaened, Ond bôd 'chydig o'r Iddewon, Etto heb gredu 'r fengyl dirion,
* 1.2067Fe ferthyrwyd y' Postolion, A mil miloedd o'r Christnogion, Ym-mlhaid y ffydd a'r efengyl; Fe ŵyr holl-gred hyn yn rhigil.
* 1.2068Fe ddistryw-wyd Caerusalem, Nid oes maen ar faen lle gwelem; * 1.2069Hithau 'r Demel fawr y losgwyd, A'r Iddewon a wascarwyd.
〈1 page missing〉〈1 page missing〉

Page 353

F'aeth fengyl hygar hyfryd, Ar farch gwyn ar draws yr holl fyd:* 1.2070 Nid oes Cornel dan y nefoedd, Na bu 'r fengyl ynddo 'n rhyw-fodd.
Nifer mawr o Gristiau ffeilston,* 1.2071 Yng-rhêd ac angrêd y godasson, A thrwy * 1.2072 hocced Tâd y celwydd, Troesont lawer i gam-grefydd.
Rhyfel blin rhwng Twrc a Christion,* 1.2073 Y fu 'n fynych iawn ni glywson: Sôn mawr sydd am ryfel etto, Rhoed Duw hedd ir sawl ai caro.
Newyn mawr a thost ddrudaniaeth, Y fu'n llawer gwlad ysowaeth; Haint, a Phlâg, a chwarren waedlyd, Y fu'n hwyr ar hyd yr holl-fyd.
Daiar grûn y fu o'r mwya, Nes syrthio Temel fawr Ddiana, A bwrw lawr y Trefydd mawrion,* 1.2074 Twre a chestyll yn † 1.2075 sebwrthon.
'Rhaul † 1.2076 ecclipsodd or' Tywylla, Nes mynd dydd yn nôs gan mwya: A'r môr mawr aeth dros y * 1.2077bancau, Boddodd miloedd o eneidiau.
Y mae * 1.2078Anghrist ynte'n rhochain, Ys llawer dydd yn Eglwys Rhufain; Ac yn † 1.2079 mwrddro 'r Saint heb orphwys, Eisiei alw 'n benn ir Eglwys.
Cariad Perffaith ynte oerodd,* 1.2080 Ni châr mâb o'r Tâd a'i magodd; Gwaudd ‖ 1.2081 a chweger sy'n * 1.2082 ymsowtan, Câs gan frawd ei frawd ei hunan.

Page 354

* 1.2083Ffydd ysowaeth sy'n mynd lai lai, Cred o gryn-fyd aeth yn garrai, Asia, Affric, Graecia ffyddlon, Sydd yrwan heb gristnogion.
Nid oes vn o'r holl arwyddion, Ond dymchweliad yr Iddewon, Na bont eiswys gwedi dyfod; Gwiliwn bawb a byddwn barod.
* 1.2084Y mae'r Barnwr mawr yn cychwyn, Mae ys dyddie ar ei rofyn; * 1.2085Fe ddaw weithian yn dra hoyw, I roi barn ar fyw a meirw.
Mae ef gwedi hogi gledde, A golymmu ei holl saethe; Mae ei fwa yn ei annel, Ac yn barod mynd i ryfel.
Mae fraich rymmus gwedi hystyn, Mae Angelion ar ei rofyn; * 1.2086Fe ddaw fel y diluw tanllyd, I roi barn ar bawb o'r hollfyd.
O meddyliwn ninne am wiliad, Ac am ddisgwyl ei ddyfodiad, A bod bawb â'n cyfri 'n barod, Ac yn dacclus cyn ei ddyfod.

Cofiwch Angeu.

BYrr yw'n hoes ac * 1.2087 Ancertennol, Heddyw n' fyw, y foru 'n farwol; Gynne 'n Gawr, y boir yn gelain, Dymma gyflwr dŷn a'i ddamwain.

Page 355

Ni bydd ymma am hen ennyd; Un o honom heb ei symmyd; O meddyliwn am ein † shiwrne, Heno ysgatfydd rhaid ei deobre.
Fel y rhed yr haul ir hwyr, Fel y treulia 'r ganwyll gwyr, Fel y syrthia 'r Rhossyn gwynn, Fel y diffidd tarth ar lynn:
Felly Treulia, felly rhed, Felly derfydd pobol Grêd, Felly diffydd bywyd dŷn, Felly syrthiwn bob yr un.
Fel llong dan hwyl, fel ‖ 1.2088 pôst dan fawd, Fel saeth at † 1.2089 farc, fel Gwalch at ffawd, Fel mwg ar wynt, fel llif ar ddwr, Y * 1.2090 Posta ymmaith einioes gwr.
Fel saeth y rhêd, fel Post y gyrr, Fel Cwyr y Tawdd, fel ia y tyrr, Fel dail y syrth, fel gwellt y gwywa, Fel Tarth y trig, fel Lamp y treula.* 1.2091
Ni ddifannwn fel y cyscod, Ni lwyr doddwn fel y mano, Ni † 1.2092 ddiharffwn fel glaswelltyn, Ni ddiffoddwn fel yr Ewyn.
Ni cheir gweled mwy o'n hôl, Nag ol Neidir ar y ddôl, Neu ol llong aeth dros y Tonne, Neu ol saeth mewn Aw yr dene.
O! gan hynny, heddyw, heno, Moeswch i'ni bawb ymgweirio, Fynd ar * 1.2093 ffrwst, a thynnu oddiyma, Lle na chawn o'r hir arhosfa.

Page 356

Mewn Tai o glai yr ym yn trigo, * 1.2094Storom gron y bair eu syrthio; Gwiliwn rhag ir Angeu ein saethu, A briwio 'r wal Tra fom yn Cyfgu.
Fel y trewir pysc â thryfer, Fel y saethir † 1.2095 phesant dyner, Fel y torrir blodau'r ardd, Fel y lleddir * 1.2096 gweunydd hardd:
Felly trewir dŷn heb wybod, Felly saethir yn ddiarfod, Felly torrir gwchder dŷn, Felly 'n lleddir bob yr un.
Fel dwr dîluw ar y cynfyd, Fel tân gwyllt ar Sodom aethlyd, Fel * 1.2097 llycheden, fel y ddraig; Fel y gwewyr blin ar wraig:
Felly 'n chwyrn, ac felly 'n danllyd, Felly 'n † 1.2098 immwngc, felly 'n aethlyd, ‖ 1.2099Felly 'n flin, ac felly 'n draws, Y daw 'r Angeu ar ein traws.
Brau yw 'n cnawd, a bâch yw'n cryfdwr, Gwann yw'n grym, a gwael yw'n cyflwr, Tippyn bâch o groes neu gerydd, All yn troi a'n torr i fynudd.
Gwrâch all ladd y Cawr â chogail, Blewyn bâch all dagu'r bugail, Drân ar draws all ladd yr hwsmon, Duw mor * 1.2100 ddiserth yw plant dynion.
Y gwann, y gwael, y dwl, y dall, Y lâdd y cryf, y gwymp y call: Y * 1.2101 bŵr di-barch, â maen nid mawr, A friwia 'n caer, a ddifa 'r Cawr.

Page 357

Beth yw dŷn wrth hyn ond tarth, A mwg, a niwl, a gwellt, a gwarth, A gwydyr crîn, a rhew, a rhossyn, A stên o bridd, a gwynt, ac ewyn.
Y dewr, y doeth, y gwych, y gwalchaidd, Y crŷf, y call, y capten cruaidd, Ein pen, a'n pont, a'n grym, a'n gras, Y gafodd gwymp gan angeu câs:
Fel y cwymp holl ddail yr allt, Fel y * 1.2102 croppia 'r gwelle 'n gwallt, Fel y gwywa lili 'r maes, Fel y tyrr y gwydyr glâs.
Felly gwywa, felly tyrr, Felly * 1.2103 craccia 'n bywyd byrr, Felly croppiir einioes dŷn, Felly cwympwn bob yr un.
Fel tŷ bugail ein symmydir, Fel stên briddlyd ein candryllir, Fel dilledyn y darfyddwn, Fel y llwydrew y dyfflannwn.
Ni chawn aros mwy nâ 'n tadau, Awn ir ffordd yr aethont hwyntau: Rhaid i'n fynd i wneuthur cyfri, A rhoi * 1.2104 rhwm i eraill godi.
Nid oes lle in' aros ymma. Ond dros ennyd i hafotta: Gwedyn gorfydd ar bawb symmyd, Fynd ir ffordd yr aeth yr holl-fyd.
Y mae 'r angeu glâs â'i fwa, Yn ein herlid ym-mhob tyrfa: Nid oes vn-dyn all ddihangyd, Rhag ei follt âi saeth wenwynllyd.

Page 358

Mae ê'n ddirgel yn marchogaeth, Ar farch glâs ym-mhob cenhedlaeth: Nid oes dŷn all diangc rhagddo, Aed ir wlâd ar mann y mynno.
Er bôd Hasael gynt nâ 'r cwig, Er bôd Sawl fel eryr ffrolig, Er bôd Jehu 'n gynt nag ynte, Ni ddihangodd vn rhag Ange.
Er gwroled gŵr oedd Sampson, F'orfu, * 1.2105 ildo ir angeu digllon: Felly gorfydd arnom ninnau, Pyt fae ei gryfder yn ein breichiau.
Alexander y † 1.2106 gwngcwerodd, Yr holl fŷd y ffordd y cerddodd; Angeu gwedi 'r * 1.2107 concwest sceler, Y gwngcwerodd Alexander.
Lladdodd angeu bôb cwngcwerwr, Lladdodd Galen y physsygwr, Lladdodd Luc y meddyg goreu; Pwy all ddiangc mwy rhag angeu?
Fel y † 1.2108 damsing meirch Rhyfelwyr, Dan eu traed bôb * 1.2109 fort o filwyr, Felly damsing angeu diriaid, Y Brenhinoedd fel begeriaid.
Lladdodd Angeu Abel wirion, Lladdodd Angeu Sanctaidd Aaron; Lladdodd Cain a Chum y scymmyn, Nid ywr Angeu 'n arbod widyn.
Pharo 'r * 1.2110 Prins, ac Eli 'r ffeiriad, Esay 'r Prophwyd, Joel yr † 1.2111 vnad, Noah 'r ‖ 1.2112 Patriarc, ar hen Dadeu, Y ddifethwyd gan yr Angeu.

Page 359

Fel n' arbede Herod greulon, Ladd y bychain mwy nâ'r mawrion; Felly gwn nad arbed Ange, Hên nac ifangc mwy nag ynte.
Pe rhoed iddo Aur yn bwnnau, Mil o wledydd a'i Coronau, Ni chaed gantho Arbed bywyd Dŷn, dros Awr, Pe rhoed yr hollfyd.
Ni chaiff neb * 1.2113 ganlyniaeth gantho, Er † 1.2114 ymhwedd ac er ceisio, Mwy nac y Cae Bilat ddigllon, O'i ganlyniaeth gan Iddewon.
Ni rŷ Angeu Pan y delo, Awr o * 1.2115 resbyt i ni ymgweirio, Nac vn rhybydd o'i ddyfodiad, Mwy nâ'r Ci cyn lladd y ddafad.
Ond fel llidir fe ddaw 'r Angeu, Yn ddisymmwth am ein penneu, Tro ni 'n Cyscu yn ddiofon, Fel Philistiaid am ben Sampson.
Os bydd diffig dim ir shiwrne, Oyl ir lamp, na gwisc ir Cefne; Ni chaer gan yr Angeu melyn, Aros inni fynd i mofyn.
Ond fel Brenin Babel ddiras, Yn Troi Sidrac * 1.2116 chwip ir ffwrnas, Fe dry 'r Angeu bawb y granffo, Ir ffwrn briddlyd fel ei caffo.
Fel y daw y lleidir † 1.2117 difiog, Ganol nôs am ben goludog: Felly daw yr Angeu in Cyrchu, Yn ddiymgais tro ni 'n Cyscu.

Page 360

Fel y teru gŵr â thryfer, Bysc tro 'n gorphwys yn ddibryder; Felly teru Angeu ddyrnod, Ar blant dynion mor amharod.
Fel na wyr y glommen dyner, Na'r pryd, na'r mann y teru 'r * 1.2118 ffowler: Felly 'n hollol ni wyr vn dyn, Na'r pryd, na'r môdd y bydd ei derfyn.
Mewn vn ffordd yr ym yn dwad, Ir byd hwn dan wylo 'n irad; A thrwy fil o ffyrdd heb * 1.2119 farcco, Rym yn mynd y maes o hano.
Nid oes vn mann yn ddibryder, Na ddaw 'r Angeu glâs â'i dryfer, I roi inni ddirgel ddyrnod; Ymmhob mann, och! byddwn barod.
* 1.2120Wrth droi 'r defaid mewn lle dirgel, Y daeth Angeu am draws Abel: Gwachel dithe gael ei ddyrnod, Wrth droi dautu dy nifeilod.
* 1.2121Ar y genffordd wrth shiwrneia, Y bu farw Rachel fwyna: Wrth shiwrneia gwachel ditheu, Rhag cyfarfod âr glâs Angeu.
* 1.2122Pan oedd holl blant Job yn gwledda, Y daeth Angeu ar eu gwartha: Nid oes * 1.2123 gwarant gennyd titheu, Yn dy wledd rhag dyrnod Angeu.
Holophernes a fu farw, Yn ei gwsc pan oedd ef meddw: Gwachel dithe yn dy feddwdod, Rhag i Angeu roi 'ti ddyrnod.

Page 361

Balthazar er maint oedd gantho,* 1.2124 Y fu farw wrth * 1.2125 garowso: Wrth garowso gwachel ditheu, Od wyt gall rhag dyrnod Angeu.
Fe rows Angeu anfad ddyrnod,* 1.2126 Ar y faingc i frenin Herod: Ar y faingc y dlye Farnwyr, Gofio Angeu mawr ei hydyr.
Saethodd Angeu saeth wenwynllyd, Trwy gorph Achab yn ei gerbyd:* 1.2127 Yn dy * 1.2128 Goach ymgadw ditheu, Rhag dy daro â bollt Angeu.
Fe ddaeth Angeu megis † 1.2129 mwrddrwr, Am draws Eglon yn ei barlwr: Gwachel dithau rhag ei biccell, Trech yn gorphwys yn dy stafell.
Pan oedd Difes yn ei sidan,* 1.2130 (A'i phâr foethus) oll yn hedfan, Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdodd; Gwachel dithe balch ei wiscodd.
Gwedi 'r Cerlyn adail llawer, A chrynhoi dros hirfod amser;* 1.2131 Fe ddaeth Angeu ac ai lladdwys, Cyn cael profi o'r pethau gasclwys.
Gwachel ditheu 'r * 1.2132 Cob a'r Cerlyn, Sy'n Crynhoi dros lawer blwyddyn, Rhag ir Angeu dy gyrhaeddyd, Cyn cael profi dim o'th olud.
Fe ddaeth Angeu i drywanu, Dau fab Aron wrth Aberthu:* 1.2133 Wrth yr Allor dlye'r ffeiriad, Ofni Angeu a'i ddyfodiad.

Page 362

Pan oedd Senachrib y brenin, Yn y demel ar ei ddaulyn, Fe ddaeth Angeu ac a'i lladdwys; Ofnwch Angeu yn yr Eglwys.
* 1.2134Fe rows Angeu frâth i Zimri, Wrth gydorwedd gydâ Chosbi: Gwachel dithe wrth butteinia, Rhag ir Angeu glâs dy ddala.
Nynn dy Lamp, a gwisc dy drwssiad, Cyn dêl Angeu 'n agos attad: Gwna dy gownt a'th gyfri 'n barod, Cyn dy alw o flaen y Drindod.
Bydd di barod heddyw, heno, Ag Oel ith lamp, a'th wysc yn * 1.2135 gyfrdo, Fynd o flaen dy farnwr prŷdd, Y foru o bossib ydyw 'r dydd.
Ni wyr Peder, ni wyr Pawl, Ni wyr Angel, ni wyr Diawl, Ni wyr Planed, ni wyr dŷn, Na neb o'n hawr, ond Duw ei hun.
Rhyd dydd, rhyd nôs, yn glaf, yn iach, Ar fôr a thir, yn fawr yn fach, Mewn Tre a gwlad, bawb byddwch barod, Ni wys pwy wlad y cawn ni'r dyrnod.
Gweithiwch bawb tro 'r dydd yn para, Cyn cotto'r haul crynhowch y Manna: Derbyniwch râs, tro Duw 'n ei gynnig, Partowch eich rhaid cyn delo'r diffig;
Cyn colli 'r * 1.2136 Gôl, cyn delo 'r nôs, Cyn torri 'r pren, cyn cwympo ir ffôs, Cyn cau y porth, cyn mynd ir garn, Cyn canu 'r Corn, cyn rhoddi 'r farr.

Page 363

Rhed am y chwyth, Gwna waith dy Dduw, Dwg ffrwyth yn † 1.2137 rhîn o'r gorau ei ryw, Dos * 1.2138 chwip ir wledd a'r farn yn gyfrdo, Cais dy gyfraid cyn ymado.

Cân ar y Flwyddyn 1629, pan yr oedd y Llafur neu'r yd yn afiachus trwy lawer o law.

Duw Frenin trugarog, Duw Dâd Holl-alluog, Duw Porthwr newynog, na newyna ni, Sy'n canlyn dy ffafar, â chalon edifar, Yn ol dy hîr watwar a'th Siommi.
Er mwyn dy drugaredd anfeidrol a'th fawredd, Er mwyn dy wîr Tifedd, Dofa dy lîd: Gwrando di 'n Gweddi, Madde 'n drwg nwydi, A chymmorth ein Tlodi, a'n hadfyd.
Ni Bechsom yn d'erbyn, yn daran escymmyn, Nes tynnu hîr Newyn, a Niwed i'n plith, Ac amryw ddiale sy'n gryddfu 'n calonne, Heb allel hîr odde dy felldith.
Ni dorsom dy gyfraith sydd gyfion a pherffaith, Do lawer canwaith, Cyn cwnnu o'r mann, Fel rhai a fae 'n tybiaid, na bae genyd lygaid, I ganfod fileinaid mor aflan.
Dy enw Gablassom, dy air y gasausom, Dy fengyl y droedsom, yn ddibrys dan draed; Dy sabboth halogwyd, dy demel adaw-wyd, Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni dorsom dy ddeddfau, fel pobol a dibiau, Na ddawe dialau, am ddilyn ffordd ddrwg; Neu rai a fae 'n credu, na bae gennyd allu, I'n * 1.2139 plago am bechu yn cynddrwg.

Page 364

Pan helaist gennadon i † 1.2140 faneg ein beion, A'n troi ir ffordd union, yn dirion, yn daer: Ni gausom ein clustie, rhag clywed eu geirie, Fal neidir a fydde yn fyddar.
Pan gyrraist dy weision, in gwawdd ni rhai deilli∣on, Ith swpper yn dirion, i † 1.2141 dario 'n dy lŷs; Ni ballsom o'r dwad, ni droesom ir farchnad, * 1.2142A'n fferem, yn anllad anhappys.
Ni fynwn i o'r Manna, ni thrig e'n ein cylla, Ni charwn ni or bara a beru byth, Ond garlleg ac wyniwn, a * 1.2143phannas a phompiwn, Fel Twrchod a garwn ni 'n aryth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n cnoi ni mor rhygyl, Ni drown ein gwegil at hon lawer gwaith; Ni chaiff hi 'n ceryddu, na'n dangos, na'n dyscu, Mae 'n draws yn gwrthnebu ein drwg-waith.
Ni adwn ni'r scrythur reoli 'n drwg nattur, Na'th gyfraith gymhessur gymhwyso mo'r traws: Ond byw wrth ein † 1.2144ffansi, a'n trachwant an gwegi, Heb fynnu rheoli ein drwg-naws.
Gan hynny waith troedo dy gyfraith a'i gado, Ni aethom ar ddidro yn ddidrangc, gwae ni, Fal defaid y rede, or llafur ir ffalde, ar ôl llanw eu bolie, i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha, fel mawr ddrwg Gomorra, Yn llefain am wascfa, i wascu ar ein cêst; Ni thaw byth o'u penne, nes delo diale, I wascu ar ein crylie â † 1.2145 dirwest.
Mae pob grâdd o ddynion, yn fychain yn fawrion, Yn pechu yn greulon yn erbyn dy Grist, Fel pobol wrth raffe, a dynne ddiale, O'r nef am ei penne, yn athrist.

Page 365

Mae 'r ffeiriald yn gadu dy bobol i bechu, Heb geisio eu nadu i uffern ar naid: A'r vn ac a geisio a'r fengyl eu rhwystro, Fe gaiff ei * 1.2146 anfrifo yn ddiriaid.
Mae 'n parchus Reolwyr, (och Dduw) yn rhy segur, Yn godde troseddwyr, drist soddi 'r wlad, Heb gospi âr cledde, na'r bobol na'r beie, Sy'n † 1.2147 damsing dy ddeddfe mor ‖ 1.2148 irad.
Mae'r bobol gyffredin, fel Israel heb frenin, Na Ffeirad ei maethdrin, na phrophwyd i roi maeth Yn byw yn anhywaith, fel pobol heb gyfraith, Heb grefydd, heb obaith, ysowaeth.
Mae'n rheipus swyddogion, yn speilio rhai gwirion Yn † 1.2149 ewnach nâ'r lladron (llwyr edrych ar hyn) A'r carlaid yn bwytta y tlodion fel bara, Neu'r morfil a lyngca 'r * 1.2150 sgadenyn.
Mae 'r gweision cyfloge, a'r hirwyr yn chware, Mae 'r gweithwyr yn eiste, heb ostwng eu pen, Yn † 1.2151 tordain, yn blino, heb fynnu mor gweithio, Nes delech eu * 1.2152 pricco ag angen.
Mae'r * 1.2153 tanner a'r † 1.2154 twccwr, a'r ‖ 1.2155 baccer a'r * 1.2156bwt∣siwr Gwaydd, gôf, a thaylwr, a thiler a chrŷdd, A'r hwsmyn, a'r creftwyr, a'r diffrwyth uchelwyr, Yn mynd yn dafarnwyr digrefydd.
Mae 'r gwragedd yn gado eu nyddiad a'u cribo, Eu gwayad, a'i gwnio, i dwymo Dwr, Gwerthassant ei † 1.2157 rhode, a'i cyffion a'i cribe, I brynu costrele tafarnwr.
Mae'r Mwrddrwr a'r gwibiad, ar bawdy cnâf an∣llad Ar lleidr, a'r † 1.2158 gwilliad, a'r ffeiriad ffôl, A Shini a Shangco, a * 1.2159 lisens i wttro, Bûr, Cwrw, tobacco, heb reol.

Page 366

Pe ceisie na'r Cythrel, na'i fam godi capel, Wrth ochor dy demel, er dimme yn y dydd, I gadw tafarndy cyhoeddus yng Hymru, Fe gae ei gennadu yn ufydd.
Duw * 1.2160 dere o'th arfer, â chyngor ar fyrder, Torr lawer o'r nifer, sy 'n nafu'r byd, Cyn bwyttont ei gilydd, cyn nafont y gwledydd, Cyn llygront dy lân-grefydd hyfyd.
Mae'r gweifion mor * 1.2161 ddainti, na fynnant hwy gorphi Ond gwyn fara eu meistri, neu † 1.2162 fustro a wnant, A'r merched ar gyflog, ond odid yn feichiog, Am fod yn rhy wressog meddant.
Mae pob rhyw o alwad, yn ddibris am danad, Yn ceisio ei codiad, ai cadw ei hun; Heb geisio d' ogoniant ti Arglwydd ein llwyddiant, Na'th fawrglod, na'th foliant na'i 'mofyn.
O achos gan hynny, fod pawb yn trofeddu, A phob rhai yn pechu â'i buchedd ar draws, Di geisiaist trwy fwyndra, ac ennyd o wascsa, I'n cyffro i wella ein drwg-naws.
Yn fwyn ac yn serchog, fel Arglwydd trugarog, A fae yn dra chwannog, in hennill trwy dêg, Di geisiaist yn dirion, trwy amryw fendithion, In tynnu ir ffordd union, yn loywdeg.
Pan ffaelodd dy swynder wella'n drwg arfer, Bygwthaist â chryfder, a llwmder in lladd; Hogaist dy gledde, golymaist dy satthe, Paratoaist dy arfe i ymladd.
Ond gwedi ti ymgweirio, rhoest rybydd cyn clwy∣fo, Bygwthaist cyn taro, a'n torri i lawr: * 1.2163Offrymaist in ffafar, o byddem ni difar, A ninne 'n dy watwar yn ddirfawr.

Page 367

Pan gwelaist Dduw cyfion, na thyocie fygwthion, Di yrraist yn llymmion dy sacthau i'n lladd, A'n curo a'n corddi, â llawer o 'fydi, Na allem na'i dofi, na'i gwrthladd.
Gelwaist dy weision, † 1.2164 mwstraist d' Angelion, A'th dri march Mawrion, Côch, glâs, a dû; A gyrraist hwy'n ddiriaid, ar holl greaduriaid, In plago fileiniaid a'n gryddfu.
Rhoist ddu-rew digassog, hâf poethlyd* 1.2165 anffodiog, Gwynt stormys scethrog, yn scathru'r ŷd, Llifeiriaint i'n foddi, a'r moroedd i'n boddi, A chan rhyw ofydi i'n herlyd.
Twymynne Cyndeiriog, drudaniaeth digassog, Marwolaeth llym * 1.2166 oriog mewn llawer mann, A helaist in cyffro, i bryssur repento, A'n † 1.2167 cathrain i'th geisio yn gyfan.
Pan gwelaist na alle hyn oll o ddiale, Ein dattroi o'n beie, i wella ein byd, Di helaist drachefen hîr newyn a chwarren, A rhyfel aflawen i'n herlyd.
Y chwarren y laddodd ddiarhebrwydd o filodd, Mewn amryw o leodd, â gormodd lîd; Nes llanw'r monwentydd, â thlodi'r holl drefydd, Lle gyrraist dy gerydd eu hymlid.
A'r rhyfel anffodiog y ddaeth yn ddigassog A'r cledde yn llidiog, i'n tlodi a'n lladd; Nes difa'n rhyfelwyr, a'n tryssor, a'n llafyr, A'n hela 'n ddi-gyssur i ymladd.
Soddaist ein llonge, diddymaist ein * 1.2168 plotte, Troist Fîn ein cledde, taflaist ni ir clawdd: Dallaist ein doethion, dychrynaist ein dewrion, Gwerthaist ni ir Cassion a'n ceisiawdd.

Page 368

Ychwarren a'r cleddu y wnaeth i ni grynu, A dechre difaru, dau fore neu dri, A chanlyn a chrio, am dynnu'r plag heibio, Nes itti lwyr wrando ein gweddi.
Pan tynaist ti 'r chwarren a'r rhyfel aflawen, Ni droesom drachefen, dri chyfydd i'n hol. Fel cwn at ei chwdfa, ith ddigio a'th hela, In dofi a'n difa 'n anffafrol.
Gan hynny di helest y stormau a thempest, Yng hanol ein gloddest, in cospi â glaw, Nes nafu 'n cynhaya, a defnydd ein bara, A chospi'n hîr draha â chyr law.
Tywalltaist dy felldith, mor drwm ac mordryfrith Ar * 1.2169 farlish a gwenith, a phob ymborth gŵr, Fel y gwrthneba nifeiliaid i fwytta, Ni phraw 'r cwn o fara 'r llafurwr.
Mae'r march yn ffieiddio, a'r mochyn yn gado, Y llafur sy'n llwydo, a'r egin yn llawn, Gan gynddrwg yw * 1.2170 rhelish y † 1.2171 pilcorn a'r barlish, Y gâd o'r anilish fisgawn.
O Arglwydd ni haeddson dy felldith yn gyfion, Ar lafur o'r fisgon, a'r fasced a ftôr, A newyn a nychdod, am hîr anufydd-dod, O ddiffig it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n † 1.2172 traha ar ddiod a bara, A bair i ni fwytta, oni attal Duw, * 1.2173Y ffacbys ar callod, ac ymborth nifeilod, Ar crwst ym ni 'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi, A'r bara â'r pinni ni bwrem on' pen: A'n begers mor foethus yn teri ar farlish, Ni phrosent ond canish † 1.2174 haychen.

