Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i't bobl anny[...]dig. Gwedi eu troi i'r iaith gymeraig [tr]wy waith Edward Iames, ...

About this Item

Title
Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i't bobl anny[...]dig. Gwedi eu troi i'r iaith gymeraig [tr]wy waith Edward Iames, ...
Publication
[London] :: Robert Barker printiwr i odidawgaf fawrhydi y Brenin a'i printiodd yn Llundain,
anno Dom. 1606.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England -- Sermons -- Early works to 1800.
Sermons, English -- 16th century.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A72359.0001.001
Cite this Item
"Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i't bobl anny[...]dig. Gwedi eu troi i'r iaith gymeraig [tr]wy waith Edward Iames, ..." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A72359.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 13, 2025.

Pages

Page [unnumbered]

Page 1

¶ Yr ail rhan o Lyfr yr Ho∣miliau neu'r Pregethau.

¶ Pregeth am iawn arfer eglwys neu deml Dduw a'r parch sydd ddyledus iddi.

MAe 'n ymddangos llaw∣er iawn o bobl yn yr amser hyn escaelusrw∣ydd a gwall mawr am fyned i'r eglwys i wa∣sanaethu Duw eu tad nefol yno, yn ol eu rhwymediccaf ddyly∣ed: ac hefyd ymddygi∣ad anweddaidd ano∣styngedig llawer o ddynion yn yr amser y byddont gwedy ymgynull: ac am y dichon yn gyfi∣awn gyfodi ofn digofaint Duw a'i * 1.1 echrydus blaau sydd vwch ein pennau am ein beiau trym∣mion yn hyn o beth, ymhlith llawer a mawr be∣chodau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur bob dydd a phob awr ger bron yr Arglwydd.

Page 2

Am hynny er mwyn cyflawni dlyed ein cydwy∣bodau, a diangc oddiwrth yr * 1.2 enbeidrwydd, cy∣fredinol a'r plaau sydd vwch ein pennau, ystyriwn pa beth a ellir i ddywedyd allan o sanctaidd lyfr Duw am hyn o beth.

Ar yr hyn beth y deisyfaf arnoch wrando 'n ddiescaelus, am ei fod yn beth pwysig ac yn per∣thyn i chwi oll. Er na ellir cynwys tragwyddol ac anymgyffred fawrhydi Duw, Arglwydd nef a dayar, yr hwn y mae ei orseddfaingc yn y nef, a'r ddaear yn faingc i'w draed, mewn temlau neu dai a wnaer â dwylo, megis mewn trigfau a allant dderbyn neu gynnwys ei fawrhydi ef, me∣gis y dangoswyd yn eglur trwy y Prophwyd E∣saias, a thrwy athrawaeth S. Stephan a S. * 1.3 Pawl yngweithredoedd yr Apostolion. Ac lle mae y brenhin Salomon yr hwn a adailadodd i'r Ar∣glwydd y deml brydferthaf ac a fu er ioed, yn dy∣wedyd, Pwy a all adail ty addas teilwng iddo ef? * 1.4 Os y nefoedd a nefoedd y nefoedd ni chynhwy∣sant ef, llai o lawer y ty yr hwn a adeiledais i? Ac mae fe yn cyfaddef etto ym-mhellach, Pa beth * 1.5 ydwyfi fal y gallwn adailadu ty itio Arglwydd? Ond etto er mwyn hyn y gwneuthpwyd ef, iti wrando gweddi a gostyngeiddiaf ddeisyfiad dy was.

Pellach o lawer ydyw ein eglwysi ni oddiwrth fod yn drigfau addas i dderbyn anfesurol fawr∣hydi Duw.

Ac yn wir godidawgaf ac yspysawl demlau Duw, yn y rhai y mae fe yn ymhoffi fwyaf, ac yn chwennych trigo ac aros ynddynt, yw cyrph a meddyliau gwir Gristionogion a dewisol bobl Dduw, yn ol athrawaeth y sanctaidd Scrythur,

Page 3

addangostr yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid. Oni wyddoch, medd yr Apostol, mai teml Dduw * 1.6 ydych, a bod Yspryd Duw yn aros ynoch? Os llygra neb deml Dduw Duw a lygra hwnnw, canys sanctaidd yw teml Dduw, yr hon ydych chwi. Ac ailwaith yn yr vn Epistol, Oni wyddoch * 1.7 chwi fod eich cyrph yn deml i'r Yspryd glan y∣noch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddochwi eich hunain, canys er gwerth y prynwyd chwi, gan hynny gogone∣ddwch Dduw yn eich corph ac yn eich yspryd y rhai ydynt eiddo Duw.

Ac am hynny fal y dywaid ein Iachawdwr Christ yn Efengyl S. Ioan, Maent hwy yn a∣ddoli Duw Dad yn inion, y rhai a'i addolant ef mewn Yspryd a gwirionedd pa le bynnac y gw∣nelont hynny. O herwydd y fath addolwyr y mae Duw Dad yn edrych am danynt. Duw sydd Y∣spryd * 1.8 a'r sawl a'i haddolant ef rhaid yw iddynt ei addoli ef mewn Yspryd a gwirionedd, medd ein Iachawdwr Christ.

Etto er hyn mae 'r eglwys neu 'r deml ddefny∣ddiol yn lle gwedy ei osod a'i appwyntio wrth ar∣fer a siamplau gwastadol yr hên Destament a'r newydd, i bobl Dduw i ymgynull iddo, i wran∣do sanctaidd air Duw, i alw ar ei sanctaidd enw ef, i roi diolch iddo am ei aneirif a'i an-nhrae∣thawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, ac yn ddy∣ledus ac yn gywir i wasanaethu ei sanctaidd Sa∣cramentau ef, wrth wneuthur a chyflawni yr hyn bethau y saif gwir ac iniawn addoliad Duw, a soniasom o'r blaen am dano. A'r eglwys neu 'r deml hon a elwir yn scrythyrau yr hên Destament a'r Testament newydd yn dŷ neu deml yr Ar∣glwydd,

Page 4

o herwydd yr enwedigawl wasanaeth a wna ei bobl i'w fawrhydi ef yno, a ffrwythlon bresenolder ei nefol ras ef, â'r hwn trwy ei sanc∣taidd air y cynyscaedda ef ei bobl a fyddont gwedy ymgynull yno.

Ac i'r tŷ a'r deml Dduw hynny y mae pawb o'r gwir dduwiolion yn rhwymedig i ddyfod bob amser yn ddyfal, trwy gyffredinol drefn, oni rwy∣strir hwy trwy glefyd neu ryw achos anghenrhei∣diol arall. Ac fe ddlyei bawb ac a arferant o ddy∣fod yno, ymddwyn yn llonydd ac yn ostyngedig, gan wneuthur eu rhwymedig ddlyed a'u gwasa∣naeth i'r holl-alluog Dduw ynghynnulleidfa ei saint.

Yr holl bethau hyn a ellir eu prosi yn eglur trwy sanctaidd air Duw, fal yr agorir yn oleu ar ol hyn. Ac mi a ddangosaf wrth yr scrythurau fod yn ei alw ef (fal y mae fe yn wir) yn dŷ Dduw, ac yn deml yr Arglwydd. Pwy bynnag a dyngo * 1.9 i'r deml sydd yn tyngu iddi ac i'r hwn sydd yn pres∣wylio ynddi, hynny yw Duw Dad: yr hyn y mae * 1.10 fe yn ei ddangos yn eglur yn Efengyl S. Ioan, * 1.11 gan ddywedyd, na wnewch dŷ fy-nhad yn dŷ mar∣chnad. Ac mae'r Prophwyd Dafydd yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Minnau a ddauaf i'th dŷ di * 1.12 yn amlder dy drugaredd ac a addolaf tu a'th deml sanctaidd yn dy ofn di. Ac fe a elwir mewn anei∣rif fannau o'r Scrythur lân yn dŷ Dduw neu dŷ yr Arglwydd, yn enwedig yn y Prophwydi a llyfr y Psalmau. Weithiau y gelwir yn babell yr Ar∣glwydd, * 1.13 weithiau yn gyssegrfa, hynny yw tŷ neu fangre sanctaidd yr Arglwydd. Ac hi a elwir he∣fyd * 1.14 yn dŷ gweddi, megis y geilw Salomon hi, yr hwn a adailadodd deml Dduw yn Ierusalem, yn

Page 5

dŷ yr Arglwydd yn yr hwn y gelwid ar enw'r Ar∣glwydd. Ac Esaias yn yr 56. bennod, fy-nhŷ fi a el∣wir * 1.15 yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd. Yr hwn dert y mae 'n Iachawdwr Christ yn son am dano yn y Testament newydd fal y mae 'n eglur yn-nhri o'r * 1.16 efangylwyr, ac yn-nammeg y Pharisei a'r Pub∣lican a aethant i weddio, yn yr hon ddammeg mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd eu myned hwy * 1.17 i'r deml i weddio. Ac fe wasanaethai Anna y we∣ddw a'r Brophwydes sanctaidd honno yr Ar∣glwydd * 1.18 yn y deml, mewn ympryd a gweddi nos adydd. Ac yr ydys yn stori yr Actau yn son fyned Petr ac Ioan i fynu i'r deml ar yr awr weddi. Ac * 1.19 fel yr ydoedd S. Paul yn y deml yn Ierusalem yn gweddio fe gymmerwyd i fynu yn yr yspryd ac * 1.20 fe a welodd Iesu yn dywedyd wrtho.

Ac megis ym-mhob lle addas y gall y duwiol arfer gweddi ddirgel nailltuol: felly diammau yw mai 'r Eglwys yw 'r lle dyledus gosodedig i weddi gyhoedd gyffredinol. Ac bellach mai hwn yw 'r lle i roddi diolch i'r Arglwydd am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau a rôdd ef ini, mae 'n eglur ddigon yn-niwedd Efengyl S. Luc, ac yn∣nechrau * 1.21 stori 'r Actau, lle mae 'n scrifennedig, Yn ol escynniad yr Arglwydd, barhau o'r Aposto∣lion a'r Discyblon yn gytun beunydd yn y deml, gan glodfori a bendithio Duw yn wastad.

Ac fe fanegir hefyd yn yr Epistol cyntaf at y Co∣rinthiaid mai 'r eglwys yw 'r lle gosodedig i arfer * 1.22 y Sacraméntau. Mae bellach yn rhaid ini ddan∣gos mai 'r Eglwys, neu 'r deml yw 'r lle y dylyid darllen a dyscu bywiol air Duw, ac nid dychym∣mygion dynion, a bod y bobl yn rhwymedig i ddy∣fod yno yn ddiescaelus, a ellir ei brofi wrth yr

Page 6

Scrythyrau fal y dangosir ar ol hyn. Yr ydyin yn darllen yn histori Actau 'r Apostolion i Pawl a Barnabas bregethu gair Duw yn-nhemlau 'r Iddewon yn Salamis. A phan ddaethant i An∣tiochia hwy a aethant i mewn i'r Synagog neu 'r Eglwys ar y dydd Sabaoth, ac a eisteddasant: ac * 1.23 yn ol llith o'r ddeddf a'r prophwydi, rheolwyr y Synagog a anfonasont attynt gan ddywedyd, hawyr frodyr, os oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch. Yna Pawl a gyfododd i fynu a chan amneidio â'i law am osteg a ddywedodd, O wyr o Israel a'r sawl sydd yn ofni Duw, gw∣randewch. Ac felly fe a bregethodd bregeth o'r Scrythyrau iddynt, megis y dangosir yn halaeth yno.

Ac yn y ddwyfed bennod ar bymtheg o'r vn hi∣stori y tystiolaethir pa fodd y pregethodd Pawl Christ allan o'r Scrythur yn Thessalonica. Ac yn * 1.24 y 15. bennod y dywaid Iaco 'r Apostol yn y Cyngor a'r gynnulleidfa sāctaidd o'i gyd-apostolion, mae i Moeses ym-mhob dinas er yr hên amseroedd rai a'i pregethant ef yn y Synagogau a'r eglwysydd, lle darllenir ef bob Sabaoth.

Fal hyn y gwelwch wrth y lleoedd hyn, arfer darllein 'r hên destament ymmhlith yr Iddewon yn eu synagogau bob dydd Sabaoth, ac y gwnaid pregethau yn arferedig ar y dydd hwnnw.

Pa faint cymhesurach gan hynny yw darllen ac agoryd Scrythyrau Duw ac yn enwedig efen∣gylein Iachawdwr Christ ini sydd Gristionogion, yn ein eglwysydd, yn hytrach am fod ein Iachaw∣dwr Christ a'i Apostolion yn foddlon i'r arfer dduwiolaf anghenrheitiaf honno, ac yn ei cha∣darnhau hi trwy eu samplau eu hunain?

Page 7

Mae 'n scrifennedig mewn llawer lle o histori▪ au 'r * 1.25 efengyl i'r Iesu fyned o amgylch holl Gali∣laea a dyscy yn eu Synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas. Yn yr hyn leoedd y gosodir allan yn oleu ei fawr ddiwydrwydd ef yn gwasta∣dol bregethu a dyscu y bobl.

Yr ydych yn darllen yn S. Luc ddyfod o'r Iesu * 1.26 i'r deml yn ol ei arfer, pa fodd y rhodd wyd iddo lyfr y Prophwyd Esaias, pa fodd y darllenodd ef dext ynddo ac y gwnaeth ar hwnnw bregeth. Ac yn y 19. bennod y dangosir ei fod ef yn dyscu beu∣nydd yn y deml. Ac yn yr 8. o Ioan y dywedir ddy∣fod * 1.27 o'r Iesu yn forau i'r deml a dyfod o'r holl bobl atto es ac iddo yntef eistedd a'u dyscu hwy. Ac yn y 18. o Efengyl Ioan mae Christ yn testiolaethu * 1.28 gerbron yr arch-offeiriaid iddo ef ddywedyd ar gy∣hoedd wrth y byd, a'i fod ef yn athrawiaethu yn wastadol yn y Synagog ac yn y deml, lle y cyrchai yr holl Iddewon, ac na ddywedodd ef ddim yn guddiedig. Ac yn S. Luc yr Iesu a ddyscodd yn y * 1.29 deml a'r holl bobl a ddauent y borau atto ef i'w glyweb yn y deml.

Ymma y gwelwch ddiwydrwydd ein Iachaw∣dwr yn dyscu gair Duw yn y deml beunydd, yn en wedig ar y dyddiau Sabaoth, apharodrwydd y bobl hefyd yn dyfod ynghyd, a hynny yn forau ddydd i'r deml i wrando arno.

Yr vn fath siampl o ddiwydrwydd yn pregethu gair Duw yn y deml a gewch chwi yn yr Aposto∣lion, a'r bobl yn dyfod attynt Act. 5. A'r Aposto∣lion * 1.30 er darfod eu chwippo a'u fflangellu hwy y dydd o'r blaen, ac er darfod i'r Archoffeiriaid or∣chymmyn iddynt na phregethent in wy yn enw 'r Iesu, etto hwy a ddaethant drannoeth yn forau

Page 8

i'r deml, ac ni phaidiasan a dyscu a chyhoeddi Iesu * 1.31 Grist. Ac mewn llawer o leoedd eraill o histori 'r Actau y cewch yr vn fath ddiwydrwydd yn yr Apo∣stolion i ddyscu ac yn y bobl i ddyfod i'r deml i wrando gair Duw. Ac fe a destiolaethir yn y ben∣nod gyntaf o Luc pan ydoedd Zachari y sanctaidd offeiriad a thâd Ioan fedyddiwr yn aberthu o fewn y deml, fod yr holl bobl yn sefyll oddiallan yn gweddio dros hir amser. Cyfryw ydoedd eu gwrês hwy a'u zêl yr amser hynny. Ac yn yrail o Luc y dangosir pa daithiau a siwrneiau a gymmerai * 1.32 gwyr, gwragedd a phlant i ddyfod i'r deml i wasa∣nauthu 'r Arglwydd yno ar yr wyl: ond yn enwe∣dig siampl Ioseph a'r fendigaid forwyn fair mam ein Iachawdwr Iesu Grist, a siampl ein Iachaw∣dwr Christ ei hunan ac ef etto 'n blentyn, siamplau y rhai sydd wiw ini eu canlyn; Megis, pe cyffely∣bem ni ein escaelusrwydd i ddyfod i dŷ yr Arglw∣ydd i'w wasanaethu ef yno, a diescaelusrwydd yr Iddewon y rhai a ddoent bennydd yn forau iawn * 1.33 i'r deml, weithiau trwy deithiau hirion, a phan na weddai y lliaws yn y deml, fe ddangosir y zêl wres∣sog oedd yndynt wrth eu gwaith yn hir aros allan i weddio. Ni a allwn yn gyfiawn yn y gyffelyba∣eth hon ddamnio 'n diogi a'n escaelusder, ie a'n di∣ystyrwch goleu yn dyfod i dy yr Arglwydd mor anfynych, ac yntef cyn nesed attom, ie a phrin dy∣fod iddo vn amser.

Mor bell yw llawer o honom ni oddiwrth ddy∣fod yn forau ddydd, neu hir aros oddiallan, ac y diystyrwn ddyfod oddifewn i'r deml. Ac etto cas gennym glywed enw 'r Iddewon megis pobl ddrwg annuwiol. Ond yr wyfi yn ofni yn hyn o beth ein bod ni yn waeth o lawer nâ 'r Iddewon,

Page 9

ac y cyfodant hwy ddydd y farn i'n damnedigaeth ni, y rhai os cyffelybir ni iddynt, ydym yn dangos y fath ddiogi a dibrisrwydd am ddyfod i dŷ yr Ar∣glwydd i'w wasanaethu ef yno yn ol ein rhwyme∣dig ddlyed.

Ac heblaw * 1.34 echrydus ofn barn Duw yn y dydd diwethaf, ni ddiangwn ni yn y bywyd hwn rhag ei law drom a'i ddial ef, am ddibriso a diystyru tŷ yr Arglwydd, a'i ddyledus wasanaeth ef yntho, me∣gis y mae 'r Arglwydd ei hunan yn bygwth yn y bennod gyntaf o brophwydoliaeth Aggeus yn y * 1.35 modd hyn, Am fod, medd ef, fy-nhŷ i yn anghyfan∣nedd a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun: am hynny y gwaharddwyd i'r nefoedd wlitho ar∣noch, ac y gwaharddwyd i'r ddaear ddwyn ffrw∣yth: gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd ac ar yr ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew ac ar yr hyn a ddŵg y ddaear allan, ar ddŷn hefyd ac ar amfail, ac ar holl lafur dwylo dŷn.

Mele, os byddwn ni mor fydol ac nad gwaeth gennym am dragwyddol farnedigaethau Duw, y rhai etto ydynt * 1.36 echrydusaf ac arswydusaf oll, ni ddiangwn ni rhag cospedigaeth Duw yn y byd hwn trwy sychder a newyn, a thrwy dynnu oddi∣wrthym bob budd a dawn bydol, am y rhai yr y∣dym ni megis gwŷr bydol yn gofalu ac yn pryderu fwyaf.

Ond o'r gwrthwyneb pe gwellaem ni y bai, yr escaelusdra, y diogi, a'r diystyrwch ymma ar dŷ yr Arglwydd a'i ddyledus wasanaeth ef yno, ac yn ddiwyd ymarfer o ddyfod ynghŷd yno i wasana∣ethu 'r Arglwydd yn vn ac yn gyttun, mewn sanc∣teiddr wydd a chyfiawnder ger ei fron ef, mae ini addewidion o ddonian nefol a bydol.

Page 10

Pa le bynnag, medd ein Iachawdwr, y bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghyd yn fy enw fi * 1.37 myfi a fyddaf yn ei mysc hwy. Pa beth a ddichō bod mor fendigaid a chael ein Iachawdwr Christ i'n mysc? a pha beth a ddichon bod mor annedwydd ac mor eniweidiol a gyrru ein Iachawdwr Christ o'n mysc, a chynnwys lle i'n hên angheuol elyn ni ac yntef, yr hên ddraig, y sarph sathan diawl, yn ein plith.

Mae yn scrifennedig yn yr ail o Luc gwedi i * 1.38 fair fam Christ ac i Ioseph ei ymofyn ef yn hir, a phan na fedrent ei gael ef yn vn lle, hyd oni thybi∣ent ei golli ef, y modd yn y diwedd y cawsant ef yn y deml yn eistedd ym-mŷsc y doctoriaid.

Felly os bydd arnom eisiau Christ Iesu yr hwn yw Iachawdwr ein heneidiau a'n cyrph, ni chy∣farfyddwn ddim ag ef yn y farchnad, neu yn y dad∣leudy, llai o lawer yn y dafarn ym-mhlith cwmp∣niwyr neu gyfeillion da (fal y gelwir hwy) mor * 1.39 ebrwydd ac y cyhyrddwn ag ef yn y deml yn-nhŷ yr Arglwydd, ym-mŷsg dyscawdwyr a phregeth∣wyr ei air, lle mae ef i'w gael yn ddiau.

Ac am ddoniau bydol mae gennym addewid ein Iawchawdwr Christ, Ceifiwch, medd ef, yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder a'r holl be∣thau * 1.40 byn a roddir i chwi yn ychwaneg.

Fal hyn y dangosasom trwy air Duw yn y rhan gyntaf o'r traethawd ymma mai tŷ yr Arglwydd y dyw'r deml neu'r Eglwys, am fod yn arfer yno o wasanaethu Duw, sef gwrando a dyscu ei san∣taidd air ef, galw ar ei santaidd enw ef, a rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif drugaredd, a mi∣nistro ei Sacramentau ef yn ddyledus.

Fe a ddangoswyd hefyd trwy yr Scrythyrau y

Page 11

dylai yr holl dduwiol gristionogion yn wŷr ac yn wragedd ar amseroedd gosodedig ddyfod yn ddi∣wyd i dŷ 'r Arglwydd i' w wasanaethu a 'i folian∣nu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rh wymediccaf: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am iawn arfer yr Eglwys.

FE a ddangoswyd yn y rhan gyn∣taf o'r bregeth hon trwy air Duw mai tŷ yr Arglwydd yw 'r deml neu 'r Eglwys, am fod yn arfer o wasanaethu 'r Arglwydd yno, hynny yw dyscu a gwrando et santaidd air ef, galw ar ei san∣taidd enw ef, rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif ddoniau, a dyledus finistrio ei Sacramen∣tau.

Ac fe a ddangoswyd eisioes trwy 'r scrythyrau y dylyem ni yr holl dduwiol Gristionogion ar amserau gosodedig yn ddiwyd ymarfer o ddyfod i dŷ 'r Arglwydd i'w wasanaethu ac i'w ogone∣ddu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rhwymediccaf.

Mae yn aros bellach yn yr ail rhan o 'r bregeth am iawn arfer teml Dduw, bod dangos hefyd trwy air Duw â pha lonyddwch a distawrwydd a pharch a gostyngeiddrwydd y dyle y rhai a ddelo i dŷ Dduw ymddwyn ac ymarwedd. Digon o addysc ini i wybod * 1.41 gystal y gweddai i ni Gristio∣nogion arfer yn barchedig yr Eglwys a thŷ san∣ctaidd ein gweddiau, ped ystyriem ym-mha fawr

Page 12

barch ac amrhydedd yr oedd eu teml gan yr I∣ddewon yn yr hên gyfraith, fel y gwelir drwy lawer o leoedd o 'r rhai y dewissaf i chwi am∣bell vn.

Yr ydys yn rhoi yn erbyn ein Iachawdwr Christ garbron barnwr bydol yn Efengyl Mathew trwy ddau gau dyst fegis peth yn haeddu angau, * 1.42 iddo ddywedyd y gallei ef ddistrywio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod, heb ddim am∣mau os hwy a ellent beri i'r bobl gredu iddo ddy∣wedyd dim yn erbyn anrhydedd a mawrhydi yr deml, y byddai ef yngolwg pawb yn haeddu an∣gau.

Ac yn yr 21. o'r Actau pan gafodd yr Iddewon * 1.43 S. Paul yn y deml, hwy a roesant ddwylo ar∣naw gan lefain, hawyr o Ifrael cynorthwywch, dymma yr dyn sydd yn dyscu ym-mhob man yn er∣byn y bobl a'r gyfreith a'r lle ymma: hefyd mae fe wedi dwyn Groegiaid i mewn i'r deml i halogi y lle hwn.

Gwelwch fel y tybygent mai yr vn fath fai oedd ddywedyd yn erbyn teml Dduw a dywedyd yn erbyn cyfraith Dduw, a pha fodd y barnent yn gyfaddas na chaffai neb ddyfod i deml Dduw ond rhai duwiol a gwir addolwyr Duw.

Yr vn peth y mae Tertullus yr areithiwr * 1.44 hy∣awdl hwnnw a'r Iddewon* 1.45 yn ei ddodi yn erbyn Paul ger bron barnwr bydol megis peth yn ha∣eddu angau, iddo geisio halogi teml Dduw. A phan dderbyniodd yr arch-offeiriaid eilwaith y drylliau arian o law Iudas hwy a ddywedasant, * 1.46 nid cyfreithlon ini eu bwrw hwynt i'r Corban, yr hwn oedd drysordŷ 'r deml, o herwydd mai gwerth gwaed ydynt.

Page 13

Megis na ellent aros nid yn vnig ddyfod vn dŷn aflan ond hefyd ddyfod vn peth marw, yr hwn a fernid yn aflan, i mewn i'r deml nac i vn lle a berthynai atti.

Ac i'r deall hyn y dylid cymmeryd yr hyn a ddy∣waid S. Pawl, pa gytundeb sydd rhwng cyfi∣awnder * 1.47 ac anghyflawnder? a phâ gyfeillach sydd rhwng goleuni a thywyllwch? a pha gysondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i'r credadwy ac i'r anghredadwy? a pha gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eulynnod?

Yr hyn eiriau er bod yn eu deall yn bennaf am deml calon y duwiol, etto o herwydd bod yn cym∣meryd y gyffelybiaeth a * 1.48 syrth y rheswn oddiwrth y deml ddefnyddiol, mae yn canlyn na ddylid go∣ddef dim anuwioldeb, yn enwedig o ddelwau neu elynnod, o fewn Teml Dduw, yr hon yw 'r lle i addoli Duw, ac am hynny nid gwell y gellir eu goddef hwy i aros yno nag y dichon goleuni gy∣tuno â thywyllwch neu Grist a Belial: o her∣wydd bod gwir addoliad Duw ac addoliad del∣wau mor wrthwynebus i'w gilydd ac a all fod.

Ac mae eu gosod hwy i fynydd yn y lle y byddir yn addoli yn achos mawr o'u haddoli hwyntau.

Ond i ddychwelyd at y parch a roe 'r Iddew∣on i'w teml, chwi a ddywedwch eu bod hwy yn ei hanrhydedduhi yn ormod ac yn goelfucheddol, gan lefain, Teml yr Arglwydd, Teml yr Ar∣glwydd, a'u bywyd hwy er hynny yn ddrwg dros ben, ac am hynny yr argyhoeddir hwy yn gyfi∣awn gan Ieremi Prophwyd yr Arglwydd. * 1.49

Gwir yw eu bod hwy yn ymroi yn goelfuche∣ddol i anrhydeddu eu teml, ond mi a fynwn na byddem ni yn rhy fyrr yn rhoi dyledus barch i dŷ

Page 14

yr Arglwydd gymmaint ac yr elsent hwythau yn rhybell.

Ac os ceryddodd y Prophwyd hwy yn gysion, gwrandewch pa beth y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn ar ein dwylo ninnau, fel y gallom wybod pa vn a wnawn ai bod yn feius ai nad ydym. Mae yn scrifennedig yn y 4. bennod o Lyfr y Prege∣thwr gwilia ar dy droed pan fythech yn myned i * 1.50 dŷ Dduw a bydd barottach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddont hwy eu bod yn gwneuthur drygioni. Na fydd ry ebrwydd o'th enau, ac na fydded dy galon ry fywiog i draethu * 1.51 dim ger bron Duw. Canys Duw sydd yn y ne∣foedd a thithau sydd ar y ddayar, ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

Ystyriwch fy-ngharedigion pa lonyddwch mewn ymddygiad ac ymarweddiad, pa ddistaw∣rwydd geiriau ac ymadroddion sy ddyledus yn∣nhŷ Dduw, o herwydd felly y mae fe yn galw yr Eglwys. Edrychwch ydynt hwy yn gwilied ar eu traed fal y rhybyddir hwy ymma, y rhai ni pheidiant â'u hanweddaidd dreiglo a rhodio i fy∣nu ac i fy∣nu ac i waered ar hŷd ac ar draws yr Eglwys, gan ddangos arwydd eglur fychaned gantynt am Ddum ac am yr holl wŷr da sydd bresenol yno.

A pha wilied y maent hwy ar eu tafodau a'u hymadroddion, y rhai nid yn vnig a ddywedant eiriau yn fywiog ac yn ebrwydd ger bron yr Ar∣glwydd, yr hyn yr ydys ymma yn ei wahardd iddynt, ond hefyd weithiau dywedyd yn frwnt, yn gybyddus ac yn annuwiol, gan chwedleua am bethau ni bônt ond braidd onest na gweddaidd i'w dywedyd mewn tafarn, yn-nhŷ yr Arglwydd, heb ystyried ond rhyfychan eu bod hwy ger bron

Page 15

Duw yr hwn sydd yn aros yn y nefoedd, fal y my∣negir ymma, lle nid ydynt ond pryfed yn ymlusgo ymma ar y ddayar wrth ei dragwyddol fawrhydi ef, ac yn meddwl yn llai o lawer y gorfydd ar∣nynt ar y dydd mawr roddi cyfrif am bob gair ofer ac a ddywedasant hwy er ioed pa le bynnag y dy∣wedasant, * 1.52 mwy o lawer am eiriau bryntion, a∣flan, drwg a dyweder yn-nhŷ 'r Arglwydd, er di∣anrhydeddu ei fawrhydi ef, a rhwystr a thram∣gwydd i bawb a'u clywant.

Ac yn wir, am y dyrfa a'r lliaws werin, fe a ddarparwyd y deml iddynt hwy i fod yn wran∣dawŷr ac nid yn siaradwŷr, os ystyriwn fod yno yn arfer ddarllen a dyscu gair Duw, yr hwn y maent yn rhwymedig i'w wrando yn ddiesceu∣lus, yn barchus ac yn ddistaw, a hefyd yn adrodd gweddiau cyffredinol a rhoddi diolch gan y gwe∣nidawg cyffredinawl yn enw yr bobl a'r holl dyrfa bresennol, â'r hyn, gan wrandaw yn ba∣rodol y dylent gytuno gan dywedyd, Amen, megis y dyweid S. Paul at y Corinthiaid, ac * 1.53 mewn man arall, Gan roddi gogoniant i Dduw ag vn tafod ac ag vn Yspryd; yr hyn ni ddichon bod pan fytho pob gŵr a gwraig yn * 1.54 rhithio de∣fosiwn neilltuol iddo ei hun, yn gweddio o'r neill∣du; vn yn gofyn, arall yn roddi diolch, arall yn darllen athrawiaeth, heb ofalu am wrando ar we∣ddi gyffredinol y gwenidawg.

Ac mae yr vn S. Paul at y Corinthiaid yn dys∣cu pa barch a ddylid ei arfer wrth finistrio 'r Sa∣cramentau yn y deml, gan geryddu y rhai a'i har∣ferent yn amharchus. Onid oes gennych dai i * 1.55 fwyta ac y yfed ynddynt? ai dirmygu yr ydych yr Eglwys a chynnulleidfa Dduw? ac a ydych chwi

Page 16

yn gwradwyddo y rhai nid oes genthynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.

Ac nid ydyw Duw yn gofyn yn vnig y parch hwn oddiallan mewn ymddygiad a distawrwydd yn ei dŷ, ond pob gostyngeiddrwydd oddifewn mewn glanhad meddyliau ein calonnau, gan fy∣gwth drwy y Prophwyd Osee, Am ddrygioni eu * 1.56 gweithredoedd y bwrid hwynt allan o'i dŷ ef. Trwy yr hyn yr arwyddoceir eu tragwyddol da∣fliad hwy allan o'r tŷ a'r dyrnas nefoedd, yr hyn sydd erchyll aruthrol.

Ac am hynny y dywaid Duw yn Leuiticus, Perchwch fy-nghysegrfa, canys yr Arglwydd y∣dwyfi. * 1.57 Ac am hynny y dywaid y Prophwyd Da∣fydd. Mi a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy druga∣redd, ac a addolaf yn dy deml santaidd yn dy ofn di: gan ddangos pa barch a gostyngeiddrwydd a ddylae fod ym meddyliau dynion dwiol yn-nhŷ yr Arglwydd.

Ac i ddangos peth i chwi oblegid y peth hyn allan o'r Testament newydd, ym-mha barch y myn Duw gadw ei dŷ a'i deml a hynny drwy si∣ampl ein Iachawdwr Christ, yr hon trwy resswm da a ddylae fod yn bwysig ac yn gyfrifawl ei aw∣durdod gydâ phob Cristion da. Mae yn scrifen∣nedig ym-mhob vn o'r pedwar Efangylwr megis * 1.58 peth godidawg yn heuddu tystioleth llawer o dy∣stion santaidd, am ein Iachawdwr Iesu Grist yr Arglwydd trugarog tirion hwnnw yr hwn o ble∣gid ei ostyngeiddrwydd a gyffelybir i ddafad yr hon a oddef yn ddistaw gneifio ei chnu oddi-arni, ac i'r oen yr hwn yn ddiwrthwyneb a arweinid i'r lladdfa, er iddo roddi ei gorph i'r cûrwyr a'i * 1.59

Page 17

gernau i'r cernodwyr, er nad attebod i't rhai a'i dirmygent ac ni thrôdd ei wyneb oddiwrth wrad∣wydd a phoeredd, ac er iddo yn ôl ei siampl ei hun * 1.60 roddi i'w ddiscyblon orchymmynion o oddefga∣rwch ac addfwyndra, etto pan welodd ef an∣nhrefnu, anharddu a halogi y deml santaidd tŷ ei Dâd nefol, fe a arferodd dostrwydd a llymdra mawr, fe a ymchwelodd fyrddau y newidwyr arian ac a daflodd i lawr feingciau y rhai oedd yn gwerthu colommennod, fe a wnaeth fflangell o reffynnau ac a fflangellodd ac a chwipiodd ym∣maith y melldigedig gamarferwyr a'r halogwyr hynny ar deml Dduw, gan ddywedyd, Tŷ gwe∣ddi y gelwir tŷ fy-nhad, ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

Ac yn yr ail o Ioan, Na wnewch dŷ fy-nhâd yn * 1.61 dŷ marchnad. O herwydd megis y mae ef yn dŷ i Dduw pan wneler gwasanaeth i Dduw yn ddy∣ledus yntho, felly pan fythom ni yn annuwiol yn ei gamarfer a'n hannuwiol ymsiarad am farge∣nion cybyddus, yr ydym yn ei wneuthur yn dŷ marchnad ac yn ogof lladron.

Ie a'r fath barch a fynnai Grist ei fod i'r deml, * 1.62 na allai fe arhos gweled cymmaint a dwyn llestr trwyddi. Ac fal y dywedpwyd o'r blaen allan o saint Luc, pan na fedrid cael Grist yn vnlle arall ar y ceisid ef, ond yn vnig yn y deml, ym-mhlith y doctoriaid; ac yn awr mae fe yn dangos ei allu a'i awdurdod, nid mewn cestyll neu frenhindai ym-hlith milwyr, ond yn y deml. Chwi a ellwch weled wrth hyn ym-mhale y gellir cyfarfod gyn∣taf â'i deyrnas ysprydol ef, yr hon y mae yn dy∣wedyd nad yw o'r byd hwn, ac ym-mhale y gellir ei hadnabod hi yn orau o leoedd yr holl fyd.

Page 18

Ac yn ol'siampl ein Iachawdwr Christ, yn y brif-Eglwys gynt yr hon oedd santeiddiolaf a duwio∣laf oll, ac yn yr hon yr arferid dyledus lywodra∣eth a thost inio wndeb yn erbyn pob rhai drygio∣nus, ni ddioddefid pechaduriaid cyhoedd i ddyfod i dŷ 'r Arglwydd, ac ni dderbynid hwy i weddiau cyffredinawl nac i arfer y santaidd sacramentau gydâ gwir Gristianogion eraill nes iddynt wneu∣thur penyd cyhoedd ger bron yr holl Eglwys.

Ac nid oeddid yn gwneuthur hynny yn vnig i'r rhai iselradd, ond hefyd i'r cyfoethogion, i'r pen∣defigion a'r galluogion, ie i Theodosius yr ym-me∣rodr mawr galluog hwnnw, yr hwn am iddo wneuthur lladdfa greulon fe a geryddodd Am∣bros Escob Mediolanum ef yn dost, ac a escymynodd hefyd yr ym-merodr hwnw, ac a'i dug ef i benyd cyhoedd.

A phwy bynag oedd wedi eu troi heibio ac me∣gis eu deol o dŷ yr Arglwydd, hwy a gyfrifid oll (megis yn wir y maent hwy) yn ddynion gwedy eu gwahanu a'u dosparthu oddiwrth Eglwys Ghrist, ac mewn cyflwr tra enbaid, ac fel y dywaid Pawl, gwedi eu rhoddi i sathan y diafol dros * 1.63 amser: ac fe a ochelid eu cymdeithas hwy gan yr holl wyr a gŵragedd duwiol, hyd oni ddarffai eu cymmodi hwy trwy edifeirwch a chyhoedd be∣nyd. Cyfryw oedd anrhydedd tŷ 'r Arglwydd ynghalonau dynion, a'i barch oddi allan hefyd yn yr amseroedd hyny, ac mor ofnadwy oedd gau dŷn allan o'r Eglwys a thŷ 'r Arglwydd yn y dy∣ddiau hynny pan oedd grefydd yn bur ac yn anlly∣gredig a heb fod mor llygredig ac yn hwyr o amser.

Ac etto yr ydym ni wrth ein neilltuo 'n hunain allan o dŷ 'r Arglwydd, o'n gwirfodd yn ein escy∣muno

Page 19

'n hunain, neu yn ein anghyfaillachu yn hunain o'r Eglwys ac o geifeillach saint Duw: neu gwedy dyfod yno yr ydym ni trwy ein anwe∣ddaidd a'n amharchus ymddygiad, trwy ynfyd ac am-mhwyllus, ie ac aflan a drygionus feddyliau a geiriau ger bron yr Arglwydd Dduw, yn dian∣rhydeddu Duw ac yn am-mherchi yn aruthr ei sanctaidd dŷ ef, Eglwys Duw, a'i sanctaidd enw a'i fawrhydi ef, i fawr * 1.64 enbeidrwydd ein eneidiau, ie a'n ficor ddamnedigaeth hefyd os ni nid etifar▪ hawn yn ebrwydd ac yn ddifrif am y drygioni ymma.

Fal hyn y clywsoch, fyngharedigion, allan o air Duw pa barch sydd ddyledus i fanctaidd dŷ 'r Ar∣giwydd, fal y dlye yr holl dduwiolion yn ddiescae∣lus, ar yr amser gosodedig ymarfer ddyfod yno: fal y dlyent ymddwyn yno mewn gostyngeiddrw∣ydd a pharch ger bron yr Arglwydd: pa blagau a chospedigaethau bydol, a thragwyddol y mae 'r Arglwydd yn ei sanctaidd air yn eu bygwth ar y rhai a fythont yn escaeluso dyfod i'w sanctaidd dŷ ef, a'r rhai gwedŷ eu dyfod yno, ydynt yn ym∣ddwyn yn anostyngedig, naill ai mewn gweithred ai mewn geiriau.

Am hynny os chwennychwn gael tywydd * 1.65 tym-mherus, ac felly mwynhau ffrwythau y ddayar: os ni a ddymunwn ddiangc oddiwrth sychder ac anffrwythlonrwydd, syched a newyn, a'r plagau eraill a fygythir ar bawb ac a redant i'w tai eu hunain, neu i'r tafarnau, ac a adawant dŷ yr Arglwydd yn wâg ac yn anghyfanedd: os câs gennym ein fflangellu a'n chwippio, nid â fflangellau neu chwippiau a wnair o reffynnau, allan o'r deml ddefnyddiol yn vnig, megis y gw∣naeth

Page 20

ein Iachawdwr Christ i halogwyr tŷ Dduw yn Ierusalem, ond ein ffusto hesyd a'n gyrru allan o dragwyddol deml a thŷ 'r Arglwydd, yr hon yw ei deyrnas nefol ef, â gwialen hayarn tragwyddol ddamnedigaeth, a'n taflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yscyrnygu dannedd: os bydd ar∣nom ofn ac os cas gennym hyn, megis y mae ini achos mawr, gwellhawn ninnau ein escaelusrw∣ydd a'n diystyrwch am ddyfod i dŷ yr Arglwydd, a'n ham-mharchus ymddygiad yn-nhŷ yr Ar∣glwydd, a chan ddyfod yno ynghŷd yn ddiescaulus, gwrandawn yno yn barchus sanctaidd air yr Ar∣glwydd, gan alw ar sanctaidd enw 'r Arglwydd, gan roddi i'r Arglwydd ddiolch â'n holl galon∣nau, am ei aml an nhraethawl ddoniau, y rhai y mae fe bob dydd a phob awr yn eu rhoddi ini, a chan gyfrannu a derbyn ei sanctaidd Sacramen∣tau yn barchus, a gwasanaethu'r Arglwydd yn ei dŷ sanctaidd, fel y gwedde i weision yr Arglwydd, mewn sancteiddrwydd ac vniondeb ger ei fron ef holl ddyddiau 'n heinioes.

Ac yno y byddwn siccr yn ol y bywyd hwn, o orphywys yn ei sanctaidd fynydd ef a thrigo yn ei babell, yno i foliannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef ynghynulleidfa ei saint ef, yn sanctaidd dŷ ei drag wyddol deyrnas nefol ef, yr hon a brynodd ef ini trwy angau a thy walltiad gwerthfawr waed ei fâd ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn * 1.66 gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân, vn tragwyddol fawrhydi Duw, y bytho holl anrhydedd, gogoni∣ant, moliant a diolch yn oes oesoedd. Amen.

Page 21

¶ Pregeth yn erbyn enbei∣drwydd addoliad eulynod, neu ddelw-addoliad, a rhy ofer drwsio Eglwysydd.

Y rhan gyntaf.

FE a ddangoswyd i chwi ym-mha byngciau y mae gwir harddwch ac addurn Eglwys neu deml Dduw yn sefyll yn y ddwy ho∣mili ddiwethaf, y rhai a ddango∣sant iawn arfer teml neu dŷ Dduw, a'r dyledus barch y mae 'r holl Gristionogawl bobl yn rhwymedig i'w roddi iddo: syrth a chynhwysiad y rhai, yw, bod Eglwys neu dŷ Dduw gwedi i'r sanctaidd Scrythyrau ei osod yn lle, yr hwn y dylid darllen, dyscu a gwran∣do gair Duw ynddo, a galw ar enw Duw trwy weddiau cyffredinol, rhoddi diolch i'w fawrhydi ef am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, a ministro ei sanctaidd Sacra∣mentau ef yn ddyledus, ac yn barchus: ac am hyn∣ny y dlyei bawb o'r gwir dduwiolion, yn ddiwyd, ar yr amseroedd gosodedig, ddyfod ynghŷd i'r E∣glwys, ac ymarwedd ac ymddwyn yno 'n bar∣chus ger bron yr Arglwydd: a bod yn galw yr Eglwys hon (yr hon a arfer duwiol weision yr Arglwydd yngwir wasanaeth yr Arglwydd am ffrwythlon bresenolrwydd rhâd Duw, â'r hwn, y mae fe trwy ei sanctaidd air a'i adde widion yn cynnyscaeddu ei bobl a fyddant yno yn bresennol gwedy ymgynull, er mwynhau doniau bydol

Page 22

anghenrheidiol ini, a holl roddion nefol a thrag∣wyddol fywyd) yngair Duw (megis yn wir y mae hi) yn deml yr Arglwydd ac yn dŷ Dduw, ac am hynny fod yn cynnhyrfu ei wir barch ef ynghalon∣nau 'r duwiol wrth ystyriaid y gwir harddwch ymma ar dŷ Dduw, ac nid wrth vn ceremoni o∣ddi-allan neu drwsiad gwerthfawr gwŷch ar dŷ neu deml yr Arglwydd.

Yn erbyn yr a thrawaeth eglur hon o'r Scry∣thyrau, ac yn erbyn arfer y brif-eglwys gynt, yr hon oedd bur a dilwgr ac yn erbyn meddwl a barn hên ddoctoriaid dyscedig duwiol yr Eglwys, fal y dangosir ar ol hyn, fe ddug llygredigaeth y dy∣ddiau diwethaf ymma i mewn i'r Eglwys anei∣rif liaws o ddelwau, ac a drwsient y rhai hynny a rhannau eraill o'r deml hefyd, ag aur ac arian, ac a'u peintiasont a lliwiau, a'u gosodasont allan a main ac a pherlau, a'u dilladasont â sidan ac a dillad gwerthfawr, gan feddwl a dychymmig yn anghywir, mai hynny oedd yr odidawgafdrwsiad neu harddwch ac addurn ar deml neu dŷ Dduw, ac y cyffroid yr holl bobl yn gynt i 'w ddyledus berchi ef, os byddai bob cornel o hono yn wych ac yn discleirio ag aur, a main gwerth-fawr. Er na allasant hwy yn wir trwy 'r fath ddelwau, a'r fath wych drwsio a'r y deml, wneuthur lles yn y byd i'r synhwyrol deallus: ond hwy a ddrygasont yn fawr wrth hyn y diddrwg angall, gan roddi i∣ddynt achos i wneuthur * 1.67 echrydys ddelwaddoli∣ad: a'r cybyddion wrth yr vn achos megis yn a∣ddoli, ac oddifewn yn gwir addoli nid yn vnig y delwau, ond eu defnydd hwy hefyd, yr aur a'r ari∣an, fal y gelwir y bai hynny yn yr Scrythyr lân yn hytrach nag vn bai arall, yn eulyn-addoliad * 1.68

Page 23

neu ddelw-addoliad. Yn erbyn y camarferon diffaith a'r mawr anferthwch hwn mi a ddango∣saf i chwi yn gyntaf awdurdod sanctaidd air Duw, cystadl o'r hên destament a'r newydd.

Ac yn ail destiolaeth y sanctaidd a'r hên dadau dyscedig, a'r doctoriaid allā o'u scrifennadau hwy eu hunain a hên storiau eglwysig fal y galloch ar vnwaith wybod eu meddwl hwy, ac hefyd ddeall pa fath harddwch oedd yn y temlau yn y brif-e∣glwys gynt yn yr amseroedd puraf a dilygraf.

Yn drydydd yr argyhoeddir ac yr attebir y rhe∣symmau a'r dadleuau a wnair i amddiffyn delw∣au ac eilynod ac anrhesymmol drwsio temlau ac eglwysydd, ag aur ac arian a thlyssau ac â main gwerthfawr ac felly cau ar y cwbl.

Ond rhag i neb trwy airiau neu enwau gyme∣ryd achos i ammau, fe dybygwyd fod yn orau ddangos yn gyntaf dim, er ein bod ni yn arfer yn ein ymadroddion arferedig o alw diwgad neu lun dynnion neu bethau eraill yn ddelwau, ac nid yn eilynnod: etto fod yr Scrythyr lân yn arfer y ddau air hyn, delwau ac eulynod, am yr vn peth bob amser yn ddiwahaniaeth. Maent hwy yn airiau o iaithiau a lleisiau amryw, ond yn vn mewn ystyr a deall yn yr scrythyrau. Y naill a dynnir o'r gair Groeg Eidolon eilyn, ar llall o'r gair lladin Imago delw, ac felly pob vn o'r ddau a ar∣ferir ynghymraeg wrth gyfiaithu 'r scrythyrau yn ddiwahaniaeth, megis yr arfere y deg-a-thri∣ugain yn eu cyfiaithiad Groeg Eidola, a S. Ierom yn yr vn lleoedd Simulachra, ynghymraeg delwau.

A'r peth y mae Ioan yn ei alw yn y Testament newydd Eidolon, mae S. Ierom yn ei gyfiaithu * 1.69 Simulachrum megis ym-mhob lle arall o'r Scry∣thyr

Page 24

y mae fe 'n arfer o wneuthur. A hefyd Ter∣tulian hên Ddoctor dyscedig iawn yn y ddwy * 1.70 iaith, Groeg a Lladin, wrth gyfiaithu y lle hwn o S. Ioan, Gwagelwch eulynod, hynny yw medd Tertulian, y delwau eu hunain: ar geiriau lla∣din y mae ef yn eu harfer ydynt effigies ac Imago, hynny yw delw.

Ac am hynny yn y traethawd hwn nid gwaeth pa vn o'r ddau air a arferom ni, neu os arferwn hwy ill dau gan eu bod hwy ill dau (er nad ydynt yn y iaith gymraeg, etto) yn yr scrythyrau yn ar∣wyddocau yr vn peth.

Ac er bod cyn hyn i ryw lygaid deillion, yn ddi∣chellgar geisio eu gwneuthur hwy yn airiau o ystyr gwahanol, ac arwyddocâd dosparthedig mewn materion ffydd a chrefydd, ac am hynny iddynt arfer enwi y lluniau a'r diwgadau a'r cyff∣elybiaethau a osodid i fynu gan y cenhedloedd yn eu temlau neu mewn lleoedd eraill i'w haddoli, yn Eulyn neu Idol; ond y llun a osodir i fynydd yn yr Egiwys yr hwn yw 'r lle i addoli a alwant hwy yn ddelw: megis pe byddai yn yr Scrythyr lân wahaniaeth mewn ystyr a deall rhwng y ddau air ymma, eulyn, a delw, y rhai fal y dywedpwyd o'r blaen a wahanir yn vnic mewn llais ac iaith, ac ydynt yn siccr mewn ystyr a gwirionedd yr vn peth, yn enwedig yn yr Scrythyrau a materion ffydd a chrefyd.

Ac fe arferwyd o addoli ein delwau ni ac yr y∣dys etto yn ei haddoli, ac os goddefir hwy yn gy∣hoeddus yn yr egiwysydd a'r temlau hwy a addo∣lir byth, ac felly fe wnair delwaddoliad iddynt, megis y dangosir ac y profir yn halaeth yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth hon.

Page 25

Am hynny nid ydyw ein delwau ni, sydd yn y temlau a'r eglwysydd, ddim amgen nag eulynod, neu Idolau, i'r rhai y gwnaethpwyd eulyn-addo∣liad ac y gwnair fyth.

Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r hên Destament gan ddamnio a ffieiddio pob eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, a'r eulynod a'r delwau eu hu∣nain hefyd, yn enwedig mewn temlau; mor aml ac mor halaeth ac y byddai waith anniben, ni ellid ei gynwys mewn llyfr o faint bychan gyfrif yr holl leoedd a berthynant at hyn o beth. O her∣wydd wedy darfod i Dduw ddewis vn bobl neill∣tuol yn vnic iddo ei hun, o blith yr holl genhedlo∣edd eraill, y rhai nid adwaenēt Dduw, ond a addo∣lent ddelwau a gaudduwiau, fe a rodd iddynt or∣deiniaethau a chyfraithiau i'w cadw ac i'w cyn∣nal: ond ni roddodd ef i'w bobl hynny gyfraithiau difrifach nac eglurach am ddim arall nag a ro∣ddod ef am ei wir addoliad ei hun, ac am ymwa∣chelyd ac ymgadw rhag eulynod, delwau a delw∣addoliad, am fod y delwaddoliad hynny yn wrthwynebussaf peth ac a ddichon bod i'w iawn addoliad ef a'i wir ogoniant, yn hytrach nag vn drygioni arall: ac am ei fod ef yn gwybod hybly∣gedd a pharodrwydd llygredig naws dyn i'r bai cas ffiaidd hwnnw.

O'r cyfraithiau a'r ordeiniaethau hynny a ro∣ddodd Duw i'w bobl ynghylch y peth hyn, mi a adroddaf i 'wch rai o'r rhai enweddiccaf i'r def∣nydd hyn▪ fal y galloch wrth y rhai hynny farnu am y llaill. Mae y bedwaredd bennod o lyfr Deu∣teronomium yn hynod, ac hi a haeddai ei hystyried yn ddiescaelus, ac mae 'n dechreu fal hyn, Bellach gan hynny o Israel gwrando ar y deddfau a'r

Page 26

barnedigaethau y rhai yr ydwyf yn eu dyscu i chwi i'w gwneuthur, fal y byddoch byw ac yr e∣loch ac y gorescynnoch y wlad yr hon y mae 'r Ar∣glwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi, na * 1.71 chwanegwch at y gair hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi, ac na laihewch ddim o hanaw ef, gan ga∣dw gorchymmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf yn eu rhoddi i chwi.

Ac yn y mann ar ol hynny mae fe yn adrodd yr vn gairiau dair gwaith neu bedair, cyn ei ddy∣fod ef at y peth y mae ef yn enwedig yn eu rhyby∣ddio hwy am dano, megis mewn rhag-ddywediad i wneuthur iddynt ystyried yn wagelusach, Go∣chel arnad (medd ef) a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honoti y pethau y rhai a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes: ond yspysa hwynt i'th blant * 1.72 ac i blant dy blant. Ac yn y man ar ol hynny, A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o genol y tân, a chwithau nid oeddych yn gweled llun dim heb law llais. Ac etto yn y man, Gwiliwch gan hynny * 1.73 yn ddyfal ar eich eneidiau, o blegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wr∣thych yn Horeb o ganol y tân, rhag ymlygru o ho∣noch * 1.74 a gwneuthur i'wch ddelw gerfiedig, cyffely∣brwydd vn ddelw, llun gwryw neu fenyw, llun vn anifail yr hwn sydd a'r y ddayar llun aderyn ascellog yr hwn a eheda yn yr awyr, llun vn ym∣lusciad ar y ddayar, llun pyscodyn ar y sydd yn y dyfroedd tan y ddayar: hefyd rhag derchafu o honot dy lygaid tua 'r nefoedd, a gweled yr haul a'r lleuad a'r ser, sef holl lu 'r nefoedd, ac iti trwy gamsynniaeth ymgrymmu iddynt a'u haddoli hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw

Page 27

i'r holl bobloedd dan y nefoedd.

Ac ail waith, Gochelwch ac ymgedwch arnoch rhag i'wch angofio cyfammod yr Arglwydd eich duw yr hwn a ammododd ef â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll ac a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, o her∣wydd yr Arglwydd dy Dduw sydd dân yfsol, a Duw eiddigus; pan genhedloch feibion ac wyri∣on a heneiddio o honoch yn y wlad ac ymlygru o honoch a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, fal y gwneloch ddryganniaeth yng∣olwg yr Arglwydd dy Dduw i'w ddigio ef: galw 'r ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi nefoedd a dayar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddiar y tir yr hwn yr ydych yn myned dros yr Iorddonen i'w oresgyn; nid ystynnwch ddyddiau ynddo, Canys gan eich difa y'ch difeir, a'r Ar∣glwydd ach gwascara chwi ym-mhlith y boblo∣edd, a chwi a denir yn ddynion anaml ymhlith y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwyd chwi at∣tynt, ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen y rhai ni welant ac ni chlywant, ni fwytant ac nid aroglant, &c.

Pennod odidawg ydyw honn ac nid ydyw yn son haechen am ddim ond y peth hyn. Ond o her∣wydd bod yn rhy hir scrifenu'r cwbl, myfi a ddewi∣sais i'wch ryw brif-byngriau o honi.

Yn gyntaf mor ddifrif ac mor fynych y mae ef yn galw ar nynt i wilied dan bôen ei heneidiau ar y peth y mae yn ei orchymmyn iddynt.

Yn ail pa fodd y mae ef yn ei gwahardd drwy hîr a chyhoeddus gyfrif o'r holl bethau yn y nef, yn y ddaiar, yn y dwfr, na bo gwneuthyr delw neu lun dim yn y byd.

Page 28

Yn drydedd pa gospedigeth erchyll a pha ddi∣nystr, gan alw nêf a daiar yn dystion, y mae ef yn ei gyhoeddi ac yn bygwth ei ddwyn arnynt hwy ar eu plant a'u heppil, os hwy yn erbyn y gorchy∣myn hwn a wnaent neu a addolent vn ddelw neu lun, yr hyn a waharddod ef mor galed iddynt. A phan gwympasant hwy i wneuthur ac i addoli delwau, er y gorchymmyn caled hwn, mewn rhan o achos parodrwydd llygredig anian dŷn, ac mewn rhan am fod y cenhedloedd a'r paganiaid oedd yn trigo o'u hamgylch ac oedd yn addoli delwae, yn rhoddi achosion i ddynt, fe a ddug Duw arnynt yn ol ei air yr holl blâu a'r rai y bygythiase hwynt, megis y mae yn eglur yn helaeth yn llyfrau y brenhinoedd a'r croniglau, a llawer o leoedd hy∣nod eraill or hên destament y sydd yn gyfun â hyn. Dewt. 27. melldigedig yw 'r gwr yr hwn a wnelo * 1.75 ddelw gerfiedig, neu ddelw doddedig sef ffieidd-dra i'r Arglwydd gwaith dwylo 'r saer ac a 'i gysodo mewn lle dirgel a'r holl bobl a'i hattebant ac a ddywedant, Amen.

Darllenwch y drydedd ar bedwaredd benod ar ddeg o lyfr y doethineb ynghylch eulynnod a del∣wau pa * 1.76 fodd yr ydys yn eu gwneuthur hwy, yn eu gosod hwy i fynydd, yn galw arnynt ac yn offrwm iddynt, a pha fodd y mae fe yn canmol y pren â'r hwn y gwnaid y crogpren megis dedwydd wrth y pren yr hwn y gwneir y ddelw ag ef, yn y geiriau hyn, Bendigedig medd ef yw 'r pren trwy o'r hwn y daw cyfiawnder, hwnnw yw y crogbren, ond melldigedig yw y ddelw a llaw'r hwn a'i gwnelo, o herwydd yr hyn a wnaed ynghŷd â'r hwn a'i gwnaeth a gystuddir, &c.

Ac yn y man mae ef yn dangos fod y pethau

Page 29

oedd ddaionus greaduriaid Duw o'r blaen (me∣gis coed neu gerrig) pan newidier hwy a'u llunio yn ddelwae i 'w haddoli yn myned yn ffiaidd ger bron Duw ac yn dramgwydd i eneidiau dynion ac yn fagl i draed y rhai angall. A phaham? Canys dechreuad godineb oedd ddychymmygu delwau, a'u caffaeliad hwynt oedd lygredigaeth buchedd, o herwydd nid oeddynt o'r dechreuad, ac ni by∣ddant yn dragywydd. Cyflawnder a seguryd dŷn a'u dychymygodd hwy yn y byd, ac am hynny y bydd eu diwedd yn fyr, ac felly hyd ddiwedd y ben∣nod, yn cynwys y pyngciau ymma, pa fodd y dy∣chymygwyd delwau yn y cyntaf, ac yr offrym∣mwyd iddynt, pa fodd y sicrhawyd drwy ddefodau anraslon, a pha fodd y cym-mhellodd tyranniaid creulon rai i'w haddoli hwynt, pa fodd y twyllir y gwirion a'r gyffredin bobl trwy gyfarwyddyd a chywreinrwydd y crefftwr a thegwch y ddelw i'w hanrhydeddu hi, ac felly i gyfeliorni oddiwrth adnabyddieth Dduw, a llawer o afradau eraill, ac a ddaw oddiwrth ddelwau.

Ac yn lle crynhodeb ar y cwbl mae fe yn dywe∣dyd mai achos a dechreuad a diwedd pob drygioni yw anrhydeddu ffiaidd ddelwau, a bod y rhai a'u haddolant hwy naill ai allan o'u pwyll ai yn wae∣thaf dynion ac all fod. Gwyl ac edrych yn ddyfal ar yr holl bennod trosti, o herwydd hi a dâl ei hy∣styried, yn enwedig yr hyn a scrifennir am dwy∣llo y gwirion a'r bobl gyffredinol angall drwy eulynod a delwau, yr hyn a adroddir ddwy∣waith neu dair rhag ei hangofio.

Ac yn y bennod nessaf y cewch y geiriau hyn, Golwg llun gwedi ei fritho ag am ryw liwiau sy'n peri chwant ar rai angall i ddymuno dieneidiol * 1.77

Page 30

lun delw farwol i'w hoffi, ac i goelio'r fath bethau. Eithr am y rhai a'u gwnant, a'u coeliant, a'u dy∣munant, a'u gwasanaethant, y maent oll yn hoffi pethau drygionus.

Mae y prophwyd yn llawer lle yn llyfr y Psal∣meu yn melldithio anrhydeddwyr delwau, Gw∣radwydder pawb ar a wasanaethant ddelw ger∣fiedig a'r rhai a orfoleddant mewn eulynnod, y * 1.78 rhai a'u gwnânt y sydd fel hwyntau a phob vn a ymddiriedo ynddynt. Ac ym-mhrophwydolieth Esai y dywaid yr Arglwydd, Myfi ydwyf yr Ar∣glwydd, * 1.79 dymma fy enw, a 'm gogoniant ni ro∣ddaf i arall, na 'm mawl i ddelw gersiedig. Ac yn y man, Troer yn eu hol a llwyr-wradwydder y rhai a ymddiriedant mewn delw gerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y ddelw dawdd, chwi y∣dych ein duwiau ni. Ac yn y 40. bennod gwedi iddo osod allan anymgyffred fawrhydi Duw, mae fe yn gofyn, I bwy gan hyny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch i fynu iddo? a lu∣nia y saer gerfiedig ddelw, ac a oreura yr euryrh hi ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian, ac a dde∣wis hwn sydd arno eisieu offrwm bren heb bydru? a gais ef saer cywraint i baratoi cerfddelw hefyd? * 1.80 Ac yn ol hyn y mae fe 'n gweiddi, Oni wyddoch, oni chlywsoch, oni fynegwyd ichwi o'r dechreuad; ac felly mae yn dangos drwy wneuthurdeb y byd, a thrwy faint y gwaith, y gallant ddeall fod mawrhydi Duw, creawdwr a gwneuthurwr y cwbl oll, yn fwy, nac y gellid na'i bortreio, na'i o∣sod allā drwy vn ddelw neu gyffelybiaeth gorpho∣rol. Ac heblaw y pregethiad hynn, yr ydys ynghy∣fraith Dduw ei hun, yr hon fel y dywaid yr Scry∣thyr a scrifenodd Duw â'i fŷs ei hun, a hynny yn

Page 31

y llech gyntaf yn y dechreuad, nid yn vnig yn a∣drodd yn fyr yr athrawieth hon yn erbyn delwau, ond yn ei gosod hi allan ac yn ei phregethu yn he∣laeth, a hynny, gydâ chyhoeddiad distryw i'r sawl * 1.81 a ddiystyrant, ac a dorrant y gyfraith hon, a'u hep∣pil ar ei hol hwy.

A rhag na ystyrier arno ac na chofier, yr ydys yn ei scrifenu nid mewn vn man ond mewn llaw∣er o leoedd yngair Duw, megis trwy ei ddarllen a'i glywed yn fynych y gallem yn y diwedd ei ddys∣cu * 1.82 a'i gofio, fal yr ydych hefyd yn clywed darllen beunydd yn yr Eglwys, Duw a lefarodd y geiriau hynn ac a ddywad, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, na fydded itti dduwiau eraill onid myfi. Na wna i ti dy hun ddelw gerfiedig na llun dim ac y sydd yn y nefoedd vchod neu yn y ddaiar issod nac yn y dwfr dan y ddaiar, na ostwng iddynt ac na a∣ddola hwynt, o herwydd myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phe∣chodau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bed∣waredd genhedlaeth o'r rhai a'm casant, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm ca∣rant ac a gadwant fyng-orchymmynion.

Er hynny i gyd ni allodd na godidawgrwydd y lle hwn, ac yntef yn ddechreuad cyfraith yr Ar∣glwydd cariadus, wneuthur i ni ei ystyried, na'r mynegiad golau wrth gyfrif pob rhyw luniau, beri i ni ei ddeall; na'r son am dano mor fynych mewn cynnifer o leoedd, na'i ddarllen a'i glywed ef mor fynych, wneuthur i ni ei gofio ef; nac ofn yr erchyll gospedigaeth arnom ni, a'n plant, a'n heppil ar ein hol, ein hofn-ni rhag ei droseddu ef; na maint y gwobr ini a'n plant ar ein hol, ein cy∣ffroi i vfyddhau ac i gadw y fawr gyfraith hon

Page 32

eiddo yr Arglywdd: ond megis pe buasai gwedi ei scrifenu mewn rhyw gornel, ac heb ei chyhoeddi yn helaeth ond gwedi ei thwtsio yn fyr ag yn dy∣wyll: megis pe buasid heb gyssylltu ag hi vn gospe∣digaeth i'r troseddwyr, nac vn gwobr i'r vfyddion, Megis gwyr deillion heb gydnabyddieth ac heb ddeall, megis anifeiliaid anrhesymmol heb ofn cosp na gobaith am wobr, ni a leihasom ac a ddi∣anrhydeddassom vchel fawrhydi y bywiol Dduw, trwy waeledd a * 1.83 * salwedd amryw a bagad o ddelwau o goed, cerrig a mettelau meirwon.

Ac megis na ellir traethu ac adrodd mawrhydi Duw yr hwn a wrthodasom ac a ddianrhydedda∣som ni, na'n pechod a 'n troseddau ninau am hyn∣ny yn erbyn i fawrhydi ef: felly y traethwyd yn he∣laeth yn yr yscrythur lan waeledd a gwendid a ffolineb dychymygiaeth delwau, trwy 'r rhai y dianrhydeddasō ni ef, yn enwedig yn y Psalmau, llyfr y doethineb, y Prophwyd Esaias, Ezechiel a Barwc, ond yn enwedigol yn y lleoedd, a'r pen∣nodau ymma, Psal. 115. 45. &c. 135. 15. Esai 40. 18. 44. 9▪ Ezechiel 6. 4. 6. Doeth. 13. 14, 15. Barwc o'r 3. hyd y diwedd. Yr hyn leoedd fel yr ydwyf yn eich annog i'w darllen yn fynych ac yn ddyfal, felly y maent yn rhy hîr ar hyn o amser i'w hadrodd mewn homili. Er hynny mi a dynnaf i'wch ryw brif-nodau byrrion er dangos beth y maent yn ei ddywedyd am ddelwau ac eulynod.

Yn gyntaf yr ydys yn eu gwneuthur hwy a dry∣lliau bach o goed a cherrig neu fettel ac er mwyn hynny ni allant fod yn gyffelybieth i anfeidrol fawrhydi Duw, gorseddfanigc yr hwn yw yr nef a'r ddaiar yn faingc i'w draed.

Yn ail maent hwy yn feirw, a llygaid iddynt ac

Page 33

heb weled, a dwylo iddynt ac heb deimlaw, traed heb gerdded &c. ac am hyny ni allant fod yn gyffe∣lybiaethau addas i'r bywiol Dduw.

Yn drydedd, nid oes ynddynt allu i wneuthur lles nac afles i neb o'r byd er bod gan rai honynt fwyall, gan rai gleddyf a chan rai waywffon yn eu dwylaw, etto mae 'r lladron yn dyfod i'w tem∣lau ac yn eu hyspeilio hwy, ac ni allant vnwaith yscog i'w hymddiffyn eu hunain rhag y lladron: ie a phe byddai eu temlau neu eu heglwysydd yn cymeryd tân er i'w hoffeiried allel diange a'u ca∣dw eu hunain, etto ni allant hwy yscog ond aros megis cyffion meirw (megis y maent hwy) i'w llosgi, ac am hynny ni allant fod yn arwyddion cymhessur o'r Duw mawr galluog, yr hwn yn vnig a all gadw ei weision a distrywio ei elynion yn dragwyddol, yr ydys yn trwssio yn wych mewn aur ac arian a cherig gwerthfawr ddelwau gwyr a gwragedd megis llangcesau neu fachgenesau drythyll a fytho'n hoffi gwychder, y rhai, meddy Prophwyd Barwch, y mae cariadon iddynt, ac * 1.84 er mwyn hynny ni allant ddyscu i ni na 'n gwra∣gedd na 'n merched, na sobrwydd na lledneisrw∣ydd na diwairdeb.

Ac er bod yn awr yu eu galw hwy yn llyfrau gwyr llŷg, etto ni a welwn na allant ddangos vn wers dda nac am Dduw nac am dduwioldeb, ond pob am-mryfyssedd ac anwiredd. Am hynny fal y mae Duw yn ei air yn gwahardd gwneuthur a gossod i fynu na delwau nac elynnod, felly y mae ef yn gorchymmyn tynnu i lawr, dryllio a distrywio y rhai a gaffont gwedy eu gossod i fynu.

Mae yn scrifennedig yn llyfr y nifeiri nad oes eulyn yn Iacob na delw yn Israel, a bod yr Ar∣glwydd

Page 34

Dduw gydâ ei bobl. Yno ystyriwch nad oes gan y gwir Israelieid, hynny yw gwir bobl Dduw, ddelwau yn eu mysg, ond bod Duw gydâ hwy, ac am hynny na all eu gelynion niwed iddynt, fal y mae yn eglur wrth yr hyn a ganlyn yn y bennod honno.

Ac fal hyn y dywaid yr Arglwydd yn Deutero∣nomium am ddelwau a osodwyd i fynu eisoes, di∣nystrwch eu hallorau a thorrwch eu colofnau * 1.85 hwynt, cwympwch eu llwynau a llosgwch eu delwau cerfiedig hwynt yn y tan, o herwydd pobl santaidd i'r Arglwydd ydych chwi. Ac fe a ail draethir yr vn peth etto yn ddifrifach yn y ddeu∣ddegfed bennodo'r vn llyfr. Yna ystyriwch beth a ddylei bobl Dduw ei wneuthur i ddelwau lle y cyhyrddont â hwy.

Ond rhag i wyr diswyddau yn rhith distry wio delwau wneuthur terfysc yn y wlad, rhaid yw cofio ynwastad fod inia wnhâd y fath anferch wch cyffredinol yn perthyn yn vnig i ly wiavod wyr a'r rhai sydd mewn awdurdod, ac nid i wyr diswy∣ddau, ac am hynny yr ydys yn canmol yn fawr dros ben Asa, Ezechias, Iosaphat a Iosias, daio∣nus * 1.86 frenhinoedd Iuda, am dorri i lawr a diny∣strio a llorau Idolau, a delwau. Ac mae 'r Scry∣thyr yn manegi iddynt wneuthur y peth oedd ini∣on, yn enwedig yn hynny o beth, gerbron yr Ar∣glwydd.

Ac o'r gwrthwyneb yr ydys yn adrodd trwy air Duw i Ieroboam, Ahab, Ioas, a thy wysogion eraill y rhai naill ai a osodosant i fynydd, ai yntau a oddefasant heb eu tynnu i lawr a'u distrywio, allorau a delwau yn eu plith, wneuthur yn ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

Page 35

Ac os bydd neb yn erbyn gorchymmyn yr Ar∣glwydd yn mynnu gossod i fynu allorau neu ddel∣wau neu eu goddef yn eu plith heb ddinistrio, mae yr Arglwydd ei hunan yn bygwth yn llyfr y Rhifedi, a thrwy ei Brophwydi santaidd, Eze∣chiel, Michaeas, a Barwch, y daw ef ei hun i'w tynnu hwy i lawr, a pha fodd y chwala y cospa ac y difa ef y bobl a'u gosodant i fynydd, neu a odde∣fant allorau delwau ac Idolau heb eu dinystro.

Mae ef yn cyhoeddi trwy 'r Prophwyd Eze∣chiel yn y modd ymma, wele fi (ie) myfi yn dwyn cleddyf arnoch ac mi a ddinystriaf eich vchelfeudd, eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir, a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eulynnod▪ a rhoddaf gelanedd meibion Isra∣el * 1.87 ger bron eu heulynod, a thannaf eich escyrn o flaen eich allorau yn eich holl drigfeudd, eich di∣nasoedd a anrheithir, eich vchelfannau a ddifwy∣nir, fal yr anrheithir ac y difwynir eich allorau ac y torrir ac y peidio eich eulynod, ac y torrir ym∣maith eich haul-ddelwau ac y deleir eich gwei∣thredoedd: yr archolledig hefyd a sŷrth yn eich mŷsc fal y gwypoch mai myfi ydwyf yr Arglwydd. Ac felly hyd ddiwedd y bennod, yr hyn a dâl ei ddarllen yn ddyfal, y difethir y rhai agos â'r cle∣ddyf, y rhai pell â'r * 1.88 cowyn, y rhai a gilient i'r ce∣styll, neu 'r anialwch â newyn, ac os diangai neb, ydygid hwy yn garcharorion i gaethiwed.

Megis felly pe byddai amledd neu eglurder y lleoedd yn abl i wneuthur ini ddeall, neu pe ga∣llai y gorchymmyn caled y mae Duw yn ei roi yn y lleoedd hynny ein cyffroi ni i ystyrio, neu pe by∣ddai y plaau a'r cospedigaethau creulon a'r * 1.89 e∣chrydus ddinistr a fygythir i'r cyfryw addolwyr

Page 36

belwau neu eulynod, i'r rhai a'u gosodant hwy i fynydd neu a'u maenteiniant hwy, yn gallel ma∣gu yn ein calonnau ni ddim ofn, ni a adawen vn∣waith ac a ym wrthodem á'r drygioni hyn, gan ei fod yngolwg yr Arglwydd yn gymmaint trosedd * 1.90 a ffiaithbeth. Fe a ellid adrodd aneirif leoedd hae∣chen allan o'r hên Destament ynghylch hyn o beth, ond gwasanaethed yr ambell rai hyn dros y cwblar hyn o ennyd.

Chwi a ddy wedwch ond odid fod y pethau hyn yn perthyn at yr Iddewon, a pha beth sydd ini a wnelom a hwynt? Yn wir ni pherthynant ddim llai attom ni 'r Christionogion nag attynt hwy∣thau. O herwydd os pobl Dduw ydym ni pa fodd na perthyn gair a chyfraith Duw attom ni? Mae S. Paul wrth adrodd vn lle o 'r hên Destament yn rhoi 'r vn farn am gwbl o scrythyrau 'r hên Destament yn gyffredinol, cystadl ac am y lle hwn, gan ddywedyd: Y pethau a scrifennwyd ym∣laen llaw (hynny yw yn yr hên Destament) a scrifennwyd er addysc ini. Yr hyn sydd wir yn enwedig am y cyfryw scrythyrau o'r hên Desta∣ment ac a gynhwysant yndynt anghyfnewidiol gyfraithiau ac ordeiniaethau Duw: y rhai ni ddy∣lid eu newid vn amser, ac ni ddylei vn dŷn nac vn oes, nac vn genedl anvfyddhau iddynt. Cyfryw yw 'r lleoedd oll a adroddwyd o'r blaen. Er hynny er eich bodloni chwi ym-mhellach am hyn o beth yn ol fy addewid, mifi a * 1.91 brofaf yn ddiogel yr a∣thrawaeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, a'n dlyed ninnau o'u plegid hwy allan o scrythyrau y Testament newydd, ac Efengyl ein Iachawdwr Christ.

Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r Testament ne∣wydd

Page 37

yn son yn llawen mewn amrafael fannau, megis dawn a rhodd odidawg Duw, eu bod hwy y rhai a dderbyniasant ffydd Grist, gwedy eu troi * 1.92 oddiwrth ddelwau mudion meirwon at y gwir a'r bywiol Dduw yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, yn enwedig yn y lle oedd hyn y 14. a'r 17. o Actau neu weithredoedd yr Apostolion: 11. at y Rufeiniaid, y 12. o'r Epistol cyntaf at y Corinthi∣aid. Galath. 4. 1. Thessalon. 1. Ac yn gyffelyb y mae Yspryd Duw yn scrythyrau y Testament newydd yn ffeieiddio ac yn * 1.93 dygyn gashau ac yn gwahardd eulynod neu ddelwau a'u haddoliad, fal y mae yn eglur wrth y lleoedd hyn, a llawer eraill megis yn y 7. a'r 15. o▪ Actau 'r Apostolion a'r cyntaf at y * 1.94 Rufeiniaid, lle y cyhoeddir plagau ofnadwy delw∣addolwyr, y rhai a rodd Duw i fynydd i wyniau gwarthus, ac i wneuthur pob aflendid affiaidd∣bethau, y rhai ni ddleid eu henwi, megis yn gyn∣nefin yr â goddineb Ysprydol a chnawdol ill dau ynghŷd.

Yn y cyntaf at y Corinthiaid a'r bummed ben∣nod y'n gwaharddir ni i gadw cyfeillach nac i fwyta nac i yfed gydâ 'r rhai a elwir yn frodyr, neu yn Gristionogion, ac ydynt yn addoli delwau. Yn * 1.95 y 5. at y Galath. yr ydys yn cyfrif delw-addoliad ym-mhlith gweithredoedd y cnawd; ac yn y cyn∣taf at y Corinth. a'r 10. yr ydys yn ei alw ef yn wa∣sanaeth * 1.96 cythreuliaid ac yn bygwth y dinistrir y rhai a'i harferant. Ac yn y chweched bennod o'r vn Epistol, ac yn y bummed at y Galathiaid y cy∣hoeddir na ddaw y fath ddelw addolwyr byth i deyrnas nef. Ac mewn llawer o leoedd eraill y * 1.97 bygythir y daw llid Duw ar bawb o'r fath ddyn∣nion. Ac am hynny y mae Ioan yn ei Epistol 1.

Page 38

yn ein hannog ni megis plant anwyl i wachelyd delwau. Ac mae S. Paul yn ein rhybyddio i wa∣chelyd * 1.98 addoli delwau os byddwn call, hynny yw os gofalwn am ein Iechydwriaeth ac os ofnwn ddinistr, os gofalwn am deyrnas Dduw a bywyd tragwyddol, os ofnwn lid Duw a thragwyddol ddamnedigaeth.

O herwydd nid yw bossibl ini fod yn addolwyr delwau ac yn wir weision Duw, fal y dengys S. Paul yn yr ail at y Corinthiaid, a'r 6. Bennod, * 1.99 ganddywedyd yn oleu na ddichon bod mwy cys∣sondeb na chymdeithas rhwng teml Duw, y rhai ydyw gwir Gristionogion, a delwau, nag sydd rhwng cysiawnder ac anghysiawnder, goleuni * 1.100 a thywyllwch, rhwng y credadwy a'r anghredad∣wy, rhwng Christ a'r diawl. Yr hwn le fydd yn profi na ddlyem ni addoli delwau, na'u mynnu yn ein temlau, rhag ofn eu haddoli hwynt, er eu bod o hanynt eu hunain yn ddieniwed. O her∣wydd sanctaidd deml Dduw a bywiol ddelw Dduw yŵ 'r Christion, fal y mae 'r lle hwnnw yn dangos yn eglur i'r sawl a'i darllenont ac a'i ysty∣riantef yn dda.

A lle 'r oedd yr holl dduwiolion yn * 1.101 dygyn ga∣shau penlinio, addoli neu offrwm iddynt eu hu∣nain, pan oeddynt fyw yn y byd, o herwydd bod hynny yn anrhydedd dyledus i Dduw yn vnic, fal y dangosir yn Actau 'r Apostolion yn S. Petr yrhwn a waharddodd hynny i Cornelius, ac yn S. Pawl a Barnabas a waharddasant yr vn peth i ddinaswyr Lystra. Etto yr ydym ni megis dynnion ynfyd, yn arfer o gwympo i lawr ym∣mlaen eulynod a delwae meirwon Petr a Pawl, * 1.102 ac yn rhoddi i goed a cherrig yr anrhydedd a dyby∣gent

Page 39

hwy * 1.103 fod yn ffiaidd ei roddi iddynt eu hu∣nain, pan oeddynt fyw.

Ac fe a wrthododd daionus Angel Duw, fal y mae 'n eglur yn llyfr gweledigaeth Ioan benlinio iddo, pan gynnygodd Ioan yr anrhydedd hwnnw * 1.104 iddo. Gwachel, medd yr Angel, wneuthur hynny, o herwydd dy gydwasanaethwr di wyfi.

Ond nid yw 'r drwg angel sathan yn chweny∣chu dim yn gymmaint a chael penlinio iddo, a thrwy hynny ar vnwaith yspeilio Duw o'i ddy∣ledus anrhydedd a dwyn damnedigaeth ar y rhai a ostyngont mor issel iddo, fal y gwelir yn histori 'r efengyl mewn llawer lle. Ie fe gynnygodd i'n * 1.105 Iachawdwr Christ bob golud bydol os efe a ben∣linie i lawr a'i addoli ef. Ond mae 'n Iachaw∣dwr * 1.106 Christ yn argyoeddi Sathan trwy 'r Scry∣thyrau gan ddywedyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnic a wasanaethi.

Ond yr ydym ni wrth beidio ac addoli a gwasa∣naethu Duw yn vnic, fal y mae 'r Scrythyr yn ein dyscu ni, a thrwy addoli delwau yn erbyn yr Scrythyrau, yn tynnu sathan attom, ac yn barod heb vn gwobr i ganlyn ei ddeisyfiad ef, ie yn gynt nac y ffaelo gennym, ni a gynnygwn iddo ef roddi∣on ac aberthau er derbyn ein gwasanaeth.

Ond canlynwn frodyr yn hytrach gyngor dai∣onus Angel Duw, o flaen cyngor dichellgar sa∣than, yr angel drygionus a'r hên sarph, yr hwn yn ol y balchedd trwy 'r hwn y cwympodd ar y cyn∣taf, sydd yn ceisio fyth trwy 'r fath gyssegr-ladrad ddifuddio Duw, yr hwn y mae ef yn cenfigennu wrtho, o'i ddyledus anrhydedd, ac o herwydd fod ei wyneb ef ei hunan yn * 1.107 erchyll ac yn ofnadwy, mae fe 'n ceisio dwyn anrhydedd Duw atto ei

Page 40

hun, trwy gyfryngiad coed a cherrig, a'n gwneu∣thur ni gydâ hynny yn elynion i Dduw ac yn erfynwyr ac yn gaethweision iddo ei hun, ac yn y diwedd i dynnu arnom yn lle gwobr ddinistr a damnedigaeth tragwyddol.

