Gweddiau yn yr ystafell, i'w harferu gan bob Cristion defosionawl. Wedi eu casclu allan o'r cydymmaith goreu, gan awdwr yr unrhyw.
Page  24

GWEDDIAƲ tros eich Plentyn Claf.

HOll-alluog Dduw a thrugaroccaf Dâd, i'r hwn yn unic y perthyn dibennion bywyd ac angeu; edrych i lawr o'r Nef, yn ostyngedig mi attoly∣gaf i ti, a golygon dy drugaredd ar fy mhlentyn, y sŷdd yr awrhon ar ei glâf∣wely, ymwel, ô Arglwydd, ag ef a'th iechydwriaeth, gwared ef yn dy node∣dig amser dâ o'i boen gorphorol, ac a∣chub ei enaid er mwyn dy drugareddau. Os bŷdd dy ewyllys estyn ei ddydd∣iau ymma ar y ddaiar, y byddo iddo fyw i ti, a hyfforddio dy ogoniant, gan dy wasanaethu yn gyfion, a gwneuthur daioni yn ei Genedl; os amgen der∣byn ef i'r preswylfêydd nefol hynny, lle y mae Eneidiau y sawl a hunant yn yr Arglwydd Iesu yn mwynhâu an-orphen orphwysfa a dedwyddwch. Caniadhâ hyn, Arglwydd, er dy drugareddau yn yr unrhyw dy Fâb di, ein Harglwydd ni, Iesu Grist, yr hwn sŷdd yn byw ac yn teyrnasu gydâ thi a'r Yspryd glân byth yn un Duw, heb drangc na gor∣phen.

Amen.
Page  25

AMddiffyn, o Arglwydd, fy mhlen∣tyn a'th râs nefol, fel y byddo iddo barhâu yn eiddot ti byth, a pheu∣nydd gynnyddu yn dy Yspryd glân fwy∣swy, hyd oni ddêl i'th deyrnas dragy∣wyddawl.

Amen. Ein Tâd, &c.