Page 369

Ni fuom yn bwytta Gormoddion o fara, Fel pobol Gomorra 'n camarfer eu byd, Heb ddiolch am dano, na swpper na chinno, Nes inni dy ddigio yn danllyd.
Ni fuom yn yfed, nes mynd yn cyn dynned, Na allem ni gerdded, na myned o'r mann, Nes arllwys ein ceudod, lle hyfsom ni'r ddiod, Yn waeth nâ'r nifeilod aflan.
Bu deie'n tafarne, yn llawnach ddydd sulie, O addolwyr bolie, yn addoli Baal, Nag oedd ein heglwysydd, o ddynion o grefydd, Ith 'ddoli di 'n ufydd, Duw nefawl.
Tair gwaith o leia, y llanwn ni 'r bola, Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd: Pring mewn chwe die, y cofiwn ni dithe, Am lanw ein crelie â brâs-fwyd.
Ni flinwn yn ebrwydd, yn d'eglwys o Arglwydd, Er maint yw ein haflwydd, an hoflyd * 1.2175 'tra: Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn dros wythnos, Er oered o'r hirnos aia.
Fe ŷf un cyn cinnio, o * 1.2176 fûr a thybacco, Paint y ddigono ddeugeinyn ar bryd: Fei chwda drachefen, gan dynned oi botten, Heb feddwl am angen a gofyd.
Mae 'n meddwdod yn crio, am newyn in' pigo, Mae 'n gloddest yn ceisio dwyn prinder i'n cell: Mae'n hafrad ysowaeth, yn gofyn drudaniaeth, A hirbryd trwy hiraeth i'n cawell.
Yn gyfiawn gan hynny, O Arglwydd y gallu, A newyn ein gryddfu am wrthod gras; A thorri a difa cynhalieth ein bara, A pheri ni fwytta ein * 1.2177 carcas.

Page 370

Ond Arglwydd trugarog, er mwyn dy eneiniog, Na ddanfon yn llidiog hîr newyn i'n lladd; Na nychdod i'n gryddfu, na phlâg i'n difethu, Na rhyfel, na chleddu i'n † 1.2178 gwrthladd.
Ond Madde yn rassol ein trawsedd * 1.2179 anguriol, Na wna ni yn Siompol, i bobol y byd: Ond arbed ni'n dirion, a gwella 'n harferion, A newid ein ffinion fywyd.
Nac edrych Dâd cyfion, ar drossedd dy weision, Na 'n beie mawrion, i'n lladd gan ei main: Ond edrych yn hyfryd, ar ange d'anwylyd, I ddofi dy danllyd ddigofaint.
Er mwyn ei rinweddau a'i fywyd a'i angeu, Ai 'fydd-dod ai wrthiau, ai werthfawr waed, Madde inni * 1.2180 basswys, tro ni ir ffordd gymmwys, A chadw ni yn d'eglwys yn wastad.
Golch ein pechode, yng-waed ei welie, Croes-hoelia ein beie yn grygie ar ei groes: Rhwyga 'n * 1.2181 bligassiwn, a doro i ni bardwn, Er mwyn ei ddryd † 1.2182 bassiwn a'i hir loes.
Na alw ni i gyfri, am dan ein drygioni, Na ddere in cospi, am ein gwegi a'n gwaith: Ond arbed dy weision, er mwyn dy fab gwirion, A'th wnaeth yn dra boddlon unwaith.
A danfon dy yspryd, i wella'n drwg sywyd, A'n helpu ddychwelyd, â chalon iach; Ith gywir wasnaethu, a'th ofni a'th garu, A'n * 1.2183 deor i bechu dim mwyach.
Duw attal dy wialen, dad-ddigia drachefen, Tro d'wyneb yn llawen, nâd newyn i'n lladd: Madde 'n trossedde gwir wella'n drwgnwyde, Sancteiddia 'r calonne sy 'n d'wrthladd.

Page 371

Duw gwella di'r tywydd, bendithia di'r maesydd, Tro'n tristwch yn † 1.2184 wenydd, na newyna ni: Rho râd ar y fisgawn, gwna'r farchnad yn gyflawn Diwalla ni â'th radlawn ddaioni.
Rho ymborth ir Christion, rho ogor ir eidion, Rho 'r fengyl ir gwirion y garo 'r gair: Rho heddwch ir deyrnas, ac iechyd ac urddas In pen † 1.2185 Llywyd Charlas ddiwair.
Mîl chwechant ac ugain, a naw mlynedd cywrain, Medd holl ddoethion Brydain oedd oedran ein brawd, A'n Prynwr, a'n ceidwad, pan gwympodd y gawad, Y Lanwodd y farchnad â chwd-flawd.

Cân arall ynghylch y cynhaiaf gwlyb.

RHeolwr y Nefoedd, a'r Ddaiar a'r Moroedd, Ar tywydd, a'r gwyntoedd o'r glynnodd, a'r glaw; Clyw gwynfan tosturiol, ac achwyn dy Bobol, Gan dywydd dryg-hinol a hir-law.
Y mae'r Gwynt, y mae'r Tonne, mae'r Glaw a'r diale, A'r Sêr yn eu gradde, a'r nefoedd yn grych,* 1.2186 Yn ymladd i'n herbyn drosseddwyr escymm yn, I'n * 1.2187 plago â Newyn yn fynych.
Mae'r Haul oedd i'n porthi, â gwres a goleuni, Yn awr gwedi sorri, yn edrych yn sûr, Gan ballu rhoi thwymder, a'i gwres wrth ei harfer, Nes pydru 'r naill hanner o'n llafyr.
Mae'r Lleuad yn wylo fel Gwraig y fae 'n † 1.2188 mwrno, Bob nôs mae'n ymguddio mewn cwmwl o 'n gwydd, I ollwng ei deigre, gan amled o'n beie, Nes soddi'r Llafyrie ag * 1.2189 aflwydd.

Page 372

Mae 'r tonneu cynddeiriog, a'r wybren gawadog, A'r cymle glyborog yn glawio bob awr, Afonydd o ddrwg fyd, gan gynddrwg o'n bywyd, I'n plago ag adfyd yn ddirfawr.
Mae 'r * 1.2190 ormes yn sathru y llafyr sy'n tyfu, Mae 'r gwynt yn cawdelu y dalo o frig, Nes iddo ddihidlo, mallu, egino, Gan law yn ei guro yn ffyrnig.
Mae 'r llafyr s'eb fedi, yn barod i golli, Heb dywydd i dorri, na'i daro ynghyd, Mewn cyflwr anhygar: Duw moes i'n dy ffafar, I gwnnu o'r ddaiar sopaslyd.
Mae'r maint sy'n ei helem, fel gwellt yn y dommen, Yn ddigon anghymmen, yng chwman y dâs, Yn twymo, yn mygu, yn llwydo, yn mallu, A chwedi llwyr bydru o gwmpas.
Mae 'r maint sy'n y sgubor, gogyfer a gogor, Yn twymo heb gyngor, yn mygu heb gêl, Yn barod i nynnu: mâb Duw dere i'n helpu, A nâd ti lwyr fethu ein trafel.
A'r maint sydd ar feder ein cinnio a'n swpper, Sydd gynddrwg ei biner, a'i dymmer mor dost: Ac oni thawn gennyd, Duw grassol gyfrwyddyd, Fe 'n † 1.2191 plagir ni ag adfyd hîr dost.
Agor dy lygad, O Arglwydd ein Ceidwad, A chenfydd mor irad, id weled mor * 1.2192 hyll Holl ymborth Christnogion, yn pydru mor ffinion, O eisie cael hinon i gynnyll.
Duw grassol tosturia, difwynodd ein bara; (Hir nychdod y faga dan fogel dy blant;) O ddiffig it ei rwystro, a'i ddyfal fendithio, A rhoddi rhâd arno a llwyddiant.

Page 373

Duw beth y feddyliwn, am had-ŷd y gwanwyn, O † 1.2193 bwy le ei ceisiwn, o cawn i fyw yn cyd: Mae pawb yn achwyngar, ddifwyno ei holl heiniar, Duw dangos dy ffafar am had-ŷd.
Duw grassol tosturia, wrth ddefaid dy borfa,* 1.2194 Na thorr ffon ein bara, i beri i ni boen; Madde 'n trosedde, gwella 'n drwg nwyde, Cyssura 'n calonnau † 1.2195 dihoen.
Gorchymyn i'r haul-wen, ymddangos drachefen, Gwna 'r lleuad a'r Seren yn siriol i'th Saint; Rho hinon a chyssur, i'r poenfawr lafyrwyr, A dofa dy bryssyr ddigofaint.
* 1.2196Rhwylla 'r wybrenne, a gwascar y cwmle, Cerydda 'r cawade; † 1.2197 cu ydwyd a rhwydd: Gostega 'r dôst ormes, Rho degwch a chrattes, I'r llafyr anghynnes, Arglwydd.
Ond ymma Duw 'r gallu, 'rwi 'n brudd yn cyffesu, Mae'n pechod sy'n tynnu'r fâth ddial ar ein traws, A'th stormydd anrassol, a'r tywydd dryghinol, I'n cospi dy bobol rhy-draws.
Di lenwaist ein bolie, mor gyflawn â'th ddonie, Na chodem o'n heiste i ostwng ein glîn, I roddi it foliant, na chlôd am ein porthiant, Nes tynnu aflwyddiant i'n dilyn.
Yr eidon ar assen 'a edwyn ei perchen, A'r ci fydd llawen, wrth ei portho â llaeth:* 1.2198 Ond Pobol ddiwybod ni fynant gydnabod, Nac adde mae 'r Drindod oi Tadmaeth.
Tair gwaith o leia, gwasnaethwn ni 'r bola, Bôb dydd pan bo byrra, dan bori ein bwyd: Ond pring mewn saith die, y cofiwn ni dithe, Sy'n llanw ein bolie â brasfwyd.

Page 374

Yr wyt yn ein porthi ag amryw ddaioni, Fel vn a fae'n pesci pascwch yn rhin: Ni chodwn ein penne i weld mwy nag ynte, O ble mae 'r fâth ddonie yn disgyn.
Gan hynny di yrrest y storom a thempest, I gospi ein † 1.2199 gloddest â dryg-hin a glaw; I beri inni nabod a gweled mae 'r Drindod Sy'n porthi ni yn wastod â'i ddwylaw.
Er maint o'r diale y roeist am ein penne, I gospi ein beie, gan gynddrwg ym yn byw; Ni buom er y * 1.2200 conquest, yn byw mor anonest, A chymaint ein gloddest ac heddyw.
A'r storom yn chwythu, a'r glaw yn ein gryddfu, A'r llafyr yn pydru, heb adrodd ond gwir, Yn Heie 'r Tafarne, yn chwdu ddydd Sylie, A'th gablu rym ninne rhai anwir.
Pan dlyem weddio, a phryssur repento, Mewn llwch ac ymgrino am bardwn a gras, A'th gywir wasnaethu, 'roem ninne 'n dy gablu, A'th rwygo a'th regu yn ddiras.
Pa fwyna y ceisiyd yn troi a'n dymchwelyd, I wella ein bywyd, a 'madel a'n bai: Waeth waeth y pechem, fwy fwy i'th ddigiem, Saith bellach y ciliem ninnai.
Pa fwya ddiale y royd am ein penne, Bid newyn, bid cledde, bid clefyd, bid glaw; Fwy fwy fel Pharo yr ym yn dy gyffro, I'n poeni a'n plago a hir-law.
Nid rhyfedd gan hynny, dy fôd yn ein maeddu, Gan † 1.2201 ddwblu a threblu ein maethgen â thrwst: Ond mwy o ryfeddod, na roit ti' ni ddyrnod, A'n taflu i'r pwll issod yn ddidrwst.

Page 375

Duw madde 'n styfnigrwydd, Duw dofa'th lidawgrwydd Tynn ymaith ein gwradwydd, a'n haflwydd hîr: Rho ras i ni fedru fel Ninif ddifaru, A'th ddyfal wasnaethu yn gywir.
Duw gwella di'r Tywydd, bendithia di'r maesydd, Tro 'n tristwch yn * 1.2202 wenydd, na newyna ni: Rho râd ar y fisgawn: gwna'r farchnad yn gyflawn Diwalla ni â'th radlawn ddaioni.
Duw attal dy wialen, dad-ddigia drachefen, Tro d'wyneb yn llawen, nâd newyn i'n lladd: Madde 'n trosedde, gwir wella 'n drwg nwyde, Sancteiddia 'r calonnau sy'n † 1.2203 d'wrth-ladd.

Byrr yw oes Dŷn.

FEl Gwenol Job mae 'n hoes yn llithro,* 1.2204 Fel Rhossyn Dafydd mae hi 'n gwywo, Fel gyrfa Paul y mae'n diweddu, Fel Bwmbwl Jaco mae'n diffoddi.
Fel canwyll gwyr mae'n hoes yn treulio, Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio, Fel pôst dan sawd mae 'n pedwar carnu, Fel cyscod cwmwl mae'n difflannu.
Gwann yw'n tai, a chryf yw'n Gelyn,* 1.2205 Byrr yw'n † 1.2206 Terem, suwr yw'n terfyn, Ancertennol yw ddyfodiad, Byddwn barod yn ei wiliad

Page 376

Rhybydd i Gymru i edifarhau ynghylch yr amser yr oedd y * 1.2207 chwarren fawr yn Llun∣dain.

CYmru, Cymru, † 1.2208 mwrna, mwrna, Gâd dy bechod, gwella, gwella, Rhag ith bechod dynnu dial, A digofaint Duw ith Ardal.
Mae dy bechod gwedi dringad, Cuwch a'r nêf yn crio 'n * 1.2209 irad, Am ddialau ar dy goppa, Megis Sodom a Gomorra.
Mae e'n gweiddi nôs a borau, Fel gwaed Abel am ddialau: Nid oes dim y † 1.2210 stoppa ei safan, Ond plag Duw, neu wella 'n fuan.
Mae e gwedi nyrddo 'r ddaiar, Fel pechodau 'r cewri cynnar: Ac yn gofyn dy ddysgybo, Oddi arni neu † 1.2211 Repento.
Nid oes cornel mwy nâ Ninyf, Na bo 'n llawn o feie anneiryf; Na chrâch bentre, na bo pechod, Yn swrddanu clustiau 'r Drindod.
Nid oes un rhyw râdd na galwad, Na bo gwedi ymlygru 'n † 1.2212 irad; Ac yn tynnu fel wrth reffyn, Blag a dial ar dy * 1.2213 gobyn.
Mae 'r Pennaethiaid bob yr un, Yn ceisio'i mawl a'i lles eu hun; Ac heb ymgais am wîr grefydd, Moliant Duw, na lles y gwledydd.

Page 377

Mae dy ffeiriaid hwyntau 'n Cyfgu, Ac yn gado 'r bobol bechu; Ac i fyw y môdd y mynnon, Heb na cherydd na chynghorion.
Mae dy Farnwyr, a'th wŷr mawrion, Yn Cyd-ddwyn a Mwrddwyr, meddwon; Ac yn godde treiswyr diriaid, Speilio 'r gweddwon a'r ymddifaid.
Mae 'r Swyddogion hwyntau 'n godde Cablu Duw, a meddwi 'r Sulie, Troedo 'r fengyl, casau 'r cymmyn, Heb na chosb na cherydd arnyn.
Mae 'r Shirifaid, a'u debidion, Yn anrheithio 'r bobol wirion: Ac wrth rym ei braint a'i swydde, Yn eu speilio lyw dydd gole.
Mae 'r Cyfoethog hwyntau 'n llyngcu Faint sy'n helw 'r tlawd ynGhymru, Ac wrth renti'n dost, ac occra, Yn eu gyrru hwy gardotta.
Mae 'r Cyffredin o bôb rhyw, Yn * 1.2214 delo 'n ffalst, yn digio Duw, Yn ddall, yn ddwl, heb fynnu eu dysgu, Yn mynd ir pwll, heb odde eu nadu.
Mae pôb grâdd yn pechu'n rhigyl, Ac heb wneuthur pris o'r fengyl, Nac o gyfraith Dduw gorucha, Yn addoli 'r bŷd â'r bola.
Mae pob grâdd â rhaffau pechod, Yn dirdynnu dial hynod, Am eu pennau heb dosturi, Oni thront oddiwrth eu brynti.

Page 378

Mae 'r fâth feddwdod, Mae 'r fâth dyngu, Mae 'r fâth gamwedd ynnot Cymru, Ar fâth wangred a gau dduwiaeth, Na bu 'ngrhed oi † 1.2215 fut ysywaeth.
Mae Duw cyfion yntau 'n canfod * 1.2216Drwg ymddygiad pawb a'i pechod; Ac yn rhwym wrth swydd a nattur. Ddial ar y fath drosseddwyr.
Er ys dyddie mae 'n ymmhwedd, A'th holl blant am wella eu buchedd: Eisie gwella mae 'n bwriadu Weithian ddial camwedd Cymru.
Duw a'th ddododd yn y taflau, Duw a'th gafodd lai nâ phwysau: Duw a fyn rhoi maethgen itti, Oni throi oddiwrth dy frynti.
Esiau Cymru gymryd rhybydd, Oddiwrth Loeger a'i holl gystydd, Mae gwialen gwedi glychu, Yn y Sîcc ar feder Cymru.
Y mae plâg yn ôl dy bechod, Gwedi lunio gan y Drindod: Ac yn barod ddwad attad, O waith Cynddrwg o'th ymddygiad.
Y mae 'n crogi uwch dy gobyn, Ddydd a nôs fel wrth edefyn, Ac yn barod iawn i syrthio, Oni throi di a repento.
Yr wyt tithe yn pentyrru Plâg ar blâg, heb edifaru; Ac yn cam arferu 'n rhyfedd Ffafar Duw a'i hîr amynedd.

Page 379

Rwyt ti beunydd yn mynd waeth waeth, Ac yn pechu fwy fwy 'sywaeth; Rwyt ti'n tybied fôd Duw 'n cysgu, Tra 'n dy † 1.2217 gathrain i ddifaru.
Rwyt ti'n hwrnu yn dy bechod, Heb ystyried na chydnabod: Fôd Duw 'n hogi 'n llym ei gledde, Trech ti'n hepian ar dy feie.
Hîr y herys Duw heb daro, Llwyr y dial pan y delo: Am yr echwyn a'r hir scori, Och! fe dâl ar unwaith itti.
Lle bo Duw yn hîr yn 'oedi, Heb roi dial am ddrygioni; Trwmma i gyd y fydd ei ddyrnod, Pan y dêl i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw, Fe ddaw ar frys er llaesed yw, A'i draed o wlân, a'i ddwrn o blwm, Ith daro 'n † 1.2218 ymwngc ac yn drwm.
Gad dy bechod, dal dy law, Dial Duw fel bollt y ddaw: Rhoi it rybydd prûdd sydd raid: Oni chymru rybydd paid.
Edifara 'n brudd gan hynny, Cyn del plâg ith ardal Cymru, Cyn y tynno Duw ei gledde, Cais ei ffafar ar dy liniau.
Os digofaint Duw a nynna, Pwy o'r holl fyd a'i diffodda? Os y chwarren wyllt y ddenfyn, Pwy a'i tynn y maes o'th derfyn?

Page 380

Os yr Arglwydd dig a ddechre, Ladd dy blant â'i follt a'i gledde; Pwy all gadw rhag ei ddyrnod Un o'th blant? heb law y Drindod.
Gwêl bwy laddfa wnaeth e'n Llundain, Er maint oedd eu cri a'u llefain: Eisieu gwneuthur hyn mewn amser, Fe ddifethodd fwy nâ'i hanner.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi; Llwyr ymwrthod â'th holl frynti: Llef am râs-cyn del dy faethgen, Foru ys-sgatfydd y daw 'r chwarren.
Mae dy blâg mewn cwdau lliain, Etto 'n shoppeu * 1.2219 Marchants Llundain: Fe ddaw 'r plâg oddi-yno i Gymru, Os ar fyrder ni ddifaru.
Os i Gymru y daw 'r cornwyd, Och! mor am-mharodol ydwyd, 'fynd ir bar i wneuthur cyfri, Heb na gwisc na dim goleuni.
Os i Gymru y daw'r clefyd, Ofer ceisio un gyfrwyddyd: Nid yw'r bŷd yn abal * 1.2220 stoppi Haint, pan helo Duw i'n cospi.
Ofer ceisio † 1.2221 sâds a Ryw, I wrthnebu cleddau Duw: Oni throi oddiwrth dy bechod, Ni thal * 1.2222 metswn un o'r chwilod.
Ofer cadw pyrth dy drefydd, Fe ddaw 'r plag dros ben y gwelydd: Ni all peics, na * 1.2223 dwbwl canon Attal plâg, os Duw a'i danfon.

Page 381

Ofer rhedeg hwnt ac ymma, Geisio cilio heb dy ddifa: Dôs lle mynnech fe fynn dyrnod Duw, a'i farn orddiwes pechod.* 1.2224
Goreu cyngor rhag y plâg, I ddyn gadw ei hun yn wâg, Nid rhag bwyd, a nid rhag diod, Ond rhag pob rhyw fâth o bechod.
Os daw plâg i gospi Cymru, Fe ddaw newyn ith gastellu, Tristwch, cerydd, * 1.2225 câs, ac ofan, Ni ddaeth plag erioed ei hunan.
Fe fydd drygfyd yn dy drefydd, Fe fydd ochain rhwng dy welydd: Fe fydd cwynfan ym-mhob heol, Fe fydd braw ar bawb o'th bobol.
Cariad brawdol a ddiffodda, Pôb credigrwydd a ddiflanna: A natturiaeth a charennydd, A lwyr gollant ei cydnebydd.
Ni ddaw 'r fam i drîn y ferch, Na'r wraig ei gwr, er maint oi serch, Na'r chwaer ei brawd, na'r tâd ei blentyn; Câs, a thrist, a thrwm yw'r † 1.2226 cowyn.
Y mâb y ladd ei dâd â'i anal, A'r fam ei phlant, er maint oi gofal; A'r wraig ei gwr, wrth roi uchenaid, A'r brawd ei chwaer a'i holl gyfnessiaid.
Y marw ladd y byw a'i claddo, A'r gwann y gwŷch y ddel iw drinio; A'r claf y iach a fo'n ei faethu, Mor gas, mo'r flin yw 'r plag wrth hynny.

Page 382

Dŷn â'r plag sy 'n lladd â'i ddillad, Fel * 1.2227 y Basilisc â'i lygad: Ac â'i anal sy'n gwenwyno, Fel y ‖ 1.2228 Coccatrus y granffo.
Y plag y bair i bôb cymmydog, Gasau 'r llall fel ci cynddeiriog; A chyfathrach, Ffryns a chenel, Gasau câr fel blaidd neu gythrel.
Hyn y bair garcharu'r cleifion, Yn y tai fel † 1.2229 Traitwyrs ffeilstion, Ai dehoryd i fynd allan, I gael bwyd dros aur nac arian.
Yr aur y ladd y rhai derbynnant, Y † 1.2230 stwff y ddifa 'r maint ai * 1.2231 medlant: Pan del plag er maint or diffig, Ni thal arian fwy nâ cher rig.
Hyn y bair ith bobol Cymru, Pan ddel chwarren hîr new ynu; Pan na chaffer bwyd dros arian, Na dim cymmorth er ei † 1.2232 fegian.
Dy blag y ddaw yn † 1.2233 ymwngc hefyd, Fel y diluw ar y cynfyd; Neu 'r tân gwyllt y ddaeth ar Sodom, Yn ddi-rybydd fel y * 1.2234 storom.
Pan bech bryssur yn ymdwymo, Neu 'n y tafarn yn † 1.2235 carowso, Neu 'n cynnhennu yn y farchnad, Y daw 'r plâg yn ymwngc arnad.
Os mewn tafarn, os mewn * 1.2236 stewdy, Os mewn marchnad neu ddadleudy, Os mewn maes ith deri 'r cowyn, Dyna 'r mann lle bydd dy derfyn.

Page 383

Yno cei di megis nifel, Farw 'n ymwngc trwy fawr drafel; Heb vn dyn i † 1.2237 weinif itti Na'th † 1.2238 areilio, na'th gomfforddi.
Ni ddaw meddyg, ni ddaw ffeiriad, Ni ddaw ffryns yn agos attad; Nac vn carwr o'th holl genel, Mwy nag at rhyw anfad * 1.2239 rebel.
Ni chei nêb a ddêl ith drinio, Nac i'th ystyn, na'th amwisco; Nac i'th arwyl, nac ith gladdu, Ond â chladdiad buwch o'r beudy.
O! * 1.2240 pwy angeu, O! pwy benyd? O! pwy blâg a diwedd aethlyd? O! pwy felldith a throm fforten, Ydyw marw 'n llyn o'r chwarren?
Hyn i gyd a welas Lloeger, Yn rhe Lundain yn hwyr amser: Hyn a weli dithe Cymru, Os a'th pechod ni 'madawu.
Oh! gan hynny Cymru ystyr, Mor anhygar, mor ddigyssyr, Mor ddigariad, mor aflawen, Ydyw marw'n llyn o'r chwarren.
Dyma 'r Angeu wyt ti 'n haeddu, Am dy bechod Cymru Cymru: Dyma 'r angeu s'ar dy feder, Oni throi at Dduw ar fyrder.
Mae Duw 'n disgwil er ys dyddie, Am it droi a gado'th feie: Eisie troi mae Duw yn barod, A Phlag ddial dy holl bechod.

Page 384

O gan hynny Cymru mwrna, Gâd dy bechod, edifara: Dysc gan Ninif geisio heddwch, Cyn del dial a diffaethwch.
Cyn y tynno Duw ei gleddau, Cais ei heddwch ar dy liniau; Rhy-ddiweddar itt' ymbilion, Gwedi tynno ei gleddau allan.
Cwymp i lawr wrth draed dy Brynwr, Megis Magdlen wyla 'r hallt-ddwr; Sŷch â'th wallt ei ddwy troed rassol, Fe ddiddana 'r edifeiriol.
* 1.2241Cyfod allor megis Dafydd, * 1.2242Offrwm iddo yspryd cystydd: Deisyf arno † 1.2243 stoppi 'r Angel, Sydd ar feder lladd dy genel.
* 1.2244Mwrn mewn sach fel pobol Ninif, * 1.2245Tro oddiwrth dy feie anneirif; Duw newidia 'th farn ath * 1.2246 ferdyd, Os tydi newidia 'th fywyd.
Tramwy ir Demel nôs a dydd, Megis Aaron mwrna yn brûdd: Llêf am ras ar Grist dy Geidwad, Cyn y delo 'r cowyn arnad.
Cûr dy ddwyfron yn gystyddiol, Fel y Pwblican difeiriol: Cais gan Dduw dosturio wrthyd, Cyn ith dorrer ffwrdd â'r clefyd.
Bwytta beunydd fara dagrau, Megis Dafydd am dy feiau: * 1.2247A gwna 'th wely 'r nôs yn foddfa, Cyn ir chwarren wyllt dy ddifa.

Page 385

Sâf fel Moesen yn yr † 1.2248 adwy, Lle mae 'r plag ar feder tramwy: Cais gan d' Arglwydd droi ddigllonedd, Felly dengys it drugaredd.
Megis Phinees cymmer † 1.2249 shiaflyn, Lladd y rhai sy 'n peri r cowyn: Cospa â'r gyfraith afreolaeth, Duw ath geidw rhag marwolaeth.
Gado Sodom, tynn i Zoar, Gwachel ddestryw; bydd edifar: Gwrando 'r Angel sy'n rhoi rhybydd, Cyn y del y plâg ith drefydd.
Gado 'r môch a'r bobol feddwon, Fel y gade 'r mâb afradlon: Tynn i dŷ dy Dad rhag newyn, Cyn dy dorri lawr â'r cowyn.
Tynn fel Peder i ryw gornel,* 1.2250 Wyla 'n chwerw dros dy genel: Y mae 'r ceiliog yn dy gofio, Cais drugaredd cyn dy * 1.2251 blago.
Gwna dy gownt a'th gyfri 'n barod, Cyn dy fynd o flaen y Drindod;* 1.2252 Nyn dy lamp, a gwisc dy drwsiad, Cyn y delo 'r chwarren attad.
Chwyrn yw'r chwarren pan ei delo, Ni ry * 1.2253 respit it ymgweirio: Bydd barodol yn ei gwiliad, Bôb yr awr cyn deloi attad.
Os ymgweiria Cymru i farw, Ac i fynd at Dduw yn hoyw, † 1.2254Cnawta i gyd i Dduw dy * 1.2255 spario A rhoi iechyd hîr it etto.

Page 386

Duw fo grassol wrthyd Cymru, Duw ro grâs it edifaru, Duw 'th achubo rhag y chwarren, Duw ro itti flwyddyn lawen.

Cân Arall ynghylch y chwarren.

CYmru, Cymru, * 1.2256 mwrna, mwrna, Cwyn fel Ninif Edifara; Gwisc di sâch, cyhoedda ympryd; Llêf am râs, a gwella 'th fywyd.
Y mae Lloeger dy chwaer hyna, Yn dwyn blinder tôst a gwascfa, Dan drwm wialen y Duw cyfion, Sy'n ei maeddu yn dra creulon.
Y mae 'r plâg yn difa ei phobloedd, Fel Tân gwyllt y ddoi o'r nefoedd: Ac fel * 1.2257 gwaddath ar sych synydd, Yn gorescyn ei holl drefydd.
Maen hwy 'n meitw yn ddiaros, Wrth y miloedd yn yr wythnos; Ac yn cwympo ar ei gilydd, Yn gelanedd mewn heolydd.
Nid oes eli, nid oes † 1.2258 metswn, Nid oes dwr na deigre miliwn, All ei ddiffodd, och nai laesu! Ond trugaredd Duw a'i allu.
Y mae Llundain fawr yn mwrno, Fel Caersalem gwedi hanreithio; Nid oes dim ond ochain ynddi, Cwynfan tôst, a llef annigri.