Gan hynny vwchlaw pob peth os ydym yn ty∣biaid ein bod yn wir Gristionogion (fal y 'n henwir ni) credwn y gair, vfyddhawn y gyfraith, canlynwn athrawaeth a siampl ein Iachawdwr a'n meistr Christ: trown heibio hudoliaeth sathan, sy 'n ceisio ein hudo i wasanaethu eulynod ac a∣ddoli delwau, yn ol y gwirionedd a ddangoswyd ac a addyscwyd allan o destament ac efengyl ein dyscawdwr a'n hathro nefol Iesu Grist: yr hwn sydd Dduw bendigedig yn dragywydd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn enbeidrwydd delw-addoliad.

CHwi a glywsoch, fyngharedigion, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, yn erbyn eulyn-addoliad a delwa∣ddoliad, athrawaeth gair Duw, a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên destament a'r testament newydd, gwedy ei gadarnhau trwy siampl yr A∣postolion a Christ ei hunan. Yn awr er nad ydyw ein Iachawdwr Christ yn derbyn nac yn rhaid iddo wrth dystiolaeth dyn, ac er nad rhaid i'r hyn a gadarnhair vnwaith trwy siccrwydd ei wirio∣nedd ef, ddim chawneg siccrwydd gan athrawaeth ac scrifenadau dyn, mwy nac y mae 'n rhaid i'r haul gannaid ar hanner dydd wrth oleu canwyll

Page 41

fach i droi tywyllwch heibio ac i chwanegu ei o∣leuni: etto er eich bodloni chwi ym-mhellach fe ddangosir i chwi yn yr ail rhan hon, megis yr a∣ddawyd yn y dechreuad, fod yr hên dadau sāctaidd, a'r hen athrawon dyscedig yn credu ac yn dyscu yr athrawaeth hon, ynghylch gwahardd delwau a'u haddoliad, (yr hon a dynnwyd allan o Scry∣thyrau 'r hên dadau sanctaidd or hên destament a'r testament newydd) a bod y brif-eglwys gynt yr hon oedd buraf ac an-llygrediccaf yn ei chynwys ac yn ei derbyn. A hynny a ddangosir allan o scrife∣nadau 'r hên athrawon sanctaidd hynny, ac allan o'r hen historiau eglwysig a berthynan iddynt.

Mae Tertulian hên scrifennydd ac athro o'r E∣glwys, yr hwn oedd yn y byd ynghylchwyth-iga∣in * 1.108 mlynedd yn ol dioddeifaint ein Iachawdwr Christ, mewn llawer o leoedd, ond yn enwedig yn y llyfr a scrifennodd ef yn erbyn y modd yr arferid o goroni: ac mewn traethawd bychan arall, yr hwn y mae fe yn ei enwi, Coron y milwr, yn llym ac yn ddifrifol yn scrifennu yn erbyn delwau neu eulynod ac yn eu * 1.109 dychanu.

Ac a'r airiau Ioan Sant yn ei epistol cyntaf * 1.110 a'r bummed bennod: mae 'n dywedyd yn y modd ymma, mae Ioan sant gan gwbl ystyriaid y peth hyn yn dywedyd yn y modd ymma, fymhlant by∣chain ymgedwch oddiwrth ddelwau neu euly∣nod: nid ydyw fe yn dywedyd yn awr ymgedwch oddiwrth ddelw-addoliad, megis oddiwrth eu gwasanaeth hwy a'u haddoliad, onid oddiwrth y delwau a'r eulynod eu hunain, hynny yw oddi∣wrth eu llun a'u cyffelybiaeth. O herwydd peth annheilwng yw i ddelw Duw byw fyned yn llun delw farw.

Page 42

Onid ydych chwi yn tybaid fod y rhai fy yn go∣sod delwau ac eulynod mewn eglwysydd a them∣lau, ie ac yn eu dodi mewn * 1.111 pallau vwchben bord yr Arglwydd, megis o lwyr feddwl eu haddoli a'u anrhydeddu hwy, yn ystyried yn dda gyngor S. Ioan a Thertulian? O herwydd pa vn yw gosod i fynu ddelwau ac eiddolau yn y modd hynny, ai ymgadw oddiwrthynt ai yntau eu derbyn a'u co∣fleidio?

Mae Clemens yn dywedyd yn ei lyfr at Iaco brawd yr Arglwydd; Pa beth a ddichon bod mor * 1.112 ddrwg, ac mor anniolch-gar, a derbyn dawn gan Dduw, a rhoddi diolch am dano i goed a cherrig? Am hynny dihunwch, a deallwch eich Iechyd, o herwydd nid rhaid i Dduw wrth vn dŷn, nid yw yn gofyn dim ac ni ddryga dim ef: Ond nyni yw y rhai yr ydys yn eu cymmorth, neu eu drygu, am ein bod yn ddiolchgar i Dduw neu yn anddi∣olchgar.

Mae Origen yn ei lyfr yn erbyn Celsus yn dy∣wedyd fal hyn, Mae Christionogion, ac Iddewon pan glywont y geiriau hyn o'r gyfraith, Ti a ofni yr Arglywydd dy Dduw, ac na wna ddelw, nid yn vnic yn ffieiddio temlau, allorau, a delwau 'r duwi∣au, ond os bydd rhaid hwy a fyddant feirw 'n gynt nag yr halogont eu hunain ag vn annuwioldeb. Ac yn y man ar ol hynny fe a ddywaid, fe daflwyd ym - mhell ac a waharddwyd cerfwr eulynod a gwneuthurwr delwau allan o wlad yr Iddewon, rhag iddynt gael achos i wneuthur delwau, y rhai a allai dynnu rhyw ddynion ffoliaid oddiwrth Dduw, a throi llygaid eu heneidiau i edrych ar be∣thau dayarol.

Ac mewn man arall o'r vn llyfr, nid yw, medd ef,

Page 43

ddoli delwau 'n vnic yn beth ynfyd gwallgofus, onid hefyd dwyn gydâ hynny heb gymeryd arnom ei weled. Fe ddichon dŷn adnabod Duw a'i vnic fab wrth y rhai a gawsont y fath râd gan Dduw, ac y gelwid hwy yn dduwiau: ond nid possibl i neb wrth addoli delwau gael dim gwybodaeth am Dduw.

Mae 'r geiriau hyn gan Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, Dywedant attolwg pa fodd yr adwaenir Duw wrth ddelw? oni bydd hynny trwy ddefnydd y ddelw, yno ni bydd rhaid wrth vn llun na diwgad, o herwydd i Dduw ymddan∣gos ym-mhob creadur defnyddiol, y rhai a dystio∣laethant ei ogoniant ef. Yn awr os dywedant mai trwy 'r pethau byw eu hunain y rhai y mae 'r delwau 'n dangos eu llun, o herwydd yn siccr fe adnabyddid gogoniant Duw yn eglurach o law∣er o'i ddangos trwy greaduriaid rhesymmol na thrwy ddelwau meirwon anghy ffroedig. Ac am hynny pan ydych yn cerfio neu yn peintio delwau, er mwyn adnabod Duw wrthynt, yn wir, yn wir, yr ydych yn gwneuthur peth an-nheilwng anweddaid. Ac fe a ddywaid mewn lle arall o'r vn llyfr, Ni ddaeth dychymmyg delwau o ddaio∣ni, ond o ddrwg, a pha beth bynnag y sydd iddo ddechrau drwg, ni ellir mewn dim ei farnu yn dda, am ei fod yn ddrwg hollawl. Hyd yn hyn y clyw∣soch Athanasius hên Athro ac escob dyscedig sanc∣taidd, yr hwn sydd yn barnu am ddelwau, fod ei dechreuad a'u diwedd, a chwbl o honynt yn ddrwg.

Mae gan Lactantius hefyd hên scrifennydd * 1.113 dyscedig, yn ei lyfr am ddechreuad amryfysedd, y geiriau hyn, Mae Duw oddiar ddyn, ac ni osod∣wyd

Page 44

ef isod, ond rhaid yw ei geisio ef yn y wlad vchaf. Am hynny diammau nad oes crefydd lle mae delw. O herwydd os yw ffydd a chrefydd mewn pethau duwiol, ac nad oes duwioldeb ond mewn pethau nefol, y mae delwau heb na ffydd na chrefydd ynddynt. Dymma airian Lactanti∣us, yr hwn oedd er ys mwy nâ thrychant ar ddeg o flynyddoedd, ac o fewn trychant mlynedd ar ol ein Iachawdwr Christ.

Mae gan Cyrillus hen Ddoctor sanctaidd, ar Efengyl Ioan sant y gairiau hyn, fe ymadawodd llawer â'r creawdwr ac a addolasont y creadur, ac ni chywilyddiasant ddywedyd wrth bren ti yw fy-nhâd, ac wrth garreg ti a'm cenhedlaist i. O herwydd llawer ie haychen y cwbl oll (ôch gan alar) a gwympasant i'r fath ffolineb ac y rhoesant ogoniant y duwdod i bethau heb na synwyr na theimlad ynddynt.

Mae Epiphanius escob Salamis yn Cyprus, gwr sanctaidd dyscedig, yr hwn oedd fyw yn am∣ser yr Ymherodr Theodosius, ynghylch trychant mlynedd a deg a phedwar vgain yn ol escynniad ein Iachawdwr Christ, yn scrifennu fal hyn at Ioan Patriarch Ierusalem, Mi aethym, medd Epiphanius, i mewn i ryw Eglwysi weddio, yno y cefais liain ynghrog yn-nrws yr Eglwys, ac ar∣no gwedi ei beintio megis delw Ghrist neu ryw sant, (o herwydd nid ydwyf yn cofio 'n dda llun pwy ydoedd) am hynny pan welais lun dyn, gwe∣dy ei grogi yn Eglwys Ghrist, yn erbyn awdur∣dod yr Scrythyrau mi a'i torrais, ac a gyngho∣rais geidwaid yr Eglwys ar iddynt * 1.114 amwisco gwr tlawd a fuase farw, yn y lliain hwnnw, a'i gladdu.

Page 45

Ac yn ol hyn mae 'r vn Epiphanius, gan ddan∣fon lliain arall heb ei beintio, yn lle yr hwn a do∣rassai, at y Patriarch hwnnw, yn scrifennu fal hyn, perwch, adolwg, i henuria'd y lle hwnnw, dderbyn y lliain hwn yr ydwyf yn ei ddanfon gy∣dâ 'r gennad ymma, a gorchymmynnwch iddynt o hyn allan nad arferont mwy grogi y fath liain paentiedig yn Eglwys Grist yngwrthwyneb i'n crefydd ni. O herwydd gweddus yn hytrach yw i'ch daioni chwi, gymmeryd y gofal hwn, ar i chwi dynnu ymmaith bob * 1.115 petrusder sydd an∣weddus i Eglwys Ghrist, ac yn drangwydd i'r bobl a roddwyd yn eich cadwedigaeth chwi.

Ac fe a gyfiaithodd S. Ierom ei hun y llythyr hwn i'r iaith ladin, megis peth yn haeddu ei ddarllen gan lawer. Ac er mwyn i chwi wybod fod yr escob dyscedig sanctaidd hwn Epiphanius mewn cymmeriad mawr gan S. Ierom, ac er mwyn hynny iddo gyfiaithu y llythyr hwn megis scrifen fawr ei hawdurdod, Gwrādewch pa destio∣laeth y mae S. Ierom yn ei roddi iddo mewn lle arall, yn ei draethawd yn erbyn amryfysedd Ioan Escob Ierusalem, lle mae gantho y geiriau hyn, Mae iti, medd ef, Epiphanius Bab ar gyhoedd * 1.116 yn ei lythyrau yn dy alw di yn heretic. Yn siccr nid ydwyd ŵr i'th roi o'i flaen ef, nac am oedran, nac am ddysc, nac am dduwioldeb bywyd, nac wrth dystiolaeth yr holl fyd. Ac yn y mann ar ol hynny yn yr vn traethawd, medd S. Ierom, Yr ydoedd Escob Epiphanius yn y fath barch ac anrhydedd, na chyffyrddodd Valens yr Ymherodr yr herlidiwr creulon, ag ef. O herwydd yr ydoedd y tywysogi∣on oedd hereticiaid, yn tybaid fod yn gywilydd iddynt erlid y fath ŵr godidawg.

Page 46

Ac yr ydys yn yr histori eglwysig dair-rhan, yn y nawfed llyfr a'r 48. bennod yn tystiolaethu i * 1.117 Epiphanius ac yntef yn fyw, wneuthur llawer o wrthiau, ac yn ol ei farw ef fod cythreuliaid gwe∣dy eu bwrw allan wrth ei fedd ef yn llefain ac yn rhuo. Fal hyn y gwelwch pa awdurdod y mae S. Ierom a'r hên histori honno yn ei rhoddi i'r Escob sanctaidd dyscedig Epiphanius, barn yr hwn am ddelwau mewn eglwysyddd a themlau, a hwy yr amser hynny yn dechreu lledrad-ymlus∣cio iddynt, a dâl ei ystyriaid.

Yn gyntaf, mae fe 'n barnu fod yn wrthwyneb i Gristionogawl grefydd ac awdurdod yr Scrythy∣tau, fod delwau yn Eglwys Grist.

Yn ail fe a daflodd nid yn vnic ddelwau cerfie∣dig a thoddedig, ond rhai peintiedig hefyd allan o Eglwys Grist.

Yn drydydd nad oedd fatter gantho pa vn a fy∣ddai ai delw Christ, ai delw vn sant arall, ond os delw a fyddai, ni oddefai ddim o honi yn yr E∣glwys.

Yn bedwerydd, ni symmudodd ef hi yn vnic allan o'r Eglwys ond ei dryllio hefyd â zêl gadarn wressog, a pheri amwisco corph marw a'i gladdu ynddi, gan farnu nad ydoedd hi yn weddus i w∣neuthyd dim o honi onid i bydru yn y ddaear, gan ganlyn yn hyn o beth sampl y brenin daionus E∣zechias, yr hwn a dorrodd y sarph bres yn ddrylli∣au, ac a'i lloscodd hi yn lludw, am fod yn gwneu∣thur delw-addoliad iddi.

Yn ddiwethaf oll mae Epiphanius yn dangos fod yn ddlyed ar escobion gwialiadwrus synneid na bydder yn goddef vn ddelw yn yr Eglwys, am eu bod yn achos petrusder a thrangwydd i'r bobl

Page 47

a roddwyd yn eu cadwedigaeth hwy. Ac o her∣wydd na scrifennodd S. Ierom yr hwn a gyfiai∣thiodd yr Epistol hwnnw, nac awdyrau yr hên histori eglwysig dair-rhan (y rhai fal y dangos∣wyd a ganmolant Epiphanius yn fawr) nac vn escob duwiol dyscedig arall cyn yr amser hynny nac ennyd ar ol hynny, ddim yn erbyn barn Epi∣phanius ynghylch delwau: eglur yw, na chyn hwysasid yn y dyddiau hynny, yr hyn oedd yn∣ghylch pedwar cant o flynyddoedd ar ol Christ, ac nad arferid dim delwau yn gyhoeddus yn E∣glwys Ghrist, yr hon oedd yr amser hynny anlly∣grediccach a phurach o lawer nac yw hi yn awr.

Ac lle ddechreuai ddelwau yr amser hynny ledrad ymluscio 'n ddirgel o dai gwŷr i'r eglwysydd, a hynny yn gyntaf gwedy eu peintio ar lieiniau a pharwydydd, panwele 'r escobion gwialiadwrus duwiol hwynt, hwy a'u tynnent ymmaith megis pethau anghyfraithlon gwrthwynebus i ffydd a chrefydd Ghrist, fal y gwnaeth Epiphanius ymma.

A barn yr hwn y mae yn cordio ac yn cyttuno, nid yn vnic S. Ierom cyfiaithydd ei Epistol ef, ac scrifennydd yr histori dair-rhan, ond hefyd yr holl escobion, ac yscolheigion dyscedig duwiol, ie a'r holl Eglwys yn yr amser hynny, ac er amser ein Iachawdwr Christ dros bedwar cant oflynydd∣oedd.

Fe scrifennwyd hyn yn halaeth am Epiphani∣us, am fod ymddiffynwyr delwau yn yr amser ymma wrth weled ei gwascu mor galed trwy e∣glur draethawd a gweithred Epiphanius, Escob a doctor o 'r fath henaint, yn ymegnio ym-mhob ffordd (ond yn ofer yn erbyn y gwirionedd) naill

Page 48

ai i brofi nad ydoedd yr epistol hyn o waith Epipha∣nius, na 'r cyfiaithiad o waith Ierom: ac os y∣dynt meddant, nid mawr y grym, o herwydd, me∣ddant, Iddew oedd yr Epiphanius hwn, a chwe∣dy ei droi i ffydd Christ, a'i wneuthur yn escob, fe a gadwodd yn ei feddwl y casineb oedd gantho pan ydoedd yn Iddew yn erbyn delwau, ac felly fe a scrifennodd yn eu herbyn, megis Iddew, ac nid megis Christion. Oh ddigywilydd-dra Iddew∣aidd a chenfigen y cyfryw dychymmygwyr: nhwy addlyent brofi ac nid dywedyd yn vnic mai Iddew oedd Epiphanius.

Hefyd am y rheswn y maent yn ei wneuthur ni a 'i derbyniwn ef yn llawen, o herwydd oni ddlyid cynnwys barn Epiphanius yn erbyn delwau, am ei fod gwedy ei eni o Iddew gelyn i ddelwau, y rhai sydd elynion Duw gwedy ei droi i ffydd Grist, yno y canlyn na ddylai vn yma∣drodd na gair yn yr hên ddoctoriaid, a'r tadau ac sydd o blaid delwau, fod mewn dim awdurdod, o herwydd fod y rhan fwyaf o scrifennyddion dys∣cedig yr Eglwys gynt, megis Tertulian, Cypri∣an, Ambros, Austin, a rhifedi anerif eraill yn ba∣ganiaid, y rhai oeddynt yn ffafrio ac yn addoli delwau, gwedy eu troii ffydd Grist, ac felly fe allai iddynt oddef rhyw beth i lithro o'u pennau ym∣mhlaid delwau, megis cenhedloedd, ac nid megis Christionogion.

Fal hyn y mae Eusebius yn ei histori eglwysig a S. Ierom yn dywedyd yn oleu, mai oddiwrth y cenhedloed y daeth delwau gyntaf attom ni y Christionogion, mwy o lawer y canlyn fod holl sothach y babaidd Eglwys yn amddiffyn delwau i'w cyfrif o awdurdod bychan, neu heb ddim aw∣durdod.

Page 49

O herwydd nad yw rhyfedd fod y rhai a ddygwyd i fynydd o'u mebyd ym-mhlith delwau, ac a yfasont ddelw-addoliaeth agos gydâ llaeth eu mammau, yn dala gydâ delwau, ac yn dywe∣dyd ac yn scrifennu yn eu plaid hwy.

Ond yn wir ni ddyleid ystyriaid gymmaint pa vn a'i vn gwedi ei droi i ffydd Grist o Iddew neu o genhedl-ddŷn a fyddai 'r scrifennydd, er ei gredu neu ei anghredu, ond mor gytun neu anghytun â gair Duw y mae fe 'n scrifennu. A pha beth y mae gair Duw yn ei ddywedyd am ddelwau, neu eulynod, a'u haddoliad, chwi a glywsoch yn ha∣laeth, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon.

Mae S. Ambros yn ei draethawd am farwo∣laeth yr Ymherodr Theodosius yn dywedyd fal∣hyn, fe gafas Helen y groes a'r tieitl arni, hi addo∣lodd y brenin yn ddiau ac nid y pren (o herwydd cy∣feiliorn y cenhedloedd ydoedd hynny, ac oferedd yr annuwiol) ond hi addolodd yr hwn a grogafid ar y groes, enw yr hwn a'i deitloedd yn scrifene∣dig arni, &c.

Edrychwch weithred yr Ym-herodres sancta∣iadd, a barn S. Ambros oll ynghŷd: yr oeddynt hwy yn tybied mai cyfeiliorn y cenhedloedd, ac o∣feredd yr annuwiol, oedd addoli 'r groes, ar yr hon y gollyngasid gwerthfawroccaf waed ein Ia∣chawdwr Christ: ninnau a gwympwn i lawr ger bron pob dryll croes o goed, yr hwn nid yw onid delw 'r groes honno.

Mae S. Awstin y dyscediccaf o'r holl hên athra∣wō yn dywedid yn 44. Epistol at Maximus, Gwy∣byddwch nad oes vn o'r Christionogion catholic i'r rhai y mae Eglwys yn eich tref chwi yn addoli neb marw nao vn peth a wnaeth Duw megis

Page 50

Duw▪ Ystyriwch wrth airi au Awstin, nad ydyw y rhai a addolant bethau meirwon neu greaduri∣aid yn Gristionogion catholic. Mae 'r vn S. Aw∣stin yn dangos yn y 22. Llyfr o ddinas Duw a'r 10. bennod, na ddylaid adeiladu na themlau nac eglwysydd i ferthyron neu saint, ond i Dduw yn vnic, ac na ddyleid appoyntio offeiriaid i ferthyrō neu saint onid i Dduw yn vnic. Mae gan yr vn Awstin yn ei lyfr o arferon yr Eglwys gatholic, y gairiau hyn, Mi a wnn fod llawer yn addoli be∣ddau a lluniau, mi a wn fod llawer yn cwmpnio yn afradlon a'r feddau 'r meirwon, a chan roddi eu bwyd i gyrph meirwon, ydynt yn eu claddu eu hunain ar y rhai a gladdwyd, ac yn bwrw eu glo∣ddineb a'u meddwdod ar eu ffydd a'u crefydd. We∣lwch, mae fe 'n cyfrif addoli beddau'r saint a'u llu∣niau, yn gystadl crefydd a meddwdod a gloddineb, ac nid yn well. Mae S. Awstin yn fodlon iawn i Marcus Varro, yr hwn a ddywad fod crefydd yn buraf oll heb ddelwau. Ac fe ddywaid ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wyrdroi enaid anne∣dwydd, nag i'w ddyscu a'i gyfarwyddo: ac fe a ddy∣waid ymhellach fod pob plencyn, ie pob anifail yn gwybod, nad yw yr hyn y maent yn ei weled ddim yn Dduw: pa ham gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am y peth y mae pawb yn ei wybod? I'r hyn beth mae S. Aw∣stin ei hunyn atteb fal hyn: O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn temlau, a phan ddodir hwy mewn vwchelder anrhydeddus, a phan de∣chreuer eu haddoli hwy, yno y mae gwyniau en∣baid amryfysedd yn magu. Dymma farn S. Aw∣stin * 1.118 am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yr magu amryfysedd a delw-addoliad.

Page 51

Fe fyddai ry hir adrodd yr holl leoedd eraill a ellid eu dangos allan o'r hen ddoctoriaid, yn er∣byn delwau a delw-addoliad. Am hyn ni a ymfod∣lonwn â'r ambell vn ymma ar hyn o amser.

Bellach am historiau eglwysig mewn hyn o beth, fel y galloch wybod paham, pa bryd, a chan bwy yr arferwyd delwau gyntaf yn ddirgel, ac ar ol hynny nid yn vnic eu derbyn i eglwysydd a themlau Christionogawl, ond yn y diwedd eu ha∣ddoli hefyd, a pha fodd y gwaharddwyd, y dywe∣dwyd ac y safwyd yn eu herbyn gan escobion du∣wiol, doctoriaid dyscedig, a chan dywysogiō Chri∣stionogaidd, mi a gynullaf yn fyrr stori gryno, o'r hyn a scrifennwyd yn halaeth, mewn llawer o le∣oedd, gan lawer o hên scrifenyddion a historiawyr yn hyn o beth.

Megis y bu i'r Iddewon er bod ganthynt or∣chymmyn Duw yn oleu ac yn eglur na byddai i∣ddynt wneuthur nac addoli delw, megis y dan∣goswyd o'r blaen yn halaeth, gwympo er hynny wrth siampl y cenhedloedd a'r bobloedd a drigent o'u hamgulch i wneuthur delwau ac i'w haddoli hwynt, ac felly i wneuthur ffiaiddiaf ddelwaddo∣liad: am yr hyn y mae Duw trwy ei brophwydi sanctaidd yn eu ceryddu ac yn eu bygwth hwy yn dost, ac yn ol hynny a gyflawnodd ei fygythau hynny gan eu cospi hwy yn dôst, fal y dangoswyd vchod: felly gwedy troi rhai o'r Christionogion yn yr hên amseroed oddiwrth addoliad delwau a gaudduwiau, at y gwir Dduw byw a'n Iachaw∣dwr Iesu Grist, o zêl ddall ddiwybod, ac megis gwyrgwedy ymarfer delwau yn hir o amser, hwy beintiasont ac a gerfiasont ddelwau o'n Iachaw∣dwr Christ, Mair ei fam ef, a'i Apostolion, dan dy∣bied

Page 52

fod hyn yn bwngc o ddiolchgarwch a chare∣digrwydd tuag at y rhai y derbyniassent hwy wir wybodaeth am Dduw, ac athrawaeth yr e∣fengil ganthynt.

Ond ni ddaethe y lluniau a'r delwau hyn etto i'r eglwysydd, ac ni addōlwyd hwy dros hir amser ar ol hynny.

Ac rhag i chwi dybied fymod i yn dywedyd hyn a'm pen fy hun yn vnic, heb awdurdod gennyf, mi a osodaf drosof Eusebius escob Cesarea yr awdur hynaf o'r histori eglwysig, yr hwn oedd fyw yng∣ghylch y 330. flwyddyn o oedran yr Arglwydd, yn nŷddiau Constantinus fawr a Chonstantius ei fab ef, Ymherodron, yn y 7. lyfr o'i stori eglwy∣sig, a'r bedwaredd bennod a'r ddeg, a S. Ierom ar y 10. bennod o brophwydoliaeth Ieremi, y rhai a ddywedant ill dau yn eglur, i amryfysedd am ddelwau (o herwydd felly y mae S. Ierom yn ei alw) ddyfod i mewn at y Christionogion oddiwrth y cenhedloedd, trwy ddefod ac arfer baganaidd.

Mae Eusebius yn dangos y modd a'r achos, gā ddywedyd, nid rhyfedd a hwyntau o'r blaen yn genhedloedd, gwedy iddynt gredu iddynt offrwm hynny ein Iachawdwr Christ, am y donniau a dderbynasent gantho, ie (medd ef) ac yr ydym yn gweled yn awr fod yn gwneuthur delwau Petr a Phawl a'n Iachawdwr Christ ei hun gwedy eu peintio mewn tablennau, yr hwn yr ydwyf yn ty∣bied ddarfod ei gadw a'i gynnal megis peth di∣drwg trwy arfer baganaidd. O herwydd felly yr arfer ai y cenhedloedd o anrhydeddu y rhai a dy∣bygent eu bod yn haeddu anrhydedd, o herwydd y dylaid cadw rhyw arwyddion am hen wyr, o a∣chos fod caffadwriaeth y rhai olaf yn arwydd o

Page 53

anrhydedd y rhai a fu o'r blaen, ac o gariad y rhai a ddel a'r ol.

Hyd hyn yr adroddais airiau Eusebius, ac yno ystyriwch fod S. Ierom ac yntef yn hyn o beth yn cytuno, ddyfod y delwau ymma i blith Christiono∣gion gan rai oedd o'r blaen yn Baganiaid, ac a ar∣ferasent ddelwau, a chwedi eu troi i ffydd Grist a gadwasant weddillion o'u paganeidd-dra heb ei gwbl lanhau: o herwydd mae S. Ierom yn ei a∣lw ef yn eglur yn gyfeilioru ac amryfysedd.

Yr vn fath sampl a welwn ni yn Actau 'r Apo∣stolion * 1.119 am yr Iddewon, y rhai yn ol eu troi at Grist a fynnasent ddwyn i mewn yr enwaediad, (yr hwn a arferasent hwy yn hir,) gydâ hwy i ffydd a chrefydd Christ: gydâ 'r rhai y bu ar yr Apostoli∣on, yn en wedig S. Pawl, waith mawr i attal hyn∣ny o beth.

Ond am yr enwadiad yr ydoedd llai rhyfeddod, am ei ddyfod ef i mewn yn gyntaf trwy orchym∣myn Duw. Ond fe ddichon dyn ryfeddu 'n gyfi∣on o blegid delwau, pa fodd y daethont hwy i mewn, mor inion yn erbyn sanctaidd air Duw a'i orchymmyn cyhoedd. Ond nid oeddid etto'n amfer Eusebius yn addoli delwau, nac yn eu gosod yn gyhoeddus mewn eglwysydd a themlau, a'r rhai a'u cadwent hwy yn ddirgel, a gyfeiliornent nid o genfigen, ond o ryw zêl.

Ond yn ol hynny hwy a ymluscasont o dai dir∣gel i eglwysydd, ac felly a fagasont yn gyntaf go∣elfuchedd, ac yn ddiwethaf ddelw-addoliad ym∣mhlith Christionogion, fal y cair gweled ar ol hyn.

Yn amser yr Ymherodron Theodofius a Mar∣tian, y rhai a deyrnasent ynghylch y 460. o oedran yr Arglwydd, ac er ys 1140. mlynedd pan oedd

Page 54

pobl y ddinas Nola vnwaith yn y flwyddyn yn ca∣dwdydd ganedigaeth S. Phelix yn y deml ac yn arfer o gwmpnio yno yn halaeth, fe a barodd Pon∣tius Paulinus escob Nola beintio parwydydd y deml ag historiau a dynnasid allan o'r hên desta∣ment, fal y gallai'r bobl wrth weled ac wrth ysty∣ried y lluniau hynny, ymgadw'n well oddiwrth loddineb ac oferdraul.

Ynghylch yr amser hynny y mae Aurelius Pru∣dentius bardd Christionogawl discedig yn mane∣gi iddo fe weled mewn eglwys gwedy ei pheintio histori dioddefaint S. Cassian, merthyr a meistr yscol, yr hwn a laddasei ei yscolheigion ei hun yn greulon annial â mil o glwyfau gan ei frathu ef â'u pinniau scrifennu o bres, ar orchymmyn y ty∣rant, medd Prudentius. Ac fal dymma'r peinti∣adau cyntaf mewn eglwysydd ac sydd hynod am eu henaint. Ac felly wrth y siampl hyn y daeth peintio, ac ar ol hynny delwau o goed a cherig a defnyddion eraill, i eglwysydd Christionogawl.

Yn awr os ystyriwch y dechreuad ymma, nid y∣dyw dynnion mor barod i addoli llun ar bared neu mewn ffenestr a delw fraisc orauraid, wedy ei thrwsio â cherig gwerthfawr. Ac mae mewn cy∣flawn stori gwedy ei pheintio, ac actau a gweithre∣doedd llawer o ddynnion, ac ond odid summ yr Stori gwedy scrifennu wrthi, ddefnydd arall am∣gen nag sydd mewn eulyn, neu ddelw fud, a fytho 'n sefyll wrthi ei hun, ond wrth ddyscu trwy histo∣riau peintiedig, fe ddaethpwyd bob ychydig i ddelw-addoliaeth. Yr hyn beth pan ddeallodd gwyr duwiol (megis ymmerodron ac escobion dyscedig eraill) hwy a orchymmynnasont nad ar∣ferid y fath luniau, delwau ac Idolau mwy.

Page 55

Ac er dangos hynny i chwi mi a ddechreuaf ar ordeiniaeth yr hên ymherodron Christionogawl Valens a Theodosius yr ail, y rhai a deyrnasa∣sant ynghylch pedwar cant mlynedd yn ol escyn∣niad ein Iachawdwr Christ, y rhai a waharddasāt wneuthur na pheintio delwau, na lluniau 'n ddir∣gel: o blegid siccr yw nad oedd dim o honynt etto yn gyhoeddus yn yr eglwysydd yr amser hynny.

Mae 'r Ymmerodron ymma yn scrifennu yn y modd hyn, Valens a Theodosius yr Ymmero∣dron at bennaeth y llu, Am fod gennym ofal ar faenteinio crefydd Dduw vwchlaw pob peth, ni chaniatawn i neb, osod allan, gerfio, neu beintio delw ein Iachawdwr Christ, mewn lliwiau, mewn cerrig, nac vn defnydd arall: ond pa le byn∣nac y cyhwrdder ag ef, yr ydym yn gorchymmyn ei dynny ef ymmaith, a chospi pawb yn galed ac a amcanant wneuthur dim yn erbyn yr ordei∣niaeth a'r gorchymmyn ymma. Mae 'r ordeini∣aeth hon yn scrifennedig yn y llyfr a a elwir libri Augustales y rhai a gasclodd Tribunianus, Basi∣lides, Theophilus, Dioscorus a Satyra, gwyr o awdurdod a dysc fawr, ar orchymmyn yr Ymme∣rodr Iustinian, ac mae Petrus Erinius gwr dys∣cedig godidawg yn son am yr ordeiniaeth hon yn y nawfed bennod o'i nawfed llyfr yr hwn y mae 'n ei enwi De honesta disciplina, hynny yw, am ddysceidiaeth honest. Ymma y gellwch weled pa beth a ordeiniodd tywysogion Christionogaidd o'r amseroedd henaf yn erbyn delwau, y rhai yr amfer hynny a ddechreuasant ymlusco i blith Christionogion. O herwydd siccr yw dros amser trychant o flynyddoedd a rhagor yn ol dioddefaint ein Iachawdwr Christ, a chyn i'r Ymmerodron

Page 56

sāctaidd ymma deyrnasu, nid oedd dim delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd neu demlau. Pa fodd y gorfoledde y delw-addolwyr pe byddai ganthynt gymmaint awdurdod a hynafiaeth dros ddelwau ac sydd ymma yn eu herbyn hwy?

Am ben ennyd fychan ar ol hyn fe dorrodd y Go∣thiaid, Vandaliaid, Huniaid a chenhedloedd far∣baraidd annuwiol eraill i mewn i'r Ital, ac i bob rhan o wledydd gorllewin Ewrop, a lluoedd mawrion grymmus, ac a anrheithiasont bob lle, a ddinistrasont ddinasoedd, ac a loscasant y llyfrau, fal y lleihawyd ac y llescawyd gwir grefydd yn amgen nag y credaiddyn. Ac felly gā fod Escobion y dyddiau diwethaf hynny, yn llai eu dysc, ac yn∣ghenol rhyfeloedd yn gofalu llai na 'r escobion o'r blaen am hynny o beth, trwy anwybodaeth gair Duw, ac esceulusdra 'r escobion ac yn enwe∣dig o herwydd bod tywysogion diwybod heb eu dyscu yn iawn yn-gwir grefydd, yn rheoli, fe a ddaeth delwau i Eglwys Grist yn y rhan orllewin honno, lle rheole y bobl farbaraidd hynny, nid yn vnig mewn lluniau gwedi eu peintio, ond gwe∣di eu gweithio mewn cerrig, coed, neu fettel, a'r fath ddefnydd; ac ni ossodwyd hwynt i fynydd yn vnic ond fe ddechreuwyd eu haddoli hefyd.

Pan welodd Serenus gwr discedig duwiol Es∣cob Massil y dref bennaf o Galia Narbonensis, (yr hyn a elwir yn awr prouins) yr hwn oedd yn∣ghylch cwechcant o flynyddoedd yn oll ein Ia∣chawdwr Christ, y bobl trwy achos delwau yn cwympo i ffieidiaf ddelw-addoliad; fe a dorrodd yn ddrylliau holl ddalwau Christ a'i saint y rhai oeddynt yn y ddinas honno, ac am hynny yr ach∣wynwyd arno wrth Gregori Escob Rufain, y

Page 57

cyntaf o'r enw hwnnw: yr hwn oedd yr Escob dys∣cedig cyntaf ac a oddefodd osod delwau yn gyho∣edd mewn eglwysydd, er dim ac a ellir ei wybod trwy vn scrifen na hên histori. Ac ar y Gregori hwn y mae 'r holl addolwyr delwau y dydd he∣ddyw yn gosod sail eu hymddiffynfa.

Ond megis ac y mae pob peth ac sydd ar fai, o ddechreuad a ellid ei oddef wedi tyfu waethwa∣eth, nes eu myned o'r diwedd yn anrhaith oddef: felly yr aeth delwau.

Yn gyntaf fe arferodd dynnion historiau neill∣tuol gwedy eu peintio mewn llechau, lliainiau a pharwydydd. Yn ol hynny delwau breiscon, gwychion, yn ddirgel yn eu tai eu hunain.

A chwedy hynny y dechreuodd lluniau yn gyn∣taf, ac yn eu hol hwy delwau breiscon gwychion ymlusco i eglwysydd, er bod gwŷr dyscedig duwiol yn dywedyd yn eu herhyn hwy.

Yno trwy arfer, yr ymddiffynnwyd yn gyho∣edd, y gallent hwy fod mewn eglwysydd, etto fe waharddwyd eu haddoli hwy.

O'r meddwl ymma yr ydoedd Gregori ei hun, fal y mae 'n eglur wrth lythyr y Gregori hwnnw at Serenus escob Massil, yr hwn a enwed o'r blaē, yr hwn lythyr a ellir ei gael yn llyfr llythyrau Gregori neu 'r register yn y ddegfed ran o'r ped∣werydd llythyr, lle mae fe 'ndywedyd y gairiau hyn, Yr ydym yn canmol ddarfod iti wahardd addoli delwau, ond yr ydym ni yn anghanmol iti eu torri hwy. O blegid vn peth yw addoli'r llun, peth arall wrth lun yr histori yno, yw dyscu pa beth sydd i'w addoli. O achos, y peth yw 'r Scru∣thyr i'r rhai a ddarllenant, hynny y mae 'r llun yn ei gyflawni i'r annyscedig wrth edrych arno, &c.

Page 58

Ac yn ol ychydig o airiau, Am hynny ni ddylasid torri y peth a osodwyd yn yr Eglwys, nid i'w a∣ddoli, ond i addyscu meddyliau 'r diwybod. Ac ychydig bach ar ol hynny ailwaith, fal hyn y dyla∣sech ddywedyd, os mynnwch gael delwau yn yr eglwys er mwyn yr addysc y gwnaethpwyd hwy gynt, yr ydwyf yn goddef eu gwneuthur a'u cadw hwy, a'u dangos hwy, ac nad gweledigaeth yr hi∣stori yr hon a hyspysa 'r llun, ond yr addoliad yr hwn a roddir yn anweddus i'r llun, sydd yn eich anfodloni: ac nid gwahardd y neb a fynnent wneuthur delwau, ond gwachelyd ym-mhob ffordd addoli delw.

Wrth yr ymadroddion hyn a dynnwyd ymma ac accw allan o lythyr Gregori at Serenus (o ble∣gid fe fyddai ry-hir adrodd y cwbl) y gellwch ddeall hyd ym-mhale yr ydoedd y peth hyn gwedy tyfu chwechcant o flynyddoedd ar ol Christ, fod yn y gorllewin (o blegid nid oeddynt etto mor ba∣rod yn Eglwys y dwyrain) yn maenteinio fod delwau neu luniau yn yr Eglwys, ond bod yn gwahardd yn hollol eu haddoli hwy. Ac chwi ellwch weled hefyd gan nad oes vn sail am addoli delwau yn scrifennad Gregori, ond ei fod yn eu dā∣nio hwy yn hollol, fod y rhai a addolant ddelwau yn gosod Gregori drostynt yn anghyfiawn. A hefyd oni chyfarwydda delwau yn yr Eglwys ddynion, megis y tebyg Gregori, ond yn hytrach eu dallu hwy, yno y canlyn na ddlyei ddelwau fod yn yr Eglwys, a hynny wrth ei farn ef, yr hwn a fynnai eu gosod hwy yno 'n vnic fal y gallent ddys∣cu yr anwybodus.

Am hynny os dangosir addoli gynt, a bod etto 'n addoli delwau, a hefyd nad ydynt yn dyscu

Page 59

dim ond amryfysedd a chelwyddau (yr hyn trwy ras Duw a wnair ar ol hyn) yr ydwyf yn gobei∣thio wrth farn Gregori ei hun y gorchfygir holl ddelwau a delw-addolwyr. Ond yr amser hyn∣ny yr ydoedd awdurdod Gregori cymmaint yn yr Eglwys orllewin, megis trwy ei annogaeth ef y gosode dynnion ddelwau ym-mhob lle. Ond nid ydoedd eu synhwyrau hwy cystadl ac y me∣drent ystyriaid paham y mynnai efe eu dodi hwy i fynydd, ond hwy a gwympasont oll yn gadau (trwy eu haddoli hwy) i ddelw-addoliad, yr hwn beth (nid heb achos da) a ofnodd Escob Serenus a ddigwydde.

Yn awr pe buasai farn Serenus yr hwn a dy∣byge fod yn weddus dinistr delwau, yn cym∣meryd lle, fe fuasid wedi dinistr delw-addoliad hefyd; o blegid i'r hyn nid ydyw ni wna neb ddelw-addoliad. Ond pa ddistryw ar grefydd, a pha flinder a ganlynodd ar holl gred, o farn Gre∣gori, yr hwn a fynnai oddef delwau mewn eglw∣sydd, ond dangos na ddlyid eu haddoli hwy, fe a ddangosodd amser eisoes i'n mawr niwed ni a'n tristwch. Yn gyntaf yn y schism a'r ymryson a fu rhwng yr Eglwys ddwyrain a'r eglwys orllewin ynghylch delwau.

Yn ail yn rhanniad yr Ymmerodraeth yn ddwy-ran, o achos delwau, i fawr wanhâd holl Gred, trwy 'r hyn yn ddiwethaf oll y canlynodd llwyr ddinistr crefydd Gristionogol, a'r Ymme∣rodraeth ardderchawg yngwlad Roeg, ac yn yr holl ddwy-rain, a chynnydd gau-grefydd Maho∣met, a chreulon lywodraeth a theyrnasiad y Sa∣raseniaid, a'r Twrciaid y rhai sydd yn awr vwch ein pennau ninnau sydd yn trigo yn y gollewin,

Page 60

yn barod am bob achos i ddyfod am ein pennau. A'r achos o hyn oll yw ein delwau, a'n delw-addoliad yn eu haddoli hwy.

Ond yn awr gwrandewch orphen yr histori, yn yr hon yr ydwyf yn canlyn fwyaf historiau Paulus * 1.120 Diaconus, ac eraill a gydsylldir gydag Eutropius hên scrifennydd. O achos er bod rhai o'r scrifen∣nyddion ymma yn mawrhau delwau, etto maent hwy yn oleu ac yn halaeth yn canlyn histori yr am∣seroedd hynny. Y rhai y mae Baptist Platina he∣fyd yn histori y pabiaid, ac ym-mywyd Constantin a Gregori dau o Escobion Rufain, a lleoedd eraill * 1.121 (lle mae fe 'n son am y peth hyn) yn eu canlyn yn enwedig.

Yn ol amser Gregori fe alwodd Constantin es∣cob Rufain gym-manfa o escobion yr eglwys or∣llewin, ac a gondemnodd Philippicus Ymmerodr y pryd hwnnw a Ioan escob Constantinoplo he∣resi y Monothelitiaid, a hynny yn wir nid heb a∣chos, ond yn gyfiawn iawn. Wedy iddo wneuthur felly trwy gyfundeb y gwyr dyscedig oedd yn ei gylch ef, fe barodd yr vn Constantin Escob Ru∣fain beintio lluniau yr hên dadau, a fuase yn y chwe Chyngor y mae pawb yn eu cynwys ac yn eu derbyn, a'u gosod yn y mynediad i mewn i E∣glwys S. Petr yn Rufain.

Pan wybu y Groegiaid hyn, hwy a ddechreua∣sant ymddadleu ac ymresymmu ynghylch del∣wau, â'r lladin wyr, ac a ddaliasant na ddlyai del∣wau gael lle yn Eglwys Christ, a'r lladinwyr a ddaliasant y gwrthwyneb, ac a darawsant ym∣mlhaid y delwau. Felly ar yr ymrysson hyn yng∣hylch delwau y cwympodd eglwysydd y dwy∣rain, ac eglwysydd y gorllewin, a hwy yn cytuno

Page 61

yn ddrwg o'r blaen, i lwyr elynniaeth, ac byth ni chymmodwyd rhynghynt.

Ond yn hyn o amser y gorchymmynnodd Phi∣lippicus ac Arthenius neu Anastasius yr Ymme∣rodron dynnu delwau a lluniau i lawr, au' crafu allan o bob lle yn eu teyrnasoedd hwy.

Yn eu hol hwy y daeth Theodosius y trydydd, efe a barodd beintio ailwaith y lluniau a anffur∣fiasid, a'u gosod eilwaith yn eu lle, ond ni theyrna∣sodd y Theodosius hwnnwond vn flwyddyn.

Ar ei ol ef y daeth Leo y 3. o'r enw hwnnw yr hwn oedd Syriad o anedigaeth, gwr call iawn, duwiol, trugarog, a thywysog gwrol. Fe barodd y Leo hwn trwy gyhoeddiad dynnu i lawr ac an∣ffurfo 'r holl ddelwau a osodasid yn yr Eglwys i'w addoli, ac fe orchmynnodd yn enwedig i Es∣cob Rufain wneuthur felly, ac yn yr ennyd hynny fe barodd gynull yr holl ddelwau oedd yn y ddi∣nas Ymmerodraidd Constantinopol, a'u gosod yn * 1.122 grug ynghenol y ddinas, a'u llosci yno yn lludw yn gyhoedd: ac a wyngalchodd ac a grafodd ym∣maith bob lluniau a beintiasid ar barwydydd temlau, ac a gospodd yn dost lawer o ymddiffyn wyr delwau.

A phan ddywedai rai am hynny ei fod efyn dy∣rant, fe attebodd, o bawb oll fod yn eu cospi hwy yn gyfiawnaf, y rhai nid addolēt Dduw yn iawn, ac ni o falent am fawrhydi'r Ymmerodr a'i aw∣durdod, ond a wrth ryfelent yn gynfigennus yn erbyn cyfraithiau llesol iachus.

Pan glywodd Gregori y trydydd o'r enw hwn∣nw Escob Rufain, weithredoedd yr Ymmerodr yn Grecia ynghylch delwau, fe a gynnullodd Gyngor o escobion Itali yn ei erbyn ef, ac a wnaeth yno

Page 62

ordeiniaethau o ran delwau, ac am roddi mwy o barch ac anrhydedd iddynt nag a roddid o'r blaen, ac felly fe a gyffrôdd yr Italiaid i godi ac i wrth∣rhyfelu yn erbyn yr Ymmerodr, a hynny yn gyn∣taf yn Rafenna. Ac fal y testiolaetha Aspurgensis ac Antonius Escob Fflorens, fe a barodd i Rufain a holl Itali o'r lleiafballu o'u vfydd-dod a'u teyrn∣ged i'r Ymmerodr. Ac felly fe a fainteiniodd eu delw-addoliad hwy trwy frâd a gwrthrhyfel. Yr hon siampwl a ganlynodd Escobion Rufain yn wastadol ac a aethont trwyodd yn ddigō trawsion.

Yn ol y Leo hynny yr hwn a deyrnasodd 34. mlynedd y canlynodd ei fab ef Constantin y pum∣med, yr hwn yn ol siampl ei dad a gadwodd ddel∣wau allan o'r temlau. A chan fod y Cyngor a gy∣nullasai Gregori yn Itali o rhan delwau yn er∣byn ei dad ef yn ei gyffroi ef, fe a gynullodd yntef Gyngor o holl wyr dyscedig ac escobion Asia, a Grecia, er bod rhai yn gosod y Cyngor hwn yn amser ddiwethaf Leo Isauricus ei dad ef.

Yn y gynnulleidfa fawr hon, hwy a eisteddasant mewn cyngor o'r bedwaredd o Idiau Chwefror, hyd y chweched o Idiau Awst, ac a wnaethant ynghylch arfer delwau yr ordeiniaeth hon, nid cy∣fraithlon i neb a gredant yn nuw trwy Iesu Grist osod delwau y creawdwr, na'r creadur, yn eu tem∣lau i'w haddoli: ond yn hytrarch y dlyeid wrth gy∣fraith Dduw, a rhag trangwydd, dynnu pob delwau allan o'r Eglwys. Ac fe gyflawnwyd yr ordeiniaeth hon ymmhob man lle ceffid delwau yn Asia neu yn Grecia.

Ac fe ddanfonodd yr Ymmerodr y gyfraith hon a wnaethai'r Cyngor yn Constantinopol at Pawl escob Rufain, ac a orchymynnodd iddo fwrw 'r

Page 63

holl ddelwau allan o'r eglwysi: ac yntef gan ym∣ddiried ynghyfeillach Pipin tywysog cadarn, a wrthododd wneuthur hynny. Ac efe ac Stepha∣nas y trydydd yr hwn a'i canlynodd ef, a gynnu∣llasant Gyngor arall yn Itali o ran delwau, ac a gondemniasont yr Ymmerodr a'r Cyngor o Gon∣stantinopol o heresi, ac a wnaethant ordeiniaeth fod delwau sanctaidd Christ fal y galwent hwy, a'r fendigaid forwyn, a saint eraill yn wir yn haeddu anrhydedd ac addoliad.

Yn ol marw Cōstantin y teyrnasodd Leo y ped∣werydd ei fab ef, yr hwn a briododd wraig o ddi∣nas Athen a'i henw Theodora, yr hon hefyd a el∣wid Hyrene, o'r hon y bu iddo fab a enwid Con∣stantin y chweched, ac ef a fu farw a'i fab etto 'n ieuangc ac a adawodd lywodraeth yr Ymherodra∣eth a rheolaeth ei fab ieuangc i'w wraig Hyrene. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn yr Eglwys yng∣hylch y 760. flwyddyn o oedran yr Arglwydd.

Ystyriwch ymma attolwg yn yr stori hon, nad oedd delwau yn gyhoedd yn eglwysydd Asia a Gre∣cia, dros saithcant o flynyddodd. Ac nid oes am∣mau nad oedd yr eglwysydd nesaf at amser yr Apo∣stolion yn buraf oll.

Ystyriwch hefyd yn-nechreu yr ymryson ynghylch delwau na bu o chwech o'r Ymme∣rodron Christionogaidd, y rhai oedd yn llywo∣draethwyr vchaf, i'r rhai y dylyeid Vfyddhau wrth gyfraith Duw, onid vn yn vnic sef Theo∣dosius, yr hwn ni theyrnasod onid vn flwyddyn, yn dala oblaid delwau. Fe a gondemniodd yr holl Ymherodron eraill hwy, a holl wyr dyscedig ac escobion Eglwys y dwyrain, a hynny gwedy ymgynnull ynghŷd mewn Cyngorau, heblaw

Page 64

y ddau Ymerodr a enwasom ni orblaen, Valens a Theodosius yr ail, y rhai oedd yn hîr cyn yr amser hynny, ac a waharddasant yn galed na wnaid dim delwau.

Ac ar ol hyn yn gyffredinol y dinistre holl Ym∣merodron Grecia (oddiethr Theodosius yn vnic) bob delwau yn wastadol.

Yn awr o'r gwrthwyneb ystyriwch mai escobi∣on Rufain y rhai nid oeddynt lywiawdwyr gwe∣dy i Dduw eu appoyntio, ond yn vnic yn eu hesco∣biathau hunain, ond eu bod yn cymmeryd arnynt awdurdod tywysogion, yn erbyn gair Duw, oedd yn ymddiffyn delwau yn erbyn gair Duw, ac yn cyffroi terfysc a gwrthryfel, ac yn gweitho brad bob amser yn erbyn eu pennaethiaid goruchaf, yngwrthwyneb i gyfraith Duw, ac ordeiniae∣thau pob cyfraithiau dynawl, gan fod nid yn vnic yn elynion i Dduw, ond yn wrthrhyfelwyr ac yn fradwyr hefyd yn erbyn eu tywysogion. Dymma 'r rhai cyntaf a ddygasant delwau yn gyhoedd i'r eglwysydd, dymma 'r rhai sydd yn eu hymddiffyn hwy yn yr eglwysydd, a dymma 'r modd y dar fu iddynt eu hymddiffyn hwy, hynny yw trwy ddir∣gel gydfwriadau, brad a gwrthrhyfel yn erbyn Duw au tywysogion.

Ond i fyned yn ein blaen yn yr histori'r hon sydd wiw ei gwybod. Ym-mabolaeth Constantin y chweched, Hyrene yr ymmerodres ei fam ef yn∣llaw yr hon yr ydoedd llywodraeth ymmerodra∣eth, a arweinid fwyaf gan gyngor Escob Theodor, a Tharasius patriarch Constantinopol, y rhai oe∣dynt yn gweithio ac yn dala yn dynn gydag Escob Rufain, i fainteinio delwau: wrth gyngor ac ei∣riol y rhai hynny hi a barodd yn annuwiol iawn,

Page 65

geibio y fynydd gorph ei thad yn y gyfraith Con∣stantin y pummed, ac a orchmynnodd ei losci ef yn gyhoedd, a thaflu ei ludw ef i'r môr. Yr hon siampl fal y mae 'r son diammau, a arferasid ar gyrph ty∣wysogion yn ein hamser ninnau, pe buasai aw∣durdod y tadau sanctaidd hynny yn parhau ronyn bach yn hwy yn ein mysc ni.

Yr achos paham y gwnaeth yr Ymmeredores Hyrene hynny âi thâd yn y gyfraith, oedd am iddo ac yntef yn fyw, ddinistr delwau, a dwyn ymmaith drwsiadau gwerthfawr yr eglwysydd, gan ddywe∣dyd fod Christ (temlau yr hwn oeddynt) yn fodlon gantho dlodi, ac nid tlyssau a meini gwerthfawr.

Yn ol hynny fe alwodd yr Hyrene honno, ar an∣nogaeth Adrian escob Rufain a Phawl Patri∣arch Constantinopol a Tharasius yr hwn a'i can∣lynodd ef, Gyngor o Escobion Asia a Grecia ynni∣nas Nicaea, ac yno gan fod cenhadon Escob Ru∣fain yn bennaduriaid o'r Cyngor, ac yn trefnu pob peth megis y mynnent, fe a gondemnwyd y Cyn∣gor a gynnullasid o'r blaen yn amser Constantin y pummed, ac a ordeiniase yn erbyn delwau ar eu dinistrio hwy, megis Cyngor a chynnulleidfa he∣reticciaidd, ac a wnaed ordeiniaeth ar osod i fy∣nydd ddelwau yn holl eglwsydd Grecia, a rhoddi anrhydedd ac addoliad hefyd i'r delwau hynny. Ac felly yr Ymerodres honno heb arbed * 1.123 dyfalwch yn y byd i osod delwau i fynydd, na chost i'w trw∣sio hwy 'n yr holl eglwysydd, a wnaeth Constanti∣nopol mewn amser byrr yn gyffelyb i Rufain ei hun am ddelwau.

Ac ymma y gwelwch ddigwyddo 'r hyn a of∣nodd Escob Serenus, ac a waharddodd Gregori y cyntaf yn ofer, hynny yw na addolid delwau

Page 66

mewn vn modd. O blegid yn awr nid ydyw yn v∣nic yr an-nyscedig angall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythyr yn dangos fod delwau yn faglau iddynt, ond yr Escobion a'r dyscedig hefyd yn cw∣ympo i ddelw-addoliad trwy achos delwau, ie ac i wneuthur cyfraithiau ac ordeiniaethau i'w ma∣enteinio hwy. Mor anhawdd yw, ie ac mor am∣mhossibl bod delwau yn gyhoedd mewn eglwy∣sydd a themlau nymor amfer heb ddelw-addo∣liad, megis mewn ychydig mwy nâ chan mlynedd rhwng Gregori y cyntaf, yr hwn a waharddodd yn galed addoli delwau, a Gregori y trydydd a Phaul a Leo 'r trydydd Escobion Rufain, a 'r Cyngor hwn sydd yn gorchymyn ac yn ordeinio addoli delwau, fal y mae 'n eglur yn ymddangos.

Yn awr pan ddaeth Constantin ieuangc yr Ymmerodr ynghylch vgain mlwydd o oedran, fe aeth beunydd leilei ei gymmeriad. O achos fe a'i perswadodd rhai oedd ynghylch ei fam ef hi, fod Duw gwedy ei hordeinio hi ei hunan i deyr∣nasu yn vnic, heb ei mâb gydâ hi. Yr hyn pan gredodd y wraig vchel-fryd honno, hi a ddifuddi∣odd ei Mab o'i Ymmerodaidd fraint, ac a gym∣mhellodd yr holl filwyr, a'r penaethiaid i dyngu na oddefent hwy ei mâb hi Constantin i deyrnasu yn ei bywyd hi.

Gwedy i'r tywysog ieuangc gyffro o herwydd yr an-nheilyngdod hyn, fe a orescynnodd lywo∣draeth yr ymmerodraeth i'w law ei hū trwy rym∣arfau, a chwedy ei ddwyn i fynydd mewn gwir grefydd yn amser ei dad, pan welodd ofergoel ei fam Hyrene, a'r delw-addoliad a wnaid i ddelwau, fe daflod i lawr ac a friwodd, ac a loscodd yr holl ddelwau a osodase ei fam i fynydd.

Page 67

Ond yn ol ychydig o flynyddoedd, a Hyrene gwedy ei derbyn i ffafor ei mab ailwaith, gwedi iddi ei annog ef i dynnu llygaid ei ewythr Nice∣phorus, a thorri tafodau ei bedwar ewythr eraill, a gwrthod ei wraig, trwy 'r hyn y dygodd hi ef mewn casineb gydâ ei ddeiliaid: weithian er mwyn dangos nad oedd hi gwedy newid, ond yr vn wraig ac ydoedd hi pan geibiasai hi gorph ei thad yn y gyfraith ai losci, ac y byddai hi mor na∣turiol man, ac y buasai hi merch yn y gyfraith garedig, pan welodd hi ei mab yr Ymmerodr yn dinistr beunydd y delwau a garai hi yn gym∣maint ac a osodasai hi i fynydd trwy gymmaint côst, trwy nerth rhyw gyfeillion da hi a ddiswydd∣odd ei mâb o'i Ymmerodraeth, ac yn gyntaf, me∣gis mam fwyn garedig, hi a dynnodd ei ddau ly∣gad ef ac a'i taflod ef i garchar, ac yn ol llawer o boenedigaethau a'i lladdodd ef ag angau creulon.

Mae 'n scrifennedig yn yr histori a gyssilltir ac Eutropius, i'r haul dywyllu 'n rhyfedd ac yn of∣nadwy dros ddau ddiwarnod ar bymtheg, a bod pawb yn dywedyd i'r haul golli ei oleu am aru∣thredd gweithred greulon an-naturiol Hyrene, a thynnu allan lygaid yr Ymmerodr. Ond yn siccr ewyllys Duw oedd arwyddocau wrth dywylliad yr haul, i ba dywyllwch a dallineb o anwybod a delw-addoliad, y cwympai holl Gred o achos delwau, ac a tywyllid ac a duid eglur haul ei drag∣wyddol wirionedd ef a goleini ei sanctaidd air ef trwy niwl a thywyllwch cymylau traddodiadau dynion, megis trwy lawer o ddayar grynfau a ddigwyddasent ynghylch yr amser hwnnw, yr ar∣wyddocaodd Duw y siglid ac yr yscydwid ynaruthr esmwyth stat gwir grefydd, trwy ddelw-addoliad.

Page 68

Ac ymma y gwelwch mor rassol a rhinweddol arglwyddes oedd yr Hyrene honno, mor garedig nith oedd hi i ewythredd ei gŵr, mor garedig mam yn y gyfraith i wraig ei mab, mor garedig merch i'w thâd yn y gyfraith, mor naturiol mam i'w mâb ei hun, a pha bennaethes ddewr-wych a ga∣fas Escob Rhufain o honi i osod i fynydd ac i fa∣entaeinio ei eulynod a'i ddelwau. Yn wir ni alla∣sent byth gael gweddusach ymddiffynnydd i'r fath beth, nâ 'r Hyrene ymma, Vchelfryd yr hon a'i chwant teyrnasu ni allid ei ddigoni; yr hon yr oedd ei bradau, a weithiai ac a fyfyriai hi yn wa∣stad, yn dra ffiaidd, yr hon yr aeth ei han-nuwiol ai han-naturiol greulondeb tuhwnt i Medea a Phrogne, y rhai y rhoes eu llofruddiaithiau * 1.124 e∣chrydus ddefnydd, i'r bairdd i scifennu tragediau aruthrol. Ac etto mae rhai o'r scrifennydion a scrifennasant yr holl * 1.125 erchyll anwireddau ymma, o herwydd y cariad oedd ganthynt at ddelwau, y rhai yr ydoedd hi yn ei maenteinio, yn ei chanmol hi, megis ymmerodes dduwiol a ddanfonasid oddiwrth Dduw. Or cyfryw yw dallineb coelfu∣chedd, ac ofergoel, o caiff vnwaith feddiant ar feddwl dyn, ac y cyhoedda feiai tywysogion drwg, ac a'u canmol hwy hefyd.

Ond ychydig ar ol hynny y drwgdybiodd tywy∣sogion ac Arglwyddi Gręcia Hyrene, ac a honna∣font arni fwriadu ceisio symmud yr Ymmerodra∣eth at Charles brenin y Ffranconiaid, ac amcanu priodas ddirgel rhwngthi ei hun â'r brenin hwn∣nw: gwedy gwneuthur hynny yn gyhoedd arni, hi a ddiswyddwyd ailwaith gan yr Arglwyddi hynny, ac a ddifuddiwyd o'r Ymmerodraeth ac a

Page 69

* 1.126 afwladwyd i yn ys Lesbos, ac yno y diweddodd hi ei bywyd drygionus.

Yr hyd yr oeddid yn gweithio y tragediau ym∣ma yngwlad Groeg ynghylch delwau, fe a dde∣chreuwyd cyffroi yr vn questiwn ynghŷlch arfer delwau mewn eglwysydd yn Spaen hefyd. Ac yn Eliberi dinas ardderchog a elwir yn awr Garnat y casclwyd Cyngor o Escobion Hispaen a gwyr dyscedig eraill, a chwedy iddynt hir * 1.127 draethu ac ymgynghori ynghŷlch y peth hwnnw, fe a gyt∣tnnwyd o'r diwedd gan yr holl Gyngor yn y modd ymma, yn yr articul 36.

Yr ydym ni yn tybied na ddylei fod lluniau mewn eglwysydd, rhag ofn bod pointio yr hyn a addolir neu a a'nrhydeddir, ar bared. Ac fal hyn yr scrifennir yn y 41. Canon o'r Cyngor hwnnw, Ni a welsom fod yn dda rhybyddio 'r ffyddloniaid gymmaint ac y mae ynddynt, na oddefont ddim delwau yn eu tai, ond os bydd arnynt ofn gor∣threch eu gwasanaeth-ddynion ar y lleiaf ym∣gadwant hwy yn bur oddiwrth ddelwau, ac os gwnant amgen, na chyfrifer hwy o'r Eglwys.

Ystyriwch adolwg ymma, fod holl wlad fawr yn-nhuedd y gorllewin a dehau Ewrop, nes i Ru∣fain o lawer ei gosodiad nag i Gręcia yn cyfuno â'r Groegwyr yn erbyn delwau, ac nad ydynt yn eu gwahardd hwy yn vnic mewn eglwysydd, ond mewn tai dirgel hefyd, ac yn escymuno y rhai a wnant y gwrthwyneb.

Ac fe wnaeth Cyngor arall hefyd yr hwn a el∣wir Cyngor Toletum y ddau-ddegfed, ordeinhâd a chyfraith yn erbyn delwau a delw-addolwyr. Ond pan wybu escob Rufain a'i blaid i'r Cyngor hwn o Spaen yn Eliberi wneuthur y fath gy∣fraith

Page 70

yn erbyn delwau, hwy ofnasant yr ordei∣niai yr holl Germaniaid hefyd yn erbyn delwau, ac y gwrthodent hwy: ac a feddylasont ragflaenu hynny, a thrwy gyfundeb a nerth tywysog y Ffrā∣coniaid, yr hwn oedd fwyaf ei gadernid yn-nhu∣edd y gorllewin, a gynullasant Gyngor o Germa∣niaid yn Ffrancfford, ac yno hwy a barasant gon∣demnio y Cyngor a fuase yn Spaen yn erbyn delwau, ar enw Heresi Ffelix (o blegid mai Ffelix Escob Aquitania oedd bennaf yn y Cyngor hwn∣nw) ac a gawsant yno dderbyn Actau yr ail Cyn∣gor o Nicaea, a gasclesid trwy waith Hyrene yr Ym∣merodes sainctaidd honno (am yr hon y clywsoch chwi sôn) a barn Escob Rufain o blaid delwau.

O herwydd yn gyffelyb i hyn y mae y papistiaid yn adrodd histori Cyngor Ffrancfford. Er hynny mae llyfr Charles Mayn a scrifennodd ef ei hun, (fal y dengis y teitl) yr hwn sydd yn awr gwedy ei brintio ac yn gyffredin ynnwylaw pawb, yn dan∣gos fod barn y tywysog hwnnw a holl Gyngor Ffrancfford hefyd yn erbyn delwau, ac yn erbyn yr ail Cyngor o Nicaea, yr hwn a gynullasai Hy∣rene o blaid delwau, ac yn galw y Cyngor hwn∣nw yn Gyngor rhyfygus, ffol, annuwiol. Ac mae fe'n dangos ddarfod cynull y gynulleidfa hōno yn Ffrancfford yn vniawn yn erbyn Cyngor Nicaea a'i amryfysedd.

Fal y mae 'n rhaid canlyn naill ai bod dau Gyn∣gor yn Ffrancfford, yn amser yr vn tywysog, y naill yn erbyn y llall, yr hyn ni ellir ei ddangos wrth vn histori, ai yntae ddarfod i'r pabiaid a'r papistiaid, yn ol eu harfer, lygru yn gwilyddus actau y Cyngor hwnnw, megis yr arferant hwy wneuthur nid yn vnic â Chyngorau, ond ag histo∣riau

Page 71

ac scrifennadau 'r hen ddoctoriaid hefyd, gan eu hanghy wiro, a'u llygru hwy, er maenteinio eu defnyddion a'u bwriadau drwg eu hunain, fal y daeth i oleuni yn hwyr o amser, ac fal y mae yn ymddangos fwyfwy beunydd yn ein dyddiau ni. Bydded dychmygus rodd Constantin, a'r bwriad hynod hwnnw ar anghywiro y Cyngor cyntaf o Nicaea, am bennaduriaeth y Pab, yr hyn a amca∣nodd y Pâb yn amser S. Awstin yn dystiolaeth o hyn. Yr hyn fwriad a gwblhaesid yr amser hynny oni buase i ddiwydrwydd a mawr ddoethineb S. Awstin, ac Escobion dyscedig duwiol eraill o A∣ffrica, sefyll yn erbyn hynny ai rwystro.

Yn awr i ddyfod tuag at ddiwedd yr histori hon ac i adrodd i chwi y peth pennaf a ddigwyddodd o fainteinio delwau, lle yr ydoedd er amser Con∣stantin fawr, hyd y dydd hwnnw yr holl awdurdod ymmerodrol, a rheolaeth dywysogol ymmero∣draeth Rhufain, yn aros yn wastadol yn-ghyfi∣awnder a meddiant yr ymmerodwyr y rhai yr oedd eu trigfa a'u ymmerodrol eisteddfa yn Con∣stantinopol y ddinas frenhinawl.

Pan welodd Leo 'r trydydd, Escob Rhufain yr amser hwnnw, Ymmerodron y Groegiaid wedi ymroi yn gymmaint yn erbyn ei dduwiau ef o aur, ac arian, coed a cherrig, ac am fod gantho fre∣nin Frainct a elwid Charls, gwr mawr ei allu yn y gorllewin, yn hyblyg wrth ei ewyllys, ac am a∣chosion a geir eu gweled ar ol hyn: mewn lliw o fod gwyr Constantinopol dan felltith a reg y pab o blegid delwau, ac am hynny yn annheilwng i fod yn ymmerodron, nac i lywodraethu, ac o her∣wydd hefyd nad oedd Ymmerodron Grecia gan eu bod mor bell, mor barod wrth * 1.128 amnaid i'w ym∣ddiffyn

Page 72

ef yn erbyn ei elynion y Lumbardiaid, ac eraill oeddynt yn ymryson ag ef: fe aeth y Leo ym∣ma meddaf ynghylch peth rhyfedd anferth, na chlywad son er ioed o'r blaen am y fath, a pheth o eofnder a rhyfyg anghredadwy: o herwydd wrth ei babaidd awdurdod fe a symmudodd lywodra∣eth yr Ymmerodr oddiwrth y Groegiaid, ac a'i rhoddodd i Charles fawr brenin y Francod, a hyn∣ny trwy gyfundeb yr Hyrene a ddywedasom ni o'r blaen, ymmerodes Grecia, yr hon hefyd a fw∣riadodd i chydsylltu ei hun mewn priodas â'r Charles hwnnw: am yr hyn achos yr * 1.129 aethwla∣dodd ac y diswyddodd Arglwyddi Grecia hi, megis vn a fradychysai yr ymmerodraeth fal y clywsoch chwi o'r blaen.

Ac yn ol diswyddo yr Hyrene honno, y dewisodd tywysogion Grecia, trwy gyfundeb cyffredin, me∣gis yr arferent yn wastad, ac a wnaethont Ym∣merodr a'i enw Nicaephorus, yr hwn ni chydna∣byddai Escob Rufain na gwyr y gorllewin yn Ymmerodr arnynt, o herwydd yr oeddent eisioes gwedy dewis arall, ac felly y daeth dau Ymme∣rodr: a'r ymmerodraeth yr hon oedd vn o'r blaen a rannwyd yn ddwy ran o achos delwau a'u haddo∣liad, megis yn yr hên amser y rhannwyd brenhi∣niaeth yr Israeliaid o blegid y cyffelyb achos, yn amser Rehoboam. Ac felly gwedi i Escob Rufain siccrhau tuag atto gariad Charles trwy y modd ymma, fe dderchafwyd yn rhyfedd mewn gallu ac awdurdod, ac a wnai yn holl Eglwys y gorllewin, yn enwedig yn Itali, y peth a fynnai, yn yr arta∣loedd hynny y gosodwyd delwau i fynydd, yr har∣ddwyd ac yr addolwyd hwy gan bawb oll.

Ond nid oeddid mor barod yn gosod delwau i

Page 73

fynydd, nac yn eu hanrhydeddu yn gymmaint yn Itali a'r gorllewin, nad oedd Nicęphorus Ymme∣rodr Constantinopol, a'r rhai a ddaethont ar ei ol ef Scauratius, ar ddau Michael, Leo, Theophi∣lus, ac ymmerodron eraill a'u canlynent hwy∣thau yn ymmerodraeth Grecia, yn eu tynnu hwy i lawr, yn eu briwo, yn eu llosci, ac yn eu dinistr hwy cy gynted. A phan fynnasai ymmerodr Theo∣dorus ynghyngor Lions gyfuno ag Escob Ru∣fain, a gosod delwau i fynydd, fe a ddifeddiannwyd o'i ymmerodraeth gan oreugwyr Grecia, ac a dde∣wiswyd arall yn ei le fe: ac felly fe gyfododd eiddi∣gedd, gwg, casineb, a gelynniaeth rhwng Chri∣stionogion ac ymmerodraethau y gorllewin, a'r dwyrain, yr hwn ni allwyd byth oi ddiffod na'i he∣ddychu. Megis pan ryfelodd y Saraseniaid gyn∣taf, a'r Twrciaid a'r ol hynny, yn erbyn y Christio∣nogion, ni chynorthwye y naill ran o Gred ddim o'r llall. O blegid hyn yn y diwedd fe gollwyd ymmerodraeth y Groegiaid, a Chonstantinopol yr ymmerodraidd ddinas, ac a ddaethont i ddwylo yr anghredadwy, y rhai yn awr a oresnenasant y rhan fwyaf o holl Gred, a chwedy meddiannu mwy nâ hanner Hungari, yr hon sydd ran o ym∣merodraeth y gorllewin, maent hwy vwch yn pennau ninnau, i fawr enbeidrwydd a pherigl holl Gred.

Fal hyn y gwelwn pa fôr o flinderau ac aflwydd a ddug maeinteiniaeth delwau gydâ hi, pa rwy∣giad anferth rhwng yr Eglwys orllewin a'r E∣glwys ddwyrain, pa gasineb rhwng y naill Gri∣stion a'r llall, Cyngor yn erbyn Cyngor, Eglwys yn erbyn Eglwys, Christionogion yn erbyn Chri∣stionogion, tywysogion yn erbyn tywysogion,

Page 74

gwrthrhyfelau, bradau, lladdiadau an-naturiol creulon, y ferch yn peri ceibio i fynydd gorph yn Ymmerodr ei thâd a'i losci, y fam o gariad ar ei delwau yn lladd ei mab ei hun, ac yntef yn Ym∣merodr: yn ddiwethaf gwahanu, yr ymmerodra∣eth a Chred yn ddwy ran, nes i'r anghredadwy y Saraseniaid a'r Twrciaid gelynion cyffredinol y ddwy ran, orchfygu ie dinistr a darostwng yn greulon y naill rhan, holl ymmerodraeth Grecia, Asia leiaf, Thracia, Macedonia, Epirus, a llawer o wledydd eraill, ac o daleithiau mawrion gwy∣chion, a gorescyn rhan fawr o'r ymmerodraeth a∣rall: a dodi'r cyfan mewn ofn anfeidrol, ac en∣beidrwydd ofnadwy anferth.

O blegid nid heb achosion mawr yr ofnir rhag megis y rhannwyd ac y drylliwyd ymmerodra∣eth Rhufain am ddelw-addoliad, fal y rhannwyd teyrnas Israel gynt, am yr vn fath ddelw-addo∣liad: felly cwympo o'r cyffelyb gosp, am y cyffelyb fai arnom ninnau, ac a gwympodd ar yr Iddew∣on: hynny yw rhag i'r tyrant creulon gelyn ein gwledydd ni a'n crefydd y Twrc, trwy gyfiawn ddial Duw ein lladd ni 'r Christionogion, a'n dwyn i gaethiwed, fal y lladdodd ac a caeth glu∣dodd brenhiniodd yr Assiriaid a'r Babiloniaid yr Israeliaid, a rhag dwyn ymmerodraeth Rufain a gwir grefydd, dan draed yn llwyr, megis y dygwyd teyrnas yr Israeliaid a gwir greddyf Dduw, at yr hyn a mae 'r peth eisoes fal y dangosais o'n rhan ni yn gogwyddo 'n annial: gan fod eisoes y rhan fwyaf o holl Gred mewn llai nâ thrychant o slynyddoedd gwedy ei dwyn i flin gaethiwed a cha∣ethglud dan y Twrc: ac ardderchog ymmerodra∣eth Grecia gwedy ei hymchwelyd yn llwyr. Ond

Page 75

pe buasei 'r Christio nogion heb ymrannu fal hyn ynghylch delwau, ac yn dala ynghyd, ni allase 'r anghredadwy a drwg greaduriaid, fal hyn lwy∣ddo 'n erbyn Cred, a'r holl flinderau a'r aflwydd hyn a ddaeth arnom o blegid ein galluog dduwiau o aur ac arian, coed a cherrig, yn nerth ac ymddi∣ffyn y rhai a hwythau heb allel eu cynnorthwyo eu hunain, yr ymddiriedason ni, hyd oni ortrech∣odd ein gelynnion anghredadwy ni a'n gorescyn agos yn gwbl.

Gobrwy cyfion i bawb ac a ymadawant â'r ga∣lluog bywiol Dduw, Arglwydd y lluoedd, ac a ymostyngant, ac a roddant yr anrhydedd sydd ddy∣ledus iddo ef, i goed a cherrig meirwon, y rhai y mae llygaid iddynt ac ni welant, traed ac ni cher∣ddant, &c. ac sydd felltigedig gan Dduw, ynghyd â'r rhai a'u gwnant, a'r rhai a ymddiredont ynddynt.

Fal hyn y deallasoch, fyngharedigion yn ein Iachawdwr Christ, wrth farn hên ddyscedig a du∣wiol athrawion yr Eglwys, a thrwy hên histo∣riau eglwysig yn cyfuno â gwirionedd gair Duw, a dynnwyd allan o'r hen Destament a'r Testa∣ment newydd fod yn yr hen Eglwys gynt yr hon oedd buraf a dilygraf oll, yn gwachelyd, yn ca∣shau, ac yn ffieiddio delwau, a delw-addoliad, megis pethau ffiaidd gwrthwyneb i wir Gristio∣nogawl grefydd, a phan ddechreuodd delwau ym∣lusco i'r Eglwys, fod Escobion, athrawion ac ys∣colheigion dyscedig duwiol, yn dywedyd ac yn scrifennu yn eu herbyn hwy, a bod Cynghorau cyfain o Escobion a gwyr dyscedig gwedy ymgyn∣null ynghŷd yn eu condemnio hwy, ie a darfod i lawer o Ymmerodron ac Escobion Christiono∣gawl,

Page 76

e'r es rhagor i saithcant ac wythcant o fly∣nyddodd ddifwyno, a dryllio, a distrywio delwau: ac am hynny nid er ys ychydig ddyddiau (megis y mynne rhai i chwi gredu) y dechrauwyd dywe∣dyd ac scrifennu yn erbyn delwau a delwaddoliad.

Yn ddiwethaf chwi a glywsoch pa ddialedd a pha flinder ac aflwydd a gwympodd o achos del∣wau ar holl Gred heblaw colled aneirif o enei∣diau yr hyn sydd * 1.130 echrydusaf oll. Attolygwn am hynny ar Dduw ar ini gan gymeryd rhybidd gan ei sanctaidd air ef, yr hwn sydd yn gwahardd pob delw-addoliad, a chan scrifennadau hên athraw∣on duwiol, ac historiau eglwysig, a scrifennwyd ac a gadwyd trwy ordeinad Duw, er ein rhyby∣ddio ni i wachelyd delwaddoliad ac i ddiangc rhag y gosp ar plaau bydol a thragwyddol a fygythir am hynny. Yr hyn beth Duw ein Tad nefol a'i canniatao ini, er mwyn ein vnic Iachawdwr a'n cyfryngwr Iesu Grist, Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn er∣byn delwau a'u haddoliad, yn yr hon y cyn∣hwysir atteb i'r rhesymmau dewisaf y rhai a ar∣ferir ei faenteinio delwau, yr hon ran a ddichon wasanauthu i gyfarwyddo curadiaid eu hu∣nain a gwyr deallus.

YN awr chwi a glywsoch mor oleu ac mor ddifrifol, a hynny mewn llawer o leoedd y mae gair Duw yn dywe∣dyd, nid yn vnic yn erbyn delw-addo∣liad, ond yn erbyn delwau hefyd: fy meddwl am hyn yn wastad yw, cy belled ac y'n

Page 77

cyffroir ac y'n annogir trwyddynt i'w haddoli hwy, ac nid megis pe gwaharddid hwy yn hollol yn y Testament newydd, heb y fath achosion ac enbeidrwydd: chwi a glywsoch hefyd allan o'r hi∣storiau eglwysig ddechreuad, cynnydd a rhwydd∣deb delw-addoliad trwy ddelwau: a'r mawr ym∣ryson a fu yn eglwys Grist yn eu cylch hwy, i fawr drallod a cholled holl Gred. Chwi a glywsoch he∣fyd ymadroddion yr hên dadau a'r athrawion a'r escobion dyscedig duwiol, y rhai a dynnwyd o'u scrifennadau hwy eu hunain, yn erbyn delwau a delw-addoliad.

Mae etto yn ol fod i ni atteb ac argyoeddi y rhe∣symmau a wnair ym-mhlaid delwau, a'u gor∣modd beintio a'u goreuro a'u trwsio hwy, ac Eg∣lwysydd a themlau hefyd, yr hyn a wnair o ran, trwy ddodi y lleodd a osodwyd o'r blaen at eu rhe∣symmau hwy: ac o ran wrth eu hatteb mewn moddion eraill. Yr hon ran sydd iddi y trydydd lle yn y traethawd hwn, am na all y cyffredin bobl ddeall y pethau hyn yn dda, ac na ellir atteb rhe∣symmau y rhai sydd yn maenteinio delwau, heb ormod flinder a phoen, oni byddir yn gwybod y traethawd aeth o'r blaen.

Ac er bod yn ail sôn ymma am bethau a soniwyd o'r blaen am danynt, etto nid ydyw yr ail adrodd hyn yn ofer, ond gan mwyaf yn anghenrhaid, am na all yr annyscedig ddeall yn amgen pa fodd yr ydys yn agweddu y lleoedd hynny yn erbyn rhe∣symmau y rhai sydd yn ymddiffyn delwau, a'r rhai oni bai hynny y gellid eu twyllo.

Yn gyntaf mae y rhai sydd yn ymddiffyn del∣wau yn dywedyd am yr holl gyfraithau, gwahar∣ddiadau a'r melldithion yr ydym ni yn eu rhoi

Page 78

drosom allan o'r Scrythyrau sanctaidd, ac o yma∣droddion y doctoriaid yn erbyn delwau, a'u haddo∣liad, eu bod hwy yn perthyn yn vnic i eulynod i Cenhedloedd a'r Paganiaid, Megis delw Iupi∣ter, Mars, Mercuri a'r cyfryw rai, ac nid i ddel∣wau Duw, Christ a'i saint. Ond fe a ddangosir allan o air Duw, acymadroddion yr hên ddocto∣riaid, a barn yr hên Eglwys gynt, fod yn gwa∣hardd pob delwau cystadl a delwau ac eulynod y cenhedloedd, a'u bod hwy yn anghyfraithlon, yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.

