Page 23
PEN. III. (Book 3)
Am y modd, neu'r ffurf oddiallan o weinidogaeth bedydd. (Book 3)
MAE rhai yn barnu y dylid tro∣chi‘r holl gorph yn y dwfr, ac nad oes un ffurf arall yn gyfreith∣lon; mae eraill yn barnu fod taene∣lliad dwfr ar wyneb yr hwn a fedy∣ddir yn ddigon, yn enwedigol yn y gwledydd oerion hyn. Canys me∣gis yn y Sacrament arall o Swpper yr Arglwydd mae un taminaid o fara, ac un llymmaid o wîn yn ddigo∣nol i arwyddocau yr ymborth yspry∣dol sydd i gael yn Ghrist; felly yn y Sacrament o fedydd mae taenelliad y∣chydic o ddwfr ar yr hwn a fedyddier yn arwyddocau rhinwedd gwaed Christ mor effeithiol ac afonydd o ddyfroedd.
Nid yw trochi na thaenellu yn sylweddol ir Ordinhad hon, eithr golchiad â dwfr, neu osod dwfr ar y Corph er glanhád, sydd o sylwedd Bedydd. Canys y mae'r gair bedydd