Page 387

Mae 'r fâth alar, mae'r fâth dristwch, Mae 'r fâth gwynfan a thrafferthwch; Mae 'r fâth waywyr a'r fâth ochain, Na bu 'r fâth erioed yn Llundain.
Mae pob grâdd yn gweld yr Ange, Ger ei bron yn cwnnu gledde, Ac yn disgwyl heno, heddu, Am y cart i dwyn i'w claddu.
Y mae'r gwŷr yn gweld y gwragedd, A'u Plant anwyl yn gelanedd, Yn y tai yn dechre * 1.2259 sowso, Heb gael vndyn a'u hamwisco.
Y mae 'r gwragedd hwynte 'n ochain, Weld y gwŷr a'u plant yn gelain; Ac heb feiddio myned allan, Yn gwall-bwyllo 'n flin gan ofan.
Mae 'r ymddifaid bach yn gweiddi, Yn y tai heb nêb i porthi: Ac yn sugno brest eu mamme, Gwedi marw er ys tridie.
Nid oes cymmorth, nid oes cyssur, O'r nêf, o'r ddaer, o'r môr na'r awyr, O'r Dre na'r wlâd, o'r maes na'r winllan, O'r llan na'r llys, o'r gaer na'r gorlan.
Y mae 'r Iach yn gweld y trwcle, Y fae gynt yn dwyn tommenne, Heb ddwyn dim o'r gole i gilydd, Ond y meirw i'r monwentydd.
Mae rhai byw yn hanner marw, Cyn del arnynt wŷn na gwayw, Wrth weld cymmaint yw 'r diale, Sy'n digwyddo am eu penne.

Page 388

Ni chair rhydd-dyd fyned allan, Ni chair bwyd i mewn dros arian, Ni chair tramwy at vn Christion, Ni chair madel â'r rhai meirwon.
Yn y tai mae 'r plâg a'r cowyn, Yn yr hewl mae 'r cri a'r newyn: Yn y maes mae 'r cigfrain duon, Hwyntau 'n pigo llygaid cleifion.
Y mae 'sowaeth Duw a dynion, Gwedi gado 'r rhain yn dlodion, Heb roi help na swccwr iddyn, Yn eu nychdod tôst a'u newyn.
* 1.2260Mae Duw 'n chwerthin am eu penne, Ac a'i fys yn * 1.2261 stoppi glustie, Ac heb wrando gweddi canmil, Eisie gwrando llais ei fengyl.
Y mae dynion anrhugarog, Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog; Gwell yw ganthynt weled gwiber, Yn y wlâd nâ gweled † 1.2262 Lyndner.
Waith bôd dŷn â'r plâg yn nyrddo, Pôb rhyw ddyn a ddelo atto, Ac yn lladd â gwynt ei ddillad, Fel y * 1.2263 Basilisc â'i lygad.
Ni baidd Tâd fynd at ei Blentyn, Na gwraig drin y Gŵr â'r cowyn, Na ffrind weld ei ffrind â'r clefyd, Heb fawr † 1.2264 berig am ei fywyd.
Y mae 'r fam yn lladd â'i chyssan Ei hanwylyd Blentyn bychan; Ac heb wybod yn * 1.2265 andwyo, Hwn â'r plâg tra fytho 'n sugno.

Page 389

Ymae 'r Tâd yn lladd â'i anal, Ei Blant anwyl yn ddiattal; Ac fel † 1.2266 Coccatris gwenwynllyd, Yn ddi-sôn yn dwyn eu bywyd.
Y mae 'r Plentyn y glefychwys, Ynte 'n lladd ei fam a'i magwys; Ac o'i anfodd yn * 1.2267 inffecto, Yr holl dylwyth lle bo 'n trigo.
Mae 'n hwy 'n meirw yn ddisymmwyth, Gwŷr a gwragedd, Plant a thylwyth, Wrth y pumcant yn y noswaith, Nes mynd Llundain megis anrhaith.
Mae 'r fâth wylo, mae'r fâth ochain, Ymmhôb cornel o dre Lundain: Ni bu 'rioed o'i fâth yn Rama, Gynt gan Rachel a'i chyfnessa.
Mae 'r offeiriaid a'r 'pregethwyr, Yn alaru maes o fessur, Weld eglwysydd lle 'r oedd miloedd, Fel † 1.2268 lluestai heb ddim pobloedd.
Y mae'r * 1.2269 Marchants mawr a'u Shioppe, Llawn o frethyn aur a laese, Heb gael gwerthu dim o'r llathaid, I roi bara i prentissiaid.
Y mae 'r crefftwyr hwynte 'n ochain, Gwedi gweithio pethau * 1.2270 cywrain, Heb gael vn dŷn idd eu prynu, Ac yn barod i newynu.
Mae lletteu-wyr y Gwŷr mawrion, A'r Arglwyddi, a'r Marchogion, A'u Hostrie mawr yn wâg, Heb neb ynddynt oud y plâg.

Page 390

Y mae 'r † 1.2271 water-men a'r * 1.2272 porters, A'r ‖ 1.2273 caraniswyr oll, a'r † 1.2274 haliers, Heb gael lle i ennill dimme, I roi bara yn eu bolie.
Mae 'r farchnatfa lle 'r oedd llafur, Cîg a physcod tu-hwnt i fessur, A phôb moethe o'r dainteithia, Heb na chîg, na blawd, na bara.
Y mae llawer oedd yn ceisio, * 1.2275Quailes a † 1.2276 Phesants idd eu cinio, Nawr yn chwennych torri newyn, Ar * 1.2277 bŵr Jon a hên ymenyn.
Lle 'roedd beunydd fil o fade, Yn dwyn ymborth, heb law llonge; Nid oes heddyw bwnn yn dwad, O flawd cawl, dros aur i'r farchnad.
Lle 'roedd llewndid o bôb ffrwythi, Ag oedd daer a dwr yn roddi: Nid oes heddyw ond y newyn, Ar drydaniaeth waith y cowyn.
Hyn y barodd ein hen * 1.2278 draha, A'n gloddineb, a'n putteindra, A'n gau-dduwiaeth, a'n câs feddwdod, A dirmygu 'r gair yn wastod.
Dymma wabar, dymma ffrwythe, * 1.2279Dymma gyflog ein pechode: Dymma 'r faethgen dôst haeddassom, Am y brynti gynt a wnaethom.
Dymma fel y gall Duw cyfion Dynnu lawr y Trefydd m••••rion, Mewn byrr ennyd am anwiredd, A'u darostwng am eu balchedd.

Page 391

Dymma fel y gall Duw blygu Pobol drawsion y fo 'n pechu, Ac heb wneuthur pris o'i ddeddfe, A'u † 1.2280 committo dan law 'r Angeu.
Hyn haeddassom er ys dyddie, Hyn y ddylem bawb i adde:* 1.2281 Cyfiawn yw Duw a diargoedd, Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd.
Ni hauassom bob diffeithder, Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder, Rym ni 'n medi, 'rym ni 'n casclu Y crop y ddygodd pechod inni.
Dymma 'r dial gynt addawodd Duw i ddanfon ar y boblodd, Nas gwasnaethent â'i holl galon, Ac na chadwent ei orchmynnion.
* 1.2282Dymma 'r faethgen y gaiff Cymru, Eisie gwella a difaru, A chymmeryd rhybydd dyner, Oddiwrth blâg a dial Lloeger.
Pan y helodd Duw 'r sâth wialen, Ar y bobol dda o Lunden, Ma'rnai ofan y daw cleddu, Ar y bobol ddrwg o Gymru.
Pan na chymre bobol Juda, † Warning brûdd oddiwrth Samaria; Duw rows Juda i gathiwed, Fel Samaria dan law 'r Siriaid.
Pan na chymmer Cymru † 1.2283 warning, Oddiwrth Loeger yn ddidaring: Ma'rnai ofan y daw dial Ar y Cymru, a phlâg * 1.2284 anial.

Page 392

Pan y glawiodd Duw gorucha, Dân ar Sodom a Gomorra, * 1.2285Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd, Nes difethu Zeboim hefyd.
Pan y helodd Duw y chwarren, I dir Lloeger ac i Lunden, Ma'rnai ofan tôst na laesa 'R plag, nes del ymweld a * 1.2286 Chambria.
Os pan helodd Duw y cledde, I Germania a'i chyffinnie, Eisie i'r ffrangeod gymryd rhybydd, F'aeth y cleddyf trwy holl drefydd.
Eisie i Loeger gymryd † 1.2287 warning, Oddiwrth Bohem, ffraingc a fflushing, Y mae Duw yn cospi Lloeger, Yn saith gwaeth nag vn o'r nifer.
Oni chymmer Cymru rybydd, Oddiwrth Loeger drist a'i chustydd; Ma'rnai ofan gweld ar fyrder Blâg yng Hymru waeth nâ Lloeger.
O gan hynny Cymru mwrna, Gâd dy bechod, edifara; Dysc gan Ninif geisio heddwch, Cyn del dial a diffaithwch.
* 1.2288Cûr dy ddwyfron, wyla 'r hallt-ddwr, Golch dy wisc yng waed dy Brynwr; Llef am râs, a gâd dy frynti, Cyn dialer dy ddrygioni.
Cyn y tynno Duw ei gledde, Cwymp yn issel ar dy tinie; A chais râs a ffafar gantho, Cyn i'r Ange dîg dy daro.

Page 393

Ofer crio gwedi 'th glwyfer, Ofer ymbil gwedi 'th farner, Ofer ceisio torri 'r wialen, Gwedi rhodder itti 'r faethgen.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi, Bryssia 'n † 1.2289 esgyd, gâd dy frynti: Gwel y farn sydd uwch dy gobyn, Tro, cyn caffoi arnad ddisgyn.

Gweddi Eglwyswr wrth fyned i ymweled â'r, Cleifion yn amser y Chwarren.

DUw gwynn, Gwel mor beryglus, Yw Swydd dy wâs trafaelus, Sydd yn * 1.2290 twttan aia a hâf, At bôb dyn clâf gvvrthnebus.
Nid oes na Gwr na Bachgen, Bid clâf o'r frech na'r chwarren, Neu rhyw glefyd y fo gwaeth, Nad wyfi gaeth i orthen.
Os Gwrês, os gwayw poethlyd, Os chwys, os Twymyn awchlyd, F'orfydd myned vwch ei ben, Bid clâf o'r chwarren waedlyd.
A hyn sydd dra echrydus, I galon egwan glwyfus, Sydd heb bwer gantho ei hun I wechlyd twymyn awchus.
Gan hynny ar f'vnig helpwr, Am Ceidwad am diffynnwr, Sy'n rheoli rhain i gyd, Rwi 'n crio * 1.2291 'm mrhyd am swccwr.

Page 394

O Arglwydd mawr di elli Fy nghadw 'n iach os mynni, Rhag yr heintiau hyn i gyd, Er maint o'u bryd im llyngcu,
Ac oni byddi helpwr, Im cadvv mewn cyfyngdvvr, Nid oes le im ddiangc mvvy, Ond † 1.2292 ildo i nhvvy fel gvvanvvr.
Gan hynny Duvv 'r holl allu, Os d' wyllys sy'n cennadu, Cadvv fi dy vvaelaf vvâs, Rhag heintiau câs im cyrchu.
* 1.2293Tydi fy Nuvv sy'n clvvyfo, Tydi sydd yn elio: Tydi sy'n lladd ac yn byvvhau, Tydi y gae 'n * 1.2294 correcto.
Gan hynny tanna drosvvyf, Dy adain fel dihangvvyf: Nâd i glwyf neu glefyd câs Ymlynu â'th vvâs daiarol.
* 1.2295Duvv 'rhvvn y gedvvaist Aron, Yn iach yng henol cleifion, Cadvv finne 'n rasol rhag Yr haint a'r plâg echryslon.
* 1.2296Di gedvvaist Abednego, Yng henol flam heb dvvymo; Cadvv finne nghenol plâg, Er Jesu nâd f'andwyo.* 1.2297
* 1.2298Di gedvvaist Ddaniel hefyd, O fafan llevv newynllyd: Cadvv finne Arglvvyd Dduvv,, Rhag haint i fyvv mevvn iechyd.

Page 395

Ac felly mi'th folianna, Mevvn llann a llys a thyrfa: Ac y roddaf tra ynvvi chvvyth Id ddiolch byth o'r mvvya.
Fel Aron yn y gangell,* 1.2299 Fel Daniel yn y stafell: Ac fel Dafydd tra fwi byw Bendithiaf Dduw fy nghastell.

Cynghor ir Clâf.

PAn ith drawer gynta â chlefyd, Ystyr o ble daeth mor danllyd, A phwy helodd glefyd attad, A pha ham ei dodwyd arnad.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,* 1.2300 Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd: Am ein Beiau mae 'n ei hela, I geisio genym droi a gwella.
Edifara am dy feiau,* 1.2301 Deisyf Bardwn ar dy liniau, Cais gan Dduw dosturio wrthyd, Fe'th gyssura yn dy glefyd.
Or nynnodd llid dy Dduw yn d'erbyn, Nes rhoi arnat Glefyd scymmyn, Gwaed yr oen a'th † 1.2302 reconseila, * 1.2303Deigreu hallton a'i dad-ddigia.

Page 396

Gostwng iddo, mae 'n drugarog, * 1.2304Cais ei râs, fei rhy yn serchog, Edifara, ynte fadde, * 1.2305Wyla di, Tosturia ynte.
* 1.2306Addef iddo dy gamweddau, Barn dy hunan am dy feiau, Cwymp o'i flaen a deisyf Bardvvn, Di gae râs ac † 1.2307 Absoluwsiwn.
Tro di atto, ynte a'th dderbyn, Er ei ddigio, rhy dy * 1.2308 ganlyn, A phan gwelo hallton ddeigrau, Fe bair laesu dy flinderau.
* 1.2309Duw ei hun sy'n danfon clefyd, Cennad Duw yw nychdod aethlyd: Oddiwrth Dduw y daw clefydion, Ni all neb ond Duw eu danfon,
Nid o'r Moroedd, nid o'r mynydd, Nid o'r ddaer, na'r * 1.2310 Aer, na'r corsydd, Y daw clefyd ar blant dynion, Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
* 1.2311Gwrês, a gwayw, crâch, cornwydon, Crûd, a haint, a syndra calon, Nychdod, Nodau, Mâll, difflanniad, S'oddiwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all * 1.2312 Emprwyr mawr yr holl fyd, Ddanfon haint na thynnu clefyd: Nid oes neb a'i tynn neu danfon, Ond Duw mawr y Barnwr cyfion.
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth † 1.2313 bwyntment, Loe, nac Antwn, Cât na Chlement, Witch, na dewin, Swyn, na phlaned, Nes cennado Duw ei fyned.

Page 397

Os o † 1.2314 Swrffet, os o Anwyd, Neu Dŷ afiach y ceist glefyd, Duw ei hun sydd yn dy daro, Pa sôdd bynna daethost iddo.
Nid wrth * 1.2315 ddamwain, nid wrth fforten, Nid wrth dreiglad lloer na seren, Y daw clefyd, mawr na bychain; Ond wrth bwyntment Duw ei hunan.
Na chais edrych fal dŷn ynfyd, Trwy pa fodd y daeth y clefyd: Gwell it' edrych tua 'r nefoedd, Ar dy Dduw, a'r llaw a'th drawodd.
Duw a'th drawodd, Duw a'th wella, Duw a'th glwyfodd, Duw 'th elia: Duw sy'n cospi di gnawd diriaid,* 1.2316 I iachau dy gorph a'th enaid.
Derbyn Gennad Duw 'n ressawgar, Ymddwyn dano yn ddioddefgar; Nêb a garo Duw fei cospa, Pôb mâb anwyl fei gwialenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl,* 1.2317 Ffôl a wingad ar ben Swmbwl: Duw a'th drawodd mor ddolyrys; Ofer it' wrthnebu ei'wllys.

Yr achos o glefyd.

Am ein pechod a'n drwg fywyd,* 1.2318 Y mae Duw yn danfon clefyd: Ac yn † 1.2319 gryddfu meibon dynion Am drosseddu ei orchmynnion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,☜ Ydyw nychdod ac afiechyd; Pechod a ddaeth wrth ei gynffon, A phôb clefyd ar blant dynion,

Page 398

Torri'r Sabboth, tyngu 'n rhigil, Casau 'r Eglwys a'r Efengyl, Dissang ffeiriaid a swyddogion, A bair Lawer o glefydion.
Meddwdod, Maswedd, a phutteindr. Rhegu, * 1.2320 loetran, a lledratta, Gwledda, Gloddest, treisio tlodion, Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
O'r ceist glefyd, o daeth moefa, Pechod helodd hwn i'th ddala, Ac a barodd i Dduw ddigio, A rhoi 'r clefyd hwn i'th daro.
* 1.2321Chwilia 'n fanol dy gydwybod, A chais gwrdd a'th ffiaidd bechod: Llwyr groes-holia dy anwiredd, Ac ymbilia am drugaredd.
* 1.2322Os difaru am dy feieu, A llwyr droi at Dduw yn foreu, Fe faddeua Duw dy bechod, Ac a'th * 1.2323 dynn y maes o'th nychdod.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur, Dofi 'th boen a gwella 'th gyssur: Cais yn daer esmwythder gantho, F'all ei roi yr awr y mynno.
Pa ryw bynnag yw dy ddolur, Fe all Duw ostegu ei wayw-wyr, A'th iachau y môdd y mynno, Bid e'r dolur mwya fytho.
Fe iachaws y clâf o'r parlys, Gwraig o'r lasc, a'r crippil nafys, Job o'i grach, a Nawan glafwrllyd, * 1.2324A'r rhai cleifion o bôb clefyd.

Page 399

Nid yw clefyd ddim ond cennad, Wrth arch Duw sy'n dwad attad, Fe ladd, fe baid, pan harcho ei berchen, Fe ddaw, fe aiff fel gwâs y capten.
O gan hynny galw 'n daerllyd, Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd, Cais ei * 1.2325 Nawdd er mwyn dy Brynwr, Di gei gantho help a swccwr.

Gweddi 'r clâf.

ARglwydd cyfion, Tâd fy iechyd, Barnwr pawb a'i helpwr hyfryd, Gwrando weddi dyn clafecca Er mwyn Christ, ac edrych arna.
Yn glâf mewn corph, yn drist mewn enaid, Yn drwm mewn meddwl ac ychenaid, Rwi 'n ymlysco, o 'ngrheawdwr, Attad ti i geisio Swccwr.
Grassol wyt a llawn trugaredd,* 1.2326 Hwyr dy lid, a mawr d' ammynedd, Hawdd i'th gael mewn tôst gyfyngdwr; Er mwyn Christ tosturia 'nghyflwr.
Di roeist iechyd im' ys dyddie, Nawr di dwgaist am fy meie, Ac y helaist boen a nychdod, Im cystuddio am fy mhechod.
Duw mi haeddais rwi 'n cyfadde Vn oedd drwmmach er ys dyddie: Yn dra chyfion Duw goruchaf, Y rhoist hyn o Nychdod arnaf.

Page 400

Di allassyd ddanfon clefyd † 1.2327Immwngc, câs, i ddwyn fy mywyd, Am troi i vffern i boenydio, Heb roi amser im * 1.2328 repento.
Etto 'n fwyn fel Tâd trugarog, Di roist arnaf glefyd serchog, Im rhybyddio am fy niwedd, * 1.2329Am cyfrwyddo wella muchedd.
Rwi 'n ei gymryd megis arwydd, O'm * 1.2330 mabwysiad a'th gredigrwydd, Yn fyng-hospi am † 1.2331 correcto, Rhag im pechod fy andwyo.
Da yw'th waith o Arglwydd cyfion, Yn cospi 'r corph â'r fâth drallodion, Lle roedd f' enaid er ys dyddie, Yn dra chlâf gan ormodd foethe.
Tra cês iechyd ni chês weled Om pechodau er eu hamled; Ond yn awr, gwaefi, mewn nychdod Nid wi'n gweled ond fy mhechod.
O bwy nifer o bechode Wnaethoi 'n d'erbyn, Duw gwae finne; Maent yn amlach mewn rhifedi Nag yw 'r Sêr, o'r ceisiai cyfri.
Pa fath Elyn gwyllt y fuo, Yn d'wrthnebu megis Pharo, Gynt pan oeddyt yn ymhwedd, Am im droi a gwella muched,

Page 401

Arglwydd grassol rwi'n cydnabod, Immi haeddu can mwy nychdod, Ac im bechu yn yscymmyn, O'm Mabolaeth yn dy erbyn.
Etto gwn dy fôd ti 'n rassol, I bwy bynna fo difeiriol, Ac yn barod iawn i fadde I'r alarus eu camwedde.
Er na haeddais ond trallodion, A dialau, a chlefydion; Gwna â mi 'n ôl dy fawr drugaredd, Ac nac edrych ar f'anwiredd.
Cymmer Angeu Christ a'i 'fydd-dod, Yn dâl itti am fy mhechod; Cladd fy meie yn ei * 1.2332 weli: Er ei fwyn bydd rassol immi.
Nad im farw yn fy mrynti, Cyn im wneuthur dim daioni: Ond rho amser o'th drugaredd, Immi etto wella muchedd.
Dal dy law, gostega nolur, Laesa mhoen, lleiha fyng-waywyr, Ac na ossod arnai boeneu, Fwy nag allo 'nghorph eu goddeu.
Er bôd f'enaid weithie'n dwedyd, Dere Ghrist, a derbyn f'yspryd: Mae fy nghawd er hyn yn crio, Duw tro'r cwppa chwerw heibio.
Y mae 'r cnawd a'r yspryd etto, Yn amharod i ymado: Duw rho amser im eu trefnu; O bydd d'wllys yn cennadu.

Page 402

Nid wi'n ceisio gennyd amser, I fyw 'n foethus mewn esmwythder, Ond i dannu dy anrhydedd, Ac i wella peth om buchedd.
Duw o'r gweli fôd yn addas, Estyn f'oes fel Ezekias; Doro immi ryw gyfrwyddyd, Im iachau a thorri 'nghlefyd.
Ond o'r gweli fôd yn ore, Etto 'nghospi dros fwy ddyddie, Duw dy wllys di gyflawner; Ond cyfnertha fi'r cyfamser.
Yn iach ni wneuthym ond dy ddigio, Yn glaf ni allai ond ochneidio, Oni roi dy nefawl yspryd, Im diddanu yn fy nghlefyd.
Arglwydd cymmorth fi 'n fy mlinder, Llaesa mhoen am han-esmwythder: Dwed wrth f'enaid yn ei † 1.2333 halaeth, Myfi yw dy iechydwriaeth.
* 1.2334Tydi Christ yw 'r mwyn Samariad, Minne yw 'r claf trafaelwr irad; Cweiria nolur, rhwym f'archollion, Dofa mhoen, cryfha fy nghalon.
Mae dy law yn orthrwm arnaf, Etto ynod mi ymddiriedaf: A pha lleddit fi â thrallod, * 1.2335Duw mae f'holl ymddiried ynod.
* 1.2336Gennyt ti mae 'r hôll † 1.2337 allweddeu, Sydd ar fywyd ac ar Angeu: Ni baidd Angeu edrych arnaf, Nes danfonech (Christ) ef attaf:

Page 403

Gwna fi 'n barod cyn y delo, Pâr im ddisgwyl byth am dano; Fel y gallwi fynd yn addas, Wrth ei scîl i'th nefawl deyrnas.
Nâd i bethau 'r byd anwadal, Na'th gyfiawnder ddydd y dial, Nac i ofan Angeu im rhwystro Ymbartoi i rwydd ymado.
Tynn om calon ofan Angeu, Par im wadu 'r bŷd a'i betheu; Golch â'th waed fy mhechod sceler, Cûdd fy mrynti â'th gyfiawnder.
Rho im ffydd yn dy * 1.2338 Brommeision, Gobaith gryf am gael y Goron. Dioddefgarwch yn fy nghlefyd, Chwant ddwad attad a dattodyd▪* 1.2339
Christ rho d'yspryd im diddanu, A'th Angelion im castellu; Gwna 'r awr ola fy awr ore Rho mi 'r Goron ar awr Ange.* 1.2340
Christ fy Mugail cadw f'enaid, Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid* 1.2341 Tydi prynaist yn ddryd ddigon, Dwg ê i'r nêf at dy Angelion.

Rhybydd i'r claf i alw am weinidog i gynghori ef, ac i weddio drosto.* 1.2342

PAn clafychech cais Offeiriad, Yn ddiaros ddwad attad, I weddio dros dy bechod, A'th gyfrwyddo fôd yn barod.

Page 404

Christ y bwyntiodd yr offeiriaid, Yn Bessygwyr doeth i'r enaid, Ac a roddwys iddynt eli, I wrthnebu pôb drygioni.
Adde 'th bechod wrth y ffeiriad, Fe ry itti gyngor difrad, Fel y gallo roi cyfrwyddyd, Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
† 1.2343Crêd beh bynna ddwetto 'r ffeiriad, O air Duw, yn brudd am danad: Cans llais Christ ei hun yw hynny, Ith * 1.2344 rebycco, neu 'th ddiddanu.
Deisyf arno † 1.2345 brudd weddio, Ar i'r Arglwydd dy * 1.2346 recyfro, A rhoi itti gyflawn iechyd, Neu yn rassol dderbyn d' yspryd.
* 1.2347Mae Duw 'n addo gwrando 'r * 1.2348ffeirad, Pan gweddio 'n ôl ei alwad; Christ a ddyru ei ganlyniaeth, Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu, Rhag i Satan dy orchfygu, A llonyddu dy gydwybod, Pan i'th fliner gan dy bechod.
Godde † 1.2349 lawnso dy gornwydon, Godde i'r Gair frynaru 'r galon, Fely gallo fwrw yndi Wîn ac olew gyd ag Eli.
Gwell it adel i'r offeiriad * 1.2350Faneg itt dy ddrwg ymddygiad, Fal y gallech edifaru, Nag oi blegid gael dy ddamnu.

Page 405

Di gae † 1.2351gyngor rhag dy bechod, I lonyddu dy gydwybod: Di gae gomffordd gan y ffeirad, Os mewn pryd ei gelwi attad.
Nâd y ffeirad heb ei alw, Nes ei bech yn hanner marw: Ni all ffeirad y pryd hynny, Na nêb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Fruttanniaid, Sydd yn meirw fel Nifeiliaid? Eisie ceisio nerth y ffeirad, I gyfrwyddo eu madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw Sawl a fynno heb ei galw, Nid yw 'n cadw mawr o enaid, * 1.2352Ond trwy Swydd a gwaith offeiraid.
Cais gan hynny gynta ag allech Ffeirad attad pan glefychech, I roi † 1.2353pwrg yn erbyn pechod, Rhwn yw achos dy holl nychdod.

Page 406

Gwedi cael cyngor Pyssygwr yr enaid, cais gyfrwyddyd Pyssygwr y corph.

YN ôl cyngor yr Eglwyswr, Cais gyfrwyddyd y Pyssygwr: Duw a roes i hwn † 1.2354 gelfyddyd I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid, I * 1.2355 iachau doluriau 'r enaid, A'r pyssygwyr a'r Meddygon, I ymgleddu cyrph y cleifon.
Llawer dyn sy'n marw 'n † 1.2356 fudyr, Eisie cymmorth y Pyssygwyr, Gan fyrhau eu hoes a'u hamser, Yn embeidus eisie eu harfer.
Corph pob dyn yw tŷ ei enaid, Rhaid * 1.2357 rheparo hwn a'i drefnaid; Rhaid i bôb dyn hyd y gallo Gadw ei dŷ ar draed heb gwympo.
Arfer gymmorth physsygwriaeth, Yn dy glefyd trwy gristnogaeth: Duw ordeiniodd hon yn gyssur I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto physsygwriaeth, Y roes Duw er iechydwriaeth, Mae 'n gwrthnebu maeth ei † 1.2358 Anian, Ac yn * 1.2359 mwrddro ei gorph ei hunan.
Y llyssewyn salwa welech, Ar Gyfrwyddyd waela gaffech, All roi help a iechyd itti, Os rhy Duw ei fendith arni.

Page 407

Swp o ffigys, os bendithia,* 1.2360 All iachauy, cornwyd mwya: A'r Gyfrwyddyd ni thâl vn-rhith All roi help, ond cael ei fendith.
Ond pe caet ti Balm a Nectar, Cennin Peder, Cerrig Bezar, Olew a Myrh, a gwîn a gwenith, Ni wnânt lês heb gael ei fendith.
Cais gan hynny fendith hyfryd, Gan dy Dduw ar bôb cyfrwyddyd: Heb ei fendith ni wna 'r benna, Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.
Nac ymddiried i'r pyssygwyr, Nac vn * 1.2361 fetswn fônt yn wneuthyr Rhag dy farw megis Asa, Eisie 'mddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lysseuach, Orym mewn Eli, na diodach, I leihau o'n cûr, a'n poenfa, Os yr Arglwydd nis bendithia.
Duw sy'n rhoddi * 1.2362 rhad ar lysseu, Grym mewn eli a † 1.2363 chyfyrddoneu, Lle bendithio Duw hwy lwyddant, Lle ni fynno Duw ni thycciant.
Cais gan Dduw roi bendith hyfryd, Ar bôb metlwn a chyfrwyddyd: Heb ei fendith ni wna 'r benna, Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.