Ac yn gyntaf hyn a wrth-attebir allan o air Duw, fod yr Scrythyrau 'n gwahardd yn oleu, ac yn condemnio 'n eglur, ddelwau y Tad, y Mab, a'r Yspryd glan, yn gystadl yn neilltuol: a delwau 'r drindod, y rhai oedd gennym ym∣mhob Eglwys, megis y mae 'n eglur wrth y lle∣oedd sydd yn canlyn, Ni Welsoch vn llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o ge∣nol * 1.131 y tân, onid y llais neu 'r llaferŷdd, rhag ym∣lygru o honoch a'ch twyllo a gwneuthur o ha∣noch ddelw gerfiedig, neu lun neu gyffelybrw∣ydd, &c. fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn yn erbyn del∣wau. Ac am hynny yn yr hên gyfraith yr ydoedd cenol y drugareddfa yr hon a arwiddocai eistedd∣faingc Duw, yn wâg heb ddim ynddi, rhag i neb * 1.132 gymmeryd achos i wneuthur llun neu gyffelyba∣eth o hono ef.

Gwedy i Esai osod allan anymgyffred fawrhy∣di Duw: Mae 'n gofŷn, i bwy am hynny y cyffe∣lybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo? a lunia 'r saer gerf-ddelw? a oreura 'r eurych hi, ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian? ac a ddewis,

Page 79

yr hwn fytho arno eisiau aberth bren heb bydru, a gais ef saer cywraint i baratoi cerf-ddelw, fal y gallo yntef osod rhyw beth i fynydd? Ac ar ol hyn∣ny mae fe 'n gwaiddi, O ddynnion blin oni wy∣ddoch, oni chlywch oni fanegwyd i chwi o'r de∣chreuad, oni ddeallwch seiliad y ddaer? fal trwy fawredd y gwaith y gallent ddeall fod mawrhy∣di Duw gwneuthurwr a chreawdwr y cwbl oll, yn fwy nag y gallid ei amlygu a'i osod allan mewn delw neu gyffelybaeth gorphorol. Hyd hyn y clywsoch airiau y Prophwyd Esai, yr hwn nid y∣dyw o'r 44. hyd y 49. yn ymadrodd am ddim am∣gen haechen. Ac mae S. Pawl yn Actau 'r Apo∣stolion * 1.133 yn dangos yn oleu na ellir gwneuthur cyffelybaeth o Dduw nag mewn aur, nag mewn arian, nag mewn maen, nag mewn defnydd arall.

Wrth y lleoedd hyn a llawer o leoedd eraill o'r Scrythyrau, y mae 'n eglur na ddylid ac na ellir gweuthur i Dduw vn ddelw. O herwydd pa fodd y gellir arwyddocau llun Duw, yr hwn sydd buraf Yspryd, yr hwn ni welodd neb erioed mewn cyffelybaeth gorphorol weledig? Pa fodd y gellir dangos mewn delw fechan fawrhydi a mawredd Duw yr hwn ni ddichon meddwl dyn ei amgy∣ffryd, llai o lawer y gellir ei gynwys a synwyr? Pa fodd y dengŷs delw farw, fud, lun y bywiol Dduw? Pa fodd y dichon delw, yr hon gwedy iddi gwympo ni ddichon gyfodi ailwaith, na chyn∣northwyo ei chyfeillion, na drygu ei gelynnion, osod allan y cadarnaf a'r galluoccaf Dduw, yr hwn yn vnic a ddichon obrwyo y sawl a garo, a dinistrio ei elynion yn dragwyddol? Fe a ddichon dyn am hyn waiddi yn gyfiawn gydâ 'r prophwyd Habacuc, Na rydd y cyfryw ddelw ddysc, ac nad * 1.134

Page 80

ydyw onid athro celwydd. Am hynny y rhai a wnaethant ddelw i Dduw i'w anrhydeddu, a'i dianrhydeddasant ef yn ddirfawr, ac a leihausant ei fawrhydi ef, a wnaethont gam â'i ogoniant ef, ac a anghywirasant ei wirionedd ef. Ac am hynny y dywaid yr Apostol S. Pawl am y rhai a wnae∣thant gyffelybaeth neu ddelw i Dduw, megis gwr Marwol mewn llun ar goed, cerrig, neu ryw ddefnydd arall, eu bod yn troi gwirionedd Duw yn gelwydd. O herwydd hwy a dybygasont nad * 1.135 oedd y ddelw mwy yr hyn ydoedd hi o'r blaen, hynny yw pren neu garreg, ac a dybiasant ei bod yn beth nad ydoedd, hynny yw yn Dduw, neu yn ddelw Dduw.

Am hyn nid yw delw a wnair i Dduw, yn v∣nic yn gelwydd ond yn gelwydd dauddyblyg. Ond diafol sydd gelwyddog ac yn dad celwyddau, ac am hyn y delwau celwyddog a wnair i Dduw i'w fawr ddianrhydedd ef, ac enbeidrwydd i'w * 1.136 bobl ef, oddiwrth ddiafol y daethant.

Am hynny yr argyoeddir hwy o ffolineb ac an∣nuwioldeb, am eu bod yn gwneuthur delwau i Dduw neu i'r drindod, o herwydd na ddylid ac na ellir gwneuthur llun Duw megis y mae 'n eglur wrth yr Scrythyrau a rheswn da, ie o anghre∣diniaeth y mae gwneuthur llun neu ddelw yn dyfod, gan dybied nad ydyw Duw yn bresennol, oni chair rhyw arwydd neu ddelw o hono: fal y mae 'n eglur wrth yr Hebraeaid yn yr amalwch, y rhai a wnaent i Aaron wneuthur iddynt dduw∣iau, y rhai a allent eu gweled yn myned o 'u blaen.

Ond maent yn dadleu gan fod rhyw ddango∣siadau a phortreiadau am Dduw, megis yn ei∣stedd

Page 81

a'r orseddfaingc vehel, yn scrifennadau Esai∣as a Daniel, Paham gan hynny (meddant hwy) na ddichon peintiwr yn yr vn modd osod allan Dduw Dad mewn lliwiau i'w weled megis bar∣nwr yn eistedd a'r ei orseddfaingc, fal yr ydys yn ei bartreio ef yn i Prophwydi, gan nad oes ond y∣chydig wahaniaeth rhwng Scrythyr neu scrifen a pheintiad?

Yn gyntaf fe a ellir atteb, nad yr vn yw 'r pe∣thau a waharddodd Duw megis peintio lluni∣au Duw, a'r pethau y mae Duw yn eu goddef megis portreiadau a arfere y Prophwydi ac ni ddylai, ac ni ddichon rheswn dyn er tecced y bo 'n ymddangos ortrechu yn erbyn cyhoeddus air Duw a'i statutau (fal y gellir eu galw hwy.) Hefyd er bod yn yr Scrythyrau ryw bortreiadau o Dduw, etto os darllenwch beth yn eich blaen, y maent yn eu egluro ac yn dadguddio eu hunain, gan ddangos fod Duw yn Yspryd pur anfeidrol anfesuredig, anymgyffryd yr hwn sydd yn cyflaw∣ni nef a dayar, a'r cwbl oll ac nid ydyw 'r llun yn cyflawni na nef na dayar, nac yn dangos beth y mae yn ei arwyddocau, ond yn hytrach darffo iddo osod allan Dduw mewn cyffelybaeth gor∣phorol, mae fe 'n gadel dŷn ar hynny, ac yn ei ddwyn ef yn hawdd i heresi yr Anthropomor∣phitiaid, ac i feddwl fod gan Dduw draed a dwy∣lo, a'i fod ef yn eistedd megis dŷn, yr hyn pwy bynnac a'i gwnelo, medd S. Awstin yn ei Lyfr De Fide & Symbolo, Cap. 7. Mae fe 'n cwympo yn llwyr gwbl i'r annuwioldeb yr hwn y mae 'r Apostol yn ei ffieiddio yn y rhai a droesant ogo∣niant * 1.137 yr anllygredig Dduw, i gyffelybaeth dyn llygredig.

Page 82

O herwydd annuwioldeb yw i Gristion osod i fynydd y fath ddelw i Dduw mewn teml, a mwy o annuwioldeb o lawer yw gosod y fath ddelw yn ei galon trwy gredu ynddi. Ond i hyn y maent yn atteb, y gellir wrth y rheswn hwn wneuthur de∣lw Grist, am iddo ef gymeryd cnawd arno, a my∣ned yn ddyn. Da fyddai pa cydnabyddent yn gyn∣taf iddent wneuthur hyd yn hyn yn drwg, wrth wneuthur a maenteinio delwau Duw Dad, a'r Drindod ymmhob lle, am yr hyn y argyoeddwyd hwy yn gwbl trwy rym gair Duw a rheswn da, ac yno ymddadleu am ddelwau eraill.

Yn awram eu dadl hwy y gellir gwneuthur de∣lw Grist, mae 'r atteb yn hawdd. O blegid yngair Duw a Christionogawl grefydd, ni ofynnir yn v∣nic a ellir gwneuthur rhyw beth ai na ellir, ond hefyd pa vn a wna ai bod yn gyfraithlon ac yn gy∣fun â gair Duw ai nad yw. O herwydd fe a ellir gwneuthur ac yr ydys beunydd yn gwneuthur pob annuwioldeb, ac etto ni ddylid ei wneuthur. A geiriau y rhesymmau a osodwyd o'r blaen allan o'r scrythyrau yw, na ddylid ac na ellir gwneu∣thur delwau Duw. Ac am hynny, nid ydyw ddim amgen ddadleu y gellir gwneuthur lluni∣au Christ, heb brofi hefyd y dylid eu gwneuthur hwy, ond dywedyd rhyw beth rhag tewi ason, ac er hynny bod heb ddywedyd dim i'r defnydd.

Ac etto mae 'n eglur na ellir gwneuthur i Grist vn ddelw ond delw gelwyddog, megis y gei∣lw 'r Scrythur yn hyspysol ddelwau yn gelwy∣ddau, * 1.138 o blegid mae Christ yn Dduw ac yn ddyn, am hynny gan na ellir gwneuthur vn ddelw i Dduw, yr hon yw 'r rhan odidawgaf, ar gain y gelwir hi yn ddelw Grist. Am hynny nid ydyw

Page 83

delw Grist yn vnic yn ddyffygiol ond yn gelwy∣ddog hefyd, ie yn gelwyddau. Yr vn rheswn a wasanautha yn erbyn delwau y saint y rhai ni ellir wrth vn ddelw arwyddocau eu heneidiau, yr hon yw y rhan odidawgaf o hanynt. Am hynny nid ydynt hwy ddelwau y saint y rhai y mae eu heneidiau yn teyrnasu mewn llawenydd gydâ Duw, ond lluniau cyrph y saint, y rhai sydd etto yn pydru yn y beddau.

Hefyd ni ellir gwneuthur yn awr vn ddelw o gorph ein Iachawdwr Christ, o herwydd nas gwyddys yn awr pa lun neu ddiwgad oedd arno ef. Ac hefyd mae yn Grecia ac yn Rufain, ac yn lleoedd eraill, lawer o ddelwan Christ, ac etto heb vn o hanynt yn debyg i'w gilydd, ac etto fe a ddy∣wedir mai bywiol a gwir ddelw Grist yw pob vn o hanynt, yr hyn ni ddichon bod. Am hynny er cynted y gwnelir delw Grist, yr amser hynny y gwnair celwydd o hono ef, yr hyn a waharddir trwy air Duw.

Hyn hefyd sydd wir am ddelwau 'r saint oll, o herwydd ni wyddys pa lun neu ddiwgad oedd ar y saint. Am hynny o herwydd y dylaid seilio cre∣fydd a'r y gwirionedd, ac na ellir gwneuthur del∣wau heb gelwyddau, ni ddylid gwneuthur delwau na'u gosod i vn arfer o grefydd mewn eglwysydd a themlau, lleoedd a osodwyd yn briodol i wir gre∣fydd a gwasanaeth Duw. A hynny a ddywedwyd ynghylch na ellir gwneuthur vn wir ddelw, nac o Dduw, nac o Grist, nac o'r saint y chwaith, trwy 'r hyn yr argyoeddir hefyd yr hyn a ddywedant hwy, mai llyfrau gwyr llyg yw delwau.

O herwydd eglur yw wrth yr hyn a ddywe∣dwyd, nad ydynt yn dangos nac yn dyscu ini am

Page 84

Dduw, am Grist nac am y saint ond celwydd, ac amryfysedd. Am hynny naill au nid ydynt hwy lyfrau, neu os llyfrau ydynt, llyfran geu celwy∣ddog ydynt, a dyscawdwyr pob cyfeiliorn.

Yn awr pe byddid yn addef neu yn canniatau, y gellid gwneuthur delw Grist yn gywir, etto mae 'n angyfraithlon i gwneuthur hi neu wneuthur delw vn o'r saint, yn enwedig i'w gosod mewn temlau neu eglwyfydd, i fawr ac i anwacheladwy enbeidrwydd delwaddoliad, fal y prosir ar ol hyn.

Ac yn gyntaf o blegid delw Grist, pe medrid ei gwneuthur hi yn gywir, etto fod yn anghyfraith∣lon ei gosod hi yngyhoedd mewn eglwysydd, mae lle godidawg yn Ireneus yr hwn a argyoeddodd yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn gyd â hwynt ddelw Grist, yr hon a wnelfid yn gywir yn ol ei wedd a'i wynepryd ef ei hun, yn amser Pilat (fal y dywedent hwy) ac am hynny a ddyleid gwneuthur mwy cyfrif o honi nag o'r del∣wau celwyddog oedd yn ein myse ni iddo. Ac fe arferau 'r Gnostici hynny osod coronau ar ben y * 1.139 ddelw honno, er mwyn dangos eu cariad iddi.

Ond i fyned at air Duw: onid ydyw adolwg, airiau 'r Scrythyr yn oleu, Gwachell rhag dy dwyllo gan wneuthur iti dy hun (hynny yw tu ag at grefydd) vn ddelw gerfiedig, na llun dim, &c. A melltigedig yw yr hwn a wnelo ddelw gerfie∣dig, * 1.140 neu ddelw doddedig, sef ffiaidd-beth i'r Ar∣glwydd, &c. Ac onid cyffelyb yw 'n delwau ni? Onid ydyw ein delwau ni i Grist ac i'r saint gwe∣dy eu cerfo neu eu toddi? onid ydynt gyffelyba∣eth gwyr neu wragedd? mae 'n dda na chanlyna∣som ni y cenhedloedd a gwneuthur delwau ani∣feiliaid, pyscod a phryfed. Ac etto fe a ddygwyd

Page 85

llun ceffyl a delw 'r assen y marchogodd Christ ar ni i'r eglwysydd ac i'r temlau, mewn llawer lle.

Ac onid ydyw hyn a scrifennir ynnechreuad san∣cteiddiaf gyfraith yr Arglwydd, ac a ddarllenir i chwi beunydd yn eglur ddigō, na wna lun dim ac y sydd yn y nef vchod, nac yn y ddaear isod, nac yn y dwfr dan y ddaear. A allasid gwahardd neu ddy∣wedyd dim mwy nâ hyn, nac am y rhywiau del∣wau, y rhai sydd naill ai gwedy eu cerfio, ai gwedy eu toddi, ai mewn vn modd arall yn gyffelybiae∣thau? neu am y pethau y gwaharddir gwneu∣thur delwau o honynt? Onid ydyw pop peth ac y sydd, naill ai yn y nef, ai yn y ddaear, ai yn y dwfr dan y ddayar? Ac onid ydyw delwau Grist a'i saint yn lluniau, naill ai pethau yn y nef, ai yn y ddayar, ai yn y dwfr? Os arhosant yn yr atteb aeth o'r blaen, fod y gwaharddiadau hyn yn per∣thyn at eulynod y Paganiaid, ac nid at ein del∣wau ni, fe argyoeddwyd yr atteb hynny eisoes ynghylch delw Dduw a'r Drindod yn halaeth, ac ynghylch delw Ghrist hefyd gan Irencus.

Ac mae 'n amlwg ym-mhellach wrth farn yr hên brif-Eglwys gynt fod yn rhaid deall cyfraith Dduw yn erbyn pob delwau mewn temlau ac E∣glwysydd, ie yn erbyn delwau Christ a'i saint. Ac * 1.141 fe farnodd Epiphanius wrth dorri 'r lliain pein∣tiedig yn yr hwn yr ydoedd llun Christ, neu ryw sant, gan ddywedyd fod yn erbyn ein crefydd ni oddef yn y deml neu 'r Eglwys y fath ddelw (fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth) na waharddodd gair Duw a'n crefydd ni eulynod y cenhloededd yn vnic, ond delw Ghrist a'i saint hefyd.

Ac mae Lactantius gan ddy wedyd fod yn siccr na ddichon bod gwir grefydd lle bytho llun neu dde∣lw

Page 86

(fal y manegwyd o'r blaen) yn barnu, fod yn gwahardd pob delwau a llunniau yn gystadl ac eulynod y cenhedloedd, ac oni bai hynny ni bua∣sai fe 'n dywedyd ac yn cyhoeddi amdanynt mor gyffredinol. Ac mae S. Austin, fal y dywedais, yn canmol Marcus Varro am iddo ddywedyd fod cre∣fydd yn buraf oll hêb ddelwau. Ac mae fe 'n dy∣wedyd ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wŷr-droi enaid annedwydd, nac i'w ddyscu a'i gy∣farwyddo. Ac mae 'n dywedyd ym-mhellach y gŵyr pob plentyn, ie a phob anifail, nad Duw yw 'r hwn y mae fe yn ei weled. Paham, medd ef, gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am yr hyn y mae pawb yn ei wybod? I hynny y mae S. Awstin yn atteb fal hyn, O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn tem∣lau, ac mewn vwchder anrhydeddus, a phan de∣chrauer vnwaith eu haddoli hwy: yno, yn y man y megir gwyniau enbaid * 1.142 cyfeiliorn.

Dymma farn S. Awstin am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yn magu cam∣synniaeth a delwaddoliad. Mae 'r holl Ymmero∣dron Christionogaidd, yr Escobion dyscedig a holl wyr dyscedig Asia, a Grecia, ac Spaen, gwedy ymgynnull mewn Cynghorau ynghostantino∣pol, ac Hispaen, er ys saithcant ac er ys wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg, gan gondemnio a di∣nistrio holl ddelwau Christ a 'i saint a osodase y Christionogion i fynydd, yn tystiolaethu eu bod hwy yn deall fod gair Duw yn gwahardd ein del∣wau ni, cystadl ac eulynod y cenhedloedd.

Ac fal yr scrifennir yn llyfr y doethineb 14. nad oedd delwau o'r dechrauad, ac na pharhânt hwy * 1.143 hyd y diwedd: felly nid oedd ddelwau yn y dechre∣auad

Page 87

yn yr hên brif-eglwys gynt, a Duw a gani∣atao allu eu dinistr hwy yn y diwedd. O herwydd yr oeddid yn achwyn ac yn cwyno yn fawr ar yr * 1.144 hên Gristionogion o'r brif-Eglwys gynt, nad oedd ganthynt na delwau nac allorau, megis y tystio∣lae tha Origen, Cyprian ac Arnobius.

Paham am hynny meddwch chwi nad oeddynt hwy yn cytuno â 'r cenhedloedd am wneuthur delwau, ond o eisiau delwau goddef eu digofaint hwy, pe buasent hwy yn tybied fod yn gy∣fraithlon wrth air Duw gadw delwau? Mae 'n eglur gan hynny eu bod hwy yn tybied fod pob ryw ddelwau yn anghyfraithlon yn eglwys neu deml Dduw, ac am hynny nad oedd ganthynt hwy vn ddelw, er bod y cenhedloedd yn anfodlon iawn iddynt am hynny, gan ganlyn y rheol hon, Rhaid yw bodloni Duw yn fwy na dynnion.

Ac mae Zephirus, yn ei nodau ar ymddiffynni∣ad * 1.145 Tertulian, yn cynull mai oer a fuasai ei holl annogaethau difrifol ef, oni byddai ein bod ni yn gwybod hyn dros y cwbl oll, fod Christionogiō yn ei amser ef yn cashau delwau, a'u hardd-drwsiad yn fwyaf dynnion yn y byd. Ac mae Irenęus fal y clywsoch chwi yn ceryddu yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn delwau Christ gydâ hwy. Ac am hyn nid oedd gan yr hên brif-Eglwys gynt (yr hon yn enwedig a ddylid ei chanlyn me∣gis yr ânllygrediccaf, a'r buraf oll) nac eulynod y cenhedloedd, na dim delwau eraill, am fod gair Duw yn eu gwahardd hwy yn hollol. Ac fal hyn y dangoswyd trwy air Duw, ymadroddion yr hên a thrawon, a barn y brif-Eglwys yr hon oedd buraf a dilygraf oll, fod pob delwau cystadl ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd yn wahar∣ddedig

Page 88

trwy air Duw, ac am hynny yn anghy∣fraithlon, ac yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.

Bellach os ciliant, yn ol eu harfer, at yr atteb hwn, nad ydyw gair Duw yn gwahardd yn ho∣llol wneuthur pob delwau, ond yn gwahardd eu gwneuthur i'w addoli, ac am hynny y dichon fod gennym ddelwau, trwy na addolom hwy, o her∣wydd nad ydynt onid megis pethau didddrwg didda, y rhai a ellir eu harfer yn ddaionus, neu yn ddrygionus. Yr hyn ond odid oedd barn Damas∣cen * 1.146 a Gregori y cyntaf, fal y dywedwyd o'r blaen. A dymma vn o 'u hymddiffynniadau gorau hwy am faenteinio delwau, ac a roesant drostynt er yn amser Gregori y cyntaf.

Difai yr ydym gwedy dyfod at eu hail ymddi∣ffyn hwy, yr hon o ran ni byddai fawr waeth gen∣nym er ei chaniatai, o herwydd nid ydym ni nac mor goelfucheddol nac mor gyndyn ac y cashaom flodau a weithier mewn carpedau, ac mewn bre∣thynnau, ac mewn arras, neu luniau tywysogi∣on gwedy eu printio a'u hargraffu ar eu harian bath, yr hyn pan welodd Christ yn arian - fath Rhufein, nid ydym yn darllen iddo feio arni. Ac nid ydym yn condemnio celfyddydau peintio, a gwneuthuriad delwau megis pethau annuwiol o hanynt eu hunain: ond ni a allem gyfaddef a∣chaniatau iddynt y gellir goddef delwau y rhai nid arferir mewn crefydd, neu yn hytrach mewn ofer∣goel, y rhai nid addolir, ac nid oes tybygaeth neu enbeidrwydd yr addolir hwy. Ond nid possibl allel gosod delwau 'n gyhoedd mewn temlau heb enbeidrwydd eu haddoli, am hynny ni ddylid eu goddef yn gyhoedd mewn temlau neu eglwysydd.

Page 89

Ac am hynny nid oedd gan yr Iddewon, i'r rhai y rhoddwyd y gyfraith hon gyntaf, yr hon, am nad oedd yn gyfraith cermonial, onid moesawl, sydd yn ein rhwymo ni cystadl a hwyntau, fal y mae 'r holl ddoctoriaid yn ei deongl hi; Nid oedd gan yr Iddewon, meddaf, gan y rhai y dylyai fod gwir ystyr a meddwl cyfraith Dduw, yr hon a roddwyd iddynt mor briodol, yn y dechrauad ddim delwau yn eu temlau yn gyhoedd, megis y dywed Ori∣genes a Iosephus yn halaeth. Ac yn ol adferaeth y deml ni chytunent hwy mewn modd yn y byd â Herod, Pilat na Petronius i osod yn vnic ddelw∣au * 1.147 yn y deml yn Ierusalem, er nad oeddid yn cei∣sio ganthynt eu haddoli hwy. Ond hwy a gynni∣gent eu hunain yn gynt i angau nag y cyfunent vnwaith ar osod delwau ynnheml Dduw, ac ni oddefent vn gwneuthurwr delwau yn eu plith. Ac mae Origen yn rhoi y rheswn hwn yn y chwa∣neg, rhag tynnu eu meddyliau hwy oddiwrth Dduw i * 1.148 lygadrythu ar bethau dayarol.

Ac yr ydys yn eu canmol hwy yn fawr am eu zêl ddifrifol i faenteinio gwir anrhydedd Duw a'i wir grefydd. A gwiryw naddaw na 'r Iddew∣on na 'r Twrciaid (y rhai agashânt ddelwau me∣gis pethau gwedy eu gwahardd yn iniawn wrth air Duw) byth i wirionedd ein crefydd ni, yr hyd ybo main trangwydd delwau yn aros yn ein mysc ni, ac ar eu ffordd hwy.

Os gosodant yn ein herbyn y sarph bres, yr hon y osododd Moses i fynydd, a delwau 'r cherubi∣aid, neu ddelwau eraill oedd gan yr Iddewon yn eu teml, mae 'r atteb yn hawdd ddigon. Rhaid ini mewn crefydd vfyddhau i gyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn rhwymo pawb, ac nid can∣lyn

Page 90

siamplau neilltuol ganadiad, y rhai nid ydynt ymddiffyn ini. Os amgen ni a allem wrth yr vn rheswm dderbyn ailwaith yr enwaediad, aber∣thau anifeiliaid, a deddfau eraill a oddeswyd i'r Iddewon. Ac ni all delwau y Caerubiaid y rhai a osodid mewn lle dirgel, lle na allai neb ddyfod attynt, na'i gweled, fod yn siampl ini i ossod del∣wau i fynydd yn gyhoedd mewn Temlau ac Eg∣lwysydd. Ond i adel yr Iddewon heibio. Lle y dy∣wedant y gellir goddef delwau mewn eglwysydd a themlau, megis pethau diddrwg didda, trwy na addoler hwynt. O'r gwrthwyneb yr ydym ninnau yn dywedyd nad ydyw delwau Duw, ein Iachawdwr Christ a'r Saint, y rhai a osodir i fynydd, yn gyhoedd yn ein Temlau a'n Eglwy∣sydd ni, y rhai ydynt leoedd gwedy eu hordeinio i wasanaethu Duw, nac yn bethau diddrwg di dda, nac yn bethau a ellid eu goddef, ond pethau yn erbyn cyfraith a gorchymmyn Duw, yn ol y cyfiaithiad hefyd y maent hwy eu hunain yn eu wneuthur.

Yn gyntaf fe addolwyd yr holl ddelwau a oso∣dwyd i fynydd yn gyhoedd gan y rhai gwirion an∣nyscedig yn y man a 'r ol eu gosod hwy i fynydd, ac mewn ychydig ennyd ar ol hynny, gan y rhai doeth a'r rhai dyscedig hefyd.

Yn ail, am fod yn eu haddoli hwy mewn llawer o leoedd yn ein hamser ni.

Yn drydedd am fod yn ammhossibl goddef del∣wau Duw a Christ a'i saint yn enwedig mewn eglwysi, dros vn ennyd, heb eu haddoli hwy, ac na ellir gochelyd nac ymgadw rhag delwaddoliad (yr hwn sydd ffieiddiaf peth ac a ddichon bod ger bron Duw) heb ddinistr a distriwio delwau, a

Page 91

lluniau mewn temlau ac eglysydd. O herwydd bod delwaddoliad i ddelwau, yn enwedig mewn temlau ac eglwysydd, yn gyssylltyn diwahanedig (fal y dywedant) megis y mae delwau mewn e∣glwysydd a delwaddoliad yn mynd ynghŷd, ac am hynny ni ellir ymgadw rhag y naill, oni ddi∣nistrir y llall, yn enwedig mewn lleoedd cyhoedd. Ac am hynny gwneuthuriad delwau yn enwedig i'w gosod mewn temlau ac eglwysydd, y lleoedd a nailltuwyd yn briodol i wasanaeth Duw, nid yw ddim amgen nâ 'u gwneuthur i arfer crefydd ac nid yw yn vnic yn erbyn y gorchymmyn hwn, Na wna vn rhyw ddelw, onid hefyd yn erbyn hwn, na ostwng iddynt ac na addola hwynt. O herwydd gwedy eu gosod i fynydd hwy a addo∣lwyd a addolir yn awr, ac ar ol hyn hefyd.

Ac ymma y profir yn gwbl ac yn gyflawn y peth a * 1.149 grybwyllwyd yn-nechrau y traethawd hwn, hynny yw mai 'r vn fath bethau yw ein delwau ni ac eulynod y cenhedloedd, cystadl yn y pethau eu hunain ac yn hyn hefyd, am fod o'r blaen ynarfer, yr arferir yn awr, ie ac byth, o addoli ein delwau ni, yn yr vn agwedd ac yr addolwyd eulynod y cenhedloedd, yr hyd y goddefir hwy mewn temlau ac eglwysydd. O hyn y canlyn nad ydyw ein del∣wau ni, na buont er ioed, ac na byddant byth, onid eulynod ffiaidd: ac am hynny nid pethau diddrwg didda ydynt. Aphob vn o'r pethau hyn a brofir mewn trefn, megis y canlyn ar ol hyn.

Ac yn gyntaf mai yr vn fath bethau yw ein del∣wau ni, ac eulynod y cenhedloedd o hanynt eu hu∣nain, mae 'n eglur ddigon, gan mai aur, arian neu ryw fettel arall, cerrig, coed, clai neu bridd yw defnydd ein delwau ni, megis yr oedd defnydd

Page 92

eulynod y cenhedloedd, ac felly gwedy eu toddi, neu eu bwrw, neu eu cerfio, neu eu naddu, neu eu llunio a'u ffurfio mewn rhyw ffordd arall, yn ol llun neu gyffelybiaeth gŵr neu wraig, Nid ydynt onid meirwon a mudion, gwaith dwylo dyn, a geneuau iddynt ac heb ddywedyd, llygaid ac heb weled, dwylo ac heb deimlo, traed ac heb gerdded: ac felly cystadl mewn defnydd ac mewn llun ma∣ent yn gyffelyb yn hollol i eulynod y cenhenloedd, yn gymmaint a bod yr holl enwau a roddir i'r eu∣lynod yn yr Scrythyrau, yn wir yn ein delwau ni. Ac am hynny nid oes ammau na chwymp y melldithion a gynhwysir yn yr Scrythyrau, ar wneuthur-wyr ac addolwyr pob vn o honynt.

Yn ail y profir fod yn eu addoli hwy yn ein ham∣ser ni, yn yr vn modd ac agwedd, ac yr addolid eulynod y cenhedloedd gynt. Ac o herwydd bod delw-addoliad yn sefyll yn bennaf yn y meddwl, fe a brofir mai 'r vn fath dŷb a barn a fu, ac y sydd gan ymddiffynwyr delwau yn ein hamser ni, am y saint y rhai y maent yn gwneuthur ac yn addoli eu delwau, ac oedd gan yr hên genhedloedd am eu duwiau. Ac ar ol hynny y dangosir fod amddiffyn∣wyr ac addolwyr delwau yn ein plith ni, yn arfer gynt ac etto, yr vn deddfau ac arferon o anrhy∣deddu ac addoli delwau, ac a arferai y cenhedlo∣edd ger bron eu heulynod. Ac am hynny eu bod hwy yn gwneuthur delw-addoliad cystadl oddi∣fewn, ac oddiallan, fal yr oedd y cenhedloedd yr annuwiol ddelwaddolwyr hynny.

Ac ynghylch y rhan gyntaf am dŷb ddelw-addo∣laidd ein amddiffynwyr delwau ni, Pa beth ado∣lwg ydyw y fath saintiau yn ein plith ni, i'r rhai yr ydym yn rhoddi ymdiffynniad rhyw wledydd,

Page 93

gan yspeilio Duw o'i anrhydedd, onid Dij tutela∣res, gwarchad-dduwiau y cenhedloedd delw-addo∣laidd? Cyfryw ac ydoedd Belus i'r Babiloniaid a'r Assyriaid, Osiris ac Isis i'r Aiphtiaid, Vulcan i'r Lemniaid, ac eraill o'r fath hynny. Pa beth ydyw y Saint i'r rhai yr appoyntir cad wedigaeth rhyw ddinassoedd, onid Dij pręsides, * 1.150 rhag-dduwiau y delwaddolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Apollo yn Delphos, Minerua yn Athen, Iuno yn Carthag, yn Rufain Quirinus? Pa beth yw 'r saint i'r rhai yn wrthwyneb i arfer y brif-eglwys gynt, yr adailadir Temlau ac Eglwysydd, ac y cyfodir allorau, onid Dij Patroni, * 1.151 differ-dduwiau y delw-addolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydo∣edd Iupiter yn y Capitol, Venus yn-nheml Pa∣phus, Diana yn-nheml Ephesus, a'r cyffelyb.

Och, ôch, fe dybygid wrth ein tŷb ni a'n gwei∣thred, na ddyscasom ni yn crefydd o air Duw ond oddiwrth feirdd y Paganiaid, y rhai a ddywedant, Excessere omnes adytis arisque relictis, Dij quibus im∣perium hoc steterat, &c. y duwiau a gadwent ein teyrnas a ddifannasant, hwy a adawsont y Tem∣lau, ac a wrthodasont yr allorau.

Ac lle mae i vn sant lawer o ddelwau mewn llawer o leoedd, mae i'r sant hwnnw lawer o en∣wau, yn dybyccaf ac y ddichon bod i'r cenhedloedd. Pan glywoch son am fair o Walsingam, Mair o Ipswich, Mair o Wilsdon, Mair o ben Rhys, Mair o Fargam a'r fath leoedd, pa beth yw hyn onid dynwared y Cenhedloedd delw-addolaidd? Diana Aegrotera, Diana Coryphoea, Diana Ephesia, & Venus Cypria, Venus Paphia, Venus Gnidia. Trwy 'r hyn y meddyliant yn eglur fod i'r saint er mwyn y delwau drigfae yn y lleoedd hynny, ie

Page 94

yn y delwau eu hunain, yr hyn yw gwreiddyn eu delw-addoliad hwy. O herwydd lle nad oes del∣wau nid oes iddynt y fath gyfryngau.

Mae Terentius Varro 'n dangos fod trychant o Iupiterau yn ei amfer ef, ac nid anamlach oedd Ve∣nus a Diana. Ac nid oedd gennym ninnau lai o rifedi o Gristophorau, arglwyddesau Mair, a Mair Fagdalen, a saint eraill. Mae Oenomaus a Hesiodus yn manegi fod yn eu hamser hwy ddeg∣mil ar vgain o dduwiau. Yr ydwyf yn tybied nad oedd llai o saint gennym ninnau, i'r rhai y rho∣ddwyd yr anrhydedd a ddylai Dduw ei gael. Ac nid yspeiliasant yn vnic y gwir fywiol Dduw o'i anrhydedd dyledus mewn Temlau, dinasoedd, gwledydd a thiroedd, trwy 'r fath ddychymm ygi∣on ac y gwnaeth y delw-addolaidd Genhedloedd hynny yn y blaen: ond mae ganthynt saint naill∣tuol hefyd i'r mor a'r dyfroedd, megis yr oedd gan y cenhedloedd dduwiau i'r mor ac i'r dyfroedd. Megis Neptun, Triton, Nereus, Castor, Pollux, Ve∣nus, a'r fath hynny, yn lle y rhai y daeth S. Chry∣sostom, S. Clement, a llawer eraill, ond yn enwe∣dig yr Arglwyddes fair, i'r hon y cân y llongwyr Aue maris stella, hanphych-well seren y mor. Ac ni ddiangodd y tân hefyd rhag eu dychmygion delw-addolaidd hwy, o blegid yn lle Vulcan a Vesta duwiau 'r tân ym-mhlith y cenhedloedd, fe a osododd ein gwyr ni S. Agatha, ac y maent yn gwneuthur * 1.152 llythyrau ar ei dydd gwyl hi i ddiffod tân â hwy. Mae gan bob celfyddyd a chan bob galwedigaeth ei sant enwedigawl, megis Duw priodol. Mae gan Yscolheigion S. Nicholas, a S. Gregori, a chan beintwyr S. Luc, Ac nid oes ar filwyr ddiffyg eu Mars, nac ar gariadon eu Ve∣nus

Page 95

ym-mhlith Christionogion. Mae sant neilltu∣ol i bob clefyd, megis duwiau i'w iachau hwy. S. Roch a S. Anthoni i'r frech fawr. I'r * 1.153 gloe∣sion S. Cornelius, ac ir ddannwydd S. Apolin, &c. Ac nid oes ar anifeiliaid eisiau duwiau gydâ ni, S. Loe yn cadw 'r ceffylau, S. Anthoni yw bugail y moch, &c. A pha le y mae rhagluniaeth Duw a'u anrhydedd yn hynny o amser? Yr hwn a ddywaid mi piau 'r nefoedd, mi piau 'r ddayar, yr holl fyd a chymmaint oll ac sydd ynddo, myfi sydd yn-rhoddi goruwchafiaeth ac yn gorescyn, o hanofi y mae cyngor a chynhorthwy, &c. oni by∣ddafi yn cadw 'r ddinas, ofer y mae y gwilwyr yn ei chadw hi, yr Arglwydd a geidw ddŷn ac anifail. Ond ni adawsom ni iddo na nef na dayar na dwfr, na glwad, na dinas, na heddwch na rhyfel i'w rheoli, a'u llywodraethu, na dynnion nac ani∣feiliaid na chlefydon i'w iachau, fal y gallai wr duwiol weiddi mewn llid a zêl, Oh nef, dayar a moroedd, i ba ynfydrwydd ac annuwioldeb yn er∣byn Duw y cwympodd dynion? Pa ddiystyrwch y mae 'r creaduriaid yn ei wneuthur i'w creaw∣dwr, a'u gwneuthurwr. Ac os weithiau y cofiwn Dduw, etto am ein bod ni yn ammau naill ai ei allu ef, ai ei ewyllys i gynorthwyo, yr ydym yn cyssylltu ag ef ryw gynorthwywr arall, megis pe byddai yn * 1.154 Enw gwan: gan arfer y gairiau hyn, Y rhai ydynt yn dechreu dyscu a ddywedant, Duw a S. Nicholas fytho cynorthwywr imi: wrth yr vn a fytho yn * 1.155 entrewi y dywedir Duw a saint Ioan: wrth geffyl, Duw a S. Loy a'th gadwo di. Fal hyn yr ydym ni gwedy myned fal ceffyl a mul, yn y rhai nid oes dim deall: O blegid nid oes vn Duw onid vn yn vnic, yr hwn trwy ei allu a'i

Page 96

ddoethineb awnaeth bob peth, a thrwy ei rag-lu∣niaeth sydd yn eu llywodraethu hwy, a thrwy ei ddaioni yn eu maenteinio ac yn eu cadw hwy. O∣nid ydyw pob peth yntho ef, o hano ef, a thrwy∣ddo ef? Paham yr ydwyd yn troi oddiwrth y cre∣awdwr at y creaduriaid? Arfer y cenhedloedd a'r delwaddolwyr yw hyn. Ond Christion ydwyti, ac am hynny trwy Grist yn vnic y mae iti ddyfo∣diad at Dduw Dâd, a chynorthwy gantho fe yn vnic.

Nid ydys yn scrifennu hyn er gwradwydd i'r saint eu hunain, y rhai oeddynt wir wasanaeth∣wyr Duw, ac a roesant bob anrhydedd iddo ef, heb gymmeryd dim anrhydedd iddynt eu hunain, y rhai hefyd ydynt eneidiau bendigedig gyd â Duw: Ond yn erbyn ein ffolineb a'n annuwiol∣der ni, am ein bod yn gwneuthur o weision cywir Duw, gaudduwiau, gan roddi iddynt hwy allu Duw, a'r anrhydedd sydd ddyledus iddo ef yn v∣nig. Ac am fod gennym y fath dŷb am allu a pha∣rodol gynnorthwy y saint, mae 'n holl Legendę, hymnau, canlyniadau a'n offerennau ni yn cyn∣wys yndynt eu historiau, eu canmolau a'u clod hwy a gweddiau arnynt, ie a phregethau hefyd am danynt, ac yn cynnwys eu clod hwy 'n hollol, gan osod gair Duw heibio yn llwyr. A hynny yr ydym ni yn ei wneuthur yn gwbl i'r saint yn gy∣ffelyb ac y gwnai y cenhedloedd delw-addolaidd i'w gaudduwiau.

O blegid y fath opinionau y rhai oedd gan ddynnion am ddynnion marwol, er mor sanc∣taidd oeddynt, yr scrifennodd yr hên dadau Chri∣stianogaidd yn erbyn gaudduwiau y cenhedloedd: ac fe a ddinistrodd tywysogion Christionogawl

Page 97

eu delwau hwy, y rhai pe byddent byw yn awr a scrifennent yn ddiddau yn erbyn ein gauopinio∣nau ni am y saint, ac a ddinistrent eu delwau hwy hefyd. O herwydd eglur yw fod gan ein hamddiffynwyr delwau ni yr vn dŷb am y saint, ac oedd gan y cenhedloedd gynt am eu gaudduw∣iau, a hynny sydd yn peri iddynt hwy wneuthur delwau iddynt, megis y gwnai y cenhedloedd i'w duwiau. Os dywedant nad ydynt yn gwneuthur saint ond yn gyfryngwyr at Dduw, ac megis yn ddadleuwyr drostynt am y pethau y maent yn ei geisio gan Dduw. Mae hynny yn inion yn ol ar∣fer delwaddolwyr y cenhedloedd, yn eu gwneu∣thur hwynt o saint yn dduwiau y rhai a elwir Dij medioximi, i fod yn gyfryngwyr ac yn ddad∣leuwyr, ac yn gynorthwywyr i Dduw, megis pe byddai fe heb glywed, neu rhag ei ddyffygio ef wrth wneuthur pob peth ei hunan. Felly y dys∣cai y cenhedloedd fod vn gallu goruwchaf yr hwn a weithiau trwy eraill megis cyfryngwyr, ac felly y gwnaent yr holl dduŵiau yn ddarostynge∣dig i'r dynghedfen: megis y mae Lucian yn dywe∣dyd yn ei ymddiddanion, fod Neptun yn eiriol ar Mercuri gael o hono chwedlaua â Iupiter. Ac am hynny Yn hyn hefyd mae 'n eglur iawn fod ein ymddiffynwyr delwau ni yn vn mewn opinionau a delw-addolwyr y cenhedloedd.

Mae yn ol yn y drydedd ran, fod yr vn fath ce∣remoniau a defodau ganthynt hwy, wrth addoli ac anrhydeddu delwau eu saint, ac y arfer delw-addolwyr y cenhedloedd wrth anrhydeddu eu heulynod.

Yn gyntaf beth a feddylir wrth fod Christiono∣gion yn ol siampl y cenhedloedd delw-addolwyr,

Page 98

yn mynd i bererindodau i ymweled â delwau, a hwyntau â'r cyffelyb ganthynt gartref, ond am eu bod yn tybied fod mwy o sancteiddrwydd mewn rhai o'r delwau, nag mewn eraill, yn y modd yr ydoedd y delw-addolaidd genhedloedd yn tybied: yr hon yw 'r ffordd nesaf i'w dwyn hwy i ddelw-addoliad, wrth eu haddoli hwy, a hynny yn iniawn yn erbyn gair Duw, yr hwn a ddy∣waid, * 1.156 Ceisiwch fi a byw fyddwch, ac nac ymgei∣siwch a Bethel, ac nag ewch i Gilgal, ac na thra∣mwywch i Beerseba.

Ac yn erbyn y rhai oedd ac ofergoel ganthynt mewn sancteiddrwydd y lle, megis pe clywid hwy yn gynt er mwyn y lle, gan ddywedyd, Yr oedd ein tadau 'n addoli ar y mynydd hwn, ac meddwch chwithau yn Ierusalem y mae y lle y dylaid addoli. Fe a gyhoeddodd ein Iachawdwr Christ, Cred fi fod yr awr yn dyfod y pryd nad * 1.157 addolwch y Tad yn y mynydd hwn, nac yn Ie∣rusalem, ond y gwir addolwyr a'i addolant y Tad mewn Yspryd a gwirionedd. Ond yr ydys yn gwybod yn rhy dda fod wrth y fath bererin∣dodau yn addoli yn fwy Arglwyddes Venus, a'i Mâb Cupid, yn bechadurus yn y cnawd: nag yr addolid y Tad a'n Iachawdwr Iesu Grist yn yr Yspryd.

A chymhessur iawn oedd (fal y dywaid Saint Pawl) i'r rhai a gwympasent i ddelw-addoliad yr hyn oedd odineb ysprydol, gwympo hefyd i * 1.158 oddineb cnawdol a phob aflendid, trwy iniawn farn Duw, yn eu rhoi hwy i fynydd i wyniau gwarthus.

Pa beth a feddylir wrthweled Christionogion yn bennoethion ger bron delwau yn ol arfer de∣lw-addolwyr

Page 99

y cenhedloedd? y rhai pe byddai yn∣ddynt na synwyr na diolchgarwch a benlinient ger bron dynion, saeri, * 1.159 gofion, * 1.160 maeswnnaid, toddwyr, ac eurychod eu gwneuthurwyr a'u llun∣wyr hwy: trwy waith y rhai y cawsont hwy yr anrhydedd hwy: y rhai oni buasai hynny y fua∣sent yn glampiau bryntion, anweddaidd o glai, neu bridd, neu yn ddrylliau o goed, cerrig, neu fettel, heb na llun na diwgad, ac felly heb na chymheriad nac anrhydedd: Megis y mae 'r eu∣lyn hynny yn cyffessu ynghaniaid y bardd Paga∣naidd gan ddywedyd. Vnwaith yr oeddwn yn * 1.161 bren dibris ac fe a'm gwnaethpwyd yn awr yn Dduw.

Pa ynfydrwydd yw i ddyn yr hwn y mae rhe∣swn a bywyd, ymostwng i ddelw farw ddisyn∣wyr, gwaith ei ddwylo ei hun? onid yw yr ym∣grymmiad * 1.162 a'r penliniad hwn yn addoliad, yr hwn a waharddir mor ddifrif trwy air Duw. Gwy∣bydded a chydnabydded y rhai a gwympant ger * 1.163 bron delwau 'r saint, eu bod hwy yn rhoddi i gyffi∣on a cherrig meirwon yr anrhydedd ni fynne y saint eu hunain, Petr, Pawl a Barnabas, ei roi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw: a'r hwn y * 1.164 mae Angel Duw yn ei wahardd ei roddi iddo.

Ac os dywedant nad ydynt yn rhoddi yr anrhy∣dedd hynny i'r ddelw, ond i'r sant, yr hwn y mae hi yn ei ar wyddoccau, fe a ellir eu argyoeddi hwy o ffolineb, am gredu eu bod yn bodloni 'r saint â'r anrhydedd hwnnw, yr hwn a gashant hwy megis yspail o anrhydedd Duw. O herwidd nid ydynt hwy yn anwadal, ond yn awr gan fod ganthynt fwy o ddeall a gwresoccach gariad tuag at Dduw, mae 'n gassach ganthynt ddwyn dyledus anrhy∣dedd

Page 100

Duw oddiarno: ac yn awr pan ydynt me∣gis angylion Duw, maent gyd ag angylion Duw 'n gwachelyd cymeryd iddynt eu hunain trwy gyssegrledrad, yr anrhydedd sydd ddyledus i Dduw.

Ac ymma hefyd yr argyoeddir eu hanwireddus gyfrannad hwy o anrhydedd i Latria a Dulia, lle y mae yn eglur na all saint Duw oddef rhoddi na chynnyg iddynt gymmaint ac addoliad oddiallan. Ond mae Sathan gelyn Duw, gan drachwantu lledratta anrhydedd Duw oddiarno, yn chweny∣chu yn fawr gael yr anrhydedd hwnnw iddo ei hun. Am hynny nid ydyw y rhai a roddant i'r creadur yr anrhydedd sydd ddyledus i'r creawdwr, yn gwneuthur gwasanaeth cymmeradwy gan neb o'r saint, y rhai ydynt anwylion Duw; ond i Sathan gelyn tynghedig Marwol Duw a dŷn. Ac nid yw * 1.165 honni a'r y saint eu bod hwy yn chwe∣nych y fath dduwiol anrhydedd ddim amgen ond eu cyffeithio hwy â'r gwarth a'r gwaradw∣ydd casaf a diawleiddiaf ac a ddichon bod: ac yn lle saint gwneuthur o honynt ddiawliaid a chy∣thraulaid, cynheddfau y rhai yw ymarddel eu hu∣nain a'r anrhydedd sydd ddyledus i Dduw yn v∣nic. Ac hefyd lle maent yn dywedyd nad ydynt yn addoli y delwau, megis yr addole y cenhed∣loedd eu heulynod, onid Duw a'i saint y rhai y mae y delwau yn eu harwyddoccau, ac am hynny nad ydyw eu gorchwylion hwy ym-mlaen y del∣wau, yn gyffelyb i eulyn-addoliad y cenhedloedd ger bron eu heulynod, Mae S. Awstin, Lactan∣tius a Chlemens yn prosi yn eglur eu bod hwy wrth yr atteb hwn yn vn yn hollol ac eulyn-addol wyr y cenhedloedd.

Mae 'r cenhedloedd a fynnant fod o'r grefydd

Page 101

buraf, medd S. Awstyn, yn dywedyd, nid ydym ni * 1.166 yn addoli 'r delwau, ond wrth y ddelw gorphorol yr ydym yn edrych ar arwyddion y pethau a ddly∣em ni eu haddoli. Ac mae Lactantius yn dywe∣dyd, * 1.167 fe a ddywed y cenhedloedd, nid ydym ni yn ofni 'r delwau ond y rhai y gwnaed y delwau ar eu llun, yn enwau y rhai y cyssegrwyd y delwau. hyd Hyn Lactantius.

Ac mae S. Clement yn dywedyd, mae 'r sarph * 1.168 hon y diafol yn adrodd y geiriau hyn trwy enau rhyw wyr, Yr ydym yn addoli delwau gweledig er anrhydedd i'r anweledig Dduw. Yr hyn, medd ef, yn siccr sydd gelwydd goleu. Welwch eu bod hwy wrth arfer yr vnescusson ac a osode y cenhedloedd drostynt, yn dangos eu bod hwythau yr vn fath a'r cenhedloedd mewn delw-addoliad. O her∣wydd er yr escuson hyn, mae saint Awstin, Cle∣mens a Lactantius, yn * 1.169 prwfo eu bob hwy yn ddelwaddolwyr. Ac mae Clemens yn dywedyd, mai 'r sarph y diawl sydd yn dodi 'r escuson hyn yngeneuau delw-addolwyr. Ac mae 'r Scrythy∣rau er yr escus hynny, yn dywedyd eu bod hwy yn addoli coed acherrig, fal y mae ein ymddiffynwyr delwau ninnau 'n gwneuthur. Ac o blegid hyn∣ny y mae Ezechiel yn galw Duwiau yr Assyriaid yn goed a cherrig, êr nad oeddynt onid delwau eu duwiau hwy.

Felly yr ydys yn galw ein delwae Dduw, a'n delwau saint ninnau ar enw Duw, a'i saint, yn ol arfer y cenhedloedd.

Ac mae Clement yn dywedyd fal hyn yn yr vn llyfr, ni feiddiant roddi enw yr Ymmerodr i neb arall, o herwydd fe a gospa ei droseddwr a'i fra∣dychwr * 1.170 yn y man. Ond hwy a feiddiant roddi

Page 102

enw Duw i arall am ei fod ef er mwyn edifeir∣wch yn goddef ei droseddwyr. Ac felly y mae 'n delwaddolwyr ninnau yn rhoddi enwau Duw a'i saint a'r anrhydedd hefyd sydd ddyledus i Dduw, i'w delwau, fal y rhoe eulyn - addolwyr y cenhed∣loedd i'w eulynod.

Pa beth yw eu bod hwy fal y gwnaeth delwa∣dolwyr y cenhedloedd yn ennynni canwyllau i'w delwau hanner dydd, neu am hanner nos, ond eu hanryddeddu hwy â hynny? O blegid, achos a∣rall nid oes i wneuthur hynny. O herwydd byd y dydd nid rhaid wrthi: ond diaurheb o ynfydrw∣ydd er ioed ydoedd, ennynnu canwyll am hanner dydd, a'r nos nid gwiw emynnu canwyll ger bron y dall: ac nid oes i Dduw nac angen nac anrhy∣dedd o hynny.

Ond gwych yw 'r hyn a scrifennodd Lactanti∣us er ys yngh ylch mil o flynyddoedd, am y fath en∣nyn canwyllau, Ped edrychent hwy ar nefol oleu∣ni 'r haul, medd ef, hwy ddeallent nad oedd rhaid i Dduw wrth eu canwyllau hwy, yr hwn i wa∣sanaethu dyn a wnaeth y fath oleuni têg. Ac lle mae mewn angylch bach yr haul, yr hwn o ble∣gid ei belled o ddiwrthym y dybygid nad yw fwy nâ phen gwr, cymmaint o oleuni, nad yw go∣lwg llygad dŷn yn abl i edrych arno; ond os e∣drych dyn arno gan hyll dremmu ennyd yn ddian∣wadal, * 1.171 fe a dywyllir ac a ddellir ei lygaid ef a thy∣wyllwch; Pa faint oleuni, pa faint eglurwch a dybygwch ei fod gyd â Dduw, gyd â'r hwn nid oes na nos na thywyllwch, &c. Ac yn y mann ar ol hyn mae fe'n dywedyd, Am hynny a dybygid ei fod ef yn ei iawn gôf yr hwn a offrwm oleu can∣wyll gŵyr i roddwr y goleuni?

Page 103

Mae fe 'n gofyn goleu arall oddiwrthym ni yr hwn nid yw fyglyd onid eglur a goleu, hynny yw goleuni 'r meddwl a 'r deall. Ac yn y man ar ol hynn y mae fe 'n dywedyd, Ond mae 'n anghen∣rhaid i'w Duwiau hwy am eu bod yn ddayarol, wrth oleu, rhag iddynt aros mewn tywyllwch, y rhai y mae eu haddolwyr am nad ydynt yn deall vn peth nefol yn tynnu'r grefydd a arferant i wa∣ered i'r ddayar, yn yr hon am ei bod yn dywyll wrth naturiaeth y mae yn rhaid wrth oleuni. Wrth hynny nid ydynt yn haeru fod gan eu du∣wiau ddim deall nefol, ond ystyr dayarol fal gan ddynnion. Ac am hynny y credant fod y pethau hynny yn anghenrheidiol iddynt ac yn he ffiawn ganthynt, megis y maent i ninnau, y rhai sydd rhaid ini wrth fwyd pan fytho newyn arnom, ac wrth ddiod pan fythom sychedig, ac wrth ddillad pan fythom anwydog, acwrth oleu canwyll i'n go∣leuo gwedy machludo 'r haul.

Hyd hyn Lactantius, a llawer ychwaneg yr hyn a fyddai rhy hir ei scrifennu ynghylch enynnu can∣wyllau mewn temlau gerbron eulynod neu ddel∣wau er mwyn crefydd: trwy'r hyn yr ymddengys ynfydrwydd y pethau hyn, a'n bod ni hefyd mewn opiniwn a gorchwylion yn cyfuno 'n hollol a del∣waddolwyr y cynhedloedd, yn ein canwyll gre∣fydd. Pa beth yw eu bod hwy yn ol siampl del∣waddolwyr y cenhedloedd yn arogl-darthu ac yn offrwm aur i ddelwau, yn crogi bagleu, cadwy∣nau, llongau coesau, braichau a gwyr a gwragedd cyfain o gŵyr ger bron delwau, megis pe byddid yn ein gwared ni trwyddynt hwy neu'r saint (fal y dywedant) oddiwrth gloffni, clefyd, caethiwed neu dorrad llongau.

Page 104

Onid hyn yw Colere imagines, addoli delwau, yr hyn a waharddir mor ddifrif yngair Duw? Os gwadant hyn, darllenant yr 11. o'r Prophwyd Daniel, yr hwn a ddywaid am yr Anghrist, Duw * 1.172 yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda ef, ag aur ac arian ac â meini gwerthfawr, ac ag anwyl bethau eraill: a'r gair lladin yn y man hynny yw Colit. Yn yr ail o'r Croniclau yr ydys yn galw 'r holl ddeddfau a'r Ceremoniau oddi allan, megis * 1.173 arogl darthu a'r fath bethau trwy y rhai yr an∣rhydeddir Duw yn ei deml, Cultus: hynny yw, addoliad, yr hwn a waharddir yn galed trwy air Duw ei roddi i ddelwau. Onid ydyw yr holl hi∣storiau Eglwysig yn dangos i'n Merthyron san∣ctaidd ni yn gynt nag yr ymostyngent, y penlini∣ent, neu yr offrymment ronyn o arogldarth ger bron delw, neu eulyn, oddef mil o rywiau angau * 1.174 echrydus creulon? Ac er amled eu escuson hwy, etto eglur yw fod yn gwneuthur yr holl bererin∣dodan ymma, yn arogldarthu, yn ennyn canwy∣llau, yn crogi baglau, cadwynau, llongau, brai∣chiau, coesau, gwŷr a gwragedd o gŵyr: yn pen∣linio, yn cyfodi dwylo, a'r cwbl i'r delwau, o her∣wydd lle nid oes delwau, neu lle ni bûont, a lle tynnmyd hwy ymmaith, nid ydys yn gwneuthur y fath bethau. Ond yr ydys yn awr, gwedy eu tynnu hwy ymmaith, yn gwrthod ac yn gadel yn wâg yr holl leoedd a fynnuch-gyrchid iddynt pan oedd delwau yno: ie yn awr maent yn ffieiddio ac yn cashau y lle yn farwol, yr hyn sydd arwydd eg∣lur eu bod hwy yn gwneuthur y peth a wnae∣thant o'r blaen, er mwyn y delwau.

Am hynny pan welom wyr a gwragedd yn my∣ned yn fagadau i bererindodau at eulynod, yn

Page 105

penlinio o'u blaen hwy, ac yn cyfodi dwylo ger eu bronnau hwy, yn gosod canwyllau ac yn arogl∣darthu yn eu gwydd hwy, yn offrwm aur ac ari∣an iddynt, yn crogi i fynu longau, baglau, cadwy∣nau, gwyr a gwraged o gŵyr, ger eu bron hwy, gan haeru fod eu iechyd a'u cadwedigaeth yn dy∣fod oddiwrthynt hwy, neu 'r saint, y rhai y maent hwy yn eu harwyddoccau, fal y mynnent hwy i ni gredu: Pwy, pwy, meddaf, a ddichon ammau nad ydyw ein ymddiffynwyr delwau ni wrth gy∣tuno a delw-addolwyr y cenhedloedd ym-mhob opinionau delwaddolaidd, delwau a ceremoniau oddi allan, yn cytuno a hwy hefyd mewn gwneu∣thurdeb delw-addoliad ffiaiddiaf?

Ac ichwanegu yr ynfydrwydd hwn, yr adroddai, yr haerai, ac y gwascarai ddynnion melldigedig, drwg, y rhai yr ydoedd y delwau hyn yn eu cadwe∣digaeth, er mwyn cael mwy o fudd ac ennill, yn ol siampl delwaddolwyr y cenhedloedd, trwy ai∣riau celwyddog ac ofer chwedleu scrifennedig, lawer o wrthiau delwau, megis darfod danfon y ddelw honno trwy wrthiau o'r nef, megis Pala∣dium neu Magna Diana Ephesiorum: darfod cael delw arll yn rhyfedd yn y ddayar, fal y cafad pen y gwr yn y Capitol, neu ben y ceffyl yn Capua: darfod hebrwng rhyw ddelw arall gan angylion: dyfod o vn arall o bell o'r dwyrain i'r gorllewin, fal y symmudodd arglwyddes Ffortun i Rufain gynt: y cyfryw ddelw i'r arglwyddes fair a wna∣eth S. Luc, yr hwn er mwyn hynny y wnaethont hwy o physigwr yn beintiwr: vn arall ni allai gant iau o ychen ei hyscog, megis Bona dea, yr hon ni allai long ei dwyn: neu Iupiter Olympius, yr hwn a chwarddodd watwar am ben y crefftwyr a

Page 106

geisiasant ei fymmud ef i Rufain: a rhai o honynt er eu bod yn gerrig, ac yn galed, a wylasant o wir dirionwch calon, a thosturi: rhai a chwysasant megis Castor a Pholux wrth gynorthwyo y rhai a garent, mewn rhyfeloedd, megis y gwna maen * 1.175 mynor ar dywydd lled-wlyb: rhai o hanynt a ddywedasant yn rhyfeddach nag y dywad assen Balam yr hwn yr oedd bywyd ac anadlynddo: fe ddaeth y cryppul hwn a hwn ac a gyfarchodd i'r saint o dderwen ymma, ac fe a iachawyd yn y man, ac edrychwch ar ei faglau ef: fe addunedodd hwn a hwn ar dywydd creulon a thymestl, addu∣ned i saint Christopher, ac se a ddiangodd, gwe∣lwch ymma ei long ef o gŵyr: fe ddiangodd hwn a hwn o garchar trwy nerth S. Leonard, gwe∣lwch lle mae ei gadwynau ef. Ac anneirifo filo∣edd o wyrthiau eraill a adroddid trwy 'r cyffelyb neu etto ddigywilyddiach gelwyddau.

Dymma fal y mae ein hymddiffyn wyr delwau ni yn rhoi o ddifrif i'w holl ddelwau yr holl wyr∣thiau a ddychymmygodd y cenhedloedd am eu heulynnod hwythau.

A phe cydnabyddid ddarfod gwneuthur rhyw weithredoedd rhyfedd, lle mae delwau yn aros, trwy dwyll diafol, (o herwydd eglur yw mai cel∣wyddau a ddychymmygid, a dichellgar hudolia∣eth dynion oedd y rhan fwyaf) etto ni chanlyn o hynny y dylid eu hanrhydeddu hwy na 'u goddef, yn fwy nag y goddefodd Ezechias y sarph bres heb ddinistr pan addolwyd hi, er ei gosod hi i fynu trwy orchymmyn Duw, a'i phrofi hefyd trwy wyrthiau cywir mawrion: o herwydd fe a ia∣chawyd yn y man gynnifer ac a edrychodd arni: ac ni ddylei wyrthiau ein hannog ni i wneuthur

Page 107

yn erhyn gair Duw. O herwydd fe a ragryby∣ddiodd yr Scrythyrau ni y bydd teyrnas Anghrist galluog mewn gwyrthiau a rhyfeddodau, i ga∣darn dwyllo 'r holl rai gwrthodedig.

Ond yn hyn y maent yn rhagori ar ynfydrwydd ac annuwioldeb y cenhedloedd, am eu bod yn an∣rhydeddu ac yn addoli creiriau ac escyrn y saint, y rhai sydd yn dangos nad oeddynt hwy ond gwŷr marwol, a chwedi meirw, ac am hynny nad y∣dyntddu wiau i'w haddoli: yr hyn beth ni chyd∣nabydde y cenhedloedd am eu duwiau rhag y gwir gywilydd. Ond rhaid i ni gusanu y creiriau hynny ac offrwm iddynt, yn enwedig ddie sul y creiriau.

A phan fythom ni yn offrwm rhag i ni ddiffygio neu edifaru am ein traul, mae 'r music a'r gerdd yn adseinio yn llawen tros holl amser yr offry∣miad, gan glodfori a galwar y saint hynny y rhai y mae eu creiriau yno yn ein gwydd ni. Ie ac mae 'n rhaid cadw y dwfr yn yr hwn y gwlychwyd y ereiriau, megis peth sanctaidd ffrwythlon.

Ydyw hyn yn cytuno â S. Chrysostom yr hwn a scrifenna fal hyn am greiriau? Na wna gyfrif * 1.176 o ludw cyrph y saint, nac o weddillion eu cig hwy, a'u hescyrn, y rhai a draulia mewn amser: ond a∣gor lygaid dy ffydd ac cdrych arnynt gwedy eu di∣llatta â rhinweddau nefol, ac â rhad yr Yspryd glân, yn discleirio â discleirdeb goleuni nefol. Ond yr oedd ein delw-addolwyr ni yn cael gor∣mod ennill oddiwrth greiriau, a dwfr y creiriau, i ddilyn cyngor S. Chryfostom. Ac am fod creiri∣au 'r saint yn ennillfawr iddynt, nid oedd ond ambell le nad oeddynt gwedy darparu creiriau iddynt.

Ac er mwyn amlhau'r creiriau hynny, yr oedd

Page 108

i ryw saint lawer o bennau▪ vn mewn vn man, ac arall mewn mann arall: yr oedd i rai chwe braich a chwech ar vgain o fysedd. Ac er i Grist ei hun ddwyn ei groes, etto pe byddai holl ddrylliau ei gweddillion hi gwedy eu cynull ynghyd, fe fyddai anhawdd iawn i'r llong fwyaf yn lloegr eu dwyn hwy: ac etto hwy a ddywedant fod y rhan fwyaf o honynt yn aros etto heb eu cael yn-nwylo 'r an∣ghredadwy: am y rhai y maent yn gweddio ar eu paderau ar eu cael i'w dwylo, er mwyn y cyfryw ddefnyddion duwiol a hynny.

Ac nid oedd escyrn y saint yn vnic, ond pob peth a berthyne iddynt, yn grair-weddill sanctaidd. Mewn rhyw leoedd maent yn cynnyg cleddyf, mewn rhyw le gwain, mewn rhyw le escid, mewn rhyw le cyfrwy a osodasid ar ryw geffyl sanctaidd: mewn rhyw le y glo ar y rhai a pob wyd S. Lawrens: mewn rhyw le cynffon yr assen, ar yr hon yr eisteddesai ein Iachawdwr Christ Ie∣su a gynnygir i'w gusanu, ac i offrwm iddo, yn lle crair-weddill. O blegid yn gynt nag y bai ei∣siau creiriau arnynt, hwy a gymmerent ascwrn ceffyl yn lle braich morwyn, neu gynffon yr assen i'w cusanu ac i offrwm iddynt, yn lle creiriau. O ddigywilydd-dra dynnion tra-digwilydd a ddy∣chymmygant y pethau hyn? O ffoliaid difedr a chawciod ynfyd, ac anifeiliach nâ chynffon yr assen yr hon a gusanent, a gredent y pethau hyn. Yn awr Duw a drugarhao wrth y cyfryw Gristiono∣gion truain gwirion, y rhai trwy dwyll a dichell y gwyr a ddylasent ddyscu idd ynt ffordd y gwirio∣nedd, a wnaethpwyd nid yn vnic yn waeth nâ delw-addolwyr y cenhedloedd, ond heb fod ddim yn gallach nâ 'r assynnod, ceffylau a mulod yn y

Page 109

rhai nid oes deall.

O'r hyn a ddywetpwyd eisoes y mae'n eglur nad yw ein ymddiffynwyr delwau ni yn gwneu∣thur delwau yn vnic, ac yn eu gosod yn eu tenilau, megis y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd eu heulynod, ond bod ganthynt hefyd yr vn dde∣lw - addolaidd opinionau am y saint, i'r rhai a gwnaethont ddelwau, ac oedd gan y cenhedloedd delwaddolaidd am eu gaudduwiau: ac nad addo∣lasant hwy eu delwau yn vnic â'r vn ddeddfau, ar∣feron, a Caeremoniau o fergoel a gogylcheddau fal y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd a 'u heulynod: ond mewn llawer o bethau hefyd a'u ragorasont hwy ymhell ymhob annuwioldeb, ffolineb ac ynfydrwydd. Ac onid yw hyn ddigon i brofi eu bod hwy yn ddelw-addolwyr, hynny yw, yn addolwyr eulynod, wele chwi a gewch glywed eu cyffes gyhoedd hwy eu hunain.

Nid yd wyfi yn meddwl yn vnic ordeiniaethau r' ail Gyngor o Nicaea dan hyrene, na'r Cyngor yn Rufain dan Gregori y trydydd, yn y rhai y dys∣cant y dylaid addoli ac anrhydeddu delwau, fal y dangoswyd or blaen: etto maent hwy yn gwneu∣thur hynny yn wachelog ac yn ofnus, wrth y rhyfygus a 'r hygabl gyhoeddiad eilyn-addoliad amlwg a wnair i ddelwau, a osodwyd allan yn hwyr, ie yn ein dyddiau ni, pan ydyw goleuni gwirionedd gair Duw mor ddisclair, megis vwchlaw eu holl ffiaiddiaf weithredoedd a'u scri∣fennadau, y rhyfeddai ddyn fwyaf am eu hannial anfeidrol ddigywilydd-dra a'u cywilyddus eondra hwy, na ddewisent iddynt eu hunain ryw amser a fuasai dywyllach i draethu eu herchyll gabledd, ond cymmeryd yn awr arnynt wyneb puttain,

Page 110

heb feddwl gwrido wrth osod allan hoywder eu puteindra ysprydol.

Gwrandewch gabledd y tad parchus Iacobus Naclantus Escob Clugium, a scrifennodd ef yn ei ddeongliad ar epistol S. Pawl at y Rufeiniaid y bennod gyntaf, yr hwn a brintiwyd yn hwyr yn Venis, a hynny a ddichon sefyll yn lle 'r cwbl: gei∣riau yr hwn am addoliad delwau ydyw y rhai hyn yn lladin heb newid sillaf yndynt.

Ergo non solum fatendum est fideles in Ecclesia a∣dorare coram imagine, vt nonnulli ad cautelam fortè loquuntur, sed & adorare imagmem, sine quo volueris scrupulo, quin & eo illam venerantur cultu quo & Prototypon eius, propter quod si illud habet adorare latria & illa latria: si dulia & hyperdulia, & illa pariter eiusmodi cultu adoranda est.

Ystyr yr hyn yn y iaith Gamberaeg yw hyn, Am hynny y mae 'n rhaid cyffessu fod y ffyddloniaid yn yr Eglwys yn addoli nid yn vnig ger bron delw, (fal ond odid y dywaid rhai yn wachelog) ond eu bod hwy hefyd yn addoli 'r ddelw ei hun heb nac ammau na phetrusoer, ie maent yn addoli 'r dde∣lw ar vn rhyw addoliad ac yr addolir ei * 1.177 siampl cyntaf hi, hynny yw y peth y gwnaethpwyd hi ar ei lun, am hyn o dylyid addoli 'r peth ei hun yr hwn y gwnaethpwyd hi ar ei lun, ag addoliad llai neu fwy, fe ddylyeid addoli ac anrhydeddu y dde∣lw hefyd ar vn fath anrhydedd. Hyd hyn y dywad Naclantus.

Cablau yr hwn a argyoeddodd Gregori y cyn∣taf, wrth awdurdod yr hwn y damned hwy i V∣ffern, fal y twrddana ei ganlynwyr ef yn echrydus. O herwydd er bod Gregori yn goddef bod del∣wau, etto mae fe 'n gwahardd eu haddoli hwy, ac

Page 111

yn canmol Escob Serenus am wahardd eu haddoli hwy, ac ŷn erchi iddo ddyscu 'r bobl ymhob ffordd i wachelyd addoli vn ddelw.

Ond mae Naclantus yn chwythu allan ei ddir∣mygus ddelw-addoliad, gan erchi addoli del∣wau â'r rhyw vchaf ar addoliad, ac anrhydedd. Ac rhag diffyg awdurdod i'r ddysceidiaeth iachus hon: Mae fe yn ei gwreiddio hi ar awdurdod Ari∣stotl yn ei lyfr o gyscu a gwilio, fal y gellir ei weled gwedy ei nodi ar ledemyl y ddalen yn ei lyfr brith ef: digywilydd annuwioldeb yr hwn a 'i ddelw-addolaidd farn a osodais i allan yn halaethach, fal y gallech chwi, fal y dywaid Virgil am Si∣non, wrth vn adnabod yr holl ddelw-addolwyr, ac addolwyr eulynod, ac y galloch ddeall i ba ben yn y diwedd y dug goddef delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd a themlau ni, gan gyffelybu amsero∣edd ac scrifennadau Gregori y contaf, a'n dyddiau ni, ac â chablau yr anifail hwn o Belial a elwir Naclantus.

Am hynny fe a ddangoswyd ac a fanegwyd bellach trwy awdurdod yr hên dadau ac Ath∣rawion duwiol, trwy gyhoeddus gyffes Escobion gwedy ymgynull ynghŷd mewn Cynghorau, trwy arwyddion a rhesymmau, opinionau, actau a gweithredoedd ac anrhydedd delw-addolaidd a wnaethpwyd in delwau ni, a thrwy eu cyhoedd gyffes a'u hathrawaeth hwy eu hunain, y rhai a osodwyd allan yn eu llyfrau printiedig hwy eu hunain: fod yn addoli 'r delwau gynt, bod fyth yn gyffredinol yn eu haddoli hwy, ie ac hefyd, os cre∣dwn hwy, y dylyd eu haddoli hwy; myfi a wnaf allan o air Duw y ddadl gyffredinol hon, yn erbyn yr holl rai fy yn gwneuthur, yn gosod i fynu ac yn

Page 112

ymddiffyn delwau mewn lleoedd cyhoeddus.

Ac yn gyntaf mysi a ddechreuaf ar airiau ein Iachawdwr Christ, Gwae y dyn hwnnw o achos yr hwn y del rhwystran, pwy bynnac a rwystra vn o'r rhai bychain gweinion hyn a gredant yno * 1.178 fi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yngwaelod y mor. Ac yn Dew∣tronomi mae Duw ei hun yn cyhoeddi fod yn fell∣digedig yr hwn a wnel i 'r dall fyned oddiar y * 1.179 ffordd. Ac yn Leuiticus, Na ddod drangwydd o flaen y dall. Ond fe fu ddelwau mewn eglwysydd * 1.180 a themlau ac maent hwy etto, achwy a fyddant byth yr hyd yr arhosant yno, yn rhwystrau ac yn drāgwyddau yn enwedig i'r bobl gyffredinol, wei∣nion, wirion, ddeillion, yn twyllo eu calonnau hwy trwy gywrainrwydd y creftwr fal y tystiola∣etha yr Scrythyrau mewn llawer man, ac felly * 1.181 yn eu dwyn hwy i ddelw-addoliad. Am hynny gwae'r hwn a wnelo, a'r hwn a osodo i fynn, a'r hwn a ymddiffynno delwau mewn temlau ac e∣glwysydd: o herwydd mae cosp sydd fwy yn eu haros hwy nag angau 'r corph.

Os attebir y gellir tynnu ymmaith y rhwystr hwn trwy iawn athraweth a dyfal bregethiad gair Duw, a thrwy foddion eraill, ac nad ydyw delwau mewn eglwysydd a themlau, yn ddrwg hollol, ac o hanynt eu hunain, i bawb, er eu bod yn ddrwg i rai, ac am hynny y dlyeid dala fod eu goddef hwy yn yr Eglwys megis peth anghyfa∣ddas enbaid, ac nid yn hallol megis peth anghy∣ffraithlon, ac annuwiol.

Yno y canlyn y trydedd pwngc i'w brofi, a hwn yw ef. Nad ydyw bossibl os goddefir delwau mewn eglwysydd a themlau, cadw 'r bobl rhag eu

Page 113

haddoli hwy, ac felly gwachelyd delw-addoliad, na thrwy bregethu gair Duw, nac mewn vn modd arall.

Ac yn gyntaf ynghylch pregethu gair Duw, pe canniataid, er goddef delwau mewn eglwysydd, etto y gallid ymgadw rhag delw-addoliaeth trwy gywir a dyfal bregethu gair Duw: yno y canlynai yn ddiammau y gallid cael gwir a chywir athra∣waeth yn wastadol i aros ac i barhau, cystal a del∣wau: ac felly pa le bynnac y cyfodid delw yn rhw∣ystr, yno hefyd wrth reswn da y dylaid ac y ge∣llid cael a maenteinio pregethwr duwiol da. O herwydd rheswn yw fod y rhybydd mor gyffredi∣nol a 'r trangwydd, y rhymedi mor halaeth a 'r rhwystr, y feddyginaeth mor gyffredinol ar gwen∣wyn: ond ni ddichon hyn fod, fal y mae rheswn ac addysc amser yn dangos; Am hyny ni ddichon pregethu gadw rhag delw-addoliad, yr hyd y go∣ddefer delwau yn gyhoedd. O herwydd fe a ellir prynu delw yr hon a bery gan mlynedd er ychy∣dig, ond ni ellir maenteinio pregethwr da yn wastad heb gost fawr.

Hefyd os y tywysog a'u goddef, fe fydd yn y man lawer iawn, ie aneirif o ddelwau: ond ni bu er¦ioed ac ni bydd byth bregethwyr da ond yn ambell ac anaml wrth rhifedi 'r bobl sydd i'w dyscu. O¦blegid mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd fod y cynhauaf yn fawr a 'r gweithwyr yn an∣aml: yr hyn a fu ddigon gwir hyd yn hyn, ac a fydd hyd ddiwedd y byd: ac yn ein gwlad a'n hamser ni mor wir, a phe byddid gwedy eu rhannu hwy, a∣nodd fyddai gael vn i bob sir.

Yn awr fe bregetha delwau eu hathrawaeth hwy yn wastad, i'r rhai a font yn edrych arnynt,

Page 114

hynny yw delw-addoliaeth: yr hwn bregethiad y mae dynion yn barodol iawn yn wastad, ac yn agweddu: yn annial i wrando arno, ac i'w goelio, megis y mae digonol brawf ymmhob cenhedla∣eth ac oes. Ond mae 'n odid clywed gwir brege∣thwr i attal yr enbeidrwydd hwn, yn rhyw le∣oedd vnwaith mewn bwyddyn gyfan, nac mewn rhwy le vnwaith mewn saith mlynedd, fal y ge∣llir ei brofi yn eglur. Ac ni ellir yn ddisyfyd ar vn bregeth ddiwreiddio 'n llwyr yr opiniwn drwg a wreiddiwyd ynghalon dyn dros hir amser. Ac mae mor anaml y rhai sydd yn agweddu i gredu a∣thrawaeth iachus, ac y mae llawer, ie haychen y cwbl oll yn barod ac yn hyblyg i ofergoel a delw-addoliad: megis y mae yn amlwg fod yn an∣hawdd, ie haechen yn ammhossibl cael ymwared a rhwymedi yn hyn o beth.

Hefyd nid yw amlwg wrth vn histori greda∣dwy, i gywir ac iniawn bregethi erioed barhau mewn vn lle vwchlaw can-mlywedd: ond mae 'n eglur i ddelwau, ofer-goel, a delw-addoliad barhau lawer cant o flynyddoedd. O blegid mae pob scrifennadau, ac addysc amser hefyd yn profi, fod pethau da yn myned bob ychydig waeth wa∣eth, hyd oni ddifwyner hwy yn y diwedd yn ho∣llol; ac o'r gwrthwyneb fod pethau drwg yn cy∣nyddu fwyfwy, hyd oni ddelont i gwbl gyflawn∣der ac annuwioldeb.

Ac nid rhaid ini fynd ymmhell i geisio samplau i brofi hyn; O herwydd fe aeth pregethiad gair Duw (yr hwn yn y dechreu oedd bur odidawg) bob ychydig mewn amser yn ammhurach beu∣nydd, ac yn ol hynny yn llygredig, ac yn ddiwe∣thaf oll, fe a osodwyd heibio 'n hollol, ac fe a ym∣ly

Page 115

scodd i'w le ef bethau eraill, dychymygion dynnion.

Ac yn y gwrthwyneb ar y cyntaf fe benitiwyd delwau ymlhith Christionogion, a hynny mewn storiau cyfain, yn y rhai yr oedd peth arwyddocâd: yn ol hynny y gwneuthpwyd hwy o goed, cerrig, plastr a mettel: ac yn gyntaf hwy a gedwid yn neilltuol, ynnhai gwyr neilltuol, ac ar ol hynny yr ymluscasāt i eglwysydd a themlau, ond yn gyn∣taf trwy beintio, gwedy hynny yn gyrph breiscon: ac etto ar y cyntaf ni addolwyd hwy yn vn lle. Ond yn ol hynny ychydig fe ddechrauwyd eu ha∣ddoli hwy gan yr annyscedig, megis y mae 'n e∣glur wrth yr epistol a scrifennodd Gregori Escob Rufain y cyntaf o 'r enw hwnnw at Serenus Escob Massil. Or ddau Escob hyn, Serenus a dorrodd y delwau ac a'u lloscodd hwy, am y delwa∣ddoliaeth a wneaid iddynt: Gregori er ei fod yn tybied y gallid eu gado hwy i sefyll, etto fe farnodd mai peth ffiaidd oedd eu haddoli hwy, ac a dybi∣odd, megis yr ydys yn awr yn dywedyd, y gallid rhwystro eu haddoli hwy wrth bregethu gair Duw, fal y mae fe 'n rhybyddio Serenus i gy∣farwyddo 'r bobl, fal y manegir yn yr epistol hwnnw.

Ond pa vn ai opinion Gregori, ai barn Serenus oedd oreu yn hyn o beth, ystyriwch chwi adolwg? o herwydd yn y mann fe argyoeddodd amser opi∣nion Gregori: o herwydd er bod Gregori yn scri∣fennu, ac eraill yn pregethu, etto yn y mann yn ol goddef delwau yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd, fe gwympodd gwyr a gwragedd gwi∣rion yn y mann yn gadau i'w haddoli hwy: ac yn y diwedd fe ddygwyd y dyscedig hefyd ymmaith

Page 116

gyd â'r cyffredinol gyfeiliorn. megis gyd a▪'r ffrwd neu'r weilgi a'r cefullif gwyllt.

