3. Fe a'i cyfrifid hi yn farwolaeth felldigedig, Gal. 3. 13. Gan ei wneuthur yn felldith trosom, canys y mae 'n scrifennedig, melltigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren. Deut. 21. 23.
Q. Paham y dywedir i'n Hiachawdwr farw, wedi ei groeshoelio?
A. I ddangos bod ei gorph, pan ydoedd yn fyw, wedi ei wir uno a'i enaid ef. Luc. 23. 46. Efe a drengodd.
Q. Paham y dywedir gladdu ein Hiachaw∣dwr wedi ei farw?
A. 1. I ddangos sicrwydd ei farwolaeth ef. Ioan. 19. 40, 41, 42. Yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, Yr ydoedd bedd, yno y rhodda∣sant yr Iesu.
2. I ddangos claddu corph ein Hiachawdwr yn weddus, pan nad oeddid yn arfer o gladdu eraill a groeshoeliesid.
3. I dystiolaethu y gwaelder diystyraf, Ef. 53. 9. Efe a wnaeth ei sedd gyd a'r anwir, &c.
4. I ddwyn tystiolaeth o wirionedd ei adgy∣fodiad. Act. 13. 29, 30. Hwy a'i desgynnasant ef oddiar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd, eithr Duw a'i cyfoddodd ef oddiwrth y meirw.
Q. Beth a ddaeth o enaid Christ, wedi ymadael a'r corph?
A. Fe ddywedir ei fod ef yn Uffern (a), ei fyned i Baradwys (b); neu 'r drydedd Nef (c). (a) Act. 2. 27. 31. Ni adewi fy enaid yn Uffern. (b)Luc. 23. 43. Heddyw y byddi gyd a mi ym Mha∣radwys. (c) 2 Cor. 12. 2, 3, 4,