Gyfryngiad.
O Arglwydd bendigedig, yr hwn y mae dy Drugaredd tu hwnt i'th holl weithred∣oedd, yr wyfi'n attolwg i ti drugarhau wrth bôb dŷn, a channiadhá fód y prîs gwerthfawr, a rodwydd ar lawr gan dy Fâb tros bawb, yn effeithiol i jachau pawb. Dyro dy Râs disclair i'r rhai sydd mewn tywyllwch, a'th ymchwe∣ledig Râs i'r rhai sydd mewn pechod, edrych a'th dynneraf dosturi ar yr Eglwys gyffre∣dinol; Gwná ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Sion, adeilada furiau Caersalem: Una a thi dy hún bawb ar sydd yn cyffessu dy Enw, trwy burdeb, a Sancteiddrwydd; ac a nhw ei hunain, trwy gariad brawdol. Trugarhá wrth yr Eglwys hon, a gwná i bób aelod o honi hi wîr edifarhau am y pechodau hynny a annogasant dy farnedigaethau, módd y bo i ti hefyd droi, ac edifarhau, a gweddill ben∣dith o'th ôl. Bendithia di y rhai a ordeiniaist ti yn Llywodraeth-wŷr arnon ni pa ûn byn∣nag ai yn yr Eglwys, ai 'r Deyrnas; rheola felly ei Calonnau hwynt, a chadarnhá ei dwylo, fal na bo arnynt eisieu ewyllys na gallu i gospi drygioni a chamwedd, ac i sefydlu gwîr gre∣fydd Dduw a Rhinwedd dda. Trugarhá, O Arglwydd, wrth bawb ar fydd mewn trueni a helbul; bydd yn Dâd i'r ymddifad, a dad∣leu achos y weddw, cyssura y rhai o wan ga∣lon,