Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...

About this Item

Title
Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ...
Publication
Brintio yn Llundain :: gan Thomas Dawks ...,
1677.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Christianity -- Wales -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/a95346.0001.001
Cite this Item
"Tryssor ir Cymru: sef llyfr yn cynnwys; pregeth Mr. Arthur Dent, ..." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/a95346.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 15, 2025.

Pages

Page 1

Pregeth am Edifeirwch.

Luc. 13. 5.
Nac oeddynt, meddaf i chwi: Eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn môdd▪

AChlyssur y geiriau ymma, y rhai a lefarodd ein Har∣glwydd a'n achubwr Jesu Grist, a dyfodd o hyn, sef ddyfod o rai atto, a mynegi iddo am y Galileaid, y rhai y cymmys∣casai Pilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau, nid amgen, ai lladdasai hwynt fel yr oeddynt yn aberthu; ac felly y cymmyscwyd eu gwaed hwynt ynghyd â gwaed yr anifeiliaid a aberthent. Y rhai a fynegasent hyn a dybi∣ent fod y Galileaid hynny yn fwy pechaduri∣aid nâ'r Galileaid eraill, am iddynt ddioddef y cyfryw beth: A bôd y deunaw hynny ar ba rai y syrthiasai y tŵr yn Siloam, ac y lla∣ddasai hwynt, yn fwy pechaduriaid nâ'r rhai oll a breswylient yn Jerusalem. Wrth yr hyn beth y datcuddiasant fâth ar llygredigaeth ddirgel, yr hwn o naturiaeth sydd yn dilyn pôb dŷn, nid amgen, canfod yn grâff pecho∣dau rhai eraill, a'u barnu yn ddi-faddeu, eithr

Page 2

yn y cyfamser coluro eu beiau eu hunain, a bod megis yn ddeillion heb eu gweled.

Canys y gwŷr hyn a dybient, o herwydd na ddigwyddasai iddynt y cyfryw ddrychi∣neb, eu bod yn dda eu helynt, ac nad oe∣ddynt gymmaint pechaduriaid, ond yn hy∣trach yn fawr eu cymmeriad gyd â Dduw; megis y mae llawer yn camsynnied, mai y rheini yw 'r fâth waethaf ar ddynion, y rhai y mae Duw fynychaf yn eu curo, ac yn eu costwyo â'i law geryddol. Anghofio y maent nad ydyw Duw ymma ar y ddaiar yn cadw trefn anghyfnewidiol, sef, i gospi, pôb dŷn fel y mae efe yn waeth nag eraill, neu iw fawr∣hau a gwneuthur iddo spleddach fel y mae yn well nag eraill: Eithr yn vnig cymmeryd y mae efe rai siamplau (fel y gwelo yn dda,) iw gosod yn Athrawiaeth, ac yn rhybudd i bawb eraill▪ ac megis drychau y gallo pôb dyn weled ynddynt ei wynepryd ei hun, a'i gyflwr ei hun; a bod Duw yn dial pechod yn dôst; mal wrth esampl rhai y gallo pawb y∣mogelyd, rhag yscatfydd y perir iddynt hwy∣thau gadw eu cylch, a dwyn eu baich drwy gydnabod beth y maent yn ei haeddu.

Y gwŷr hyn, y rhai a ddygasent y newy∣ddion ymma at ein Achubwr Crist, a ddalient yn dynn yr opiniwn hwnnw. Ac o hyn y mae ein Achubwr yn cymmeryd achlyssur i geryddu eu hamryfusedd, ai camsynnied hwynt, ac i ddyscu iddynt, na ddylent lawe∣ny chu wrth weled rhoddi cyfiawn gospediga∣eth ar eraill, ond yn hyttrach cymmeryd a∣ddysc,

Page 3

a rhybudd oddiwrth hynny i edifarhau am eu pechodau eu hunain.

Hefyd, er mwyn arwyddocau nad ydyw Duw bôb amser yn y byd ymma yn dwyn y dialedd trymmaf ar y pechaduriaid annuwio∣laf, megis llofruddion, lladron, yspeilwŷr, puttein-wŷr, cablwŷr, terfysc-wŷr, gwat∣worwŷr a'r cyffelyb; ond yn eu cadw hwynt i farn y dydd mawr, ac megis yn eu pesci er∣byn y dydd lladdfa; am hynny y mae yn atteb iddynt ar wâd, gan ddywedyd, Nad ydynt, neu nid felly, eithr onid edifarhewch, chwi a gollir oll yn yr vn modd. Megis pe dyweda∣sei: A ydych chwi bawb o'r meddwl hwn yn ddiau, mai pechaduriaid dybryd yn vnig a gospir yn y byd ymma, ac y diangc eraill? Neu fod y Galileaid a'r deunaw hynny, ar ba rai y syrthiodd y tŵr yn Siloam yn fwy pecha∣duriaid nâ phawb eraill? Neu a ydych chwi yn tybied, oblegit na syrthiodd yr vnrhyw ddialedd arnoch chwi, am hynny y cewch ddismwytho ymmaith megis yn y tywyll, a diangc rhag barnedigaethau Duw? Na chewch, na chewch, yr ydych yn camgymmeryd. Ca∣nys meddaf i chwi, oddieithr i chwi alaru, ac ymofidio am eich pechodau, a chymmodi â Duw mewn prŷd, chwychwi, ie chwychwi, ie chwychwi meddaf (y rhai ydych mor bryssur i farnu eraill, ac i'ch cyfiawnhau eich hunain) nid yn vnig a ddifethir â'r cyffelyb farnedigaethau yn y byd yma, eithr a gondemnir yn dragywyddol yn y bŷd a ddaw.

Page 4

Ac felly ein Achubwr wrth ddywedyd hyn sydd yn bygwth barn ofnadwy i ddyfod ar∣nom bawb oll: Canys penderfynu y mae, a chloi ei reswm am bob dŷn byw ar wyneb y ddaiār, (pa vn bynnag ydyw ai uchel ai issel, ai cyfoethog ai tlawd, ieuangc ai hên, bonedig ai gwrêng, dyscedig ai annyscedig, gwirion∣ffôl ai cyfrwysgall, o ba gyflwr, neu râdd, neu fraint bynnag y byddo,) yn byw, ac yn marw yn ddiedifeiriol, y collir hwynt oll, ac y condemnir yn nhân vffern yn dragwyddol. Llawn yw 'r Scrythyrau o'r cyffelyb fygythia∣don. Jo. 3. 18. Yr hwn ni chredo a gondem∣nwyd eusys. ac 2 Cor. 13. 5. Profwch eich hu∣nain a ydych chwi yn y ffydd: holwch eich hu∣nain: onid adwaenoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch oddieithr eich bod yn wrthodedig? Lle y mae yr Apostol yn yspysu yn amlwg, nad ŷnt, y sawl oll ar nad ces ganddynt Grist yn aros yn eu calonnau trwy ffydd, yr hon yw chwaer deuluol edifeirwch, nad ŷnt meddaf ddim gwell eu braint nâ dynion anghymme∣radwy, gwrthodedig, a damnedig.

Eithr o herwydd bod y rhan-fwyaf yn y dyddiau hyn mewn siommedigaeth dybryd, a chamsynnied gresynol ynghylch edifeirwch, yn gystal eisieu gwir-wybod pa beth ydyw, beth y mae yn ei ddeall; beth y mae yn ei wei∣thio, beth yw ei gynneddfau ai gampau, pa achosion sydd iddo, a pha rwystrau a lluddias sydd arno, ac hefyd paham, pa bryd, ac o

Page [unnumbered]

ba herwyd y dylem edifarhau: o'r achos hyn y mae yn fy mŷd i yr awrhon ddangos

  • 1. Pa beth yw edifeirwch.
  • 2. Pa rai yw ei gynneddfau ai ffrwyth.
  • 3. Pa bryd y dylem edifarhau.
  • 4. Pa ham y dylem edifarhau.
  • 5. Pa beth sydd yn rhwystro edifarhau:
yr hon drefn, a dull ar athrawiaethu, er nad yw rhai yscatfydd yn fodlon iddi (megis yn ddiau nad wyf fi yn ei mynych arser) etto wrth ystyried y matter sydd gennif yn llaw, nid wyf yn tybied y ffordd hon yn anghym∣mwys. Eithr at y matter, ac yn gyntaf beth yw edifeirwch, i'r hyn rwi 'n atteb.

Edifeirwch yw tristwch, a galar gwastadol yn y galon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghydd a ffydd, a gwellhâd oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (meddaf) drwy newidio meddyliau, a nwydau 'r galon; ac o∣ddi allan drwy newidio y geiriau, a'r gweithre∣doedd o ddrŵg i dda. Dymma 'r edifeirwch yn ddiammeu oedd yn Nafydd; yr hwn pan geryddwyd ef yn gyfrwysgall gan y Proph∣wyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei lygaid, Ni safodd efe yn ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw▪ ac nid escusododd hwynt chwaith yn ddirgel drwy eu coluro, ond efe a lefodd yn chwer∣wder ei galon, Myfi a bechais; Ac 'ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm yn ddiau yn llawn galar a thrymder, yn yr hwn y mae 'r Prophwyd yn cwynfan am ei bechodau, ac yn ymofidio tros ei feiau, ac yn gweddio am

Page 6

galon newydd, ac yspryd newydd, meddyliau newyddion, nwydau newyddion, a bwriadau newyddion i wellhau ei fuchedd; felly yn Na∣fydd nyni a welwn fod tristwch, a gofid gwasta dol (megis ym mhôb man y dengys llyfr y Psalmau, yr hwn ai gesyd ef yn amlwg megis yn ei lun ei hun) ie a diwygiad mawr ar becho∣dau oddi mewn, ac oddi allan.

Gwelwch ymma gan hynny beth yw edi∣feirwch. Felly S. Petr, wedi darfod iddo drwy wendid wadu ei Arglwydd ai feistr Crist, pan ei dwysbigwyd gan ei gydwybod ei hun, ac y deffrowyd gan ddiaspod ceiliog yn canu, a aeth allan o lŷs Pilat, â chalon drom, gan wylo yn chwerwdôst, ac byth yn ol hynny a gyffesodd Grist yn gefnog, ie hyd angeu. Gwelwch gan hynny pa beth yw edifeir∣wch.

Y Prophwydi yn yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air yn arwyddocau yn yr Hebre-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch yn ôl drachefn▪ Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffelybiaeth y deellir; mai megis y mae yn rhaid ir dŷn a gyfeili∣orno ym-mhell allan oi ffordd, ddychwelyd yn ôl eilwaith ar hyd ei wrthol: felly y rhai a gyfeiliornasant o ffordd dduwioldeb i ffordd pechod, rhaid iddynt ddychwelyd yn ôl eil∣waith cyn gynted ac ▪yr aethent ymlaen, a newidio yn hollawl helynt ac ystod eu bu∣chedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddych∣weliad at Dduw â'r holl galon, enaid, a me∣ddwl.

Page [unnumbered]

Joan Fedyddiwr, a'r Apostolion yn y Te∣stament newydd, wrth annog i edifeirwch, a arferant Roeg-air yn arwyddocau newidio'r meddwl, neu cyfnewid-fryd synhwyrol o'r diwedd; i arddangos fod y rhai a ddarfu iddynt ar y cyntaf trwy eu ffoledd, ac eisieu synwyr lithro i ddyfn-bwll, ac enbydus drochlyn pechod, pan ddelont i wybod oddi∣wrthynt eu hunain, ac i gasclu eu synwyr ynghyd, yn synwyroli eilwaith, ac yn cym∣meryd gofal rhag fyrthio yno drachefn, yn ôl y ddihareb, Y plentyn a loscer ei fŷs a ochel rhag y tân.

Erbyn hyn gobeithio eich bod yn gweled pa fâth beth yw edifeirwch, nid pôb tristwch; ond tristwch am bechod; nid am ryw fâth ar bechod, ond am bôb pechod; nid tros awr, ond tros byth; nid tros ddiwrnod, ond yn wasta∣dol; nid tros wythnos, ond tra y byddom byw ar y ddaiar.

Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb tri∣stwch, eithr felly yr edifarhauei y bydol-fe∣ddwl: Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb ochenaid am bechod, eithr felly yr edi∣farhauei Pharaoh: Rhai a dybiant fod pôb wylofain a chwynfan am bechod yn edifei∣rwch, eithr felly y byddei Cain, Esau, a Ju∣das yn edifeiriol: Rhai a dybiant mai edifei∣rwch yw pôb rhith ar ymddarostwng, (neu ymddarostyngiad bychan) ond felly yr edifar∣hauei Ahab: Rhai a dybiant mai edifeirwch yw pôb gweithred dda, ac amcanfryd duwi∣ol, eithr felly y gallei pôb clâf edifarhau.

Page 8

Rhai a dybiant mai edifeirwch yw gwellhâd ar eiriau, a gweithredoedd, ond felly y ga∣llei pob dŷn bydol-ônest edifarhau: Rhai a dybiant fod dywedyd (Duw maddeu i ni) yn edifeirwch, ac felly y byddei pôb ffôl yn e∣difeiriol.

Chwi a welwch wrth hyn faint fy▪ yn eu twyllo eu hunain ynghylch edifeirwch. Eithr os ewyll ysiwch wybod yn siccr beth yw edifei∣rwch, edrychwch yn ôl ar yr hyn a ddywet∣pwyd o'r blaen. Canys yr hwn a fynno edi∣farhau o ddifrif, nid digon yw iddo yn vnig ostwng ei ben fel brwynen tros ddiwrnod, ac yno diweddu; na dywedyd ar flaen ei dafod, Duw maddeu i mi, heb ddim ond hynny; ond y mae yn rhaid iddo ail bwrw ei gyfrif, a dyfal ystyried ei fuchedd o'r blaen, fel y gwnaeth y Prophwyd Dafydd, Myfi a ystyriais fy ffyrdd, ac a droais fy nhraed at dy destiola∣ethau, Psal. 119. 59. Felly y mae yn rhaid i bawb a fyddo ar fedr edifarhau, ymneillduo ar ddidol i fewn rhyw gongl, fél y gallo gael hamdden, ac achlyssur i ymliw â'i gydwybod ei hun, ac i wneuthur iw galon ferwino, ac ymofidio am ei bechodau, drwy beri iddi grâff-synnied eu haruthredd hwynt, ac ysty∣ried yr holl achosion ai denodd, ac ai hudodd i bechu: megis yn Daniel 9. y mae Eglwys Dduw yn cyffeffu ei hanwireddau, nid yn ys∣cafn, ond yn ddifrif-ddwys, drwy benlynu y naill beth ar y llall, i yspyssu geuogrwydd y cwbl; yn gymma nt ac nad digon yw dywe∣dyd, mi a bechais: eithr dywedyd mi a be∣chais yn aruthr, mi a bechais yn wrthnyssig,

Page 9

yn ddiofal, yn anvydd. Mi a dramgwyddais yn gywilyddus yn y lle a'r lle: yn y tŷ a'r tŷ: gyd â y rhain, a'r rhain, ar y dydd a'r dydd: yn y cyfryw gongl, a'r nôs a'r nôs y godinebais yn ddirgel, pan oeddwn yn tybied nad oedd nêb yn fyngweled; yn y cyfryw stafell y gor∣weddais gyd â gwraig fynghymmydog, a'm cydwybod sydd i'm cyhuddo am hynny.

Ynghymdeithas y rhain a'r rhain y medd∣wais, y ceblais air Dduw, y gwatworais y Pregethwyr, ni russais dyngu pôb mâth ar lwon, ac adrodd serthedd. Ac yr awrhon o Arglwydd Dduw pa anghenfil anfatynedd, pa ddiffeith-was coeglyd wyf fi? Ymma yr wyf yn sefyll yn dy ŵydd di yn llwyr-noeth, yn ddall, yn glwyfus, yn dlawd▪ yn druan, ac yn resynol, yn deilwng o fîl o ddamnedigae∣thau, ped ait ti i'r farn â'm fi, a rhoddi 'r gyfraith i'm herbyn. Am hynny yr wyf yn attolwg i ti dosturio, a thrugarhau wrthif. Ira fy archollion ag olew dy drugaredd, dyro i mi fyngolwg, a chuddia fy noethni, cyfoe∣thoga fi yr hwn ŵyf dlawd, cryfhâ fi yr hwn ŵyf wan, cymmorth fi yr hwn a syrthiais: ô na ddôs ymmaith oddi wrthif. Y plentyn a gynhyrfa ei fam i gymmodi ag ef drwy le∣fain arni; a'r mâb drwy wylofain a nadu â ynnill fodd ei dâd: a'r gwas a orchfyga ei feistr drwy ymbil ag ef▪ Ac oni chynnhyrfir di i dosturi, O Arglwydd? Mal hyn, me∣ddaf pe bae pôb dŷn yn llefaru yn ei gydwy∣bod wrth Dduw, ac mal hyn yn fanwl, neu yn sanylach yn ei holi ei hun, diammeu y byddei efe ar wir ffordd edifeirwch.

Page 10

Ond sywaeth, blîn yw ystyried pa wedd y mae dynion y bŷd hwn, yn ei coeg-ddallineb a'u hamryfusedd, yn myned ar ddidro oddi∣wrth yr iawn ffordd hon, gan eu twyllo eu hunain drwy ymfodloni ag enw, ac heb ddim ganddynt ond enw edifeirwch. Llawer yn wir a siaradant am dano, ond ychydig a rodiant ynddo: llawer a'i crybwyllant, ond y∣chydig a'i clywant (neu a'i teimlant) llawer ai darluniant, ond nid oes nemmawr ai hadwae∣nant.

Cuddiedig yw edifeirwch, ac megis tan glô rhag y byd, ac wedi ei ddatcuddio i blant Duw yn unig. Llawer a dybiant gael o ho∣nynt afael arno, pryd na chawsant ond ei gys∣cod. Cyfuwch ydyw ac na ddichon nem∣mawr ei gyrhaeddyd: Cyn ddyfned yw ac nad oes ond rhai yn cael ei waelod: mor gy∣fyng yw, ac na ddichon pawb fyned i mewn iddo: mor ehang ac na ddichon ond ychydig ei amgyffred: Cyn llithricced ac na ddichon pawb gael gafael ynddo: mor guddiedig ac nad oes ond rhai a fedrant ei gael.

Am hynny fy mrodyr anwyl, attolwg i chwi moeswch i ni weddio ar ein Duw ni, ar ddatcuddio o honaw efe i ni y dirgelwch hwn a guddiwyd oddiwrth y byd, fel y gwe∣lom ef, ac yr adwaenom, ac y caffom, ac y clywom i'n diddanwch ddidrangcedig trwy Jesu Grist, yr hwn râd a ganniadhao efe i ni.

Eithr bellach at yr ail pwngc, ynghylch cyn∣nheddfau a ffrwyth edifeirwch: vn rhinwedd

Page 11

enwedigol o wir edifeirwch, yw dwyn gan∣ddo bob amser faddeuant pechodau. Oble∣gid lle yr elo gwir edifeirwch o'r blaen, ni ddichon amgen na bo maddeuant pechodau yn canlyn: Nid o herwydd bod edifeirwch yn hae∣ddu maddeuant pechodau, ond o herwydd lle y mae Duw yn gweithio edifeirwch, yno y mae efe yn maddeu pechodau oblegit ei adde∣wid. Megis yn Act. 3. 19. Edifarhewch, a dychwelwch fel y deleer eich pechodau. Ac Ezek. 18. 27. Pan ddychwelo y drygionus o∣ddiwrth ei ddrygioni a wnaeth efe, a gwneuthur yr hyn fyddo cyfiawn ac vnion, efe a geidw ei enaid yn fyw. Ac eilchwel, Esay. 55. 7. Ymwrthoded y drygionus ai ffyrdd, a'r anghyfi∣awn ai amcanion, a dychweled at yr Argl∣wydd, ac efe a dosturia wrtho. Ac Act. 5. 31. Hwn a dderchafodd Duw, i roddi edifeirwch a maddeuant pechodau i Israel. Felly nyni a we∣lwn ymma i bwy y mae maddeuant pechodau, a thrugaredd Dduw yn perthyn▪ Sef ir pecha∣duriaid edifeiriol, i'r rhai a ymadawant â phe∣chod, ac a gofleidiant yr hyn sydd dda, i'r rhai a ymadawant â'u ffyrdd eu hunain, ac â'u dychymmygion, ac a droant at yr Argl∣wydd (sef, trwy ei Fab Iesu Ghrist.)

Ac am y sawl a rodiant yn eu ffyrdd eu hu nain, ac a ddilynant ddigrifwch pechod, heb na thristhau am danynt, na bwriadu eu gadael ymmaith, nid oes iddynt a wnelont â thruga∣redd Dduw. Ac pe dioddefasai Jesu Grist fîl o farwolaethau (yr hyn beth nid oedd bos∣sibl) er hynny ni chaiff vn-dyn diedifeiriol fa∣ddeuant

Page 12

o'i bechodau drwy ei farwolaeth ef, na dim llesad arall o'i ddioddefaint ef; Canys y pethau hyn aberthynant iw eglwys ef yn v∣nig, ac iw ddewisedig bobl ymma ar y ddaiar. Pwy bynnag gan hynny nid yw o'r eglwys, pwy bynnag nid impiwyd yng-Hrist drwy ffydd, pwy bynnag nid yw aelod o'i ddirgel gorph ef, ni ddichon gael dim mwyniant oddiwrth far∣wolaeth Crist. Onid erys dyn ynofi, (ebe Crist) efe â deflir allan fel cangen, ac a wywa, ac hwy a gesclir, ac a deflir yn tân, ac a loscir. Joan, 15 6.

Darllein yr ydym yn Deut. 29. 19. 20. Fod Duw yn cau allan bob mâth ar bechaduriaid anhy∣dyn oddiwrth ei drugaredd, ac yn dra ofna∣dwy yn ergydio ei saethau yn eu herbyn. Yr hwn a glywo eiriau y cyngrair hwn, ac a ym∣fenaithio o honaw yn ei galon ei hun, gan ddy∣wedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng∣hyndynrwydd fynghalon, i chwanegu meddw∣dod at syched: Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd a'i eiddiged yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felldithion sydd scrifennedic yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwyddd a ddelea ei enw ef oddi tan y Nefoedd.

Felly y mae Duw yn dywedyd yn eglur, nad oes ganddo ef ddim trugaredd ir sawl a rodi∣ant mewn oferedd, a digrifwch eu pechod, ac yn hynd▪ nrwydd eu calonnau, drwy chwane∣gu meddwdod at syched, nid amgen cyssylltu y naill bechod ffiaidd at y llall: Ac etto er hyn ei gyd, peth rhyfedd yw gweled pa wedd

Page [unnumbered]

y mae pryfedos coeg-ddeillion y byd hwn yn eu siommi eu hunain.

Canys tybied y maent mai pa beth bynnag a ddywedont, pa beth bynnag a wnelost, bid drŵg, bid da, byddent edifeiriol, neu ddie∣difeiriol, etto y byddant cadwedig trwy far∣wolaeth Crist, Megis pe gwnaent ef yn llattai pechod, ac felly gweithio y drygioni hwnnw yn erbyn Crist.

Gobeithio, medd rhai, y byddwn cadwedig drwy farwolaeth Crist yn gystal ar goreu o honynt. Ond p'le y mae dy edifeirwch di o ddŷn anhappus? A wyt ti yn tybied fôd tru∣garedd Dduw yn gyffredin i bawb? A bod marwolaeth Crist yn llattai i'th bechodau di! Nid felly, eithr pan ddeuer i chwareu am y da, neu pan ddeuer i'r diwedd fe geir dy we∣led ti yn glôff.

Canys yn y gwrthwyneb y daw breuddwy∣dion. Ti a gei weled trugaredd Dduw yn troi yn gyfiawnder, a marwolaeth Crist yn wermod, o herwydd it gasau gwybodaeth, ac na ddewisaist ofn yr Arglwydd, Dihar 1. 29. Mal hyn chwi a welwch fy mrodyr anwyl, fod yn rhaid cael edifeirwch o flaen maddeu∣ant pechod: ac prŷd na byddo efe yn cadw y blaen, yna y bydd drŵs trugaredd Dduw we∣di ei gau: ac dymma y gynneddf gyntaf i Edifeirwch.

Rhinwed arall mewn gwir edifeirwch yw newidio, a throi dynion o'r hyn oeddynt o'r blaen, i'r hyn nid oeddynt: a'r newidiad hwn sydd nid o ran sylwed; a hanfod corpholedd,

Page 14

ond o ran rhinweddau, a chynheddfau y me∣ddwl.

