Page 214
Gras cyn swpper.
COdwn bawb ein pen a'n * 1.1 ffriw,
At Grist 'rhwn yw 'n † 1.2 profeier,
A chanlynwn arno e'n daer,
Roi fendith âr ein Swpper.
Mae e'n porthi pôb peth byw,
Er maint o'i rhyw a'i nifer,
Ac yn rhoi i'r rhain i gyd,
Eu bwyd mewn prŷd a themper.
Nid yw vn o Adar tô
Yn descyn na bô 'i fwynder,
Yn partoi i hwn ar * 1.3 hast,
Ei ginio, breoffast, swpper.
Pa faint mwy na † 1.4 charcca Duw,
Am ddyn rhwn yw ei * 1.5 bicter,
A rhoi iddo'i raid bob tro,
Ond bwrw arno ei hyder?
Mae e'n rhoddi i ddyn, yn fwyd,
Y grewyd ar ei feder,
Llysse, llafyr, nifail glân,
Pysc, adar mân heb nifer.
Ni wnaeth Duw vn gene 'rioed,
Mewn tir, mewn coed, mewn dyfnder,
Nes partoi ei ymborth tyn
I'r geneu cyn ei ganer.
Llawer rhyw o Nifail glân,
A physcod mân ac ader,
Y rows Duw i borthi dyn,
A'i lladd bob vn cyn bwytter.