Page [unnumbered]
Am yr Orddiganau.
ORddiganau ŷw'r fforchau, neu'r Cappiau bychain a fŷdd weithiau uwchben y bogeiliaid cymraeg; megis ym∣ma, â ê î ô ŵ ŷ.
Pan gyfarfyddo 'r darllennŷdd (wrth ddarllain) a gorddi∣ganau uwch-ben y bogeiliaid, bŷdd rhaid iddo estŷn sŵn y bogeiliaid yn hirllaes; fel yr eglurir yn hytrach iddo drwŷ'r ychydig eiriau sŷ'n canlŷn.
Glan neu glan y dŵr. Glân neu hawddgar.
Gwen neu henw merch. Gwên neu chwerthinniad.
Ber neu goes. Bêri rostio cig.
Tin neu fettel. Tîn neu grwpper.
Cor neu ddŷn bŷr. Côr neu feudŷ.
Twr neu swp. Tŵr neu gastell.
Pan fô gorddigan neu fforch gappan uwch-ben [ŷ] yno bŷdd rhaid synnio [ŷ] megis [u] fel yr addŷsga'r ychy∣dig eiriau sŷ'n canlŷn.
Bŷdd, Dŷdd, Sŷdd, Newŷdd, Beunŷdd, Celfŷdd, &c. Ond y prŷd na bô gorddigan uwch ben [y] bŷdd rhaid synnio [y] mewn ffordd arall, megis yn y geiriau hŷn sŷn canlŷn.
Byddant, Dyddiau, Beunyddiol, Celfyddgar, Cyfryng∣dod, &c.
Pan fô [ŷ] yn gynta llythyren o'r sylaft ddiweddaf mewn gair; yno (heblaw amriw o fannau eraill) bŷdd rhaid syn∣nio [ŷ] megis [u.]
Nid oes mewn un llyfr cymraeg mo'r orddiganau uwch-ben y bogeiliaid cŷn amled ag eu dylent fôd; oblegŷd fôd eisieu 'r fâth lythyrennau ar yr Argraphyddion; ac nad ellir mo'u cael heb gôst fawr.
I mae orddiganau yn amlach yn y llyfr hwn, nag a gwelais i hwŷnt mewn un llyfr arall erioed o'r blaen; Ac etto nid ydŷnt cŷn amled ymma ag eu dylent fôd (yn enwedig) uwch-ben [y.]
Os ŷw [ŷ] yn synnio fel [u] paham na wasanaetha [u] yn lle [ŷ] yn y mannau hynnŷ?