Gweddiau yn yr ystafell, i'w harferu gan bob Cristion defosionawl. Wedi eu casclu allan o'r cydymmaith goreu, gan awdwr yr unrhyw.

HOll-alluog Dduw, Nefol Dâd, yr hwn a'm gwahoddaist i heddyw i'th fwrdd sanctaidd, llê y ministrir tra∣chyssurus Sacrament corph a gwaed Crist, i'w dderbyn er coffâu ei ryglydd∣us Grôg a'i ddioddefaint, trwy ba un yn unic y cawn faddeuant am ein pechodau, ac i'n gwneir yn gyfrannogion o deyr∣nas Nef: yr wyf yn talu i ti ufudd a ffyddlawn ddiolch am roddi dy Fâb ein Iachawdwr Iesu Grist, nid yn unic i farw trosom, eithr i fôd hefyd yn ym∣borth a lluniaeth ysprydol i ni yn y Page  32 Sacrament bendigedig hwnnw. Yr hyn beth gan ei fôd mor dduwiol a chys∣surus i'r sawl a'i derbyniant yn deilwng, ac mor embydus i'r rhai a ryfygant ei dderbyn yn annheilwng; myfi yn ostyng∣edig a attolygaf i ti roddi i mi râs i wîr ystyried ardderchowgrwydd y dir∣geledigaeth bendigedic hwnnw, a'r mawr berygl o'i dderbyn yn annheil∣wng; ac hefyd i chwilio a phrofi fyng∣hydwybod fy hunan, (a hynny nid yn yscafn ac yn ôl dull rhai yn rhagrithio a thydi ein Duw, ond) felly fel y gall∣wyf ddyfod yn lân ac yn sanctaidd i'r cyfryw wledd nefol yn y wisc-briodas yr hon a ofyn Duw yn y 'Scrythur lân, a chael fy nerbyn megis cyfrannog teilwng o'r bwrdd bendigedig hwnnw. Caniadhâ hyn ô Arglwydd, er mwyn yr unrhyw dy Fâb Iesu Grist ein Har∣glwydd.