Page 408

Gweddi 'r claf cyn cymmeryd physsygwriaeth.

Awdwr iechyd, lluniwr llysseu, Rhoddwr rhinwedd, Rhwymwr Angeu, Tywallt fendith, rhâd, a iechyd, Ar y fetswn wyfi 'n gymryd.
Di ordeiniaist amryw llyssiau, Diod, Eli, a chyferddonau, I ymgleddu meibion dynion, Yn eu gwendid a'u clefydion.
Yn ôl d'wllys a'th ordeinaeth, Rwyfi'n cymryd physsygwriaeth, I ostegu peth o'm didri; Rho dy fendith Arglwydd arni.
Gwn na ddichon vn creadyr, Na chyfrwyddyd laesu 'ng-waywyr, Oni byddi di 'n bendithio Rhyn a roer, a'r hwn a'i cymro.
O gan hynny prûdd fendithia Y gyfrwyddyd a gymmera, Fel y rhoddo hon im gyssur, Ac y llaeso fy holl waywyr.
Peraist gynt i'r ffigys diflas, Iachau cornwyd Hezekias: Pâr o Arglwydd i'r gyfrwyddyd Hon roi 'minne gyflawn iechyd.
Di iachaist olygon Tobi, Gynt ag afu 'r pysc annigri; O iacha fy nolur inne A rhai hyn dy gyfyrddone.

Page 409

Fel y peraist i ddwr Jordan Olchiffwrdd wahanglwyf Naman:* 1.2364 Felly pâr i'r ddiod ymma, Dynnu ffwrdd fy nghûr am poenfa.
Fel y peraist gynt i'th Boeryn* 1.2365 Roddi golwg i'r Cardottyn: O pâr Arglwydd i'r cyfrwyddyd Hon roi 'minne gyflawn iechyd.
Gwn y galli trwy 'r fâth foddion, Neu heb vn iachau clefydion: Llaesa nolur yn ol d'allu, Or bydd d'wllys yn cennadu.
Ond or pwyntiaist ti fy niwedd, Am llwyr dynnu i'th drugaredd: Duw dy wllys di gyflawner, Rwi'n ymostwng itt' bob amser.
Ond rho immi râs a phwer, Grym a gallu y cyfamser, Ddwyn fy nolur yn ddioddefgar, Megis Christion yn ddidrwdar.
A rho d'yspryd im cyfnerthu Yn fy mlinder i'th foliannu, Ac i ddwyn dy groes a'th wialen, Yn wllysgar, ac yn llawen.
A phâr immi fôd yn barod, Ddwad attad ac ymddattod, A rhoi f'enaid yn wllysgar, Yn dy ddwylo Arglwydd hygar.
O fy Arglwydd gwn y gally, Fy iachau yr awr y mynny: Oni fynnu laesu mlinder, Duw dwg s'enaid i'th esmwythder.

Page 410

Rhybydd ir claf i ochelyd ceisio cym∣morth Swynwyr a dewiniaid.

* 1.2366GWachel geisio help gan swynwyr, Yn dy flinder tôst a'th ddolyr; Gado Duw mae'r cyfryw ddynion, Ac addoli 'r gau Dduw Eccron.
Na chais help i'r corph mor embaid, Gan y Diawl sy'n lladd yr Enaid; Nid oes vn Physsygwr allan, Waeth nâ'r Diawl i helpu 'r egwan.
Nid yw Swyn ond * 1.2367 hûg i'th dwyllo, Gwedi Satan ei † 1.2368 ddefeisio, I ddifethu d'enaid gwirion, Pan y Swyner ith glefydion.
Nid yw'r Swynwr ond * 1.2369 Apostol Fsalst, i'r Diawl i dwyllo'r bobol, Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel, I butteinia ar ôl y cythrel.
* 1.2370Twyllo 'r corph, a llâdd yr enaid, Digio Duw, bodloni diawlaid, Gwrthod Christ, a'r maint sydd eiddo, Y mae 'r Swyn, a'r sawl ai cretto.
Ceisio 'r cythrel yn Byssygwr Ydyw ceisio help gan swynwr: Ceisio 'r Diawl i ddarllain tesni, Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio Gwîr gan dâd y celwydd, Yw ymofyn â drogenydd: Ceisio help i lâdd yr enaid Ydyw ceisio Swyn * 1.2371 Hudoliaid.

Page 411

Na châr Swynwr ••••yw nâ chythrel, Mae 'n dy demptio yn dy drufel: Glûn wrth Grist, er maint yw'th flinder: Cais ei nerth di gei esmwythder.

Gweddi fyrrach i'r claf iw harferu yn ei glefyd.

DUw trugarog, Tâd diddanwch, Awdwr iechyd, Pen dedwyddwch, Gwrando waedd pechadur nychlyd, Sydd yn beggian cymmorth genyd.
Daeth fy mhechod yn dy olwg, A'm hôll fuchedd oedd yn cynddrwg, A chan gymmaint oedd fy † 1.2372 nhraha, Di ddanfonaist glefyd arna.
Haeddais, Arglwydd, drwmmach benyd, Dostach dwymyn, cassach glefyd, Blinach dolur, byrrach amser, By'm talassyd wrth gyfiawnder.
Di allassyd dorri 'ngwddwg, Am fy muchedd oedd yn cynddrwg, Neu fy moddi, neu fy * 1.2373 mwrddro, Heb roi amser im ymgweirio.
Nawr rwi'n gweld dy gariad attaf, Yn rhoi clefyd † 1.2374 cruaidd arnaf, Im ceryddu am f' anwiredd, Ac im cyffro wella muchedd.
Nid 'wllyssi, Duw 'r holl gyssur,* 1.2375 Ddrwg farwolaeth vn pechadur, Ond yn hytrach gwella ei fuchedd, I gael bywyd a thrugaredd.

Page 412

* 1.2376Trwy 'r fâth glefyd blîn corphorol, Rwyt im cofio môd yn farwol: * 1.2377A thrwy flinder tost a thristwch, Rwyt im gwawdd i edifeirwch.
* 1.2378Er im haeddu dy ddigofaint, A'th lidawgrwydd tost yn cymmaint, Arglwydd grassol na cherydda Fi â'th lid a'th gerydd mwya.
Mae dy saethau gwedi 'nghlwyfo Mae fy escyrn gwedi briwio, Mae fy yspryd gwedi gryddfu, Arglwydd † 1.2379 dere im diddanu.
Tydi 'm clwyfaist am fy mhechod, Minne haeddais hyn o drallod: Nid oes neb fy Nuw am hynny. Ond Tydi all fy ngwaredu.
* 1.2380Tydi sy'n lladd ac yn bywhau, Tydi sy'n clwyfo a iachau, Yn dwyn i'r Bedd, yn adgyfodi, Yn trugarhau, ac etto 'n cospi.
Tydi o Dduw sy'n danfon clefyd, Tydi yn unig all rhoi iechyd: Nid oes neb all llaesu nolur, Ond tydi, na rhoi im gyssur.
Er dy fwynder a'th drugaredd, Er dy Enw a'th Anrhydedd, Madde mhechod: llaesa nolur: Gwared f'enaid: rho im gyssur.
Oni phwyntiaist fy marwolaeth, A diweddu fy milwriaeth, Arglwydd llaesa ar fy mlinder, A rho immi beth esmwythder.

Page 413

Dymchwel Arglwydd im diddanu, O fy Nuw pa hyd y Sorri? Gwel fy mhoen, a chlyw fy nghwynfan Tro dy lid, iacha fi weithian,
Cweiria 'ngwely yn fy nghystydd, Tro fy nhristwch yn llawenydd, Rhwyg fy sâch, a sŷch fy Neigrau, Llaesa mhoen, iacha noluriau.
Maddeu mhechod, Torr fy nghlefyd, Tynn fi o'r ffoes a rho im iechyd, Fel y gallwyf dy glodforu, Yn fy mywyd âm holl allu.
Yn y Bedd, oh Dduw! pwy 'th goffa? Yn hîr Angeu pwy 'th glodfora? * 1.2381Sparia mywyd Arglwydd grassol, I'th glodforu gydâ 'r bywiol:
Felly canaf itt' yn hyfryd, Glôd a moliant am fy mywyd: A thro ynof rym a chwythiant, Mi ddatcanaf dy ogoniant.

Rhybydd ir clâf wneuthur ei wllys mewn pryd, a dosparthu ei bethau mewn ofn Duw.

ONi wnaethost etto d'wllys† 1.2382 Dôd dy dŷ mewn trefn weddys: Dosparth d' olud megis Christion, Yn gristnogaidd ac yn union.
Cais gan Dduw ei nefawl yspryd, I roi itti lawn gyfrwyddyd, I gyfrannu d' olud bydol, Yn ôl gwllys dy Dâd nefol.

Page 414

* 1.2383† 1.2384Rho dy enaid bach i'th Brynwr, Christ a'i pie, dy Iachawdwr; Rho dy gorph ir ddaer lle cafad, Hyd nes delo 'r adgyfodiad.
Tynn fel Jacob ddefaid Laban, A dâ eraill, o'th ddâ allan; Rho i bôb dŷn ei iawn eiddo, Tâl dy ddyled cyn ymado.
Na ddôd geiniog yn dy 'wllys, O ddâ eraill yn gamweddys, Rhag eu taflu yn dy ddannedd, O flaen Duw, ar ddydd dy ddiwedd.
Ac na chytcam er dy fywyd, Roi i'th blant anghyfiawn olud: Ni wna hynny ond eu hela, I gyrwydro a chardotta.
Er na feddech ond tair * 1.2385 anner, I roi rhyngthynt trwy gyfiawnder: Gwell y llwydda hynny i'th Eppil, Nâ thrwy gamwedd pe rhoit dair-mil.
* 1.2386Gwell y llwyddodd Rhan-dir Abram, Nag y llw yddodd teyrnas Joram, A'r gohilion y gas Jaco, Nâ phraidd Laban gwedi * 1.2387 hysso.
* 1.2388Fel y bwyttodd Gwinllan Naboth, Deyrnas Ahab, a'i holl gyfoeth: Felly bwytty 'r geiniog sceler, Faint y feddech trwy gyfiawnder.
Ceiniog ddrwg pwy bynna caffo, Sydd fel gwartheg truain Pharo, Rhai fwyttassant ei ddâ tewon, Heb fôd llawnach eu colyddion.

Page 415

Rho gan hynny 'r hyn sydd union, Rhwng dy blant, a'th ffrins, a'th weision: Ac na chytcam er dy fywyd, Roi i neb anghyfiawn olud.
Fel y llwyddodd Duw y Manna,* 1.2389 Toes y weddw o Sarepta, Olew 'r weddw dlawd a'i meibion, Felly llwydda 'r gronyn cyfion.
Rho i Isaac dy etifedd,* 1.2390 Ei 'difeddiaeth yn ddi-duedd: A rho ir lleill o'th blant o bob-tu, Fôdd i fyw yn ôl dy allu.
Rho i'th wraig ei chyflawn drauan, Na ro iddi lai nâ'i chyfran: O rhoi chwaneg, mae yn rhygil, Fôd y fâth yn nafu 'r Eppil.
Nâd wâs ffyddlon heb ei wabar, Rho i'th Gâr tlawd help ar heinar: Nâd dy weithiwr heb ei gyflog;* 1.2391 Crio'n dôst y wna 'r fâth geiniog.
Cofia 'r fengyl, cofia 'r Eglwys, Cofia 'r * 1.2392 Coledg a'th † 1.2393 santeiniwys; Cofia 'r wlâd a'r dref ith faccer, Or bydd gennyd fôdd a phwer.
Os goludog wyt heb Eppil, Ac yn caru Christ a'r 'fengyl, Adail ysgol rŷdd yng-Hymru, † 1.2394Lle mae eisie. Dysc sy'n methu.
Cofia Joseph sy'n y carchar, Rho beth help i borthi Lazar;* 1.2395 Rho y nawr dy rôdd tra gallech, Dymma 'r rhodd ddiwetha roddech.

Page 416

Maint y roech i'th blant a'th drasse, Dy wraig, a'th blant, a'th ffrins a'i pie: Y maint y roech ir tlawd a'r truan, * 1.2396Storio 'r wyt i ti dy hunan,
Doro 'n ôl yr hyn a dreisiaist, Gwna iawn dâl ir rhai orthrymmaist: Tâl dy ddyled cyn dy symmyd, Yn y pwll † 1.2397 nid oes dymchwelyd.
Doro 'r Badell, Doro 'r Crochan, Doro 'r tai, ar Tîr a'r Arian, Yn eu hôl ir rhai au pie, Rhag dy fynd ir didrangc boene.
Nâd i dyddyn y dŷn gwirion, Rhwn y dreisiaist yn anghyfion, Beri itt' golli teyrnas nefol; Rho ei dyddyn yn ei wrthol.
Nawr di elli megis Zache, * 1.2398Wneuthur iawn am dy drosseddeu: Yn y pwll ni bydd i'th bwer, Dalu 'r hatling pan gofynner.
Praw gyttuno â'th Wrthnebwr, Cyn dy fynd o flaen y Barnwr, * 1.2399Rhag dy droi ir † 1.2400 dwngeon isaf, Lle rhaid talu 'r harling eithaf.
Nawr ni fynny mwy na * 1.2401 Phagan, Ddilyn cyngor Christ ei hunan: Ond di fwytty Gîg dy freichieu, Eisieu ei ddilyn cyn mawr ddyddieu.
Pa Sawl mîl sy'n hân uffernol? Eisieu rhoddi trais yng-wrthol, Rhai y roddent heddyw 'r holl-fyd, Yn * 1.2402 sar hâd ir tlawd pe's cymryd.

Page 417

Os yn erbyn Duw y pechu, Di gei † 1.2403 bardwn ond 'difaru: Os yn erbyn dŷn ni faddè Duw, nes caffo 'r tlawd a ddlye.
Os bu farw 'r rhai a dreisiaist, Rho i plant y maint y * 1.2404 scliffiaist: Ac os aethont o'r wlâd allan, Rho eu rhan ir tlawd a'r truan.
Na ro rhwng dy blant yn angall, Y peth a bie vn dyn arall: Ni wna hynny ond dy ddamnio, A throi d'eppil i gyrwydro.
Na rô rhwng dy blant trwy wllys, Ddim ennillaist yn gamweddys, Trwy * 1.2405 Vsuriaeth, trais, neu ffalstedd; Drwg y llwyddant yn y diwedd.
† 1.2406Marca blant yr occrwyr mawrion, A'r gorthrymwyr, a'r carn-lladron, Yn ceiniocca mewn eglwysydd, Ac yn dwyn y † 1.2407 waled beunydd.
Felly tygfydd i'th blant dithe, O rhoi iddynt ddâ * 1.2408 annife; Os fe ddial Duw yn rhigil,* 1.2409 Drais ar dadau, ac ar eppil.
Dôd di ofan Duw gan hynny, O flaen d'wyneb wrth ddosparthu: Rho i bôb dŷn ei ddâ cyfion, Rhanna 'r cwbwl lle bo achosion.
Duw a roddo it' gyfrwydd-deb, Ac a'th nertho' wneuthur d'atteb: Duw a'th gatwo rhag camsyniaid, Duw fo ceidwad ar dy enaid.

Page 418

Llythyr yr Anrhydeddus Syr Lewis Mansel o Fargam yn shîr Forgannwg (fel yr ydys yn tybied) at Ficcer Prichard.

Gŵr ŵyf yn dioddef maethgen: Rhyw bendro dôst sy'm talcen, Ys amser hîr (yr Arglwydd hael,) Heb allel cael ei orphen.
Ceisiais gyngor, a pharactys Doctoriaid, Gwŷr synhwyrus, I geisio help; nid llai fy mloedd, Er mynd dros foroedd trwblus.
Pau ffaelodd llês corphorol, Rwi 'n danfon at wŷr duwiol, Eglwysig, call, dros Dîr a Môr, I geisio Cynghor hollol;
I Ddysgu p'ûn mae 'r Hael-dad, O ddigter, neu o gariad, Yn danfon ar ei Bridwerth blâ, Rhyw groes neu boenfa irad.

Atteb, Addysg, cynghor, a chyssur Ir Anrhy∣deddus Syr Lewis Mansel o Fargam, yn ei Glefyd; yr hyn all fôd yn fuddiol i bob dyn duwiol, yn ei glefyd a'i adfyd.

ANwyl Gristion clywais ddywedyd, I Dduw ddanfon arnad glefyd, Ac na wyddost p'ûn o gariad, Ai o gâs yr helodd attad.
Rwi 'n dy Atteb mewn byrr eirie, Ac yn † 1.2410 maneg itti 'n ole, Nad o * 1.2411 gerydd, ond o gariad, Y rhows Duw ei wialen arnad.

Page 419

Nid dy Elÿn sy'n dy faeddu, Dy Dâd grassol sy'n dy ddysgu, Trwy ddarostwng dy gnawd diraid, Fel y galler cadw d'enaid.
Nid yw'r clefyd hwn ond Cennad, Helodd Christ dy Brynwr attad, I † 1.2412dreio 'th ffydd, a'th hî amynedd, A'th rybyddio am dy ddiwedd.
Derbyn Gennad Duw 'n resawgar, Ymddwg dano yn ddioddefgar; A rho ddiolch o wraidd calon, Ith Dâd nefol am ei ddanfon.
Ni wna 'r clefyd niwed itti, Mwy nâ'r † 1.2413 pwrg sy'n carthu 'r geri; Ni wna * 1.2414 hindrawns, ond dy buro, I gael oes o newydd etto.
Ni bu gwîn erioed heb waddod, Ni bu Aur erioed heb Sorod,* 1.2415 Ni bu wenith heb ei fascle, Ni bu ddŷn ond ûn heb feie.
Yr oedd Adda hên â'i bechod, Lot â'i loscach, Noah â'i feddwdod, Moses, Aaron â'u camwedde,* 1.2416 Peder, Paul â mîl o feie.
Gwybydd dithe 'r marchog hyfryd, Er * 1.2417 hygared yw dy fywyd, Nad wyd heb ryw fai ith Ddible, Cans dŷn wyt, er maint yw 'th ddonie.* 1.2418
I nithio d'ûs, i doddi 'th † 1.2419 Sorôd, I wella 'th fai, i dynnu 'th waddod, I ddofi'th gnawd, i nerthu d' yspryd, Y danfonodd Duw dy glefyd.

Page 420

Nid ith † 1.2420 waethu, ond ith wella, Nid i'th faeddu, nac ith ddifa: Ond ith ddyscu a'th gyfrwyddo, Y mae 'r Arglwydd yn dy daro:
Er troi heibio fydol foethau, A gwir hoffi nefol ddoniau, Casau 'r bŷd a'r maint sydd ynddo, A dilyn Christ â'th draed a'th ddwylo.
Rho fawr foliant prûdd gan hynny, Ith Dâd nefol am dy ddysgu, * 1.2421Rhwn sy'th wneuthur trwy serchogrwydd, Di 'n gyfrannog o'i Sancteiddrwydd.
Y nêb a garo Duw fe'i cospa, Pôb Mâb anwyl fe'i ffonnodia: Y dŷn ni chospo Duw ei bechod, Bastard yw, nid mâb o briod.
Mae Duw 'n cospi 'r rhai anwyla, A rhyw groes neu gilydd ymma; * 1.2422Rhag eu myned yn ddamnedig, Gydâ phlant y bŷd gwrthnyssig.
Nid glân gwenith nes y nithier, Nid gwynn cambric nes y golcher, * 1.2423Nid pûr Aur côch nes ei doddi, Nid da Christion nes ei gospi.
Ni rŷ 'r Grawn wîn, nes eu gwascu, Ni rŷ 'r ‖ 1.2424 Thus † 1.2425 Sent, nes ei fygu, Ni rŷ 'r * 1.2426 Fflint dân, nes y fsyster, Na dŷn ffrwyth da, nes cystyddier.
Y clôfs a 'rogla 'n well o'u pwnian, Y † 1.2427 vine y danna 'n well o'i chroppian, Y Palm y dŷf yn well o'i blygu, A'r dŷn y fydd yn well o'i faeddu.

Page 421

Pa fwya sanger ar y Ganmil, Mwya 'rhogla ei gwynt yn thigil: Pa fwya gwascer ar y Christion,* 1.2428 Mwya sydd ei ffydd ai ofon.
Ystyr, mai er llessiant itti, Y mae 'r Arglwydd yn dy gospi: Ni pheru 'r côsp ond ennyd fychan, Fe beru 'r llês dros hîr oes gyfan.
Na wan-ffyddia yn dy glefyd, Yn llaw Dduw y mae dy fywyd: Fe rŷ oês a iechyd etto, * 1.2429Ac esmwythder ond ei geisio.
Cymmer gyssur, côd dy galon, Ymwrola, bydd * 1.2430 obeith-lon: Fe ddaw Christ â help ar fyrder' Ac y laesa d'anesmwythder.
Y llaw 'th drawodd, honno 'th helpa,* 1.2431 Rhwn a'th glwyfodd a'th elia: A'r nêb helodd attad glefyd, Hwnnw tynn gan roi itt' iechyd.
Galw am help ar Dduw dy geidwad, Dy Dâd yw, fe wrendy arnad: Cais ei gymmorth, ac fei dyru,* 1.2432 Llef yn daer, ni feder ballu.
Pa beth bynnag yw dy glefyd, F'all ei laesu a'i ddiffoddyd: Cais ei gyfnerth, ac fei llaesa, * 1.2433Trysta ynddo, ac ni'th dwylla.
Onis llaesa 'r awr y mynnech, Pwylla, aros, dan dy ortrech: Fe ddaw help o'r nêf yn dambaid, Pan bo gwell ar lês dy enaid.

Page 422

Ni chei aros awr ym-hellach, Yn dy glefyd, na mynd glafach, Nag y gwelo Duw 'n anghenrhaid, Er llesâd i'th gorph a'th enaid.
Godde ronyn bach o gystydd, Di gei gwedyn hîr lawenydd: Bydd ddioddefgar nes y delo, Dy gei oes o newydd etto.
Rhwn a nerthodd Job mor hygar, Ddwyn ei glefyd yn ddioddefgar, Nerthed dithe â'i lân yspryd, Mor ddioddefgar ddwyn dy glefyd.
* 1.2434A'r hwn helodd vn o'i Angelion, I gymfforddi' fâb wrth Cedron, Helo o'r nêf ei Angel hyfryd, I'th gymfforddi yn dy glefyd.
Dy roeist Siampl dda 'n dy iechyd, Inni fyw mewn buchedd hyfryd: Rho ini etto Siampl hygar, I ddwyn clefyd yn ddioddefgar.
Godde 'th nefawl Dâd dy drinio, Godde dynnu 'r draen sy'th bigo, Godde wascu 'r crawn lloscedig, Carthu 'r clwyf, a sugno 'r yssig.
Godde i Grist gael tynnu 'n gwbwl, Gol y Sarph sydd yn dy sowdwl, Rhag i'r gwenwyn ddrycha ir galon, Ac * 1.2435 inffecto 'r enaid gwirion.
Mae Duw 'n † 1.2436 garcus iawn am danad, Gwell it' odde loes nâ bagad: Mae 'n dy * 1.2437bwrgio nawr trwy gystydd, I gael iechyd yn dragywydd.

Page 423

Mae 'n dy wneuthur ymma 'n addas, I gael rhan o'i nefol deyrnas, Mae e'n carthu 'r holl ddrygioni, Sy'n dy rwystro i wîr oleuni.
Rwyt ti 'n ûn o fain y Demel, Rhaid dy naddu gîd wrth † 1.2438 lefel, Rhaid ir mwrthwl dy lwyr * 1.2439 bario, Os yn y nef y mynny drigio.
Rwyt ti 'n wenith ir gorucha,* 1.2440 Rhaid dy ddyrnu tra fech ymma, Tynnu 'r ûs a'r col oddiwrthyd, Cyn bech i Grist yn fara hyfryd.
Di gest lawer o felysder, Ar law Dduw er dechre d'amser:* 1.2441 Rhaid it * 1.2442 dasto peth o'r chwerw, Gydâ 'th Brynwr cyn dy farw.
Yf o'r cwppa chwerw lymmaid, Yfodd Christ o'th flaen ei lonaid: F'orfydd ar bôb Gwâs ei dasto; Nid yw 'r disgybl well nâ'i Athro.
Cofia i Grist dy Brynwr odde, Dros dy bechod di a minne, Fwy o flinder, Ing, ac yssig; O! goddefwn ninne 'chydig.
Ystyr nad oes Sanct yn gorphwys, Mewn gogoniant ym-mharadwys, Na ddioddefodd fwy o gystydd; Goddef dithe, a bydd lonydd.
F'orfu ar Abel odde ei fraeni, F'orfu ar Joseph odde ei weŕthi, F'orfu ar Esay odde ei lifo, Cyn cael mynd i'r nêf i * 1.2443 dario.

Page 424

F'orfu ar Stephan odde ei * 1.2444 bwnian, F'orfu ar Lawrens odde ei † 1.2445 frwylian, F'orfu ar Jago odde ei wanu, * 1.2446Cyn cael nefoedd i meddiannu.
* 1.2447F'orfu ar Beder odde ei hoelio, F'orfu ar Barthlom odde ei flingo, F'orfu ar Ifan odde ei ferwi, Cyn cael mynd at Dâd goleuni.
Nid oes un yn credu 'n gywir, * 1.2448Yn Ghrist Jesu, hyn sydd siccir, Nad rhaid iddo oddeu 'n rhyw fodd, Gystydd mawr cyn mynd i'r nefoedd.
Nid aer o'r Aipht i Ganaan hyfryd, Ond trwy 'r môr a'r mynydd tanllyd, Nid aiff neb ir nêf i daring, * 1.2449Ond trwy 'r porth a'r llwybyr cyfyng.
Mae'n rhaid dwyn y groes yn gynta, Cyn cael dwyn y Goron benna: Ni ddarllenais yn fy oes, Gael y Goron heb y groes.
* 1.2450Dwg dy groes fel Milwr ffyddlon, Di gei gwedyn ddwyn y Goron; * 1.2451Cyd-ddioddef gydâ 'r Iesu, Di gei gwedyn gyd-deyrnasu.
Na chais nefoedd ar y ddaiar, Na chais wyn-fyd yn rhy gynnar, Na chais Jechyd di-drangc * 1.2452 dewlwys, Nes y delech i Baradwys.
Ni chair melus heb y chwerw, Ni chair gwyn-fyd nes i'n farw: Ni chair Coron heb y groes, Ni chair nefoedd heb ryw loes.

Page 425

Ni chas un or * 1.2453 Patriarcciaid, Na'r prophwydi, na'r † 1.2454 Merthyriaid, Na'r 'postolion, nâ'r Messiah, Fynd o'r bŷd heb lawer gwascfa.
Na chais dithe fy anwylddyn, Gael y peth nas cafas undyn: Ond ‖ 1.2455 ymddoro yn ddi-drydar, Ddwyn dy ddolur yn ddioddefgar.
Cofia i Grist dy Brynwr odde, Mwy o flynder am dy feie: Cofia ei groes-hoelio drossot, Di anghofi 'r loes sydd ynot.
Ac na feddwl nad o gariad, Y rhöws Duw y clefyd arnad, I'th suwrhau dy fôd yn vn, O'i † 1.2456 ddetholedig blant ei hun.
Cofia fôd pob peth yn gweithio, Ar y goreu ir dyn y gretto, Hyd yn oed ei glwyf a'i glefyd, A'i golledion, a'i holl adfyd.
Cofia hefyd nôs a boreu, Nad all croes, nac Ing, nac Angeu, Na dim arall ein gwahanu, Oddiwrth gariad Duw a'r Jesu.
'Rhwn a gododd ei ffryn Lazar, Yn iach o'r bedd dan y ddaiar, Hwnnw 'th gotto yn iach lawen, O'th glâf wely 'n wŷch drachefen.
Rhwn a spariodd Fywyd Isaac, Gwedi offrwm ar ben Moriac; Hwnnw spario 'th fywyd dithe, Etto ennyd o flynydde.

Page 426

Rhwn a helodd gynt Esaias, I Iachau clwyf Hezekias; Hwnnw helo o'r nêf Angel, I iachau Syr Lewis Mansel.

Rhessymmau yn cyffro 'r claf i fod yn ddioddefgar.