Canys pwy bynnag a gymmerth wir edi∣feirwch, chwi a gewch weled yn y man ynddo ef newidiad dieithrol, a rhyfeddol; yn gym∣maint, ac na wna efe er dim, y peth a wnaeth, ac ni ddywed y peth a ddywedodd, ac ni ddilyn y gymdeithas y bu gynt yn ei dilyn, na bod yn gydymmaith da (megis y dywedant) fel y by∣ddei arfer, ac ni lŷn wrth y cyfryw rysedd, ac yr ydoedd gynnefin ag ef. Ac dymma 'r peth sydd yn peri ir byd synnu, a brochi, a chyffroi yn anguriol, a chablu y sawl a ddychwelont at Dduw.

Canys y mae 'r bŷd yn caru yr eiddo ei hun, ac ni all oddef i Dduw dynnu un bluen allan o'i adenydd ef: Eithr edifeirwch sy'n tynnu dynion o drais allan o ewinedd y cy∣thraul, ac yn eu newidio oddiwrth helynt y byd: Oblegit y mae efe yn gwneuthur dŷn, o falch yn ostyngedig; o ddrygionus yn ddi∣niwed; o greulon yn llednais; o flaidd yn oen; o lew yn ddafad; o odinebwr▪ yn ddi∣wair; o feddwyn yn sobr; o dyngwr yn ym∣adroddwr parchedig; o gas-ddŷn yn gyfaill; o ddirmygwr yn hôff; o wawd-wr yn garedig; o fydol yn Ysprydol; ac o gythraul yn Sanct. Hyn oll a weithia edifeirwch.

Paul oedd gynt yn ei daith i Ddamascus yn flaidd, yn erlidiwr, yn sugn-wr gwaed, yn dal câs, yn ddirmyg-wr: Eithr cyn i fyned y∣no, yr oedd y gŵr wedi ei newidio yn hollawl,

Page 15

ac o feddwl arall; mor rymmus oedd yr hwn ai cyfarfu ar y ffordd. Pan anfonodd▪ Crist Jesu yr Yspryd Glân i lawr ar ei ddiscyblion yn ôl ei addewid, yr oedd rhai gwatworwyr yn Jerusalem, yn gwneuthur gwawd gan ddy∣wedyd. Llawn ydynt o win newydd: Ond yr vn gwŷr a lefasant yn y man yn ôl hynny: Ha-wyr frodyr pa beth a wnawn ni i fod yn gadwedig? Act. 2. 37.

Dyna newidiad rhyfeddol yn ddisymmwth. Gwelwch wrth hynny rym edifeirwch: pan ei gyrro Duw ef i galon dyn, ac y tarawo yr hoel hyd y pen, (fel y dywedant) gweithio a wna y peth nis gall holl ddoethineb, a chy∣frwystra synwyr dyn ei gyflawni. Ac darfy∣ddo iddynt wybro, ac ŵlian i fynu ac i wa∣red, a chwilottach hôll gonglau eu synwyr, etto ni wyddant ddim oddiwrth y gorchwyl hwn, na phâ lê y dechreuant i newidio calon dyn, ac iw droi ef at Dduw.

O herwydd hyn y mae edifeirwch yn gry∣fach nâ'r holl fŷd, ac yn gweithio y peth ni ddichon holl ddynion y byd, â'u synwyr na∣turiol, a'u pennau cyfrwysgall, a'u dychym∣mygion deallgar ei gwplau; Canys ymchwe∣liad pechadur ir iawn, gwaith goruwch-na∣turiol ydyw. Dymma gan hynny ddrŷch, i ni edrych arnom ein hunain ynddo, pa vn a wnaethom erioed ai edifarhau, ai peidio▪ Oblegyd oni chawn ynom ein hunain y newi∣diad hwn, ni ddarfu i ni etto edifarhau, ac os felly, aros yr ydym tan ddamnediga∣eth.

Page 16

O herwydd hyn edryched pob dyn arno ei hun; Canys pa faint bynnag a newidiwyd arno, ac y trôdd oddiwrth ei ffyrdd ddrygi∣onus gynt, cymmaint a hynny a edifarhaodd efe.

A phwy bynnag sydd yn aros, yr awr hon yn yr vn cyflwr, ar vn fâth ddyn ac ydo∣edd efe dair, neu bedair, neu wyth miynedd ir awrhon, neu er ys dêg ar hugain, neu vgain: diau, diau, nad edifarhaodd efe etto, ac am hynny y mae yn aros tan farnediga∣eth.

O herwydd hyn y mae yn rhyfedd gennif, pa fodd y gall y gwŷr hyn, y rhai ni chlwy∣sant etto ddim newidiad yn gweithio ynddynt; nage y rhai y mae eu cydwybod yn dywedyd iddynt, na newidiwyd hwynt etto, ac ni wy∣ddant beth yw y newidiad hwnnw, pa fôdd meddaf y gall y gwŷr hynny obeithio am iechydwriaeth? Oddieithr yscatfydd nad y∣dynt yn credu yr athrawiaeth ymma, ond tybied nad yw hi wir. Myfi a ddanfonaf y gwŷr hyn at rai a fuont yn yr vnrhyw gyffwr ac y maent hwy yr awrhon ac er hynny a dy∣bient eu cyflwr yn ddigon da, er eu bod yn ddeilliaid yn ei barn, ac yn halogedig yn eu buchedd. Myfi a adwaenwn gynt, ac a ad∣waen ddynion yn awr, y rhai cyn eu ymchwe∣liad▪ a'u newidiad oddi mewn, a gyfr fid cyn onested gwŷr ar gonestaf a fwyttaodd fara, ac mor gymmeradwy ac y gallai wŷr fod; yn trin y byd yn vnion, yn byw yn ddiargyoedd, yn cynnal tai yn dda, ie ac yn tybied yn dda o ho∣nynt

Page 17

eu hunain; ac er hyn ei gŷd, pan ymwran▪ dawsant hwy ag edifeirwch yn gweitho ynddynt y newidiadhwn, trwy rym yr Yspryd ar brege∣thaid y gair; a phan roddwyd iddynt galonnau newyddion i fedru dirnad yn well, a llygaid o newydd i weled yn graffach; megis rhai wedi diangc rhag rhyw enbydrwydd, synnu a wnae∣thant, a rhyfeddu mor ddall-efrydd oeddynt or blaen, gan dorri allan ir cyfryw ymma∣droddion hyn: nid amgen, na fynnent eu bod yn yr un cyflwr yr oeddent ynddo o'r blaen, ie er da yn y bŷd, Canys-e buasent feirw yn y cyflwr hwnnw, diammau oedd ganddynt y buasant wedi eu condemnio. Ond pa gyflwr adolwyn yr oeddynt hwy yn∣ddo o'r blaen? Onid oeddynt wŷr onest, o gymmeriad da, yn byw yn ganmoladwy, ac yn cael parch i ba le bynnag y deuent? Yn wir felly yr oedd y byd yn eu cymmeryd hwynt.

Ond yr awrhon tybied y maent hwy o ho∣nynt eu hunain yn amgenach o lawer, wedi agoryd eu llygaid, a goleuo eu deall; Canys y maent yn gweled y peth ni welent o'r blaen; yr awrhon y maent yn deall fod Duw yn euog farnu llawer, y rhai y mae 'r byd yn eu cy∣frif yn gyfiawn. I'm tŷb i fe ddylei y siampl hon beri i ddynion bydol-onest ofni, ai drwg∣dybio eu hunain, ac adnabod eu trueni o flaen Duw.

Oblegid yr oedd y rhai gynne yn gystal gwyr a hwythau cyn eu ymchweliad, ac etto▪ yn cyfaddeu wedi hynny, eu bod yn soddi i

Page 18

waelod vffern, ac yn boddi yn nyfnder dam∣nedigaeth. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed, a'r hwn sydd ganddo ly∣gaid i weled gweled: Canys o myn dynion eu siommi eu hunain er a aller iddynt, sef hyde∣ru y byddant cadwedig heb glywed ynddynt ddim newidiad, neu waith edifeirwch, fe fydd drûd iddynt yn y diwedd.

Oblegid geiriau Crist a ddaw yn wir, y bydd colledig pwy bynnag nid edifarhao, sef y con∣demnir pwy bynnag, nid ymwrandawo ynddo ei hun beth ydyw edifeiriwch, ac ni chaffo ynddo ei hun y cynnheddfau sy yn ei ddilyn.

Canys lle y byddo edifeirwch, yno y bydd cynneddfau edifeirwch: ac lle ni byddo y cynneddfau, yno ni bydd dim gwir edifeirwch. Ac felly lle y dywedodd Crist, oddi eithr i chwi edifarhau, chwi a gollir oll; Yr vn fâth ydyw a phe dywedasai, Oddi eithr eich bod yn adnabod gwir edifeirwch, oddi eithr i chwi allu profi i'ch cydwybod faddeuaint eich pe∣chodau; oddieithr i chwi fod yn clywed yn ei∣gion eich calonnau newidiad, ac ymadawiad oddiwrth eich ffyrdd anwireddus, a'ch drwg ymddygiad gynt, chwi a gollir yn ddiddadl, ac a fyddwch damnedig. Eithr moeswch i ni ychydig etto ymhellach chwilio allan am gynneddfau edifeirwch.

Yr Apostol at y Corinthiaid (2 Cor. 7. 11.) sydd yn dangos saith o gynneddfau hynod, ac effeithiau (neu weithrediadau) edifeirwch.

Y cyntaf o'r rheini a eilw efe Gofal (neu Astudrwydd: Canys wele (medd efe) hyn ymma, dristau o honoch chwi yn dduwiol

Page 19

pa ofal, (neu astudrwydd) a weithiodd y∣noch? hynny yw, amcanfryd difrifol, a bwriad gofalus i fodloni Duw; Canys lle y bu gwir e∣difeirwch vnwaith yn gweithio, yno y daw gofal mawr gwedi hynny; gofal (meddaf) am fyw mewn vfydd-dod tu ag at Dduw; gofal am gadw cydwybod dda; gofal am ddiwygio ein teulu; gofal am ddyscu ein gwragedd, a'n plant, a'n gwasanaeth-ddynion yngwybodaeth o Dduw; gofal am weddio gyd â hwynt foreu, a hwyr; ac yn gyffredinol gofal i gyflawni pôb dyled-swydd perthynol i Dduw: felly nid peth diofal, ond peth gofalus yw edifeirwch

Ac na feddylied nêb tra fyddont hwy yn ymdreiglo mewn diofalwch cnawdol, ac yn cyscu mewn difrâwch holl ddyddiau eu by∣wyd, Fod er hynny eu hedifeirwch hwynt yn ddinam: Ie, ac er eu bod yn treulio di∣wrnodau, a nosweithiau, a misoedd, a bly∣nyddoedd cyfein mewn oferedd a chwareuon, a difyrrwch, mewn seguryd, ffol-ddigrifwch, meluswedd, a maswedd, drwy esceuluso pôb dyled-swydd, anghofio Duw, a dirm ygu pob peth dâ, er hynny ei gyd eu bod yn edifarhau am eu pechodau, ac yn gobe ithio bod yn gad∣wedig yn gystal ag eraill. Ond (gwae finneu) pa fodd y gall y pethau hyn gyd-sefyll, sef e∣difarhau am bechod, ac ymddigrifo mewn pe∣chod; cashau pechod a charu pechod; Ffoi rhag pechod, a dilyn pechod? Eithr y gwyr hyn, mi a welaf, a fynnent wneuthur S. Paul yn gelwyddog; Canys efe a ddywaid, nad edifarhaodd dŷn erioed, oddieithr fod o

Page 20

honaw wedi hynny yn ofalus am fodloni Duw hwy a ddywedant fod yn edifar ganddynt (n•••• edifarhau o honynt) er na buon erioed y byw yn ddiffeithiach, ac yn ddiofalach. On pan ddelo pôb mâth ar ddynion afreolus, a drw fucheddol; pan ddelo puttein-wyr aflân, gly¦thion anifeilaidd, a segur-wyr diofal-frŷd 〈◊〉〈◊〉 deyrnas Dduw, a bod yn gadwedig, yno y ca y gwyr hyn ddyfod hefyd gyd â hwynt, a bo yn gadwedig drwy eu diofal edifeirwch.