Ac yn ail Gyngor Nicaea fe a ordeiniodd y gwyr llen a'r escobion y dylaid addoli delwau, ac felly o achos y trangwyddau hyn y dallwyd yn y diwedd trwy hudolaeth delwau, nid yn vnic y gwirion a'r annyscedig, ond y call a'r dyscedig hefyd: nid yn vnic y bobl, ond yr Escobion hefyd: nid y defaid yn vnic, ond y bugailiaid hefyd (y rhai a ddylasent fod yn dywysogion i'w tywys hwy i'r iniawn ffordd, ac yn oleini i oleuo mewn tywyllwch) megis ar∣weiniaid deillion yn arwain y deillion, hyd oni chwympodd y ddau i bwll damnedig delw-addo∣liaeth. Yn yr hwn yr arhossodd yr holl fyd hyd ein hoes ni, dros saithcant neu wythcant o flynyddo∣edd, heb fod neb haechen yn dywedyd yn erbyn hynny. A dymma'r ffrwyth a dyfodd o ordeinhad Gregori: yr hwn afiwydd ni ddigwyddasai byth pe buasid yn cymmeryd ffordd Escob Serenus, ac yn distrywo ac yn dinistr yr holl eulynod a'r del∣wau: o herwydd nid addola neb y peth nid ydyw.

Ac fal hyn y gwelwch pa fodd a oddef delwau yn neilltuol y daethpwyd i'w gosod hwy i fynu mewn temlau ac eglwysydd yn gyhoedd, ac etto heb ddim drygioni ar y cyntaf (fal y tybiai wyr dyscedig call) ac o'u goddef hwy yno yn vnic, yn y diwedd fe ddaethpwyd i'w haddoli hwy: yn gyntaf gan y bobl annyscedig, y rhai yn anad neb fal y dywaid yr Scrythyr-lân sydd mewn * 1.182 enbeidrwydd ofergoel a delw-addoliad: ac yn ol hynny gan yr Escobion, y dyscedig a'r holl wyr llen eglwysig, megis y boddwyd ar vnwaith y cwbl oll, y gwyr llyg a'r gwyr llen, y dyscedig a'r annyscedig, yr holl oesoedd, sectau, a graddau,

Page 117

o wyr, o wragedd, ac o blant, o holl gred, (peth of∣nadwy * 1.183 echrydus i feddwl am dano) mewn ffia∣idd ddelw-addoliaeth: yr hwn o bob bai arall sydd gasaf gan Dduw, a chollediccaf i ddyn; a hynny dros wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg.

Ac i'r diwedd hwn y daeth y dechreuad hwnnw o osodiad delwau i fynu mewn Eglwysydd, yr hwn a farned y pryd hynny yn beth dieniwed, ond a aeth yn y diwedd nid yn vnic yn llawn eniwed, ond yn ddistriw ac yn angheuol ddinistr i holl greddyf ddaionus yn gyffredinol. Fal yr ydwyfi yn cau 'r cwbl fel hyn, megis y gall fod yn bossibl mewn rhyw ddinas neu wlad fechan, fod delwau gwedy eu gosod mewn Temlau ac Eglwysydd, a gallel er hynny trwy ddifri a pharhaus bregethu gair Duw, a phur efengyl ein Iachawdwr Christ, gadw 'r bobl dros amser byrr oddiwrth ddelw∣addoliaeth: felly y mae 'n amhossibl fod delwau gwedy eu gosod i fynn ac yn cael eu goddef mewn Temlau ac Eglwysydd mewn gwledydd mawr, ac amhossipplach o lawer fod yn eu goddef hwy yn yr holl fyd dros amser hîr, ac ymgadw rhag delw-addoliaeth.

Ac fe ofala y duwiol nid yn vnic am eu dinas a'u gwlad, ac iechydwriaeth gwyr o'u hoes eu hunain, ond hefyd am bob lle ac amser, ac am ie∣chydwriaeth gwyr o bob oes; yn enwedig ni oso∣dant hwy y tramgwyddau, a'r-maglau hynny dan draed gwledydd ac oesoedd eraill, y rhai yr ydys yn gweled eisoes eu bod yn ddistryw i'r holl fyd. Am hynny mi a wnaf gynull cyffredinol o'r cwbl oll a draethais hyd yn hyn.

Os bydd y trangwyddau▪ a gwenwyn eneidi∣an dynnion trwy osod delwau i fynu, yn aml, ie

Page 118

yn anfeidrol os goddefir hwy: a'r rhybyddion yn erbyn y tramgwydd hynny, a'r ymwared yn erbyn y gwenwyn hynny trwy bregethu, yn ambell ac yn anaml, megis y dangoswyd eisoes: os bydd hawdd gosod y tramgwyddau, a hawdd darparu y gwenwyn, a'r rhybyddion a'r ym wared yn anodd eu hadnabod a'u cael: os bydd y tramgwyddau 'n wastad yn gorwedd ar ein ffyrdd ni, a'r gwenwyn yn barod ger ein llaw ni ym-mhob man, a'r rhy∣byddiau a'r ymwared heb eu rhoi ond yn ânfy∣nych: ac os bydd pawb o hanynt eu hunain yn barottach i dramgwyddo nag i gymmeryd rhy∣bydd, pawb yn barottach i ŷ fed y gwenwyn nag i brofi yr ymwared iachus, (fal y dangoswyd o'r blaen o ran, ac y dangosir yn gyflawnach ar ol hyn) ac felly os bydd llawer yn yfed y gwenwyn yn wastadol ac yn ddwfn, a nymmor heb brofi yr ymwared onid weithiau, a hynny yn egwan: pa fodd na rwystrir llawer o'r gweiniaid diegni? Ie pa fodd na thyrr llawer eu gyddfau trwy gwym∣po? ac na wenwynir yn angheuol eneidiau aneirif o bobl? A pha fodd y dichon cariad Duw, neu ga∣riad ein cymmydogion fod yn ein calonnau ni: oni thynnwn ymmaith a ni yn gallel, y fath dramgwyddau enbaid, a gwenwyn mor wen∣wynllydd?

Pa beth a ddyŵedaf am y rhai a osodant dram∣gwyddau lle nad oedd yr vn o'r blaen, a maglau i draed, nag ê i eneidiau y rhai gwirion gweinion? ac a barant enbeidrwydd tragwyddol ddistryw i'r rhai y tywalltodd ein Iachawdwr Iesu Grist ei werthfawr waed drostynt, lle buasai well na ddychmygasid ac nad arferesid er ioed celfyddy∣dau peintio, plastro, cerfio, neu doddi, na dinistr

Page 119

a cholli trwy achos delwau a llunniau vn o ha∣nynt hwy, y rhai y mae eu eneidiau mor werth∣fawr ger bron Duw. Fal hyn y dangoswyd nad yw bossibl i bregethu allel cadw rhag delwaddo∣liaeth, os gosodir delwau 'n gyhoedd mewn Eg∣lwysydd a themlau.

Ac mor wir yw nad oes nac scrifennu yn erbyn delw-addoliaeth, na chynull cynghorau, na gw∣neuthur ordeiniaethau yn y gwrthwyneb, na chyfraithiau caled chwaith, na chyhoeddiadau tywysogion ac Ymmerodron, na * 1.184 dygyn gosp, a phoenau creulon nac vn remedi ac a allwyd neu a ellir ei ddychymmyg yn abl i attal ac i gadw rhag delw-addoliaeth os gosodir neu os goddefir delw∣au yn gyhoeddus.

O herwydd am scrifennu yn erbyn delwau a'r addoliad a wnair iddynt, fe adrodwyd i chwi yn yr ail rhan o'r traethawd hwn, lawer o leoedd allan o Tertulian, Origen, Lactantius, S. Awstin, E∣piphanius, S. Ambros, Clemens, a llawer eraill o Escobion sanctaidd dyscedig ac athrawon yr Eg∣lwys. Ac heblaw hyn mae 'r holl historiau Eg∣lwysig a llyfrau Escobion ac athrawon dyscedig sanctaidd eraill, yn llawn o samplau ac ymadro∣ddion godidawg yn erbyn delwau a'u haddolwyr. Ac megis yr scrifenasant hwy yn ddifri iawn, felly yn eu hamser y pregathasont hwy ac y dangosa∣sont yn bur ac yn ddiescaelys yn gyfunol a'u siam∣plau a'u scrifenadau.

O herwydd pregethwyr oedd escobion yr amser∣oedd hynny, ac hwy a welid yn funychaf ynghen∣nadwri yr hwn a ddywaid▪ ewch i'r holl fŷd, pre∣gethwch i bawb yr Efengil; nag ynghennadwri a negaseu tywysogion y byd hwn: ac fal yr oe∣ddynt

Page 120

yn llawn zêl a diwydrwydd, felly yr oeddynt o ddysc a bywyd duwiol godidawg ac am bob vn o'r ddau mewn awdurdod a chymeriad mawr gy∣da 'r bobl, ac felly yn applach ac yn debyccach i berswado 'r bobl, a'r bobl yn debyccach i'w credu hwyntau ac i ganlyn eu hathrawaeth.

Ond ni alle eu pregethau hwy ddim help, llai o lawer y gallai eu scrifennadau hwy y rhai ni ddawent i gydnabyddiaeth onid rhai o'r dyscedig, mewn cyfflybaeth o'u gwastadol bregethau, o'r hyn y mae 'r holl dyrfa 'n gyfrannog.

Ac nid ydoedd yr hen dadau a'r Escobion a'r doctoriaid yn pregethu ac yn scrifennu yn neill∣tuol yn vnig, ond hwy a wnaethant ynghŷd hefyd gwedy ymgynull mewn rhifedi mawr, mewn cymmanfau a chynghorau, ordeiniaethau a chy∣fraithiau eglwysig yn erbyn delwau a delw-addo∣liad: ac ni wnaethont felly vnwaith neu ddwy, ond llawer o amseroedd, ac mewn llawer o oeso∣edd ac o wledydd, a gynnullasont gymanfau a chyngorau ac a wnaethont ordeiniaethau tost yn erbyn delwau a'u haddoli, megis y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn yr ail rhan o'r bregeth hon.

Ond nid oedd eu holl scrifennadau, eu prege∣thau, a'u ymgynull mewn cynghorau, eu hordei∣niadau a'u cyfraithiau, yn abl nac i dynnu delwau i lawr y rhai y gwnaid delw-addoliaeth iddynt, nac yn erbyn delw-addoliaeth yr hyd y safe 'r del∣wau. O herwydd fe a orchfygodd y llyfrau deilli∣on a'r athrawon mudion hynny (delwau ac eu∣lynod yr wyfyn eu feddwl) o herwydd llyfrau ac athrawon gwyr llyg y galwant hwy, gan ddan∣gos a phregethu delw-addoliaeth trwy eu scri∣fennadau peintiedig a cherfiedig, yn erbyn eu holl

Page 121

lyfrau printiedig hwy a'u pregethu ar dafod la∣ferydd.

Wele, oni allai bregethu ac scrifennu gadw dynnion rhag addoli delwau a delw-addoliaeth, oni allai ben a geiriau wneuthur hynny: chwi a dybygwch y gallai gosp a chleddyf ei wneuthur: fy meddwl yw y gallai dywysogion trwy gyfrai∣thiau a chospedigaeth dost, attal anffrwynedig chwant pawb i ddelwaddoliaeth, er gosod delwau i fynu a'u goddef hwy. Ond mae amser gwedy dangos na ddichon hyn mwy help yn erbyn delw-addoliaeth nag scrifennu a phregethu.

O herwydd er i fwy nag wyth o Ymmerodron (awdurdod y rhai a ddylai fod fwyaf wrth gyf∣raith Duw) o'r rhai y ternasodd chwech ol yn ol yn nessaf iw gilidd, fal y manegwyd yn yr histo∣riau o'r blaen, wneuthur cyfraithiau tost a chy∣hoeddiadau yn erbyn eilynod, ac eilyn-addoliaeth, delwau a delwaddoliad, gan osod cospedigae∣thau trymmion, ie a phoen angau ar ymddiffyn∣wyr delwau, ac ar eilyn-addolwyr ac addolwyr delwau: Etto ni allasont er hynny er ioed na chwbl ddinistr delwau a osodasid vnwaith i fynu, na chadw dynnion rhag eu haddoli hwy gwedy eu gosod i fynu.

Pa beth a dybygwch chwi wrth hyn a ddig∣wyddai pettai wyr dyscedig yn dyscu i'r bobl eu gwncuthur hwy, ac yn maenteinio eu gosod hwy i fynu, megis pethau anghenreidiol i wir grefydd? I ddibennu mae 'n ymddangos yn eglur wrth holl hystoriau ac scrifennedau, ac wrth yr amser∣oedd aethont heibio, na ddichon na phregethu nac scrifennu, na chyfundeb y dyscedig, nac awdur∣dyd y duwiol, nac ordeiniaeth Cynghorau, na

Page 122

chyfraithiau tywysogion, na thost gospedigaeth y troseddwyr yn hynny o beth, nac vn modd na remedi arall help yn erbyn eilynaddoliad, os go∣ddefir delwau yn gyhoeddus. A gwir iawn y dy∣wedir fod yr amser aeth heibio 'n ddyscawdr doe∣thineb i ni sydd yn dyfod ar ol.

Am hynny oni allae yr hen dadau Escobion a doctoriad rhinwedusaf dyscediccaf a diescaelusaf, a hwy haechen mewn rhifedi yn aneirif, wneu∣thur dim yn yr amseroedd aeth heibio, a'u holl scri∣fennadau, pregethau, poen, difritwch, awdurdod, cymynfau, a chyngorau, yn erbyn delwau a delw-addoliad, gwedy gosod delwau i fynu vnwaith: pa beth a allwn ni ei wneuthur y rhai nid ydym yn gyffelyb iddynt hwy, nac mewn dysc, nac mewn diwydrwydd, nac mewn sancteiddrwydd bywyd, nac mewn awdurdod, gan ein bod yn ddynnion dirmygus digymmeriad (fal y mae 'r byd yn awr yn myned) ac yn anaml mewn rhi∣fedi ymmysc cymmaint lliaws a chensigen dyn∣nion? pa beth meddaf allwn ni ei wneuthur neu ei gwblhau i attal eulyn-addoliad, neu addo∣liad delwau, os goddefir hwy i sefyll yn gyhoe∣ddus mewn Temlau ac Eglwysydd?

Ac oni alle gynifer o Ymmerodron galluog, trwy gyhoeddiadau a chyfraithiau mor dost, trwy gospedigaethau, a phoenau mor drymmion ac mor ddygyn, gadw 'r bobl rhag gosod i fynu ac addoli delwau, pa beth a ddigwydd, dybygwch chwi, pan fo dynnion yn eu canmol hwy megis llyfrau anghenreidiol gwyr llyg?

Dyscwn ni am hynny yn y dyddiau diwethaf ymma, y wers hon gan hen henafiaeth, nad yw bossibl dros vn amser hir wahanu delw-addoliad

Page 123

oddiwrth ddelwau, onid megis cyssyltyn diwaha∣nedig, neu megis y canlyn y cyscod y corph, pan fytho 'r haul yn ty wynnu felly y mae delw-addo∣liad yn canlyn ac yn glynu wrth oddefiaeth del∣wau'n gyhoedd mewn Temlau ac Eglwysydd. Ac yn ddiwethaf megis y dylaid cashau a gwache∣lyd delw-addoliaeth, felly y dylaid hefyd dinistr a dodi ymmaith ddelwau, y rhai ni allant fod yn hir heb ddelw-addoliad.

Heblaw addysc a phrawf yr amseroedd aeth heibio, mae naturiaeth a dechreuad delwau o ha∣nynt eu hunain yn tynnu yn rhy nerthog i ddelw-addoliad, ac mae anian dynnion a'u paradrw∣ydd yn gogwyddo mor drwm at ddelw-addoliad, nad yw bossibl wahanu a dosparthu delwau oddi∣wrthto, na chadw dynnion rhag delw-addoliad os goddefir delwau yn gyhoeddus.

Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd am annian a dechrauad delwau yw hyn, fal y mae eu dechrau∣ad hwy yn ddrwg ac ni ddichon dim daioni ddy∣fod o beth a fo a'i ddechreuad yn ddrwg, am eu bod hwy oll yn ddrwg fal y dywaid Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, a S. Ierom ar y chweched bennod o'r Proyhwyd Ieremi: Ac mae Eusebius yn ei saithfed llyfr o'i histori E∣glwysig a'r ddaunawfed bennod yn dywedyd, megis y daethont hwy ar y cyntaf attom ni oddi∣wrth y cenhedloedd (y rhai ydynt ddelw-addol∣wyr) ac fal y bu dychmygu delwau yn ddechre∣uâd goddineb ysprydol, fal y testiolaetha gair Duw, Doeth. 14. felly megis wrth naturiaeth ac yn anghenreidiol, y dych welant i'r dechrauad o'r hwn y daethont, ac y tynnant ni trwy drais i ddelw-addoliad, ffiaidd gan Dduw a phob dyn

Page 124

duwiol. Ac fe ddaeth dechreuad delwau a'u ha∣ddoliad, megis y dywedir yn yr wythfed bennod o lyfr y doethineb, o gariad dall oedd gan y tad anneallus, gan lunio i 'w ddiddanwch ddelw ei fab a fuasai farw, felly o'r diwedd y cwympodd dynnion i addoli delw yr hwn a wyddent ei fod wedy marw. Pa faint mwy y cwympe wyr a gwragedd i addoli delwau Duw Dâd, ein Ia∣chawdwr Christ, a'i saint, os goddefir hwy i sefyll mewn eglwysydd a themlau yn gyhoeddus?

O herwydd po m wyaf o dŷb a fytho am fawr∣hydi a sancteiddrwydd y neb y gwnelir delw iddo, cyntaf y cwymp y bobl i addoli y ddelw hon∣no. Am hynny y mae delwau Dduw, ein Ia∣chawdwr Christ, y fendigaid forwyn fair, yr apo∣stolion, y merthyron ac eraill o'r rhai sanctaidd godidawg, yn beriglaf o gwbl rhag enbeidrwydd delwaddoliad, ac am hynny y dlyid gochelyd yn fwy rhag goddef yrvn o hanynt yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd. O herwydd nid rhaid fawr ofni rhag cwympo neb i addoli delwau Annas, Caiphas, Pilat, neu Iudas fradwr, pe byddid yn eu gosod hwy i fynu: ond i'r llaill fe brwfwyd yn gyllawn eisoes ddarfod gwneuthur delw-addo∣liad, fod yn ei wneuthur etto, ac yn debyg y gw∣nair yn wastadol.

Yn awr, fel y sonniwyd o'r blaen ac y dangosir ymma yn halaeth, nid ydyw naturiaeth dyn yn tueddu yn amgenach i addoli delwau, os dichon ef eu cael hwy a'u gweled, nag y mae'n gogwyddo i oddineb a phuteindra ynghwmpniaeth putei∣niaid. Ac megis na byddid ond ychydig nes er dy∣wedyd wrth wr a fytho gwedy ymroi i chwan∣tau'r cnawd, os bydd ef yn gweled puttain ddry∣thyll,

Page 125

yn eistedd yn ei hymyl, ac yn ei bracheidio hi, Gwachel oddineb, fe farna Duw oddineb wyr a * 1.185 phuteiniaid. O herwydd gwedy ei orchfygu ef a hudoliaeth y buttein, ni wna ef na roi clust, na synnaid ar y fath rybyddiō duwiol, a chwedy ar ol hynny ei adel ef yn vnic gyda 'r buttain, ni all dim ganlyn onid brynti: felly os goddefwch ddodi i fynu delwau mewn temlau ac eglwysydd, ofer yr erchwch iddynt wachelyd delwau, fal y mae Ioan sant yn erchi, a chilio oddiwrth ddelw-addolia∣eth, fal y rhybyddia 'r holl scrythyrau ni: ofer y pregethwch ac y dangoswch iddynt yn erbyn de∣lw-addoliad. O herwydd llaweroedd er hyn a gwympant i'w haddoli hwy, naill ai trwy anni∣an y delwau ai trwy dueddiad eu hannian lygre∣dig eu hunain.

Am hynny megis mai temptio Duw yw, i'r hwn a fytho yn gogwyddo at chwantau cnawdol, eistedd wrth glun puttain: felly hefyd nid yw go∣sod delw i fynu yn y parodrwydd hyn sydd mewn dŷn i ddelw-addoliad ddim onid temptio Duw.

Os dywaid neb nad ydyw y gyffelybaeth hon yn prufo dim, etto yr ydwyf yn deisyf arnynt adel i air Duw o'r hwn y tynnwyd y gyffelylbaeth, bru∣fo peth. Onid ydyw gair Duw yn galw delw-addoliaeth yn oddineb ysprydol? onid ydyw ef yn galw delw gwedy ei goreuro, yn buttain gwedy peintio ei hwyneb? onid ydyw ysprydol ddrygi∣oni * 1.186 hudoliaeth delw, megis gwenniaith puttain drythyll? Onid ydyw gwyr a gwragedd mor ba∣rodol i odineb ysprydol, hynny yw i ddelw-addo∣liaeth, ac i odineb cnawdol? Os gwedir hyn pro∣fed holl genhedlaethau y ddayar y rhai oll a fuont ddelw-addolwyr (fal y manegir ymmhob histori)

Page 126

ei fod yn wir. Profed yr Iddewon, pobl Dduw, y rhai a rybyddiwyd mor fynych ac mor ddifrif, ac a fygythwyd mor ofnadwy ynghylch delwau a de∣lw-addoliad, ac a gospwyd mor dost am ddelw-addoliad, ac er hynny a gwympasont atto, fod hyn yn wir: fal y dangosir yn eglur ddigon yn holl lyfrau 'r hên Destament, yn enwedig yn llyfrau y brenhinioedd, y croniclau a'r prophwdi. Pro∣fed holl oesoedd ac amseroedd, dynnion o bob oes ac amser, o bob gradd a galwedigaeth, gwyr call, gwyr dyscedig, tywysogion, dynnion annysce∣dig a chyffredin, fod hyn yn wir.

Os mynnwch gael samplau am wyr call, cym∣merwch yr Aiphtiaid a 'r Gymnosophistiaid y gwyr callaf o'r byd, cymmerwch Salomon y gwr callaf oll. Am wyr dyscedig, y Groegiaid, yn en∣wedig yr Atheniaid, yn rhagori ar bob cenhedla∣eth mewn ofergoel a delw-addoliad: megis y mae S. Pawl yn histori Actau 'r Apostolion yn dywe∣dyd am danynt. Am dywysogion a llywodraeth∣wyr * 1.187 cymmerwch y Rufeiniaid, y rhai oeddynt yn rheoli 'r cwbl. Brenin Salomon, a holl frenhi∣nioedd * 1.188 Israel a Iuda ar ei ol ef, ond Dafydd, E∣zechias, Iosias ac vn neu ddau ychwaneg, yr holl rai hyn, meddaf, ac aneirif o wyr call dyscedig, ty∣wysogion, a llywiawdwyr y rhai oeddynt oll dde∣lw-addolwyr, ydynt siamplau i chwi i ddangos fod pob dyn a 'i duedd a 'i ogwydd at ddelw∣addoliad.

Er fymod heb son am aneirif liaws, a murdd o wirioniaid annyscedig, y bobl ddiwybod ddifedr, y rhai a gyffelybir i fulod ac i geffylau, yn y rhai nid oes deall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scry∣thur yn rhagddangos ac yn rhagfanegi eu pe∣rigl

Page 127

a'u henbeidrwydd i gwympo yn gadau idde∣lw∣addoliad, trwy achos delwau. Ac o ddywedyd gwir pa fodd y gall y bobl ddiddrwg, annyscedig, ffoliaid, ddiangc rhag rhwydau a maglau euly∣nod a delwau, yn y rhai y rhwydwyd ac y maglw∣yd y rhai callaf a gorau eu dysc?

Am hynny mae 'r ddadl yn dala y sail ymma yn ddiogel, fod dynnion mor hyblyg o'u naws llygre∣dig i wneuthur goddineb ysprydol, ac ydynt i wneuthur godineb cnawdol.

Yr hyn beth yr oedd doethineb Duw yn ei ragweled, ac am hynny at y gwaharddiad cyffre∣dinol hwn, Na wna ddelwau na lluniau, fe a gy∣sylltodd achos, yr hon oedd yn sefyll ar lygredig anian dyn: rhag, medd ef, dy dwyllo drwy gamsyn∣niaid ac iti eu hadoli hwy. Ac o'r sail hwn, sef * 1.189 hyblygedd naturiaeth lygredig dyn yn gystadl i oddineb ysprydol, ac i oddineb cnawdol, y canlyn: megis y mae yn ddlyed ar bob llywiawdr duwiol a garo honestrwydd ac a gashao buteindra, er mwyn gwachelyd godineb cnawdol, symmud ymmaith yr holl buteiniaid, a'r coegennod, yn en∣wedig allan o'r lleoedd yr ydys yn eu drwgdybied yn gyhoeddus, y rhai yr arfer mursennod ddyfod iddynt: felly dlyed yr vn llywiawdr duwiol yw, yn ôl samplau y duwiol frenhinioedd Ezechias a Iosias, yrru ymmaith yr holl buteiniaid ysprydol (eulynod a delwau yr ydwyf yn ei feddwl) yn en∣wedig allan o'r lleoedd drwgdybys, eglwysydd a∣themlau, y rhai ydynt leoedd enbaid rhag gwneu∣thur delw-addoliad i 'r delwau a osodir yndynt, megis pe byddent yn y lle apoyntiedig, ac mewn vwchder anrhydedd ac addoliad, fal y dywaid S. * 1.190 Awstin, lle y dylaid addoli yn vnic y bywiol Dduw

Page 128

ac nid coed a cherrig meirwon. Swydd llywi∣awdwyr duwiol (meddaf) yw, yn yr vn modd sym∣mud delwau o'r eglwysydd a'r temlau, megis pu∣teiniaid ysprydol allan o leoedd tybus, er gochelyd delw-addoliaeth, yr hwn sydd odineb ysprydol.

Ac megis y byddai yn elyn i bob honestrwydd yr hwn a ddygai buteiniaid a choegennod o'u cor∣nelau dirgel i'r marchnadleoedd goleu, i drigo yno, ac i arfer eu marchnadaeth brwnt, felly y mae fe'n elyn i wir addoliad Duw, yr hwn a ddygo euly∣nod a delwau i'r eglwys, tŷ Dduw, i'w haddoli yno yn gyhoeddus, ac i yspeilio 'r Duw eiddigus o'i anrhydedd, yr hwn ni rydd ef i arall, nai ogo∣niant i ddelwau cerfiedig, a'r hwn yr ymwrthodir yn gymmaint, ac y torrir rhwym cariad rhwng dyn ac ef yn gymmaint, trwy ddelw-addoliaeth, yr hwn yw goddineb ysprydol, ac y torrir cwlwm a rhwym priodas trwy odineb cnawdol. Cymme∣rwch hyn oll yn lle celwydd, oni ddywaid gair Duw ei fod ef yn wir. Melldigedig, medd Duw * 1.191 yn Dewt, yw 'r hwn a wnelo ddelw gerfiedig ac a'i gosodo hi mewn lle dirgel, a'r holl bobl a ddy∣wedant, Amen.

Fal hyn y dywad Duw, o herwydd yr amser hynny ni faiddiai neb feddu delwau, nau haddoli yn gyhoedd, ond mewn cornelai dirgel: ac lle mae 'r holl fyd yn deml halaeth i Dduw, pwy byn∣nac mewn vn gornel o hono a yspeilio Dduw o'u ogoniant, ac a'i rhoddo i goed a cherrig, fe gyhoe∣ddir hwnnw trwy air Duw yn felldigedig.

Yn awr pwy bynnac a ddygo 'r puteiniaid ys∣prydol hyn o'u llochesau dirgel i gyhoeddus e∣glwysydd a themlau, fal y gallo gwyr a gwragedd wneuthur puteindra ysprydol yno yn gyhoeddus

Page 129

heb ddim cywilydd, yn ddiammau mae hwnnw gwedy i Dduw ei felldithio yn ddauddyblyg: a phob gwr a gwraig dda dduwiol a ddywedant Amen: a'u Hamen hwy a sydd ffrwythlon. Ie mae hefyd vnfydrwydd yr holl fyd sydd yn addef gwir grefydd Grist, yn awr er yn amser llawer cant o flynyddoedd, ac hefyd llawer yn ein hamser ni mewn cymmaint goleuni 'r efengyl, yn rhedeg yn dyrfau dros fôr a thîr (gan golli eu hamser, treulio a difa eu golud, ymddifadu eu gwragedd a'u plant, a'u tylwyth, a dodi eu cyrph a'u bywyd mewn enbeidrwydd) i Rufain, i Gompostela, i Ierusalem ac i wledydd pell eraill, i ymweled â choed a cherrig mudion meirwon; mae hyn, me∣ddaf, yn prufó yn gwbl barodrwydd llygredig an∣nian dyn, i geisio eulynod a fyther gwedy eu gosod i fynu vn waith, ac i'w haddoli hwy.

Ac fal hyn y mae 'n eglur cystadl wrth ddechreu∣ad a naturiaeth eulynod a delwau, ac wrth ba∣rodrwydd a hyblygedd llygredig natur dyn i'w ha∣ddoli hwy, na ellir na dosparthu delwau os go∣sodir i fynu yn gyhoeddus, na chadw a chynnal dynnion os gwelant ddelwau gwedy eu gosod mewn temlau ac Eglwysydd, oddiwrth ddelw-addoliaeth.

Ac lle maent yn gosod drostynt ymmhellach, er darfod i'r bobl, tywysogion, gwyr call, a gwyr dyscedig, yn yr hên amseroedd, gwympo i ddelw-addoliad trwy achosion delwau, etto yn ein ham∣ser ni nid ydyw y rhan fwyaf, yn enwedig y rhai dyscedig call, a'r rhai mewn awdurdod, yn der∣byn na drwg na thramgwydd oddiwrth ddelwau, nac yn rhedeg attynt i wledydd pell ac yn eu addo∣li hwy: ac y gwyddont hwy yn ddifai pa beth yw

Page 130

eulyn neu ddelw, a pha fodd yr arferir hwy, ac y canlyn ar hyn nad ydyw delwau mewn eglwy∣sydd ond pethau diddrwg didda, y rai ni chamarfer rhai ddim o honynt: ac am hynny y gallant ddala yn gysion (megis y dechrauasont ddodi drostynt ynnechreuad y rhan hon) nad yw yn anghy∣fraithlon nac yn ddrygionus hollol, fod delwau mewn eglwysydd a themlau, er na thybygir fod hynny yn gyfaddas, rhag perigl i'r rhai difedr.

Yn erbyn hyn y gellir atteb ailwaith, fod Sa∣lomon hefyd, y callaf o'r dynnion, yn gwybod yn dda iawn, pa beth oedd eulyn neu ddelw, a thros hîr ennyd na chafodd ef ei hunan ddim drwg oddi∣wrthynt: ac fe a arfogodd eraill hefyd a'i seri∣fennadau duwiol yn erbyn eu henbeidrwydd hwy. Ac etto yn hyn pan oddefodd yr vn Salo∣mon i'w buteiniaid drythyll ddwyn delwau i'w lys a'i balâs, fe annogwyd gan buteiniad cnaw∣dol, ac a yrrwyd gyda hynny i wneuthur godineb ysprydol i eulynod, ac o'r tywysog duwiolaf a challaf fe aeth yn ffolaf ac yn annuwiolaf.

Gorau am hynny i'r callaf feddwl am y rhybydd * 1.192 hwn, Yr hwn a hoffo berigl a * 1.193 ddifhair ag ef: A'r * 1.194 hwn y sydd yn tybied ei fod yn sefyll synned na syr∣thio, Ac na osoded trwy wybod ac yn ewyllysgar y fath faen tramgwydd i'w draed, ac i draed eraill hefyd, y rhai onid odid a'u dygant hwy yn y di∣wedd i dorri eu * 1.195 gyddfau.

Fe wyddai y brenin daionus Ezechias yn ddi∣fai ddigon nad ydoedd y sarph bres onid delw fa∣rw, ac am hynny ni chafodd ef ei hun ddim ani∣wed oddiwrthi trwy addoli iddi. Ai gadawodd ef hi am hynny i sefyll, am na chafodd ef ddim drwg o'i hachos hi? Naddo, ond ac ef yn frenin duwiol,

Page 131

ac am hynny yn gofalu am iechyd ei ddeiliaid tru∣ain a dwyllasid gan y ddelw honno i wneuthur delwaddoliaeth iddi, ni thynnodd ef hi i lawr yn * 1.196 vnic ond fe a'i torrodd hi yn ddrylliau. A hyn a wnaeth ef i'r ddelw honno a osodasid i fynu trwy orchymmyn Duw, yngwydd yr hon y gwnelsid gwrthiau mawr, megis yngwydd vn oedd ar∣wydd o'n Iachawdwr Christ a ddawai, yr hwn a'n gwaredai ni oddiwrth frath angheuol yr hên sarph Sathan. Ac nid arbedodd ef hi nac er ei henaint, ai hoedran, yr hon a barhaesai vwchlaw saithcant o flynyddoedd, nac er i lawer o frenhino∣edd duwiol da ei goddef hi ai chadw cyn ei amser ef. Pa fodd, dybygwch chwi, y trwsiai y tywysog duwiol hwnnw pe byddai fe byw yn awr, ein del∣wau ni, y rhai a osodwyd i fynu yn iniawn yn er∣byn gorchymmyn Duw, ac heb fod yn arwyddi∣on o ddim ond ffolineb, ac i ffoliad i edrych arnynt, nes eu bod hwy mor gall a'r cyffion y maent yn edrych arnynt, ac hyd oni chwympont i lawr me∣gis hedyddion gwedy eu hofni, wrth lygadrythu arnynt, ac a hwy yn fyw eu hunain hwy a addo∣lant bren neu garreg, aur neu arian marw: ac felly yr ânt yn ddelwaddolwyr ffiaidd melldigedig gan y bywiol Dduw, gan roddi yr anrhydedd sydd ddyledus i'r hwn a'u gwnaeth hwy pan nad oe∣ddynt ddim, ac i'n Iachawdwr Christ yr hwn a'u prynodd hwy gwedy eu colli, i ddelw farw fud, gwaith dwylo dŷn, yr hon ni wnaeth er ioed ac ni ddichon wneuthur dim drostynt byth: ie yr hon ni all na symmud nac yscog, ac am hynny sydd waeth nâ phryfyn gwael yr hwn a all ymlusco ac ymsymmud.

Ni chafodd y brenin godidawg Iosias ddim

Page 130

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 131

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 132

eniwed hefyd gan ddelwau ac eulynnod, o her∣wydd fe wyddai yn ddifai pa beth oeddynt hwy, a adawodd ef o blegid ei wybodaeth ei hun, eu∣lynnod a delwau i sefyll, chwaethach eu gosod hwy i fynu? oni chynnorthwyodd ef yn hytrach trwy ei wybyddiaeth a'i awdurdod, y rhai ni wy∣ddent pa beth oeddynt hwy, gan dynnu ymmaith yn llwyr yr holl faini tramgwydd ac a allent fod yn achosion distryw i'w bobl a'i ddeiliaid ef? Ac o blegid bod rhai o honynt heb gael eniwed oddi∣wrth ddelwau ac eulynod, a dorrant hwy am hynny gyfraith Dduw, Na wna iti dy hun lun dim, &c. Hwy a allant resymmu yn gystadl fal hyn, O herwyd na hudwyd Moeses gan ferch Iethro, na Boos gan Ruth, y rhai oeddynt ddieithriaid, y galle 'r holl Iddewon dorri cyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn gwahardd i'r bobl gyssyll∣tu eu plant â dieithriaid, rhag iddynt hudo eu plant hwy i beidio â chanlyn Duw.

Am hynny y rhai a resymmant fal hyn, er nad ydyw gyfaddas etto mae 'n gyfraithlon fod del∣wau 'n gyhoeddus, ac ydynt yn prufo fod hynny yn gyfraithlon trwy ambell siampl o wyr dichlyn dewisol: os dywedant hynny am bawb yn ddiwa∣niaeth, yr hyn ni ddichon ond rhai ei gadw yn ddieniwed, ac yn ddidramgwydd, mae 'n debyg eu bod hwy yn cyfrif y cyffredin yn lle eneidiau di∣bris (fal y dywaid hwnnw yn Virgil) am y rhai ni ddylai fod fawr gyfrif am eu colledigaeth neu eu cadwedigaeth y rhai er hyn y talodd Christ am danynt mor brid ac am y tywysog galluoccaf, ca∣llaf, a gorau ei ddysc sydd a'r y ddaear. Ac pwy bynnac a fynnont gymmeryd hyn yn gyffredinol yn ddidrwg, o blegid bod ambell vn heb gymme∣ryd

Page 133

aniwed oddiwrtho, er bod heblaw y rhai hyn∣ny rifedi aneirif yn myned i ddistryw, maent yn dangos nad ydynt yn gwneuthur ond ychydig wahaniaeth rhwng cyffredin Gristionogion ac anifeiliaid mudion, y rhai y maent mor ddiofal am eu peryglu.

Ac heblaw hyn os Escobion, personaid, neu era∣ill sydd a chur eneidiau arnynt, a ymresymmant fal hyn, mae 'n gyfraithlon fod delwau yn gyho∣eddus er nad ydyw yn gyfaddas; pa fath fugeili∣aid y maent yn dangos eu bod i'w cynulleidfaon, y rhai a wthiant arnynt y peth y maent hwy yn ei addef nad ydyw yn gyfaddas iddynt, i lwyr ddi∣nistr eneidiau y rhai a orchmynnwyd i'w cadwe∣digaeth hwy, am y rhai y gorfydd arnynt roddi iniawn gyfrif ger bron tywysog y bugeiliaid y dydd diwethaf? O herwydd nid ydyw yn vnic yn beth anghyfaddas, ond hefyd yn anghyfraithlon ac yn felldigedig, osod o flaen y gweiniaid a'r rhai sydd barod i gwympo o hanynt eu hunain, y fath fain tramgwydd. Am hyn, peth rhyfedd yw pa fodd y gallant alw delwau a osodir i fynu mewn eglwysydd a Themlau, heb na budd nac elw oddi∣wrthynt, ond perigl ac enbeidrwydd mawr, ie e∣niwed a distryw i lawer, neu yn hytrach i aneirif o eneidiau, yn bethau diddrwg? Onid yw eu gosod hwy i fynu yn fagl i'r holl ddynnion ac yn demptio Duw?

Yr ydwyf yn deifif ar y rhesymwyr ymma alw i'w cof eu hordeiniaethau a'u deddfau arferedig eu hunain, trwy y rhai yr ordeiniasont na ddarlle∣nid yr Scrythyr (er i Dduw ei hun orchymmyn fod gwyr gwragedd a phlant yn ei gwybod hi) gan y bobl annyscedig ac na byddent yn yr iaith gyffre∣din,

Page 134

o herwydd (fal y dywedent hwy:) fod yn en∣baid hyn, rhag iddynt ddwyn y bobl i amryfysedd. * 1.197

Ac ni waharddant hwy osod delwau mewn e∣glwysydd a Themlau, y rhai ni orchmynnir ond y waharddir hefyd gan Dduw yn galed: ond eu gado hwy yno yn wastad, ie a'u maenteinio hefyd, gan eu bod hwy yn dwyn y bobl nid yn vnic i en∣beidrwydd, ond yn wir i amryfysedd ffiaidd a de∣lw-addoliad cas? Ac a gauir gair Duw, rhag fal y dywedant enbeidrwydd heresiau, er i Dduw or∣chymmyn ei ddarllen ef i bawb, a bod pawb yn ei wybod ef? Ac a osodir er hynny ddelwau i fynu? a oddefir hwy ac a faentaenir hwy mewn eglwy∣sydd a Themlau, er bod Duw yn eu gwahardd hwy, ac er maint enbeidrwydd delw-addoliad sydd oddiwrthynt? Oh ddoethineb fydol gnaw∣dol gwedy ymroi i faeinteinio dychymygion a thraddodiadau dynnion trwy resymmau cnaw∣dol, a thrwy yr vn rhyw i ddiddymmu ac i wra∣dwyddo sanctaidd ordeiniaethau, cyfraithiau ac anrhydedd y tragwyddol Dduw, yr hwn a anrhy∣deddir ac a glodforir yn dragywydd. Amen.

Bellach mae 'n aros ini ynniwedd y traethawd hwn ddangos yn gystadl gamarferiad eglwysydd a Themlau, wrth eu trwsio a'u harddu hwy yn rhy werthfawr ac yn rhy wychion, ac hefyd trwy annuwiol beintio goreuro a dilladu delwau: ac felly y diweddir yr holl draethawd.

Nid oedd gan Gristionogion yn amser Tertu∣lian, drugain mlynedd a chant yn ol Christ, ddim Temlau, ond tai cysfredin i'r rhai yr arferent fy∣ned fynychaf yn ddirgel: A chyn ei amfer ef yr oe∣ddynt * 1.198 mor bell oddiwrth fod ganthynt demlau gwedy eu trwsio 'n hardd, fal y gwnaethpwyd

Page 135

cyfraithiau yn amser Antonius Verus a Chomodus yr Ymmerodron na byddai i Gristionogion fod yn drigolion mewn tai, na dyfod i gymanfau cy∣ffredinol, nac ymddangos yn yr heolydd nac yn * 1.199 vn lle ymmysc pobl, ac os cyhuddid vnwaith eu bod hwy yn Gristionogion, na oddefid iddynt ddiangc mewn vn modd yn y byd, fal y gwnaeth∣pwyd ac Apolonius senadur pendefigaidd o Ru∣fain, gwedy i'w gaethwas ef ei hun gyhuddo ei fod ef yn Gristion, ni allai fe ei wared ei hun rhag * 1.200 angau, nac wrth yr ymddiffynniad yr hwn a scri∣fennodd ef yn ddyscedig ac yn ymadroddus, ac a ddarllenwyd yn gyhoeddus yn y seneddr, nac er ei fod ef yn ddinasydd yn Rufain, nac o blegid gwae∣ledd ac a'nghyfraithlonrwydd ei gyhuddwr, yr hwn oedd gaethwas iddo ef i hun, ac am hynny yn debyg o genfigen i lunio celwyddau yn erbyn ei arglwydd, na thrwy vn modd na chynhorthwy arall yn y byd, fal yr ydoedd yn gorfod ar Gristio∣nogion drigo mewn ffauau a gogofau, mor bell o∣eddynt hwy yr amser hwnnw oddiwrth fod gan∣thynt demlau cyhoeddus, gwedy eu trwsio a'u harddu fal y maent yn awr.

Yr hyn a adroddir ymma i argyoeddi celwyddau digywilydd y rhai a ddywedant y fath chwedlau peintiedig têg am y deml wych odidawg oedd gan S. Petr, Linus, Cletus a'r deg ar vgain o Esco∣bion eraill ar eu hol h wy, yn Rufain, hyd yn am∣ser yr Ymmerodr Constantin, a'r hon oedd gan S. Policarp yn Asia, a'r hon oedd gan Irenaeus yn Ffrainc, er mwyn gallu wrth y fath gelwy∣ddau yn wrthwyneb i'r holl hen historiau cywir, faenteinio gormod goreurad a thegwch ar dem∣lau ac Eglwysydd, yn y dyddiau hyn: yn yr hyn y

Page 136

maent yn dodi haychen holl sum a syrth ein cre∣fydd ni, ond fe a ennillodd yr amser hynny y byd i Gristionogaeth, nid wrth deg oreuro a pheintio temlau y Christionogion, y rhai nid oedd ond yn brin tai ganthynt i drigo ynddynt: ond trwy ddu∣wiol ac megis goreurog feddyliau a ffydd gadarn, y rhai ym-mhob adfyd ac erlid, oeddynt yn cyssesu gwirionedd ein crefydd ni.

Ac yn ol yr amser hyn ynghyhoeddiaid Maxi∣mian a Chonstantinus Ymmerodron y galwyd y lle yr oedd Christionogion yn arfer o ddyfod i weddi gyffredin, yn ymgynullfau. Ac yn llythyr yr Ymmerodr Galerius Maximinus y gelwir hwy Oratoria, dominica, hynny yw lleoedd gwedy * 1.201 eu cyssegru i wasanaeth yr Arglwydd. Ac ymma ar y ffordd y gallwn weled nad oedd yn yr amser∣oedd hynny, nac Eglwysydd na themlau gwedy eu cyfodi i vn sant, ond i Dduw ei hun, fal y mae S. Awstin yn adrodd hefyd gan ddywedyd, Nid * 1.202 ydym yn gwneuthur dim temlau i ferthyron. Ac mae Eusebius yntef yn galw Eglwysydd yn dai gweddi, ac yn dangos fod pawb yn amser Con∣stantin yr Ymmerodr yn llawennychu fod yn lle yr ymgynnull-fannau issel, y rhai a ddinistrasse tyroniaid, yn adail temlau vchel.

Welwch hyd amser Constantin dros gwedy try∣chant mlynedd yn ol ein Iachawdwr Christ, pan oedd ffydd a chrefydd Christ buraf ac yn wir oreu∣raid, nad oedd gan Gristionogion ond cynulleid∣fannau issel, gwael, a thai gweddi bychain, ie go∣gofau dan y ddayar, a elwir Cryptę, lle rhag ofn erlid yr ymgynullasont hwy ynghŷd yn ddirgel. Arwydd o'r hyn sydd yn aros etto yn y gogofau y rhai sydd etto dan eglwysydd, i ddwyn ar gôf ini

Page 137

hen stat a chyflwr y brif-eglwys gyntaf, ym∣mlaen amser Constantin, lle yn amser Constan∣tin ac ar ei ol ef yr adailadwyd temlau mawrion, gwych, têg i'r Christionogion, y rhai a elwid Basi∣licae: naill ai am fod Groegwyr yn galw pob lle têg mawr Basilicas: ai am fod yn gwasanaethu ynddynt y tragwyddol frenin goruchel Duw, a'n Iachawdwr Christ. Ac er i Constantin a thywy∣sogion eraill o zêl ddaionus i'n crefydd ni, drwsio a harddu yn wych odidawg demlau Christionogi∣on, etto hwy a gyssegrent ar yr amser hynny eu holl Eglwysydd a'u Temlau i Dduw, ac i'n Ia∣chawdwr * 1.203 Christ, ac nid i neb o'r saint, O herwydd fe ddechreuodd y camarfer hynny yn hîr a'r ol hynny, yn amser Iustinian. Ac fal yr arferwyd y gwychter hwnnw yr amser hynny, ac y cyd-ddyg∣wyd ag ef megis peth yn dyfod o zêl dda, etto fe ddangosodd y dyscedig duwiol yr amser hynny, y gallasid treulio hynny yn well mewn moddion eraill.

Bydded S. Ierom (er ei fod mewn moddion yn rhy gu ac yn rhy hoff gantho 'r pethau hyn oddi∣allan) yn dyst o hyn, gan yr hwn yn ei lythr at Demetriades y mae 'r geiriau hyn, Gedwch chwi i eraill adail Eglwysydd, a gorchguddio parwy∣dydd a maini mynor, dwyn ynghyd golofnau mawrion a goreuro eu pennau hwy, y rhai ni chlywant ac ni ddeallant eu hoŷwad a'u har∣ddad gwerthfawr hynny, harddent a thrwsient hwy y drysau ag Ifori ac ag arian, a gosodant i fynn allorau aur a meini gwerthfawr, nid ydwyf yn beio arnynt, bydded pob gwr lawn yn ei ystyr ei hun: gwell iddynt wneuthur felly nâ chadw eu cyfoeth yn ofalus: ond mae i ti ffordd arall gwedy

Page 138

ei aypoyntio i ti, dillada Christ yn y tlawd, ym∣weled ac ef yn y claf, a'i borthi yn y newynog, ei letteua ef yn y rhai sydd ac eisiau lletty arnynt, ac yn enwedig y rhai ydynt o dolwyth y ffydd. Ac mae 'r vn Ierom yn * 1.204 crybwyll am yr vn peth yn gwplach yn ei draethawd am fywyd gwyr Eg∣lwysig at Nepotian, gan ddywedyd fal hyn, Mae llawer yn adail muriau, yn cyfodi colofnau Eg∣lwysydd, mae 'r mynor llyfn yn discleirio, mae nen y tai yn goleuo gan aur, mae'r allor gwedy ei hamgylchu a meini gwerthfawr: ond ar wa∣sanaethwyr Christ nid oes na dewis nac ethole∣digaeth.

Ac na osoded neb yn fy erbyn y deml gyfoethog oedd yn Iudea, yr hon yr oedd ei bord a'i chanwy∣llernau, ei gefeiliau, ei thusserau, ei chawgiau, ei phiolau a'i llwyau, a phob peth arall yn aur: Yr ydoedd yr Arglwydd yn fodlon i'r pethau hyn yr amser hynny, pan oedd yr offeiriaid yn offrwm aberthau, a phan gyfrifid gwaed anifeiliaid yn iawn am bechod. Ond y pethau hyn i gyd oedd yn myned o'r blaen mewn arwydd, ac a scrifennw∣yd er ein mwyn ni ar y rhai y daeth diwedd y byd. Ac yn awr pan yw 'n Arglwydd ni ac ef yn dlawd gwedy cyssegru tlodi ei dy, cofiwn ei groes ef, ac ni a gyfrifwn gyfoeth megis llacca a thom. Paham yr ydym ni yn hoffi y byd hyn a alwodd Christ y mammon melldigedig? Paham yr ydym ni yn cyfrif cyfuwch, ac yn caru cymmaint, y pethau y mae S. Petr yn ymogoneddu nad oeddynt gan∣tho? hyd yn hyn S. Ierom.

Fal hyn y gwelwch fod S. Ierom yn dangos nad ydoedd y gwychter ym-mhlith yr Iddewon onid arwydd i arwyddocau pethau a ddawent,

Page 139

ac nid siampl ini i'w canlyn, a bod yn goddef y pe∣thau hyn oddiallan dros amser nes dyfod Christ ein harglwydd, yr hwn a drodd y pethau hynny oddi allan i Yspryd ffydd a gwirionedd.

Ac mae 'r vn S. Ierom yn dywedyd ar y saith∣fed o Ieremi, fe orchymmynnod Duw i'r Idde∣won yr amser hynny, ac yn awr i ninnau, y rhai a osodwyd yn yr eglwys, na byddo ini ymddired yn∣gwycher yr adailad a'r nennau goreurog; a'r pa∣rwydydd gwedy eu gorchgiddio â llechau mynor: gan ddywedyd Teml yr Arglwydd, Teml yr Ar∣glwydd: honno yw Teml yr Arglwydd yn yr hon y mae gwir ffydd a duwiol ymddygiad a thyrfa pob rhinweddau yn trigo. Ac ar y Prophwyd Aggeus, mae fe 'n gosod allan wir ac iawn drwsi∣ad a harddwch Teml yn y modd ymma, Yr ydwyf, medd S. Ierom yn tybied mai 'r arian yr hwn yr harddir ty Dduw ag ef, yw athrawaeth yr Scry∣thyrau, am yr hyn y dywedir, Athrawaeth yr Ar∣glwydd sydd athrawaeth bur, arian gwedy ei goe∣thi yn y tân, gwedy ei garthu oddiwrth sothach, a'i buro saithwaith. Ac yr ydwyf yn tybied mai 'r aur ywr peth sydd yn aros yn ystyr cuddiedig y saint, ac ynnirgelwch y galon, ac yn discleirio gan wir oleu Duw: Yr hyn sydd eglur fod yr apostol yn ei ddeall hefyd am y saint a adailadant ar y syl∣faen Christ, rhai arian, rhai aur, rhai faini gwerth∣fawr: y gellir arwyddocae wrth yr aur yr ystyr a'r deall dirgel; wrth yr arian, ymmadroddion du∣wiol; wrth y meini gwerthfawr, y gwaithredo∣edd sydd yn bodloni Duw. A'r mettelau hyn y gwnair eglwys ein Iachawdwr Christ yn har∣ddach ac yn yn deccach nag ydoedd y Synagog yn yr hên amser. A'r cerrig bywiol hynny yr adai∣ladir

Page 140

eglwys a thŷ Grist, ac y rhoddir iddi he∣ddwch yn dragywydd. Geiriau S. Ierom ydyw y rhai hyn oll.

Ac felly nid oedd gymmeradwy gan yr hên Es∣cobion a doctoriaid duwiol, ry hoywder temlau ac eglwysydd, a phlat, a llestri aur, ac arian, a dillad gwerthfawr. Fe a ddywaid Chrysostom nad rhaid yngwasanaeth y Sacramentau sanctaidd wrth lestri auraid ond meddyliau auraid. Ac mae * 1.205 S. Ambros yn dywedyd, fe a ddanfonodd Christ ei apostolion heb aur, ac a gynnullodd ei eglwys heb aur. Mae aur gan yr eglwys nid i'w gadw ond i'w dreulio ar anghenrhaidiau 'r tloddion. Nid ydyw y Sacrament yn edrych am aur, ac nid ydyw y rhai ni phrynwyd am aur, yn bodloni Duw er mwyn yr aur. Harddu a thrusio Sacra∣mentau yw prynu carcharorion o'u caethiwed. Hyd yn hyn S. Ambros.

Ac mae S. Ierom yn canmol Exuperius Escob Tolos am ei fod yn dwyn Sacrament corph yr Ar∣glwydd mewn basced brwyn, a Sacrament ei waed ef mewn gwydr: ac felly yn taflu trachwant allan o'r eglwys. Ac mae Bonifacius Escob a mer∣thur, fal y cofir yn yr odeiniaethau, yn tystiolae∣thu, * 1.206 yn yr hên amseroedd fod y gwnenidogion yn arfer llestri coed ac nid llestri aur. Ac fe wnaeth Zepherinus Escob Rufain ordeiniaeth ar iddynt arfer llestri gwydr. * 1.207

Felly yr oedd y gwiscoedd a arferid yn yr eglw∣ys yn yr hên amser yn blaen, yn ddisyml ac yn ddi∣gost. Ac mae Rabanus yn manegi yn halaeth ddarfod cyrchu y trwsiad o wiscoedd gwych a ar∣ferid er yn hwyr amser yn yr eglwys oddiwrth ar∣fer yr Iddewon, a'i fod yn cytuno a thrwsiad Aa∣ron

Page 141

yn hollol haychen. Er maenteinio y rhai hyn mae 'r Pab Innocentius yn cyhoeddi yn * 1.208 eon, na ddiddymmwyd holl arferon yr hên gyfraith, fal yr elem ni yn ewyllysgarach yn y fath ymdrw∣siad, o Gristionogion yn Iddewaidd.

Hyn yr ydys yn ei ddangos nid yn erbyn eglwy∣sydd a Themlau, y rhai sydd anghenrheidiol iawn, ac a ddlyent gael eu parch a'u hanrydedd, fal y manegwyd mewn pregeth arall i'r defnydd hynny, nac yn erbyn eu glendid cyfaddas a'u trw∣siad hwy; ond yn erbyn rhy wychder Temlau ac eglwysydd. O blegid Teml ac eglwys Dduw yw hon hefyd, yr hon nid ydyw yn discleirio â maen mynor ac yn llewyrchu gan aur neu arian, nac yn tywynnu â meini gwerthfawr, ond a di∣symlder a chynhilwch, ac ni arwyddoca na balch athrawaeth, na balch bobl, ond gostyngedig cyn∣nil heb wneuthur cyfrif o bethau dayarol oddi∣allan, ond gwedy ei thrwsio 'n hardd â'i thrwsiad oddifewn, fal y manegodd y prophwyd gan ddy∣wedyd, Merch y brenin sydd yn hardd oddifewn. * 1.209

Yn awr ynghylch anllywodraethus drwsio del∣wau ac enlynnod yn hardd oddiallan, a pheintiad, goreurad, addurnad gwiscoedd gwerthfawr, a gemmeu, a maini gwych; pa beth yw hyn ond chwaneg o annogaeth a llithiad i oddineb yspry∣dol? trwsio puteiniaid, ysprydol yn werthfawr, ac yn wych? yr hyn y mae 'r eglwys ddelw-addola∣idd yn ei ddeall yn ddifai ddigon. O herwydd am ei bod hi mewn gwirionedd, nid yn vnic yn but∣tain, fal y gailw yr Scrythyrau hi, ond hefyd yn buttain front * 1.210 wrthun, hên, wywedig, o her∣wydd yn wir mae hi 'n hên mewn blynyddoedd, a chan ddeall ei heisiau naturiol a gwir degwch, a'i

Page 142

mawr anferthwch sydd ynddi o honi ei hunan, mae hi yn ol arfer y fath buteiniaid, yn ei phein∣tio, yn ei thrwsio ac yn ei gwisco ei hun, ag aur, meini gwerthfawr, a phob tlysau gwerthfawr; fal y gallo hi gan ddiscleirio gan harddwch a go∣goniant y rhai hynny fodloni ynfyd ffansiau cari∣adon ynfyd; a'u llithio hwy felly i odineb yspry∣dol gydâ hi: y rhai pe gwelent hi (ni ddywedaf yn * 1.211 hoeth) ond mewn dillad disyml, hwy a'i casha∣ent hi megis y buttain anferthaf a bryntaf ac a weled erioed: fal y gellir gweled wrth bortreiad puttain yr holl buttemniaid, mam putteindra, sydd wedy ei gosod allan gan S. Ioan yn ei we∣ledigaeth, * 1.212 yr hon trwy ei gwag-ogoniant a anno∣godd dywysogion y ddayar i wneuthur putein∣dra gydâ hi: lle yn y gwrthwyneb y mae gwir e∣glwys Dduw megis gwraig ddiwair, gwedy ei dyweddio ag vn gwr (fal y dangos yr Scrythur) yr hwn yw ein Iachawdwr Iesu Ghrist, i'r hwn yn vnic y mae hi yn fodlon i ryngu ei fodd a'i wa∣sanaethu, ac nid ydyw hi yn edrych am fodloni llygaid na ffansiau cariadon dieithr eraill: mae hi 'n fodlon i'w harddwch naturiol ei hun, heb am∣mau nad trwy y fath wir ddisymldra y bodlonai hi ef orau, am ei fod ef yn gwybod yn dda 'r gwa∣haniaeth rhwng wynebpryd gwedy ei beintio a gwir bryd a thegwch naturiol.

Ac ynghylch y fath wag-ogoneddus oreurad a thrwsiad delwau mae gair Duw a scrifennwyd yn y ddegfed bennod o brophwydoliaeth y Pro∣phwyd * 1.213 Ieremi, a Chomentau S. Ierom ar y man hynny, yn haeddu eu ystyriaid yn ddifrif.

Yn gyntaf gairiau 'r Scrythyrau yw y rhai hyn, Cymmynwyd pren o'r coed, gwaith llaw

Page 143

saer, a bwyall, ag arian ac ag aur yr harddwyd hwy, ac â morthwylion y siccrhawyd hwy rhag cwympo: megis palm wydden y byddant ac ni la∣farant: gan wyr y dygir hwynt, ni allant gerdded: nac ofnwch hwy, cans ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes yndynt. Fal hyn y dywaid y prophwyd.

Ar yr hwn dext mae gan S. Ierom y geiriau hyn, Dymma bortreiad eulynnod y cenhedloedd, y rhai y maent yn eu haddoli: mae eu defnydd hwy yn wael ac yn llygredig, a chan fod eu gwneuthurwr hwy yn farwol, mae 'n rhaid bod y pethau y mae ef yn ei wneuthur, yn ddarfode∣dig: mae 'n eu trwsio hwy ag arian, ac aur, fal trwy ddiscleirdeb y ddau fettel hynny, y gallont dwyllo 'r diddrwg. Yr hwn amryfysedd yn wir a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, am ini farnu bod crefydd yn sefyll mewn cyfoeth. Ac ar ol hyn∣ny yn y mann y mae fe 'n dywedyd, mae iddynt bryd metelau, ac hwy a harddwyd â chelfyddyd peintio, ond daioni nac ennill nid oes yndynt. Ac yn y man ar ol hynny ailwaith, maent hwy yn gwneuthur addewidion mawrion, ac yn dychy∣mygu delw ac ofer addoliad o'u phansiau eu hu∣nain, maent yn ymffrostio llawer i dwyllo pob dyn diddrwg, maent yn * 1.214 hurtio ac yn synnu deall yr annuscedig, megis trwy ymadroddion go∣reurog a doethineb yn discleirio trwy loywder a∣rian. A chan eu dychmygwyr a'u gwneuthurwyr y mawrhair, ac y clodforir y delwau ymma, yn y rhai nid oes na budd na lles, y rhai y mae eu haddoliad yn perthyn yn briodol at y cenhedlo∣edd, a'r rhai nid adwaenant Dduw.

Hyd hyn y mae geiriau S. Ierom, yn y rhai y

Page 144

gellwch weled ei farn ef, yn gystadl am ddelwau eu hunain, ac am eu peintio, eu goreuro a'u trwsio hwy; mai camsynnaid yw hynny a ddaeth oddi∣wrth y cenhedloedd, ei fod yn perswadio mai mewn cyfoeth y mae cresydd yn sefyll; ei fod yn hurtio ac yn twyllo y diddrwg a'r annyscedig ag ymmadroddion goreurog disclair a * 1.215 ffraethineb arian; a bod hyn yn perthyn yn neilltuol at y cen∣hedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw. Am hynny wrth farn S. Ierom, mae cadw, peintio, goreuro, a thrwsio delwau yn gyfeiliornus, yn llithio ac yn dwyn i gamsynnaid, yn enwedig y diddrwg a 'r annyscedig; yn genhedlaidd ac heb wybodaeth Duw.

Yn siccr mae'r Prophwyd Daniel yn 11. Ben∣nod o'i brophwydoliaeth yn dangos fod y fath werthfawr drwsiad ar ddelwau ag aur ac arian a meini gwerthfawr, yn arwydd o deyrnas An∣ghrist: yr hwn fal y dengys y prophwyd, a addola Dduw â'r fath bethau gwychion. Yn awr fe gy∣fododd ac a faenteiniwyd yn arferol y fath anfes∣surol hoywad, a thrwsiad a'r ddelwau, naill ai o offrymmau a annogodd ofergoel, ac a roddwyd mewn delw-addoliaeth, ai o yspail, lledrad, ac occr, neu dda a gynullasid trwy anghyfiawnder mewn moddion eraill, o'r rhai y rhoes dynnion drwg ran i'r delwau, neu i'r saint, fel y galwant hwy, er mwyn cael maddeuant am y cwbl: fal y dangosir yn hawdd wrth lawer o scrifennadau a hên goffadwriaethau, ynghylch achos adiwedd rhyw roddion mawrion.

Ac yn wir gweddussaf man i wario pethau a ennillwyd mor annuwiol, yw eu gwario ar ddefnydd mor annuwiol. Ac mae 'r hyn y maent

Page 145

hwy yn ei dybied ei fod yn dâl i Dduw am y cwbl, yn ffieiddiach yngolwg Duw nâ'u melldigedig ennill hwy, ac nâ melltigedig drauliad y rhan a∣rall. O herwydd mae 'r Arglwydd yn manegi mor * 1.216 fodlon gantho y fath roddion, ymhrophwydoli∣aeth Esaias, gan dywedyd, Canys myfi yr Ar∣glwydd a hoffaf gyfiawnder, gan gashau trais mewn poeth offrwm. Yr hyn beth yr oedd y cen∣hedloedd yn ei ddeall. O herwydd mae Plato 'n * 1.217 dangos fod y rhai a fwriadant y maddau Duw i ddynnion drwg, os rhônt iddo ef ran o'r yspail a'r trais, yn tybied ei fod ef yn debyg i gi, yr hwn a gymmer i lithio a'i hurio i gymmeryd rhan o'r yspail, er goddef i'r blaiddiau ladd y defaid.

A phe ennillid y da yn gysion, â'r hwn y trwsi∣ed y delwau, etto ynfydrwydd anferth yw gwa∣rio 'r da a ennillwyd trwy synwyr a gwirionedd, mor ynfyd, ac mor annuwiol. Am y fath ddrygio∣ni yr scrifenna Lactantius fal hyn, Ofer y trwsia dynnion ddelwau y duwiau ag aur ac ifori, ac â * 1.218 meini gwerthfawr, megis pe gallent gymmeryd hoffder yn y pethau hyn. O herwydd pa ddefnydd sydd gan y rhai nid ydynt nac yn teimlo nac yn de∣all, o'r rhoddion gwerthfawr hynny? yr vn def∣nydd ac y sydd gan ddynnion meirwon. O her∣wydd wrth yr vn fath reswm y maent yn claddu cyrph meirwon, gwedy eu llanw â llysiau ac aro∣glau, a chwedy eu dillatta â thrwsiad gwerth∣fawr, ac y maent yn trwsio delwau y rhai ni chlywsōt, ac ni wybuōt, pa bryd y gwneuthpwyd hwy, ac ni ddeallant pa bryd yr anrhydeddir hwy. O herwydd nid ydynt yn cael na synwyr na deall wrth eu cyssegrad. Hyd yn hyn Lactantius, a llawer gydâ hyn, rhy hir ei adrodd ymma, gan fa∣negi

Page 146

mai megis y mae plant bach yn chware â ba∣biod bychain, felly y mae 'r delwau gwychion ymma yn fabiod mawrion i hên ddynnion i chwa∣reu â hwynt.

Ac fal y gallom wybod pa beth a farne nid yn vnic gwyr o'n crefydd ni, ond gwyr dyscedig o'r cenhedloedd hefyd, am drwsio delwau meirwon; nid yw anfuddiol ini wrando pa beth y mae Se∣neca, gwr call dyscedig iawn o Rufain a Philoso∣phydd, yn ei ddywedyd am y ffolineb a arfere hên wyr oedrānus yn ei amser ef, wrth addoli a thrw∣sio delwau. Nid ydym, medd ef, yn blant ddwy∣waith, megis y mae 'r hên ddiarheb gyffredinol, ond yn blant yn wastadol: ond hyn yw 'r gwaha∣niaeth, pan fythom henaf ein bod yn chwareu 'r plant: ac yn y chwareuau hyn y maent yn dwyn o flaen eu babiod mawrion gwych (o herwydd felly y mae fe yn galw delwau) ennaint, arogl∣darth a pher-aroglau. I'r̄ babiod ymma y maent yn offrwm aberth, gan y rhai y mae geneuau ac ni wnant ddim â'u dannedd. Ar y rhai hyn y ma∣ent yn gosod dillad a thrwsiad gwerthfawr, a hwynt heb wneuthur dim â dillad. I'r rhai hyn y rhoddant aur ac arian er na wnant ddim a hwynt; ie ac mae eu diffig hwy a'r y rhai a'u derbyniant (delwau y mae fe 'n ei feddwl) yn gymmaint ac ar y rhai a'u rhoddant hwy. Ac mae Seneca yn can∣mol yn fawr Dionysius brenin Sicilia am yr ys∣pail ddigrif a wnaeth ef ar y fath fabiod gwychi∣on a'u tlyssau.

Ond chwi a ofynnwch beth yw hyn i'n delwau ni, yr hyn a scrifennwyd yn erbyn eulynnod y cen∣hedloedd? siccr yw ei fod yn perthyn yn gwbl iddynt. O herwydd pa raid neu pa fwyniant sydd

Page 147

i'n delwau ni o'u trwsiaid a'u gwychder gwerth∣fawr? a ddeallodd ein delwau ni pan wneuth∣pwyd hwy? a wybuont hwy pan drwsiwyd a phan harddwyd hwy? Onid ydys yn gwario y pethau hyn mor ofer arnynt hwyntau, ac a'r wŷr meirw yn y rhai nid oes ystyr.

Am hynny y canlyn fod cymmaint o ffolineb a drygioni wrth drwsio 'n delwau ni megis babiod mawrion i hen ffoliaid fal plant i chware annu∣wiol chwareuaeth delw-addoliad ger eu bron, ac oedd ymlhith y cenhedloedd a'r ethnicciaid. Mae 'n Eglwysydd ni yn llawn o'r fath fabiod wedy eu trwsio a'u harddu'n rhyfedd, gwedy dodi coronau a thyrch ar eu pennau, a meini gwerthfawr am eu * 1.219 gyddfau, a'u bysedd yn discleirio â modrwyau yn llawn o gerrig gwerthfawr, mae eu cyrph meirwon sythion hwy gwedy eu gwisco â dillad, gwedy eu sythu ag aur. Chwi a dybygech mai rhai o dywysogion Persia yn eu dillad bailchion, yw delwau ein saint ni o wŷr, ac mai rhyw butei∣niaid mursennaidd gwedy ymbincio i hudo eu ca∣riadon i aflendid, yw delwau ein santessau ni, trwy 'r hyn nid ydys yn anrhydeddu saint Duw, ond yn eu dianrhydeddu, ac yr ydys yn anharddu ac yn peri ammeu eu duwioldeb, eu sobredd, eu diweirdeb, eu diofalwch am gyfoeth ac oferedd y bŷd hwn, trwy 'r fath anferth drwsiad, yr hwn sydd mor bell oddiwrth eu sobredd a'u duwiol fy∣wyd hwy.

Ac er mwyn cwareu 'r holl chwareuaeth drw∣yddo, nid digon yw trwsio delwau yn y modd ym∣ma, ond yn y diwedd y daw 'r offeiriaid eu hu∣nain, gwedi eu trwsio mewn aur a meini gwerth∣fawr hefyd, fel y byddont wasanaethwyr cym∣mhesur

Page 148

i'r fath arglwyddi ac arglwyddesau, ac addolwyr gweddaidd i'r fath dduwiau a duwie∣sau; ac â cherddediad esmwyth hwy a ânt ger bron y babiod goreurog hynny, ac a gwympant ar eu gliniau ym-mlaen yr eulynnod anrhyde∣ddus hyn, a chan gyfodi eilwaith hwy a offrym∣mant aroglau a tharthau iddynt, er rhoddi siampl i'r bobl o ddauddyblyg ddelw-addoliaeth, gan addoli nid y ddelw yn vnig, ond yr aur a'r cyfoeth hefyd a'r hwny y maent gwedy eu trwsio. Yr hyn beth yn gynt nag y gwnele y rhan fwyaf o'r mer∣thyron gynt, ac yn gynt nag yr offymment hwy vn briwsonyn o arogldarth ym-mlaen vn ddelw, hwy a oddefent yr angau creulonaf a thostaf ac allai fod, fal y mae eu historiau hwy yn dangos yn halaeth.

Ac ymma ailwaith y tâl ei ystyried yr hyn y ma∣ent yn eu roi drostynt allan o Gregori y cyntaf a Damascen, mai llyfrau gwŷr llŷg yw delwau, ac * 1.220 mai Scrythyrau ffoliaid a gwŷr annyscedig ydyw lluniau. O herwydd fal y dangoswyd eisoes mewn llawer man mai llyfrau ydynt heb ddan∣gos dim ond celwyddau, megis y mae 'n eglur ddigon wrth yr Apostol Pawl yn y Bennod gyn∣taf at y Rufeiniaid am ddelwau Duw. Felly ysty∣riwch yn dda, adolwg, pa fath lyfrau ac Scry∣thyrau yw y delwau goreurog peintiedig ymma i'r gyffredin bobl. O herwydd gwedi darffo i'n pre∣gethwyr ni ddyscu ac annog y bobl i ganlyn rhin∣weddau 'r saint, megis diystyru y byd hwn, tlodi, sobredd, diweirdeb a'r fath rinweddau y rhai yn ddiammau oeddynt yn y saint: a dybygwch chwi, cygynted ac y trothont eu hwynebau oddiwrth y pregethwr ac yr edrychant ar y llyfrau cerfiedig

Page 149

a'r Scrythyrau peintiedig, eu gwych oreurog ddelwau ac eulynnod yn llewyrchu ac yn disclei∣rio â mettel a maini, a chwedy eu gwisco a gwis∣coedd gwerthfawr neu megis Cheraea yn Terens, os edrychant ar lechau yn y rhai yr ydys gwedy gosod trwy gelfyddyd y peintiwr ddelw mewn dillad mursennaidd drythyll, a'i phryd yn debyc∣cach i Venus neu i Fflora, nag i Fair Fagdalen, neu os ydyw yn debyg i Fair Fagdalen, tebyg y∣dyw iddi pan ydoedd hi yn chware 'r buttain, ac nid pan ydoedd yn wylo am ei phechodau: pan drothont, meddaf, oddiwrth y pregethwr at y lly∣frau, y dyscawdwyr a'r Scrythyrau peintiedig hyn, oni chant hwy hwynt yn llyfrau celwyddog, yn dyscu gwers i eraill am wneuthur cyfrif o gy∣foeth, balchedd, oferedd mewn trwsiad, drythy∣llwch, mursendod, ie ac ond odid puteindra, me∣gis y dyscwyd Cherea gan y fath luniau? Ac yn Lucan fe ddyscodd vn wers gan Venus Gnidia ry ffiaidd ei hadrodd ymma.

Onid ydyw y rhai hyn yn llyfrau ac scrythyrau tlysion, meddwch chwi, i ddynnion diddrwg, ond yn enwedig i wragedd a merched ieuaingc i e∣drych yndynt, i ddarllen arnynt ac i ddyscu gwersi ganthynt? Pa beth a dybygant hwy am y prege∣thwr a ddangosodd iddynt wersi gwrthwyneb am y saint, ac am hynny trwy yr athrawon cerfiedig ymma fe haerir arno gelwydd? neu pa beth a dy∣bygant am y faint eu hunain os credant hwy y lly∣frau cerfiedig, a'r scrythyrau peintiedig hyn am danynt hwy, y rhai a wnāt y saint a dernasant yn awr gydâ Duw yn y nef, er mawr ammarch i∣ddynt, yn ddyscawdwyr o'r fath oferedd ac oedd ffiaiddiaf ganthynt yn eu bywyd.

Page 150

O herwydd pa wersi am ddiystyru cyfoeth ac ofe∣redd y bŷd a all llyfrau wedi eu hamgylchu fel hyn ag aur a meini gwerthfawr, a'u gorchguddio â sidan, eu dyscu? Pa wersi o sobredd a diweirdeb a all ein gwragedd ni eu dyscu gan yr Scrythyrau paentiedig hyn, a'u dillad mursennaidd, a'u go∣lwg yscafn.

Onid ymmaith rhag cywilydd a'r fath gochlau delw-addoliaeth, a llyfrau ac Scrythyrau delwau a lluniau i ddyscu ffoliaid, nag ê i wneuthur Chri∣stianogion yn ffoliaid ynfyd ac yn anifeiliaid.

Ydyw dynion, a dolwg, a hwythau a'r vn fath lyfrau gartref ganthynt, yn rhedeg mewn perer∣indod i geisio 'r vn fath lyfrau yn Rhufain, Com∣postella neu Ierusalem i gael eu dyscu ganthynt, a hwythau a'r vn fath ganthynt i ddyscu gartref? A arfer dynion o berchi rhyw lyfrau ac o ddiystyru a dibrisio eraill o'r vn rhyw? A ydyw dynion yn arfer penlinio ger bron eu llyfrau, yn ennynnu canhwyllau ar hanner dydd, yn arogl-darthu, yn offrwm aur ac arian, a rhoddion eraill gar bron eu llyfrau? A ydyw dynion nac yn dychymmygu nac yn credu fod eu llyfrau hwy yn gwneuthur gwrthiau? Siccr yw fod Testament newydd ein Iachawdwr Christ yr hwn sydd yn cynnwys ynddo air y bywyd, yn fywiolach yn eglurach, ac yn gywirach delw o'n Iachawdwr nâ 'r holl ger∣fiedig, toddedig a lluniedig ddelwau yn y byd: ac etto nid ydys yn gwneuthur dim o'r fâth bethau hyn i lyfr neu Scrythur Efengyl ein Iachaw∣dwr, ac a wnair i ddelwau, lluniau, llyfrau ac Scrythyrau gwŷr llŷg a ffyliaid (fel y galwant hwy.) Am hynny, galwant hwy yn y modd y myn∣nont, eglur yw wrth eu gweithredoedd hwynt

Page 151

nad ydynt yn gwneuthur amgen lly frau nac scry∣thyrau o honynt, nâ 'r rhai a ddyscant ddelw∣addoliaeth brwnt atcas: fel y mae y rhai a arfe∣rant y fath lyfrau yn dangos beunydd wrth wneuthur y peth hynny.

Oh lyfrau ac scrythyrau yn y rhai yr scrifen∣nodd y dyscawdwr cythreulig Sathan wersi melldigedig o felldigedig ddelw-addoliaeth, i'w ddiscyblon a'i yscolheigion llwfr i edrych arnynt, i ddarllen ac i ddyscu ammherchi Duw, a'u her∣chyll ddamnedigaeth eu hunain. Oni buom ni rwymedig, dybygwch chwi, i'r rhai a ddylasent ddangos i ni'r gwrionedd allan o lyfr Duw, a'i sanctaidd Scrythur, am iddynt gau llyfr Duw a'i sanctaidd Scrythur oddiwrthym, fel na bai neb o honom mor * 1.221 eon a'i agoryd ef vnwaith neu ddarllen arno? ac am iddynt yn lle hynny agoryd i ni ar llêd y llyfrau cerfiedig, gwych goreurog, a'r scrythyrau paentiedig ymma, i ddyscu i ni y fath wersi daionus, duwiol? Oni wnaethont hwy yn dda yn ôl iddynt beidio a sefyll eu hunain yn y pulpudau i ddyscu 'r bobl a roddwyd iddynt i'w hathrawiaethu, gan dewi â son am air Duw, a myned yn gŵn mudion (fel y geilw y prophwyd hwy) osod i fynu i ni yn eu lle ar bob colofn a chor∣nel o'r eglwys, y fath athrawon daionus duwi∣ol, mor fudion ac annuwiolach nâ hwy eu huna∣in? Nid rhaid i ni gwyno eisiau vn person mud, a ninnau a chynnifer o Vicariaid diawlig mudi∣dion gennym (yr eulynnod a'r babiod paentiedig ymma yr ydwyf yn ei feddwl) i athrawiaethu yn eu lle hwy.

Yn awr yr hyd y mae 'r delwau mudion meir∣won ymma yn sefyll gwedi eu trwsio a'u dilladu

Page 152

fel hyn yn erbyn cyfraith Dduw a'i orchymmyn, a'r bobl Gristionogaidd dlodion, bywiol ddelwau Duw, y rhai a orchymmynnodd Christ mor ga∣riadus i ni, megis rhai anwyl iawn gantho, yn sefyll yn noethion, yn crynu gan anwyd, a'u dan∣nedd yn yscydwyd yn eu pennau, ac heb neb yn eu dilladu, yn dyddfu gan mewyn a syched, ac heb neb yn rhoddi iddynt genniog i'w helpu, lle mae pun∣noedd yn barod bob amser yn erbyn ewyllys Duw, i drwsio ac i harddu coed a cherrig meir∣won, y rhai ni chlywant nac anwyd, na newyn, na syched.

Gan Clemens y mae ymadrodd gwych ynghylch y peth hyn, gan ddywedyd fal hyn, Mae 'r sarph * 1.222 diafol trwy enau rhyw ddynion yn dywedyd y geiriau hyn, yr ydym ni er anrhydedd i'r anwele∣dig Dduw, yn addoli delwau gweledig: yr hyn yn siccr sydd gelwydd goleu: o herwydd pe gwir anrhydeddech ddelw Dduw, wrth wneuthur daioni i ddŷn yr anrhydeddech wir ddelw Dduw ynddo ef. O herwydd mae llun Duw ym-mhob dŷn, ond nid yw ei gyffelybiaeth ef ym-mhob dŷn, ond yn vnig yn y rhai sydd a chalonnau duwiol a meddyliau pur. Os mynnwch chwi gan hynny wir anrhydeddu delw Dduw, yr ydym ni yn my∣negi i chwi'r gwir, ar ichwi wneuthur daioni i ddŷn yr hwn a wnaethpwyd ar ôl delw Dduw, ar ichwi roddi parch ac anrhydedd iddo ef, cyn∣northwyo 'r tlawd â bwyd a'r sychedig â diod, y noeth â dillad, y claf â gwasanaeth, y diethr a'r di∣lettŷ â llettŷ, y carcharorion ag anghenrheidiau, a'r pethau hyn a gyfrifir megis gwedi eu gwîr roddi i Dduw. Ac mae 'r pethau hyn yn perthyn mor iniawn i anrhydedd Duw, megis pwy byn∣nag

Page 153

ni wnelo hyn, y mae efe yn gwrthwynebu de∣lw Dduw ac yn gwneuthur llwyr gam â hi. O blegid pa anrhydedd i Dduw yw hyn, rhedeg at ddelwau coed a cherrig, ac anrhydeddu gwâg a meirwon luniau Duw, a diystyru dŷn yn yr hwn y mae gwir ddelw Dduw?

Ac yn y man ar ôl hyn y dywaid, Deellwch am hynny mai hudoliaeth y sarph Sathan yw hyn, sydd yn llechu ynoch ac yn ceisio gennych gredu eich bod yn dduwiol pan fôch yn anrhydeddu del∣wau difywyd meirwon, ac nad ydych yn annuwi∣ol pan ddrygoch neu pan ni wneloch lês i greadu∣riaid rhesymmol, bywiol. Geiriau Clemens yw y rhai hyn oll.

Ystyriwch adolwg pa fodd y mae 'r hên athraw dyscedig hwn, o fewn can mlynedd ar ôl amser ein Iachawdwr Christ, yn dangos yn oleu na ddichon bod na gwasanaeth i Duw, na chrefydd gymme∣radwy gantho, wrth anrhydeddu delwau meir∣won, ond wrth gynorthwyo 'r tlodion, bywiol ddelwau Duw, yn ôl S. Iaco, yr hwn a ddywed, Hon yw 'r bur a'r wir grefydd gar bron Duw, ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw yn ddihalog oddiwrth y byd.