ONi bae fod yn anghenrhaid, Dofi 'r corph i wella 'r enaid, Ni ddanfonei Dduw glefydion, Byth ar vn oi anwyl feibion.
Yr oedd Duw yn gweled d'enaid, Yn glaf iawn o bechod diriaid; Nid oedd lûn i gadw ei fywyd, Nes dy gospi â'r fâth glefyd.
Oni basse 'r cwppa chwerw, Fe allasse d'enaid farw, Yn ddisymmwth heb † 1.2457 repento, A mynd dros fyth i boenydio.
Trwy gystydd corph, a chlefyd * 1.2458 diriaid, Y mae Duw 'n iachau dy enaid; Ac yn d'arwain trwy ddifeirwch, At dy Grist i gael ei heddwch.
Trwy glefydion mae Duw 'n tynnu Dyn, i geisio cymmorth Jesu, A gwir iechyd idd ei enaid, Rhag ei fynd i vffern embaid.
A chlefydion bâch amserol, Ma'e 'n rhag-achub poen tragwyddol; Ac wrth gospi 'r corph mor ddiriaid, Dofi 'r cnawd, a * 1.2459 chadw 'r enaid.

Page 427

Nid clefydion ond dialau Blin, a haeddodd dy bechodau: Dwg gan hynny yn ddioddefgar, Y fâth glefyd cruaidd hygar.
Fe allasse dorri d'wddwg, Am dy fuchedd oedd yn cynddrwg, A'th roi i vffern i boenydi, Heb roi amser itt' repento.
Rho can hynny yn ddiwegi Ddiolch iddo am dy gospi, Lle gallasse dy lwyr ddifa, A'th roi † 1.2460 Frwylian yn Gehenna.
Fe llasse Dduw dy roddi, Dan law Gelyn câs i'th gospi, Ble mae 'n rassol iawn yr-wan, Yn dy gospi â'i law ei hunan.
Nid yw'r Arglwydd yn dy blago, Megis gelyn i'th andwyo, Ond yn dirion yn dy faethddryn, Megis Tâd yn trîn ei blentyn.
† 1.2461Er bôd d' Arglwydd yn dy faeddu, Mae er hynny yn dy garu: Pôb gwialennod ag a roddo Sydd fel plaster i'th elio.

Page 428

Ni ry Duw sydd mor ddaionus, Na'th Dâd nefol fydd mor * 1.2462 garccus, Glefyd arnad na chaledi, Na wnel itti fawr ddaioni.
Fe wyr Duw beth yw dy ddolur, Dy rym, dy rytt, dy naws, dy nattur: Fe rydd dy groes, yn ol dy gyflwr, Ni bydd dy bwnn vchlaw dy gryfdwr.
Er bôd Aloes yn beth chwerw, Mae e'n achub dyn rhag marw: Er bod clefyd yn dy flino, * 1.2463Mae 'n dy achub rag dy ddamnio.
Y mae miloedd yn † 1.2464 Gehenna, Rhai a ddwgent fwy o boenfa, Dros fil filoedd o flynydde, Pe caent rydd-did o'u poenydie.
Rho gan hynny yn ddiwegi, Ddiolch i Dduw am dy gospi; Llei gallasse dy lwyr ddifa, A'th roi * 1.2465 frwylian yn Gehenna.
Arwydd têg o'i râs a'i ffafar Yw cael côsp trwy glefyd hygar, Sydd yn gwneuthur dŷn yn barod, Cyn yr êl o flaen y Drindod.
Clefyd sydd fel chwip i'th gospi, Nid fel cledde llym i'th dorri; Swmbwl awchlym i'th ddihuno, Ac nid bwyall i'th ddistrywio.
Fsûst i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach, * 1.2466Ffann i nithio dy holl sothach, Ffwrn i buro dy amrhyddion, Chwip i'th gospi yw clefydion.

Page 429

Nid da mêl i'r llawn digonol, Nid da gwynfyd i'r annuwiol, Nid da Gwîn i'r poeth ei † 1.2467 golydd, Nid da iechyd i'r anufydd.
Nid oes arnad gymmaint ddolyr, Ag a fu ar rai o'th frodyr Sydd yr-wan mewn esmwythder, Yn y nefoedd gwedi 'r blinder.
Bu ar Lazar glefyd flinach, Bu ar Job ddoluriau drwmmach, Bu ar Grist ei hun fwy flinder, Maent yr-wan mewn esmwythder.
Ac os tithe fydd ddioddefgar, Fe ry Duw itt' hyn o ffafar; Fe wna naill a llaesu 'th flinder, Ai fe'th gymmer i esmwythder.

Ymddiddanion cyssurus rhwng y clâf Duwiol a'i enaid yn erbyn ofn Angeu.

OFy Enaid pam yr ofni Fynd at Grist a fu 'n dy brynu, Ag a gollodd waed ei galon, I'th ryddhau o law d'elynion?
* 1.2468Pam yr ofni fynd i'r nefodd, Lle mae Christ yr hwn a'th brynodd, A'th Dâd nefol, a'r glân yspryd, A'r holl Sainct mewn braint a bywyd?

Page 430

Mae fy Mlaen i yno eusiwys, Am Jachawdwr 'rhwn am prynwys: Christ tynn finne d'aelod attad, Er anhawsed gennif ddwad.
Oh! fy Enaid cwyn dy galon, Pam ir ofni mor echryslon? Gwel Fab Duw, ai waed, ai weli, A dynnodd ffwrdd oedd raid itt' ofni.
Oh! fy enaid gwel dy Brynwr, Gwêl dy Geidwad a'th Jachawdwr, Gwêl dy Bardwn, gwêl dy Artre, Gwêl y nef a'r hwn a'th bie.
Oh! nac edrych ar dy bechod, Gwel yr Oen a Laddwyd drossod: * 1.2469Ac nac ofna wedd y Barnwr, Christ ei fâb yw dy Ddadleuwr.
Ac nac ofna'r Angeu melyn, Christ a dynnodd ffwrdd ei golyn: Ni all Angeu ond dy symmyd * 1.2470O'r bŷd hwn i dir y bywyd.
Nac arswydda rythreu Satan, Gwel Angelion Duw * 1.2471 i'th waetan, A Christ Jesu â saith llygad, Ddydd a nôs bob awr i'th wiliad.
Ac nac ofna 'r Bedd llydylyd, Gwely Christ yw hwn f'anwylyd, Y mae'r Prynwr gwedi dwymo, I bob Cristion nes cyfotto.
Na wna bris o vffern boenau, Gwêl gan bwy y mae 'r * 1.2472 allweddau, Gan dy Grist y mae cadwriaeth Allwedd vffern a marwolaeth.

Page 431

Oh! gan hynny cwyn dygalon, Pam ir ofni mor echryflon? Gwel fâb Duw a'i waed a'i * 1.2473 weli, Fe dynnodd ffwrdd oedd raid itt' ofni.
Cymmer gyssur, cwyn d'olygon, Dring vwch law pob daiarolion; Gwel y nef a brynwyd itti, A'r Difeddiaeth sydd itt' ynddi.
Gwel dy orsedd, Gwel dy goron, Gwel dy † 1.2474 Balme, a'th wiscoedd gwynion,* 1.2475 Rhai a brynodd Mâb Duw itti, Fry yn nheyrnas y goleuni.
Gwêl dy Grist a'i holl Angelion, Gwêl y Sainct a'r holl rai cyfion, Yn dy ddisgwil ddwad attyn, Ac yn barod bawb i'th dderbyn.
Gwêl dy delyn, Gwêl dy † 1.2476 feiol, Gwêl dy wers a'th ganiad nefol, Fry yn disgwil fynd i ganu, I'th Jachawdwr am dy brynu.
Llêf gan hynny am d'ymddattod, I gael mynd at Grist dy briod,* 1.2477 O garchardy'r corph a'th lygrwys, I gael trigo ym Mharadwys.
Lle mae Duw a'i holl Angelion, Christ a'i Sainct a'i Apostolion, Mewn Gogoniant a Rhialtwch, Yn teyrnaffu mewn dedwyddwch.
Nid oes yno ddim Anghyssur, Poen, na chlefyd, cwrp na dolur,* 1.2478 Na marwolaeth na dim tristwch, Ond llawenydd a dedwyddwch.

Page 432

Oh hiraetha am gael hedfan, I'r wlâd lawen hon yn fuan, At dy Brynwr Christ a'th Briod, Mae dy Neithor yndi 'n barod.
O fy Enaid meddwl dithe, Am dy 'mdrwssio yn dy dlwsse, I fynd o flaen Christ yn addas, Yng wisc sanctaidd y briodas.
* 1.2479Golch dy hun yn ffynnon Dafydd * 1.2480Gwaed yr Oen, a deigreu cystydd; Ymlanhâ mewn gwir ddifeirwch, Ffydd yn Ghrist, Gwiriondeb Heddwch.
Gwisc Sancteiddrwydd Christ am danad, A'i Gyflawnder yn lle trwssiad; Plêth dy wallt mewn grâs a gobaith, Hardda 'th * 1.2481 frest â chariad perffaith.
Cais dy lamp, a Nynn dy Ganwyll, Dwg ith lusern olew didwyll: Gwilia, Gwarchod, a Gweddia, Nes dêl Christ, na chwsc, na * 1.2482 slwmbra.
Deffro, disgwyl am dy Briod, Llef am dano nes ei ddyfod; Fel yr Hŷdd na orphwys freifad, Nes del Christ dy Briod attad.

Page 433

Dywaid wrtho dere weithian, Dere Arglwydd, dere 'n fuan, Dere Jesu Grist fy nghariad, Dere, tynn fy enaid attad.
† 1.2483I'th ddwy ddwylo Arglwydd hyfryd, Yr wi 'n brudd yn offrwm f' yspryd: Cans ti prynaist, Duw 'r gwirionedd, Dwg ef weithian i'th drugaredd.

Ymddiddan arall rhwng y clâf duwiol a'i enaid am ofni marwolaeth.

O Fy Enaid dywaid immi,* 1.2484 Mewn pryssurdeb, pam yr ofni, Fynd at Grist a'i wir Angelion, O'r bŷd brwnt a'i holl drallodion?
Tost a thrwm yw gorfod gadel* 1.2485 Gwraig a phlant, a ffryns a chenel, Tai a Thir, a Da, a dodren, Heb eu gweled mwy drachefen.
O f'anwylyd cymmer gyssur, Di gae olud mewn mwy fessur, * 1.2486Suwrach ffryns, a gwell cyfeillion, Gydâ Christ a'i wir Angelion.
Os dy blant a ofna 'r Arglwydd, A'i wasnaethu mewn Sancteiddrwydd, Di gae weld dy Blant drachefen, Mewn Gogoniant yn dra llawen.

Page 434

Yn lle ffryns a mwyn gyfeillion, Di gae 'r Sainct a'r holl Angelion, I'th fawrhau a'th gywir garu, A'th Blant eilchwaith i'th ddiddanu.
Gâd dy wraig, a'th Blant, a'th bobol, I gadwriaeth dy Dâd nefol: * 1.2487Rhwyscwy 'r weddw, Tâd ymddifad Yw'r Gorucha wrth ei Alwad.
Na wna bris am dan dy olud, Nac o'r ddodren wael sydd gennyd: Mae 'n y nêf fwy ar dy feder, Nag a feddodd † 1.2488 Alexander.
Na wna bris o'th neuadd lwydlas, Mae 'n y nefoedd dai o * 1.2489 dôpas, Gwedi Dduw o berls i gwneuthur, Yn discleirio fel y gwydyr.
Na hiraetha am dy diroedd, Na'th Berllanneu, nâ'th winllannoedd: Mae 'Mharadwys dîr sydd deccach, Ffrwyth sydd well, a gardd † 1.2490 araulach.
Na wna * 1.2491 gownt am Aur nac Arian, Mae 'n y nefoedd Aur iw † 1.2492 ddamsian, Perls a Gemms yn gweithio 'r gwelydd: Aur yn pafio 'r holl heolydd.
Na wna bris am vn o'th swydde, Mae 'n y nefoedd fwy o radde: * 1.2493Y mae 'r gwaetha syndi'n ffeiriad Ac yn frenin mawr ei alwad.
Na wna bris am ddillad gwychion. * 1.2494Mae 'mharadwys wiscoedd gwynion; Yn discleirio ar dy gefen, * 1.2495Mewn Gogoniant fel yr haul-wen.

Page 435

Na wna bris o'th fwyd newynllyd,* 1.2496 Mae 'mharadwys bren y bywyd; Manna yn fwyd, 'qua-vitae † 1.2497 'n ddiod, Gwledd heb ddiwedd, oes heb ddarfod.
Na wna bris am ddim difyrrwch, Rhwn sydd ymma 'n blaenu tristwch: Mae 'n y nefoedd wir lawenydd,* 1.2498 Sydd yn para yn dragywydd.
Na wna gownt o ddim sydd gennyd, Ond ymgweiria am dy fywyd, Fynd yn rhwydd trwy lawn barodrwydd,* 1.2499 I lawenydd Christ dy Arglwydd:
Lle mae mwy o wir esmwythder, A dedwyddwch ar dy feder,* 1.2500 Nag all calon dyn chwennychu, Nac vn tafod i fynegu.
Dôs gan hynny, dôs yn llawen, Dôs at Ghrist, dy Ben, dy Berchen: Gado 'r bŷd a'r maint sydd yntho, Mam a thâd i fyned atto.
Yn lle 'r pethau darfodedig, A † 1.2501 geist ymma gantho eu benthig, Di gae bethau na ddarfyddant, I Meddiannu mewn gogoniant.
Di gae iechyd heb ddim nychdod, Ac esmwythder heb ddim trallod, Gwir Lawenydd heb ddim tristwch, Oes heb ddiwedd mewn dedwyddwch.
Ni chaiff clwyf, na haint, na dolur, Newyn, syched nac Anghyssur,* 1.2502 Trallod, Tristwch, ochain, wylo, Nac vn gelyn mwy dy flino.

Page 436

Di gae fyw mewn mawr Lawenydd, A dedwyddwch yn dragywydd, Ym-mhlith miloedd o Angelion, I foliannu d' Arglwydd tirion.
Di gae eiste mewn † 1.2503 Côr auraid, I glodforu 'r Oen bendigaid, Ac i ganu * 1.2504 Aleluia Yn dragywydd i'r Gorucha.
Pwy gan hyhny na 'madawe, A'r byd hwn, a'i boen, a'i bethe? I fynd at ei Brynwr heddu, O bae 'r Arglwydd yn cennadu.
Duw agoro dy ddau lygad, I weld Teyrnas Christ dy Geidwad: Duw ro ei yspryd i'th gyfrwyddo, Ymbaratoi i fyned atto.

Agoriad byrr yn erbyn ofn Angeu: Ar daioni sydd yn dyfod oddiwrth* 1.2505dduwiol farwolaeth.

OH! na ŵyddad dŷn pa ddonieu Sydd yn dwad oddiwrth Angeu; Byth nid ofnei o'i ddyfodiad; Ond fe lefe am ei ddwad.
Y mae Angeu 'n gwneuthur diwedd, Ar ein cystudd a'n hanwiredd: Ac yn dwyn o Fôr trafferthwch, Ddyn † 1.2506 i'r Porthladd o ddedwyddwch.
Y mae Angeu 'n tannu 'n gwely, Gwedi 'n trafferth inni gyscu; Ac yn rhoddi mawr esmwythder, Gwedi 'r trallod tôst a'r blinder.

Page 437

Y mae Angeu 'n claddu 'n beiau, Ein clefydion a'n doluriau; Fal na ddichon pechod mwyach, Nac vn clefyd flino mhellach.
Y mae Angeu 'n tynnu 'r cyfion,* 1.2507 Lawer pryd rhâg gweld trallodion, A ddigwydda yn dra rhigil, Ar eu gwlâd ac ar eu heppil.
Mae e'n tynnu rhai gwirionnaid, Sydd ymmysg câs bechaduriaid, Rhag ir rhain eu hudo i bechu, Ac i weithio 'r peth nas dyly.
Y mae Angeu 'n diosc dynion, O'u hên frattieu sarnllyd brwnton, Iddillattu 'r rhain yn helaeth, Mewn hardd wiscoedd iechydwriaeth.* 1.2508
Mae 'n rhyddhau yr enaid hyfryd, O'r carchardy tywyll tomlyd, I gael gweld goleuni 'r Arglwydd, Ai wasnaethu mewn perffeithrwydd.
Y mae Angeu * 1.2509 toc yn dattod Enaid o'r corph caeth i bechod, Ac heb aros yn cysylltu Hwn, â'i Briod mawr Christ Jesu.* 1.2510
Y mae Angeu 'n tynnu dynion, I'r nef ole at Angelion,* 1.2511 O'u tŷ candryll sydd ys dyddie, Ym-mron cwympo ar eu penne.
Mae e'n tynnu maes o Sodom, I'r mynydd-dir rhag y * 1.2512 Storom, Ac yn mynd o'r Aipht i Ganaan, A'r rhai duwiol yn ddiofan.

Page 438

* 1.2513Y mae Angeu 'n tynnu dynion, O'r byd hwn i gael y Goron, A bwrcassodd Christ trwy Angeu, I'r rhai ffyddlon a'i gwasnaetheu.
Y mae 'n tynnu dyn o'i ofyd, A'i drueni a'i drist fywyd, I ogoniant ac hyfrydwch, I gael byw mewn gwir ddedwyddwch.
Pwy gan hyn a ofna Angeu, Sydd yn helpu dyn mor ddeheu, I fynd allan o bôb trallod, A'i † 1.2514 dros-glwyddo i lys y Drindod?
Gâd i'r * 1.2515 Pagans di-rinwedde, Gâd i'r Twrcod ofni Ange: Ond nac ofned vn † 1.2516 gwir gristion, Fynd trwy Ange i gael ei Goron.

Mawr glôd ddydd marwolaeth y cyfiawn.

DYdd ein † 1.2517 Jubil a'n gollyngdod, Dydd ein rhydd-did o bôb trallod, Dydd sy'n gollwng ein eneidie, O'r carchardy yw dydd Ange.
Dydd ein Neithor a'n Priodas, A Christ Jesu 'r gwir Fessias, Dydd ein gwlêdd a'n * 1.2518 coronasiwn, Yw 'n dydd diwedd os ystyriwn.

Page 439

Dydd sy'n gorphen ar ein gyrfa, Dydd sy 'n tynnu o gyfyngdra, Dydd sy 'n talu ein Cyfloge, Dydd y † 1.2519 gôl yw dydd em Ange.
Dydd sy ein derbyn i Baradwys, At fâb Duw yr hwn a'n prynwys: Dydd sy'n rhoddi 'r Gŵn, a'r Goron Yw dydd Ange i * 1.2520bôb Christion.

Gweddi yn cyfarwyddo'r clâf am y pethau rhei∣ta iw ceisio, ac i fyfyrio arnynt mewn clefyd.

DUw 'r diddanwch llaesa mlinder, Tâd tosturi, rho imi 'smwythder, Meddyg pôb clwyf Jachâ nolur, Jesu mâb Duw rho im gyssur.
Tynn fi o dywyll Deyrnas Satan,* 1.2521 Ac o bôb dallineb allan; Fal y gallwi weld fy mhechod, A llonyddu fy nghydwybod.
Gwna fel Dafydd im * 1.2522 repento, Gwna fel Magdlen i mi wylo, Gwna fel Ninif im gydnabod, A 'mofydio am fy mhechod.
Gwna 'mi geisio † 1.2523 pardwn gennyd Fel Manasses yn ei ofyd; Ac ymbilio am drugaredd, Megis Peder am f'anwiredd.
Gwna 'mi gredu fôd im bardwn,* 1.2524 Gwedi selu â gwaed dy † 1.2525 bas siwn; A bôd f'enaid gwedi olchi, Yn dy waed oddiwrth ei frynti.

Page 440

Gwna fi hefyd yn ddioddesgar, Dan fy nolur megis Lazar: A rhoi arnat ti fy hyder, * 1.2526Megis Job er maint o'm blinder.
Gwna mi geisio ymwared gennyd, O'm trallodion ac om clefyd, * 1.2527Fal Elias o'i flindere, Môdd y gwelech fôd yn ore.
Gwna 'mi megis Ezekias, * 1.2528Droi 'r byd heibio a'i berthynas; A throi f'wyneb at y pared, I roi yn Grist fy holl ymddiried.
Gwna im feddwl am y cyfri, * 1.2529Ddydd y farn sydd raid im roddi, Am y gwaith a'r geirian ofer, Oni cheisaf râs mewn amser.
Gwna im wrando ar dy fengyl, A'th * 1.2530 bromeision yndi 'n rhigyl: Gwna im ddala gafel ffyddlon, Ar d'addewid a'th bromeision.
Gwna im feddwl am y bywyd, Yr âf iddo ar fyrr ennyd, Lle mae Sabboth o esmwythder, Heb na chûr, na phoen, na blinder.
Gwna im wadu 'r byd twyllodrus, A'i holl wagedd anwireddus: Ac ymgweirio ddwad attad, Yn ddiaros anwyl Geidwad.
Gwna im offrwm heb ddeffygio, Gorph ac enaid yn dy ddwylo, Ac ymbilio hyd y diwedd, Am dy ffafar a'th drugaredd.

Page 441

Diddanwch rhagorol i'r Enaid Alarus yn erbyn gwan obaith.

OFy Enaid pam yr ofni, Faint dy bechod, os difaru? Lle bu'r Jesu farw drossod, I'th ryddhau oddiwrth dy bechod.
Pam i hofni farn y Barnwr? Christ yw'th Dwrneu a'th Ddadleuwr, Mâb y Jestys trwy farwolaeth, A'th ryddhaodd o ddamnedigaeth.
Ni chondemnir yn dragwyddol,* 1.2531 Vn a gretto i Grist yn fywiol: Ond hwy * 1.2532 bassant, wrth eu symmyd, O farwolaeth i wir fywyd.
O fy Enaid ymlonydda,* 1.2533 Dy Dduw grassol a'th gyfiawna: Pwy all gwedyn dy gondemnio? Mae Christ drossot gwedi hoelio.
Christ â'i waed a ylch dy bechod, Ac a'th wnaiff mor wynn a'r manod:* 1.2534 Er dy fôd mor gôch a'r scarled, Christ a'th ylch mor wynn a'r foled.
Yr haul a † 1.2535 rywlla 'r cwmmwl tewa, Sebon ylch y dillad brynta: Rhinwedd Christ a gûdd dy frynti, Ei waed a'th ylch mor wynn a'r lili.
Duw faddeuodd bechod Peder, Rhyfig Dafydd a'r mâb ofer, Rhwyf Manasses a'i holl feie, Duw a fadde 'th bechod † 1.2536 dithe.

Page 442

Cymmer gyssur, cwyn dy galon: Lladdwyd mab Duw ar yr hoelion, Am dy bechod a'th gamwedde: Er ei fwyn di gae eu madde.

Gweddi* 1.2537brûdd am faddeuant pechodau,

OFy Nuw yr hwn am creaist, O fyng Heidwad 'rhwn am prynaist; O'r Glân yspryd; O'r gwir Drindod, Cadw f'enaid; maddeu mhechod.
Er mwyn Jesu 'rhwn am prynodd, Ac ym-mhôb peth a'th fodlonodd, Madde immi oll a chwbwl, Ar a wnaethoi maes o'th feddwl.
Golch â'i waed fy mai a'm Mrynti, Cladd fy mhechod yn ei weli: Cûdd fyng wradwydd â'i gyfiawnder, Madde im fy hôll ddiffeithder.
Gwisc fy enaid o gylch gwmpas, A gwisc sanctaidd y briodas, Gwna fi'n barod ddwad attad, O fy Nghrist mewn gweddus drwssiad.
Dôd d' Angelion im castellu, Nâd i Satan fyng orchfygu, Cadw f'enaid yn dy ddwylo, Nâd o Grist i'r llew ei * 1.2538 llarpio.
Pan i delwi i'r † 1.2539 Barr i atteb, Ger dy fron am f'annuwioldeb, Gwared f'enaid er mwyn Jesu, Na ro i mi o'r farn wi 'n haeddu.

Page 443

Cymmer Angeu Christ a'i 'fydd dod, Yn iawn itti am fy mhechod▪ Fe gondemnwyd am fy meie, Er ei fwyn na ddamna finne.
Haeddais Angeu, haeddais * 1.2540 dopheth, Haeddais farn rhagrithwr diffeth; Duw na ddoro 'r hyn wi 'n haeddu, Rho i mi 'r hyn a haeddodd Jesu.
Fe gyflawnodd drosswi 'r gyfraith, Fe 'th fodlonodd drosswi 'n berffaith, Fe groes-hoeliwyd am fy mrynti, Er ei fwyn rho bardwn immi.
Nid oes genni na Sancteiddrwydd, Na chyfiawnder, na pherffeithrwydd, Nac ymwared, iawn, na swccwr, Ond sydd gennyd Christ fy Mrhynwr.
Christ yw 'nghomffordd, Christ yw 'nghyssur, Christ yw 'ngobaith yn fy ngwaywyr, Christ yw f'helpwr ar awr Ange, Christ yw 'ngbleidwad ddydd diale.
Fe fu farw yn anhyfryd, Er pwrcassu immi fywyd: Er yr Ange a ddioddefwys, Duw dwg f' enaid i Baradwys.

Gweddiau byrrion i'r clâf iw harferu fel y bo achos.

DUw rho glûst i wrando 'ngweddi, Duw rho d' yspryd im comfforddi,* 1.2541 Duw rho olwg ar fy nolur, A'th law rassol llaesa 'ngwaywyr.

Page 444

* 1.2542Oen Duw madden 'mi fy mhechod, Sela Bardwn im cydwybod, Clâdd fy meiau yn dy * 1.2543 weli, Nád hwy eilchwaith adgyfodi.
* 1.2544Rwi fi 'n ofni dy gyfiawnder, Rwi 'n brawychu rhag dy ddigter: Rwi 'n fy marnu am fy mhechod, Duw diddana fy nghydwybod.
* 1.2545Dôd o Grist dy Angeu gwirion, Rhyngwyfi a'th farn echryslon, Dôd dy 'fydd-dod rhwng cyfiawnder Dy Dâd cyfiawn am diffeithder.
* 1.2546Christ â'th waed gwna heddwch etto, Rhyngwi â'th Dâd sydd gwedi digio; A'th waed diffodd ei ddigofaint, Fel na byddo mlinder cymmaint.
* 1.2547Egwan wyf, o Grist cryfhâ fi, Gwann a chlaf, fy Nuw Jacha fi, Trwm a thrist, ac ofnus ddigon, Cryfhâ fy ffydd, a chwyn fy nghalon.
* 1.2548Duw 'r diddanwch llaesa mlinder, Tâd tosturi Rho im 'smwythder: Meddyg pôb clwyf Jachâ nolur, Jesu mâb Duw rho im gyssur.
* 1.2549Llaesa mlinder, dofa nolur, Gwêl fy mhoen, a thorr fy ngwaywyr, Trefna niwedd, penna 'n nrhallod, Dwg fi attad, rwi 'n dy warchod.
* 1.2550O fy nghrist, cerydda Satan, Cadw f' enaid rhag ei safan, Cynnal fi â'th hael-wych yspryd, Dwg fi attad i'r gwîr fywyd.

Page 445

Oen Duw maddeu im fy mhechod,* 1.2551 Oen Duw pura fy nghydwybod, Oen Duw gwilia ar fy niwedd, Oen Duw derbyn fi 'th drugaredd.
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid,* 1.2552 Itt' bwrcassu 'r nêf sendigaid, A'th waed gwerthfawr trwy fawr boeneu, I rhoi immi gwedl Angeu.
Dywaid Arglwydd wrth fy enaid,* 1.2553 Dywaid Arglwydd, dywaid, dywaid, Heddyw cei di 'n gynnar orphwys, Gyda mi yngwlad Paradwys.
Christ fy Mugail cadw f' enaid,* 1.2554 Nâd ir llew o'th law ei scliffiaid: Tydi 'm prynaist yn ddryd ddigon: Dwg fi 'r nefoedd at d' Angelion.
Derbyn f'enaid anwyl Geidwad,* 1.2555 Derbyn f'enaid weithian attad, Digon bellach o'r fâth ddyddiau, Nid wi gwell nâ'r rhest om Tadau.
Rwi 'n gwllyssi cael fy nattod,* 1.2556 A dwad attad, Christ fy mhriod: Tynn fi weithian Arglwydd Jesu, Or bydd d'wllys yn cenhadu.
I'th ddwy ddwylo Arglwydd hyfryd,* 1.2557 Ir wi 'n brûdd yn offrwm f' yspryd, Nad ym hwer neb ei scliffio, Nai ddwyn mwyach byth o'th ddwylo.

Na thybied y dyn y fo byw a marw yn ei bechod, heb ffydd, edifeirwch, a sancteiddrwydd buchedd, y bydd i Grist dderbyn ei enaid ef. Mat. 7.21. Gwellhewch bawb gan hynny cyn marw, onidê gwae chwi. Esay 55.7. 1 Cor. 6.9, 10.