Ail gynneddf, neu effaith edifeirwch y Ymddiffyn ein hunain, hynny yw, ein rhyddhau neu ein diheuro ein hunain pan in cyhudde gan bechod, ac y rhodder dim i'n herbyn Canys pan fyddo pechod a'r Cythraul yn cy∣thryblu cydwybod y pechadur edifarus truan yn ddiaros efe a rêd at Dduw, ac a ymbil am faddeuant trwy Jesu Grist, ac felly ai hym∣ddeffyn ei hun, ac a wna ei achwyn ar be∣chod a Sathan; megis dyn a ddyfynner i'r Seneddr am odineb, neu fai sceler arall, rhaid iddo drwy dystiolaeth ymddiheuro oddiwrth y peth a heurer arno: Felly y gydwybod, a ddyfnno Sathan o flaen cyfiawnder a brawd∣le Duw, ai hymddeffyn ei hun trwy edifeirwch, ac a ofyn maddeuant drwy Jesu Grist.

Felly ymma y gallwn weled y llesâd rha∣gorol, a'r budd a ddwg cydwybod edifarus: Ni all hi oddef adael i bechod fod yn achwyn arni, ni fedr ymlonyddu nes cael ei chym∣mod â Duw, a heddwch gartref ynddi ei hun: Oblegid hyn sydd i ddal sulw aro yn y dŷn duwiol, sef, pan wnelo efe ryw bechod, a bod

Page 21

ei gydwybod yn dwyn ar gôf iddo hynny, yn 〈◊〉〈◊〉 man efe a glyw bwys yn ei wascu oddi fewn, c yn ei wneuthur cyn drymmed a phlwm, fel a ddichon gyscu yn esmwyth, hyd oni cha∣fo fyned i ryw gilfach i alaru, ac i gwynfan i wala, i gyffessu, ac i ymwneuthur â Dduw, neu i osod ei stât allan o flaen Duw) ac felly i ymddeffyn ei hun drwy Jesu Grist, ai gyd∣ybod yn tystiolaethu iddo, fod ei bechod we∣i ei faddeu. Ond yn y gwrthwyneb, y dŷn nnuwiol pan gyhuddo ei gydwybod ef am be∣hod, a dŷ ymmaith bob cyfryw syn-feddy∣••••au, ac ai dyry tan ei droed; ac a eilw am âr o gardiau, neu dabler, neu ryw gydym∣aith digrif i fwrw yr amser heibio, ac i yrru 〈◊〉〈◊〉 fáth feddyliau allan o'i ben; Ac felly ewn gwirionedd, peri a wna iddynt gynny∣du fwyfwy, a chrawni oddifewn.

Y Drydedd rinwedd yw Digofaint neu Sor∣iant, nid amgen, dygn gasineb yn erbyn pe∣hod, megis pan fo dyn yn crynu, ac yn achre∣u, ac megis yn gwascu ei ddannedd wrth gofio ei bechodau.

Canys y mae y gamp hon bob amser ar y ŷn edifarus, nid amgen, gwrthwynebu, a ffieiddio o'i galon bôb pechod, yn gystal ei bechodau ei hun, a phechodau rhai eraill, a'u casau fel Diafol ei hun, yr hwn yw yr awdur honaw, ac ymogelyd rhagddo megis rhag or-gêg, a dihenyddwr ei enaid, ac adnabod nai pechod yw'r vnig beth sydd yn dallu, ac n caledu, sy'n gwahanu oddiwrth Dduw, ac n dwyn arnom bôb dialedd, ac afiechyd yn y

Page 22

corph a'r enaid: Ac am hynny ei ddiystyr y mae, ai ddirmygu, ai ffieiddio pa le bynna y gwypo oddi wrtho.

Y Pedwerydd peth yw Ofn, yr hwn yw mát ar ddychryn, pan fyddo dyn yn arswyd anfodloni Duw; Canys y mae y dyn edifaru yn ofni beunydd; ac oblegit ei fod yn adna∣bod ei lescedd, ai wendid ei hun (pan dynn Duw ei râs oddiwrtho, ac y gadawo ef arn ei hun) gweithio allan a wna efe ei iechyd wriaeth drwy ofn a dychyrn, Phil. 2. 12. N ryfyga efe ar ras o'r blaen, i wneuthur di pechod, ac ni bydd efe ry hŷ o drugared Dduw, ac o'r pethau a dderbynniodd eufy gan Dduw, i ymroi i ryw bechod bychan, ga dybied y gall efe hynny, a bod yn blentyn i Dduw gystal cynt (neu gystal a chynt,) O¦blegit syrthio rhai o blant Dduw i bechoda mwy: Ond y mae efe yn hyttrach yn dychry∣nu rhag y cynnwrf lleiaf o bechod; ac yn ofn y maglau a osodo Satan ar y ffordd, a phro∣fedigaethau pechod, pan osodant arno i dorr gwangc pechod: Eithr ymdrechu a wna ef yn erbyn pechod, pan ymdrecho pechod yn e erbyn yntau: ac a esyd ofn Duw o flaen ei ly∣gaid (fel y gwnaeth Joseph Dduwiol pan ru∣throdd gwraig Potiphar arno) i fod yn dŵ ymddeffyn, ac yn ffynnon bywyd i ddiang rhag maglau angau: Dihar, 14. 26. 27.

Y pummed yw chwant, (neu awydd-fryd) 2 Cor. 7. 11. Hynny yw newynu, a sychedu yn ôl cyfiawnder. Canys y mae y dŷn edifeiriol yn chwannog i bethau daionus

Page 23

chwennychu y mae fod yn wellwell bob dydd: Chwennychu y mae ymadael â rhyw bechod bob dydd: ewyllysio y mae gael rhyw wybo∣daeth o newydd, rhyw ddeall o newydd ar bethau Nefol.

Awyddus ydyw i wrando Pregethau, ac efe a wna egni mawr iw gwrando: Dymuno y mae gymdeithas y Duwiol, a thybied ei fod yn y nef pan fyddo yn eu plith hwynt; Dy∣muno y mae iechydwriaeth ei elynion a gwe∣ddio trostynt. Y deisyfiadau hyn oll, a llaw∣er eraill o'r cyffelyb ydynt yn y dyn edifeiriol.

Y chweched rinwedd yw zêl (neu Gwynfydi∣ad▪) yr hon sydd yn sefyll yn hyn, sef mawr∣hau duwioldeb, a chasau drygioni; yn gym∣maint a bod y dyn edifarus yn awyddus i bob peth da, yn awyddus i osod allan ogoniant Duw ym mhôb lle, ym mhôb cymdeithas, ac ym mhlith pôb mâth ar ddyn. Ni ddichon oddef hybu dim ar anrhydedd Duw, na chly∣wed cablu ei enw, na diystyru ei ogoniant; ond efe a egyr ei enau i argyoeddi yr annuwiol, ac a saif yn wrol-w ch ynghweryl gogoniant Duw.

Nid yw efe debyg ir Di-dduw, a'r rhag∣reithwyr, y rhai a ymrônt i wneuthur fel y gwnelo y cymdeithion, nid amgen, yn Ddu∣wiol ym mhlith Duwiol; y maent yn Brotes∣tantiaid ym mhlith Protestantiaid, a drygio∣nus ym mhlith drygionus, Papistiad ym mysc Papistiaid, a bydolion yn mysc pobl fydol, Tyngwyr ym mhlith tyngwyr, ac anwadalwyr yn troi gyd â phôb awel. Y dyn edifeiriol (meddaf) nid y fâth ddŷn â hwn ydyw.

Page 24

Ond y mae efe yn ddianwadal, ac yn ddwy∣wol ym mhôb peth da: Y mae efe yn gefnog yn erbyn pôb digrifwch, a budd pechadurus: Pe rhôn a gallu o honaw ynnill y byd ei gyd, neu wellhau arno ei hun fwy nag a goeliei neb, drwy wneuthur pechod yn erbyn Duw, etto fe ai gwrthodai: Canys fe a ddyscodd o enau Crist na lesâ i ddyn er ynnill yr holl fyd, a cholli ei enaid.

Y peth olaf yw Dial, hynny yw, y dyn edi∣farus sydd mor anfodlon ir pechod a wnaeth efe, ac y myn gymmeryd dial arno ei hun am dano. I yspysu hyn, os pechodd drwy lothineb, efe a ddial arno ei hun drwy ym∣prydio ddeu ddydd, neu dri yn ôl hynny; os troseddodd trwy odineb, efe a ddial ar ei drachwantau drwy eu llyffetheirio a'u ffrwy∣no byth yn ôl hynny: Os gwnaeth gamwedd, gan sc yfaethu, a chymmeryd, neu gadw dim o'r eiddo eraill, efe a ddial arno eu hun, drwy dalu adref, fel y gwnaeth y gŵr Duw∣iol a gwir edifarus Zaccheus. Luc. 19. A A hyn yn ddiau yw ffrwyth edifeirwch dile∣drith, sef diwygio ynom ein hunain y pethau a wnaethom ar fai.

Yn awr gan hynny fy mrodyr anwyl, nyni a welwn beth sydd yngheudod edifeirwch, a pha fâth ymyscaroedd sydd yno oddifewn; ac bellach rhaid yw i ni ddyfod i ddattod, ac agoryd geiriau Crist: oddieithr edifarhau o honoch, chwi a gollir oll: hynny yw, oni bydd gennych y gofal a grybwyllwyd o'r blaen am dano, chwi a fyddwch colledig oll, oni bydd

Page 25

gennych yr ymddeffyn hwn chwi a gollir: Oni bydd gennych y digofaint hwn, chwi a gollir, oddieithr bod gennych yr ofn hwn, colledig fyddwch: Oddieithr bod ynoch yr awydd hwn chwi a gollir oll: oddieithr bod gennych y chwant ymma, damnedig fyddwch: ac o∣ni bydd gennych y dial hwn, chwi oll a go∣llir.

Oblegid nid yw ein Iachawdwr Crist yn dywedyd am enw edifeirwch yn vnig, ond am edifeirwch a chwbl o'i pheiriannau, a'i pherthynasau; yn gymmaint ac pwy bynnag nid oes ganddo edifeirwch yn gwbl-gyfan, ai holl gynneddfau, ai effeithiau, neu or hyn lleiaf ryw fesur o honynt, nid oes ganddo ddim gwir edifeirwch; ac am hynny colledig fydd: oblegid oddieithr edifarhau o honoch, chwi a gollir oll.

Eithr mi a dybygwn fy môd yn clywed thyw vn yn dywedyd: Nid oes ymma ddim ond damnedigaeth, damnedigaeth; Nid ydych yn Pregethu dim ond y gyfraith, moeswch i ni glywed yr Efengyl. Fy mrodyr, yr wyfi 'n proffessu ger bron Duw i chwi, fy môd yn dywedyd mewn cariad beth bynnag yr wyf yn ei ddywedyd, a dymuno yr wyf iechydwri∣aeth pawb o honoch. Pe gallwn ynnill dau yn vnig o'r holl gynnulleidfa hon, mi am cyfri∣fwn fy hun yn ddedwydd, ac a dybygwn roddi o Dduw fendith enwedigol ar fy l afurwaith.

Ac yn ddiammeu, pe gwypwn vn ffordd arall a fae nês a chymmwysach i'ch dywn chwi at Dduw nâ phregethu y gyfraith er

Page 26

mwyn peri i chwi eich adnabod eich hunain; diau, diau, y dilynwn honno: reu pe gellid peri i mi goelio, mai gwell fyddei ar eich llês chwi glywed Pregethu yr Efengyl, a thruga∣redd, ni chaech glywed gennif ddim amgen ond yr Efengyl, yr Efengyl, trugaredd, tru∣garedd.

Eithr sywaeth gweled yr wyf fod pôb dyn difraw, ac anwybodus yn rhyfygu ar dru∣garedd Duw. Gweled yr wyf fod pôb annu∣wiol-ddyn aflan, a chabl-wr dybryd yn cam∣arfer trugaredd Duw, drwy ei chymhwyso iddo ei hun heb edifeirwch; ac felly y myn∣nent wneuthur trugaredd Duw yn gochl tros eu pechodau: gweled yr wyf y chwennyched pob dyn gael ei lochi, a gwenhieithio iddo yn ei bechod, ac na chlywei son am dano mwyach, ond cael Pregethu yr Efengyl; Yr hyn beth mewn gwirionedd ni pherthyn ir sawl a barhânt yn eu cyndyn-rhwydd, ond yn vnig ir pechadur edifarus, a ymwrthodo ag ef ei hun, ac a syddo yn griddfan, ac yn ymofidio tan faich ei bechod.

