Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...

About this Item

Title
Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London :: printed by J. Darby, viz. one third part, and fourth (now first printed) for Samuel Gelibrand, at the Golden-Ball in St. Pauls Church-yard,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at [email protected] for further information or permissions.

Subject terms
Devotional literature -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/a55811.0001.001
Cite this Item
"Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/a55811.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed November 5, 2025.

Pages

Am y Sabboth.

DEffro 'n fore gydâ 'r ceiliog, Ffyst d'adanedd, cân yn serchog Psalm ir Arglwydd yn blygeiniol,* 1.1 Ar bôb Sabboth yn dra suriol.
Gwisc dy ddillad gore am danad, † 1.2Ymsancteiddia cyn dy ddwad, O flaen Duw ir Demel sanctaidd, Hoff gan Dduw ei addoli 'n gruaidd.
Gwedyn dôs â'th dylwyth gennyd, I dŷ Dduw â chalon hyfryd, I addoli Duw 'n y ‖ 1.3 dyrfa, Megis Joseph, Mair, a Josua.
Fe fyn Duw ei addoli 'n barchus, Ar bôb Sabboth yn gyhoeddus, Gydâ 'r dyrfa yn y Demel, Nid yn ddirgel yn y cornel.
Duw ddibennodd ei holl weithred, Ar y dydd o flaen y seithfed, Gorphen dithe bôb gorchwylion, Cyn y Sabboth od wyt gristion.
Ymsancteiddia cyn y Sabboth, Cadw 'n lân dy lester boenoth: Golch dy hun mewn edifeirwch, Ofna Dduw, a chais ei heddwch.

Page 542

Cyn y Sabboth rhaid ymgweirio, A throi pôb bydol-waith heibio, I gael gweithio Gwaith yr Arglwydd, Tra fo'r dydd mewn gwir sancteiddrwydd.
Gorphwys di, a'th dda, a'th ddynion, Oddiwrth bôb rhyw o orchwylion: Ac na weithia ddydd yr Arglwydd, Waith o † 1.4 blesser na bydolrwydd.
Gwerthu * 1.5 livlod, cario beiche, Gweithio 'n galwad, mynd i shiwrne, Pôb ofer-waith plesseredig, Ar y Sabboth sydd warddedig.
Cadw 'r Sabboth oll yn brŷdd, Fore a hwyr, a chennol dydd, Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys, Yn gwasnaethu Duw heb orphwys.
Cymmer fwy o † 1.6 garc trech byw, Weithio 'r Sabboth waith dy Dduw; Nag y gymrech vn dydd amgeu, Ynghylch gweithio bydol bressen.
Ar y Sûl mae mor anghenraid, Geisio Manna 'borthi 'r enaid, Ac yw ceisio ar ddydd marchnad, Fwyd i borthi 'r corphyn anllad.
Côd y bore ar y wawr ddydd, Am y cynta ar vchedydd, I gael treulio dydd yr Arglwydd, Mewn duwioldeb a sancteiddrwydd.
Nid diwrnod i ni gyscu, Nac i dordain yn y gwely: Ond diwrnod iw sancteiddio, Yw 'r dydd Sabboth oll tro ganto.

Page 543

Nid diwrnod itti loetran, Nac i feddwi, nac i fwlian: Ond diwrnod itti weithio, Gwaith dy Dduw yw 'r Sûl tra dalo.
Dydd iw dreulio mewn sancteiddrwydd, Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd: Dydd i ddarllain, a gweddio, Dydd i addoli Duw a'i gofio.
Dydd i orphwys rhag gwaith bydol, Dydd i weithio gwaith sancteiddiol; Ac nid dydd i fôd yn segur, Yw dydd Duw medd geiriau 'r Scrythur.
Er bod Duw yn erchi coffa, Cadw 'r Sabboth yn ddisigla; Nid ym ninnau 'n ceisio cadw, Vn gorchymyn waeth nâ hwnnw▪
O'r holl ddyddie nid oes vn-dydd, Ym ni'n dreulio mor ddigrefydd, Mor anneddfol, mor escymmyn, A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn.
Dydd i feddwi, Dydd i fwlian Dydd i ddawnsio, Dydd i loetran, Dydd i hwrian a gwylhersu, Yw 'r dydd Sabboth gan y Cymru.
Dydd i eiste a * 1.7 dyfalu, Dydd i ymladd ac ymdaeru: Dydd i weithio gwaith y Cythrel Yw dydd Duw mewn llawer cornel.
Y Dydd a ddylem ei sancteiddio, Ym ni fwya yn ei nyrddo, I amherchi 'n prynwr tirion, A dolurio ei gywir weision.

Page 544

Treulia 'r Sabboth oll yn llwyr, Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr: Ac na ddoro † 1.8 bart na chyfran, O ddydd Duw i addoli Satan.
Coffa gadw 'r Sabboth sanctaidd, Duw fyn gadw hwn yn berffaidd; Rhwn a dreulio 'r sûl yn ofer, Ni wna brîs o ddim orchmynner.
Cadw 'r Sabboth ti a'th genel, Yn dy dŷ fel yn dy demel: * 1.9Gwna i'th dylwyth fyw mor gymmwys, Yn dy dŷ fel yn yr Eglwys.
Tri rhyw waith all dŷn arferu, Ar y Sabboth heb drosseddu, Gwaith duwioldeb yn ddiembaid, Gwaith cariadol, Gwaith Anghenrhaid.
Gweithred dduwiol yw trafaelu, I dŷ Dduw i * 1.10 Anrhydeddu. Ac i wrando 'r fengyl hyfryd, Pyt fae 'mhell o ffordd oddiwrthyd.
Gwaith cariadawl ydyw cadw, Dŷn a Nifel rhag eu marw, A rhoi ymborth iddynt ddigon, Ac ymgleddu 'r bobol weinon.
Gwaith anghenrhaid 'rhwn nîs gally, Gynt na chwedyn ei gyflawni, Megis cadw Tŷ rhag llosci, Gwraig wrth escor, Buwch, rhag boddi.
Gwachel ddilyn drwg gyfeillach, Cyfaill drwg sydd wybren afiach, Plâg yn llygru, pyg yn nyrddo, 'R dŷn duwiola a'i dilyno.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.