Gweddiau i'w dywedyd gan rai priodol.
Duw, yr hwn drwy dy Alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddim ddefnydd, yr hwn hesyd, wedi gosod pethau eraill mewn trefn, a ordeiniaist allan o ddyn (yr hwn a grewyd ar dy lûn, a'th ddelw dy hun) gael o wraig ei de∣chreuad▪a chan eu cyssylltu hwy ynhyd yr arwyddoceaist na byddei byth gy∣freithlon wahanu y rhai trwy briodas a wnelyt ti yn un▪o Dduw yr hwn a gysse∣graist ystad briodas i gyfryw ragorawl ddirgeledigaeth; megis ac yr arwydd∣oceir ac y coffeir ynddi y Briodas ys∣prydol a'r undeb rhwng Crist a'i E∣glwys. Edrych yn drugarog [arnafi * a'm gwraig a chaniadhâ fod i mi ei charu hi yn ol dy air (megis y carodd Crist ei Bri∣awd yr Eglwys, yr hwn a'i rhoes ei hu∣nan Page 12 drosti gan ei cha∣ru, a'i mawrhâu, fel ei gnawd ei hunan) a hefyd ei bod hi∣theu yn garuaidd, ac yn serchog, yn ffydd∣lon ac yn ufudd i mi, ac ymhob heddwch, sobrwydd, a thangneddyf, ei bod yn can∣lyn sanctaidd a duwiol wragedd. Ar∣glwydd bendithia ni ein dau, a chani∣adhâ i ni etifeddu dy deyrnas dragywy∣ddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, fel ac y bu i Isaac a Rebecca fyw yn ffyddlawn ynghyd, felly gallu o honom ninnau gyflawni a chadw yr adduned a wnaed rhyngom, a gallu o honom byth barhâu mewn perffaith gariad a thangneddyf, a byw yn ol dy ddeddfau trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Har∣glwydd. Edrych arnom, Arglwydd, yn drugarog o'r nefoedd, a bendithia ni, ac fel yr anfonaist dy fendith ar A∣braham a Sara, i'w mawr ddiddanwch hwy: felly bîd gwiw gennyt anfon dy fendith arnom, modd y bo i ni (yn ufudd i'th ewyllys, a chan fod bob amser dan Page 13 dy nawdd) allu aros yn dy serch hyd ddiwedd ein bywyd. Duw Tad, Duw Fâb, Duw Yspryd glân, bendithia, cadw a chymmorth ni: edrych, o Arglwydd, yn drugarog ac yn ymgeleddus arnom; ac felly cyflawna ni a phob ysprydol fendith a rhâd, môdd y gallom felly fyw ynghŷd yn y fuchedd hon, fel y bo i ni yn y bŷd a ddaw allu meddiannu by∣wyd tragywyddol.