O herwydd paham, pan i'ch gwelwyf wedi eich darostwng, â theimlad o'ch pechodau, ac yn ochneidio, ac yn cwynfan tan eu baich. Pan eich gwelwyf yn wyneb drist gan wylo fain, a'ch calonnau yn meddalhau, ac yn pry∣deru gan ofal; Yna y cyssuraf chwi, ac peidiaf a Phregethu 'r gyfraith.

Eithr, attolwg i chwi, a ledrettwch chwi, ieddwch, a odmebwch, ac er hyn a fynnwch chwi glywed am drugaredd? A watworwch a dyngwch, a geblwch, a ddifenwch, ac

Page 27

hyn a fynnwch chwi glywed am drugaredd? A wasanaethwch chwi bechod, a gashewch rinwedd dda, a ddilynwch eich trachwantau eich hunain, ac er hyn clywed am drugaredd?

A fynnwch chwi gael eli cyn bod arnoch friwiau, a meddyginiaeth cyn eich▪ bod yn glâf? A fynnech ollwng gwaed arnoch, cyn bod yn rhaid? Oni chymmerech chwi ef yn Bessygwr ffôl, a roddei feddyginiaeth i ddyn iâch? ac hwnnw yn Feddyg anghyfarwydd yn ei gelfyddyd, a osodei wrth hên ddolur crawn∣llyd eli tŵf tyner, ac nid eli-sugno i fwytta y marw? Yna gwybyddwch fy mrodyr, fod yn rhaid i chwi wrth gyfog cadarn-gryf, o herwydd eich bod yn llawn afiachusrwydd: ac am eich bod yn llawn o hên ddoluriau crawn∣llyd, rhaid i chwi wrth eli llym▪ dôst; canys hynny sydd oreu ar eich llês, ar môdd nessafi ddwyn i chwi iechyd.

Oblegit eich bod fel meirch anystowallt, y mae yn rhaid cael marchogwr garw: ac i hollti coed ceingciog, goreu peth yw cynion gweithgar a chaled, a gordd drom iw curo. Pregethu y gyfraith yr ydym i'ch gyrru chwi at Grist: Pregethu barnedigaeth, i beri i chwi geisio trugaredd: pregethu damnedigaeth i'ch dwyn i iechydwriaeth. Ond pregethu trugaredd, a maddeuant, cyn gweled o ddy∣nion eu pechodau, neu adnabod eu trueni trwy bregethiad y gyfraith, hynny fyddei pre∣gethu yr Efengyl yn anfuddiol Canys yr hwn ni wypo y gyfraith, nid edwyn chwaith pa drueni sydd ynddo ei hun, na pha druga∣redd yn Nuw.

Page 28

Pa dâd, o bydd ei blentyn yn fachgen y∣styfnig, ac anufydd iddo ym mhôb peth a ar∣cho, a lyfna ei ben ef, ac a ddywed mai bach∣gen da ydyw? ac yn hyttrach nis cerydda ef yn dôst, ac nis cûr â gwialen? pa feistr a genmyl ei wenidog am wneuthur yr hyn a fynno ei hun, ac nid yr hyn a orchymynno efe iddo? yr un-ffunyd ni wasanaetha i ni anufyddhau a gwneuthur drŵg, a disgwyl ein mawrhau hefyd, ac nid ein ceryddu. Gwy∣byddwn gan hynny, er bod Duw yn arfer o serio, a thorri doluriau crawnllyd, a rhoddi eli sugno tôst i yssu y marw, a chwilio escyrn tynnion, a'r cyffelyb foddion tôst ar feddigi∣niaeth: er hynny i'n iachau ni y gwna efe y cwbl. Ac heb law hyn gwybyddwn etto ym mhellach, oblegit nad oes dim moddion am∣gen i'n tynnu ni i iechydwriaeth, cnd trwy lanhau ein holl feiau aflan, a'r glanhâd hwnnw ni ellir ei wneuthur, ond with ein trîn yn arw: pan i'n rhybuddier drwy athrawiaeth y gyfraith, nes bod ein cydwybodau ein hunain i'n cyhuddo; (er bod yn wŷch gennym gael bod yn esmwyth wrthym, ac megis ein pen∣llyfnu trwy dêg;) etto bydded dewisach gennym, gael dywedyd wrthym y cas-wir yn llymmach, gael dangos i ni ein beiau, a pheri i ni gywilyddio am danynt, a chael datcuddio ein hanweddeidd-dra, ac nid chwennych ein bodloni: Canys hynny fyddei y ffordd nessaf i beri ni bydru yn ein brynti, os cadwem ef yn gyfrinachol; a rhy ddrûd fyddei i ni adael ein siommi drwy weniaith dynion, os y bar∣nwr Nefol a dywallt ei lîd arnom.

Page 29

O herwydd hyn, pan ddelo neb i wrando Pregeth; gwneled ei gyfrif, yn gyntaf peth o gael clywed ei argyoeddi, megis y gweddei, ac ystyried mai ei lesâd ef yw nadydys yn tec∣cau iddo: ond o bydd ei glustiau yn merwino, ac yntau yn anfodlon ir peth a glywo, byth ni wrendu efe i gael llesâd, ac addysc oddiwrth yr athrawiaeth a dreuthur. Ymfodloned i adael teimlo, a thrin ei ddolur, fel y galler ei iachau.

O chais neb fodloni dyn clâf am bob peth a alwo am dano, pa beth a ddaw o honaw? A rydd efe iddo ddiod ar bob tro? A ddyry efe wîn iddo pan ddylei roddi dwfr? A rydd efe iddo ardd-lysiau? dyna'r ffordd nessaf iw wenwyno ef. I fyrhau i chwi, diammeu ydyw fod dyn yn ceisio ei farwolaeth ei hun pan chwennychei gael gwenhieithio iddo. Eithr pa un oreu, ai ymroi o'r hwn sydd yn trîn dyn clâf, i wneuthur ei ddamuniad ef, ai ei attal, er ei fod yn brochi, ac yn gwascu ei ddannedd, am na chaiff ei ewyllys yn yr hyn a fynnei. Chwi a welwch wrth hyn mor enbyd yw gor∣llyfnu dynion, a pheri iddynt ymgodi, ac ym∣siongci, drwy Bregethu trugaredd cyn eu taffu i lawr a: merwindod a theimlad o farn Duw.

Peidiwch gan hynny ag agoryd eich fafnau i floeddio, a llefain tros y wlad gan ddywedyd: Nid ydynt yn Pregethu dim ond y gyfraith, y gyfraith, colledigaeth, colledigaeth, oddi eithr i chwi gymmeryd i mewn Grist hefyd, a'i wneu∣thur ef yn un o'r rhifedi, ai gyhuddo ef am ddi∣ffyg

Page 30

doethineb pan yw yn Pregethu, ac yn dywe∣dyd, pwy bynnag nid edifarhao a gondemnir.

Myfi, o'm rhan fy hun, wyf yn pregethu'r Efengyl i'r rhai y perthyn yr Efengyl, a'r gy∣fraith i'r sawl y perthyn y gyfraith, a barn ir sawl y perthyn barn. Ac am hynny tewch a sôn, a byddwch fodlon i'ch rheoli gan ddoe∣thineb Duw.

Eithr bellach moeswch fyned rhagom at y trydydd peth cyffredin, yr hwn yw yr amser pa bryd yr edifarhawn. Yr Yspryd Glán yn yr Scrythyrau sydd yn pennu yr amser presennol, ac a'n cynghora i gymmeryd hwn∣nw yn amser ein hedifeirwch. Am hynny yn awr medd yr Arglwydd, Dychwelwch attaf fi a'ch hôll galon, mewn ympryd, wylofain, a ga∣lar, Ioel. 2. 12.

Felly at yr Hebreaid. Cynghorwch ei gi∣lydd tra y gelwir hi heddyw, rhag caledu neb o honoch drwy dwyll pechod. Ac yn yr vn∣rhyw bennod: Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn nydd profedigaeth, Heb. 3. 7. 15. Fe∣lly yn awr, ie yn awr yw'r amser i edifarhau: Yn awr tra yw yn galw, yn awr tra yw yn dy∣wedyd, yn awr tra yw yn curo: Yr awr hon gan hynny gwrandawn, yr awr hon gan hyn∣ny vfyddhawn, yr awr hon gan hynny adbry∣nwn yr amser, sef y dydd heddyw, y rhai a oediasom gynnifer o ddyddiau, y rhai cyhyd o amser a galedasom ein calonnau, y rhai a o∣llyngasom heibio gymmaint o bethau da i re∣deg trosodd ac i golli hefyd, cymmerwn y dydd

Page 31

hwn, a gwnawn ef yn dydd ein hedifeirwch. Er na chynnyrfwyd ni â Phregeth erioed hyd yn hyn, etto cynhyrfer ni yn awr unwaith ar y diwedd. Dywedwn yr awr hon, y dydd hwn a gaiff fod yn ddydd edifeirwch i mi; Ni cheisiaf oedi ym mhellach, ond yn awr y dych∣welaf at Dduw, ac yr ymwrthodaf a'm holl hên ffyrdd ddrygionus, ac a'm dychymmygi∣on fy hun: Yr awr hon y newidiaf helynt fy mu∣chedd, ac y dechreuaf o newydd. Mi a fyn∣naf fod yn gydnabyddus a gair Duw, Ac a ymgynghoraf ag ef pa beth a wnelwyf, a pha fodd y dylwn ymddwyn fy hunan ym mhôb gwei∣thred.

Myfi a ddiwygiaf, n▪d fy hun yn vnig, eithr hefyd fy holl deulu, a'm gwraig, a'm plant; am gwasanaeth ddynion yn ol y gair. Mal hyn fy mrodyr anwyl, attolwg i chwi fwriadu yn eich calonnau, ac nac oedwch yn hwy: na fyddwch gyffelyb i loddest-wyr yn oedi gwe∣llhau gan ddywedyd: Ieuengctid a fyn fod yn nwyfus, ac ieuengctid a fyn ei helynt a'i rw∣ysc, a pha raid bod mor dduwiol yn ieuaingc? Digon yw vn ochenaid wrth farw, byddwn lawen yr awr hon, ni byddwn byth mwyach ieuengach nag ydym, ni a gymmerwn edifeir∣wch pan elom yn hên.

Megis (och y druein) pe bae ganddynt edi∣feirwch ynghadw yn eu llewis, ac wrth eu gorchymyn, ac y medrent edifarhau pan fynnent: Na sedrant ddim; fe gaiff y cyfei∣llion hyn dalu yn hâllt am eu rhyfig: Oble∣gid Duw ai rhydd hwynt i fynu i galedwch

Page 32

calon, a diedifeirwch o herwydd eu bod mor hyderus, a chymmeryd oed cyhyd o amser, fel y gallent yn y cyfamser fwynhau bûdd, a meluswedd pechod.

Am hynny garedigion frodyr, nac oedwn o ddydd i ddydd, ond ceisiwn yr Arglwydd yr awrhon tra y caffer ef, a galwn arno tra fy∣ddo yn agos attom, Esay, 55. 6. cymmerwn amser tra caffom yr amser, canys amser a llanw nid erys neb. Cydnabyddwn mai hwn yw amser ein ymweliad.

Ein Achubwr Crist a wylodd tros Jerusa∣lem, am nad adwaenei amser ei hymweliad. Argyoeddi yr Iddewon y mae efe o herwydd y medrent ddirnad wyneb-pryd yr awyr, ond ni fedrent ddirnad arwyddion yr amserau. A diau y trŷ hyn yn y diwedd iw destryw hwynt, oni chydnabyddant mai hwn yw dydd y tru∣garedd, ac amser grâs, pan yw Duw yn estyn allan ei law tu ag attynt, a doethineb yn lle∣fain yn eu heolydd. Yn awr gan hynny tra caffom oleuni rhodiwn fel plant y goleuni: Y nôs sydd yn dyfod pryd na all neb weithio▪ Rhy-hwyr yw galw am drugaredd yn ôl y bywyd ymma, pan gauer pyrth trugaredd, ac y byddo rhy-hwyr edifarhau.

Oh Gristianogion anwyl, cofiwn y pum gwyryfon angall, y rhai o herwydd iddynt oedi yr amser yn rhy-hir, fe gaewyd pyrth y Ne∣foedd iw herbyn. Cofiwn hefyd ofnadwy a gresynol esampl y glŵth goludog, yr hwn, pan ydoedd yn uffern mewn poenau, oedd yn llefegor, ac yn ymbil am yr esmwythyd, a'r

Page 33

cyssur lleiaf a allai fod, ac etto ni fedrei gael hynny.