Wrth hynny nid ydyw gwir grefydd a bodlon∣rwydd Duw yn sefyll mewn gwneuthur, gosod i fynu, paentio, goreuro, trwsio a dilladu delwau mudion meirwon (y rhai nid ydynt ond babiod a theganau i hên ffyliaid mewn ynfydrwydd a de∣lw-addoliad i ymddigrifo ynddynt ac i chwareu â hwynt) nac wrth eu cusanu hwy gan ymbenno∣ethi, penlinio, offrwm ac arogl-darthu iddynt, mewn gosodiad canhwyllau, coesau, breichiau

Page 154

neu gyrph cyfain o gŵyr ger eu bron hwy; neu mewn gweddio arnynt, a cheisio ganthynt hwy neu gan y saint, y pethau a berthynant i Dduw yn vnig eu rhoddi. Ond mae 'r holl bethau hyn yn ofer, yn ffaidd ac yn ddamnedig ger bron Duw.

Ac am hynny mae pawb o'r fath ddynion yn gwario nid yn vnig eu harian a'u poen yn ofer, ond gyd â'u poen a'u côst, yn ennill iddynt eu hu∣nain ddigofaint Duw a'i ddygyn lid, a thragwy∣ddol ddamnedigaeth corph ac enaid. O blegid chwi a glywsoch brofi yn eglur yn yr Homiliau hyn yn erbyn delw-addoliaeth, trwy air Duw, a∣thrawon yr Eglwys, historian Eglwysig, rhe∣swm ac addysc amser, fod yn addoli gynt, a bod etto yn addoli delwau, ac felly bod yn gwneuthur de∣lw-addoliad gan rifedi aneirif er mawr ddigio mawrhydi Duw, ac enbeidrwydd aneirif o enei∣diau; ac na ellir mewn modd yn y byd wahanu delw-addoliaeth oddiwrth ddelwan a osoder mewn eglwysydd a Themlau, gwedy eu goreuro a'u trwsio 'n wŷch, ac am hynny mai eulynnod diammau ydyw ein delwau ni, ac felly bod y gwaharddiadau, y cyfreithiau, melldithion, by-gathiau o blaau ofnadwy, cystal amserol a thra∣gwyddol a gynnhwysir yn y sanctaidd Scrythur ynghylch eulynnod a 'u gwneuthurwyr, eu hymddiffynwyr a 'u haddolwyr, yn perthynu i'n delwau ninnau a osodir i fynu mewn Eg∣lwysydd a Themlau, ac i'w hymddiffynwyr, a'u gwneuthurwyr, a'u haddolwyr hwy: a bod yr holl enwau o ffiaidd-dra y rhai y mae gair Duw yn eu rhoi yn yr Scrythyrau sanctaidd i eulynnod y cenhedloedd, yn perthyn i'n delwau ni, gan eu bod yn eulynnod megis hwyntau, a chan fod yn

Page 155

gwneuthur yr vn fath ddelw-addoliad iddynt.

Ac y mae genau Duw ei hunan yn yr Scry∣thyrau sanctaidd, yn eu galw hwy yn ofereddau, yn gelwyddau, yn hudoliaethau, yn aflendid, yn frynti, yn dom, yn felldith, yn ffiaidd-beth ger bron yr Arglwydd.

Am hynny ni ellir ymgadw rhag erchyll ddig∣llonedd Duw, a pherigl ofnus i ninnau, heb ddi∣stryw a llwyr ddinystr y fath ddelwau ac eulyn∣nod allan o'r Eglwysydd a'r Temlau: a Duw a osodo ynghalonnau holl dywysogion Christiano∣gol wneuthur hynny.

Ac yn y cyfamser byddwn ni synhwyrol, ac ym∣wagelwn fy-ngharedigion yn yr Arglwydd, ac na fydded i ni dduwiau dieithr, ond vn Duw yn v∣nig, yr hwn a'n gwnaeth pan nad oeddym ni ddim, Tâd ein harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n prynodd gwedi'n colli, a'r hwn sydd yn ein sanc∣teiddio â'i Yspryd glân. O blegid hyn yw'r by∣wyd * 1.223 tragwyddol, ei adnabod ef yr vnig Dduw, a'r hwn a ddanfonodd ef Iesu Ghrist.

Nac addolwn ac nac anrhydeddwn, er mwyn crefydd, neb ond efe, ac addolwn ac anrhydeddwn ef yn y modd y mae efe ei hunan yn ewyllysio, ac yn y modd y dangosodd ef yn ei air y mynnai ef ei addoli a 'i anrhydeddu, nid mewn na thrwy ddelwau nac eulynnod y rhai a waherddir i ni yn galed iawn, nac wrth benlinio, ennynnu canhwy∣llau, arogl-darthu ac offrwm rhoddion i ddelw∣au ac eulynnod, gan gredu y rhyngwn ni ei fodd ef felly. O blegid mae 'r holl bethau hyn yn ffiaidd ger bron Duw.

Ond addolwn ac anrhydeddwn Dduw mewn yspryd a gwirionedd, gan ei ofni a'i garu ef vwch

Page 156

law pob peth, gan ymddiried ynddo ef yn vnig, gan ei foliannu a'i glodfori ef yn vnig, a phob peth * 1.224 arall ynddo ef, ac er ei fwyn ef. O blegid y cy∣fryw addolwyr a gâr ein Tâd nefol, yr hwn yw'r yspryd puraf, ac am hynny y mynn ef ei addoli mewn yspryd a gwirionedd. Y fath addolwyr oedd Moses, Abraham, Dafydd, Elias, Petr, Paul, Ioan a'r holl Batriarchau, prophwydi, A∣postolion, merthyron, a holl wir sainct Duw, y rhai oll megis gwir garedigion Duw, oeddynt elynion a dinistrwyr delwau ac eulynnod, megis gelynion i Dduw ac i wir grefydd.

Am hynny gwachelwch a byddwch gall, anwy∣lion yr Arglwydd, a'r pethau y mae eraill yn eu gwario yn erbyn gair Duw, ac yn annuwiol i'w damnedigaeth eu hunain, ar goed a cherrig (nid delwau ond gelynion Duw a'i saint) gweriwch chwi megis ffyddlon weision Duw, yn drugarog ar wŷr a gwragedd tlodion, plant ymddifaid, gwragedd gweddwon, dynion cleifion, dieithra∣id, carcharorion, ac eraill a fo mewn angen: fal y galloch yn-nydd mawr yr Arglwydd, glywed bendigedig a diddanus leferydd ein Iachawdwr Christ, dewch fendigedig i deyrnas fy-nhâd, a ba∣rottowyd i chwi er cyn dechreu 'r byd, o blegid yr oeddwn yn newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, yn sychedig a chwi a'm diodasoch, yn noeth a chwi a'm dilladasoch, yn ddieithr a chwi a'm llet∣tyassoch, yngharchar a chwi a ymwelsoch â mi, yn glâf a chwi a'm diddanasoch. O blegid pa beth bynnag a wnaethoch i'r tlawd a'r anghenus yn fy enw i er fy mwyn i, hynny a wnaethoch erof fi. I'r hon deyrnas nefol, Duw Tâd y drugaredd a'n dygo ni er mwyn Iesu Ghrist ein hunig Iachaw∣dwr,

Page 157

cyfryngwr a dadleuwr. I'r hwn gyd a'r Tad a'r Yspryd glan, vn anfarwol, anweledig a gogo∣neddus Dduw y byddo 'r holl anrhydedd a'r di∣olch a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth am gyweirio, cadw 'n lan ac addurno Eglwysydd yn weddaidd.

ARfer gyffredinol a arferir gan bawb yw pan fwriadont alw eu ceraint a 'u cymydogion i 'w tai i fwytta neu yfed gydâ hwy: neu gael vn ymgynnull gyhoedd i draethu ac i ymddiddan ynghylch vn peth; hwy a fynnant fod ei tai (y rhai a gadwant mewn cy∣wair gwastadol) yn lan ac yn deg: rhag eu cyfrif hwy yn fuscrell ac heb fawr gyfrif ganthynt am eu ceraint a'u cymydogidn. Pa faint mwy, gan hynny, y dylai dŷ Dduw, yr hwn yn gyffredinawl a alwn ni yr Eglwys, gael ei gyweirio yn gyflawn ym-mhob lle, a'i drwsio a'i harddu 'n barchus, a'i gadw 'n lan, ac yn beraidd i ddiddanwch pawb ac a ddelo iddo.

Mae 'n eglur yn yr Scrythyr lan, pa fodd y cwympodd tŷ Dduw, yr hwn a elwid ei Deml sanctaidd ef ac oedd fam-eglwys holl Iudea, wai∣thiau mewn anghy-wair, ac fel yr halogwyd ac yr anurddwyd ef yn fynych, trwy wall ac annuwi∣oldeb y rhai oedd edrychiaid arno. Ond pan fy∣ddai brenhinoedd a llywiawdwyr duwiol yn y fan a'r lle, fe a roddid yn y man orchymmyn i ad∣cyweirio Eglwys a thŷ Dduw, ac ar gynnull de∣fesion y bobl tuag at ei adcyweirio ef.

Yr ydym yn darllen yn ail llyfr y brenhinoedd

Page 158

pa fodd y rhoddodd brenin Ioas yr hwn oedd dy∣wysog duwiol, orchymmyn i'r offeiriaid i droi rhai o offrymmau 'r bobl tuag at gyweirio a gwe∣llau Teml Dduw.

Yr vn fath orchymmyn a roddodd y brenin tra duwiol Iosias ynghylch adcyweirio ac ail adai∣lad Teml Dduw, yr hon a gafas ef mewn diffyg, anghywair ac adfail mawr. Fe a ryngodd bodd i'r holl-alluog Dduw fod scrifennu yn helaeth yr historiau hyn ynghylch ail-adailadu ac adcywei∣rio ei Deml sanctaidd ef er dangos i ni, Yn gyn∣taf fod Duw yn fodlon i fod gan ei bobl ef le gwe∣ddaidd i ddyfod iddo ac i ymgynnull ynghyd i fo∣liannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef.

Ac yn ail ei fod ef yn fodlon dros benn i'r holl rai ac a ant yn ddiwall ac yn ddiesceulus ynghylch cyweirio a gwellau cyfryw leoedd ac appwynti∣wyd i gynulleidfa pobl Duw ddyfod iddynt, yn y rhai y rhoddant ddiolch i Dduw am ei ddoniau yn ostyngedig ac yn gyttun, ac y moliannant ei sanctaidd enw ef ag vn galon ac ag vn lleferydd.

Yn drydedd yr ydoedd Duw yn anfodlon iawn i'w bobl, am eu bod yn adailadu, yn trwsio ac yn harddu eu tai eu hunain, ac yn goddef tŷ Dduw mewn adfail ac anghywair i fod yn anweddaidd ac yn am-mheraidd.

Am hynny y cyffrowyd ef yn ddirfawr yn eu herbyn hwy, ac y plagodd ef hwy, fal y gwelir yn y Prophwyd Aggeus: Fal hyn y dywaid yr Ar∣glwydd, Ai amser yw hi i chwi eich hunain i dri∣go mewn tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghy∣fannedd? hauasoch lawer a chasclasoch ychydig, bwyttasoch ac ni 'ch digonwyd, yfasoch ac ni 'ch disychedwyd, gwiscasoch ddillad ac ni chadwasont

Page 159

chwi yn glŷd, a'r hwn a ymgyflogo a gascl ei gy∣flog i gôd ddiwaelod.

Wrth y plagau hyn a osododd Duw ar ei bobl am escaeluso ei Deml, mae 'n eglur, y mynne Dduw fod ei Deml, ei Eglwys, y lle yr hwn yr arfer ei gynulleidfa ef ddyfod iddo, i'w fawrhau ef, gwedy ei adailadu a'i hatcyweirio a'i maen∣taeinio 'n dda. Fe ddywaid rhai heb ofalu nac am dduwioldeb nac am y lle o ymarfer duwiol: fe a orchymmynnodd Duw ei hunan adail a chy∣weirio 'r deml yn yr hên gyfraith, am fod llawer o addewidion mawrion gwedy eu cyssylltu â hi: ac am e'u bod hi yn arwydd, yn Sacrament, ac yn arwyddocâd o Grist ei hun, a'r Eglwys hefyd.

I hyn y gellir atteb yn ddigon hawdd, yn gyn∣taf nad oes dyffyg addewidion ar ein Eglwysydd ninnau gan fod ein Iachawdwr Crist yn dywe∣dyd lle bytho dau neu dri gwedy ymgynull yng∣hŷd yn fy enw fi, myfi a fyddaf yn eu mysc hwy. Am hynny pan fytho lliaws mawr gwedy ym∣gynull ynghŷd i'r Eglwys, mae Duw a Christ Iesu yn bresennol ynghynnulleidfa ei bobl ffydd∣lon trwy ei nerth ai dduwiol gynhorthwy yn ol ei ddiogel a'i ddiddanus addewidion. Pa ham gan hynny na ddylei bobl Gristianogaidd wneuthur Temlau ac Eglwysydd, a hwynt a chymaint o addewidion iddynt o bresennoldeb Duw, ac oedd gan Salomon am y deml ddefnyddiol a wnaeth ef? Am y rhan arall, sef bod Teml Salomon yn arwydd o Ghrist, ni a wyddom yn awr yngoleuni discleir Efengyl Iesu Ghrist Mâb Duw, fod pob cyscodau, arwyddion ac arwyddocâd gwedy mynd yn hollawl ymmaith: fod yr holl ofer am-mrho∣ffidiol ceremoniau Iddewaidd a Phaganiaidd

Page 160

gwedy eu diddymmu yn gwbl: ac am hynny ni wnaethpwyd ein Eglwysydd ni i fod yn arwyddi∣on ac yn arwyddocâd o'r Messias a Christ i ddy∣fod, ond er defnyddiau duwiol anghenrheidiol eraill: hynny yw, megis y mae gan bob gŵr ei dŷ ei hun i aros ynddo i gymmeryd ei esmwythdra ac ei orphywys ynddo, a 'r cyfryw gyfreidiau e∣raill: felly y myn Duw holl-alluog fod iddo yntef dŷ a lle i'r hwn yr ymgynull yr holl blwyf a'r gy∣nulleidfa, yr hwn a elwir yr Eglwys a Theml Dduw, am fod yr Eglwys, yr hon yw cynnulleid∣fa pobl Dduw, yn ymgynull ac yn dyfod ynghŷd yno, i'w wasanaethu ef. Nid am ein bod yn me∣ddwl wrth hyn fod yr Arglwydd, yr hwn ni all nef y nefoedd ei gynnwys a'i amgyffred, yn trigo yn yr Eglwys faen a chalch o waith dwylo dŷn, megis pe byddid yn ei gynnwys ef yn hollawl yn∣ddi, ac na byddai mewn vn man arall: o herwydd ni thrigodd ef erioed felly yn-nheml Salomon.

Hefyd fe a gyfrifir ac a elwir yr Eglwys a'r deml hon yn sanctaidd, nid o honi ei hun, ond am fod pobl Dduw (y rhai sy 'n ymarfer o ddyfod yno) yn sanctaidd ac yn ymarfer yno mewn pethau sanctaidd nefol.

Ac er mwyn bod i chwi ddeall ym-mhellach pa ham y gwnaethpwyd Eglwysydd ym-mhlith Gristianogion, hyn oedd yr ystyr mwyaf, er mwyn bod i Dduw ei le a'i amser i'w anrhydeddu a'i wasanaethu gan holl gynulleidfa 'r plwyf yn gy∣fan. Yn gyntaf, i wrando ac i ddyscu yno fendi∣gedig air y tragwyddol Dduw. Yn ail, er mwyn bod i holl gynnulleidfa pobl Dduw yn y plwyf alw ar enw Duw ag vn lleferydd, ac ag vn galon fawrhau a chlodfori ei enw ef, rhoddi difrif ddi∣olch

Page 161

i'r Tâd nefol o vn galon am ei anfeidrol ddo∣niau y mae ef yn eu rhoddi im beunydd ac yn aml, heb ollwng yn angof roddi yn elusenau i dylodi∣on, fel y bo i Dduw ein bendithio ninnau yn gy∣foethoccach.

Fal hyn y gellwch ddeall ac ystyried paham y gwnaethpwyd Eglwysydd gyntaf ym-mhluh Christianogion, ac y cyssegrwyd ac y gossodwyd hwy i'r defnyddion duwiol hyn, a phaham y di∣eithrwyd hwy yn hollawl oddiwrth bob defny∣ddion bryntion, halog, bydol. Am hynny pwy bynnag sydd ganthynt feddwl a bwriad bychan ar gyweirio ac adailadu teml Dduw, fe a ddylid eu cyfrif hwy yn bobl annuwiol iawn, yn wrth∣wyneb i bob trefn dda yn Eglwys Ghrist, ac yn diystyru gwir anrhydedd Duw, a thrwy siampl ddrwg yn rhwystro eu cymydogion, y rhai oni bai hwynt hwy, a fyddent yn dduwiol ac yn dda eu bwriad.

Mae 'r byd yn tybied nad ydyw ond peth by∣chan weled eu heglwysydd yn adfailio ac yn my∣ned i lawr: ond pwy bynnag ni ddodant eu dwy∣law i'w cynnal a'i cadw hwy i fynu, maent yn pechu yn erbyn Duw a'i gynnulleidfa sancta∣idd. O herwydd oni bai fod yn bechod escaeluso a dibriso adcyweirio ac ail-adailadu y Deml, ni buasai Dduw yn digio yn gymmaint, ac yn plau ei bobl cyn gynted am eu bod hwy yn adailadu ac yn trwsio eu tai eu hunain yn wychion, ac yn di∣brisio tŷ eu Harglwydd Dduw.

Mae 'n bechod ac yn gywilydd weled cynnifer o Eglwysydd gwedy gogwyddo ac adfeilio mor gywilyddus ym-mhob cornel. Os bydd tŷ gŵr ei hun lle mae ef yn trigo, yn gwaethygu, ni or∣phwys

Page 162

ef nes iddo ei adcyweirio ef ailwaith: ie os bydd ei yscubor ef, lle y ceidw ef ei ŷd, mewn anghywair, mor ddiesculus fydd ef nes darffo iddo ei chwbl gyweirio hi ailwaith, Os bydd ei stabl ef i gadw ei geffyle, neu ei dwlc ef i gadw ei foch, heb fod yn ddiddos yn erbyn glaw a gwynt, mor ofalus a fydd ef i osod arno gôst. Ac a fyddwn ni mor ofalus am ein tai cyffredinol gwael, y rhai a ddefnyddir i'r fath reidiau gwael, ac a fyddwn ni anghofus am dŷ Dduw yn yr hwn y traethir geiriau ein tragwyddol iechydwriaeth ni: ac yn yr hwn y ministrir y sacramentau, dirgelion ein prynedigaeth ni: yno y mae ger ein bron ffynnon ein ailanedigaeth; yno yr ydys yn cynnyg i ni gyfraniad corph a gwaed ein Iachawdwr Christ. Ac oni wnawn nigyfrif o'r lle yn yr hwn yr ydys yn trin y fath bethau nefol?

Am hynny os bydd genych barch i wasanaeth Duw, os bydd syberwyd ac honestrwydd, os bydd cydwybod i gadw ordeiniaeth anghenrheidiol duwiol, cedwch eich Eglwysydd mewn cywcir dda, trwy 'r hyn ni fodlonwch chwi Dduw yn vnig ac ni dderbyniwch yn vnic ei aml fendithion ef. Ond chwi a haeddwch hefyd air da pawb o'r bobl dduwiol.

Yr ail peth sydd yn perthyn at faenteinio tŷ Dduw yw ei harddu ef a'i gadw yn weddaidd ac yn lan.

Yr hyn bethau a ellir eu cyflawni yn haws pan fo 'r Eglwys gwedy ei chyweirio yn dda. O her∣wydd megys y bydd dynion yn hyfryd ac yn ddi∣ddan pan welont eu tai a phob peth mewn trefn ynddynt, a phob cornel yn lan ac yn beraidd; felly pan fytho tŷ Dduw gwedy ei drwsio 'n deg a lleo∣edd

Page 163

gweddaidd i eistedd yndo, a phalpud i'r pre∣gethwr, a bwrdd yr Arglwydd i finistro ei sancta∣idd swpper ef, a'r bedydd-faen i fedyddio ynddo, a'r cwbl yn lân yn weddaidd ac yn beraidd, fe fydd y bobl yn chwannoccach i aros yno, dros yr holl amser a osodwyd iddynt.

A pha zêl ac â pha ddifrifwch y mae Christ yn taflu y prynwyr a'r gwerthwyr allan o Deml Dduw yn ymchwelyd i lawer fyrddau y newid∣wyr arian, a chadeirieu y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawodd ef i neb ddwyn llestr trwy y Deml? Fe ddywad wrthynt iddynt wneu∣thur ty ei Dâd ef yn ogof lladron, mewn rhan trwy ofergoel, rhagrith, gauaddoliad, gauathra∣wiaeth a thrachwant amfesurol, ac mewn rhan trwy ddiystyrwch, gan gamarfer y lle hwnnw trwy rodio a chwedleua, a thrwy bethau dayar∣ol, heb nac ofn Duw, na pharch dyledus i'r lle.

Pa ogofudd lladron a wnaethpwyd o Eglwy∣sydd yr holl deyrnas gynt, trwy ddirmygus bry∣nu a gwerthu, corph a gwaed Christ yn yr offeren (fal y gwnaethpwyd i'r bŷd yr amser hynny gre∣du) mewn dirigae, pen-misoedd, trentelau, mewn manachlogydd a phriordai: heblaw camarferon echrydus eraill (bendigedig fo enw Duw yn dra∣gowydd) yr ydym ni yn awr yn eu gweled ac yn eu deall. O'r holl ffiaidd bethau hyn y glanhaodd y rhai sydd yn lle Christ Eglwysydd y deyrnas hon, gan dynnu ymmaith bob gwarth a brynti y rhai trwy ddefosiwn dall ac am wybod a ymlyscasont i'r Eglwysydd er ys llawer can mlynedd.

Am hynny, oh chwichwi bobl ddaionus Gristi∣anogawl, fanwyl Ynghrist Iesu: chwichwi y rhai nid ydych yn ymogogoneddu mewn crefydd

Page 164

fydol, ofer, ac mewn gwag harddwch a gwychder, ond ydych yn gorfoleddu yn eich calon weled go∣goniant duw yn ei osod allan yn gywir ar Eglwy∣sydd gwedy eu hadferu i'w hen a'u duwiol arfer, rhowch âch calonnau ddiolch i ddaioni 'r Holl∣alluog dduw yr hwn yn ein dyddiau ni a osododd ynghalonnau ei bregethwyr a'i weinidogion duwiol, a hefyd ynghalonnau ei ffyddlon lywi∣awdwyr a'i lywodraethwyr ddwyn y pethau hyn i ben.

Ac yn gymmaint a bod eich eglwysydd chwi wedi eu glanhau a'u hyscibo oddiwrth y brynti pechadurus, ofergoelus, a'r hwn yr halogasid ac yr anffurfiasid hwy: gwnewch chwithau eich rhan bobl dda ar gadw eich eglwysydd, yn we∣ddaidd ac yn lan, na oddefwch eu halogi hwy a glaw a thywydd, a thomm colomennod, dyllua∣nod y drydwy, brain a brynti eraill, yr hyn sydd frwnt a gresyn ei weled mewn llawer lle o'r wlad hon.

Tŷ gweddi yw hi, nid tŷ i ymchwedleua i ro∣dio i ymdaeru, i gerddoriaeth, gweilch a hebogau neu gwn. Nac annogwch anfodlonrwydd a phlau Duw, gan ddiystyru acham-arfer ei sainc∣taidd dŷ ef, fal y gwnaeth yr Iddewon annuwi∣ol: ond bydded Duw yn eich calonnau, byddwch vfydd i'w ewyllys sanctaidd ef: ym-rwymwch wŷr a gwragedd yn ôl eich gallu, tu ag at gywei∣rio a chadw yn lân yr Eglwys, fel y galloch fod yn gyfranogion o amryw fendithiau Duw, a dy∣fod yn ewyllysgarach i'ch Eglwys blwyf, i ddyscu yno eich dylyed tuag at Dduw, a'ch cymydog, i fod yno yn bresenol, ac yn gyfrannogion o sanc∣taidd Sacramentau Christ i roddi yno ddiolch

Page 165

i'n Tâd nefol am ei aml ddoniau. Y rhai y mae ef beunydd yn eu tywalt arnoch, yno i weddio ynghyd, ac i alw ar sanctaidd enw Duw yr hwn a fendiger byth ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am weithredoedd da ac yn gyntaf am ymprydio.

RHodd rad Duw (bobl dda Gristi∣onogaidd) yw ein bywyd ni yn y byd hwn, nac arferwn ef wrth ein hewyllys yn ol ein chwantae cnawdol ein hunain, ond ymddy∣gwn trwyddo yn y gweithredoedd a weddae ini y rhai a wnaethpwyd yn greaduri∣aid newydd ynghrist Iesu. Y gweithredoedd hyn y mae 'r Apostol yn e'u galw yn weithredoedd da, gan ddywedyd, canys ei waith ef ydym, wedy 'n creu ynghrist Iesu i weithredoedd da y rhai a ddarparodd Duw ini rodio ynddynt. Ac etto nid yw ei feddwl ef wrth y geiriau hyn ar ein dwyn ni i ymddiried ac i obeithio yn ein gweithredo∣edd, megis trwy eu haeddiant au teilyngdod hwy i ennill ini ein hunain ac eraill faddeuant pecho∣dau; ac felly yn y diwedd fywyd tragwyddol. O herwydd fe fyddai hynny yn ddirmig yn erbyn trûgaredd Duw, ac anfri mawr i dywaltiad gwaed ein Iachawdwr Christ. O herwydd rhodd râd a thrûgaredd Dûw trwy gyfryngad gwaed ei fab Iesu Ghrist; heb haeddiant o'n hystlus ni, yw maddau ein pechodau a'n cymmodi ni a heddy∣chu rhyngom ni ag ef, a'n gwneuthur yn etife∣ddion teyrnas nefoedd.

Grâs medd S. Awstin a berthyn i Dduw sydd

Page 166

yn ein galw ni; ac yno pwy bynnag a gafodd râs, mae gantho weithredoedd da: wrth hynny nid * 1.225 gweithredoeddd da sydd yn dwyn gras, ond trwy râs y dygir gweithredoedd da. Mae r' rhôd medd ef, yn troi yn grwn, nyd er mwyn cael ei gwneu∣thur yn gron, ond am ei gwneuthur hi yn gron yn gyntaf, am hynny y mae hi yn troi yn grwn. felly nid yw neb yn gwneuthur gweithredoedd da er mwyn cael derbyn grâs trwy ei weithredoedd da; ond am iddo yn gyntaf dderbyn grâs, am hynny yno mae efe yn gwneuthur gwythredo∣edd da.

Ac mewn man arall y dyweid, Nid ydyw gwei∣thredoedd da yn myned o'r blaen yn yr hwn a gysiawnheir, ond mae gweithredoedd da yn dyfod ar ôl gwedi darfod cyfyawnhau dŷn yn gyntaf.

Mae S. Paul am hynny yn dangos fod yn * 1.226 rhaid i ni wneuthur gweithredoedd da am lawer o achosion, yn gyntaf i ddangos ein bod ni yn blant vfydd i'n tâd nefol, yr hwn a'u hordeiniodd hwy i ni i rodio ynddynt.

Yn ail am eu bod hwy yn arwyddion ac yn dystiolaethau o'n cyfiawnhad ni.

Yn drydydd er mwyn cyffroi a chynhyrfu eraill wrth weled ein gweithredoedd da ni, i ogoneddu ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Am hynny na fyddwn anescud i wneuthur gwythredoedd da, am fod ewyllys Duw i ni ro∣dio ynddynt, gan ein siccrhau ein hunain y der∣byn pob dŷn gan Dduw yn y dydd diwethaf, am y boen a gymmerth ef yn y wir ffydd, obrwy a fytho mwy nag a haeddodd ei weithredoedd ef.

Ac o herwydd bod yn rhaid son am vn weithred dda yn vnig, yr hon y mae ei chlôd yn y gyfraith

Page 167

ac yn yr Efengyl, fe a ddywedpwyd hyn yn y de∣chreuad yn gyffredinol am bob gweithredoedd da.

Yn gyntaf i droi heibio oddiar ffordd y diddrwg a'r annyscedig, y maen tramgwydd enbaid hwn, ar fod i neb geisio ennill neu brynu nef â'i weithredoedd ei hûnan.

Yn ail, i dynuu ymmaith (nesaf y geller) oddi∣wrth feddyliau cenfigennus a thafodau enllibus, bob achos cyfiawn o enllib, megis petteid yn bwrw heibio weithredoedd da.

Y weithred dda a sonir am dani yn awr, yw ympryd, o'r hon y mae sôn am ddau ryw yn yr Scrythur.

Y naill oddiallan yn perthynu i'r corph, a'r llall oddifewn yn perthinu i'r galon a'r meddwl.

Yr ympryd hwn oddiallan yw ymattal oddi∣wrth fwyd a diod a phob ymborth naturiol, ie ac oddiwrth bob digrifwch a melyswedd bydol.

Pan fytho 'r ympryd ymma yn perthyn i vn dŷn o'r neilltu, neu i rai, ac nid i holl liaws y bobl, o blegid achosion a fanegir ar ol hyn, yno y gelwir yn ympryd nailltuol: ond pan fytho 'r holl liaws, gwŷr, gwragedd a phlant mewn tref neu ddinas, ie mewn gwlâd gyfan, yn ymprydio, yno y ge∣lwir yn ympryd cyffredinol.

O 'r fâth hynny yr oedd yr ympryd a orchym∣mynnwyd i holl liaws plant yr Israel ei gadw ar y degfed dydd o'r seithfed mîs, o blegid i'r Arg∣lwydd Dduw appwyntio fod y dydd hwnnw yn ddydd glanhâd, yn ddydd cymmod, yn amser he∣ddychfa, yn ddydd yn yr hwn y glanhawyd y bobl oddiwrth eu pechodau. Y drefn a'r modd y gwna∣ed hynny sydd scrifennedig yn 16. a'r 23. O Leuiti∣cus. * 1.227 Y dydd hwnnw yr ydoedd y bobl yn ymgystu∣ddio,

Page 168

yn galaru ac yn ochain am eu pechodau ae∣thent heibio. A phwy bynnag ni chystuddiodd ei enaid y dydd hwnnw, gan alaru am ei bechodau, ganymattal (fel y dywedpwyd) oddiwrth bob ym∣borth corphorol hyd yr hwyr, yr enaid hwnnw (medd yr Holl-alluog Dduw) a ddinistrir o fysc y bobl.

Nid ydym ni yn darllein ddarfod i Moses trwy drefn cyfraith ordeiniaw vn dydd ympryd cyffredi∣nol trwy 'r holl flwyddyn, ond yr vn diwrnod hwnnw. Yr ydoedd er hynny gan yr Iddewon ychwaneg o ddiwrnodiau ympryd cyffredinol, y rhai y mae 'r prophwyd Zacharias yn eu cyfrif, yn * 1.228 ympryd y pedwaredd mîs, ympryd y pummed mis, ympryd y saithfed ac ympryd y degfed mîs.

Ond am nad yw yn ymddangos yn y gyfraith pa bryd yr ordeiniwyd hwy, fe a ddylid tybied ddar∣fod appwyntio 'r diwrnodiau ympryd eraill, heb law ympryd y seithfed mîs, ym mysc yr Iddewon, gan y llywodraethwyr, yn hytrach o ddefosiwn, na thrwy vn gorgymmyn cyhoedd oddiwrth Dduw.

Wrth ordinhâd yr ympryd cyffredinol hwn, y cymmerodd gwyr da achos i appwyntio iddynt eu hunain ymprydiau neilltual, ar yr amseroedd y byddēt naill ai yn galaru ac yn ochain dros eu by∣wyd pechadurus, ai ar yr amser yr ymroddent i weddio yn ddifrif ar fod yn wiw gan Dduw droi ei ddigofaint oddiwrthynt, naill ai pan rybyddid hwy, ac y dygid hwy i ystyried eu drwg fywyd trwy bregethiad y prophwydi, neu pan welent mewn rhyw fodd arall berigl presennol vwch eu pennau.

Y trymder calon ymma yn gyssylltedig ag ym∣pryd a ddangosent hwy weithiau trwy ymddygi∣ad

Page 169

ac oddiallan ac ymarweddiad corphorol, gan wisco sach-liain, a bwrw lludw a llwch ar eu pen∣nau, ac eistedd neu orwedd ar y ddayar. O blegid pan glywo gwŷr da ynddynt eu hunain, faich trwm eu pechodau, a gweled mai damnedigaeth yw eu gwobr hwy, a phan welont â llygaid eu calonnau erchill boenau vffern, maent yn crynu ac yn * 1.229 yscrydu, ac yr ydys oddifewn yn eu cyffroi hwy â thrymder calon am eu beiau, ac ni allant lai nâ'u cyhuddo eu hunain, a dangos eu gofyd i'r Holl-alluog Dduw, a galw arno ef am dru∣garedd. Ac os gwneir hyn yn ddifrif, mae eu meddyliau mor llawn, mewn rhan, o dristwch a thrymder, ac mewn rhan, a chwant difrif ar gael eu gwared oddiwrth berigl vffern a damnediga∣eth, fal y rhoddont heibio bob chwant bwyd a diod, ac y daw yn eu lle hwy ddiystyrwch pob peth bydol a phob digrifwch, fal nad oes dim yn eu bodloni hwy yn fwy nag wylo ac ochain a galaru, ac i ddangos wrth eu geiriau a'u hym∣ddygiad corphorol, eu bod hwy yn ddiffygiol o'r bywyd hwn.

Fal hyn yr ymprydiodd Dafydd pan oedd ef yn eiriol ar yr holl-alluog Dduw am fywyd y plē∣tyn, a ennillasid mewn godineb o wraig Vrias. Fal hyn yr ymprydiodd Achab pan edifarhaodd ef am ladd Naboth, gan dristau am ei weithre∣doedd pechadurus. O'r fath hyn yr oedd ympryd y Ninifeaid a ddygwyd i edifeirwch drwy bre∣getheaid Ionas.

Pan laddwyd deugain mîl o'r Israelaid yn y rhyfel yn erbyn gwyr Beniamin, mae 'r Scry∣thyr yn dywedyd, fe aeth holl blant yr Israel a holl rifedi 'r bobl i Bethel ac a eisteddasant i lawr

Page 170

i wylo ger bron yr Arglwydd, ac hwy a ympry∣diasant trwy 'r dydd hyd y nos. Felly yr ympry∣diodd Daniel, Hester, Nehemias, a llawer eraill yn yr hên Destament.

Ond os dywaid neb, gwir yw, hwy a ympry∣diasant felly yn siccr, ond nid ydym ni yn awr tan iau 'r gyfraith, yr ydym ni yn rhyddion trwy rydd∣did yr Efengyl: am hynny nid ydyw 'r defodau a'r arferon hynny o'r hên gyfraith yn ein rhymo ni, oni ellir dangos trwy Scrythyrau y Testament newydd, neu trwy siamplau allan o hono, fod ym∣pryd yn awr dan yr Efengyl yn ymattaliaeth o∣ddiwrth fwyd a diod a phob ymborth corphorol, a hoffderau 'r corph.

Yn gyntaf mae yn wirionedd mor amlwg y dylyem ni ymprydio, nad rhaid ymma ei brofi, mae 'r Scrythyrau yn eglur sydd yn dangos hyn∣ny. Y questiwn gan hynny yw, pan fythom ni yn ymprydio, pa vn a ddylem ni ai cadw ein cyrph oddiwrth fwyd a diod dros yr amser y bôm yn ym∣prydio, ai na ddylem?

Fe a ellir gweled yn hawdd y dylem ni wneu∣thur felly, wrth y questiwn a ofynnodd y Phari∣saeaid i Grist, ac wrth ei atteb yntef. Pa ham (me∣ddant hwy) y mae discyblon Ioan yn ymprydio * 1.230 yn fynych ac yn gweddio, a discyblon y Phari∣saeaid, a'th ddiscyblon di yn bwyta ac yn yfed, ac heb ymprydio dim? Yn y questiwn esmwyth hwn y maent yn cynnwys yn ddichellgar y ddadl neu'r rheswm hwn: Pwy bynnag nid ymprydio nid yw 'r dŷn hwnnw o Dduw. O blegid gwei∣thredoedd yw ympryd a gweddi a ganmolwyd ac a orchymmynnwyd gan Dduw yn ei Scrythyr∣au, ac fe a ymarferodd pob gŵr da o Moses hyd

Page 171

yr amseroedd hyn, yn gystal prophwydi ac eraill, yn y gweithredoedd hyn. Y mae Ioan hefyd a'i ddiscyblon yn y ddyddiau hyn yn ymprydio yn fynych ac yn gweddio llawer, ac felly yr ydym ninnau y Pharisaeaid yn gwneuthur hefyd. Ond nid ydyw dy ddiscyblon di yn ymprydio ddim, yr hyn os ti a'i gwada, ni a'i profwn yn ddigon hawdd. O blegid pwy bynnag sydd yn bwytta ac yn yfed nid ydyw yn ymprydio. Ond mae dy ddis∣cyblon di yn bwytta ac yn yfed, am hynny nid y∣dynt yn ymprydio. O hyn meddant yr ydym yn casclu nad oes na thydi na'th ddiscyblon o Dduw.

Mae Christ yn atteb gan ddywedyd, A ellwch chwi beri i blant y priodas-fâb ymprydio tra fyddo y priodas-fâb gyd â hwy? fe ddaw 'r ddyddiau pan dynner y priodas-fâb oddiwrthynt yn y dyddiau hynny yr ymprydiant.

Mae 'n Iachawdwr Christ megis meistr da yn ymddiffyn diniweidrwydd ei ddiscyblon yn erbyn malis y Pharisaeaid beilchion, ac yn profi nad y∣dyw ei ddiscyblon ef yn euog o dorri vn gronyn o gyfraith Dduw, er nad oeddynt y prŷd hynny yn ymprydio; ac mae ef yn ei atteb yn argyoeddi 'r Pharisaeaid o ofergoel ac anwybod. O ofergoel am eu bod yn gosod crefydd yn eu gweithredoedd, ac yn rhwymo sancteiddrwydd wrth weithrediad y gwaith oddiallan, heb ystyried i ba ddefnydd yr ordeiniwyd ympryd. O anwybodaeth am na fe∣drent farnu rhwng amser ac amser. Ni wyddent hwy fod amser i lawenydd ac i ddiddanwch, ac amser i gwynfan ac i alaru. Y ddau beth hyn y mae efe yn eu dangos yn ei atteb, fal y dangosir yn helaeth ar ôl hyn, pan ddangosom pa amser sydd gymmhesuraf i ymprydio ynddo.

Page 172

Ac ymma fyngharedigion, ystyriwn nad ydyw ein Iachawdwr Christ wrth wneuthur ei atteb i'w Questiwn hwy, yn gwadu, ond yn cyfaddef bod ei ddiscyblon ef heb ymprydio, ac am hynny yn hyn y mae efe yn cyttuno a'r Phariseaid, am ei fod yn wirionedd eglur, nad ydyw 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn ymprydio. Ympryd am hyn∣ny wrth addefiad ein Iachawdwr Christ, yw cadw bwyd a diod, a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph, dros yr amser y bydder yn ymprydio.

Ac mae 'n eglur iawn wrth Gyngor Calcedon, vn o'r pedwar Cyngor cyffredinol cyntaf, fod yn y brif-eglwys gynt yn arfer o ymprydio: y tadau a ymgynnullasent yno hyd yn rhifedi chwe-chant a dêg ar vgain, gan ystyried ynddynt eu hunain mor gymmeradwy ger bron Duw yw ympryd, pan arferer efe yn ôl gair Duw: ac hefyd gan o∣sod o flaen eu llygaid, y mawr gamarfer o ym∣pryd oedd gwedi ymlusco i Eglwys Duw yr am∣ser hynny, trwy esceulusdra y rhai a ddylasent ddyscu i'r bobl ei iawn arfer hi, a thrwy ddeon∣gladau ofer a ddychymmygase ddynion: er mwyn iawnhau y camarferon hynny, ac adferu gwei∣thred mor dduwiol ac mor dda i'w iawn arfer: hwy a ordeiniasant yn y Cyngor hwnnw fod i bôb dŷn cystal mewn ympryd nailltuol ac ympryd cyffre∣dinol, aros trwy 'r dydd heb na bwyd na diod hyd ar ol Gosper: a phwy bynnag a fwyttae neu a yfe cyn darfod Gosper, fe a'i cyfrifid ac a dybygid am∣dano nad oedd yn ystyried purder ei ympryd. Mae 'r ordinhâd hon yn dangos mor eglur pa fodd yr arferid ympryd yn y brif-eglvoys gynt, fel na ellir mewn geiriau ei osod allan yn eglurach.

Ympryd gan hynny wrth ordinhâd y chwechant

Page 171

a'r dêg ar vgain hynny o dadau, gan seilio eu barn am y peth hyn ar yr Scrythyrau sanctaidd, a hir∣barhaus arfer y prophwydi a gwŷr duwiol eraill o flacn dyfodiad Christ, a'r Apostolion hefyd a gwŷr dwyfol eraill yn y Testament newydd, yw hyn, Cadw bwyd a diod a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph tros yr amser a osodwyd i ym∣prydio. Hyn a ddywetpwyd hyd yn hyn er dan∣gos i chwi yn oleu pa beth yw ymprydio. Yn ôl hyn y dangosir gwir ac iawn arfer ympryd.

Nid ydyw gweithredoedd da i gŷd o'r vn rhyw. O herwydd mae rhai o honynt eu hunain ac o'u naws priodol eu hunain yn dda bob amser: me∣gis y mae caru Duw vwchlaw pob peth, caru fy∣nghymydog fel fi fy hun, anrhydeddu tâd a mam, anrhydeddu y galluau goruchaf, rhoi i bawb yr hyn a ddylei, a'r cyffelyb.

Mae gweithredoedd eraill y rhai os ystyrir hwy ynddynt eu hunain heb fyned ym-hellach, sydd o'u naturiaeth eu hunain yn ganolig, hynny yw heb na bod yn dda na bod yn ddrŵg, ond a gymmerant eu henw o'r modd yr arferer hwynt, neu o 'r def∣nydd y gwasanaethant iddo. Y gweithredoedd hyn os gwneir hwy i ddiwedd da, a elwir yn wei∣thredoedd da, ac ydynt felly yn siccr: ond etto nid yw hynny o honynt hwy eu hunain, ond o'r di∣wedd i'r hwn y maent yn gwasanaethu.

Yn y gwrthwyneb, os bydd y diwedd i'r hwn y gwasanaethant, yn ddrwg, yno ni all na bo rhaid iddynt hwythau fod yn ddrŵg. O'r rhyw ymma ar weithredoedd y mae ympryd, yr hwn o hono ei hunan sydd beth canolig diddrwg didda: ond a wneir yn ddrwg neu yn dda wrth y diwedd y mae yn gwasanaethu iddo. O herwydd pā wne∣ler

Page 172

ef er mwyn diwedd da, y mae ef yn weithred dda, ond os drwg fydd y diwedd, y mae 'r weithred hefyd yn ddrwg. Ymprydio am hynny gan gre∣du yn y galon y gall ein hympryd a'n gweithre∣doedd da ein gwneuthur ni yn wŷr perffaith cyfi∣awn, ac felly yn y diwedd ein dwyn ni i'r nef: meddwl cythreulig yw hwn, ac y mae 'r ympryd hwn cyn belled oddiwrth fodloni Duw, ac y mae hi yn ymwrthod â'i drugaredd ef, ac yn lleihau haeddiant dioddefaint Christ, a thywalltiad ei werthfawr waed ef. Hyn y mae dammeg y Pha∣sai a'r Publican yn ei ddangos.

Dau ŵr (medd ein Iachawdwr Christ) aethant * 1.231 i fynu i'r deml i weddio, vn yn Pharisęad a'r llall yn Bublican. Y Pharisaead o'i sefyll a weddiodd ynddo ei hun fal hyn, O Dduw yr ydwyf yn di∣olch i ti nad ydwyf fal dynion eraill y rhai ydynt drawsion, anghyfion a godinebwyr, neu fal y Publican hwn: yr ydwyf yn ymprydio ddwy∣waith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf. A'r Publican yn sefyll o hirbell ni chodai ei lygaid tu â'r nef, eithr curo ei ddwyfron gan ddywedyd, o Dduw bydd druga∣rog wrthif bechadur. Yn y Pharisęad hwn y mae Christ yn gosod allan yngolwg ac ym-marn y bŷd, ŵr perffaith, iniawn, cyfiawn, yr hwn ni halogir â 'r beiau y llygrir dynion eraill yn gyffre∣dinol, megis trawsder, camwobr, cribddeilio a chneifio 'r cymydogion, yspeilwyr ac anrheith∣wyr yr holl wlâd, dichellgar a thwyllodrus wrth newid a chyfnewid, yn arfer pwysau twyllodrus, anudon ffiaidd wrth brynu a gwerthu, godineb∣wyr, putteinwyr a dynion yn byw yn ddrygionus.

Nid oedd y Pharisaead y fath ddŷn, ac nid ydo∣edd

Page 173

feius mewn vn bai cyhoeddus. Ond lle'r oedd eraill yn troseddu wrth adel heb wneuthur, y pe∣thau yr oedd y gyfraith yn eu gofyn, yr oedd hwn yn gwneuthur mwy nag oedd angenrheidiol wrth gyfraith. O blegid yr oedd ef yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, ac yn talu degwm o gymmaint ac a feddai. Pa beth gan hynny a allei 'r bŷd ei feio yn gyfion yn y dŷn hwn? ie pa beth oddiallan ychwaneg a ellid ei ddymuno ynddo, er ei wneuthur yn berffeithiach ac yn gyfiawnach dŷn? dim yn wir ym-marn dŷn: ac etto mae 'n Iachawdwr Christ yn derchafu 'r Publican tru∣an heb ymprydio, o'i flaen ef a'i ympryd cantho: mae 'r achos yn eglur pa ham y gwnaeth ef felly.

O herwydd y Publican gan nad oedd gantho ddim gweithredoedd da i ymddiried ynthynt, a ymrôdd i Dduw, gan gyffessu ei bechodau a go∣beitho yn siccr y cedwid ef trwy râd trugaredd Duw yn vnig. Yr oedd y Pharisęad yn ymogo∣neddu ac yn ymddiried cymmaint i'w weithredo∣edd, ac y tybiodd ef ei hunan yn ddiogel ddigon heb drugaredd, ac y cai ef ddyfod i'r nef wrth ei ymprydiau a'i weithredoedd eraill. I 'r defnydd ymma y gwasanaetha 'r ddammeg hon. O ble∣gid hi a ddywedpwyd wrth y rhai oeddynt yn ym∣ddiried ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn ac yn diystyru eraill.

Yn awr am fod y Pharisęad yn cyfeirio ei wei∣thredoedd at ddiben drwg, gan geisio trwyddynt gyfiawnhâd, yr hyn yn wir yw priodol waith Duw heb ein haeddiant ni, yr oedd ei ymprydiau ef ddwywaith yn yr wythnos, a'i holl weithre∣doedd eraill er eu hamled, ac er cystal a sanctei∣ddied y tybygid eu bod hwy yngolwg y bŷd, etto

Page 174

yn wirionedd ger bron Duw yn ffiaidd ac yn ddrwg. Y nôd hefyd y mae rhagrithwyr yn sae∣thu atto yn eu hympryd, yw ymddangos yn sanc∣taidd yngolwg y bŷd, ac felly ennill moliant a chlod gan ddynion. Ond mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd am danynt hwy, eu bod hwy yn derbyn eu gwobr, hynny yw clod a chanmoli∣aeth dynion, ond gan Dduw nid oes iddynt ddim. O blegid pa beth bynnag a wneler er mwyn diw∣edd drŵg, a wneir yn ddrŵg yntef trwy 'r diwedd drŵg.

Hefyd, yr hŷd y cadwom annuwioldeb yn ein calonnau, ac y goddefom feddyliau drwg i aros yno, er i ni ymprydio cyn fynyched ac y gwnaeth S. Paul neu Ioan fedyddiwr, a chadw ein hym∣pryd morgaeth ac y gwnaeth y Niniseaid, ni bydd hynny yn vnig yn anfuddiol i ni, ond hefyd yn beth yn anfodloni Duw yn fawr. O blegid mae efe yn dywedyd fod ei enaid ef yn ffieiddio ac yn cashau 'r fâth ymprydiau, ie a'u bod hwy yn faich arno ef, a'i fôd yn blino yn eu dwyn hwy. Ac am hynny y mae ef yn gwaeddi yn vchel yn eu herbyn * 1.232 hwy gan ddywedyd trwy enau'r Prophwyd E∣sai, Wele y dydd yr ymprydioch mae eich chwant yn aros, ac y mynnwch eich holl ddyledion; Wele * 1.233 i ymryson a chynnen yr ymprydiasoch ac i daro â dwrn anwir. Nac ymprydiwch fel y dydd hwn gan beri clywed eich llais yn vchel. Ai fal hyn y bydd yr ympryd yr hwn a ddewisaf y dydd y cystu∣ddio dŷn ei enaid? ai trwy grymmu ei ben fel brwynen pan wisco arno sach-liain a lludw? ai hyn a elwir yn ympryd, neu yn ddiwrnod bodlon gan yr Arglwydd?

Yn awr, fyngharedion, gan nad yw'r Arglwydd

Page 175

yn derbyn ein hympryd ni er mwyn y weithred, ond y mae ef yn edrych swyaf beth yw meddwl y galon, ac wrth hynny y mae efe yn cyfrif ein hympryd ni yn dda neu yn ddrŵg, wrth y diwedd i'r hwn y mae efe yn gwasanaethu. Ein rhan ni yw rhwygo ein calonnau ac nid ein dillad, fal y * 1.234 mae 'r Prophwyd Ioel yn ein cynghori, hynny yw, mae'n rhaid i'n trymder ni a'n galar fod oddi∣fewn yn y galon, ac nid mewn golwg oddiallā yn vnig, ie anghenrheidiol yw i ni yn gyntaf o flaen pob peth lanhau'n calonnau oddiwrth bechod, ac yno cyfeirio ein hympryd at y diwedd y mae Duw yn ei gyfrif yn ddaionus. Y mae tri diwedd at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni, yno y bydd ef yn weithred fuddiol i ni, a chymmeradwy gan Dduw.

Y cyntaf yw cystuddio 'r cnawd, rhag ei fod yn rhy drythyll, ond gwedi ei ddofi a'i ddarostwng i'r Yspryd. Dymma 'r peth yr oedd Paul yn edrych arno yn ei ympryd, Yr ydwyf, medd ef, yn cospi fynghorph, ac yn ei ddarostwng, rhag mewn vn modd wedi i mi bregethu i eraill, fy mod fy hunan yn anghymmeradwy.

Yr ail yw, er mwyn gwneuthur yr yspryd yn ddifrifach ac yn wresoccach i weddio. I'r def∣nydd * 1.235 ymma yr ymprydiodd y prophwydi a'r dys∣cawdwyr oeddynt yn Antiochia, cyn iddynt ddan∣fon allan Paul a Barnabas i bregethu 'r Efengyl. I'r vn fath ddefnydd yr ymprydiodd y ddau Apo∣stol hynny, pan orchymmynnasant hwy i Dduw y cynnulleidfaon oeddynt yn Antiochia, Pisidia, I∣conium a Lystra, fel yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion. * 1.236

Y trydedd yw, bod ein hympryd ni yn dystio∣laeth

Page 176

ac yn dŷst ger bron Duw o'n hafydd ddaro∣styngedigaeth ni i'w oruchel fawrhydi ef, pan fy∣thom yn cyffessu ac yn cydnabod ein pechodau iddo ef, a phan yn cyffroer ni oddifewn â thristwch calon, gan alaru o'i plegid trwy gystuddio ein cyrph.

Dymma dri diwedd neu iawn arfer ympryd; y cynta sydd yn perthynu yn briodol i ympryd nailltuol; y ddau eraill sydd gyffredinol yn per∣thyn i ympryd cyhoeddus ac i ympryd nailltuol. A hyn a ddywedpwyd am iawn-arfer ympryd.

Arglwyddd trugarhâ wrthym a dyro i ni râs fel y bo i ni tra fyddom byw yn y byd blinderog hwn, allu trwy dy gymmorth di ddwyn y ffrwyth hwn, a'r cyfryw ffrwythau eraill o'th Yspryd di, y rhai a ganmolir ac a orchymmynnir i ni yn dy sanctaidd air di, er gogoniant i'th enw di, a di∣ddanwch i ninnau, megis yn ol rhedegfa y blin fywyd hwn y gallom fyw yn dragywydd gydâ thi yn dy deyrnas nefol, nid er mwyn haeddiant na theilyngdod ein gweithredoedd ein hunain, ond er mwyn dy drugaredd di, a haeddedigaethau dy anwyl Fâb Iesu Grist, i'r hwn gydâ rhi a'r Ys∣pryd glân, y byddo moliant, anrhydedd a gogoni∣ant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am Ymprydio.

FE a ddangoswyd yn yr Homili o'r blaen, fy-ngharedigion, mai ympryd ym-mhlith yr Iddewon fal y gor∣chymmynnwyd ef oddiwrth Dduw trwy Moses, oedd ymattal trwy 'r

Page 177

dydd o'r boreu hyd yr hwyr, oddiwrth fwyd a diod a phob math'ar ymborth a lluniaeth corphorol, a phwy bynnag a brofai ddim cyn yr hwyr, ar y dydd a osodwyd i ymprydio, a gyfrifid ei fod yn torri ei ympryd.

Yr hyn drefn er ei fod yn ddieithr yn-nhŷb rhai yn ein dyddiau ni, am nad arferwyd ef yn gyffre∣dinol yn y deyrnas hon er ys llawer o flynyddo∣edd, etto fe a brofwyd yno yn ddigon helaeth trwy dystiolaethau a siamplau o'r Scrythyr lân yn y Testament newydd ac yn yr hên, mai felly yr oe∣ddid yn ymprydio ym-mhlith pobl Dduw (yr Iuddewon yr wyf yn ei feddwl,) y rhai cyn dyfo∣diad ein Iachawdwr Christ a fu wiw gan Dduw eu dewis iddo ei hunan yn bobl nailltuol o slaen holl genhedloedd y ddayar; ac mai hynny oedd feddwl ein Iachawdwr Christ am ympryd; ac mai felly yr arfere'r Apostolion o ymprydio yn ôl dyrchafiad Christ. Ac yno hefyd y dangoswyd iawn-arfer ympryd.

Yn yr ail rhan hon o'r Homili y dangosir na ddichon vn drefn na chyfraith ar a wnel dŷn ynghylch pethau a fyddo o'u naturiaeth eu hu∣nain yn ddiddrwg ddidda, rwymo cydwybodau Christianogion i'w cynnal ac i'w cadw hwy yn wastadol; ond bod i'r galluoedd goruchaf gy∣flawn rydd-did i newid ac i symmud pob cyfraith ac ordinhâd o'r fâth hynny, pa vn bynnag fy∣ddont ai eglwysig a'i bydol, pan fyddo'r amfer a'r lle yn gofyn.

Ond yn gyntaf fe a wneir atteb i gwestiwn a ellir ei ofyn, Pa farn a ddylei fod gennym am y cyfryw ddirwest ac ymattaliaeth; ac a appwyn∣tir drwy drefnid a chyfraithiau cyhoedd tywyso∣gion,

Page 178

a thrwy awdurdod y llywodraeth-wyr, er mwyn llywodraeth fydol, heb ystyried cre∣fydd yn hynny. Megis pan appwyntier amser i ymprydio mewn rhyw deyrnas er mewyn ma∣entaenio y trefydd pyscod a fo ar lan y môr, ac er mewyn amlhau pyscodwyr, o'r rhai y daw morwyr i fyned i longwriaeth, i gyflawni llongau 'r deyrnas, trwy y rhai y gellir * 1.237 trosglwyddo cymmwynasau allan o wledydd eraill, a'r rhai hefyd a allant fod yn ymddyffynfa angenrhei∣diol i wrthwynebu cyrchau 'r gelynion. Er mwyn cael deall y questiwn ymma yn well, mae 'n rhaid i ni wneuthur gwahaniaeth rhwng by∣dol lywodraeth tywysogion yn trefnu a llywo∣draethu eu gwledydd, yn rhagddarbod ac yn rhag∣ddarparu y cyfryw bethau ac a fyddo rhaid er diogelwch ac ymddiffyn eu deiliaid a'u gvole∣dydd: a rhwng llywodraeth eglwysig wrth ap∣pwyntio rhyw weithredoedd, trwy y rhai me∣gis trwy ail-achosion y gellir llonyddu digofaint Duw ac ennil ei drugaredd.

Fe ddylyai bob deiliaid Christianogawl, a hynny o barch i'r llywodraethwr, nid yn vnig rhag ofn cosp, ond hefyd (fel y dywaid yr Apostol) er mwyn cywybod, vfyddhau 'r holl gyfraithiau gosodegig a wnelo tywysogion, er mwyn cadw a chynnal eu llywodraeth fydol, trwy na byddent gwrthwyneb i gyfraithiau Duw. Er mwyn cydwybod meddaf, nid cydwybod o'r peth a or∣chymmynner, yr hwn o'i naturiaeth ei hunan sydd ddiddrwg ddidda, ond er mwyn cydwybod ein hufydd-dod, yr hon wrth gyfraith Dduw sydd ddyledus arnom i'r llywodraethwr, megis i wei∣nidog Duw.

Page 179

Er bod y cyfraithiau gosodedig hyn yn gwa∣hardd i ni sydd ddeiliaid arfer tros amser ryw fwy∣dydd a diodydd, y rhai a adawodd Duw trwy ei sanctaidd air yn rhydd i bob math ar ddŷn eu cym∣meryd trwy roddi diolch, ym-mhob lle ac amser: etto am nad ydyw tywysogion a llywodraeth∣wyr eraill yn gwneuthur y cyfreithiau hynny er mwyn gosod mwy o sancteiddrwydd mewn rhyw fwyd neu ddiod nag mewn arall, neu wneuthur vn diwrnod yn sancteiddiach nag vn arall: ond yn vnig er mwyn llywodraeth fydol a daioni 'r wlâd: mae pob deiliaid yn rhwym er mwyn cy∣dwybod i'w cadw hwy wrth orchymmyn Duw, yr hwn sydd trwy ei Apostol yn erchi i bawb heb nailltuo neb, fod yn ddarostyngedig i awdurdod y galluoedd goruchaf.

Ac yn y pwngc ymma, tu ag at am ein dlêd ni sydd yn trigo yn yr ynys hon, wedi ein hamgyl∣chynu â moroedd, mae i ni achosion a rheswm mawr i gymmeryd ffrwythau 'r dyfroedd y rhai a osododd yr Holl-alluog Dduw o'i sanctaidd rag∣weliad, mor agos attom, trwy 'r hyn y gellir yn well gynhilo a chynnyddu ymborth a lluniaeth y tir, er mwyn dwyn ymborth i well newid, fel y geller yn haws gynnorthwyo angenrheidiau 'r tlodion.

Ac fe a weddai ei fod ef yn fruttain rhy foethus yr hwn gan ystyried y budd sydd yn canlyn, ni all attal peth ar ei flysig chwant er mwyn ordinhâd ei dywysog a chyfundeb gwŷr call y deyrnas.

Pa galon gywir fruttanaidd na ewyllysai we∣led ei hên ogoniant wedi dychwelyd eilwaith i'r deyrnas hon, yn yr hyn yroedd hi cyn ein hamser ni, trwy glod fawr yn rhagori ynghaderind ei

Page 180

llongau ar y môr? Pa beth a frawycha galon ein gelynion ni yn fwy na 'n gweled ni mor gadarn ac mor arfog ar y môr, ac y mae 'r gair i ni fod ar y tir? Pe damune y tywysog vfydd-dod gennym ni i ymgadw oddiwrth gîg dros vn diwrnod mwy nag yr ydym, ac i fod yn fodlon i vn pryd o fwyd y dwthwn hwnnw, oni ddylai ein budd ein hunain ein hannog ni i vfydd-dod? Ond yn awr lle yr ydys yn goddef i ni gymmeryd dau bryd ar y diwrnod hwnnw, ar yr hwn yr arfere ein rhieni ni mewn lliaws mawr yn y deyrnas hon gymme∣ryd vn pryd prin o fwyd, a hwnnw o byscod yn vnig; a ddylyem ni dybied fod yn rhydrwm y baich yr ydys yn ei orchymmyn i ni?

Hefyd ystyriwn adfail y trefi ar lan y môr, y rhai a ddylei fod yn barottaf o gwbl mewn rhifedi eu pobl i wrthladd y gelyn, ac felly ninnau y rhai sy yn trigo ym-mhellach yn y tir wrth eu cael hwy yn darian ac yn ymddiffyn i ni, a fyddem diofa∣lach a diogelach. Os ein cymydogion ni ydynt, pa ham nad ewyllysiwn eu llwyddiant hwy? Os ydynt yn ymddiffynfa i ni, am eu bod yn gyfnesaf i wrthladd y gelyn, ac i attal cynddairiogrwydd y mor oddiwrthym, yr hwn oni bai hwy a dorre dros ein porfeydd tirion ni, pa ham na chynnor∣thwywn hwy? Ac nid ydym yn cymmell hyn mewn llywodraeth Eglwyfig, gan appwyntio modd i ymprydio, i ymddarostwng yngwydd yr Holl-alluog Dduw, fod y modd a'r drefn honno ar ympryd a arferid ym-mhlith yr Iuddewon ac a ganlynwyd gan Apostolion Christ yn ôl ei dder∣chafiad ef, o'r fath rym ac anghenrhaid, fal y dy∣leid arfer y drefn honno yn vnig ym-mysc Chri∣stianogion, ac nid vn arall; o blegid ni byddei

Page 181

hynny ond rhwymo pobl Dduw tan iau a baich llywodraeth Moses; ie ac dyna 'r ffordd iniawn i'n dwyn ni y rhai a rydd-hawd trwy rydd-did Efengyl Ghrist, tan gaethiwed y gyfraith dra∣chefn; yr hyn na atto Duw i neb ei amcanu na 'i fwriadu.

Ond i'r defnydd hyn y mae yn gwasanaethu, er mwyn dangos faint y gwahaniaeth sydd rhwng y drefn ar ymprydio a arferir heddyw yn yr Eglwys, a'r drefn a arferid yr amser hynny.

Ni ddyleid ac ni ellir rhwymo Eglwys Duw felly wrth vn drefn a wnaethpwyd nac a wneler nac a ddychymmyger ar ôl hyn trwy awdurdod dŷn, fel nas dichon hi yn gyfreithlon ar achosion cyfiawn symmud, newid neu yscafnhau y deddfau a'r ordeiniaethau eglwysig hynny, ie a'u gadel yn gwbl, a'u torri pan fônt yn pwyso at ofergoel ac annuwioldeb, pan fônt yn tynu 'r bobl oddiwrth Dduw yn fwy nâ gweithio adeiladaeth yndynt.

Yr awdurdod hon a arferodd Christ ei hun, ac a adawodd ef i'w Eglwys. Ef a'i harferodd hi meddaf: O blegid, y drefn a'r ordinhâd a wnelse 'r henuriaid, am ymolchi yn fynych, yr hyn a gedwyd yn ddiesceulus ym-mhlith yr Iuddewon, etto am ei bod yn gorbwyso at ofergoel, y drefn honno meddaf a newidiodd ac a symmudodd ein Iachawdwr Christi Sacrament buddiol, Sacra∣ment ein ail enedigaeth ni. Yr awdurdod hon ar esmwytho cyfreithiau ac ordemiaethau eglwysig a arferodd yr Apostolion pan wrth scrifennu o Ie∣rusalem at yr Eglwys oedd yn Antiochia, yr e∣wylliasant iddynt na osodent arnynt faich amge∣nach * 1.238 nâ 'r pethau anghenrheidiol hyn, sef bod iddynt ymgadw oddiwrth y pethau a offrymmyd

Page 182

i ddelwau, a gwaed, a'r pethau a dagwyd, a go∣dineb, er bod cyfraith Moses yn gofyn cadw llaw∣er o bethau eraill.

Yr awdurbod hon a'r newid ordeiniaethau, cyfraithiau a gosodiadau 'r Eglwys, ar ôl amser yr Apostolion, a arferodd y tadau ynlghych y modd y bydde raid ymprydio, fel y mae 'n eglur wrth yr histori deir-rhan, lle 'r scrifennir fal hyn: Yn∣ghylch ympryd yr ydym yn gweled fod yn ei arfer * 1.239 ef mewn amryw foddion yn amryw leoedd gan amryw ddynion. Oblegid maent hwy yn Rhu∣fain yn ymprydio dair wythnos ar vntu o flaen y Pâsc, ond ar sadyrnau a suliau, yr hwn ympryd a alwant hwy y Garawys. Ac yn ôl ychydig ei∣riau yn yr vn man y canlyn, Nid oes ganthynt oll drefn vnwedd ar ymprydio. O blegid rhai a ym∣gadwant oddiwrth byscod a chîg hefyd. Rhai pan ymprydiont ni fwyttânt ddim ond pyscod. Y mae eraill pan ymprydiont a fwyttânt bob adar dyfroedd cystal a physcod, gan osod eu sail ar Mo∣ses fod y cyfryw adar a'u hanffod o'r dwfr yn gystal a physcod. Mae eraill pan ymprydiont ni fwyt∣tant na llysiau nac wyau. Mae rhyw ympryd∣wyr ni fwyttant ddim ond bara yn sŷch. Eraill pan ymprydiont ni fwyttant cymmaint a bara yn sŷch. Mae rhai yn ymprydio oddiwrth bob ym∣borth hyd yr hwyr, ac yno y bwyttant heb wneu∣thur na dewis na gwahaniaeth o vn bwyd mwy nâ'i gilydd. A mîl o'r fath amryw foddion ar ym∣prydio a geir mewn amryw leoedd yn y byd, y rhai a arfer amryw ddynion mewn amryw foddion. Ac er yr holl amryw foddion ymma ar ympry∣dio, etto ni thorrwyd cariad, gwir rwymyn Chri∣stianogawl dangneddyf, ac ni thorrodd eu ham∣ryw

Page 183

ympryd hwy vn amser eu cyfundeb hwy a'u * 1.240 cyttundeb mewn ffydd.

Am ymgadw ryw amseroedd oddiwrth ryw fwydau, nid am fod y bwydau yn ddrŵg, ond am nad ydynt yn anghenrheidiol, nid yw'r dirwest a'r ymattaliaeth hwn (medd S. Augustin) yn ddrŵg. * 1.241 Ac ymgadw rhag bwydau pan fo anghenrhaid ac amser yn gofyn, hyn (medd ef) sydd yn perthyn yn briodol i Gristianogion.

Fal hyn y clywsoch (bobl dda) yn gyntaf fod deiliaid Christianogaidd yn rwhym mewn cydwy∣bod i vfyddhau cyfraithiau tywysogion, y rhai ni bônt yn wrthwyneb i gyfreithiau Duw. Chwi a glywsoch hefyd nad ydyw Eglwys Grist mor rhwymedig i gadw vn drefn neu gyfraith neu or∣dinhâd a wnelo dŷn tuag at osod allan ddull neu drefn mewn crefydd: megis nad oes gan yr E∣glwys gyflawn allu ac awdurdod oddiwrth Dduw, i'w newid ac i'w symmud hwy pan fytho anghenrhaid yn gofyn: yr hyn a ddangoswyd i chwi trwy siampl ein Iachawdwr Christ, trwy arfer ei Apostolion ef, a'r tadau ar ôl eu hamser hwythau.

Yn awr y dangosir ar ychydig eiriau pa amser sydd gyfaddas i ymprydio, o blegid nid yw pob amser yn gwasanaethu i bob peth, ond fel y dy∣waid y gŵr doeth, Y mae amser i bob peth, amser * 1.242 i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i lawenychu, &c. Mae ein Iachawdwr Christ yn escusodi ei ddiscyblon ac yn argyoeddi y Pharisaeaid am nad oeddynt yn deall arfer ym∣pryd, nac yn y ystyried yr amser sydd gyfaddas i ymprydio. Y ddau beth hynny y mae efe yn eu dyscu yn ei atteb, gan ddywedyd, Ni all plant y * 1.243

Page 174

briodas alaru yr hyd y byddo 'r priodas-fâb gyd â hwy. Eu questiwn hwy oedd ynghylch ympryd, a'i atteb yntef sydd am alaru, gan arwyddoccau iddynt yn oleu, nad yw ympryd y corph o ddi∣allan, yn ympryd ger bron Duw, oni bydd yn gyssylltedig â'r ympryd oddifewn, yr hwn yw ga∣lar a chwynfan yn y galon, fel y manegwyd o'r blaen.

Am amser ympryd y mae efe yn dywedyd, Fe ddaw 'r dyddiau pan dynner y priodas-fâb oddi∣wrthynt, ac yno yr ymprydiant yn y dyddian hyn∣ny. * 1.244 Wrth hyn y mae yn eglur nad ydyw hiamser i ymprydio yr hyd y parhao'r briodas, a thra fy∣ddo'r priodas-fâb yn bresennol. Ond pan ddar∣ffo'r briodas a myned o'r priodas-fâb ymmaith, yno y mae hi yn amser cyfaddas i ymprydio.

Yn awr i ddangos i chwi yn olen beth yw y∣styr a deall y geiriau ymma, Yr ydym yn y briodas: a thrachefn, Fe a dynnwyd y priodas-fâb oddiwrthym: ystyriwch, yr hyd y byddo Duw yn datcuddio ei drugareddau i ni, ac yn rhoddi ei ddoniau ysprydol neu gorphorol i ni, fe a ddywedir ein bod ni gyd â'r priodas-fâb yn y briodas. Felly yr ydoedd yr hên dâd daionus Iacob yn y briodas pan glyw∣odd fod ei fâb Ioseph yn fyw, ac yn rheoli yr holl Aipht dan frenhin Pharao. Felly yr oedd Da∣fydd yn y briodas gydâ'r priodas-fâb pan gafodd ef yr oruchafiaeth yn erbyn Goliah fawr, a thorri o hono ei ben ef. Yr ydoedd Iudith a holl bobl Bethulia yn blant y briodas, a'r priodas-fâb gydâ hwy, pā ddaroedd i Dduw trwy law gwraig ladd Holophernes pen-tywysog llu 'r Assyriaid, a gorthrechu eu holl elynion. Fel hyn yr oedd yr A∣postolion yn blant y briodas yr hyd yr ydoedd

Page 185

Christ yn gorphorol yn bresennol gyd â hwy, ac yn eu hamddiffyn hwy oddiwrth bob perigl, ysprydol a chorphorol.

Ond yno y dywedir fod y briodas gwedi darfod, a'r priodas-fâb gwedi myned ymmaith, pan fo yr Holl-alluog Dduw yn ein taro ni â blinder, ac wrth dybygoliaeth yn ein gadel ni ym - mhlith aneirif o wrthwynebau. Felly y mae Duw yn fy∣nych yn taro rhai neilltuol ag amryw wrthwyne∣bau, megis trallod meddwl, colled ceraint neu dda, hir a pheriglus glefydau &c. yno y mae hi yn amser cyfaddas i'r dyn hwnnw i ymddarostwng i'r Holl-alluog Dduw trwy ympryd, ac i alaru ac i gwynfan am ei bechodau â chalon athrist, ac i weddio yn ddiragrith gan ddywedyd gyd a'r pro∣phwyd Dafydd▪ Cudd dy wyneb oddiwrth fy∣mhechodau * 1.245 Arglwydd, a delêa fy holl amwire∣ddau. Hefyd pan fytho Duw yn cystuddio rhyw deyrnas neu wlâdâ rhy feloedd, newyn, * 1.246 cowyn, neu glefydau dieithr a heintiau anghydnaby∣ddus, a'r cyfryw flindereu eraill: yno y mae hi yn amser i bob grâdd o ddynion, vchelradd ac is∣sel-radd, gwŷr a gwragedd▪ a phlant, ymddaro∣stwng trwy ympryd, a galaru am eu bywyd pe∣chadurus ger bron Duw a gweddio ag vn llefe∣ferydd cyffredinol gan ddywedyd fel hyn, neu ryw fath weddi arall, Bydd drugarog o Arglwydd, Bydd drugarog wrth dy bobl sydd yn troi attat mewn wylofain ac ympiyd a gweddi, arbed dy bobl y rhai a brynaist â'th werthfawr waed, ac na oddefddistrywio dy etifeddiaeth a'i gwradwyddo.

Mae ympryd a arferir fel hyn ynghŷd â gweddi yn rymmus iawn ac yn bwysig ger bron Duw. Felly y dywedodd yr Angel Raphael wrth Tohi∣as. * 1.247

Page 186

Mae hyn yn eglur hefyd wrth yr hyn a atte∣bodd ein Iachawdwr Christ i'w ddiscyblon, pan ofynnasant iddo, pa ham na allent hwy fwrw 'r pspryd aflan allan o'r hwn a ddygesid attynt. Ni fwrir y rhywhwn allan (eb efe) ond trwy ympryd a gweddi.

Ni ellir dangos i chwi byth mor nerthol yw ympryd ac mor bwysig ger bron Duw, a pha beth a all ei gael ar law Dduw, yn well nâ thrwy agoryd i chwi a gosod ger eich bron rai o'r pethau godidog a wnaethpwyd trwy ympryd.

Ympryd oedd vn 'or cyfryngau a'r achosion a wnaeth i'r Holl-alluog Dduw newid yr hyn a ddarfuase iddo ei fwriadu ynghylch Ahab am ladd y gŵr diniwed Naboth, er mwyn cael meddiannu * 1.248 ei winllan ef. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias, gan ddywedyd, dôs a dywed wrth Ahab, a leddaist di ac a feddiannaist, fel hyn y dywed yr Ar∣glwydd, y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth y llyfant dy waed dithau hefyd; wele fi yn dwyn di∣al arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth; y cŵn a fwyttant yr hyn a fyddo marw eiddo A∣hab yn y ddinas, a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwytty adar y nefoedd.

Y gosp ymma a fwriadase 'r Holl-alluog Dduw i Ahab yn y byd hwn, a dinistrio pob gwr-ryw o gorph Ahab, heb law'r gosp a gwympe arno yn y byd a ddaw. Pan glybu Ahab hyn fe a rwygodd ei dillad ac a wiscodd sach-liain, ac a ym∣prydiodd ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn * 1.249 ddiarchen: yno y daeth gair yr Arglwydd at Elias gan ddywedyd, Oni weli di'r modd yr ymostyngodd Ahab ger fymron i? am¦iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg

Page 187

hwnnw yn ei ddyddiau ef, ond yn-nyddau ei fâb ef y dygaf y drwg hwnnw ar ei dŷ ef.

Ac er i Ahab trwy gyngor annuwiol Iesabel ei wraig wneuthur lladdfa gywilyddus, ac yn er∣byn pob cyfiawnder dietifeddu a difeddiannu yn dragywydd eppil Naboth o'r winllan honno: et∣to wrth ei vfydd ymostyngiad ef i Dduw yn ei galon, yr hyn a ddangosodd ef oddiallan trwy wisco sach-liain ac ymprydio, fe a newidiodd Duw ei farn, fel na chwympodd y gosp a fwriadase ef, ar dŷ Ahab yn ei amser ef, ond hi a oedwyd hyd ddyddiau ei fâb ef Ioram.

Ymma y gwelwn pa rym sydd yn ein hympryd ni oddiallan, pan gyssyllter ef ag ympryd y me∣ddwl oddimewn, yr hwn yw (fal y dywetpwyd) trymder calon, ffiaiddio ein drwg weithredoedd a chwynfan o'u plegid. Y cyffelyb sydd i'w we∣led yn y Ninifeaid, o blegid wedi darfod i Dduw * 1.250 amcanu dinistrio holl ddinas Ninife, a bod yr am∣ser a appwyntiase ef ger llaw, fe a ddanfonodd y prophwyd Ionas i ddywedyd wrthynt, Etto ddeugain nhiwrnod, a Ninife a ddifethir. Ac yn y man gwyr Ninife a gredasant i Dduw, ac a ym∣roesant i ymprydio, ie fe a barodd y brenhin trwy gynghor ei gynghoriaid gyhoeddi gan ddywedyd, dyn ac anifail, eidion a dafad, ni phrofant ddim, ni phorant ac nid yfant ddwfr: ond gwisced dŷn ac anifeil sachliain, a gwaedded ar Dduw yn lew, a dattroed pob dyn oddiwrth ei ffordd ddrygio∣nus, ac oddiwrth y camwedd yr hwn sydd yn eu dwylo hwynt, pwy a wyr a drŷ 'r Arglwydd ac a edifarhâ a dattroi o angerdd ei ddig, fel na ddife∣ther ni?

Ac ar yr edifeirwch hwn eiddynthwy a ddango∣swyd

Page 188

oddiallan trwy ymprydio, rhwygo eu ddi∣llad, gwisco sach-liain, bwrw llwch a lludw ar eu pennau, mae r Scrythur yn dywedyd, A gwe∣lodd Duw eu gweithredoedd hwy, sef troi o ho∣nynt o'u ffyrdd drygionus, ac fe ai edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedase y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.

Yn awr fy-ngharedigion chwi a glywsoch yn gyntaf beth yw ympryd, cystal yr hwn sydd oddi∣allan yn y corph, a'r hwn sydd oddifewn yn y ga∣lon. Chwi a glywsoch hefyd fod tri diwedd neu fwriad at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni oddi∣allan, mae fe yn weithred dda, a Duw yn fod∣lon iddo.

Yn drydydd y dangoswyd pa amser sydd gym∣mhesuraf i ymprydio, yn neilltuol ac yn gyhoedd.

Yn ddiwethaf pa bethau a gafodd ympryd ar law Dduw, wrth siampl Ahab a'r Ninifeaid. Am hynny fyngharedigion yn yr Arglwydd, gan fod llawer mwy o achosion i ymprydio ac i alaru, yn ein dyddiau ni, nag a fu mewn llawer blwyddyn mewn vn oes o'r blaen; ymrown oddifewn yn ein calonnau, ac oddiallan yn ein cyrph, i arfer yn ddiwyd yr arfer ymma o ymprydio, yn y modd a'r agwedd yr arferodd y sanctaidd brophwydi, yr A∣postolion a llawer o wŷr duwiol eraill hi yn eu hamser. Yr vn Duw yw Duw yn awr ac oedd efe yr amser hwnnw, Duw yn caru cyfia wnder ac yn cashau anwiredd, Duw ni ewyllysia far wolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono oddi∣wrth ei anwiredd a byw, Duw yr hwn a adda∣wodd droi attom ni, os ni ni wrthodwn droi atto ef: ie os ni a drown ein drwg weithredoedd o'i o∣lwg ef, os peidiwn a gwneuthur drygioni, a dyscu

Page 189

gwneuthur daioni, ceisio gwneuthur cyfiawnder a chynnorthwyo 'r gorthymmedig, bod yn farn∣wyr cyfiawn i'r ymddifad ac yn ymddiffyn i'r we∣ddw, torri ein bara i'r newynog, a dwyn y tlawd a fyddo ar ddidro i'n tai, os dilladwn y noeth a bod heb ddiystyru ein brawd yr hwn yw ein cnawd ni ein hunain: yno y gelwi (medd y prophwyd) a'r Arglwydd a atteb, ti a waeddi ac yntef a ddywa∣id, dymma fi. Ie yr vn Duw a wrandawodd ar Ahab a'r Ninifeaid, ac a'u harbedodd hwy, a wrendy ein gweddiau ninnau ac a'n harbed ni, os ni yn ôl eu siampl hwy a drown atto yn ddira∣grith: Ie fe a'n bendithia ni a'i nefol fendithion tros yr amser sydd i ni i aros yn y byd hwn, ac yn ôl rhedfa 'r bywyd marwol hwn, fe a'n dwg ni i'w deyrnas nefol, lle y teyrnaswn ni mewn dedwy∣ddwch tragwyddol gydâ 'n Iachawdwr Christ: I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn Glothineb a meddwdod.

CHwi a glywsoch, fy-ngharedigi∣on, yn y bregeth o'r blaen, ddull a rhinwedd ympryd a'i iawn ar∣fer; yn awr chwi a gewch gly∣wed mor frwnt o beth yw glothi∣neb a meddwdod gar bron Duw, er mwyn eich cyffroi chwi i ym∣prydio yn ddyfalach.

Deellwch gan hynny ddarfod i'r Holl-alluog Dduw (er mwyn bod i ni ymgadw yn ddihalog, a'i wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfi∣awnder

Page 190

yn ôl ei air) orchymmyn yn yr Scrythy∣rau i gynnifer o honom ac sydd yn edrych am ogo∣neddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd, lledneisrwydd, a chymme∣drolder. Wrth yr hyn y gallwn ddyscu mor an∣ghenrhaid * 1.251 yw i bob Christion, ac a fynne fod yn barod yn nyfodiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd yn y bŷd presennol hwn, gan na all ef, os bydd ammharod, fyned gydâ Christ i 'w ogoniant: ac os bydd efe diarfog yn hyn o beth, ni all ef na bô mewn gwastadol berigl gan i ge∣lyn creulon, y llew rhuadus, yn erbyn yr hwn y mae Petr yn ein rhybyddio ni i'n parottoi ein hu∣nain mewn gwastadol sobredd, fel y gallom ei wrthwynebu ef yn gadarn mewn ffydd. * 1.252

Am hynny fel y gallom arfer y sobredd hwn yn ein holl ymddygiad, fe fydd cyfaddas mynegi i chwi faint y mae pob rhysedd a gormodedd yn di∣gio mawrhydi yr Holl-alluog Dduw, ac mor dost y mae efe yn cospi anfesurol gam-arfer y creduri∣aid a ordeiniodd ef i borthi anghenrheidiau ein bywyd ni, megis bwyd a diod a dillad.

A chyfaddas fydd dangos hefyd y clefydai ni∣weidiol a'r * 1.253 echrys mawr sydd fynychaf yn can∣lyn y rhai sydd yn ymroi i ddilyn yn afradlon y cyfryw hoffderau ac sydd gyssyltedig a gormodd o fwydydd moethus, neu ddillad rhy werthfawr a rhy wychion.

