AWST. 1688.
- Y Lleuad sŷdd yn
- Llawnlloned y dŷdd cyntaf, Cŷn 6 o'r prŷdnawn.
- 3 chwarter oed yr 8 dŷdd, Cyn 9 y boreu.
- newidio y 15 dŷdd, arol 9 or nôs.
- un chwarter oed y 24 dŷdd, Cŷn un y boreu.
- llawnlloned yr 31 dŷdd, rhwng 2 a 3 y boreu.
Yn y mîs hwn (os rhŷdd eich Cynhauaf gennad i chwi) heuwch eich llysiau gauaf ar y chwarter Cyntaf o'r lleuad, heliwch eich hâd gerddi ychydig Cyn y llawnlloned.
Gweddeidd-dra neu ysgafnder o fwŷd sŷdd oreu yn y mîs hwn, drŵg iw Cysgu yn fŷan ar ôl bwŷb, Gochelwch oeri yn fŷan ar ôl Twmniad. Gochelwch gymmerŷd pysygwriaeth na gollwng gwaed pan fyddo'r hîn yn wresog yn nyddiau'r Cwn, ond os bŷdd yr hîn yn oer gellwch feiddio pysygw∣riaeth a gollwng gwaed (os bŷdd achos yn peri) fel amser arall. Gwiliwch bôb ymloddeth neu Syrffet drwŷ dwŷmno ac oeri, o blegŷd i maent yn magu amriw ddoluriau. Nag arferwch gysgu llawer, yn enwedig ar brŷdnawn, o blegŷd i mau yn magu Caethiwed i'r Afu neu'r Iau, doluriau pen, y Crŷd poeth, ac amriw ddoluriau eraill o'r fath hynnŷ. Gwîn Côch, a chlaret sŷdd odidawg i blant rhag y llynger.
Os digwŷdd i neb ei làdd ei hun wrth weithio yn y mîs hwn, ni cheif glywed neb yn Cwŷno iddo yn y mîs nesaf. Os dygîr Ceffŷl oddiarnoch yn y mîs hwn, dymmunwch i'r lleidr gael •• tennŷn gydo'r Ceffŷl, oblegŷ arferol yn y wlàd iw i'r Cefful gyfarfod a rheffŷn.
Yr ydis yn ofni mwŷ o wlaw yn y mîs hwn dag a ryngo fôdd i rai, yn enwedig tua channol y mis; Ac o'r 20 dŷdd hŷd ddiwedd y mîs bŷdd Tebŷg i fôd yn dêg, ac yn sŷch.