Page 1
PEN. I. (Book 1)
Am ystyriaeth y gair bedydd. (Book 1)
FEL y mae 'r grefydd Gristnogol yn gwneuthur y corph ar enaid yn happus, felly yr ordeini∣odd Duw i ragor freintiau 'r grefydd hon gyrhaeddyd y Corph a'r enaid. Mae yn darostwng i'n gwendid ni gan eglurhau pethau ysprydol trwy arwyddion corphorol. O herwydd pa ham ni wnaeth Duw erioed gy∣fammod â Dyn heb arwyddion gwe∣ledig iw ganlyn.
Y cyfammod o weithredoedd a wnaeth Duw â dynol ryw yn ne∣chreuad y greedigaeth a siccrhauwyd â dwy sel, sef pren y bywyd a phren gwybodaeth da a drwg, pren y by∣wyd i siccrhau gair yr addewid, pren gwybodaeth da a drwg i siccrhau gair y bwgwth. Yr oedd y naill i gyffroi ffydd, y llall i gyffroi ofn.
Yr oedd y cyfammod o ras ym hob gosodiad allan o hono ac arwy∣ddion oddiallan yn perthyn iddo. Ac yr oedd y cwbl yn edrych at