Ac yn gyntaf fel y galloch weled mor gas ac mor ffiaidd yngwydd yr Holl-alluog Dduw, yw gormodd bwytta ac yfed, chwi a gofiwch yr hyn y mae S. Paul yn ei scrifennu at y Galathiaid, lle * 1.254 y mae efe yn cyfrif glothineb a meddwdod ym∣mhlith y beiau * 1.255 echrydus, y rhai (medd efe) ni

Page 191

all neb y byddont ynddo etifeddu teyrnas Dduw. Mae efe yn eu cyfrif l wy ym-mhlith gweithre∣doedd y cnawd, ac yn eu * 1.256 cwplysu hwy a delw∣addoliad, putteindra a llofruddiaeth, y beiau mw∣yaf ac a ellir eu henwi ym-mhlith dynion: o her∣wydd mae 'r cyntaf yn yspailio Dduw o'i anrhy∣dedd, yr aill yn halogi ei deml sanctaidd ef, hyn∣ny yw, ein cyrph ni: a'r trydydd yn ein gwneu∣thur ni yn gyfeilion i Cain wrth ladd ein brodyr, a phwy bynnag, medd S, Paul, a'u gwnelo, ni allant etifeddu teyrnas Dduw.

Yn siccr, mae 'r pechod hwnnw yn gâs ac yn ffiaidd ger pron Duw, yr hwn sydd yn peri i Dduw droi ei wynebpryd grasol mor bell oddi∣wrthym, ac y cae ai ni yn llwyr allan o'r drŵs, a'n dietifeddu ni o'i deyrnas nef. Ond y mae fe yn ffiaiddio anifeiliaidd wledda a gloddest yn gym∣maint, fel y mae efe trwy ei fâb Iesu Ghrist ein Iachawdwr yn yr Efengyl, yn cyhoeddi ei * 1.257 echry∣dus lid yn erbyn pawb a wnânt eu boliau yn Dduw iddynt, gan eu barnu yn felldigedig, â dywedyd, Gwae chwi y rhai ydych lawnion, canys chwi a newynwch. A thrwy enau y Pro∣phwyd * 1.258 Esai mae fe yn gweiddi, Gwae y rhai a gy∣fodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, ac * 1.259 a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni ennynno diod ga∣darn hwy: ac yn eu gwleddoedd hwy y mae 'r de∣lyn a'r nabl, y tympan, y bibell hefyd a'r gwin; ond gwaith yr Arglwydd nid edrychant, ac gwei∣thred ei ddwylaw ef ni welant: Gwae y rhai cry∣fion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymmyscu¦diod gadarn.

Ymma y mae 'r prophwyd yn dangos yn oleu fod cyfeddach a gwledda yn gwneuthur i ddynion

Page 192

anghofio eu dlyed tu ac at Dduw: pan fônt yn ymroi i bob rhyw hoffder a digrifwch, heb ysty∣ried na meddwl am weithredoedd yr Arglwydd, yr hwn a greodd fwyd a diod, fel y dywaid S. Paul, i'w derbyn mewn diolchgarwch gan y ffyddloniaid, y rhai a adwaenant y gwirionedd. * 1.260 Megis y dylai edrych yn vnig ar y creaduriaid hynny (y rhai ydynt waith dwylo yr holl-alluog Dduw) ein dyscu ni i'w harfer hwy yn ddiolchus, fel yr ordeiniodd Duw.

Am hynny y maent hwy yn ddiescus ger bron Duw, y rhai naill a'u a lanwant eu hunain yn afradlon, heb ystyried y sancteiddiad sydd trwy air Duw a gweddi, ai ynte yn anniolchgar a ga∣marferant ddaionus greaduriaid Duw, trwy rythni a gormodedd a meddwdod, gan fod ordein∣hâd Duw yn ei greaduriaid yn gwahardd hynny yn oleu. Pwy bynnag gan hynny a ymroddant i yfed ac i wledda heb ystyried barnedigaeth Dduw, hwy a oddiweddir yn ddisymmwth yn∣nydd dial.

Am hynny y dywaid ein Iachawdwr Christ wrth ei ddiscyblon, Edrychwch arnoch eich hu∣nain * 1.261 rhag gorchfygu eich calonnau a glothineb a meddwdod a gofalon y bŷd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Pwy bynnag gan hynny a gymmero rybydd wrth eiriau Christ, gwilied arno ei hunan, rhag * 1.262 gormeilo ei galon a glothineb a meddwdod, a'i ddala ef yn ddisym∣mwyth gyd â'r gwâs afradlon, yr hwn heb fe∣ddwl am ddyfodiad ei feistr, a ddechreuodd guro * 1.263 ei gyfeillon y gweision a'r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, a chwedy ei ddala yn ddisym∣mwth ef a gafodd ei ran gyda 'r anffyddloniaid a'r

Page 193

rhagrith-wyr. Pwy bynnag a arfero yfed yn ddwfn ac ymlenwi yn ormodd (gan ymdreiglo ym-mhob drygioni) fe a ddaw arnynt drymgwsc a * 1.264 chyscadur angof sanctaidd ewyllys a gorchym∣mynion Duw. Am hynny y llefa yr Holl-alluog Dduw trwy 'r Prophwyd Ioel, deffrowch fedd∣wyr, ac wylwch ac vdwch holl yf-wyr gwin am y * 1.265 gwin newydd, canys torrwyd ef oddiwrth eich mîn chwi. Ymma y mae 'r Arglwydd yn bygwth yn dost y tynn ef ei ddoniau oddiwrth y rhai a'u camarferant, ac y tynn ef y phiol oddiwrth enau y meddwon. Ymma y gallwn ddyscu gochelyd cyscu mewn meddwdod a glothineb, rhag i Dduw ein difuddio ni o fwyniant ei greaduriaid, pan gamarferom ni hwynt yn annaturiol.

O herwydd yn siccr ni thynn yr Arglwydd ein Duw yn vnig ei ddoniau oddiwrthym, pan gam∣arferir hwy yn anniolchus; ond hefyd yn ei lid a'i fawr ddigofaint, fe a ddial ar bawb a'u camar∣feront hwy yn anghymmedrol. Pe buasai ein he∣nafiaid cyntaf ni Adda ac Efa heb yfyddhau i'w chwant awyddus yn bwytta 'r ffrwyth gwahar∣ddedig, ni buasent nac yn colli mwyniant doniau Duw, y rhai a fwynhaent ym-mharadwys yr amser hynny, nac yn dwyn y fath aflwydd ac ech∣rys arnynt eu hunain a'u holl heppil yn eu hôl. Ond pan aethant hwy tros y terfynau a osodosai Duw iddynt, hwy a yrrwyd allan o baradwys, megis rhai an-nheilwng o ddoniau Duw, ni chânt ym-mhellach fwytta ffrwythau yr ardd honno, y rhai a ddarfuase iddynt eu camarser yn gymmaint trwy ormodedd: ac megis trosedd∣wyr gorchymmynion Duw, fe a'u dygwyd hwy a'u heppil i gywilydd a gwradwydd tragwyddol,

Page 194

ac megis rhai gwedi i Dduw eu melldithio, rhaid iddynt chwysu am eu bywyd, y rhai o 'r blaen oedd ganthynt helaethrwydd wrth eu he∣wyllys.

Felly ninnau, os wrth fwytta ac yfed y cym∣meron ormod, a Duw o'i helaeth haelioni yn dan∣fon i ni ddigonedd ac amledd, fe a drŷ yn y man ein hamledd ni yn brinder: a lle 'r oeddym o'r blaen yn ymorfoleddu yn ein cyflawnder, fe a'n gwnâ ni yn wâg, ac a'n gwradwydda ni ag eisiau ac a phrinder, ac a wna i ni lafurio a thrafaelu trwy boen a thrafael, i geisio yr hyn yr oeddym o'r blaen yn ei fwynhau mewn esmwythdra. Felly ni âd yr Arglwydd hwy heb gospi, y rhai heb ystyried ei weithredoedd ef, a ganlynant wyniau a thrachwantau eu calonnau eu hunain.

Y Patriarch Noah yr hwn y mae yr Apostol yn ei alw yn bregethwr cyfiawnder, ac yr oedd Duw yn ei garu yn fawr, a wnaethpwyd yn yr Scry∣thur lan yn siampl i ddyscu i ni ochelyd meddw∣dod. * 1.266 O blegid wedi iddo gymmeryd mwy o wîn nag oedd gymmhesur, fe a orweddodd yn noeth yn ei babell, a'i aelodau dirgel wedi eu dynoethi. Ac er ei fod ef o'r blaen mewn cymmaint parch a chymmeriad, fe a aeth yn awr yn watwargerdd i'w felldigedig sab Cham, er mawr ddolur i'w ddau feibion eraill Sem a Iapheth, y rhai a gy∣wilyddient dros ymddygiad anifeiliaidd eu tad. Ymma y gellwch weled fod meddwdod yn dwyn gydag ef gywilydd a gwatwar, ac na ddiangc ef yn ddigosp vn amser.

Lot hefyd wedi ei * 1.267 ormeilo gan win a wnaeth bechod llosc-ach ffiaidd a'i ferched eu hunan. Ym∣ma y mae Lot trwy yfed gwedy cwympo cyn be∣lled

Page 195

allan o'i bwyll ei hun, nad edwyn ef i ferched ei hunan. Pwy a dybyge y cwympe hên ŵr a fai yn y cyflwr blin yr oedd efe, gwedi colli ei wraig a chymmaint ac a fedde, gwedi gweled dial Duw a ddangosasid mewn modd ofnadwy ar y pump di∣nas am eu bywyd drygionus; i anghofio ei ddy∣lêd cy belled.

Ond fel y dywaid Seneca, mae gwŷr gwedy eu gorchfygu gan ddiod, yn ynfydion cynwynol. Lot a dwyllwyd gan ei ferched, ond y mae llawer yn awr yn eu twyllo eu hunain, eisiau meddwl y dial Duw trwy gospedigaethau ofnadwy, ar y rhai sy yn pechu trwy ormodedd. Nid bychan y pla a ennillodd Lot trwy ei feddwdod. O her∣wydd fe wnaeth weithred gnawdol a'i ferched ei hun, a hwy a feichiogasant o hynny, fel yr aeth y peth yn gyhoedd, ac ni ellid ei gelu yn hwy. Fe a aned dau blentyn ordderch o'r lloscach hynny, Ammon a Moab, o'r rhai y daeth dwy genhedl, yr Ammoniaid a'r Moabiaid, y rhai oedd gas gan Dduw, a gwithwynebwyr creuion i'w bobl ef plant yr Israel.

Wele, fe a ennillodd Lot iddo ei hunan wrth gyfeddach dristwch a gofal, a chywisydd a gwarth tragwyddol hyd ddiwedd y bŷd. O nid arbedodd Duw ei was Lot, yr hwn oni buase hynny oedd ŵr duwiol, nai i Abraham, ac a dderbyniasai an∣gelion Duw i'w dŷ: Pa beth a wna ef i 'r rhai hyn sydd yn wasanaethwyr i'w boliau fel anifei∣liaid, heb dduwioldeb nac ymddygiad rhinwe∣ddol, yn ymroi nid vnwaith, onid dydd a nos yn gwbl i gyfeddach a gwledda? Ond gwelwn etto ym-mhellach siamplau ofnadwy o ddigllonedd Duw yn erbyn y rhai yn awyddus a gaulynent

Page 196

ei chwantau afradlon. Ammon mab Dafydd * 1.268 wrth wledda gyd ei frawd Absolon, a laddwyd yn greulon gan ei frawd Absolon. Holofernes * 1.269 tywysog dewr galluog, pan orchfygwyd efe gan wîn a gafas dorri ei ben oddiar ei yscwyddau gā ddwylo gwreigan ddiwryg, Iudith. Simon yr Archoffeiriad a Matthathias a Iudas ei ddau * 1.270 feibion, gwedy eu gwahodd gan Ptolomaeus mab Abobus yr hwn a briodase ferch Simon, yn ôl iddynt fwytta ac yfed yn ddwys, a laddwyd yn fradychus gan Ptolomæus eu cyfathrachwr ei hun. Oni buase ymroi o'r Israeliaid i ormod moethau, ni buasent wedi cwympo mor fynych i ddelw-addoliad: ac nid ymroen ninnau heddyw * 1.271 yn gymmaint i ofergoel, oni bai faint gennym am lenwi ein boliau.

Pan oedd yr Israeliaid yn gwasanaethu del∣wau, hwy a eisteddent i fwytta ac i yfed, ac a gy∣fodent * 1.272 i fynu i chwarau, fel y dywed yr Scrythur. Felly wrth chwennych gwasanaethu eu boliau, hwy a ymadawsant â gwasanaeth yr Arglwydd eu Duw. Felly y tynnir ninnau i gyttuno ag annuwioldeb, pan fo 'n calonnau wedi eu gorch∣fygu a meddwdod a gwledda.

Felly Herod, pan oedd wedi rhoi ei feddwl ar wledda, a fu fodlon gantho ar ddeisyfiad merch ei * 1.273 buttain, ganniatau torri pen sainctaidd ŵr Duw, Ioan feddyddiwr. Oni buase fod y glŵth cyfoe∣thog * 1.274 mor awyddus i lenwi ei fola, ni buasei mor an-nrhugarog wrth Lazarus dlawd, ac ni buasei raid iddo oddef poenau tân anniffoddadwy. Am ha achos y cospodd Duw Sodom a Gomorrha mor * 1.275 echrydus? Ond am eu balch-wledda a'u gwastadol seguryd, y rhai a wnaeth iddynt fod

Page 197

mor ddrŵg eu bywyd, ac mor an-nrhugarog wrth y tlawd?

Pa beth a dybygwn ni bellach am ormodedd, trwy'r hwn y daeth llawer i ddistryw? Alexander mawr wedi iddo orchfygu yr holl fŷd, a orchfy∣gwyd yntef gan feddwdod, yn gymmaint ac y lla∣dodd ef, ac ef yn feddw, ei gyfaill ffyddlon Clitus, am yr hyn pan aeth ef yn ddifeddw, y cywilyddi∣odd yn gymmaint ac yr ewyllysiodd iddo ei hun farwolaeth o wir ofid calon. Er hynny ni phei∣diodd ef a gwledda, ond mewn vn noswaith fe a lyngcodd cymmaint o win, ac a'i dûg ef i * 1.276 gryd tôst, a phan na fynnai mewn modd yn y bŷd ym∣attal odoiwrth wîn, am ben y chydig ddyddiau fe a ddiweddodd ei oes mewn modd grcsynol. Dyna orchfygwr yr holl fy▪d wedi ei wneuthur yn gaeth∣was trwy ormodedd, ac mor wallgofus ac y lla∣ddai ei gyfaill anwyl, ac a'i plagwyd ef â thrist∣wch, cywilydd a gofid calon am ei anghymmed∣rolder a'i ormodedd, etto ni ddichon ef ymadel â'i fai, ond mae efe mewn caethiwed, a'r hwn o'r blaen a orchfygodd lawer, sydd wedi myned yn awr yn gaethwas i'r bola brwnt.

Felly y mae y meddwon a'r rhai glwth heb allu ganthynt arnynt eu hunain, a pha mwyaf a y∣font, mwyaf fydd eu syched: mae 'r naill gyfeddach yn annog y llall: ac maent yn myfyrio ar lenwi eu cyllau awyddus. Am hynny y dywedir yn gy∣ffredin, Ni bydd meddw byth disyched, ac Byth ni lenwir bola'r glwth.

Gwir yw na ellir digoni a bodloni chwantau a thrachwantau calon dyn, ac am hynny rhaid i ni ddyscu eu ffrwyno hwy ag ofn Duw, fal nad ymroddom i'n chwantau ein hunain, rhag, i ni

Page 198

ennynnu digofaint Duw yn ein herbyn, wrth geisio cyflawni ein trachwantau anifeiliaidd. Mae S. Paul yn ein dyscu ni Pa vn bynnag a wnelom ai bwytta ai yfed, neu beth bynnag a * 1.277 wnelom, ar i ni wneuthur y cwbl er gogoniant i Dduw. Lle y mae efe yn appwyntio megis wrth ddogn a mesur, pa gymmaint a ddylei ddŷn ei fwyta neu ei yfed, hynny yw, cymmaint ac na wneler y meddwl yn ddiog wrth ymlenwi ar fw∣yd a diod, fel na allo ymdderchafu i ogoneddu ac i foliannu Duw.

Pwy bynnag gan hynny wrth yfed a'i gwnel ei hun yn anescud i wasanaethu Duw, na thyby∣ged y diangc ef yn ddigosp. Chwi a glywsoch mor gas ac mor wrthwyneb gan yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei greaduriaid, fel y mae efe ei hun yn dangos, cystal wrth ei sanctaidd air, a si∣amplau ofnadwy ei gyfiawn farn. Yn awr oni ddichon na gair Duw attal ein chwantau afrad∣lon, a'n trachwantau awyddus ni; na siamplau ofnadwy dialedd Duw, ein hofni ni oddiwrth anllywodraethus ormodedd bwytta ac yfed: etto ystyriwn yr aml eniweidiau sydd yn tyfu o hynny, felly y cawn adnabod y pren wrth ei ffrwyth.

Mae fe yn clwyfo 'r corph, yn mallu 'r meddwl, yn treulo'r golud ac yn blino 'r cymydogion.

Ond pwy a ddichon draethu yr aml beryglon a'r eniweidion sydd yn canlyn o ymborthi yn anghym-mhedrol? yn fynych y daw angau dysy∣fyd wrth wledda; weithiau yr ymollwng yr holl aelodau, fel y dygir yr holl gorph i gyflwr blin. Mae 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn anfesu∣rol, yn ennynnu yn fynych y fâth wrês annatu∣riol yn ei gorph, fel yr annog hynny ei chwant ef i

Page 199

chwennychu mwy nag a ddylyei; neu yn* 1.278 gor∣meilo ei gylla ef, ac yn llenwi ei gorph ef yn llawn diogi, ac yn ei wneuthur yn anescud ac yn ang∣hym-mhesur i wasanaethu na Duw na dŷn, heb borthi'r corph, ond ei ddrygu; ac yn dwyn llawer o glefydon afiachus, o'r rhai y tŷfweithiau angau diobaith.

Ond pa raid i mi ddywedyd ychwaneg yn hyn o beth? O blegid oni fendichia Duw ein bwy∣dydd ni, a rhoi iddynt rym i'n hymborth ni: a he∣fyd oni rydd Duw rym i'n naturiaeth ni i dreulo ein bwyd▪ fel y gallom gael lles oddiwrthynt, naill ai ni a'u bwriwn hwy i fynu, ai ynte hwy a ddrew∣ant, yn ein cyrph ni megis mewn pwll neu sodd∣fa ddrewllyd, ac felly y llygrant ac a difwynant yr holl gorph.

Ac yn siccr mae bendith Dduw ym-mhelloddi∣wrth y rhai a arferant wledda mor anllywodra∣ethus, fal y mae yn fynych yn eu hwynebau ar∣wyddion eglur o'u hafradionrwydd hwy: fel y dy∣wed Salomon yn ei ddiarhebion: I bwy (medd ef) y mae gwae? I bwy y mae ochain? I bwy y * 1.279 mae cynnen? I bwy y mae dadwrdd? I bwy y mae clwyfau heb achos? ac i bwy y mae llygaid cochion? sef i'r rhai a drigant yn hir yn y gwin. Ystyriwch adolwg arwyddion dig Duw: gwae, ochain, cynnen, a dadwrdd, clwyfau heb achos, wyneb anniwygus, a chochineb llygaid sydd yn dyfod i'r rhai a'u rhoddant eu hunain i ormodedd ac i draflyngcu, gan ddychymmygu pob modd i gynnyddu eu chwantau awyddus, gan dymmhe∣ru 'r gwin a'i gymmyscu, fel y gallo fod yn felu∣sach ac yn foethusach iddynt.

Fe fydde dda pe cymmere y fath ddynion moe∣thus

Page 200

eu rheoli gan Salomon, yr hwn o blegid yr afles y sydd yn dyfod oddiwrtho, a waharddodd * 1.280 edrych ar win. Nac edrychwch, medd ef, ar win pan fytho côch, a phan ddangoso ef ei liw yn y phi∣ol, neu pan êl efe i wared yn felys: yno yn y di wedd fe a frath fel sarph, ac a biga fel gwiber: dy∣lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd: ti a fyddi megis vn yn cyscu ynghenol y mor, ac fel vn yn cyscu ym-mhen yr hwylbren: pan y'm curent, meddi, ni chlefychais, pan y'm ffustent nis gwybûm, pan ddeffroaf mi âf rhagof ac a'i ceifiaf drachefn. Mae 'n rhaid bod hwnnw yn ddrŵg yr hwn sydd yn brathu ac yn pigo fel gwiber wenwynllyd, trwy 'r hwn y tynnir dynion i odineb brwnt, yr hwn sydd yn pe∣ri i'r galon ddychymmyg melldith. Diammau fod yr hwn sydd yn cyscu ynghanol y mor mewn perigl mawr, canys ebrwydd y gorchguddir ef ô'r tonnau. Mae'r hwn sydd yn cyscu ym-mhen yr hwylbren yn debyg i gwympo yn ddisymmwth. A phwy bynnag, ni chlywo pan darawer ef, ac ni wybydd pan gurer ef, y mae efe wedi colli ei synhwyrau yn gwbl.

Felly mae glothineb a meddwdod yn pigo 'r bo∣la, yn peri cnofa wastadol yn y cylla, yn dwyn dy∣nion i butteindra ac aflendid calon, a pheriglon an-nhraethadwy: fel yr ydys yn difuddio ac yn yspailio dynion o 'u synhwyrau, megis nad oes ganthynt ronyn gallu arnynt eu hunain.

Pwy bellach ni wŷl y cyflwr blin y dygir dyni∣on iddo gan yr anghenfilod anferth ymma, Glo∣thineb a meddwdod. Maent hwy yn aflonyddu 'r corph yn gymmaint, fel y mae Iesu fab Syrach yn dywedyd nad ydyw 'r bwyttawr mawr yn cys∣cu

Page 201

yn esmwyth vn amser, yr ydys yn ennynnu * 1.281 y▪nddo y fâth wrês anfeidrol, o'r hwn y canlyn gwastadol wayw a phoen trwy 'r holl gorph.

Ac nid llai hefyd y drygir y meddws trwy or∣mod gwledda: o herwydd weithiau yr ydys yn taro dynion ag ynfydrwydd meddwl, ac yn eu dwyn i wallgofi: mae rhai yn myned mor anifei∣liaidd ac mor drymfryd, fel y maent yn hollawl yn myned yn ddiddeall ac yn ddibwyll. Peth * 1.282 echrydus yw i neb ei anafu ei hun mewn vn aelod o'i gorph, ond peth anrhaith ei oddef yw i ddŷn o'i wir fodd i yrru ei hun allan o'i gôf.

Mae 'r Prophwyd Osee yn y bedwaredd ben∣nod yn dyŵedyd, fod meddwdod a gwin yn dwyn * 1.283 y galou ymmaith. Och, i neb ymroi i'r hyn a ddŵg ei galon ef o'i feddiant. Gwîn a gwragedd, medd Iesu fâb Syrach, sydo yn gyrru doethineb ar encil. Ie mae efe yn gofyn beth yw einioes yr * 1.284 hwn a orchfyger gan wîn. Chwerwder meddwl yw 'r gwin a y fer llawer o hono, ac fe a chwane∣ga ddig a thrangwydd. Mewn llywodraethwyr y mae yn d wyn creulondeb yn lle cyfiawnder, fel y canfu y philosophydd call Plato yn ddigon da, * 1.285 pan ddywedodd ef fod mewn dŷn meddw galon greulō, ac am hynny y llywodraetha ef yn y modd y mynno, yn erbyn rheswm ac iniondeb.

Ac yn siccr mae meddwdod yn gwneuthur i ddŷn anghofio cyfraith ac iniondeb, a hynny a wnaeth i frenhin Salomon orchymmyn yn ga∣led na roddid dim gwîn i lywodraeth-wŷr, rhag iddynt yfed ac ebrgofi 'r gyfraith, a chyfne widio barn y rhai gorthrymmedig. Ac am hynny o'r holl ddynion, y mae yfed gormodd dwin yn an∣rhaith ei oddef mewn llywodraethwr neu ŵr o

Page 202

awdurdod, fel y dyweid Plato: o blegid ni wyr meddwyn pale y mae efe ei hunan. Am hynny os meddwa gŵr o awdurdod, och pa fodd y bydd efe arweinydd i eraill, ac yn rhaid iddo wrth vn i'w arwain ei hunan?

Hefyd, ni feidr dŷn meddw gadw cyfrinach: a llawer gair diffaith, ynfyd, lledffrom a ddywed dynion pan fônt yn eu gloddest. Mae meddwdod, medd Seneca, yn dynoethi pob drygioni, ac yn ei ddwyn i oleuni: mae yn troi heibio bob cywi∣lyddgarwch, * 1.286 ac yn cynnyddu pob anwiredd. Y balch pan so meddw a adrodd ei falchder, y creu∣lon ei greulonder, y cenfigennus ei genfigen, me∣gis na ellir cuddio vn bai mewn meddwyn.

Hefyd, am nad yw yn ei adnabod ei hun, y mae efe yn bloesci yn ei ymadrodd, yn trangwyddo yn ei gerddediad, heb allu edrych ar ddim yn wastad â'i lygaid rhythion, mae fe yn credu fod y tŷ yn troi yn grwn o'i amgylch. Y mae 'n eglur fod y meddwl yn myned ym-mhell o'i le, wrth yfed gormodd, megis pwy bynnag a dwyller gan wîn neu ddiod gadarn, mae yn myned; fel y dywaid Salomon, yn watwarwr, yn wallgofus, ac ni all byth fod yn ddoeth. Os bydd neb yn tybied y * 1.287 gall ef yfed llawer o win, a bod yn dda yn ei gof, fe all feddwl yn gystal, medd Seneca, na bydd efe marw er iddo yfed gwenwyn. O blegid pale byn∣nag y byddo gormodd yfed, yno mae yn rhaid bod trallod meddwl, a lle y llanwer y bola a bwyd moythus, mae 'r meddwl wedi ei orthrymmu a diogi segurllyd. Mae bola llawn, medd Saint Bernard, yn gwneuthur y deall yn bŵl, a llawer * 1.288 o fwyd yn gwneuthur meddwl hwyr drwm.

Ond, ôch, yn y dyddiau hyn nid gwaeth gan

Page 203

ddynion am eu cyrph na 'u heneidiau; os cânt o∣lud bydol a chyfoeth ddigon i gyflawni eu chwan∣tau anfesurol, nid gwaeth genthynt beth a wne∣lont. Ni bydd arnynt gywilydd dangos eu hwy∣nebau meddwon, a chwareu 'r ynfydion yn gy∣hoeddus. Maent yn tybied eu bod mewn stât dda, a bod pob peth yn dda, nes eu gwascu hwy â phrinder ac â thlodi.

Am hynny rhag ofn i neb o honom, trwy am∣ledd ei gyfoeth, gymmeryd achos i'w wenhieithio ei hunan yn y gormodedd anifeiliaidd hwn, co∣fiwn yr hyn a scrifenna Salomon, y neb a garo * 1.289 wledda a ddaw i dlodi, a'r neb a garo win ni bydd cyfoethog. Ac mewn man arall y mae efe yn rhoi gorchymmyn caled, yn y modd hyn, Na fydd vn o'r rhai sydd yn meddwi ar wîn, nac vn o'r rhai * 1.290 glythion ar gig, canys y meddw a'r glŵth a ddeu∣ant i dlodi. Yr hwn sydd yn gollwng ei etifeddi∣aeth ar hŷd ei gêg, ac yn bwytta ac yn yfed mwy mewn vn awr neu vn diwrnod, nag a allo efe ei ennill mewn wythnos gyfan, ni all na bo ef afra∣dus, ac na ddêl i dlodi.

Ond fe ddywaid rhyw vn, pa raid i neb feio ar hyn? Nid yw efe yn drygu neb, ond ei hun, nid yw efe elyn i neb ond iddo ei hun. Yn wir mi a wn mai dymma hyn a ddywedir yn gyffredinol i amddiffyn y rhai glwth afradlō, anifeiliaidd hyn: ond mae yn hawdd gweled mor niweidiol ydynt, nid yn vnig iddynt eu hunain, ond, trwy eu siam∣plau drŵg, i'r holl wlâd hefyd. Pob vn a gyfar∣fyddo â hwynt a drallodir ag ymadroddion terfys∣cus, ymrysongar: ac maent hwy weithiau yn eu gwyniau anllywodraethus, megis meirch por∣thiannus yn gweryru ar wragedd eu cymmydo∣gion,

Page 204

fel y dywed Ieremi, ac yn difwyno eu plant a'u merched.

Mae eu siampl hwy yn ddrŵg i'r rhai y maent yn aros yn eu mysc, maent yn achos tramgwydd i lawer, a'r hŷd y bônt hwy yn treulo eu golud mewn cyfeddach a gloddest, mae diffygion pethau anghenrheidiol ar eu tylwyth hwy, mae eu gw∣ragedd a'u plant yn ddigymmorth, nid oes gan∣thynt fodd i gynnorthwyo eu cymmydogion tlo∣dion yn eu hangen, megis y galle fod ganthynt, pe byddent fyw yn sobr. Maent yn anfuddiol i'w gwlâd. O blegid nid yw meddwyn gymmhesur nac i lywodraethu nac i fod tan lywodraeth. Ma∣ent hwy yn warth i Eglwys a chynnulleidfa Ghrist, ac am hynny y mae S. Paul yn eu hes∣communo hwy ym-mhlith putteinwyr a delw∣addolwyr, cybyddion a chribddeilwyr, gan wa∣hardd i Gristionogion gydfwyta gydâ 'r cyfryw¦ddynion.

Am hynny, bobl ddaionus, gwachelwn bawb o honom, bob anghymmedrolder, carwn sobredd a chymmhedrol ymborth, ymrown yn fynych i ddirwest ac ympryd, trwy 'r hyn y derchesir me∣ddwl dŷn yn gynt at Dduw, ac yn barottach i bob gweithredoedd duwiol, megis gweddio, gwran∣do a darllein gair Duw, er ein diddanwch yspry∣dol. Yn ddiwethaf pwy bynnag a ofalo am iechyd a diogelwch ei gorph ei hun, ac a ddymuno bod yn wastad yn ei iawn gôf, neu a chwennycho lony∣ddwch meddwl, ac a gashao gynddaredd ac ynfy∣drwydd, a fynno bod yn gyfoethog a diangc rhag tlodi, a fo ewyllysgar i fyw heb ddrygu ei gym∣mydogion, a bod yn aelod buddiol o gorph ei wlâd, ac yn Gristion heb gywilyddio Christ a'i

Page 205

Eglwys: gwacheled bob anllywodraethus an∣ghymmhedrol gyfeddach, dysced y fath fesur ac sydd weddus i vn a fo 'n proffesso gwir dduwiol∣deb, canlyned reol S. Paul, ac felly bwyttaed ac yfed i ogoniant a moliant Duw, yr hwn a greodd bob peth i'w mwynhau mewn sobredd a diolch garwch, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn dillad rhy-wychion.

LLe y darfu eich annog chwi o'r blaen i arfer cymmhedrolder a chymmhesurwydd o fwyd a di∣od, ac i wachelyd gormodedd, am ei fod lawer modd yn drygu stât y wlâd, ac mor gâs ger bron yr Holl-alluog Dduw, yr hwn yw awdur a rhoddwr y creaduriaid hynny i ddi∣ddanu ac i gryfhau ein naturiaeth wan ni, trwy ddiolch iddo ef, ac nid wrth eu camarfer hwy i annog haelioni Duw i 'n cospi ni 'n dôst am y fath anllywodraeth.

Mae yn weddus yr vn modd eich rhybyddio chwi am ormodedd brwnt treulfawr arall: am ddillad yr wyfi yn meddwl, y rhai y dyddiau hyn sydd gwedi myned mor anfesurol, na ddichon na'r Holl-alluog Dduw trwy ei air attal ein balch dragofal niyn hyn o beth, na chyfreithiau duwi∣ol anghenrheidiol ein tywysogion y rhai a adro∣ddir yn fynych tan gospedigaeth, ffrwyno 'r an∣llywodraeth ffiaidd ymma, trwy 'rhwn y dirmy∣gir Duw yn amlwg, ac yr anufyddheir cyfreithi∣a'u

Page 206

tywysogion, i fawr * 1.291 enbeidrwydd y deyrnas.

Am hynny fel y gweler yn ein mysc ni sobrwydd yn y gormodedd ymma hefyd, mi a ddangosaf i'wch beth yw cymmhedrol arfer dillad yr hwn y mae sanctaidd air Duw yn ei gynnwys; a hefyd beth yw eu camarfer hwy, yr hwn y mae efe yn ei wahardd: fel y mae yn eglur wrth y niweidiau sydd beunydd yn cynnyddu, trwy gyfion farn Duw, lle na chedwer y mesur a osododd ef ei hun.

Os ystyriwn er mwyn pa fwriad a defnydd yr ordeiniodd Duw ei greaduriaid ni a allwn ddeall yn hawdd ei fod ef yn camattau i ni ddillad, nid yn vnig er mwyn anghenrhaid, ond hefyd er mwyn gweddeidd-dra cymmesurol. Megis mewn llysiau, coed ac amryw ffrwythau y mae nid yn vnig lawer o fwyniant anghenrhaid, ond hefyd golwg hyfryd ac aroglau peraidd i'n bod∣loni ni.

Yn hyn y gallwn weled mawr gariad Duw tu∣ag at ddynion am iddo ddarparu pethau i gynhor∣thwyo ein hanghenrheidiau, ac i ddiddanu ein synhwyrau ni â diddanwch honest gweddaidd. Am hynny y mae Dafydd yn y 104. Psalm gan * 1.292 gyfaddef rhagddarparaeth Duw, yn dangos nad ydyw efe yn vnig yn darparu pethau anghenrhei∣diol megis llysiau a bwydydd eraill, ond hefyd y cyfryw bethau ac a lawenychant ac a ddiddanant megis gwin i lawenychu 'r galon, ac olew i beri i'r wyneb ddiscleirio. Am hynny y maent hwy gwedy myned ym-mhellach na thersynau dynol y rhai a waharddant gyfraithlon fwynhau doni∣au Duw ond yn vnig mewn anghenrheidiau.

Ni chanlynwn ni draddodiadau y rhâi hyn, os ni a wrandawn ar S. Paul, yr hwn wrth feri∣fennu

Page 207

at y Colossiaid, sydd yn erchi iddynt na * 1.293 wrandawont ar y rhai a ddywedant, Na chy∣ffwrdd, na phrawf, na theimla, gan eu difuddio hwy yn goel-fuchedol o fwyniant creaduriaid Duw.

Ac nid dim llai y dylem ni wachelyd rhag i ni yn rhith Christianogawl rydd-did, gymmeryd rhydd-did i wneuthur y peth a fynnom, gan ym∣hoywi mewn dillad rhy werthfawr, a diystyru eraill, a'n parottoi ein hunain mewn gwychder hoyw i ymddygiad nwyfus, drythyll, drygionus ac anniwair. Er mwyn gwachelyd yr hyn beth fe fydde dda i ni ddyscu pedair gwers y rhai a ddy∣scir yn yr Scrythur lân, wrth y rhai y gallwn ddyscu ein tymmheru ein hunain, ac attal ein hanghymmedrol naws yn y mesur a ordeini∣odd Duw.

Y gyntaf yw, Na bytho ein gofal tros y cnawd * 1.294 er mwyn porthi ei chwantau, mewn dillad gwy∣chion, megis y gwnaeth y buttain am yr hon y dy∣waid Salomon iddi bereiddio ei gwely, a'i drw∣sio â thlysau gwerthfawr yr Aipht, er mwyn cy∣flawni * 1.295 ei chwantau melldigedig: ond ni a ddylem yn hytrach wrth gymmhedrol gymmhesurwydd dorri ymmaith bob achosion trwy y rhai y gallai y cnawd gael yr oruch afiaeth.

Yr ail sy scrifennedig gan S. Paul yn y 7. ben∣nod o'i Epistol cyntaf at y Corinthiaid, lle mae * 1.296 efe yn dyscu i ni arfer y bŷd hwn megis pe byddem heb ei arfer. Trwy 'r hyn y mae efe yn torri ym∣maith nid yn vnig bob vchelfryd, balchder, a gwâg hoywder mewn dillad: ond hefyd pob tra∣gofal ac anghymmedrol naws, yr hwn sydd yn ein tynnu ni oddiwrth fyfyrio ar bethau nefol,

Page 208

ac ystyried ein dlêd tu ag at Dduw. Ni all y rhai sydd yn ymdrafferthu cymmaint mewn gofal am bethau a berthynant i 'r corph, na byddont ond odid esceulus a diofal am bethau a berth yn i'r en∣aid. Am hynny mae 'n Iachawdwr Christ yn gorchymmyn i ni na ofalom am ein bwyd, pa beth * 1.297 a fwyttaom, nac am ein diod pa beth a yfom, nac am ein cyrph pa beth a wiscom; eithr yn gyntaf ceisio o honom deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef. Wrth hyn y gallwn ddyscu gwachelyd gwneu∣thur y pethau hynny yn rhwystr ac yn dramg∣wydd i ni, y rhai a ordeiniodd Duw yn ddidda∣nwch i ni, ac er ein cynnorthwyo tu â theyrnas nef. Y drydedd yw, ar i ni fod yn fodlon i'n stât a'n galwedigaeth, ac ymfodloni yn yr hyn a ddanfono Duw i ni, pa vn bynnag fytho ai ychydig ai llaw∣er. Yr hwn ni bo bodlon i drwsiad gwael yscafn∣bris, fe fydde falch o ddillad gwychion pe galle eu cael. Am hynny mae 'n rhaid i ni ddyscu gan yr Apostol S. Paul, yn gystal fwynhau helaeth∣rwydd, a goddef prinder, gan gofio y gorfydd ar∣nom roddi cyfrif * 1.298 am y pethau a dderbyniasom, a hynny i'r hwn sydd ffiaidd gantho bob gormo∣dedd, balchder, ymffrost ac oferwagedd, yr hwn hefyd sydd yn cashau yn hollawl ac yn anfodlon i bob peth ac sydd yn ein tynnu ni oddiwrth ein dlêd tu ag at Dduw, neu yn prinhau ein cariad ni tu ag at ein cymydogion, a'n plant, y rhai a ddylem ni eu caru fel ein hunain.

Y bedwaredd wers a'r ddiwethaf yw bod i bob dyn edrych ac ystyried ar ei alwedigaeth ei hun, yn gymmaint a darfod i Dduw appwyntio i bob dŷn ei radd a'i swydd, yr hon y dyleuai ei ga∣dw ei hun o fewn ei therfynau. Am hynny ni

Page 209

ddylei bob dyn edrych am gael gwisco 'r vn fath drwsiad, ond pob vn yn ôl ei radd, yn y modd y go∣sododd Duw ef. Yr hyn drefn pe cedwid hi yr am∣ser ymma, diammau y gwneid i lawer wisco di∣llad llwydion, o'r rhai sy yn ymhoywi mewn si∣dan a melfed, gan dreulio mwy yn y flwyddyn mewn dillad gwychion, nagyr oedd eu tadau yn ei dderbyn am holl ffrwyth eu tiroedd.

Ond heddyw, ôch pa sawl vn a allwn ni ei we∣led yn ymroi yn gwbl i hoffder y cnawd? heb o∣falu vn gronyn, ond yn vnig ymwychu, gan o∣sod eu holl awydd yn gwbl ar wychder a hoyw∣der bydol, a chamarfer daioni Duw sydd yn dan∣fon iddynt helaethrwydd, i gyflawni eu drythyll wyniau a'u chwantau, heb ystyried ym-mha radd y gosododd Duw hwynt. Yr oedd yr Israeliaid yn fodlō i'r dillad a roddase Dduw iddynt, er nad oeddynt ond gwael a diystr: ac am hynny Duw a 'u bendithiodd hwyntau yn gymmaint, fel y parhaodd eu hescidiau hwy a'u dillad heb dreu∣lio * 1.299 ddeugain mhlynedd, ie ac yr ydoedd y plant yn foddlon i wisco 'r vn dillad ac a wiscasai eu tadau o'r blaen. Ond nid ydym ni byth bodlon, ac am hynny nid oes dim yn tyccio gennym, yn gym∣maint, ond odid, a bod yr hwn sydd yn ymhoywi yn ei Sabl a'i ŵn ffwrr hardd, ei escidiau corc, ei soccysau gwychion, ei ddyrnfolau clydion, yn ba∣rottach i fferru gan anwyd, na▪ 'r llafurwr tlawd yr hwn a all aros yn y maes trwy 'r hirddydd, a'r gogleddwynt yn chwythu, ac ychydig ddillad * 1.300 candryll carpiog yn ei gylch.

Mae n' anhawdd gennym ni wisco y pethau a adawodd ein tadau i ni, nid ydym ni yn tybieid mai difai y rhai hynny i ni. Rhaid i ni gael vn

Page 210

gŵn y dydd ac vn arall y nôs, vn llaes ac vn cwtta, vn y gayaf ac vn arall yr hâf, vn a dwbl drwyddo ac vn arall wedi wynebu ei ymmylau yn vnig, vn ddydd gwaith ac vn arall ddydd gŵyl, vn o'r naill liw ac vn arall o liw arall, vn o frethyn ac vn a∣rall o sidan neu ddamasc. Rhaid ini gael amryw wiscoedd, vn cyn ciniaw, ac vn arall gwedi cini∣aw, vn ar ddull ac arfer Hispaen ac vn arall o ar∣fer Twrci: ac ar ychydig eiriau, ni byddwn ni byth bodlon i'r hyn sydd ddigon.

Mae ein Iachawdwr Christ yn erchi i'w ddis∣cyblon na feddiannent ddwy bais, ond mae y rhan fwyaf o ddynion yn annhebyg iawn i'w ddiscyblon ef, a'u cwppyrddau mor llawn o ddi∣llad, ac na wyddant pa sawl gwisc y sydd gan∣thynt. Yr hyn a barodd i S. Iaco gyhoeddi 'r fell∣dith erchyll hon yn erbyn goludogion bydol: Iddo yn awr chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch * 1.301 am eich trueni a ddel arnoch: eich golud a by∣drodd, a'ch gwiscoedd, bwyd pryfed ydynt. Moe∣thus fuoch ar y ddayar a thrythyll: maethrin eich calon a wnaethoch megis yn-nŷdd lladdedigaeth.

Ystyriwch adolwg, mae S. Iaco yn eu galw hwy yn druain er eu holl gyfoeth ac amledd eu dillad, gan eu bod yn brasau eu cyrph i'w distryw eu hunain. Beth a fu y glwth goludog gwell er ei fwyd dainteithiol moethus, a'i ddillad gwerthfawr? Oni phorthodd ef ei hun i gael ei boeni yn-nhân vffern? Dyscwn ninnau ymfo∣dloni os * 1.302 bydd gennyn ymborth a dillad, fel y mae * 1.303 S. Paul yn dyscu, rhag wrth chwennychu ym∣gyfoethogi i ni syrthio i brofedigaeth ac i faglau diafol, ac i lawer o drachwantau angall eniwei∣diol y rhai sydd yn boddi dynion i golledigaeth a distryw.

Page 211

Yn wir mae y rhai a ymhoffant mewn dillad gwychion wedi ymchwyddo a balchder, ac yn llawn o amryw wagedd ac oferedd. Felly yr oedd merched Sion a phobl Ierusalem, y rhai y mae 'r prophwyd Esai yn eu bygwth am eu bod yn rhodio â gyddfau estynnedig, ac yn amneidio a'u llygaid, ac yn rhygyngu wrth gerdded, ac yn try∣stio â'u traed, y clafriai'r Holl-alluog Dduw go∣ronau * 1.304 pennau merched Sion, ac y dynoethai ef eu gwarthau hwynt. Y dydd hwnnw, medd ef, y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn eich escidiau, y rhwyd-waith hefyd a'r lloerawg wiscoedd, y per∣arogl, a'r breichledau, a'r moledau, y penguwch, a'r llodrau, a'r snodennau, a'r dwyfronnegau, a'r clust-dlysau, y modrwyau ac addurn-wisc y trwyn, y gwiscoedd symmudliw, a'u hefysau, y misyrnau hefyd a'r pyrsau, y drychau hefyd a'r lliain mein∣wych, y coccyllau hefyd a'r gynau. Fel na oddefai yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei ddoniau mewn ofer-wagedd a thrythyllwch, na oddefai gan y bobl yr oedd ef yn ei garu yn fwyaf, ac a ddarfuase iddo eu dewis iddo ei hun o flaen pawb eraill.

Ac yn wir nid llai yr ofer-wagedd a arferir yn ein mŷsc ni y dyddiau hyn. O blegid yr ydys yn maentaeno ac yn cynnal calonnau vchelfryd beil∣chion merched Prydain, â chynnifer dull anwe∣ddaidd o drwsiadau gwychion gwerthfawr, fel nad oes, megis y dywede yr hên Athro Tertulian, wahaniaeth mewn dillad rhwng modryb honest a phuttain gyffredin. Ie mae llawer gwr gwedi gwraigeiddio cyn belled, na waeth genthynt beth a dreuliont i'w hanffurfio eu hunain, gan chwennychu gwagedd newydd, a dychymmyg beunydd bob mâth ar ddull newydd. Am hynny

Page 212

pan oedd rhyw wr yn amcanu gwneuthur lluni∣au gwŷr pob gwlâd yn eu dillad arferedig, gwedi iddo baentio cenhedloedd eraill, fe a wnaeth lun vn o'r deyrnas hon yn noeth, ac a roddes iddo fre∣thyn tan ei gesail, ac a archodd iddo wneuthur o hono y dull o fynne ei hunan ar ddillad: o blegid yr oedd ef yn newid ei ddull ar ddillad mor fy∣nych, ac na wyddai ef pa fodd y gwnai iddo ddi∣llad. Fel hyn yr ydym ni a'n dychymmygion wrth ein phansi yn ein gwneuthur ein hunain yn watwargerdd i bobl eraill. Yr hyd y bytho vn yn treulo ei dreftadaeth ar gerfiadau a thorria∣dau, vn arall yn rhoi mwy am grŷs i ddawnsio ynddo, nag a wasanaethai iddo i brynu dillad gweddaidd, syber i'w holl gorph. Mae rhai yn rhoddi eu holl olud am eu gyddfau mewn rwffi∣au. Mae eraill yn anturio 'r cymmal gorau i'w maentaenio eu hunain mewn dillad gwychion. A phob dyn heb ystyried ei stât a'i radd ei hun yn ceisio rhagori ar ar all mewn dillad gwychion.

O hynny y mae yn digwydd ein bod ni, mevon amledd a helaethrwydd o bob peth, yn cwyno gan wall a phrinder ac eisiau, yr hyd y bytho vn yn treulio 'r hyn a allai wasanaethu i lawer, ac nad oes neb yn cyfrannu o'r helaethrwydd a dder∣byniodd, ond pawb yn treulio yn anfesurol yr hyn a ddyleuai wasanaethu i gyflawni angheni∣on eraill.

Fe a ddarparwyd llawer o gyfreithiau iachus daionus yn erbyn y fath gamarferon, y rhai pe bai bob deiliad cywir yn eu cadw megis y dylent, a allent wasanaethu i leihau peth ar yr ynfyd a'r anllywodraethus ormodedd ymma mewn dillad. Ond ôch ôch nid oes yn ymddangos yn ein plith

Page 213

ni ond rhy fychan o ofn ac vfydd-dod nac i Dduw nac i ddyn.

Am hynny ni allwn na ddisgwiliom am ofna∣dwy ddial Duw o'r nef, i ddymchwelyd ein rhyfyg ni a'n balchder, megis y cwympodd ef Herod, yr hwn ac yntef yn ei drwsiad brenhinol, am iddo anghofio Duw, a darawyd gan Angel o'r nef, ac a ysswyd gan bryfed. Trwy 'r siampl erchyll honno * 1.305 y dangasodd Duw i ni nad ydym ond bwyd pry∣fed er maint yr ymhoffom ac yr ymddigrifom yn ein trwsiadau gwychion. Ymma y gallwn ddys∣cu hyn y mae Iesu fâb Sirach yn ei ddangos, nad ymfalchiom o blegid ein gwiscoed dillad, ac nad * 1.306 ymdderchafom mewn amser anrhydedd, o blegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a gogo∣neddus, a dirgel, a chuddiedig oddiwrth ddynion: gan ein dyscu ni mewn gostyngeiddrwydd me∣ddwl i gofio ein galwedigaeth yr hon y galwodd Duw ni iddi.

Am hynny ymegnied pob Christion i ddiffodd gofalu am fedloni'r cnawd: arferwn felly ddoniau Duw yn y bŷd hwn, fal na byddom rhy ofalus i ddarbod am y corph. Ymfodlonwn yn llonydd i'r hyn a ddanfonodd Duw er lleied fytho. Ac os rhynga bodd iddo ef ddanfon helaethrwydd, na falchiwn ynddo, ond arferwn ei ddoniau ef mewn cymmedrolder, cystal er ddianwch i ni ein hu∣nain ac er cymmorth i'r rhai sy mewn angen. Yr hwn mewn amledd a helaethrwydd a guddio ei wyneb oddiwrth y noeth, y mae efe yn diystyru ei * 1.307 gnawd ei hun, medd y prophwyd Esai.

Dyscwn ein hadnabod ein hunain, ac nid diy∣styru eraill. Cofiwn ein bod ni igŷd yn sefyll ger bron mawhydi yr holl-alluog Dduw, yr hwn a'n

Page 214

barna ni wrth ei sanctaidd air, yn yr hwn y mae efe yn gwahardd pob gormodedd, nid yn vnig i wyr, ond i wragedd hefyd. Megis na ddichon neb ei * 1.308 escusodi ei hunan o ba radd neu gyflwr bynnag y bytho. * 1.309 Ymgyflwynwn gan hynny ger bron ei orsedd-faingc ef, fel y'n hannog Tertulian, yn y gwychder a'r addurn y mae 'r Apostol yn sôn am dano yn y chweched bennod at yr Ephesiaid, gwedi gwregysu ein lwynau â gwirionedd, a * 1.310 gwisco dwyfronneg cyfiawnder, a gwisco am ein traed escidiau parotoad efengyl tangneddyf. Cymmerwn attom ddysymldra, diweirdeb, gwe∣ddeidd-dra, gan ostwng ein gyddfau dan iau es∣mwyth Christ. Bydded gwragedd darostyngedig * 1.311 i'w gwŷr, ac dyna hwy gwedi ymddilladu yn wy∣chion ddigon, medd Tertulian.

Pan ofynnwyd i wraig Philo Philosophydd Paganaidd, pa ham nad oedd hi yn gwisco aur, hi a attebodd ei bod hi yn tybied fod rhinweddau ei gŵr yn ddigon o wychder iddi hi. Pa faint mwy y dylai wragedd Christianogaidd a gyfarwyddir gan air Duw ymfodloni yn ei gwŷr? Iepa faint mwy y dylei bob Christion ymfodloni yn ein Ia∣chawdwr Christ, gan dybied ei fod gwedi ei har∣ddu yn ddigonol â'i rinweddau nefol ef?

Ond ymma yr atteb rhyw wragedd ofer gor∣wag, eu bod hwy yn paentio eu hwynebau, yn lli∣wio eu gwallt, yn enneinio eu cyrph, ac yn eu trwsiadu eu hunain â dillad gwychion, er bodloni eu gwyr, er eu gwneuthur eu hunain yn hôsf yn eu golwg hwy, a chynnal eu cariad hwy tu ag at∣tynt. Oh escus gwâg, ac atteb cywilyddus, er gwarth i'ch gwyr? Pa beth a ellid ti ei ddywedyd fwy i ddangos ffolineb dy ŵr yn gwpplach, nà

Page 215

haeru arno ei fod yn ymfodloni ac yn ymhoffi yn∣nhrwsiad diawl? Pwy a ddichon baentio ei hwy∣neb, a chrychu ei gwallt, a newid ei liw naturiol ef, heb iddi wrth hynny feio ar waith ei gwneu∣thurwr a'i gwnaeth hi? Megis pe gallai hi ei gwneuthur ei hun yn weddeiddiach nag yr ap∣pwyntiodd Duw fesur ei thegwch hi.

Pa beth y mae'r gwragedd hyn yn ei wneuthur ond ceisio gwellau gwaith Duw? heb ystyried mai gwaith Duw yw pob peth naturiol, ac mai gwaith diafol yw pob peth annaturiol rhithiedig. Megis pe bai ŵr Christianogaidd call yn hôff gan∣tho weled ei wraig gwedi ymliwio ac ymhoywi yn y dull a arfer putteiniaid fynychaf i hudo eu cariadon i ddrygioni, megis pe gallai wraig honest chwēnychu bôd yn debyg i buttain er mwyn bod∣loni ei gŵr. Nag ê, nag ê, nid ydyw y rai hyn ond escusodion gwâg, a wna y rhai sy yn chwenny∣chu bodloni eraill yn fwy nâ'i gwŷr. Ac nid yw'r fath wychder ond peth i'w hannog i fyned i'w dangos ei hunan er hudo eraill.

Gwych iawn. Rhaid iddi ymryson â'i gŵr i'w chynnal hi yn y fâth drwsiad ac a'i gwnelo hi yn waeth hwswi, a bod yn anfynychach gartref i e∣drych ar ei hwswiaeth, ac felly esceuluso elw ei gŵr, gan annog ei thylwyth yn fawr i oferdraul a drythyllwch, yr hŷd y bô hi yn gwibio allan i ddangos ei gwagedd ei hunan a ffolineb ei gŵr.

Trwy y balchder ymma y mae hi yn cyffroi e∣raill yn fawr i genfigennu, y rhai sy mor orwag eu meddwl a hithau. Nid ydyw hi yn haeddu ond senn a gwatwar wrth osod allan ei holl glôd mewn trwsiad paganaidd Iddewaidd, ac er hyn∣ny ymffrostio o'i chred a'i bedydd. Nid ydyw hi

Page 216

ond treulio yn afradlon olud ei gŵr wrth y fath wychder, ac weithiau mae hynny yn achosion o gam-wobrau, cribddail a thwyll ym-marchna∣don ei gŵr hi, fel y geller ei gosod hi allan yn wych∣ach yngolwg y byd gorwag, i fodloni golwg y cy∣thraul, ac nid golwg Duw, yr hwn sydd yn rhoddi i bob creadur harddwch gweddaidd cymmhedrol, yn yr hyn y dylem ymfodloni pe o Dduw y byddē.

Pa beth yr wyt ti yn ei wneuthur wrth hyn∣ny ond annog eraill i'th demptio, i hudo dy enaid di drwy hudoliaeth dy falchder di a'th ryfyg? Pa beth yr ydwyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond gosod allan dy falchder, ac o drwsiad anweddaidd dy gorph gwneuthur rhwyd i ddiafol i faglu lly∣gaid y rhai a edrychant arnat? O dydiwraig, nid Christianoges, ond gwaeth nag Iddewes, a gwei∣nidoges diafol? Pa ham yr wyt ti yn rhodresu yn gymmaint yn dy gelain gnawd, yr hwn ryw amser a ddrewa ac a bydra yn y ddayar y cerddi di arni? Pa fodd bynnag yr ydwyt ti yn dy arogl∣bereiddio dy hunan, etto ni all na'th beraroglau na'th darthau di na chuddio na gorchfygu dy ani∣feiliaidd-dra di, y rhai sy yn hytrach yn dy anffur∣fio ac yn dy * 1.312 anniwygu di yn fwy nag y maent yn dy harddu.

Pa beth oedd feddwl Salomon pan ddywe∣dodd ef am wragedd gorwag a ymdrwsient ac a ymwychent fel hyn, fod gwraig dêg heb arferon da, yn debyg i fodrwy aur yn - nhrwyn hŵch: ond pa mwyaf yr ymwychech di â 'r gwychder ymma oddi allan, lleiaf y gofeli di am harddu dy feddwl oddifewn, ac felly nad wyt ti ond dy ddif∣wyno a'th anurddo dy hun â'r cyfryw drwsiad, ac nid dy harddu a'th addurno hy hun?

Page 217

Gwrando, gwrando beth y mae sanctaidd Apo∣stoliō Christ yn ei scrifennu. Na fydded trwsiadau gwragedd oddiallan, medd S. Petr, megis o ble∣thiadau gwâllt ac amgylch osodiad aur neu wisco dillad gwychion, eithr bydded ddirgel ddŷn y ga∣lon mewn anllygredigaeth, yspryd addfwyn a llonydd, yr hyn sydd gymmeradwy ger bron * 1.313 Duw: canys felly gynt yr ymdrwsiai y gwra∣gedd sanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedîg i'w gwŷr priod. Ac mae S. Paul yn dywedyd y dylei wragedd eu dilla∣du eu hunain yn weddus gyd â lledneisrwydd a * 1.314 cymmhesurwydd, nid â gwâllt plethedig, neu aur neu emmau neu wisc werth-fawr, eithr megis y gweddai i wragedd fynegi duwiolder trwy wei∣thredoedd da.

Oni chedwch orchymmynion yr Apostolion, etto gwrandewch beth a ddywed y Paganiaid y rhai nid adwaenent Grist, yn y peth hyn. Demo∣crates sydd yn dywedyd fod harddwch gwraig yn sefyll mewn ychydig eiriau ac ychydig ddillad. Ac am y fâth drwsiad, fel hyn y dywed Sopho∣cles, Nid harddwch yw hyn, oh ynfyd, ond cywi∣lydd, ac argoel eglur o'th ffolineb di. Socrates sydd yn dywedyd mai harddwch gwraig yw 'r hyn a ddangoso ei bod hi yn honest. A diarheb yw hon ym-mŷsc y Groegwyr, nid aur a thlysau sydd yn gwneuthur gwraig yn dêg, ond ei chynneddfau da. Ac mae Aristotl yn gorchymmyn i wraig ar∣fer llai o ddillad, nag y mae 'r gyfraith yn ei oddef: o herwydd nid gwychder dillad, na godidawg∣rwydd prŷd, nac amledd aur, sydd yn gwneuthur ei wraig fod mewn cymmeriad, ond lledneisrw∣ydd a gofal am fyw 'n honest ym-mhob peth.

Page 218

Mae'r gorwagedd anllywodraethus ymma gwe∣di tyfu cymn aint nad oes dim cywilydd o hono.

Yr ydym ni yn darllein mewn historiau, pan ddanfonodd brenhin Dionysius wiscoedd gwy∣chion i wragedd Lacedaemonia, hwy a atteba∣sant ac a ddywedasant y gwnai 'r dillad hynny iddynt hwy mwy o gywilydd nag o anrhydedd, ac am hynny hwy a'u gwrthodasant.

Câs oedd gan wragedd Rhufain yn yr hên am∣ser y trwsiadau gwychion a ddanfonodd-brenhin Pyrrhus iddynt, ac nid oedd neb mor chwannog ac mor orwag ac y derbine hwy. Ac fe wnaeth y Seneddr gyfraith gyhoedd, yr hon a barhaodd tros hir o amser, Na byddai i wraig wisco vwch∣law hanner owns o aur, na dillad amliwiog. * 1.315

Ond fe alle yr attebai rhyw fursen * 1.316 wammal fi, a dywedyd mai rhaid idddynt hwy wneuthur rhyw beth i ddangos ei bonedd a'u gwaedoliaeth, ac i ddangos cyfoeth ei gwŷr: megis pe na bai vn modd i ddangos bonedd ond yn y pethau hynny a arfer y rhai * 1.317 coegaf yn gystal a'r rhai goreu: megis pe na ellid gwario cyfoeth eu gwyr hwy yn well nag ar y cyfryw oferwagedd: megis pe na buasid ti wrth dy fedyddio wedi ymwrthod a balchedd a gorwagedd y byd a choeg rodres y cnawd.

Nid ydwyf yn dywedyd yn erbyn dillad cym∣mhedrol, gweddus i bob gradd, ond yn erbyn gor∣modedd, yn erbyn gwâg hoffi ac awyddu 'r fath goeg - oferedd, a dychymmygu dull newydd beu∣nydd i borthi balchedd, treulio ar dy gelain gorph cymmaint ac a baro i ti ac i'th ŵr yspailio y tlawd i faenteinio dy ryfyg di.

Gwrandewch pa fodd y mae y bendesiges sanc∣taidd

Page 219

Hester, yn gosod allan yr addurnau gwychi∣on hyn (fel yr ydys yn eu galw hwy) pan orfu ar∣ni er mwyn gwared pobl Dduw wisco 'r fâth drwsiad hoyw, gan wybod mai dyna 'r hudoliaeth gymmwysaf i ddallu llygaid ffyliaid cnawdol. Fal hyn y gweddiodd hi, Ti a wyddost o Arglw∣ydd * 1.318 yr angen yr ydwyfi ynddo i wisco 'r trwsiad hwn, a bod yn ffiaidd gennyf arwydd balchedd, yr hwn sydd ar fy-mhen y dydd yr ymddangoswyf: mae mor ffiaidd gennif ef a chadach misglwyf, ac nid ydwyf yn ei wisco ef ar y dyddiau y caffwyf lonydd.

Trachefn, pa fodd y twyllwyd Holophernes ond trwy ddisclair lewych dillad, y rhai a wiscodd y wraig sanctaidd Iudith, nid am ei bod hi yn ym∣hoffi ynddynt, nac yn ceisio coeg-ddigrifwch oddi∣wrthynt, ond hi a'u gwiscodd hwy o wir anghen∣rhaid trwy genhadiad Duw, gan arfer y gorwa∣gedd hyn i orchfygu ofer olygon gelynion Duw. Y fath chwant oedd yn y gwragedd boneddigion hynny, er eu bod yn anewyllyscar oni bai hynny i wisco 'r fath ddillad gwychion er peri i eraill eu hanghofio eu hunain.

Fe ganmolir y rhai hyn yn yr Scrythyrau am gashau 'r fâth orwagedd, er gorfod arnynt o wîr anghenrhaid yn erbyn ewyllys eu calonnau, eu gwisco hwy tros amser. A haedda 'r gwragedd hyn glod, y rhai ni chyffelybir i'r gwragedd hyn∣ny nac mewn bonedd nac mewn zêl tu ag Dduw a'i bobl, y rhai y mae eu gorhoffedd a'u cwbl fe∣ddwl ar ymwychu ac ymhoywi yn y fath gyfne∣widiau a'r ddillad, heb fod byth yn ddigonol, na gofalu pwy a gyfynger ac a orthrymmer am eu di∣llad hwy, os gallant hwy eu cael hwynt? Ond

Page 220

ofer a gorwag yw 'r gwŷr sydd yn ddarostyngedig ac yn gaethion i ewyllys eu gwragedd yn y fâth chwantau anlly wodraethus?

Ond gorwag y gwragedd sydd yn tynnu arnynt eu hunain y fâth eniweid ac a baro iddynt ddyfod yn gynt i drueni ac aflwydd yn y byd, ac yn y cyf∣amser cael eu ffieiddio gan Dduw, a'u cashau a'u gwatwar gan ddynion call, ac yn y diwedd yn de∣byg i gael eu cyssylltu gyd â'r rhai a edifarhânt yn rhy hwyr, ac a gwynant yn vffern ar osteg yn y geiriau hyn: Pa lês a wnaeth ein balchedd i ni? Pa elw a gawsom oddiwrth goeg-rodres cyfoeth? Fe aeth yr holl bethau hyn heibio fel cyscod: ond am rinwedd dda, erioed ni ddangosasom arwydd o honi: fel hyn yr ydys yn ein difa ni yn ein han∣wiredd.

Os dywedi fod yn rhaid i ti ddilyn yr arfer, a bod arferon y byd yn dy gymmell i'r fath orwa∣gedd; yna y gofynnaf i ti, arfer pwy a ddyleid ei ganlyn? ai arfer y rhai doethion, ai arfer y rhai ansynwyrol? os dywedi mai arferon y doeth, yna y dywedaf wrthit, canlyn dithau hwynt: o blegid pwy a ganlyne arfer ffyliaid, ond ffyliaid? Ystyria mai cyfundeb y doethion a ddyleid ei gyfrif yn lle arfer. Ac os arferir vn arfer annuwiol, bydd di 'r cyntaf a dorro 'r arfer honno: gwna dy orau ar ei lleihau a'i bwrw i lawr: a thi a ennilli fwy o glod ger bron Duw, a mwy o ganmoliaeth am hynny, nag am dy holl orwagedd a'th ormodedd.

Fal hyn y clywsoch ddangos i chwi allan o air Duw, pa beth y mae Duw yn ei ofyn yn ei air ynghylch cymmhedrol arfer ei greaduriaid. Dys∣cwn eu harfer hwy yn gymmhedrol fel yr ordeini∣odd Duw. Fe a ddyscodd Duw i ni i ba achos a

Page 221

defnydd y dylŷem arfer dillad. Discwn ninnau ymddwyn yn ei harfer hwy, fel y gwedde i Gristi∣onogion, gan fod byth yn ddiolchgar i'n Tâd ne∣fol am ei fawr a'i drugarog ddoniau, yr hwn sydd yn rhoddi i ni ein bara beunyddiol, hynny yw, pob peth anghenrheidiol i 'r bywyd anghenus hwn, i'r hwn y bydd rhaid i ni roddi cyfrif am ei holl ddoniau, yngogoneddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Ys∣pryd glân, y bô anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth neu Homili yng∣hylch gweddi.

NId oes dim yn holl oes dŷn (fyn∣gharedigion yn ein Iachawdwr Christ) mor anghenrhaid son am dano ac annog iddo beunydd, ac yw gweddi galonnog wressog ddwyfol: yr hon sydd mor an∣ghenrhaid wrthi, fal na ellir heb∣ddi gael dim ar law Dduw, O herwydd fal y dy∣waid S. Iaco yr Apostol. Pob dawn daionus a phob rhodd berphaith oddi vchod y mae yn dis∣cyn oddiwrth dâd y goleuni, yr hwn a ddywedir ei fod yn gyfoethog ac yn hael tu ag at bawb a alwant arno: nid am na ddichon ef, neu am na fyn ef roi heb ei ofyn, ond am iddo osod gweddi yn gyfrwng arferol rhyngtho ef a ninnau.

Nid oes ammau nad yw ef yn gwybod yn wa∣stad ein anghenrhaidiau ni, ac yn barod yn wasta∣dol i roddi ini amledd o'r pethau sydd arnom eu heisiau. Etto er mwyn ini wybod mai fe yw rho∣ddwr

Page 222

pob peth daionus, ac ymddwyn yn ddiol∣chus tu ag atto am hynny, gan ei garu ef a'i ofni a'i addoli 'n bur ac yn gywir, fal y dlyem; fe ordei∣niodd yn fuddiol ac yn gall, fod ini yn amfer ein anghenau ymostwng yn ei wydd ef, * 1.319 arllwys dirgelion ein calonnau o'i flaen ef, a cheisio nerth ar ei law ef, â gweddi barhaus dwyfol ddifrif.

Y mae ef yn dywedyd fal hyn trwy enau ei bro∣phwyd sanccaidd duwiol Dafydd, Galw arnafi yn amser blinder, a mi a'th waredaf di. Mae fe * 1.320 'n dywedyd hefyd yn yr Efengyl trwy enau ei an∣wyl fâb Christ, Gofynnwch a rhoddir i chwi, cei∣siwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i chwi: cans pwy bynnac a ofynno a dderbyn, y neb a gais a gaiff, ac i'r hwn a guro yr agorir. Ac mae * 1.321 S. Pawl gan gytuno â hyn, yn erchi ini weddio ym-mhob mann a pharhau yn hyn, gan roddi * 1.322 diolch.

Ac nid ydyw 'r Apostol bendigedig S. Jaco yn anghyfuno a▪ hynny, ond gan annog pawb yn ddi∣frif * 1.323 i weddi ddiwyd y mae fe 'n dywedyd, Os bydd ar neb eisiau doethineb ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi yn hael i bawb, heb * 1.324 ddannod i neb. Ac hefyd mewn lle arall, Gweddiwch, medd ef, bob vn dros ei gilydd, fal y'ch iachaer, canys * 1.325 llawer a ddichon gweddi y cyfion os bydd hi ffrw∣ythlon. Pa beth amgen a ddyscir i ni wrth y lle∣oedd hyn a'r fath leoedd, onid hyn yn vnig, y myn yr Holl-alluog Dduwer ei ragwelediad a'i ddoe∣thineb nefol, ini weddio arno: y myn ef ein bod ni mor ewyllysgar o'n rhan ni i geisio, ac yw yn∣tef o 'i ran ef i roddi. Ffol ac ynfyd am hynny yw rheswn a meddwl y dynnion hynny y rhai a feddyliant fod pob gweddi yn ofer, ac yn ddiffrw∣yth:

Page 223

am fod Duw yn chwilio 'r galon a'r aren∣nau, ac yn gwybod meddwl yr yspryd cyn go∣fynnom.

O herwydd pe byddai y rheswm cnawdol hyn yn ddigon i ddiddymmu gweddi, pa ham y gwa∣eddodd ein Iachawdwr Christ mor fynych ar ei * 1.326 ddiscyblon, gan ddywedyd, Gwiliwch a gwe∣ddiwch? Pa ham y gosododd ef iddynt ffurf gwe∣ddi, gan ddywedyd? Pan weddioch chwi gwe∣ddiwch * 1.327 fal hyn, Ein Tâd yr hwn wyd yn y ne∣foedd, &c. Pa ham y gweddiodd ef ei hun mor fynych ac mor ddifrif o flaen ei ddioddeifaint? Yn ddiwethaf, pa ham yr ymgynnullodd y dyscy∣blon i'r vn lle yn y man yn ol escynniad Christ, * 1.328 ac y parhausont hwy yno mewn gweddi dros hir amser. Naill ai mae 'n rhaid iddynt gondem∣nio Christ a'i Apostolion o ynfydrwydd annial, ai mae 'n rhaid iddynt ganiatau fod gweddi yn beth anghenrheidiol i bob dyn, bob amser ac ym-mhob lle.

Siccr yw nid oes dim yn yr holl fyd mor fu∣ddiol ac mor anghenrhaid i ddyn a gweddi. Gwe∣ddiwch yn wastad, medd S. Paul, a phob rhyw * 1.329 weddi, a gwiliwch yn hynny a phob ddiwydrw∣ydd. Ac mewn man arall mae 'n erchi ini we∣ddio 'n * 1.330 wastad heb orphwys, gan feddwl wrth hynny na ddylyem ni na llaesu na dyffygio mewn gweddi, ond parhau ynddi hyd diwedd ein hoes. Fe allid adrodd ymma lawer o leoedd i'r vn def∣nydd fy meddwl i yw manegi anghenrhaid ac arfer gweddi.

Ond pa raid aml brawf ar beth golau? lle nad oes neb mor anwybodus na wŷr ef, neb mor ddall na wŷl ef, fod gweddi yn beth anghenrhaid ym∣mhob

Page 224

stât a phob gradd o ddynion. O herwydd mai trwy ei nerth hi yn vnic yr ydym yn cael mwynhau y trysorau nefol tragwyddol y rhai a gadwodd y Tâd nefol ac a osododd ef i fynu i'w blant yn ei anwyl a'i garedig fâb Iesu Grist gwe∣dy cadarnhau a seilio 'r ammod a'r addewid hon * 1.331 ini, os ni a ofynnwn y derbyniwn ni.

Yn awr a ni yn gwybod mawr anghenrhaio gweddi, er mwyn annog a chyffro 'n meddyliau ni a'n calonnau yn fwy etti, ystyriwn ar ychydig airiau pa rym a nerth rhyfedd sydd ynddi i ddwyn i ben bethau mawr rhyfedd. Yr ydym ni yn dar∣llen yn llyfr Exod. i Iosua wrth ymladd yn erbyn * 1.332 yn Amaleciaid eu gorchfygu a'u gortrechu hwy, nid cymmaint trwy rinwedd ei rym ei hun, a thrwy weddi barhaus ddifrif Moeses: yr hwn yr hŷd y daliai ef ddwylo i fynu tuag at Dduw fe fy∣ddai Israel yn gorescyn, ond pan ydoedd ef yn de∣ffygio ac yn goddef ei ddwylaw i gwympo, fe fy∣ddai Amalec a'i bobl yn gorescyn, nes gorfod ar Aaron a Hur y rhai oeddynt gydag ef yn y my∣nydd, gynnal ei ddwylaw ef i fynu, nes myned yr haul i lawr, oni buasai hynny fe ortrechasid ac a orchfygasid pobl Dduw y dythwn hwnnw 'n ho∣llol. Yr ydym ni mewn man arall yn darllen he∣fyd am Iosua ei hun, y modd, pan oeddid yn gwar∣chau Gibeon, gan wneuthur ei ostyngeiddiaf we∣ddi at yr holl-alluog Dduw, y gwnaeth ef i'r haul a'r lleuad attal eu rhedegfa, a sefyll yn llonydd ynghenol y nefdros ddiwrnod cyfan, nes i'r bobl * 1.333 gael cwbl ddial ar eu gelynnion.

Ac onid oedd grym mawr yngweddi Iehosaphat * 1.334 pan wnaeth Duw ar ei ddeisifiad ef i'w elynnion ef ymladd â'u gilydd, a dinistr eu gilydd yn ewy∣llysgar.

Page 225

Pwy a ddichon ryfeddu am ffrwyth a rhinwedd gweddi Elias, yr hwn ac yntef yn ddyn, * 1.335 o blegid gwendid, o'n dull ninnau, a weddiodd ar yr Arglwydd na lawiai hi, ac ni lawiodd hi ar y ddayar dros dair blynedd a chwe mis. Ailwaith fe a weddiodd ar iddi lawio, ac fe gwympodd glaw lawer fal y dygodd y ddayar ei ffrwythau yn llwyddiannus.

Rhy hir fyddai adrodd am Iudith, Hester, Su∣sanna a llawer o wyr a gwragedd duwiol eraill, pa faint yn eu holl weithredoedd a ennillasant hwy wrth roddi eu holl fryd yn ddifrif ac yn ddwy∣fol ar weddio. Gwasanaethed ar hyn o ennyd gy∣soni 'r cwbl â geiriau Awstin a Chrysostom, o'r * 1.336 rhai y mae vn yn galw gweddi yn * 1.337 allwydd nef, a'r llall yn dywedyd yn oleu nad oes dim yn y byd a ddichon bod yn gryfach na gŵr a ymroddo i we∣ddi ddifrif.

Yn awr, fyngharedigion, gan fod gweddi mor anghenrheidiol ac mor rymmus ger bron Duw. byddwn, fal y'n dyfcir trwy siampl Christ a'i Apo∣stolion, ddifris a diwyd i alw ar enw 'r Arglwydd. Na laeswn, na ddyffygiwn ac na pheidiwn, ond beunydd a phob awr, yn forau ac yn hwyr, mewn amser ac allan o amser, byddwn ddyfal mewn my∣fyriadau a gweddiau duwiol. Beth oni chawni ein gweddiau ar y cyntaf? Etto na lwfrhawn ond gwaeddwn a galwn ar Dduw yn wastadol: fe a wrandy arnom yn siccr yn y diwedd, pe ni by∣ddai hynny am vn achos arall, ond am ein taer∣der ni.

Cofiwn ddammeg y barnwr anghyfiawn a'r weddw dlawd, pa fodd y gwnaeth hi iddo trwy ei * 1.338 thaerder wneuthur â hi gyfiawnder yn erbyn ei

Page 226

gorthymmudd; er nad ofnai na Duw na dŷn. Ac medd ein Iachawdwr Christ, oni ddial Duw yn fwy ei etholedigion sydd yn llefain arno nos a dydd. Fal hyn y dyscodd ef ei ddiscyblon ac yn∣ddynt hwy yr holl wir Gristionogion i weddio 'n wastad, heb orphwys na dyffygio. Cofiwn siampl y wraig o Ganaan pa fodd y gwrthod wyd hi gan Grist, ac y galwyd hi yn gi, megis vn an-nheilwng i dderbyn donniau ar ei law ef, etto ni pheidiodd * 1.339 hi, ond hi a'i canlynodd ef yn wastad gan waeddi a galw arno am fod yn drugarog ac yn dda wrth ei merch hi: ac yn y diwedd drwy ei thaerder, hi a fwyn haodd ei damuniad.

Oh dyscwn drwy y siamplau hyn fod yn ddifrif ac yn wresog mewn gweddi, gan ein sicrhau ein hunain pa beth bynnac a ofynnom ni i Dduw Dâd yn enw ei fab Christ Iesu, ac yn ôl ei ewy∣llys ef, y canniata fe hynny ini yn ddiammau. Efe * 1.340 yw y gwirionedd ei hun ac mor gywir ac yr add∣awodd, felly fe gyflawna 'n gywir.

Duw o'i fawr drugaredd a weithio felly ynom ni trwy ei Yspryd sanctaidd, fal y bo ini yn wa∣stad wneuthur ein gostyngedig weddiau arno, fal y dlyem, a mwynhau bob amser y pethau a fy∣thom yn eu ceisio, trwy Iesu Grist ein Harglw∣ydd i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd gla▪n y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. A∣men.

Page 227

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn∣ghylch gweddi.

CHwi a glywsoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fanegi a phrufo i chwi cystadl wrth lawer o dy∣stiolaethau pwysig a bagad o samplau daionus o'r Scruthy∣rau sanctaidd, fawr anghenrhei∣drwydd a mawr rym gweddi dei∣lwng ddifrif. Yn awr gwrandewch ar bwy y dlyech alw, ac at bwy y dlyech gyfeirio eich gwe∣ddiau. Fe 'n dyscir ni yn eglur yn y Testament sanctaidd mai'r holl-alluog Dduw yw vnic ffrŵd a ffynnon pob daioni, a'n bod ni'n derbyn ar ei ddwylaw ef pa beth bynnac sydd gennym yn y byd hwn: I'r defnydd hyn y gwasanaetha y lle yn S. Iaco, Pob dawn daionus a phob rhodd berffaith oddi-vchod y mae yn discyn oddiwrth Dâd y go∣leuni. * 1.341 I'r defnydd hyn gwasanaetha tystiolaeth Pawl mewn llawer o leoedd yn ei lythyrau, gan dystiolaethu fod Yspryd doethineb, Yspryd gwy∣bodaeth, ac Yspryd gweledigaeth, ie a phob rhodd nefol dda, megis ffydd, gobaith, cariad, rhad a he∣ddwch yn dyfod yn vnic oddiwrth Dduw. Gan ystyriaid yr hyn bethau mae fe 'n torri allan i'r ymadroddion disymmwth hyn, gan ddywedyd, Beth sydd gēniti o ddŷn ar nas derbynniaist? Am * 1.342 hynny pan fytho arnom ddiffyg neu eisiau dim ac a berthyn nac at y corph nac at yr enaid, rhaid yw ini redeg at Dduw yn vnic, yr hwn yn vnic yw rhoddwr pob peth daionus.

Mae 'n Iachawdwr Christ wrth ddyscu yn ei * 1.343 efengyl i'w ddiscyblon weddio, yn eu danfon hwy

Page 228

at ei Dâd yn ei enw ef, gan ddywedyd, yn wir yn wir meddaf i chwi, pa beth bynnac a ofynoch i'm * 1.344 Tâd yn fy enw i' efe a'i rhydd i chwi. Ac mewn man arall, Pan weddioch, y gweddiwch fal hyn, * 1.345 Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Ac mae Duw ei hun trwy enau ei brophwyd Dafydd yn * 1.346 gorchymmyn ac yn peri ini alw arno fe. Ac mae 'r Apostol yn dymuno rhâd a heddwch i bawb oll ac a alwant ar enw 'r Arglwydd a'i fab ef Iesu Grist. Ac mae 'r Prophwyd Ioel yn dywedyd, Y * 1.347 bydd i bwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd fod yn gadwedig.

Fal hyn wrth hynny y mae 'n oleu wrth an∣nh wyllodrus air y gwirionedd a'r bywyd, y dly∣em ni yn ein holl anghenau redeg at Dduw, cy∣feirio ein gweddiau atto ef, a galw ar ei sanctaidd enw ef, deisif cynhorthwy ar ei law ef, ac nid ar law neb arall. Am yr hyn os mynnwch etto ych∣waneg rheswm ystyriwch yr hyn a ganlyn. Mae rhyw gynneddfau anghenrheidiol eu bod mewn pob vn ac a weddier arno, y rhai oni chair yn yr hwn y bythom yn gweddio arno; yno ni thyccia ein gweddi ni ddim ini. ond hi a fydd yn ofer Ho∣llol. Y cyntaf yw bod yr hwn y bythom yn gwe∣ddio arno yn alluog, ac yn abl i'n helpu ni. Yr ail yw, ei fod ef yn cwyllysgar i'n cynorthwyo ni. Y trydedd yw, ei fod ef yn gyfryw vn ac a all glywed ein gweddiau ni. Y pedwaredd yw, ei fod yn de∣all yn well nâ ni ein hunain pa gymmaint y mae yn rhaid ini wrth gynhorthwy, a pha beth sydd arnom ei eisiau.

Os cair y pethau hyn mewn neb arall ond yn∣nuw yn vnic, yno y gallwn yn gyfraithlon alw ar eraill heblaw Duw. Ond pwy sydd mor ddwl

Page 229

ac na ddeall yn dda fod y pethau hyn yn briodol yn vnic i'r hwn sydd yn holl-alluog, ac yn gwy∣bod pob peth, ie dirgelion y calonnau: hynny yw i Dduw ei hun yn vnic. O'r hyn y canlyn na ddylyem ni alw nac ar angel nac ar sant, ond yn vnic ar Dduw ei hun, fal yr scrifenna S. Pawl, Pa fodd y galwant arno ef yn yr hwn ni chreda∣sant? fal wrth hyn na ellir galw neu weddio heb ffydd ynddo ef yr hwn y byddir yn galw arno ac heb * 1.348 ein bod ni yn credu yn gyntaf ynddo, cyn gwe∣ddio arno.