Page 446

Gweddi 'r claf yn erbyn Rhythreu Satan.

CHrist fy Mugail cadw f'enaid, Nâd i'r llew o'th law ei scliffiaid, Rhwn sy'n ceisio fyng orchfygu, Yn fyng wendid am traflyngcu.
Dymma 'r pryd y cais ef drecha, Fynd a'r Gôl pan byddwi gwanna; * 1.2558Nertha 'ngwendid Arglwydd cyfion, Gadw 'r * 1.2559 Gôl rhag colli 'r Goron.
Dôd dy yspryd yn fy nghalon, Dôd o bobtu 'm dy Angelion, Dôd d' arfogaeth ôll am dana, Nâd i'r Gelyn gael y trecha.
Nertha fi ddiweddu 'ngyrfa, Gwna f'awr ore 'r awr ddiwetha: Arnad Arglwydd mae fy hyder, Derbyn f'enaid i'th esmwythder.

Gweddi fyrr i'r claf duwiol iw harferu ar yr awr ddiwethaf.

NAwr o Arglwydd y gollyngu Fi mewn heddwch o'm carchardy: Gwna im llygaid cyn marwolaeth Weld dy nerthol iechydwriaeth.
Daeth y dydd a'r awr a roddaist, Daeth yr amser a derfynnaist, Daeth y Tymmor, daeth y Terfyn, Nid oes lle im fyned trostyn.

Page 447

Y mae 'ngyrfa ar ei gorphen, Am dydd diwedd ar ei ddiben, Y mae 'r terfyn gwedi dwad; Arglwydd derbyn f' enaid attad.
Megis Stephan rwyfi 'n dwedyd, Arglwydd Jesu derbyn f' yspryd:* 1.2560 Dere Arglwydd, dere 'n fuan, Cymmer fi ith drugaredd weithian.

Myfyrdod ar Fywyd ac Angeu.

PA gynta byho marw Christion, Cynta derbyn hwnnw ei Goron: Pa hwya bytho Christion byw, Hwya bydd heb weled Duw.
Pa hwya byddo dŷn heb farw, Mwya fydd gofynion hwnnw: Pa gynta tynner dŷn o'i wegi, Lleia gyd y fydd ei gyfri.

Tôst Gyflwr y Dyn Annuwiol gwedi Marw.

GWŷr a Gwragedd, Meibion, Merched, Dewch y nes, Rhowch Glûst i glywed, Cwyn, a chyngor hên Ofer-ddyn, Sydd yn gorwedd dan y Brethyn.
Mi sum gynt fel yr 'ych chwithau, Yn fawr fy nwyf, ym-mhlith fy † 1.2561 nrhassau: Nawr heb nwyf, yn noeth, yn issel, Rwyfi 'n gorwedd dan y trestel.

Page 448

Pan oedd fwya 'mryd ar faswedd, Lleia meddwl am fy niwedd, Fe ddaeth Angeu glâs heb wybod, Ac a rows im farwol ddyrnod.
Pan yr oedd y Bŷd yn Gwenu, A phôb † 1.2562 Margain genni'n ffynnu, Fel y iâ fe dorrodd dana, Ac am trows yn noeth ir gladdfa.
Pan yr oedd fy nghorph yn Iachus, A phôb aelod genni 'n rymmus, Fel stên bridd fe aeth yn * 1.2563 ddrefion, Pan daeth ange at fy nghalon.
Gynt 'roedd genni aur ac arian, Tai, a thîr, a chyfoeth llydan: Nawr ni feddaf ar un † 1.2564 Beni, O'r holl olud gynne oedd genni.
Gynt 'roedd genni Geraint ddigon, Gwraig, a phlant, a Ffryns, a gweifion: Nawr 'does neb ond Angeu melyn, Y ddaw attaf dan y Brethyn.
Mi gawn lawer gynt im helpu, Ym mhob Ffordd y Bawn yn pechu: Ni ddaw un y nawr i atteb, Gydâ mi am fy Ffolineb.
Y peth a ddaeth i mi mor Sceler, Yddaw i chwithe Bawb ar fyrder: Byddwch barod cyn del ange, Ni chewch rybydd mwy nâ minne.
Y mae Christ ai wenidogion, Yn rhoi rhybydd inni ddigon: Llawer mîl sy'n mynd i boeni, Eisie gwrando llais y rheini.

Page 449

Y mae llawer rhyw o Bechod, Yn dolurio fy 'nghydwybod: Nid oes un yn lladd mor rhigyl, A Dibrissio geiriau 'r fengyl.
Mi fum Benffast a gwar-galed, Ni wnawn bris o'r gair er cystled: Dweded Christ ai wŷr, ei piniwn,* 1.2565 Ni wnawn inne ond y fynnwn.
Gwell oedd genni wrando cyngor, Crach Dafarnwr nag un * 1.2566 doctor; Er bôd hwnnw im cyfrwyddo, Ar Tafarnwr yn f'anrheithio.
Gwell oedd genni awr yn llawen, Yn y Tafarn gydâ mersen, Nâ diwrnod yn y demel, Gydâ Christ ai anwyl genel.
Gwell oedd genni gâs gyfeillach, Môch a meddwaint mewn Tafarnach, Na chyfeillach plant goleuni; Nawr mae 'n gant edifar genni.
Gwell oedd genni 'wenydd * 1.2567 aflan, Ni pharhau ond ennyd fychan, Nâ gorfoledd teyrnas Nefoedd, Sydd yn para yn oes oesoedd.
Gwell oedd genni bridd a cherrig, Pres, a phlwm, a môch, a chessig, Nâ pharadwys ai Hangelion, Nâ Duw mawr ai holl fendithion.
Gwell oedd genni 'r cnawd nâ'r enaid, Y drwg nâ'r da, Y môch nâ'r defaid, Y byd nâ'r nef, y cam nâ'r cymmwys, Ar nôs nar dydd, ar gell na'r Eglwys.

Page 450

Nawr mae 'n difar gan fy 'nghalon, Fy môd mor ffôl, mor ddall, mor ffinion, A phôb modfedd sydd yn crynu, Nawr wrth fynd ir * 1.2568 Barr im Barnu.
Y mae 'nghorph yn mynd i bydru, Ir bedd am dan fy ngwaith yn pechu; Am henaid trist yn mynd i atteb, O flaen Duw am bôb ffolineb.
Nawr mi Glywa Grist im galw, Rhaid im atteb wrth fy enw; F'orfydd mynd i wneuthur cyfri. Er Anhawsed ydyw genni.
O! † 1.2569 Bwy filoedd o Bechode, Y mae 'nghonsciens * 1.2570 yn eu hadde? Rhai a wnaethym mor ddiofon, Gynt yn erbyn Duw a dynion.
O! Bwy rol sydd gan fy ngelyn, Cŷd a 'r dwyrain a'r Gorllewyn, Yn cyhuddo ac yn traethu Y mann, a'r môdd, y bum yn pechu?
O! pwy glywai im cyhuddo, Ond y diawl y fu 'n fy hudo, Gynt i bechu yn y dirgel; Gwae wrandawo ar y cythrel.
Nid oes pechod ac a wnaethym, Er yn blentyn na bo 'n awchlym, Yn ei daflu yn fy nannedd, Gwae fi gynddrwg y fu muchedd.
Mae ê 'n Achwyn mor * 1.2571Ddibroffit, Gynt y treuliais fy holl ieungctid, Mewn oferedd, a phibiaeth, Heb Dduwioldeb na christnogaeth.

Page 451

Mae ê'n * 1.2572 claymo mai se'm pie, Waith fy ennill fîl o weithie, Yn fy ieungctyd; ac na ddichon, Duw roi iddo lai nâ'i gyfion.
Mae ê'n dangos pôb ffolineb, Ag a wnaethoi mewn Gwroldeb, Am holl fedd-dod, am holl ryfyg, Am trachwante cas llygredig.
Mae e'n dangos fy nigofaint, Am holl † 1.2573 rimpe yn fy henaint, Am Cybydd-dod, am hanwiredd, Am * 1.2574 Dimdawrwydd am fy niwedd.
Mae e'n taeru lêd ei safan, Iddo f'ennill ym-mhôb oedran; A môd inne er yn fachgen, Yn ei wsnaethu yn dra llawen.
Mae e'n * 1.2575 pledo yn ‖ 1.2576 Ddigwiddyl, Wrth y Gyfraith ar Efengyl, Mae fe'm pie eisie Credu, Gwella 'muchedd, a difaru.
A lle tibiais trwy anwybod, I Grist farw dros fy mhechod, Ac na Chaffe 'r Cythrel feddu, Ar y sawl na bae 'n ei wadu:
Y mae 'r cythrel ynte 'n † 1.2577 pledo, Na thâl sôn am hynny wrtho; Os ni cheidw Christ un christion, Ond a gretto ynddo 'n ffyddlon.
Y mae 'r Diawl yn dwedyd eilchwaith, Nad oedd genni ffydd na gobaith, Na difeirwch, na gwell amcan, Nag oedd gan y Twrc a'r * 1.2578 pagan.

Page 452

Mae e'n pledo ac yn taeru, Nâd oes immi nêl â'r Jesu, Eisie gwrando ei leferydd, * 1.2579A bôd yn greadur newydd.
Er i mi gael enw cristion, A'm bedyddio gydâ 'r ffyddlon; Etto nid oedd well fy 'nghrefydd, Medd y diawl nâ dyn di-fedydd.
Mae e'n dwedyd rwi'n ei glywed, Nâd oedd gwell fy ffydd am gweithred, Na 'm ymddygiad am harferion, Na rhyw * 1.2580 ethnic anobeithlon.
Mae e'n dwedyd na ddilynais, Air o'r fengyl wen a glywais, Mwy na'r Iddew nas cas etto, Râs i dilyn na 'i chosseidio.
Mae e'n dwedyd wrth Dduw 'n am lwg, Y rhy gennad torri ei wddwg, Os adroddai iddo 'n rhigyl, Bedwar gair o'r holl efengyl.
Mae e'n galw Duw ei hunan, Ai Angelion fawr a bychan, Yn destiolaeth, nad yw 'n dwedyd, Ond gwirionedd ar fy mywyd.
Mae fy * 1.2581 nghonsciens drom dan chwssu, Gyda 'r diawl yn testiolaethu, Ac yn dwedyd mewn gwirionedd, Felly 'n uniawn y bu 'muchedd.
Mae e'n dwedyd i mi * 1.2582 bilo, Pobol dlodion, a'i hanrheithio, Dwyn ei tai, ai tir oddiarnynt. A † 1.2583 sclementa 'r maint oedd ganthynt.

Page 453

Mae e'n dwedyd immi feddwi, A Phutteinia ac ymlosci, Torri 'r Sabboth fil o weithiau, A dibrissio Duw ai ddeddfau.
Y mae 'r Diawl gan hynny 'n gofyn, Am i Grist roi'r farn im herbyn, Am troi i uffern byth i boeni, Am fy mhechod am drygioni.
O! † 1.2584bwy grynu, O! bwy gwynfan, Y mae f'enaid rhag gŵg Satan, Sydd yn dyfod ai wŷr duon, Idd iw gyrchu at Dduw cyfion.
O! mor chwerw, O! mor ddiflas, O! mor ffiaidd ac mor atgas, Ydyw pechod gantho nawr, Fu e'n garu gynt mor fawr.
O! bwy gwilydd s'arnai wrando, Y cyhuddwr im Cyhuddo, Am gan peth na fynne f'enaid, Er y bŷd im mam ei 'styriaid.† 1.2585
Gwell gan f'enaid pe cai ddewys Fynd i uffern, hyn sydd ddilys, Na mynd ir bar at y Drindod, I roi cyfrif am ei bechod.
Etto f' orfydd arno ymddangos, O flaen Duw nid oes lle aros, I roi cyfrif llawn, a derbyn Barn, fel y bo 'r gwaith yn gofyn.* 1.2586
Nid wi'n clywed neb yn pledo, Nac yn chware 'r twrnai drosto, Nid wi 'n clywed arno 'n atteb, Un o filoedd oi Holineb.

Page 454

Rwyfi 'n gweled Duw â'i lyfrau, Yn hyspyssu ei drofeddau, Ac yn datcan yn † 1.2587 ddi-gwnfel, Y pechodau wnaeth e'n ddirgel.
Rwyfi 'n clywed taflu fuchedd, Front, ddi-grefydd yn ei ddanedd, Ai gnawdolrwydd, a'i * 1.2588 freolaeth, Ai ddrwg arfer ddi-Gristnogaeth.
Rwyfi 'n clywed cyfri 'r llwon, A fu 'n dyngu 'mysc y meddwon, A'i ffieidd-dra ar y Sabboeth, A'i ddrwg naws, a'i eiriau annoeth.
Rwi 'n ei glywed ynte 'n tewi, Ac yn † 1.2589 griddfan ac yn codi, Heb agoryd dim oi enau, Mwy nâ 'r pysc, ond ochain weithiau.
* 1.2590Rwyfi 'n clywed Christ yn gwssio, 'R Diawl i glymmu ei draed ai ddwylo, Ai daflu ir tywyllwch eitha, Lle nad oes ond cûr a phoenfa.
Rwyfi 'n clywed Crist yn traethu, 'R * 1.2591 ferdid arno gan ei farnu, I dân uffern yn dra union, At y Cythrel ai angelion.
Rwyfi 'n gweled Satan ynte, Yn ei rwymo'mewn cadwyne, Ac i uffern yn ei † 1.2592 dwmblo, Gwedi clymmu draed ai ddwylo.
Rwi 'n ei glywed ynte 'n llefain, Ac yn Beichad, ac yn ochain, Wrth ei daflu mor anffafrol, * 1.2593Llwyr ei ben ir tân uffernol.

Page 455

Rwy fi 'n gweled y Cythreiliaid, Hwyntau 'n rhwygo ei gorph ai enaid, Fel y rhwyge Gwn digassog, Wrth ei newyn, lwrch neu scwarnog.
Rwyfi 'n gwrando ei * 1.2594 ganlyn ynteu, Yn crio n' dôst am gael ei angeu, Ac er tosted y mae 'n galw, Nid yw nes er hynny farw.
Mae e'n gorwedd mewn tywyllwch, Yn nhân uffern heb lonyddwch,* 1.2595 Rhwng Cythreiliaid lle mae newyn, A phoenydie tôst di-derfyn.
Nid oes dim yn torri nghalon, Mor ddigyssur, ac mor greulon, Ac yw meddwl fel na dderfydd, Dim oi boenfa yn dragywydd.
Dymma 'r mann a'r lle y gorfydd, Arnaf inne 'r corph di-grefydd,* 1.2596 Fynd i boeni atto 'n irad, Yn ôl dydd yr adgyfodiad.
A da beth y dlywn fyned, I dân uffern er ei boethed, Os myfi a barodd iddo, Bechu 'n fynych heb * 1.2597 repento.
Dyna 'r lle yr â'r holl bobol, Ddrwg, ddi-grefydd,, gâs, anneddfol, Yn ôl hela 'r tŷ trwy 'r ffenest, Byw fel môch, mewn glwth a gloddest.
Mi gynghorwn bawb gan hynny, Ofni Duw a'i wir wasnaethu, A byw 'n sanctaidd ac yn ddeddfol, Rhâg eu troi ir tân uffernol.

Page 456

Byddwch sobor, byddwch sanctaidd, Byddwch union a Christnogaidd: * 1.2598Oni byddweh, gwn yn siccir, Mae i uffern eich condemnir.
Ofnwch Dduw, gwrandewch y fengyl, Gweglwch droi at hon eich gwegil: Byddwch fyw fel gwir Gristnogion, Os chwennychwch gael y goron.
Ni thál † 1.2599 pledo ffydd heb weithred, Nid plant Duw o'r * 1.2600 libertinied: Nid gwir Gristion dyn di-grefydd, Plant ir fall yw 'r rhai anufydd.
Ni thâl dwedyd yr wi'n Gristion, O bydd ffydd heb weithred flrwythlon: * 1.2601Ni bydd bywiol ffydd heb weithred, Mwy nar tân heb wres pan cynned.
Byddwch onest, byddwch union, Duw ni odde gam fargennon: * 1.2602Os arferwch dwyll neu ffalstedd, Trwm o'r dial yn y diwedd.
Beth y ennill dyn wrth dreisio, Pilo 'r tlawd ai llwyr anrheithio, Os † 1.2603 tormentir hwn o'r diwedd, Yn nhân uffern am ei gamwedd.
* 1.2604Beth y dâl i ddyn dros ennyd, † 1.2605Blessio 'r cnawd a chael ei wynfyd, Os â gwedyn yn dragwyddol, Ar ei ben ir tân uffernol.
Beth y dâl it ddyfal lanw 'R bola dro, ar wîn a chwrw, Od ac gwedyn am dy fedd-dod, I newynu i uffern issd.

Page 457

Beth a ennill dyn wrth dwyllo, Torri * 1.2606 prommais, ac † 1.2607 andwyo Ei gymmydog tlawd trwy gamwedd, Os â i uffern am ei ffalstedd.
Naded nêb ir Diawl ei dwyllo,* 1.2608 Y wnelo ddrwg fe atteb drosto: Fel yr hauoch felly medwch, Fel y gwneloch y derbynniwch.
Mae mor hawdd ir cythrel scelar, Fynd ir nef y dydd ei barner, Ac ir drwg ddyn, glwth, di-grefydd,* 1.2609 Ddiangc uffern ddydd ei gystydd.
Hîr y herys Duw heb daro, Llwyr y dial pan y delo, Am yr echwyn a'r hîr scori, Fe ry gyflawn ddial itti.
Fe gyd-ddwg â'r bobol waetha,* 1.2610 Ennyd hîr i geisio eu gwella, Gwedyn eisie troi n' ddifeiriol, Fe 'i llwyr dry ir tân tragwyddol.
Duw ro gras i bôb dyn wella, Tra fo 'r dydd ar goleu 'n para: Duw ach gwnêl chwi bawb yn barod, Cyn del ange roi chwi ddyrnod.

Cwyn a chyngor Difes iw bum brodyr.

CLywch bawb gŵyn a chyngor Difes, O'r fflam boeth a'r danllyd ffwrnes, I bum brodyr ai holl drasse, Rhag eu dwad lle mae ynte.

Page 458

O fy mrodyr clywch fi 'n traethu Fy nhôst gyflwr gwedi nghladdu; Fel y galloch chwithan ddiangc, Rhag y cyfryw boenau didrangc.
Marnai ddlyed ich cynghori, A rhoi rhybydd amlwg i chwi: Rhag heb wybod i chwi ddwad, Ir fâth garchar di-ddymchweliad.
A pha gwypech faint om trallod, Am holl boen yn uffern issod, Chwi wrandawech ar fy ngeiriau, Rhag ich ddwad ir fâth boenau.
Gwn yn hysbys iawn pe gwypech, Faint om poen, am Cûr, am gortrech, Na chymmerech dda * 1.2611 Amherod, Er ei goddef vn diwrnod.
Os ni ddichon dŷn nac Angel, Adrodd gymmaint yw fy nhrafel, Yn y flam a'r Tân vffernol, Llei'm poenydir yn dragwyddol:
Bum i gynt yn fawr fy rhyfig, Yn y bŷd yn ŵr Arbennig, Yn rheoli fal y mynnwn, Ac yn gwneuthur faint 'wllyssiwn.
Bum yng olwg llawer vn, Heb ofni Duw, heb berchi dŷn, Mwy nag † 1.2612 Inffidel neu Bagan, Y ddilyne ei * ffansi hunan:
Os mi dybiais trwy gam grefydd, Na bawn marw yn dragywydd; Ac o byddwn marw vnwaith, Na ddoe 'morol * 1.2613 arnai'r eilwaith.

Page 459

Er bôd Moesen a'r Prophwydi, Yn mynegi 'n amlwg im-mi, Fôd fy Enaid yn anfarwol, Ni wnawn bris oi geiriau grassol.
Er ei bôd yn dangos im-mi, Y gorfydde gwneuthur cyfri, Ger bron Duw am bôb fileîndra, Nid âe hynny yn fy * 1.2614 nghloppa.
Nawr yn vffern rwi 'n cael dysgu, Mae gwir oeddent yn ei draethu: A bod Enaid didrangc genni, Yn y fflam yn gwneuthur cyfri.
Tybiais hefyd tra fum byw, Nad oedd vn nêf, nác yn Duw, Nac vn vffern, nac yn Cythrel, Na gwell diwedd dyn na nifel.
Nawr yn vffern wrth boenydio, Y mae 'r Diawl im † 1.2615 Cateceiso, Ac yn dangos yn * 1.2616 blaen immi, Fod Duw i ddial pob drygiom.
Nawr rwi 'n Clywed ac yn Canfod, Fod y Diawl, ac vffern issod; A mîl miloedd o Gythreiliaid, Wrth farn Duw yn poeni f'enaid.
Rwyfi 'n gweld yn Eglur hollol, Fod pob Enaid yn anfarwol, Gwedi marw 'r Corph a'i gladdu, Bid drwg, bid da, fo'r Enaid hynny.
Nawr y gwn mai gwir yw 'r scrythur, Nawr y gwn fod Christ yn eir-wir, Nawr y gwn y treulia 'r nefodd* 1.2617 Cyn êl Geirie Christ yn niffodd.

Page 460

Eisie Credu hon mewn amser, Nid yw 'nghred yn awr ond ofer, Eisie ei chredu yn fy mywyd, Mi fum byw fel nifail ynfyd.
Felly byddwch chwithau 'mrodyr, Oni chredwch eiriau 'r Scrythur, Ac amcanu byw yn ddeddfol, Yn ei hôl fel meibion grassol.
Eisie dilyn Geiriau 'r scrythur, Eisie dofi trachwant nattur, Eisie byw yngoleuni 'r fengyl, Rwi fi nawr mor ddrwg fy † 1.2618 mhiccil.
Eisie dilyn Cyngor Moysen, Eisie Credu 'r fengyl lawen, Eisie cadw pwyntau 'r Gyfraith, Y bu 'muchedd front mor ddiffaith.
Pan y troes i 'r fengyl heibio, Fe ddaeth Satan im cyfrwyddo, Ac im Tynnu i bôb drygioni, Y fae 'nhrachwant yn ei hoffi.
Nid oes pechod alla'i draethu, Nas dilynais nes im laru, Nes mynd bywyd ffiaidd Difes, Mor ddiereb a Manasses.
Gwnaethym Dduw om golud bydol, Rhoes fy mrŷd ar bethau cnawdol, Ym-mhob drwg mi aethym * 1.2619ragof, A gollyngais Dduw yn angof.
Felly gwedi tôst gamsyniaid, Llwyr ddibrissiais am fy Enaid, Fel rhyw nifel na bae 'n coffa, Dim ond am y bŷd a'r bola.

Page 461

Mynnais drwssiad gwych am danaf, Pwrpl côch * 1.2620 bôb dydd o'r meinaf: Nawr yn vffern rwi 'n nhoeth lymyn, Am fy nghoegedd heb Edefyn.
Mynnais † 1.2621 Sindon, Lawnd, a Chambrig, Yn fy ngrhysse * 1.2622 awr ac orig: Nawr gwae finne na bae Garthen, Neu hws Ceffyl am fy nghefen.
Minnau fynnwn lanw 'mola, Ar ddainteith-fwyd o'r melyssa, Bôb diwrnod tra fu 'r flwyddyn, Er bôd f'enaid yn dwyn newyn.
Bum mor foethus ac mor † 1.2623 ddainti, Ac na fynnwn vnwaith brofi, Dim ond y fae tra ddainteithiol, Brâs a melus, drûd, a manol.
Nawr mi fynnwn pa cawn fwytta, Soeg y môch i lanwr 'mola, Ac i dorri peth o'r newyn, Sy'n dolurio pob Colyddyn.
Bum yn yfed ac yn whiffo, Bur a gwîn, heb fessur arno; Ac yn llanw mola ganwaith, Nes ei chwdu fynu eilwaith.
Nawr mi rown y bŷd yn gyfan, Ai holl dryssor pe cawn ddafan, O ddwr oer i oeri 'n hafod, Sydd mewn fflam yn llosci 'n wastod.
Er bôd ar fy mord i friwsion, Alle borthi * 1.2624 fwrn o dlodion, Fe gae'r Cŵn y Cwbwl rhyngthyn, Cyn cae Lazar vn briwsionyn.

Page 462

Nawr mae Lazar ynteu 'n tlu, Pwyth hyd adre, ac yn pallu, Rhoi o'r ffynnon im-mi ddafan, O'r dwr oer, er maint wi 'n * 1.2625 fegian.
Er bod Moysen a'r Prophwydi, Yn rhoi llawer rhybydd im-mi; Ni wrandawn ar ddim a ddwedent, Ni wnawn vn rhith ag a geisient.
Nawr gan hynny rwi 'n cael crio, Ddydd a nôs, heb gael fy ngwrando, Ond cael taflu yn fy nannedd, Mor annuwiol y fu 'muchedd.
Pan pregethid yr Efengyl, Minnau drown at hon fy ngvvegil, Ac y gysgwn ar fy nwrnau, Pan bae eraill yn cael gwensau.
Nawr am gysgu yn y demel, Fe'm * 1.2626 Tormentir gan y Cythrel, Fel nad wyf yn abal cysgu, Na marwino mwy ond hynny.
Ac am flino gwrando 'r fengyl, Ac Athrawiaeth Christ yn rhigyl, Y mae 'n gorfod arnai wrando, † 1.2627Screch y Cythrel byth tra gantho.
Eisie gwrando cyngor Moesen, Eisie credu 'r fengyl lawen, Eisie dilyn hon ai dysgu, Y mae yn vffern fil yn * 1.2628 gryddfu.
Minnau dreuliais ddydd yr Arglwydd, Mewn glothineb ac anlladrwydd† 1.2629, Yn gan gwaeth mewn gloddest scymmyn, Nag vn dydd o ddyddiau 'r flwyddyn.

Page 463

Mae 'ma filoedd o rai annoeth, Am halogi 'r Sanctaidd Sabboth, Heb gael Sabboth nac Esmwythdra, Ond yn poeni hâf a gaya.
Cymrais Enw Duw yn ofer, Fil o weithiau wrth fy mhleser, Nid oedd blâs ar chweddel genni, Nes y Tyngwn waed y Jesu.
O † 1.2630 bwy boenfa 's'ar fy nhafod, Am ddirmygu gwaed y Cymmod: A phwy * 1.2631 dorment sy 'n fy ngryddfu, Am amherchu Enw 'r Jesu.
Minne offrymais f'enaid ganwaith, Yn y dydd ir Cythrel diffaith, Am i roi mor fynych iddo, F'aeth y Diawl â'r Enaid gantho.
Mae 'ma lawer mîl fel finne, Yn y pwll mewn irad boene, Am roi ei hun ir diawl dan regu, Wedi i Grist â'i waed eu prynu.
Llawer vn a fum i 'n hela, O dra malis i ryfela, Er mwyn Tywallt gwaed y gwirion, A'i difetha heb achossion.
Nawr mae gwaed y rhain yn llefain, Am ddialau arnai 'r filain, Ac yn Crio ar y Cythrel, Dalu immi am fy nhrafel.
Bum yn gwest arfywyd ganwaith, Heb nac ofon Duw na'r gyfraith, Yn Condemnio llawer Gwirion, Ac yn Cadw † 1.2632 llofrudd, lladron.

Page 464

Nawr mae 'r * 1.2633 mwrddwyr dan ei henw, Ar drwg ddynion fum i 'n Gadw, Yn y pwll yn † 1.2634 llarpio f'enaid, Mor ddiffafar a'r Cythreiliaid.
Larais ar fy ngwraig fy hunan, Cymrais fenthig gwragedd aflan: Llu o'r rhain sy nawr im pwyo, Ym hwll vffern am eu hudo.
Mae 'r bastardiaid fum i 'n ennill, O'r rhai aflan hyn fel perchill, Oll yn llefain ac yn Crio, Am ir Cythrel fy * 1.2635 nhormento.
Minne orthrymmais blant ymddifaid, Pan bae farw vn om deiliaid, Awn ar ddau ŷch fawr o'r arad, Rhag ir naill o'r ychen * 1.2636 freifad.
Nawr am dreisio 'r fâth wirionaid, Fe'm tôst ffystir gan Gythreuliaid, Yn gan gwaeth nag y bydd † 1.2637 Tanner, A'r Pawl mawr yn ffysto 'r lleder.
Bum yn hirio anwir ddynion, Lawer gwaith i dyngu 'n vdon, Ac yn peri 'r rheini dyngu, Beth y fynnwn ond eu dyscu.
Y mae rhain fel haid o nadredd, Ddydd a nôs yn Cnoi fy mherfedd, Ac yn rhwygo 'n dôst fy nghalon, Am eu dyscu dyngu 'n vdon.
Minnau elwais bobol wirion, Weithiau 'n * 1.2638 fwrddwyr, weithiau 'n lladron, Ac enllibiais wŷr a gwragedd, Heb ddim achos ond fy 'nrhawsedd.