Can-gwell i ni gan hynny ymadael â'n pe∣chodau yr awr hon; tristhau am danynt yr awr hon, ac edifarhau yr awr hon, nag yn ôl hyn, prŷd sywaeth y bydd rhy-hwyr: gwell o lawer cymmeryd peth poen yr awr hon, drwy ymor chestu i ymadael ân pechodau, a pheri i'n calonnau ymofidio trostynt, nân condem∣nio yn dragwyddol, a gweiddi yngwaelod u∣ffern▪ gan ddywedyd.

Nyni a gyfeiliornasom allan o ffordd gwirio∣nedd, ac ni thywynnod llewyrch eyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder▪ arnom. Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a destryw; ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd, eithr nid adnabuom ni ffordd yr Aglwydd. Pa fudd sydd i ni o falchder? A pha les a wnaeth golud, a ffrost i ni? Y pethau hynny oll a aethant ymmaith fel cyscod, ac fel cennad yn rhedeg, Nyni a osodasom ein hunain yn erbyn y cy∣fiawn ac yr oeddym ni gynt yn eu gwatwar hwynt, ac yn eu dyfalu yn wradwyddus▪ Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd yn yn fydrwydd, a'u diwedd yn ammharchus. Ond wele, hwy a gyfrifir ym mhlith meibion Duw, ac y mae eu rhan hwynt ym myfc y Sainct. Am hynny cydnabyddwn amser ein gal∣wad, ac na fyddwn waeth nag ehe∣diaid yr awyr: Y Turtur a'r garan, a'r wennol a gadwant amser eu dyfodiad: Y lla∣furwr a gymmer ei amser: a'r morwr a ddisgwyl am y llanw: moeswch i ninnau hefyd

Page 34

gymmeryd yr amser, a dychwelyd at yr Ar∣glwydd tra y dywedir heddyw. Yr hwn râd Duw ai canniadhâo i ni.

Deuwn bellach at y pedwerydd pwngc ynghylch yr achosion a allent ein cymmell ni i edifarhau. Ac yn hyn mi a nodais naw o bethau enwedigol.

Y mae yn gyntaf Ddirfawr drugaredd a dai∣oni Duw yn ein tywys ni i edifeirwch; fel y dy∣waid y Apost. Rhuf. 2. 4. Y mae Duw beunydd yn ein dilyn ni â'i drugareddau, ac ai gymmwyna∣sau tu ag at ein eneidiau a'n cyrph; nid oes gennym ddim ac sydd dda ar nas derbynnia∣som ganddo ef. Oddiwrtho ef yr ydym yn dal y cwbl ôll ar a feddwn: ac iddo ef yr ydym yn rhwymedig am y cwbl ôll: mawr yw ei drugaredd ef tu ac at ein cyrph: a phòb trugaredd, a chymmwynas tu ag at yr enaid neu'r corph, sydd yn ein galw, a'n gwahodd a'n cymmell ni i edifeirwch. Efe sy yn rhoddi i ni fwyd, a diod, a dillad; y pethau hyn sydd yn ein galw ni i edifeirwch. Efe a'n ceidw ni ar ei gôst ai draul ei hun, ymma ar y ddaiar; hyn a'n geilw i edifeirwch: yr haul, y lloer, a'r sêr a'n geilw ni i edifeirwch: Adar yr awyr, pŷsc y môr, a ffrwythau y ddaiar sy yn llefain arnom yn uchel ac yn llafar, edifarhewch, e∣difarhewch. * 1.1

Page 35

Yr hôll greaduriad sy'n ein cymmell ni i edifarhau: Y mae ein creadwriaeth yn galw arnom, ein prynedigaeth yn llefain, ein sanct∣eiddiad yn curo, a'n etholedigaeth yn ein cynnyrfu i edifeirwch: beth a allai Dduw wneuthur dros ei winllan ychwaneg nag a wna∣eth? o herwydd, hyn edifarhawn.

Yn ail, y mae Barnedigaethau Duw yn ein cymmell i edifeirwch: Canys yr holl fy∣gythion, a'r plâau, a'r cospedigaethau a dy∣walltodd Duw erioed ar bechaduriad anhy∣dyn, o ddechreuad y byd, ydynt gynnifer rhy∣buddion neillduol i'n deffroi o drymgwsc pe∣chod, ac i'n swmbylio i edifarhau.

Megis pan goffausei yr Apostol amryw farne∣digaethau Duw, yn erbyn yr hên Israeliad am amryw bechodau, penderfynu y mae fel hyn, 1. Cor. 10. 11. Yr hôll bethau hyn a ddigwyddasant yn esampl iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar ba rai y daeth diwedd y byd. Ac felly yr holl gospedigaethau yr y∣dym yn darllain am danynt yn yr Scrythy∣rau, ydynt gynnifer rhybudd enwedigol, ac megis rhaffau men i'n tynnu i edifeirwch.

Yr holl ddialeddau yr ydym yn darllain am danynt, neu yn eu gweled, neu yn clywed o honynt bob dydd, ydynt yn curo a dyrnodi∣au trymmion, ac yn taro hyd lawr at ein cyd∣wybodau i'n dwyn ni i edifarhau. Yr a ghen∣filod anferth-lûn, yr awyr-ddreigiau tanllyd, y sêr llosgyrnog, y marwolaethau dysyfyd, y brwdaniaeth angerddol, yr eira rhyfedd-fawr,

Page 36

y llif-ddyfroedd▪ ofnadwy, y rhyfeddodau pellennig, Yr ymrithiadau dieithrol, y bygythiadau yn y Nefoedd oddiarnodd gan fflammau tân yn ymgyrchu, a'r ddaiargryn∣fau tan ein traed, a'n tai goruwch ein pennau yn siglo, fel y gwelsom yn ddiweddar: Pa beth yw y rhai hyn ôll ond megis bachau gorchest, trawstiau a rhaffau, i'n tynnu at yr Argl∣wydd drwy edifeirwch. * 1.2

Yn drydydd, y mae Gair Duw yn ein hwy∣lio ac yn ein galw i edifeirwch: Canys megis yn yr amser gynt, y danfonodd Duw ei brophwydi, yn foreu ac yn hwyr i alw yr Iddewon gwrthryfelgar i edifeirwch; felly y mae efe yn y dyddiau hyn yn anfon y Pre∣gethwyr, a'r cennadon i ganu utcorn ei air, ac i beri bereidd-glŷch Aaron seinio yn eu plith, iw deffroi hwynt i edifeirwch. Eithr sywaeth leied cyfrif a wneir o honynt: Pwy a wrendu ar eu llais: ond diau mai dymma yr ymwared diweddaf a osododd Duw, ac oni chynnyrfa hwn ni i edifarhau, os hwn nis iachâ ni, yna yr ydym yn llwyr efryddion.

Yn bedwerydd yr Anfeidrol nifer o bechodau

Page 37

a wnaethom, a ddylei fod yn gynnifer swmby∣lau yn ein ystlysau i'n cymmell i edifarhau. Di∣gon yw medd (St. Petr.) dreulio o honom yr amser a aeth heibio yn ôl trachwant au y cenbed∣loedd, gan rhodio mewn gwŷn trachwant, meddwdod, glothineb, ymyfed a phob ffiaidd eulyn-addoliad, 1. Pet. 4. 3.

Am hynny madws yw weithian edifarhau. Oh na throe pobl yn ôl i edrych arnynt eu hunain, fel yr oeddynt hwy ddeugain, neu ddêg ar hugain, neu ugain, neu ddêng mhly∣nedd ir awr hon.

Oh na chofient eu pechodau cyhoeddus a dirgel; ac mi a dybygwn y dylei meddwl am danynt, a chofio o honynt, beri iw calonnau waedu yn eu cyrph! O nad ystyrient pa faint o amser a dreuliasant yn ofer, a pha faint o be∣thau daionus a ddarfu iddynt eu hesceuluso, a'u gadael heb wneuthur.

Yn bummed, Byrder ein henioes fy'n galw arnom yn daer am edifarhau. Trwydded ein henioes ni yw dêng mylynedd a thrugain, ac os cyrhaeddwn bedwar ugain mylynedd, yna nid yw ein cryfder ond poen a blinder, canys bu∣an y darfyddwn, ac yr ehedwn ymmaith, medd y prophwyd Dafydd; Ni a dreuliasom ein blynyddoedd megis chwedl, am hynny y dy∣wed: Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau fel y dygom ein calon i ddoethineb, Psal. 90. Ein henioes o herwydd ei byrred, a'i hansiccred a gyffelybir yn yr Scrythyrau i laswellt, i darth, i fŵg, i wennol gwehydd yr hon a rêd ymmaith yn gyflym. Felly y mae dyddiau

Page 38

dynion yn myned heibio ni wŷr undyn pa fodd. Dyn sydd a byrr amser iddo i fyw (medd Iob) ac yn llawn trueni. Yr ym yn gweled beunydd wrth brawf, mai heddyw yn hoyw ddyn, ac y foru yn adyn. Ymmaith oddi ym∣ma y mae yn rhaid i bawb fyned, pa cyn cyn∣ted nis gŵyr neb. Ond nid oes ymma le i hir drigo. Am hynny edifarhwn.

Yn chweched, Leied y nifer a fydd cadwe∣dig a ddylei ein gwythio ni i geifio tynnu ym mlaen i edifarhau. Ymdrechwch i fyned i mewn i'r porth cyfyng: Canys llawer, meddaf i chwi a geisiant fyned i mewn ac nis gallant, medd Crist. Ac mewn man arall y dywed. Cyf∣yng yw'r porth a chul yw'r ffordd sydd yn arwain i fywyd, acychydig ydynt yn ei gael. Pe bae ddy∣nion yn ystyried hyn, fe wnai iddynt edrych yn well o'u hamgylch, a'u profi eu hunain a ydynt hwy o'r rhifedi bychan hwnnw, ai nad ydynt.

Yn seithfed, Y mae Angeu yn ein bygwth, yr hwn sydd osnadwy i'r cnawd, a meddwl am farw sydd chwerw iawn i ddyn a fae wedi ymroi i feluswedd y byd. Ni wenhieithia Angeu i neb; ni pharcha vndyn; ni wna gy∣frif o gyfeillach vn-gŵr: Nid oes ganddo bris am wobran, y mae yn gethin iawn, yn anferth, yn greulon, ac yn llâdd yn farw lle y tarawo: Am hynny edifar∣hawn.

Yn wythfed, Dydd y farn, ac ail ymddan∣gosiad mab y dŷn a ddaw fel lleidr y nôs; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio mewn trŵst, a'r defnyddiau a doddant gan wrês, a'r ddaiar,

Page 39

a'r gwaith sydd arni a loscir. Am hynny gan orfod ir pethau hyn fod felly, pa fâth ddynion a ddylem ni fod mewn ymarweddiad sanctaidd, a duwioldeb, 2 Pet. 3. 10, 11. Yr Arglwydd Iesu: a ymddengys o'r Nefoedd mewn tân fflamllyd, a'i Angelion nerthol gyd ag ef, i roddi dial ar y sawl nid adwaenant Dduw, ac nid vfyddhànt i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, 2 Thes, 1. 7. 8. Mi a welais (medd St. Ioan) Orseddfa wen fawr, ac vn yn eistedd arni, o wydd yr hwn y ffôdd y ddaiar, a'r Nefoedd, a'u lle ni chafwyd mwy. Ac mi a welais y meirw, mawrion a bychain yn sefyll o flaen Duw, a'r llyfrau a agorwyd, a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd, a'r meirw a farnwyd am y pethau oedd scri∣fennedig yn y llyfr au, yn ol eu gweithredoedd: a'r môr 'a roddes i fynu y meirw oedd ynddo, a marwolaeth ac vffern a roddasant i▪ fynu y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob vn yn ol eu gweithredoedd Datc. 20. 11, 12, 13.