Am hyn mae 'n rhaid ini weddio ar-Dduw ei hun yn vnic. O herwydd fe fyddai ddywedyd y dlyem gredu mewn Angel neu sant neu vn crea∣dur byw arall yn ddirmyg * 1.349 echrydus yn erbyn Duw a'i sanctaidd air: ac ni ddlyai y meddwl hyn ddyfod o fewn calon vn dyn Christionogaidd, am fod yn ein dyscu ni yn oleu wrth air yr Arglwydd i osod ein ffydd yn vnic yn y drindod sanctaidd; yn enw 'r hwn yn vnic y'n bedyddiwyd ni, yn ol gorchymmyn eglur ein Iachawdwr Christ, yn y * 1.350 ddiwethaf o efengyl Mathew.

Ond er mwyn gwneuthur i'r gwirionedd ym∣ddangos yn eglur i'r rhai gwirionaf a lleiaf eu dysc, Ystyriwn pa beth yw gweddi.

Mae S. Awstin yn ei galw hi derchafiad y me∣ddwl at * 1.351 Dduw, a gostyngedig * 1.352 arllwysiad y ga∣lon at Dduw. Mae Isidorus yn dywedyd mai * 1.353 llwyr—fryd y galon, ac nid llafur y gwefusau yw hi. Fal wrth y lleoedd hyn y mae gwir weddi yn sefyll nid cymmaint mewn sŵn a llaferydd y gei∣riau oddifaes, ac mewn griddfan a gwaedd yr y∣spryd oddifewn at Dduw.

Yn awrgan hynny, oes vn angel neu forwyn

Page 230

neu Batriarch neu Bropwyd ym-hlith ymeirw, yr hwn a all deall neu wybod meddwl y galon? * 1.354 Mae 'r Scruthyrau yn dywedyd mai Duw yn vnic sydd yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac mai efe yn vnic a wyr galonnau meibion dynnion. Am y saint, mae eu gwybodaeth hwy mor fychan yn∣nirgelion y calonnau, fal yr ydoedd llawer o'r hen dadau yn * 1.355 dowtio 'n fawr pa vn a wnânt ai gwybod dim ai peidio o'r pethau a wnair ar y ddayar.

Ac er bod rhai yn tybied eu bod hwy yn gwy∣bod; etto mae S. Awstin doctor o awdurdod a henafiaeth mawr, yn tybied na wyddant hwy * 1.356 beth yr ydym ni yn ei wneuthur ar y ddayar, yn well nag y gwyddom ninnau beth y maent hwy yn eu wneuthur yn y nef. Er * 1.357 prufo hyn mae fe 'n dodi drosto airiau y prophwyd Esai, lle mae fe 'n dywedyd na wyr Abraham oddiwrthym ni ac * 1.358 nad edwyn Israel mo honom. Ei feddwl ef am hynny yw na byddai i ni dybiaid fod eu haddoli hwy, neu weddio arnynt, yn rhan o'n crefydd, ond bod i ni eu hanrhydeddu hwy wrth ganlyn eu by∣wyd rhinweddol duwiol hwy. O herwyd fal y * 1.359 mae fe 'n testiolaethu mewn man arall, Yr oedd merthyron a gwyr duwiol yr amseroedd gynt, yn arfer ar ol eu marwolaeth o gael eu cofio a 'u henwigan yr offeiriaid ar wasanaeth, ond nid oe∣ddid erioedd yn arfer o alw nac o weddio arnynt. A pha ham hynny? O blegid, medd ef, mai offei∣riad Duw yw'r offeiriad, ac nid eu hoffeiriad hwy: am hynny y mae efe yn rhwymedig i alw ar Dduw ac nid arnynt hwy.

Fal hyn y gwelwch nad ydyw awdurdod yr scruthyrau nac awdurdod S. Awstin yn cenhadu

Page 231

i ni weddio arnynt. Oh na ddarllenai ddynion ac na chwilient hwy yr Scrythyrau yn ddiescaelus: yno ni foddid hwy mewn an wybodaeth, ond hwy a ddeallent y gwirionedd yn hawdd, am yr athra∣waeth hyn ac am bob peth arall. O herwydd yno y mae 'r Yspryd glân yn ein dyscu i ni yn oleu: mai Christ yw ein vnic ddadleuwr a'n cyfryngwr ni gyda Duw, na ddlyem ni nac ymgais na rhedeg at neb arall. Os pecha neb, medd Ioan Sant mae i ni ddadleuwr gyd a 'r Tâd Iesu Grist y cy∣fion, * 1.360 ac ef yw 'r iawn dros ein pechodau. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd mai vn Duw sydd, ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, sef y dyn Christ * 1.361 Iesu.

A'r hwn y cytuna testiolaeth ein Iachawdwr ei hun gan destiolaethu na ddaw neb at y Tâd ond yn vnic trwyddo ef: o herwydd mai efe yw 'r * 1.362 ffordd, y gwirionedd a'r bywyd: ie a'r vnic ddrws trwy 'r hwn y gallwn fyned i deyrnas nef: o ble∣gyd * 1.363 mai ynddo fe yn vnic ac nid yn neb arall y mae Duw yn fodlon. Am yr hyn achos y mae fe 'n * 1.364 gweiddi ac yn galw arnom ar ini ddyfod atto ef, gan ddywedyd, dewch attafi bawb ac sydd flinde∣rog ac yn llwythog ac mifi a esmwythaf arnoch. A fyn Christ fod mor anghenrheidiol ini ddyfod * 1.365 atto, ac a adawn ni ef yn anniolchus, a rhedeg at arall?

Dymma 'r hyn y mae Duw yn achwyn rhag∣ddo 'n gymmaint, trwy y Prophwyd Ieremi, gan ddywedyd, fe wnaeth fymhobl ddau fai fawrion: hwy a'm gwrthodasont i ffynnon dwfr y bywyd, ac a gloddiasont iddynt eu hunain byllau tyllog y rhai ni ddalant ddim dwfr ynddynt.

Onid ydyw hwnnw yn wr angall, meddwch

Page 232

chwi, yr hwn a red i geisio dwfr i 'r gofer bychan, ac yntef yn gallel myned yn gystadl i lygad y ffyn∣non? Felly y gellir ammau ei synwyr yntef yr hwn a rêd at y saint yn amser anghenrhaid, pan allo fyned yn * 1.366 eofn a dangos ei ddolur yn ddiofn, a chyfeirio ei weddi at yr Arglwydd ei hunan. Pe byddai Dduw yn ddieithr ac yn * 1.367 enbaid ymddi∣ddan ag ef, yno y gallem ni gael achos i dynnu yn ein hol ac i ymgais a rhyw vn arall. Ond mae 'r Arglwydd yn agos at bawb a alwant arno, sef yr holl rhai a alwant arno mewn gwirionedd. Ac fe fu weddi ostyngedig yn gymmeradwy bob amser yn ei olwg ef.

Beth os ydym ni bechaduriaid, oni weddiwn ni ar Dduw am hynny? neu a wanobeithiwn ni gael dim ar ei law efe? paham yntef y dyscodd Christ ni i ofyn meddauant o'n pechodau, gan ddy∣wedyd, maddau ini ein dyledion fal y maddauwn ninnau i'n dyledwyr? A dybygwn ni fod y saint * 1.368 yn fwy eu trugaredd i wrando pechaduriaid nag yw Duw? Mae Dafydd yn dywedyd, Trugarog a graflawn yw 'r Arglwydd hwyrfrydig i lid a mawr o drugarogrwydd. Mae S. Pawl yn dy∣wedyd ei fod ef yn gyfoethog o drugaredd i bawb a alwant arno. Ac mae efe ei hun yn dywedyd * 1.369 trwy enau ei Brophwyd Esai, Dros ennyd fe∣chan y'th wrthodais, ond â thrugaredd mawr y'th * 1.370 gynullais: dros funyd yn fy llid y cuddiais fy wy∣neb oddiwrthyd, ond a thrugaredd tragwyddol y tosturiais wrthyd.

Am hyn ni ddlyai bechodau vn dŷn ei attal ef oddiwrth weddio ar yr Arglwydd Dduw; ond os efe fydd gwir etifeiriol a diogel mewn ffydd, bid diogel gantho y bydd yr Arglwydd trugarog wr∣tho

Page 233

ac y gwrandy efe ei weddiau ef.

Oh ni faiddiafi, medd rhyw vn, drwblo Duw yn wastad â'm gweddiau: yr ydym ni yn gweled mewn tai a llysoedd brenhinioedd na oddefir neb i ddyfod i ymddiddan â 'r brenin nac i fwynhau y peth y mae yn ei geisio, oni chais ef yn gyntaf help rhyw bennaeth neu ŵr mawr. Mae S. Ambros yn atteb y rheswm hwn yn dda iawn ar y bennod * 1.371 gyntaf at y Rufeiniaid. Am hynny, medd ef, yr arferwn o fyned at frenhinioedd trwy swyddogi∣on a phendefigion, am fod y brenin yn farwol ac ni wyr efi bwy y rhydd lywodraweth y gwledydd: ond i gael gan Dduw ein caru oddiwrth yr hwn nid oes dim cuddiedig, nid rhaid ini wrth vn hel∣pwr i'n cynorthwyo â'i air da, ond yn vnic me∣ddwl bucheddol duwiol. Ac os rhaid ini wrth rai i eiriol drosom, paham na byddwn bodlon i'r vn cyfryngwr hwnnw yr hwn sydd yn eistedd ar dde∣daulaw Dduw Dâd, i fod yn eiriolwr drosom yn dragywydd? Megis y prynodd ac y glanhaodd * 1.372 gwaed Christ ni ar y groes oddiwrth ein pecho∣dau: felly y mae ei waed ef yn a lluog i gadw pawb a ddelont at Dduw trwyddo ef. O herwydd mae i Grist yn y nef offeiriadaeth dragwyddol, ac mae fe'n gweddio'n wastad ar ei Dâd dros y rhai ydynt wir etifeiriol gan haeddu ini trwy rinwedd ei ar∣chollion (y rhai ydynt yngolwg Duw 'n wasta∣dol) nid yn vnic gwbl ollyngdod o'n pechodau, onid hefyd pob pethau anghenrheidiol a fo rhaid ini wrthynt yn y byd hwn. Fal y mae 'r vnic gy∣fryngwr hwn yn ddigonol yn y nef, ac nid rhaid iddo wrth neb i'w helpu.

Fe allai y gofynnai rhyw vn ymma, paham wrth hynny y gweddiwn ni bawb dros ei gilydd

Page 234

yn y bywyd hwn? Yr wir yr ydys yn gorchym∣myn ini wneuthur felly wrth orchymmyn eglur Christ a'i ddiscyblon, i fanegi yn hynny cystadl y ffydd sydd genym ynghrist tuag ar Dduw, a'r ca∣riad * 1.373 y mae pob vn honom yn ei ddwyn at ei gi∣lydd, wrth dosturio am flinderau 'n brodyr a gwneuthur ein gostyngedig ymbil ar Dduw drostynt. Ond am weddio ar y saint, nid oes gen∣nym na gorchymmyn yn yr holl scruthyr, nac vn siampl yr hon a allwn ni ei chanlyn yn ddiogel. Megis os gwnair hynny heb awdurdod gair Duw nid oes iddo sail ffydd, ac am hynny ni ddi∣chon fod yn gymmeradwy ger bron Duw. O her∣wydd pa beth bynnac nid yw o ffydd pechod yw. * 1.374 Ac mae 'r Apostol yn dywedyd fod ffydd yn dyfod o wrando, a gwrando o air Duw.

Os gosodi yn fy erbyn etto fod y saint yn y nef yn gweddio drosom ni, a bod eu gweddi hwy yn dyfod o gariad difrif, yr hwn sydd ganthynt at eu brodyr ar y ddayar. I hyn y gellir atteb yn dda. Yn gyntaf na wyr neb pa vn a wnânt ai bod yn gweddio ai nad ydynt, ac os cais neb prwfo eu bod hwy, wrth naturiaeth cariad, gan daeru am eu bod hwy yn gweddio dros ddynion pan oeddynt ar y ddayar, am hynny yn awr y gwnânt hwy hynny yn fwy o lawer, a hwythau yn y nef. Wrth yr vn rheswm y gellir dywedyd eu bod hwy yn wylo yn y nef pan fythom ninnau yn wylo ar y ddayar: o herwydd siccr a diogel yw, yr hyd yr oe∣ddynt ar y ddayar eu bod hwy yn gwneuthur fel∣ly. Ac am yr hyn a scrifennir yn llyfr gwelediga∣eth Ioan, fod yr Angel yn offrwm gweddiau 'r saint ar yr allor aur: yr ydys yn deall y lle hwn∣nw ac fe ddlyid ei ddeall ef am y saint sydd fyw et∣to

Page 235

ar y ddayar, ac nid am y rhai a fuont feirw: ac onid ê pa raid fuasai i'r Angeloffrwm eu gweddi∣au hwy a hwy eisoes yn y nef ymlaen wyneb yr holl-alluog Dduw?

Ond canniataer fod y saint yn gweddio drosom ni, etto ni wyddom ni pa fodd: pa vn ai yn enwe∣dig dros y rhai a alwant arnynt hwy, ai yn gyffre∣dinol dros bawb, gan ewyllysio daioni i bob dŷn fal i gilydd. Os ydynt hwy yn gweddio 'n enwe∣dig dros y rhai a alwant arnynt, yno tebyg yw eu bod hwy yn clywed ein gweddiau ni ac yn gwy∣bod dirgelion ein calonnau ni: ond fe brwfwyd eisoes castadl wrth yr scruthyrau ac awdurdod Austin nad ydyw hyn ddim yn wir.

Na rown ninnau hyder ac ymddiried ar y saint, a'r merthyrion a fuont feirw. Na alwn arnynt, ac na cheisiwn vn cymmorth ganthynt: ond yn wastad cyfodwn ein calonnau at Dduw yn enw ei fâb Iesu Grist er mwyn yr hwn fal yr addaw∣odd Duw wrando 'n gweddiau, felly yn siccr y cwblha efe hyny. Peth yn perthyn i Dduw yw gweddi, yr hon os rhoddwn i'r saint mae 'n myned yn warth iddynt, ac ni allant hwy oddef hynny yn dda ar ein dwylo ni. Pan darodd i Pawl ia∣chau rhyw vn clôff yr hwn oedd efrydd o'i draed yn Lystra, fe fynnasai y bobl aberthu iddo ef a * 1.375 Barnabas: yr hyn beth a wrthodasant hwy, gan rwygo ei dillad a'u hannog hwy i addoli y gwir Dduw.

Felly yngweledigaeth Ioan, pan gwympodd Ioan wrth draed yr Angel i'w addoli ef, ni odde∣fodd yr Angel iddo wneuthur felly: ond fe orchym∣mynodd iddo addoli Duw. Yr hon siampl sydd yn manegi ini na fyn y saint a'r angylion yn y nef

Page 236

ini wneuthur iddynt hwy vn anrhydedd sydd ddy∣ledus a pherthynasol i Dduw. Efe yn vnic yw y Tâd, efe yn vnic sydd holl-alluog, efe yn vnic a ddichon ein cynhorthwyo ni bob amser, ac ymhob lle: mae fe 'n goddef i'w haul ddiscleirio ar y da a'r drwg: mae fe 'n porthi cywion y cigfrain pan le∣font arno: mae fe 'n cadw dŷn ac anifail: ni oddef i flewyn o wâllt ein pennau ni syrthio: ond mae fe 'n barod i nerthu ac i gadw pawb a ymddire∣dant ynddo, fal yr addawodd ef gan ddywedyd, Cyn y galwont mifi attebaf, yr hyd y byddont yn dywedyd mifi a wrandawaf, na wan-ymddire∣dwn am hynny i'w ddaioni ef, nac ofnwn ddyfod ger brō gorseddfaingc ei drugaredd ef, na cheisiwn nerth na chynhorthwy y saint, ond deuwn ein hu∣nain yn * 1.376 eofn heb ammau nas gwrendy Duw ni er mwyn Christ, yn yr hwn y bodlonir ef, heb vn cyfryngwr, ac y cyflawna ef ein deisyfiad ni ym∣mhob peth ac sydd gyfun â'i ewyllys sanctaidd ef. Felly y mae Chrysostom hên ddoctor o'r Eglwys * 1.377 yn dywedyd, ac felly y mae 'n rhaid i ninnau gre∣du, nid am ei fod ef yn dywedyd felly, ond yn fwy o lawer o herwydd mai athrawaeth ein Iachaw∣dwr Christ ei hun yw hynny. Yr hwn a addawodd os ni a weddiwn ar y Tâd yn ei enw ef, y cawn ni yn ddiddau ein gwrando cystadl er cymmorth yn ein hangenrheidiau, ac i Iachadwriaeth ein he∣neidiau, y rhai a brynodd ef ini, nid ag aur nac a∣rian ond â'i werthfawr waed, yr hwn a dywall∣todd ef vnwaith dros bawb ar y groes.

Iddo ef am hynny gydâ'r Tâd a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn Duw, y bytho holl anrhydedd moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Page 237

¶ Y drydedd ran o'r bregeth o blegid gweddi.

FE a'ch dyscwyd chwi yn y rhan arall o'r bregeth hon, at bwy y dlyech gyfeirio cich gweddi mewn amser angen a chyfyng∣dra; Hynny yw nid at angylion na saint, ond at y tragwyddol a'r byth-fywiol Dduw: yr hwn am ei fod yn drugarog sydd yn barod yn wastad i'n gwrando ni, pan alwom arno mewn gwirionedd a ffydd berffaith: ac am ei fod ef yn holl-alluog fe ddichon yn ebrwydd gyflawni a chwblhau y peth yr ydym ni yn ei ddeisif ar ei ddwylaw ef. Ammau ei allu ef a fyddai anffyddlonder eglur, ac yn er∣byn athrawaeth yr Yspryd glân, yr hwn sydd yn dangos ei fod ef oll yn oll. Ac am ei ewyllys da ef yn hyn o beth, mae ini destiolaethau golau yn yr scruthur y cynnorthwya ef ni os ni a alwn arno * 1.378 mewn amser blinder. Megis o blegid y ddau a∣chos hyn y dlyem alw arno ef yn hytrarch nag ar neb arall: ac ni ddylai neb ofni dyfod at Dduw yn * 1.379 eofn am ei fod yn bechadur. O herwydd fal y dy∣waid y Prophwyd Daffydd, Trugarog a gra∣slawn yw 'r Arglwydd, ie ei drugaredd ef a'i dda∣ioni * 1.380 sydd yn dragywydd.

O ni wrendy efe bechaduriaid yr hwn a ddan∣fonodd ei fâb ei hun i'r byd i gadw pechaduriaid? os â chalon wir etifeiriol a ffydd ddiogel y gweddi∣an * 1.381 arno? Os cydnabyddwn ein pechodau mae Duw yn ffyddlon i faddau ini ein pechodau ac i'n glanhau ni oddiwrth ein anwiredd, fal y dangosir ini yn oleu wrth siampl Dafydd, Petr, Mair * 1.382

Page 236

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 237

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 238

Fagdalen, y Publican, a llawer eraill.

Ac lle mae 'n rhaid ini gael nerth rhyw gyf∣ryngwr ac airiolwr, byddwn fodlon iddo ef yr hwn yw gwir gyfryngwr a dadleuwr y Testa∣ment newydd, set ein Harglwydd a'n Iachaw∣dwr Iesu Grist. O herwydd fal y dywaid Ioan S. Os pecha neb mae ini eiriolwr gydâ'r Tâd, Ie∣su * 1.383 Grist y cyfiawn ac efe yw r' iawn dros ein pe∣chodau. Ac mae S. Pawl yn ei Epistol cyntaf at Timothi yn dywedyd fod vn Duw ac vn cyfryn∣gwr rhwng Duw a dyn, sef y dŷn Christ Iesu, yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth i bawb ac yn destiolaeth yn ei lawn bryd.

Yn awr gwedy cadarnhau yr athrawaeth hon, fe a'ch cyfarwyddir chwi am ba bethau, a thros pa fath dynniō y dylyech chwi weddio ar Dduw. Rhan pawb cyn gweddio yw ystyriaid yn dda ac yn ddiescaelus pa beth y maent yn ei ofyn ac yn ei geisio ar law Dduw: rhag os hwy a ddymu∣nant y peth nis dlyent, fyned eu deisyfiad hwy yn ofer ac yn ddiffrwyth. Fe ddaeth vnwaith at frenin Agesilaus ryw ymbiliwr taer, yr hwn a geisiai gantho ryw beth yn daer; gan ddywedyd, Syre, os gwel eich grâs chwi fod yn dda chwi a addawsoch hynny vnwaith i mi, gwir yw, eb y brenin, os cyfiawn y peth yr wyt yn ei geisio, ac onid ê ni wnaethym onid dywedyd heb addo. Ni chymmerai 'r dyn ei atteb felly gan y brenin, ond fe a ganlynodd arno ym-mhellach gan ddywedyd, fe weddai i frenin gyflawni y gair lleiaf a ddywe∣dai ie pe byddai heb ond amneidio â'i ben. Nid mwy eb y brenin nag y gweddai i'r dyn a ddawai at frenin ddywedyd wrtho neu geisio gantho be∣thau onest cyfion. Fal hyn y trodd y brenin ym∣maith

Page 239

yr ymbiliwr taer anrhesymmol hwnnw.

Yn awr os rhaid bod cymmaint ystyr pan ben∣liniom ni ger bron brenin dayarol? pa faint mwy y dylyai fod pan benliniom ni ger bron y brenin nefol, yr hwn a fodlonir yn vnic â chyfiawnder ac iniondeb, ac ni dderbyn vn ddeisyfiad ofer ynfyd anghyfiawn? Da am hynny a buddiol fydd i ni ystyried yn gwbl ac edrych ynom ein hunain pa bethau a allwn yn gyfraithlon eu gofyn oddiar law Dduw, heb ofn cael * 1.384 nâg: ac hefyd pa fath ddynion yr ydym ni rhwymedig i'w gorchymmyn i Dduw, yn ein gweddiau beunyddol.

Dau beth yn enwedig a ddylid eu ystyried yng∣weddi pob dyn duwiol da: ei anghenrhaid ef ei hun a gogoniant yr Holl-alluog Dduw. Mae anghenrhaid naill ai oddifaes o ran y corph, ai oddifewn o ran yr enaid.

Yr hon rhan o ddŷn am ei bod yn werthfawr∣occach ac yn odidawgach nâ 'r rhan arall; am hynny y dylyem ni geisio yn gyntaf y pethau a berthynant at Iechadwriaeth y rhan honno, me∣gis rhôdd etifeirwch, rhôdd ffŷdd, a rhôdd cariad, gweithredoedd da, gollyngdod a maddauant o'n pechodau, dioddefgarwch mewn adfyd, gostyn∣geiddrwydd mewn hawddfyd, ac eraill o fath ffrwythau 'r Yspryd: megis gobaith, cariad, law∣enydd, * 1.385 tangweddyf, ymaros, cymwynascarwch, daioni, mwyneidd-dra, dirwest, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ddwylaw pawb a gymme∣rant arnynt fod yn blant iddo ef, gan ddywedyd wrthynt yn y modd hyn, llewyrched eich goleuni ger bron dynion fal a gwelont eich gweithredo∣edd da chwi, ac yr anrhydeddant eich Tâd yr hwn * 1.386 sydd yn y nefoedd.

Page 240

Ac mewn man arall mae fe 'n dywedyd, Yn gyn∣taf ceifiwch deyrnas Duw a'i gyfiawnder, a'r holl bethau eraill a roddir i chwi. Trwy hyn y mae * 1.387 fe 'n dwyn ar gof i ni y dlyai ein gofal mwyaf ni fod am y pethau a berthynant at iechyd a chadwe∣digaeth yr enaid. Am nad oes ini ymma, fal y dy∣waid yr Apostol, ddinas barhaus eithr yr ydym * 1.388 yn ceisio 'r hon a fydd yn y byd a ddaw.

Yn awr gwedy darffo i ni weddio digon am be∣thau a berthynant at yr enaid, ni a allwn yn gy∣fraithlon â chydwybod dda weddio am ein ang∣henau corphorol, megis bwyd, diod, dillad, iechyd y corph, ymwared o garchar, llwyddiant yn ein negesau beunyddol, fal y byddo rhaid. Am yr hyn pa siampl well a allwn ni i chanlyn nâ siampl Christ ei hun, yr hwn a ddyscodd i'w ddiscyblon, ac yndynt hwythau i bob Christion, yn gyntaf we∣ddio am bethau nefol, ac yn ol hynny am bethau dayarol: fal y gellir gweled yn y weddi a adaw∣odd * 1.389 ef i'r Eglwys, yr hon a elwir gweddi 'r Arg∣lwydd?

Mae 'n scrifennedig yn y cyntaf o lyfrau y Brenhinoedd a'r trydedd Bennod, i Dduw ym∣ddangos i frenin Salomon liw nos mewn breuddwydd gan ddywedyd, Gofyn i mi y peth a fynnych ac mi a'i rhoddaf iti: fe wnaeth Salo∣mon felly, ac a ofynnodd galon gall ddeallus, fal y gallai farnu 'r bobl a deall gwahaniaeth rhwng drŵg a da: pa beth a fyddai dduwiol a pha beth a fyddai annuwiol, pa beth a fyddai gyfiawn a pha beth a fyddai anghyfiawn yngolwg yr Arglwydd.

A bodlon iawn y fu gan Dduw iddo ofyn y peth hyn, ac fe ddywad Duw wrtho, Am iti ofyn y peth hyn ac na ofynnaist iti ddyddiau lawer, ar y dday∣ar

Page 241

ac na ofynnaist iti olyd ac na cheisiest waed dy elynnion, eithr ceisiaist iti ddeall i fedru gwneu∣thur barn: wele gwneuthym yn ol dy airiau rhoddais iti galon ddoeth a deallus, fal na bu dy fa'th oth flaen ac na chyfyd dy fath ar dy ol di. Hefyd heblaw hyn mi a rhodais yr hyn ni ofyn∣naist, sef golyd a gogoniant hefyd: fal na byddo vn o 'r fath ymmysc y brenhinioedd dy holl ddy∣ddiau di.

Merciwch y siampl hon pa fodd na ofynnodd Salomon ac yntef yn cael ei ddewis gan Dduw bethau ofer gwaeg, ond ichel a nefol dresor ddo∣ethineb. Ac er mwyn iddo wneuthur felly mae fe 'n mwynhau megis yn wobr gyfoeth ac anrhy∣dedd. Wrth yr hyn y gallwn weled y dlyem ni yn enwedig iwchlaw pob peth ofyn pethau a berthy∣nant at deyrnas Dduw, a Iachadwriaeth ein eneidiau, heb ammeu na roddir yr holl bethau eraill i ni: yn ol addewid ein Iachawdwr Christ.

Ond ymma mae 'n rhaid i ni synned nad ang∣hofiom y diwedd arall y sonniwyd o'r blaen am dano: hynny yw gogoniant Duw, yr hwn oni feddyliwn am dano ac oni osodwn ger bron ein llygaid pan fythom yn gweddio, nid oes ini dybi∣ed y cawn ni ein gwrando na derbyn dim gan yr Arglwydd. Fe ddaith mam Meibion Zededeus at yr Iesu yn yr 20. Bennod of Efengil Mathew, * 1.390 gan ei addoli ef a dywedyd; dyweid am im dau fab hyn gael iste vn ar dy ddeheulaw a'r llall a'r dy law asswy yn dy deyrnas. Nid ydyw hi yn yr arch hyn yn gofalu am ogoniant Duw, ond mae hi yn dangos yn oleu ei balchedd a gwag ogoniant ei meddwl, am yr hyn nid heb achos y trodd hi yn ei gwrthol ac y cafas hi ei cheryddu ar law yr Ar∣glwydd.

Page 242

Yn yr vn modd yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion am vn Simon Magus swynwr, yr hwn pan gwelodd fod yn rhoddi yr Yspryd glan wrth osodiad dwylo 'r Apostolion, a gynnigodd iddynt arian, gan ddywedyd: Rho∣ddwch i minnai hefyd yr awdyrdod hon, fal ar bwy bynnac y gosodwyf fynnwylaw y derbynio ef yr Yspryd glan. Wrth wneuthur y deisyfiad hwn ni * 1.391 cheisiodd ef ogoniant Duw a'i anrhydedd: ond ei ennill a'i elw ei hun, gan obeithio cael llawer o arian trwy y gelfyddyd hon, ac am hyn y dywed∣wyd yn gyfiawn wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am dy fod yn tybied y meddiannir dawn Duw trwy arian.

Trwy 'r siamplau hyn ar fath siamplau eraill ein dyscir ni, pan wnelom ein gweddi ar Dduw, vwchlaw pob peth i ofalu am anrhydededd a go∣goniant ei enw ef. Am yr hyn mae ini y gorchym∣myn cyffredinol hwn gan S. Pawl, Pa vn bynnac a wneloch ai bwyta ai vfed au vn peth a∣rall * 1.392 gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. Yr * 1.393 hyn beth y wnawn ni yn orau i gyd, os canlynwn siampl ein Iachawdwr Christ: yr hwn pan ydodd yn gweddio ar fyned cwppan chwerw angau oddiwrtho ef, ni fynnai gael cyflawni ei ewyllys * 1.394 ei hun, ond rhoi 'r cwbl oll ar ewyllys a bodd ei Dad.

Ac hyd hyn am y pethau a allwn ni yn gyfraith∣lon ac yn eofn eu gofyn gan Dduw.

Yn awr y canlyn bod i ni fanegu pa rhyw ddy∣nion yr ydym ni yn rhwymedig mewn cydwybod i weddio drostynt. Mae S. Pawl gan scrifennu * 1.395 at Timothi, yn ei gynghori ef: ar fod ymbil a gweddio dros bob dyn, heb ddieithro neb pa radd

Page 243

bynnac neu stat y font hwy ynddo. Yn yr hwn le mae fe 'n son yn enwedig am frenhinioedd a lli∣wiawdwyr y rhai ydynt mewn awdurdod: gan ddwyn ar gof ini trwy hynny mor fuddiol yw i'r wlad weddio 'n ddiescaelus dros y galluoedd goruchaf.

Ac nid heb achos y mae yn ei holl lythyrau yn * 1.396 gofyn gweddiau pobl Dduw drosto ei hun, O her∣wydd wrth wneuthur felly mae fe 'n manegi mor addas ac mor anghenrheidiol yw galw ar Dduw beunydd dros wenidogion ei sanctaidd air ef a'i Sacramentau, a'r iddynt gael drws ymmadrodd yn agored, fal y gallont yn gywir ddeall yr scru∣thyrau ai pregethu hwy i'r bobl, a dwyn eu ffrwy∣thau hwy allan er siampl i bawb eraill.

Yn y modd ymma yr ydodd y gynulleidfa yn gweddio 'n wastad dros Peter yn Ierusalem a∣thros * 1.397 Pawl ymlhith y cenhedloedd, er mawr lwy∣ddiant a chynnydd efengil Christ: ac os ni a gan∣lynwn yn hyn eu siamplau da hwy, ac a fefyriwn wneuthur yn yr vn modd, yn ddiammau ni wna∣wn fawrles ini ein hunain, ac a fodlonwn Dduw hefyd. Fe fyddai rhy hir imi adrodd a rhedeg dros bob gradd o ddynion, am hynny ar yehydig airiau cymmerwch hyn i gau y cwbl. Pwy bynnac yr ydym rhwymedig wrth orchymmyn Duw iw ca∣ru, dros y rhai hynny oll yr ydym rhwymedig yn ein cydwybod i weddio. Ond yr ydym ni yn rhwymedig wrth orchymmyn Duw i garu pawb fal ein hunain: ac am hynny yr ydym yn rhwy∣medig i weddio dros bawb oll cystal a throsom ni ein hunain: er ein bod yn gwybod eu bod yn e∣lynnion marwol ini.

O herwydd felly y mae ein Iachawdwr Christ

Page 244

yn dangos yn eglur yn yr efengil gan ddywedyd, Yr yd wyf yn dywedyd wrthych cerwch eich gely∣nion, * 1.398 bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwne∣wch dda i'r sawl a'ch cashant, a gweddiwch dros y rhai a eich herlidiant, fal y byddoch blant eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac fal y dyscodd ef * 1.399 ei ddyscyblon, felly yr arferodd ef ei hun, yn ei fy∣voyd gan weddio dros ei elynion ar y groes, a deisif ar ei Dad faddau iddynt, o herwydd na wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur: felly hefyd y gw∣naeth * 1.400 y merthyr sanctaidd S. Stephan pan la∣byddiwyd ef i angau yn dra chreulon, gan yr I∣ddewon * 1.401 afrywog gwargaledion, er siampl i bawb a ganlynant yn gywir ac yn ddiffuant siampl eu Harglwydd a'u meistr Christ yn y bywyd blin mar wolhwn.

Yn awr i draethu am y question hwn. A ddylcm ni weddio dros y rhai a ymmadawsont o'r byd hwn ai na ddylem. Yn yr hwn os glynwn ni yn vnic wrth air Duw, mae 'n rhaid ini gydnabod nad oes gennym vn gorchymmyn i wneuthur felly. O herwydd nid ydyw 'r Scruthyr yn cyd∣nabod ond dau le ar ol y bywyd hwn. Yr vn yn berthynasol i fendigedig a dewisol Duw, a'r llall i'r eneidiau damnedig gwrthodedig: fal y gellir cynull yn hawdd wrth ddāmeg Lazarus a'r gwr * 1.402 cyfoethog, wrth agored yr hwn le y dywaid S. Austin fal hyn ar y geiriau y ddywad Abraham wrth y gwr cyfoethog yn yr efengil: sef na ddi∣chon y cysion fyned ir lleoedd hynny lle 'r ydys yn cospt 'r annuwiolion. Pa beth y mae hyn yn ei * 1.403 ar wyddoccau ond na ddichon y cysion o herwydd barn Duw yr hon ni ellir ei galw yn ol, ddangos vn weithred o drugaredd i gynorthwyo y rhai y∣dynt

Page 245

yn ol y bywyd hwn gwedy eu tafli i garchar hyd nes talu honynt y ffyrlling eithaf? fal y mae y geiriau hyn yn gwradwydd yr athrawiaeth am gynorthwyo y meirw trwy weddi: felly y maent hwy hefyd yn dinistr, ac yn tynnu yn lan ymmaith yr amryfysedd am y purdan, yr hwn a wreiddir ar y geiriau hyn o'r efengil, ni chai di fyned oddi yno nes iti dalu y ffyrlling eithaf.

Yn awr mae S. Awstin yn dywedyd na ellir mewn modd yn y byd gynorthwyo y rhai yn ol y bywyd hwn ydynt gwedy eu tafli i garchar, er cymmaint y mynnem eu nerthu hwy. A pha ham? am fod barn Duw yn ânnewidiol ac na ellir ei galw hi yn ei hol. Na thwyllwn am hynny mo honom ein hunain gan dybied y gallwn gynorth∣wyo eraill, neu y gall eraill ein cynorchwyo nin∣nau a'r ol hyn trwy eu gweddiau da cariadus, o blegid fal y dywaid y pregethwr, Pa vn bynnac * 1.404 ai i'r dehau ai i'r gogledd ai pa le bynnac y cwympo 'r pren yno y trig efe: gan feddwl wrth hynny fod pob dyn marwol yn marw mewn stat cadwedigaeth neu ddamnedigaeth: fal y mae gei∣riau 'r efengylwr Ioan yn dangos yn eglur, gan ddywedyd, Yr hwn sydd yn credu ym-Mab Duw mae iddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd yn an∣ghredu * 1.405 yn y Mab ni wel ef y bywyd, eithr mae di∣gofaint Duw yn aros arno ef.

Pa le wrth hynny y mae 'r trydydd lle yr hwn y alwant purdan? Neu pa le y nertha ein gwe∣ddiau ac a cynorthwyant hwy y meirw? Mae S. Awstin yn cydnabod yn vnic ddau le yn ol y * 1.406 bywyd hwn nef ac vffern, am y drydedd mae fe 'n gwadu 'n oleu na ellir cyfarfod ac ef, yn yr holl Scruthyrau.

Page 246

Mae Chrysostom hefyd o'r meddwl hwn, Oni olchwn ni ein pechodau ymmaith yn y byd * 1.407 hwn na chawn ni ar ol hynny ddim diddanwch. Mae S. Cyprian hefyd yn dywedyd: Y bydd eti∣feirwch * 1.408 tristwch a phoen yn ol angau yn ddiffrw∣yth, y bydd wylo 'n ofer a gweddi 'n wag, am hyn∣ny y mae 'n cynghori pavob i ddarparu drostynt eu hunain yr hyd y gallont, o herwydd yn ol eu myned o'r byd hwn nid oes vn lle i etifaru nac i wneuthur iawn.

Gwasanaethed y lleoedd hyn a lleoedd eraill i dynnu ymmaith y camsynnaeth blin ynghylch purdan allan o'n pennau ni: ac na freiddwydiwn mwy y gellir cynorthwyo eneidiau 'r meirw trwy 'n gweddiau ni. Ond fal y mae 'r Scruthur yn ein dyscu ni felly credwn fod enaid dŷn pan elo efe allan o'r corph yn myned yn y man y naill ai i'r nef âi i vffern: y naill nid rhaid iddo wrth weddi ac i'r llall nid oes ymwared.

Yr vnic burudd trwy 'r hwn y mae ini obaith cael ein cadw yw angau a gwaed Christ, yr hwn os cymmerwn afael arno a gwir a diogel ffydd fe 'n pura ac a'n glanhani oddiwrth ein holl becho∣dau, cystal a phe byddai fe yn awr yn crogi ar y groes. Gwaed Iesu Grist, medd S. Ioan sydd * 1.409 yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod. Gwaed Iesu Grist, medd S. Pawl, a burodd ein cydwy∣bod ni oddiwrth weithredoedd meirwon i wasa∣naethu * 1.410 y Duw byw. Ac fe a ddywaid mewn man arall hefyd: yr ydym gwedy ein sancteiddio a'n * 1.411 glanhau trwy offrymmiad corph Iesu Grist vn∣waith. Ie mae fe 'n cydsylltu ychwaneg gan ddy∣wedyd. Ddarfod iddo ag vn offrwm berffeiddio yn dragwyddol y rhai sydd gwedy eu sancteiddio.

Page 247

Dymma am hyn y purudd yn yr hwn y mae 'r holl Gristionogion yn gobeithio ac yn ymddired: heb ammau dim os hwy a wir etifarant am eu pechodau ac a fyddant feirw mewn ffydd ber∣ffaidd, yr ant hwy yn y man o far wolaeth i fywyd. Oni wasanaetha y purudd hyn na obeithiant y cânt hwy ym wared wrth weddiau dynnion eraill pe parhaent hwy yndynt hyd diwedd y byd.

Yr hwn ni allo gael ei gadw trwy ffydd yngwaed Christ, pa fodd yr edrych ef am gael ei gadw trwy gyfryngiad dyn? Ydyw Duw yn edrych yn fwy ar ddyn ar y ddayar, nag a'r Grist yn y nef? Os pecha neb (medd Ioan sant) mae i ni ddadleuwr gyda 'r Tad Iesu Grist y cysiawn, ac efe yw 'r iawn dros ein pechodau. Ond rhaid yw ini edrych am alw ar y dadleuwr hwn ymrhyd tra caffom ennyd yn y bywyd hwn, rhag gwedy 'n meirw vnwaith na bytho vn gobaith iethyd gwedy ei a∣del ini.

O herwyd fal y mae pawb yn cyscu yn ei ddadl eu hun, felly y cyfodir pawb yn ei ddadl ei hun. Ac edrychwch mewn pa stat y bu ef farw, yn yr vn stat y barnir ef hefyd, pa vn bynnac ai i Ie∣ched wriaeth ai i ddamnedigaeth. Na freiddwy∣dwn am hynny am burdan nac am weddi dros en∣eidiau y rhai a fuont feirw. Ond gweddiwn yn ddifrif ac yn ddiescalus dros y rhai y gorchym∣mynnir ini yn oleu yn yr Scruthyr weddio dro∣stynt: Hynny yw dros frēhinoedd a liwiawdwyr, dros wenidogion gair Duw a'i sacramentau, dros saint y byd hwn, y rhai hefyd a elwir y ffyddloni∣aid: ac ar ychdig o airiau dros bob dyn byw, er maint gelynion y fythont hwy i Dduw a'i bobl, megis Iddewon, Twrciaid, Paganiaid, Anghre∣dadwy▪

Page 248

Hereticciaid, &c. yno y cyflawnwn ni yn gywir orchymmyn Duw yn y peth hyn, ac y dan∣goswn ni yn eglur ein bod ni yn wir blant ein Tad nefol, yr hwn sydd yn goddef iw haill dywynnu ar y da a'r drwg, a'r glaw i lawio ar y cyfion a'r anghyfion. Am yr hyn ac am bob doniau eraill y roddodd ef yn aml iawn i ddynnion er y dechreu∣ad, rhoddwn iddo ef fawr ddiolch fal yr ydym ni rhwymedig a moliannwn ei enw ef yn dragy∣voydd. Amen.

¶ Pregeth am le ac amser gweddi.

FE greodd Holl-alluog Dduw yn y dechreuad, trwy ei allu ei ddoethi∣neb ai dduwioldeb nef a dayar, yr haul y lluad a'r sêr, ehediaid yr awyr, anefeiliaid y ddayar, pyscod y mor a'r holl greaduriaid eraill, er bud a lles i ddyn: yr hwn hefyd a greasai fe ar ei ddelw a'i lun ei hun: ac a rhoddodd iddo ef reolaeth a llywodraeth oddi∣arnynt hwy oll, er mwyn iddo ef eu harfer hwy yn y modd y harchasai ac y gorchymmynysai Dduw iddo ef: ac er mwyn iddo ef hefyd ei ddan∣gos ei hun yn ddiolchus ac yn ostyngedig yn yr holl ddonniau hyn, y rhai a rhoddwyd iddo ef mor hael ac mor raslawn heb ei haeddiant ef yn hollol, mewn hyn o beth. Ac er y dylyem ni bob amser ac ymhob lle fod yn ddiolchus ein harglwydd gra∣sawl, fal y mae 'n scrifennedig. Misi a fawrhaf yr Arglwydd bob amser. Ac ailwaith pa le bynnac * 1.412 y bytho 'r Arglwydd yn teyrnasu o fy enaid ben∣dithia 'r Arglwydd. * 1.413

Etto eglur yw mae ewyllys Duw yw ini ym∣gynull

Page 249

ynghyd a'r rhyw amseroedd nodedig, ac mewn rhyw leoedd nodedig, o fwriad ar glodfori ei enw ef, a chyhoiddi ei ogoniant ef ynghynu∣lleidfa ei saint ef.

Am yr amser y osododd yr Holl-alluog Dduw iw bobl ymgynull ynghyd yn gyhoedd mae 'n eg∣lur wrth bedwarydd gorchymmyn Duw: Cofia medd Duw gadw 'n sanctaidd y dydd Sabaoth. Ar yr hwn ddiwrnod fal y mae 'n oleu wrth Actau 'r Apostolion yr oedd y bobl yn arferedig o ddyfod ynghyd, ac yn gwrando 'n ddiescaelus y gyfraith a'r Prophwydi a ddarllened yn eu mysc hwy. Ac er nad ydyw y gorchymmyn hwn yn rhwymo Christionogion mor galed, i gadw ac i gynnal Gwbl-ceremoni y dydd Sabaoth, fal y rhoed ef i'r Iddewon, am ymgadw oddiwrth waith a thrafaelu mewn anghenrhaid mawr; ac ynghylch cadw y saithfed dydd yn gymmwys yn ol arfer yr Iddewon. O blegyd yn awr yr ydym ni yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yr hwn yw ein dydd sul ni, ac yr ydym yn gwneuthur hwnnw yn Sa∣baoth ini, hynny yw yn ddydd gorphwysfa ini, er anrhydedd ein Iachawdwr Christ, yr hwn ar y dwthwn hwnnw a gyfododd-o feirw i fyw, ac a orchfygodd angau yn orfoleddus. Etto pa beth bynnac a geffir yn y gorchymmyn hwnnw, me∣gis yn perthyn at gyffraith nattur. Fe ddylai bob pobl Gristionogaidd gadw a chynnal hwnnw me∣gis peth duwiol iawn, peth cysion iawn, peth an∣ghenrheidiol iawn i osod allan ogoniānt Duw.

Ac am hyn wrth y gyrchymmyn hwn fe ddylai fod gennym ni amser megis vn diwrnod yn yr wythnos, yn yr hwn y dylyem orphwys, ie oddi∣wrth ein gweithredoedd cyfraithlon rheidiol. O

Page 250

herwydd fal y mae 'n eglur wrth y gorchymmyn hvon na ddlyai neb dros chwech diwarnod fod yn fegur ac yn ddiog, ond trafaelu 'n ddiescaelus yn yr stat y gosododd Duw ef yndi. Felly y rhoddodd Duw orchymmyn goleu ar y dydd Sabaoth, (hynny yw ein dydd sul ni yn awr) fod iddynt or∣phwys oddiwrth yr holl drafael a arferir trwy 'r wythnos, ac ar ddyddiau gwaith, o fwriad megis y gwaithodd Duw chwech diwarnod, ac a gor∣phwysodd ar y saithfedd dydd a bendigodd ac a sancteiddiodd ef, gan ei sancteiddio ef i lony∣ddwch a gorphwyffa oddiwrth bob llafyr: felly y dylyai vfydd bobl Dduw arfer y dydd sul yn san∣ctaidd, a gorphwys oddiwrth eu llafyr, ac ymroi yn hollol i arferon gwir grefydd, a gwir wasa∣naeth Duw.

Fal na orchymmynnodd Duw yn vnic gynnal y dydd sanctaidd hwnnw: Ond fe 'n annogodd ac ein cyffrodd ni hefyd wrth ei siampvol ei hun i gadw hwnnw yn ddiescaelus. Fe fydd plant na∣turiol da nid yn vnic vfydd i orchymmynion eu Tadau: ond fe fydd ganthynt lygaid diwall ar eu gweithredoedd hwy hefyd, ac yn llawen y canlynant y rhai hynny. Felly os ni a fyddwn blant ffyddlon ein Tad nefol, rhaid ini fod yn ofa∣lus i gadw dydd Sabaoth y Christionogion, yr hwn yw 'r ful: nid yn vnic er mwyn gorchym∣myn eglur Duw; ond hefyd er mwyn ein dangos ein hunain yn blant caredig, gan ganlyn siampl ein grasol Arglwydd a'n Tad.

Fal hyn y mae'n eglur fod ewyllys Duw a'i orchymmyn ar osod amser gyhoeddus a diwar∣nod nodedig o'r wythnos, yn yr hwn y gallai y bobl ddyfod ynghyd, a chofio ei ddonniau rhyfedd

Page 251

ef, ac i rhoddi diolch iddo am danynt megis y mae 'n gymhesyr i bobl garedig addiwyn vfydd. Fe ddechreuodd y bobl Gristionogaidd ganlyn y si∣ampl hon a gorchymmyn Duw, yn y man yn ol escynniad ein Harglwyd Christ, ac hwy a ddech∣reuasont ddewis diwarnod gosodedig o'r wyth∣nos i ymgynull ynghyd arno: etto nid y saithfed dydd yr hwn y gadwe r' Iddewon, ond dydd yr Arglwydd, dydd ailgyfodiad yr Arglwydd. Y dydd yn ol y saithfed dydd, yr hwn yw 'r dydd cyntaf o'r wythnos.

Am yr hwn ddydd mae S. Pawl yn son fal hyn. Pob dydd cyntaf o'r wythnos rhodded pob vn ho∣noch heibio wrtho ei hun i'r tylodiō, yr hyn y mae fe yn ei feddwl. Wrth y diwarnod cyntaf o'r wyth∣nos * 1.414 y deallir ein dydd sul ni: yr hwn yw 'r dydd cyntaf ar ol Sabaoth yr Iddewon. Ac mae etto * 1.415 yn oleuach yngweledigaeth Ioan, lle mae fe 'n dywedyd: yr oeddwn yn yr Yspryd ar ddydd yr Arglwydd.

Er yr amser hynny yr arferodd pobl Dduw yn wastad ymhob oes, o ddywod ynghyd yn ddi∣wrthwyneb ar ddydd sul, i glodfori ac i foliannu enw 'r Arglwydd, ac i gadw y dydd hwnnw yn o∣faius, mewn llonyddwch a gorphwyffa, gwyr a gwragedd, plant, gweision a dieithraid. Am dro∣seddi a thorri yr hwn ddiwarnod fe ddangosodd Duw ei fod yn ddig dros ben: fal y gellir gweled wrth yr hwn am gynull briwydd a'r y dydd Saba∣oth a labyddiwyd i far wolaeth. Ond och er hyn oll blin yw edrych ar eofnder annuwiol llawer o rai, ac a fynnant ei cyfrif yn bobl Dduw, y rhai ni ofalant vn gronyn am gadw 'r sul.

Mae 'r bobl hyn o ddau fath▪ y naill or bydd

Page 252

ganthynt vn neges i'w wneuthur, ni arbedant hono er y sul: er na bo anghenrhaid mawr, rhaid iddynt farchogaeth ac ymdaith ar y sul, rhaid i∣ddynt gywain a chludo ar y sul, rhaid iddynt rwyfo a myned dros afonydd a'r y sul, rhaid iddynt brynu a gwerthu ar y sul, rhaid iddynt ga∣dw ffairiau a marchnadoedd ar y sul: yn ddiwe∣thaf maent yn arfer pob dydd yn gyffelyb, mae dyddiau gwyl a dyddiau gwaith yn yr vn modd.

Mae 'r fath arall etto yn waeth, o herwydd er na fynnāt drafaelu na llafuro ar y sul fal y maent hwy'n gwneuthur ddiwarnodau genol wythnos, etto ni orphwysant hwy mewn sancteiddrwydd megis y mae Duw yn gorchymmyn: ond maent yn gorphwys mewn annuwioldeb a brynti, gan ymhoywi ac ymrodresu yn eu balchedd, gwingo ac ymbingcio, peintio a lliwio eu hunain i fod yn wych ac yn * 1.416 ddillyn, maent hwy 'n gorphwys mewn gormodd a rhylanw, newn gloddineb a meddwdod, megis moch a llygod, maent yn gor∣phwys mewn ymdaeru acymrysson, mewn cwa∣relu ac ymladd: maent yn gorphwys mewn drythyllwch a choegchwedleua, ac mewn cnaw∣dolrwydd brwnt: fal y mae yn rhy eglur fod yn di∣anrhydeddu Duw yn fwy, ac yn gwasanaethu 'r diawl yn well ddie sul nag ar vn diwarnod or wythnos heb ei law ef. A byddwch siccr fod yr anifeiliaid y rhai y gorchymmynnir iddynt or∣phywys ar y sul yn anrhydeddu Duw yn well na 'r bobl ymma.

O herwydd nid ydynt hwy yn digio Duw nac yn torri 'r dyddiau gwyl. Am hynny o chwi bobl Dduw gosodwch eich dwylaw ar eich calonnau, etifarhewch a gwellhewch yr annuwioldeb blin

Page 253

enbaid hwn: ofnwch orchymmyn Duw a chan∣lynwch siampl Duw ei hun yn llawen: na fy∣ddwch anufyddgar i dduwiol drefn Eglwys Grist, a arferwyd ac a gadwyd o amser yr Aposto∣lion hyd y dydd heddyw? ofnwch ddigofaint a chyfiawn bla-au yr holl-alluog Dduw, os chwi a fyddwch escaelus ac heb wachelyd trafaelu a lla∣furo ar y Sabaoth neu 'r dydd sul, heb arfer o ym∣gynull ynghyd i fendithio ac i fawrygu bendige∣dig enw Duw mewn syncteiddrwydd esm wyth, a pharch duwiol.

Yn awr am y lle yn yr hwn y dylyai bobl Dduw ymgynnll ynghyd, ac yn yr hwn y dylyent yn en∣wedig gynnal a chadw a sancteiddio 'r Sabaoth, hynny yw y sul, dydd gorphwysfa sanctaidd: fe elwir y lle hunnw yn deml neu Eglwys Dduw: am fod cynulleidfa bobl Dduw (yr hon yn brio∣dol a elwir yr Eglwys) yn ymgynull yno ar y dyddiau gosodedig i'r cyfryw ymgynull a chyfar∣fod. Ac yn gymmaint a darfod i'r holl-alluog Dduw osod amser nodedig i'w anrhydeddu arno, fe ddylyai fod lle gosodedig i'r bobl ymma i ym∣gynull a chyfarfod i wasanaethu eu Duw grasol a'u Tâd trugarog.

Gwir yw nad oedd gan y Patriarchau sanc∣taidd dros lawer o flynyddoedd na theml nac E∣glwys i fyned iddi. Yr achos oedd am nad oedd ganthynt arhosfa yn vn lle, ond mewn pererin∣dod a chrwydrad parhaus yr oeddynt, fal na allent yn gyfaddas wneuthur vn Eglwys. Ond er cyn∣ted y daroedd i Dduw ryddhau ei bobl o ddwy∣law eu gelynnion, a'u gosod mewn peth rhydd∣did yn yr anialwch, fe a osododd i fynu iddynt da∣bernacl gwerthfawr gwych, yr hwn oedd me∣gis

Page 254

yr Eglwys blwyf, yn lle i'r holl gynullefdfa ymgyfarfod, i wneuthur eu haberthau ynddo, ac i arfer cadwedigaethau a deddfau eraill.

Hefyd gwedy i Dduw yn ol gwirionedd ei a∣ddewid, osod ei bobl yn llonydd yn nhir Caanan, yr hon a elwir yn awr Iudea, fe a orchymmyn∣nodd i frenin Salomon wneuthur iddo deml fawr odidawg, o'r fath na welwyd onid weithi∣au: teml gwedy ei thrwsio a'i harddu mor wych ac mor deg, ag oedd weddus a chyfaddas i bobl yr amser hynny: y rhai ni lithed ac ni chyffroed a dim yn gymmaint ac a'r fath bethau gwychion hardd oddifoes. Hon yr amser hynny oedd deml Dduw, gwedy ei chyfoethogi a llawer o roddion, a ba∣giad mawr o addewidion, hon oedd Eglwys blw∣yf a mam Eglwys yr holl Iddewaeth.

Ymma yr anrhydeddid ac a gwasanaethid Duw. Ymma yr oedd holl drigolion teyrnas yr Israeliaid yn rhwymedig i ddyfod ar dair gwyl arbennig yn y flwyddyn, i wasanauthu eu Harg∣lwydd Dduw ymma. Ond awn yn ein blaen, nid oedd etto yn amser Christ a'i Apostolion ddim Temlau neu eglysydd i Gristionogion ddyfod i∣ddynt. O herwydd paham? yr oeddynt yn wastad fynychaf mewn erlidfa trallod a blinder, fal na allent gael na rhydd-did na channad i'r defnydd hwnnw. Etto yr ydoedd yn hoff iawn gan Dduw eu bod hwy yn fynych yn ymgyfarfod ynghyd i vn lle. Ac am hynny yn ol ei ascenniad ef hwy a arhosasant weithiau ynghyd mewn stafell oddiu∣chod, weithiau hwy aethont i'r deml, weithiau i'r Synagogau, weithiau yr oeddynt yngharchar, weithiau yn eu tai, writhiau yn y maesydd, &c.

Ac fe barhaodd hyn nes i ffydd Grist Iesu dde∣chreu

Page 255

amlhau mewn rhan fawr o'r byd. Yn awr gwedy cadarnhau llawer o deyrnasoedd mewn gwir grefydd Duw a chwedy i Dduw roddi i∣ddynt heddwch a llonyddwch, yno y dechreuodd brenhinioedd penaethiaid a'r bobl gwedy eu cy∣ffro a zeal a chynhesrwydd duwiol wneuthur eglwysydd a themlau, i'r rhai y gallai y bobl ym∣grynhoi yn well ynghyd, i wneuthur eu dylyed tuag at Dduw ac i gadw yn sanctaidd y dydd Sa∣baoth, diwarnod eu gorphwysfa.

Ac i'r Temlau hyn yr arfere y Christionogion o ddyfod o amfer yn amser, megis i leoed cyfathas lle gallent yn gytun ymarfer o foliannu ac o fawr∣hau enw Duw, gan rhoddi iddo ddiolch am y don∣niau y mae fe beunydd yn eu harllwys arnynt yn drugarog ac yn aml: lle gallent hefyd wrando darllen agoryd a phregethu ei sanctaidd air ef yn gywir, a derbyn ei sanctaidd Sacramentau ef a finistred iddent yn bur ac yn ddyledus.

Gwir yw mai Temlau enwediccaf ac odidawg∣af Duw yn y rhai y mae ef yn ymlawenychu fwy∣af ac yn hoffaf gantho drigo yndynt, ydyw cyrph ac eneidiau gwir Gristionogion, a dewisol bobl Dduw: yn ol athrawiaeth yr Scruthyrau sanc∣taidd y fanegwyd trwy S. Pawl. Om wyddoch chwi medd ef mai Teml Dduw ydychwi a bod Yspryd Duw yn aros ynoch, mae Teml Dduw * 1.417 yn sanctaidd yr hon ydych chwi.

Athrachefn yn yr vn Epistol. Oni wyddoch mai Teml yr Yspryd glân ydyw eich cyrph chwi yr * 1.418 hwn sydd yn aros ynoch, os o Dduw yr ydych, ac nad ydych eiddo chwi eich hunain. Etto er hyn mae Duw yn fodlon i'r deml ddefnyddiol yr hon a wnair a chalch a cherrig (cy fynyched ac y delo y

Page 256

bobl ynghyd i foliannu ei enw sanctaidd ef) i fod yn dy iddo ef ac yn lle yn yr hwn yr a ddawodd Duw fod yn bresennol a gwrando gweddiau y rhai a alwant arno.

Yr hwn beth y mae Christ a'i Apostolion a phawb eraill o'r tadau sanctaidd yn ei fanegi trwy hyn yn oleu: o achos er eu bod hwy yn gwy∣bod yn hyspysol y gwrandawid eu gweddiau hwy, pa le bynnac y gwnelid hwy, pe byddai hyn∣ny mewn gogofau, mewn coedydd ac yn yr ania∣lwch, etto cy fynyched ac y gallent, hwy arferent ddyfod i'r Temlau defnyddiol i ymgydsylltu yno gyda 'r gynulleidfa mewn gweddi a gwir addo∣liad. Y sawl am hynny o honoch fy anwyl ga∣redigion a sydd yn addef bod eich hunain yn Gri∣stionogion, ac yn ymogoneddu yn yr enw hwn∣nw, na ddiystyrwch ganlyn siampl eich meistir Christ, yscolheigion yr hwn yr ydych yn dywedyd eich bod: dangoswch eich bod yn debyg i'r rhai y cymmerwch arnoch fod yn gydmeithion yscol iddynt: hynny yw Apostolion a discyblon Christ. Cyfodwch i fynu dduwlaw pur a chalonnau glân ymhob lle a phob amser. Ond gwnewch hynny hefyd yn y Temlau a'r Eglwysydd ar y dydd Sabaoth. Nid arbedodd ein blaenoriaid duwiol ni, a'n hên dadau ni o'r brif Eglwysgynt ei da i adail Eglwysydd, ie mewn amseroedd er∣lid nid arbedasant eu bywyd, ie a fentro eu gwa∣ed er mwyn ymgynull ynghyd i'r Eglwysydd.

Ac y arbedwn ni ychydig o boen i ddyfod i'r Eglwysydd? Oni chyffro na'i siampl hwy, n'a 'n dlyed ni, na 'r ennil a gavon ni o hynny ni? os dangoswn fod ynom wir ofn Duw, os dango∣swn ein hunain yn wir Gristionogion, os by∣ddwn

Page 257

ganlynwyr i'n meistr Christ a'r tadau du∣wiol y rhai a fuont o'n blaen ni, ac yn awr a dderbynasant wobr gwir Gristionogion ffydd∣lon, mae 'n rhaid ini yn ewyllysgar ac yn ddifrif ac yn barchus ddyfod i'r Eglwysydd a'r Temlau defnyddiol i weddio: megis i leoedd gweddaidd gwedy eu gosod i'r defnydd hynny, a hynny a'r y dydd Sabaoth: megis yr amser weddusaf i bobl Dduw orphwys oddiwrth eu holl lafur corphorol bydol: ac i'w rhoi eu hunain i orphwysfa sanc∣taidd a duwiol fefyrdod, a'r y pethau a berthy∣nant i wasanaeth holl-alluog Dduw: trwy 'r hyn y gallwn ein cymmodi ein hunain a Duw, bod yn gyfranogion oi Sacramentau parchus ef, ac yn wrādawyr duwiol oi sanctaidd air ef, er mwyn cael felly ein cadarhau mewn ffydd tuag at Dduw, mewn gobaith yn erbyn pob gwrthwy∣neb, ac mewn cariad at ein cymydogion. Ac wrth rhedeg fal hyn ein rhedegfa, megis pobl ddaionus Gristionogawl y gallom yn y diwedd feddiannu gobrwy gogoniant tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr Iesu Grist: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yspryd sanctaidd y bytho holl anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am le ac amser gweddi.

FE ddangoswyd i chwi bobl Gristionogaidd ddaionus yn y bregeth a ddarllenwyd i chwi o'r blaen, ar pa amser ac ymha le y dylyech ddyfod ynghyd i folian∣nu Duw.

Yn awr yr ydwyf yn bwriadu

Page 258

gosod ymlaen eich llygaid yn gyntaf mor gyflawn o zeal ac mor ewyllysgar y dlyech fod i ddyfod i'r Eglwys.

Yn ail faint yw digofaint Duw yn erbyn y rhai a ddiystyrant ac sydd fychan ganthynt am ddyfod i'r Eglwys ar sanctaidd ddiwarnod yr orphw∣ysfa. Y mae 'n eglur wrth yr Scruthyrau i lawer o'r Israeliaid duwiol a hwy yn awr mewn cathi∣wed am eu pechodau ym-hlith y Babiloniaid chwennych a dymuno 'n fynych eu bod yn Ierusa∣lem ailwaith: ac ar eu dyfodiad hwy yn eu hol trwy ddaioni Duw, er bod llawer o'r bobl yn es∣caelus: etto yr oedd y tadau yn ddwyfol iawn i a∣dailadu y deml, fal y galle bobl Dduw ddyfod yno i'w anrhydeddu ef.

A phan oedd Dafydd gwedy ei * 1.419 afllwladu o'i wlad ei hun, o Ierusalem y ddinas sanctaidd, o'r gysegrfa a'r lle sanctaidd, ac o Babell Duw: pa ddamuniad, pa wres oedd ynddo tuag at y lle sanctaidd hwnnw? Pa ddeisyfiadau, pa weddiau y wnaeth ef at Dduw ar gael bod yn drigiannol ynhŷ yr Arglwydd? vn peth a geisiais gan yr Ar∣glwydd a hynny y ddymunaf sef gallu myned i dŷ * 1.420 yr Arglwydd yr hyd y byddwyf byw. Ac ailwaith llawenychais pan ddywedent wrthyf awn i dy yr Arglwydd. * 1.421

Ac mewn mannau eraill o'r Psalmau mae fe 'n manegi pa fwriad a pha fryd sydd gantho, wrth ddymuno mor chwannog ddyfod i deml ac i Eg∣lwys yr Arglwydd: Ymgrymmaf medd ef ac addo∣laf tua'th deml sanctaidd. Ac ailwaith mi a ddai∣thym * 1.422 i'th gesegrfa yno y gwelais dy allu a'th ga∣dernid, yno y gwelais dy fawrhydi a'th ogoniant▪ Ac yn ddiwethaf mae fe 'n dywedyd manegaf dy

Page 259

enw im brodyr ynghenol y gynulleidfayth folaf, Pa ham am hynny yr ydoedd gan Ddafydd y fath * 1.423 ddymuniad mawr ar dŷ yr Arglwydd?

Yn gyntaf er mwyn cael yno addoli ac anrhy∣deddu Duw.

Yn an yno y mynnai fyfyrio ac edrych ar allu a gogoniant Duw.

Yn drydedd yno y moliannai enw Duw gyda holl gynulleidfa ei bobl ef. Y fath achosion y rhai y mae y bendigedig Brophwyd yn eu cofio a ddly∣ent ein cyffro ninnau, ac enynnu ynom y fath ddy∣muniaid sanctaidd difrif, am ddyfod i'r Eglwys, yn enwedig ar ddiwarnodau gorphwysfa sancta∣idd, i wneuthur yno ein dylyed ac i wasanaethu Duw, er mwyn cofio yno pa fodd y mae Duw o'i drugaredd ac er gogoniant ei enw yn gweithio yn alluog ein cadw ni mewn Iachadwriaeth a duwi∣oldeb ac oddiwrth greulondeb a chyndairiogrw∣ydd ein gelyn creulon, ac yno 'n llawen ym-hlith rhifedi ei bobl ffyddlon ef i glodfori ac i fawrygu ei enw sanctaidd ef.

Gosodwch ymlaen eich llygaid yr hên dâd Si∣meon am yr hwn er ei fawr glod ef ac êr ein han∣nog ninnau i'r fath beth y dywed yr Scruthyrau sanctaidd hyn. Wele yr oedd gwr cyfion duwiol yn Ierusalem a 'i enw Simeon yn discwyl am ddiddanwch yr Israel a'r Yspryd glan oedd arno ac yr ydodd gwedy ei rhebyddio gan yr Yspryd glan na wele fe angau cyn iddo weled Christ yr Arglwydd: fe ddaith trwy 'r Yspryd i'r deml.

Yn y deml y cyfla wnwyd yr addewid, yn y deml y gwelodd ef Grist ac a'i cymmerodd yn ei frai∣chiau, ac yn y deml y torrodd ef allan i fawr foli∣ant Duw ei Arglwydd. Ac nid oedd Anna hên

Page 260

Brophwydes weddw, yn myned allan o'r deml, gan ymroi i weddi ac ympryd ddydd a nos, a hi yn dyfod hefyd ynghylch yr vn amser a gyfarwydd∣wyd gan yr Ysyryd ac a gyffessodd ac a ddywedodd am yr Arglwydd, wrth bawb a edrychent am bry∣nedigaeth Israel. Ni thorrwyd a'r gwr a'r wraig fendigaid hon am y mawr ffrwyth, ennill, a di∣ddanwch, yr hwn a ddanfonodd Duw iddynt, trwy eu dyfal ddyfodiad hwy i sanctaidd Deml Dduw. Yn awr y cewch glywed mor ddig y fu Dduw wrth ei bobl am ddiystyru ei deml ef a'i dirmygu neu chamarfer hi yn gas.

Yr hyn beth sydd yn ymddangos yn oleu wrth y plaau a 'r poenedigaethau hynod y osododd Duw ar ei bobl: yn enwedig wrth hyn, iddo gy∣ffro eu gwrthnebwyr hwy i ffusto i lawr, ac i ddi∣nistr yn llwyr ei deml sanctaidd ef, ag anghyfa∣neddrwydd tragwyddol.

Och pa sawl Eglwys gwlad a theyrnas, eiddo Gristionogawl bovl yn hwyr o amser, a dynnwyd i lawr, a rhedwyd drostynt, a adawad yn anghy∣fannedd, a blin ac aneirif dyronaeth a chreulon∣deb gelyn ein Harglwydd ni Christ y twrc mawr: yr hwn * 1.424 a fflangellodd y Christionogion mor gy∣ffredinol na chlywad er ioed son, ac na ddarllen∣wyd am y fath? Er ynghylchon pedwar igain mlynedd fe a orescynnodd y Twrc mawr ac a or∣meiliodd ac a ddug dan ei lywodraeth a'i gathi∣wed igain o deyrnasodd Christionogaidd, gan droi 'r bobl o ffydd Grist a'ugwenwyno hwy a chrefydd ddiawlig Mahomet felltigedig, a chan y naill ai distriwio eu eglwysydd hwy yn hollol, a eu ca∣marfer hwy yn frwnt, a'i gamsynnaeth mellti∣gedig cas ef.

Page 261

Ac yn awr mae'r Twrc mawr hwn y fflangell chwerw dost hon o ddial Duw, yn gyfagos i'r rhan hon o Gristionogaeth hefyd, yn Europ ar gyffiniau Itali, ar gyffiniau Germani, yn agor ei enau yn barod in llyncu ni, i orescin ein gwlad ni, ac i ddistriwio ein eglwysydd ninnau hefyd, onid etifarhawn ni am ein bywyd pechadurus, a dy∣fod i'r Eglwys yn ddiescaelusach, i anrhydeddu Duw, i ddyscu ac i gyflawni ei ewyllys bendige∣dig ef.

Fe annogodd yr Iddewon yn eu hamser hwy yn gyfion lid Duw yn eu herbyn, o herwydd idd∣ynt mewn rhan gamarfer ei deml sanctaidd ef, a delw-addoliad cas y cenhedloedd, ac ofergoelus ofereddau eu dychmygion hwy eu hunain yn er∣byn gorchymmyn Duw. Ac mewn rhan o her∣wydd eu bod hwy yn arfer o ddyfod iddi megis ragrithwyr gwedy llygru a'u trabaeddu a'u halo∣gi 'n anferth, a phob rhyw ddrygioni, a bywyd pechadurus: ac mewn rhan yr oedd llawer ho∣nynt yn diystyru 'r Deml sanctaidd, ac nid oedd waeth ganthynt pa vn a wnelent ai dyfod yno ai peidio.

Ac oni annogodd y Christionogion yn hwyr o amser, ie ac yn ein dyddiau ni hefyd, yn yr vn modd ddigofaint a llid yr Holl-alluog Dduw? Mewn rhan am iddynt anurddo a halogi eu Eglwysydd, a chamarferon cenhedlaidd Iddewaidd, a delwau ac eulynod: a llawer o allorau gwedy eu camar∣fer yn ofergoelus ac yn aruthr, a chamarfer yn annial, a llygru yn angharhuaidd, sanctaidd swp∣per yr Arglwydd, bendigedig Sacrament ei gorph ef a'i waed, a rhifedi aneirif o wagedd ac oferedd o'u dychmygion hwy eu hunain, i wneuthur go∣lwg

Page 262

deg wych oddi allan, ac i anffurfo gostynge∣dig ddisyml a phur grefydd Christ Iesu: mewn rhan maent yn dyfod i'r Eglwys fal ragrithwyr yn llawn o anwiredd a bywyd pechaourus, a meddwl a chred ofer enbaid ganthynt, os hwy a ddaw i'r Eglwys ac a * 1.425 dascir arnynt ddwfr ben∣digaid, o gwrandawant offeren, ac o bendigir hwy a'r caregl, er na ddeallant vn gair o'r gwa∣sanaeth ac er na chlywant vn cyffro i etifeirwch yn eu calonnau, etto fod pob peth yn dda ddigon.

Ffi ar y fath watwar a dirmyg a'r sanctaidd or∣deiniaeth Duw. Fe wnaethpwyd eglwysydd er defnydd arall, hynny yw i ddyfod yno i wasana∣ethu Duw yn gywir, i ddyscu ei sanctaidd ewy∣llys ef, i alw a'r ei alluog enw efe, i arfer i sancta∣idd Sacramentau ef, i ymegnio ac i fod mewn cariad perffaith a'th gymydog, i gofio yno dy gy∣mydog tlawd anghennus, ac i fyned oddi yno yn well ac yn dduwiolach nag y daethosti yno.

Yn ddiwethaf fe annogwyd ac a annogir beu∣nydd lid Duw, am nad gwaeth gan lawer o bobl am ddyfod i'r Eglwys, naill ai am eu bod gwedy eu dallu mor flin na fedrant ddeall dim am Dduw na duwioldeb, ac nad gwaeth ganthynt er rhwy∣stro eu cymydogion trwy siampl ddiawlig, neu am eu bod hwy yn gweled yr Eglwys gwedy ei hyscibo o'r olwg wych yn y rhai yr ymhoffe eu ffansiau hwy yn fawr, am eu bod hwy yn gweled gau grefydd gwedy ei throi heibio, a gwir gre∣fydd gwedy ei hadferu ailwaith: yr hyn y sydd beth diflas i'w hanflasus flas hwy: fal y mae'n eglur wrth yr hyn y ddywad rhyw wraig wrth ei chy∣mydoges. Och gosib beth a wnawn ni yn yr Eg∣lwys yn awr, gan fod yr holl saint gwedy eu tyn∣nu

Page 263

ymmaith, gan fod yr holl olwg hardd yr oe∣ddym arferedig o'i gweled gwedy myned ymma∣ith, gan na chawni glywed y fath ganu a chware a'r yr Organ a glywsom ni cyn hyn.

Ond fyngharedigion mae ini achos mawr i lawenychu ac i rhoddi diolch i Dduw, fod ein he∣glwys gwedy i rhyddhau oddiwrth yr holl bethau ac a anfodlonent Dduw, ac a nurddent ei dŷ san∣ctaidd ef a lle gweddi, mo'r wradwyddus, am yr hyn y dinistrodd ef yn gyfion lawer o genhedlae∣thau, yn ol dywedydiad S. Pawl. Os llygra neb * 1.426 deml Dduw fe a'i llygra Duw yntef.

Ac fal hyn y dlyem ni foliannu Duw yn fawr am ddarfod diddymmu yn hollol fal y haeddant yn gywir yr holl arferon delw-addolaidd ofergoe∣lus, y rhai oeddynt yn llwyr ddrwg ac a ddifwy∣nent ogoniant Duw: ac etto fe gadwir yn we∣ddaidd yn yr Eglwysydd yn arferol y pethau oll trwy y rhai yr anrhydeddir Duw, neu yr adaila∣dir ei bobl ef. Ond yn awr am eich bod chwi yn deall mai ewyllys Duw yn hollol yw y chwi ddyfod i'r Eglwys, a'r ddiwarnodau gorphwysfa sanctaid, yn gymmaint ac bod yn clywed pa ddi∣gofaint y mae Duw yn ei gymmeryd, a pha blaau y mae 'n eu harllwys ar ei bobl anufyddgar: lle yr ydych yn gweled pa fendithion y mae Duw yn eu rhoddi, a pha radau nefol sydd yn dyfod i'r fath bobl, ac a arferant o ddyfod i'w eglwysydd yn e∣wyllysgar. Ac mewn zeal gan fod yn awr yn eich gwawdd chwi, yn garedig ac yn eich galw chwi yn gytun: gwagelwch na ddiogwch wneuthur eich dlyed na edwch i ddim eich rhwystro chwi ar ol hyn i ddyfod i'r Eglwys, ar yr amseroedd a oso∣dir ac a orchymmynnir i chwi ddyfod.

Page 264

Mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd mewn dammeg ddarfod arlwy gwledd fawr a gwahodd * 1.427 llawer, i lawer escuso eu hunain ac na ddawent. Yr ydwyf yn dywedyd wrthych medd Christ na chaiff yr vn o'r gwyr hynny a wahoddwyd bro∣fi o'm swpper i. Y wledd fawr hon yw gwir gre∣fydd yr holl-alluog Dduw â'r hon y myn ef ei a∣ddoli, a dyledus dderbyniad ei Sacramentau, a gwir bregethiad a gwrandawiad ei sanctaidd air, ac arfer o'u gwneuthur mewn ymarweddiad du∣wiol. Yr ydys yn awr yn arlwyo 'r wledd hon yn yr Eglwys, ty gwledd yr Arglwydd. Yr ydys yn eich galw ac yn eich gwawdd chwi ynghyd y∣no: os gwrthodwch ddyfod ac os chwi a wnewch escuson, fe wnair yr vn atteb ichwi ac a wnaeth∣pwyd iddynt hwythau.

Dewch am hynny yn awr fyngharedigion, a dewch heb oedi, a dewch i mewn yn llawen i dŷ gweddi Duw, a byddwch gyfranogion o'r don∣niau a arlwyodd ac a ddarparodd ef i chwi. Ond edrychwch eich bod yn dyfod ymma a'ch trwsiad gwyl, nid a gwrthwynebrwydd megis pe byddai well gennych beidio na dyfod, pe byddych ar eich dewis. O herwydd mae Duw yn cashau ac yn cospi y fath ffugiol ragrithwyr, fal y mae yn eglur wrth ddammeg Christ yn y blaen. Y cyfaill medd Duw pa fodd y doethost i mewn ymma heb gen∣nid * 1.428 wisc priodas am danad, ac am hynny fe or∣chymmynnodd i'w weision rwymo ei draed ef a'i ddwylo, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wy∣lofain ac yscyrnygu dannedd. Am hynny fal y ga∣lloch wagelyd y fath enbeidrwydd ar law Dduw, dewch i'r Eglwys y diwarnodau gwyl a dewch yn eich gwisc briodas, hynny yw dewch a meddwl

Page 265

llawen duwiol, dewch i geisio gogoniant Duw, ac i fod yn ddiolchus iddo ef, dewch i fod yn vn a'ch cymydogion ac i fyned i gyfaillach a chariad a hwynt hwy.

Ystyria fod dy holl orchwylion yn drewi ger bron Duw, oni byddi mewn cariad a'th gymydo∣gion. Dewch a chalon gwedy ei charthu a'i glan∣hau oddiwrth bob chwantau a dymuniadau by∣dol cnawdol. Yscydiwch ymmaith bob meddy∣liau ofer y rhai a allant eich rhwystro chwi oddi∣wrth wir wasanaeth Duw. Mae 'r aderyn pan hedfano 'n escydwyd ei hadanedd. Ymmyscydwa, darpara dy hun i hedfan yn vwch nâ holl adar yr awyr, fal yn ol gwneuthur dy ddylyed yn ddyle∣dus yn y deml ar Eglwys ddayarol hon, y ga∣llech hedfan i fynu a chael dy dderbyn i ogone∣ddus deml Duw yn y nef, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bytho holl ogoniant ac anrhydedd, yn oes oeso∣edd. Amen.

¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dy∣lyid ministro gweddi gyhoeddus a'r Sacra∣mentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr.

YMhlith aml arferon pobl Dduw Gristionogion anwyl, nid oes vn anghenrheittach i bob stat ac i bob amser nâ gweddi gyhoeddus, a dyledus arfer y Sacramentau: o herwydd yn y cyntaf yr ydym yn ceisio oddiar law Duw yr holl bethau y rhai heb hyn, ni allem gael mo ho∣nynt.

Page 266

Ac yn ail y mae fe yn ein breicheidio ni, ac yn ei gynnig ei hun i ninnau i'w fraicheidio.

Am hynny a ni yn gwybod fod y ddwy arfer hynny mor anghenrhaid ini, na thybygwn fod yn anweddus ini ystyried, yn gyntaf pa beth yw gweddi a pha beth yw sacrament: ac yno pa sawl rhyw a'r weddi sydd, a pha sawl Sacrament, ac felly y deallwn ni yn well pa fodd y iawn arfe∣rwn ni hwynt. Er gwybod pa beth ydynt mae S. Awstin yn y llyfr am yr Yspryd a'r enaid yn dywedyd falhyn am weddi. Gweddi, medd ef, yw * 1.429 dwyfoldeb y meddwl: hynny yw ymchwel at Dduw trwy ddymunad duwiol gostyngedig: yr hon ddymuniad yw diogel ac ewyllysgar a melus ogwyddiad y meddwl ei hun at Dduw. Ac yn ei ail lyfr yn erbyn gwrthwynebwyr y gyfraith a'r Prophwydi y mae fe 'n galw y Sacramentau yn arwyddion sanctaidd. Ac wrth scrifennu at Bo∣nifacius * 1.430 am fedydd plant bychain y dywaid: oni bai fod yn y Sacramentau Rhyw gyffelybaeth i'r pethau y maent yn Sacramentau honynt ni by∣ddent Sacramentau mwy. Ac o'r gyffelybaeth * 1.431 honno maent o'r rhan fwyaf yn derbyn en wau y pethau eu hunain y maent yn eu harwyddoccau. Wrth y gairiau hyn o S. Awstyn mae 'n eglur ei fod ef yn fodlon i ddeffiniad neu ddescribiad arfe∣rol Sacrament, hynny yw, ei fod ef yn arwydd weledig o rad anweledig, hynny yw yr hon sydd yn gosodd allan i'r llygaid a'r synwyrau eraill oddi allan orchwyl trugaredd rad Duw, ac sydd megis yn selio yn ein calonnau ni addewidion Duw.

Ac felly yr ydoedd yr enwaediad yn Sacrament, yr hwn a bregethodd i'r synhwyrau oddi allan

Page 26

enwaediad y galon oddifewn, ac a seloedd ac a ddi∣ogelhaodd ynghalonnau 'r enwaededig, addewi∣dion Duw ynghylch yr hâd a addawsed ac a edry∣ched am dano.

Yn awr edrychwn pa sawl rhyw a 'r weddi a pha sa wl Sacrament y sydd. Yr ydym yn darllen yn yr Scruthur am dair rhyw o weddi, o'r rhai y mae dwy 'n neulltuol ac vn yn gyhoeddus.

Y gyntaf yw 'r hon y mae Pawl yn son am deni yn ei Epistl at Timothigan ddywedyd: Mi a fyn∣nwn i wyr weddio ymhob man gan dderchafu dwylo purion heb ddigter nag ymryson. A hon * 1.432 yw gwir a dyfal gyfodsad y meddwl at Dduw heb draethu blinder a dymunad y calonnau trwy la∣ferudd yn gyhoeddus. O'r weddi hon y mae 'r si∣ampl yn llyfr Samuel am Haanah mam Sa∣muel, pan weddioedd hi yn y deml yn hrymder ei * 1.433 chalon, gan ddymuno cael ei gwneuthur yn ffrw∣ythlon. Medd y text yr ydodd hi yn gweddio yndi ei hun a'i llaferudd ni chlywyd. Yn y dull hyn y dylye'r holl Gristionogion weddio, nid vnwaith yn yr wythnos, neu vnwaith yn y dydd, ond fal y dywaid Pawl wrth scrifennu at y Thessaloniaid * 1.434 heb orphwys. Ac fal y mae S. Iaco 'n scrifennu, * 1.435 Llawer y ddychon gweddi'r cyfion os ffrwythlon y fydd hi.

