Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...

About this Item

Title
Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...
Author
Allestree, Richard, 1619-1681.
Publication
London :: Printed for R. Royston ...,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Devotional exercises.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001
Cite this Item
"Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 2, 2024.

Pages

Gweddi tros Ddyn Clâf.

O Arglwydd Trugarog a chyfiawn, Duw'r iechyd a chlefyd, bywyd ac angeu, yr wyf fi yn cydnabod yn ddiffuant, mae fy nir∣fawr gam-arfer i o'r llaweroedd o ddyddiau hynny o iechyd ac hawddfyd a ganniadhéaist, ti i mi a haeddodd yn dra-chyfiawn dy ym∣weliad presennol. Yr wyfi 'n deifyf, O Ar∣glwydd, yn ostyngedig ymfodloni i'r gospedi∣gaeth hon am fynghamwedd, a dwyn cerydd yr Arglwydd yn ammyneddgar, oblegid i mi bechu yn ei erbyn ef. Ac, O Dad Trugarog, yr hwn nid wyt yn amcanu dinistr uo d gwell∣hâad y rhai yr wyt ti yn ei fflangellu, yr wyf fi yn attolwg i ti trwy dy Râs felly

Page 491

Sanctciddio dy gerydd hon i mi fal y bo y Clefyd ymma o'm Corph i yn foddion o iechyd i'm henaid; gwnâ i mi yn ddiwyd chwilio fy nghalon, a chynnorthwya di fi, O Arglwydd, i ddadcuddio pôb rhyw ddiofryd∣beth, er dirgeled y cuddir ef yno, fal trwy ei summudiad ef ymmaith oddi yno, y bo i mi wneuthur lle i summudiad y gospedigaeth hon oddiwrthif. Jachá fy Enaid, O Ar∣glwydd, yr hwn a bechodd i'th erbyn, ac yna os dy ewyllys bendigedig di yw hynny, iachá fy nghorph hefyd; Edfryda lêf gorfoledd ac iechyd i'm presswylfa, modd y gallwyf fyw i'th foliant di, a dwyn ffrwythau addas o Edi∣feirwch. Ond os trefnaist ti yn amgenach yn dy Ddoethineb, ac os rhag-ordeiniaist ti i'r Clefyd hwn i fód i farwolaeth, yr wyfi yn attolwg i ti fy nghymwyso a'm paratoi i i hynny, dód i mi yr Edifeirwch difrifol a diffûant hynny, i ba ûn yr addewaist ti dru∣garedd a maddeuant; diddyfna fy nghalon i oddiwrth y bŷd a'i holl wagedd darfodedig, a gwná i mi hiraethu am y llawenydd mwy godidog a pharháus hynny sydd ar dy dde∣heulaw di yn dragywydd. Arglwydd, der∣chá di lewyrch dy wyneb arnafi, ac yn holl gystuddiau fy nghorph, ac ing fy yspryd, bydded dy Ddiddanwch di i gyssuro fy Enaid, a gwná i mi ddisgwyl yn ammyneddgar hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad. A chaniadhá O Arglwydd, pan ddattodir fy naiarol dŷ o'r Babell hon, fód i mi gael Adeilad Duw, tŷ nid o waith llaw, trgywyddol yn y Nefoedd, a hynny er ei fwyn ef, yr hwn a bwrcasodd hynny i mi sef Jesu Grist Amen.

Page 492

Diolch am gaffaeliad Iechyd.

