Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......

About this Item

Title
Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......
Author
Owen, James, 1654-1706.
Publication
Printiedic yn Llundain :: Gan F. Collins,
1693.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Infant baptism -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001
Cite this Item
"Bedydd plant or nefoedd, neu, Draethawd am natur a diben bedydd yn profi trwy ddeuddeg o resymmau scrythuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid / o waith James Owen ......" In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A53657.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 9, 2024.

Pages

Page 49

PEN. V. (Book 5)

Yn profi bedydd plant yn gyfreithlon, o herwydd bod Enwaediad yn perthyn iddynt tan y gyfraith. (Book 5)

II. Rheswm.

OS oedd yr Enwaediad tan y gy∣fraith yn perthyn i blant by∣chain, yna y mae bedydd tan yr E∣fengyl yn perthyn iddynt. Canys yr oedd yr Enwaediad, ac y mae be∣dydd yn sél or un Cyfammod gras, ac yn arwyddocau, yn ol eu syl∣wedd, yr un pethau.

Yr oedd yr enwaediad yn arwy∣ddocau,

1. Y llygredigaeth gwreiddiol sydd yn dyfod trwy genhedliad natu∣riol. Torriad y blaengroen a ddan∣gosei iddynt mor anghenrheidiol yw torri ymaith helaethrwydd malis y* 1.1 galon, yr hyn a elwir Enwaedu'r galon.

Felly bedydd yn yr un modd a ar∣wyddocáa ein llygredigaeth gwrei∣ddiol,

Page 50

mae golchiad dwfr yn dwyn* 1.2 i'n coffadwriaeth fudreddi pechod. Ac o herwydd ein bob wedi'n geni mewn aflendid, rhaid i ni gael ein golchi yn ein mebyd. Gosodir allan ein cyflwr naturiol ni trwy gyffely∣brwydd plentyn newydd eni yn gor∣wedd yn ei waed, heb ei olchi â dwfr. Ezek. 16. 4, 5. Yn ein be∣dydd mae Duw yn ein golchi oddi∣wrth ein gwâed.

Fel yr oedd yr enwaediad yn dwyn ar gof lygredigaeth natur tan y gy∣fraith, felly mae bedydd tan yr Efen∣gyl, ac am hynny mae bedydd mor anghenrheidiol i blant yn awr, ac oedd enwaediad gynt. Y rhai cyn∣taf a gododd i fynu yn erbyn bedydd plant yn Germani a ddeallent hyn, am hynny gwadent lygredigaeth na∣turiol dyn, a thacrent fod plant yn dyfod ir byd yn ddibechod. * 1.3 Yn ddiau peth anghysson ydyw addef fod plant yn cael eu geni mewn a∣flendid, ac etto lluddio dwfr iw gol∣chi.

2. Yr oedd enwaediad yn arwy∣ddocau yr adenedigaeth, sef enwae∣diad y galon. Nid bod pawb yn cael

Page 51

eu hail eni yn yr enwaediad, ond bod Duw yn bendithio ei Ordinhad ei hun yn ei amser ei hun er adene∣digaeth iw etholedigion i yn ol ei addewid, Deut. 30. 6. Ar Arglwydd dy dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu'r Arglwydd dy dduw a'th holl galon, ac ath holl enaid

Yr un modd y mae bedydd yn ar∣wyddocau yr Ailenedigaeth. Tit. 3. 5. Yn ol ei drugaredd yr achubodd efe ny∣ni,* 1.4 trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewiddiad yr yspryd glan.

Nid o herwydd bod pawb yn cael eu hail eni mewn bedydd, ond o her∣wydd bod bedydd yn dangos angen∣rheidrwydd yr adenedigaeth, ac yn effeithiawl yn amser Duw i bawb a etholwyd er gweithio yr adenediga∣eth ynthynt.

Enwaedwyd ar galon Abraham cyn enwaedu ar ei gnawd ef, enwa∣edwyd Cnawd ei had ef cyn enwa∣edu ar eu Calonnau, yr un modd ein henafiaid or Cenhedloedd y rhai o∣eddent flaen ffrwyth i Grist, a ailān∣wyd cyn eu bedyddio, eithr ei hâd hwynt a fedyddir cyn eu hail eni.