Page 465

Cedwais hîr a llawer Cyflog, A'r fy ngwas a'r tlawd † 1.2639 anffodiog, Ac y berais ir Tlawd fedi, Fy holl heiniar heb vn * 1.2640 beni.
Nawr mae gwaedd y rheini 'n Crio, Ar y drwgwr am fy mhwyo, Am im Gadw hîr y rheini, Ac * 1.2641 Andwyo 'r Cyfryw dlodi.
Rhoddais f'arian gynt ar † 1.2642 occor, Ir dŷn Tlawd fel cybydd * 1.2643 angor; Nes im lyngcu fedde 'r tlodion, A'i handwyo â'm bargennon.
Nawr mae llawer vn o'r rheini; Ymma 'n vffern yn fy mhoeni; Am eu gyrru i ledratta, Gwedi f' occor brwnt eu difa.
Rhoddais ir Cyfreithwyr duon, Wabar fawr am dreisio tlodion: Mae 'r Cyfreithwŷr yn fy llethu, Ymma 'n vffern am eu llygru.
Rhoddais gennad im holl weision, * 1.2644Vexo pawb om Cymmydogion: Nawr mae 'r gweision am ei godde, Yn vexo 'n dost fy Enaid inne.
Prynais dîr dan bris gan fagad, Cedwais beth ar bawb o'u Taliad; Nawr mewn Carchar rwi am hynny, Heb fôd gennif rô i dalu.
Pe bae ddimme 'n abal prynu, Rhydd-did im-mi om Carchardu, Am dwyn o'r pwll ir nêf ole, Nid wi 'n abal cael o'r ddimme.

Page 466

Cefais rybydd fil o weithie, Am roi dreisiais eilwaith adre; Minnau awn ir Tân vffernol, Cyn rhown ddimme yn ei gwrthol.
Pan y gwerthwn wlân a llafur, Rhown gam bwysau, rhown gam fessur: Yn yr ŷd mi werthwn raban, Yr vn bris a'r gwenith purlan.
Ac yn Erbyn Duw a'i ddeddfe, Cedwais amryw * 1.2645 sort o bwyse; Pwys rhy fawr, pan fawn yn prynu, Pwys rhy fach, pan fawn yn gwerthu.
Nawr fe'm Curir ar fy 'nghloppa, Gan y Diawl â'r pwysau mwya; A phawb Eraill megis minne, Y fo 'n arfer anwir bwyse.
Ni adewais * 1.2646bwynt o'r Gyfraith, Heb ei thorri lawer Canwaith: Mi ymdrois ym-mhob rhyw bechod, Nâs ir Angeu roi im' ddyrnod.
Mi fynegais lwch yn oleu, B'wedd y bum i byw hyd Angeu: Mi fynegaf i chwi weithian, B'wedd im poenir dan law Satan.
Y mae 'r pwll lle rwyfi 'n trigo, * 1.2647Yn ddwfn iawn heb waelod iddo: A'i holl † 1.2648 welydd Cyn ucheled, Nad oes Gobaith Cael ymwared.
Y mae 'r pwll dros fŷth yn llosgi, O dân poeth fel môr yn berwi; * 1.2649Y mae anal Duw ei hunan, Yn ei drîn fel môr o frwmstan.

Page 467

Gwedi nynnu 'r Tân hyn vnwaith, Byth ni ddiffodd hwn yr eilwaith: Nid rhaid chwythu dim o hano, Mae ê 'n Cynnu heb ei gyffro.
Y mae 'r Tân dros fŷth yn llosci,* 1.2650 Yn 'dra ffyrnig ac yn poeni; Ac er hyn nid yw ê'n treulio, Nac yn difa dim êl iddo.
Mae 'r vn tân yn poeni 'r bobol, Ond mewn dull a môdd neillduol;* 1.2651 Rhai yn fwy neu lai o ronyn, Fel y bythoi beiau 'n gofyn.
Yr Haul a lusc y * 1.2652 mŵr o'r India, Yn fwy nâ'r rhai a drig yn Rwssia: Vffern boeth y lusc yn boethach, Bechod mawr nâ phechod byrrach.
Nid oes yn y pwll yn Trigo, Vn heb rwym ar draed a dwylo, Mewn Cadwynau Tragwyddoldeb, Am eu pechod a'u ffolineb.
Mae tywyllwch hefyd ynddo, All pôb rhai yn bawdd ei deimlo:* 1.2653 Ac er dechreu 'r bŷd ni welad, Ynddo oleu 'r Haul neu 'r leuad.
Mae ê'n drewi Cyn ffyrnicced, Nad oes dim all ddrewi gassed: Er bôd miloedd yn ei † 1.2654 nyrddo, Ni lanhawd erioed o hano.
Y mae pryfed ynddo 'n bwytta, * 1.2655Consciens dŷn heb gael ei gwala,* 1.2656 Dydd a nôs yn fawr ei hawydd, Ac heb farw yn dragywydd.

Page 468

Y mae gwedi mîl o filoedd, O gythreuliaid megis lluoedd, Yn * 1.2657 Tormento 'r rhai damnedig, Ac heb orphwys † 1.2658 awr nac orig.
Maent yn dyrnu ac yn pwyo, Rhai damnedig heb ddeffygio: Ac Er maint y fônt yn ddial, Bŷth ni chymmer vn ei * 1.2659 anal.
Y mae 'r † 1.2660 Torment yn dragwyddol, Ac ar bawb yn gyffredinol, Yn Tormento pawb ar neilldu, Ymmhob aelod y fu 'n pechu.
Y mae 'r llygaid heb gael gweled, Ond Cythreuliaid Er ei Cassed, Ac Eneidiau Rhai damnedig, Yn y pwll yn wylo 'n ffyrnig.
Y mae 'r Genau ynteu 'n bwytta, Bustyl lindys, bwyd o'r chwerwa: * 1.2661Ac heb yfed dim ond Gwaddod, O ddigofaint Tôst y Drindod.
Y mae 'r Clustiau hwynte 'n gwrando, * 1.2662Screch y diawl a'i blant yn Crio; A thôst ochain rhai damnedig, Yn scyrnygu dannedd ffyrnig,
Y mae 'r Tafod ynte 'n llosci, Ac mewn Brwmstan poeth yn berwi; * 1.2663Heb gael Cymmaint ag vn dafan, O ddwr oer i ddofi 'r lloscfan.
Y mae 'r ffroenau yn aroglu, * 1.2664Gwynt y Brwmstan o'r Carchardu, Sydd heb garthu etto Er Adda, Ac yn drewi o'r ffyrnicca.

Page 469

Y mae'r Traed a'r dwylo hwyntau, Gwedi Clymmu mewn Cadwynau; Ac heb Allel Troi na threiglo, Or lle 'r ydys yn ei * 1.2665 brwylio.
Y mae Dannedd pawb yn rhingccian, Yn scyrnygu â'r fâth † 1.2666 dwrddan, Ag y bydd Echrydus gennwn, Wrando ei llais, na gweld ei ffashiwn† 1.2667,
Y mae pryfed Câs anfarwol, Yn Cnoi * 1.2668Consciens pôb annuwiol; Ac yn bwytta 'n llym Escymmyn, Etto bŷth heb dorri newyn.
Fel y pechodd pôb rhyw aelod, Ag oedd gennif, † 1.2669 noed fy nhafod; Felly poenir fy aelodau, Bôb yr vn ag amryw boenau.
Mae pôb aelod yn poenydio, Mae pôb mann a dial arno; Mae pôb dial yn dragywydd, Yn poenydio heb ddim llonydd.
Ni bydd marw bŷth o'r pryfyn, Bŷth ni ddiffodd Tân yr odyn: Ni ddaw Angeu er y geisiaf, Bŷth i wneuthur diwedd arnaf.
Ni bu 'r diluw ond blwydd hynod, Na thân Sodom ond diwrnod; Newyn * 1.2670 Egypt ond saith mlynedd, Mae 'mhoen innau bŷth heb ddiwedd.
Pe cawn rydd-did o'm holl boenau, Am ben Can mil o flynyddau; Byddei hynny † 1.2671 gynffordd im-mi; Ond dros fŷth mae 'n rhaid im boeni.

Page 470

Y gair bŷth sy'n torri 'nghalon, * 1.2672Y gair bŷth sy'n Cnoi 'ngholyddion: Y gair bŷth sy'n peri im-mi Fwytta 'mreichiau a gwallgofi.
Tôst yw goddef hyn o gystydd, Dan law Satan yn dragywydd; Y mae Etto beth sydd dostach, Colli 'r Jesu ai gyfeillach:
Colli 'r bywyd, Colli 'r Goron, Colli 'r Jesu a'i Angelion, Colli 'r nefoedd a'i * 1.2673 'rhiàltwch, Colli Duw a phôb dedwyddwch:
Melldith Dduw ir dydd ym ganed, Anap ddrwg ir awr ym llunied, Vffern boeth im mam na bysse, Yn dwyn llyffan yn fy nghyfle.
Gwae fi 'rioed na thorsei 'ngwddwg, Ar y ploccyn pren â bilwg, Cyn rhoi bron i fâb anwadal, I ddigio Duw, i ddwyn ei ddial.
Nid oes Cythrel na dyn scymmyn, Ymma 'n vffern a'i holl derfyn, Na bônt ar ei Cylch yn † 1.2674 Gyngan, Yn fy mhwyo fawr a bychan.
Nid oes Enaid dŷn er Adda, Ym hwll vffern mewn mwy boenfa; Mewn mwy drallod, mewn mwy eisie, Nag y mae fy Enaid inne.
Dymma 'nghustydd, dymma 'mhoenfa, Dymma 'ngwaywyr, dymma 'ngwascfa; Dymma 'r Cyflwr yr wi ynddo, Bôb yr awr yn tôst boenydio.

Page 471

O gan hynny fy 'mhum brodyr, A phawb Eraill sydd o synwyr; Cymrwch rybydd cyn del Angeu, Rhag iwch ddwad lle 'rwi finneu.
Oni byddwch Edifeiriol, Ffyddlon, vfydd, a christnogol; Gwn na ddengys Duw 'r Dialau, Iwch fwy ffafar nag i minnau.

Atteb i Gwestiwn ynghylch gweddio dros y marw: ble dangosir anghyfreithlondeb gweddio dros y cyfryw.

FYnghâr a'm gwîr anwylyd, Gofynsoch gwestiwn hyfryd: Mae 'n weddus im, ym-mhlaid y ffydd, Roi atteb prûdd o'i blegid.
Hyn ymma yw'ch gofyniad Ai gweddus i offeiriad, Weddio dros y marw 'n brûdd, Yn ôl y dydd * 1.2675 departiad.
Rwi 'n atteb i chwi 'n groyw, Na ddiodde 'r scrythur alw, Na gweddio, na dydd, na nôs, Yn ofer dros y marw.
Mae Duw yn barnu 'r enaid,* 1.2676 I'r nêf neu uffern dambaid, Yr awr yr êl o'r corph y maes, Yn ôl ei † 1.2677 gâs a'i weithred.
Mae enaid y dyn ffyddlon,* 1.2678 Yn mynd o'i gorph yn union, I'r nefoedd at Angelion * 1.2679 gwâr, Fel enaid Lazar wirion.

Page 472

Mae enaid yr annuwiol, Yn mynd i'r pwll uffernol, (Pan êl ô'r corph) îr tan a'r rhês Fel enaid Difes fydol.
* 1.2680Mae 'r duwiol mewn dedwyddwch, Gogoniant a * 1.2681 rhialtwch; Y fâth nid rhaid iwch geisio mwy; Gadawn ni hwy mewn heddwch.
Nid rhaid gweddio drostynt, Gan gystal yw eu helynt: * 1.2682Maent hwy gydâ 'r oen bôb awr; A Swpper fawr sydd ganthynt.
* 1.2683Mae 'r enaid anwir ynte, Yn griddfan yn y poene: Ni ddaw hwn o'i boen a'i blâg, Er gweddi nag offrymme.
Yn ôl i un-dŷn farw, A chael y farn yn groyw, Ofer yw i'r wlâd a'r plwy, Weddio mwy dros hwnnw.
Pe ceisie Job neu Ddaniel, Neu Abram, Moesen, Samuel, Laesu 'r † 1.2684 poene yn y fflam, Ni chaent ddim am eu trafel.
Pe delei ffeiriaid holl-fyd, I grio drosto 'n daerllyd, A'u haberthau o bôb rhyw, Ni * 1.2685 altre Duw mo'i ferdyd.
Pe delei 'r bŷd yn gyfan, A gweiddi am laesu 'r boenfan; * 1.2686Ni chaen gwedi marw 'r gŵr, O'r † 1.2687 droppyn dwr iw safan.

Page 473

Y farn y saif yn ddilys; Llei cwympo 'r pren fe erys:* 1.2688 Ni newid Duw o'r farn y rows; Erioed ni throws o'i 'wllys.* 1.2689
Mae Duw yn ddianwadal, Y farn y rows fe'i cynnal: Ni all y bŷd â'u hymbil taer, Nâr nêf, na'r ddaer ei hattal.
Yr amser i weddio, Sydd cyn i ddŷn ‖ 1.2690 ddeparto; Gweddi gwedi marw nêb, Sydd weddi heb * 1.2691 brefailo.
Gan hynny rwi 'n cynghori, I bawb y garo weddi, Geisio hon tra yntho † 1.2692 wrês, Os cais ê lês oddiwrthi.
Cais wisc, cais oel, cais oleu, Cais râs cyn delo 'r angeu:* 1.2693 Ni chair gwedi ‖ 1.2694 passo 'r dydd, O'r dwr, os bydd e'n eifie.
Gan hynny cyn * 1.2695 departo, Ni ddylem bawb weddio; Dyna'r pryd heb ddim o'r ffael, Mae inni gael ein gwrando.
Cyn marw y mae inni,* 1.2696 Ennill nêf neu cholli, Gwedi marw ni chaiff ffôl, Ond barn yn ôl ei frynti.
Cyn marw mae † 1.2697 repento. Trai 'n ddydd y mae ymgweirio: Pan êl hi 'n nôs, medd Christ ei hun, Ni all ûn-dŷn mor gweithio.

Page 474

Mae Christ yn erchi 'r treisiwr, * 1.2698Cyttuno â'i wrthnebŵr, Tro ar y ffordd, cyn delo 'mlaen, Rhag mynd o flaen y Barnŵr:
Rhag rhwymo ei draed a'i ddwylo, A'i daflu i gael i † 1.2699 frwylio: O eisie gwneuthur iawn mewn pryd, Ni's tynn y bŷd oddiyno.
* 1.2700Fe wydde Dafydd frenin, Pan darfu am ei blentyn, Mae ofer oedd gweddio mwy, Dros hwnnw trwy hîr ganlyn:
I ddangos hyn mor ofer, I ûn rhyw ddŷn i arfer Gweddi, gwedi marw 'r ffrynd, Yn ôl i fynd i 'smwythder.
Am hyn nid oes gweddio, Dros fftynd yn ôl departo, Y mae 'n credu fynd yn noeth, I uffern boeth i darrio.
Nid oes i nêb ond dau-le, I fyned gwedi ange, Nêf ac uffern, medd gair Duw, Tân pûr nid yw ond chwedle.
Nid rhaid i nêb weddio, Dros ûn â ir nêf i drigo: * 1.2701Os yn uffern y gwna ei nŷth, Ni ddaw ê bŷth oddiyno.
Nid oedd ond gweithred ofer, A wnaeth i'r ffeiriaid arfer Gweddi dros y marw mûd, I dwyllo 'r bŷd dibryder.

Page 475

Nid ydyw 'r ffeiriaid gore, Yn godde 'r fâth weddie, Ni's gwna ond rhyw ffeiredyn ffôl Sy'n serchi 'n ôl y ddimme.
Mae dyled ar bôb ffeiriad, Roi diolch am 'madawiad, Pôb dŷn duwiol yn † 1.2702 ddiddoi, Mewn gobaith o'i gyfodiad.
Ond am weddio drostyn, Yn ôl eu clâdd a'u terfyn, Peth di-lês, gwarddedig yw, Ni's gwna ond rhyw oferddyn.
Wel dymma i chwi Atteb,* 1.2703 O'ch cwestiwn mewn ffyddlondeb: Duw ro cynnydd ar eich ffydd, A grâs yn brûdd i'ch hwyneb.

Cyngor Mr. Prichard iw Fâb.

SAmi bach er cariad Duw, Cofia bŷth tra fyddech byw, Foli Christ ar ben dy linie, * 1.2704Trech om golwg oddi gartre.
Galw 'n brûdd o ddyfnder calon, Ar dy Dâd a'th Brynwr tirion, Am d'amddiffyn nôs a bore, Rhag pôb drwg trech oddi gartre.
Plŷg dy ddoi-lin, côd dy ddwylo, Dal yn grâff dy lygaid arno: Cais ei rym, a'i râs, a'i ore, Ym mhôb dim trech oddi gartre.

Page 476

Felly ceidw Duw di 'n wastod, Rhag pôb niwed, a drwg anffod; Ac ni edy ddim yn eisie, Ar Sam bach tro oddi gartre.
Cria ar Dduw am help i ddysgu Nabod Christ, a'i wîr wasnaethu, Trech yn blentyn yn dy foethe; Dymma'th swydd trech oddi gartre.
Arfer ofni Duw a'i ganlyn, Yn dy ieungctid trech yn blentyn; Felly byddi * 1.2705 siwr mewn gradde, Foli Duw yn hên-wr gartre.
Dôs yn llawen at dy Lyfur, Dysc yn * 1.2706 glicc, ac na fydd segur: Nid wi 'n gwardd er hyn id weithie, Chware peth trech oddi gartre.
Cyn bech segur taro 'r delyn, Cân fy psalme sy'n ei chanlyn; Fe fydd hynny * 1.2707 ddifyr weithie, I Sam bach, tro oddi gartre.
Cân fel cricced ar bôb cam, Gwachel wylo am dy fam: Duw fydd Mam a Thâd o'r gore I Sam bach tro oddi gratre.
Duw ro'i râs â'i fendith itti, Duw 'th gyfrwyddo iw addoli; Duw fo ceidwad nôs a bore Ar Sam bach tro oddi gartre.

Page 477

Cyngor Arall iw fâb.

Côd y bore ar y wawr-ddydd, Am y cynta a'r ychedydd, Hynny 'th helpa i gael hîr iechyd, Dysc a dawn, a chyfoeth hefyd.
Gwisc yn * 1.2708 esgud dy holl ddillad, Dôd y rhain yn gryno am danad; Nâd fod bwttwn heb ei gayed, Cyn y caffo neb dy weled.
Golch dy wyneb, crib dy ben, A'th gwff yn lân, a'th fond yn wen, A'th drwssiad oll yn dra threfnus: O flaen Duw mae hynny 'n weddns.
Gwedi ymdrwssio Dos i'th weddi, Yn ddiaros, gwagel oedi, Cwymp o flaen Duw ar dy linie, Cyn y gwlychech di dy ene.
Pan y delech o flaen Duw, Meddwl Sam mai Brenin yw, O flaen pwy mae 'r holl Angelion Yn ymostwng mewn mawr * 1.2709 ofon.
Dere dithe ar dy ddoilin, Sami bach o flaen dy Frenin: Ac na chytcam wrtho yngan, Heb anrhydedd, parch ac ofan.
Ar dy linie côd d'olygon,* 1.2710 Ac dy nefol Dâd yn eon: Ac nac ofna ofyn iddo Bôb peth ag sydd raid it wrtho.

Page 478

Er bôd Duw yn Frenin grymmus, Holl-alluog, anrhydeddus, Etto er hyn mae Christ yn dwedyd, * 1.2711Fôd Duw mawr yn Dâd id hefyd.
* 1.2712Galw dithe ar dy dâd, Am roi itti ddawn a rhâd: Ac ni phall e ond ei geisio * 1.2713Ddim ag y fo rhaid id wrtho.
Or bydd arnat ddim ar wâll, Cais yn daer, ac na fyn bâll; * 1.2714Hôff gan Dduw y dyn y geisio, Yn daer, bôb awr gymmorth gantho.
Cais ei gymmorth ac fe ddyry. * 1.2715Galw arno ac fe'th wrendy: Rho di yndo dy ymddiried, Ac fe 'th geidw rhag pôh niwed.
* 1.2716Cofia Dduw fe 'th gofia dit••••, Ac ni edy arnat eisie: * 1.2717Ei wasnaethwyr fe'u gwasnaetha, Ai ddirmygwyr fe'u dirmyga.
Os gwasnaethu Dduw yn wastad, Fe gymmer cymmaint * 1.2718 garcc am danad, A phyt fae ef heb vn plentyn, Ond tydi i garccu drostyn.
Meddwl dithe Sami bach, Yn gefnog, p'un ai claf ai iach, Am wasnaethu Duw bôb amser, Ddydd a nôs wrth * 1.2719 gwrs ac arfer.
Os arferu nawr yn blentyn 'Snaethu Duw yn brudd a'i ganlyn, Yn ŵr hên ni elli beido, * 1.2720Lai na'i wsnaethu byth tra ganto.

Page 479

Duw ro itti rym a gras, I fôd iddo bŷth yn wâs, Nes y caffech yn y diwedd Yn y nefoedd fôd yn Tifedd.

Gweddi Samuel Prichard.

A Rglwydd Rhoddwr pôb daioni,* 1.2721 Brenin nêf a Thâd goleuni, Gwêl a gwrando weddi egwan Blentyn bach o ddeng mlwydd oedran.
Rwi fi 'n dwad ar fy nau-lin, O'th flaen di fy ngrasol Frenin, I * 1.2722 fegian arch ar dy ddwylo, Er mwyn Christ na phall im honno.
Di orchmynnaist immi ofyn, Di addewaist rhoi ond † 1.2723 canlyn: Canlyn rwi, na phâll immi, O'r vn arch ag wyfi 'n erchi.
Solomon gynt y Brenin hyfryd* 1.2724 Geisie vn arch, Doethineb genyd; Ac di roddaist ei arch iddo, A llawer mwy nag oedd e'n geisio.
Jacob ynte geisiodd genyd* 1.2725 Fwyd a dillad nes dychwelyd: Ac di roddaist hynny iddo, A llawer mwy nag oedd e'n geisio.
Minne sydd yn dwad attad, Ar fy nau-lin anwyl Geidwad, 'Geisio genyd arch trwy weddi, Er mwyn Christ na phall hi immi.

Page 480

Nid wi 'n ceisio golud bydol, Vchel fraint, na * 1.2726 phleser cnawdol; Ond yn vnig grâs a gallu, Bŷth fel Christion i'th wasnaethu.
Doro râs a grym i minne, Nawr yn blentyn gwympo i ddechre, Dy wasnaethu mewn gwîr grefydd, A'i arferu yn dragywydd.
Nâd im dreulio dyddie 'm ieungctid, Mewn oferedd, * 1.2727 rhwyf, a rhydd-did; Ond pâr immi yn fy nghryfdwr, Dy addoli fy 'nghreawdwr.
* 1.2728Agor dryssor dy ddaioni, Doro râs a deall immi, Yn ddyn bâch dy wir gydnabod, Megis Daniel gynt a'i * 1.2729 gyfod.
Jeremi y Prophwyd ynte, Yn fâb bâch yth wîr addole: Doro râs fel Jerem immi, Yn fâb bâch ith wir addoli.
* 1.2730Rwi'n fy offrwm i'th wasnaethu, Yn fy ieungctid yn ddihiraethu: Arglwydd grasol derbyn finne, I'th wasnaethu yn ddiamme.
Di dderbynaist Samuel gynta, I'th wasnaethu ar y ianga, Pan yr oedd ef yn ei shiacced, * 1.2731Yn fâb bach yn dechre cerdded:
Derbyn finne Arglwydd grasol, I'th wasnaethu mor natturiol; Ac eglura dy hun immi, Fel y gallwi 'n fach d' addoli.

Page 481

O * 1.2732 ffwrneisia fi 'n ddigonol, A phôb dawn fy'n anghenrheidiol, Immi gaffael bôd yn enwog, Yn wâs itti 'r holl-alluog.
Agor llygaid fy ngwybodaeth,* 1.2733 Rho im râs a deall helaeth, Fel ystyriwyf yn dra pherffaith, Bethau dirgel yn dy gyfraith.
Nynn fy nghalon â gwreichionen, O'th wir râs tra fyddwi 'n fachgen, Fel y lloscoi byth yn wresog, Yn dwyn * 1.2734 zêl ir holl-alluog.
Cwrdd â'm calon â marworyn, Oddi-ar d'allor tra fwi 'n Blentyn, Fel y gallwi draethu 'n ole Dy fawr glôd tro chwyth im gene.
Rho im * 1.2735 bwer i ddeallu Dy wîr air, a'i iawn ddosbarthu, Fel y gallwi iawn ystyried, Beth sydd dda ar lês fy enaid.
Gwna fi bŷth yn * 1.2736 batrwn duwiol, Yn f'ymddygiad i'th holl bobol, Gan fyw'n sanctaidd, yn fy muchedd, Ym mhôb † 1.2737 pwynt o'm dechre im diwedd.
Dymma f'arch, a dymma * 1.2738 nghanlyn, Dymma 'r rhoddiad wi 'n ei ofyn: Er mwyn Christ na phall hi immi, Râs yn Blentyn i'th addoli.
Nâd im dreulio dim om hamser, O hyn allan bŷth yn ofer: Ond pâr immi dreulio 'n wastad, 'Nghylch y peth y berthyn attad.

Page 482

Tywallt fendith ar fy 'nrhafel, Pâr im ddysgu yn ddiogel; Rho im gymmorth i ddeallu, Ac i gofio 'r peth wi'n ddysgu.
Tanna droswi d'adain rasol, Cûdd fi deni yn wastadol, Nâd vn gelyn wneuthur niwed, Mewn vn môdd im corph na'm hened.
Cadw fi rhag cwrp a thramgwydd, Cwilydd, colled, anap, aflwydd, Nychdod, niwed, a'r fâth hynny, O'r bydd d'wllys yn cennadu.
* 1.2739Bid dy Lygaid im diwallu, Bid d' Angelion im castellu, Bid dy yspryd im cyfrwyddo, Bid dy râs im cynnorthwyo.
Clôd i ti, a Grâs i minne, Mawl im Brenin nôs a bore, Gwîr ogoniant yn dragywydd Y fo im Harglwydd am Achubydd. Amen

Cyngor Arall Mr. Prichard (medd rhai) iw fâb.

NA * 1.2740 phampra 'r corph i Lâdd yr enaid, Na ddigia Dduw i † 1.2741 blessio diawlaid: Na werth y nêf i brynu daiar: Na phecha mwy rhag bôd 'n tifar.
Be caet beunydd fwytta Manna, Ar felus-fwyd lanw 'th fola; Beth dâl itti yn ôl hynny, A mynd i vffern i new ynu?

Page 483

Be caet yfed gwîn yn ddiod, Gwisco * 1.2742 porphor ffein yn wastod, Rhoi dy droed ar warr Brenhinoedd, Beth wyt nes o colli 'r nefoedd?
Be baet berchen aur yr India, Da 'r holl fŷd a'r tiroedd tecca: Beth y dâl it hyn o wagedd? A cholli d'enaid yn y diwedd.* 1.2743
Be caet orwedd gydâ † 1.2744 Fenus, Pleffio 'th gorph o'r * 1.2745 ffeina gerddwys: Beth yw d' ennill am dy drafel? A mynd d' enaid gan y cythrael.
Be caet bawb i ffysto 'th gefen, Plant y bŷd i'th sirio 'n llawen: Beth y dal ir rhain dy † 1.2746 fflattro? A Duw wrthyt wedi digio.
Gwell gwasnaethu Duw na'r byd, Gwell ffrwyno 'r corph nâ'th ddamnio 'gyd, Gwell trafel byrr nâ phoen tragwyddol, Gwell Bara â dwr nâ gwlêdd vffernol.
Gwasnaetha Grist, rhyfela â'r cythrel, Di gae 'r † 1.2747 Goron am dy drafel: * 1.2748Cospa 'r cnawd i gadw d'enaid Di gei ran o'r wledd fendigaid.

Achwyn Mr. Prichard ynghylch Tre Llan∣ddyfri, a'i Rybydd a'i gyngor ef iddi.

MEne tecel Tre Llanddyfri, Pwysodd Duw di yn dy frynti: Ni châs ynod ond y Sorod, Gwachel weithian rhag y Drindod.