O Arglwydd grasusol, Duw ysprydion pób Cnawd, yn llaw pa ûn y mae fy amser i, yr wyfi yn dy foliannu ac yn dy fawrygu di, am iti o Gariad i'm henaid fy achub i o by∣dew llygredigaeth, a rhoddi i mi iechyd tra∣chefn; tydi yn unic, O Arglwydd, a gedwaist fy mywyd rhag dinistr, tydi a'm cospaist, ac a'm ceryddaist i, ond ni'm rhoddaist i i fynu i farwolaeth, O bydded i'r bywyd hwn yr hwn a waredaist ti mor rasusol fód yn hollawl wedi ei gyssegru iti. Wele fi ymma, Arglwydd, trwy dy drugaredd gwedi fy iachau, O gwná i mi edrych yn ofalus rhag pechu mwyach, rhag digwydd i mi beth a fo gwaeth. Na âd, Arglwydd, i'r hamdden ymma a ganiadhéaist ti ti i mi yr awrhon fy ngwneuthur i yn esgeu∣lus, gan feddwl fód fy Arglwydd yn oedi ei ddyfodiad, ond caniadhá i mi, yr wyf yn at∣tolwg i ti, wneuthur iawn ddeunydd o'th hîr-ymaros di, a threulio felly bób munudyn o'r amser a roddi di i mi, fal y gallwyf fod mewn hyfder pan ymddangosech di, ac na'm gwradwydder ger dy fron ar dy ddyfodiad. Mi a welais, O Arglwydd wrth y nessáad ymma tu ac at angeu mor echryslon yw ein cymmeryd yn ammharod; O bydded hynny yn rhybudd gwastadol i mi i wilio am ddyfodiad fy Arglwydd. A phan ymddengys mwyniant pechod i'm llithio i, O gwná i mi gofio mor chwerwon fyddant yn y diwedd. Gwrando fi, O Arglwydd, ac megys yn dy anfeidrol dru∣garedd y caniadheaist i mi amser, felly cani∣adhá

Page 493

i mi hefyd râs i weithio allan fy Iechyd∣wraeth, i baratoi olew yn fy llusern, fel pan ddelo'r Priodfáb y gallwyf fyned gydág ef i'r Briodas. Canhiadha hyn, yr wyf' yn attolwg i ti, er mwyn dy anwyl Fáb.

Gweddi ym-mron Angeu.

O Dragywyddol a byth-fywiol Dduw, yr hwn ar y cyntaf a anadlaist anadl bywyd i ddŷn, a phan gymmeri di ymmaith yr anadl hwnnw y mae fe'n trengu ac yn dychwelyd i'w lŵch trachefn, edrych yn dosturiol arna'i dy Grea∣dur truan yr hwn wyf yr awrhon yn nessau at byrth angeu, a pheth sydd anfeidrol yn fwy gerwin, at Orsedd Barn; Y mae fy ngha∣lon fy hun, O Arglwydd, yn fy euog-farnu i, ac yr wyt ti yn anfeidrol yn fwy na'm calon, ac yn gwybod pob peth. Y mae'r pechodau yr wyfi yn ei hadnabod ac yn ei cofio, yn fy llenwi i a dychryn; ond y mae hefyd liaws o rai eraill, y rhai naill ai ni ddeliais i sulw arnynt pan wnaed hwynt, neu a angho∣fiais i gwedi hynny yn ddiofal, y rhai ydynt oll yn bresennol gydá thydi. Yr wyti yn go∣sod fy anwireddau ger dy fron, fy nirgel be∣chodau yn goleuni dy wyneb; ac i ba ben∣twrr mynyddaidd y cyfyd fy mhechodau mu∣nudol tros gynnifer o flynyddoedd? Pa fodd y saif ûn mor annuwiol yn dy farn di, neu'r cy∣fryw bechadur ynghynnulleidfa 'r cyfiawn? Ac i anghwanegu etto at fy nychryn, mae arna'i ofn na oddef fy Edifeirwch i mor profiad; fy mynych ail-gwympiadau i a dystiolaethasant yn helaeth ffûg fy Addunedau o'r blaen. Ac