Page 52

3. Yr oedd enwaediad yn sél y Cyfammod Gras. Rhu. 4. 11. Efe a gymmerth arwydd yr Enwaediad yn insel Cyfiawnder ffŷdd. Yr oedd hi yn sél i siccrhau addewid Cyfiawnder o du Dduw, ac yn sél i rwymo dyn i ufudd-dod ffŷdd. Yr oedd yn Ar∣wydd i Abraham o Gyfiawnder y ffŷdd, yr hon oedd ganddo yn y dien∣waediad, ac yn arwydd iw had ef or Cyfiawnder yr oeddent yn rhwym iw dderbyn trwy ffŷdd er Cyfiawn∣hâd, ar ol enwaedu arnynt.

Yr un modd y mae bedydd yn sél y Cyfammod gras, yn arwydd o gy∣fiawnder ffŷdd. Ir ffyddloniaid cyn∣taf or Cenhedloedd yr oedd yn ar∣wydd o gyfiawnder y ffŷdd oedd gan∣thynt cyn eu bedyddio, eithr iw had hwynt y mae yn arwydd or Cyfiawn∣der y maent yn rhwym iw dderbyn trwy ffŷdd ar ol eu bedyddio.

4. Yr oedd yr Enwaediad yn ar∣wydd o ddyfodiad i mewn i eglwys Dduw, trwy'r drws hwnnw yr oedd pob gwrryw i ddyfod i mewn. Yr oedd y dienwaededig oddi allan, ac nid oedd iddo ddim hawl i ragorfre∣intiau'r eglwys weledig.

Page 53

Yr un modd trwy fedydd yr y∣dym yn dyfod i mewn ir eglwys Gristnogol, hwn yw'r drws gwele∣dig i deyrnas nefoedd, sef yr Eglwys efengylaidd. Am hynny os derbyni∣wyd plant bychain i eglwys Dduw trwy enwaediad tan y gyfraith, dy∣lid eu derbyn i eglwys Dduw trwy fedydd tan yr efengyl. Yr oeddent yn aelodau o eglwys Dduw gynt, ac yn dyfod i mewn trwy'r drws o en∣waediad; os rhyfyga neb iw esgy∣muno hwynt allan or eglwys tan yr Efengyl, a chae drws bedydd yn ei herbyn, fe ddylai ddangos trwy ba awdurdod y mae'n gwneuthur felly. Am ba bechod y mae yn eu esgymu∣no allan or Eglwys? ai am becho∣dau eu rhieni, ai ynteu am eu pecho∣dau eu hunain? Nid am bechodau eu rhieni, Canys plant y ffyddloni∣aid yr ydym ni yn són am danynt: nid am eu pechodau eu hunain, oddi eithr bod plant bychain yn fwy pe∣chaduriaid tan yr Efengyl, nac yr oeddent tan y gyfraith. Ni all pe∣chod gwreiddiol eu cae allan, canys yr oeddent yn euog o hwnnw tan y gyfraith, ac etto yn aelodau o eg∣lwys

Page 54

Dduw. Ac ni allant fod yn euog o bechodau gweithredol cyn gynted ac y genir hwynt. Pa ddrwg ynteu a wnaethont i haeddu'r farn galed hon o Esgymundod allan or eglwys?

Pa dad sydd mor annaturiol a bwrw ei blentyn bychan allan oi dŷ ei hun? a fyddi di mor greulon ynteu ai fwrw allan o Dy Dduw? Bu ddrwg jawn yngolwg Abraham or∣fod iddo fwrw allan ei fab Ismael, er* 1.5 iddo haeddu ei daflu allan trwy erlid Isaac; ai da yw yn dy olwg di fw∣rw allan dy blentyn, heb ddim a∣chos? o na fydd mor anhebyg ith Dad Abraham. Y dreigiau a dyn∣nant* 1.6 allan eu bronnau, a roddant sugn iw Cenawon, eithr merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr Estrisiaid yn yr Anialwch. Yr ydym yn darllen am yr Estris, ei bod yn galed wrth ei* 1.7 chywion, fel pe na byddent eiddi hi. O na fydded plant Abraham yn blant ir Estris.

5. Yr oedd yr Enwaediad yn rhwymedigaeth i ddiosci corph pe∣chodau y cnawd. Mae bedydd yn* 1.8 ein gosod ni tan yr un rhwymedi∣gaeth.

