Page [unnumbered]
DEONGLIA•• BREUDDWYDION.
Breuddwŷdion Ynghŷlch Ganedigaeth.
OS Breuddwŷdia Dŷn tylawd, ei fôd yn dyfod allan o grôth neu fol Gwraig, efe a geif gyfoethogrwŷdd, neu gyfeillion a'i cadwo, neu a'i maentimmio ef.
Os Breuddwŷdia Crefftwr ei fôd yn dyfod allan o'r Brû neu grôth gwraig, y breuddwŷd hwn sŷ'n arwŷddo y bŷdd arno ef eisieu gwaith,
Os Breuddwŷdia y Cyfoethog ei fôd yn dyfod allan o'r grôth, i mae hynnŷ yn rhag ddangos, na cheiff ef ddim rheoleth yn y tŷ lle a bŷddo ef; Ond eraill a'i meistrola ef yn erbŷn ei ewŷllŷs.
Os gŵr na bô ei wraig yn feichiog a freuddwŷdia ei fôd yn dyfod allan o'r grôth; I mae'r breuddwŷd yn arwŷddo a colliff ef ei wraig.
Ond os gŵr a bô ei wraig yn feichiog a freudd∣wŷdia ei fôd ef yn dyfod allan o'r grôth, mae hynnŷ yn arwŷddo a ceiff ef Fâb tebŷg iawn iddo ef ei hun.
I gampwŷr ac ymladdwŷr, y breuddwŷd hwn sŷdd ddrwg.
Os gŵr pan fyddo ef oddicartref neu allan o'i