Page 494

yna, O Arglwydd, beth a all fy siccrhau i nad yw fy nghasineb presennol o'm pechodau yn hyttrach yn tarddu oddiwrth fy enbydrwydd dychrynadwy, nag oddiwrth ûn wir gyfnewi∣diad calon? Ac mi a wn, O Arglwydd, na fynni di moth watwor, ac na dderbyni di ddim ond sydd yn hollawl yn ddiffugiol. Pan ystyrwyf hyn, O Arglwydd, y mae ofn a dy∣chryn yn dyfod arna'i, ac arswyd echryslon yn fyngorchguddio, y mae fy nghnawd yn crynu rhag dy ofn di, a'm calon yn archolledig ynof. Ond, O Arglwydd, y mae'r naill ddyfnder yn galw ar y llall, dyfnder fu nhrueni i ar ddyfn∣der dy Drugaredd di; Arglwydd achub yr aw∣rhon neu fe ddarfu am danaf yn dragywydd. O ni chwennychi di fód néb yn golledig, ond dyfod o bawb i Edifeirwch, dwg fi yr wyf' yn attolwg i ti, er mor ddiweddar, i ddifrifol Edifeirwch, y cyfryw ac a fo cymmeradwy genniti, yr hwn wyt yn profi'r galon. Créa ynof, O Dduw, galon lân, ac adnewydda ys∣pryd union o'm mewn: O Arglwydd, y mae ûn dydd gyda thydi megis mîl o flynyddoedd, Gweithied dy Yspryd nerthol ynofi yr awrhon, yn fy nydd diweddaf hwn, beth bynnag a weli di yn ddiffygiol i'm cymhwyso i i'th dru∣garedd a'th gymmeradwyaeth di. Dyro i mi gassineb perffaith hollawl o'm pechodau, a gwná fi yn abl i bresentio i ti yr aberth honno o galon ddrylliog gystuddiedig, yr hon a adde∣waist ti na ddirmygit; fal trwy hon y gallwyf fod yn gymwys i dderbyn yr iawn hwnnw a wnaeth dy garedig Fâb trwy ei offrymmiad mwy rhagorol ei hunan tros bób pechaduriaid edifeiriol. Efe yw 'r iawn tros ein pechodau

Page 495

ni, efe a archollwyd am ein camweddau ni, ac a ddrylliwyd tros ein hanwireddau ni, arno ef y rhoddwyd Cospedigaeth ein heddwch ni; O iachâ fi trwy ei gleifiau ef, a bydded i lêf ei waed ef foddi bloedd fy mhechodau i. Plentyn digofaint yn wir ydwyfi, ond efe yw Mâb dy Gariad, er ei fwyn ef arbed fi, Ar∣glwydd, arbed dy Greadur a brynnaist a'th werthfawr waed; ac na ddigia wrthif yn dra∣gywydd. Yn ei archollion ef, O Arglwydd, yr wyf' yn cymmeryd fy nghyssegr, O na er∣lidied dy ddíal di fi i'r ddinas hon o noddfa: Y mae fy Enaid yn glynu wrtho ef, O na ddarfydded am dana'i ac a Jesu, ac a Iachawdr yn fy mreichiau. Ond trwy ei ddirfawr ing a'i chwys gwaedlid ef, trwy ei Grôg a'i Ddio∣ddefaint, trwy'r cwbl a wnaeth ac a ddiodde∣fodd ef tros bechaduriaid, Gwared fi Argl∣wydd daionus; Gwared fi, yr wyf' yn at∣tolwg i ti, oddiwrth gyflog fy mhechodau, dy lîd ti, a damnedigaeth tragywyddol, yn awr yn amser fy nhrueni, yn awr Angeu ac yn nydd y Farn. Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, ac na wrthod fi yn yr amser ymma o'm hangen mwyaf, am i mi esgeuluso dy al∣wad ti o'r blaen. Nid oes, O Arglwydd, ond cam rhyngo'i ac angeu, O na fachluded fy Haul ar dy ddigofaint di, ond selia fy mhar∣dwn cyn i mi fyned oddiyma ac na'm gwelir mwy. Y mae dy garedigrwydd di yn well na'r bywyd, O gâd i mi gael honno yn gyf∣newid, ac yna myfi a osodaf i lawr yn dra∣hyfryd y bywyd marwol hwn. Tydi, Argl∣wydd, a adwaenost fy neisyfiad, a'm griddfań nid yw guddiedig rhagori; gwná a fi, O Ar∣glwydd

Page 496

glwydd, yn ól dy drugaredd, canys melus yw dy drugaredd; tynn ymmaith golyn Angeu, euogrwydd fy mhechodau, ac yna er i mi ro∣dio trwy ddyffryn cysgod angeu nid ofnaf ddim drwg; mi a orweddaf i lawr mewn Tangu∣heddyf, a phan ddeffrówyf, Arglwydd, digo∣noler fi a'th bresennoldeb yn dy Ogoniant. Caniadhâ hyn, Drugarog Dduw, er ei fwyn ef yr hwn yw Pryniawd-wr a Chyfryngwr dros bechaduriaid, sef Jesu Grist.

