Heb ddioddef ei ewyllys yn ammyneddgar, ond gwrwgnach am ei geryddon ef.
Heb wellhau o'i plegid hwynt.
Heb fod yn ddiolchgar iddo ef am danynt.
Heb gydnabod ei Ddoethineb ef yn dewis trostoni, ond bod a deisyfiadau taer haerllug o'n heiddo ein hunain.
ANRHYDEDD.
HEb anrhydeddu Duw trwy arferu yn barchedig y pethau a berthynant iddo ef.
Ein hymddwyn ein hunain yn ammharchus yn ei dy ef.
Yspeilio Duw trwy gymmeryd pethau gwedi ei cy∣ssegru iddo ef.
Halogi amseroedd Sanctaidd, Dydd yr Arglwydd, Gwiliau ac ymprydiau'r Eglwys.
Esgeuluso darllen y Scrythyrau Sanctaidd, ae heb ystyrio pan ddarllenion.
Bod yn ddiofal am geisio gwybodaeth o'n Dled∣swydd, gan ddewis yn hytrach barhau mewn anwybodaeth, na'n gosod ein hunain i'r boen ar draul o ddyscu.
Gosod crefydd mewn gwrando Pregethau heb ymar∣fer.
Torri ein Adduned a wnaethoni yn ein Bedydd.
Trwy gyrchu at Ddewinasau, a Chonsuriwyr, hyn∣ny yw, at y Cythrel.
Trwy garu rhodes a gorwagedd y Byd, a dilyn ei arferion pechadurus ef.
Trwy gyflawni chwantau'r Cnawd.
Halogi Swper yr Arglwydd.
Trwy ddyfod iddo ef yn anwybodus, heb ymboliad, gwîr Edifeirwch, na bwriadu buchedd newydd.