Yr ail rhyw o weddi y sonnir am deni yn S. Mathew, lle y dywedir fal hyn, Pan weddiech * 1.436 dos i'th stafell a chwedy cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel a'th obrwya di yn yr amlwg: O'r rhyw hon o weddi mae llawer siampl yn yr Scry∣thyrau sanctaidd: ond digon i ni adrodd vn yr hon sydd scrifennedig yn Actau 'r Apostolion. Mae

Page 268

Cornelius gwr sanctaidd canwriad o'r Italaidd fyddin, yn dywedyd wrth yr Apostol Peter, ag * 1.437 yntef yn ei dŷ yn gweddio ynghylch y nawfed awr ymddangos iddo fe vn mewn dilliad gwynnion, &c. Fe weddiodd y gwr hwnnw a'r Dduw yn y dir∣gel, ac a obrwywyd yn yr amlwg. Dymma 'r ddwy rhyw weddiau dirgel. Y naill yn y meddwl, hynny yw dwyfol ddercbafiad y meddwl ac Dduw, a'r llall yn y llaferydd, hynny yw dirgel adrodd blinderau a dymyniadau 'r galon mewn geiriau, ond etto mewn stafell ddirgel, neu rhyw le neulltuol.

Yr ail rhyw o weddi sydd gyffredinol neu gyho∣eddus. Am y weddi hon y son ein Iachawdwr Christ, pan mae fe 'n dywedyd. Os cytuna dau o hanoch ar y ddayar am ddim oll beth bynnac a ddeisyfant rhoddir iddynt gan fynhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canis ymhale bynnac yr ymgynu∣llo dau neu dri yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu mysc hwynt. Er i Dduw addo 'n gwrando ni pan weddion yn y dirgel trwy wneuthur hynny yn ffyddlon ac yn dduwiol: O herwydd mae fe 'n dy∣wedyd galw arnafi yn-nydd trallod yno mi a'th wrandawaf. * 1.438

Ac medd S. Iaco ac Elias yn wr marwol fe weddiodd ac ni bu law dros dair blynedd a chwe∣mis, * 1.439 ac fe a weddiodd drachefn ac fe rhoddes y nef ei glaw. Etto mae 'n eglur wrth historiau y beibl fod gweddi gyffredinol yn rymmusach ger bron Duw, ac am hynny y dylyed galaru yn fawr na wnair rhagor gyfrif honi hi, yn ein mysc ni y rhai ydym yn addef ein bod yn vn corph ynghrist.

Pan fygythwyd dinistr dinas Ninifi o fewn deigain diwarnod. Fe gydsylltodd y brenin a'i

Page 269

bobl eu hunain mewn gweddi ac ympryd, ac hwy a waredwyd. Fe orchymmynnodd Duw yn y * 1.440 Prophwyd Ioel gyhoeddi ympryd, ac i'r bobl hen a iauainc, gwyr a gwragedd, ymgynull ynghyd, a dywedyd ac vn llaferydd: arbed dŷ bobl Arglw∣ydd * 1.441 ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth: a phan oe∣ddid er fedr difa 'r Iddewon oll mewn vn diwar∣nod trwy genfigen Haanan, wrth orchymmyn Hester hwy a ymprydiasant ac a weddiasant, ac * 1.442 hwy a waredwyd: pan warchaodd Holophernes Bethulia, wrth gyngor Iudith hwy ymprydia∣sant * 1.443 ac a weddiasant ac hwy a rhyddhawd. Pan ydodd yr Apostol Peter yngharchar fe ymgysyll∣todd y * 1.444 gynulleidfa ynghyd mewn gweddi ac fe wa∣redwyd Peter mewn modd rhyfedd.

Wrth yr historiau hynny mae 'n eglur fod gwe∣ddi gyffredinol gyhoeddus yn rymmus iawn i fwynhau trugaredd, ac ymwared oddiar law ein Tad nefol. Am hynny fymrodyr yr atolygaf i chwi er mwyn tirion drugaredd Duw, na fy∣ddwn mwy yn escaelus yn hyn o beth: ond megis pobl a fyddant ewyllysgar i dderbyn ar law Duw y fath bethau, y rhai y mae gweddi gyffredinol yr Eglwys yn eu ceisio, ymgyssylltwn ynghyd yn y lle a osodwyd i weddi gyhoeddus, ac ag vn galon ceisiwn gan ein Tad nefol yr holl bethau a wyr ef eu bod yn anghenrhaid ini.

Nid ydywyf yn gwahardd gweddiau dirgel i chwi, ond yr ydwyf yn eich annog i wneuthur cymmaint gyfrif a gweddi gyhoeddus ac y mae hi 'n haeddu. Ac ymlaen pob peth byddwch siccr yn y tair rhyw hon o weddi fod eich meddyliau gwedy eu cyfodi yn ddwyfol at Dduw, ac onid ef ni bydd eich gweddiau onid diffrwyth, ac fe wir∣hair

Page 270

ynoch chwi yr ymmadrodd hwn: mae 'r bobl hyn yn nesau attaf a'u geneuau a'u calonnau ym∣hell oddiwrthyf. * 1.445 Hed hyn am y tair rhyw gweddi am y rhai y darllenwn yn yr Scruthur lân.

Yn awr a'r vn fath neu lai o airiau y cewch glywed pa sawl Sacrament sydd gwedy i ein Ia∣chawdwr Christ eu gosod, ac a ddylent barhau a'u derbyn gan bob Christion mewn amser a threfn dyledus, ac am yr achos y mynnai em Iachawdwr Christ ini eu derbyn hwy. Ac am eu rhifedi hwy ped ystyrid hwy yn ol gwir arwyddocad Sacra∣ment: sef am yr arwyddion gweledig y rhai a or∣chymmynnir yn oleu yn y Testament newydd a'r rhai y cydsylltir addewid maddauant o'n pecho∣dau yn rhad a'n sancteiddrwydd a'n cyssylltiad ni ynghrist: nid oes onid dau, bedydd a swpper yr Ar∣glwydd. O herwydd er bod i ollyngdod addewid maddeuant pechodau etto nid oes wrth airiau eglur y Testament newydd, vn addewid gwedy ei chlymmu a'i rhwymo a'r arwydd weledig yr hon yw gosodiad dwylaw.

O herwydd nid ydys yn y Testament newydd yn gorchymmyn yn oleu arfer gosod dwylo mewn gollyngdod fal yr ydys yn gorchymmyn yr arwy∣ddion gweledig mewn bedydd a swpper yr Arg∣lwydd: ac am hynny nid yw gollyngdod y fath sa∣crament ac yw bedydd a'r cymmyn. Ac er bod i wneuthurdeb offeiriad ei harwydd weledig a'i haddewid, etto mae erni diffig addewid maddau∣ant o bechodau: fal a'r yr holl Sacramentau er∣aill heblaw y rhai hyn, am hynny nid ydyw na honnag vn Sacrament arall y fath Sacrament ac ydyw y bedydd a'r cymmyn. Ond mewn cym∣meriad cyffredinol fe ellir rhoi enw Sacrament i

Page 271

bob peth trwy 'r hwn yr arwyddoccair vn peth sanctaidd. Yn yr hwn ystyr y rhoes yr hên dadau yr enw hwn nid yn vnic i'r pump eraill, y rhai yn hwyr o amser a gymmerid yn lle Sacramentau i * 1.446 wneuthur saith, ond hefyd i lawer o Ceremoniau * 1.447 craill megis i olew, golchiad traed, a'r fath be∣thau, heb feddwl trwy hynny eu cyfrif hwy yn Sacramentau, yn yr ystyr ac y mae y ddau Sacra∣ment a ddywedasom ni o'r blaen.

Ac am hynny mae S. Awstin gan ystyried gvoir ystyr ac iniawn ddeall y gair Sacrament, wrth * 1.448 scrifennu at Ianuarius, ac yn ei drydydd llyfr he∣fyd am yr athrawiaeth Gristionogawl, yn dywe∣dyd fod Sacramentau y Christianogion yn am∣bell mewn rhifedi, ac yn odidawg mewn ystyr, ac yn y ddau le hynny mae fe 'n eglur yn sôn am ddau, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.

Ac er bod yn cynnal trwy drefn eglwys Loegr, heblaw y ddau hyn, ryw arferon a Ceremoniau ynghylch gwneuthur offeiriaid, priodas, a bedydd escob, gan holi plant am eu gwybodaeth mewn pyngciau ffydd, a chan gyssylltu â hynny weddi∣au 'r Eglwys drostynt, ac hefyd am ymweliad y clâf: etto ni ddylyai neb gymmeryd y rhai hyn yn lle Sacramentau, yn yr ystyr a'r deall y cymme∣rir Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ond naill a'i yn alwedigaethau duwiol o fywyd, anghenrhaid yn Eglwys Grist, ac am hynny yn deilwng i'w gosod allan trwy weithred gyhoeddus gyffredinol gan wenidawg yr Eglwys: ynteu a fernir eu bod yn gyfryw ordeiniaethau, ac a allant gynnorth∣wyo i athrawiaethu, diddanu, ac adailad Eglwys Ghrist.

Yn awr a ni gwedy deall pa beth yw gweddi, a

Page 272

pha beth yw Sacrament, a pha sawl rhyw o we∣ddi y sydd, a pha sawl Sacrament hefyd a oso∣dodd ein Iachawdwr Christ: edrychwn bellach a oddef yr Scruthyrau a siampl y brif-Eglwys gynt, weddi llaferydd (hynny yw, pan yw 'r ge∣nau yn traethu rhyw ddeisyfiadau â'r llaferydd) neu finistro rhyw Sacramentau neu vn rhyw weithred, neu Caeremoni gyffredinol gyhoeddus arall, yn perthyn at fudd ac adailadaeth y gynu∣lleidfa dlawd, mewn tafod anghydnabyddus, yr hwn ni ddeall na 'r gwenhidawg na 'r bobl: neu a ddylai vn dŷn arfer yn neilltuoll weddi laferydd mewn iaith nis deall.

I'r cwestiwn hwn rhaid ini atteb, nas dylyai. Ac yn gyntaf am weddi gyffredinol a ministrad y sacramentau, er y perswadai rheswn ni yn hawdd (pe cai ein rheoli ni) y dlyem ni weddio 'n gyhoe∣ddus, a ministro y Sacramentau mewn iaith a ddealler, o herwydd mai gweddio 'n gyffredinawl, yw bod i gynulleidfa bobl ofyn vn peth, ag vn lla∣ferydd a chyfundeb meddwl, a ministro Sacra∣mentau yw trwy 'r gair a'r arwydd oddi allan, pregethu i 'r derbynwyr anweledig râs Duw oddifewn: ac hefyd am osod yr arferon hyn, a'u bod fyth yn parhau, er mwyn dwyn ar gof i'r gynulleidfa o amser i amser, eu hundeb ynghrist, ac y dlyent fal aelodau o vn corph mewn gweddi a phob modd arall geisio a chwenychu bob vn fudd ei gilydd, ac nid eu budd eu hunain heb en∣nill eraill. Etto nid rhaid ini redeg at reswn i brwfo y peth hyn, o herwydd bod gennym airiau eglur goleu 'r Scruthur, ac hefyd gyfundeb yr scrifennyddion hynaf a dyscediccaf, yn canmol gweddiau y gynulleidfa yn yr iaith a dealler. Yn

Page 273

gyntaf mae S. Pawl at y Corinthiaid yn erchi * 1.449 gwneuthur pob peth er adailadaeth: yr hyn ni ddichon bod oni bydd y gweddiau a ministrad y Sacramentau mewn tafod cydnabyddus i'r bobl. O herwydd pan draetho 'r offeiriad weddi, neu finistro y Sacramentau mewn gairiau na ddealler gan y rhai sydd bresennol, ni ellir eu ha∣dailadu hwy.

O herwydd megis os yr vtcorn yn y maes, a rydd lais anhynod, ni all neb trwy hynny ymba∣ratoi i ryfel. Ac megis pan fytho offeryn cerdd yn gwneuthur sain ddiwahanol, ni ŵyr neb pa beth a genir. Felly pan fytho gweddi neu fini∣strad y Sacramentau mewn iaith anghynaby∣ddus i 'r gwrandawyr, pwy o hanynt a gyffroir i gyfodi ei feddwl at Dduw i geisio gydâ'r gweni∣dawg gā Dduw y pethau y mae 'r gwenidawg yn ei airiau a'i weddi yn eu gofyn? Neu pwy wrth finistro 'r Sacramentau a ddeall pa rad anwele∣dig a ddylyai y gwrandawyr ddymuno cael ei wei∣thio yn y dyn oddufewn? yn wir neb. O her∣wydd fal y dywaid S. Pawl mae 'r hwn a ddy∣wedo mewn tafod anghydnabyddus yn estron i'r gwrandawyr, yr hyn sydd anweddus iawn mewn cynulleidfa Gristionogaidd.

O herwydd nid ydym estroniaid i'w gilydd, ond cyd-ddinaswyr â'r saint, ac o dylwydd Duw, ac * 1.450 aelodau yr vn corph. Ac am hynny yr hyd y by∣tho 'r gwenidog yn adrodd y weddi a wnair yn ein henwau ni i gyd, rhaid yw ini roddi clust i'r geiriau y mae fe 'n eu hadrodd, ac yn ein calonnau ofyn ar law Dduw, y pethau y mae fe mewn gei∣riau yn eu gofyn: ac i arwyddoccau ein bod, yn gwneuthur felly, yr ydym yn dywedyd Amen, ar

Page 274

ddiwedd y weddi, yrhon y mae fe'n ei gwneuthur yn ein henwau ni oll. A hyn ni allwn ni ei wneu∣thur er adailadaeth, oni ddeallir yr hyn aiddy∣wedir.

Am hynny anghenrhaid yw gweddio yn gy∣hoedd yn yr iaith a ddeallo y gwrandawyr. A phe buasai gweddus goddef erioed iaith ddieithr yn y gynulleidfa, fe allasai hynny fod yn amser Pawl a'r Apostolion eraill, pan gynyscaeddid hwy â mawr wyrthian ac aml iaithoedd: o herwydd fe allasai hynny annog rhai i dderbyn yr efengil, pan glywsent Hebrewyr o anedigaeth, er eu bod yn annyscedig; yn dywedyd Groeg, a lladin, ac iai∣thoedd eraill: ond ni thybygodd Pawl y dylaid goddef hyn yr amser hynny: ac a arferwn ni hyn∣ny yn awr, pan nad oes neb yn dyfod i iaithoedd, heb astudrwydd dyfal? Na atto Duw. O her∣wydd trwy hynny y dygem holl arferon ein he∣glwys, i wâg ofergoel, ac y gwnaem hwy oll yn ddiffrwyth.

Mae Luc yn scrifennu i Petr ac Ioan gwedy eu rhyddhau oddiwrth dywysogion ac archo∣ffeiriaid Ierusalem, ddyfod at eu cymydeithion, a dywedyd wrthynt yr holl bethau a ddywedase yr offeiriaid a'r henuriaid wrthynt: yr hyn pan glwysont, hwy a godasant eu llaferydd mewn cy∣tundeb * 1.451 at Dduw gan ddywedyd, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a dayar, mor, ac oll sydd yndynt, &c.

Ni allasent wneuthur hyn pe gweddiasent mewn iaith ddieithr, yr hon niddeallasent: ac yn ddiddau, ni ddywedasant hwy oll â llafarau gwa∣hanedig: ond rhyw vn o honynt a ddywedodd yn eu henwau hwynt oll, a'r llaill gan wrando 'n

Page 275

ddiescaelus a gyfunasant ag ef: ac am hynny y dy∣wedir gyfodi o honynt eu llafar ynghyd.

Nid ydyw S. Luc yn dywedyd▪ Eu llafarau, megis am lawer, ond Eu llafar, megis am vn▪ Yr ydoedd yr vn llafar hwnnw am hynny yn y fath iaith ac yr oeddent hwy oll yu ei deall, oni bua∣sai hynny ni allasent gyfodi mohoni i fynu â chy∣fundeb eu calonnau: o herwydd ni ddichon neb gyfuno â'r hyn nis gwyr.

Am yr amser ymlaen dyfodiad Christ ni bu ddŷn erioedi a ddywedai, fod gan bobl Dduw, na chan neb arall, eu gweddiau, neu finistrad eu Sacra∣mentau, neu eu haberthau, mewn iaith nas dea∣llent hwy eu hunain. Ac am yr amser er Christ, nes i * 1.452 ortrechus allu Rufain ddechrau gorescyn, a rhwymo holl genhedlaethau Europ i fawrhau iaith Rufain▪ mae 'n eglur wrth gyfundeb yr hên scrifenyddion dyscedig, nad oedd arfer iaith ddie∣thr, anghydnabyddus, ynghynulleidfaon y Chri∣stionogion.

Mae Iustin. ferthur, yr hwn oedd yn fyw yn 160. * 1.453 mlynedd o oedran Christ yn dywedyd fal hyn am finistrad Swpper yr Arglwydd, yn ei amser ef; A'r ddie sul mae cynnulleidfaon o'r rhai a arhosant yn y trefydd, a'r rhai a drigant yn y gwledydd he∣fyd: ymhlith y rhai yr ydys yn darllen cymmaint ac a ellir, o scrifeunadau 'r Apostolion a'r Pro∣phwydi. Yn ol i'r darlleudd beidio, mae 'r gweni∣dawg pennaf yn gwneuthur annogaeth, gen eu hannog i ganlyn pethau honest: yn ol hynny, yr ydym yn cyfodi oll ynghyd ac yn offrwin gwe∣ddiau, yn ôl diweddu y rhai (fal y dywedasom) y dygir i mewn fara a gwin a dwfr. Yno mae 'r gwenidawg pēnaf yn offrwm gweddi a diolch â'i

Page 276

holl allu, a'r bobl yn atteb Amen.

Mae 'r geiriau hyn a'u hamgylchau, os ystyrir hwy yn dda, yn manegi yn oleu, fod nid yn vnic yn darllen yr Scruthyrau mewn iaith a ddealled, ond bod yn gweddio felly hefyd yn y cynnulleid∣faon yn amser Iustin.

Fe osododd Basilius Magnus, ac felly y gwnaeth Ioan * 1.454 enau aur, hefyd yn eu hamseroedd, dresnau cyhoeddus ar wenidogaeth gyhoeddus, y rhai a alwent Leiturgiae, ac yn y rhai hynny hwy a osoda∣sant ar y bobl atteb i weddiau 'r gwenidogion weithiau Amen, weithiau Arglwydd trugarha wrthym, weithiau a chyd a'th ysyryd dithau, ac Mae'n calonnau ni gwedi eu cyfodi at yr Arglw∣ydd, &c. Yr hwn atteb ni fedrase 'r bobl ei wneu∣thur mewn amser dyledus, oni buasai fod y weddi mewn iaith ac a ddeallent hwy. Mae'r vn Basil wrth scrifennu at eglwyswyr Neocaesaria, yn dy∣wedyd * 1.455 fal hyn am arfer gweddi gyffredinol, gan appwynto rhai i ddechreu 'r caniad, ac eraill i gan∣lyn, ac felly gan dreulio 'r nos mewn llawer o ga∣niadau a gweddiau, maent ar y wawr ddydd oll ynghyd megis ag vn genau ac vn galon) yn canu i'r Arglwydd ganiad o gyffes, pob vn yn gosod iddo ei hun airiau cymhesur o etifeirwch.

Mewn man arall mae fe 'n dywedyd: os bydd y mor yn deg, pa faint mwy y mae ymgynulliad y gynulleidfa 'n deccach, yn yr hon y danfonir allan sain cyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant (megis tonnau 'n ffusto ar lan y mor) o'n gweddiau ni at * 1.456 Dduw? Ystyriwch ar ei airiau ef, sain (medd ef) gyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant: yr hyn ni ddichon bod oni byddai eu bod hwy oll yn deall yr iaith yn yr hon yr adroddid y weddi.

Page 277

Ac fe a ddywaid Chrysostom ar airiau S. Pawl. * 1.457 Ey gynted ag y clywo y bobl y gairiau hyn, yn oes oesoedd, maent hwy oll yn y man yn atteb, Amen. Yr hyn ni allent hwy ei wneuthur, oni bai eu bod hwy 'n deall yr hyn a ddywedai 'r offeiriad.

Mae Dionysius yn dywedyd fod yr holl dyrfa bobl yn canu caniadau, wrth finistro y cymmun. * 1.458 Mae S. Cyprian yn dywedyd fod yr offeiriad yn darparu meddyliau y brodyr â rhag-ddywediad * 1.459 au ymlaen y weddi, gan ddywedyd derchefwch eich calonnau: ac yno 'r atteb y bobl yr ydym yn eu dyrchafu hwy at yr Arglwydd. Ac mae S. Ambros wrth scrifennu ar airiau S. Pawl yn dywedyd, Hyn yw 'r peth y mae fe 'n ei ddywedyd, fod yr hwn a ddywaid mewn tafod ddiethr, yn dywedyd wrth Dduw, yr hwn sydd yn gwybod pob peth, ond nid ydyw dynion yn gwybod, ac am hynny nid oes ffrwyth o'r peth hynny.

Athrachefn ar y geiriau hyn, os bendigi di neu * 1.460 roddi diolch â'r yspryd, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn lle 'r annyscedig, Amen, ar dy ddiolchiad di, gan na ŵyr ef pa beth yr ydwyd yn ei ddywe∣dyd? Hynny yw, medd S. Ambros, os ti a fanegi foliant Duw mewn iaith nis gwypo y gwran∣dawyr. O herwydd pan glywo 'r annyscedig yr hyn nis deallo, nid edwyn ddiwedd y weddi, ac ni fedr ddywedyd Amen. Yr hwn air yw cymmaint ac yn wir, neu bydded wir, fal y cadarnhair y fen∣dith, neu y rhoddiad diolch. O herwydd gan y rhai a attebant, Amen, y cyflawnir cadarnhâd y weddi, fal y cadarnhair pob peth a ddywedir ym∣meddyliau y gwrandawyr, trwy dystiolaeth y gwirionedd.

Page 278

Ac yn ol llawer o airiau pwysig i'r vn defnydd, mae fe n dywedyd, y cwbl yw hyn: na wneler dim yn yr Eglwys yn ofer, ac mai 'r peth hyn yn enwedig a ddylid llafuro am dano, fef ar fod i'r anyscedig allel cael lleshâd, rhag bod vn rhan o'r corph yn dywyll trwy anwybodaeth. Ac rhag ty∣bied o neb ei fod ef yn meddwl hyn oll am bre∣gethu, ac nid am weddi: mae fe 'n cymmeryd a∣chos ar y gairiau hyn ei S. Pawl, (oni bydd cyfi∣aithydd, tawed yr hwn sydd ac iaith ddieithr yn yr Eglwys) i ddywedyd, fal y canlyn: Gweddied yn ddirgel, neu ddyweded wrth Dduw, yr hwn * 1.461 sydd yn clywed yr holl bethau mudion. O her∣wydd yn yr Eglwys rhaid i hwnnw ddywedyd, yr hwn a wna lles i bawb oll.

Mae S. Ierom wrth scrifennu ar y geiriau hyn ei S. Pawl, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn * 1.462 lle 'r anyscedig Amen, &c. yn dywedyd, y gwr llyg yw'r hwn y mae S. Pawl yn dywedyd ymma ei fod yn lle yr ânnyscedig, yr hwn nid oes gan∣tho vn swydd Eglwysig, pa fodd yr atteb ef Amen, ar weddi yr hon nid ydyw yn ei deall? Ac yn y man ar ol hynny sef ar airiau Pawl pe llafarwn * 1.463 a thafodau, &c. Mae fe 'n dywedyd fal hyn. Hyn yw meddwl Pawl: Os llafara neb mewn tafo∣dau dieithr, anghydnabyddus, fe wnair ei feddwl ef yn ddiffrwyth, nid iddo ei hun, ond i'r gwran∣dawyr: o herwydd beth bynnac a ddywedir, nid yw ef yn ei wybod. Ac mae S. Awstin wrth scri∣fennu a'r y ddaunawfed Psalm, yn dywedyd: ni * 1.464 a ddlyem ddeall pa beth yw hyn, fal y gallom ga∣nu a rheswn dŷn, ac nid a thrydar adar. O her∣wydd mae dylluanod, cawciod, cigfrain, piod, a'r fath adar eraill, gwedy eu dyscu gan dynnion i

Page 279

* 1.465 glegru, ni wyddont pa beth. Ond canu trwy dde all a rhoddwyd trwy ewyllys sanctaidd Duw i natur dŷn. Ac ailwaith, mae S. Awstin yn dy∣wedyd, Nid rhaid wrth vn llaferudd pan fythom ni 'n gweddio, ond fal y mae 'r offeiriaid yn gw∣neuthur, * 1.466 i ddangos eu meddwl, nid fal y gallo Duw, ond fal y gallo dynnion eu clywed hwy. Ac felly gan ei cofio wrth gyfuno a'r offeiriaid y ga∣llont orbwyso a'r Dduw.

Fal hyn ein dangosir trwy 'r Scrythyrau a'r hên ddoctoriaid, na ddylyid wrth weddio neu fini∣stro Sacramentau, arfer vn iaith nas deallo 'r gwrandawyr. Megis i fodloni cydwybod Chri∣stion, nad rhaid ini dreulio chwaneg amser yn hyn o beth. Ond etto e'r attal safnen gwrthwyneb∣wyr, y rhai sydd yn sefyll ormod ar ordeiniae∣thau cyffredinol, da yw cydsylltu at y testiolae∣thau hyn o'r Scruthyrau a'r hên Ddoctoriaid, vn ordeiniaeth y wnaeth yr Ymherodr Iustinian, yr hwn oedd Ymherodr Rufain ynghylch pymp∣cant mlynedd a saith mlynedd a 'r igain yn ol Christ, yr ordeiniaeth yw hon: Yr ydym yn gor∣chymmyn i'r holl Escobion ac offeiriaid finistro 'r * 1.467 offrwm sanctaidd, ac arfer gweddiau yn y bedydd sanctaidd, nid gan ddywedyd yn yssel, ond a llafe∣rudd eglur, vchel▪ yr hon a all y bobl oll ei chly∣wed, fal trwy hynny y cyffroir meddyliau y gw∣randawyr a mawr ddwyfoldeb, wrth adrodd gwe∣ddiau 'r Arglwydd Dduw, O herwydd felly y mae 'r Apostol sanctaidd, yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid yn dangos, gan ddywedyd, Os ben∣digi di neu os rhoddi di ddiolch yn yr Yspryd yn dda, pa fodd y gall yr hwn sydd yn lle 'r annysce∣dig, ddywedyd, Amen, ar dy ddiolchad di? O her∣wydd

Page 280

ni wyr efe pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Yn wir yr ydwyti yn rhoddi diolch yn dda, ond nid ydys yn ei adailadu efe.

Ac ailwaith, fe a ddywaid, yn ei Epistol at y Ru∣feiniaid: A'r galon y credir i gyfiawnder, a'r geneu y cyffefir i Iechadwriaeth. Am hynny o blegid yr achosion hyn, ymmysc gweddiau eraill, mae 'n gymhesir i'r Escobion a'r offeiriaid crefyddgar, draethu a dywedyd hefyd y rhai a ddywedir yn yr offrwm sanctaidd, I'n Harglwydd Iesu Grist ein Duw ni, gyda 'r Tad, a'r Yspryd glan, a llaferudd vchel. A gwybydded y crefyddgar offeiriaid hyn, os hwy a escaelusant y pethau hyn, y gorfudd ar∣nynt rhoddi cyfrif am danynt, yn echrydus farn y Duw mawr, a'n Iachawdwr Iesu Grist: a phan wypom ninnau hynny, ni orphwyswn ni, ac ni oddefwn hynny heb ei ddial. Yr ydoedd yr Ym∣herodr hwn (fal y dywaid Sabelicus) yn ffafro Escob Rufain, ac etto ni a welwn pa fath ordeini∣aeth oleu y wnaeth ef, am weddio a ministro Sa∣cramentau mewn iaith gydnabyddus, er mwyn cyffro defosiwn da y gwrandawyr trwy wyboda∣eth, yn erbyn barn y rhai a fynnant mai anwybo∣daeth sydd yn gwneuthur defosiwn da, mae fe he∣fyd yn ei wneuthur ef yn beth damnedig wneu∣thur y pethau hyn mewn iaith nis deallo 'r gw∣randawyr. Cauwn hyn am hynny trwy gyfundeb Duw a dynnion da na ddylaid gweddio yn gy∣hoeth na ministro Sacramentau mewn iaith nis deallo y gwrandawyr. Yn awr gair neu ddau am weddi neilltuol mewn iaith ni ddeallir.

Ni a gymmerasom arnom pan dechrauasom son am y peth hwn, brwfo, nid yn vnic, na ddylaid mi∣nistro gweddi gyffredinol neu Sacrament, mewn

Page 281

iaith nis deall y gwrandawyr▪ ond hefyd na ddy∣lai neb weddio 'n ddirgel, mewn iaith ni byddai fe ei hun yn ei deall. Yr hyn ni bydd anhawdd ini ei wneuthur, oni ollyngwn yn angof pa beth yw gweddi. O herwydd os defosiwn y galon yw gwe∣ddi, yr hwn sydd yn gyrru 'r galon i ymgyfodi at Dduw, pa fodd y gellir dywedyd fod hwnnw yn gweddio, yr hwn nid yw yn deall y geiriau y mae ei dafod yn eu traethu mewn gweddi? Ie pa fodd y gellir dywedyd ei fod ef yn dywedyd? o herwydd dywedyd yw traethu meddwl y galon trwy lafe∣rudd y genau.

Ac nid ydyw llaferudd y draetho dŷn wrth ddy∣wedyd, ddim ond cennadwr y meddwl, i ddwyn allan wybodaeth, am y peth oni bai hynny, a or∣wedde 'n ddirgel yn y galon, ac ni ellir ei wybod: yn ol yr hyn a scrifenna S. Pawl, Pwy a ŵyr medd ef y pethau sydd mewn dyn, ond yspryd dyn yn vnic, yr hwn sydd ynddo? Ni ellir am hynny yn iniawn ddywedyd, ei fod ef yn dywedyd, yr hwn nid yw yn deall y laferudd y mae ei dafod yn ei draethu, ond yn dynwared dywedyd, fal y gwna 'r perot, neu 'r fath adar, sydd yn dynwared lla∣ferudd dynnion. Ni faidd neb am hynny ac a fy∣tho yn ofni digofaint Duw yn ei erbyn ei hun, son am Dduw yn rhy ehud, heb feddwl am ddeall par∣chus yn ei wydd ef, ond fe ddarpara ei galon cyn rhyfygu dywedyd wrth Dduw. Ac am hynny yn ein gweddi gyffredinol, mae 'r gwenhidawg yn dywedyd yn fynych gweddiwn: gan feddwl wrth hynny rhebyddio 'r bobl i ddarparu eu clustiau i wrando, ar y peth y mae er fedr ei erchi ar law Ddduw, a'u calonnau i gyfuno a hynny, a'u tafo∣dau ar y diwedd i ddywedyd, Amen.

Page 282

Fal hyn y darparodd y Prophwyd Dafydd ei galon, pan ddywedodd ef, parod yw fynghalon o Dduw, parod yw fynghalon, canaf a chanmolaf. Fe ddarodd i'r Iddewon hefyd, yn amser Iudith, * 1.468 cyn iddynt ddechreu gweddio, ddarparu eu calon∣nau felly, pan weddiasant hwy a'u holl galonnau, ar i Dduw ymweled a'i bobl Israel. Fal hyn y darparasai Menasses ei galon, cyn iddo weddio, a dywedyd: yr ydwyf yn gostwng gliniau fyngha∣lon, * 1.469 gan ofyn iti ran o'th drigarog fwynder. Pan fytho 'r galon gwedy ei darparu fal hyn, maer llaferudd a draethir o'r galon, yn beraidd ynghlu∣stiau Duw, ac heb hyn ni ystyria ef hi i'w derbyn. Ond o herwydd fod ydyn sydd yn * 1.470 dadwrdd gei∣riau diddeall yngwydd Duw, yn dangos nad y∣dyw ef yn ystyriaid mawrhydi Duw, wrth yr hwn y mae fe 'n dywedyd: mae Duw yn cymmeryd hwnnw megis vn yn diystyru ei fawrbydi ef, ac yn rhoddi iddo ei wobr ymlhith ragrhithwyr, y rhai sydd yn ymddangos yn sanctaidd oddifaes, a'u calonnau yn llawn meddyliau ffiaidd, ie yn amser eu gweddiau.

O herwydd y galon y mae 'r Arglywydd yn e∣drych erni, fal y scrifennir yn histori y brēhinioedd. Os mynnwn ninnau am hyn na byddo ein gwe∣ddiau yn ffiaidd bethau, ger bron yr Arglwydd Dduw, darparwn ein calonnau cyn gweddio, ac felly deallwn y pethau yr ydym yn gweddio am danynt, fal y gallo ein ealonnau a'n llaferudd, gyd∣seinio ynghlust mawrhydi Duw: ac yno ni ffae∣lwn dderbyn ar ei ddwylaw ef, y pethau yr ydym yn eu gofyn, fal y gwnaeth gwyr da o'n blaen ni, y rhai a dderbyniasant o amser yn amser y pethau a ddamunent er iechyd i'w heneidiau.

Page 283

Fe dybygid fod S. Awstin yn cyd-ddwyn yn y pe∣thau hyn, o herwydd fal hyn y dywaid ef am y rhai a ddygir i fynu mewn gramadeg, neu rhethorei, ac a droir at Grist, ac am hynny sydd rhaid eu dys∣cu * 1.471 ynghrefydd Grist: Gwybyddant hefyd medd S. Awstin nad y llaferudd ond meddylfryd y ga∣lon sydd yn dyfod i glustiau Duw. Ac yno y bydd, os digwydds iddynt ystyried, fod yr Escob neu'r gwenhidawg yn yr Eglwys, yn galw ar Dduw a geiriau anghysson ac anhrefnus, neu y rhai na bônt hwy yn eu deall, neu eu bod hwy yn cyfran∣nu yn anhrefnus y geiriau y maent yn eu traethu, na watwarant ddim o honynt. Hyd yn hyn fe a dybygid ei fod ef cyd-ddwyn gr da gwedio mewn iaith ni ddeallir.

Ond yn yr ymadrodd nesaf mae fe 'n agoryd ei feddwl fal hin. Nid am na ddylid gwella y pethau hyn fal y gallo y bobl ddywedyd Amen i'r hyn y maent yn ei ddeall yn dda: ond etto rhaid yw dw∣yn gyda 'r holl bethau duwiol hyn, ar ddwylo y ca∣techeiswyr ymma ac athrawon y ffydd: fal y ga∣llont ddeall megis mewn dadleudŷ, y mae daioni y ddadl yn sefyll yn y sain, felly ei fod yn yr Eglwys yn sefyll mewn defosiwn. Fal nad ydyw ef yn fodlon i neb weddio mewn iaith nis deallo: ond mae fe 'n dyscu y dadleuwr neu araithiwr cyfa∣rwydd, i ddwyn gyda thafod annyscedig, anghyfa∣rwydd y gwenhidawg crefyddgar, diddrwg: I grynhoi y cwbl os gwna diffyg deall y geiriau a ddywedir yn y gynulleidfa fod y geiriau yn an ffrwythlon i'r gwrandawyr: paham na wna yr vn peth y geiriau a ddarllenir yn anffrwyddlon i'r darllenudd?

Trugarog ddaioni Duw, a ganniatao ini rad

Page 284

i alw arno megis y dlyem, i'w ogoniant ef, a'n didrāgc ddedwyddwch ninnau. Yr hyn y wnawn ni os ymostyngwn ein hunain yn ei olwg ef: ac os bydd ein medd wl ni, yn ein holl weddiau cyffre∣dinol a neilltuol, gwedy eu gosod yn hollol arno ef. O herwydd gweddi y gostyngedig a aiff trwy y cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos at Dduw, nid ymmedy hi nes i'r goruchaf edrych ar∣ui hi, a gwared y cyfion a gwneuthur barn. Iddo ef am hynny y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Addysc i'r rhai sydd yn cymmeryd rhwystro blegid rhyw leoedd o'r Scruthyrau sanctaidd, y rhan gyntaf.

FYngharedigion, nid oes calon neb yn abl yn gwbl i ymgyffryd y mawr fudd a'r enill yr hwn a all gwŷr a gw∣ragedd Christionogaidd ei dderbyn os mynnant, wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd, llai o lawer y gall fy∣nhafod i draethu hynny â geiriau.

Am hynny pan welodd sathan ein gelyn ni mai r' Scruthyrau yw 'r ffordd a'r iniawn lwybr i ddwyn y bobl i wir wybodaeth am Dduw, a bod yn halaethu ffydd a chrefydd Grist yn fawr dros bên wrth ei gwrando a'i darllen hwy yn ddiesca∣elus: wrth weled hefyd pa fath rwystrau ydynt iddo ef a'i deyrnas, mae fe yn gwneuthur a allo ar na ddarllener hwy yn Eglwys Dduw.

Ac er mwyn hyn fe a gyffrôdd i fynu mewn vn lle neu gilydd dyraniaio creulon, erlid wyr llym∣inion, a dygyn elynnion i Dduw a'i wirionedd

Page 285

an-nhwyllodrus, i dynnu ymmaith trwy rym y Beibl sanctaidd oddiwrth y bobl, y rhai hefyd o wir genfigen a ddinistrasant ac a ddifasant y lly∣frau hynny â than yn lludw: gan gymmeryd ar∣nynt yn dwyllodrus, fod mynych wrādo a darllen gair Duw yn achos o heresiau a chnawdol rydd∣did, a llwyr ddinistr pob trefn daionus ym-mhob gwlâd a dinas hydrefn. Os achos o ddrygioni yw adnabod Duw yn gywir, yno mae 'n rhaid ini a∣ddef fod gwrandaw a darllen yr Scruthyrau sanc∣taidd yn achosion heresi, rhydd-did cnawdol, a llwyr ddistryw pob trefn ddaionus. Ond mae ad∣nabod Duw a ni ein hunain mor bell oddiwrth fod yn achos drygioni, ac y mae yn ffordd barottaf ie ac yn vnic lwybr i ffrwyno ein holl rydd-did cnawdol ni, ac i ladd holl wyniau ein cnawd ni.

A'r llwybr arferol i gael y cydnabyddiaeth hyn yw gwrando a darllen yn ddiescaelus yr Scru∣thyrau sanctaidd. O herwydd fal y dywaid Pawl, * 1.472 mae 'r holl Scruthyrau gwedy eu rhoddi gan Y∣sprydoliaeth Duw. Ac a dybygwn ni, Gristiono∣gion, y gallwn ni ddyscu adnabod Duw a ni ein hunain, yn gynt neu yn well yn scrifennadau vn dŷn daiarol, nac yn yr Scruthyrau sanctaidd, a scrifennwyd trwy ysprydoliaeth yr Yspryd glân? O herwydd ni ddygwyd yr Scruthyrau attom ni trwy awenydd dŷn, eithr dynnion sancta∣idd Duw a ddywedasant megis y cynhyrfwyd * 1.473 hwy gan yr Yspryd glân. A'r Yspryd glân yw athro y gwirionedd yr hwn sydd, fal y dywaid ein Iach∣awdwr Christ, yn tywys ei scwlheigion i bôb gwi∣rionedd. Aphwy bynnac ni ddyscir ac ni thywy∣sir * 1.474 gan yr athro ymma, ni ddichon ef na chwympo i gamsynniaid dwfn, er mor dduwiol y byddo yn

Page 286

cymmeryd arno fod, pa wybodaeth a dysc bynnac a fytho gantho ym-mhob gweithredoedd ac scri∣fennadau eraill er tecced y fytho 'r olwg ar ei a∣thrawiaeth ef, ac e'r tebycced fo i wirionedd ym∣marn y byd.

Os dywaid neb y dymunai gael gweled gwir ddull a phortreiad perffaith ar fywyd iniawn cym∣meradwy gan Dduw, pa le dybygwch chwi, y ga∣llwn ni gael gwell bortreiad na bywyd Iesu Grist a'i athrawaeth, neu gyffelyb iddynt, yr hwn y mae yr Scruthyrau yn paentio ac yn gosod allan ei ymddygiad rhinweddol a'i fywyd duwiol mor eg∣lur ymlaen ein llygaid ni, fal wrth edrych ar y por∣treiad hwnnw y gallom lunio a * 1.475 diwgadu ein by∣wyd cy nesed ac y gellir yn gyfun â'i berffeiddrw∣ydd ef. Byddwch ddilynwyr i mifi, medd S. Paul, * 1.476 megis yr ydwyfi i Grist. Ac mae Ioan S. yn dywe∣dyd y dlyai yr hwn a arhoso ynghrist felly rodio megis y rodiodd yntef. A pha le y dyscwn ni drefn * 1.477 bywyd Christ ond yn yr Scruthyrau.

Vn arall a fynnai gael meddiginiaeth i iachau pob clefyd ac afiechyd yn y meddwl. A ellir cael hynny mewn lle yn y byd ond yn llyfr Duw a'i Scruthyrau sanctaidd ef? Fe ddangosodd Christ hyn pan ddywad wrth yr Iddewō ystyfnig, Chwi∣liwch yr Scruthyrau, o herwydd yndynt yr ydych * 1.478 yn gobeithio cael bywyd tragwyddol. Os ydyw 'r Scruthyrau yn cynwys yndynt fywyd tragwy∣ddol mae 'n rhaid canlyn fod yndynt gyfarwyddyd hefyd yn erbyn pob peth ac sydd yn ein * 1.479 rhagod neu yn ein rhwystro ni i fywyd tragwyddol.

Os byddwn yn chwenychu gwybod doethineb nefol, pa ham mai gwell gennym ei dyscu hi gan ddŷn na chan Dduw ei hun, yr hwn, fal y dywaid

Page 287

S. Iaco, yw rhoddwr doethineb? Ie pa ham nas * 1.480 dyscwn hi o enau Christ ei hun, yr hwn a addaw∣odd fod yn bresennol gyda ei Eglwys hyd diwedd y byd, ac sydd yn cyflawni ei addewid, nid yn vnig am ei fod ef gydâ ni â'i râd a'i fawr drugaredd, ond hefyd am ei fod ef yn dywedyd yn bresennol wr∣thym yn ei scruthyrau sanctaidd, i fawr a didranc ddiddanwch pawb ac sydd a dim blas am Dduw yndynt? Ie mae fe 'n awr yn ei Scruthyrau yn dywedyd yn fuddiolach ini o lawer nag y dywad ef â geiriau ei enau wrth yr Iuddewon cnawdol, pan ydoedd ef yn fyw gyda hwy ar y ddaiar. O her∣wydd ni fedrent hwy (yr Iddewon ydwyf yn eu meddwl) na chlywed na gweled y pethau a allwn ni yn awr eu clywed a'u gweled, os dygwn gydâ ni y clustiau a'r llygaid y clywir ac y gwelir Christ â hwy; hynny yw diescaelusrwydd i wrando ac i ddarllen ei Scruthyrau sanctaidd ef, a gwir ffydd i gredu ei ddiddanus addewidion ef.

Pe gallai vn ddangos dim ond ol troed Christ, yr ydwyf yn tybied y cwympe lawer i lawr ac yr addolent: ond i'r Scruthyrau sanctaidd, lle os mynnwn y gallwn weled beunydd, nid ydwyf yn dywedyd ol ei draed ef yn vnic, ond ei holl lun a'i fywiol agwedd ef, och nid ydym ni yn rhoddi ond ychydig neu ddim parch: pe dangosai neb bais Christ ini fe gymmerai lawer o honom boen fawr neu ninnau a fynnem ddyfod yn agos i edrych ar∣ni, ac i'w chusanu hi hefyd: ac etto ni all yr holl ddillad a wiscodd ef er ioed ei osod ef allan mor fy∣wiol ac mor gywir ac y mae 'r Scruthyrau.

Mae llawer er mwyn y cariad y maent yn ei ddwyn at Ghrist yn trwsio ac yn harddu delwau Ghrist, a wnair â choed a cherrig neu fettel, â

Page 288

thlysau, ac aur, a meini gwerthfawr: ac oni ddly∣em ni, fy - mrodyr anwyl, yn fwy o lawer goflei∣dio a pherchi sanctaidd lyfrau Duw y Beibl cysse∣gredig, yr hwn sydd yn dangos llun Christ yn fy∣wiolach ini nag y dichon vn ddelw? ni ddichon delw ond dangos * 1.481 diwgad a llun ei gorph ef, os gall hi wneuthur hynny: ond mae 'r Scruthyrau yn gosod Christ allan yn y fath fodd ac y gallwn ni weled Duw a dŷn, ni a allwn ei weled ef, meddaf, yn dywedyd wrthym, yn iachau ein gwendid ni, yn marw dros ein pechodau ni, yn cyfodi o feirw er ein cyfiawnhau ni. Ac ar ychydig o airiau ni a∣llwn yn yr Scruthyrau weled Christ oll ei gyd mor gyflawn â llygaid ffydd, fal na allem ni byth heb ffydd ei weled ef â'n llygaid corphorol mor gy∣slawn, pe byddai fe ymma yn ein mysc ni yn bre∣fennol.

Chwenyched am hynny a dymuned gwyr, gwra∣gedd a phlant yn eu holl galonnau yr Scruthyrau sanctaidd: carent hwy, braicheidient hwy, goso∣dent eu ewyllys a 'u meddyl-fryd ar eu gwrando a'u darllen hwy, fal ar y diwedd y'n ffurfer ac y'n troer ni iddynt hwy. O herwydd trysordy Duw yw 'r Scruthyrau sanctaidd, lle ceffir pob peth rheidiol ini ei weled, ei glywed, ei ddyscu a'i gre∣du, ac anghenrhaid i feddiannu bywyd tragwy∣ddol. Hynny a ddywedwyd er rhoddi i chwi da▪med prawf o 'r ennill a ellwch chwi ei dderbyn wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd. O herwydd, fal y dywedais yn y dechreuad, ni ddi∣chon vn tafod fanegi na thraethu 'r cwbl. Ac er bod yn eglurach nâ goleu 'r dydd mai anwybod yn yr Scruthyrau yw achos pob * 1.482 camsynnaeth, fal y dywad Christ wrth y Saducęaid, yr ydych mewn

Page 289

amryfysedd am na wyddoch yr Scruthyrau. Ac * 1.483 mae 'r amryfysedd hynny 'n cadw 'n ol ac yn tyn∣nu dynnyon ymmaith oddiwrth wybodaeth Duw. Ac fal y dywaid S. Ierom, bod heb wy∣bod yr Scruthyrau yw bod heb nabod Christ.

Etto er hyn mae rhai yn tybied nad cymhesur i bob rhyw o ddynion ddarllen yr Scruthyrau, am eu bod hwy, fal y dywedant, mewn amryw leoedd yn fain trangwydd i'r an-nyscedig: yn gyntaf am fod ymadrodd yr Scrythur mor ddisyml mor * 1.484 an∣ghymmen ac mor blaen, fal y mae yn faen tram∣gwydd i lawer o synhwyrau escud dynion moe∣thus. Hefyd am fod yr Scruthyr yn dywedyd i'r rhai a ganmoler megis plant Duw wneuthur llawer o weithredoedd a rhai o honynt yn erbyn cyfraith naturiaeth a rhai yn erbyn y gyfraith scrifennedig, a rhai a dybygid eu bod yn ymladd yn oleu yn erbyn honestrwydd cyffredinol. Mae'r holl bethau hyn, meddant, yn achosion o dram∣gwydd mawr i'r diddrwg, ac yn peri i lawer dy∣bied yn ddrwg am yr Scruthyrau ac i anghredu eu hawdurdod hwy.

Mae rhai 'n anfodlon i wrando ac i ddarllen yr Scruthyr lân o blegid amryw ddeddfau a Cere∣moniau, aberthau ac offrymmau 'r gyfraith. Ac mae gwyr call mewm synwyr bydol yn tybied fod rhoddi clust i reolau a gorchymmynion golau di∣syml ein Iachawdwr Christ yn yr Efangyl, yn rhwystrau mawr i lywodraeth lonydd synhwyrol eu gwledydd, megis yn digio pan glywant fod yn rhaid i ddŷn droi ei glust dehau at yr vn a'i tarawo ar yr aswy, a chynnyg ei glôg i'r hwn a geisiai ddwyn ei bais oddiarno: a'r fath ymadroddion eraill o berpheiddrwydd ym-meddwl Christ. O

Page 290

herwydd mae rheswn cnawdol, gan ei fod yn wa∣stad yn elyn i Dduw ac heb ystyried y pethau y∣dynt o Yspryd Duw, yn cashau y fath orchymmy∣nion, y rhai pe deallid hwy yn dda ni wanhaent ly wodraeth farnol na llywiawdwriaeth Christi∣onogion.

Ac mae rhai pan glywant yr Scruthyrau yn peri ini fyw yn ddiofal heb fyfyrio na rhagfwria∣du, yn gwatwaru eu disymldra hwy. Am hynny er mwyn symmud a throi heibio y fath rwystrau yn nessaf ac y gallom, mi a attebaf i'r gwrth ym∣adroddion ymma, y naill ar ol y llall.

Yn gyntaf mi a adroddaf rai o'r lleoedd a dram∣gwyddir wrthynt o blegid disymlder ac anghym∣hēdod yr ymadrodd, ac a ddangosaf eu hystyr hwy.

Mae 'n scrifennedig yn llyfr Deuteronomium i'r Holl-alluog Dduw wneuthur cyfraith, Os byddai ŵr farw yn ddieppil fod i'w frawd neu ei garwr nesaf briodi ei weddw ef, a bod yn galw y plentyn cyntaf a enid rhyngthynt hwy yn blen∣tyn i'r hwn a fuasai farw, rhag deleu enw y ma∣rw allan yn Israel. Ac os y brawd neu'r carwr no∣saf a wrthodai briodi y weddw, yno bod iddi hi dynnu ei escid ef ymlaen llywodraethwyr y ddi∣nas, a phoeri yn ei wyneb ef, gan ddywedyd, felly y gwneler i'r gwr nid adailado dŷ ei frawd. Ym∣ma, fyngharedigion, Ceremoniau oedd dynnu ei escid ef, a phoeri yn ei wyneb ef, i arwyddhau i holl bobl y ddinas nad y wraig oedd ar y bai am dorri gorchymmyn Duw yn hyn o beth, ond bod y bai a'r cywilydd yn cwympo ar y gŵr hwnnw yr hwn yn gyhoeddus ym-laen llywodraethwyr a wrthododd ei phriodi hi. Ac nid oedd hyn yn warth iddo ef yn vnic, ond ar ei holl eppil yn ei ol

Page 291

ef hefyd: o blegid hwy a elwid ar ol hynny byth, ty yr hwn a dynnwyd ei escid.

Lle arall o'r Psalmau sydd fal hyn, Torraf he∣fyd holl gyrn y rhai annuwiol a chyrn y rhai cyfi∣awn * 1.485 a dderchafir.

Wrth gorn yn yr Scruthur y deallir grym ga∣llu, nerth ac weithiau rheolaeth a llywodraeth. Mae 'r Prophwyd wrth hynny wrth ddywedyd, Torraf gyrn yr annuwiolion, yn meddwl na wanheir hwy yn vnig ac na wnair yn vnic yn e∣gwnan nerth a grym a gallu gelynion Duw, ond yn dywedyd y torrir ac y distrywir hwy yn gwbl er bod Duw dros amser yn eu goddef hwy i orch∣fygu ac i gael y llaw oreu er mwyn profi ei bobl yn well. Fe a ddywedir yn 132. Psalm, Mi a ba∣raf i gorn Dafydd flaguro. Ymma y mae corn Dafydd yn arwyddoccau ei deyrnas ef. Am hynny wrth y fath ymadroddion y mae Duw yn addo rhoddi i Ddafydd oruwchafiaeth ar ei holl elyn∣nion. * 1.486 Ac mae 'n scrifennedig. Psal. 60. Moab yw fynghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf fy es∣cid, &c. Yn yr hwn le y mae 'r prophwyd yn dan∣gos mor rassol y gwnelsai Dduw â'i bobl plant yr Israel, gan roddi iddynt oruwch afiaeth fawr yn erbyn eu gelynnion o'u hamgylch. O herwydd er bod y Moabiaid a'r Idumeaid yn ddwy gen∣hedlaeth fawrion; yn bobl failchion ystyfnig allu∣og, fe a'u darostyngodd hwy, ac a'u gwnaeth yn weision i'r Israeliaid, yn weision meddaf i ymost∣wng iddynt, ac i dynnu eu hescidiau, ac i olchi eu traed hwy. Moab am hynny yw fy-nghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf sy escid: yw cymmaint a phe dywedasai efe, er balched oedd y Moabiaid a'r Idumeaid yn ein herbyn ni yn yr anialwch,

Page 292

hwy a wnaeth p wyd yn awr yn ddeiliaid, yn wei∣sion ie yn gaethion ini, i dynnuein escidiau ac i ol∣chi ein traed ni.

Yn awr adolwg, pa anweddaidda-dra sydd yn y fath ymadrodd ac yw hwn, yr hwn a arferir felly mewn arfer gyffredinol ym-mysc yr Hebre∣aid? Mae 'n gywilydd fod Christionogion mor yscafn eu pennau, a gwatwaru megis coegwyr ary fath ymadrodion, y rhai a adroddir gan yr Y∣spryd glân mewn ystyrdwys da? Rhesymmolach fyddai i wyr ofer ddyscu perchidull ymadroddion geiriau Duw, nâ'u gwatwar hwy felly i'w dam∣nedigaeth eu hunain.

Mae rhai hefyd yn trangwyddo wrth glywed fod gan y tadau duwiol lawer o wragedd a gor∣dderchadon. Er bod gordderch (yn ol ymadrodd yr Scruthyrau) yn enw honest: o herwydd yr oedd pob gordderch yn wraig gyfraithlon, er nad oedd pob gwraig yn ordderch. Fal y galloch ddeal hyn yn well gwybyddwch fod yn goddef i'r tadau o'r hên Destament gael er vnwaith fwy o wragedd nag vn: am ba achosion chwi a gewch glywed ar ol hyn. O'r gwragedd hyn fe a anefid rhai yn rhy∣ddion a rhai oeddynt gaethwragedd a morwyni∣on. Yr oedd 'ir wraig rydd ragoriaeth oddiar y morwynion a'r caethwragedd: y wraig rydd o a∣nedigaeth a wnaid trwy briodas yn lly wodraeth∣wraig ar y tŷ dan y gwr, a hi a alwid yn feistres neu wraig y tŷ, a thrwy ei phriodas yr oedd iddi deitul a chysiawnder a pherchennogaeth yn holl dda yr hwn a'i priodasai hi. Morwynion a cha∣ethwragedd eraill a roddid gan eu perchenogion nid ydwyf yn dywedyd bob amser, ond fynychaf i'w merched ar ddydd eu priodiosau i fod yn llaw∣wynion

Page 293

iddynt. Yn y modd hwn y rhoddodd Pha∣rao brenhin yr Aipht Agar yr Aiphties i Sara gwraig Abraham i fod yn forwyn iddi. Felly y rhoddodd Laban Zilpha i'w ferch Lea ar ddydd ei phriodas i fod yn forwyn iddi. Ac i Rachel y ferch * 1.487 arall fe a roddodd Bilhah i fod yn llaw forwyn iddi.

A'r gwragedd y rhai oeddynt berchennogion ar eu llawforwynion a'u rhoddent hwy mewn priodas i'w gwyr ar amryw achosion: fe a roddes Sara ei morwyn Agar mewn priodas i Abra∣ham. Yr vn modd y rhoddes Lea i morwyn Zil∣pha * 1.488 i'w gŵr Iacob: felly y rhoddes Rachel ei * 1.489 wraig arall ef Bilha ei llawforwyn hithau iddo ef, gan ddywedyd, dôsi mewn etti, a hi a blanta ar fyngliniau fi: fal pe dywedasai, cymmer hi yn wraig, a'r plant a ddygo hi mifi a'u cymmeraf ar fy arffed ac a wnaf iddynt megis pe byddynt plant imi fy hun.

Er gwneuthur y llawforwynion neu 'r caeth∣wragedd hyn yn wragedd trwy briodas, etto ni chawsont hwy fraint i reoli 'r tŷ, ond yr oeddynt yn wastad tan wasanaerh ac mewn caethiwed i'w meistresi, ac ni alwyd hwy er ioed yn fammau 'r tolwyth yn faestresi neu 'n wragedd y ty: ond hwy a elwyd weithiau yn wragedd, weithiau yn ordderchadon.

Fe oddefwyd amledd o wragedd i dadau 'r hên Destament trwy ragoriaeth yspysawl, nid er mwyn cyflawni eu chwantau cnawdol, ond er mwyn cael amledd blant, o herwydd bod pob vn o honynt yn gobeithio ac yn ceisio yn fynych yn eu gweddiau gan Dduw ar i'r hâd bendigaid a addawsai Dduw y dawai i dorri pen y sarph,

Page 294

ddyfod a geni o'u llwyth hwy a'u tylwyth hwy.

Yn awr am y rhai a gymmerant achosion o chwant cnawdol a bywyd anllad wrth wrando a darllen yn llyfr Duw y pethau a oddefodd Duw yn y gwyr y mae eu clod yn yr Sruthyr, me∣gis i Noah, yr hwn y mae S. Petr yn ei alw yn * 1.490 bregethwr cyfiawnder fod mor feddw ar wîn, fal yn ei gŵsc y dinoethodd ef ei ddirgelion ei hun. * 1.491

Fe a feddwodd Lot gyfion hefyd yn yr vn modd, * 1.492 ac yn ei feddwdod fe a orweddodd gydâ 'i ferched ei hun yn erbyn cyfraith nattur.

Ac fe fu i Abraham hefyd (yr hwn yr oedd ei ffydd gymmaint ac y bu ef deilwng o'i phlegid hi i'w * 1.493 alw trwy enau Duw ei hun yn Dâd llawer o genhedloedd ac yn Dâd y ffyddloniaid) heblaw ei * 1.494 wraig Sara, gydnabyddiaeth gnawdol â Hagar llawforwyn Sara. * 1.495

Yr oedd i'r Patriarch Iacob ddwy chwiorydd yn wragedd iddo ar yr vn amser. Ac yr oedd i'r * 1.496 Prophwyd Dafydd ac i'w fâb ef brenin Salo∣mon lawer o wragedd a gordderchadon, &c. Yr hyn bethau a welwn eu gwahardd ini yn oleu wrch gyfraith Duw, ac ydynt yn wrthwyneb i honestrwydd cyffredinol.

Fe scrifennwyd y pethau hyn a'r fath bethau, fy-ngharedigion, yn llyfr Duw, nid er mwyn i ninnau wneuthur y cyffelyb, a chanlyn eu siam∣plau hwy, neu o blegid y dylem ni dybied fod Duw yn fodlon i'r fath bethau mewn dynion, ond ni a ddylyem gredu a barnu i Noah yn ei feddw∣dod ddigio Duw yn fawr, ac i Lott wrth gydor∣wedd â'i ferched wneuthur llosc-âch ffiaidd.

Wrthynt hwy am hynny y dylyem ddyscu y wers fuddiol hon. Oni alle wŷr mor dduwiol ac

Page 295

oeddynt hwy y rhai a glywent oddifewn sancta∣idd Yspryd Duw yn fflammychu yn eu calonnau, gydag ofn a chariad Duw, ymgadw trwy eu grym eu hunain oddiwrth wneuthur pechod * 1.497 echry∣dus, onid cwympo o honynt mor aruthrol, fal heb fawr drugaredd Duw na allent lai na chael colledigaeth dragywydd: pa faint mwy y dlyem ni nychmeriaid truain, y rhai nid ydym oddife ŵn yn clywed vn cyffroad am Dduw, ofni yn wasta∣dol, nid yn inic rhag cwympo fal y gwnaethant hwy, ond ein * 1.498 gormeilio a'n boddi mewn pechod: yr hyn nis gwnaethant hwy? Ac felly cymmeryd achosion trwy eu cwymp hwy i gydnabod ein llescedd a'n gwendid ein hunain, ac am hynny i alw yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw â gwe∣ddi daer ddiescaelus, am ei râd efer ein cadarnhau ni a'n amddiffyn oddiwrth bob drwg. Ac er dig∣wyddo ini gwympo ryw aniser trwy wendid, etto y gallwn trwy etifeirwch o 'n calonnau a gwir ffydd yn ebrwydd gyfodi ailwaith, heb gyscu ac aros mewn pechod fal y gwna y drygionus.

Fal hyn (bobl dda) y gallwn ddeall y fath be∣thau a osodir yn yr Scruthyrau duwiol, fal na throer bwrdd sanctaidd gair Duw yn fagl, neu yn llindag, neu yn faen trangwydd, er ein drygu ni trwy gamarfer ein deall. Ond gwnawn iddynt y fath ostyngedig barch, fal y gallom gael ein hym∣borth anghenrheidiol yndynt, i'n cryfhae ac i'n cyfarwyddo ni, fal y gosododd Duw hwy o'i fawr drugaredd, yn ein holl orch wylion rheidiol, fal y bythom perffaith o'i flaen ef trwy holl dreigl ein bywyd. Yr hyn a ganniatao ef i ni yr hwn a'n prynodd ni, ein Harglwydd a'n Iachawdwr Ie∣su

Page 296

Grist. I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bô holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail ran o'r addysc i'r rhai a rwy∣strir o blegid rhyw leoedd o'r Scru∣thyr sanctaidd.

CHwi a glywsoch, bobl ddaionus, yn yr Homili ddiwethaf a ddar∣llenwyd i chwi, fawr fudd yr Scruthyrau sanctaidd. Chwi a glywsoch pa fodd y mae dynion anwybodus heb ddeall duwiol ynddynt yn ceisio cwerylon i'w diystyru hwy. Chwi a glywsoch atteb rhai o'u rhesymmau hwy.

Ni awn yn awr yn ein blaen ac a soniwn am y gwŷr call llywodraethus y rhai a rwystrir o ble∣gid parablau Christ, y rhai a dybygir eu bod yn deleu pob trefn mewn llywodraeth, ac maent yn gosod yn lle siamplau rai o'r fath hyn.

Os tery neb di ar dy glust ddehau, tro 'r asswy atto ef hefyd. A phwy bynnac a ddygo dy bais oddiarnad, dyro dy glog hefyd iddo. Na wyped * 1.499 dy law asswy y peth y mae dy law ddehau yn ei wneuthur. Os dy lygad dy law neu dy droed a'th rhwystra di, tyn allan dy lygad, torr ymmaith dy law, dy droed, a thafl oddiwrthyd. Os dy elyn a newyna, medd S. Pawl, portha ef, os sycheda ef, dôd iddo ddiod: * 1.500 canys os gwnai hyn ti a ben∣tyrri * 1.501 farwor tanllyd am ei ben ef.

Page 297

Fe a dybygid, bobl ddaionus, yngolwg gŵr na∣turiol fod yr ymadroddion hyn yn anghyfleus ac yn wrthwyneb i bob rheswn. O herwydd, fal y dywaid S. Pawl, nid ydyw y gwr naturiol yn de∣all y pethau sydd o Yspryd Duw, ac ni ddichon ef * 1.502 yr hyd y bytho yr hên Adda yn aros ynddo. Mae Christ am hynny yn meddwl y mynnai ef ei wei∣sion ffyddlon mor bell oddiwrth ddial a gwrthladd camwedd, ac y mynnai yn hytrach id dynt fod yn barottach i oddef cam arall, na thrwy wrthod cam torri cariad, a bod yn anoddefus. Fe fynnai fod ein holl orchwylion ni mor bell oddiwrth bob bw∣riadau cnawdol fal na fynnai ef fod ein cymmy∣deithion nesaf ni yn gwybod oddiwrth ein gorch∣wylion da ni, i ennill gwag-ogoniant: a phe by∣ddai ein cyfeillion a'n ceraint mor anwyl gennym a'n llygaid a'n dwylaw dehau, etto os mynnent ein tynnu oddiwrth Dduw ni a ddlyem ymadel â hwynt a'u gwrthod.

Fal hyn os mynnwch fod yn wrandawyr ac yn ddarllenwyr byddiol o'r Scruthyrau sanctaidd, rhaid i chwi yn gyntaf, ymwadu â chwi eich hu∣nain, a darostwng eich synhwyrau cnawdol, y rhai ni ddeallant ond y geiriau oddiallan, heb chwylio 'r ystyr oddifewn. Rhodded rheswm le i sanctaidd Yspryd. Duw: darostyngwch eich doethineb a'ch barn fydol, i'w ddoethineb a'i farn dduwiol ef. Ystyriwch mai gair y bywiol Dduw yw'r Scruthyr, mewn pa ymadrodd dieithr byn∣nag y traether hi. Dawed hynny yn wastad i'ch côf chwi, yr hyn y mae y Prophwyd Esai mor fy∣nych yn ei adrodd, Geneu 'r Arglwydd, medd ef, a'i dy wad, Yr holl alluog a'r tragwyddol Dduw

Page 298

yr hwn a'i inig air a wnaeth nef a daiar a'i cyfar∣wyddodd ef: Arglwydd y lluoedd, ffyrdd yr hwn sydd yn y moroedd a'i lwybrau ynnyfnder y dyfro∣edd, Yr Arglwydd a'r Duw trwy air yr hwn y gwnaethpwyd, y lly wodraethir ac y cedwir yr holl bethau sydd yn y nef ac ar y ddaiar, a ddarparodd fod hyn felly. Duw y duwiau Arglwydd yr Ar∣glwyddi ie y Duw yr hwn sydd vnig Dduw a∣nymgyffred, holl-alluog, a thragwyddol, efe a'i dywad, ei air ef ydyw hyn: Ni ddichon am hyn∣ny fod amgen na gwirioned yr hyn sydd yn dyfod oddiwrth Dduw 'r holl wirionedd. Ni ellir na byddir gwedy gorchymmyn yn gall ac yn ddeallus y peth a ddychymmygodd yr Holl-alluog Dduw, er ofered y tybygom ac y barnom ni gaethwyr truain (o aisiau grâs) am ei sanctaiddiaf air ef. Mae 'r Prophwyd Dafydd wrth bortreio ini ddŷn llwyddiannus yn dywedyd, Gwyn ei fŷd y * 1.503 gwr ni rodiodd ynghyngor yr annuwiolion, ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid ac nid eisteddodd yn eisteddfa gwarwarwyr. Mae tri rhyw o bobl y rhai y myn y prophwyd i wr a fynno bod yn llwy∣ddiannus ac yn gyfrannog o fendithiau Duw wachelyd ac ymgadw rhag eu cymdeithas.

Yn gyntaf, nid oes iddo rodio yn ol cyngor yr annuwiol.

Yn ail, nid oes iddo sefyll yn ffordd pechaduri∣aid. Ac yn drydydd, nid oes iddo eistedd yngor seddfa gwatwarwyr.

Wrth y tri rhyw hyn o bobl, annuwiolion, pe∣chaduriaid, a gwatwarwyr, yr arwyddocair ac y gosodir i lawr yn oleu bob math ar ddrygioni.

Wrth yr annuwiol y mae fe 'n deall y rhai nid

Page 299

ystyriant yr holl-alluog Dduw, ac sydd heb ffydd ganthynt, y rhai y mae eu calonnau a'u myfyria∣dau wedy eu gosod ar y byd fal y maent yn vnig, yn myfyrio am ddwyn i bên eu gorchwilion bydol, eu dychymygion cnawdol, eu chwantau a'u trach∣wantau brynton, heb ddim ofn Duw.

Yr ail rhyw y mae fe 'n eu galw 'n bechaduri∣aid: nid y rhai a gwympant trwy anwybod neu wendid, o herwydd felly pwy fyddai rydd? pwy wr a fu ar y ddaiar er ioed onid Christ ei hun, yr hwn ni phechodd? Mae 'r cyfion yn cwympo saith waith yn y dydd ac yn cyfodi ailwaith. E'r body duwiol yn cwympo etto ni rodiant mewn pe∣chod o wir fwriad, ni safant ac nid arhosant mewn pechod yn wastad, nid eisteddant i lawr megis rhai diofal, heb ofni cyfion gosp Duw ani bechod: ond gan ffieiddio pechod trwy fawr râs ac aneirif drugaredd Duw, maent yn cyfodi ail∣waith, ac yn ymladd yn erbyn pechod. Mae 'r proyhwyd felly yn galw 'n bechaduriaid y rhai y trowyd eu calonnau yn hollol oddiwrth Dduw, a'r rhai nid yw eu holl fywyd a'u hymar weddiad onid pechod. Maent yn ymfodloni cymmaint ynddo fal y maent yn dewis aros a thrigo yn wa∣stad mewn pechod.

Y drydedd ryw y mae fe 'n ei galw 'n watwar∣wyr: hynny yw rhyw o ddynnion y rhai y mae eu calonnau wedy eu llenwi a chenfigen: fal nad y∣dynt yn fodlon i aros yn inig mewn pechod ac i ddwyn eu bywyd ymhob rhyw o ddrygioni, ond hefyd yn diystyru, ac yn gwatwar mewn eraill bob duwioldeb, a gwir fuchedd, bod honestrwydd a rhinwedd.

Page 300

Am y ddau rhyw gyntaf o ddynion ni ddywedaf na allant etifaru a throi at Dduw: ond am y dry∣dedd yr ydwyf yn tybied y gallaf heb berigl barn Duw gyhoeddi na throdd vn o honynt er ioed et∣to at Dduw drwy edifeirwch, ond iddynt aros yn wastad yn eu drygioni ffiaidd gan gasclu iddynt eu hunain ddamnedigaeth erbyn dydd anwa∣cheledig farn Duw.

Yr ydym yn darllen siamplau o'r fath watwar∣wyr yn ail Lyfr y Croniclau, Pādarodd i'r brenin * 1.504 da Ezechias yn-echrau ei deyrnasiad ddinistr de∣lw-addoliad, purhau y deml ac iniawni crefydd yn ei deyrnas: fe anfonodd genadon i bob dinas, i gynull y bobl i Ierusalem, i gynnal gwyl y pasc, yn y modd yr ordeiniasai Dduw. Fe aeth y redeg∣wyr o ddinas i ddinas, trwy dir Ephraim a Ma∣nasses hed yn Zabulon: a pha beth a wnaeth y bobl meddwch chwi? a glodforasant ac a foliana∣sant hwy enw 'r Arglwydd, yr hwn a rhoesai idd∣ynt gystadl brenin, a thywysog cymmaint ei zeal i ddinistr delw-addoliad ac i adferu gwir gre∣fydd Dduw? na ddo naddo, ond medd yr Scru∣thur hwy a sennasant ac a watwarasant gena∣don y brenin.

Ac mae 'n scrifennedig yn y bennod ddiwethaf or vn llyfr i'r holl-alluog Dduw gan dostyrio wrth * 1.505 ei bobl ddanfon ei genadon y prophwydi attynt, i'w galw hwy oddiwrth eu ffiaidd ddelw-addo∣liad, a'u melltigedig fywyd. Ond hwy a watwa∣rasant ganadon Duw, gan ddirmygu ei airiau fe a gwneuthur yn drahaus a'i brophwydi ef, nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn eu herbyn hwy fal nad oedd Iechyd: canys fe a rhoddodd

Page 301

hwy i fynu i ddwylo ei gelynnion, ie i ddwylaw Nabuchadnazer Brenin Babilon yr hwn a yspei∣liodd eu da hwy, a loscodd eu dinas hwy ac a 'i * 1.506 dug hwy a'u gwragedd a'u plant yn gaethion i Babilon.

Ni wnaethy bobl ddrwg oedd y nnyddiau Noah ond gwatwar o air yr Arglwydd, pan dywedodd Noah wrthynt y dialai yr Arglwydd arnynt am ei pechodau. Am hynny y daith y diluw yn ddi∣syndod arnynt ac a'u boddod hwy a'r holl fyd.

Fe bregethodd Lott i'r Sodomiaid onid eti∣farent y distriwyd hwy a'u dinas, Hwy a gyf∣rifasant ei ymmadroddion ef megis pethau ni allent fod yn wir, hwy a sennasant ac a watwa∣rasant ei rhybyddion ef, ac a'i cyfrifasant ef megis hen ffol disynwyr. Ond pan darodd i Dduw trwy ei angel sanctaidd, gymmeryd Lot a'i wraig a'i ddwy ferched o'u plith hwy, fe lawiodd o'r nef dan a brwmston ac a loscodd y senwyr a'r gwat∣warwyr hynny o'i sanctaidd air ef.

A pha gyfrif oedd o athrawiaeth Christ ymmysc yr scrifenyddion a'r Pharisaeaid? Pa wobr y ga∣fas ef yn ei mysc hwy? Mae 'r efangil yn adrodd fal hyn: yr oedd y Pharisaeaid trachwantus yn ei watwar ef yn ei athrawiaeth. Oh wrth hyn chwi a welwch fod gwyr doethion bydol yn gwatwar athrawiaeth eu Iachawdwriaeth. Mae doethi∣on y byd hwn yn gwatwar athrawiaeth Christ megis ffolineb yn eu deall hwy. Fe fu y gwat∣warwyr hyn er ioed ac hwy a fyddant byth hyd diwedd y byd. O herwydd mae S. Peter yn pro∣phwydolaethu y bydd y fath watwarwyr yn y byd * 1.507 cyn y dydd diwethaf.

Page 302

Gwagelwch gan hyn fy-mrodyr, gwagelwch gwagelwch, na fyddwch watwarwyr sanctaidd air Duw, nag annogwch ef i arllwys arnoch o'i ddigofaint, fal y gwnaeth ef ar y senwyr a'r gwat∣warwyr hynny. Na fyddwch leiddiaid ewyllys∣gar eich eneidiau eich hunain. Trowch at Dduw yr ennyd y bo amser i drugaredd: onid ef chwi a etifarhewch yn y byd a ddaw pan fytho yn rhy hwyr, o herwydd yno y bydd barn heb drugaredd.

Fe allai hyn wasanaethu in rhebyddio ni ac i beri ini berchi sanctaidd Scruthyrau Duw: ond nid oes ffydd gan bawb. Am hynny ni ddigona ac ni fodlona hyn feddyliau pawb: ond fal y mae rhai yn gnawdol felly y parhant ac y camarferant Scruthrau Duw yn gnawdol, i'w rhagor ddam∣nedigaeth. * 1.508

Mae 'r annyscedig a 'r anwadal (medd ef) yn gwyro 'r scruthyrau er distryw iddynt eu hunain. Ac mae Iesu Grist fal y dywaid S. Pawl i'r I∣ddewon yn drangwydd ac i'r cenhedloedd yn ffoli∣neb: ond i'r Iddewon a'r cenhedloedd y rhai a alwyd yn nerth ac yn odoethineb Duw. Mae 'r * 1.509 gwr sanctaidd Simeon yn dywedyd ei osod ef yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel. Fal y * 1.510 mae Christ Iesu yn gwymp i'r gwrthodedig y rhai er hynny a gollir trwy eu baiau eu hunain, felly y mae ei air ef a'i holl lyfr yn achos damnedigaeth iddynt, trwy eu hanghreduniaeth. Ac fal nad ydyw ef gyfodiad i neb ond i blant Duw trwy * 1.511 mabwys, felly y mae ei air ef a'r holl Scruthy∣rau yn nerth Duw i Iachadwriaeth yn inig i'r rhai a'u credant. Mae Christ ei hun a 'r Pro∣phwydi o'i flaen ef, a 'r Apostolion ar ei ol ef, a

Page 303

holl wir wenidogion sanctaidd air Duw, ie pob gair yn llyfr Duw yn arogl angau i angau i'r gwrthodedig. Mae Christ, y Prophwydi, yr Apo∣stolion a holl wir wenidogion y gair, ie pob gro∣nyn a thitul o'r scruthur sanctaidd ac fe fu er ioed ac fe fydd byth yn arogl bywyd i fywyd i'r rhai oll y burodd Duw eu calonnau trwy ffydd.

Gwiliwn yn ddifrif na wnelom watwargerdd o lyfrau 'r Sctuthyrau sanctaidd. Pa tywyllaf a pha anhyweithaf fyddo 'r ymadroddion yn ein deall ni: tybygwn ein bod ein hunain ymhellach oddiwrth Dduw a'i Yspryd glan eu hawdur hwy. Ymrown i chwilio allan y doethineb a sydd giddi∣edig dan riscul yr Sctuthyr oddifaes. Ac oni fe∣drwn ddeall ystyr a rheswn yr ymadrodd, etto na fyddwn watwarwyr, senwyr a dynwaredwyr. O herwydd dyna 'r arwydd a'r argoel eithaf o vn gwrthodedig, o elyn cyhoedd i Dduw a'i ddoe∣thineb. Nid chwedlau ofer i'w gwatwar ydyw y pethau hyn y mae Duw yn eu cyhoeddi mor ddif∣rif: am hynny cymmerwn hwy fal pethau difrif.

Ac er bod yn gosod allan mewn amryw leoedd o'r Scruthyrau, amryw ddeddfau a Ceremoniau, offrymmau ac aberthau: etto na rhyfeddwn ddim o'u plegid, ond trown hwynt at yr amseroedd a'r bobl i'r rhai a gwasanaethent, êr nad ydynt yn anfuddiol i wyr dyscedig i'w ystyriaid, ond i'w de∣ongl megis arwyddion a chyscodau pethau a phersonau y rhai a eglurwyd ar ol hynny yn y Te∣stament newydd.

Ac er nad ydyw cyfrif gwehelyth ac achau'r ta∣dau yn adailadaeth fawr i'r bobl gyffredinol an∣nyscedig: etto nid oes dim gwedy ei adrodd mor

Page 302

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 303

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 304

amherthynasol yn holl lyfr y beibl na wasanae∣tha i ddefnydd ysprydol mewn rhyw fodd, i bawb ac a lafurant i chwilio 'r ystyr. Nid oes i ni ddi∣ystyru y rhai hyn, am na wasanaethant ein deall ni a'n adailadaeth. Ond trown ein trafael i ddeall ac i ddwyn gyda ni y fath ymmadroddion a histo∣riau ac ydynt gymmesurach ein deall ni a'n ha∣ddysc, Ac lle 'r ydym yn darllen yn Psalmau Da∣fydd pa fodd y dymunodd ef i wyrthwynebwyr Duw weithiau cywilydd, cerydd a gwaradwydd, weithiau dieppiliaeth, weithiau ar eu dyfod i ddi∣stryw a dinistr disymmwth, fal y dymunodd ef i benaethiad y Philistiaid. Gwna, medd ef, luched a gwascar hwynt, gyr dy saethau a difa hwynt: ar * 1.512 fath regau eraill.

Etto ni ddlyaid rhwystro mo hanom am y fath weddiau eiddo Dafydd, ac yntef yn Brophwyd, â Duw yn ei garu yn odidawg, a chwedy ei gyn∣hyrfu yn yr yspryd â zeal wresog i ogoniant Duw: fe a'i dywaid hwy nid o genfigen ddirgel nag o gasineb yn erbyn y dynnion, ond fe a ddymunodd yn ysprydol ddistryw yr holl fath amryfysedd a baiau llygredig y rhai a deyrnasant yn yr holl bobl ddiawlig ac a ymosodant yn erbyn Duw.

Yr ydodd ef o'r vn meddwl ac oedd S. Pawl, pan roddodd ef Hymeneus ac Alexander a'r go∣ddinebwyr cyhoeddus i sathan, er eu gwarth by∣dol, fal y byddai 'r Yspryd yn gadwedig a'r ddydd yr Arglwydd. A phan ydyw Dafydd yn addef ei fod yn cashau yr annuwiol: etto mae fe 'n dywe∣dyd mewn man arall ei fod yn eu cashau hwy nid a chasineb cenfigennus i wneuthur eniweid i'r enaid, ond a chasineb perffaith. Yr hwn berffei∣ddrwydd

Page 305

yspryd am na ellir ei gyflawni ynom ni, a ni gwedy 'n llygru yn ein gwyniau fal yr ydym, ni ddlyem ni yn vn achos priodol arfer y cyfi yw ddull a'r airiau, o herwydd na allwn gyflawni mewn ystyr y cyffelyb airiau.

Narwystrir ni am hynny onid chwiliwn ystyr y fath airiau heb ein rhwystro, fal y gallom farni am y fath airiau a mwy barch: er eu bod hwy yn ddieithr in deall cnawdol ni, etto gan y rhai ydynt wir ysprydol fe a fernir ddarfod eu cyhoeddi hwy o zeal ac yn dduwiol. Duw am hynny er mwyn eifawr drugaredd a burhao ein meddyliau ni trwy ffydd yn ei fâb Iesu Grist, ac a ddifero ddafnau ei rad nefol in calonnau caregog ni, i'w meddalhau hwy, fal na byddom ddiystyrwyr a gwatwarwyr ei anhwyllodrus air ef: ond bod ini a phob gostyngei∣ddrwydd meddwl a pharch Christionogaidd ym∣roi i wrando ac i ddarllen yr Scruthyrau sanc∣taidd, ac felly i ymborth arnynt oddifewn, fal y byddo mwyaf ddiddanwch in eneidiau a sancte∣iddrwydd ei sanctaidd enw ef: i'r hwn gyda 'r mab a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn bywiol Dduw y byddo pob clod anrhydedd a moliant yn oes oesoedd. Amen.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.