Page 484

Gwialen dôst sydd barod itti, Er ys dyddie am dy frynti; A'th anwiredd sy 'n cynyddu, Gwachel weithian gael dy faeddu.
Hîr y herys Duw heb daro: Llwyr y dial pan y delo: Am yr echwyn a'r hîr scori, Och! fe dâl ar vn-waith itti.
Mae 'n rhoi amser itti wella, Mae 'n rhoi rhybydd o'r helaetha: Cymmer rybydd tra fo 'r amser, † 1.2749Onid ê fe brŷn dy grwpper.
Pa hwya mae Duw 'n aros wrthyd, Am ddifeirwch, a gwell fywyd, Waeth waeth, waeth waeth yw dy fuchedd, Ond gwae di pan ddel y diwedd.
Lle bo Duw yn hîr yn oedi, Heb roi dial am ddrygioni, Trwmma oll y fydd y Drindod, Pan y dêl i ddial pechod.
Gwachel dithe ddial Duw, Fe ddaw ar frys er llaesed yw; A'i draed o wlân, a'i ddwrn o blwm, Lle delo 'n llaês fe dery 'n drwm.
Tebig ydwyt i Gomorra, Sodom boeth, a thre Samaria, Rhai na fynnent wella hyd farw, Nes eu troi yn llwch a llydw.
Tebig ydwyt ti i Pharao, Oedd â'i galon gwedi sero, 'Rhwn na fynne wella ei fuchedd, Nes i † 1.2750 blago yn y diwedd.

Page 485

Cefaist rybydd lawer pryd, Nid yw cyngor * 1.2751 'moethyn îd, Nid oes lun it wneuthur esgus, O! gwae di y dre anhappus.
Bore codais gydâ 'r ceiliog, Hîr ddilynais byth yn d'annog, Droi at Dduw oddiwrth dy frynti, Ond nid oedd ond ofer immi.
Cenais itti 'r vdcorn aethlyd, O farn Duw a'i lîd anhyfryd, th ddihuno, o drwm gwsc pechod, Hwrnu er hyn wyt ti yn wastod.
Minne'th * 1.2752 Lithiais â disigil, Addewidion yr Efengyl; Yn fwyn i'th wawdd i edifeirwch, Ond ni chefais ond y tristwch.
Mi'th fygwthais dithe â'r gyfraith, A dialau Duw ar vn-waith, Geisio ffrwyno d'ên rhag pechu, from a ffôl wyt ti er hynny.
Cenais bibe, ond ni ddawnsiaist, ôst gwynfannais, nid alaraist:* 1.2753 Ceisiais trwy dêg, a thrwy Hagar, Ni chawn genid ond y gwatwar.
Beth a alla'i wneuthur weithian, Ond i thynnu i ochor ceulan, 〈◊〉〈◊〉 wylo 'r deigrau gwaed pe gallwn, Weld dy arwain tu ar * 1.2754 dwngiwn.
wy na wyle weled Satan, n dy dynnu wrth ede Sidan, 〈◊〉〈◊〉 bwll vffern yn dragwyddol, 'r bâch, a'r † 1.2755 bait o blesser cnawdol.

Page 486

Esau werthe ei difeddiaeth, Am Phiolaid gawl ysowaeth: Dithe werthaist deyrnas nefoedd, Am gawl brâg, do, do, om hanfodd.
Dymma 'r peth sy 'n torri 'nghalon, Wrth dy weld di nawr mor † 1.2756 ffinnion, Orfod * 1.2757 prwfo hyn yn d'erbyn, Ddydd y farn, heb gelu gronyn.
Tôst yw gorfod ar y Tâd, Ddydd y farn heb ddim o'r gwâd, Destiolaethu o lêd 'Safan, Yn erbyn brynti blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw, Oni wellhau 'maes o law: Er mwyn Christ gan hynny gwella, Rhag i ddial Duw dy ddala.
Gwisca lenn, a sâch am danad, * 1.2758Wyla nes bo'th welu 'n nofiad: Ac na fwytta fwyd na diod, Nes cael pardwn am dy bechod.
* 1.2759Cûr dy ddwy-fron, tynn dy wallt, Wyla 'r deigre dwr, yn hallt: Cria 'n ddyfal iawn, * 1.2760 Peccavi, Arglwydd madde 'meiau immi.
Bwrw ymmaith dy ddiffeithdra, Twyll, a ffalstedd, a phutteindra: Gâd dy fedd-dod, clâdd dy frynti, * 1.2761Mae Duw 'n gweld dy holl ddrygioni.
Mae dy farn wrth ede wenn, Yn crogi beunydd vwch dy benn; Mae dy blant a phôb ei reffin, Yn ei thynnu ar dy * 1.2762 gobin.

Page 487

Gwachel bellach, dal dy law, Dial Duw fel bollt y ddaw,* 1.2763 Rhoi it rybydd prûdd sydd raid, Oni chymri rybydd, paid.

Achwyn Eglwyswr.

DUw gwêl drwmmed yw fy nghalon, Weled faint pengledrwydd dynion, Cais eu harwain tua 'r nefodd, Hwyntau ânt ir tân heb ddiffodd.
Golchi 'r * 1.2764 Moyrys dû trwy Sebon, Troi 'r Iorddonen i ben Hermon, Yw cynghori 'r dŷn pengaled, 'Ofni Duw a † 1.2765 charccu enaid.
Cais trwy deg, a chais trwy hagar, Ofer canu ir neidir fyddar: Trinia fynnech ar bren pwdwr, Bŷth ni ry 'ti ffrwyth na swccwr.
Dysc a dangos, gwawdd, ymhwedd, Mâb y fall, ni wella o'i fuchedd: Llâdd â'r gyfraith, gwawdd â'r fengyl, Ni thry attad ond ei wegil.
Gollwng arno 'r holl Brophwydi, A'r Postolion iw gynghori; Nid gwaeth ffysto pen wrth bentau, Ni wna ond y fynno ei hunan.
Gwae fy nghalon drom gan hynny, Na buasse Duw 'n gwllyssu, Fy rhoi 'n fugail ar dda gwylltion, Cyn rhoi im * 1.2766 shiars y cyfryw ddynion.

Page 488

Y corr y dynn y gwenwyn lindys, O'r blodeuyn goreu ei * 1.2767 relys: A'r dŷn drwg a dynn ryw accan, O bûr eiriau Duw ei hunan.
Waith i Grist ein prynwr tirion, Golli drossom waed ei galon, * 1.2768Ai roi 'n bridwerth dros ein pechod, Fe fynn llawer bechu 'n wastod.
Waith bôd Noe, a Lot yn feddw, Waith bôd Jonas hên yn chwerwr; Fe fyn llawer * 1.2769 droedo ei beiau, Heb ddilyn vn o'i holl rinweddau.
Pôb gwâs gwŷch y nawr y feder, Dyngu a rhegu gydâ Pheder: * 1.2770Pam na welai neb yn medru, Gydâ Pheder edifaru?
† 1.2771Swrn sy'n dilyn Dafydd Brophwyd, Mewn godineb, lle gwradwyddwyd: Ond ni welai neb yn dilyn, Edifeirwch Dafydd frenin.
Vn y ddywaid mi * 1.2772 Repenta, Fy meiau gyd y flwyddyn nessa; * 1.2773Beth medd Christ, o'r daiff dy enaid, Heno nessà gan gythreiliaid?
Llall y ddywaid, helwn heddu, Ni wellhawn ein beiau foru; Heno lladd y gŵr yn feddw, Duw † 1.2774 ble 'r aeth 'difeirwch hwnnw.
Yn ôl hwn y dwed y trydydd, Byt fae fy mai yn fwy nâ'r mynydd, Mae Duw mawr yn swy Drugaredd; Mi gâf bardwn ar fy niwedd.

Page 489

Felly waith bôd Duw yn rassol, Ac yn dirion ir 'difeiriol, Llawer dŷn sy'n pechu 'n Sceler, Heb wneuthur pris o'i gyfiawnder.
Er bôd Duw yn llawn trugaredd,* 1.2775 Yn hwyr ei lîd, yn dda ei ammynedd: Etto er hyn mae Christ yn dwedyd, Fôd Duw mawr yn gyfiawn hefyd.
Duw sydd rassol, Duw sydd gyfion, Duw sydd fwyn, a Duw sydd ddigllon:* 1.2776 Duw sydd ddôf, a Duw sydd danllyd, Duw sydd hael, a chynnil hefyd.
Mae ê'n madde 'r mîl talentau, Etto 'n pallu 'r hatling withiau:* 1.2777 Mae 'n rhoi 'r nêf yn rhwydd i ryw-vn, Etto ir llall yn pallu 'r † 1.2778 droppyn.
Ir rhai ffyddlon edifeiriol,* 1.2779 Mae Duw 'n ffyddlon ac yn rassol; Ond ir † 1.2780 stwbwrn, câs, gwrthnyssig, Mae Duw 'n greulon, ac yn ffyrnig.
O herwydd hyn 'rwi 'n cynghori, Na ddilyner hîr ddrygioni, Ond i bawb tra fyddont byw, Dreulio eu hoes mewn ofan Duw.

Rhaid glynu wrth Grist heb adel i ddim i'n troi ni oddiwrtho.

OS Tâd, os mam, os mâb, os merch; Os tai, os tîr, os gwraig trwy serch, Y gais dy droi, yn draws neu'n drist, Oddiwrth dy grêd ath serch at Grist:

Page 490

* 1.2781Gâd dâd i droi, gâd fam i wylo, Gâd wraig i scoi, gâd blant i grio, Gâd dai, gâd dîr, gâd faeth, gâd fywyd, Cyn gado Christ, gâd faint sydd gennyd.
* 1.2782Bydd Christ yn dâd, yn fam, yn frawd, Yn graig, yn gaer, yn ffrynd, yn ffawd, Yn gyfoeth mawr, yn lles, yn llwyddiant, Yn bôb peth * 1.2783 cu i bawb ai carant.
Heb Grist, heb grêd, heb faeth, heb fywyd, Heb ddull, heb ddawn, heb nerth, heb iechyd, Heb † 1.2784hôp, heb help, heb râs, heb rym, Heb ddysc, heb dda, heb Dduw, heb ddim.

Gwell Duw nâ dim.

GWell Duw nâ'r nêf, na dim sydd ynddi, Gwell nâ'r ddaer, nâ'r maint sydd arni, * 1.2785Gwell nâ'r bŷd, nâ'i olud in', Gwell, a doi well Duw nâ dim.
* 1.2786Gwell nâ Thâd, nâ mam, nâ mammaeth, Gwell nâ chyfoeth, nâ Thifeddiaeth, Gwell nâ Mari, gwell nâ Martha, Gwell nâ dim, yw Duw gorucha.
* 1.2787Os Duw ddewisaist yn dy ran, Cei Grift i'th gynnal ym-mhôb mann, Cei 'r Saint i'th gylch, cei 'r bŷd i'th beri, Cei 'r nêf ith ran, cei 'r fall ith ofni.
Di ddewisaist y rhan benna, Pan ddewisaist Dduw gorucha, * 1.2788Rhan na ddygir bŷth odd'arnad, Tra parhaffo 'r haul a'r lleuad.

Page 491

Pan duo 'r haul, pan gwrido 'r lleuad,* 1.2789 Pan syrthio 'r sêr, pan ofno bagad, Pan llosco 'n boeth y bŷd a'i bwer, Bydd dy ran di yn ddibryder.
Cŵyn dy galon, na fydd wann, Cadw d'afel ar dy ran: Di ddewisaist y rhan ore, Gwachel newid hyd at Ange.

Ymholiad beunyddiol o waith y duwiol a'r parchedig weinidog i Ghrist Jaco Usher, Arch-escob Armach yn Iwerddon.

Ofnwch ac na phechwch, ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

Psal. 4.4.

Amryw resymmau, i ddangos fôd yn dra∣anghenraid, i bawb ymholi eu hunain beunydd.

1. YN gyntaf, O herwydd bôd briwiau newydd yn hawdd i hiachau, ac nid oes dim yn llygru yn gynt, ac yn fwy enbyd a ffiaidd nâ phechod: Pan darawyd calon Dafydd yn ebrwydd am dorri ymyl gwisc Saul, ni chlywodd efe mwy oddiwrth y peth: Ond y bechod hwnnw gydâ gwraig Urias (yn yr hwn y gorweddodd efe cŷd) a ddrylliodd ei escyrn ef, fel y mae yn amlwg yn

Page 492

ei weddi ef, Psal. 51.8. Pâr i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylli∣aist.

2. Yn ail, yr wyt yn cryf-hau dy gôf wrth hyn∣ny (fy enaid:) oblegid os mewn cyfri o ûn diwrnod yr anghofir llawer o bechodau, pa faint a anghofir, os oedir y peth tros lawer o ddyddiau?

3. Yn drydydd, gwedi rhannu pechod yn ddry∣lliau fel hyn, fe ellir i drin ef yn hawdd, megis pren mawr gwedi i dorri yn ddarnau neu i hollti yn yscyrrion mân.

4. Yn bedwerydd, wrth wneuthur hyn (o fy enaid) yr wyt ti yn achub y blaen ar achwyniaeth Satan, cyhuddwr y Brodyr, yr hwn yn ddiam∣mau sydd yn craffu yn ddiball ar dy drosseddau beunydd: Pa gyssur it † 1.2790 ymerfyn, a chael madde∣uant, cyn gallu o honaw ef ddwyn achwyniaeth ith erbyn?

5. Yn bummed, (O fy enaid) yr wyt ti beun∣ydd, yn edrych am bôb peth arall sydd eiddot, megis dy dŷ, dy dîr, dy anifeiliaid, dy ddillad, a pha beth bynnag sydd gennit a ddichon * 1.2791ammharu, neu wellhau beunydd: O! pa gwilydd it (fy enaid) dy fôd ti dy hûn mor ddiystyriol, ac mor ddiofalus am danat dy hûn?

6. Yn chweched, ni chenhadwyd i ti einioes ond ir gwaith ymma, pa ddibennion bydol bynnag (heb law hynny) yr wyt ti yn i osod i ti dy hûn; ac ni wyddost os esceulusu yr odfa yma, pa un a wneir ai caniadhau i ti ddim mwy amser ond hyn∣ny. Dat. 2.21. Ac mi a roddais iddi amser i edi∣farhau am ei godineb, ac nid edifarhaodd hi.

7. Yn seithfed, os cyflowni hyn yn ddiwyd, ac yn ddyfal bôb nôs a boreu, ni bydd i ti (o fy enaid)

Page 493

ond ûn dydd i atteb am y cwbl oll, wrth dy 'ma∣dawiad o'r byd yma; a pha esmwythder calon, a thawelwch cydwybod fydd hynny i ddŷn ar ei * 1.2792 drangc?

Fe fydd llai i ti i wneuthid y foru, os gwnei di y goreu o'r dydd heddyw.

Pan ddarffo i'r rhain neu 'r cyffelib ystyriaethau weithio arnat, a rhoi goleuni i ti ynghylch angen∣rheidiaeth yr ymholiad beunyddiol hyn, a chyn∣nhyrfu dy galon ag awyddchwant ir peth: Dôs ymlaen yn ôl y rheol yma neu'r cyffelib.

  • Ymhola
    • ...Dy feddyliau,
    • ...Dy eiriau,
    • ...Dy weithredoedd.
  • Ar fyr wrth y tri gair hyn.
    • ...Yn sobr.
    • ...Yn gyfiawn.
    • ...Yn dduwiol.

Tit. 2.12. Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb, a chawntau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; (Neu yn helaeth∣ach wrth y dêg gorchymmyn) Fel hyn. O fy enaid a fu'm i heddyw.

  • a. Yn Sobr yn fy
    • ...Meddyliau.
    • ...Ngeiriau.
    • ...Ngweithredoedd.
  • b. Yn Gyfiawn yn fy
    • ...Meddyliau.
    • ...Ngeiriau.
    • ...Ngweithredoedd.
  • c. Yn Dduwiol yn fy
    • ...Meddyliau.
    • ...Ngeiriau.
    • ...Ngweithredoedd.
Aros ar bôb un o 'rhain yn bennodol, ac yn ystyr∣riol, a choffa yr holl leoedd, y cyfeillion, ar neges∣sau☜ yn y rhai y treiliaist dy amser y dydd hwn.

    Page 494

    • Yn enwedig ymhola
      • ...Dy feddyliau pan oeddit wrthyt dy hûn.
      • ...Dy eiriau gyd ag eraill.
      • ...Dy weithredoedd ymmhôb un o rhain.
    Ac i eglurhau yr hyn aeth ym-mlaen, gwybydd, mae.

    a. Bôd yn sobr, ydyw yn gyffredin cadw cym∣hwysder gweddol ym-mhob peth, a'n † 1.2793 cymmedro∣li ein hunain yn ddofaidd, ac yn bwyllig yn ein * 1.2794gwyniau, an ‖ 1.2795 hanwydau, bôd yn rhesymmol yn ein chwantau a'n digrifwch, yn dymmherus yn ein bwyd a'n diod, yn weddaidd ac yn ddisyml yn ein dillad, a'n trwsiad, yn rheolus yn ein llawen∣ydd an difyrrwch, yn gall a medrus yn ein ym∣ddiddanion, a'n ymadroddion, ac yn gymmesurol ym mhôb peth a wnelom. Ac am hynny ymhola dy hûn, pa vn a wnaethost ai bod yn sobr▪ yn ol y moddion neillduol hynny, yn dy feddyliau, dy eiriau, dy weithredoedd y dydd hwn: ac os deallu di dy fod felly, dyro ddiolch i Dduw, a gweddia am bar∣hâd diyscog a dianwadal: Ond lle i ceffech y gwrthwyneb cais faddeuant, a cymmer lwyrfryd (neu resolution) yn erbyn hynny rhagllaw.

    Bôd yn gyfiawn ar feddwl, gair, a gweithred, ydyw gwneuthur mor union â phawb ac i bawb, ac i mynnit i eraill wneuthur i tithau, a hynny yn ôl † 1.2796 hyfforddiad, a chynhwysiad yr yscrythyrau; a hynny hefyd † 1.2797 tu a pherson, enaid, corph, enw, a chyflwr pôb dyn; Talu a gwneithur yr hyn sydd ddyledus ar bâwb, yn ôl eu lleoedd, eu gra∣ddau, a'i galwedigaeth, pa ûn bynnag fônt ai uchel∣radd,, iselradd, neu gydradd; ac ymhola dy hûn wrth y cyfarwyddiad hyn, a fuost yn gyfiawn

    Page 495

    y dydd hyn; ac fel y deellech dy fôd, dôs ym∣laen yn ôl y rheol a'r hyfforddiad, sydd yn yr hyspysiad a gefaist ynghylch sobrwydd.

    c. Bod yn Dduwiol ydyw adnabod Duw, ym∣arferu a cheisio chwanegu y gwybodaeth sydd gennit o honaw ef, i gofio ef yn fyfyriol, ymddi∣ried a gobeithio ynddo, bôd gennym gariad, zêl ac awyddfryd ysprydol tu ag atto, ymlawenhau yntho, bod yn ddiolchgar ac yn vfydd iddo, bod yn ddioddefgar, ac yn ddarostyngedig tan ei alluog law ef, i ofni ef, ai addoli, ai anrhydeddu yn faw∣rygus, bod yn ddrwg gennym ddarfod i ni i anfod∣loni, ai ddigio ef, i wasnaethu ef yn gywir ac yn ffyddlon, gweddio arno ef yn ddefosionol, darllen a gwrando ei air ef, a hynny yn ddiwyd ac yn ofa∣lus, sancteiddio ei enw ef yn * 1.2798 ddifrifol, a'i ogone∣ddu ym-mhôb peth i gwneir ef yn gydnabyddus i ni; ymhola dy hûn, pa ûn a ddarfu i ti ai gwneu∣thur yn ôl, neu yn erbyn yr agweddau penno∣dol hynny, ac yno dos rhagot megis yn ôl y cyfar∣wyddyd or blaen.

    Yn enwedig, ac yn fwy hyspyssol fe orfydd i ti (o fy enaid) chwilio yn ddyfal, nes cael gwybodaeth siccr o'th bechod meistrolus, er mwyn pa ûn yr wyt yn gwneuthur y rhan fwya oth bechodau eraill; Megis os Cybydd-dod fydd dy bechod meistrolus, dy bechodau eraill fyddant megis llaw forwynion iddo, oblegid odid o bechod nas gwnei er mwyn☜ cyflawni dy drachwant ir pechod hwnnw: Ti a ddianrhydeddu Dduw, ti a dyngu, ti a halogi ddydd yr Arglwydd, ti a fyddi yn anufydd ir blaenoriaid, a'r swyddogion awdurdodawl, ti a leddi, ti a wnei odineb, ti a ledretti, ti a dyngu anudon gan ddwyn cam dystiolaeth, ar cwbwl i

    Page 496

    borthi a rhyngu bôdd dy gybydd-dod. Ac yn yr vn môdd y bydd, os balchder, neu rhyw bechod arall sydd yn meistroli, ac yn dwyn rhwysc ac yn lly∣wodraethu arnat.

    Ac os mynni di ei adnabod.

    • Hwnnw yw
      • 1. Yn gyntaf, ynghylch yr hwn, ac ar yr hwn y mae dy feddwl yn osodedig yn fyny∣chaf: Ac fel yr oedd Dafydd pan ddeffroei gydâ Duw, felly y byddi dithau gydâ 'th bechod anwyl rheolus.
      • 2. Yn ail, Ni elli ddioddef cyffwrdd ag ef, na thrwy dy ymholiad dy hun, nac argyhoe∣ddiad rhai eraill.

    Pan gaffech wybodaeth siccr o'r pechod hwn∣nw, sydd yn dwyn y fâth rwysc a llywodraeth ynot, ac megis yn llysco dy bechodau eraill ar ei ôl, Dôs at yr Arglwydd ag ochneidiau trymmion, ac erfyniadau difrifol, a gweddiau gan ddywe∣dyd,

    O fy Nuw trugarog, a thirion, dyro i mi râs i wîr dristhau, a bôd yn drwm alarus am yr hyn a aeth heibio, ac i ymroi yn ebrwydd mewn llwyrfwriad crŷf, a llownfryd yn ei erbyn: Ac am yr amser sydd yn dyfod, i wneuthur fyngore ym-mhob moddi∣on na chaffo 'r gelyn penna ymma i'm henaid moi groesafu gydâ mi mwy. A phan ddatcuddier i ti dy bechodau a wnaethost y dydd hwnnw, y mae yn rhaid i ti gael gwybodaeth toimladwy o'i gorthrymderau ai ffieidd-dra hwynt, rhag i ti fyned heibio iddynt yn rhy yscasn ac heb graffsyn∣nied arnynt; ac am hynny fe orfydd i ti i barnu hwynt drwy † 1.2799 ddwys ystyried y rhesymmau

    Page 497

    sydd yn canlyn, gan ddywedyd wrth dy enaid. Yn gyntaf, (O fy enaid) fe ddarfu i ti drwy aml ac amryw bechodau y dydd hwn, ymadel ac ymwrthod a Duw, yr hwn a ddylesit i ymlynu wrtho yn gyfangwbwl, o herwydd i fod ef yn odidawg rha∣gorol, ac yn hawddgar ynddo ei hun, ac yn dra∣haelionus tu ag attat titheu.

    2. Yn ail, Ti ai gwrthodaist ef am bethau diystyr, gwael a dibris, sef am dippin o elw, fel Judas, neu ddigrifwch bychan, fel Esau, ac yr wyt yn beio arnynt hwy megis rhai drygionus am y peth a wnaethont hwy; ac a dybygi di yn well na hyn∣ny☜ o honot dy hun, a thitheu yn gwneuthur y cyffelyb. O fy enaid, ti a ymadewaist ac a ym∣wrthodaist a Duw am bethau darfodedig, a phe baent yn parhâu ni allent na 'th fodloni, na 'th achub rhag angeu, na barnedigaeth; a pha leia oedd yr annogaeth at y petheu hynny, mwya oll oedd dy fai, a'th gamwedd; yn enwedig os tyngaist, yr hwn sydd yn bechod y mae dynion yn ei wneu∣thur yn rhâd ac yn fynychaf. Barn y rhain a ellir i weled, Psal. 25.2, 3. O fy Nuw, ynot ti 'r ymddi∣riedais, nam gwradwydder: Gwradwydder y rhai a drosseddant heb achos.

    3. Yn drydydd, Ti a droseddaist yn erbyn gor∣thymyn dy Dduw grasusol, (o fy enaid) ac y mae ef megis yn dywedyd wrthyt, fel y dywedodd wrth Adda, a fwyttaist di o'r pren y gorchymynaswn i ti na fwytteit o honaw? A ddarfu i ti feddwl, neu ddywedyd, neu wneuthur y dydd hwn y peth a waherddais i ti?

    4. Yn bedwerydd, O fy enaid, ni ddarfu i ti droseddu yn erbyn ei sanctaidd orchymyn ef yn unig, ond hefyd er rhoddi o honof it gymorth i gadw ei

    Page 498

    orchymyn; fe roddodd Duw ei râs i ti, ac ni ddarfu i ti i drin fel i dylesit, y mae ychydig râs yn fawr ei nerth a'i rhinwedd, a thi a allesit wrth hynny gadw gair Duw. Dat. 3.8. Mi a adwaen dy weith∣redoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennit ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Ond fe ddarfu i ti (fy enaid) dderbyn grâs Duw yn ofer.

    Pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid, 1 Cor. 11.31.

    Gwedi darfod i ti gael gwybodaeth o † 1.2800 echrys∣der dy bechod, a'th fod felly yn wir euog o ho∣naw. Beth sydd yn anghenrhaid i ti (o fy enaid) ond dy euog-farnu dy hûn, a dywedyd (o fy e∣naid) pa fodd y gall fod na wrthodo Duw di hefyd, a chymeryd ymaith ei yspryd, ei radau, ai Angelion oddiwrthit, a'th adel di heb gyfarwydydd ac amddi∣ffynnwr, ir Cythrael, a'r byd, a'r cnawd ith ymlid. Ystyria bellach pa un a wnei di ai gallel cyscu yn ddio∣fal yn y fâth gyflwr; O gan hynny! rhag i ddialedd dy orddiwes, ac er mwyn cael ennill drachefn y rhan oedd gennit o'r blaen yn Nuw, cyrch atto ef * 1.2801yn gyflym, ac yn ddifrif yn y weddi ymma neu 'r cyffelyb: O Arglwydd bendigedig, fe ddarfu i mi y dydd hwn yn fynych drwy anghymedroldeb, anghyfi∣awnder, ac annuwioldeb ar feddwl, gair, a gweithred dy adel a'th wrthod di (fy Nuw) yngwrthwyneb dy sanctaidd orchymynion; ie yn erbyn cynnorthwyad dy râs iw cadw ai cyflawni, a hyn a wneuthym am be∣thau gwael, a dibris, yn gymmaint a'm bod yr awrhon yn haeddu cael fyngwrthod gennit, a chael fy nifeddi∣annu o'th gyfarwyddyd a'th ymddiffyn, ac i gael fyng∣adel am rhoi i fynu i fod tan ewyllys, a dwylaw gely∣nion

    Page 499

    creulon fy enaid, am corph. Er hynny, O Ar∣glwydd daionus, fe fu wiw gennit o'th rhâdfawr diri∣ondeb tu ag attaf, roddi i mi y moddion i allu chwilio, a chael gweled fynghyflwr, ac ymholi fy hûn ynghylch fy mhechodau, tra i gellir i iachau ai trin, a chyn darfod i gyhyddiad y Cythrael dynnu dy ddialedd ar∣af oi achos, sef tra i gadewir i mi fyw, a thra y par∣atho yr amser cymmeradwy hwn, y dydd iechydwri∣eth hwn: O Arglwydd daionus, cyflawna yr hyn a dechreuaist ynof, dyro i mi edifeirwch calon, a galar iragraith am yr hyn aeth heibio, a bwriad dianwadal 〈◊〉〈◊〉llownfryd i wellau fy muchedd o hyn allan. O gâd i ei gael dy ewyllys da drachefn, fel y gallwyf orphwys n dy gariad. O fy anwyl Dâd, y mae hiraeth arnaf, ês adnewyddu y gymdeithas gariadus oedd i mi gydâ i, cyn im pechodaû i thorri am dieithro oddiwrthit. ydi yr hwn am gwaredaist oddiwrth fy mhechodau, c am tynnaist ir deisyfiadau gostyngedig yma, dwg mlaen y deisyfiadau hynny i berffeithrwydd, ail-ûnha 〈◊〉〈◊〉 chyssullta fi eilwaith â thi dy hun, ac ymfodloner fy ghalon felly âth odidowgrwydd di sydd dra-rhago∣awl, fel na thrachwantwyf mwy am ddifyrrwch, elw, c anrhydedd y byd hwn, cyn belled a cholli o honof y aredigrwydd yr wyf yn ei obeithio y bydd yn wiw gen∣it i ddangos i mi y nos hon. O Arglwydd gwrando, c atteb fy erfynnion am deisyfiadau hyn yn rasusol, a'r wbl oll sydd angenrheidiol, er cariad ein Har∣lwydd, a'n Iachawdwr Iesu Grist.

    AMEN.

    Page 500

    Na rwgnach gymmeryd ychydig boen yn y bywyd a dderfydd yn ddisymmwth, er mwyn cael bywyd a beru byth.

    Ym-mhob peth ymddiddan a'th di dy hun, fe hyn, Ai felly i gwneit, peteit yn gwybod, mae 'r aw hon yw 'r awr ddiweddaf oth einioes?

    S. Bernad
    FINIS.

    Notes

    Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.