Nyni a welwn yn y lleoedd ymma mor ddifymmwth, mor ofnadwy, ac mor ogo∣neddus fydd dyfodiad Crist. Oblegid ni ddaw efe yn dlawd, ac yn ddirmygus megis yn ei ddyfodiad cyntaf, eithr efe a ddaw yn frenhinawl, yn Ardderchawg, ac yn or∣folaethus, er dychryn mawr iw elynion, pan fo tân yssol yn myned oi flaen ef, a myrdd fyrddiwn o Angelion yn ei wasanae∣thu; pan fyddo Brenhinoedd y ddaiar, a'r

Page 40

pendefigion, a'r cyfoethogion, ar Pen-cap∣teniaid, a'r cedyrn, a'r caethion, a'r rhyddi∣on yn ymguddio mewn llochesau, ac ym mysc creigiau y mynyddoedd, ac yn dywe∣dyd wrth y creigiau a'r mynyddoedd, fyr∣thiwch arnom, a chuddiwch ni o wydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfa, a rhag llid yr oen: canys dydd mawr ei lid ef a ddaeth, a phwy a ddichon sefyll. Am hynny edifarhawn, Date. 6. 15.

Y peth olaf yw Poenau vffern, nâ'r rhain nid oes dim mor annioddefadwy. Am hynny y dywed Christ, Os bydd dy law i'th rwystro torr hi ymmaith; gwell i ti fyned i fywyd yn vn llawiog, nag a chennit ddwy law fyned i vffern, ir tan anniffoddadwy, lle ni bydd marw y prŷf, ac ni ddiffoddy tan Mar. 9. 43. 44. Ofnadwy i'n synhwyrau ni y mae'r Scrythy∣rau yn llefaru am gyflwr y rhai colledig, gan ei gyfenwi yn dân vffern, yn ddamnedigaeth, yn bwll yn llosci o dân a brwmstan yn dragy∣wydd. Ym Mhrophwydoliaeth Esay, y gelwir eu cyflwr hwy Tophet wedi ei pharatoi er doe ai pharatoi i'r Brenin; efe ai dyfnhaodd yn ehang, ei llosciad yw tân a choed lawer, ac anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan yn ei hennyn Esay. 30. 33. Yr ymadroddion hyn ydynt ofnadw y ynddynt en hunain, ac yni peri i ninnau synnu yn aruthr.

Eithr pe rh•••• a bod gennif dafodau cant o wŷr, nagê cant o Angelion, er hynny ni allwn i adrod pa fath boenau y caiff rhai ryw ddydd

Page 41

ddioddef, chwaethach gallu o honoch chwi eu dirnad hwynt. Pe bae yr holl arteithiau, a'r poenedigaethau creulonaf a allei synwyr dyn eu dychymmig, wedi eu gosod ar ryw vn dyn, etto nid yw hynny ddim wrth boenau vffern. Nyni druein a dybygwn nad oes dim poen iw gyffelybu ir tostedd, neu grŷd angerddol: ond pe bai bossibl i bob mâth ar dostedd, pôb rhyw grŷd, a phôb mâth ar glefydau dieithr allu dy∣fod, a tharo ar vn dyn, ni byddei y cwbl yng∣hyd ond megis pigiad chwanen wrth y boen sydd i ddyfod. Y boen honno sydd ddiddiwedd, ddiseibiant, a diymwared. Dyddiau eu poe. nau vffernol ni wisc allan byth, ac ni dderfydd eu blynyddoedd: pa hwyaf y parhânt lleiaf fydd eu gobaith, pan elo heibio gynnifer o flynyddo∣edd ac sy o ddynion yn y byd, a sêr yn y Nefo∣edd; Pan ddiweddo cynnifer mîl o flynyddoedd, ac sydd o gerrig, a thywod ar lan y môr, er hyn y mae etto ddêg can mil o weithiau gynnifer a hynny ychwaneg i ddyfod. Y rhai ni chynnyrfir dim arnynt yr awrhon wrth wrando, y gânt eu malurio yn gandryll y prŷd hynny yn dioddef. Yr hôll feddwon, a'r tyngwyr, y putteinwyr, a'r occrwyr, y breibwyr, a'r celwyddog, y gwawd∣wŷr, a'r dirmyg-wyr, y rhai difraw a'r rhyfy∣gus, y gloddest wyr, a'r rhuad-wyr, y rhai penhoeden, a'r hôll rai anghredadwy am ben hyn, a ddyfynnir, a ddelir, ac a fernir ryw ddydd ger bron gorseddfaingc Duw, lle y bydd mawrhydi Duw yn sefyll oddi arnynt, ac yn ei law gleddyf noeth o ddialedd, a theyrn∣wialen cyfiawnder: Diafol, yr hên Sathan

Page 42

a faif ar y naill du iw cyhuddo: ai cydwybo∣dau eu hunain ar y tu arall iw condemnio: A safnrhwth ddiffwys vffern oddi tanodd yn agored iw llyngcu yn dragywydd. Yna y dat∣cenir iw herbyn y farn ofnadwy o felldith, a damnedigaeth tragwyddol, ewch chwi felldige∣dig i dân vffern, &c. Yna yr yfant (megis cyfi∣awn daledigaeth am ei hanwiredd) o gwppan chwerw llid tragwyddol, a digofaint Duw yn nheyrnas y tywyllwch, ac yn ddychrynllyd wydd Satan, a hôll felldigedig elynion grâs Duw, lle y dadseinia bŷth yn eu clūstiau alae∣thus vtcorn digofaint Duw; Lle y bydd byth wylofain a rhingcian dannedd; lle y bydd gwradwydd, a gwae, a galarnad didrangcedig; eu gwewyr fydd cyn dosted, a'u gofidiau cyn drymmed hyd oni bônt yn yscyrnygu dannedd fel cŵn yn eu penydiau vffernol, gan vdo, a lle∣fegor; Gwae fi, ac ôch finnau erioed fyngeni! Oh na buaswn heb fyngeni, neu nas escorasai fy mam fi yn llyffant: canys felly y buasai well fyn ghyflwr nag y mae: melldigedig oedd yr am∣ser im ganwyd ynddo, yr awr i'm cenhedlwyd, ar diwrnod y sugnais fronnau fy mam: Melldige∣dig oeddwn erioed, melldigedig ŵyf, a melldige∣digfyddaf bytb. Gwae fi, gwae fi faint yw fy mhoenau! Pwy ni thoddei ei galon: pwy ni ferwinei ei glustiau: pwy ni chodei ei wâllt yn ei sefyll wrth glywed y pethau hyn: Am hynny, frodyr anwyl edifarhawn. Onid all trugaredd Dduw ein denu ni, gedwch iw farnedigaethau ef ein hofni: Onid all ei farnedigaethau ef yn dychrynu, gedwch iw air ein cynnyrfu ni:

Page 43

Onid all ei air ef ein cynnyrfu, gedwch i'n pechodau beri i ni synnu: Onid all ein pecho∣dau beri i ni synnu, gedwch i fyrder ein henioes ein lliasu, onid all byrder ein henioes ein lliasu, gedwch ir ychydig rifedi a fydd cadwedig ein cyffroi ni: onid all hynny ein cyffroi ni, gedwch i farwolaeth ein gwlltio ni: onid all marwola∣eth ein gwlltio ni, gedwch i ddydd y farn ein hyscwyd ni, os hynny ni'n hyscwyd ni, dryllied a rhwyged poenedigaethau vffern ni yn chwilf∣riw! Canys yn ddiau fy mrodyr, oni thyccia yr un o'r rhai hyn, onid edifarhawn er hyn i gŷd, ond bod yn gyndyn, yna fe an collir ni ôll, ac a'n demnir yn ôl geiriau Crist.

Bellach awn rhagom i ymmadrodd am y pethau sy'n rhwystro, ac yn lluddias edi∣farhau: y rhai mewn gwirionedd er eu bod yn annifeiriol, etto ar hyn o amser mi a amlygaf saith rhwystr neu attal, yn lluddias i edifeir∣wch.

Y cyntaf yw Anghrediniaeth, sef pryd na choelia dynion y pethau a ddywedir, ac a brofir allan o air Duw. Dyna 'r peth sy'n peri chwdu i fynu bôb peth da, ac yn gwen∣wyno dŷn oddifewn, ac yn cadw pôb rhadau daionus oddiwrthym, fel y mae yn amlwg, Mat. 13. 58. Ni wnaeth efe nemmawr o weithredoedd nerthol yno o herwydd eu hang∣brediniaeth hwynt. Ac wrth yr Hebreaid y dywedir. Iddynt hwy y pregethwyd yr E∣sengyl megis i ninnau: eithr y gair a glywsant ni bu fuddiol iddynt, o herwydd nad oedd

Page 44

wedi ei gymmyscu a ffydd yn y rhai ai clyw∣sant Heb. 4. 2. Felly nyni a welwn ymma er maint a glywom, oni bydd gennym ffydd gredu, na chawn ddim llesâd oddiwrtho i e∣difeirwch: Canys anghrediniaeth a dynn ein calonnau at y Cythraul, ac a wrthid bob pûr athrawiaeth iechydwriaeth, ac a galeda ddy∣nion mor ddiwin yn llwybrau pechod, hyd o∣nid elont ar y diwedd yn ddiofal-frŷd, ac mor ddiglyw, ac na ellir cynnyrfu arnynt y dim lleiaf, nac â barnedigaethau, nac á thru∣gareddau Duw, ond cyfrif y naill a wnant megis rhuthrau gwŷnt yn chwythu, a chym∣meryd y llall yn escus i ddilyn eu brynti Chwi a gewch weled rhai, pan glywant argyoe∣ddi eu pechodau allan o air Duw, a phrofi oddi yno fod damnedigaeth yn wir ddyledus iddynt, oddi eithr edifarhau o honynt ar frŷs a dorrant allan ir cyfryw ymadrodd a hwn y tueddu i anghrediniaeth: Os yw y pethau hyn (meddant) fel y dywed efe, Duw a'n helpio gobeithio nad felly y mae: y mae gennif hy∣der yr ymdarawafi tra fo gennyf ffydd dda yn Nuw, a bod heb ddrygu neb. Ai rhaid mi golli fy nigrifwch, a'm mantais er eu gei∣riau hwynt? Ai tybied y maent na bydd neb cadwedig, onid a darlieno yr Scrythyrau, ac a wrendu ar bregethau? Na atto Duw na by∣ddo cadwedig y sawl nid ynt yn gwrando prege∣thau yn gystal a hwythau: paham, oni ddi∣chon dyn gartref yn ei dŷ ei hun, a chan∣ddo lyfrau da, a gweddiau da wasanaethu Duw yn gystal ac o ddyfod ir eglwys i wran∣do

Page 45

pregethau, a gwasanaeth? Sywaeth, y mae y cyfryw ddynion yn sesyll gormod yn eu goleu eu hunain, ac yn dangos pa ffoledd, ac anwybodaeth sydd ynddynt. Oblegid a ydynt hwy yn bwriadu bod yn gadwedig drwy foddion eraill, amgen nag a ordeiniodd Duw? neu pan osododd Duw ar lawr ryw-beth yn ei air, a rônt hwy yn erbyn hyn, ac felly gwneuthur Duw yn gelwyddog? Darfyddo i Dduw vnwaith yspysu rhyw beth, ai brofi yn eu hwynebau, a wrthebant hwy er hynny? wedi dywedyd o Dduw i ni mai pregethiad y gair yw cyffredin gyfrwng ein iechydwriaeth, a obeithiwn ni fod yn gadwedig er i ni wrthod y gair, neu fod heb ei wrando, or hyn lleiaf ei wrando yn anfynych? Ond anffyddlondeb hynod, ae anghrediniaeth yw hyn, sef pan ddy∣wedo Duw ie, ninnau a ddywedwn nagê, go∣beithio nad felly? Ie yn ddiau dyna 'r peth sy yn attal, ac yn lluddias y ffordd rhag my∣ned at radau Duw, ac yn ein cau ni allan o∣ddiwrth edifeirwch.

Yr ail rhwystr yw Rhyfygu o drugaredd Duw: Oblegid os ceryddir dynion yn llym am eu pechod, a'u hannog i edifeirwch, yn y man hwy a siaradant yn hoccedus gan ddywe∣dyd: Y mae Duw yn drugarog: y mae Duw yn drugarog: Megis pe bae Duw yn drugaredd ôll, ac na bae ynddo ddim cyfiawn∣der: ac felly y mae yr annuwiol yn gwneu∣thur trugaredd Dduw yn achlysur i bechu. Yr hyn beth y mae y prophwyd Nahum(1.3) yn ei geryddu yn llym: Yr Arglwydd(medd

Page 46

efe) sydd hwyrfrydig i ddigofaint, eithr y mae efe yn fawr ei allu, ac ni ddieuoga efe y dry∣gionus. Ond o herwydd i mi grybwyll o blaen am ryfygu yn nhrugaredd Dduw, a gam-arfer, mi a af trosto yr awrhon, gan ewyllysio i chwi ei nodi, a dal sulw arno, ma un o'r rhwystrau hynod i edifeirwch.