Page 55

Y ddwy Ordinhád a rwy∣mant* 1.9 ir un ddyledswydd, sef i fa∣rwhau pechod; ac am hynny os oedd y naill yn perthyn i blant gynt, felly mae'r llall yr awrhon.

Gwrthdd. Ond pa fodd y gellir rhwymo plant ir hyn nid ydynt yn ei ddeall. Att. Nid oeddent yn ddeall rhwym yr enwaediad, ac etto yr oe∣ddent wedi ymrwymo ir Arglwydd, i gymmeryd ef i fod yn Dduw iddynt, ac i ymado a ffyrdd pechod. Yr oedd plant megis eraill yn ymrwymo ynghyfammod Duw, Deut. 29. 10, 11, 12. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw — holl wyr. Israel, eich plant, eich gwragedd, ath ddieithr ddyn yr hwn sydd oddifewn dy wersyll — i fyned o honot tan gyfammod yr Ar∣glwydd dy Dduw. Gosododd Duw rwymyn ei gyfammod ar blant, er na ddeallent beth yr oeddyd yn ei w∣neuthur. Am hynny mae'r gwrth∣ddadl hwn yn gymmeint yn erbyn enwaediad plant tan y gyfreith, ac yn erbyn eu bedyddio tan yr Efen∣gyl.

Page 56

Gwrthdd. Yr oedd enwaediad yn rhwymo i gyfraith Moses, Gal. 3. 2, 3. Yr hyn nid yw bedydd.

Att. Gwir yw, yr ydoedd felly oddiar yr amser y rhoddwyd y gy∣fraith ar fynydd Sinai, eithr nid oedd or dechreuad felly, Canys nid oedd* 1.10 yr Enwaediad o Moses, eithr or tadau. Rhoddwyd yr enwaediad ar y Cyntaf yn sél or Gyfammod gras a wnaeth Duw ag Abraham, yr hwn a ga∣darnhawyd ynghrist bedwar Cant a deg* 1.11 ar hugaiu o flynyddoedd Cyn rhoddi'r ddeddf. Ac am hynny, fel y dywed yr Apostl, ni allei'r ddeddf ddirym∣mu'r* 1.12 Cyfammod hwn. Yr hon nid oedd ond chwanegiad at y Cyfam∣mod gras; pan dorrwyd ymmaith y Chwanegiad hwn, yr oedd y Cy∣fammod yn sefyll yn ei symylrwydd cyntaf, a newidiodd Duw yr hen sél o enwaediad, o herwydd ei bod yn rhwymo ir ddeddf, am y sél newydd o fedydd, yr hon sydd yn arwyddo∣cau rhagorfreintiau ysprydol Cyfam∣mod Abraham, yn yr un helaeth∣rwydd ac yr oedd yr enwaediad.

6. Yr oedd Enwaediad yn nód o wahanieth rhwng eglwys yr Israeli∣aid,

Page 57

ar Cenhedloedd digrêd. Rhyn∣godd bodd i Dduw i osod y nód hwn ar y plant, megis ar y rhieni. Ac am hynny geilw Duw hwynt, ei blant* 1.13 ef. Yn yr ystyriaeth hon yr oedd y mabwysiad yn perthyn iddynt. Rhuf. 9. 4. Y rhai oedd heb y nód hwn (neu yn ferched, neu yn wragedd ir Cyfryw) a elwir yn Gwn yn yr ysgrythur. Mat. 15. 26. Nid da cymmeryd bara y plant, ai fwrw i'r Cwn. Y plant oedd yr Iddewon, y Cwn oedd y Cenhedloedd dienwae∣dedig.

Yr un modd y mae bedydd yn nód o wahanieth rhwng yr Eglwys Gristnogol, ac Iddewon, a Phaga∣niaid di-grêd. Ac fel mae Ewyllys Duw oedd bod ei nôd ef ar blant ei boblgynt, felly ewyllys yr Arglwydd yw bod ei nód ef, sef bedydd, ar blant ei bobl yr awr hon; oddi eithr i ni feddwl fod plant y ffyddloniaid yn llai anwyl i Dduw tan yr Efengyl, nac yr oeddent iddo tan y gyfraith. Yr oedd Duw gŷnt wedi eu nodi hwynt i fod yn eiddo ef ei hun; ei∣ddo pwy ydynt hwy yr awrhon? Os eiddo'r Arglwydd, gadewch i Dduw

Page 58

i roddi ei nód arnynt, i ddangos gwahanieth rhwng ei blant ef a phlant y byd di-gréd. Oni ddaeth Christ i'n nessau ni at Dduw? Pa ham gan hynny y pellheir plant ei bobl oddi∣wrtho ef tan yr Efengyl, y rhai oe∣ddent yn agos atto tan y gyfraith?