PSALMAU.

ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy li∣diawgrwydd, ac na chofpa fi yn dy ddi∣gofaint.

Nid oes iechyd yn fy nghnawd o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm he∣scyrn oblegid fy mhechodau.

Canys fy nghamweddau a aeth dros fy mhen; megis baich trwm y maent yn rhŷ drwm i mi.

Fy nghleisieu a bydrasant ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.

O herwydd pa ham y pallodd fy Yspryd ynof; ac a synnodd fy nghalon o'm mewn.

Fy mhechodau a'm daliasant fel na allwn edrych i fynu; amlach ydynt na gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fy nghalon gen∣nif.

Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog, a graslawn; hwyrfrydic i lîd, a helaeth o dru∣garedd a gwirionedd.

Dychwel attafi a thrugarhâ wrthif, canys unig a thlawd ydwyfi.

Page 497

Os creffi di ar anwireddau, Arglwydd: O Arglwydd, pwy a saif?

Na chofia bechodau fy ieuengctid, na'm cam∣weddau; ond yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, yn ôl dy ddaioni, Arglwydd.

Edrych ar fy helbul a'm trueni a maddeu fy holl gamweddau.

Na chuddia dy wyneb rhag dy wâs, canys cyfyng yw arnafi; o bryssia, a gwrando fi.

O'r dyfnder yr wyf'n yn galw arnat, Ar∣glwydd, gwrando fy llefain.

Dychwel, Arglwydd, a gwared fy Enaid, O achub fi er mwyn dy drugareddau.

Nag ymbellhâ oddiwrthif, canys trueni sydd yn agos, ac nid oes Cynnorthwy-wr.

Yr wyf' yn estyn fy nwylaw attat, 'mae fy Enaid yn hiraethu am danat megis tîr crâs sychedig.

Nessâ at fy Enaid ag achub ef, O gwared fi oblegid fy ngelynion.

Canys y mae fy Enaid yn llawn blinder; a'm bywyd sydd yn nessau i'r beddrod.

Achub fi rhag safn y Llew: gwrando ar∣nafi o blîth cyrn Unicorniaid.

Gosod fi ar graig sydd uwch na myfi, ca∣nys ti yw fy ngobaith, am Tŵr cadarn rhag wyneb y gelyn.

Pa ham i'th ddarostyngir fy Enaid? A pha ham y terfysci ynof?

Ymddiried yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef, iecydwraeth fy wyneb.

Yr Arglydd a gyflawna ei garedigrwydd a mi, iè, dy drugardd O Arglwydd sy'n par∣hau'n dragywydd; na ddirmyga waith dy ddwylo.

Page 496

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 497

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 498

O DDUW, ti yw fy Nuw, yn foreu i'th geisiaf.

Y mae fy Enaid yn sychedu am danat, fy nghawd hefyd yn hiraethu am danati', mewn tîr crâs sychedig heb ddwfr.

Fel y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfro∣edd, felly yr hiraetha fy Enaid am danati, O Dduw.

Y mae fy Enaid yn sychedig am Dduw, am y Duw byw, pa brŷd y deuaf ac yr ymddan∣gosaf ger bron Duw?

Mor hyfryd yw dy drigfa, O Arglwydd y Lluoedd!

Fy Enaid a hiraetha, iè ac a flysia am gyn∣teddau 'r Arglwydd: fy nghalon am cnawd a lawenychant yn y Duw byw.

O na bai i mi adenydd fel Colommen: yna yr ehedwn ymmaith ac y gorphywswn.

Anfon dy oleuni a'th wirionedd, tywysant hwy fi ac arweiniant fi i fynydd dy Sanctei∣ddrwydd, ac i'th bebyll.

Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil.

Dewiswn cadw drŵs yn nhŷ fy Nuw, o flaen aros ym mhebyll anghyfiawnder.

Deffygiaswn pe na chredaswn weled da∣ioni 'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

Fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîg.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.