Y trydydd rhwystr yw siampl y lliaws Canys hynny sydd yn cefnogi, ac yn hyfhau dynion i bechu: megis pan fo llawer o adar wedi ymgasclu yn fintai, hwy a darawant a y rhwyd yn ddiarswyd; ond vn neu ddau ar eu pennau eu hunain fyddant ofnus: felly esamplau llawer o bech-gyfeillion, a wnant i ddynion redeg yn hyderus drwy faglau Satan heb arswydo, nac ammeu dim: Am hynny y dywedir yn Exodus 23. 2. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg. Dymma 'r peth sydd yn lluddais llawer tros ben i fyned at Dduw▪ Canys nid edrychant vn amser i fynu a Dduw, nac ar ei air, ond craffu a wnant a esamplau y byd, a pha beth y bydd y rhan fwyaf yn ei wneuthur, gan dybied, os gwnant hwy, fel y mae pawb gan mwyaf yn gwneu∣thur, neu fel y gwnaeth eu tadau, au teidiau or blaen, eu bôd yn ddigon diogel, ac yn sefyll ar dîr gwastad. Ac o hyn y cyfyd eu diha∣reb gythreulig, Gwnewch fely gwnelo y rhan fwyaf, a llai a ddywed yn ddrwg am danoch: Eithr abrgofi a wnaethont yr hyn a ddywed S. Paul na chydymffurfiwch â'r byd hwn. Rhuf. 12. 2.

Y dynionach hyn, y rhai a safant ar lawe∣roedd

Page 47

a lluosogrwydd, a ymresymmant fel hyn: ni welwn ni neb o rai mawrion y byd, neb o'r pendefigion, neb o'r cyfoethogion, neb o'r doethion, a'r Synhwyrol yn derbyn yr athrawiaeth hon, ond yn vnig ychydig ffar∣dialach, a rasclach rheidus-lawn, a hyn sydd arwydd na thâl yr athrawiaeth ddim, ac mai amheus ydyw, ac nid peth i ni i ymgymmyr∣redd ag ef. Wele pa feddyliau a ddichon ymlithro i'n pennau: ac mor hoccedus y di∣chon Satan osod rhwystr ar ein ffordd, a gor∣chguddio ein llygaid, a'n harwain yn y tywyll drwy ein pendafadu ag esampl y lliaws. Am hyny gochelwn y pridddyllau hyn a gloddiodd Satan ar ein ffordd, ac na oddefwn ein tynnu ymmaith â'r meddyliau, ac â'r rhesymmau hyn. Y diygionus ydynt ddigon hyderus mai hwynt hwy piau 'r bêl, mai hwynt hwy sy yn ennill y gynglwyst, ac nid oes dim ond canu fel ceiliogod cyn ei bod hi yn ddydd; a gorfoleddu yn fawr yn eu plith hwynt cyn taro vn dyrnod; a hynny o herwydd nad y∣dym ni ond dyrned o bobl, a hwynt hwy yn fintai anfeidrol; a bod yr hôll fŷd gan mwy∣af yn cyttuno ag hwynt i'n llâdd ni. Mal hyn y mae Diafol yn bwrw niwlen tros eu llygaid, ac yn eu har wain ymmaith yn lledradaidd oddiwrth edifeirwch. Am hynny (frodyr anwyl) safwn yn ddisigl yngair yr Arglwydd, ac nad ymroddwn i adael ein dwyn i wared gyd â chefn lli, a ffrŵd y lliaws; ond gwy∣byddwn fod hynny yn vn o ddichellion y cy∣thraul, i'n gyrru ni oddiwrth edifeirwch.

Page 48

Y pedwerydd rhwystr i edifeirwch yw Hir Arfer o bechu. Canys hynny sydd yn tynnu ymmaith bôb achreth, a chwithdod o bechod, at yn ei wneuthur megis yn ail natu∣riaeth, ac yn ddi-chwith; yn gymmant a bod cyn hawsed i ni newidio naturiaeth, ac yma∣dael a phechod, darfyddo iddo vnwaith ym∣gyfansoddi, a myned yn vn a ni drwy hir ar∣fer. Am hyn y dywedir Jer. 13. 23. A newidia 'r Ethiopiad ei groen? neu 'r llew∣pard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneut hur da y rhai a gynefinwyd a gwneu∣thur drwg. Yno y mae y Prophwyd yn dirio arnom, mai cyn anhowsed yw iacháu hên ddo∣lur a fagwyd yn yr escyrn, ac ymlanhau o∣ddiwrth bechod a anwyd, ac a fagwyd gyd a ni, ac ydyw golchi Ethiopiad yn wynn, a newidio brythni y llewpard: yr hyn beth nis gellir mo'i wneuthur heb ddinistrio naturia∣eth. Ac yn ddigelwydd, profed y neb a fyn∣no, efe a gaiff weled cyn anhawsed ymadael â hên gynnefin arfer, pa vn bynnag ai o dyngu, o chwareu, o ddywedyd celwydd, o butteinio, o ddrwg cymdeithas, neu ryw bechod arall, ac ydyw golchi Ethiopiad yn wynn. Am hyn∣ny yr scrifennwyd, Er i ti bwnnio ffol mewn morter ym mhlith grawn: etto ni ymedu ei ffolineb ag ef, Dihar. 22. 27. Yn gym∣maint ag tra fom yn cadw arfer ar bechu, drws edifeirwch a gaewyd i'n her∣byn.

Y pummed rhwystr yw Diangc heb gos∣pedigaeth, Canys felly y mae yr annuwiol yn

Page 49

caledu yn eu pechod, ac yn myned yn ddidd∣rbod am edifarhau: megis hên leidr a fai gyn∣efin a lledratta er ys talm o amser, ac wedi diangc rhag y carchar a'r crog-bren fydd yfach ar ei ddrwg, gan dybied y caiff ddi∣angc rhag llaw: felly llawer o ddrwg fuche∣ddwyr aflan a ddilynant hên helynt eu ffieidd∣dra yn ddiedifarus, gan feddwl, o herwydd nad ydyw Duw yn eu cospi yn ebrwydd, ac yn dwyn arnynt amryw ddialeddau, ac arwy∣ddion o'i lid, y cânt eu rhyddhau, a bod yn ddiangol byth. Lle yngwrthwyneb i hyn, pe tarawei Dduw hwynt i lawr yn y man cyn gynted ac y pechent, drwy saethu taranau at y naill, a mellt at y llall, a glawio tán a brwmstan ar y trydydd, fe barei hyn iddynt ofni. O herwydd hyn y dywedir yn S. Petr 2 Ep. 3. 3. hyn gwybyddwch yn gyn∣taf, y daw yn y dyddiau diweddaf watworwyr, yn rhodio ar ol eu trachwantau eu hunain, ac yn dywedyd: pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef, canys er pan fu farw y tadau; y mae pob peth yn parhau yn yr vn ffunyd o ddechreuad y crea∣dwriaeth.

Eithr bydded hyspys ir gwŷr hyn darfy∣ddo i Dduw oedi tros hir amser, a gohiri trwy∣dded y drygionus, yr ymddengys efe ar hynt (neu mewn amser) mal er ei fod yn hîr∣ddisgwyl am eu hedifeirwch, etto nid anghofiodd eu camweddau hwynt, ond y maent yn scrifennedig mewn llyfrau coffadw∣riaeth ger ei fron ef, ac wedi eu yscafnu yn

Page 50

ben-twrr mawr i chwanegu dychryn ei ddi gofaint.

Y chweched rhwystr yw dal sulw ar ddi wedd rhai eraill. Canys pan fae rhai o' sawl a fuont yn byw yn ddrygionus, ac y ymroi i helyntiau anraslon, gan ddilyn y pe∣chodau dygnaf yngolwg y byd, nes bod pawb yn estyn bŷs attynt, er hynny, ar eu claf wely yn adrodd ychydig eiriau da, ac yn galw a Dduw am drugaredd, gan ddywedyd e gweddiau, a maddeu ir holl fyd, a felly marw yn llonydd, peth rhyfedd yw clywed sôn pa ganmol a wna ffyliaid y byd arnynt, pa gy∣fiawnhau, gan ddywedyd: efe a wnaeth ddi∣wedd da tros ben yn gystal ac y gallei vndyn ei wneuthur: e fu farw cyn llonydded a' oen, fe osododd ei bethau mewn trefn dda cyn ei farw.

O hyn y cymmer diffeithwr, ac annuwiol ddyn arall achlyssur a bwriad i bechu: cany meddwl a wna fel hyn: Y gŵr a'r gŵr oedd cynddrŵg ei fuchedd a minneu, neu ac vndyn arall, ac etto efe a wnaeth ddiwedd odiaeth, a phaham na allaf finneu wneuthur felly? Eithr y mae llygaid y dynion hyn wedi cibddallu sy∣waeth; canys narw yn llonydd nid yw bôb am∣ser marw yn dduwiol. Llefain am drugaredd Dduw er mwyn dilyn arfer, neu lenwi llygaid y byd, nid yw yn cael Duw yn drugarog: adrodd ychydig weddiau ar flaen y tafod nid marw yn y ffydd ydyw: canys y mae llawer yn gwneuthur y pethau hyn, ac er hynny yn marw yn ressynol.

Page 51

Yr olaf yw Gobeithio byw yn hir: Canys tra fyddo dynion yn ymfodloni yn y gobaith ymma, ymbendafadu y maent mewn pechod, ac oedi a wnant ddydd eu hedifeirwch, fel y gŵr goludog, Luc, 12. Yn breuddwydio am fyw yn hir, ni feddyliodd am Dduw, nac am y bywyd arall, nac am ddyfodiad Crist, a phôb daioni, ond dywedyd ynddo ei hun: O enaid y mae gennit ddigon o dda wedi ei dryssori tros lawer o flynyddoedd, cymmer y bŷd yn es∣mwyth, bwytta, ŷf, bydd lawen.

Mal hyn y bydd coeg-ddeillion y byd hwn yn tagu edifeirwch, gan ei sychmyrnio drwy ymffoli a gobaith o fyw yn hir. Am hynny fy mrodyr anwyl, yr wyf yn attolwg i chwi er tru∣gareddau Duw yn ymyscaroedd Jesu Grist, na chaffo yr vn o'r rhwystrau cyffredin hyn eich attal rhag edifarhau yn ddioed, ac yn ddira∣grith, ond treiddio o honoch yn gefnog trwy 'r cwbl, rhag yscatfydd os delir chwi heb edi∣feirwch, a'ch goddiweddyd yn eich pechodau, eich condemnio, a bod o honoch yn golledig yn ôl barn Crist.

O herwydd paham i benglymmu y cwbl, ar∣swydwn fel y gwnaeth Ezechias wrth glywed bygythion Duw, ymdristawn ym mlaenllaw, ofnwn Dduw, holwn ein cydwybodau, gala∣rwn am ein pechodau, ac ymofidiwn oddi∣fewn, a deuwn at Dduw trwy Iesu Ghrist gan gredu ynddo, ac ymroddi i wir ufyddhau iddo, mal pan ddêl yr amser ir drygionus, y rhai fuont yn ymrwyfo mewn meluswedd ym∣ma ar y ddaiar, fyned iw poenau tragwyddol,

Page 52

y gallom ni y prŷd hynny gael tangnheddyf tragwyddol, a gorphwystra:

Fel pan ymddangoso Iesu Grist o'r Nefoedd gyd a'i holl Angelion, y caffom goronau gogo∣niant, a theyrnasu gyd a Duw, a'n Hachubwr ei fâb, a'r holl Saint, a'r Angelion ynghanol pôb llawenydd yn y Nefoedd byth bythoedd. Ir hwn lawenydd efe a'n dygo ni ôll, yr hwn cyn ddrutted a'n prynodd, sef Iesu Grist y cy∣fiawn: Ir hwn gyd a'r Tàd, a'r Yspryd Glân y byddo pôb anrhydedd, gogoniant, mo∣liant, gallu, ac Arglwyddiaeth, y prŷd hyn, ac yn dragwyddol.

Amen.
DIBEN.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.