Fel hyn y mae'n eglur fod Enwae∣diad a bedydd yn arwyddocau yr un pethau; ac o herwydd hynny mae bedydd yn perthyn i blant fel yr oedd yr enwaediad.

Gan hynny mae'r Apostl yn dan∣gos fod bedydd wedi dyfod yn lle'r enwaediad. Yn yr hwn hefyd i'ch* 1.14 enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosc corph pechodau y cnawd yn enwaediad Christ, wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd — Mae'r Apostl yn y geiriau hyn yn ddangos fod y Colossiaid wedi derbyn enwaediad y galon, er eu bod heb yr enwaediad yn y Cnawd, ac yn lle'r enwaediad hwnnw, eu bod we∣di eu bedyddio. Megis pe dyweda∣sei, os ydych heb enwaediad yn y Cnawd, y mae gennych chwi ordin∣had arall, sef bedydd, i arwyddocau'r un bendithion.

Page 59

Mae Duw yn cyfri y rhai ni en∣waedent ar eu plant yn dorrwyr Cy∣fammod. Ar gwryw dienwaededic yr* 1.15 hwn ni enwaeder cnawd ei ddienwae∣diad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: oblegid efe a dorrodd fynghyfammod i. Torrir enaid oddi∣wrth ei bobl, naill ai trwy esgymun∣dod, ai trwy farwolaeth, ai trwy ddamnedigaeth, mae pob un yn of∣nadwy, yn enwedigol y ffordd ddi∣wethaf o dorri ymaith enaid, ac yn dangos mor beryglus ydoedd esgeu∣luso enwaediad plant. Ceisiodd yr Arglwydd ladd Moses, o herwydd iddo oedi enwaedu ar ei blentyn, fel y mae'n debygol, i fodloni ei wraig. Da gwna y rhai a esgeulusant fedy∣ddio* 1.16 eu plant ystyried y pethau hyn, canys profason eusus fod bedydd yn perthyn i blant yr awr hon, Fel yr oedd yr enwaediad gynt.

Gwrthdd. Yr oedd gorchymyn am enwaedu plant▪ ond nid oes un gorchymyn am fedyddio plant.

Att. 1. Nid yw'r Testament ne∣wydd yn són ond ychydic am blant o herwydd bod yr hén Destament yn són Cymmaint am danynt, ac yn

Page 60

dywedyd yn eglur, fod plant y* 1.17 ffyddlonlaid ynghyfammod Duw, a bod sél y Cyfammod yn perthyn iddynt.

Nid yr hen Destament yn unig, nár Testament newydd: yn unig, eithr y ddau ynghyd sydd yn Cynhwyso rheol ffŷdd ac ufydd-dod. Mae'r Idde∣won yn gwrthod y Testament ne∣wydd, a rhai Cristnogion yn ein plith ni yn gwrthod yr hen Desta∣ment mewn perthynas i ragorfrein∣tiau plant.

2. Mae'n eglur trwy ganlyniad Anghenrheidiol oddiwrth yr ysgry∣thur bod bedydd yn perthyn i blant. Rhan or ysgrythur ydyw Canlynia∣dau ysgrythurol. Mae Christ yn profi yr adgyfodiad yn erbyn y Sa∣duceaid trwy ganlyniad oddiwrth yr ysgrythur honno. Myfi yw Duw* 1.18 Abraham, Duw Isaac, a Duw Ja∣cob. Nid oes un gair yn yr ysgry∣thur hon am yr adgyfodiad, etto mae Christ yn casglu oddiwrthi y rhaid ir meirw godi, Canys eb efe,* 1.19 nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. Y rhai ni dderbyni∣ant Ganlyniadau ysgrythurol am fe∣dydd

Page 61

plant, ni dderbyniasent ymre∣symmiad Christ am yr adgyfo∣diad.

3. Eithr ni a ddangoswn yn y bennod nessaf fod gorchymyn i fe∣dyddio plant.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.